Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 7 Gorffennaf 2004

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 7fed Gorffennaf, 2004

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2004

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R. L. Owen, Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arthur Jones, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, Peter Dunning, J. Arwel Edwards, Denis Hadley, R. Ll. Hughes, A. Morris Jones, O. Glyn Jones, D. Lewis-Roberts, John Roberts, J. Arwel Roberts, W. T. Roberts, John Rowlands, Hefin Thomas, Keith Thomas.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ) (yng nghyswllt eitem 15)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ),

Cynorthwywr Cynllunio (EH)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

Technegydd Priffyrdd (AE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd P. M. Fowlie

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Yr Aelodau Lleol :  Y Cynghorwyr Mrs B. Burns (eitem 8.3),

Gwilym O. Jones (eitem 9.13), R. Llewelyn Jones (eitem 9.7)

Elwyn Schofield (eitem 9.11)

 

Agorodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes y cyfarfod trwy groesawu Aelodau oedd newydd eu hethol a hefyd trwy roddi croeso i'r Aelodau eraill i'w cyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn dilyn etholiadau mis Mehefin.  Diolchodd y Cynghorydd Hughes i bawb am bob cefnogaeth yn y gorffennol.

 

Roedd y Cynghorydd Keith Thomas yn anghytuno gyda'r penderfyniad i roddi enw'r Cynghorydd Glyn Jones dan y Grwp Môn Ymlaen (Annibynnol) ar flaen yr agenda a chytunodd y cyfreithiwr i ymchwilio i'r mater.

 

1

ETHOL CADEIRYDD

 

Etholwyd y Cynghorydd R. L. Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor.

 

Diolchodd y Cynghorydd Owen i bawb am y gefnogaeth i'w ethol i gadair y Pwyllgor a hefyd diolchodd i Gynghorwyr oedd yn ymddeol am eu cyfraniadau gwerthfawr i'r Pwyllgor yn y gorffennol - sef y Cynghorwyr Trevor Lloyd Hughes, Emyr Jones, David Evans a Dr. J. B. Hughes.  Cefnogwyd ef gan y Cynghorydd John Roberts ac yr oedd yn dymuno cysylltu enwau'r Cynghorwyr Gwyn Jones a Gwyn Roberts gyda'r diolchiadau hyn.

 

2

PENODI IS-GADEIRYDD

 

Penodwyd y Cynghorydd J. Arthur Jones yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn.

 

 

3

DATGAN DIDDORDEB

 

 

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

 

 

4

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gyfarfu ar 2 Mehefin, 2004.

 

(tudalennau 23 - 36 y Gyfrol hon).

 

 

 

YN CODI :

 

 

 

CYNLLUN DATBLYGU UNEDOL (eitem 10 y cofnodion)

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio eu bod yn disgwyl adroddiad yr Arolygwr ar y pwnc yn ystod y dyddiau nesaf.

 

 

 

HYFFORDDIANT

 

 

 

Gweler eitem 15 y cofnodion hyn.

 

 

 

5

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Oherwydd etholiadau llywodraeth leol, nodwyd na chafwyd ymweliadau â safleoedd yn ystod Mehefin ac y câi yr ymweliadau nesaf eu cynnal ar 21 Gorffennaf 2004 a bydd y manylion yn cael eu gyrru at yr Aelodau cyn y dyddiad hwnnw.

 

 

 

6

CEISIADAU YN CODI O'R COFNODION

 

 

 

6.1

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

11C122B/EIA - DARPARU GWAITH CARTHFFOSIAETH A GWAITH TIRLUNIO CYSYLLTIEDIG AR RAN O SAFLE TANC STORIO OLEW SHELL GYNT A SAFLE'R GREAT LAKES, AMLWCH

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod materion Asesiad o Effaith Amgylcheddol a pherchnogaeth y safle yn dal i fod heb eu datrys ac argymhellodd y dylid gohirio ystyried y cais hwn.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Keith Thomas, cafwyd cynnig bod aelodau yn ymweld â'r safle er mwyn rhoi cyfle i aelodau newydd ddeall yr amgylchiadau yn well cyn trafod y pwnc a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle i gael gwell dealltwriaeth o'r amgylchiadau.

 

 

 

6.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C843A - CODI ESTYNIAD LLAWR CYNTAF YN OROTAVIA, WALTHEW AVENUE, CAERGYBI

 

 

 

Ar 2 Mehefin penderfynodd y Pwyllgor hwn ymweld â safle'r cais uchod ond oherwydd etholiad y Cyngor Sir ni chafwyd ymweliad - sef yn groes i'r hyn a nodwyd yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Nodwyd y câi ymweliad ei drefnu ar 21 Gorffennaf fel bod yr aelodau eraill yn cael cyfle i werthfawrogi maint y cynnig.

 

 

 

CAIS YN GWYRO

 

 

 

6.3

32C122 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER CRAIG EITHIN, CAERGEILIOG

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Gareth Thomas o'r Adran Briffyrdd ar y cais hwn.

 

 

 

Ar 2 Mehefin penderfynodd y Pwyllgor hwn ymweld â'r safle ond oherwydd etholiadau'r Cyngor Sir ni chafwyd ymweliad - sef yn groes i'r hyn a nodwyd yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Nodwyd y câi ymweliad ei drefnu ar 21 Gorffennaf fel bod yr aelodau eraill yn cael asesu'r safle.

 

 

 

CAIS YN GWYRO

 

 

 

6.4

34C83C - DATBLYGIAD PRESWYL, SEF CODI 21 O ANHEDDAU A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan J. R. W. Owen o'r Adran Briffyrdd yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

 

 

Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd gwybod bod swyddogion yn dal i ymgynghori gyda'r asiant yng nghyswllt materion priffyrdd a godwyd.

 

 

 

CYTUNODD yr Aelodau i ohirio ystyried y cais nes cwblhau'r gwaith ymgynghori gydag asiant yr ymgeiswyr.

 

 

 

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

6.5

39C291B - DYMCHWEL RHAN O'R ADEILAD DIWYDIANNOL A CHODI 8 ANNEDD YN CYNNWYS 6 TY NEWYDD AC ADDASU 2 ADEILAD YNGHYD Â NEWID DEFNYDD  ADEILAD JOHN EDWARDS I FOD YN GANOLFAN DREFTADAETH YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDWYR YN STRYD Y PACED, PORTHAETHWY

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais bellach wedi ei dynnu'n ôl.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi adroddiad y swyddog.

 

 

 

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

6.6

39C291C/LB - CANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG I DDYMCHWEL RHAN O'R ADEILAD DIWYDIANNOL A CHODI 8 ANNEDD YN CYNNWYS 6 TY NEWYDD AC ADDASU 2 ADEILAD YNGHYD Â NEWID DEFNYDD ADEILAD JOHN EDWARDS YN GANOLFAN DREFTADAETH YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDWYR YN STRYD Y PACED, PORTHAETHWY

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais bellach wedi ei dynnu'n ôl.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi adroddiad y swyddog.

 

 

 

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

6.7

46C180E - CEISIADAU LLAWN I GODI CHWE ANNEDD AR BLOTIAU 1-6 AC ALTRO'R FYNEDFA I DIR YN TESOG, LON ST. FFRAID, TREARDDUR

 

 

 

Yn ei gyfarfod ar 2 Mehefin penderfynodd y Pwyllgor ohirio ystyried y cais hwn er mwyn cael eglurhad ar berchnogaeth y tir cysylltiedig.

 

   

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y mater Tystysgrif Perchenogaeth a gyflwynwyd gyda'r cais uchod bellach wedi ei ddatrys yn foddhaol.  Ond ychwanegodd y swyddog fod rhagor o lythyrau wedi dod i law a'r rheini yn codi materion newydd.  Un pwynt a wnaed oedd fod yr adeiladau hyn yn rhagfarnu yn erbyn pobl fethedig ond ychwanegodd y swyddog fod deddfwriaeth arall yn pennu materion o'r fath ac nad oedd y pwnc yn un cynllunio.  Mewn ymateb i ddatganiad fod y gerddi yn rhy fychan eglurodd y swyddog eu bod yn cydymffurfio gyda'r canllawiau.

 

 

 

Roeddid yn dal i ddisgwyl am ymateb cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ond roedd y polisïau perthnasol a gafodd sylw wedi eu rhestru yn adroddiad y Swyddog, a hefyd roedd y safle y tu mewn i'r ffiniau datblygu cydnabyddedig.  Y prif bolisïau a gafodd sylw oedd y polisîau tai, a theimlai'r swyddog fod y cynigion yn cydymffurfio gyda'r canllawiau hyn.  Roedd y safle y tu mewn i'r ffiniau preswyl ac ni châi effaith andwyol ar dai o gwmpas.  Hefyd roedd y cynnig yn ategu dyluniad y tai o gwmpas a chais oedd yma i ailddatblygu safle oedd yn cael ei ddefnyddio gynt, ac roedd yr Adran Briffyrdd yn fodlon gyda'r cynnig.  Gan y swyddog cafwyd argymhelliad i ganiatáu.

 

 

 

Mewn ymateb mynegodd y Cynghorydd John Roberts bryderon ynghylch problemau llifogydd a allai ddigwydd yn y dyfodol a hefyd gofynnodd pwy fuasai'n gyfrifol yn ariannol amdanynt ac argymhellodd rhoddi caniatâd gyda'r amod fod yr ymgeiswyr yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw broblemau a geid yn y dyfodol gyda'r llifogydd.

 

 

 

Mewn ymateb i wrthwynebiad Babtie ac argymhellion ganddynt i roddi amod ynghlwm gydag unrhyw ganiatâd - sef na chaiff neb symud i mewn i run annedd hyd nes cwblhau gwelliannau i'r system garthffosiaeth - dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies dylai Babtie fod yn ymwybodol o'r gwelliannau sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd i'r fframwaith carthffosiaeth yn yr ardal hon ac fel a nodwyd dan (v) ar dudalen 50 adroddiad y swyddog.

 

 

 

Pryderu oedd y Cynghorydd Keith Thomas fod yr anheddau yn rhai tri llawr ond mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai anheddau daulawr oedd y rhain ond yn gwneud defnydd o'r gofod yn y to.  

 

 

 

Yn ôl y Cynghorydd Peter Dunning buasai o leiaf 4 o'r tai â'u cefnau ar y lôn fawr a hynny yn groes i ganllawiau cynllunio yng nghyswllt dyluniad ac ychwanegodd bod disgrifio'r anheddau fel rhai deulawr braidd yn gamarweiniol a hefyd credai fod yma enghraifft o or-ddatblygu.  Roedd y dwysedd arfaethedig o gwmpas 30 annedd yr hectar tra bod y dwysedd lleol o gwmpas 14.  Ni chredai'r Cynghorydd Dunning fod digon o gyfleusterau parcio yn y lle ac y gallai'r cerbydau wneud defnydd o'r B545 - sef ffordd sydd eisoes yn gul a throadau hefyd o bopty'r fynedfa arfaethedig.  Roedd yma lain gwelededd bychan a chafwyd argymhelliad gan y Cynghorydd Dunning i wrthod y cais.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y dyluniad yn dderbyniol a'r tu mewn i'r dwysedd uchaf bosib a argymhellir, sef 30 annedd yr hecter.  Roedd y dwysedd wedi ei glandro'n broffesiynol ar y darn 0.21 hecter hwn o dir.  Hefyd roedd yr Adran Briffyrdd wedi cyflwyno barn broffesiynol ar y fynedfa ac ni allent gyfiawnhau argymell gwrthod am na fedrant amddiffyn argymhelliad o'r fath.

 

 

 

Yma ychwanegodd y Cynghorydd Arwel Roberts fod y safle wedi ei ddefnyddio gynt fel tir masnachol ac os rhywbeth bydd datblygiad preswyl yn gostwng y risg o ddamweiniau.  Yn ôl y cynllun buasai'r anheddau yn wynebu eu gilydd a hynny yn naturiol yn golygu fod rhai o'r anheddau yn cefnu ar y lôn.  Gan y Cynghorydd Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad proffesiynol y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu'r cais.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau  yn yr adroddiad hwnnw.

 

 

 

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

 

 

6.8

46CLPA841/CC/EIA - CODI MAST CYFATHREBU NEWYDD A DYMCHWEL YR HEN ADEILAD OFFER A CHODI  ADEILAD NEWYDD I'R OFFER A CHAEL GWARED O'R HEN FAST,  Y SYLFAEN CONCRID A'R FFENS DDIOGELWCH YN MAST Y FOEL, MYNYDD TWR

 

 

 

Cais oedd hwn gan y Cyngor ac ar dir y Cyngor.

 

 

 

Ar 2 Mehefin penderfynodd y Pwyllgor hwn ymweld â safle'r cais cyn ei drafod er mwyn cael gwell dealltwriaeth o natur y lle ac asesu unrhyw effaith y gallai'r cynnig ei chael.  Oherwydd etholiadau'r Cyngor Sir, ni threfnwyd ymweliad a hynny'n groes i'r hyn a nodwyd yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Nodwyd y câi ymweliad ei drefnu ar 21 Gorffennaf fel bod yr aelodau eraill yn cael cyfle i werthfawrogi maint y cynnig.

 

 

 

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

6.9

35C207G - YMESTYN A  NEWID Y DEFNYDD O'R HEN FELIN - EI THROI YN LETY GWYLIAU YN YR HEN FELIN, LLANGOED

 

 

 

     Gan y Cadeirydd, y Cynghorydd R. L. Owen, mynegwyd diddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn dymuno cofnodi na chymerodd ran yn y trafodaethau nac yn y pleidleisio.

 

      

 

     Oherwydd hanes y safle a gofynion yng nghyswllt lleoliad y tanc septig argymhellodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr aelodau yn ymweld â'r lle.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

      

 

7     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

7.1

37C29A - CODI ADEILAD NEWYDD I GYNHYRCHU HALEN MÔR GAN GYNNWYS SWYDDFEYDD, SAFLE YMWELWYR A SIOP YN CWMNI HALEN MÔR MÔN, BRYNSIENCYN

 

      

 

     Argymhellodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod aelodau yn ymweld â safle'r cais i weld a oedd rhwydwaith y ffyrdd sy'n gwasanaethu'r safle yn ddigon da ai pheidio.  Nodwyd bod yr aelod lleol wedi gofyn am i'r aelodau ymweld â'r safle a hefyd roedd pryderon wedi eu mynegi gan y Cyngor Cymuned.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

      

 

7.2

39C291D - DYMCHWEL RHAN O'R WARWS PRESENNOL A NEWID DEFNYDD YR ADEILAD DROS BEN I 4 FFLAT A DWY ANNEDD YNGHYD Â CHODI 6 ANNEDD NEWYDD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR YN STRYD Y PACED, PORTHAETHWY

 

      

 

     Argymhellodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr aelodau yn ymweld â safle'r cais hwn i ddeall yn well beth fydd effaith y datblygiad arfaethedig cyn cael trafodaeth ar y mater.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

      

 

7.3

39C291E/LB - CANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG AR GYFER DYMCHWEL RHAN O'R WARWS PRESENNOL A NEWID DEFNYDD YR ADEILAD DROS BEN I 4 FFLAT A 2 ANNEDD YNGHYD Â CHODI 6 ANNEDD NEWYDD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR YN STRYD Y PACED, PORTHAETHWY

 

      

 

     Argymhellodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr aelodau yn ymweld â safle'r cais hwn i ddeall yn well beth fydd effaith y datblygiad arfaethedig cyn cael trafodaeth ar y mater.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

 

 

8     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

      

 

8.1

14C174B - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI UN ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER LLYNFAES UCHAF, LLYNFAES

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r prif bolisi a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor oedd Polisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn - Tai yn y Cefn Glwad.  Teimlwyd y buasai'r cynnig hwn yn amlwg iawn yn y cefn gwlad agored ac yn creu nodwedd anymunnol yn y tirwedd.  Dan Adran 54 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref, mae'n rhaid gwneud penderfyniadau yn unol â'r Cynllun Datblygu.

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i Bwyllgor ar gais yr aelod lleol a nodwyd bod y Cyngor Cymuned lleol yn ei gefnogi.  Roedd yr Adran Briffyrdd wedi gofyn am ragor o wybodaeth.  Yna, gwnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio gywiriad - sef rhoddi Polisi 53 yn lle Polisi 51 yn adroddiad y swyddog.  Aeth ymlaen i ddwyn sylw'r aelodau at hanes cynllunio'r safle a bod y cais cynllunio diweddaraf wedi ei wrthod ym mis Rhagfyr 2003 fel a nodwyd yn adroddiad y swyddog.  Roedd y bwriad hwn yn sefyll mewn lle ar wahân i'r pentref mewn llecyn amlwg ac yn ymwthio i'r cefn gwlad agored ac yn mynd i gael effaith andwyol arni.  Roedd y cyrff statudol yr ymgynghorwyd â nhw wedi cyflwyno sylwadau ond heb wrthwynebiad i'r cynnig.

 

      

 

     Mewn ymateb nododd y Cynghorydd Keith Thomas fod cefnogaeth gref yn lleol i'r cais a chan fod yr aelod lleol i ffwrdd ar fusnes y Cyngor yr wythnos hon, gofynnodd am ohirio gwneud penderfyniad tan y cyfarfod nesaf a chreu cyfle i'r aelod lleol annerch y cyfarfod.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn tan y cyfarfod nesaf.

 

      

 

8.2

16C156 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI 1 ANNEDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU YN OS 8370, CAPEL GWYN, BRYNGWRAN

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn wedi ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar gais yr aelod lleol a oedd hefyd wedi gofyn i'r aelodau ymweld â'r safle.

 

      

 

     Dywedodd y swyddog bod y safle ar dir amaethyddol tua'r gogledd o glwstwr bychan o anheddau sy'n wybyddus fel Capel Gwyn.  Roedd y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol wedi cyflwyno sylwadau ond ddim yn gwrthwynebu'r cynnig ond bod yr Adran Briffyrdd yn argymell gwrthod oherwydd natur y briffordd - credai'r Adran fod honno yn gul ac yn droellog a buasai traffig ychwanegol yn ategu'r broblem.  Nodwyd bod yr Aelod Cynulliad wedi cyflwyno llythyr o blaid y cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r prif bolisi a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor oedd Polisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn (tai newydd yn y cefn gwlad).  Credid y buasai'r cynnig hwn yn cyfateb i ddatblygiad newydd yn y cefn gwlad, ar safle gwyrdd a hynny'n groes i egwyddorion datblygiadau cynaliadwy; hefyd buasai'n groes i ddarpariaethau Polisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2002).  Nid yw Capel Gwyn yn bentref diffiniedig nac yn un rhestredig.  Cafwyd amgylchiadau personol fel rheswm i roddi caniatâd ond nid oedd yr un sail i benderfynu ar y cais hwn yn ôl amgylchiadau personol.  Roedd yn rhaid rhoddi blaenoriaeth i bolisïau.  Gan ddilyn y polisïau cyfredol argymhellodd y swyddog bod aelodau yn gwrthod y cais hwn.

 

      

 

     Gan fod ty gweddol fawr wedi ei godi yn ddiweddar o fewn 300m i'r safle hwn a chan fod yma enghraifft o gwpl ifanc yn dymuno dychwelyd i fyw i Ynys Môn cafwyd argymhelliad gan y Cynghorydd Glyn Jones fod aelodau yn ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.  Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd argymhelliad i wrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. Ll. Hughes a ddywedodd nad oedd yr un rheswm i ymweld ac nad oedd y polisi yn cefnogi'r cais.

 

      

 

     Awgrymodd y Cynghorydd J. Arthur Jones y buasai'n briodol ymweld fel bod y Pwyllgor yn medru asesu a ydyw'r lle penodol hwn yn glwstwr ai peidio.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

      

 

8.3

18C154 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI BYNGALO FFENESTRI CROMEN YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR O.S.522, GWLGRI FARM, RHYDWYN

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol yn gwrthwynebu'r bwriad; cafwyd un llythyr yn cefnogi a dau yn gwrthwynebu.  Dygodd y swyddog sylw'r aelodau at bolisïau perthnasol a ystyriwyd wrth benderfynu ar argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor, a'r polisi pennaf oedd Polisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn - tai newydd yn y cefn gwlad agored, a hefyd roedd y cynnig yn groes i Adran 54A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref.  Teimlwyd nad oedd y safle ar gyrion y pentref a'i fod yn cyfateb i ddatblygiad preswyl annerbynniol ar ben ei hun yn y cefn gwlad ac mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol a hynny'n groes i'r polisïau.  Buasai'r cynnig hwn yn erydu cymeriad y fro ac argymhellodd wrthod.

 

      

 

     Diolchodd y Cynghorydd Mrs Burns, yr aelod lleol, i'r Pwyllgor am y cyfle i'w annerch.  Dywedodd fod yma deulu gyda phlant ifanc mewn ty sydd yn rhy fychan iddynt ac y dylid edrych ar y cais fel un angen lleol ac yn gyfle i deulu godi ty fforddiadwy iddo'i hun.  Roedd y safle yn agos iawn i'r pentref ble mae dwy stad fawr o dai drud.  I ryw raddau teimlai fod y map yn gamarweiniol am nad yw'n dangos ty yr ochr draw i'r lôn, sef Llain Bach a hwnnw'n annedd sydd y tu mewn i ffiniau'r pentref.  Ni chredai'r Cynghorydd Burns y câi'r cais hwn effaith andwyol ar dai o gwmpas nac ar yr ardal yn gyffredinol a chafwyd argymhelliad ganddi fod yr aelodau yn ymweld â'r safle.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd ffiniau pentref diffiniedig, dan y polisïau cyfredol i bentref Rhydwyn.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i ymweld â'r safle fel bod yr aelodau yn medru gweld drostynt eu hunain a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

 

 

8.4

24C218 - CODI ANNEDD AC ADEILAD AMAETHYDDOL, GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD A CHREU MYNEDFA NEWYDD YN LLAIN 7556 GER GROESWEN, PENYSARN

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arwel Roberts ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Nodwyd bod y cais wedi ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar gais yr aelod lleol sydd newydd ymddeol.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod llythyr cefnogol wedi ei dderbyn a hynny ar ôl cyhoeddi'r adroddiad.  Gan y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol cafwyd sylwadau ond dim gwrthwynebiad i'r bwriad.  Y polisi pennaf a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor oedd Polisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn - tai newydd yn y cefn gwlad.  Nid oedd yr ymgeiswyr wedi cyflwyno tystiolaeth i gefnogi eu cais yn seiliedig ar angen amaethyddol a theimlai'r swyddog bod y safle yn un ar ben ei hun ac y câi'r cynnig effaith annymunol ar y tirwedd - tirwedd sy'n Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  Cafwyd manylion am amgylchiadau personol ond nid oedd y rheini yn ddigon.  Yr argymhelliad oedd gwrthod am ei fod yn groes i'r polisi.  

 

      

 

     Ar gyfer y cofnodion dymunodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ddweud mai'r enw lleol ar yr ardal hon yw "Gadfa" ac nid "Parc".  Teimlai bod yma nifer o dai ac argymhellodd fod yr ymgeisydd yn cael cyfle i gyflwyno tystiolaeth o angen amaethyddol i gefnogi'r cais.  Cynigiodd y Cynghorydd Jones ymweliad.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J. Arwel Edwards nad oedd cymeriad penodol yn perthyn i Pen-y-sarn - ardal eang gydag adeiladau yma ac acw ac o natur amrywiol - pur debyg i'r cynnig.

 

      

 

     Yma ychwanegodd y cyfreithiwr bod y swyddog cynllunio wedi dweud bod y safle y tu allan i ffiniau'r cynllun datblygu a'i fod o'r herwydd, yn y cefn gwlad agored.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd cynigiodd y Cynghorydd Roberts Ll. Hughes fod y cais yn cael ei wrthod.  Petai'r ymgeisydd yn teimlo fod ganddo gyfiawnhad amaethyddol i'r cais yna dylai cyflwyno cais o'r fath.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a gafwyd yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Jones am iddo gael ei nodi ei fod yn erbyn gwrthod ac roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies am gofnodi nad oedd wedi pleidleisio ar y cais hwn.

 

      

 

9     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

9.1

12C209C/AD/LB - CAIS ADEILAD RHESTREDIG AR GYFER CODI ARWYDD GWYBODAETH YN NEUADD Y DREF, BIWMARES

 

      

 

     Nodwyd bod safle'r cais yn eiddo i Gyngor Tref Biwmares, nid i'r Cyngor Sir fel a ddywedir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi caniatâd i'r hysbyseb ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog a nodi y câi'r mater ei yrru ymlaen i CADW benderfynu arno.

 

      

 

9.2

14C172 - NEWID DEFNYDD YR YSTAFELL AML-BWRPAS BRESENNOL YN STIWDIO TRIN GWALLT/SIOP YNGHYD AG ADEILADU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN BRYN AWEL, TY'N LON, CAERGYBI

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod y tir yn eiddo i'r Awdurdod Lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

 

 

9.3

17LPA112F/CC - CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG AR GYFER CODI ESTYNIAD YNGHYD Â DYMCHWEL COEDEN BEDWEN A SYMUD YSTAFELL SYMUDOL I YSGOL GYNRADD LLANDEGFAN, LLANDEGFAN

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Eurfryn Davies ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

     Dygwyd y cais i'r Pwyllgor am ei fod wedi ei gyflwyno ar ran y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg ac yn ymwneud â thir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

9.4

18C146B - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI UN ANNEDD A CHREU MYNEDFA NEWYDD YN O.S. 9835, LLANRHUDDLAD

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor oherwydd pryderon yn lleol ynghylch y fynedfa mor agos i'r ysgol.  

 

      

 

     Atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau fod y cais hwn yr un ffunud â hwnnw gafodd ei wrthod gan y Pwyllgor yng nghyfarfod Mehefin.  Roedd rhai o'r cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol wedi cyflwyno sylwadau ond ddim yn gwrthwynebu ond roeddid yn disgwyl ymateb gan rai.  Y prif bolisi rhoes y swyddogion sylw iddo wrth bennu argymhelliad i'r Pwyllgor oedd Polisi 50 (pentrefi rhestredig).  

 

      

 

     Nodwyd bod yr asiant wedi gofyn am ohirio ystyried y cais ond ychwanegodd y swyddog nad oedd yr un rheswm cynllunio dros wneud hynny.  Credai'r swyddogion y câi'r fynedfa arfaethedig i gerbydau effaith andwyol ar bleserau'r cyffiniau.  Yn ddiweddar roedd y Pwyllgor wedi gwrthod dau gais ac nid oedd y swyddog wedi newid ei feddwl ac argymhellodd wrthod.

 

      

 

     Cafwyd cynnig i wrthod gan y Cynghorydd John Roberts a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. Ll. Hughes.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a gafwyd yn adroddiad y swyddog.

 

9.5

19C291A - CAIS AMLINELLOL AM DDYMCHWEL Y TY TAFARN, CODI 12 ANNEDD 2 LOFFT YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN Y DDRAIG GOCH, LLAINGOCH

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr asiant wedi cyflwyno llythyr arall yn nodi ei fwriad i ddiwygio'r cais yn wyneb y pryderon a fynegwyd.  Buasai'n rhaid ymgynghori ymhellach ar y newidiadau ac argymhellodd y swyddog ohirio ystyried y cais.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

 

 

9.6

19C863 - CAIS I GODI TY UN LLAWR YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDWYR AR DIR TRESEIFION, CAERGYBI

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor am ei fod ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau  yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

9.7

19C866 - ADDASU AC EHANGU Y LLITHRFA BRESENNOL YNGHYD Â GWELLIANNAU I'R STORFA GYCHOD GYDA WYNEB NEWYDD, FFENS A LLE PARCIO YN ARDAL STORIO CYCHOD, FFORDD PRINCE OF WALES, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod rhan o'r safle yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod rhan o'r safle yn ardal gadwraeth dynodedig Traeth y Newry.  Ar ôl cyhoeddi'r adroddiad cafwyd gwrthwynebiad Cyngor Tref Caergybi i'r bwriad oherwydd effaith goleuadau arfaethedig ac uchder y ffens ar yr ardal o gwmpas, a hefyd am resymau priffyrdd.  Roedd yr Adran Briffyrdd wedi cyflwyno sylwadau ond ddim yn gwrthwynebu.  Ar ran y bobl leol gofynnodd yr aelod lleol am ymweliad â'r safle.

 

      

 

     Cafwyd adroddiad gan y swyddog ar y prif bwyntiau a ystyriwyd wrth bennu adroddiad y swyddog, h.y. graddfa'r cynnig, ei effaith ar dreftadaeth y safle a bod hynny'n dderbyniol a'i fod hefyd yn ymateb yn gadarnhaol i'r polisïau.  Credid buasai'r cynnig hwn yn gwella gwedd ac ansawdd y safle.

 

      

 

     Yma ychwanegodd y swyddog Priffyrdd fod tir y cais hwn wedi ei roddi dan brydles gan Stena i'r Cyngor.

 

      

 

     Yn ei anerchiad ef i'r cyfarfod dywedodd yr aelod lleol, Cynghorydd R. Llewelyn Jones, bod y cais hwn yn dibynnu ar gyllid y cynllun Cymunedau'n Gyntaf.  Roedd y cais wedi creu pryderon mawr ymhlith y bobl leol ac mae'r ardal hon o brydferthwch naturiol eithriadol oedd "man cychwyn" tref Caergybi.  Y pryder pennaf oedd effaith y goleuadau, y ffens hyll, arogleuon o'r ardal storio cewyll cimychiaid a gwaith adeiladu hyll.  Gofynnodd y Cynghorydd Jones am ymweliad ac am gyfarfod gyda'r preswylwyr lleol i wrando ar eu barn nhw a hoffai daro ar gyfaddawd i siwtio pawb.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd D. Lewis Roberts ymweliad a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.  Mewn ymateb gofynnodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am resymau hynny y gellid eu defnyddio i gyfiawnhau ymweliad.

 

      

 

     Cytunodd y Cynghorydd Arwel Roberts fod modd gostwng uchder y ffens ond ychwanegodd fod cewyll cimychiaid wedi eu storio yn hanesyddol ar y safle a 200 llath y tu draw i'w ffiniau mae ardal ddiwydiannol sydd wedi ei goleuo'n dda; credai y buasai'r cynnig yn gwella'r ardal yn fawr ac y gallai unrhyw oedi beryglu'r grant a hefyd roedd pryderon diogelwch yng nghyswllt yr ardal dan sylw.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at amodau arfaethedig ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd a roddid ac fel a nodwyd yn adroddiad y swyddog a chan grybwyll yn benodol yr amodau yng nghyswllt uchder y ffens a buasai swyddogion yn ymgynghori gyda'r datblygwyr i roddi sylw i bryderon lleol.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Keith Thomas y dylid cofnodi'r bleidlais ar y cais hwn yn unol â pharagraff 18.5 Rheolau Gweithdrefn y Cyngor.  PENDERFYNWYD cofnodi'r bleidlais a dyma sut yr aeth honno :

 

      

 

     O BLAID Y CAIS :

 

     Y Cynghorwyr Peter Dunning, J. Arwel Edwards, Denis Hadley, R. Ll. Hughes, A. Morris Jones, J. Arthur Jones, R. L. Owen, J. Arwel Roberts (8)

 

      

 

     YMWELD Â SAFLE'R CAIS:

 

     Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, O. Glyn Jones, D. Lewis Roberts, John Roberts, Tecwyn Roberts, John Rowlands, Keith Thomas (8)

 

      

 

     Yma nododd y Cyfreithiwr bod y Cynghorydd Arwel Edwards wedi pleidleisio ddwy waith ac y buasai'n rhaid iddo egluro oherwydd bod y bleidlais yn gyfartal ar 8 bob ochr.  Mynnodd aelodau eraill y dylid caniatau i'r Gadair benderfynu ar y mater a dywedodd y Cynghorydd Edwards mai y dewis arall yn hytrach na chaniatáu oedd gwrthod.

 

      

 

     Wrth i'r Gadair ddefnyddio ei bleidlais fwrw PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau ynddo.

 

 

 

9.8

19LPA635B/CC - NEWID DEFNYDD RHAN O UNEDAU BUSNES AML-BRESWYLIEDIG I WASANAETHAU GOFAL DYDD AR GYFER GWASANAETH ANABLEDD DYSGU YN Y GANOLFAN FENTER, CAERGYBI

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i sylw'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau  yn yr adroddiad hwnnw.

 

 

 

9.9

19LPA842/CC - CODI ESTYNIAD DEULAWR Y TU CEFN I YNGHYD AG ADDASU AC EHANGU Y TU BLAEN I 160 TRESEIFION, CAERGYBI

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i sylw'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau  yn yr adroddiad hwnnw.

 

 

 

9.10

  23C80F - NEWID DEFNYDD Y FELIN I FOD YN ANNEDD YNGHYD Â CHODI ESTYNIAD I DDARPARU LLE BYW YN LLE'R ANNEDD BRESENNOL YN YR HEN FELIN, CAPEL COCH

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr aelod lleol, yn wyneb gwrthwynebiad cryf yn lleol, wedi gofyn am ymweliad â safle'r cais.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

 

 

9.11

  25C151B - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD, GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR YN TAN RALLT, CARMEL

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yma gais cynllunio amlinellol i un annedd a'r holl fanylion yn cael eu cadw'n ôl ar gyfer ystyriaeth yn y dyfodol.  Aeth y swyddog yn ei flaen i sôn am hanes y safle ac roedd llythyrau wedi eu derbyn yn cynnwys sylwadau a chyflwynwyd nhw i'r cyfarfod.  Y polisïau perthnasol a ddefnyddiwyd gan y swyddog i benderfynu ar yr argymhelliad oedd y rheini yn adroddiad y swyddog a chyfeiriodd ef yn benodol at Bolisi 50 (pentrefi rhestredig).  Argymhelliad y swyddog oedd gwrthod am y rhesymau yn ei adroddiad ac am nad oedd y cynnig yn estyniad rhesymegol i'r pentref a hefyd oherwydd hanes diweddar o wrthod.

 

      

 

     Yn ei anerchiad i'r Pwyllgor dywedodd y Cynghorydd Schofield, yr aelod lleol, ei bod hi'n anodd cyfiawnhau gwrthod y cais hwn.  Roedd Polisi 50 yn caniatáu datblygiadau unigol ar gyrion pentrefi a threflannau rhestredig.  Yma darllenodd y Cynghorydd Schofield rannau o Bolisïau 42 a 48 Cynllun Lleol Ynys Môn gan nodi nad oedd Carmel wedi cyrraedd y nifer o anheddau newydd a glustnodwyd iddo er bod yr Adran Gynllunio ar hyn o bryd yn ystyried cais am bum annedd arall.  Roedd y Cyngor Cymuned yn cefnogi'r cais ac nid oedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu na'r Asiantaeth yr Amgylchedd chwaith yng nghyswllt y draenio arfaethedig.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Schofield yn argymell caniatáu'r cais yn amodol ar dderbyn dyluniad addas na châi effaith andwyol ar bleserau'r lle.

 

      

 

     Fel egwyddor dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai'r cynnig yn creu estyniad annerbyniol i'r pentref a hefyd yn cael effaith annerbyniol ar Ardal Tirwedd Arbennig a bod y lleoliad yn annerbyniol.  Y mater gerbron oedd lleoliad y plot ac roedd hynny yn annerbyniol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.  Wedyn cynigiodd y Cynghorydd John Roberts ei wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. Ll. Hughes.  Roedd y bleidlais yn gyfartal gyda 6 pleidlais o blaid ac yn erbyn.

 

      

 

     Trwy bleidlais fwrw y Cadeirydd PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

9.12

  30C556  - ALTRO AC YMESTYN 47 STAD CRAIG Y DON, BENLLECH

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd J. Arthur Jones ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth nac yn ystod y pleidleisio.

 

      

 

     Roedd y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan Best Value UK.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau  yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

9.13

  32C121 - NEWID DEFNYDD SIOP WAG I FOD YN FWYTY TANDOORI A CHYFLEUSTER GWERTHU BWYD I'W FWYTA ALLAN YN 3-4 FFORDD MINFFORDD, LLANFIHANGEL-YN-NHOWYN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i Bwyllgor ar gais yr aelod lleol a hynny oherwydd gwrthwynebiadau cryfion gan y bobl leol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cynnig oedd yma i newid defnydd siop wag a'i throi yn fwyty tandoori sy'n paratoi prydau poeth i fynd allan hefyd.  Nid oedd yr Heddlu yn gwrthwynebu y bwriad i werthu alcohol i'w yfed yn yr eiddo ond y buasent yn gwrthwynebu siop gwerthu i fynd allan.  Gyrrodd Katy Cook, Swyddog Datblygu Cymunedol ar ran Awyrlu'r Fali neges e-bost yn dweud bod arolwg wedi ei gynnal ymhlith staff yr Awyrlu a hwnnw'n dangos 113 o blaid y bwriad ac yn ei erbyn 11.  Dygodd y swyddog sylw at brif bwyntiau'r gwrthwynebiad, gan gynnwys effaith weledol a dyluniad, traffig a pharcio, swn ac arogleuon fel ac a grybwyllwyd yn fanwl yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Yn ei anerchiad i'r cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Gwilym Jones, yr aelod lleol, bod y gymuned hon yn un newydd ac ynddi 300-400 o dai a rhai ohonynt wedi eu gosod fel tai fforddiadwy ac roedd yno deimladau cryfion y câi siop fel hon effaith andwyol ar safon eu bywydau oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Er nad oedd pencadlys yr Heddlu yn gwrthwynebu'r cynnig roedd y swyddog bît cymunedol lleol yn anhapus gyda'r cynnig ac roedd pryderon y buasai pobl yn hel yn yr ardal hon, pryderon hefyd ynghylch arogleuon o'r bwyty ac effaith hynny ar y gymdogaeth.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod pob agwedd o'r cynnig wedi cael sylw manwl ac nad oedd yma yr un rheswm cyfiawn i wrthod y cais na thystiolaeth cyfiawnhau a rhesymau a awgrymwyd i bwrpas gwrthod.  Nid oedd cyrff statudol yr ymgynghorwyd â nhw wedi gwrthwynebu ar gorn y materion a godwyd.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Arthur Jones buasai'r ddarpariaeth parcio wedi ei chlandro yn ôl nifer y byrddau yn y bwyty.  Ond yn ei ymateb dywedodd y Swyddog Priffyrdd bod cymhariaeth wedi ei thynnu gyda'r hen ddefnydd o'r siop fel siop ac ni chredwyd bod angen rhagor o ddarpariaeth yn awr.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd D. Lewis Roberts, cafwyd cynnig i wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Ar y llaw arall cynigiodd y Cynghorydd Robert Ll. Hughes dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o'r caniatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Peter Dunning.

 

      

 

     O 8 bleidlais i 7 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau ynddo.

 

 

 

9.14

  34C347H - GOSOD 3 ANTENA NEWYDD, 3 DYSGL 600MM, GORCHUDD GSP NEWYDD I ORCHUDDIO'R CYFARPAR NEWYDD YNGHYD Â CHABAN TECLYNNAU MEWNOL YN Y FELIN WYNT LLANGEFNI, ODDI AR Y B5109, LLANGEFNI

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y tir yn amgau tir arall sy'n eiddo i'r awdurdod lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau  yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

9.15

  34C347/LB  -  CAIS ADEILAD RHESTREDIG AR GYFER GOSOD 3 ANTENA A 2  DDYSGL 600MM, GORCHUDD GSP NEWYDD I ORCHUDDIO'R CYFARPAR NEWYDD YNGHYD Â CHABAN TECLYNNAU MEWNOL YN Y FELIN WYNT LLANGEFNI, LLANGEFNI

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd fod tir y cais yn amgylchynu tir sy'n eiddo i'r awdurdod lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD peidio â gwrthwynebu ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog a nodi y câi'r cais ei yrru ymlaen at CADW i benderfynu arno.

 

      

 

9.16

  36C144A - NEWID DEFNYDD YR ADEILAD AMAETHYDDOL I FOD YN DY, YNGHYD AG ADDASU AC EHANGU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN TY'N LLIDIART, RHOSTREHWFA

 

      

 

     Gwnaeth Mr. Alun Gruffydd o Oriel Môn ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o'r tir a'r effaith arno yn eiddo i'r awdurdod lleol.

 

      

 

     Ar ran yr aelod lleol dywedodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes fod hwnnw yn cefnogi'r cais hwn ond gyda'r amod fod modd taro ar gyfaddawd i ddatrys anawsterau amod o (09) yn adroddiad y swyddog, sef :

 

      

 

     "the existing highway boundary wall/hedge/fence or any new boundary wall erected fronting the highway shall at no time be higher than 1 metre above the level of the adjoining county road carriageway for a distance of 50 metres in a north easterly direction (towards Llangefni) and nothing exceeding this height erected within 2 metres of the said wall".  Mae'r tir y mae'r amod hwn yn cael effaith arno ym mherchnogaeth y Cyngor Sir ac yn destun tenantiaeth amaethyddol.  Dywedodd yr Adain Eiddo fel a ganlyn .........."nid oes modd gweithredu ar ofynion yr Adain Briffyrdd dan delerau'r denantiaeth ond dyma gadarnhad bod modd gwerthu'r tir perthnasol i'r ymgeisydd er mwyn cydymffurfio gyda'r gofynion gwelededd, a'r tirfeddiannwr a'r tenant yn gorfod derbyn yr amod".  Dywedodd y Cynghorydd Hughes nad oedd y cynnig yn cael unrhyw effaith ar welededd ac roedd 5 ty eisoes i lawr y lôn.  Awgrymodd roddi caniatâd heb yr amod hwn.

 

      

 

     Gan ddilyn canllawiau'r Cynulliad dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y dylid gwrthod y cais hwn onid oes modd datrys y gofynion gwelededd.  Dywedodd y Swyddog y buasai'n beryglus caniatáu'r cais heb yr amod rhif (09).

 

      

 

     Roedd y Cyfarwyddwr Priffyrdd Corfforaethol yn argymell gwrthod onid oedd modd cydymffurfio gyda'r gofynion penodol  yma ac ychwanegodd y Swyddog Priffyrdd fod ffens ar hyn o bryd wedi ei chodi ar dop y wal.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Eurfryn Davies roddi caniatâd i'r cais yn unol â'r argymhelliad yn adroddiad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R. Ll. Hughes cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais yn amodol ar ddileu amod (09) yn adroddiad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

      

 

     O 7 bleidlais i 5 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a hefyd gyda'r holl amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

10     CAIS YN GWYRO - CYFEIRIO MATER YN ÔL

 

      

 

10.1

  48C52C - CYNLLUNIAU MANWL AR GYFER CODI ANNEDD AR DIR GER CERRIG Y DRUDION, GWALCHMAI

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn yn ôl yng nghyswllt penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ar 4 Medi 1991 i roddi caniatâd i'r cynnig os ceir ateb boddhaol i'r materion draenio oedd heb eu datrys.  Hyd yma nid oedd y materion hyn wedi eu datrys.

 

      

 

     Dywedodd y swyddog bod y cais hwn yn un am ganiatâd cynllunio llawn i godi annedd y tu allan i ffiniau datblygu Gwalchmai fel y cânt eu diffinio yn y Cynllun Lleol a hefyd yn y Cynllun Datblygu Unedol esblygol.  Yn y cyfnod ers cyflwyno'r cais cyntaf roedd y polisïau cynllunio wedi newid yn fawr ac nid oedd amgylchiadau eithriadol ynghlwm wrth y cais i gyfiawnhau gwyro oddi wrth y polisïau cynllunio - polisïau sy'n ceisio rheoli datblygiadau dianghenraid yn y cefn gwlad.  Hefyd nid oedd hi'n addas datblygu'r safle oherwydd natur ansafonol y rhwydwaith ffyrdd.  

 

      

 

     Roedd y Swyddog yn argymell gwrthod y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais hwn am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

11     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar y materion dirprwyol a benderfynwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

     Gwnaeth Mr. Huw Jones o Adran y Rheolwr-gyfarwyddwr ddatganiad o ddiddordeb yng ngheisiadau 26C85 a 26C86

 

      

 

     YN CODI:

 

     DIRPRWYO A GWRTHOD

 

     18C146A - CAE ORDNANS 9835, LLANRHUDDLAD

 

      

 

     Nodwyd bod y cais uchod wedi ei wrthod gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ac nid dan y pwerau dirprwyol fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

12     19C251H - CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL A CHODI BLOC SWYDDFEYDD 8 LLAWR, LLE PARCIO TANDDAEAROL YNGHYD Â CHODI 6 TY TERAS YN FFORDD KINGSLAND, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio adroddiad ar y sefyllfa ac ar ddyddiadau'r digwyddiadau hyd yma fel a nodwyd yn ei adroddiad.  Roedd y Gwasanaeth Cynllunio yn disgwyl am ragor o wybodaeth ynghylch yr effaith weledol ac ynghylch goblygiadau traffig y cynnig cyn mynd ati i lunio argymhelliad arno.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

      

 

13     APELIADAU A WRTHODWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd adroddiadau yr Arolygwyr a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar yr apeliadau isod a wrthodwyd :

 

      

 

13.1

  STAD Y GORLAN, AMLWCH

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod hwn yn gwrthod caniatâd cynllunio amlinellol i godi annedd unllawr (cais rhif 11C109B, dyddiedig 13.05.2003 a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 1 Mehefin, 2003).

 

      

 

13.

2  CAE ORDNANS 6083 GER GWEITHDY, GWALCHMAI

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod hwn yn gwrthod caniatâd cynllunio amlinellol i godi cartref nyrsio (cais rhif 48C136B, dyddiedig 04.09.2003, a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 6 Tachwedd, 2003).44........

 

      

 

14     APELIADAU A GANIATAWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd adroddiadau gan Arolygwyr a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar yr apeliadau isod a ganiatawyd :

 

      

 

14.1

  'BATHING HOUSE', GLYN GARTH

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod hwn yn gwrthod caniatâd cynllunio i altro ac ymestyn yr annedd bresennol (cais 17C342, dyddiedig 14.05.2003 ac a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 12 Awst, 2003).22........

 

      

 

14.2

  7/9 STRYD FAWR, LLANGEFNI

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod hwn yn gwrthod caniatâd cynllunio i droi siop categori A1 (gwerthu) yn siop A2 (siop betio), ffrynt alwminiwm newydd i'r siop a gosod tair uned awyrellu (cais 34C481 dyddiedig 08.10.2003 a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 26 Tachwedd, 2003).

 

      

 

15     HYFFORDDIANT

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd - yn dilyn yr achlysur hyfforddiant a drefnwyd i'r aelodau ar ddydd Gwener, 25 Mehefin 2004 dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu am sesiwn arall wedi ei threfnu i'r rhai hynny oedd yn methu bod yn bresennol ar y dydd.  Trefnwyd yr ail sesiwn ar gyfer dydd Iau, 22 Gorffennaf, 2004 am 10.00 a.m. yn Siambr y Cyngor.  Darllenodd y Swyddog y darn perthnasol o Gyfansoddiad y Cyngor, rhif 4.6.17, gan bwysleisio y dylai'r aelodau gwneud pob ymdrech i fynychu'r sesiynau.

 

      

 

      

 

      

 

16     DYDDIADAU'R CYFARFODYDD

 

      

 

     Er gwybodaeth cyflwynwyd a nodwyd, copi o ddyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Ymweliadau â Safleoedd am y flwyddyn i ddod.

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 4.45 p.m.

 

      

 

     Y CYNGHORYDD R. L. OWEN

 

     CADEIRYDD