Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 7 Mehefin 2006

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 7fed Mehefin, 2006

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mehefin, 2006

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

Y Cynghorydd J Arthur Jones - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast (hyd at a chan gynnwys eitem 6.7

o’r cofnodion), Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie,

Denis Hadley, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen,

D Lewis-Roberts, John Roberts, W Tecwyn Roberts,

WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu

Rheolwr Rheoli Cynllunio 

 

Priffyrdd (mewn perthynas ag eitem 10.6):

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy)(JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd)(RE)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

YMDDIHEURIADAU:

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:  Y Cynghorwyr RLl Hughes - eitemau 6.7, 9.8,

WI Hughes - eitem 6.1, RLl Jones - eitemau 9.2, 9.3, TH Jones - eitem 6.8, RG Parry OBE - eitemau 6.2, 9.1, G Allan Roberts - eitemau 9.2, 9.3, G Winston Roberts OBE (fel Deilydd Portffolio - Economaidd) - eitem 6.6, H Noel Thomas - eitem 9.7,

Hefin Thomas - eitemau 6.9, 9.9, 10.8.  

 

Croesawyd y Cynghorydd WJ Williams MBE i’w gyfarfod cyntaf fel aelod o’r Pwyllgor hwn.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

   

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.  

 

3

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 3 Mai, 2006 (tudalennau  ) yn amodol ar newid y cofnod yn  eitem 9.2 - Rhandir, Llansadwrn (tud 12 o’r cofnodion - pedwerydd paragraff) -   ble y dywedir mai’r Cynghorydd PM Fowlie a eiliodd y cynnig i ganiatáu’r cais yn hytrach na’r Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

YN CODI O’R COFNODION:

 

 

Eitem 6.10 (tud 9 o’r cofnodion)  39C291K  - Stryd y Paced, Porthaethwy

 

Nodwyd fod gwaith yn mynd yn ei flaen mewn perthynas â’r uchod.  Cafwyd trafodaethau pellach rhwng yr asiantaethau, ac roedd swyddogion o’r farn fod y cynlluniau diwygiedig yn fwy derbyniol, a’r aelod lleol hefyd wedi ei gynnwys yn y trafodaethau hyn.

 

 

 

4

YMWELIADAU A SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd - adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd a gafwyd ar 17 Mai, 2006.

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

Doedd dim ceisiadau i’w gohirio.

 

 

 

 

 

6

CEISIADAU YN CODI O’R COFNODION

 

 

 

6.1

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

14C199  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIC AR DIR GER BYNGALO PARCIAU, TYN LON,  CAERGYBI

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd J Arthur Jones a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn ei gyfarfod ar 3 Mai penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu’r cais gan y teimlai’r aelodau fod yma amgylchiadau arbennig (plentyn gyda salwch).  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu’r cais.

 

 

 

Ailadroddodd y Cynghorydd WI Hughes yr hyn a ddywedodd eisoes yng nghyfarfod mis Mai fel y manylwyd arnynt yn y cofnodion; pwysleisiodd fod yma achos eithriadol a gofynnodd am gefnogaeth i’r cais.

 

 

 

Er bod y Pennaeth Rheoli Datblygu’n cydymdeimlo’n fawr gyda’r ymgeiswyr, roedd yr argymhelliad yn aros yn un o wrthod - roedd y cais yn amlwg yn groes i’r polisïau fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Dygodd y Cynghorydd WI Hughes sylw’r aelodau at y cynllun a natur y datblygiadau yn yr ardal - rhoddwyd caniatâd i Parciau, heb fod ymhell o’r safle, yn ystod y deunaw mis diwethaf.  Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod caniatâd wedi ei roddi i Parciau ar ôl cyflwyno pedwar neu bum cais ac roedd y penderfyniad hwnnw hefyd yn groes i’r polisïau ac yn sefydlu cynsail i geisiadau megis yr un hwn.

 

 

 

Yr oedd y Cynghorydd Glyn Jones yn cofio cynnig rhoddi caniatád i’r cais hwn yn y cyfarfod cynt am ei fod yn gytun ag un o amcanion y Strategaeth Gymunedol, sef “gwella ansawdd bywyd pobl Ynys Môn” a chynigiodd y dylid glynu wrth y penderfyniad cynt a chaniatáu’r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.  

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts am y diffiniad o “amgylchiadau” eithriadol” eglurodd y swyddog bod y rheini yn golygu anghenion coedwigaethol ne rai amaethyddol.

 

 

 

Pleidleisiodd y canlynol i lynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais:  Y Cynghorwyr:  Arwel Edwards, PM Fowlie, O Glyn Jones, Aled Morris Jones, RL Owen, W Tecwyn Roberts (6)

 

 

 

Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, Denis Hadley, D Lewis-Roberts, John Roberts, J Arwel Roberts, WJ Williams MBE (6)

 

 

 

Ymatal:  Y Cynghorydd Eurfyn Davies ac eglurodd na fedrai bleidleisio am na fu ar y safle.

 

 

 

 

 

Y bleidlais oedd 6 yr un ac wrth i’r Cadeirydd ddefnyddio’i bleidlais fwrw PENDERFYNWYD diddymu’r penderfyniad blaenorol a derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn am y rhesymau y manylwyd arnynt.

