Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 7 Tachwedd 2007

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 7fed Tachwedd, 2007

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod gafwyd ar 7 Tachwedd, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Arwel Roberts - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr  Eurfryn Davies, Denis Hadley, O Glyn Jones,

J Arthur Jones,Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen,

John Roberts, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Rheolwr Rheoli Datblygu (DFJ),

Cynorthwy-ydd Cynllunio (EH)

 

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy) (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J Arwel Edwards

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol :  Y Cynghorwyr PM Fowlie eitem 10.4, Fflur Hughes eitem 5.3, WI Hughes eitem 6.1, Eric Jones eitem 6.8, Gwilym Jones eitem 6.7, DA Lewis-Roberts eitem 6.6, G Allan Roberts eitem 6.4.

 

 

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb fel a nodwyd uchod.

 

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

 

3

COFNODION

 

 

Cadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gafwyd ar

 

3 Hydref, 2007, ac eithrio eitem 10.12 ar dudalen 13 (46C448B/EIA gwelliannau arfordirol ym Mae Trearddur).  Cytunwyd i ddal hwn yn ôl ac y bydd adroddiad yn cael ei baratoi gan Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio. (tud 62 - 76 y Cofnodion hyn)

 

 

 

 

 

4

YMWELIADAU SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel cofnod cywir, adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd gafwyd ar

 

17 Hydref, 2007.    

 

 

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

11C8U/1  CAIS LLAWN I GODI 35 UNED BRESWYL YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR TU CEFN I BARC TRECASTELL, PORTH LLECHOG

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais y swyddog a oedd yn argymell ymweld â'r safle er mwyn asesu rhwydwaith y ffyrdd ac effaith bosib ar y tirlun.  

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle ar gais y swyddog.

 

 

 

5.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

31C346A  CODI ADEILAD AMAETHYDDOL I GADW ANIFEILIAID YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR YN FFERM SIGLEN, LLANFAIR-PWLL

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 25 Gorffennaf ac fe gafwyd hyn ar 8 Awst, 2007. Gofynnodd y swyddog am ohiriad tra'n cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.3      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

34C561 CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD FFORDDIADWY AR DIR GER TYDDYN GWYNT, RHOSTREHWFA

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a ofynodd am ymweliad safle.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle ar gais yr aelod lleol.  

 

 

 

6

CEISIADAU'N CODI

 

 

 

6.1

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

14C199A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER BYNGLO PARCIAU, TYN LON

 

 

 

 

 

Gan Y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

Yn y cyfarfod gafwyd ar 4 Gorffennaf, 2007 penderfynodd y Pwyllgor ohirio penderfynu ar y cais er mwyn i swyddogion gael rhagor o wybodaeth ar opsiynau eraill, e.e. addasu adeilad neu anheddau addas eraill ar werth yn lleol.  Yn y cyfamser gohiriwyd y cais. Dymuniad yr aelodau ar 3 Hydref, 2007 oedd un o ganiatáu'r cais ar sail feddygol.   Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

 

 

Trwy ddiwygio'r cynlluniau cafodd y materion priffyrdd eu datrys meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu; fodd bynnag roedd yr argymhelliad yn parhau i fod yn un o wrthod am y rhesymau roddwyd yn yr adroddiad, h.y. yn groes i bolisi a'i effaith ar y tirwedd.

 

 

 

Roedd cyflwr meddygol mab yr ymgeisydd yn golygu ei fod angen gofal parhaus a dwys gan gynnwys ffysiotherapi yn ddyddiol.  Gwelai'r Cynghorydd WI Hughes yr achos hwn yn un eithriadol.  Roedd y mab angen llofft wedi ei dylunio yn arbennig ar gyfer ei anghenion ynghyd a champfa.  Gwelwyd manylion yr anghenion arbennig yn llythyr yr ymgeisydd dyddiedig 18 Medi.   

 

 

 

Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais oherwydd amgylchiadau eithriadol ac anghenion arbennig a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.  

 

 

 

Doedd amgylchiadau personol ddim yn cyfiawnhau adeiladu annedd newyd ar safle a oedd yn glir yn y cefn gwlad meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu a chyfeiriodd yr aelodau at 4.1.6 o PPW ym mhle y dywedir:  "Authorities should bear in mind that personal permissions will hardly ever be justified for works or uses that will remain long after the personal circumstances of the applicant have changed".  Byddai unrhyw annedd a adeiledir yno am byth - ymhell ar ôl unrhyw angen personol,  gofynnodd y swyddog prun a oedd yr aelodau'n dymuno gosod unrhyw amod ar y caniatâd neu ganiatáu iddo fod yn dy marchnad agored.

 

 

 

Cefnogir ceisiadau mewn amgylchiadau arbennig dan y PPW meddai'r Cynghorydd Glyn Jones, ac roedd yr amgylchiadau hyn yn arbennig.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Denis Hadley, O Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, WJ Williams MBE

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Roberts, J Arwel Roberts, Hefin Thomas

 

 

 

Yn dilyn cwestiynau gan y Rheolwr Rheoli Datblygu, cytunodd yr aelodau y dylai'r caniatâd cynllunio gynnwys amod y dylai'r ymgeisydd fyw yn yr annedd am o leiaf 10 mlynedd neu twy gydol oes ei mab, pa gyfnod bynnag sydd hwyaf.

 

 

 

Dymunodd y Cynghorwyr John Roberts a Hefin Thomas nodi na wnaethant bleidleisio ar yr amod uchod.

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad i ganiatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog, gydag amodau safonol ac yn cynnwys amod y dylai'r ymgeisydd fyw yn yr annedd am o leiaf 10 mlyned neu trwy gydol oes ei mab pa gyfnod bynnag sydd hwyaf.  

 

 

 

 

 

6.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

17C408A  NEWID AC ADDASU ADEILAD ALLANOL I FOD YN ANNEDD YN CAERAU, LLANSADWRN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 5 Medi, ac fe gafwyd hyn ar 19 Medi ar gais yr aelod lleol.  Dymuniad yr aelodau ar 3 Hydref, 2007 oedd un o ganiatáu am y rheswm y teimlai'r aelodau fod y cais yn cydymffurfio â Pholisi 55 (addasiadau) Cynllun Lleol Ynys Môn.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Eurfryn Davies at y cofnodion blaenorol a chynigiodd ganiatáu; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorwyr Glyn Jones ac RL Owen.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arthur Jones dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod swyddogion yn fodlon gyda'r cynlluniau diwygiedig ar faterion priffyrdd gyflwynwyd gan yr ymgeiswyr.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog;  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais;  Y Cynghorwyr Denis Hadley, J Arthur Jones, Arwel Roberts, Hefin Thomas

 

 

 

Ymatal:  Y Cynghorwyr Thomas Jones, Bryan Owen

 

 

 

Roedd y bleidlais yn bedair yr un ac wrth i'r Cadeirydd ddefnyddio'i bleidlais fwrw be BENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

 

 

6.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C171B  CAIS LLAWN I GODI 14 O ANHEDDAU DEULAWR YNGHYD A GWNEUD GWAITH CYSYLLTIEDIG TRAENIO A PHRIFFYRDD AR DIR GER YSBYTY PENRHOS STANLEY, CAERGYBI

 

 

 

Gan Mr JRW Owen o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Fe adroddwyd i'r cais hwn gael ei ganiatáu gan gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 4 Gorffennaf, 2007 gydag amod dan Adran 106 ar dai fforddiadwy, hefyd taliadau tuag at fannau chwarae ac yn amodol ar ddatrys materion draenio'n foddhaol.  Yn y cyfamser fel gyflwynwyd cynllun draenio diwygiedig, ond roedd hyn yn golygu ymestyn y safle er mwyn cynnwys y gwaith hwn ac o'r herwydd bu'n rhaid ailymgynghori.

 

 

 

Un elfen o'r cytundeb Adran 106 yw y dylai'r datblygwr gyfranu £10,000 tuag at fannau chwarae yn yr ardal meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.  Gofynnodd y swyddog am ddiwygio'r elfen yma i alluogi swyddogion i drafod defnydd mwy cyffredinol i'r arian er budd y gymuned.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais gyda'r diwygiad uchod.  

 

 

 

Credai'r Cynghorydd Arthur Jones fod y geiriau "cyn dechrau'r gwaith"  fel rhan o amod cynllunio yn rhwystr i ddatblygwyr yn gyffredinol a chynigiodd ddileu'r geiriau hyn o amodau (04), (08), (12) & (16) caniatâd cynllunio, cyfeiriodd hefyd at gylchlythyr 35/95 y Swyddfa Gymreig; cytuno a wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas.  Anghytuno  â hyn a wnaeth y Rheolwr Rheoli Datblygu ac ychwanegodd fod amodau yn cydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol.

 

 

 

Gan y Cynghorydd RL Owen cafwydd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog fel y cyflwynwyd ef  i'r cyfarod a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorwyr Eurfryn Davies a Glyn Jones.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog fel y cyflwynwyd ef i'r cyfarfod a chaniatáu'r cais:  y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Denis Hadley, O Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, Arwel Roberts, John Roberts, WJ Williams MBE

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.  

 

 

 

6.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C882B  CAIS LLAWN I GODI 21 O DAI DEULAWR YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR GER LÔN CAE SERRI, LLAIN-GOCH

 

 

 

Gan JRW Owen cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefynu arno ar gais yr aelod lleol. Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 3 Hydref ac fe gafwyd hyn ar 17 Hydref, 2007.  

 

 

 

Doedd dim gwrthwynebiad i'r egwyddor o ddatblygu meddai'r Cynghorydd G Allan Roberts dim ond i'r maint; fodd bynnag rhagwelwyd problemau yn y dyfodol wrth dynnu wyneb y graig a symud llif y ffoes.  Roedd y trigolion lleol hefyd yn pryderu dros gynnydd posib yn y traffig gan ystyried y bwriad i adeiladu rhyw 100 o anheddau pellach a chanolfan hamdden leol a fyddai'n cynyddu'r traffic.  Teimlwyd y byddai rhyw 10 neu 12 o anheddau yn fwy addas i'r safle ac y byddai 21 yn orddatblygu.  Roedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gwrthwynebu cais blaenorol gan fod rhan o'r safle yn wynebu risg o lifogydd yn flaenorol, ond dim felly nawr er bod problemau yn parhau.  Hefyd roedd y Swyddog Bioamrywiaeth yn pryderu dros y bywyd gwyllt ac yn teimlo y dylai'r safle gael ei gadw fel ag y mae.  Mynegodd y Cyngor Tref wrthwynebiad cryf a daeth 107 o lythyrau o wrthwynebiad ynghyd â deiseb i law.

 

 

 

O brofiad yn y gorffennol yn ei ward ei hun ategodd y Cynghorydd RL Owen ar yr hyn a ddywedodd y Cynghorydd Allan Roberts mewn perthynas â'r posibilrwydd o lifogydd, ac mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu'r aelodau at safiad Asiantaeth yr Amgylchedd yn cadarnhau "bydd modd rheoli risg a chanlyniadau llifogydd yn foddhaol dan y meini prawf sy'n ymddangos yn TAN 15.  Nid oes gwrthwynebiad i'r cynnig ond gydag amodau ynghylch lefelau gorffenedig llawr pob plot unigol."

 

 

 

Nododd y Cynghorydd John Roberts mai cais "llawn" oedd hwn a bod yr egwyddor o ddatblygu wedi ei sefydlu ar y safle; nododd y Cynghorydd Arwel Roberts fod dwysedd y datblygiad yn ymddangos yn dderbyniol.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd WJ Williams na ddylid diystyried barn y Swyddog Bioamrywiaeth, roedd pryder ynglyn â'r ffos a'r cynnydd posib yn y traffig;  gofynnodd y Cynghorydd Williams a oedd asesiad effaith Ieithyddol wedi'i baratoi.  

 

      

 

     Datblygiad am dai fforddiadwy i bobl leol oedd y cais hwn meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu; roedd yr adroddiad yn cyfeirio at faterion o bryder gan y Swyddog Bioamrywiaeth; gan fod gwaith adeiladu yn cymryd lle draw oddi wrth y ffos nid oedd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru unrhyw wrthwynebiad.  Cadarnhaodd y swyddog fod Asesiad Effiath ar yr Iaith Gymraeg yn foddhaol.   

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas Jones dywedodd y cyfreithiwr fod unrhyw broblem llifogydd yn gyfrifoldeb i'r datblygwr o bosib.  Roedd yn ymddangos fod ganlyniad llifogydd o 1:100 mlynedd a hefyd 1:1,000 o flynyddoedd wedi ei gymryd i ystyriaeth a'r rhain yn foddhaol meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Thomas Jones.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arwel Roberts cafwyd cynnig o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Denis Hadley.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr O Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr Denis Hadley, J Arthur Jones, Arwel Roberts, WJ Williams MBE

 

      

 

     Roedd y bleidlais yn bedair yr un ac wrth i'r Cadeirydd ddefnyddio'i bleidlais fwrw PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

      

 

6.5     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     19LPA813B/CC  CAIS I NEWID AMOD (03) ER MWYN CYFLWYNO MANYLION LLIFOLEUADAU AR ÔL DECHRAU'R GWAITH YN HYTRACH NA CHYN DECHRAU'R GWAITH YNG NGHANOLFAN CHWAREUON MILLBANK, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod wedi ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth. Ar 6 Mehefin, i bwrpas asesu effaith y datblygiad ar dai cyfagos, penderfynwyd ymweld â'r safle ac fe gafwyd hyn ar 20 Mehefin 2007.  Adroddodd y swyddog y gwnaethpwyd gwaith adfer ar y colofnau; gwelai swyddogion Adran Iechyd yr Amgylched y gwaith hwn yn foddhaol a lefel gorlif golau i rifau 52, 53 a 54 Stad Garreg-lwyd wedi ei ostwng i gydymffurfio â'r canllawiau perthnasol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

      

 

6.6       CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     30C412C  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR I'R DE DDWYRAIN O YSGUBOR WEN, LLANFAIR-MATHAFARN-EITHAF

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.   Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 3 Hydref, ac fe gafwyd hyn ar 17 Hydref, 2007 ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     I bwrpas cofnod, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y dylai'r cais hwn fod wedi ymddangos ar y rhaglen fel un oedd yn tynnu'n groes i bolisïau.  Daeth naw llythyr pellach o wrthwynebiad i law, gan ddwyn sylw tuag at golli clawdd, effaith weladwy a materion priffyrdd;  roedd yma argymhelliad cryf o wrthod ar sail polisïau.  

 

      

 

     Cadarnhau'r hyn a ddywedwyd yn flaenorol a wnaeth y Cynghorydd D Lewis-Roberts, a'r ymgeiswyr y bumed genhedlaeth o'r un teulu i fyw yma, roedd y wraig yn dioddef gyda'i hiechyd ac roeddynt yn byw mewn carafan, nid pobl leol oedd y mwyafrif o'r gwrthwynebwyr.  Atgoffodd y cyfarfod o gais blaenorol a gafodd ei ganiatáu i ddechrau ond ei wrthod yn y cyfarfod dilynol.  Cynigiwyd gwelliant i'r ffordd gan yr ymgeiswyr ac roeddynt yn fodlon derbyn Amod dan Adran 106 i rwystro datblygu ymhellach. Cyfeiriodd y Cynghorydd D Lewis Roberts at y fantais i'r economi leol ac i gynaladwyaeth, teimlai fod yma angen lleol a bod y cais yn cydymffurfio a Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.

 

      

 

     Argymell gwrthod y cais hwn a oedd yn y cefn gwlad agored a wnaeth y Rheolwr Rheoli Datblygu, am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arthur Jones cafwyd cynnig i ganiatáu; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Bryan Owen cafwyd cynnig o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr Glyn Jones ag Eurfryn Davies.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd RL Owen mewn perthynas â gwelliannau i'r ffordd dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod yr ymgeiswyr yn cynnig gwella dau dro yn y lôn, gostwng uchder y clawdd a gwella gwelededd o'r fynedfa.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr J Arthur Jones, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, O Glyn Jones, Bryan Owen, RL Owen, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

      

 

6.7     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     32C109A/TR  CODI ANNEDD AMAETHYDDOL YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR YN PENCALEDOG, CAERGEILIOG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Dymuniad yr aelodau ar 3 Hydref, 2007 oedd caniatáu'r cais hwn gan ei fod yn cael ei gefnogi gan ADAS.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Nodwyd fod adroddiad ADAS dyddiedig 30 Gorffennaf, 2005 oedd ynghlwm wrth yr adroddiad wedi ei olynu gydag adroddiad dyddiedig 12 Mehefin, 2007 a rhoddwyd copi ohono gerbron y cyfarfod.

 

      

 

     Doedd r sail yr wybodaeth roddwyd yn yr adroddiad ddim yn profi'r angen am annedd amaethyddol ychwanegol meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.

 

      

 

     Atgoffodd y Cynghorydd Gwilym Jones yr aelodau fod y cwpl ymroddgar ifanc hwn yn byw i'r busnes amaethyddol, roedd yn anhwylus trafaelio yn aml o'u cartref yn Llanfair-yn-Neubwl, i'r fferm, yn ychwanegol i hyn bu lladrata yn y cyffiniau. Roedd adroddiad ADAS yn mynegi barn broffesiynol.  Roedd y Cynghorydd Jones yn llwyr gefnogol i'w cais a gofynnodd am gefnogaeth.

 

      

 

     Wrth gymryd i ystyriaeth y ffaith fod y cais yn cwrdd â'r meini prawf ariannol a gweithredol cynigiodd y Cynghorydd Arthur Jones ganiatáu'r cais; cytuno a wnaeth y Cynghorydd Thomas Jones gan ychwanegu fod budd anifeiliaid ynghyd â materion iechyd a diogelwch i'w hystyried ac eiliodd ganiatáu'r cais;  teimlai'r Cynghorydd RL Owen fod hwn yn gais derbyniol hefyd.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, O Glyn Jones, J Arthur Jones,Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen,  WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, yn groes i argymhelliad y swyddog a chydag amodau safonol yn cynnwys amod annedd amaethyddol.  

 

      

 

      

 

6.8     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     33C28E/1  CAIS LLAWN I GODI IS-ORSAF DRYDAN YN CAE WIAN, GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu oherwydd ei effaith ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.  Caniatawyd y cais hwn ar 25 Gorffennaf, 2007 gydag amodau.  Gan fod angen cwblau ymgynghori'n foddhaol ar feysydd electromagnetig ni ryddhawyd y caniatâd cynllunio.  Mynegodd Adran Iechyd yr Amgylchedd nawr nad oedd ganddynt sylwadau i'w cynnig gydag amodau perthnasol.

 

      

 

     Roedd llythyrau pellach o gonsyrn i law ar sail iechyd.  Argymhelliad o ganiatáu oedd yma, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad meddai'r Rheolwr Rheoli Cynllunio.

 

      

 

     Bwriedir gosod yr is-orsaf 65m oddi wrth Rhosydd Bach meddai'r Cynghorydd Eric Jones. Cafwyd effaith ddifrifol ar y teulu hwn trwy losgi cyrff anifeiliaid yn ystod clwy y traed a'r genau.  O ganlyniad ganwyd llawer o'u hanifeiliaid gyda nam corfforol, a chafodd gryn effaith ar iechyd Mr a Mrs Jones hefyd.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at ymchwiliad broffesiynol i effaith byw yn agos i feysydd electromagnetig, ac ni ellir ei ddiystyru.  Tra roedd y teulu'n derbyn yr angen am is-orsaf gofynnwyd i hon fod 100m oddi wrth eu cartref.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd J Arthur Jones fod is-orsaf  eisoes yn y cyffiniau a gofynnodd pam na allai hon gael ei gosod yn agosach at y lladd-dy.

 

      

 

     O'r adroddiad nododd y Cynghorydd Eurfryn Davies y "methodd Scottish Power weithredu ar y cais gan na allai'r is-orsaf gael ei daearu'n effeithiol.  Felly, ar sail diogelwch ac er mwyn darparu cyflenwad trydan cyson fe benderfynwyd ar safle newydd.  Mae Scottish Power wedi gwneud nifer o brofion cyn cyflwyno'r cais gan ddod i'r casgliad y gall y safle gael ei ddaearu'n effeithiol ac na fydd problemau fel gyda'r cais blaenorol".  

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu'r aelodau at adroddiad y swyddog: "The Government relies on the scientific advice of the NRPB (National Radiological Protection Board) for issues such as EMF levels.  Their advice states: 'while there is some controversy over the possibility of a hazard to health from electric and magnetic fields, the current scientific evidence does not support any restriction on development in the vicinity of electricity transmission lines or other power supply installations'."

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Thomas Jones cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chytunodd y Cynghorydd Jones y byddai hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth o'r sefyllfa.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle ar gais yr aelod lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

7     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau economaidd i'w hystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

   

 

 

 

8     CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i'w hystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

9     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

9.1     28C313B  CAIS AMLINELLOL I GODI 14 O ANHEDDAU YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERDDWYR A CHEIR AR DIR GER TERAS REHOBOTH, LLANFAELOG

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  I bwrpas cofnod, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y dylai'r cais hwn fod wedi ymddangos dan eitem 8 ar y rhaglen gan fod 100% o'r tai yn dai fforddiadwy.  Rhoddwyd ystyriaeth i'r cais fel un eithriedig gan y dangoswyd fod angen tai fforddiadwy yn lleol; byddai'r bwriad yn mynd beth o'r ffordd i sicrhau y byddai'r anheddau yn dai fforddiadwy am byth trwy gymdeithas dai.  Roedd y safle yn cael ei ystyried yn addas a'r argymhelliad yn un o ganiatáu.

 

      

 

     Gan fod y cais yn agored i ymgynghoriad am 21 niwrnod o'r 3 Tachwedd, gofynnodd y Cynghorydd Glyn Jones am ohiriad.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

10     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1      10LPA886CC  NEWID DEFNYDD YR HEN YSGOL I ANNEDD YNGHYD A CHREU NEWIDIADAU I'R FYNEDFA I GEIR YN HEN DY'R YSGOL SOAR, BODORGAN

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a rhoi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais ar yr amod fod y swyddog yn derbyn cynllun draenio boddhaol a chydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

10.2      19C981A  CAIS AMLINELLOL I DDATBLYGU WYTH TY AR GYFER PRYNWYR CYNTAF AR DIR GER YSGOL FARCHOGAETH, GORS WEN, FFORDD Y PLAS, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Fe adroddwyd y gallai'r safle gael ei ystyried fel safle eithriedig dan bolisïau cynllunio cyfredol a chyfarwyddyd polisi yn amodol ar fedru dangos sut y byddai'r datblygiad yn cyflenwi angen lleol am dai.  Fodd bynnag, gwelwyd fod y fynedfa arfaethedig yn anaddas i gymryd traffig ychwanegol a'r Adran Briffyrdd yn argymhell gwrthod.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rheswm a roddwyd.  

 

10.3      28C84B/DA  CAIS MANWL I GODI ANNEDD AR DIR GER TERAS GLAN Y GORS, BRYN DU

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Fe adroddwyd fod y cais hwn i ystyried materion a gadwyd yn ôl i godi un annedd deulawr, ei dyluniad a mynedfa i'r safle.  Mynegodd swyddogion eu pryderon ynglyn â maint, safle a dyluniad y bwriad a chyflwynodd yr ymgeiswyr gynlluniau diwygiedig ond nid oedd y rhain yn datrys y broblem.  Nid oedd modd cefnogi'r cais yn ei ffurf bresennol.  

 

      

 

     Roedd polyn telegraff, pedair carafan barhaol, sied cadw cychod yn agos at y safle ynghyd ag estyniad enfawr i'r felin gerllaw meddai'r Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.  Dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones fod llawer o newidiadau wedi cymryd lle ers ymweld â'r safle a buasai'n croesawu ymweliad pellach.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     I ymweld â'r safle:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Denis Hadley, O Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

10.4      28C360C  CAIS LLAWN I GODI NAW FFLAT A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR YN BRYN, FFORDD Y STESION, RHOSNEIGR

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Fe adroddwyd fod y cais gerbron yn addasiad i gynlluniau a ganiatawyd eisoes.   Roedd uchder y bwriad yn awr ychydig yn is, agoriad y ffenestri yn llai a chynnydd yn y sgrinio i ochr yr adeilad er mwyn gostwng yr effaith ar eiddo cyffiniol;  roedd dyluniad y gwydr wedi ei ddiwygio er mwyn datrys materion a godwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ac nid oedd gan y Weinyddiaeth wrthwynebiad i'r cynllun diwygiedig.   Tra bo dyluniad y cynllun cyfoes hwn yn destun dadleuol, roedd datblygiadau eraill yn Rhosneigr, dros y blynyddoedd, wedi bod yn rhai cyfoes.  Argymhelliad o ganiatáu oedd yma gydag amodau.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle ar gais yr aelod lleol.

 

 

 

 

 

10.5      34LPA610C/CC  CREU MAES PARCIO NEWYDD A MYNEDFA NEWYDD I'R BRIFFORDD YNGHYD Â GOSOD 'PORTACABIN' DROS DRO YN PARC MOWNT, FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.  Nid oedd y cyfnod ymgynghori ar y cais hwn yn dod i ben tan 20 Tachwedd meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu a gofynnodd am ddirprwyo'r hawl i swyddogion ganiatáu'r cais.   

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a rhoddi'r hawl i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatau'r cais ar yr amod fod gweddill y cyfnod ymgynghori'n foddhaol a chydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

 

 

 

 

10.6      44LPA884CC  NEWID DEFNYDD YR HEN YSGOL I FOD YN DDWY ANNEDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA I GEIR AC I GERDDWYR YN YR HEN YSGOL, LLANDYFRYDOG

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.     Adroddwyd nad oedd angen yr hen ysgol a buasai'n cyfrannu tuag at y stoc dai ar yr Ynys.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

 

 

10.7      47LPA887CC  NEWID ADEILAD ALLANOL I ANNEDD SENGL AR DIR GARREG LWYD, LLANTRISANT

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.   Adroddwyd y byddai adeiladau a manddaliadau nad oedd bellach eu hangen yn cyfrannu tuag at y stoc o dai ar yr Ynys.   

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

 

 

 

 

11     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ar faterion a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

      

 

12........APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniadau Arolygwyr Cynllunio:

 

      

 

12.1      TIR YM MHANT Y CUDYN, BENLLECH

 

      

 

     Dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i ddatblygu 31 o anheddau dan gais cynllunio 30C621 dyddiedig 18 Awst, 2006 - caniatawyd yr apel gydag amodau.

 

      

 

12.2      TIR YN ALLT CICHLE, LLANDEGFAN

 

      

 

     Dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i adeiladu un annedd ar wahân dan gais cynllunio 17C406 dyddiedig 12 Mawrth, 2007 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

12.3      MONA INN, MONA

 

      

 

12.3.1      Dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn methiant yr Awdurdod hwn i roi rhybudd, o fewn y cyfnod rhagnodedig, o benderfyniad ar gais cynllunio 36C249B/ECON dyddiedig 23 Chwefror, 2007 i adfer y defnydd gwreiddiol fel llety gydag ystafell gynadledda, ailgodi ty gwydr, man storio a mynedfeydd, hefyd cyfleusterau i'r anabl.

 

12.3.2 Dan Reol 15 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992   apêl yn

 

     erbyn methiant yr Awdurdod hwn i roi rhybudd, o fewn y cyfnod rhagnodedig, o benderfyniad ar gais cynllunio 36C249C/AD dyddiedig 23 Chwefror 2007 am ganiatâd penodol i arddangos hysbyseb -

 

      

 

     Gwrthodwyd y ddwy apêl 

 

      

 

12.4      YR HEN FAES CRICED, BAE TREARDDUR

 

      

 

     Cais am gostau yn erbyn yr Awdurdod hwn a hefyd yn erbyn Asiantaeth yr Amgylchedd mewn perthynas â chais am ddatblygiad preswyl ac a alwyd i fewn am benderfyniad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru dan Adran 77 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 - gwrthodwyd y cais ac nid oedd costau yn erbyn y naill barti na'r llall

 

      

 

      

 

      

 

      

 

13      MATERION ERAILL

 

 

 

     Nodwyd y byddai'r cais a ganlyn yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru am benderfyniad yn unol â Rheol 13 Deddf Cynllunio 1990 (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth):

 

 

 

     11LPA889/CC/LB PWLLFANOGL, LLANFAIR-PWLL

 

      

 

     Cais Adeilad Rhestredig am waith cynnal a chadw i warchod y bont gerrig.

 

 

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben 3.00 p.m.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD