Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 7 Gorffennaf 2010

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 7fed Gorffennaf, 2010

Ynglyn â

Atgoffir aelodau y bydd papurau cefndirol y cyfeirir atynt yn yr adroddiadau i'r pwyllgor ar gael i'w harchwilio ar mewn fformat electronig ar ddiwrnod y cyfarfod o 12.30 p.m. ymlaen yn Siambr y Cyngor neu gellir eu harchwilio yn yr Adain Rheoli Datblygu yn ystod oriau agor arferol. Hefyd gellir gweld dogfennau y cyfeirir atynt yn yr adroddiadau ar ffeiliau'r electronig y ceisiadau.

Adroddir ar lafar i'r Pwyllgor unrhyw wybodaeth ychwanegol a ddaw i law yn dilyn cyhoeddi adroddiadau. Efallai y gwneir mân newidiadau i rybudd o benderfyniad mewn achosion o gamgymeriadau argraffu adroddiadau i'r Pwyllgor cyn rhyddhau rhybudd o benderfyniad i ganiatáu neu i wrthod cais.
*( ) dynodi rhif y dudalen

1.

(a) Ethol Is-Gadeirydd.
(b) Derbyn ymddiheuriadau.

2. Datganiad o ddiddordeb

3. Cofnodion

(a) Cyflwyno, i'w cadarnhau a'u llofnodi, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 20 Mai, 2010. (Papur 'A')

(b) Cyflwyno, i'w cadarnhau a'u llofnodi, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Mehefin, 2010. (Papur 'B')

4. Ymweliadau safle

Dim i'w hystyried gan y cyfarfod hwn.

5. Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio:

5.1 26/C/100A - Tan y Coed, Marianglas (2) (Papur 'C')

6. Ceisiadau yn codi:

6.1 30/C/499J - Angorfa, Traeth Coch (5)

6.2 46/C/14H/1 â€" Safle Fflatiau Cliff, Bae Trearddur (8)
(Papur 'CH')

7. Ceisiadau economaidd:

7.1 14/C/28A/1/ECON - Plotiau 10 a 15, Stad Ddiwydiannol, Mona (15) (Papur 'D')

8. Ceisiadau am dy fforddiadwy

Dim i'w hystyried gan y cyfarfod hwn.

9. Ceisiadau'n gwyro:

Dim i'w hystyried gan y cyfarfod hwn.

10. Cynigion datblygu gan gynghorwyr a swyddogion

10.1 36/C/63F - Tynygongl, Rhostrehwfa (20) (Papur 'DD')

11. Gweddill y ceisiadau:

11.1 22/C/183B - Tai Bach, Llanddona (26)

11.2 32/C/68J â€" Ysgol Caergeiliog, Caergeiliog (31)

11.3 46/C490 - Green Acres, Porth-y-Post, Lôn Isallt,Bae Trearddur (35)
(Papur 'E')

12. Materion eraill

12.1 32/C/27C - OS 5866, Tre Ifan, Caergeiliog (39)

12.1 46/C/135J â€" Ochr Ogleddol y Promenâd, Bae Trearddur (41)
(Papur 'F')

13. Ceisiadau a ddirprwywyd

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn. (Papur 'FF')

14. Apeliadau

14.1 â€" Tir ger Llechwedd, Pengorffwysfa, Amlwch

14.2 - The Lodge, 17 Ffordd Bay View, Benllech

14.3 - Ty Capel Caersalem, Mynydd Bodafon, Llannerchymedd

14.4 - Tir ger The Boat House, Drws y Coed, Glyn Garth a tir gyferbyn â Rysgol Farm, Drws y Coed, Glyn Garth, Porthaethwy