Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 7 Hydref 2009

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 7fed Hydref, 2009

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Hydref, 2009

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Kenneth Hughes (Cadeirydd)

Y Cynghorydd Barrie Durkin (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr W.J.Chorlton, E.G.Davies, Lewis Davies, Jim Evans,

O.Glyn Jones, Thomas Jones, J.Arwel Roberts, Hefin W.Thomas, J.P.Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

 

Pennaeth Rheoli Cynllunio (EGJ)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Arweinydd Tîm (Gorfodaeth, Mwynau a Gwastraff) (JIW)

Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)  (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RJ)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

Y Cynghorydd R.L.Owen,Y Cynghorydd R.G.Parry, OBE (Deilydd Portffolio Cynllunio a’r Amgylchedd)

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol: Y Cynghorydd Mrs Fflur Hughes (Eitem 8.1),

Y Cynghorydd Aled Morris Jones (Eitem 11.2)

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Rhoddwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb gan eu nodi fel yr uchod.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau bod y Cynghorydd W.T.Hughes wedi’i apwyntio i wasanaethu ar y Pwyllgor hwn ac y byddai’n bresennol yn y cyfarfod nesaf.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb a’u cofnodi o dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Medi, 2009.

 

 

 

Materion yn codi:-

 

 

 

6.4 30C83E - Dymchwel yr adeilad presennol a chodi adeilad newydd gydag ystafell chwarae, swyddfa, derbynfa, ystafell ffitrwydd, ystafell chwaraeon a stor yn Dolydd, Pentraeth

 

 

 

Eglurodd y Cynghorydd J.P.Williams y datganiad o ddiddordeb yr oedd wedi’i wneud ynglyn â’r cais hwn trwy ddweud bod y cofnodion yn dweud nad oedd wedi cael unrhyw gyswllt gyda’r gwrthwynebydd ers i’r ddau fod yn gysylltiedig â’r ‘un mudiad rhyw ugain mlynedd yn ôl - yr oedd wedi gweld y person hwnnw rhyw 2-3 gwaith ers hynny.

 

 

 

 

 

4

YMWELIADAU SAFLE

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 16 Medi, 2009.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies bod yr ymweliadau wedi rhoi cyfle i’r aelodau weld sampl o geisiadau oedd wedi’u cymeradwyo yn flaenorol a dull gweithrediad y caniatâd hwnnw ac roedd y profiad wedi bod yn werthfawr iawn a’i unig ofid oedd mai dim ond ychydig o’r aelodau oedd wedi gallu bod yn bresennol.

 

 

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1 14C28Y/ECON - Codi adeilad derbyn newydd ynghyd â chynllun ad-ennill ynni biogas/ madru anaerobig yn Plot 8, Stad Ddiwydiannol Mona, Mona

 

 

 

Yr argymhelliad oedd y dylai aelodau’r Pwyllgor ymweld â’r safle uchod fel y gallant ddod yn gyfarwydd â’r gosodiad ffisegol cyn penderfynu ar y cais.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod argymhelliad hefyd bod y Pwyllgor yn ymweld â safle debyg yn Llwydlo cyn gwneud penderfyniad ar y mater; fe ofynnwyd i’r aelodau trwy lythyr gadarnhau a oeddynt ar gael ai peidio ar gyfer yr ymweliad i Lwydlo a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher, 14 Hydref 2009.  Roedd am ofyn drachefn i’r aelodau oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio i nodi eu bwriadu ynglyn â mynd ar y daith i Lwydlo.  

 

 

 

Roedd yr aelodau’n cytuno’n gyffredinol bod yr ymweliad arfaethedig i Lwydlo yn un oedd yn werth ei wneud er mwyn gweld gwaith tebyg i’r un y gwnaed cais amdano ym Mona.

 

 

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhellion y Swyddog.

 

 

 

 

 

6

CEISIADAU YN CODI AR Y COFNODION

 

 

 

6.1

30C83E - Dymchwel yr adeilad presennol a chodi adeilad newydd sef ystafell chwarae, swyddfa, derbynfa, ystafell ffitrwydd, ystafell chwaraeon a stor yn Dolydd, Pentraeth

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Barrie Durkin, ond nododd y byddai’n siarad ar y mater.  Datganwyd diddordeb hefyd gan y Cynghorydd Selwyn Williams ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

 

 

Cafodd y cais hwn ei gyfeirio’n wreiddiol i’r Pwyllgor ar ofyn yr Aelod Lleol.  Fe gynhaliwyd ymweliad safle ar 19 Awst ac yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Medi, fe benderfynodd yr aelodau ganiatáu’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog, ar y sail eu bod yn ystyried bod maint a sefyllfa’r cais yn dderbyniol a heb fod yn niweidiol i fwynderau; bod yna adeiladau o’r un maint yn yr ardal ac oherwydd y byddai’r cynnig o fudd i’r diwydiant twristiaeth.  Roedd yr adroddiad i’r Pwyllgor yn delio gyda’r materion hyn.  

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wrth yr aelodau - gan i’r Pwyllgor benderfynu caniatáu’r cais yn ei gyfarfod blaenorol a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog, roedd llythyr wedi’i dderbyn gan asiant un o’r gwrthwynebwyr yn dweud pe bai’r penderfyniad i ganiatáu’n cael ei gadarnhau gan y Pwyllgor, yna fe fyddai’r gwrthwynebydd yn dod ag achos Llys am Adolygiad Barnwrol, neu’n cyflwyno cwyn ffurfiol i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.  Ymysg y rhesymau roddwyd dros y gweithredu hwn oedd y ffaith bod y cais fel yr oedd wedi’i gyflwyno yn anghywir ac yn anghyflawn oherwydd nad oedd yn dangos mewn digon o fanylder y lefelau arfaethedig a lefelau’r lloriau gorffenedig.  Aeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn ei flaen i ddweud - pe bai cwyn yn cael ei chyflwyno ryw dro yn y dyfodol, e.e. bod yr adeilad yn rhy uchel, yna mewn amgylchiadau o’r fath fe fyddai’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ei chael yn anodd i benderfynu a oedd hynny’n gywir ai peidio.  Fodd bynnag, roedd Asiant yr Ymgeisydd wedi gwrthod datgelu’r manylion.  Er mwyn sicrhau, felly, bod penderfyniad y Pwyllgor ar y mater hwn yn cael ei wneud ar sail gadarn ac yn dilyn y wybodaeth lawnaf, roedd yn argymell y dylid gohirio ystyried y cais hwn a bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn mynnu bod yr ymgeisydd yn rhoi’r manylion angenrheidiol i’r Pwyllgor.  

 

 

 

Tra oedd yr aelodau’n barod i gyd-fynd ag argymhelliad y Swyddog y dylid gohirio’r cais, roedd rhai aelodau’n anhapus gyda natur a thôn y llythyr gan yr Asiant i un o’r gwrthwynebwyr.  Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas y byddai’n hoffi gweld tystiolaeth o’r hyn yr oedd yr Asiant, yn ei lythyr, yn ei alw yn gyn-benderfynu ymddangosiadol gan y Pwyllgor, a’i fod yn ystyried bod y llythyr yn un gwarthus.  Roedd yr Is-Gadeirydd hefyd, y Cynghorydd Barrie Durkin, yn credu nad oedd angen o gwbl am y llythyr.

 

 

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais fel yr oedd y Swyddog yn ei argymell ac am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

(Roedd y Cynghorydd W.J.Chorlton yn dymuno iddo gael ei gofnodi nad oedd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth ar y cais uchod gan ei fod yn hwyr yn dod i mewn i’r cyfarfod).

 

 

 

 

 

6.2

36C296 - Cais llawn i godi annedd a garej ar wahân ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Ty’n Gamdda, Llangristiolus

 

 

 

Roedd y cais wedi’i gyflwyno gan gyfaill agos i swyddog yn yr Adain Rheoli Cynllunio.  Roedd y cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel oedd ei angen dan baragraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad.

 

 

 

Roedd hwn yn gais cynllunio llawn i godi annedd ddeulawr ar wahân gyda garej ar wahân yng nghefn y safle.  Mae’r safle ym mhentref Llangristiolus yn wynebu’r lôn.  Mae’r darn o dir ar hyn o bryd yn wag.  Diffinnir Llangristiolus fel Anheddiad Rhestredig o dan Bolisi 50 o Gynllun Lleol Ynys Môn ac fel pentref o dan Bolisi  HP4 yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Gohiriwyd gwneud penderfyniad ar y cais yng nghyfarfod y mis diwethaf er mwyn caniatáu i’r ymgeisydd roi rhybudd ar yr eiddo cyfagos fel canlyniad i gais yr Adran Briffyrdd am lain gwelededd mwy ar gyfer yr annedd arfaethedig.  Roedd y mater hwn yn awr wedi derbyn sylw ac roedd y dystysgrif briodol wedi’i derbyn.  

 

 

 

Y prif faterion yng nghyswllt y cais hwn oedd - a ydyw dyluniad yr annedd arfaethedig yn adlewyrchu cymeriad yr ardal o’i chwmpas ac a fyddai’r cynnig yn cael effaith ar fwynderau eiddo gerllaw.  O safbwynt yr ymateb i ymgynghori a’r broses gyhoeddusrwydd, tra na chafwyd ymateb gan yr Aelod Lleol na’r Cyngor Cymuned, roedd yr asiantaethau statudol yn argymell amodau ac fe gafwyd sylwadau ynglyn â’r Draenio.  Roedd un llythyr yn gwrthwynebu wedi’i dderbyn yn yr Adran yn dweud nad oedd dim angen am unrhyw dai newydd yn yr ardal, datblygu rhubanaidd, yr effaith ar gymeriad ffisegol ac amgylcheddol y pentref, mwynderau gweledol a diogelwch y ffordd.

 

 

 

O safbwynt y pwynt cyntaf yn y gwrthwynebiad, sef nad oedd angen am dai newydd, fe ddywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr adroddiad yn dweud nad oedd unrhyw dystiolaeth wedi’i chyflwyno i gefnogi’r haeriad hwn; roedd yr Adran Gynllunio, ers drafftio’r adroddiad wedi cynnal ymchwil bellach i’r mater hwn ac wedi gweld mai’r disgwyl yw y bydd 10 o dai yn cael eu datblygu yn Llangristiolus yn ystod cyfnod y Cynllun Lleol; a bod y cais hwn yn mynd â'r ffigwr hwnnw yn uwch i 19, gyda 10 ohonynt yn rai gyda chaniatâd cynllunio eisoes mewn bodolaeth ar y tir.  Roedd y Cynllun Lleol yn darparu ar gyfer 2,150 o dai ym Môn yn gyffredinol, ac er nad yw’r cyfanswm hwn wedi’i gyrraedd, bydd maint y gwaith datblygu yn fwy na’r hyn oedd wedi cael ei ragweld mewn rhai pentrefi.  Pwynt arall wnaed yn y gwrthwynebiad oedd yr effaith y mae gormod o dai yn ei chael, e.e. ar yr ysgol leol.  O safbwynt hynny, roedd nifer y plant yn yr ysgol leol wedi cynyddu ers 2005, ac er bod 80 o blant yn yr ysgol ar hyn o bryd, mae yno le i 105, felly nid oedd y datblygiad yn achosi problem.  Ymhellach i hyn, fe benderfynodd y Pwyllgor Gwaith yn 2007 y dylai’r Awdurdod fod yn cefnogi yn hytrach nag yn cwtogi ar adeiladu mwy o dai.  Felly, er mynd dros y nifer o dai oedd i’w datblygu yn Llangristiolus, roedd Swyddogion yr Awdurdod Cynllunio yn fodlon y gallai’r pentref gynnal y lefel hon o ddatblygu ac nad aethpwyd dros y nifer o dai a restrir ar gyfer Ynys Môn yn gyffredinol yn y Cynllun Lleol.

 

 

 

O safbwynt prif ystyriaethau cynllunio felly, barn y swyddogion oedd bod yna ddigon o le ar y safle i gymryd annedd arall, a hefyd le parcio a throi cerbydau a llecyn mwynderol preifat.  Roedd yr annedd yn debyg o ran maint a dyluniad i’r eiddo arall gerllaw  Oherwydd y pellter rhwng y cynnig a’r adeiladau sydd yno’n barod, ni fydd y cynnig yn cael effaith ar fwynderau’r eiddo arall.  Yr argymhelliad felly oedd rhoi caniatâd.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd O. Glyn Jones ei bod yn iawn dweud bod y pentref wedi tyfu, ond roedd yn credu bod y gwaith datblygu wedi digwydd mewn dull trefnus a thwt ac felly roedd yn cynnig caniatau’r cais.  Eiliwyd ef gan y Cynghorydd J.P.Williams.

 

 

 

Dymuno gwybod oedd y Cynghorydd Tom Jones beth fyddai’r sefyllfa gydag unrhyw ddatblygiad pe bai’r ysgol leol yn llawn.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai ymateb oedd yn yr achos yma i ddatganiad wnaed gan y gwrthwynebwyr  bod yr ysgol leol yn llawn pan nad hynny oedd yr achos; ni allai ddweud beth fyddai’r agwedd pe bai unrhyw ysgol leol yn llawn.  

 

 

 

Penderfynwyd derbyn adroddiad ac argymhelliad y Swyddog i ganiatáu’r cais gyda’r amodau a restrwyd.

 

 

 

 

 

6.3

46C160K - Cais ôl-ddyddiol am waith peirianyddol i greu llecynnau caled a ffordd trwy ran o’r safle yn Ddraenan Ddu, Penrhosfeilw, Caergybi

 

 

 

Yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Eric Roberts, oedd wedi datgan diddordeb yn y mater, oedd wedi dod â’r cais gerbron y Pwyllgor.  Roedd y mater wedi’i gyfeirio at y Cynghorydd G.O.Parry, MBE a gofynnodd yntau am i’r mater gael ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio er mwyn ystyried datblygiadau ar y safle ac i ystyried rhai materion cynllunio ehangach.  Yn y cyfarfod ar 2 Medi, roedd yr aelodau wedi penderfynu gohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn cynnal ymweliad safle.  Digwyddodd hyn ar 16 Medi a bydd yr aelodau’n awr yn gwybod am y safle a’i osodiad.  

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn cael ei gyflwyno’n ôl-ddyddiol mewn ymdrech i reoleiddio gwaith peirianyddol oedd wedi’i wneud heb awdurdod ar y safle gyda’r asiantiaid yn dweud bod angen gwneud y gwaith fel rhan o gynllun eu cleientiaid i uwchraddio’r safle’n gyffredinol.  Safle carafanau symudol tymhorol yw’r safle gydag ychydig o le ar gyfer pebyll gyda thystysgrif defnydd cyfreithiol.  Roedd y safle o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sydd yn rhoi pwyslais ar ansawdd y tirwedd a chadwraeth natur.  Mae’n amheus iawn a fyddai caniatâd cynllunio wedi’i roi i'r datblygiad hwn yn y lle anghysbell amlwg ac uchel hwn o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Fodd bynnag, mae’n gyrchfan i dwristiaid ac yn cael ei ddefnyddio fel safle gwyliau.  Effaith weddol fechan y mae’r mannau caled a’r ffyrdd sy’n destun y cais presennol yn ei chael ar y pethau o’u cwmpas, a hynny dim ond o edrych arnynt yn agos o fewn y safle carafanau.  Felly dim ond effaith fechan y maent yn ei chael ar edrychiad yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Ar yr amser o’r flwyddyn pan fydd y safle’n agored, y peth sy’n cael y dylanwad mwyaf ar edrychiad y safle yw’r carafanau symudol sydd yno.  Pan fydd carafanau ar y safle, mae’r llefydd caled wedi’u cuddio a dim ond yn rhannol y gellir gweld y ffordd o’r Penrhyn cyfagos.  Er cydnabod bod y polisïau Cynllun Datblygu yn amcan at Ddiogelu Cymeriad y Cefn Gwlad yn arbennig mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol, ond yn yr achos hwn fe ddylid mesur a phwyso canlyniadau’r datblygiad yn erbyn y defnydd oedd yn cael ei wneud o’r safle.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     O ystyried popeth felly, barnai'r Swyddog nad oedd y golygfeydd o’r llefydd caled a’r ffordd yn cael effaith niweidiol ar gymeriad ac edrychiad yr ardal.    Roedd y deunyddiau oedd wedi’u defnyddio a’r dulliau proffilio yn talu sylw i bolisïau oedd yn diogelu’r tirlun yn y cynllun datblygu, a'r un pryd yn caniatáu i’r safle gael ei wella’n barhaol.  Yr argymhelliad felly oedd caniatáu.  

 

      

 

     Dweud wnaeth y Cynghorydd Lewis Davies ei fod yn bryderus, ar ôl iddo ymweld â’r safle, bod gwaith wedi cael ei wneud mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol heb ganiatâd cynllunio.  Dywedodd hefyd bod llawer o dyfiant ar y safle wedi’i guddio gan gerrig oedd wedi’u rhoi o’r neilltu ac roedd yn meddwl pa waith pellach allai gael ei wneud yn y dyfodol heb ganiatâd.  Roedd y  Cynghorydd Selwyn Williams hefyd yn boenus ynglyn â datblygiad parhaol a gofynnodd a oedd cyfyngiad ar y nifer o garafanau ar y safle, o ystyried bod hanes y safle yn dangos nad oedd fawr o sylw wedi’i roddi yn y gorffennol i reolau cynllunio.  Roedd yn teimlo bod yna ychydig o anfodlonrwydd ynglyn â’r tebygrwydd y câi’r safle hwn ei ehangu yn y dyfodol.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y byddai’r caniatâd cynllunio ym mhob achos yn nodi sawl uned fyddai’n cael ei chaniatáu ar y safle.

 

      

 

     Cytuno gyda’r Swyddog wnaeth y Cynghorydd W.J.Chorlton gan ddweud fod llawer o hanes cynllunio i’r safle ac nad oedd lawer o reswm dros wrthod y cais fel yr oedd wedi’i gyflwyno.  Cynigiodd y dylid derbyn argymhelliad y Swyddog a chaniatáu’r cais.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd J.P.Williams, yn dilyn gwrando ar y pryderon a fynegwyd yn dilyn yr ymweliad safle, a oedd yn bosibl gofyn am dirlunio’r ardal fel amod o ganiatáu’r cais.  Dywedodd y

 

     Rheolwr Rheoli Cynllunio - er nad oedd y Swyddogion yn hapus gyda’r ffaith bod gwaith eisoes wedi’i wneud ar y safle cyn derbyn caniatâd, nad oedd yn fwriad cosbi’r ymgeisydd yma, ac nad yw Llywodraeth y Cynulliad chwaith yn cymeradwyo gwneud hynny.  Yn yr achos hwn, er bod y gwaith wedi’i wneud ar y safle, roedd y gwaith hwnnw yn dderbyniol, fodd bynnag. Fe gynhaliwyd trafodaethau gyda pherchennog y safle ac fe ddywedwyd wrtho y byddai angen caniatâd blaenorol cyn gwneud unrhyw waith tebyg, felly y gobaith yw y bydd yr ymgeisydd yn cydweithredu gyda’r Awdurdod Cynllunio os bydd yn dymuno gwneud unrhyw ddatblygiadau pellach.  O safbwynt tirlunio’r safle, dim ond ychydig iawn o goed sydd yn yr ardal, oherwydd ei bod yn ardal lle nad yw coed yn ffynnu, ac fe welir mai eithin sydd yno gan mwyaf.

 

      

 

     Barn y Cynghorydd Tom Jones oedd mai’r amodau oedd y ffactor fwyaf pwysig wrth wneud penderfyniad ar y cais hwn ac i sicrhau monitro gofalus.  Roedd yr ardal arbennig hon yn un sensitif oherwydd ei bod yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a byddai raid trin y mater o dirwedd mewn ffordd sensitif hefyd.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Selwyn Williams bod ganddo rai pryderon ynglyn â’r fynedfa i’r safle oherwydd y gwelededd.  Dywedodd y Cynghorydd O. Glyn Jones ei fod yn hapus derbyn argymhelliad y Swyddog, a hynny er nad oedd wedi ymweld â’r safle, ac felly roedd am eilio cynnig y Cynghorydd W.J. Chorlton i roi caniatâd.

 

      

 

     Gofynnodd yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Barrie Durkin a oedd gwaith i greu’r ardal galed wedi’i wneud.  Dywedodd yr Uwch Reolwr Cynllunio bod y gwaith wedi’i wneud tua dwy flynedd ynghynt.  Dywedodd y Cynghorydd Barrie Durkin ei fod yn deall bod cais ôl-ddyddiol yn golygu bod y gwaith wedi’i wneud yn y gorffennol ac yn sicr fwy na 2 flynedd yn ôl, cyfnod a allai gael ei ystyried yn weddol ddiweddar.  Cyfeiriodd at y pwynt wnaed yn adroddiad y Swyddog, sef ei bod yn amheus a fyddai caniatâd cynllunio wedi cael ei roi ar y cais hwn yn y sefyllfa hon o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac aeth yn ei flaen i ddweud nad oedd yn hapus gyda’r math hwn o geisiadau cynllunio ôl-ddyddiol lle ceir esiampl blaen o rywun yn gwneud gwaith cyn gwneud cais cynllunio.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

 

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wrth ateb bod Nodyn Cyngor Technegol Llywodraeth Cynulliad Cymru o safbwynt gorfodi rheolaeth gynllunio’n dweud y dylid caniatáu gwaith datblygu anawdurdodedig os credir ei fod yn dderbyniol.  Roedd y pwynt oedd yn cael ei wneud yn yr adroddiad yn amau a fyddai caniatâd cynllunio’n cael ei roi yn tybio na fyddai’r cais yn cael ei roi pe bai’n gais newydd ar safle tir glas.  Fel yr oedd yr adroddiad yn dweud, yn yr achos hwn mae’n fater o gydbwyso canlyniadau bychan y datblygiad yn erbyn y defnydd a oedd wedi’i gymeradwyo ar y tir.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd Tom Jones at bwynt 4 yn yr adroddiad lle cyfeirir at argymhelliad gan yr Awdurdod Priffyrdd ynglyn â gwneud gwelliannau i’r fynedfa i’r safle fel yr oedd wedi’i gyflwyno a'i argymell i’w ganiatáu gan yr Awdurdod Priffyrdd ar gais cynllunio blaenorol rhif 40C160J, a gofynnodd a oedd hyn wedi cael ei wneud.  Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) bod yr argymhelliad hwn yn dyddio yn ôl o gais blaenorol a ganiatawyd ar 15 Gorffennaf, 2009 a bod yr amod yn dal i sefyll.  Holodd y Cynghorydd Tom Jones ymhellach ynghylch cynnwys yr amod hwn fel rhan o unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir i’r cais hwn.  Eglurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cais fel yr oedd wedi’i gyflwyno yn cael unrhyw effaith o safbwynt mwy o draffig ac nad oedd yn golygu dim ond creu lle caled a ffordd o gerrig glân.  Felly nid oedd unrhyw reswm i osod yr amod priffyrdd y cyfeiriwyd ato ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd cynllunio yn yr achos hwn.  Dywedodd y Cynghorydd Tom Jones wedyn nad oedd yr amod a osodwyd fel rhan o’r cais blaenorol wedi cael ei roi ar waith.  Atgoffa’r aelodau wnaeth y  Rheolwr Rheoli Cynllunio bod ymgeiswyr â chyfnod o 5 mlynedd cyn dechrau’r gwaith ar ôl derbyn caniatâd cynllunio.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas mai nid y carafanau oedd pwynt y cais hwn ac na ellir gwneud dim o safbwynt yr unedau ar y safle gan fod yna ganiatâd iddynt.  Byddai felly’n cefnogi argymhelliad y Swyddog i ganiatáu’r cais a gyflwynwyd.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad ac argymhelliad y Swyddog i ganiatáu’r cais gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

7.1     14C28X/ECON - Cais llawn i godi garej fasnachol a stors a hefyd godi ffens ddiogelwch palis 2.4m o uchder ar Blot 11, Parc Diwydiannol Mona, Mona

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd Selwyn Williams ddiddordeb yn y cais hwn ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

 

      

 

     Adeg cyflwyno’r cais, roedd y tir ym mherchenogaeth y Cyngor Sir.  Fodd bynnag, ers gwneud y cais mae’r ymgeisydd wedi prynu’r tir.

 

      

 

     Mae’r safle ar Stad Ddiwydiannol Mona sydd tua 4 km i’r gorllewin o ganol tref Llangefni, ger priffordd yr A5 a Maes Awyr Mona.  Ar un ochr i’r safle mae unedau diwydiannol ac mae tir agored ar y tair ochr arall.  Y bwriad yw codi garej fasnachol a storfa ynghyd â ffens ddiogelwch 2.4m o uchder o gwmpas y safle ar gyfer cwmni bysus lleol.  Mae’r prif faterion yma yn ymwneud ag addasrwydd y cynnig ar gyfer y lleoliad ac a yw dyluniad yr adeilad yn dderbyniol.

 

      

 

     Y prif ystyriaethau cynllunio yw’r egwyddor o ddatblygu a’r dyluniad.  Mae’r safle ar Stad Ddiwydiannol Mona sydd â nifer o ddefnyddiau busnes gwahanol.  Ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol yn y lleoliad hwn oherwydd ei natur ac oherwydd cymeriad cymysg pethau o’i amgylch.  Mae dyluniad yr adeilad a’r ffens ddiogelwch yn debyg i’r hyn welir yn y busnesau eraill ar y safle ac ystyrir felly bod hwn yn addas yn y lleoliad.  Yr argymhelliad felly oedd caniatáu’r cais.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad ac argymhelliad y Swyddog a chaniatáu’r cais gyda’r amodau a restrwyd.

 

      

 

      

 

7.2     34C97R/ECON - Newid defnydd i greu swyddfeydd, altro ac ailwampio Neuadd y Dref, Llangefni

 

      

 

     Roedd y datblygiad hwn yn ymwneud â thir y Cyngor.  Mae Menter Môn fodd bynnag, yn y broses o gael yr eiddo gan y Cyngor.  Ar y safle fe geir adeilad Graddfa 2 Neuadd y Dref ac y mae o fewn Ardal Cadwraeth Canol Tref Llangefni.  Bwriedir moderneiddio’r cyfleusterau sydd ar gael i ddarparu 2 lawr o swyddfeydd, ardal archifdy yn y to a lle cynnal cyfarfodydd i staff a’r cyhoedd.  Bydd y llawr isaf yn cael ei wella ar gyfer y cyhoedd a defnydd gwerthwyr y farchnad.  

 

      

 

     Y prif faterion yma yw - a yw’r cynigion yn dderbyniol o safbwynt mwynderau, polisi a phriffyrdd.  O safbwynt y prif ystyriaethau cynllunio, mae’r defnyddiau arfaethedig yn dderbyniol mewn termau polisi ac fe fyddant yn galluogi i’r adeilad gael ei ailwampio.  Roedd y cais blaenorol ynglyn â’r safle yn un oedd yn tynnu’n groes gan ei fod yn groes i ddyraniad S24 y Cynllun Lleol oedd yn gofyn am gadw cyfleusterau cyhoeddus.  Mae’r cais hwn yn cydymffurfio gyda’r gofyn hwnnw.  Mae’r gwaith ffisegol i du allan y neuadd yn cael ei groesawu ac mae trafodaethau’n parhau ynglyn â’r tu mewn. Nid oes gan Beiriannwyr Priffyrdd y Cyngor unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun.  Roedd y Swyddog o’r farn bod hwn yn ddatblygiad derbyniol yng nghanol y dref ac yn argymell ei ganiatau.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn yr adroddiad ac argymhelliad y Swyddog i ganiatáu’r cais gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

8

CEISIADAU TAI FFORDDIADWY

 

      

 

8.1     34C83D - Cais llawn i godi 19 o dai fforddiadwy ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir yn Ffordd Glanhwfa, Llangefni.

 

      

 

     Datganodd Mr J.R.Owen, Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) ddiddordeb yn y cais hwn ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

 

      

 

     Daw’r cais hwn gerbron y Pwyllgor Cynllunio oherwydd ei fod, yn anuniongyrchol, yn ymwneud â datblygu ar dir y Cyngor.

 

      

 

     Cais cynllunio llawn yw hwn am 19 o dai fforddiadwy fesul pâr wedi'u codi yn un llinell a'r rhan fwyaf yn wynebu Ffordd Glanhwfa.  Mae'r cais yn ymwneud â safle gwerthwyr nwyddau amaethyddol sydd yn Llangefni.  Ar ffin orllewinol y safle fe geir Ffordd Glanhwfa sydd yn ei phen gogleddol yn mynd o dan bont y rheilffordd.  Ar derfyn dwyreiniol y safle mae arglawdd lle ceir rheilffordd o'r Gaerwen i Amlwch.  Mae nifer o goed hen ar yr arglawdd sy'n cael eu diogelu gan Orchymyn Cadw Coed.  Mae ardal breswyl i'r dwyrain o Ffordd Glanhwfa gyda thai o bob oed a dyluniad.  Ceid un fynedfa i gerbydau i'r safle a châi honno ei symud i ganol safle'r cais er mwyn gwella gwelededd.  Cyflwynir y cais gyda thystiolaeth o ran anghenion tai fforddiadwy ac mae'r cyfan ohonynt yn dai fforddiadwy (75% ar rent a 25% yn rhannu ecwiti) a darperir nhw gan Gymdeithas Tai Eryri ond gofynnwyd am i unrhyw gytundeb cyfreithiol ynghylch uchafswm y tai fforddiadwy gadw'r tai fforddiadwy i 30% o'r cyfan a hynny oherwydd trefniadau cyllido'r cynllun yn unig.  Nid oes llwybr troed ar hyd Ffordd Glanhwfa i ganol y dref dan bont y rheilffordd a hynny'n codi pryderon ynghylch diogelwch cerddwyr.  Hefyd mae'r ymgeiswyr wedi awgrymu y buasent yn cytuno, fel rhan o'r cais hwn, i ddarparu twnel i gerddwyr dan y rheilffordd i faes parcio cyffiniol a hynny yn unol â gofynion yn perthyn i ymrwymiad cyfreithiol a wnaed o'r blaen ac a gwblhawyd dan ddarpariaethau cais cynllunio rhif 34C83C.  Mae'r Adain Briffyrdd yn fodlon bod y cynnig yn dderbyniol ond gyda'r amodau a argymhellir.  Y materion allweddol yma yw rhai sy'n ymwneud ag anghenion am dai fforddiadwy  a diogelwch cerddwyr.

 

      

 

     Aeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio ymlaen i egluro bod yr Awdurdod Cynllunio yn awyddus i sefydlu cyswllt llwybr troed o'r safle i'r maes parcio ac yn wir roedd trafodaethau yn cael eu cynnal rhwng y datblygwr a'r Awdurdod Priffyrdd ynghylch y ffordd orau o ddarparu'r cyswllt hwn; ond awgrym arall a gafwyd, un amgen i'r twnel i gerddwyr, yw lledu pont y rheilffordd.  Felly argymhellir bod unrhyw ganiatâd cynllunio yn amodol ar sefydlu cytundeb ynghylch darparu mynedfa i gerddwyr dan y bont a hynny cyn datblygu gweddill y safle.

 

      

 

     Roedd y Cyngor Tref wedi gwrthwynebu'r cynnig a hynny oherwydd y cytundeb a wnaed ar y llwybr cerdded i'r dref.  Nid oes cyfleusterau i blant chwarae ger y safle; a gofynnwyd a roddwyd sylw i'r diffiniad o dai fforddiadwy yng nghyd-destun tai eraill yn Ffordd Glanhwfa a holwyd hefyd a roddwyd ystyriaeth i nifer y tai fforddiadwy sydd eisoes wedi'u caniatáu yn Llangefni.  Wrth ymateb i'r pwyntiau hyn dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod 118 o dai fforddiadwy yn Llangefni a 7 o rai eraill yn cael eu codi.  Yn ôl yr Adran Tai yr oedd 123 o ymgeiswyr ar y gofrestr tai am dai 3 ystafell wely, ac roedd 229 o deuluoedd/unigolion ar y gofrestr i gyd.  Felly a barnu wrth y dystiolaeth sydd ar gael mae gwir angen tai fforddiadwy yn Llangefni.  Fel a ddywedwyd uchod mae'r ymgeisydd yn ddatblygwr ond mae Cymdeithas Tai Eryri yn rhan o'r cais a'r Gymdeithas honno yn awyddus iawn i brynu'r safle ac yn wir roeddid ar ddeall bod y Gymdeithas wedi cael Grant Tai Cymdeithasol ar gyfer y pryniant.  Bydd y caniatâd yn amodol ar wneud Cytundeb dan Adran 106 a chyfyngu'r elfen tai fforddiadwy i 30% gan gydymffurfio gyda'r polisi presennol.  Ond rydym yn tybio y bydd y datblygiad i gyd yn dai fforddiadwy gan fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynghori, pryd bynnag y mae Cymdeithas Dai yn rhan o ddatblygiad, nad oes angen rhagor o gyfyngiadau ar unrhyw ganiatâd cynllunio.  Felly mae yma gais ac yn y cefndir mae Cymdeithas Dai sydd mae'n debyg yn mynd i brynu'r safle a'i ddatblygu yn un swydd i godi tai fforddiadwy ond ar y llaw arall nid y Gymdeithas Dai yw'r ymgeisydd presennol.  Yn yr adroddiad cyfeirir at 19 o dai fforddiadwy oherwydd tybio mai hon fydd y nifer a ddarperir yn y diwedd ar y safle a bydd raid bod yn glir ar hyn o'r cychwyn cyntaf.

 

      

 

     Eisoes mae ar y safle hwn ganiatâd cynllunio i 21 o dai.  Mae'r egwyddor o godi 19 o dai fforddiadwy yn dal i fod yn dderbyniol ac ar ôl asesu yr holl ystyriaethau cynllunio manwl mae'r datblygiad yn dderbyniol.  Felly mae yma argymhelliad o ganiatáu.

 

      

 

     Wrth annerch y Pwyllgor, dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Mrs Fflur Hughes, nad oedd ganddi fawr ddim i'w ychwanegu ac eithrio crybwyll nad oedd hi'n bersonol wedi derbyn unrhyw gwynion ynghylch y cais hwn ond er hynny roedd hi yn ymwybodol bod yr Adran Gynllunio wedi derbyn dau lythyr o wrthwynebiad.  Fel Aelod Lleol roedd hi'n cefnogi'r cais ac yn croesawu'r amod arfaethedig ynghylch creu cyswllt llwybr troed a oedd yn ei thyb hi yn hanfodol.

 

      

 

     Ond roedd gan y Cynghorydd Selwyn Williams bryderon gwirioneddol ynghylch pont y rheilffordd ac unrhyw newidiadau iddi.  Gofynnodd a oedd y bont hon yn cael ei diogelu mewn unrhyw ffordd - a fuasai'r cynnig yma yn golygu bod rhaid newid ei dyluniad a hefyd a oedd yma unrhyw oblygiadau yng nghyswllt y defnydd ohoni yn y dyfodol.  Wedyn soniodd bod y coed sy'n tyfu ar yr arglawdd ger y rheilffordd yn destun Gorchymyn Diogelu Coed ac a fuasai'r datblygwr yn diogelu'r coed hyn ac yn glynu wrth delerau'r Gorchymyn.  Pwysleisiodd bod raid i'r Cyngor sicrhau bod y Gorchymyn yn cael ei gyflwyno'n briodol.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Holodd y Cynghorydd Tom Jones ynghylch y pellter rhwng y datblygiad a'r ysgol gynradd agosaf o gofio y bydd y tai hyn yn rhai fforddiadwy.  Ni wyddai'r Cynghorydd E. G. Davies pa mor ddiogel fuasai i blant sy'n byw yn y tai hyn gerdded i'r ysgol a chredai bod hon yn broblem.  

 

      

 

     Er mwyn taflu goleuni ar bethau dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio unwaith yn rhagor am yr amod gyda'r caniatâd cynllunio i ddarparu cyswllt llwybr cerdded dan y bont cyn dechrau gweithio ar weddill y safle.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd J.P. Williams yn croesawu'r datblygiad arfaethedig ond yn pryderu ynghylch pont y rheilffordd.  Hefyd soniodd am y cyfleusterau chwarae ac nad oedd cyfleusterau o'r fath gyda llawer o ddatblygiadau tai modern a theimlai tybed a oedd angen rhoddi amod ynghlwm, petai'r ymgeisydd yn cael caniatâd, yn mynnu ar ddarparu man chwarae a hefyd yn mynu ar ddefnyddio paneli haul a systemau gwresogi tanddaearol a hynny er mwyn hybu cynaliadwyaeth.

 

      

 

     Y bont reilffordd oedd yn peri pryderon i'r Cynghorydd W. J. Chorlton hefyd ac yn arbennig am ei fod yn ymwybodol bod cynlluniau yn barod yn eu lle i agor y rheilffordd.  Teimlai bod angen rhagor o fanylion ynghylch unrhyw fwriad i ledu'r bont a holodd sut yr oedd modd cyflawni hynny heb newid yn llwyr ddyluniad y bont neu ei gwanio a'i gwneud yn beryglus.  Er bod y Cynghorydd Hefin Thomas yn gefnogol i'r bwriad i ddarparu tai fforddiadwy i bobl leol,  roedd, fodd bynnag, gyda'r un pryderon â'r Cynghorydd Chorlton fel y mynegwyd y rheini uchod.  Ond credai bod yr amod hwnnw a argymhellwyd gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ddarparu cyswllt llwybr cerdded yn lliniaru'r pryderon oherwydd wedyn bydd y cyfrifoldeb ar y datblygwr ynghylch datrys sut i symud ymlaen gyda'r gwaith yng nghyswllt y bont.  Nododd, fodd bynnag, y buasai wedi dymuno gweld cynlluniau manylach yn nodi gosodiad arfaethedig i'r 19 annedd, ac a oedd defnydd llawn yn cael ei wneud o'r safle i'r 19 dan sylw, ac aeth ymlaen i holi a oedd yr awdurdod cynllunio yn sicr yng nghyswllt cyfranogiad y Gymdeithas Dai.

 

      

 

     Wrth ymateb i'r pwyntiau uchod dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd yr un polisi cynllunio yn y cynlluniau datblygu presennol sy'n mynnu ar ddarparu llecyn chwarae i blant mewn datblygiad ac o'r herwydd busasai'n anodd i'r awdurdod cynllunio fynnu ar gyfleusterau o'r fath gyda chais unigol fel yr un hwn.  Roedd rheoliadau newydd yn eu lle ynghylch cynaliadwyaeth datblygiadau i 5 neu ragor o anheddau ond bod y rheini'n berthnasol i geisiadau a gyflwynwyd ar ôl 1 Medi 2009 a chafodd y cais gerbron ei gyflwyno cyn hynny.  Ond buasai'r awdurdod cynllunio yn edrych ar y mater hwn yn y dyfodol.  Yng nghyswllt cyfranogiad Cymdeithas Dai cafwyd sicrwydd y bydd y datblygiad yn cynnwys 30% o dai fforddiadwy.  Roedd trafodaethau'n cael eu cynnal a chredwyd bod cytundeb wedi ei wneud gyda Chymdeithas Dai i brynu'r safle os rhoddir caniatâd.  Felly o safbwynt cynllunio pur bydd caniatáu'r cais hwn yn sicrhau bod yma o leiaf 30% o dai fforddiadwy; y gobaith oedd y bydd yma 100% o dai fforddiadwy a dyna oedd y disgwyl.

 

      

 

     Gofynnodd y cynghorydd Tom Jones a oedd yr anheddau arfaethedig yn bodloni'r Safonau Ansawdd Tai.  Gan y Cynghorydd O. Glyn Jones cafwyd sylwadau yn crybwyll canllawiau ar gyfer codi tai - canllawiau y mae'n rhaid i Gymdeithasau Tai gydymffurfio â nhw megis adeiladu yn ôl patrwm / manyleb er enghraifft a bod raid i bob annedd tair ystafell wely fod ag o leiaf 40 metr sgwâr o dir agored a hyn yn cynnwys tir ar gyfer gardd a lle parcio i ddau gar.  Cafwyd cadarnhad y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr anheddau dan sylw yn wir yn cydymffurfio gyda'r Safonau Ansawdd Tai.

 

      

 

     Mynd yn ôl at fater y bont a wnaeth y Cynghorydd Selwyn Williams a dywedodd  y bydd unrhyw waith lledu ar y strwythur yn cael effaith ar y tai cyffiniol; roedd ef yn credu bod yma broblem wirioneddol ynghylch darparu cyfleusterau i gerddwyr.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y partïon cysylltiedig yn hyderus bod modd taro ar ateb; yn gryno ni fydd datblygiad onid oes yma ddarpariaeth ar gyfer cerddwyr.

 

      

 

      

 

      

 

     Holodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts a oedd gan yr Awdurdod Cynllunio hefyd gyfrifoldeb yng nghyswllt darparu cyswllt llwybr cerdded a hynny o gofio bod yn yr adroddiad gyfeiriad at ddatblygu yn anuniongyrchol ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.  Eglurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod hyn yn wir os oedd cyswllt i gerddwyr i'r dref yn gyswllt trwy dwnel yn rhedeg at faes parcio'r Cyngor.  Yn gynharach yn y drafodaeth cyfeiriwyd at orfodaeth dan Orchymyn Diogelu Coed a rhoes ef sicrwydd i'r aelodau y bydd yr awdurdod cynllunio, os ydyw'r adnoddau ar gael, yn sicrhau bod y Gorchymyn yn cael ei gyflwyno'n briodol ac yn cael ei barchu.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn fodlon cynnig argymhelliad y swyddog o ganiatáu gyda'r amod na fydd unrhyw waith datblygu'n digwydd ar y safle oni fydd cytundeb hefyd ar ddarparu cyswllt llwybr troed i gerddwyr, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i roi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais gydag amod gwneud cytundeb dan Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (fel y cafodd ei diwygio) yn cynnwys y ddarpariaeth a  ganlyn -

 

      

 

Ÿ

darparu tai fforddiadwy yn unol â Chanllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor ar Dai Fforddiadwy;

 

Ÿ

darparu llwybr troed dan bont y rheilffordd drwodd i'r maes parcio;

 

Ÿ

yr amodau hynny a argymhellir yn yr adroddiad i'w rhoddi ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir.

 

 

 

9

CEISIADAU'N GROES I BOLISI

 

      

 

     Nid oedd yr un cais yn groes i bolisi i'w ystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio.

 

      

 

10     CYNIGION DATBLYGU A GYFLWYNWYD GAN AELODAU A SWYDDOGION

 

      

 

10.1     36C109A - Cais Amlinellol i godi annedd yn Glanrafon, Rhostrehwfa

 

      

 

     Gwnaeth y Cadeirydd, y Cynghorydd Kenneth Hughes ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth.  Cymerwyd y Gadair gan yr Is-Gadeirydd am yr eitem.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod aelod o staff yr Adain Rheoli Cynllunio yn gyfaill i'r ymgeisydd.  Cafodd y Swyddog Monitro olwg ar y cais yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

      

 

     Cais amlinellol oedd yma i godi annedd ar dir gardd ffrynt Glanrafon.  Roedd safle'r cais yn wynebu priffordd Dosbarth III, sef lôn gefn o Langefni i Rostrehwfa.  Er bod nifer o dai yng nghyffiniau safle'r cais nid oedd y cynnig gerbron ynghlwm wrth ffiniau unrhyw bentref ac mae rhwng Llangefni a Rhostrehwfa.  Y cwestiwn allweddol yma yw hwn - a oes yma ystyriaethau o bwys i gyfiawnhau gwyro oddi wrth bolisïau'r Cyngor - polisïau sydd yn diogelu'r cefn gwlad rhag codi tai heb gyfiawnhad.  Nid oedd gwrthwynebiad i'r cais gan yr Aelod Lleol ond mewn ymateb i'r ymgynghoriad ac adeg ysgrifennu'r adroddiad roedd 3 llythyr wedi eu derbyn - un yn cefnogi'r cais a 2 yn gwrthwynebu'r bwriad a hefyd daeth deiseb ac arni 28 o enwau i'r Adran Gynllunio.  Yn y rhain cyfeiriwyd at golli preifatrwydd; roedd y safle yn dir amaethyddol ac nid yn hen ardd; mae Glanrafon yn adfail ac mae modd ei adnewyddu;  mynegwyd pryderon ynghylch diogelwch y briffordd oherwydd bu, ar hyd y lôn hon yn y gorffennol, nifer o ddamweiniau.

 

      

 

     Dan y cynllun datblygu presennol, nid yw'r safle mewn ardal lle mae'n bosib caniatáu datblygiad. Nid oes cyswllt rhwng y safle ac unrhyw bentref a nodir yng Nghynllun Lleol Ynys Môn nac yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Rhaid penderfynu ar y cais dan bolisïau'r Cyngor sy'n berthnasol i ddatblygu yn y cefn gwlad.  Credir bod y gwrthwynebiadau polisi yn gryfach na run ystyriaeth arall ac o'r herwydd argymhellir gwrthod y cais.

 

      

 

 

 

     Ni chredai'r Cynghorydd E. G. Davies bod y map o safle'r cais oedd yn rhan o bapurau'r Pwyllgor yn rhoddi darlun digon clir o'r safle ac yn enwedig felly yng nghyswllt y plot cyffiniol - felly cynigiodd ef y dylid cael ymweliad â'r safle fel bod yr aelodau yn cael gwell syniad am leoliad y safle ac yn hyn o beth cafodd gefnogaeth y Cynghorydd Selwyn Williams.  Ond ni chredai'r Cynghorydd J. Arwel Roberts bod angen cael ymweliad a chynigiodd dderbyn argymhelliad y swyddog o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.  Teimlai'r Cynghorydd Hefin Thomas hefyd y dylid derbyn adroddiad y swyddog a nododd y gallai caniatâd i'r cais hwn arwain at ragor o ddatblygiadau rhubanaidd yn yr ardal.  Aeth ymlaen wedyn i sôn nad oedd yr Aelod Lleol yn bresennol i gyflwyno'r achos ac felly ni welai bod yma unrhyw rheswm i beidio â derbyn yr adroddiad.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i wrthod y cais.

 

      

 

10.2

37C170 - Troi adeiladau allanol yn ddau fwthyn gwyliau a darparu tanc septig yn Cefn Dderwen, Brynsiencyn

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan Gynghorydd.  

 

      

 

     Mae'r safle yn y cefn gwlad ger yr A4080.  Mae llwybr cyhoeddus yn croesi'r safle a'r bwriad yma yw addasu dau adeilad allanol i bwrpas llety gwyliau.  Y cwestiwn sylfaenol yma yw hwn - a ydyw'r cais yn cydymffurfio gyda'r polisïau addasu.  Ar ôl ystyried y prif faterion cynllunio credir bod y cynllun yn cydymffurfio gyda pholisi a'r argymhelliad felly yw caniatáu.

 

      

 

     Gan fod y cais hwn yn un gan Gynghorydd holodd y Cynghorydd Hefin Thomas a gafodd ei ystyried gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion cyfansoddiadol - a'i fod yn holi am nad oedd gair yn yr adroddiad yn nodi bod hynny wedi digwydd ac felly a oedd yn cael effaith ar y Pwyllgor.  Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol bod y cais wedi ei drin yn y ffordd arferol ac iddo cael golwg ar y ffeil a chyflwyno sylwadau arni i'r Rheolwr Rheoli Cynllunio.   Ymddiheurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am beidio â chrybwyll y mater hwn yn yr adroddiad.

 

      

 

     Ni chredai'r Cynghorydd E. G. Davies bod y map yn glir yng nghyswllt ardal y safle ac roedd hyn yn wir am y cais cynt hefyd.  Nododd y Cynghroydd Hefin Thomas mai cais oedd hwn i addasu adeiladau ond bod y cais cynt yn gais i godi adeilad newydd a bod polisïau gwahanol yn berthnasol i'r ddau.

 

      

 

     Wedyn aeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio ymlaen i ddweud ei fod yn argymell rhoddi dau amod arall yn ychwanegol at y pum amod yn yr adroddiad ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd cynllunio. Dan amod 6 bydd raid i'r perchennog gadw cofrestr o'r deiliaid yn y bythynnod gwyliau a bydd amod 7 yn egluro pa waith addasu ar yr adeiladau fydd yn dderbyniol o ran dymchwel ac ailgodi.

 

      

 

     Wedyn cyfeiriodd y Cynghorydd Selwyn Williams at y llwybr cyhoeddus yn croesi'r safle a gofynnodd a oedd hwn wedi cael i symud.  Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Beiriannydd nad oedd y llwybr wedi ei symud ond er hynny roedd amod i sicrhau na fydd unrhyw rhwystr arno.  

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd Barrie Durkin bod y lôn at y lôn fechan yn gul iawn ond yn ei ymateb dywedodd yr Uwch Beiriannydd bod ar y lôn hon nifer o lecynnau pasio ac nid oedd yma ofynion i ledu.  Yn wir roedd yr Adain Briffyrdd yn hapus gyda'r lôn fel y mae.  Wedyn cafwyd awgrym gan y Cynghorydd Barrie Durkin y buasai ymweliad yn ddefnyddiol ond ar y llaw arall ni welai'r Cynghorydd Hefin Thomas unrhyw reswm i ymweld gan fod yr Adain Briffyrdd wedi cadarnhau ei bod yn hapus gyda'r sefyllfa.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

 

 

     Gan y Cynghorydd W. J. Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn yr argymhelliad o ganiatáu yn adroddiad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     Gan fod y Rheolwr Rheoli Cynllunio wedi argymell rhoddi dau amod newydd ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd cynllunio cafwyd cyngor gan Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol mai doeth fuasai ailgyflwyno'r cais i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio i bwrpas cadarnhau'r amodau diwygiedig.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad ac argymhellion y Swyddog i ganiatáu'r cais gyda'r amodau a argymhellwyd ar lafar.  Bod y cais yn cael ei ailgyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor i bwrpas cadarnhau'r amodau diwygiedig.

 

 

 

11     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1

12C394 - Cais amlinellol i ddymchwel cwt sgowtiaid a chodi annedd newydd yn Neuadd y Sgowtiaid, Capel, Biwmares.

 

      

 

     Dygodd y Cadeirydd sylw'r aelodau at lythyr gan y Cynghorydd R. L. Owen, yr Aelod Lleol, yn gofyn am ymweliad â'r safle ac roedd yr aelodau yn gefnogol.  Wedyn atgoffwyd yr aelodau gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod raid iddynt nodi rhesymau am yr ymweliad - yn ei lythyr ef yn gofyn am yr ymweliad roedd yr Aelod Lleol yn mynegi pryderon bod y safle yn agos i'r garej betrol gerllaw.  Dangosodd yr aelodau eu bod yn fodlon mynd ar ymweliad â'r safle ar y ddealltwriaeth hon.

 

      

 

     Penderfynwyd ymweld â'r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

11.2

24C262A - Cais llawn i godi annedd ac altro'r fynedfa ar dir ger Llechwedd, Pengorffwysfa

 

      

 

     Er nad oedd yr Aelod Lleol yn wrthwynebus i'r datblygiad dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ei fod yn pryderu ynghylch y dyluniad arfaethedig ac oherwydd hynny gofynnodd i aelodau'r Pwyllgor ymweld â'r safle.  Cafwyd sylw gan y Cynghorydd W. J. Chorlton y dylai'r Pwyllgor gael golwg ar y cynlluniau i'r datblygiad a mynd ymlaen i ofyn a oedd gwir angen ymweliad a chynigiodd dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhellion ynddo.  Roedd y mwyafrif o aelodau'r Pwyllgor o blaid cais yr Aelod Lleol i gael ymweliad a hynny oherwydd ei bryderon ynghylch dyluniad yr annedd arfaethedig.

 

      

 

     Penderfynwyd ymweld â'r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

11.3

26C146/EIA - Diwygio amod (02) ar ganiatâd cynllunio rhif 26C14B i bwrpas cloddio am fwynau tan 31/12/2020, gwneud gwaith tipio tan 31/12/2021 a chadw'r adeiladau, cerbydau, yr offer a'r peiriannau tan 31/03/2022.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Barrie Durkin ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth.

 

      

 

     Yn y cais hwn gofynnir am ragor o amser dan y caniatâd cynllunio presennol i gloddio am fwynau ac i adfer y safle trwy ei lenwi gyda deunyddiau inert.  Mae'r safle ei hun ger y B5110 rhyw 5km i'r gogledd-ddwyrain o Langefni a 3km i'r gorllewin o Benllech.  At ei gilydd mae'r chwarel yn y cefn gwlad agored ac eithrio Chwarel Rhuddlan Bach sydd rhyw 350 metr i'r de-ddwyrain.  Wedyn mae Cors Erddreiniog, rhan o Ardal Gadwraeth Arbennig Corsydd Ynys Môn a rhyw 400 metr i'r gorllewin o safle'r cais.  Yr ystyriaethau pwysicaf gyda'r cais hwn yw'r posibilrwydd y cyfyngir ar lif dwr tanddaearol i'r gors gerllaw ac effaith y datblygiad ar ansawdd y dwr tanddaearol.

 

      

 

      

 

 

 

     Dywedodd yr Arweinydd Tîm (Gorfodaeth, Mwynau a Gwastraff) bod Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi mynegi pryderon ynghylch unrhyw newidiadau i lif y dwr tanddaearol i'r ffynhonnau a threiglad araf y dwr ar hyd cyrion Cors Erddreiniog a phryderon hefyd ynghylch y posibilrwydd o lygru nant sy'n cludo dwr o'r chwarel i Gors Errdreiniog ac ar draws y gors honno.  Ond, ychwanega y Cyngor Cefn Gwlad bod modd gosod amodau priodol i bwrpas monitro dwr tanddaearol a llif y dwr hwnnw ar draws y deunydd a ddefnyddiwyd i lenwi y tir.  Hefyd, mae Cyngor Cefn Gwlad yn ychwanegu y buasai'n rhaid cynnal asesiad priodol dan y Rheoliadau Cynefinoedd.

 

      

 

     Ar yr wyneb roedd ymestyn oes y chwarel yn ymddangos yn fater syml yn enwedig o gofio beth yw statws cynllunio'r safle ond mae'n fater dyrys oherwydd bod Cors Erddreiniog mor agos i safle'r cais.   Mae'r gors hon yn rhan o Ardal Gadwraeth Arbennig Corsydd Ynys Môn ac yn gynefin o bwys a'r cynefin hwnnw yn seiliedig ar ddwr calchog yn llifo i'r gors o'r cefn gwlad o gwmpas.  Fe welir o bryderon y Cyngor Cefn Gwlad y gallai safle'r cais hwn gael effaith andwyol ar integriti'r nodwedd ddynodedig hon a hynny trwy amharu ar y dwr a gwyro'r dwr tanddaearol sy'n llifo i'r gors a hefyd gall ostwng ansawdd y dwr sy'n llifo i'r ardal ddynodedig. Ond er gwaethaf hyn oll mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn fodlon bod modd lliniaru'r cyfryw bryderon trwy osod amodau priodol.  Felly ar ôl trafodaethau hir gyda'r ymgeisydd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru cytunwyd ar amodau priodol a buasai gweithredu ar y camau penodol a nodir yn yr amodau hyn yn diogelu integriti yr Ardal Gadwraeth Arbennig.  Roedd y Datganiad Amgylcheddol a gyflwynwyd gyda'r cais yn sylfaen dda i baratoi asesiad priodol dan y Rheoliadau Cynefinoedd a chyda'r camau lliniarol sydd yn y datganiad ac o weithredu ar yr amodau uchod mae modd dod i'r casgliad na fydd y cynnig hwn yn cael effaith sylweddol debygol ar yr Ardal Gadwraeth Arbennig.  Felly yr argymhelliad oedd caniatáu'r cais.

 

      

 

     Aeth yr Arweinydd Tîm (Gorfodaeth, Mwynau a Gwastraff) ymlaen i egluro y bydd un o'r amodau a nodwyd yn yr adroddiad yn cael ei ddiwygio a hynny yn sgil trafodaethau a gafwyd gyda'r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol.  

 

      

 

     Er ei fod yn gefnogol i'r cais roedd y Cynghorydd Lewis Davies yn pwysleisio y dylid monitro'r dwr tanddaearol sy'n llifo i'r gors yn ofalus i sicrhau na fydd byth yn cael ei lygru a hynny oherwydd sensitifrwydd Cors Erddreiniog fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.  Wrth gynnig y dylid derbyn argymhelliad y swyddog i ganiatáu'r cais, dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas y bydd raid  ailgyflwyno'r cais i'w gadarnhau oherwydd bod un o'r amodau yn mynd i gael ei ddiwygio.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad ac argymhelliad y Swyddog i ganiatáu'r cais ond gyda'r amodau uchod.  Bydd y cais yn cael i ailgyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor i gadarnhau'r amodau diwygiedig.

 

      

 

11.4

34C510G/AD - Codi 2 arwydd goleuedig yn Siop ALDI, Lôn y Felin, Llangefni

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Cais oedd hwn i godi dau arwydd - un ohonynt o deip totem ger y Llyfrgell a hwn yw Arwydd rhif 1; roedd y llall ger siop Lidl a hwnnw yw Arwydd 2.  Arwydd heb oleuadau ynddo yn nodi cyfeiriad yn unig yw Arwydd 1 ac mae'n 1.3m o uchder ac yn 1.5m o led.  Arwydd math totem heb oleuadau ynddo yw Arwydd 2 ac mae'n 6m o uchder a 2.5m o led.  Y prawf ar effaith unrhyw hysbyseb ar bleserau yw ystyried a fydd yn cael effaith ddrwg ar wedd yr adeilad, neu ar yr ardal lle mae'n cael ei ddangos ac ystyried hefyd yr effaith ar ddiogelwch y cyhoedd.  Hefyd rhaid ystyried unrhyw effaith ar ddiogelwch traffig a chludiant ar y tir (ac mae hyn yn cynnwys diogelwch cerddwyr).

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Arwydd 1 ger y Llyfrgell yn dderbyniol oherwydd ei natur, ei faint a'i leoliad.  Yr unig beth a wna'r arwydd bychan hwn yw cyfeirio'r cyhoedd i'r siop.  Mae Arwydd 2 ger y siop Lidl rhyw 80m oddi wrth y fynedfa i Aldi a chredir y buasai mewn llecyn amhriodol ac yn ymddangos yn ddieithr ac yn amlwg yn yr ardal ac felly câi effaith ddrwg ar bleserau'r ardal honno.  Mae siop Aldi wedi cael caniatâd dan rif 34C510C/AD i godi un arwydd math totem a goleuadau ynddo a thri arwydd arall - rhai sy'n ymwthio allan, siâp bocs a goleuadau mewnol ynddynt.  Credir bod yr arwyddion hyn yn fwy derbyniol ac mewn mannau mwy priodol a hynny oherwydd eu bod y tu mewn i safle Aldi.  I gloi a chrynhoi mae Arwydd 1 yn dderbyniol ac argymhellir rhoddi caniatâd iddo; ar y llaw arall nid yw Arwydd 2 yn dderbyniol ac argymhellir ei wrthod am nad yw'n cydymffurfio gyda Pholisi 22 Cynllun Lleol Ynys Môn, na chyda Pholisi SG10 yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd i Ynys Môn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd O. Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhellion y Swyddog i ganiatáu Arwydd 1 a gwrthod Arwydd 2.  

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu y cais am Arwydd 1 gyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw a gwrthod Arwydd 2.

 

      

 

      

 

11.5

45C311E - Cais diwygiedig i godi annedd yn Annan, Pen-lôn, Niwbwrch

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog sy'n gweithio yn yr Adain Gynllunio.  Cafodd y Swyddog Monitro olwg ar y cais yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

      

 

     Eglurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y dylid bod wedi cynnwys y cais uchod gyda'r ceisiadau dan ran 10 y Rhaglen - Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion, ac ymddiheurodd am y camgymeriad.

 

      

 

     Mae'r safle mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol ac yn agos i Warchodfa Natur Genedlaethol sy'n cynnwys twyni tywod Cwningar Niwbwrch.  Mae'r plot rhwng dwy anned - Rushmead a Phen-y-bont.  Cais diwygiedig sydd yma i godi annedd a'r newidiadau arfaethedig yn cynnwys ychwanegu rhyw 900mm at uchder yr annedd a diwygio nifer o'r ffenestri.  Roedd y gwaith wedi dechrau ar godi'r annedd a'r cwestiynau allweddol yma yw - a fuasai'r cynnig yn cael effaith ar bleserau y tai gerllaw neu ar y tirwedd o gwmpas sy'n Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol ac a fydd y diwygiadau yma yn dderbyniol o safbwynt dylunio.  

 

      

 

     Mae'r cynnig yn dderbyniol o safbwynt y tirwedd ac effaith weledol ond gyda'r amod y bydd cynllun tirlunio yn rhan o'r datblygiad.  Credir bod dyluniad yr annedd yn dderbyniol ac yn debyg i'r cynllun a gymeradwywyd o'r blaen.  Felly yr argymhelliad oedd caniatáu'r cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W. J. Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y Swyddog a chaniatáu'r cais.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu'r cais ond gyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

      

 

12     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ar y ceisiadau dirprwyol y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod cynt y Pwyllgor.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

 

 

13

APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd copïau o grynodeb o'r penderfyniadau gan yr Arolygydd Cynllunio ar yr apeliadau a ganlyn -

 

      

 

13.1

APP/L6085/A/09/2099869 - Fflat 1, Crofton House, Steeple Lane, Biwmares - Gwrthodwyd yr apêl.

 

13.2

APP/L6805/A/09/2105517 - Llanddwyn, Benllech - Caniatawyd yr apêl.

 

13.3

APP/L6805/A/09/2104928 - Safle ger Turpeg yr A5, Gwalchmai, Ynys Môn - Gwrthodwyd yr apêl.

 

 

 

Holodd y Cynghorydd W. J. Chorlton a fuasai'r Cyngor yn gorfod wynebu unrhyw gostau oherwydd caniatâu apêl 13.2 ac mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Cynllunio na fuasai unrhyw gostau i'r Cyngor a hynny oherwydd bod yr apêl hon yn un ysgrifenedig.

 

 

 

 

 

14     MATERION ERAILL

 

      

 

14.1

36C283A - Cais llawn i godi anned, darparu mynedfa i gerbydau a cherddwyr ynghyd â dymchwel cwt 'nissen' ar ran o Gae Ordnans rhif 9665 union ger Ael y Bryn, Llangristiolus

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn gweithio yn yr Adran Gynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol - y Cyngor Sir.  Cafodd y Swyddog Monitro olwg ar y cais yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

      

 

     Rhoddwyd caniatâd cynllunio llawn ym Mai 2009 i godi annedd ac mae'r ymgeisydd yn gofyn am gyflwyno mân newidiadau i'r cynllun a gymeradwywyd.  Mae'r mân newidiadau hynny yn golygu cael gwared o'r wal fechan yn yr ystafell haul, gosod ffenestr arall yn nhalcen y garej a lledu'r ffenestr ar wal gefn y llawr cyntaf.  Credir bod y newidiadau hyn yn dderbyniol ac ni chânt effaith andwyol ar bobl y tai o gwmpas.  Oherwydd bod y newidiadau hyn yn rhai cymharol fychan ni chredir y byddant yn cael effaith o bwys ar wedd nac ar natur y cynllun a gymeradwywyd o'r blaen.  Felly argymhellwyd caniatáu'r cais.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W. J. Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad ynddo i ganiatáu.

 

      

 

      

 

14.2

39C444A - Addasu ac ymestyn hen werws adfeiliedig a bwthyn gwag - eu troi yn ganolfan treftadaeth ac ymwelwyr ym Mhier y Dywysoges, Porthaethwy

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd bod y safle yn cynnwys tir a fu unwaith yn eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn.  Y perchennog bellach yw Menter Môn a nhw hefyd yw'r ymgeisydd.  Ym mis Hydref 2008 rhoes y Pwyllgor Cynllunio ei ganiatâd i ran gyntaf y datblygiad yn amodol ar wneud cytundeb cyfreithiol.  Ni chafodd y cytundeb cyfreithiol hwnnw erioed ei gwblhau oherwydd bod yr ymgeiswyr wedi penderfynu cynnwys rhan 2 y datblygiad fel rhan o'r cais cyfredol.  Mae hyn yn golygu cyflwyno cais cynllunio llawn i addasu'r warws a'r bythynnod a'u troi yn ganolfan treftadaeth ac ymwelwyr, hefyd yn swyddfeydd i Menter Môn a gwneud defnyddiau ategol ohonynt - megis fel caffi, bar a bwyty.  Nid oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer parcio i ymwelwyr yn rhan o'r cynnig; mae'r ymgeiswyr yn cynnig y bydd ymwelwyr yn dilyn llwybr dan gyfarwyddyd i safle'r cais o Ganolfan Thomas Telford yn Ffordd Caergybi.

 

      

 

     Yn wreiddiol cyflwynwyd cais am "rhan 2" sef clirio'r safle ac addasu'r adeilad presennol; dan "rhan 2" roedd cynnig i ddarparu rhagor o le swyddfa, estyniad gwydrog ar wal ffrynt yr adeilad presennol a phont bwrpasol at gychod.  Ar safle y cais mae hen fwthyn y pierfeistr a warws ac mae'r rhain mewn llecyn canolog ym Mhorthaethwy ac yn wynebu Afon Menai ar hyd y ffiniau dwyreiniol.  Tua'r gogledd mae iard i storio cychod, ty mewn llecyn uchel tua'r gorllewin ac wedyn tua'r de y mae cyfleuster Lansio Cychod Porth y Wrach.  Y cwestiynau allweddol yma yw'r egwyddor o ddarparu canolfan dreftadaeth yn y lleoliad penodol hwn; ystyriaethau risg llifogydd; mynedfa ac ystyriaethau parcio; effaith y datblygiad a chymeriad a gwedd yr Ardal Gadwraeth a hefyd yr effaith ar faterion cadwraeth natur.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y Cynghorydd Keith Evans, yr Aelod Lleol wedi mynegi cefnogaeth i'r cynnig mewn llythyr  i'r Adran Gynllunio.  Hefyd daeth 3 llythyr arall o gefnogaeth ac 11 o lythyrau o wrthwynebiad.  Daeth deuddegfed llythyr o wrthwynebiad dyddiedig 1 Hydref 2009 i law o Porth Daniel Boat Storage.  O ran yr egwyddor o ddatblygu mae modd rhoddi pwysau cadarnhaol ar amcanion y Cynllun Datblygu a Chynllun Datblygu Unedol Ynys Môn a Stopiwyd i bwrpas darparu canolfan dreftadaeth ym Mhorthaethwy ar y safle hwn sydd wedi ei ddatblygu o'r blaen yn y gorffennol.  Gofynnwyd am Asesiad Diwygiedig i'r canlyniadau llifogydd yng nghyswllt rhan 2 y datblygiad; os ceir Asesiad Canlyniadau Llifogydd sy'n dderbyniol yna bydd y cynnig yn cydymffurfio gyda'r polisïau hynny a amlinellir yn yr adroddiad.  Nid oes cyfleusterau i barcio ynghlwm wrth y cynllun ond credir, fodd bynnag bod modd symud ymlaen gyda'r datblygiad a hynny mewn modd derbyniol gydag ymrwymiad yng nghyswllt strategaeth gweithredu trafnidiaeth fel a ddisgrifir yn yr adroddiad.  Cred y swyddog bod y dyluniad a ddewiswyd yn bodloni'r amcanion a sefydlwyd yng nghyswllt darparu adeilad o bwys i hyrwyddo treftadaeth y dref a chynyddu twristiaeth yr ardal.  Mae'n bosib y bydd y datblygiad yn cael effaith sylweddol ar fuddiannau archeolegol ond mae modd lliniaru yr effaith mewn modd derbyniol; a hefyd unrhyw effaith ar rywogaethau a ddiogelir.  Ar ôl ystyried darpariaethau'r cynllun datblygu ac ystyriaethau perthnasol eraill a nodir yn yr adroddiad argymhellir y dylid rhoddi caniatâd i'r cais gyda'r ymrwymiadau a'r amodau a restrir.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd Selwyn Williams ei gefnogaeth i'r cynnig oherwydd y bydd hwn yn hyrwyddo cyfleusterau addysgol a chyfleusterau eraill cyffredinol ym Mhorthaethwy.  Cefnogi hefyd yr oedd y Cynghorydd Hefin Thomas ond gofynnodd y Cynghorydd Jim Evans gwestiynau ynghylch y trefniadau parcio.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr adroddiad yn rhoddi sylw i barcio yn fanwl ac er nad yw'r cynnig gerbron yn bodloni safonau parcio cydnabyddedig y Cyngor (2008) - yn wir nad oes yma unrhyw gyfleusterau parcio i ymwelwyr - rhaid cofio bod safle'r cais o ran dulliau teithio amgen yn cael ei wasanaethu'n dda gan gludiant cyhoeddus ac mae'r ymgeiswyr yn cynnig bod ymwelwyr yn dilyn y llwybrau tywysydd i safle'r cais o Ganolfan Thomas Telford ar Ffordd Caergybi.  Hefyd rydym ar ddeall y bydd mynediad o gychod ac ar draws pontwn yn rhan o gynllun teithio gwyrdd fel y cyfeiriwyd at hynny yn yr adroddiad.  Yn erbyn y cyd-destun uchod a chan gofio hefyd beth yw maint y datblygiad mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn fodlon nad yw'n debygol y bydd tripiau sylweddol yn cael eu creu fel a ddisgrifir yn TAN 18.  Hefyd argymhellir, fel rhan o'r cytundeb cyfreithiol, y bydd raid cyflwyno Strategaeth Gweithredu Trafnidiaeth a hwnnw'n cynnwys Cynllun Teithio a chael caniatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol iddo cyn dechrau gweithio ar y datblygiad.

 

      

 

     Wrth dderbyn yn llwyr yr eglurhad a roddwyd gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio aeth y Cynghorydd Selwyn Williams ymlaen i bwysleisio mai amcan y cynnig gerbron yw hyrwyddo teithiau cerdded trwy'r dref a diweddu yn y ganolfan dreftadaeth.  Felly ni fydd unrhyw effaith o ran gofynion parcio ceir.  Cyfeirio a wnaeth y Cynghorydd E. G. Davies at y llythyr oddi wrth y Porth Daniel Boat Storage a'r pryderon a godwyd yn hwnnw ynghylch llifogydd.  Mewn ymateb eglurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Asesiad Canlyniadau Llifogydd - un boddhaol - wedi ei ddarparu gyda'r cais ar gyfer rhan 1 y datblygiad;  gofynnwyd am asesiad diwygiedig yng nghyswllt rhan 2 y datblygiad ond nid oedd hwnnw wedi ei dderbyn adeg paratoi'r adroddiad.  Os cyflwynir Asesiad derbyniol o ran canlyniadau llifogydd yna bydd maen prawf (iv) uchod wedi ei fodloni - maen prawf yn ymwneud â chanlyniadau posib petai llifogydd yn digwydd i'r math penodol hwn o ddatblygiad a wedyn bydd y cynnig yn cydymffurfio gyda'r polisïau a nodir yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu ond gyda'r amodau a'r ymrwymiadau a nodir yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

      

 

     Y Cynghorydd Kenneth Hughes

 

     Cadeirydd