 

 

 

 

 

 

 

6.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

16C52A  CAIS LLAWN I ADNEWYDDU TY FFERM YNGHYD AG ADDASU AC EHANGU GONGL HELYG, CAPEL GWYN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â’r safle ar 19 Ebrill, 2006.  Ar 3 Mai penderfynwyd caniatáu’r cais gan y teimlai’r aelodau fod y cais hwn yn cydymffurfio â’r meini prawf ar gyfer addasiadau dan Bolisi 55 o Gynllun Lleol Ynys Mon. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu’r cais.  

 

 

 

Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd RG Parry oedd atgoffa’r aelodau o’r ymweliad â’r safle - yr “adeilad” y cyfeiriwyd ato yn y cais oedd y ffermdy gwreiddiol, nid y beudai.  Nid ychwanegid dim at uchder y grib, ond roedd yn derbyn bod maint yr estyniadau arfaethedig yn sylweddol yn yr achos hwn.  Roedd anheddau eraill yn yr ardal oedd wedi eu haltro ac roedd yr ymgeiswyr yn fodlon gwneud Cytundeb dan Adran 106 i gadw’r ddwy annedd fel un uned.  Gofynnodd y Cynghorydd Parry i’r aelodau lynu wrth y penderfyniad cynt a rhoddi caniatâd i’r cais.

 

 

 

Gan y Pennnaeth Rheoli Datblygu cafwyd gair o gadarnhad fod arolwg strwythurol boddhaol wedi ei gyflwyno gyda’r cais ac o’r herwydd roedd y Cynghorydd RL Owen yn cynnig glynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais a thrwy hynny rwystro’r adeilad rhag mynd yn adfeilion.  Eilio hyn a wnaeth y Cynghorydd Glyn Jones gan deimlo fod y cais yn cydymffurfio gyda’r polisïau ar addasu adeiladau.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 55 Cynllun Lleol Ynys Môn, a hynny oherwydd maint ac argraff yr estyniadau arfaethedig.

 

 

 

Pleidleisiodd y canlynol i lynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, O Glyn Jones, Aled Morris Jones,

 

RL Owen, WJ Williams MBE

 

 

 

Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr Denis Hadley, J Arthur Jones, D Lewis-Roberts, John Roberts, J Arwel Roberts,  

 

 

 

Ymatal:  Y Cynghorydd Tecwyn Roberts a ddywedodd mai’r rheswm am hyn oedd na ymwelodd â’r safle.

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog am y rhesymau a roddwyd, yn unol ag amodau safonol gan gynnwys Adran 106 i gadw’r ddwy annedd fel un uned.

 

 

 

 

 

Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd John Roberts cytunodd y Pennaeth Rheoli Datblygu i gynnwys, yn y seminar nesaf i aelodau, drafodaeth ar amodau ychwanegol a roddir ynghlwm i ganiatâd cynllunio,  e.e. Adran 106.

 

 

 

 

 

6.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

17C253A  CREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YNGHYD Â NEWID DEFNYDD TIR I GREU FFORDD FYNEDFA I DRWS Y COED, GLYN GARTH

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ar 3 Mai penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 17 Mai, 2006.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies i’r sefyllfa ddod lawer cliriach ar yr ymweliad â’r safle, doedd ganddo ddim gwrthwynebiad i’r cais a chynigiodd ei ganiatau, cafodd hyn ei eilio gan y Cyngorydd RL Owen.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais, yn unol â’r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ar y cais hwn.

 

 

 

6.4

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

17C266C CODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL YN RHANDIR, LLANSADWRN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

 

 

Ar 3 Mai penderfynodd yr aelodau ganiatáu’r cais am y rhesymau a ganlyn:  

 

 

 

Ÿ

safle wedi ei ddefnyddio eisoes

 

Ÿ

anghenion yr ymgeisydd

 

Ÿ

anheddau o gwmpas y safle - heb fod yn y cefn gwlad

 

Ÿ

maintais priffyrdd

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu’r cais.

 

 

 

Tynnodd y Cynghorydd Eurfryn Davies sylw at y niferoedd o lythyrau o wrthwynebiad ac o gefnogaeth i law mewn perthynas â’r cais hwn, a gofynnod i’r aelodau lynu wrth eu penderfyniad blaenorol a chaniatáu’r cais hwn.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio bod y llu pwyntiau yn codi o’r llythyrau y cyfeiriodd y Cynghorydd Davies atynt wedi bod yn destun adroddiad gan y swyddog ac yr oedd copi o’r hyn ddaeth i law ar gael yn y cyfarfod.  Yn yr achos hwn buasai estyniad hunangynhaliol ynghlwm wrth yr annedd bresennol yn fwy derbyniol.  Yn amlwg roedd y cais hwn yn gwyro oddi wrth y polisïau ac o’r herwydd roedd yr argymhelliad yn aros yn arghymhelliad o wrthod.

 

 

 

Credai’r Cynghorydd RL Owen fod y safle yn un llwyd, ac am y rheswm hwnnw eiliodd y cynnig i roddi caniatâd.  

 

 

 

Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies,  PM Fowlie,  Denis Hadley, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, John Roberts, W Tecwyn Roberts

 

 

 

Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, J Arthur Jones, J Arwel Roberts, John Roberts, WJ Williams MBE

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu’r cais hwn oedd yn gwyro am y rhesymau a roddwyd yn unol ag amodau safonol.

