Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 7 Medi 2005

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 7fed Medi, 2005

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Medi 2005

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arthur Jones (Is-Gadeirydd) yn y Gadair

 

Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, J Arwel Edwards,

PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen,

D Lewis-Roberts, John Roberts, WT Roberts

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Arweinydd Tîm (DPJ)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)
Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

YMDDIHEURIADAU:

 

John Byast,  Denis Hadley, J Arwel Roberts

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Yr Aelodau Lleol :

Y Cynghorwyr Peter Dunning (eitem 4.17, 7.13), RLl Hughes (eitem 4.4, 4.5, 4.6), Gwilym O Jones (eitem 6.1), Thomas Jones (eitem 4.14), RG Parry OBE (eitem 4.7, 4.20), G Allan Roberts (eitem 7.4, 7.5, 7.6), Peter Rogers (eitem 6.5), Hefin Thomas (eitem 4.15)

 

Cytunodd yr Aelodau i drafod y trefniadau eistedd i Aelodau'r Pwyllgor yn y Seminar i'w chynnal ar 13 Medi, 2005.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd PM Fowlie ei fod yn dal i ddisgwyl ymateb ysgrifenedig Arweinydd y Cyngor i'w gais am gyfarfod i drafod balans gwleidyddol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau dan Aelodau a Swyddogion fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

Dywedodd y Cynghorydd J Arthur Jones y buasai'n datgan diddordeb yn eitemau 7.3, 7.8 a 7.11 y cofnodion hyn ond ar ôl derbyn y caniatâd arbennig y Pwyllgor Safonau buasai'n chwarae rhan lawn yn y broses o benderfynu ar y ceisiadau hynny a gyflwynwyd gan Best Value UK Ltd fel asiant.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion wedi derbyn cyngor cyfreithiol, ac na fusent o'r herwydd yn trosglwyddo ceisiadau cynllunio gan Best Value UK Ltd, yn gweithredu fel asiant, yn otomatig i'r Pwyllgor yn y dyfodol i benderfynu arnynt onid oedd camau o'r fath yn briodol am ryw reswm arall.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf, 2005 (Cyfrol y Cyngor Medi 2005).

 

 

YN CODI :

 

 

 

20C28B/ECON - Douglan Inn, Tregele (Eitem 2 cofnodion 27 Gorffennaf, 2005 a 4.5 cofnodion   6 Gorffennaf, 2005).  Nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr asiant i'r cais uchod wedi dweud y buasai'n apelio yn erbyn penderfyniad o wrthod gan y Pwyllgor a hwnnw'n benderfyniad croes i argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog.  CYTUNWYD y buasai'r Cynghorwyr D Lewis Roberts, Tecwyn Roberts (cynigydd ac eilydd) cynigiodd y Cynghorydd J Arthur Jones ei gefnogaeth i amddiffyn y penderfyniad.

 

 

 

16C138B  Ysgubor Fadog, Bryngwran (eitem 4.1 o'r cofnodion) roedd y Cynghorydd John Roberts yn dymuno cofnodi iddo bleidleisio o blaid argymhelliad y swyddog, sef gwrthod.

 

 

 

22C24C Tir ger Ty’n Lon, Llanddona (eitem 4.6 o'r cofnodion) roedd y Cynghorydd RL Owen yn dymuno cofnodi bod angen diwygio pumed paragraff y cofnodion i ddarllen "ni fedrai'r Cynghorydd Owen gefnoi argymhelliad yr aelod lleol."

 

 

 

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar 17 Awst, 2005.

 

 

 

 

 

4

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

 

 

4.1

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

11C304A  CYNLLUNIAU LLAWN I GODI 33 O DAI YNGHYD Â GWNEUD GWAITH ALTRO AR Y FYNEDFA AR DIR FFARM MADYN, AMLWCH

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

 

 

Cymerwyd y Gadair gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts i ystyried yr eitem hon.

 

 

 

Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y safle yng nghanol tir sy'n eiddo i'r Cyngor.  Gynt roedd y cais wedi'i ohirio oherwydd bod materion heb eu setlo yng nghyswllt tai fforddiadwy a thirlunio.

 

 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu yr aelodau at adroddiad manwl y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad a chydag amodau gan gynnwys Cytundeb dan Adran 106 (tai fforddiadwy), a chyda'r amod hefyd y buasai'r ymgeiswyr yn cyfrannu £7,500 arall i Gyngor Tref Amlwch tuag at atgyweirio a chynnal a chadw mannau agored/chwarae yn y ward.  Gan fod rhan o safle'r cais yn cael effaith ar dir ym meddiant y Cyngor câi ei drosglwyddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru ei ganiatáu.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones cadarnhaodd y swyddog mai cais oedd hwn am 31 o anheddau.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.  Teimlai'r Cynghorydd Fowlie hefyd y buasai'n briodol ymweld â'r lle i weld ar faint o dir Cyngor yr oedd y cais yn cael effaith.  Oherwydd maint y datblygiad roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn gytûn ei bod hi'n briodol cael ymweliad.

 

 

 

Am y rhesymau a roddwyd ac o 5 pleidlais i 4 PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

 

 

 

 

4.2

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

12C193U/EIA    CAIS AMLINELLOL I GODI 15 APARTMENT GWYLIAU A THAI TREFOL GYDA CHYFLEUSTERAU HAMDDEN AR Y SAFLE AC AR DIR GER FFERMDY HENLLYS, BIWMARES

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a oedd wedi gofyn i'r aelodau ymweld â'r safle a threfnwyd yr ymweliad ar gyfer 17 Awst, 2005.  

 

 

 

Gofynnodd y Rheolwr Rheoli Datblygu am ohirio ystyried y cais hyd nes derbyn rhagor o wybodaeth gan yr ymgeiswyr.

 

 

 

Am y rheswm uchod PENDERFYNWYD, gohirio ystyried y cais hwn.

 

 

 

 

 

 

 

4.3

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

12C336    CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER NANT Y MYNYDD, LLANFAES

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais am y rheswm a ganlyn a hynny'n groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog :

 

 

 

Ÿ

bod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 y Cynllun Lleol

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais ei ohirio er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Wedyn cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at ymateb y swyddog fel y manylwyd ar hwnnw yn ei adroddiad ac roedd yr argymhelliad o wrthod yn aros.

 

 

 

Unwaith yn rhagor mynegodd y Cynghorydd RL Owen ei gefnogaeth i'r cais ar y plot olaf yn yr ardal a chynigiodd roddi caniatâd iddo a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

 

 

Gan fod y cais hwn yn tynnu'n groes i'r polisiau CYTUNODD yr Aelodau i gofnodi'r bleidlais a dyma fel y bu'r bleidlais honno:

 

 

 

CANIATAU'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD O WRTHOD GAN Y SWYDDOG):

 

Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, PM Fowlie,  Aled Morris Jones, J. Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, D Lewis Roberts, John Roberts, Tecwyn Roberts (10)

 

 

 

Ni phleidleisiodd y Cynghorydd John Chorlton ar y mater ac ni chwaraeodd ran yn y drafodaeth.

 

 

 

O 9 pleidlais PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog ac am y rhesymau a roddwyd o'r blaen a chydag amodau safonol.

 

 

 

Yma cytunodd yr Aelodau i gais gan y Swyddog Priffyrdd i roddi amod ychwanegol ynghlwm i bwrpas gwneud gwaith gwella ar y ffordd sy'n rhedeg at y safle.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

4.4

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

15C35B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR GAE ORDNANS 1328 GER GLAN CORON, LLANGADWALADR

 

 

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a deimlai bod y safle union ger pentref a chlwstwr.  Yn y cyfarfod cynt, penderfynodd yr Aelodau ymweld â'r lle a threfnwyd hynny ar gyfer 17 Awst, 2005.

 

 

 

Wedyn dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymweliad wedi cadarnhau bod y safle y tu allan i ffiniau naturiol y pentref ac roedd yr argymhelliad yn aros, sef gwrthod am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Ond ni chredai'r Cynghorydd RLl Hughes bod y safle yn rhy bell oddi wrth y ffiniau a bod modd cuddio'r lle trwy blannu coed.  Hefyd roedd disgwyl i'r cyfyngiad gyrru ar hyd y darn hwn o'r ffordd gael ei ostwng i 40 mya yn y dyfodol agos ac roedd y fynedfa arfaethedig yn ddigon pell o'r tro yn y ffordd.  Gyda'r cefndir hwn credai'r Cynghorydd Hughes bod modd ystyried y safle fel safle ar gyrion clwstwr o anheddau eraill a ffactor bwysig iawn yn y broses o ganiatáu oedd y ffaith bod modd caniatáu annedd fforddiadwy yma a hynny'n cryfhau'r gymuned wledig a lleol.  

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd unrhyw dystiolaeth wedi'i chyflwyno i ddangos y codid annedd fforddiadwy a dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y safle yn amlwg iawn yn y cefn gwlad yn ôl y diffiniad yn y Canllawiau Cynllunio Atodol.

 

 

 

Wedyn cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Jones at y ddogfen "Gwella Bywyd Môn" lle roedd pwyslai ar gryfhau cymunedau gwledig - a buasai caniatau'r cais hwn o gymorth i'r ysgol gynradd ym

 

Modorgan a chynt roedd 2 siop yn Hermon, a chynigiodd roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones gan fod y cynnig yn cydymffurfio gyda Pholisi 50.  Wedyn ychwanegodd y Cynghorydd Glyn Jones bod y math hwn o annedd yn un rheoladwy gan mai cais amlinellol ydoedd.

 

 

 

Ond atgoffa'r aelodau a wnaeth y Cynghorydd John Chorlton bod y cais yn amlwg yn groes i'r polisiau, a bod strategaeth yn ei lle yng nghyswllt diffinio anheddau fforddiadwy i gynorthwyo unigolion.

 

 

 

Cytuno a wnaeth y Cynghorydd Arthur Jones nad oedd unrhyw dystiolaeth wedi'i chyflwyno i gefnogi'r cais, sef y buasai'n gais am annedd fforddiadwy - roedd yn rhaid i anheddau amaethyddol gydymffurfio gyda gofynion profion cyllidol ac ymarferol.

 

 

 

Roedd y bleidlais yn 5 yr un a chyda phleidlais fwrw'r Cadeirydd PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

15C144   CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, I ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR TYDDYN BWRTAIS, LLANGADWALADR

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a chan fod y tir union ger pentref a chlwstwr.  Yn y cyfarfod cynt penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle a threfnwyd hynny ar gyfer 17 Awst, 2005.

 

 

 

Wedyn cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at adroddiad y swyddog a nododd bod yr ymgeisydd bellach wedi cadarnhau bod y tir perthnasol yr oedd y fynedfa arfaethedig yn cael effaith arno yn eiddo iddo.  Roedd y plot a'r fynedfa iddo yn weledol ar wahân i bentref Llangadwaladr, a chafwyd argymhelliad o wrthod gan y swyddog.

 

 

 

Ond mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd RLl Hughes bod y safle y tu mewn i'r ffrâm ddangosol a chadarnhaodd bod y tir o gwmpas ac yn y fynedfa yn eiddo i'r ymgeisydd.

 

 

 

Roedd y bleidlais yn 5 yr un a chyda phleidlais fwrw'r Cadeirydd PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Cafwyd cynnig o ganiatáu gan y Cynghorydd O. Glyn Jones a eiliwyd ef gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

 

 

4.6

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

15C145  CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO DORMER A GAREJ YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR GAE ORDNANS 8708 GER FFERM TREFEILIR, BETHEL

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a hynny oherwydd amgylchiadau personol eithriadol.  Yn y cyfarfod cynt penderfynodd yr aelodau ymweld â'r lle a threfnwyd hynny ar gyfer 17 Awst, 2005.

 

      

 

     Atgoffa'r aelodau a wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod raid iddynt gerdded ar draws cae i gyrraedd y safle a hwnnw'n amlwg yn y cefn gwlad agored ac fel y gwelodd yr aelodau, roedd anhawster gweld o'r fynedfa a chredid bod honno'n is na'r safon.  Er gwaethaf y cynnig gan yr ymgeisydd i symud y plot roedd yr argymhelliad yn aros yn un cryf o wrthod.

 

      

 

     Cytuno a wnaeth y Cynghorydd RLl Hughes bod safle'r cais yn y cefn gwlad agored, ond roedd yr ymgeisydd bellach wedi cytuno i symud y plot a gwella'r fynedfa.  Arhosai lefel y traffig fel y mae a hynny oherwydd bod yr ymgeisydd eisoes yn byw ar y fferm.  Roedd rhieni'r ymgeisydd angen cymorth i ofalu am frawd yr ymgeisydd, dyn 40 oed gydag anableddau corfforol a meddyliol.  Buasai caniatáu o gymorth i deulu gydag unigolyn methedig.

 

      

 

     Yma holodd y Cynghorydd D Lewis Roberts am y posibilrwydd o gael adroddiad yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol ond mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cyfrifoldeb am ddarparu tystiolaeth yn perthyn i'r ymgeisydd.

 

      

 

     Wedyn ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y dylid ystyried ffyrdd eraill o gwrdd â'r angen, megis addasu adeiladau allanol, ac roedd y swyddogion yn fodlon trafod y posibilrwydd hwn gyda'r ymgeiswyr - roedd y fynedfa yn beryglus - a hefyd roedd yn rhaid seilio penderfyniadau ar egwyddor defnydd tir ac nid ar amgylchiadau personol.

 

      

 

     Cytunodd a wnaeth y Cynghorydd John Chorlton y dylai'r swyddogion fynd i drafodaethau gyda'r ymgeisydd ac edrych ar y posibiliadau eraill.

 

      

 

     Wedyn cafodd yr aelodau eu hatgoffa gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio y dylid gwrthod y cais hwn a chytunodd i'w swyddogion fynd i drafodaethau gyda'r ymgeisydd ac edrych ar y posibiliadau y tu mewn i'r polisiau presennol.  Ar y ddealltwriaeth hon cynigiodd y Cynghorydd John Roberts dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod ynddo, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton

 

      

 

     O 6 phleidlais PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

4.7     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     16C164   CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN HAFOD WEN, BRYNGWRAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol gan fod y tir dan sylw ar gyrion y pentref.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu am y rheswm a ganlyn a hynny'n groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog:

 

      

 

Ÿ

roedd y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 y Cynllun Lleol

 

Ÿ

pobl leol

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais ei ohirio er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at yr ymateb gan y swyddog i'r rhesymau dros ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog a'r manylion yng nghyswllt y rhesymau yn yr adroddiad; cadarnhaodd bod yr argymhelliad yn dal i fod yn argymhelliad o wrthod.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd RG Parry nad oedd y cynllun a rannwyd gyda'r agenda yn dangos y fynwent y tu cefn i'r safle, a bod modd i'r ymgeisydd ddefnyddio'r fynedfa honno a hefyd aeth ymlaen i ddweud bod yma bobl leol yn dymuno dychwelyd i fyw i'r pentref, a chadarnhaodd bod ei gais yn aros heb newid, sef i ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad cynt a chaniatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Cytunodd yr aelodau i gofnodi'r bleidlais a dyma fel y bu honno:

 

      

 

     CANIATAU'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD O WRTHOD GAN Y SWYDDOG):

 

      

 

     Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, PM Fowlie,  Aled Morris Jones, O Glyn Jones, J. Arthur Jones, RL Owen, D Lewis Roberts,  (8)

 

      

 

     DERBYN ADRODDIAD Y SWYDDOG A'R ARGYMHELLIAD O WRTHOD :

 

      

 

     Y Cynghorydd John Roberts (1)

 

      

 

     YMATAL :    

 

      

 

     Y Cynghorydd WJ Chorlton

 

      

 

     O 8 pleidlais i 1 PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu'r cais yn groes i bolisi ac am y rhesymau a roddwyd o'r blaen a chyda'r amodau safonol a hynny yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog.

 

      

 

      

 

4.8     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     17C325A - DYMCHWEL ANNEDD A CHODI DWY ANNEDD NEWYDD AC ALTRO'R FYNEDFA YM MHARC BELLIS, HEN LANDEGFAN

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt, gan ddilyn argymhelliad y Rheolwr Rheoli Cynllunio, penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle i gynefino gyda'r lle a threfnwyd yr ymweliad ar 20 Gorffennaf, 2005.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais hwn am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog :

 

      

 

Ÿ

roedd yma ganiatâd yn barod i ddwy annedd ar y safle

 

Ÿ

ni chredwyd y câi'r cynnig hwn effaith ddrwg ar yr olygfa

 

Ÿ

enillion priffyrdd

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Atgoffwyd yr aelodau gan y Cynghorydd Eurfryn Davies bod caniatâd ar y lle hwn yn barod i ddwy annedd a'r broblem oedd maint yr annedd yn y cefn - buasai uchder crib yr ail annedd 3m yn is na chrib pen y teras tua'r gorllewin o'r safle.  Buasai'r gwrych yn y cefn yn cyrraedd bondo yr adeilad arfaethedig ac yn ei guddio.   O'r herwydd cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Davies i lynu wrth y penderfyniad blaenorol o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D Lewis Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd o'r blaen a chyda'r amodau safonol gan gynnwys amod bod y gwelliannau i'r briffordd yn cael eu cwblhau er mwyn gwella'r gwelededd tua'r dwyrain o'r safle a hyn oll yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog.

 

      

 

      

 

4.9     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     19C171A   CAIS AMLINELLOL I GODI TAI, ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU AR DIR GER YSBYTY PENRHOS STANLEY, CAERGYBI

 

      

 

     Oherwydd natur y cais hwn, penderfynodd yr aelodau yn y cyfarfod cynt ymweld â'r safle tra oedd gwaith ymgynghori yn cael ei wneud a hynny i ddeall yr amgylchiadau lleol yn well a threfnwyd hynny ar gyfer 17 Awst, 2005.

 

      

 

     Gofynnodd y swyddog am ohirio ystyried y cais unwaith yn rhagor hyd nes derbyn rhagor o wybodaeth gan yr ymgeisydd.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

      

 

4.10      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     29C112   CAIS AMLINELLOL I GODI CHWE ANNEDD AC ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU AR DIR GER BRYN, LLANFAETHLU

 

      

 

     Yng nghyfarfod Chwefror cafwyd argymhelliad gan y swyddog bod aelodau'n ymweld â'r safle a threfnwyd hynny ar gyfer 16 Chwefror, 2005.  Yn y cyfamser gohiriwyd ystyried y cais oherwydd materion priffyrdd a pherchenogaeth heb eu setlo.  Gofynnodd y swyddog am ohirio ystyried unwaith yn rhagor er mwyn cwblhau gwaith ymgynghori.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

      

 

4.11      CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     30C385A DYMCHWEL GWESTY A CHODI ADEILAD PUM LLAWR AC YNDDO 28 APARTMENT PRYNU I'W GOSOD, PWLL NOFIO MEWNOL A CHAMPFA YMARFER YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ALTRO'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD YNG NGWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH

 

      

 

     Ymwelodd yr Aelodau â'r safle ar 20 Hydref, 2004.  Gan fod y cais gwreiddiol wedi'i ddiwygio ailymwelodd yr aelodau â'r safle ar 17 Awst, 2005.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod asiant yr ymgeisydd, y bore hwnnw, wedi dweud wrth ei Adran am ei ddymuniad i dynnu'r cais yn ôl.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi bod y cais uchod bellach wedi'i dynnu'n ôl gan yr ymgeiswyr.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

4.12      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     30C587  GWAITH ALTRO AC YMESTYN YN 9 FERN HILL, BENLLECH

 

      

 

     Gwnaeth Mrs Carys Bullock o Adran y Rheolwr-gyfarwyddwr ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod cynt penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa a threfnwyd hynny ar gyfer 17 Awst, 2005.  

 

      

 

     Ar ddechrau'r drafodaeth darllenodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio lythyr a gyflwynwyd i'r Cynghorydd D Lewis Roberts gan aelod o'r cyhoedd ynghynt yn y dydd a hefyd dangosodd gynlluniau a oedd ynghlwm wrth y llythyr a'r rheini'n bur debyg i'r rheini a ddangoswyd ar wal Siambr y Cyngor.  Am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog roedd yr argymhelliad yn dal i fod yn argymhelliad o ganiatáu.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd D Lewis Roberts cafwyd ymateb manwl i adroddiad y swyddog a'i fod ef ar ddeall bod yr eiddo wedi'i roddi ar y farchnad am nad oedd defnydd yn cael ei wneud ohono fel cartref gwyliau ac wedyn fe'i tynnwyd oddi ar y farchnad oherwydd diffyg diddordeb - buasai caniatâd cynllunio i ddarparu estyniad yn ei wneud yn fwy gwerthadwy.  Nid oedd yr un gwrthwynebiad i'r egwyddor o ymestyn yn y cefn.  Datblygwyd y stad hon gyda golwg ar sicrhau bod pob ty yn cael golygfa a hefyd yn cael preifatrwydd - roedd y preswylwyr yn gryf eu gwrthwynebiad i ychwanegu 1.5m at uchder y grib gan fod hynny yn mynd i arwain at edrych dros y tai cyffiniol.  Hefyd roedd gwrthwynebiad oherwydd gorddatblygu'r safle, a chreu nodwedd amlwg iawn a hynny'n groes i gymeriad y cyffiniau.  O'r herwydd cafwyd cynnig gan y Cynghorydd D Lewis Roberts i wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts a oedd yn cytuno y buasai'r adeilad yn rhy uchel a ddim yn  gweddu i'r cyffiniau.  

 

      

 

     Cytuno a wnaeth y Cynghorydd Eurfryn Davies bod y bwriad yn cyfateb i orddatblygu'r safle a gofynnodd y Cynghorydd RL Owen beth oedd sefyllfa'r Awdurdod pe ceid apêl.

 

      

 

     Wedyn holodd y Cynghorydd John Chorlton ynghylch y posibilrwydd o ganiatáu'r cais petai uchder y grib yn cael ei ostwng ac mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd modd gweithredu ar awgrym o'r fath a chredai ef bod yr uchder yn rhesymol, a bod y swyddogion yn gweld y cynnig yn un derbyniol.

 

      

 

     Nidd oedd y Cynghorydd Arthur Jones yn siwr a oedd modd diwygio goleddf y to i bwrpas gostwng yr uchder.

 

      

 

     Ni fu y Cynghorydd Arwel Edwards ar yr ymweliad â'r safle ac o'r herwydd dywedodd na fuasai'n pleidleisio ar y cais.

 

      

 

     O 6 phleidlais i 4 roedd yr aelodau yn dymuno gwrthod y cais am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog :

 

      

 

Ÿ

effaith annerbyniol ar bleserau y tai cyffiniol oherwydd gorddatblygu a cholli preifatrwydd.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r drafodaeth ar y cais ei gohirio'n otomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

      

 

4.13     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     34C303J/1  CODI ANNEDD UN TALCEN AR BLOT 80B BRO EDNYFED, LLANGEFNI

 

      

 

     Cafwyd datganiadau o ddiddordeb yn y cais gan y Cynghorydd Aled Morris Jones a chan Mr Rees Roberts o'r Uned Gyfieithu.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod mis Mai roedd yr aelodau yn dymuno ymweld â'r safle a threfnwyd hynny ar gyfer 18 Mai, 2005.  Yn y cyfamser roedd y cais wedi'i ohirio oherwydd materion heb eu datrys.

 

      

 

     Wedyn gofynnodd y Rheolwr Rheoli Datblygu am ohiriad arall.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

      

 

4.14     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     38C220    CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD UNLLAWR AR DIR GER HEN BLAS, LLANFECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno ymweld â'r safle fel bod modd iddynt asesu'r safle drostynt eu hunain a threfnwyd hynny ar gyfer 20 Gorffennaf, 2005.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog :

 

      

 

Ÿ

mae safle'r cais mewn clwstwr llac o dai

 

Ÿ

buasai'r annedd yn creu cartref i deulu lleol ac ifanc - ty fforddiadwy

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

      

 

     Yn ôl y Pennaeth Rheoli Datblygu buasai caniatáu yn sefydlu cynsail peryglus am y rheswm ei fod y tu mewn i glwstwr llac ac nid oedd yn enghraifft o dy i weithiwr amaethyddol na choedwigaethol.  Roedd yr argymhelliad o wrthod yn aros ac yn un cryf.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Thomas Jones bod yr ymweliad yn dangos bod yma glwstwr llac o 9 o anheddau dros ardal eang ac mai'r bwriad oedd codi uned unllawr.  O ganiatáu'r cais buasai yma gartref fforddiadwy i deulu gyda phedwar o blant a thad gwraig yr ymgeisydd yn rhoddi'r tir iddynt.  Roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno ffurflen P60 fel tystiolaeth o incwm y teulu.  Ni chafwyd yr un gwrthwynebiad i'r bwriad ac roedd y cyngor cymuned yn cefnogi.  Roedd y teulu yn byw mewn ty rhent yn y pentref.  Gofynnodd y Cynghorydd Jones i'r  Pwyllgor gefnogi'r cais.

 

      

 

     Dan Ddeddf Diogelu Data ac yn ôl dymuniad gwraig yr ymgeisydd dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd ffurflen P60 yr ymgeisydd wedi'i rhyddhau i'r maes cyhoeddus. Nid oedd yr ymgeisydd wedi dweud bod y bwriad yn un i godi ty fforddiadwy ac o'r herwydd roedd modd gwerthu'r eiddo ar y farchnad agored.  Cafwyd argymhelliad o wrthod gan y swyddog.

 

      

 

     I bwrpas cefnogi ac adfywio'r gymuned wledig cafwyd cynnig o ganiatáu gan y Cynghorydd  Aled Morris Jones a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd  WJ Chorlton dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y safle tua 500m y tu allan i ffiniau datblygu Llanfechell a heb fod y tu mewn i glwstwr diffiniedig.  Yn amlwg iawn roedd y safle yn y cefn gwlad agored.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Thomas Jones nad oedd y stablau gerllaw yn eiddo i'r ymgeisydd ac roedd ymholiadau gorfodaeth yn cael eu cynnal yn eu cylch mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd  Chorlton.

 

      

 

     Cytunodd yr Aelodau i gofnodi'r bleidlais a dyma fel y bu:

 

      

 

     CANIATAU'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD O WRTHOD GAN Y SWYDDOG):

 

     Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, PM Fowlie,  Aled Morris Jones, RL Owen, D Lewis Roberts, Tecwyn Roberts (7)

 

      

 

     DERBYN ADRODDIAD Y SWYDDOG A'R ARGYMHELLIAD O WRTHOD:

 

      

 

     Y Cynghorwyr  J Arthur Jones, John Roberts (2)

 

      

 

     YMATAL:    

 

      

 

     Y Cynghorydd WJ Chorlton

 

      

 

     O 7 bleidlais PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu'r cais hwn oedd yn gwyro a hynny'n groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog ac am y rhesymau a roddwyd o'r blaen a chydag amodau safonol.

 

      

 

4.15      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     42C60C  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER STRYD Y CAPEL, PENTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ar 6 Gorffennaf 2005 roedd yr Aelodau yn dymuno ymweld â'r safle er mwyn cynefino gyda'r lle threfnwyd hynny ar gyfer 20 Gorffennaf, 2005.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais am y rheswm a ganlyn a hynny'n groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog :

 

      

 

Ÿ

roedd y cais yn llenwi bwlch

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Am y rhesymau hynny y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yr argymhelliad yn aros yn argymhelliad o wrthod.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd  Hefin Thomas oedd atgoffa'r aelodau bod y cais wedi derbyn cefnogaeth unfrydol y Pwyllgor yn y cyfarfod cynt.

 

      

 

     Yn amodol ar ddiogelu'r llwybr cyhoeddus ger yr afon, cafwyd cynnig o ganiatáu gan y Cynghorydd  RL Owen a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D Lewis Roberts.

 

      

 

     Cytunodd yr Aelodau i gofnodi'r bleidlais a dyma fel y bu :

 

      

 

     CANIATAU'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD O WRTHOD GAN Y SWYDDOG):

 

      

 

     Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, PM Fowlie,  

 

     J Arthur Jones, RL Owen, D Lewis Roberts, J. Roberts, Tecwyn Roberts (8)

 

      

 

     YMATAL:    

 

      

 

     Y Cynghorydd WJ Chorlton

 

      

 

     O 8 bleidlais PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd o'r blaen a chydag amodau safonol a hynny'n groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

4.16       GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     44C238  DYMCHWEL ADEILAD A CHODI TAIR ANNEDD NEWYDD AR DIR YR HEN FECWS, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ar 6 Gorffennaf, 2005 penderfynodd yr aelodau ymweld â'r lle i asesu'r sefyllfa briffyrdd a threfnwyd yr ymweliad ar gyfer 20 Gorffennaf, 2005.

 

      

 

     I bwrpas cadw cofnod cywir dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod angen diwygio'r pennawd ym mharagraff 1 fersiwn Saesneg adroddiad y swyddog i "members reasons for refusing” y cais.  

 

        

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau yn dymuno gwrthod y cais am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog :

 

      

 

Ÿ

gorddatblygu'r safle

 

Ÿ

materion priffyrdd - yr un fynedfa yno'n rhy gul

 

Ÿ

effaith ddrwg ar bleserau cymdogion

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu yr aelodau at ymateb y swyddog i resymau'r Pwyllgor dros wrthod y cais ac fel y manylwyd ar y rhesymau yn yr adroddiad.  Yn y cyfarfod cyflwynwyd copi o lythyr gan yr ymgeisydd yn ymateb i'r penderfyniad hwnnw.  Ni fedrai'r Swyddogion amddiffyn penderfyniad o'r fath mewn apêl - apêl a fuasai'n llwyddo am nad oedd rhesymau cynllunio dros wrthod.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones nad oedd yn erbyn yr egwyddor o ddatblygu'r safle lle bu dwy fynedfa ar un adeg, ond bod rhan o'r safle bellach wedi'i gwerthu ac un fynedfa wedi'i chau.  Roedd y fynedfa arall yn gul, a chredwyd bod tair annedd a garejys yn cyfateb i orddatblygu - y bwriad oedd codi tai deulawr ar safle yng nghanol byngalos.  Hefyd roedd yma resymau priffyrdd dilys dros wrthod y cais a chynigiodd y Cynghorydd Jones y dylid glynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

     O gofio y defnydd a wnaed o'r safle yn y gorffennol dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd bod y fynedfa yn dderbyniol, ac nad oedd yr Adain Briffyrdd yn gwrthwynebu'r cynnig.

 

      

 

     Y bwriad, meddai'r Cynghorydd Eurfryn Davies, oedd codi tri thy deulawr yng nghanol byngalos a chytunodd bod gwaith o'r fath yn cyfateb i orddatblygu'r safle a chytuno a wnaeth y Cynghorydd  RL Owen.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D Lewis Roberts dywedodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) bod y swyddogion yn gweld y cynlluniau diwygiedig yn rhai derbyniol ond credai'r Cynghorydd Tecwyn Roberts bod y fynedfa yn annerbyniol.

 

      

 

     Wedyn cafwyd sylw gan y Cynghorydd John Chorlton bod y safle llwyd hwn wedi bod yn wag ers tro byd, a'r swyddogion yn argymell rhoddi caniatâd pe ceid tystiolaeth i ddigon o le parcio ac o le i droi y tu mewn i'r safle a chydag amodau o'r fath roedd y Cynghorydd Chorlton yn cynnig derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu.  Gynt roedd hon yn fynedfa i fecws ar o'r herwydd gallai dderbyn cyflenwadau mawr a buasai'r swyddogion proffesiynol wedi asesu dwysedd y datblygiad.

 

      

 

     Felly cyflwynodd y Cynghorydd John Chorlton gynnig i ddileu'r penderfyniad cynt o wrthod ac y dylid derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr PM Fowlie a Glyn Jones.

 

      

 

     O 7 bleidlais i 4 PENDERFYNWYD dileu penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod y cais a derbyn adroddiad y swyddog a rhoi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais ar ôl cwblhau trafodaethau'n foddhaol ar y dwr wyneb, y cyfleusterau parcio a'r llecyn troi y tu mewn i'r safle.

 

      

 

4.17      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     44C243  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER FFERM PENRHYN MAWR, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Cyflwnwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod cynt penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle a threfnwyd hynny ar gyfer 17 Awst, 2005.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod llythyr oddi wrth gymydog wedi'i dderbyn yn cefnogi'r cais a hynny ar ôl cyhoeddi'r adroddiad.  Ond roedd yr argymhelliad yn aros yn un o wrthod y cais hwn oedd yn torri'r polisiau - gwrthod am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd Aled Morris Jones y buasai caniatáu'r cais yn gwella'r briffordd i ddefnyddwyr eraill a hefyd câi y fynedfa bresennol ei gwella.   Gwraig ifanc leol oedd yr ymgeisydd ac yn dymuno dychwelyd i fyw i'r ardal.  Roedd hi'n cynnig cymorth i'w mam arallgyfeirio o ffermio.  O roddi caniatâd i'r cais buasai hynny yn adfywio'r gymuned wledig leol - a'r teulu wedyn yn cael cyfle i gefnogi'r ysgol leol a'r ysgol Sul.  Roedd y cyngor cymuned yn gefnogol i'r cais ac nid oedd yr un ty arall ar gael yn ardal Rhos-y-bol.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D Lewis Roberts dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y buasai'r gwaith cynnal a chadw ar y gwrych yn y dyfodol yn cael ei reoli trwy amod cynllunio.

 

      

 

     Wedyn cafwyd gair o gadarnhad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cyngor cymuned yn cefnogi'r cais hwn ar dir oedd yn eiddo i deulu'r ymgeisydd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd  RL Owen.

 

      

 

     O 6  phleidlais i 4 roedd yr aelodau yn dymuno caniatáu'r cais hwn am y rhesymau a ganlyn er ei fod yn groes i'r polisiau ac yn groes i argymhelliad y swyddog o wrthod :

 

      

 

Ÿ

cais economaidd - roedd y teulu wedi sefydlu busnes i arallgyfeirio o amaethyddiaeth

 

Ÿ

gwella'r briffordd, a hynny'n cynnwys gwelliannau i'r fynedfa

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais ei ohirio'n otomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

4.18      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     46C402A   CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL TY LLETYA A CHODI HYD AT 13 O DAI AR Y SAFLE A HYNNY'N CYNNWYS CAU Y FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU I BENDORLAN A GWESTY'R CLIFF A CHREU MYNEDFA GYFUN NEWYDD I WASANAETHU Y DDAU LE O LÔN ISALLT A CHREU MYNEDFA I GERDDWYR A BEICWYR I WASANAETHU'R DATBLYGIAD YM MHENDORLAN, LÔN ISALLT, TREARDDUR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod 6 Gorffennaf, 2005 penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle a threfnwyd hynny ar gyfer 20 Gorffennaf, 2005.  Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno gwrthod y cais hwn am y rhesymau a ganlyn a hynny'n groes i argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog :

 

      

 

Ÿ

mynedfa

 

Ÿ

effaith weledol ar y trwyn hwn o dir

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wrth yr aelodau bod yr ymgeisydd bellach wedi cyflwyno trefniadau diwygiedig i'r fynedfa i'r safle ac roedd yn rhaid ymgynghori ymhellach arnynt a gofynnodd am ohirio'r cais.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.  

 

      

 

4.19      46C137D  CYNLLUNIAU LLAWN I GODI 34 O DAI TRILLAWR A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDWYR AR YR HEN GAE CRICED, TREARDDUR

 

      

 

     Rhoes y Pwyllgor ei ganiatâd i'r cais hwn ar 3 Mawrth, 2004 gydag amodau.  Ar 5 Ionawr a 27 Gorffennaf, 2005 dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd y rhybudd o benderfyniad wedi'i ryddhau hyd nes derbyn cyngor gan Asiantaeth yr Amgylchedd yng nghyswllt y risg llifogydd.  Derbyniwyd llythyr dyddiedig 2 Awst 2005 oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd yn cadarnhau gwrthwynebiad yr Asiantaeth honno i ddatblygu'r safle fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     I bwrpas cadw cofnod cywir dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y dylai paragraff olaf wythfed dudalen adroddiad y swyddog ddarllen i gyfleu'r neges fod cyfarfod wedi'i gynnal rhwng yr holl bartïon ar 29 Ebrill, 2005 nid 2004 fel a ddywedwyd yn yr adroddiad.  Ar dudalen 12 (yr ail baragraff) roedd angen diwygio'r adroddiad i nodi bod dyfyniad o benderfyniad apêl diweddar yn cael ei ddyfynnu yn hytrach nag yn cael ei amgáu.

 

      

 

     Yn y cyfarfod rhannwyd copi o lythyr arall oddi wrth yr asiant dyddiedig 5 Medi, 2005.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio'r aelodau at adroddiad manwl y swyddog lle nodwyd bod canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoddir ardal hon mewn Ardal sy'n wynebu risgiau llifogydd Categori C2.  Y pwynt pennaf a ystyriwyd wrth lunio argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor oedd cyngor Llywodraeth Cynulliad Cymru yn erbyn codi tai mewn ardal risg llifogydd Categori C2.  Roedd hwn yn fater y mae TAN 15 yn cynnwys canllawiau clir yn eu gylch - sef i beidio â chodi tai mewn ardaloedd o'r fath dan unrhyw amgylchiadau.  Gwnaed gwaith ymgynghori manwl gyda'r Asiantaeth yr Amgylchedd a chafwyd eu cyngor nhw i beidio â bwrw ymlaen gyda datblygiad o'r fath.  Bellach roedd y Cyngor wedi mabwysiadu canllawiau cynllunio atodol ar dai fforddiadwy a chaent eu hymgorffori mewn cynllun o'r fath petai cynllun yn symud ymlaen.  Gan y swyddog cafwyd argymhelliad i wrthod y cais.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Peter Dunning yn gwbl gefnogol i argymhelliad o wrthod gan y swyddog - nid oedd y tir yn addas i ddatblygiad o'r fath oherwydd llifogydd - ac roedd Adroddiad Bullen ar yr Arfordir yn cefnogi'r farn hon.

 

      

 

     Ond câi y Cynghorydd John Chorlton hi'n anodd gwrthod cais a oedd yn y gorffennol wedi'i ganiatáu.  Roedd yr egwyddor o godi tai ar y safle wedi'i sefydlu ac roedd yma gyfle i reoli'r datblygiad yn well trwy amodau a'r rheini yn eu tro yn darparu'r diogelwch gorau bosib i dai ac eiddo.  Roedd yr ymgeisydd wedi gwario'n helaeth ar y safle gan gynnwys comisiynu arolwg i ddiogelu yn erbyn llifogydd trwy godi lefelau y lloriau gorffenedig.  Roedd y wal fôr yn ddiogelwch digonol yn erbyn erydiad yr arfordir a hefyd rhag llifogydd.  Er mwyn hwyluso pethau roedd y fynedfa i'r traeth wedi'i symud.  Fel y mae roedd y safle yn ddolur llygaid - a Dwr Cymru wedi bod yn gweithio ar y safle am fisoedd.  Teimlai'r Cynghorydd Chorlton bod gan yr ymgeisydd achos cryf ac er bod llifogydd wedi digwydd ambell dro nid oedd hynny yn digwydd yn aml.  Ofni oedd ef y gallai'r datblygwr hawlio iawndal oherwydd yr oedi cyn rhyddhau caniatâd cynllunio.

 

      

 

     Pwysleisiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod gwaith ymgynghori tra manwl wedi digwydd ac roedd yma resymau cynllunio dilys dros wrthod y cais a'r gwaith ymgynghori oedd y rheswm am yr oedi cyn dod ag adroddiad i'r Pwyllgor ar y mater.

 

      

 

     Darllenodd y Cynghorydd Eurfryn Davies lythyr gan asiant yr ymgeisydd yn cefnogi'r cais a chadarnhaodd y datganiad a wnaed gan y Cynghorydd Chorlton.  Roedd yr asiant wedi llofnodi'r llythyr hwn a hwnnwn dweud bod asesiad risg llifogydd wedi'u baratoi wrth fodd Asiantaeth yr Amgylchedd.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Arwel Edwards bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn gorff statudol i ymgynghori ag ef ac ym marn broffesiynol yr Asiantaeth roedd y safle y tu mewn i Ardal Categori C2 ac roedd yn rhaid gwrando ar hynny.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D Lewis Roberts ynghylch y posibilrwydd o gael her gyfreithiol, awgrymodd y cyfreithiwr y buasai'r datblygwr wedi apelio ers tro pe credai bod ganddo achos da.  Ni fedrai gynnig sicrwydd na cheid camau cyfreithiol petai'r Pwyllgor yn rhoddi ei ganiatâd.  Gwyddai bod cwyn wedi'i chyflwyno i'r Ombwdsmon ond bod hwnnw wedi penderfynu peidio â mynd ar drywydd y mater gan fod y cais yn dod yn ôl i'r Pwyllgor. Roedd cyngor cyfreithiol clir wedi'i roddi a phosibilrwydd goblygiadau cyfreithiol o bwys petai'r datblygiad yn mynd yn ei flaen.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Arthur Jones bod caniatâd cynllunio wedi'i roddi i safle arall yn y cyffiniau i godi tai er bod hwnnw yn wynebu mwy o risgiau oherwydd ei leoliad.  Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Peter Dunning bod y caniatâd hwnnw wedi'i roddi yn 1953 a chafwyd cyngor wedyn gan y cyfreithiwr bod angen seilio penderfyniadau ar yr ystyriaethau perthnasol a chyfredol.

 

      

 

     Yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog cafwyd cynnig gan y Cynghorydd John Chorlton i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies. Dywedodd y  Cynghorydd Chorlton bod angen gwneud cytundeb gyda'r datblygwr i ddarparu 30% o dai fforddiadwy.

 

      

 

     O 8 bleidlais i 2 roedd yr Aelodau'n dymuno caniatáu'r cais gyda'r rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog:  

 

      

 

Ÿ

roedd y cais hwn yn sicrhau gwell datblygiad na'r datblygiad hwnnw oedd wedi'i ganiatáu'n barod ar y safle

 

Ÿ

buasai'r datblygiad yn darparu elfen o dai fforddiadwy yn unol â Chanllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd RL Owen yn dymuno cofnodi nad oedd wedi pleidleisio a'r Cynghorwyr  John Roberts ac Arwel Edwards wedi pleidleisio i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r drafodaeth ar y cais ei gohirio'n otomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Wedyn ychwanegodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y buasai Asiantaeth yr Amgylchedd o bosib yn dymuno trosglwyddo y mater hwn i'r Cynulliad Cenedlaethol gan fod y penderfyniad yn groes i'r cyngor yn TAN15.

 

      

 

      

 

4.20      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     48C146A    CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GYFERBYN Â THERAS WYLFA, GWALCHMAI

 

      

 

     Roedd Mrs Wendy Faulkener o'r Adran Gynllunio wedi datgan diddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a hefyd gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i un o swyddogion y Cyngor.  Ers cyflwyno'r cais hwn gyntaf i gyfarfod Mehefin cafodd ei ohirio oherwydd dymuniad yr ymgeisydd i'w ystyried fel safle eithriad ar gyfer ty fforddiadwy ac roedd y mater yn cael sylw gan uned Polisi Cynllunio'r Cyngor a chan yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

      

 

     Am y rheswm uchod PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

      

 

5     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Ni chyflwynwyd yr un cais economaidd i'r cyfarfod hwn ei ystyried.

 

      

 

      

 

6

CEISIADAU YN TYNNU'N GROES

 

      

 

      

 

6.1     13C136  CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE ORDNANS 5222 UNION GER CERRIG CREGYN, BODEDERN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Gwilym Jones bod y ddynes ifanc hon yn gweithio'n lleol ac yn dymuno codi byngalo yn agos i'w thad i ofalu amdano; roedd y cyngor cymuned lleol yn gryf ei gefnogaeth i'r cais ac ni fedrai'r Cynghorydd Jones gofio am yr un ddamwain yn y cyffiniau hyn mewn ymateb i wrthwynebiad yr Adran Briffyrdd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd D Lewis Roberts cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Wedyn cynigiodd y Cynghorydd  Aled Morris Jones roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y

 

     Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     O 5 pleidlais i 4 PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod.

 

      

 

      

 

6.2     17C266B  CODI ANNEDD AC ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU YN RHANDIR, LLANSADWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio na chafwyd yr un gwrthwynebiad i'r cynnig ar ôl ymgynghori arno, a chafwyd llythyr o gefnogaeth gan gymydog ac roedd hwnnw ar gael yn y cyfarfod.  Ond yn ôl y swyddog roedd y cais yn amlwg yn torri'r polisiau ac argymhellodd ei wrthod fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig bod yr aelodau yn ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

      

 

6.3     24C218B  CADW A CHWBLHAU ANNEDD, MYNEDFA NEWYDD A SYMUD ADEILAD AMAETHYDDOL Y RHODDWYD CANIATÂD YN EU CYLCH DAN GANIATÂD CYNLLUNIO 24C218A HEB GYDYMFFURFIO GYDAG AMODAU 2,3,4 A 9 YNG NGHYSWLLT LLEOLIAD, TIRLUNIO, LLECHI AR Y TO A'R GWAITH AR Y FYNEDFA AR GAE ORDNANS 7556 UNION GER GROESWEN A'R WENLLYS, PEN-Y-SARN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y swyddogion yn argymell caniatáu'r cais yn groes i'r polisïau.

 

      

 

     Roedd y cais hwn gerbron oherwydd methiant i gydymffurfio gdyag amodau ar ganiatâd cynllunio 24C218A dyddiedig 22.11.2004 i godi adeilad amaethyddol, byngalo a dreif.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio na châi lleoliad newydd yr adeilad amaethyddol na'r mân newidiadau i leoliad byngalo effaith sylweddol ar bleserau y tai gerllaw ac o'r herwydd roedd y swyddog yn argymell caniatáu y cais hwn oedd yn groes i bolisiau.

 

      

 

     Ychwanegodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod y bobl leol, y cyngor cymuned a'r aelod lleol yn pryderu am na chydymffurfiwyd gyda'r caniatâd gwreiddiol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais hwn oedd yn gwyro am y rhesymau a rodddwyd yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

        

 

6.4     24C239  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GWNEUD GWAITH ALTRO AR Y FYNEDFA I GERBYDAU AR DIR GER YSGUBOR ITHEL, LLANEILIAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Er mwyn creu cyfle i ddeall y cais yn well gofynnodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod aelodau'n ymweld â'r safle.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

      

 

6.5     45C311B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR RHWNG RUSHMEAD A PEN-Y-BONT, PEN LÔN, NIWBWRCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog yn yr adran gynllunio a hefyd ar gais yr aelod lleol.
 

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn gan Gwen Owen o'r Adran Gynllunio.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion yn argymell gwrthod yn gryf gan fod y cais yn groes i'r polisïau ac am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Bellach roedd yr Arolygydd yn cydnabod bod Penlon yn glwstwr yn ôl y Cynghorydd Peter Rogers.  Roedd yr ymgeiswyr yn bobl broffesiynol ac yn gweithio ym Mangor.  Nid datblygiad ar hap oedd hwn - y nhw fuasai'r bumed genhedlaeth o'r teulu i fyw ym Mhen-lon.  Roedd deiseb gefnogol ac arni 39 o enwau, pobl lleol yn bennaf, ac roedd cefnogaeth gynnes a chryf ym Mhen-lon, ac roedd y cyngor cymuned yn gefnogol ac nid oedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu gyda'r amod bod llecyn pasio yn cael ei ddarparu.  Hefyd credai'r Cynghorydd Rogers bod gwaith saer yn broffesiwn sy'n agos iawn i goedwigaeth.

 

      

 

     Cefnogi hefyd a wnaeth y Cynghorydd RL Owen gan gredu bod y cais yn gyfle i ddenu cwpl ifanc lleol yn ôl i'r gymdogaeth a chynigiodd roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     Gan fod yr Arolygydd wedi cydnabod Pen-lon fel clwstwr cafwyd cefnogaeth y Cynghorydd Arwel Edwards ond gofynnodd y lle, yn union, y bydd ffiniau Pen-lôn.

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd Glyn Jones bod modd ystyried y cais fel un yn llenwi bwlch a chytunodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts a chynigiodd roddi caniatâd i'r cais.

 

      

 

     Ond ni fedrai'r Cynghorydd Eurfryn Davies gefnogi a hynny oherwydd datganiad yr Arolygydd Cynllunio ar gynnig cyffelyb a oedd hefyd yn dibynnu ar fynedfa o'r lôn sy'n wybyddus fel Lôn  Shippan:

 

      

 

     “mae'r ffordd a'r fynedfa sydd yno yn amlwg yn ia na'r safon a chredaf ei bod yn anfoddhaol i'r traffig sydd yn ei defnyddio ar hyn o bryd.  Fy marn ystyrlon i yw y buasai traffig o un annedd arall yn unig yn ychwanegu at sefyllfa ddrwg".

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Roedd 9 Aelod yn dymuno caniatáu'r cais hwn oedd yn gwyro, ac am y reswm a ganlyn ond yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog:  

 

      

 

Ÿ

llenwi bwlch 

 

Ÿ

y tu mewn i glwstwr diffiniedig

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r drafodaeth ar y cais ei gohirio'n otomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

      

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

      

 

7.1     12C323  CAEL GWARED O FFENESTR GRON A GWNEUD GWAITH ALTRO AC YMESTYN YN CHAUNTRY HOUSE, BIWMARES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Wedyn gofynnodd y Cynghorydd RL Owen i'r swyddogion sicrhau bod yr holl amodau cynllunio yn cael eu cadw.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.2     12C323A/LB  CANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG I GAEL GWARED O FFENESTR GRON A GWNEUD GWAITH ALTRO AC YMESTYN AC ALTRO MEWNOL A DIWYGIO'R WAL DERFYN YN CHAUNTRY HOUSE, BIWMARES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.3     12C99B  TROI YR HEN DANWS YN ANECS YN 44 STRYD YR EGLWYS, BIWMARES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan Best Value UK Ltd.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd RL Owen roedd safle'r cais hwn mewn lle eithriadol o sensitif ger muriau'r dref ac o ddiddordeb archeolegol mawr.  Roedd yn croesawu'r bwriad i roddi amod cynllunio ynghlwm wrth y caniatâd i bwrpas sicrhau "y buasai'r anecs bob amser ynghlwm wrth y defnydd preswylio o 44 Stryd yr Eglwys ac ni fydd byth yn cael ei ddefnyddio i ddibenion eraill nac yn cael ei osod, ei brydlesu, ei werthu nac yn cael ei drosglwyddo”.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.4     19C608F  CAIS AMLINELLOL I GODI TAI A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A MYNEDFA I GERDDWYR AR DIR TYDDYN BACH, FFORDD YNYS LAWD, CAERGYBI

 

      

 

     Gan fod y cais hwn yn codi materion polisi yng nghyswllt y Cynllun Lleol a hefyd y Cynllun Datblygu Unedol esblygol roedd y swyddog yn argymell bod aelodau yn ymweld â'r safle cyn gwneud penderfyniad arno er mwyn deall y cyd-destun yn iawn, deall y cyffiniau a'r cyswllt rhwng y lle a thref Caergybi ac ardal Llain-goch.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod.

 

      

 

7.5     19C608G  CAIS AMLINELLOL I GODI TAI A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A MYNEDFA I GERDDWYR AR DIR TYDDYN BACH, FFORDD YNYS LAWD, CAERGYBI

 

      

 

     Gan fod y cais hwn yn codi materion polisi yng nghyswllt y Cynllun Lleol a hefyd y Cynllun Datblygu Unedol esblygol roedd y swyddog yn argymell bod aelodau yn ymweld â'r safle cyn gwneud penderfyniad arno er mwyn deall y cyd-destun yn iawn, deall y cyffiniau a'r cyswllt rhwng y lle a thref Caergybi ac ardal Llain-goch.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod.

 

      

 

      

 

7.6     19C882A  CAIS AMLINELLOL I GODI 10 ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER CAE SERI, LLAIN-GOCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a oedd yn pryderu ynghylch adeiladu ar orlifdir, a phryder hefyd oherwydd symudiadau traffig a dwysedd yr unedau.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Allan Roberts oedd mynegi pryderon lleol ynghylch y cais.  Yn  2004 roedd swyddogion wedi argymell gwrthod cais cyffelyb a dynnwyd yn ôl, a'r adeg honno roedd Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd yn argymell gwrthod.  Roedd y Cyngor Tref yn ymwybodol o'r problemau llifogydd a gafwyd ar y tir hwn dros yr 20 mlynedd diwethaf ond roedd yr Asiantaeth yr Amgylchedd bellach wedi dileu categoreiddio'r lle fel gorlifdir.  Mae llifogydd yn dal i ddigwydd yma a'r achlysur diwethaf oedd hwnnw ym mis Hydref 2004.  Rhed afon ar draws rhan o'r safle i ffos sy'n rhedeg dan y lôn ac ni all hon dderbyn y cynnydd mawr yn y dwr yn ystod clawodydd trymion - buasai ffos arall i symud rhywfaint o'r dwr yn lliniaru'r sefyllfa.  Ond buasai caniatáu'r cais hwn yn ychwanegu at y problemau i dai eraill ar dir is ac ni fedrai'r trigolion yswirio eu cartrefi.

 

      

 

     Wedyn cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau at yr ymatebion i waith ymgynghori a wnaed, at gasgliadau'r swyddog a'i argymhellion.  Rhoddid amodau ynghlwm i sicrhau y gweithredid ar gasgliadau'r adroddiad.

 

      

 

     Am y rheswm hwn cynigiodd y Cynghorydd Arwel Edwards bod aelodau yn ymweld â'r safle a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorwyr Glyn Jones ac RL Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod er mwyn rhoi'r cyfle i'r aelodau asesu'r sefyllfa drostynt eu hunain.

 

      

 

      

 

7.7     19LPA855/CC  GOSOD DAU BORTACABIN A CHORIDOR I'W CYSYLLTU A CHODI HAULFAN YN YR HEN YSGOL, MORSWYN, FFORDD CYTIR, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor Sir oedd yn ei gyflwyno ar dir y Cyngor.

 

      

 

     Gan y swyddog cafwyd argymhelliad i ganiatáu'r cais gyda'r amod na cheid gwrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog, gyda'r amod na ddeuai unrhyw wrthwynebiadau perthnasol i mewn cyn diwedd y cyfnod ymgynghori a rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais am y rhesysmau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

7.8     20C162B/DA  CYNLLUNIAU MANWL I GODI ANNEDD A GAREJ AR BLOT GER SWN Y DON, PENRHYN, CEMAES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan Best Value UK Ltd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

7.9     36C214F  CYNLLUNIAU MANWL DIWYGIEDIG I GODI ANNEDD AR BLOT 5, AEL Y BRYN, LLANGRISTIOLUS

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan un o weithwyr y Cyngor.

 

      

 

     Gwnaeth Mr Steve Owen o'r Adran Gynllunio ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

7.10      36C242A/DA  CAIS MANWL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD OFFER NEWYDD I DRIN CARTHION AR DIR GER REFAIL,

 

     HENBLAS, BODORGAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan fab i Gynghorydd.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Owen ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog, gyda'r amod na ddeuai unrhyw wrthwynebiadau perthnasol i mewn cyn diwedd y cyfnod ymgynghori a rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais am y rhesysmau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

7.11      36C251  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER COEDLAN, CAPEL MAWR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan Best Value UK Ltd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

7.12      44C59C  GWAITH ALTRO AC EHANGU AC YMESTYN Y LIBART YN BODELWEN, LLANNERCH-Y-MEDD

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yma faterion draenio heb eu datrys; nid oedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu ond gydag amodau; fodd bynnag roedd yr argymhelliad o wrthod yn aros a hynny am y rhesymau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod am nad oedd y cais yn cydymffurfio gyda'r polisïau.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod yma resymau meddygol dros gyflwyno'r cais i ymestyn yr eiddo a gofynnodd i'r aelodau ymweld â'r lle i asesu'r sefyllfa drostynt eu hunain.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod.

 

      

 

      

 

7.13      46C31C  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR YN 4 LÔN TREARDDUR, TREARDDUR

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol gan y buasai'r cais hwn yn darparu cartref i berson ifanc lleol.  

 

 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau at adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo o wrthod am y rhesymau a roddwyd; hefyd bellach roedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu'r bwriad a hynny'n rheswm arall dros wrthod.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Dunning bod y dyn ifanc lleol hwn yn fyfyriwr trydedd flwyddyn ac yn gweithio'n rhan amser yn Marine Services, Biwmares ac yn dymuno byw yn y gymuned ar ran o dir y teulu.  O edrych ar y cynlluniau gwelwyd bod yma ddigon o le i godi ty ar y safle a llecyn llydan o dir i ddarparu mynedfa, ni cheid unrhyw gynnydd yn nifer y cerbydau a ddefnyddiai'r safle hwn.  Roedd y safle y tu mewn i ffiniau Trearddur ac wedi'i guddio gan goed i'r de o Nova, a buasai'n fodlon darparu rhagor o gyfleusterau cuddio petai raid - ni châi'r bwriad effaith ar breifatrwydd neb ac roedd tebygrwydd rhwng y cais hwn â rhai eraill yn yr ardal.

 

 

 

     Teimlo yr oedd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod y cynnig hwn yn llenwi bwlch a chynigiodd roddi caniatâd i'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

 

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Eurfryn Davies oedd cymharu'r cynnig hwn â cheisiadau eraill cyffelyb yn Llanddona'n ddiweddar ac heb betruso dim roedd ef yn cefnogi.

 

 

 

Ond oherwydd bod raid rhannu mynedfa cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Fowlie i ymweld â'r safle, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

 

 

     Cynigiodd y Cynghorydd RL Owen dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod.

 

 

 

O 6 phleidlais i 3 roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn a hynny'n groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog :

 

 

 

Ÿ

llenwi bwlch

 

Ÿ

nid oedd yn edrych dros neb ac ni chollid preifatrwydd

 

Ÿ

dim cynnydd yn symudiadau'r traffig

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r drafodaeth ar y cais ei gohirio'n otomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

      

 

7.14      49C166B  DYMCHWEL ADEILAD A CHODI SWYDDFA NEWYDD, SIED STORIO A SYMUD Y SIED STORIO BRESENNOL AR SAFLE COCON CONSTRUCTION, NORTH SHORE YARD, FFORDD LLUNDAIN, Y FALI

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac am resymau a nodwyd yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.15      49C266 CAIS ÔL-DDYDDIOL I RODDI TO CRIB TEIP LLECHI YN LLE TO FFLAT AC YN CYNNWYS LLE STORIO AR Y LLAWR UCHAF AR GAREJ YN GLYN DWR, Y LASINWEN, Y FALI

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol oherwydd pryderon a fynegwyd ac oherwydd natur y datblygiad mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

8

MATERION A DIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar faterion a ddirprwywyd ac y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

9     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniadau yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yng nghyswllt yr isod.

 

 

 

9.1     YSGOLDY, SLING, BIWMARES

 

 

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i ddymchwel hen wal derfyn a chodi wal newydd 2m o uchder dan ganiatâd cynllunio rhif: 22C44B, ac a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 3 Rhagfyr, 2004 - caniatawyd yr apêl.

 

      

 

 

 

9.2     TIR GER 2 STRYD Y CAE, Y FALI

 

 

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio amlinellol i godi byngalo dan gais cynllunio rhif: 49C249A, ac a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 14 Hydref, 2004 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

      

 

9.3      MONUMENT HOUSE, FFORDD MAESHYFRYD, CAERGYBI

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod i wrthod caniatâd cynllunio amlinellol i godi ty deulawr newydd dan ganiatâd cynllunio rhif 19C624B, ac a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 4 Mawrth, 2005 - caniatawyd yr apêl gyda'r amodau yn y penderfyniad ffurfiol.

 

      

 

      

 

9.4       OP5500 LLYN Y GORS, LLANDEGFAN

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd i osod 11 o garafanau ar y tir yn ychwanegol at y 12 llecyn presennol i garafanau tymor hir/teithiol dan gais cynllunio 17C250G, ac a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 10 Chwefror, 2005 -  gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

10     SEMINAR

 

      

 

     Atgoffwyd yr aelodau gan y Pennaeth Rheoli Datblygu y bydd seminar ar faterion cynllunio yn cael ei chynnal ar gyfer dydd Mawrth, 13 Medi, 2005.

 

      

 

     Cyflwynodd y Cynghorydd RL Owen ei ymddiheuriadau am absenoldeb o'r seminar.

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 5.45 p.m.

 

      

 

     J ARTHUR JONES

 

     CADEIRYDD