Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 7 Mai 2003

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 7fed Mai, 2003

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 7 Mai 2003 

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R.Ll. Hughes, Cadeirydd.

Y Cynghorydd J. Arwel Edwards, Is-Gadeirydd.

 

Y Cynghorwyr P.M. Fowlie, Fflur M. Hughes, T.Ll. Hughes,

W. Emyr Jones, R.L. Owen, G.O. Parry MBE, Gwyn Roberts, John Roberts, J. Arwel Roberts, W.T. Roberts, Hefin Thomas, W.J. Williams.

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Eurfryn Davies fel aelod lleol yng nghyswllt ceisiadau 17C122G a 17C338 dan eitemau 5.1 a 5.2

Y Cynghorydd Richard Jones OBE fel aelod lleol yng nghyswllt cais rhif 38C13C dan eitem 5.3

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio (JW)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)
Cynorthwywr Cynllunio (CR)

 

Priffyrdd:

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) (RE)

Swyddog Chwiliadau a Chofnodiadau (AJ)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr D.D. Evans, Dr. J.B. Hughes, O. Gwyn Jones,

R.J. Jones.

 

Rhoes y Cadeirydd newydd ei groeso i bawb ac yn arbennig i'r ddau aelod newydd yn eu cyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - y Cynghorwyr G.O. Parry MBE a W.J. Williams.  Wedyn llongyfarchodd Hefin Thomas y cyn Gadeirydd ar ei gyfraniad gwerthfawr i'r Pwyllgor yn y gorffennol.

 

Cyn agor y cyfarfod pwysleisiodd rhai aelodau bwysigrwydd derbyn sylwadau mewn da bryd yng nghyswllt ceisiadau cynllunio.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

Cafodd y datganiadau o ddiddordeb a wnaed gan Aelodau a Swyddogion eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion cyfarfodydd o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar

 

2.1

2 Ebrill, 2003(Cyfrol y Cyngor 6 Mai, 2003, tud 92 - 102).

 

2.2

6 Mai, 2003(Tudalen 20 y Gyfrol hon).

 

RHAN I  -  MATERION CYNLLUNIO

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr Ymweliadau Cynllunio â Safleoedd a drefnwyd ar gyfer 16 Ebrill, 2003 wedi eu gohirio tan 21 Mai, 2003.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

 

4

CAIS YN CODI O'R COFNODION :

 

 

 

4.1

40C184B - GLYNU WRTH Y DEFNYDD O'R TIR AC O'R ADEILADAU FEL PARC FFERM YM MHARC FFERM LLUGWY, TRAETH LLUGWY, DULAS

 

Ar gais y Rheolwr Rheoli Cynllunio PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais uchod tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i aelodau'r Pwyllgor ymweld â'r safle.  

 

 

 

5

CEISIADAU'N GWYRO

 

 

 

5.1

17C122G - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHODI GAREJ DDWBL BREIFAT AR WAHÂN AR DIR YN ISCOED, LLANDEGFAN

 

Ymddiheurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am gyflwyno'r cais hwn ar y rhaglen fel cais yn gwyro, yn groes i'r hyn a ddywedwyd yn adroddiad y swyddog gan mai rhan yn unig o'r safle sydd y tu allan i ffiniau'r pentref.  Nid yw'r bwriad yn ymwthio'n annerbyniol i'r cefn gwlad agored gan greu cynsail o ragor o ddatblygiadau ac ni fuasai'n amharu ar wedd yr ardal hon sy'n Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  

 

 

 

Sefydlwyd yr egwyddor o osod dwy annedd ar y safle yn y lle hwn pan roddwyd caniatâd cynllunio i ddwy annedd dan y rhif 17C122C ar 4 Mawrth, 1992.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai Polisi D1 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisïau 49, 30 a 42 Cynllun Lleol Ynys Môn oedd y polisïau cynllunio perthnasol i'w hystyried wrth gwblhau'r adroddiad.

 

 

 

Yma nodwyd fod y Cyngor Cymuned wedi cyflwyno gwrthwynebiad a rhagor o lythyrau wedi dod i law yn gwrthwynebu mewn ymateb i'r cyhoeddusrwydd a roddwyd i'r bwriad a chyflwynwyd y llythyrau hyn yn y cyfarfod.  Roedd yr annedd arfaethedig o faint cyffelyb i rai eraill yn yr ardal.  

 

 

 

Wedyn cafwyd anerchiad gan y Cynghorydd Eurfryn Davies, yr aelod lleol, a ddywedodd na fuasai annedd yn dderbyniol ar y safle am nad oedd yno ddigon o le i annedd ychwanegol y tu mewn i'r ffiniau datblygu.  Roedd y datblygwr wedi prynu rhagor o dir a hwnnw'n ymwthio i gae amaethyddol ac ychwanegodd y Cynghorydd y buasai rhoddi caniatâd i'r cais yn sefydlu cynsail.  

 

 

 

Llifogydd oedd pryderon y Cynghorydd R.L. Owen oherwydd y bwriad i newid cyfeiriad y nant.  Yn ei ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi mynegi pryder o gwbl yng nghyswllt hyn.  

 

 

 

Mewn ymateb i ymholiad y Cynghorydd Tecwyn Roberts dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y datblygwr eisoes wedi gwneud cytundeb cyfreithiol i sicrhau gwelededd digonol yn y fynedfa i'r safle.

 

 

 

Teimlai'r Cynghorydd Hefin Thomas y buasai'r bwriad yn ymwthio i Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.

 

 

 

Wedyn cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Emyr Jones i ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais uchod cyn gwneud penderfyniad arno.   

 

 

 

5.2

17C338 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD UNLLAWR A DYMCHWEL ADEILAD YN MHLAS LODGE, HEN LANDEGFAN

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cais amlinellol oedd hwn i ddymchwel adeilad a chodi annedd newydd yn ei le gan ychwanegu bod y Polisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisïau 53 a 54 Cynllun Lleol Môn yn berthnasol wrth ystyried a pharatoi'r adroddiad.

 

 

 

Dan Bolisi 54 Cynllun Lleol Ynys Môn mae modd codi annedd newydd yn lle hen annedd barhaol pan fo modd dangos bod yr annedd newydd yn gwella gwedd yr ardal yn sylweddol.  Oherwydd cyflwr yr eiddo a'r cyfnod y bu'n wag ac oherwydd nad oedd gwybodaeth ar gael i egluro pam fod yr adeilad wedi'i adael yn wag a'r defnydd preswyl wedi'i roddi o'r neilltu, roedd y swyddogion o'r farn nad oedd y bwriad felly yn dderbyniol dan Bolisi 54 heb dystiolaeth i ddangos bod gan yr adeilad ddefnydd preswyl cyfreithlon.  Dan Bolisi 53 nid oedd yr egwyddor o ddatblygu safle i ddibenion preswyl yn y lle hwn yn y cefn gwlad yn dderbyniol.  

 

 

 

Rhoddwyd sylw i nifer o ffactorau gan gynnwys cyflwr gweddillion yr adeilad, y defnydd neu'r defnyddiau eraill ers rhoddi'r defnydd preswyl o'r neilltu a bwriad y perchennog.  Credwyd bod y safle wedi ei adael o safbwynt cynllunio ac nid oedd modd ystyried y bwriad hwn fel bwriad i godi annedd newydd yn lle hen un.

 

 

 

Cafodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Eurfryn Davies, gyfle i annerch y cyfarfod a dywedodd bod y safle wedi'i fandaleiddio ac mewn cyflwr drwg ac y buasai'r bwriad hwn yn gwella gwedd y lle.  Cytuno gyda'r aelod lleol a wnaeth y Cynghorydd R.L. Owen.

 

 

 

Yma gwelai'r Cynghorydd John Roberts gyfle i godi annedd newydd yn lle adfeilion blêr a chyfle i wella'r safle.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd R.L. Owen roddi caniatâd i'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.  

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gwyn Roberts dderbyn argymhellion y swyddog i wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr Trevor Hughes a W.J. Williams.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

5.3

38C13C - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO I BERSON METHEDIG AC ALTRO'R FYNEDFA AR RAN O GAE ORDNANS 0593 GER RHOSYN Y MYNYDD, MYNYDD MECHELL

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod safle'r cais ar dir amaethyddol yn y cefn gwlad; gwrthodwyd caniatâd cynllunio ar y safle hwn ar 16 Ionawr, 2001 a gwrthodwyd Apêl gan Swyddfa'r Arolygwyr Cynllunio ar 27 Mehefin, 2001.

 

 

 

Aeth y Swyddog Cynllunio yn ei flaen i ddweud mai'r Polisïau cynllunio perthnasol a ystyriwyd yn y cyd-destun hwn oedd Polisïau A2 a D3 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisïau 31, 50 a 53 Cynllun Lleol Ynys Môn. Roedd angen ystyried y cais yn ôl meini prawf defnydd tir, nid yn ôl anghenion personol.

 

 

 

Er bod Mynydd Mechell wedi'i nodi fel treflan wledig a chlwstwr yn y fersiwn ymgynghorol o Gynllun Datblygu Unedol Ynys Môn dan Bolisi HP5 a hynny'n caniatáu datblygu plotiau sengl mewn bylchau neu ar safleoedd derbyniol eraill union ger rhannau datblygedig y dreflan.   Ar hyn o bryd mae dau wrthwynebiad i'r Polisi hwn - rhai heb gael sylw eto - a buasai rhoddi caniatâd yn rhagfarnu canlyniadau proses y Cynllun Datblygu Unedol.

 

 

 

Fel aelod lleol anerchodd y Cynghorydd Richard Jones y cyfarfod gan ddweud mai cais i lenwi bwlch oedd hwn y tu mewn i glwstwr o ddatblygiadau eraill ac nad oedd yn cyfateb i ddatblygiad rhubanaidd a bod yr ymgeisydd hefyd wedi dangos bod yma angen arbennig.  

 

 

 

Cytuno gyda'r aelod lleol a wnaeth y Cynghorydd Gwyn Roberts gan ddweud fod yma anghenion eithriadol glir - rhai a gefnogwyd gan dystiolaeth broffesiynol a chynigiodd roddi caniatâd i'r cais; cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.  

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd y Swyddog Cynllunio nad oedd amgylchiadau eithriadol yn berthnasol yn yr achos hwn ond roedd amgylchiadau o'r fath yn berthnasol i swydd mewn amaethyddiaeth neu mewn coedwigaeth.   Nid oedd y cynllun datblygu unedol presennol yn cydnabod yr ardal hon fel treflan.  

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Trevor Hughes yn cydymdeimlo gyda'r ymgeiswyr ond yn teimlo bod angen ystyried y cais yn ôl meini prawf defnydd tir.

 

 

 

Nodwyd bod llythyrau yn gwrthwynebu wedi eu derbyn a chyflwynwyd y rheini yn y cyfarfod.  

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Goronwy Parry dderbyn argymhelliad y swyddog i wrthod ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Fowlie.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Wedyn gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas am adolygu'r polisïau presennol yng nghyswllt ymweliadau cynllunio a safleoedd pan fo ceisiadau'n tynnu'n groes.  

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd y Cyfreithiwr bod y gweithdrefnau cynllunio yn cael eu hadolygu.

 

 

 

Wedyn dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno ar y pwnc i'r Cyngor Sir yn y man.

 

 

 

6

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

6.1

15C12C - GLYNU WRTH DDWY UNED BRESWYL YN LLE UNED WYLIAU A GAFODD GANIATÂD GAN Y RHIF CYNLLUNIO 15C12B YN NHY PIGYN, MALLTRAETH

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais hwn gael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor oherwydd bod un o Swyddogion yr Adran Gynllunio yn denant i'r ymgeisydd.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y Swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.  

 

 

 

6.2

19C484J/DA - CYNLLUNIAU MANWL I GODI MARINA, ADEILAD RHEOLI GWEITHGAREDDAU, SIOP GWERTHU OFFER HWYLIO, CAFFI A 26 O FFLATIAU YNGHYD AG ADEILADU MYNEDFA NEWYDD YM MARINA, CAERGYBI, DEPO TRINITY HOUSE, TRAETH Y NEWRY, CAERGYBI

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn cael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor oherwydd natur a maint y cynllun.  

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Trevor Hughes yn dymuno cofnodi nad oedd yn cefnogi'r bwriad.

 

    

 

6.3

21C118 - TROI HEN GAPEL YN ANNEDD A GWNEUD GWAITH ALTRO I'R FYNEDFA YNG NGHAPEL PRESWYLFA, LLANDDANIEL

 

Trosglwyddwyd y cais uchod i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan un o weithwyr y Cyngor.  Datganodd Meirion Jones o'r Adain Gyfreithiol ddiddordeb yn y cais.

 

 

 

Mewn ymateb i ymholiad y Cynghorydd John Roberts ynghylch darparu digon o lecynnau parcio a gwelededd digonol yn y fynedfa dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod ymateb yr asiant wedi'i gynnwys yn y bwndel o lythyrau.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

   

 

6.4

31LPA20C/CC - ALTRO AC YMESTYN CARTREF PRESWYL PLAS MONA, LLANFAIRPWLL

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Richard Eames o'r Adran Briffyrdd yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod trafodaeth ar y cais a phleidleisio arno.

 

 

 

Trosglwyddwyd y cais i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Cludiant ac Eiddo) yng nghyswllt un o gartrefi preswyl y Cyngor ei hun.   

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd eglurhad nad cais i ychwanegu at welyau oedd hwn ond cais i wella safon y gofal.  Paratowyd y cynllun gyda'r bwriad o gael yr effaith leiaf bosib ar bleserau tai cyffiniol.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

6.5

34C171A - ALTRO AC YMESTYN BRO AWEL, LLANGEFNI

 

     Trosglwyddwyd y cais uchod i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan un o weithwyr y Cyngor a chafwyd datganiad o ddiddordeb ynddo gan Marc Jones o'r Adain Archwilio.  Hefyd cafwyd datganiad o ddiddordeb ynddo gan Ruth Jones, Oriel Môn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

6.6

37LPA598B/CC - CAIS AMLINELLOL I GODI DWY ANNEDD AR DIR PLOTIAU 2 A 3, TRE FENAI, BRYNSIENCYN

 

     Trosglwyddwyd y cais uchod i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Cludiant ac Eiddo) ac yn ymwneud â thir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.  

 

      

 

6.7

44C208 - CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL ANNEDD ADFEILIEDIG A CHODI ANNEDD NEWYDD YN Y LLE A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YM MHLAS LLANDYFRYDOG, LLANNERCH-Y-MEDD

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y dylai'r cais hwn fod wedi ymddangos ar y ceisiadau oedd yn gwyro - nid fel a nodwyd yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn groes i Bolisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn (tai yn y cefn gwlad agored); hefyd rhoddwyd sylw i'r polisïau perthnasol eraill - polisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pharagraffau 9.3.6, 9.3.7, 9.3.9 a 9.3.10 Polisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2002).  Dyma a ddywed Nodyn Cyngor Technegol 6, Datblygiadau Gwledig Amaethyddol (Mehefin 2002) "new permanent dwellings should only be allowed to support existing agricultural activities on well established agricultural units; providing ..... the unit and the agricultural activity concerned have been established for at least 3 years, have been profitable for at least 1 of them"; yng nghyd-destun TAN 6, teimlai bod y cais wedi'i gyflwyno cyn pryd am nad yw'r daliad yn bod ar hyn o bryd.

 

      

 

     Yma dywedodd y Cynghorydd Gwyn Roberts, bod y busnes teulu a llwyddiannus hwn wedi'i sefydlu rhyw 50 mlynedd yn ôl a bod y cais yn cydymffurfio gyda meini prawf "amgylchiadau eithriadol" a chan hynny cynigiodd ei ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Fowlie.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Fflur Hughes yn amau a oedd tystiolaeth gefnogol wedi'i chyflwyno ai peidio i gadarnhau bod yr amgylchiadau yn eithriadol.  

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Emyr Jones oedd atgoffa aelodau bod raid delio gyda'r ffeithiau fel y cawsant eu cyflwyno i'r Pwyllgor a hefyd anelu at gysondeb yn y penderfyniadau.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Goronwy Parry dderbyn argymhelliad y swyddog o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Fflur Hughes.

 

      

 

     Gwrthododd y Cadeirydd gais y Cynghorydd E. Schofield am gael annerch y Pwyllgor am nad ef oedd yr aelod lleol yn ôl diffiniad y Rheolau Gweithdrefn Cynllunio yn y Cyfansoddiad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Yma gofynnodd y Cynghorydd Gwyn Roberts am gofnodi nad oedd wedi pleidleisio ar y cais 

 

     tra bod y Cynghorydd Goronwy Parry am gofnodi iddo adael y cyfarfod ar yr adeg benodol hon.

 

      

 

7     GYRRU'R WASG A'R CYHOEDD ALLAN

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd R.Ll. Hughes a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ac ni phleidleisiodd ar y mater.  Cymerwyd y Gadair gan y Cynghorydd J.A. Edwards.

 

      

 

     Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, PENDERFYNWYD cau y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar atodiadau 3 a 4 yr Adroddiad ar Safle Carafanau Plas Uchaf oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth eithriedig ei datgelu yn ôl diffiniad paragraff 12(b) (yng nghyswllt Atodiad 3) a pharagraff 13(b) (yng nghyswllt Atodiad 4) Rhan 1 Rhestr 12A y Ddeddf uchod.

 

      

 

8     TYSTYSGRIF DEFNYDD CYFREITHLON - SAFLE CARAFANAU PLAS UCHAF, LLANFAIR MATHAFARN EITHAF

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd R.Ll. Hughes a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ac ni phleidleisiodd ar y mater.  Cymerwyd y Gadair gan y Cynghorydd J.A. Edwards.

 

      

 

     Cafwyd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ar y mater a dywedodd fod Tystysgrif Defnydd Cyfreithlon wedi'i rhoddi yn 1995 i osod 30 o garafanau gwyliau teithiol ac 20 o bebyll ar ran o gae ordnans 7933 a gosod un garafan sefydlog ar ran o gae ordnans 7943.  Penderfyniad oedd hwn a wnaed ar ôl ystyried tystiolaeth gan  yr ymgeiswyr, gwrthdystiolaeth gwrthwynebwyr, ffotograff o'r awyr a hanes cynllunio'r safle.

 

      

 

     Cafodd y penderfyniad hwn ei herio gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig a chafwyd gan y corff hwnnw dystiolaeth newydd gan breswylwyr lleol , tystiolaeth ffotograffig ac arolygon o safleoedd carafanau.  

 

      

 

     Ar ôl i Gwnsler Cyfreithiol a Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y Cyngor ystyried y dystiolaeth newydd gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried a oedd tystiolaeth ddi-sail wedi'i chyflwyno ac os felly a oedd hi'n ddi-sail mewn manylyn sylweddol.  

 

      

 

     Wedyn eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio nad swyddogaeth y Pwyllgor oedd ystyried y cais o'r newydd ond penderfynu a oedd y deunydd ychwanegol gerbron yn dystiolaeth glir, ar falans tebygolrwydd, fod datganiad neu ddatganiadau y dibynnwyd arnynt wrth roddi'r dystysgrif wreiddiol yn ddi-sail mewn "manylyn sylweddol".                

 

      

 

     Yn unol ag argymhelliad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio PENDERFYNWYD gwrthod dileu'r dystysgrif defnydd cyfreithlon am y rhesymau a ganlyn:  

 

      

 

8.1

bod y dystiolaeth a gyflwynwyd dan lw gan 33 o ddefnyddwyr y safle yn cadarnhau bod y cae wedi bod yn o leiaf 50% llawn o garafanau am gyfnodau hwy na deng mlynedd cyn cyflwyno'r cais gwreiddiol;

 

8.2

nad oedd y dystiolaeth a gyflwynwyd dan lw gan Mr. Edwards a Mr. Roberts, yn seiliedig ar wybodaeth gyson a manwl dros gyfnod hir o amser, yn ddigon i danseilio tystiolaeth dan lw gan 33 o ddefnyddwyr y safle ac roedd y dystiolaeth yn groes i'r graddau y manylwyd arnynt yn Atodiad 4 adroddiad y swyddog;

 

8.3

nad oedd y ddibyniaeth ar ffotograff 1982 o'r awyr yn cael ei herio gan ffotograffau dilynol;

 

8.4

nad oedd dim o'r dystiolaeth ddiweddar yn awgrymu y dylid rhoddi unrhyw bwysau ar yr arolygon safleoedd carafanau.

 

        

 

9     DIRPRWYO CEISIADAU

 

     Cyflwynwyd a nodwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar y penderfyniadau a wnaed yng nghyswllt materion a ddirprwywyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod cais cynllunio 46C161G - Parc Carafanau Bagnol, Trearddur (ar dudalen 10) - wedi'i wrthod yn groes i'r hyn a nodwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

     Yng nghyswllt cais rhif 30C509 - Gorsaf Dân Benllech - gofynnodd y Cynghorydd J.A. Roberts am nodi ei fod yn aelod o'r Awdurdod Tân.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

      

 

         

 

10     APELIADAU CYNLLUNIO - ADRAN 78 - DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

 

     Cyflwynwyd yr adroddiadau a ganlyn gan yr Arolygwr a benodwyd gan y Cynulliad yng nghyswllt yr apeliadau isod a gafodd eu gwrthod:

 

      

 

10.1

 

10.1

1/11/C392A - Troi adeilad allanol yn annedd a gosod tanc septig newydd ym Mhenciw, Rhos-goch.

 

10.2

1/46/C348A - Cais cynllunio amlinellol i godi byngalo a garej breifat ar dir union ger Bracken Ridge, Trearddur.

 

10.3

1/39/C/339 - cais cynllunio amlinellol i godi annedd newydd a darparu mynedfa newydd ar dir union ger Ael y Bryn, Porthaethwy.                                                                                                   

 

10.3

 

10.3

 

10.3

 

10.3

 

10.4

1/21/C/60M - cais cynllunio amlinellol i godi annedd a darparu mynedfa newydd i'r briffordd ar Blot 7, Plas Hen, Llanddaniel.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiadau.

 

 

 

11    

 

11     CEISIADAU'N DISGWYL SYLW - CYTUNDEBAU ADRAN 106

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Pennaeth Rheoli Datblygu yn dweud bod y ceisiadau a ganlyn, rhai y rhoes y Pwyllgor ganiatâd iddynt dan Gytundeb Adran 106, wedi'u tynnu'n ôl yn ffurfiol:

 

      

 

11.1

1/11/C/114B - estyniad ar gwrtil iard adeiladu er mwyn creu llecyn storio a maes parcio i gwsmeriaid yn MBS Building, Stad Ddiwydiannol, Amlwch - caniatawyd 23/04/1991 (tynnwyd yn ôl 31/03/2003).

 

11.2

1/19LPA/696CC - Caniatâd Adeilad Rhestredig i ddymchwel Plas Alltran, Caergybi - caniatawyd 19/12/1995 (tynnwyd yn ôl 31/03/2003).

 

11.3

1/19/C374B - codi uned ddiwydiannol a chreu ffordd fynediad a chyfleusterau parcio ar dir ger Ffordd Turkey Shore, Caergybi - caniatawyd 04/07/1996 (tynnwyd yn ôl 02/04/2003).

 

11.4

1/25/C/80A - cynlluniau diwygiedig i godi tai ym Morfa, Llannerch-y-medd - caniatawyd 04/03/1992 (tynnwyd yn ôl 09/04/2003).

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben ar 4.00 p.m.

 

 

 

Y CYNGHORYDD ROBERT LL. HUGHES

 

CADEIRYDD