 

 

 

6.5

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

24C249  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA I GERBYDAU AR DIR GER TYDDYN ENGAN, PEN-Y-SARN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ar 3 Mai penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 17 Mai, 2006.   

 

 

 

Ar yr ymweliad â’r safle, gwelwyd yn glir, meddai’r Cynghorydd Aled Morris Jones, fod y safle yng nghanol clwstwr o anheddau, a gellid gweld lamp stryd yr ochr draw i’r ffordd.  Mewn ymateb i ymgynghoriad roedd Cyngor Cymuned Llaneilian yn cefnogi’r cais a hefyd cafwyd cefnogaeth yr Adran Briffyrdd.  Felly gan y Cynghorydd Jones cafwyd argymhelliad i gefnogi’r cais a darparu cartref i deulu lleol.  

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Roberts a oedd y lle hwn yn glwstwr cydnabyddedig a mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad ydoedd.  Wrth geisio diffinio beth sy’n glwstwr a beth sydd ddim teimlai’r Cynghorydd Hadley fod nifer o anghysonderau.  Credai’r Cynghorydd John Roberts fod y safle ar gae gweddol fawr ac wrth ganiatáu’r cais agorid drws, o bosib, i ragor o waith datblygu yn y dyfodol.  

 

      

 

     Credai’r Cynghorydd RL Owen bod y cais y tu mewn i’r cyfyngiad gyrru 30 mya a bod Pen-y-sarn yn bentref o dai yma ac acw.  Teimlai’r Cynghorydd Glyn Jones fod yr ysgol yn bur agos i’r safle ac wrth ganiatáu gellid gwella safon byw’r trigolion ac adfywio’r gymuned ac o’r herwydd cynigiodd roddi caniatâd.  

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd yr ardal wedi ei chlustnodi fel treflan na chlwstwr yn y Cynllun Lleol nac ychwaith yn yr CDU a stopiwyd a bod y safle rhyw 250m o’r ysgol leol.  

 

      

 

     Yn ei ymateb soniodd y Cynghorydd Aled Morris Jones am gefnogaeth y Cyngor Cymuned oherwydd fod y safle y tu mewn i dreflan gydnabyddedig a chynigiodd roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arthur Jones dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad cais am dy fforddiadwy oedd hwn.  

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie,  Denis Hadley, Aled Morris Jones,O Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts,  WJ Williams MBE

 

 

 

Ymatal ei bleidlais a wnaeth y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

 

 

Rhoddwyd y rhesymau canlynol dros ganiatá’u’r cais:

 

 

 

Ÿ

angen lleol

 

Ÿ

y safle o fewn treflan a chlwstwr

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais yma.

 

 

 

6.6     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     32C149  DARPARU CYFLEUSTERAU HEDFAN SIFIL YN R.A.F. Y FALI, CAERGYBI

 

      

 

     Ar 3 Mai, ar gais y swyddog, penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 17 Mai,  2006.  

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf - roedd Dwr Cymru wedi gofyn am ragor o wybodaeth, y Weinyddiaeth Amddiffyn heb ymateb a dim gwrthwynebiad gan yr Awdurdod Hedfan Sifil.  Yn llythyr Llywodraeth Cynulliad Cymru (yr ymgeiswyr) roedd cais am fwy o ystwythder gyda nifer yr hediadau, ond roeddent yn cydnabod fod asesiad amgylcheddol wedi ei gyflwyno gyda’r cais a hwnnw’n seiliedig ar effaith pedwar hediad y dydd.  

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd argymhelliad i ganiatáu gydag ychwanegiad at amodau (03) ac (05) (ychwanegiad ynghylch nifer yr hediadau a chyfyngiad ar nifer y teithwyr) a diwygio’r amodau i ddarllen “oni chytunir yn wahanol yn ysgrifenedig”.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd G Winston (yn rhinwedd ei swydd gel Deilydd Portffolio Economaidd) cafwyd argymhelliad i godi nifer yr hediadau o 4 i 10 y dydd a pheidio â chael unrhyw gyfyngiad ar nifer y teithwyr ar bob hediad.  Roedd y Cyngor yn gwbl gefnogol i’r cais hwn - ac yn disgwyl y câi’r gwasanaeth ei ymestyn yn y dyfodod i gynnwys hediadau i Ddulyn ac oddi yno.  

 

      

 

     Cytuno a wnaeth y Cynghorydd D Lewis-Roberts fod nifer yr hediadau yn rhy gaeth a chynigiodd roddi caniatâd i’r cais yn amodol ar godi nifer yr hediadau i 10 y dydd a heb gyfyngiad o gwbl ar nifer y teithwyr ar bob hediad.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd RL Owen yn gwbl gytun, on hefyd teimlai bod angen codi safon gorsaf reilffordd y Fali i ategu’r gwasanaeth hedfan.  

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd WJ Williams MBE chwaith am roddi cyfyngiadau ar nifer y teithwyr ar bob hediad.

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd Eurfryn Davies fod angen ehangu’r man derbyn/disgwyl i ddarparu ar gyfer rhagor na 30 o unigolion.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod angen penderfynu ar y cais fel y cafodd y cais hwnnw ei gyflwyno, ac roedd yr effaith ar y briffordd, ac hefyd effeithiau swn yn seiliedig ar ddau hediad dwyffordd y dydd, a pob hediad yn cludo hyd at 50 o deithwyr yn unol â manylion yr ymgeiswyr.  Roedd effaith 4 hediad y dydd yn wybyddus ond nid effaith 10 hediad.  Mater i’r Pwyllgor Cynllunio oedd gwneud penderfyniad ar godi nifer yr hediadau.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i ganiatáu’r cais ond gyda newidiadau i amodau (03) er mwyn caniatáu hyd at 10 o hediadau’r dydd a dileu amod (05) (nifer y teithwyr) o’r caniatâd cynllunio.    

 

      

 

      

 

6.7     CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

36C259  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIC AR DIR GER BWLCH COCH, LLANGRISTIOLUS

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.   Ar 3 Mai teimlai’r aelodau y buasai caniatáu’r cais hwn yn adfywio’r gymuned wledig.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais.

 

      

 

     Yna ailadroddodd y Cynghorydd RLl Hughes ddatganiad yr oedd eisoes wedi ei wneud ac wedi ei gofnodi yng nghofnodion mis Mai.  Yn yr ardal hon roedd y datblygiadau yn rhai yma ac acw a buasai caniatáu’r cais dan sylw yn cryfhau’r gymuned wledig leol ac yn ei chynnal ond roedd, fodd bynnag, yn derbyn fod y safle y tu allan i’r ffiniau.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad cynt a chaniatáu’r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.  Cymharu’r cais hwn â hwnnw dan eitem 6.5 yn y cofnodion hyn a wnaeth y Cynghorydd John Roberts, a gofynnodd a oedd y clwstwr dan sylw yn un cydnabyddedig.  Yn ei ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd y clwstwr yn un cydnabyddedig ac nid oedd y safle ar y ffiniau datblygu.  Er bod y swyddog yn llawn cydymdeimlad gyda’r ymgeisydd atgoffodd ef yr aelodau fod y cais yn groes i bolisiau a bod yr argymhelliad yn aros yn argymhelliad cryf o wrthod.  

 

      

 

     Cefnogodd y Cynghorydd Fowlie y cais hwn er mwyn cynnal ac adfywio’r gymuned wledig.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, PM Fowlie,  Denis Hadley, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, W Tecwyn Roberts, WJ Williams MBE

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts,

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu’r cais hwn a oedd yn gwyro am y rhesymau a roddwyd yn amodol ar amodau safonol.

 

      

 

6.8     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     38C231  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER TY’N LLAIN, LLANFECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Roedd cynllun o’r ardal ar gael yn y cyfarfod.  I bwrpas y cofnodion dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd y cais hwn yn tynnu’n groes a hyn yn wahanol i’r hyn a nodwyd ar ddechrau’r adroddiad.

 

        

 

     Dymunai’r aelodau ar 3 Mai ganiatáu’r cais hwn gan eu bod yn teimlo fod y cais yn cydymffurfio â pholisi HP4 (pentrefi) a pholisi 50 (pentrefi rhestredig).Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais.

 

      

 

     Atgoffwyd yr aelodau gan y Cynghorydd Thomas Jones fod y safle yn union ar gyrion y ffiniau datblygu, ac oherwydd y rhesymau uchod a hefyd oherwydd amgylchiadau personol yr ymgeiswyr gofynnodd i’r aelodau ganiatáu’r cais.  

 

      

 

     Gan fod y safle ar y llinell ddatblygu a’r drws nesaf i annedd arall cynigiodd y Cynghorydd J Arthur Jones lynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu’r cais hwn.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd uchod PENDERFYNWYD yn unfrydol i lynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatá’u’r cais, yn amodol ar amodau safonol.  

 

      

 

6.9      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     42C130A  DYMCHWEL YR ANNEDD BRESENNOL A CHODI ANNEDD NEWYDD YNGHYD A CREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD SYSTEM TRIN CARTHION YN  ISFRYN, TRAETH COCH

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â’r safle ar 19 Ebrill, 2006.

 

 

 

Ar 3 Mai dymunai’r aelodau wrthod y cais hwn am y rhesymau a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

maint yr adeilad

 

Ÿ

gorddatblygu’r safle

 

Ÿ

mae’r safle o fewn AHNE

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd uchod roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn dal i fod o’r farn fod angen gwrthod y cais hwn.  

 

      

 

     Gan y Penneaeth Rheoli Datblygu cafwyd argymhelliad i ganiatáu’r cais yn unol ag adroddiad

 

     y swyddog.

 

      

 

Teimlai’r Cynghorydd Arwel Edwards fod y safle’n addas i’r bwriad.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad i wrthod y cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i wrthod y cais, a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr PM Fowlie, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, D Lewis- Roberts, John Roberts, J Arwel Roberts, W Tecwyn Roberts,

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatáu’r cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, RL Owen, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal: Y Cynghorwyr Eurfryn Davies (gan na fu ar yr ymweliad â’r safle),  Denis Hadley,

 

     O Glyn Jones

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais hwn, a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog.

