Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 7 Ebrill 2004

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 7fed Ebrill, 2004

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 EBRILL, 2004

 

yn breSENNOL:

Cynghorydd Robert Ll.Hughes (Cadeirydd)

Cynghorydd J.Arwel Edwards (Is-Gadeirydd)

 

Cynghorwyr John Byast, David D.Evans, P.M.Fowlie, Dr.J.B.Hughes, O.Glyn Jones, W.Emyr Jones, R.L.Owen,

G.O.Parry, MBE, Gwyn Roberts, J.Arwel Roberts, John Roberts,

W.T.Roberts, Hefin W.Thomas, W.J.Williams.

 

 

WRTH LAW:

Cynllunio

 

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Cynorthwy-ydd Cynllunio (DR)

 

Priffyrdd

 

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu/Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Cynghorwyr O.Gwyn Jones, Trefor Ll.Hughes

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

Aelodau Lleol : Cynghorwyr Mrs B.Burns (eitemau 4.2 a 5.2)

W.I.Hughes (eitem 5.1) E.Schofield (eitem 6.3)

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd gyda thristwch at farwolaeth modryb yr Arweinydd, Cynghorydd R.G.Parry, O.B.E., ac ar ran aelodau'r Pwyllgor cydymdeimlodd gyda'r Cynghorydd Parry a'i deulu yn eu profedigaeth.Safodd yr aelodau a swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch ac o gydymdeimlad.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan aelodau a swyddogion ac fe'u cofnodir o dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwywnyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, 2004.

(tudalennau 30 - 43 o’r Gyfrol hon)

 

Yn codi -

 

Eitem 4.11 46C137D - Cais Llawn ar gyfer Codi 34 o Dai Tri Llawr ynghyd â Chreu Mynedfa i Gerbydau a Cherddwyr ar Dir yn yr Hen Gae Criced, Trearddur

 

Dygodd y Cynghorydd W.Emyr Jones sylw'r Pwyllgor nad oedd ef na'r Cynghorydd W.J.Williams yn bresennol pan gynhaliwyd pleidlais wedi'i chofnodi ar yr eitem uchod.

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Mawrth, 2004.

 

 

 

4

CEISIADAU YN CODI O'R COFNODION

 

 

 

4.1

13C109A DYMCHWEL YR ADEILADAU AMAETHYDDOL DI-DDEFNYDD A CHODI 10 TY TREF YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL YN TYN LLAN, BODEDERN.

 

 

 

Bu i'r Aelod Lleol ofyn am i'r cais uchod gael ei ystyried gan y Pwyllgor, ac yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, 2003, penderfynodd yr aelodau i ymweld â'r safle cyn penderfynu ar y cais.Cynhaliwyd yr ymweliad hwnnw ar 17 Mawrth, 2004.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai bwriad y cais uchod yw i ddymchwel yr hen adeiladau allanol ar y safle a chodi 10 ty pentref ynghyd ag altro'r fynedfa. Mae'r Cyngor Cymuned bellach wedi ymateb ynglyn â'r cais ac wedi mynegi pryder ynghylch problemau diogelwch y ffordd y byddai'r datblygiad yn eu creu.Ategir y pryder hwn gan yr Aelod Lleol sydd wedi mynegi ei wrthwynebiad i'r cais ar sail ystyriaethau gor-ddatblygu a diogelwch y ffordd.Derbyniwyd llythyr gan Asiant yr Ymgeisydd ymhellach i'r argymhelliad i wrthod y cais sydd yn awgrymu mân newidiadau i'r cynllun a gyflwynwyd.Fodd bynnag, ni ystyrir fod y newidiadau fel yr awgrymir hwy yn ddigonol i ddod dros y gwrthwynebiadau i'r datblygiad.

 

 

 

O safbwynt ystyriaethau cynllunio ystyrir yn gyffredinol bod y datblygiad arfaethedig uchod yn achos difrifol o or-ddatblygu'r safle.Er bod Polisi Cynllunio Cymru yn cefnogi datblygiadau dwysedd uwch yn y lle iawn, mae'r cynnig hwn yn creu argraff o or-ddatblygu ac o gywasgu gormodol.Byddai hefyd yn creu nodwedd gwbl ddieithr yn y stryd nad yw'n cydweddu  â chymeriad y pentref a'r cyffiniau ehangach, a hynny yn groes i'r polisiau cynllunio ac i'r cyngor polisi.

 

 

 

Tra ei fod yn bosib darparu datblygiad sensitif ac o ansawdd da ar y safle gyda dwysedd yn debyg i'r hyn a gynigir, nid yw'r newidadau bychan i'r Cynllun a gynigir gan yr Asiant yn debygol o ddod dros y problemau a gyflwynir gan osodiad y datblygiad fel ei rhoddwyd gerbron.Argymhellir felly gwrthod y cais a gwahodd yr ymgeisydd i gyflwyno cais newydd sydd yn ymateb i'r materion a godwyd er mwyn cael dyluniad o well ansawdd a gosodiad ar y safle er budd i fwynderau preswylwyr y dyfodol a'r pentref ei hun gan sicrhau na fydd unrhyw ddrwg i'r ardal gadwraeth gyfagos.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gwyn Roberts yr argymhelliad i wrthod y cais ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd R.L.Owen.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a amlinellir  yn adroddiad  y Swyddog.

 

 

 

4.2

CAIS YN TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

 

 

18C138A CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI BYNGALO YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL YN ARGRAIG, LLANRHUDDLAD

 

 

 

Roedd yr Aelod Lleol wedi gofyn am i'r cais uchod gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor i'w ystyried.Bu'r cais yn destun ymweliad safle gan aelodau ar 9 Mawrth, 2004.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cais cynllunio amlinellol a gyflwynir uchod am uned breswyl sengl gyda'r holl fanylion yn cael eu cadw i'w hystyried yn y dyfodol.Mae'n gais sydd yn tynnu'n groes i'r Cynllun Lleol.Bu i gais cynllunio blaenorol am godi byngalo ar y safle gael ei wrthod yn 2002.Roedd yr ymgynghorwyr statudol wedi cyflwyno sylwadau ynglyn â'r cais, ond nid oeddent yn ei wrthwynebu.Mae'r Cyngor Cymuned wedi datgan ei gefnogaeth i'r cais ac mae'r Aelod Lleol hefyd yn gefnogol iddo ar sail yr angen lleol am dai.

 

 

 

Cyflwynwyd dau lythyr gan yr ymgeiswyr a gynhwysir yn y pecyn llythyrau a gyflwynwyd i'r aelodau cyn y cyfarfod, y naill ar gyfer y swyddogion a'r llall ar gyfer yr aelodau.Ynddynt mae'r ymgeiswyr yn nodi eu bod eisoes wedi cyflwyno dau gais a'u bod yn ceisio am y trydydd tro; bod un ohonynt yn gweithio fel nyrs yn Ysbyty Penrhos Stanley a'r llall yn gweithio ar fferm ei deulu a bod y ddau yn bobl lleol sy'n dymuno bwy yn eu cynefin.Nodir hefyd gan yr  ymgeiswyr bod eu hamgylchiadau wedi newid ers cyflwyno'r ceisiadau cynt a'u bod yn awr yn disgwyl plentyn ac er chwilio am fythynnod i'w prynu'n lleol maent wedi methu fforddio gwneud hynny.

 

 

 

O safbwynt ystyriaethau cynllunio, mae'r datblygiad arfaethedig wedi ei leoli yn y cefn gwlad dan ddarpariaethau'r Cynllun Datblygu, ac mae'n tynnu'n groes i ddarpariaethau Polisi 53  Cynllun Lleol Ynys Môn, Polisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd a pharagraffau 2.5.7 a 9.3.1 Polisi Cynllunio Cymru (Mawrth, 2002) sy'n ceisio gwarchod y cefn gwlad ac sy'n rhagdybio yn erbyn anheddau ychwanegol nad ydynt yn disgyn i unrhyw un o'r categoriau disgwyliedig lle bodlonwyd y meini prawf a restrwyd. Ni ystyrir ychwaith bod y cynnig yn cydymffurfio â'r polisiau cynllunio perthnasol o ran ystyriaethau dylunio oherwydd byddai annedd newydd yn y lleoliad hwn yn ddatblygiad ysbeidiol y tu allan i graidd y pentref a'r datblygiad strimynnog.

 

At hynny mae safle'r cais o fewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol ac ystyrir byddai unrhyw annedd a gymeradwyir yn nodwedd amlwg yn y tirwedd o edrych o'r ffordd fawr, oherwydd y lleoliad ynysig a natur ysbeidiol y datblygiad fyddai'n cael effaith annerbyniol ar y tirwedd.

 

 

 

Rhoddwyd ystyriaeth i'r holl sylwadau a dderbyniwyd wrth ddod at yr argymhelliad gan gynnwys amgylchiadau personol yr ymgeiswyr.Daethpwyd i'r casgliad fod y cynnig yn ddatblygiad preswyl annerbyniol yn y cefn gwlad a nodir fod caniatad cynllunio wedi'i wrthod ar y safle hwn eisoes.Argymhellir felly bod y cais yn cael ei wrthod.

 

 

 

Bu i'r Cynghorydd Mrs B.Burns, yr Aelod Lleol annerch y cyfarfod ac atgoffodd yr aelodau pan gyflwynwyd y cais gerbron yn flaenorol cyflwynwyd deiseb wedi'i harwyddo gan 215 o enwau yn cefnogi'r cais.Pwysleisiodd mai ar angen lleol y seiliwyd y cais a bod yma deulu o'r gymuned sydd yn dymuno aros o fewn y fro a chodi teulu yno, a bod ganddynt gyfraniad i'w wneud i ddiwylliant a bywyd eu cymuned.Nododd nad oedd yn credu y byddai un annedd sengl yn cael effaith andwyol ar dirwedd a mwynderau'r ardal, ac na chredai fod hwn yn ddatblygiad ynysig am fod yna adeiladau eisoes gerbron.Gofynnodd i'r Pwyllgor ystyried caniatau'r cais er mwyn diogelu cefn gwlad Ynys Môn rhag dirywiad cymdeithasol.

 

 

 

Mynegodd nifer o'r aelodau gydymdeimlad â dyhead yr ymgeiswyr i aros o fewn eu cymuned a bu iddynt godi cwestiynau ynglyn â ffactorau amaethyddol gan nodi fod un o'r ymgeiswyr yn gweithio ar fferm ei deulu.Gofynnwyd onid oedd modd codi adeilad i fyw ynddo os gellir dangos bod yna gyfiawnhâd ac angen amaethyddol drosto, ac onid oedd y cais uchod felly yn dod o dan y categori hwn.

 

 

 

Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod polisiau cynllunio yn caniatau eithriadau mewn achosion amaethyddol cyn belled â bod tystiolaeth gadarn yn cael ei chyflwyno gyda cheisiadau o'r fath gan gynnwys adroddiad proffesiynol a chyfrifon busnes sydd yn dangos fod y busnes wedi bodoli ers 3 mlynedd a'i fod yn ffynnu, a bod yna sail bendant felly dros ganiatau codi adeilad i fyw ynddo er mwyn anghenion y busnes.Nid yw'r cais uchod wedi cael ei gyflwyno fel cais ar sail amaethyddol; yn hytrach cais am godi ty yn unig ydyw ar safle a ystyrir yn annerbyniol dan ddarpariaethau polisiau cynllunio cyfredol.Mewn ymateb i gwestiwn a fyddid yn ystyried y cais petai tystiolaeth o'r angen amaethyddol yn cael ei gyflwyno, nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ei fod yn argymell gwrthod y cais fel ag y mae a phetai yn cael ei ail gyflwyno fel cais amaethyddol, yna gellid ei ystyried ar ei rinweddau bryd hynny.Atgoffodd y Pwyllgor fod y cais wedi ei wrthod yn flaenorol am yr un rhesymau ac nad oedd dim wedi newid o ran y polisiau perthnasol ers hynny.Byddai ei ganiatau yn awr yn dangos anghysondeb a thrwy hynny yn tanseilio ymddiriedaeth y cyhoedd yn y gyfundrefn gynllunio.

 

 

 

Argymhellodd y Cynghorydd Gwyn Roberts fod y cais fel ag y mae yn cael ei wrthod ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd W.Emyr Jones a awgrymodd bod yr ymgeisydd yn cael ei annog i'w ail gyflwyno gyda thystiolaeth gadarn fod yna angen amaethyddol yn perthyn iddo.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a amlinellir  yn adroddiad  y Swyddog.

 

 

 

4.3

19C831A CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO GROMEN YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER ARDRUM, TAN YR EFAIL, CAERGYBI

 

 

 

Roedd y cais uchod yn cynnwys tir sy'n eiddo i'r Cyngor.Ymwelwyd â'r safle gan aelodau'r Pwyllgor ar 18 Chwefror, 2004 ac yn ei gyfarfod ar 3 Mawrth, 2004, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog y dylid ei wrthod am y rhesymau canlynol:

 

 

 

Ÿ

ei fod yn fater o farn p'un a yw ty yn effeithio yn andwyol ar breifatrwydd a chymeriad eiddo arall o'i gwmpas ac nid oedd y Pwyllgor yn ystyried mai dyma oedd yr achos gyda'r cais hwn;

 

Ÿ

byddai'r cynnig yn llenwi gwagle naturiol yn y tirwedd, a

 

Ÿ

byddai'r cynnig yn gwella edrychiad yr ardal.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais er mwyn i'r Pwyllgor ystyried adroddiad pellach ynglyn â goblygiadau caniatau, ac i benderfynu ar y cais.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mewn ymateb i'r uchod yr ystyrir fod y cynnig yn edrych dros ac yn dominyddu'r tai o'i gwmpas gan effeithio'n ddrwg ar eu preifatrwydd a'u mwynderau.Yn hytrach na llenwi gwagle naturiol yn y tirwedd, byddai'r annedd ar safle uchel ac amlwg, yn dominyddu'r tirwedd o gwmpas a byddai'n edrych yn anghydnaws ac allan o le mewn golygfa stryd.Yn hytrach na'i fod yn gwella edrychiad yr ardal ystyrir byddai'r cynnig yn cael effaith weledol andwyol, nid yn unig oddi wrth yr annedd ei hun, ond hefyd oddi wrth y fynedfa arfaethedig i'r safle fyddai'n edrych yn anghymarus wrth y fynedfa i'r stâd bresennol oherwydd y gwahaniaeth mawr yn lefelau'r safleoedd.Mae'r argymhelliad yn parhau i fod yn un pendant o wrthod y cais.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd R.L.Owen ganiatau'r cais ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd P.M.Fowlie.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatau'r cais am y rhesymau a nodir, gan ddirprwyo hawl i'r Swyddogion osod amodau ar y caniatad.

 

 

 

4.4

30C359B CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI DERBYNFA/YSTAFELL CHWARAE A STORFA GYDA MAN PARCIO CYSYLLTIEDIG YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN MAES CARAFANAU PLAS UCHAF, TYNYGONGL

 

      

 

     Bu i'r Cadeirydd ddatgan diddordeb yn y cais uchod ac ymadawodd â'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.Cymerodd yr Is-Gadeirydd y Gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

      

 

     Bu i'r Aelod Lleol, y Cynghorydd Dr.J.B.Hughes nodi fod cwestiwn wedi codi ynghylch a ddylai yntau ddatgan diddordeb ar y cais hwn oherwydd ei fod wedi bod yn cefnogi'r bobl leol mewn perthynas â mater yn ymwneud â Thystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer carafannau symudol a phebyll gwyliau ar y safle yn y gorffennol.Nid oedd yn credu fod achos iddo ddatgan diddordeb ynglyn â'r cais uchod am ei fod yn achos gwahanol.

 

      

 

     Roedd y cais uchod yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor gan y Swyddogion.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais yn ymwneud â chae a leolir ger mynedfa i safle Carafannau Plas Uchaf a'i fod yn gais amlinellol gyda'r holl fanylion wedi'u cadw'n ôl i'w hystyried yn y dyfodol ar gyfer derbynfa, ystafelloedd gemau, adeilad storio a maes parcio cysylltiedig.Mae'r ymgynghorwyr statudol wedi gwneud sylwadau ynghylch y cais gan gynnwys yr Adran Briffyrdd sydd yn awgrymu y dylid defnyddio'r dderbynfa, ystafelloedd gemau a'r adeilad storio a'r maes parcio cysylltiedig i bwrpas mwynhad ategol preswylwyr safle Carafannau Plas Uchaf, Tynygongl yn unig.Mae'r Cyngor Cymuned yn gefnogol i'r cais.

 

      

 

     Derbyniwyd 9 llythyr yn gwrthwynebu'r cais cynllunio ar y sail y byddai'n effeithio ar fwynderau'r preswylwyr cyfagos parhaol a'i fod yn creu problemau traffig a diogelwch y ffordd.Manylir ar y sylwadau hyn yn llawn yn y pecyn llythyrau a ddosbarthwyd i aelodau cyn y cyfarfod.Mae'r ymgeisydd hefyd wedi cyflwyno llythyr yn ymateb i'r pwyntiau a godwyd ac mae hwn yn gynwysiedig yn y pecyn.Rhestrir y polisiau sy'n berthnasol i'r cais yn yr adroddiad ac mae'r rhain yn ymwneud gan fwyaf ag ystyriaethau twristiaeth ac hamdden.

 

      

 

     Aseswyd y cyfan o'r sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais wrth lunio'r argymhellion.Mae unrhyw fater a godwyd yn y sylwadau a dderbyniwyd na chyfeirir atynt yn yr adroddiad yn cael eu hystyried fel rhai nad ydynt o bwys mawr.

 

      

 

     Ystyrir fod ehangu'r safle carafan yn y modd a gynigir yn y cais at ddibenion twristiaeth yn cydymffufrio â'r polisiau perthnasol ac nad yw'r datblygiad yn debygol o effeithio'n negyddol ar ymddangosiad yr ardal gyfagos.Mae'r Gwasanaethau Amgylcheddol yn fodlon gydag agweddau swn y datblygiad ac mae'r Adran Briffyrdd hefyd yn fodlon gyda'r cynnig yn amodol ar sicrhau mai defnydd ategol yn unig a wneir o'r cyfleusterau.Mae'r cais wedi'i leoli o fewn ardal tirwedd arbennig ond ni ystyrir y caiff y datblygiad effaith annerbyniol ar y tirwedd hwn gan fod y safle wedi ei sgrinio yn dda ac yn perthyn yn foddhaol i'r safle carafannau presennol.

 

      

 

     Yn amodol ar ddiweddu'r cyfnod cyflwyno sylw statudol ar 20 Ebrill, 2004, ac na dderbynnir unrhyw sylwadau materol o fewn y cyfnod hwn sydd yn codi ystyriaethau newydd na chânt sylw yn yr adroddiad, argymehllir awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i ganiatau'r cais yn unol â'r rhwymedigaethau a'r amodau a restrir yn yr adroddiad.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd J.Arwel Roberts yr argymhelliad i ganiatau ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd W.J.Williams.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn amodol ar ddiweddu'r cyfnod cyflwyno sylwadau statudol ar 20 Ebrill, 2004, ac na dderbynnir unrhyw sylwadau materol o fewn y cyfnod hwn sydd yn codi ystyriaethau newydd na chânt sylw yn yr adroddiad uchod, awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i ganiatau'r cais yn unol â'r rhwymedigaethau a'r amodau a restrir yn yr adroddiad ac yn amodol ar ofynion cytundeb cyfreithiol Adran 106 na ddylid defnyddio'r dderbynfa, ystafell gemau a'r adeilad storio a'r maes parcio ond at ddibenion sy'n ategol i'r mwynhad o Safle Carafannau Plas Uchaf, Tynygongl ac ni chaniateir ei ddefnyddio, ei brydlesu, ei osod na chael gwared arno ar wahân i'r maes carafannau.

 

      

 

4.5

30C359C CAIS I AILDREFNU’R MAES CARAFANNAU YNGHYD Â NEWID DEFNYDD CAE RHIF 8748 ER MWYN LLEOLI 16 UNED GWYLIAU WRTH DROSGLWYDDO 2 UNED SYMUDOL O’R SAFLE A GANIATAWYD DAN GANIATAD CYNLLUNIO RHIF T/1239B (RHIF CAE 8255), 6 UNED SYMUDOL O’R SAFLE A GANIATAWYD DAN GANIATAD CYNLLUNIO RHIF T/1239F (CAE RHIF 7943) AC 8 UNED SYMUDOL O’R SAFLE A GANIATAWYD TYSTYSGRIF CYFREITHLONDEB RHIF 30C359 (CAE RHIF 7933), YNGHYD Â DEFNYDD YR UNEDAU AR CAEAU 8748  7933 GAN UN AI CARAFANNAU, CARTEFI I MODUR SYMUDOL NEU BEBYLL YM MAES CARAFANNAU PLAS UCHAF, TYNYGONGL

 

 

 

     Bu i'r Cadeirydd ddatgan diddordeb yn y cais uchod ac ymadawodd â'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.Cymerodd yr Is-Gadeirydd y Gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

      

 

     Roedd yr Aelod Lleol wedi gofyn am i’r cais uchod gael ei ystyried gan y Pwyllgor oherwydd pryder cyffredinol trigolion ynglyn â natur y newid defnydd.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn ymwneud â chae a leolir ger y fynedfa i safle Maes Carafannau Plas Uchaf ac mai’r cynnig oedd i adleoli dau safle carafannau symudol o’r ardal oedd yn destun caniatad cynllunio T/1239B; chwe llecyn carafan symudol o’r ardal oedd yn destun caniatad cynllunio T/1239F, gydag wyth llecyn carafan deithiol/ pabell i’w symud o’r ardal sy’n destun i’r CLEUD 30C359.Byddai’r llecynnau yn cael eu hadleoli i gae ger mynedfa’r safle y gellid ei gymryd fe pe bai yn disgyn tu allan i rannau o’r safle sydd â defnydd cyfreithlon fel safle carafan.Byddai’r llecynnau hyn wedyn ar gael ar gyfer carafannau teithio, modur gartref neu bebyll.

 

      

 

     Ceir hanes cynllunio maith i’r safle fel ag a ddisgrifir yn yr adroddiad.O safbwynt yr ymateb i gyhoeddusrwydd ac ymgynghori, mae’r ymgynghorwyr statudol wedi cynnig sylwadau ynglyn â’r cais ond nid ydynt yn gwrthwynebu iddo.Mae’r Aelod Lleol wedi codi pryder ynglyn â natur y cais ac fe dderbyniwyd 9 llythyr o wrthwynebiad yn gyffredinol ar sail effaith cynyddol y datblygiad; ei effaith ddrwg ar fwynderau’r trigolion; yr effaith o ran tarfu ar drigolion gan swn a’r effaith o ran diogelwch y ffordd, a thraffig.

 

      

 

     Mewn perthynas ag ystyriaethau cynllunio, ystyrir fod ehangu’r safle carafan i gynnwys cae swyddfa, ac adleoli’r 16 llecyn i’r cae hwn yn cydymffurfio â Pholisi 12 o Gynllun Lleol Ynys Môn a CH12 o Gynllun Fframwaith Gwynedd a bod y defnydd o’r llecynnau hyn gan garafannau symudol, cartrefi ar olwynion neu bebyll yn cydymffurfio gyda pholisi CH6 o Gynllun Fframwaith Gwynedd yn amodol ar gyflawni cytundeb cyfreithiol a’r amodau a argymhellir.Ni ystyrir y byddai’r newid defnydd arfaethedig yn niweidio edrychiad yr ardal nac yn cael effaith ar fwynderau preswyl oherwydd traffig.Aseswyd y cyfan o’r sylwadau a dderbyniwyd wrth lunio’r argymhellion, ac mae unrhyw fater a godwyd na chyfeirir atynt yn yr adroddiad yn cael eu hystyried fel rhai nad ydynt o bwys mawr.Yn amodol ar ddiweddu’r cyfnod rhoi sylw statudol ar 20 Ebrill, 2004, ac na dderbyniwyd unrhyw sylwadau materol o fewn y cyfnod hwn sydd yn codi materion newydd nas ystyrir yn yr adroddiad uchod, argymhellir awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i ganiatau’r cais gyda’r rhwymedigaethau a’r amodau a restrir.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd J.Arwel Roberts yr argymhelliad i ganiatau ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd W.J.Williams.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn amodol ar ddiweddu'r cyfnod cyflwyno sylwadau statudol ar 20 Ebrill, 2004, ac na dderbynnir unrhyw sylwadau materol o fewn y cyfnod hwn sydd yn codi ystyriaethau newydd na chânt sylw yn yr adroddiad uchod, awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i ganiatau'r cais yn unol â'r rhwymedigaethau a'r amodau a nodir ac yn amodol ar ofynion cytundeb cyfreithiol Adran 106  fel ag a amlinellir yn yr adroddiad.

 

      

 

4.6     39C291A CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI 30 O DAI AMRYWIOL YN CYNNWYS 18 FFLATIAU A 12 TAI 2 LAWR YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR YN WATER STREET, PORTHAETHWY

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod trafodaethau yn parhau gyda’r asiant mewn perthynas â’r cais uchod a bwriedir adrodd yn ôl arno i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Mai.Argymhellir felly y dylid gohirio ystyried y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a gohirio ystyried y cais uchod tan gyfarfad nesaf y Pwyllgor ym mis Mai.

 

      

 

4.7     39C291B CAIS I DDYMCHWEL RHAN O’R ADEILAD DIWYDIANNOL A CHODI 8 ANNEDD YN CYNNWYS 6 ANNEDD A NEWID DEFNYDD YR ADEILAD JOHN EDWARDS I FOD YN GANOLFAN ETIFEDDIAETH YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR YN WATER STREET, PORTHAETHWY

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y bwriedir adrodd yn ôl ar y cais uchod i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Mai ac argymhellir felly gohirio ei ystyried am y cyfarfod hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a  gohirio ystyried y cais uchod tan gyfarfad nesaf y Pwyllgor ym mis Mai.

 

      

 

4.8     CAIS YN TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

      

 

     42C175A CAIS I NEWID DEFNYDD Y CYN SWYDDFA AC YSTAFELL STAFF I GREU ANNEDD NEWYDD YN NANT Y FELIN PRECAST, PENTRAETH

 

      

 

     Bu i’r Aelod Lleol ofyn am i’r cais uchod gael ei ystyried gan y Pwyllgor i weld a yw’n cydymffurfio gyda’r polisi addasu, a bu’r cais yn destun ymweliad safle gan aelodau ar 17 Mawrth, 2004.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais uchod yn ymwneud â hen swyddfa a leolir mewn chwarel ar y lôn de orllewinol i Bentraeth.Roedd yna adeiladau ar y safle y mae wnelo’r cais â fo ar hyn o bryd ynghyd â charafan statig.Mae’n gais cynllunio llawn am droi’r swyddfa yn eiddo preswyl dwy lofft.Bu i gais am newid y cyn swyddfa ac ystafell staff i greu annedd newydd gael ei wrthod yng Nghorffennaf 2003.

 

      

 

     O ran yr ymgynghorwyr statudol, er i’r Cyngor Cymuned wrthwynebu’r cais yn wreiddiol, mae wedi ail ystyried ac yn cynnig sylwadau i’r perwyl fod yr ymgeisydd yn berson lleol ac wedi byw a gweithio o fewn y gymuned trwy gydol ei oes; nid oes ganddo gartref ar hyn o bryd ac mae hyn yn golygu fod angen lleol i’r cais, ac mae’r ymgeisydd yn byw mewn carafan ar y safle ar hyn o bryd a byddai annedd yn daclusach na charafan.Mae Swyddog Draenio’r Cyngor yn disgwyl gwybodaeth bellach gan yr ymgeisydd ynglyn â’r defnydd o danc septig, ac mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gwrthwynebu’r cais oherwydd fod y safle o fewn gorlifdir a gallai fod yn debygol o orlifo.Petai’r Cyngor yn cymeradwyo’r cais mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gofyn am gyfle i drafod y cais cyn rhyddhau’r hysbysiad penderfyniad.

 

      

 

     O ran ystyriaethau cynllunio, mae’r cais uchod yn cyfateb i ail gyflwyno cais a wrthodwyd ar achlysur blaenorol gan y Pwyllgor hwn.Y gwahaniaeth rhwng y ddau yw bod arolwg strwythurol wedi’i gyflwyno gyda’r cais presennol.Mae Polisi 7 a 55 Cynllun Lleol Ynys Môn, D27 Cynllun Fframwaith Gwynedd a pharagraffau 7.6.10 i 7.6.11 Polisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2002) yn caniatau addasu adeiladau presennol yn y cefn gwlad at ddibenion preswylio yn amodol ar y meini prawf a restrwyd.Ni ystyrir fod y datblygiad arfaethedig uchod yn cydymffurfio gyda’r fframwaith polisi uchod yn bennaf am fod yr adeilad presennol yn rhy fychan i’w addasu at ddibenion preswyl.Nid yw’r cynnig yn un i addasu adeilad mewn gwirionedd, ond yn hytrach mae’n fwy tebyg i adeiladu annedd newydd ynghlwm wrth adeilad presennol llai yn y cefn gwlad.Mae’r cais felly yn gyfystyr ag annedd newydd yn y cefn gwlad ac mae’n tynnu’n groes i ddarpariaethau’r polisiau a restrir sy’n ceisio gwarchod cefn gwlad ac sy’n rhagdybio yn erbyn anheddau ychwanegol nad ydynt yn disgyn i unrhyw un o’r categoriau disgwyliedig lle bu modd cyfarfod â’r meini prawf a restrwyd.Petai caniatad cynllunio yn cael ei ryddhau, byddai’n anodd i’r Cyngor wrthod addasiadau tebyg, a gyda’i gilydd, byddent yn tanseilio polisiau cynllunio lleol a chendlaethol sy’n ceisio cyfyngu ar ddatblygiad yn y cefn gwlad.Nid oedd dim newid materol wedi bod ers gwrthod y cais yng Ngorffennaf, 2003.

 

      

 

     Ni ystyrir ychwaith bod y cynnig yn cydymffurfio gyda’r polisiau dyluniad perthnasol oherwydd byddai annedd newydd yn y lleoliad hwn yn gyfystyr â datblygiad ysbeidiol heb gysylltiad ag unrhyw bentref a byddai’n ddatblygiad rubanog.Fel casgliad felly ni ystyrir bod yr egwyddor ar gyfer datblygu’r safle at ddibenion preswyl yn y lleoliad hwn yn y cefn gwlad yn dderbyniol ac argymhellir gwrthod y cais.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd Hefin Thomas, yr Aelod Lleol fod y cais a gyflwynir gerbron yn wahanol i’r cais a wrthodwyd yn wreiddiol am fod adroddiad arolwg llawn yn cael ei gyflwyno gyda’r cais yn awr a bod yr adroddiad arolwg hwnnw yn dweud bod yr adeilad yr arfaethir ei addasu yn sylfaenol gadarn ac wedi’i godi yn unol â rheoliadau adeiladau a’i fod yn addas ar gyfer ei gynnwys yn yr estyniad.Mae’r ymgeisydd yn berson lleol ac yn bwriadu aros o fewn y gymuned yn lleol; mae’n cynnig codi ty bychan ar gyfer ei anghenion preswyl ei hun oherwydd ei fod ar hyn o bryd yn ddigartref.Mae Polisi Cynllunio Cymru (Mawrth, 2002) yn caniatau newid adeiladau presennol ar gyfer eu defnyddio fel anheddau ac mae yna le felly i ddangos hyblygrwydd.At hynny, ystyrir byddai caniatau’r cais yn gaffaeliad cynllunio o ran byddai'n arwain at godi ty safonol gyda to llechi yn lle bod yna garafan ar y safle ac felly byddai’n fwy derbyniol yn weladwy.Ni chredir fod y datblygiad a gynigir allan yn y cefn gwlad oherwydd fod adeiladau ar y safle yn barod, ac anghytunir gyda gosodiad Asiantaeth yr Amgylchedd fod y safle yn un a allai fod yn debygol i olrlifo.Roedd hwn yn gyfle i gefnogi pobl yn y gymuned heb dorri polisiau ond eu plygu nhw.Argymhellodd fod y cais yn cael ei ganiatau ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd O.Glyn Jones.

 

      

 

     Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Polisi 55 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn caniatau gwaith addasu bychan ar gyfer newid defnydd o adeilad ond nid dyna yw'r achos yn y cais uchod.Pwysleisir fod y safle yn y cefn gwlad ac nad oes modd cyfyngu ar ei ddefnydd i ddefnydd lleol.Ni ystyrir bod codi annedd yn lle cwt yn gaffaeliad cynllunio, a’i fod yn hytrach yn gaffaeliad ar gyfer y cyhoedd yn hytrach nag unigolyn.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorwyr Gwyn Roberts, R.L.Owen, W.J.Williams a W.T.Roberts gefnogaeth i'r cais am eu bod o’r farn y byddai codi ty ar y safle yn lle’r adeilad a’r garafan presennol yn gwella ymddangosiad y safle a’r ardal gyfagos; roedd y cais yn cwrdd ag angen lleol am dy gan berson lleol ac ystyrir ymhellach fod y cais ar safle tir brown ac nad oedd allan yn y cefn gwlad.

 

      

 

     Atgoffodd y Cyfreithiwr aelodau’r Pwyllgor nad oedd y cwestiwn a yw cais yn y cefn gwlad ai peidio yn fater o farn ond yn hytrach yn fater o ffaith cynllunio. Os yw datblygiad yn syrthio y tu allan i ffin datblygu a ddynodir yn y Cynllun Datblygu yna mae’r datblygiad hwnnw yn y cefn gwlad.

 

      

 

     Argymhellodd y Cynghorydd G.O.Parry, M.B.E. fod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhellion y swyddogion ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd J.A.Edwards.

 

      

 

     Penderfynodd yr aelodau dderbyn y cais yn groes i argymhellion y swyddogion am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

byddai’r datblygiad arfaethedig yn gwella ymddangosiad y safle a’r ardal gyfagos ac yn ei arbed rhag dirwyio ymhellach;

 

Ÿ

mae’r cais yn cwrdd â’r gofyn lleol am dy fforddiadwy i fyw ynddo;

 

Ÿ

eu bod yn ystyried bod y datblygiad ar safle tir brown.

 

 

 

     Yn unol â chyfansoddiad y Cyngor byddai’r cais yn cael ei ohirio i gyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn ystyried adroddiad ar oblygiadau caniatau’r cais, ac i benderfynu arno.

 

      

 

4.9     CAIS YN TYNNU’N GROES I’R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

      

 

     45C311A CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI BYNGALO GROMEN AR DIR YN O.S 9176 PEN LÔN, NIWBWRCH

 

      

 

     Datganodd Gwen Owen o’r Adran Gynllunio ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Roedd y cais uchod yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor oherwydd fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog yn yr Adran Gynllunio.Yn ei gyfarfod ar 3 Mawrth, 2004, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle cyn pennu’r cais a chynhaliwyd yr ymweliad hwnnw ar 17 Mawrth, 2004.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y safle dan sylw yn y cefn gwlad agored mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol ac yn agos i Warchodfa Natur Genedlaethaol sy’n cynnwys twyni tywod Cwningar Niwbwrch.Mae’r cais yn un amlinellol ar gyfer codi byngalo dormer a chedwir y manylion ar gyfer ystyriaeth yn y dyfodol.Gwrthodwyd cais amlinellol i godi byngalo yma ym mis Chwefror, 2004 a dygir sylw’r Pwyllgor at y ffaith fod sawl gwrthodiad i’r egwyddor o godi annedd yn yr ardal wedi bod yn y gorffennol.

 

      

 

     Cyhoedduswyd y bwriad fel cais sy’n gwyro a daeth y cyfnod yngynghori arno i ben ar 26 Chwefror, 2004.Mae’r ymgynghorwyr statudol wedi cyflwyno sylwadau gyda’r Adran Priffyrdd yn argymell caniatad gydag amodau yng nghyswllt darparu llecynnau parcio.Derbyniwyd 2 lythyr o wrthwynebiad i’r cais gyda’r rheini yn tynnu sylw at ystyriaethau yn ymwneud â diffygion ynglyn â rhwydwaith y ffyrdd sy’n gwasanaethu’r safle; lleoliad y safle o fewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol ac yn nodi byddai caniatau’r cais yn gosod cynsail ac yn ei gwneud yn anodd i wrthod ceisiadau cyffelyb yn y dyfodol.Cafwyd 2 lythyr yn cefnogi’r cais hefyd ac yn nodi nad yw’r cynnig yn groes i gymeriad dau eiddo sydd yno’n barod a’i fod yn fodd i’r ymgeisydd redeg busnes teuluol.Nodir byddai’r ymgeisydd hefyd yn fodlon creu llecynnau pasio ychwanegol.At hynny, bu i’r ymgeisydd ei hun gyflwyno llythyr yn cefnogi’r cais ac yn tynnu sylw at y ffaith ei fod yn berson lleol ac yn ymwneud â’r busnes teuluol yn lleol ac ei fod yn credu y byddai codi annedd yn llenwi bwlch mewn modd addas heb effeithio ar bleserau tai eraill.

 

      

 

     O ran prif ystyriaethau cynllunio’r cais nodir fod Adran 54 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn dweud fod raid i benderfyniadau ar geisiadau cynllunio gydymffurfio gyda'r Cynllun Datblygu onid oes ystyriaethau materol yn dangos yn wahanol.Er y rhoddwyd sylw manwl i’r wybodaeth a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd gyda’r bwriad uchod, ni ystyrir fod yr amgylchiadau personol a grybwyllir yn y cais yn ddigonol i gyfiawnhau roddi cyngor polisi cynllunio lleol a chenedlaethol o’r neilltu.Ystyrir yn hytrach y byddai’r datblygiad arfaethedig yn arwain at ymestyn yr adeiladau i’r cefn gwlad agored; byddai ty yn y lleoliad hwn yn nodwedd annymunol ac yn ymwthio i’r tirwedd ac fe allai andwyo cymeriad a phleserau’r ardal.Ni chyflwynwyd cyfiawnhad ychwaith bod angen y cyfryw annedd am resymau amaethyddol na choedwigaeth.Er fod yr Adran Briffyrdd yn argymell caniatad amodol, mae’r Arolygaeth Cynllunio mewn achos o apêl ar gais  blaenorol wedi nodi bod y ffordd a’r mynediad iddi yn ddiffygiol ac yn annerbyniol ar gyfer traffig ar y pryd, a byddai’r traffig ychwanegol o un annedd arall yn dwysau’r sefyllfa.At hynny mae’r bwriad yn groes i Bolisi’r Cynllun Lleol a’r Cynllun Fframwaith ac i’r cyngor ym Mholisi Cynllunio Cymru.Ni fu newid sylweddol ym mholisi’r Llywodraeth nac mewn polisiau lleol ers gwrthod caniatad yn Chwefror, 2003 ac ers gwrthod apêl ar geisiadau cyffelyb yn yr ardal union gerllaw.Dygir sylw at y ffaith fod gofyn i’r Awdurdod Cynllunio lleol fod yn gyson yn ei benderfyniadau ac felly argymhellir gwrthod y cais.

 

      

 

     Bu i'r Cynghorwyr W.Emyr Jones, John Roberts, R.L.Owen a P.M.Fowlie fynegi cefnogaeth i'r cynnig gan nodi fod y cais ar safle rhwng dau annedd arall ac anodd iawn felly oedd derbyn fod y cynnig gerbron allan yn y cefn gwlad.Byddai caniatau’r cais hwn yn cau’r bwlch presennol mewn ffordd dderbyniol a hynny heb amharu ar dai eraill yn yr ardal.Gellir ei gyfiawnhau felly ar sail llenwi gwagle yn naturiol.At hynny, byddai caniatau’r cais yn cefnogi teulu ifanc lleol sydd yn dymuno parhau i fyw yn lleol ac i hyrwyddo busnes lleol.

 

      

 

     Atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio’r aelodau fod y Cynllun Datblygu lleol yn dynodi ffiniau ar gyfer datblygu a bod unrhyw dir tu allan i’r ffiniau hynny yn cael ei ystyried yn y cefn gwlad yn nhermau cynllunio.Roedd y cynnig gerbron yn syrthio mewn lleoliad nad yw wedi cael ei ddynodi ar gyfer datblygu ac felly yn cael ei ystyried yn y cefn gwlad.Pe ganiateir y cais byddai’r Pwyllgor yn gweithredu’n anghyson o ran penderfyniadau blaenorol ac yn gosod cynsail beryglus.

 

      

 

     Ategodd y Cadeirydd y sylwadau uchod a nododd wrth aelodau'r Pwyllgor fod gofyn iddynt ystyried y cais yn ofalus yng nghyd-destun polisiau cynllunio cyfredol.

 

      

 

     Nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y diffyg cysondeb posib gan fod cais blaenorol yn Chwefror, 2003 wedi ei wrthod.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd G.O.Parry, M.B.E. yr argymhelliad o wrthod y cais ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd J.A.Edwards.

 

      

 

     Roedd y mwyafrif o’r aelodau yn cytuno o ymweld â safle'r cais yn flaenorol nad oedd y cynnig yn syrthio o fewn tir yn y cefn gwlad a’i fod yn llenwi bwlch mewn lleoliad lle roedd yna dai yn barod.Nodwyd bod yr ymgeisydd hefyd wedi cytuno i ddarparu llecynnau pasio ychwanegol a byddai hyn yn fantais i’r ardal.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd W.Emyr Jones ganiatau'r cais ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd P.M.Fowlie.

 

      

 

     Penderfynodd yr aelodau dderbyn y cais o 9 pleidlais i 5 yn groes i argymhellion y swyddogion am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

nad ystyrir fod safle'r cais allan yn cefn gwlad oherwydd fod yna anheddau y naill ochr a’r llall iddo yn barod;

 

Ÿ

byddai’n cau bwlch presennol mewn ffordd dderbyniol heb amharu ar dai eraill;

 

Ÿ

roedd yn llenwi gwagle yn naturiol;

 

Ÿ

roedd parodrwydd yr ymgeisydd i ddarparu llecynnau pasio ychwanegol ar y ffordd yn fantais gynllunio.

 

      

 

     Yn unol â chyfansoddiad y Cyngor byddai’r cais yn cael ei ohirio i gyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn ystyried adroddiad ar oblygiadau caniatau’r cais, ac i benderfynu arno.

 

      

 

5

CEISIADAU’N TYNNU’N GROES I’R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

      

 

5.1     14C74D CYNLLUNIAU LLAWN AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU TANC SEPTIG NEWYDD AR RHAN O DIR YN O.S 2769 BODFFORDD.

 

      

 

     Bu i'r Cadeirydd dynnu sylw'r Pwyllgor at yr angen i ystyried y ceisiadau dilynol yn ofalus am eu bod yn tynnu'n groes i'r Cynllun Fframwaith ac y byddai ymweliad â safle cais ond yn briodol pe gredir fod yna amheuaeth a oedd y cais yn mynd yn groes i bolisiau cynllunio ai peidio.

 

      

 

     Roedd y cynnig uchod yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cynnig uchod yn gais cynllunio llawn i godi annedd deulawr gyda tho llechi a gorffeniad wedi’i rendro yn llyfn a’i beintio’n wyn.Mae cais cynllunio i godi bwyty trwyddedig gyda lle byw uwch ei ben ar ran o’r safle wedi’i gymeradwyo ym mis Chwefror, 1992 yn amodol ar Gytundeb 106 yn cyfyngu ar ddefnydd y lle byw i’r Rheolwr neu berchennog.Mae’r Ymgynghorwyr Statudol wedi cynnig sylwadau ar y cais ond nid ydynt yn ei wrthwynebu.Mae’r Aelod Cynulliad wedi cyflwyno llythyr o gefnogaeth i’r cais.

 

      

 

     O ran ystyriaethau cynllunio’r cais, ni ystyrir bod y cynnig yn cydymffurfio gyda’r polisiau cynllunio perthnasol yng nghyswllt codi tai newydd yn y cefn gwlad ac ystyriaethau dylunio oherwydd byddai codi annedd newydd yn y lleoliad arfaethedig yn cynrychioli datblygiad gwasgarog tu allan i unrhyw ganol pentref.Mae safle’r cais hefyd o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ac ystyrir byddai unrhyw annedd a gymeradwyir yn hollol amlwg o’r briffordd oherwydd ei safle ar ei ben ei hun a dull gwasgarog y datblygiad fyddai’n cael effaith annerbyniol ar y dynodiad tirwedd.Rhoddwyd sylw gofalus i’r holl sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â’r cynnig gan gynnwys amgylchiadau personol yr ymgeisydd a daethpwyd i’r casgliad nad yw’r cais hwn yn caniatau rhoi heibio polisiau ar gyfer gwarchod y cefn gwlad.Dygir sylw’r Pwyllgor yn ogystal at y tebygrwydd rhwng y cais hwn a chais cyffelyb a gyflwynwyd yn y gorffennol i godi annedd unigol ar safle yn Llangefni lle roedd cais cynllunio i godi cartref nyrsio/preswyl arno’n barod.Gwrthododd y Pwyllgor y cais hwnnw fel un oedd yn gwyro oddi wrth bolisiau cynllunio mabwysiedig ac fe fethodd apêl wedi hynny.Mae caniatad cynllunio ar gyfer bwyty ar y safle dan sylw wedi’i ddiogelu am dros 12 mlynedd ond ni wnaed unrhyw ymdrech i weithredu ar y caniatad ac nid oes tysiolaeth i ddangos byddai’r cynllun yn mynd yn ei flaen pe wrthodir y cais ar gyfer yr annedd.Nid oes cyfiawnhad ar gyfer cael annedd ar y safle yn nhermau polisiau cynllunio.Nid yw’r problemau a wynebir gan yr ymgeiswyr wrth ganfod ty yn lleol yn unigryw ac nid ydynt yn cyfiawnhau caniatau datblygiad sydd yn groes i bolisi.Ystyriwyd yn llawn hanes y safle ond nid oes cyfiawnhad ychwaith dros ganiatau’r datblygiad ar sail bod yna ganiatad yn bodoli ar gyfer bwyty.Mae’r cynnig yn ddatblygiad preswyl annerbyniol yn y cefn gwlad ac argymhellir felly bod y Pwyllgor yn gweithredu’n gyson ac yn ei wrthod.Fe fyddai caniatau yn tanseilio polisi cynllunio y Cyngor Sir.

 

      

 

     Bu i’r Cynghorydd W.I.Hughes fel yr Aelod Lleol annerch y Pwyllgor, a nododd nad oedd yn ystyried fod y cynnig dan sylw yn cynrychioli codi annedd newydd ar dir glas am fod yna adeiladau eisoes ar y safle, a’i fod felly ar dir brown.O ganiatau’r datblygiad, ceir adeilad safonol na fyddai hanner maint y bwyty mae yna ganiatad cynllunio ar ei gyfer yn barod a byddai o fantais i fwynderau’r ardal yn hytrach na’i fod yn amharu arnynt.Roedd yma gwpl ifanc Cymraeg  yn ymorol ty yn eu cynefin a gofynnodd i’r Pwyllgor eu cefnogi yn eu cais a chan hynny ddiogelu cymunedau cefn gwlad Cymreig rhag dirwyio a cholli poblogaeth.

 

      

 

     Atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio aelodau’r Pwyllgor fod y cynnig yn syrthio tu allan i ardal a ddynodwyd yn y Cynllun Datblygu fel tir ar gyfer ei ddatblygu a’i fod felly yn cael ei ystyried yn y cefn gwlad.Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi bod yn cyfranogi yn y broses o

 

     lunio‘r Cynlluniau Datblygu Unedol a Lleol a gofynnodd iddynt ystyried ymlynu wrthynt wrth ystyried y cais hwn.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorwyr Hefin Thomas, W.T.Roberts, a Gwyn Roberts gefnogaeth i'r cais gan nodi fod yna adeiladau ar y safle yn barod a bod yna wedd ddirywiedig arno.Roeddent o’r farn byddai codi annedd yn gwella ymddangosiad y safle ac o fantais i’r ardal. Byddai caniatau annedd hefyd yn golygu llai o broblemau trafnidiaeth na phe godir bwyty ar y safle.Gan fod yna adeiladau eisoes yn bodoli yn yr ardal cyfagos ni ystyrir fod y cynnig uchod yn ddatblygiad yn y cefn gwlad.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas ganiatau'r cais ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd W.T.Roberts.

 

      

 

     Penderfynodd yr aelodau dderbyn y cais o 7 pleidlais i 4 yn groes i argymhellion y swyddogion am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

bod caniatad cynllunio eisoes yn bodoli ar y safle;

 

Ÿ

byddai codi annedd ar y safle yn gwella ymddangosiad a gwedd yr ardal;

 

Ÿ

byddai codi annedd yn arwain at lai o drafnidiaeth na bwyty;

 

Ÿ

mae yna adeiladau eisioes yn gyfagos i’r cynnig ac felly nid oeddent yn ystyried y datblygiad fel datblygiad yn y cefn gwlad ond yn hytrach ar dir brown.

 

 

 

     Yn unol â chyfansoddiad y Cyngor byddai’r cais yn cael ei ohirio i gyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn ystyried adroddiad ar oblygiadau caniatau’r cais, ac i benderfynu arno.

 

      

 

5.2     18C149 CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O O.S 5215 GER GAREJ PRIMROSE, LÔN LAS, LLANRHUDDLAD

 

      

 

     Datganodd Mr.Iolo Jones, o’r  Adran Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Roedd y cynnig uchod yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol a oedd yn gefnogol iddo.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cais cynllunio amlinellol oedd y cais uchod ar gyfer un annedd breswyl gyda’r holl faterion manwl wedi’u cadw wrth gefn i’w trafod yn y dyfodol.Bu i’r ymgeiswyr gefnogi eu cais gyda llythyr a phapurau eraill atodedig sy’n egluro natur salwch eu plentyn a’r rhesymau pam nad yw eu ty presennol bellach yn foddhaol.Mae’r manylion hyn ar gael i’w harchwilio gan unrhyw aelod sy'n dymuno gwneud hynny.

 

      

 

     Mae’r Ymgynghorwyr Statudol wedi cyflwyno sylwadau ac nid ydynt yn gwrthwynebu’r cais.Mae’r Cyngor Cymuned yn ei gefnogi.

 

      

 

     O ran ystyriaethau cynllunio, ystyrir y byddai’r annedd arfaethedig wedi’i lleoli yn y cefn gwlad ac oherwydd hynny ni fyddai’n cydymffurfio gyda’r polisiau cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol a fanylir arnynt yn yr adroddiad.Pwysleisir fod safle’r cais wedi’i leoli yn y cefn gwlad er fod tai preswyl ar eu pennau eu hunain yn y parthau.Ni ystyrir fod y cynnig yn cydymffurfio ychwaith gyda’r polisiau cynllunio yn ymwneud â dyluniad tai oherwydd byddai annedd newydd yn y lleoliad arfaethedig yn ddatblygiad gwasgaredig heb fod â pherthynas ag unrhyw ganol pentref ac yn ddatblygiad rhubanaidd.Mae safle’r cais mewn Ardal Tirwedd Arbennig o dan ddarpariaethau polisi 31 o Gynllun Lleol Ynys Môn, D3 o Gynllun Fframwaith Gwynedd ac EN1 o Gynllun Datblygu Unedol Ynys Môn.Ystyrir byddai’r cynnig yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau a chymeriad yr ardal sydd gyda dynodiad tirwedd.

 

      

 

     Rhoddwyd ystyriaeth i’r cyfan o gynrychioladau wrth wneud yr argymhelliad gan gynnwys amgylchiadau personol yr ymgeisydd a salwch y plentyn gan dalu sylw i gyngor ym mharagraff 4.1.6 o Bolisi Cynllunio Cymru (Mawrth, 2002), a daethpwyd i’r casgliad nad yw hyn yn cyfiawnhau rhoi heibio’r polisiau ar gyfer amddiffyn y cefn gwlad.Mae’r cynnig yn ddatblygiad preswyl annerbyniol yn y cefn gwlad ac argymhellir felly ei fod yn cael ei wrthod.

 

      

 

     Bu i’r Cynghorydd Mrs B.Burns fel yr Aelod Lleol gyfarch y Pwyllgor ynglyn â’r cais a nododd ei bod yn ystyried y cynnig gyda’r mwyaf haeddiannol.Roedd yma deulu lleol nad oeddent yn dymuno symud ty yn arbennig ond eu bod wedi derbyn gwybodaeth ynglyn â chyflwr iechyd eu plentyn a oedd wedi newid cyfeiriad eu bywyd.Roedd eu mab yn dioddef o salwch dirywiedig a olygai fod rhaid iddo gael cymorth yn y cartref ac yn yr ysgol, ac er bod ei deulu wedi ceisio prynu ty addas yn lleol roeddent wedi methu.Roeddent nawr yn awyddus i adeiladu ty ar lain o dir addas a fyddai’n cwrdd ag anghenion eu mab ac a fyddai’n ddigon lleol i allu galw ar gefnogaeth y teulu a’r gymuned a galluogi ei mab fynd i Ysgol Bodedern sy’n gallu cyflenwi ei anghenion.Roedd y gymuned leol yn gefnogol i’r cais ac er fod y cynnig tu allan i ffiniau datblygu roedd mewn safle lle mae yna dai eraill ac ni chredir y byddai un annedd arall o safon uchel yn effeithio ar y tirwedd yn enwedig o ystyried y cefndir o gyfyngder sydd i'r cynnig.Cydnabyddir y rhesymau dros wrthod ond dygir sylw at y ffaith fod yma achos o angen dwys y credir sydd yn goresgyn y polisiau cynllunio arferol.

 

      

 

     Nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ymhellach tra cydymdeimlir â’r achos penodol hwn, ni  ystyrir fod yr amgylchiadau personol yn ddigonol i wyrdroi polisiau cynllunio cytunedig ac y byddai cefnogi’r cais ar y sail hwn yn ffordd anghymeradwy o benderfynu ar gais cynllunio.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd P.M.Fowlie ei fod wedi darllen y cynrychioladau gan asiantaethau proffesiynol yn yr achos hwn a’i fod o’r farn fod yma amgylchiadau eithriadol sydd yn cyfiawnhau rhoi polisiau cynllunio o’r neilltu, a’i fod felly yn cefnogi’r cais.Ategwyd y safbwynt hwn gan y Cynghorydd R.L.Owen.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn â’r priodoldeb o ddarllen y llythyrau meddygol tu ôl i’r cynnig hwn, ymatebodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad ystyrir ei fod yn briodol eu cyhoeddi fel rhan o’r pecyn llythyrau arferol oherwydd natur sensitif y wybodaeth, ond roeddent ar gael yn y swyddfa i’w darllen gan aelodau ac roedd yr Aelod Lleol wedi mynegi dymuniad bod aelodau’r Pwyllgor yn cael gweld y llythyrau oedd yn cefnogi’r cais.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd R.L.Owen ganiatau'r cais ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd P.M.Fowlie.

 

      

 

     Penderfynodd yr aelodau dderbyn y cais yn  groes i argymhellion y swyddogion am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

Bod amgylchiadau eithriadol yn yr achos hwn yn cyfiawnhau rhoi polisiau cynllunio o’r neilltu;

 

Ÿ

bod salwch y plentyn yn arwain at anghenion arbennig iawn.

 

 

 

     Yn unol â chyfansoddiad y Cyngor byddai’r cais yn cael ei ohirio i gyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn ystyried adroddiad ar oblygiadau caniatau’r cais, ac i benderfynu arno.

 

 

 

     (Bu i’r Cynghorwyr J.Arwel Edwards, G.O.Parry MBE  a J.Arwel  Roberts ymatal rhag pleidleisio ar y cais uchod)

 

      

 

5.3     28C323 CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD AR RHAN O O.S 027 AR DIR YN NEUADD, LLANFAELOG

 

      

 

     Roedd y cynnig uchod yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cais amlinellol oedd yr uchod ar gyfer un uned breswyl gyda’r holl faterion manwl wedi eu cadw wrth gefn i’w trafod yn y dyfodol.Roedd yr ymgeisydd wedi cefnogi ei gais mewn llythyr sy’n egluro bod yr annedd ar gyfer ei fab sydd gyda Down’s Syndrome i'w alluogi i fyw yn annibynnol oddi wrth ei rieni ond gyda chyfleusterau ar gyfer gofalwr yn byw i mewn i fod yn bresennol pan fo angen.

 

      

 

     Nid yw’r Cyngor Cymuned wedi cyflwyno unrhyw sylwadau ynglyn â’r cais ac mae’r  Ymgynghorwyr Statudol eraill wedi cyflwyno sylwadau ond nid ydynt yn ei wrthwynebu heblaw am yr Adran Briffyrdd sydd yn gwrthwynebu’r cais ar sail ystyriaethau traffig a diogelwch y ffordd o ran mynediad o’r safle.

 

      

 

     O ran ystyriaethau cynllunio’r cynnig, ystyrir fod safle’r cais wedi ei leoli yn yn y cefn gwlad er y ffaith fod tai preswyl yn y parthau ac y byddai datblygu’r safle yn parhau datblygiad rhubanaidd annerbyniol tu allan i ffin pentref Llanfaelog, gan osod cynsail ar gyfer datblygiadau eraill tebyg yn groes i bolisiau cynllunio sefydledig a chyngor polisi cynllunio cenedlaethol.Mae‘r cyfarwyddyd o fewn Polisi Cynllunio Cymru a TAN 6 datblygu Amaethyddol a Gwledig yn glir iawn ar fater adeiladu tai tu allan i ganolfannau a sefydlwyd, ac mae’n rhaid profi’r angen dros un o’r categoriau a eithriwyd megis ty i weithiwr fferm neu goedwig a rhaid na bo yr un ffordd arall o ddiwllau’r angen am dy.Mae amgylchiadau personol yr ymgeisydd wedi’u nodi ond nid oes rhesymau digonol i droi heibio polisi cynllunio a chyngor polisi yn yr achos hwn.Ni ystyrir bod y safle yn addas ar gyfer darparu tai fforddiadwy fel safle eithriad oherwydd byddai’r datblygiad yn ymwthio i mewn i’r cefn gwlad ac yn gosod cynsail ar gyfer datblygiadau anaddas yn y cyffiniau.Ystyrir hefyd y byddai’r cynnig yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau a chymeriad yr ardal hon o dirwedd dynodedig.

 

      

 

     Am y rhesymau hyn ac ar sail gwrthwynebiad gan yr Adran Briffyrdd, argymhellir gwrthod y cais.

 

      

 

     Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd fod gwelediad o'r briffordd yn is-safonol i'r chwith o'r fynedfa bwriedig ac hefyd mewn rhai amgylchiadau ar y briffordd ei hun.

 

      

 

     Nododd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd O.Glyn Jones  fod yna amgylchiadau personol cryf yn perthyn i’r cynnig uchod, a gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried cynnal ymweliad â safle’r cais.

 

      

 

     Cefnogwyd yr awgrymiad uchod gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     Roedd yr aelodau yn gefnogol i’r cynnig i ymweld â safle’r cais er mwyn iddynt weld drostynt eu hunain lleoliad y cais a’r sefyllfa o ran diogelwch priffyrdd a mynediad at y safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle’r cais er mwyn i’r aelodau weld y safle mewn perthynas â’r sefyllfa o ran y briffordd a mynediad at y safle.

 

      

 

5.4     33C230 CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI MEDDYGFA A DEINTYDD NEWYDD AR DIR GER 6 MAES HYFRYD GAERWEN

 

      

 

     Rhoddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wybod i’r Pwyllgor ei fod wedi derbyn llythyr gan yr ymgeisydd ers ysgrifennu’r adroddiad ar y cais yn gofyn am i’r cais gael ei ohirio.Roedd ef yn barod i wneud hynny ac i drafod ymhellach gyda’r ymgeisydd yn ôl y gofyn.

 

      

 

     Awgrymodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd W.Emyr Jones gan fod yr ymgeisydd yn gofyn am  ohirio’r cais yn hytrach na’i dynnu’n ôl, fod ymweliad â safle’r cais yn cael ei wneud beth bynnag er mwyn i aelodau’r Pwyllgor fod yn gyfarwydd â’r lleoliad a materion perthynol yn arbennig ystyriaethau priffyrdd, mewn paratoad ar gyfer ail gyflwyno’r cais.

 

      

 

     Atgoffodd y Cyfreithiwr yr aelodau efallai y byddai bwriad yr ymgeisydd yn dra wahanol pan ail gyflwynir y cais, ac nad oedd mantais eglur o gynnal ymweliad â’r safle ar hyn o bryd.

 

      

 

     Roedd yr aelodau yn gytun y byddai’n fantais iddynt ymweld â safle’r cais o flaen llaw fel eu bod o leiaf yn gyfarwydd â manylion y lleoliad pan ail gyflwynir y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle’r cais yn y cyfamser fel bod yr aelodau yn gyfarwydd â manylion lleoliad y cais.

 

     Rhoddwyd fel rheswm ar gyfer ymweliad y ffaith fod cais wedi ei wneud ar y safle.Mynegodd y Cyfreithiwr ei farn nad oedd hynny yn reswm cynllunio digonol.

 

      

 

5.5     46C375A CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AMAETHYDDOL YNGHYD Â RHOI TANC SEPTIG NEWYDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR YN O.S ENC 4178 PENRHOSFEILW

 

      

 

     Dataganodd Bethan Nelson o’r Adran Gynllunio ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Roedd y cais uchod wedi’i gyflwyno gerbron y Pwyllgor oherwydd fod merch yr ymgeisydd yn gweithio yng ngwasanaeth Cynllunio a Rheoli Adeiladau’r Cyngor.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi cefnogi ei gais gyda llythyr yn egluro fod angen yr annedd i’w defnyddio yn gysylltiedig â ffermio 40 acer o dir o gwmpas. Gwrthodwyd cais blaenorol i godi byngalo ar y safle yn 2003.

 

      

 

     O ran yr Ymgynghorwyr Statudol ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau hyd yn hyn gan yr Aelod Lleol.Mae gweddill yr ymgynghorwyr statudol wedi cyflwyno sylwadau ac mae’r Adran Briffyrdd yn argymell caniatad amodol.

 

      

 

     O ran ystyriaethau cynllunio ystyrir na fyddai datblygu annedd ar ei phen ei hun yn y cefn gwlad ac ar safle cae glas fel ag a gynigir uchod yn cydymffurfio gyda gofynion datblygu cynaladwy.Er fod llythyr sydd ynghyd â’r cais yn dangos bod yr annedd wedi ei bwriadu i’w defnyddio fel cartref amaethyddol, mae’n amlwg nad yw’r busnes amaethyddol y byddai’n gysylltiedig ag ef wedi’i sefydlu hyd yma.Dan yr amgylchiadau felly, ac yn unol â pholisi cynllunio a chyngor polisi, ni ystyrir fod yna unrhyw gyfiawnhad dros godi annedd newydd yn y cefn gwlad ac sydd mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol dynodedig.

 

      

 

     Er fod yr ymgeisydd hefyd wedi cadarnhau y byddai defnyddiau sympathetig yn cael eu defnyddio ar gyfer yr annedd arfaethedig, ni ystyrir bod y cynnig yn cyd-fynd â’r polisiau cynllunio perthnasol oherwydd byddai annedd newydd yn y lleoliad hwn yn ddatblygiad gwasgarog tu allan i ffiniau datblygu Caergybi a Bae Trearddur.Ni fyddau defnyddio deunyddiau sympathetig yn cuddio’r ffaith mai ty newydd fyddai hwn yn y cefn gwlad ac y byddai yn cael effaith annerbyniol ar y tirwedd ac ar gymeriad yr ardal.

 

      

 

     Rhoddwyd ystyriaeth i'r cyfan o’r sylwadau wrth lunio’r argymhelliad gan gynnwys amgylchiadau personol yr ymgeisydd a daethpwyd i’r casgliad nad yw’r rhain yn cyfiawnhau rhoi o’r neilltu bolisiau ar gyfer amddiffyn cefn gwlad.Mae’r cynnig yn ddatblygiad preswyl annerbyniol yn y cefn gwlad ac argymhellir felly ei bod yn cael ei wrthod.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a nodir uchod ac a amlinellir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

6.1     10C10B CAIS I NEWID RHAN O ADEILADAU’R IARD FEWNOL A’U TROI YN UNEDAU PRESWYL BYCHAIN, NEWID Y GWEITHDAI I GREU TRI BWTHYN GYDA GOLCHDY A SHED FEICS YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD YN LLYS LLEWELYN, ABERFFRAW

 

      

 

     Roedd y cais wedi’i gyflwyno gerbron y Pwyllgor oherwydd ei fod ar dir y Cyngor.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y derbyniwyd un llythyr o wrthwynebiad i’r cais uchod, ac ystyrir fod nifer o’r materion a godir yn y llythyr hwnnw yn rhai y gellid eu trafod yn ystod y cyfnod adeiladu ac nad ydynt yn fanylion y mae'n ofynnol eu hasesu gan y cais cynllunio. Fodd bynnag, mae’r asiantiaid wedi ymateb yn ysgrifenedig i’r pwyntiau a godwyd yn y llythyr yn gwrthwynebu.

 

      

 

     Ystyrir fod y cais yn gwbl unol â pholisi cynllunio a chyngor polisi yn eu heffeithiau ar y tirwedd dynodedig ac yn debygol o gyfrannu’n bositif i gymeriad ac edrychiad yr ardal. Byddai’r y cynnig yn dod â bywyd ychwanegol i’r safle gan gydymffurfio’n llawn â pholisiau wedi eu bwriadu i ddarparu datblygiadau twristiaeth o ansawdd uchel.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am y rhesymau a roddwyd a chydag amodau i’w pennu gan y swyddogion.

 

      

 

6.2     16C154 CAIS I GREU MAN CHWARAE NEWYDD, CODI FFENS DDIOGELWCH, CREU MYNEDFA NEWYDD I GERDDWYR YNGHYD Â GWELLA’R FFOD DWR PRESENNOL AR DIR GER YSGOL GYNRADD BRYNGWRAN.

 

      

 

     Roedd y cais wedi’i gyflwyno gerbron y Pwyllgor am ei fod ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor Sir.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr Aelod Lleol yn gefnogol i’r cais gan y byddai’n gwella’r ardal chwarae ar gyfer plant y pentref.Mae’r Ymgynghorwyr Statudol wedi cyflwyno sylwadau ynglyn â’r cais.

 

      

 

     Ystyrir fod y cynnig yn un derbyniol ac yn cael ei gefnogi gan bolisi cynllunio a chyngor polisi.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am y rhesymau a roddwyd ac ar yr amodau a amlinellir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.3     25C151A CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD, GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR YN TAN RALLT, CARMEL

 

      

 

     Roedd y cynnig uchod wedi’i gyflwyno gerbron y Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod cais amlinellol i godi annedd, gosod tanc septig newydd a chreu mynedfa newydd ar y safle wedi cael ei wrthod ym mis Ionawr, 2004.Roedd yr ymgeiswyr wedi cefnogi eu cais gyda llythyr sy’n nodio eu bod yn anghytuno gyda’r penderfyniad i wrthod y cais blaenorol oherwydd eu bod yn credu na fyddai’r plot yn cael effaith ar y pentref; byddai’r ty yn ymdoddi i mewn gyda sawl eiddo presennol; ni fyddai’n amharu ar olygfa unrhyw un a’u bod yn dymuno dod yn aelodau gweithredol o fewn y gymuned a byddai’r ty yn cyfrannu at yr ardal.

 

      

 

     Nid oedd yr Ymgynghorwyr Statudol yn gwrthwynebu’r cais.Derbyniwyd un llythyr fodd bynnag gan breswylydd cyfagos yn gwrthwynebu ar sail safle uchel ac amlwg y datblygiad arfaethedig; colli preifatrwydd tebygol; swn a tharfu tebygol ac oherwydd nad oedd dim newid yn y cynlluniau roddwyd gerbron i’r rhai a wrthodwyd cynt.

 

      

 

     Nodir mai cae amaethyddol ar ffin ogleddol y pentref yw safle’r cais.Mae’r briffordd cyhoeddus yn gul ger y safle ac nid yw’r cais yn estyniad derbyniol i’r pentref.Ystyrir byddai caniatau’r cynnig yn ymestyn y pentref i gae amaethyddol gan fynd tu draw i ffiniau clir y pentref ac i mewn i’r cefn gwlad.Gan hynny ystyrir hefyd y byddai yn amharu ar ac yn tynnu oddi ar dirwedd y ffordd ogleddol i mewn i’r pentref.Rhoddwyd ystyriaeth i’r holl gyflwyniadau a dderbyniwyd wrth lunio’r argymhelliad gan gynnwys cyflwyniadau’r ymgeisydd, a daethpwyd i’r casgliad fod y cynnig yn ddatblygiad preswyl annerbyniol, ac felly argymhellir ei fod yn cael ei wrthod.

 

 

 

     Nododd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd E.Schofield bod y Cyngor Cymuned yn unfrydol o blaid y cais a dygodd sylw at y ffaith nad oedd yr un o’r ymgynghorwyr statudol yn ei wrthwynebu. Credai nad oedd y cynnig yn tynnu’n groes i’r Cynllun Fframwaith sydd yn caniatau codi annedd ar gyrrion pentref rhestredig.Roedd y cais yn cydymffurfio â’r rhan fwyaf o’r polisiau perthnasol ac mai dyluniad y datblygiad oedd yr ystyriaeth bennaf.Roedd yn barod i’r swyddogion gynnal trafodaeth ynglyn â manylion dyluniad y datblygiad arfaethedig yng

 

     nghyd-destun y polisi perthnasol ac hyderai y byddai’r cynllun manwl yn cymryd i ystyriaeth rhai o’r gwrthwynebiadau.Gofynnodd i’r Pwyllgor gefnogi’r cais.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd W.J.Williams gymeradwyo’r cais ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Gwyn Roberts.Cynigiodd y Cynghorydd J.Arwel Edwards fod ymweliad â safle’r cais yn cael ei gynnal ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Gan fod y pleidleisiau yn 6 yr un i’r naill ochr, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw i gefnogi cynnal ymweliad â safle’r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle’r cais er mwyn i’r aelodau weld y  safle mewn perthynas â’i leoliad ar gyrrion y pentref a’i effaith ar gymeriad yr ardal.

 

      

 

6.4     25C155 CAIS I NEWID DEFNYDD Y SIOP BRESENNOL I FOD YN ANNEDD YN 17 STRYD Y FARCHNAD, LLANERCHYMEDD

 

      

 

     Roedd y cais yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor am ei fod yn datblygu tir sy’n eiddo i’r Cyngor Sir.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi’u derbyn i’r cynnig uchod ac nad oedd yr Aelod Lleol wedi cyflwyno unrhyw sylwadau.Derbyniwyd un llythyr yn nodi mai’r cyfeiriad cywir yw 17 Sgwâr y Farchnad ac nid Stryd y Farchnad.

 

      

 

     Ystyrir na fyddai newid y defnydd yn niweidio cymeriad yr ardal ac y byddai defnyddio’r adeilad fel annedd yn dderbyniol yn nhermau mwynderau a phriffyrdd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am y rhesymau a roddwyd ac ar yr amodau a amlinellir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7

CEISIADAU A DDIRPRYWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

 

      

 

8

DEDDF CYNLLUNIO 1990 (ADEILADAU RHESTREDIG AC ARDALOEDD O GADWRAETH) ADRAN 12

 

      

 

8.1     ADDASU AC ESTYNIAD ARFAETHEDIG I TYDDYN DU, LLANFAIR-YN-NEUBWLL

 

      

 

     Cyflwynwyd - Copi o adroddiad yr Arolygwr a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas ag Apêl Adeilad Rhestredig mewn perthynas â’r uchod, ac a wrthodwyd.

 

      

 

     Nodwyd bod yr Arolygwr wedi dod i’r casgliad fod y cynllun a gyflwynwyd yn sylfaenol ddiffygiol am fod yr estyniad a gynigiwyd ei godi yn rhy fawr ac yn debygol o ddominyddu'r adeilad y mae’n fod i gyd-fynd ag ef.Mae yna wendidau yn y cynllun hefyd o ran bod yna fwriad i osod ffenestri newydd ar y prif weddluniau yn ogystal â gwneud i ffwrdd â’r croglofft.Ystyria’r Arolygwr na fyddai gosod amodau ar y cynllun fel ag a gynigiwyd gan yr Awdurdod Cynllunio yn dod dros y gwrthwynebiadau sylfaenol hyn, ac y dylid gwrthod y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

      

 

9

CAIS CYNLLUNIO 1/46/C/202A - CYNLLUNIAU MANWL DIWYGIEDIG I GODI ESTYNIAD YM MRYN RHEDYN, RHOSCOLYN.

 

      

 

     Adroddod y Rheolwr Rheoli Cynllunio er gwybodaeth y Pwyllgor fod y cais cynllunio uchod a ganiatawyd ar 7 Hydref, 1992, wedi cael ei dynnu’n ôl ar 29 Mawrth, 2004.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

      

 

10

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL - TAI FFORDIADWY

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar yr uchod byddai seminar yn caeli ei chynnal gogyfer aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 14 Ebrill, 2004, gyda gwahoddiad i weddill aelodau’r Cyngor fod yn bresennol ynddi.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Cadeirydd bod manylion am y seminar wedi cael eu cylchredeg.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

      

 

11

ADOLYGU PENDERFYNIADAU CYNLLUNIO

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn dilyn yr ymweliadau a’r cyfarfod llwyddiannus a gafwyd mewn perthynas ag adolygu penderfyniadau cynllunio ac ymweld â chynlluniau gorffenedig, y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

      

 

      

 

            CYNGHORYDD ROBERT LL.HUGHES      

 

           CADEIRYDD