Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 7 Ebrill 2010

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 7fed Ebrill, 2010

 

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 7 Ebrill 2010.

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Kenneth Hughes- Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts- Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, E. G. Davies, Lewis Davies, Jim Evans, W. T. Hughes, O. Glyn Jones, Thomas Jones, R. L. Owen, Eric Roberts, Hefin W. Thomas, J. P. Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

WRTH LAW :

 

Prif Swyddog Cynllunio (EGJ)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Cynorthwywr Cynllunio (MJ)

Cynorthwywr Cynllunio (JR)

Cynorthwywr Cynllunio (DO)

 

Priffyrdd :

 

Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Rheoli Gwastraff)

Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)  (JRWO),

Swyddog Rheoli Datblygu (RE),

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RJ)

Swyddog Pwyllgor (ATH).

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol - Y Cynghorwyr Barrie Durkin (6.3, 6.4 & 11.4), R. G. Parry OBE (10.1), J. V. Owen (11.3), G. O. Parry MBE (ar ran y Cynghorydd Eric Roberts) (11.8), Y Cynghorydd A. M. Jones (Deilydd Portffolio Cynllunio)

 

 

Rhoes y Cadeirydd groeso i bawb oedd yn bresennol yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a chroeso arbennig iawn i’r Cynghorydd Eric Roberts a oedd yn bresennol am y tro cyntaf fel aelod o’r Pwyllgor.  Ond hefyd hwn oedd y cyfarfod cyntaf gyda darpariaeth i’r cyhoedd siarad a rhoes groeso i’r aelodau hynny o’r cyhoedd oedd am gymryd rhan yn y cyfarfod.

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Ni chafwyd yr un ymddiheuriad am absenoldeb.  

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 3 Mawrth 2010 fel rhai cywir.

 

4

YMWELIADAU SAFLE

 

 

Cadarnhawyd cofnodion yr ymweliadau â safleoedd a gafwyd ar 17 Mawrth 2010 fel rhai cywir.

 

 

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

18C842G - Cais amlinellol i godi tai ar dir Parc Cybi, Caergybi

 

 

 

Nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cynllun safle a ymddangosodd ar dudalen 1 y rhaglen yn anghywir a bod y cynllun cywir yn ymddangos ar dudalen 45 y rhaglen lle roedd cais arall yn ymwneud â'r safle ym Mharc Cybi.  Ymwelodd yr aelodau â safle’r cais ar 17 Chwefror 2010.  Ynghlwm wrth y cais hwn roedd materion yn codi ynghylch tai fforddiadwy a neilltuo tir i ddibenion cyflogaeth.  Wedyn soniodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno neges e-bost yn ddiweddar yn cadarnhau bod Llywodraeth y Cynulliad yn fodlon tynnu’r cais yn ôl, ac y bydd yr ymgeisydd yn ysgrifennu’n ffurfiol at yr awdurdod cynllunio yn gofyn am dynnu’r cais yn ôl.  Gan nad oedd y llythyr tynnu cais yn ôl wedi ei dderbyn eto yr argymhelliad oedd gohirio ystyried y mater hyd nes derbyn y llythyr hwnnw.

 

 

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

 

 

5.2

30C499J - Cais amlinellol a chadw rhai materion yn ôl yng nghyswllt codi annedd a darparu offer preifat i drin carthion ar dir ger Angorfa, Traeth Coch.

 

 

 

Ymwelodd yr aelodau â’r safle ar 17 Mawrth 2010.  Cafwyd trafodaethau gydag asiant yr ymgeisydd ac awgrymwyd y buasant yn ymateb fel bod modd cyflwyno’r cais yn llawn i’r aelodau ond ni chafwyd ymateb o gwbl hyd yma.  Am y rheswm hwn argymhellwyd gohirio ystyried y cais.

 

 

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais am y rheswm a rhoddwyd.

 

 

 

 

 

6

CEISIADAU YN CODI O’R COFNODION

 

 

 

6.1

12C49K - Codi 35 o apartmentau i bobl dros 55 oed, gwaith gwella draeniau, gwaith tirlunio cysylltiedig a pharcio yn Casita, Biwmares.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ac mae’n groes i’r cynllun datblygu.  Yng nghyfarfod Mawrth y Pwyllgor Cynllunio penderfynodd yr aeloda wrthod y cais a hynny oherwydd pryderon ynghylch sadrwydd y tir a ffordd fynedfa annigonol.

 

 

 

Ar y safle hwn gynt roedd cartref nyrsio a gerddi mawr o’i gwmpas mewn lle uchel uwchlaw’r A545 ar gyrion gorllewinol Biwmares ac mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  Mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau sydd ar safle’r cais yn rhai unllawr a nifer o hen goed amrywiol yn y gerddi - rhai y gwnaed Gorchymyn Diogelu Coed yn eu cylch.  Mae’r fynedfa i safle’r cais ar hyd Allt Goch Bach neu Lon y Fynwent gan greu cyffordd gyda’r A545 i’r gogledd-ddwyrain ger ardal breswyl Cae Mair.

 

 

 

Cais sydd yma i ddymchwel yr adeiladau ac yn eu lle codi adeiladau dau a thri llawr i ddarparu 35 o apartmentau.  Bwriad yr ymgeiswyr yw cyfyngu’r hawl i breswylio i rai dros 55 oed trwy gytundeb dan Adran 106 gan un ochr, ac mae’r ymgeiswyr hefyd wedi cadarnhau bod y datblygiad yn un Categori C3 (preswyl) - cynllun tai gwarchod.  Gyda golwg ar ddylunio’r datblygiad a fydd yn dderbyniol o safbwynt cynllunio mae’r swyddogion wedi bod mewn trafodaethau gyda’r datblygwyr ers tro byd.  Bwriedir gwella’r ffordd a’r fynedfa arfaethedig i gerbydau ar hyn Allt Goch Bach.  Yn ogystal mae’r ymgeiswyr yn bwriadu gwneud gwaith sadio ar safle’r cais - y darn o’r tir sy’n rhedeg i lawr i’r A545.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio wrth y Pwyllgor ei fod am ganolbwyntio ar y rhesymau a roddwyd gan y Pwyllgor Cynllunio o blaid gwrthod y cais yn ei gyfarfod ym Mawrth a rhoddwyd sylw i’r mater mewn papur cryno a rannwyd ymhlith aelodau’r Pwyllgor.  Wedyn cyflwynodd y Prif Swyddog Cynllunio ei adroddiad fel a ganlyn:

 

 

 

 

 

Ÿ

A ydyw’r ffordd at y safle yn ddigonol - sef Allt Goch Bach sydd yn ffordd trac sengl heb lecynnau pasio.

 

 

 

Roedd Asesiad Traffig manwl (AT) wedi ei ddarparu gan Ove Arup a’i Bartneriaid a chyflwynwyd yr asesiad hwn fel rhan o’r cais ym mis Awst 2008.  Yn yr asesiad hwnnw rhoes Ove Arup sylw i ba mor addas oedd y fynedfa, a chlandrodd beth oedd unrhyw newidiadau i’r symudiadau traffig a ragwelwyd a hefyd cyflwynasant argymhellion yng nghyswllt gwelededd a gwaith gwella bychan ar Allt Goch Bach. Fel rhan o’r asesiad roedd Ove Arup wedi ystyried symudiadau’r cerbydau hynny oedd yn gysylltiedig gyda’r cartref nyrsio 15 gwely, a’r estyniad y rhoddwyd caniatâd iddo yn y gorffennol i 10 ystafell wely arall a’r caniatâd dilys i fyngalo dormer 5 ystafell wely ac ystyried yr holl bethau hyn yng nghyd-destun y cynnig oedd yn awr gerbron.  Rhoddwyd caniatâd i’r holl ddatblygiadau eraill hyn heb wneud unrhyw waith gwella ar Allt Goch Bach.  O gymharu’r datblygiad hwn gyda’r adeiladau presennol a rhai a ganiatawyd yn y gorffennol ar y safle, bydd y datblygiad arfaethedig yn cynhyrchu 8 o dripiau yn llai i gerbydau ar yr adeg brysuraf yn y bore a dim ond un trip cerbyd yn fwy ar yr adeg brysuraf yn y prynhawn.

 

 

 

Daeth AT i’r casgliad na fydd y datblygiad arfaethedig yn cael effaith sylweddol ar y rhwydwaith lleol o ffyrdd.  Yn yr AT cafwyd argymhelliad i gyflwyno gwelliannau a hynny’n cynnwys lledu’r ffordd fynedfa i’r safle a chyrbin crwn yn ei chyffordd gydag Allt Goch Fach; torri'r holl blanhigion, llwyni o gwmpas  er mwyn gwella llinellau gwelededd a llinellau gwynion o bobtu’r ffordd, 0.5m o’r ymyl, yn y rhannau culaf o Allt Goch Bach.  Hefyd roedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi comisiynu ymgynghorwyr i baratoi archwiliad annibynnol ar ddiogelwch y ffordd ei hun a hynny’n cynnwys arolwg ar y cyflymder ac yn y gwaith hwnnw cadarnhawyd bod yr AT yn ddilys ac yn cynnwys y gwelliannau angenrheidiol i sicrhau bod modd symud ymlaen gyda’r datblygiad hwn.

 

 

 

 

 

Ÿ

Sadrwydd y Tir

 

 

 

Cynhaliwyd sawl asesiad ar dir y safle a'r rheini yn mynd yn ôl i 2001.  Yn 2001 tyllwyd pedwar twll archwilio i ddyfnder o 20.05m a thri arall yn y man uchaf ac un yn y lôn ger sawdl y tir sy’n dod i lawr. Hefyd tyllwyd naw o dyllau i’r oleddf serth ar ongl groes i’r oleddf hyd at ddyfnder o 3m.  Yn 2007 cynhaliwyd ymchwiliadau ar y safle ar dri achlysur ac roedd y manylion yn y papur byr a rannwyd yn y cyfarfod.  Cyflwynwyd canlyniadau’r ymchwiliadau hyn fel rhan o’r cais ac mae’r atebion datblygu i’r safle a’r strategaeth i sadio’r oleddf i gyd wedi eu sylfaenu ar ganlyniadau’r archwiliadau ac ar argymhellion a wnaed gan unigolion cymwys priodol a chan gwmniau peirianyddol.  

 

 

 

I grynhoi draeniad y dwr wyneb sydd yn achosi’r broblem bennaf ac yn peri i’r oleddf fethu ac unwaith y rhoddir sylw i hyn trwy ddarparu cyfres o ddraeniau tir a sadio’r oleddf yna bydd unrhyw broblemau yn y dyfodol yng nghyswllt tirlithriad yn lleihau’n sylweddol iawn ac efallai’n diflannu.  

 

 

 

Mae’r ateb a’r costau cysylltiedig wedi eu cyflwyno i’r Cyngor ac mae’r Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Rheoli Gwastraff) wedi gwirio’r manylion costau yn erbyn pris y cafwyd gan gontractwr lleol sydd â phrofiad o wneud y math hwn o waith.  O’r cychwyn cyntaf roedd pawb yn gytun bob amser nad oedd modd cau’r A545 tra bydd y gwaith yn cael ei wneud.  O’r herwydd rhagwelir y bydd y rhan helaethaf o’r gwaith yn defnyddio system fynedfa ar hyd llinell y grib.  Trwy osod amod cynllunio rhesymol ynghlwm gellid gofyn am ddatganiad ar y dull o sadio’r oleddf a chytuno’n ysgrifenedig arno.

 

 

 

Ar ôl cynnal ymchwiliadau manwl a thrylwyr ar y tir ac ar ôl cael dadansoddiad gan unigolion profiadol a chymwys mae’r datblygwyr yn hyderus bod modd ailddatblygu’r safle a bod atebion ar gael i sicrhau cadernid yr oleddf.  Maent wedi optio am ateb dibynadwy iawn i wneud gwaith sadio’r oleddf - ateb tymor hir i’r safle ac i’r A545 islaw.

 

 

 

Cyflwynwyd y materion uchod i sylw’r Pwyllgor oherwydd pryderon nad yw’r rhesymau a roddwyd i wrthod y cais yn ddigon cryf i wrthsefyll apêl.  Yng nghyd-destun y wybodaeth

 

 

 

uchod gofynnwyd i’r aelodau ailystyried y penderfyniad i wrthod y cais a hynny yn seiliedig ar ffordd fynedfa oedd yn annigonol ac ar gyfansoddiad anaddas y tir.

 

 

 

 

 

Gwahoddwyd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Rheoli Gwastraff) i gyflwyno gwybodaeth gefndirol i’r Pwyllgor am y cais uchod a dywedodd bod y datbolygiad arfaethedig yn creu ennillion sylweddol o ran priffyrdd.  Yn yr ardal hon cafwyd dau dirlithriad sylweddol yn 2004 ac fe gymerodd wythnosau i atgyweirio’r ffordd.  Yn yr achos hwnnw cafodd yr awdurdod grant cyfalaf tywydd mawr eithriadol gan Gynulliad Cymru i wneud y gwaith trwsio a chafodd y ffordd ei chlirio, ailgodwyd y wal gynnal, a gosodwyd peipiau draenio 450mm ar eu traws islaw priffordd yr A545.  Mae amodau’r grant yn caniatáu gwneud gwaith cywiro tymor byr yn hytrach na gwaith mawr tymor hir a chredai ef bod y gwaith hwnnw a wnaed ar y pryd yn ei hanfod yn waith tymor byr. Roedd hi’n debyg y ceid tirlithriad arall ar yr oleddf hon onid oedd gwaith sadio’n cael ei wneud.  Hefyd roedd y sefyllfa uchod yn un anodd a’r awdurdod, onid oedd yn derbyn grant, yn gorfod cymryd camau cyfreithiol i ganfod pwy oedd yn gyfrifol am dalu am y gwaith adfer.  Roedd y cynnig uchod yn gyfle i ddatrys y broblem yn y tymor hir. I’r perwyl hwn roedd y datblygwr yn fodlon gwario o gwmpas £800k a phetai caniatâd yn cael ei roddi roedd yn rhaid cofio bod amod ynghlwm wrth y caniatâd yn mynnu bod gwaith yn cael ei wneud ar sadio’r tir cyn gwneud unrhyw waith datblygu arall.  

 

 

 

Roedd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol yn cefnogi’r pwynt a wnaed ynghylch anhawster amddiffyn penderfyniad i wrthod y cais mewn apêl yn seiliedig ar y rhesymau a roddwyd gan y Pwyllgor.  Aeth ymlaen i atgoffa’r aelodau fod y manylion priffyrdd technegol wedi cael sylw.  Hefyd roedd hanes cynllunio i’r safle ac efallai mai’r cynnig gerbron oedd yr unig gyfle i ddatrys mater tirlithrio ar y safle.  Nid oedd ansefydlogrwydd y tir yn rheswm dros wrthod yn ôl ei gyngor ef ac yn arbennig felly gan fod y cais hwn yn cynnig ateb i broblem sefydlogrwydd tir.

 

 

 

Eglurodd y Cynghorydd R. L. Owen, fel aelod lleol, iddo egluro’r sefyllfa yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor ac iddo ofyn i’r aelodau wrthod y cais gan fod y tir hwn yn glog-glai a hefyd oherwydd llithriad.  Soniodd bod y bibell sy’n lliniaru llifogydd i dref Biwmares yn mynd ar draws ei ardd  a’i bod yn llawn o dywod symudol.  Roedd yn rhaid cryfhau ochrau’r traen o gwmpas y bibell neu fel arall câi ei gorchuddio cyn ei chladdu’n iawn.  Sefyllfa debyg sydd yma - sef tywod symudol sydd wedi bod yn symud ers blynyddoedd.  Ofnai ef y buasai’r safle i gyd yn llithro rywbryd ac ni fedrai ef ddeall pam bod y datblygwr yn bygwth yr aelodau gydag apel a oedd, yn ei dyb ef, yn sarhad ar ddemocratiaeth.  Hefyd roedd yn pryderu ynghylch Allt Goch Fach ac a oedd yn addas ac yn ddigonol o gofio mai trac sengl oedd hon heb lecynnau pasio ac arni allt serth 1 mewn 4, ond yn arbennig o gofio bod y datblygiad hwn yn un ar gyfer pobl dros 55 oed.  Oherwydd natur y lôn fynedfa câi mwy o geir eu defnyddio ac yn gyffredinool credai fod y lleoliad hwn yn anaddas i bwrpas codi 35 o fflatiau.

 

 

 

Er iddo eilio’r cynnig i wrthod yn y cyfarfod diwethaf dywedodd y Cynghorydd O. Glyn Jones ei fod bellach wedi newid ei farn ar ôl gwrando ar gyngor proffesiynol y swyddogion yn dweud bod y datblygiad arfaethedig yn dderbyniol.  Ac er ei fod yn fodlon cynnig yr adroddiad a’r argymhelliad o ganiatáu yr oedd, fodd bynnag, yn teimlo y dylai’r swyddogion, godi gyda’r datblygwyr, y cyfraniad posib o £100k tuag at dai fforddiadwy.  

 

 

 

Ond fel arall y gwelai’r Cynghorydd Hefin Thomas bethau a dywedodd fod codi adeiladau ar oleddf fel hon megis chwarae gyda deinameit.  Credi ef y buasai datrys problem cyfansoddiad tir ar y safle yn costio mwy na’r £800k a gynigiwyd.  Hefyd, gan fod y safle ar oleddf serth mewn lleoliad tu allan i’r dref credai ef fod y lleoliad o'r herwydd, yn amhriodol i ddarparu lle i unigolion sydd dros 55 oed.  Ond hefyd roedd y lle hwn mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol ac union ger Afon Menai ac felly yn debygool o gael effaith weledol.  Ond ei bryder pennaf oedd lleoliad y fflatiau cynlluniedig hyn i bobl dros 55 oed.  Buasai pwy bynnag a ddymunai godi y nifer hon o dai yn gorfod bodloni gofynion yr Adran Gynllunio i ddarparu llwybr troed fel mynediad diogel i gerddwyr.  Ni chredai ef bod yna yr un llecyn pasio i ddau gar ar y ffordd fynediad ac ychydig o le oedd arni i un car ac felly roedd hi’n amhosib darparu llwybr troed.  Hefyd fe geid cynnydd yn y traffig gan wneud y ffordd yn beryglus i gerddwyr yn absenoldeb unrhyw lwybr troed.  Os oedd caniatâd yn cael ei roddi i’r cais hwn heb amod i

 

 

 

 

 

ddarparu llwybr troed yna gydag unrhyw gais a gyflwynid yn y dyfodol, ni fedrai’r Adran Gynllunio o fewn rheswm fynnu ar ddarparu llwybr troed.  Mewn blynyddoedd mae’n bur debyg y bydd cais arall yn cael ei gyflwyno i ddileu’r amod cyfyngiad oed.  Daeth i’r casgliad nad oedd y safle mewn lleoliad addas i’r datblygiad arfaethedig ac roedd yma bryderon gwirioneddol ynghylch diogelwch y briffordd.

 

 

 

 

 

O ran ei hun ni fedrai’r Cynghorydd W. J. Chorlton weld bod yma unrhyw gyfiawnhad dros wrthod y cais.  Nododd bod adeilad sylweddol ar y safle’n barod ac roedd modd ailagor hwnnw a’i ddefnyddio ac felly nid oedd y ddadl ynghylch defnyddio ceir yn dal dwr iddo ef.  Ni fedrai ef weld unrhyw rwystr chwaith i bobl 55 oed a rhai hyn gerdded i fyny’r allt.  Yn sgil y cynnig hwn deuai enillion cynllunio sylweddol ac o’r herwydd roedd rhaid i’r awdurdod ystyried yn ofalus iawn y manteision a ddeuai yn ei sgil - ac yn arbennig felly yng nghyswllt y gwaith adfer yr oedd gwir angen ei wneud yn wyneb y sefyllfa a allai fod yn beryglus.  Gofynnodd i’w gyd-aelodau ystyried a oedd hi’n iawn, yn y sefyllfa economaidd sydd ohoni, i’r awdurdod ei hun wneud gwaith o’r fath heb y grant hwnnw na fydd ar gael yr ail dro.  Yn yr un modd credai’r Cynghorydd J. P. Williams y buasai’n anodd gwrthod y cais a hynny gan fod defnydd cynllunio eisoes ar y safle.  Ni chredai ef bod pethau wedi newid ers y cyfarfod diwethaf ac eithrio y sylw a roes y swyddogion i’r pryderon a fynegwyd trwy gyflwyno rhagor o wybodaeth a’u bod nhw’n credu bod yr atebion a gynigiwyd yn ddigonol.  Felly, fel lleygwr, ni chredai ei fod mewn sefyllfa i fynd yn groes i gyngor proffesiynol y swyddog.  Roeddent wedi gwneud popeth bosib i asesu a lliniaru’r risg.  Wedyn soniodd iddo godi, yn y cyfarfod diwethaf, faint o gyfraniad tuag at dai fforddiadwy y credai ef sydd yn annigonol. Roedd yma fwriad i godi 35 o fflatiau a bod modd tybio bod gwerth pob un ar y farchnad o gwmpas £300k ac felly rhoddai hynny i ni ddatblygiad werth o gwmpas £10.5m.  Fel arfer mynnir ar 30% tuag at dai fforddiadwy a hynny’n cyfateb i ryw 10 o fflatiau ac mae tynnu'r rheini oddi ar y pris yn gadael y £945k fel cyfraniad tuag at dai fforddiadwy.  Un ystyriaeth yng nghyswllt y fantais briffordd y soniwyd amdani yw na fuasai’r datblygiad arfaethedig, heb y gwelliannau angenrheidiol, yn achosi difrod gwirioneddol i’r tir ac yn gwaethygu’r sefyllfa.  Roedd y Cynghorydd Williams eisiau eglurhad a oedd yr £800k fel cyfanswm yn creu mantais gynllunio neu a ydyw’n cyfateb yn hytrach i gyfraniad o £800k i drwsio unrhyw ddifrod a achosir gan y datblygiad - nid rhywbeth sy’n gwella’r sefyllfa mewn gwirionedd.  Roedd y mater hwn yn creu penbleth iddo ef.

 

 

 

Mewn ymateb i’r pwynt a wnaed ynghylch y datblygiad yn gwneud pethau’n waeth dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Rheoli Gwastraff) y gellid dweud, yn deg, bod y datblygiad yn mynd i roddi rhywfaint o bwysau ychwanegol ar yr oleddf - mae’r elfen hon yn y cynnig.  Ond y pwynt pwysig yma oedd bod y datblygwr am roddi sylw i’r oleddf ac yn arbennig i’r problemau draenio.  

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd J. P. Williams iddo, yn y cyfarfod diwethaf, gynnig cyfraniad £250k tuag at dai fforddiadwy a gofynnodd a oedd hynny’n dderbyniol i’r Cynghorydd O. Glyn Jones a oedd eisoes wedi cynnig derbyn yr adroddiad.  Os nad oedd, yna roedd ef am eilio cynnig y Cynghorydd O. Glyn Jones i ofyn i’r swyddogion gynnal rhagor o drafodaethau ynghylch cyfraniad tuag at dai fforddiadwy.  Ar hyn o bryd roedd yn eilio cynnig y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

 

 

Gofynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol i’r aelodau droi at Dudalen 11 yn adroddiad y swyddog lle roedd sylw’n cael ei roddi i dai fforddiadwy.  Yn yr adain honno roedd yr adroddiad yn dangos yn glir bod cyfraniad tuag at dai fforddiadwy a'r swm penodol y mae’n rhesymol ei gael wedi cael sylw a hefyd wedi ei drafod fel rhan o’r costiadau cyffredinol a bod y swyddogion yn nodi mai’r swm a gynigiwyd fel rhan o becyn y cais yw £100k.  Buasai gofyn am gyfraniad mwy yn tanseilio’r cais yn gyffredinol.  

 

 

 

Gan y Cadeirydd cafwyd sylw y dylai’r Pwyllgor ddelio gyda beth oedd ger ei fron mewn gwirionedd.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Nid oedd y Cynghorydd Selwyn Williams yn hapus gyda’r cynnig a hynny oherwydd ei bryderon am faterion priffyrdd.  Credai ef mai’r posibilrwydd o ddatblygu Penrhyn Safnas oedd yr atyniad pennaf i’r safle hwn a phetai Penrhyn Safnas yn mynd trwodd yna buasai nifer dda o’r unigolion dros 55 oed yn bobl hwylio - os felly buasai ganddynt gychod a threlars a thractorau tynnu gan achosi problem ddifrifol yn yr ardal.  Gofynnodd y Cynghorydd Jim Evans am sicrwydd bod trafodaethau wedi’u cynnal gyda’r Adain Briffyrdd i ddatrys y problemau a achoswyd gan y ffordd fynediad. Mewn ymateb cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) bod yr ymgeisydd wedi cynnig gwelliannau - rhai yr oedd y Gwasanaeth Priffyrdd yn hapus gyda nhw.

 

 

 

Pryderu oherwydd lleoliad y datblygiad mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol oedd y Cynghorydd Thomas Jones a gofynnodd a oedd y dyluniad yn briodol i ardal o ddiddordeb arbennig ar gyrion Biwmares.  Hefyd soniodd bod y cyfeiriadau at ddarpariaeth parcio yn brin.  Wedyn mynegodd y Cynghorydd Lewis Davies ei bryderon ynghylch sadrwydd y tir a pheryglon tirlithriad yn enwedig felly yng nghyd-destun tywydd drwg; credai ef y buasai’r datblygiad hwn yn codi problemau traffig a chyfeiriodd ef hefyd at ddyluniad y datblygiad - pethau na chyflwynwyd manylion amdanynt i’r Pwyllgor.  

 

 

 

Gan y Cynghorydd W. J. Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu’r cais gydag amod gofyn i’r datblygwr am gyfraniad £250k tuag at dai fforddiadwy.  Credai ef fod y Pwyllgor a’r hawl i ofyn am arian ychwanegol pe credai bod angen hwnnw.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. P. Williams.

 

 

 

Wrth gynnig derbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad yn hwnnw i ganiatáu eglurodd y Cynghorydd Glyn Jones iddo awgrymu hefyd y dylid gofyn i’r swyddogion drafod cyfraniad tuag at dai fforddiadwy gyda’r datblygwr os oedd hynny’n bosib - ond nid oedd wedi crybwyll swm penodol fel rhan o’r drafodaeth.  Cafodd ei gynnig ef ei eilio gan y Cynghorydd Thomas Jones.

 

 

 

Wrth grynhoi’r cais ac ymateb hefyd i sylwadau yr aelodau pwysleisiodd y Prif Swyddog Cynllunio bod rhaid ystyried pob cais fesul un.  Wrth ymateb i bryderon yr aelod lleol ynghylch anwadalrwydd y tir yn ei ardd ei hun, nododd bod safle’r datblygiad arfaethedig yn Casita yn wahanol iawn i dref Biwmares ac i gartref yr aelod lleol.  Yng nghyswllt apelio, roedd gan bob ymgeisydd yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad a beth a ddywedwyd oedd, petai’r penderfyniad yn groes i argymhelliad y swyddogion wedyn roedd yr ymgeisydd yn medru apelio ac roedd hynny’n berffaith deg.  Yn yr achos hwn roedd yr ymgeisydd wedi ymateb i wrthwynebiadau’r Pwyllgor a chafwyd trafodaethau sylweddol gyda’r ymgeisydd gyda golwg ar gyflwyno cynllun datblygu sy’n dderbyniol yng nghyd-destun cynllunio.  Hefyd roedd yn rhaid atgoffa’r aelodau fod defnydd cynllunio eisoes ar y safle; roedd adeiladau sy’n dirywio ar y safle.  Hefyd bydd y datblygiad arfaethedig yn cael ei osod gyda golwg ar leihau unrhyw effaith weledol ar yr ardal ac ni fydd llinell y to fawr ddim uwch na llinell yr adeiladau sydd yno’n barod.  Roedd y datblygiad hwn yn dod â manteision dros £1m yn ei sgil ar ôl ystyried y gwaith fydd yn cael ei wneud ar sadio’r tir, y gwelliannau i’r briffordd, cyfraniad tuag at dai fforddiadwy ac amrywiol weithiau eraill.  Roedd y gwaith tir yn angenrheidiol a chefnogaeth iddo gan amod ar unrhyw ganiatâd a roddir.  Roedd y cynnig hwn yn cydymffurfio gyda’r polisiau cynllunio ac yn bodloni gofynion priffyrdd.  Mater i’r datblygwr yw lleoliad y datblygiad tra bo egwyddor defnydd tir yn fater i’r Pwyllgor.  Felly roedd ef yn argymell caniatáu’r cais.

 

 

 

Wrth gloi gofynnodd yr aelod lleol am sicrwydd na fydd y tir y mae’r fynwent arno yn wynebu unrhyw dirlithriad megis hwnnw ar dir Casita a hynny oherwydd bod Cyngor Tref Biwmares yn ystyried prynu tir oddi ar berchennog Casita i ymestyn mynwent Biwmares.  Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Rheoli Gwastraff) nad yw’r gwaith arfaethedig yn Casita yn debygol o achosi difrod i’r fynwent ac yn wir gallai wella pethau a hynny oherwydd y bydd y tir wedyn yn cael ei ddraenio.  

 

 

 

Gan y Cynghorydd R. L. Owen cafwyd cynnig i wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Selwyn Williams.  Yn y drafodaeth a ddilynodd dywedodd y Cynghorydd W. J. Chorlton ei fod yn barod i dynnu ei gynnig ef yn ôl a chefnogi cynnig y Cynghorydd O. Glyn Jones er mwyn osgoi unrhyw raniad yn y bleidlais ar y cais.

 

 

 

 

 

Bu’r bleidlais fel a ganlyn -

 

 

 

Derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu a gofyn i’r swyddogion gynnal rhagor o drafodaethau os oedd hynny’n bosib ar y cyfraniad tuag at dai fforddiadwy:

 

 

 

O blaid:  Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, Jim Evans, O. Glyn Jones, Thomas Jones, J. P. Williams, Kenneth Hughes, J. Arwel Roberts.

 

 

 

Gwrthod y cais:

 

 

 

Y Cynghorwyr Hefin Thomas, W. T. Hughes, R. L. Owen, Selwyn Williams, Lewis Davies, E. G. Davies.

 

 

 

(Ni chymerodd y Cynghorydd Eric Roberts ran yn y drafodaeth nac yn y pleidleisio ar y cais).

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

Ÿ

derbyn adroddiad ac argymhelliad y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio i ganiatau’r datbolygiad gydag ymrwymiad un ochrog a gwblhawyd ar 25 Ionawr, 2010 dan adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y cafodd ei diwygio) ac yn yr ymrwymiad hwnnw ddarpariaeth i gyfyngu ar y sawl gaiff breswylio yn yr unedau i bobl dros 55 oed a chydag amod cyflwyno cyfraniad tai fforddiadwy i’r awdurdod cynllunio lleol ac yn amodol hefyd ar yr amodau hynny a restrwyd yn adroddiad y Swyddog.

 

Ÿ

Gofyn i’r swyddogion gynnal rhagor o drafodaethau, petai hynny’n bosib, gyda’r datblygwr yng nghyswllt faint o gyfraniad tai fforddiadwy i’w gyflwyno.

 

 

 

 

 

6.2

15C7C - Cais amlinellol i ddymchwel garej, codi dwy annedd ac altro’r fynedfa i gerbydau ar dir ger Teras Iorwerth, Bethel, Bodorgan

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor gan fod aelod o’r staff yn yr Adran Gynllunio yn byw mewn eiddo gerllaw a daeth gwrthwynebiad i law gan ddeiliaid yr eiddo hwnnw.  Mae’r cais hwn wedi ei archwilio gan y Swyddog Monitro yn unol â darpariaethau Paragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.  Ymwelodd aelodau’r Pwyllgor â’r safle ar 17 Mawrth 2010 ac o'r herwydd bellach yn gyfarwydd â’r lle.

 

      

 

     Mae’r safle ym mhentref Bethel a gynt cafodd ei ddefnyddio fel ystafell gwerthu ceir.  Ar y safle mae adeilad to fflat a thua’r de o’r safle mae gweithdy coed a siop gyffredinol ac ynghlwm wrth honno annedd; wedyn tua’r gogledd mae tai.  

 

      

 

     Cais amlinellol oedd gerbron i ddymchwel yr adeilad a chodi par o anheddau ynghlwm wrth ei gilydd.  Yn wreiddiol cyflwynwyd cais i godi anheddau deulawr ond ar ôl yr ymweliad ystyriwyd y buasai anheddau deulawr yn cael effaith ar bleserau tai cyffiniol ac felly cafodd y cynnig ei ddiwygio i ddau fyngalo dormer.  Y mater pennaf ynghlwm wrth y cais yw - a ydyw’r cynnig yn cydymffurfio gyda’r polisi presennol, a ydyw’n cael effaith ar bleserau cymdogion a materion diogelwch y briffordd.  

 

      

 

     Dygodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw’r aelodau at lythyr o wrthwynebiad gan yr aelod lleol, y Cynghorydd R. Lloyd Hughes a gofynnwyd iddo ei ddarllen yn y cyfarfod.  Felly darllenodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y llythyr.  Yn y llythyr roedd yr aelod lleol yn ymddiheuro am fethu â bod yn y cyfarfod heddiw a hynny oherwydd fod raid iddo, yn annisgwyl, fynychu cyfarfod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn yr Wyddgrug - cyfarfod i drafod gweithio ar y cyd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Diolchodd i’r Pwyllgor am ymweld â’r safle a bu hynny yn gyfle i’r aelodau werthfawrogi’r problemau hynny a amlinellwyd gan Gyngor Cymuned Bodorgan a hefyd gan y cyhoedd, sef - bod trigolion Argraig yn colli pleserau a'r ty hwnnw yn edrych i gyfeiriad talcen yr adeilad arfaethedig; yr effaith andwyol y bydd yr adeilad newydd arfaethedig yn ei chael ar yr eiddo presennol a hynny oherwydd gorddatblygu’r safle er gwaethaf gostwng

 

      

 

     llinell y to i 6.1m; y cynnydd yn y traffig i’r ddau eiddo newydd ac ohonynt a hynny’n cael effaith ddrwg ar ddarn o’r briffordd sydd eisoes yn beryglus.  Hefyd roedd yr aelod lleol yn ei lythyr yn mynegi pryderon am yr hen danciau tanwydd dan y ddaear a’r peipiau awyrellu sy’n codi ohonynt ac y gallai hynny fod, yn beryg i iechyd y cyhoedd oherwydd y posibilrwydd o lygredd.  Petai’r cais yn cael ei ganiatáu gofynnodd am lynu’n gaeth wrth amodau 13 ac 14 adroddiad y swyddog cyn dechrau gwneud unrhyw waith.

 

      

 

     Mewn ymateb i’r pwyntiau yn llythyr yr aelod lleol dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y bydd llinell to yr adeilad newydd arfaethedig yr un fath ag un y ty sydd ger y safle; bydd talcen yr annedd newydd 8m oddi wrth y ty cyffiniol a rhoddir amod ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd i sicrhau na fydd ffenestri yn nhaclen yr annedd newydd yn edrych drosodd i’r eiddo drws nesaf.  Yng nghyswllt yr adeilad hwnnw sydd yr ochr arall i’r datblygiad arfaethedig roedd hwnnw yn adeilad masnachol a bydd yr annedd newydd arfaethedig 5.8m draw oddi wrtho.  Cafwyd gwrthwynebiadau yn seiliedig ar orddatblygu, ar faterion priffyrdd a’r effaith bosib ar bleserau.  Ond nodwyd na fuasai’r adeilad newydd yn ddim mwy o ran hyd a lled ond mi fydd ychydig yn uwch ond yn ddim uwch na’r eiddo gerllaw.  Cyflwynwyd astudiaeth ar oleuni’r haul ac mae honno’n dangos na fydd y bwriad yn cael effaith ar y goleuni i ddeiliaid yr annedd drws nesaf.  Er bod y Gwasanaeth Priffyrdd yn teimlo nad yw’r gwelededd o’r safle i gyfeiriad Llangefni yn ddelfrydol a dywedwyd hynny ar yr ymweliad; mae cydnabyddiaeth fodd bynnag fod y safle yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd a chredwyd bod y defnydd o’r lle gan ddwy annedd yn mynd i fod yn llai na’r defnydd cyfreithlon a allai ddigwydd ar y safle.  Bydd gwelliannau yn cael eu cyflwyno i’r fynedfa ac yn seiliedig ar hynny roedd y swyddogion priffyrdd yn fodlon gyda’r cynnig.  Yr argymhelliad felly oedd caniatáu.

 

      

 

     Er bod cefnogaeth gyffredinol i’r cais roedd yr aelodau yn dymuno cael eglurhad ar leoliad a maint yr anheddau arfaethedig o’u cymharu gyda’r tai cyffiniol a chafwyd eglurhad ar y mater hwn gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio.  Tra oedd y Cynghorydd Selwyn Williams yn gefnogol i’r cais holodd ynghylch llygru’r tir a dymunai ef weld y datblygwr yn rhoddi sylw penodol i’r mater hwn.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas Jones at lythyr un o’r cymdogion yn gofyn am roddi amod ychwanegol yn mynnu bod wal derfyn yn cael ei chodi gan fod y ddau eiddo yn defnyddio yr un fynedfa.  Gan y Cynghorydd J. P. Williams cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y Swyddog o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad ac argymhelliad y Swyddog i ganiatáu’r cais gyda’r amodau yn yr adroddiad a hefyd gyda’r amod ychwanegol ynghylch darparu y wal derfyn.

 

      

 

     (Ni chymerodd y Cynghorydd O. Glyn Jones ran yn y pleidleisio ar y cais).

 

      

 

      

 

6.3

30C83E - Dymchwel adeilad a chodi adeilad newydd yn cynnwys ystafell chwarae, swyddfa, derbynfa, ystafell ffitrwydd a storfa yn Dolydd, Pentraeth.

 

      

 

     (Gwnaeth y Cynghorydd Selwyn Williams ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod).

 

      

 

     Yn wreiddiol cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a bu’r Pwyllgor ar ymweliad â’r safle ar 19 Awst 2009.  Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 2 Medi 2009 penderfynodd yr aelodau roddi caniatâd i’r cais yn groes i argymhelliad y swyddogion gan ddadlau bod maint a lleoliad y datblygiad yn dderbyniol ac nad oedd yn andwyol i bleserau; hefyd gan fod adeiladau o faint cyffelyb yn y cyffiniau a chan ei fod hefyd yn credu y buasai’r cynnig hwn o fantais i’r diwydiant twristiaeth.  Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 7 Hydref 2009 penderfynodd yr aelodau ohirio gwneud penderfyniad terfynol hyd nes derbyn lluniadau yn nodi’n gywir lefelau’r safle a’r adeilad arfaethedig.  Adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn nid oedd y cynlluniau hyn wedi eu derbyn.  Wedyn fe ohiriwyd ystyried y cais yng nghyfarfodydd Tachwedd, Rhagfyr a Ionawr.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Yng nghyfarfod Chwefror 2010 gohiriwyd ystyried y cais unwaith yn rhagor hyd nes cael cynlluniau gan yr asiant newydd.  Bellach roedd y cynlluniau hyn wedi eu derbyn a’r gwaith ymgynghori angenrheidiol wedi ei gwblhau.  Gohiriwyd y cais yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor ym Mawrth pan benderfynwyd cysylltu gyda’r ymgeisydd a gofyn am ostwng uchder yr adeilad. Cysylltwyd gydag asiant yr ymgeisydd i drafod y mater hwn ond, adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, nid oedd ymateb wedi dod i law.

 

      

 

     Mae’r safle ger y fynedfa i faes carafannau Bryn Awel ac mae arno adeilad storio unllawr. Union gerllaw mae terfynau ty o’r enw Meillion.  Y bwriad yw codi adeilad deulawr a fydd yn darparu ystafell chwarae, ystafell ffitrwydd, toiled, storfa, man croesawu, swyddfa ac ystafell gemau.  Y materion allweddol yw’r rhain - a fydd hyn yn niweidio pleserau; adeiladau eraill yn y cyffiniau; y manteision i’r diwydiant twristiaeth.

 

      

 

     Ers drafftio’r adroddiad i’r Pwyllgor dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod ymateb wedi ei dderbyn gan asiant yr ymgeisydd ac yn hwnnw nodwyd bod uchder yr adeilad arfaethedig wedi ei ostwng i’r lefel isaf bosib ac nad oedd hi’n ymarferol gostwng dim rhagor arno gan fod angen yr uchder ar y llawr isaf i dderbyn offer gym mewn ystafell ffitrwydd.  Nid oedd modd gostwng dim mwy ar yr uchder ar y llawr cyntaf oherwydd bod angen digon o uchder i ddarparu man croesawu, swyddfa ac ystafell gemau.  Yn ogystal roedd yr asiant yn dweud nad oedd modd cynnwys yr holl gyfleusterau hyn mewn adeilad unllawr, nad oedd safle arall ar gael a dim lle addas i’r datblygiad ar y maes carafannau.  Roedd y Gwasanaeth Cynllunio yn dal wrth yr argymhelliad i wrthod oherwydd bod maint a defnydd yr adeilad arfaethedig yn mynd i gael effaith sylweddol ar bleserau deiliaid Meillion.  Gan fod yr adeilad arfaethedig 7.6m o uchder o lefel y llawr bydd 2m - 2.8m yn uwch na’r gwrych, a barnwyd bod adeilad o’r maint hwn gyda’r defnydd arfaethedig yn mynd i gael effaith sylweddol ar bleserau deiliaid y ty cyffiniol.

 

      

 

     Fel yr aelod lleol diolchodd y Cynghorydd Barrie Durkin i’r aelodau am ymweld â’r safle a dywedodd bod asiant yr ymgeisydd wedi ymdrechi i sefydlu a oedd modd gostwng rhagor ar uchder yr adeilad arfaethedig.  Wedyn cyfeiriodd at daflen gryno gan yr ymgeisydd yn disgrifio’r sefyllfa.  Yn y nodyn eglurir bod y maes carafannau angen cyfleuster canolog newydd gyda nodweddion modern i bwrpas cystadlu gyda meysydd gwyliau eraill ac i ddarparu cyfleusterau i’r ymwelwyr.  Roedd yr adeilad y bwriadwyd ei ddymchwel yn un eithriadol o hyll ac yn cael effaith ddrwg ar bleserau gweledol.  Buasai codi adeilad newydd yn ei le yn welliant ac yn darparu cyfleusterau y mae eu gwir angen yn y maes carafannau.  Un yn unig oedd wedi gwrthwynebu’r cais.  Roedd uchder y to a chrib y to wedi ei ostwng yn sylweddol i’r lefel isaf bosib i gydnabod yr un gwrthwynebiad. Roedd y cynlluniau yn seiliedig ar arolwg topograffaidd cywir.  Bydd un ffenestr fechan yn y wal sy’n wynebu Meillion; ffenestr yw  hon i dderbyn goleuni naturiol i’r toiled a rhoddir arni wydr aneglur i ddiogelu preifatrwydd.  Gydag amod cynllunio safonol bydd modd rheoli’r elfen hon.  Mae ffenestr yn nhalcen y de ar dop y grisiau ac unig bwrpas hon yw darparu goleuni naturiol i’r grisiau ac ni fydd yn creu unrhyw olygfeydd.  Adeiladau i ddibenion maes carafannau Bryn Awel yn unig yw’r cynnig gerbron.  Bydd darparu cyfleusterau o’r fath yn gostwng unrhyw swn canfyddiadau neu unrhyw effaith ar y ty drws nesaf oherwydd bod yn yr adeilad newydd yn gyfleuster i ddenu ymwelwyr a chyfleusterau dan do yw’r rhain ac mae hynny’n rhwystro swn.  Ar ben hyn mae maes carafannau modern angen cyfleusterau derbyn a swyddfa.  Mae’r ddarpariaeth bresennol yn anaddas gan ei bod yn nhy y perchennog ei hun.  Ni fwriedir ymestyn y maes carafannau na gwneud defnydd mwy dwys ohonno; cais yw hwn i godi adeilad newydd yn lle hen adeilad.  Gwnaeth y Cynghorydd Durkin sylw na sylwodd ef bod y gwrych rhwng y terfynau tua 4m o uchder; o ystyried hynny ni fuasai pwynt uchaf yr adeilad newydd yn creu problem o bwys o ran pleserau gan fod onglau’r to yn rhedeg yr holl ffordd i’r grib.  Mae’r Cyngor hwn yn hyrwyddo twristiaeth a bwriadwyd y cais hwn i wella cyfleusterau o’r fath a'r maes carafannau a gwneud hwnnw yn fwy priodol i ymwelwyr.  Credai ef y bydd y ty drws nesaf yn dal i gael golygfeydd dirwystr ac awgrymodd ef y dylid caniatau’r cais.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Cytuno gyda’r aelod lleol a wnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton gan gredu bod yr ymgeisydd wedi mynd i drafferth i wneud y cynnig yn dderbyniol.  Credai ef y buasai’r datblygiad newydd yn cael gwared o hen adeilad sydd yn ddolur llygaid a cheir adeilad newydd da a chyfle i hyrwyddo twristiaeth ac ni chredai ef y buasai’n andwyol i neb.  Wrth gyflwyno barn ar y mater cyfeiriodd y Cynghorydd Hefin Thomas at y cyfeiriad personol ato mewn adroddiad a’i fod wedi cyfeirio at hyn mewn cyfarfod arall o’r Pwyllgor yn y gorffennol.  Cadarnhaodd iddo gymryd cyngor cyfreithiol, y buasai’n cymryd rhan yn y drafodaeth ar y cais a hefyd yn pleidleisio arno.  Aeth ymlaen i nodi bod y cynllun yn dangos nad oes lle i ymestyn safle y carafannau ac felly bydd y cyfleusterau hyn yn asio gyda’r defnydd presennol.  Roedd dal bod y datblygiad hwn yn mynd i amharu ar yr olygfa yn gamarweiniol - nid yw’n amharu dim ar y golygfeydd.  Roedd yr adeilad yng nghanol tai ac nid yw’r grib yn ddim uwch na sawl ty arall yn y cyffiniau.  Cynnig ar gyfer twristiaeth sydd yma a chredai ef bod perchnogion y maes carafannau i’w canmol ar wario ar wella cyfleusterau i ymwelwyr ar yr Ynys.  Aeth ymlaen i sôn y bydd y datblygiad yn creu swyddi ac roedd yn hapus i gynnig derbyn y cais.  Hefyd roedd y Cynghorydd R. L. Owen yn gefnogol i'r cais fel busnes twristiaeth a chredai ef y dylai’r aelodau gefnogi twristiaeth.  Ar ôl ymweld â’r safle ni chredai ef y buasai’r adeilad newydd yn cuddio unrhyw olygfeydd ac felly ei ddymuniad ef oedd eilio’r Cynghorydd Thomas a rhoddi caniatâd.  

 

      

 

     Ar y llaw arall soniodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y datblygiad arfaethedig mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, yn rhy uchel ac o'r herwydd ofnai ef y buasai’n cael effaith ar bleserau y ty drws nesaf.  Ond ychwanegodd na fuasai’n gwrthwynebu y datblygiad petai’r adeilad yn unllawr ac felly yn cael llai o effaith ar y dirwedd.

 

      

 

     Pleidleisiodd y Cynghorwyr W. J. Chorlton, Hefin Thomas, J. Evans, W. T. Hughes, Thomas Jones, R. L. Owen ac E. G. Davies i gadarnhau’r caniatâd blaenorol gan y Pwyllgor i’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog.

 

      

 

     Pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Kenneth Hughes a J. Arwel Roberts i wrthod y cais.

 

      

 

     (Roedd y Cynghorydd J. P. Williams yn dymuno nodi nad oedd wedi bod yn rhan o’r drafodaeth nac o’r pleidleisio.  Ni chymerodd y Cynghorydd O. Glyn Jones ran yn y pleidleisio am na fu ar y safle yn ystod yr ymweliad).

 

      

 

     Gan fod y Pwyllgor yn cadarnhau caniatâd i’r cais yn groes i argymhelliad y swyddogion gofynnodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i’r aelodau ai eu dymuniad oedd rhoddi amodau ynghlwm wrth y caniatâd, amodau yng nghyswllt oriau agor er enghraifft.  Awgrymodd y Cynghorydd Thomas Jones glymu’r defnydd o’r adeilad ynghlwm wrth y maes carafannau am byth ac y dylid cael amodau ynghylch ffenestri.  Gan y Cynghorydd R. L. Owen cafwyd awgrym i roddi amodau ynghlwm ar fater oriau defnydd.  Fodd bynnag, credai’r Cynghorydd J. Arwel Roberts fod y Pwyllgor yn cyflwyno amodau’n ddifeddwl.  Wedyn awgrymodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y dylai’r aelodau ohirio trafodaeth ar amodau i'r rhoddi ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio a’i fod yn gofyn i’r swyddogion cynllunio ddrafftio amodau priodol i’w hystyried ac i’w cymeradwyo yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Barrie Durkin, fel yr aelod lleol, ei fod ef ar ddeall fod yr ymgeisydd yn hapus i dderbyn amod ynghylch darparu gwydr aneglur ar y ffenestr - a rhoddir amod ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio.  Wedyn nododd bod y cais eisoes wedi ei gymeradwyo ac ni chredai ei bod hi’n iawn gosod amodau ynghlwm.  O ran eglurder pwysleisiodd y Cynghorydd W. J. Chorlton mai’r amodau yn unig fydd gerbron y Pwyllgor i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf, a nodi hefyd na ddylent fod yn afresymol.  Mewn ymateb i ymholiad y Cynghorydd Hefin Thomas yn holi pa fath o amodau oedd gan y swyddogion dan sylw, eglurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasent yn ymwneud a materion a gododd yn ystod y drafodaeth, fel enghraifft oriau agor, ffenestri, cyfyngu’r defnydd o adeilad i’r maes carafannau.  Gan y Cynghorydd Thomas Jones cafwyd cynnig bod y Pwyllgor yn derbyn cyngor y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol - sef gohirio ystyried yr amodau tan y cyfarfod nesaf.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Penderfynwyd cadarnhau caniatâd y Pwyllgor i’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog a gofyn i’r swyddogion ddrafftio amodau priodol i’w rhoddi ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio i’w hystyried ac i’w caniatáu yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

      

 

      

 

6.4

30C674 - Cais amlinellol i godi 8 o dai trefol, deulawr, dwy ystafell wely yr un ac i ddarparu cyfleusterau parcio cysylltiedig yn Hen Sidings y Rheilffordd, Pentraeth

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor gan fod y datblygiad wedi’i hysbysebu fel un yn gwyro oddi wrth y cynllun datblygu a’r swyddogion yn dymuno caniatáu.  Penderfynodd yr aelodau gael ymweliad â’r safle yn y Pwyllgor Cynllunio yn Chwefror 2010 a gohiriwyd gwneud penderfyniad yng nghyfarfod Mawrth y Pwyllgor er mwyn cael cyfle i ystyried y wybodaeth ychwanegol a ddaeth i law.  

 

      

 

     Mae safle’r cais yn Hen Sidings y Rheilffordd a defnyddiwyd wedyn i ddibenion masnachol.  Amlinellol oedd y cais gerbron a chydag ef cyflwynwyd trawsdoriadau a hyd doriadau awgrymiadol yn dangos teras o dai.  Y bwriad gwreiddiol oedd darparu mynedfa ar hyd Lôn Clai Mawr ond diwygiwyd hyn wedyn a mabwysiadu mynedfa uniongyrchol o’r A5025.  Y materion allweddol gyda’r cais hwn yw - egwyddor datblygiad preswyl yng nghyswllt y cynllun datblygu ac yn wyneb ystyriaethau polisiau perthnasol eraill; a ydyw’r gwelededd yn ddigon da yn y fynedfa i gerbydau i’r briffordd gyhoeddus ac yn olaf yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion yn tueddu i roddi caniatâd i’r cynnig hwn gan ei fod y tu mewn i ffiniau pentref Penraeth fel y gwelir y rheini yn y Cynllun Datblygu Unedol.  Perthyn safle’r cais i gategori tir sydd wedi ei ddatblygu o’r blaen oherwydd bod yno unwaith orsaf reilffordd ac wedyn sefydlwyd ar y tir nifer o ddefnyddiau masnachol amrywiol.  Edrychodd y swyddog yn ofalus iawn ar fanylion y lefelau a’r draeniad arfaethedig gan y datblygwr ac roedd popeth wrth ei fodd.  Hefyd roedd y Gwasanaeth Priffyrdd wedi asesu’r fynedfa i gerbydau i’r briffordd gyhoeddus.  Cafwyd gair o gadarnhad gan yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) bod y cynlluniau manwl, diweddaraf a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn dangos gwelededd digonol yn y fynedfa i gerbydau i’r briffordd gyhoeddus.  I gyflawni’r nod hwn bydd raid lledu’r pafin, a symud y stop bysus.  Yn seiliedig ar y cadarnhad a gafwyd gan y Swyddog Priffyrdd roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn argymell caniatáu gydag amod dan Adran 106 i ddarparu 30% o dai fforddiadwy ar y safle.

 

      

 

     Hen orsaf reilffordd fu unwaith ar y safle hwn meddai’r Cynghorydd Barrie Durkin a chredai ef fod agweddau technegol y cais yn ofnadwy.  Bydd y fynedfa yn croesi arglawdd serth a bydd raid symud y stop bysus i ddarparu digon o welededd.  Wedyn aeth ymlaen i sôn am faterion megis draenio a gafodd sylw ar yr ymweliad a’r safle.  Mewn ymateb i’r sylw hwn cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at ran berthnasol yr adroddiad ar Dudalen 35 lle’r ystyrir y materion hynny a godwyd yn ystod yr ymweliad.  Yn bersonol dywedodd y Cynghorydd Durkin ei fod yn cael ei dynnu y ddwy ffordd - caniatáu neu beidio.  Roedd yn tueddu i gredu bod ei wrthwynebiadau i’r cais yn seiliedig ar faterion technegol yn bennaf ond roedd ganddo bryderon o hyd ynghylch y gwelededd wrth ddod o’r safle a diogelwch y ffordd, ac oherwydd y rhesymau olaf hyn teimlai y dylid gwrthod y cais.

 

      

 

     Ni chredai’r Cynghorydd Hefin Thomas bod y safle yn briodol i ddatblygu tai ac roedd angen codi lefelau’r tir i dderbyn y datblygiad a bydd proses o’r fath yn gwneud y grib yn amlwg a hynny y tu mewn i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Wedyn soniodd am faterion mynedfa i gerbydau i’r briffordd cyhoeddus a’r bwriad i symud y stop bysus - cyfleuster y llwyddwyd i’w gael ar ôl ymdrechu dros nifer o flynyddoedd.  Credai mai’r unig le priodol i’r stop bysus oedd yr un presennol ac y ceid anhawster canfod lle arall.  O'r herwydd roedd, yn gyffredinol, yn wrthwynebus i’r cais.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Cafwyd eglurhad gan yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) ar leoliad y stop bysus - bydd y stop ei hun yn aros lle mae ond bod y gysgodfan yn cael ei symud yn ôl i gefn y pafin.

 

      

 

     Holodd y Cynghorydd Selwyn Williams a oedd arolwg traffig wedi ei gynnal ac roedd yn pryderu ynghylch y fynedfa i’r safle yn dod o’r briffordd ac ynghylch defnydd cerbydau o’r ffordd.  Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) na chafwyd arolwg ar y traffig ond nododd bod y safle mewn ardal cyfyngiad 30mya ac oherwydd hynny gofrnnodd y Gwasanaeth Priffyrdd am lain gwelededd 90m a chytunodd yr ymgeisydd i’w ddarparu.

 

      

 

     Cafwyd sylw gan y Cynghorydd Lewis Davies bod y safle hwn yn un llwyd ac mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Roedd angen gwella’r safle a bod cryn waith angen ei wneud ar lefelu’r tir ond er hynny bydd defnyddio’r lle i bwrpas codi tai yn well na gadael y tir yn ddiffaith a hynny yn ei dro, o bosib, yn denu pobl ifanc.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd W. J. Chorlton iddo fod ar yr ymweliad a’r safle ac er bod arwynebedd y tir yn ddwfn yn un pen roedd yn dirwyn i siap pigfain yn y pen arall.  Rhagwelai ef y ceid anhawster wrth fynd ati i wastatu’r tir i bwrpas codi tai ac roedd yn pryderu am hyn ond er hynny yn gefnogol i’r egwyddor o ddatblygu safleoedd llwyd ond yn dal i fod gydag amheuon ynghylch a oedd safle’r cais hwn yn addas i’r bwriad dan sylw.  Yn ôl y Cynghorydd Hefin Thomas roedd cryn dipyn o bryderon yn lleol ynghylch y datblygiad a’r ddau Gyngor Cymuned yn gryf yn erbyn.  

 

      

 

     Wrth ymateb i’r pwyntiau a godwyd dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai un rheswm am ohirio'r cais oedd er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion Cynllunio ystyried y cynlluniau a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd i ddangos trawsdoriadau ar y safle.  Yn ôl y cynlluniau hyn gwelir bod y tir yn gorwedd ar oleddf 1 mewn 20 o’r briffordd i ben draw’r safle.  Yn ôl y cynlluniau mae’r tai hyn yn cael eu codi yn is na’i gilydd yr holl ffordd i lawr.

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd J. P. Williams mai lle i drac sengl yn unig oedd ar y ffordd ac mewn ymateb dywedodd yr Uwch Beiriannydd bod y ffordd hon yn 4.8m o led ac yn ddigon llydan i ddau gerbyd basio’i gilydd a hefyd i ddarparu pafin ar un ochr.  Hefyd cadarnhaodd yr hyn a ddywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn ei eglurhad ef, sef bod y tir yn rhedeg i lawr ar raddfa 1 mewn 20 - ystyr hynny yw bod y tir yn gostwng 1m am bob 20 metr.  Felly bydd gris rhwng y tai.

 

      

 

     Mewn ymateb gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas a oedd y Gwasanaeth Priffyrdd wedi mesur y ffordd oherwydd ei fod yn argyhoeddiadol bod yno ddarpariaeth ddigonol i greu ffordd fynedfa 4.8m a thai.  Wedyn dywedodd yr Uwch Beiriannydd nad oedd yr Adran Briffyrdd wedi cymryd mesuriadau gwirioneddol ond eglurodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) bod arolwg topograffaidd wedi ei ddarparu.  Pwysleisio a wnaed y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod cynlluniau proffesiynol wedi eu paratoi gyda’r cais a gofynnodd a oedd y Pwyllgor yn herio eu cywirdeb.  Ar ôl clywed hyn dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas mai’r unig beth a wnaed oedd gofyn a oedd y Swyddogion Priffyrdd mewn gwirionedd wedi mesur y ffordd i bwrpas gweithredu ar y cynlluniau.  Atgoffwyd yr aelodau gan y Cadeirydd bod y mesuriadau wedi eu darparu gan yr ymgeisydd am reswm.

 

      

 

     Roedd yr aelod lleol, y Cynghorydd Barrie Durkin wedi ei synnu’n fawr gan dopograffeg y safle a bod angen cario cymaint o ddeunydd i’r lle i godi lefel datblygiad y tai i lefel y ffordd.  Teimlai ef y buasai costau paratoi’r safle yn rhwystr rhag codi tai.  Hefyd roedd ganddo gwestiynau ynghylch y stop bysus a’r ffaith bod angen symud yn ôl.  Eglurodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) y buasai’r stop bysus ochr Pentraeth i’r bont.

 

      

 

     Wedyn cafwyd cynnig i wrthod y cais gan y Cynghorydd Hefin Thomas a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. T. Hughes.  Cynnig caniatáu a wnaeth y Cynghorydd Thomas Jones a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn -

 

      

 

      

 

     Derbyn yr argymhelliad yn adroddiad y Swyddog a chaniatau -

 

      

 

     Y Cynghorwyr Jim Evans, Thomas Jones, Lewis Davies, E. G. Davies, Kenneth Hughes, J. Arwel Roberts.

 

      

 

     Gwrthod y cais -

 

      

 

     Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, Hefin Thomas, W. T. Hughes, R. L. Owen, Selwyn Williams, J. P. Williams.

 

      

 

     Gyda phleidlais fwrw’r Cadeirydd penderfynwyd derbyn adroddiad y Swyddog a’i argymhelliad i ganiatáu gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

7     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

7.2

19C842J/ECON - Cais llawn i godi tair swyddfa a phedwar warws diwydiannol ynghyd â gwasanaethau sylfaenol a chyfleusterau parcio ar blotiau 1 a  7, Parc Cybi, Caergybi.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cynnig hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno am ei fod yn gais cynllunio mawr sydd unai’n diogelu neu’n creu dros 200 o swyddi llawn amser neu swyddi cyfatebol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i’r Cyngor Sir yn ei gyfarfod Mawrth eleni benderfynu y bydd ceisiadau economaidd mawrion, megis yr un hwn, yn cael eu penderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn y dyfodol - nid gan y Cyngor llawn.  Ond roedd Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoddi cyfarwyddyd i’r Cyngor i beidio â diwygio’i gyfansoddiad hyd oni fydd y Gweinidog ei hun wedi cymeradwyo’r newidiadau.  Yr oedd y Cyngor yn dal i ddisgwyl am gymeradwyaeth  y Gweinidog i’r holl newidiadau cyfansoddiadol hynny a gyflwynwyd gan y Cyngor yn ei gyfarfod ym Mawrth.  Felly, yn dechnegol, roedd hwn yn dal i fod yn fater i’r Cyngor ei ystyried.  Y peth doethaf dan yr amgylchiadau oedd i’r Pwyllgor ohirio ystyried y cais a sicrhau ei fod yn gweithredu yn y modd cyfansoddiadol cywir.  Os oedd yn dymuno ystyried y cais yna gallai wneud hynny mewn egwyddor a gofyn am i’r cais gael ei ailgyflwyno ac i gael penderfyniad yn y cyfarfod nesaf erbyn pryd y bydd y Gweinidog wedi cymeradwyo’r newidiadau cyfansoddiadol angenrheidiol fel bod y Pwyllgor hwn wedyn â’r awdurdod i benderfynu ar y cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i ohirio ystyried y cais gan ddilyn y cyngor a roddwyd.

 

      

 

     Penderfynwyd gohirio ystyried y cais gan ddilyn cyngor y Swyddog.

 

      

 

      

 

8     CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Nid oedd yr un cais am dai fforddiadwy i’w ystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor.

 

      

 

      

 

9     CEISIADAU’N GWYRO

 

      

 

9.1

12C66H - Dymchwel adeilad a chodi chwe annedd a gwaith cysylltiedig ger yr Hen Bwll Nofio, Biwmares

 

      

 

     Cyflwynir y cynnig hwn i’r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac yn seiliedig ar benderfyniad apêl o’r blaen.

 

      

 

     Mae safle’r cais mewn lle amlwg ar yr arfordir ac yn cynnwys adeilad sydd wedi ei orffen yn allanol gyda rendr garw a tho llechi ond y mae yn mynd â’i ben iddo a bu’n wag ers blynyddoedd.  Tua’r dwyrain i’r safle mae pwll nofio mawr sy’n ymestyn hyd at yr arfordir.  I’r gorllewin mae’r tir yn codi ac wedi hynny, ar draws lôn yr A545, mae maes parcio a Chastell Biwmares.  Gellir mynd i’r safle ar hyd system unffordd heibio i’r Grin.  Mae yna dy gerllaw yn Mount Field.  Bwriad sydd yma i adeiladu chwe annedd.  Byddai’r pwll nofio presennol yn cael ei lenwi a’r gorffenwaith arno yn cyfateb i dirlunio caled yn bennaf.  Yn y canol cedwid pwll llai ac mae ymgeiswyr wedi nodi y byddant yn fodlon caniatáu mynediad i’r cyhoedd.  

 

      

 

     Y materion allweddol yma yw - a ydyw’r datblygiad yn eithriad derbyniol oddi wrth y cynllun datblygu; effaith y datblygiad ar osodiad y Castell sydd yn heneb restredig ac yn Safle Treftadaeth y Byd; a materion yn ymwneud â risgiau llifogydd.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod safle’r cais wedi ei ddynodi fel cynnig S34 yng Nghynllun Lleol Ynys Môn i ddibenion twristiaeth/hamdden a chafodd ei hysbysebu fel cais yn gwyro gan ei fod yn gais am dai.  Yng Nghynllun Datblygu Unedol Ynys Môn a Stopiwyd mae safle’r cais y tu mewn i ffiniau tref Biwmares ond heb ei ddynodi i unrhyw ddiben penodol.  Oherwydd oed y cynllun datblygu a chan fod cymaint o waith wedi ei wneud ar yr CDU a Stopiwyd credir bod codi tai ar safle’r cais yn dderbyniol yn ôl y polisiau ac fel cais yn gwyro o’r cynllun datblygu ac mae’r Awdurdod Cynllunio yn dymuno ei gymeradwyo.  Felly, er nad yw’r Awdurdod Cynllunio yn gwrthwynebu’r egwyddor o ddatblygu, nid yw’n hapus gyda’r ffurf y datblygiad arfaethedig.  Ond hefyd rhaid cofio bod y safle y tu mewn ac union ger parth llifogydd C2 lle mae polisi cenedlaethol fel y gwelir hwnnw yn TAN 15 yn dweud na ddylid caniatáu defnyddiau bregus fel defnyddiau preswyl.

 

      

 

     Fel yr aelod lleol cyfeiriodd y Cynghorydd R. L. Owen at benderfyniad apêl yn sgil gwrthod caniatâd cynllunio i gais i godi 5 annedd a chaffi ar y safle yn 2008 pryd y cefnogwyd y penderfyniad gwreiddiol i wrthod ac aeth ymlaen i ofyn i’r Cynghorydd Hefin Thomas, a fu’n rhan o’r apêl, i annerch y Pwyllgor ar ei gais penodol hwn.  Cadarnhau a wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas fod penderfyniad o wrthodiad gan y Pwyllgor ar y cais cynllunio uchod wedi ei gefnogi mewn apêl.  Aeth ymlaen i sôn y buasai unrhyw ddatblygiad ar y safle yn y golwg o bob rhan o’r arfordir; yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, yn Safle Treftadaeth y Byd ac felly’n sensitif eithriadol.  Mae’r datblygiad arfaethedig yn rhy fawr o lawer ac o’r herwydd mae’n nodwedd ymwthiol ac yn debyg o gael effaith ddrwg ar yr ardal o gwmpas.  Ni chredai bod llawer o wahaniaeth rhwng y cais hwn a’r cais blaenorol a wrthodwyd.  Felly fe gafwyd cynnig i wrthod gan y Cynghorydd R. L. Owen a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.  

 

      

 

     Gofidio oedd y Cynghorydd E. G. Davies o weld y safle mewn cyflwr mor flêr ac y buasai’n dda gweld rhyw fath o ddatblygiad ar y safle gan ei fod hefyd yn safle llwyd.  Roedd yn gobeithio y buasai cynlluniau mwy priodol yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol.  Cytunodd y Cynghorydd Hefin Thomas gyda’r sylw hwn a soniodd ef hefyd fod y safle angen sylw.  Roedd y cynnig gerbron yn achosi pryder mawr iawn i’r Cynghorydd Lewis Davies a chan ystyried yn arbennig ei fod mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol; mae’n tarfu ar y tirwedd o gwmpas; mae’n groes i gymeriad adeiladau hanesyddol Biwmares; mae yma beryglon llifogydd ar y safle yn enwedig o gofio bod lefelau’r moroedd yn codi.  Ers blynyddoedd mae’r tir yn y lle hwn wedi ei erydu gan y môr a gallai’r môr fygwth sylfaeni datblygiad o’r fath.

 

      

 

     Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

      

 

     (Ni chymerodd y Cynghorydd W. J. Chorlton ran yn y drafodaeth nac yn y pleidleisio).

 

      

 

10     CYNIGION DATBLYGU A GYFLWYNWYD GAN GYNGHORWYR A SWYDDOGION

 

      

 

10.1

16C184 - Cais amlinellol i godi annedd deulawr ar dir ger Bryngwran Farm, Bryngwran

 

      

 

     (Gwnaeth y Cynghorydd Lewis Davies ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadael y cyfarfod am y drafodaeth.  Hefyd cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr. Gareth Morris, Cyfieithydd ac nid oedd yn bresennol am y drafodaeth).

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog sy’n ymwneud yn agos â cheisiadau cynllunio. Cafodd y cais ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

      

 

     Cais amlinellol oedd hwn i godi annedd.  Mae’r safle ym mhen draw Ffordd Bryngwran Farm a llwybr cyhoeddus yn rhedeg heibio iddo.  Mae'r safle y tu allan i ffiniau’r pentref yn yr CDU a stopiwyd a’r mater allweddol yma yw hwn - a ydyw’r cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.

 

      

 

     O ran ystyriaethau cynllunio a’r egwyddor o ddatblygu, a lleoliad y ty mewn ardal tirwedd arbennig ac yn wyneb yr ystyriaethau priffyrdd a nodwyd yn yr adroddiad barnwyd bod y cynnig hwn yn ymestyn yr adeiladau y tu draw i derfynau rhesymegol pentref Bryngwran.  Mae Polisi 50 yn caniatáu datblygu plotiau unigol os cydymffurfir gyda rhai meini prawf - rhaid i’r annedd fod yn amlwg y tu mewn neu’n estyniad bychan rhesymol i ran ddatblygedig y pentref ac ni chaiff ymwthio’n annymunol i’r tirwedd na newid cymeriad na phleserau yr ardal.  Credir bod y plot hwn yn ymwthio i’r cefn gwlad ac yn sefyll ar wahân i ran ddatblygiedig y pentref - yn ffisegol ac yn weledol.  Buasai datblygu’r lle yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad yr ardal.  I gloi nid yw’r cynnig yn cydymffurfio gyda Pholisi 50.  Nid yw’r gwelededd yn y gyffordd rhwng y ffordd fynedfa a'r A5 yn cyrraedd y safon.  Felly roedd yr argymhelliad yn un o wrthod.

 

      

 

     Wrth annerch y Pwyllgor dywedodd y Cynghorydd R. G. Parry OBE, yr aelod lleol, fod hwn yn gais gan gwpl ifanc o’r pentref sy’n dymuno sefydlu cartref ar dir sydd yn eiddo i gyndeidiau.  Roedd y ffordd yn rhedeg at dai gyda thua dwsin ohonynt o gwmpas y ffordd.  Sylwodd y Cynghorydd Parry bod un annedd wedi ei gadael allan o gynllun y safle, sef yr un agosaf at y plot a chaniatawyd yr annedd honno ar ddiwedd y 90au, yr adeg honno y codwyd hi hefyd.  Roedd y datblygiad arfaethedig ym mhen pellaf y ffordd a’r annedd olaf y mae modd ei chodi heb ymestyn y tu draw i’r cae nesaf ac felly buasai unrhyw ddatblygiadau ychwanegol yn anodd.  Ni fuasai’n nodwedd ddieithr gan fod annedd deulawr arall gerllaw sef Ffarm Bryngwran ei hun.  Mae’r fynefa i’r A5 ar hyd hen lôn ac mae 12 o dai arni a chafodd y rheini ganiatâd cynllunio yn ystod y 90au mewn cyfnod cyn adeiladu’r A55 a phan oedd yr A5 ei hun yn eithriadol o brysur a hefyd pan oedd siop a becws ar y ffordd.  Felly ni chredai bod modd dweud bod y lôn hon yn beryglus.  Ychwanegodd nad oedd yr adroddiad yn dweud yn benodol na ddylid rhoddi caniatâd ac ychwanegodd bod lefelau’r traffig ar yr A5 wedi gostwng yn fawr iawn bellach a’r ffordd i Gaergybi yn ddistaw.  Yn groes i farn y Gwasanaeth Priffyrdd ni chredai bod yma unrhyw broblemau gwelededd.  Yn ychwanegol at hyn nododd fod cyfyngiad 30mya ar y ffordd.  Roedd yr ymgeisydd yn hunangyflogedig ac yn gweithio o’i gartref ac felly ni fydd yn gwneud llawer o ddefnydd o’r ffordd.  Gofynnodd i’r Pwyllgor ganiatáu’r cais.

 

      

 

     Yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio buasai caniatáu’r cais hwn yn creu cynsail i ragor o ddatblygiadau ac er nad oedd cyfarwyddyd i’r Pwyllgor wrthod y cais roedd yr argymhelliad yn un o wrthod oherwydd y cyngor proffesiynol a roddwyd gan swyddogion Priffyrdd.  Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) fod y gwelededd yng nghyffordd y ffordd fynediad gyda’r A5 yn is na’r safon.

 

      

 

     Holodd y Cynghorydd O. Glyn Jones am yr annedd honno a adawyd allan o’r cynllun safle ac mewn ymateb dywedodd yr aelod lleol mai enw’r ty hwnnw yw Bwthyn Paradwys.  Tybiai’r Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr annedd y cyfeiriwyd ati yn gais am newid defnydd.  Fel sawl pentref arall teimlai’r Cynghorydd O. Glyn Jones bod Bryngwran dan fygythiad oherwydd colli cyfleusterau lleol a chredai bod caniatáu cais gan gwpl ifanc oedd yn dymuno sefydlu cartref yn eu pentref yn dderbyniol ac yn iawn.  Cynigiodd roddi caniatâd i’r cais.  Hefyd roedd y Cynghorydd Selwyn Williams yn gefnogol i’r cais gan gredu fod y ffordd fynediad mewn gwirionedd yn ffordd weddol a bod gwelededd clir o gyfeiriad Caergybi.  Ychwanegodd bod y cais yn ôl pob tebyg yn mynd i gael ei gefnogi am nad oes ffiniau i’r pentref.  Hefyd roedd y Cynghorydd E. G. Davies o blaid y cais ac ni chredai fod modd codi rhagor o dai ac ni fedrai weld fod unrhyw beth o bwys o’i le gyda’r cais.  Felly eiliodd y cynigiad i roddi caniatâd.

 

      

 

      

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn awyddus iawn i gael rhagor o fanylion am y ffordd fynediad ac er ei fod ef yn awyddus i gefnogi cais o’r fath nododd bod raid i’r Pwyllgor barchu’r polisi cynllunio ac nid oedd y cynnig hwn yn cydymffurfio gyda Pholisi 50.  Gofynnodd y Cynghorydd Thomas Jones faint o dir ar y cynllun oedd yn eiddo i’r perchnogion tir mewn gwirionedd ac mewn ymateb dywedodd yr aelod lleol mai nhw, fel a dybiai ef, oedd perchnogion y cyfan o’r cae.  Felly awgrymodd y Cynghorydd Thomas Jones y dylid defnyddio cytundeb dan Adran 106 i sicrhau na fydd rhagor o ddatblygu ar y tir.  Cafwyd sylw gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd cynllun ar y ffeil yn awgrymu a oedd tir ychwanegol yn eiddo i’r ymgeisydd ond sylwodd bod Tystysgrif B wedi ei chyflwyno gyda’r cais ac ar honno enwau 4 perchennog.  Pwysleisiodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts bod y cynnig hwn yn ymestyn y datblygiad i’r cefn gwlad y tu draw i Bwthyn Paradwys lle mae’r pentref yn dod i ben a bod y Pwyllgor ar dir sigledig petai’n caniatáu.  Cafwyd sylw gan y Cadeirydd bod hwn yn sylw teg ac aeth ymlaen i atgoffa’r aelodau o farn yr Adain Briffyrdd nad oedd y gwelededd yn gyffordd rhwng y ffordd fynediad gyda’r A5 yn cyrraedd y safon.

 

      

 

     I gloi, pwysleisiodd yr Aelod Lleol bod y cais ym mhen pellaf y lôn ac nad oedd mynediad i’r caeau y tu draw.  Aeth ymlaen i atgoffa’r aelodau bod y tai eraill yn yr ardal hon wedi derbyn caniatâd cynllunio yn y 90au pan oedd ffordd yr A5 yn brysurach o lawer.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W. J. Chorlton cafwyd cynnig i ymweld â’r safle a rhoi’r cyfle i aelodau weld beth yw natur y ffordd fynediad a gweld hefyd sut y buasai’r datblygiad arfaethedig yn asio gyda’r ardal o gwmpas.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jim Evans.

 

      

 

     Penderfynwyd ymweld â safle’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

10.2

48C130B - Cais ol-ddyddiol i gadw’r annedd a godwyd a’r gwaith altro ar y fynedfa i gerbydau yn Cross Keys, Gwalchmai

 

      

 

     (Gwnaed datganiadau o ddiddordeb yn y cais gan y Cynghorwyr Jim Evans, Eric Roberts, Kenneth Hughes, Selwyn Williams, O. Glyn Jones ac R. L. Owen a gadawsant y cyfarfod am y drafodaeth.  Cymerwyd y Gadair am yr eitem hon gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts fel Is-Gadeirydd).

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn gan asiant yn gweithredu ar ran Swyddog i’r awdurdod.  Dan ddarpariaethau Cyfansoddiad y Cyngor roedd yn rhaid cyflwyno cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ei ystyried a phenderfynu arno.

 

      

 

     Roedd y Dirprwy Swyddog Monitro wedi adolygu ffeil y cais yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad ac yn cadarnhau i’r cais gael ei brosesu yn y dull arferol.  Ychwanegodd bod cryn ansicrwydd ynghylch a ddylid fod wedi gofyn am y cais hwn o gwbl.  Fodd bynnag, gan fod y cais wedi ei gyflwyno a phob peth mewn trefn roedd angen penderfynu arno yn unol â’r argymhelliad - sef un o ganiatau.  Roedd y newidiadau i’r dyluniad, fel rhai bychain iawn, yn cael eu derbyn ac roedd y gwaith priffyrdd angenrheidiol (y rhan fwyaf wedi ei ganiatau gan ganiatâd amlinellol) wedi ei gwblhau cyn cyflwyno’r cais.

 

      

 

     Roedd y cais yn cael ei gyflwyno’n ôl-ddyddiol er mwyn ffurfioli’r gwaith hwnnw a wnaed heb ganiatâd cynllunio angenrheidiol.  Cais oedd hwn yn gofyn am ganiatâd llawn i gadw’r gwaith a wnaed, sef codi annedd a adeiladwyd heb gydymffurfio gyda’r holl amodau perthnasol ar ôl rhoddi caniatâd i faterion amlinellol ac i faterion wrth gefn.  Ymhlith y rhain y materion amlycaf yw mynediad a dyluniad.  Mae’r safle y tu mewn i ffiniau pentref Gwalchmai, yn breswyl ei natur ac wedi cael caniatâd amlinellol a chaniatâd i faterion wrth gefn ar 12 Rhagfyr 2001 i’r cyntaf ac ar 7 Gorffennaf 2003 i’r ail.  Y materion allweddol yma yw - yr egwyddor o ddatblygu, a ydyw’r fynedfa ddiwygiedig yn dderbyniol o ran diogelwch y ffordd a dyluniad wal gefn yr eiddo.  

 

      

 

     Ar ôl ystyried yr holl faterion polisi a'r ystyriaethau perthnasol eraill ac ar ôl derbyn ymateb boddhaol gan y rhai yr ymgynghorwyd â nhw daeth y swyddogion i’r casgliad bod y datblygiad,  fel y cafodd ei godi, yn dderbyniol o safbwynt cynllunio.  Roedd y gwaith ar y fynedfa wedi ei gwblhau yn ôl safonau gofynnol yr Awdurdod Priffyrdd a’r materion dylunio yn rhai bychan iawn.  Felly yr argymhelliad oedd caniatáu.

 

      

 

     Bellach roedd y Prif Swyddog Cynllunio yn medru adrodd iddo dderbyn cadarnhad nad oedd problemau o gwbl ynghylch draenio.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad o ganiatáu gyda’r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

      

 

11     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1

17LPA923/CC - Cais amlinellol i godi dwy annedd y tu cefn i Hen Ysgol Gynradd, Llandegfan

 

      

 

     Cyflwynir y cais hwn i’r Pwyllgor gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.  

 

      

 

     Mae safle’r cais yn cynnwys tiroedd yr hen ysgol; union gerllaw mae adeiladau rhestredig a disgrifir y rheini yng nghorff yr adroddiad.  Fel rhan o’r datblygiad câi adeilad unllawr yng nghornel y gogledd-ddwyrain ei ddymchwel.  Mae adeilad ar y safle, Ty’r Hen Ysgol.  Cais amlinellol cynllunio sydd yma i godi dwy annedd a mynedfa.  Gyda’r cais cyflwynwyd gosodiad bras a dyluniad yn dangos adeilad o’r math byngalo.  Mae’r cynllun bloc yn dangos y bydd yr ysgol sydd ar safle’r cais yn cael ei throi yn ddwy annedd ond nid yw hyn yn rhan o’r cais cynllunio hwn.  Y materion allweddol yma yw - yr egwyddor o ddatblygu a’r berthynas gyda’r tir o gwmpas.  

 

      

 

     Ar ôl ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol yng nghyswllt yr egwyddor o godi anheddau; y berthynas gyda’r tir o gwmpas; yr effaith ar bleserau; priffyrdd, cyfleusterau parcio a diogelwch cerddwyr a llifogydd a draenio fel y cafodd y materion hyn eu nodi yng nghorff yr adroddiad daethpwyd i’r casgliad bod y datblygiad yn dderbyniol gydag amodau ac argymhellir caniatáu.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd E. G. Davies, fel yr aelod lleol, bod dau lythyr wedi ei dderbyn a nododd ef fod Hen Dy’r Ysgol ar y safle.  Er nad yw preswylwyr y ty yn gwrthwynebu’r datblygiad maent yn dwyn sylw at y ffaith y bydd angen cyfleusterau parcio i ddau deulu.  Roedd am i’r swyddogion cynllunio fod yn ymwybodol o’r anghenion hyn wrth ganiatáu materion wrth gefn.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn yr adroddiad ac argymhelliad y Swyddog i ganiatau gyda’r amodau yn yr adroddiad ac y dylid rhoddi sylw i’r ddarpariaeth barcio i’r annedd sydd eisoes ar y safle.

 

      

 

11.2

19C845D - Cais i ddarparu cyfleusterau dan do i wylwyr yng Nghanolfan Hamdden Caergybi, Kingsland, Caergybi

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor gan mai’r Cyngor sy’n berchennog y tir.

 

      

 

     Mae’r safle ar dir Canolfan Hamdden Caergybi a'r tu mewn i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Y bwriad yma yw codi cyfleusterau dan do i wylwyr sefyll yn y stadiwm chwaraeon i’r de-orllewin o’r Ganolfan Hamdden.  Bydd y cyfleusterau yma yn cael eu codi ar sylfaen goncrid ac wedi ei gorchuddio gan ddur ac arno haen o blastig a siap bocs a’r lliw ‘royal blue’. Y materion allweddol yma yw - a fydd y cynnig hwn yn cael effaith ai peidio ar gymeriad yr ardal, ac effaith y datblygiad ar bleserau y tai cyffiniol.

 

      

 

     Mae’r polisiau cynllunio yn gefnogol i gyfleusterau hamdden ac yn bleidiol i ddarparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden.  O ran yr effaith ar yr ardal mae’r cynnig hwn mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ond rhaid cofio bod sawl strwythur arall ar dir y Ganolfan Hamdden o liwiau amrywiol a chan gynnwys ‘royal blue’.  Ni chredir y bydd y cynnig yn cael digon o effaith ar yr ardal i gyfiawnhau gwrthod y cais gan fod sawl strwythur cyffelyb

 

      

 

     gerllaw.  Yng nghyswllt yr effaith ar bleserau’r tai o gwmpas ni chredir y bydd y cynnig yn cael effaith niweidiol ychwanegol ar bleserau’r eiddo cyfagos o gofio bod y cynnig y tu mewn i dir  Canolfan Hamdden ac ni chafwyd yr un gwrthwynebiad gan gymdogion.  Yn wyneb yr asesiad uchod credir bod y cynnig yn dderbyniol ac argymhellir caniatáu.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

11.3

19C882C -  Cais llawn i godi deunaw o dai deulawr a darparu mynedfa newydd i gerbydau a mynedfa i gerddwyr ar dir cyffiniol i Lôn Cae Seri, Llain-goch, Caergybi

 

      

 

     Gwnaeth Mr. Robert Owen, yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth.

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a oedd yn pryderu oherwydd problemau traffig yn yr ardal. Gofynnodd y Cynghorydd J. V. Owen yr Aelod Lleol i’r aelodau ymweld â’r safle fel cymorth iddo egluro iddynt ei bryderon ynghylch y cynnig oherwydd materion priffyrdd a dwr.

 

      

 

     Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

      

 

      

 

11.4

30C173D - Dymchwel annedd a chodi un newydd yn ei lle yn y Gorlan, Ffordd y Traeth, Benllech.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Mae’r cais yn ymwneud a byngalo o fath dormer sydd y tu allan i ffiniau pentref Benllech ac yn y cefn gwlad.  Y bwriad yw codi, yn ei le, dy tri llawr a basmant ar y llawr isaf.  Y materion allweddol yma yw effaith y datblygiad ar gymeriad ac ar bleserau’r ardal.

 

      

 

     Roedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cynnig oherwydd ei ddyluniad ac oherwydd y buasai’n wahanol iawn i adeiladau eraill yn y cyffiniau; hefyd oherwydd gorddatblygu; bydd ddau dy ar y safle nid un; fe ddylid cynnal asesiad heidrolegol oherwydd y posibilrwydd y bydd y llanw yn cael effaith ar y rhan isaf.  

 

      

 

     Dywedodd y Swyddog bod safle’r cais hwn y tu allan i ffiniau pentref Benllech ac yn y cefn gwlad.  Dywed Polisi 54 Cynllun Leol Ynys Môn y bydd y Cyngor yn rhoddi sylw ffafriol i gynigion i godi annedd newydd yn lle hen un pan fo modd dangos fod yr annedd newydd yn mynd i wella gwedd yr ardal yn sylweddol.  Mae’r testun ynghlwm wrth y polisi yn dweud bod raid dylunio’r anheddau newydd i gydymffurfio gyda’r amgylchiadau lleol, sef bod rhaid codi’r annedd newydd ar safle’r hen annedd gan adlewyrchu maint, graddfa ac argraff yr hen un. Dywed Polisi HP9 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd i Ynys Môn y bydd caniatâd yn cael ei roddi i anheddau newydd yn lle hen rai pan fo’r annedd newydd yn cynnwyws troedbrint gwreiddiol yr hen annedd a hefyd yn addas i’r lleoliad ac yn dangos nodweddion dylunio o safon uchel.  Wedyn, yn y disgrifiad dan y polisi, dywedir bod rhaid codi unrhyw annedd newydd ar safle’r hen annedd gan adlewyrchu maint a gosodiad yr adeilad gwreiddiol.  Felly mae’r polisi hwn yn caniatáu mwy o ystwythder o ran maint, graddfa ac argraff yr annedd newydd - mwy o ystrwythder na’r cynllun lleol.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Mae’r cynlluniau a gyflwynwyd dan y cais uchod yn dangos ty tri llawr sydd yn fwy o lawer na’r hen fwthyn unllawr.  Hefyd oherwydd y dyluniad hy y ty newydd bydd yr annedd arfaethedig felly yn amlycach o edrych o’r ffordd a’r traeth gerllaw.  Hefyd oherwydd dyluniad y datblygiad fe ellid, yn ddidrafferth, ei addasu’n ddwy annedd yn y dyfodol.  

 

      

 

     i gloi nid yw graddfa na dyluniad yr annedd newydd yn dderbyniol a hynny oherwydd y rhesymau uchod ac felly argymhellir gwrthod y cais.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Barrie Durkin, yr Aelod Lleol wrth y Pwyllgor fod byngalo wedi bod ar y safle ers blynyddoedd a’i fod yn asio’n dda yn yr amgylchedd.  Yn anffodus, roedd wedi dirywio a phryder pennaf y Cynghorydd oedd bod unrhyw ganiatâd o bosib yn mynd i agor y drws i ragor o ddatblygiadau ar y trwyn hwn.  Felly gofynnodd i’r Pwyllgor wrthod y cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Selwyn Williams cafwyd sylwadau bod y cais mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac y gallai caniatâd arwain at ddatblygiad rhubanaidd.  Cytuno gydag asesiad yr Aelod Lleol a wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas.  Wedyn soniodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais hwn yn debyg i un arall yn Stablau Penmon a ganiatawyd ac ni fedrai ddeall pam fod hynny wedi digwydd.

 

      

 

     Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

      

 

      

 

11.5

31C3M - Dileu amod (07) (ynghylch cyfyngiadau preswylio) ar ganiatâd cynllunio 31C3J/DA yn Llys Marquis, Ffordd Caergybi, Llanfair-pwll.

 

      

 

     (Gwnaeth Mr. Richard Eames, Swyddog Rheoli Datblygu Priffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth arno.  Dywedodd y Cynghorydd J. P. Williams y buasai’n cymryd rhan yn y drafodaeth ar y cais yn ei swyddogaeth fel Aelod Lleol yn unig).

 

      

 

     Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol ar ôl iddo dderbyn pwerau galw i mewn i’r Pwyllgor benderfynu arno a hynny oherwydd pryderon lleol yng nghyswllt prinder lle parcio a phryderon ymhlith y preswylwyr ynghylch swn a styrbans i breswylwyr eraill sy’n defnyddio’r fflatiau mewn modd cyfreithlon yn unol â’r cyfyngiadau ar oed.

 

      

 

     Yn Llys Marquis mae 15 o unedau preswyl yng nghanol Llanfair-pwll gyda chyfyngiad oed ar y deiliaid.  Dan y caniatâd cynllunio presennol rhaid i un aelod o bob aelwyd fod yn 55 oed neu’n hyn.  Mae yma ddau floc wedi eu codi o gwmpas iard ganolog sy’n darparu lle parcio i ryw 10 o gerbydau.  Mae mynedfa uniongyrchol o’r iard ganolog i ffordd yr A5.  Y cynnig yma yw dileu’r amod sy’n cyfyngu ar oed y preswylwyr a hynny am nad oes sail i’r dystiolaeth bod rhywun dros 55 oed yn llai tebygol o fod yn berchennog car ar ôl defnyddio’r rhesymeg hon i sicrhau’r caniatâd gwreiddiol.

 

      

 

     Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mrs Griffiths, gwrthwynebydd i’r cynnig, annerch y Pwyllgor a dywedodd ei bod yn gwrthwynebu’r cais i ddileu amod 7 - yn hwnnw y mae’r cyfyngiad ar oed y preswylwyr.  Dywedodd iddi symud i’r fflat ymddeol ym mis Hydref 2007 a phedwar mis yn ddiweddarach, er mawr siom iddi, dechreuodd SJS Mona rentio’r fflatiau i bobl dan 55 oed. I gyd roedd yma 32 o drefniadau rhentu a rhai ohonynt yn aros am ychydig fisoedd yn unig.  Gall y bobl ifanc fod yn swnllyd ac yn anystywall heb feddwl dim am fuddiannau’r preswylwyr eraill.  Mae cryn fynd a dwad yn hwyr yn y nos a rhai o’r unigolion yn gweithio shifftiau yn hwyr y nos gan adael drysau diogelwch ar agor a chreu anesmwythyd i’r preswylwyr hyn.  Yn ddiamheuaeth roedd rhai yn dod i weld y fflatiau gyda golwg ar brynu ac yn penderfynu peidio oherwydd bod pobl ifanc yn byw ynddynt.  Ers iddi symud i’r fflat yn 2007 cred hi bod safon y marchnata i bwrpas gwerthu’r apartmentau ymddeol wedi bod yn isel iawn.  Yn y gwaith marchnata hwnnw roedd y pwyslais ar rentu’r apartmentau.  Mae’r arwydd “ar werth” sydd yno yn fychan iawn ac mewn lle o’r golwg.  Hawdd fuasai i rai sy’n cerdded heibio dybio mai’r ty drws nesaf sydd ar werth.  Credai hi y gellid fod wedi gwerthu’r fflatiau hyn petai’r datblygwr heb ddechrau rhentu i bobl ifanc.  Ar hyn o bryd mae parcio yn broblem; yn barod mae’r preswylwyr yn parcio’n ddwbl ac yn cau rhai eraill i mewn ac mae 4 fflat yn wag ar hyn o bryd.  Gan fod y ceir wedi eu parcio mor agos i’w gilydd nid oes lle i ddod â’r biniau ar olwynion o’r llecynnau biniau.  Mae’r mannau parcio ar y stryd i gyd yn llawn oherwydd y defnydd a wna preswylwyr Ffordd Caergybi ohonynt.  Y tu allan i’r fflatiau, tua’r gorllewin, mae man croesi i gerddwyr ar yr ochr ddwyreiniol, dau stop i fysus, ac un gyda chilfan.  O'r herwydd ychydig iawn o le parcio sydd ar gael ar y stryd i’r preswylwyr presennol.  Mae’r hawl i barcio ar faes parcio Swyddfa’r Post wedi ei gyfyngu i ddim mwy na 3 awr a sonir y bydd y cyfleusterau hyn yn y dyfodol yn faes parcio talu a dangos ticed.  Mae’r fflatiau yn agos i’r ysgol gynradd ac mae traffig trwm ar Ffordd Caergybi yn y bore a hynny’n cynnwys bysus ysgol, bysus coleg a thraffig cymudo.  Er gwaethaf y gwasanaeth cludiant cyhoeddus da yn y pentref mae’r holl breswylwyr sy’n rhentu, hyd yma, wedi bod ag o leiaf un car.  Am y rhesymau hyn y credir bod angen glynu wrth y caniatâd cynllunio gwreiddiol.

 

      

 

     Wrth gefnogi’r cais, dywedodd Mr. Rhys Davies, CDN Planning Wales Ltd fod tri asiant wedi eu penodi dros y blynyddoedd diwethaf i werthu’r fflatiau a bod arwydd ar y safle yn dweud yn glir bod y fflatiau ar werth i ddibenion ymddeol. Felly mae’r neges hon yn glir i bawb a bu'r pwywslais yn fawr ar werthu’r eiddo dros y tair blynedd diwethaf.  Roddwyd amod yn cyfyngu ar oed y preswylwyr i rai hyn na 55 am nad oedd y datblygiad, y pryd hwnnw, yn cydymffurfio gyda’r safonau parcio a oedd yn mynnu ar lefel sylfaenol ohonynt.  Prin bod yr un safle arall ym Môn yn fwy cynaliadwy na’r un hwn. Mae’n agos i orsaf y rheilffordd yn Llainfair-pwll ac mae gwasanaeth bws rhagorol gyferbyn â’r safle.  Yn y cyffiniau hefyd mae maes parcio cyhoeddus a chyfleusterau parcio ar y stryd.  Cyn gwneud unrhyw benderfyniad gofynnodd i’r aelodau gael golwg ar lythyr CDN Planning Wales yn y pecyn o lythyrau i’r cyfarfod, ac yn ymwneud â phenderfyniad apêl ar ddatblygiad sydd yr un ffunud â’r cais gerbron heddiw.  Caniatawyd yr apêl i ddileu amod 55 oed ar ddatblygiad 15 o fflatiau mewn pentref o’r un maint â Llanfair-pwll.  Yn yr achos hwnnw roedd 5 llecyn parcio i 15 o fflatiau.  Mae 10 o lecynnau parcio ar y safle presennol.  Cefnogwyd yr apel a dygwyd y canlyniad i sylw’r swyddogion.  Felly roedd am ofyn i’r aelodau ystyried y mater hwn neu ofyn i’r swyddogion eu harwain trwy’r mater.  Cafodd y fflatiau hyn eu marchnata dros gyfnod hir gyda’r cyfyngiad oed ond yn anffodus, ers dwy flynedd, ni werthwyd yr un fflat.  Hefyd cawsant eu hysbysebu yn y farchnad rentu ac yn y manylion marchnata dywedwyd eu bod ar gael i bobl dros 55 oed ond unwaith eto ni ddangoswyd fawr ddim diddordeb ynddynt.  Oni fydd yr amod hwn yn cael ei ddileu mae’n debyg y bydd y fflatiau hyn yn aros yn wag ac y mae hynny’n groes i strategaeth dai leol yr Awdurdod - yn honno dywedir yn glir iawn mai un o’r amcanion pennaf ydyw gostwng nifer y tai gweigion ar yr Ynys.  Os gwrthodir y cais bydd y fflatiau hynny sydd ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio gan gyplau ac unigolion ifanc unwaith eto yn wag.  Ar y naill law mae’r Cyngor yn ceisio annog perchnogion eiddo i wneud defnydd o’r eiddo a buasai gwrthod y cais yn groes i bolisi cyffredinol y Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod hwn yn gais i ddileu amod ar y caniatâd cynllunio - amod yn mynnu y bydd o leiaf un aelod o bob aelwyd yn 55 oed neu’n hyn.  Roedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cais a hynny oherwydd prinder cyfleusterau parcio.  Nid oedd yr Awdurdod Priffyrdd chwaith yn gefnogol i ddileu’r cyfyngiad oed am na chafodd ei argyhoeddi na fuasai cael gwared o amod yn arwain at broblemau ar y safle ac yn y cyffiniau agos.  Y rheswm am roddi’r amod ynghlwm yn y lle cyntaf oedd pryderon oherwydd prinder lle parcio ar y safle a’r perchennog ar y pryd a gynigiodd yr amod yn wirfoddol ac ef a gyflwynodd tystiolaeth o blaid cyflwyno’r amod.  Yn awr mae’r ddadl hon yn hollol groes i’r un wreiddiol a gyflwynwyd.  Dan y Canllawiau Cynllunio Atodol rhaid bodloni safonau sylfaenol i ddatblygiadau tai a hynny’n golygu bod yr Awdurdod Cynllunio am weld darpariaeth i hyd at 22 o lecynnau parcio ar y datblygiad hwn ar hyn o bryd, tra bo’r ddarpariaeth wirioneddol yn 10 ac nid yw’n ymddangos bod y llecynnau hyn wedi eu marcio ar y safle.  Yn gryno un rheswm yn unig a oedd dros roddi’r amod ynghlwm wrth y caniatâd - hwnnw oedd pryderon ynghylch prinder lle parcio a’r effaith y gâi hynny ar y preswylwyr ar y naill law ond hefyd ar y ffyrdd yng nghyffiniau’r safle hefyd.  Cred yr Adran Gynllunio bod y mesurau a gyflwynwyd yn effeithiol ac yn angenrheidiol i’r datblygiad hwn.  Yn yr adroddiad ysgrifenedig cyfeirir at wrthwynebiadau i unrhyw fwriad i ddileu’r amod a hynny’n seiliedig ar swn a styrbans i breswylwyr y fflatiau ond nid yw’r argymhelliad i wrthod yn seiliedig ar hynny - yn hytrach mae’n seiliedig ar yr effaith andwyol ar y preswylwyr ac ar y cyffiniau petai’r amod cyfyngiad oed yn cael ei ddileu.  Petai’r cais yn cael ei wrthod yna mae’r ymgeisydd yn rhydd i apelio.

 

      

 

      

 

      

 

     Fel yr aelod lleol dywedodd y Cynghorydd J. P. Williams bod y mater hwn wedi peri cryn bryder.  Mae’r dystiolaeth a gyflwynir o blaid y cais i gyfyngu’r amod cyfyngiad oed yn gwrthddweud y dystiolaeth honno a gyflwynwyd o blaid yn y lle cyntaf.  Yn y pentref mae cartref enghreifftiol gan yr un datblygwr ond nid oes unrhyw gyhoeddusrwydd i’r fflatiau a chafodd y rheini eu marchnata fel fflatiau myfyrwyr a hynny cyn cael caniatâd i ddileu’r amod cyfyngiad oed ac yn groes i’r hyn y gofynnwyd amdano yn y lle cyntaf.  Y broblem fawr yw parcio ac ar rai nosweithiau mae’r ceir yn cael eu parcio ar draws y fynedfa i’r fflatiau.  O ran y safle ei hun hanner ffordd i’r chwith mae llinellau igam-ogam, mae yno faes parcio gyda pharcio am gyfnodau yn unig, mae stop bysus gerllaw a thraffig trwm o gwmpas yr ysgol gynradd.  Felly o ran parcio mae gwir bwysau.  Y rhain yw’r pwyntiau a gyflwynwyd i’r aelod lleol ac roedd y Cyngor Cymuned yn flin oherwydd y cais.  O ran marchnata ni fedrai gofio gweld yr un arwydd ar werth ar y fflatiau hyn ers tro byd.

 

      

 

     Ond roedd y Cynghorydd W. J. Chorlton yn tybio na ddylid rhoddi amod ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio os ydyw’r amod hwnnw yn afresymol a bod angen gofyn - a ydyw’r amod cyfyngiad oed yn rhesymol yn y lle cyntaf.  Ei hun roedd ganddo amheuon ynghylch yr egwyddor o gyplysu gofynion oed ac anghenion parcio gan nad oedd peth o’r fath yn gwneud synnwyr iddo ef.  Roedd yn dal i fod yn ansicr ai hwn oedd y cyfeiriad iawn i’w gymryd.  Dywedodd y Cynghorydd O. Glyn Jones iddo edrych yn ofalus iawn ar y polisiau cynllunio perthnasol a’r unig beth y gallai ei wneud oedd argymell yr adroddiad a'r argymhelliad ynddo i wrthod.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. L. Owen.

 

      

 

     Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

      

 

     (Roedd y Cynghorydd W. J. Chorlton yn dymuno cofnodi na chymerodd ran yn y pleidleisio ar y cais).

 

      

 

      

 

11.6

40C292A - Cais llawn i godi annedd a darparu mynedfa newydd ar dir ger Manora, Moelfre

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cais yw hwn am annedd mewn llecyn uchel, ac yn llenwi bwlch y tu mewn i ffiniau’r pentref.  Yn agos iawn tua’r cefn a’r gogledd mae tai eraill.  Mae’r cais yn un a gafodd ei gyflwyno o’r blaen dan y rhif 40C292 ac a wrthodwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio yn Ionawr 2010. Fel a ddisgrifiwyd yng nghorff yr adroddiad mae’r dyluniad wedi ei newid yn sylweddol.  Yr ystyriaeth allweddol yma yw effaith unrhyw ddatblygiad arfaethedig ar gymeriad yr ardal a’i phleserau.

 

      

 

     Ar ôl trafodaethau gyda’r swyddogion yng nghyswllt lleoliad, dyluniad, gwedd allanol a defnyddiau mae’r annedd arfaethedig wedi ei symud i ran isaf safle’r cais a’r dyluniad bellach yn un dwy elfen ar ddwy lefel gan wneud y datblygiad yn llai amlwg ar y safle uchel hwn.  Hefyd ar y llawr isaf bwriedir defnyddio gwaith cerrig naturiol a bydd hynny yn creu amrywiaeth i wedd yr annedd.  Yn y datganiad ar fynedfa ddynodedig mae cyfosodiad  o ffotograffau sy’n dychmygu sut bydd y cynnig yn edrych ar y safle ac argymhellwyd bod yr aelodau yn cael golwg ar y cyflun hwn a’i gymharu gyda’r cynlluniau dan y cais blaenorol a wrthodwyd gan y Pwyllgor Cynllunio.  Bellach roedd y swyddogion o’r farn bod y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r polisiau hynny a restrir yn Adran Prif Ystyriaethau Cynllunio yr adroddiad.

 

      

 

     Yng nghyswllt yr effaith ar bleserau gwrthodwyd cais cynllunio rhif 40C292 oherwydd effaith annerbyniol hwnnw ar yr olygfa o brif ddrychiad ty o’r enw Gorffwysfa - a hynny oherwydd bod y datblygiad dan sylw yma yn agos iawn i Gorffwysfa ac oherwydd ei faint a hynny’n groes i ddarpariaethau Polisi 1 Cynllun Lleol Ynys Môn, i Bolisi GP1 Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn a Stopiwyd ac yn groes i baragraff 4.1.7 Polisi Cynllunio Cymru (2002).  Wrth sylwi ar ddrychiadau’r cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais sydd hefyd yn dangos Gorffwysfa gwelir bod lleoliad newydd yr annedd arfaethedig a’r defnydd a wneir o estyniad unllawr gyda tho ar oleddf ysgafn yn lliniaru effaith y datblygiad i lefel dderbyniol.

 

      

 

      

 

     Mae safle’r cais mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriedig dan ddarpariaethau Polisi 40 Cynllun Lleol Ynys Môn a than Bolisiau EN1 ac EN2 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd i Ynys Môn.  Ni chredir bod y datblygiad hwn yn mynd i gael effaith annerbyniol ar gymeriad nac ar wedd y dynodiad tirweddol hwn.  Roedd coeden ar safle’r cais a honno bellach wedi ei chadeirio neu roedd y darnau uchaf wedi eu torri adeg trefnu’r ymweliad â’r safle; eglurwyd bod y goeden dan sylw wedi cael ei hasesu a thybiwyd nad oedd hi werth ei diogelu.  Roedd lleoliad a dyluniad diwygiedig y datblygiad hwn yn gwneud y cais yn dderbyniol gydag amodau a’r argymhelliad oedd caniatáu.

 

      

 

     Dywedwyd bod yr aelod lleol wedi ymddiheuro am fethu â dod i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio ond fel a nodwyd yn yr adroddiad credai’r aelod lleol bod y sylwadau gwreiddiol a gyflwynwyd mewn gwrthwynebiad yn dal i fod yn ddilys.  Teimlai’r Cynghorwyr Hefin Thomas a Selwyn Williams bod y ffordd yn gul iawn ac roedd ganddynt amheuon a oedd y datblygiad yn addas.  Felly gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Selwyn Williams.  Cynigiodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

      

 

     Dyma fel y bu’r bleidlais -

 

      

 

     Gwrthod y cais - Y Cynghorwyr H. W. Thomas, Selwyn Williams, W. J. Chorlton a W. T. Hughes.

 

      

 

     Caniatau’r cais - Y Cynghorwyr Jim Evans, O. Glyn Jones, Thomas Jones, Eric Roberts, Lewis Davies, E. G. Davies a J. Arwel Roberts.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad ynddo i ganiatau gyda’r amodau ynddo.

 

      

 

      

 

11.7

41LPA915/CC - Codi adeilad amaethyddol yn Gwyndy, Penmynydd

 

      

 

     Roedd safle’r tir hwn yn perthyn i’r Cyngor Sir a’r bwriad yma oedd codi sied amaethyddol i gadw anifeiliaid, gwellt, a bwyd.  Mae’r safle ym mhlwyf Penmynydd a ger ffordd y B5420.  Mae Gwyndy, enw’r eiddo, ar uned amaethyddol, sied foch a beudai a’r cyfan ar y rhestr statudol o adeiladau rhestredig.  Symudwyd lleoliad y sied oherwydd pryderon a fynegwyd gan yr Adain Amgylchedd Adeiledig ynghylch effaith y datblygiad ar yr adeiladau rhestredig eraill ar y safle.  Bellach cafwyd cadarnhad ar lafar bod y cynllun yn dderbyniol o ran gosodiad yng nghyd-destun yr Adeiladau Rhestredig.

 

      

 

     Symudwyd y sied amaethyddol oherwydd effaith honno ar gyd-destun yr Adeiladau Rhestredig ar y safle.  Mae’r lleoliad newydd i’r chwith o Gwyndy ac felly nid yw’r sied amaethyddol yn amharu ar yr adeiladau rhestredig. Ar yr adeilad arfaethedig bwriedir gosod gorchudd proffil siap bocs o liw gwyrdd a fydd yn gweddu i’r tirlun o gwmpas.  Y mae’r lleoliad bellach yn dderbyniol oherwydd mae’n ymddangos fel petai ynghlwm wrth yr adeiladau eraill - gynt roedd yn ymddangos fel petai ar ben ei hun.  I gloi mae’r egwyddor o ddatblygu i ddibenion amaethyddol yn dderbyniol dan y polisiau cynllunio lleol a chenedlaethol.  Credir bod lleoliad y sied arfaethedig yn dderbyniol ac ni fydd yn niweidio cymeriad yr adeiladau rhestredig ac felly argymhellwyd caniatáu.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad ynddo i ganiatau ond gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

11.8

  46C263H/EIA - Cynlluniau llawn i godi 51 o gabanau coed a godir fesul 5 cam a darparu man croesawu, a chau'r fynedfa bresennol o Ffordd Ravenspoint a darparu mynedfa newydd i gerbydau ac i gerddwyr o Lôn St. Ffraid ar dir ger maes carafannau Ty’n Towyn, Trearddur.

 

      

 

      

 

      

 

     (Cafwyd datganiadau o ddiddordeb yn y cais hwn gan y Cynghorwyr Eric Roberts a Selwyn Williams a gadawodd y ddau y cyfarfod am y drafodaeth).

 

      

 

     Ar ran y Cynghorydd Eric Roberts, yr aelod lleol, gofynnodd y Cynghorydd G. O. Parry MBE i’r aelodau ymweld â’r safle a hynny oherwydd maint y datblygiad a phryderon ynghylch mynediad i’r safle.  

 

      

 

     Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

      

 

12     MATERION ERAILL

 

      

 

12.1

11LPA101G/1/LB/CC - Caniatâd Adeilad Rhestredig i wneud gwaith altro y tu mewn i Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

 

      

 

     (Gwnaeth y Chynghorydd Thomas Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol am y drafodaeth nac am y pleidleisio).

 

      

 

     Gofynnwyd i’r aelodau nodi y bydd y cais uchod yn cael ei yrru ymlaen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu arno yn unol a Rheoliad 13 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.

 

      

 

12.2

19LPA922/CC - Codi estyniad yng nghefn yr eiddo a darparu llecyn caled yn y ffrynt ac addasu’r fynedfa yn 20 Tan yr Efail, Caergybi.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i gyfarfod y Pwyllgor ar 3 Mawrth 2010 ond holwyd yn ystod y cyfarfod hwnnw a oedd y cais wedi’i dynnu’n ôl.  Ar yr adeg benodol honno nid oedd y cais wedi’i dynnu’n ôl ond - ers y cyfarfod hwnnw - mae wedi ei dynnu’n ôl.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.

 

      

 

12.3

47C128 - Addasu’r adeilad allanol i greu estyniad i’r ty a darparu tanc septig y tu allan i libart Aber Sant, Llantrisant

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i un sy’n gweithio yn Adain Rheoli Cynllunio yr Adran Gynllunio.  Cafodd y Swyddog Monitro olwg ar y cais yn unol â darpariaethau paragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.  Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar 16 Ragfyr 2009 i newid defnydd o’r adeilad allanol gyda golwg ar ddarparu estyniad.  Ond yn awr roedd yr ymgeisydd yn gofyn am wneud mân newidiadau i’r cynllun cydnabyddedig.  Yn ystod y cyfnod adeiladu canfuwyd nad oedd y sylfeini’n ddigon dwfn a chafodd yr ymgeiswyr eu cynghori gan Arolygydd Adeiladu’r Cyngor i ailgodi rhan o’r waliau a defnyddio blociau newydd canol gwag.  Credir bod y diwygiadau arfaethedig yn dderbyniol ac argymhellir derbyn y cais.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad o ganiatau.

 

      

 

      

 

13     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ar benderfyniadau a wnaed ar geisiadau a ddirprwywyd ers cyfarfod cynt y Pwyllgor.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

14     APELIADAU

 

      

 

     Roedd copiau o grynodeb o’r penderfyniadau gan yr Arolygydd Cynllunio ar yr apeliadau canlynol yn cael eu cyflwyno a’u nodi -

 

      

 

14.1

APP/168P5/A/09/2116470 - Tir ger Capel Babell rhwng Maenaddwyn a Bryn-teg, ger Bryn-teg, Ynys Môn - gwrthodwyd yr apêl.

 

14.2

APP/L6805/A/09/2115227 - Tir ger Plas y Coed, Llangristiolus, Ynys Môn LL62 5DL - Gwrthodwyd yr apêl.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Cynghorydd Kenneth Hughes

 

Cadeirydd