 

      

 

      

 

7

CEISIDADAU ECONOMAIDD:

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau economaidd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

   

 

 

 

8     CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY:

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

 

 

 

9

CEISIADAU’N TYNNU’N GROES:

 

      

 

9.1     16C168  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNED YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG AR DIR GER HAFOD Y BRYN, ENGEDI, BRYNGWRAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gyda chymorth offer taflunio dangosodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio lun o’r safle a’r cyffiniau wedi’i dynnu o’r awyr.  I bwrpas cywirdeb roedd angen diwygio “Polisi 5” yn y paragraff cyntaf ger pwynt 7 “Polisi 50”.  Argymhellodd y swyddog wrthod y cais hwn oedd yn groes i bolisiau.  

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd RG Parry y buasai’n fuddiol i’r aeldoau ymweld â’r lle i ddeall y sefyllfa a chyfeiriodd at lythyr a gyflwynwyd ac yn cadarnhau fod gan yr ymgeisydd berson lleol â diddordeb mewn prynu’r plot gyda’r amod fod caniatâd cynllunio yn cael ei roddi iddo.  Buasai caniatáu’n cryfhau’r gymuned wledig ac nid oedd y safle mewn lle amlwg, ac yn wir mewn clwstwr o 11 o anheddau ac nid fel a ddywedwyd ym mhwynt 1 adroddiad y swyddog;  roedd cyfyngiad gyrru yn yr ardal hon.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd John Roberts a oedd y plot hwn yn llenwi bwlch; nid oedd yr adroddiad yn crybwyll mai ty fforddiadwy oedd hwn ac o’r herwydd gellid ei werthu ar y farchnad agored a buasai caniatáu’n sefydlu cynsail i ragor o geisiadau.  

 

      

 

     Heb amheuaeth roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn teimlo bod y safle yng nghanol clwstwr o anheddau ac roedd yn gefnogol i bwrpas creu cartref i bobl leol.  Gan fod y safle yng nghanol clwstwr o anheddau cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Aled Morris Jones i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Gan y Cynghorwyr J Arwel Roberts a J Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais, a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:    Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, PM Fowlie,  Denis Hadley, Aled Morris Jones,

 

     O Glyn Jones, RL Owen

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr  Arwel Edwards, J Arthur Jones, D Lewis-Roberts, John Roberts, J Arwel Roberts, W Tecwyn Roberts, WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn oedd yn tynnu’n groes.  

 

      

 

9.2     19C712F  CAIS LLAWN I NEWID DEFNYDD AC AIL DDATBLYGU’R EIDDO I 8 O UNEDAU PRESWYL YNGHYD A CHODI 43 O UNEDAU PRESWYL NEWYDD AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU YM MHORTH Y FELIN HOUSE, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cafwyd gwahoddiad gan y Cynghorydd G Allan Roberts i ymweld â’r safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

      

 

      

 

9.3     19C712G/LB  CAIS ADEILAD RHESTREDIG I NEWID DEFNYDD AC AILDDATBLYGU’R EIDDO I 8 O UNEDAU PRESWYL YNGHYD A CHODI 43 O UNEDAU PRESWYL NEWYDD AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU YM MHORTH Y FELIN HOUSE, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Fel yn achos 9.2 uchod PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.  

 

      

 

9.4     24C239A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA I GERBYDAU AR DIR GER YSGUBOR ITHEL, LLANEILIAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Darllenodd y Cynghorydd Aled Morris Jones lythyr a oedd gerbron yn y cyfarfod - llythyr oddi wrth y meddyg fod yr amgylchiadau yn rhai eithriadol ac felly bod rhesymau meddygol i ganiatáu.  Cais oedd hwn gan deulu lleol ar safle mewn clwstwr o dai a’r Cyngor Cymuned yn gefnogol ac argymhellodd roddi caniatâd.  

 

      

 

     Yn yr achos hwn teimlai’r Cynghorydd RL Owen y dylai’r Pwyllgor ddangos rhyw fath o gydymdeimlad ac eiliodd roddi caniatâd.

 

      

 

     Ym mis Hydref 2005 gwrthodwyd cais tebyg meddai’r Rheolwr Rheoli Cynllunio - ymwelwyd a’r lle cyn gwneud penderfyniad a gwelwyd yn ddigon clir fod y safle yn y cefn gwlad ac yn torri’r polisïau.  

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, W Tecwyn Roberts

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, Denis Hadley, J Arthur Jones, J Arwel Roberts, John Roberts

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd y teimlai’r aelodau, ar sail feddygol, fod yma amgylchiadau eithriadol.

 

      

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais hwn oedd yn tynnu’n groes.

 

      

 

9.5     28C368A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIC A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR GAE RHIF O.S. 3821, BRYN DU

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y dylai’r cais hwn fod wedi ymddangos ymysg gweddill y ceisiadau gan nad oedd yn tynnu’n groes.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones bod yr ymgeisydd yn ddyn lleol a’i olwg yn dirywio, ac roedd wedi ymddeol yn gynnar a sefydlu busnes arlwyo.  Ni fedrai fforddio ty ar y farchnad agored a’r prisiau gofyn, ar gyfartaledd, o gwmpas £250,000.  Ystyriaeth berthnasol yma, yn ôl y Cynghorydd Glyn Jones, oedd fod Bryn-Du yn bentref cydnabyddedig dan Bolisi 50 y Cynllun Lleol a hefyd yn bentref dan Bolisi HP4 yr CDU a stopiwyd a bod hynny’n caniatáu datblygu plotiau unigol.  

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr hanes cynllunio o wrthod wedi ei grybwyll ym mhwynt 3 yr adroddiad; wedyn ym mhwynt 7 crybwyllwyd fod deorfa ger llaw a gorsaf drydan fechan yn y cyffiniau, ac yn y trydydd paragraff ym mhwynt 7 nodwyd fod y safle ar gyrion stad ddiwydiannol Bryn-Du a’r tu allan i gyfyngiad gyrru 30 mya y pentref.  Dan Bolisi HP4 yr CDU a stopiwyd roedd Bryn-Du yn Bentref Rhestredig, a hynny’n caniatáu rhoddi sylw i safleoedd eithriadol ar gyfer tai fforddiadwy i bobl leol - yn yr achos hwn ni chyflwynwyd tystiolaeth mai ty fforddiadwy oedd dan sylw a hefyd roedd y safle y tu allan i’r ffiniau datblygu.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i ganiatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais, a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, PM Fowlie,  Denis Hadley, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, W Tecwyn Roberts, WJ Williams MBE

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, J Arthur Jones, J Arwel Roberts, John Roberts

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd y teimlai’r aelodau fod y cais hwn yn cydymffurfio â Pholisi 50 (pentrefi rhestredig)  

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais hwn oedd yn tynnu’n groes.

 

      

 

      

 

9.6     30C603A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A MODURDY YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER BWTHYN AR Y BRYN, BENLLECH

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts fod y safle yng nghanol Shepherd’s Hill a’r lle wedi ei gydnabod fel treflan a chlwstwr dan HP5 yr CDU a stopiwyd; hefyd roedd yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 y Cynllun Lleol, ac o’r herwydd ni welai reswm dros wrthod.

 

      

 

     Ynghynt roedd y Pwyllgor wedi gwrthod cais yn Engedi a dywedodd y Rheolwr Cynllunio mai cais tebyg iawn i hwnnw oedd yma.  Ni symudwyd ymlaen gyda’r newidiadau arfaethedig i’r ffiniau datblygu yng nghyswllt y newidiadau hynny i’r CDU, ac o’r herwydd nid oedd y safle mewn clwstwr cydnabyddiedig - roedd y cynnig yn dal i fod yn groes i’r polisiau cyfredol ac yn y cefn gwlad yn ôl darpariaethau Polisi 53.

 

 

 

Gan y Cynghorydd D Lewis Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu’r cais hwn gan fod y safle y tu mewn i glwstwr o rhyw 26 o anheddau a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais, a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies,  PM Fowlie,  Denis Hadley, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, W Tecwyn Roberts

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts, WJ Williams MBE

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu y cais hwn oedd y teimlai’r aelodau fod y safle hwn o fewn clwstwr ac yn cydymffurfio â Pholisi 50.

 

      

 

     Yn ei ymateb mynegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ei bryderon oherwydd anghysondebau wrth benderfynu ar geisiadau sy’n tynnu’n groes i bolisïau.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais hwn oedd yn tynnu’n groes.

 

      

 

9.7     33C252  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR GAE RHIF O.S. 504 GER GADLYS, GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Derbyniwyd dau lythyr o wrthwynebiad a rhoddwyd y rhain gerbron y cyfarfod.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Noel Thomas y buasai’r cynnig gerbron yn darparu cartref i gwpl oedrannus lleol oedd yn dymuno dychwelyd i’r Gaerwen i fyw yn nes i’w merch, sef yr ymgeisydd.  Y teulu oedd perchnogion llawer o’r tir o gwmpas a gwahoddodd y Cynghorydd Thomas yr aelodau i gael golwg ar y safle.

 

      

 

     Wedyn, gan y Cynghorydd RL Owen, cafwyd cynnig i ymweld a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Dan gynnig S29 a than Bolisi EP2 yr CDU roedd y safle, meddai’r Rheolwr Rheoli Cynllunio, wedi ei glustnodi i ddibenion cyflogaeth - nid oedd yn addas i bwrpas codi tai.  Yn ogystal yr oedd y safle y tu allan i ffiniau datblygu y Cynllun Lleol, ac yn groes i amcanion y Cyngor yng nghyswllt adfywio economaidd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle

 

      

 

9.8     36C89G  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG AR DIR GER PLAS Y COED, LLANGRISTIOLUS

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y llythyr o wrthwynebiad wedi ei dynnu’n ôl erbyn hyn; argymhelliad o wrthod oedd i’r cais hwn.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd RLl Hughes y buasai’r cynnig hwn yn darparu cartref i berson sengl lleol - a honno’n nyrs ac yn chwarae rôl bwysig yn y gymuned; ei dymuniad oedd byw yn annibynnol ar ei theulu.  Teimlo oedd y Cynghorydd Hughes fod angen darparu ty i bobl ifanc sengl broffesiynol a diwallu anghenion tymor hir yn y cyswllt hwnnw.  Er ei fod yn derbyn fod y safle yn y cefn gwlad nid oedd mewn man amlwg a châi ei guddio’n dda gan goed er bod rhywfaint o’r rheiny yn mynd i gael eu torri yn sgil y datblygiad.  Câi ei godi yn y dull fforddiadwy.

 

      

 

     Ond teimlai’r Rheolwr Rheoli Cynllunio y câi’r datblygiad effaith andwyol ar loj Henblas - adeilad rhestredig Graddfa II.  Nid oedd y safle ynghanol y clwstwr o dai - llecyn yn y cefn gwlad oedd hwn ac yn gwbl groes i bolisïau tai ac ni chafwyd tystiolaeth bod yr anghenion yn eithriadol, ac o’r herwydd cafwyd argymhelliad cryf i wrthod.  

 

      

 

     Cytuno gyda’r swyddog a wnaeth y Cynghorydd WJ Williams a chynigiodd dderbyn ei adroddiad a gwrthod y cais; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Denis Hadley, J Arthur Jones, D Lewis-Roberts, John Roberts, J Arwel Roberts, W Tecwyn Roberts, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr PM Fowlie, O Glyn Jones, RL Owen, Aled Morris Jones

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

9.9     42C76A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN LLYS Y GRAIG, PENTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd Hefin Thomas fod yr achos hwn yn un eithaf diddorol a chan nad oedd yno ffiniau diffiniedig gofynnodd am ymweliad fel bod yn aelodau yn cael gweld drostynt eu hunain.

 

      

 

     Yn sgil hyn cafwyd cynnig i ymweld gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts.

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais yn groes i’r polisiau, ac nid oedd y tu mewn i’r ffiniau datblygu - roedd yn y cefn gwlad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

      

 

      

 

10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1      12C49H  DYMCHWEL Y CARTREF PRESWYL PRESENNOL A DARPARU 30 O FFLATIAU, ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIG YN  CASITA, HEOL Y FYNWENT, BIWMARES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Fe nodwyd i’r cais yma gael ei dynnu’n ôl.

 

      

 

      

 

10.2      12C352  DYMCHWEL Y SALON TRIN GWALLT GWAG A CHODI 3 FFLAT YN YR HEN LE TORRI GWALLT,  NEW STREET, BIWMARES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

      

 

      

 

10.3      17C199E  DATBLYGIAD 12 CABAN GWYLIAU GER LLYN JANE, LLANDEGFAN

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddoredeb gan y Cynghorydd J Arthur Jones a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Trwy gyfrwng peiriant taflunio dangoswyd ffotograff, wedi ei dynnu o’r awyr o’r safle a’r tir o gwmpas.  Wedyn dangosodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i’r aelodau yn lle yn union y bwriadwyd codi’r cabanau coed.  

 

      

 

     Rhoes y Cynghorydd Eurfryn Davies wahoddiad i’r aelodau ymweld â’r safle i asesu’r sefyllfa drostynt eu hunain.

 

      

 

     Gan fod Afon Cadnant yn llifo ar draws y safle roedd y Cynghorydd RL Owen yn cwestiynu safiad Asiantaeth yr Amgylchedd.  Ar bumed tudalen adroddiad y swyddog roedd manylion y cyfeiriodd y swyddog atynt yn y cyfarfod ac yn crybwyll fod Asiantaeth yr Amgylchedd o’r farn nad oedd y safle bellach yn wynebu risg llifogydd.

 

      

 

     Ond dangosodd y Cynghorydd Eurfyn Davies i’r aelodau ffotograff o’r safle dan ddwr y mis Tachwedd cynt, ac roedd copi ar gael yn y cyfarfod.  Yr adeg honno bu’n rhaid i breswylwyr Pen Parc adael eu cartref heb fedru dychwelyd am bum mis.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatáu’r cais hwn, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D Lewis Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais:  Y Cynghorwyr PM Fowlie,  Aled Morris Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, J Arwel Roberts, W Tecwyn Roberts, WJ Williams MBE

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i wrthod y cais, a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, O Glyn Jones,

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chanitatáu’r cais hwn am y rhesymau a roddwyd, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

10.4      20C28D  ADDASU AC EHANGU DOUGLAS INN, TREGELE

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd fod yr aelod lleol, yn ei absenoldeb, yn dymuno gohirio ystyried y cais hwn.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wrth yr aelodau y gallai hyn arwain at apêl gan yr ymgeisydd oherwydd methiant i wneud penderfyniad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio penderfynu ar y cais.

 

      

 

      

 

10.5      24C118B  CAIS LLAWN I GODI TAIR ANNEDD TEIP ‘MEWS’, TAIR YSTAFELL WELY AR SAFLE GAREJ TYN Y GRAIG, PEN-Y-SARN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Oherwydd maint y bwriad argymhellodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y dylai’r aelodau ymweld â’r safle i weld y sefyllfa drostynt eu hunain.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

      

 

      

 

10.6      28C137B  CODI YSTAFELL HAUL YN SANDY’S BISTRO, RHOSNEIGR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Ni fedrai’r Cynghorydd PM Fowlie gytuno gyda chasgliadau’r Adran Briffyrdd a’i gwrthwynebiad ac aeth yn ei flaen i gyfeirio at gynllun o’r stryd ynghlwm wrth adroddiad y swyddog, a dweud mai’r arfer yma dros fisoedd yr haf oedd gosod byrddau a chadeiriau ar y pafin y tu allan i’r bistro.  Nid oedd yno gyfyngiadau ar barcio, ac yn wir roedd ceir yn cael eu parcio’n rheolaidd ar hyd y pafin y tu allan.  Yn y gyffordd gerllaw roedd polyn telegraff a bin.  Busnes bychan oedd hwn yn ceisio gwneud bywiolaeth yn y pentref.  Gofynnodd y Cynghorydd Fowlie am gymorth i ganiatáu.  

 

      

 

     Ar gais yr aelod lleol daeth Uwch Beiriannydd yr Adran Briffyrdd (Rheoli Datblygu a Llwybrau Cyhoeddus) i’r cyfarfod ac eglurodd y buasai’r cynnig gerbron yn ymestyn yr adeilad i gefn y pafin ac amharu ar y gallu i weld.  Roedd hynny’n andwyol i ddiogelwch y ffordd, ac am y rheswm hwnnw doedd ganddo ddim dewis ond argymell gwrthod.

 

      

 

     Cytuno â’r aelod lleol a wnaeth y Cynghorydd WJ Williams gan deimlo fod twristiaeth yn bwysig i economi’r ardal.

 

      

 

     Gan gymryd yr uchod i ystyriaeth cytuno a wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones na fyddai’r bwriad yn cael effaith ar welededd.

 

      

 

     Gan y CynghoryddTecwyn Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu’r cais, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts.  

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais, a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, PM Fowlie, Denis Hadley, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, W Tecwyn Roberts, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, J Arwel Roberts

 

      

 

     Rhoddwyd y rhesymau a ganlyn dros ganiatáu:

 

Ÿ

twristiaeth

 

Ÿ

ni fyddai’r bwriad yn amharu ar welededd yn y gyffordd

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais hwn.

 

      

 

      

 

10.7      42C62H  GOSOD DAU ADEILAD PAROD I’W DEFNYDDIO FEL BUSNES STIWDIO SERAMEG YNG NGHANOLFAN ARDDIO, PENTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Argymhelliad y Cynghorydd Hefin Thomas oedd un o ganiatáu’r cais yma, a cahfodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd J Arthur Jones a chafod ei eilio gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chanitatáu’r cais hwn am y rhesymau a roddwyd, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

10.8      42C62J  CODI YSTAFELL HAUL AR GYFER GWERTHU DODREFN GARDD, YSTAFELLOEDD HAUL A FFENESTRI YNGHYD A GOSOD UNED DDIOGEL YNG NGHANOLFAN ARDDIO, PENTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gan fod yr ymgeisydd hwn yn denant iddo dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas y buasai’r Cynghorydd D Lewis-Roberts yn ei gynrychioli.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts fod yr ymgeisydd yn dymuno symud ei fusnes o ganol y pentref i’r safle, ac ar hyn o bryn yn cyflogi tri unigolion a hynny’n codi i bump petai’r cais yn llwyddo.  Yr oedd llwytho a dadlwytho loriau ar y safle presennol yn creu peryglon a theimlwyd y buasai symud yn gwella pethau yng nghanol y pentref.  Yn ddiweddar roedd caniatâd wedi’i roddi i godi byngalo tua chefn y safle.  

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd Eurfyn Davies fod y cais yn un rhesymol ac y câi ei godi y tu fewn i safle’r ganolfan arddio.  Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwydd cynnig i ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd RL Owen ac ychwanegodd hwnnw fod cyfyngiad gyrru yn y llecyn hwn wedi ei ostwng i 40 mya.

 

      

 

     Roedd yr aelodau yn tueddu i fod o blaid y cais gan ei fod yn estyniad i fusnes yn y llef, a’r safle ei hun yn un digonol ac yn safle llwyd.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais hwn.

 

      

 

11     CAIS A ALWYD I’R PWYLLGOR :  33C20V/A/AD  CODI ARWYDD TU MEWN FYDD WEDI EI OLEUO YN IARD A.O. ROBERTS, GAERWEN

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai mewn camgymeriad yr ymddangosodd yr eitem hon ar y rhaglen ac y dylid ei diystyru.

 

      

 

12     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

      

 

13     YR HEN FAES CRICED, TREARDDUR

 

      

 

     Dywedodd y Rheollwr Rheoli Cynllunio i gyfres o gyfarfodydd gael eu cynnal a deallwyd fod yr ymgeiswyr yn bwriadu apelio a bod y swyddogion yn y broses o benodi bargyfreithwyr i gynrychioli’r Cyngor.  

 

      

 

14

APELIADAU

 

      

 

14.1      46C397  BRYNIAU, LÔN PENRHYN GARW, TREARDDUR - CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL Y TY PRESENNOL YNGHYD A CHODI PEDAIR ANNEDD NEWYDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod rhybudd o apêl wedi ei dderbyn, oherwydd penderfyniad yr awdurod hwn i wrthod caniatâd, a’r Arolygydd yn gofyn am sylwadau ysgrifenedig erbyn 21 Mehefin, 2006.

 

      

 

     Cytunodd y Cynghorydd PM Fowlie i gynrychioli’r Cyngor yn yr apêl.  

 

      

 

14.2      8 WEST END, BEAUMARIS

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniad yr Arolygwr a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru dan Adran 20 Deddf Cynllunio (Adeiladau rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 - apel yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod rhoi caniatâd Cynllunio adeilad Rhestredig i newid ffenestri pren/gwydr pedair ar bymtheg mlwydd oed gan roi fframiau UPVC/gwydr newydd yn eu lle (cyf 12C284B/LB) - cafodd yr apêl ei gwrthod.

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben am  3.40 p.m.

 

      

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD