Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 7 Rhagfyr 2005

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 7fed Rhagfyr, 2005

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 7 Rhagfyr 2005

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

Y Cynghorydd J Arthur Jones - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, W J Chorlton, Eurfryn Davies,

J Arwel Edwards, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, R L Owen,

D Lewis-Roberts, John Roberts, W Tecwyn Roberts.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio (JW)
Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

 

Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)
Cynorthwywr Gweinyddol  (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd P M Fowlie, Denis Hadley

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:  Y Cynghorwyr Bessie Burns (eitem 8.7), W I Hughes (eitem 5.2), H Eifion Jones (eitem 5.7), Thomas Jones (eitem 9.7), R G Parry OBE (eitemau 8.1, 8.2, 8.3), G Allan Roberts (eitem 5.3), H Noel Thomas (eitem 8.11), Hefin Thomas (eitemau 5.4, 5.5, 8.12), John Williams (eitem 8.5), W J Williams MBE (eitem 7.1, 8.6).

 

Ar ran y Cynghorydd Fowlie ac yn ei absenoldeb, roedd y Cynghorydd John Roberts yn dymuno nodi bod yr ymateb hir ddisgwyliedig i gais y Cynghorydd Fowlie wedi'i dderbyn a bod y mater bellach wedi'i ddatrys.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd, 2005 (Cyfrol y Cyngor, 15 Rhagfyr, 2005 - tudalennau 106 - 122) ond gyda'r cywiriad a ganlyn:

 

Eitem 8.1   23C235 tir yng Ngharrog, Rhos-meirch:  Roedd y Cynghorydd J Arwel Edwards yn dymuno datgan y gellid cael gwell syniad petai'r cynlluniau ynghlwm wrth adroddiad y swyddog i'r "raddfa" briodol (gweler top tudalen 11) yn hytrach nag yn ôl "llinellau grid" fel a nodwyd yn y cofnodion.

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

Nodwyd na chafwyd ymweliadau yn ystod mis Tachwedd.

 

 

 

4

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

Nodwyd na chafwyd trafodaeth ar yr eitemau a ganlyn:

 

 

 

4.1

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

12C193U/31A  CAIS AMLINELLOL I GODI 15 APARTMENT GWYLIAU A THAI TREFOL GYDA CHYFLEUSTERAU HAMDDEN AR Y SAFLE AR DIR UNION GER FFERMDY HENLLYS HALL, BIWMARES

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad ar 17 Awst, 2005.

 

 

 

4.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

24C174A  YMESTYN LIBART ABERARCH BACH, LLANEILIAN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol (eitem 9.2 ar y rhaglen).

 

 

 

4.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

29C112  CAIS AMLINELLOL I GODI CHWE ANNEDD AC ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU AR DIR UNION GER Y BRYN, LLANFAETHLU

 

 

 

I bwrpas cwblhau'r gwaith ymgynghori cafodd y cais hwn ei ohirio.  Cafwyd ymweliad ar 16 Chwefror, 2005.

 

 

 

4.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

34C303J/1   CODI UN ANNEDD UN TALCEN AR BLOT 80B BRO EDNYFED, LLANGEFNI

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb yn yr eitem hon ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na'r pleidleisio.  Hefyd cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr Rees Roberts o'r Uned Gyfieithu.  

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â'r lle ar 18 Mai, 2005 (eitem 5.6 ar y rhaglen).

 

 

 

 

 

5

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION:

 

 

 

5.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

11C467 ADDASU YSGUBOR YN ANNEDD A DYMCHWEL YR HEN DY GWAIR A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD YM MHEN-RALLT, PEN-RHYD, AMLWCH

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol, a chafwyd ymweliad â'r lle ar 19 Hydref, 2005.  Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais hwn am y rhesymau a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

bod y cais yn bodloni gofynion y Canllawiau Cynllunio Atodol ar Addasu Adeiladau Fferm Traddodiadol ac eithrio un maen prawf, hynny ydyw, y dylai unrhyw estyniad fod yn fychan ac yn ategol i faint ac i uchder yr adeilad presennol"

 

Ÿ

mantais gynllunio - gwella gwedd y lle

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn.  

 

 

 

Roedd y Cynghorydd R L Owen yn dal i fod o'r farn y buasai'r cynnig yn gwella gwedd y safle'n fawr a chynigiodd lynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid caniatáu a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, J Arthur Jones, O Glyn Jones, R L Owen, D Lewis-Roberst, Tecwyn Roberts (6).

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod:  Y Cynghorydd John Chorlton, J Arwel Edwards, John Roberts, J Arwel Roberts (4).

 

 

 

Ni phleidleisodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ar y cais am ei fod yn absennol o'r

 

trafodaethau blaenorol.

 

 

 

O 6 phleidlais i 4 roedd yr aelodau'n dymuno glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd uchod a chydag amodau safonol ond yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

 

 

 

 

 

 

5.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

14C83C  CAIS AMLINELLOL I GODI PUM BYNGALO AC ALTRO'R FYNEDFA AR DIR CAE ORDNANS 5379, TIR GADLYS, BODFFORDD

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn y cyfarfod am y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

 

 

I bwrpas cadw cofnod dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y 3ydd pwynt yn nhrydydd paragraff (hanes cynllunio perthnasol) adroddiad y swyddog yn anghywir a bod angen ei ddiystyru.  

 

 

 

Cyflwynwyd y cais yn 2002 ac ar ôl cwblhau'r gwaith ymgynghori a chan ddefnyddio pwerau dirprwyol y Cyngor, rhoddwyd caniatâd yn amodol ar wneud cytundeb cyfreithiol i sicrhau bod yr anheddau bob amser yn y dyfodol yn aros yn rhai fforddiadwy.  Nid oedd y cytundeb wedi'i lofnodi ac felly nid oedd y caniatâd wedi'i ryddhau.  Mewn llythyr oddi wrth y Cyfreithwyr yn gweithredu ar ran un o'r tirfeddianwyr a dderbyniwyd ar 4 Hydref, 2005 cafwyd neges bod y perchennog yn bwriadu cwblhau'r cytundeb cyfreithiol ac yn gofyn am symud ymlaen gyda'r mater.

 

 

 

Oherwydd yr amser a aeth heibio ers rhoddi sylw i'r mater hwn gyntaf a hefyd oherwydd y newidiadau sylweddol yn y polisi tai fforddiadwy ers yr amser hwnnw, ailgyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ei ystyried.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn cydymffurfio gyda'r cyngor diweddaraf ac yn dderbyniol gydag amodau a hefyd gyda chytundeb dan Adran 106 i sicrhau y ceid tai fforddiadwy, y câi ffyrdd eu hadeiladu a sicrhau hefyd bod y garthffos yn cyrraedd safon mabwysiadu.

 

 

 

Nid oedd y Cynghorydd W I Hughes yn anghytuno gyda'r egwyddor o ddatblygu ond mynegodd siom am na chafodd wybodaeth ymlaen llaw cyn cyhoeddi adroddiad y swyddog.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu'r cais gyda'r amodau hynny y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog a hefyd yn amodol ar wneud Cytundeb dan Adran 106 i sicrhau tai fforddiadwy ac i ddarparu ffyrdd a charthffosydd fydd yn bodloni safonau mabwysiadu.

 

   

 

 

 

 

 

 

 

5.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C608F   CAIS AMLINELLOL I GODI TAI A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDWYR AR DIR TYDDYN BACH, FFORDD YNYS LAWD, CAERGYBI

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a chafwyd ymweliad ar 21 Medi, 2005.  Yng nghyfarfod Tachwedd roedd yr aelodau'n dymuno gohirio ystyried y mater hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori ar yr asesiad ar drawiad ieithyddol.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod aelodau wedi cael copïau llawn o'r amryfal adroddiadau yn dilyn penderfyniad y cyfarfod cynt i ohirio gwneud penderfyniad ar y cais.  Hefyd cafwyd sylwadau eraill - un gan asiant yr ymgeisydd a'r llall gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac roeddent ar gael yn y cyfarfod.  

 

 

 

Wedyn dygodd y Cynghorydd G Allan Roberts sylw'r aelodau at lythyr Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn mynegi pryderon ynghylch effaith negyddol y datblygiad hwn ar ddiwylliant ieithyddol yr ardal - y Gymraeg oedd iaith gyntaf 53% o breswylwyr y Parc a'r Mynydd ac ni wyddai a oedd y cais hwn yn cydymffurfio gyda TAN 20.  O'r herwydd cafwyd argymhelliad ganddo i ohirio gwneud penderfyniad ar y cais unwaith eto hyd nes ymchwilio i'r mater.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod pob agwedd o'r cais, gan gynnwys ei effaith ar y Gymraeg a'r diwylliant, wedi'u hystyried yn llawn yn ystod y broses o ymgynghori ar yr CDU.  Petai y cais yn cael ei ohirio eto gallai hynny olygu bod yr ymgeisydd yn apelio oherwydd methu â gwneud penderfyniad.

 

 

 

Teimlai'r Cynghorydd J Arthur Jones y buasai'r aelodau mewn gwell sefyllfa i wneud penderfyniad ar ôl derbyn y dystiolaeth ychwanegol a chytunodd y Cynghorydd J Arwel Edwards.

 

 

 

Dymuniad y Cynghorydd John Chorlton oedd gostwng nifer yr anheddau o 100 i 50 oherwydd ofnau y buasai'r cynnig, fel y mae, yn newid cymeriad yr ardal yn sylweddol; ar y llaw arall câi hi'n anodd iawn cefnogi penderfyniad i ohirio y cais unwaith yn rhagor.

 

 

 

Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i ohirio ystyried y cais hyd nes derbyn adroddiad ar effaith ieithyddol y datblygiad a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arwel Edwards, ac am yr un rheswm yr oedd y Cynghorydd D Lewis-Roberts hefyd yn dymuno gohirio.

 

 

 

Wedyn holodd y Cynghorydd John Roberts am statws y tir yn yr CDU.  Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio bod y tir wedi'i neilltuo ar gyfer tai yn y fersiwn esblygol o'r CDU ac roedd yn cydymffurfio gydag adroddiad yr Arolygydd a hefyd gyda'r cynllun lleol.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Chorlton wrthod y cais fel yr oedd, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid gwrthod a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:   Y Cynghorwyr John Chorlton, John Roberts (2).

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid gohirio gwneud penderfyniad ar y cais:

 

Y Cynghorwyr John Byast, J Arwel Edwards, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, R L Owen, D Lewis Roberts, Tecwyn Roberts (8).

 

 

 

Gan fod y Cynghorydd Eurfryn Davies yn hwyr yn cyrraedd ni phleidleisiodd ar y cais hwn.

 

 

 

O 8 pleidlais i 2 PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn hyd nes derbyn adroddiad ar effaith ieithyddol y datblygiad.  Nodwyd y rhoddid sylw i'r adroddiad ar yr Effaith Ieithyddol wrth benderfynu ar y cais.

 

 

 

 

 

 

 

5.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

22C79E  AILADEILADU SYLWEDDOL AR HEN YSGUBOR I GREU UN UNED BRESWYL HUNANGYNHALIOL I DDIBENION GWYLIAU YN NHAN Y GRYDDYN, LLANDDONA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn, a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:-

 

      

 

Ÿ

roedd y cais yn cydymffurfio gyda pholisi 55

 

Ÿ

câi'r adeilad ei adfer yn y dull traddodiadol - mantais gynllunio

 

Ÿ

ni fuasai'n anghydnaws â'r cyd-destun lleol

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu.

 

 

 

Wedyn dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod rhoddi caniatâd cynllunio yn gwbl briodol a gofynnodd i'r aelodau fod yn gyson yn eu penderfyniadau trwy gefnogi'r cais hwn.

 

 

 

Gan y Cynghorydd R L Owen cafwyd cynnig i lynu wrth benderfyniad cynt y Pwyllgor a chaniatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i lynu wrth y penderfyniad cynt, i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, R L Owen, D Lewis-Roberts, John Roberts, Tecwyn Roberts (10).

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr John Chorlton, J Arwel Roberts.

 

      

 

     O 10 pleidlais PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog ac am y rhesymau a roddwyd o'r blaen a chydag amodau safonol.

 

      

 

      

 

      

 

5.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     22C92E  CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO AR DIR GER TRE GOF, LLANDDONA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog gan gredu bod y rhwydwaith ffyrdd lleol yn ddigon da.  

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas am yr un gefnogaeth â honno a roddwyd gynt i'r cais hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog ac am y rhesymau a roddwyd o'r blaen a chydag amodau safonol.

 

      

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorydd John Chorlton na J Arwel Roberts ar y cais ac ymatal hefyd a wnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones a hynny oherwydd ei absenoldeb yn y cyfarfod cynt.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

5.6

34C303J/1 - CODI UN ANNEDD UN TALCEN AR BLOT 80B BRO EDNYFED, LLANGEFNI

 

      

 

     Gohiriwyd - gweler eitem 4.4 y cofnodion hyn.

 

      

 

      

 

5.7

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     37C71A  YMESTYN LIBART BRYN Y FELLTEN, LLANEDWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais cynllunio hwn i'r Pwyllgor yn ystod Mawrth, Ebrill a Mai eleni a gohiriwyd gwneud penderfyniad hyd nes derbyn gwybodaeth ychwanegol.  Bellach roedd y swyddogion wedi derbyn cynllun lleoliad diwygiedig yn dangos tir yr ymgeisydd.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Aled Morris Jones dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cyfeiriad at 'Orchymyn Cau' yn adroddiad y swyddog yno er gwybodaeth yn unig.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd H Eifion Jones cafwyd argymhelliad i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

     Wedyn cynigiodd y Cynghorydd Aled Morris Jones dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorydd John Chorlton ar y cais hwn.

 

      

 

      

 

5.8

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     40C28E   CODI BLOC O 8 APARTMENT, ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU AC I GERDDWYR, TORRI COED A CHAEL GWARED O WRYCH AR DIR GER Y WHEEL AND ANCHOR, MOELFRE

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ymwelodd yr aelodau â'r safle ar 16 Chwefror, 2005 ac yn y cyfamser roeddid wedi gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori gyda'r ymgeiswyr.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

5.9

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     44C233A CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE ORDNANS 5173, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac ar ôl gohirio ei ystyried yn y cyfarfod cynt oherwydd absenoldeb yr aelod lleol.

 

      

 

     Roedd llythyrau o wrthwynebiad ar gael yn y cyfarfod ac ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ei fod newydd dderbyn neges e-bost oddi wrth Mr Bond a oedd yn dymuno tynnu ei wrthwynebiad yn ôl oherwydd iddo wneud camgymeriad yng nghyswllt lleoliad safle'r cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd argymhelliad bod yr aelodau yn ymweld â'r safle oedd ar gyrion Rhos-y-bol.

 

      

 

     Mewn ymateb atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau o'r protocol oedd ar gael yng nghyswllt ymweliadau a bod angen osgoi ymweld onid oedd manteision sylweddol yn dod yn sgil ymweliad.  Yn yr adroddiad nodwyd yn glir iawn bod y safle 200 - 300m y tu allan i ffiniau'r pentref ac ar ran o gae yn y cefn gwlad agored.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R L Owen cafwyd cynnig i ymweld.

 

      

 

     Wedyn cynigiodd y Cynghorydd J Arwel Edwards y dylid derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn:  Y Cynghorwyr John Chorlton, J Arwel Edwards, J Arthur Jones, J Arwel Roberts (4)

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau hyn o blaid ymweliad:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, R L Owen, D Lewis Roberts, Tecwyn Roberts (6)

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr John Byast, John Roberts.

 

      

 

     O 6 phleidlais i 4 PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

6     CEISIADAU ECONOMAIDD:

 

      

 

6.1

16C166ECON  DARPARU OFFER BIOGAS, MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GWNEUD GWAITH TIRLUNIO AR GAEAU ORDNANS 7689, 7174 A 6760 GER CAE'R GLAW, GWALCHMAI

 

      

 

     Oherwydd natur a maint y cynnig cafwyd argymhelliad gan y swyddog bod aelodau'n ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa drostynt eu hunain.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R G Parry OBE cafwyd datganiad o ddiddordeb.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

7     TAI FFORDDIADWY

 

      

 

7.1

CAIS AM DY FFORDDIADWY

 

      

 

     23C122B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR YN HEN SIOP, CAPEL COCH

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad ar 19 Hydref, 2005 ac yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog oherwydd bod yma gyfle i ddarparu ty fforddiadwy.

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Cafwyd cadarnhad y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn cydymffurfio gyda'r holl feini prawf ac eithrio un yng nghyswllt darparu ty fforddiadwy, h.y. y dylai ty fforddiadwy fod y tu mewn i ffiniau pentref neu union gerllaw; yn y cefn gwlad yr oedd y cais hwn ac oherwydd lleoliad y safle roedd yr argymhelliad yn aros fel un o wrthod.  

 

     Gynt roedd y Cynghorydd J Arwel Edwards wedi cefnogi'r cais hwn ond yn awr cafwyd cynnig ganddo i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod a hynny am y rhesymau a roddwyd gan y swyddog - eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd W J Williams oedd atgoffa'r Pwyllgor bod y safle, yn y cyfarfod cynt, wedi derbyn cefnogaeth fel un derbyniol a hefyd roedd cadarnhad wedi cyrraedd bod y datblygiad yn mynd i ddarparu ty fforddiadwy.

 

      

 

     Mewn ymateb i  gwestiwn y Cynghorydd John Chorlton, eglurodd y Cynghorydd W J Williams bod y safle y tu allan i'r ffiniau datblygu am nad oedd yno ffiniau diffiniedig - nid pentref oedd yno; fodd bynnag roedd y safle union ger dau fyngalo ac nid yn y cefn gwlad agored.

 

      

 

     Wrth ganiatáu teimlai'r Cynghorydd Glyn Jones y gellid cryfhau'r gymuned wledig ac yn debygol hefyd o gefnogi'r ysgol yn y dyfodol.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad cynt a chaniatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.  

 

      

 

     Roedd yr aelodau a ganlyn yn dymuno glynu wrth y penderfyniad cynt a chaniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, O Glyn Jones, R L Owen, D Lewis-Roberts, John Roberts, Tecwyn Roberts (7).

 

      

 

     Cynigiodd yr aelodau a ganlyn dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod:   Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, J Arwel Roberts (3)

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     O 7 bleidlais i 3 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda chytundeb dan Adran 106 (ty fforddiadwy) a hefyd gyda'r amodau safonol a hyn oll yn groes i argymhelliad y swyddog.  

 

      

 

      

 

      

 

8     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

8.1

16C27D  CYNLLUNIAU LLAWN I DDARPARU CARAFAN BRESWYL A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN HEN DAFARN, ENGEDI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Eglurodd y Cynghorydd Bob Parry bod y teulu hwn yn dymuno dychwelyd i'r ardal i fyw a'u bod wedi cadw cae yn y lle ac yn dymuno codi cartref arno.  Er bod y cyngor cymuned lleol yn gwrthwynebu oherwydd y ffordd gul dygodd y Cynghorydd Parry sylw'r aelodau at y fferm gywion ieir gerllaw.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod y cais hwn oedd yn gwyro a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R L Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts ar y cais.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

8.2

16C48D  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD NEWYDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A THANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER - GER Y BRYN, BRYNGWRAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Wedyn cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at bwynt rhif 7 yn adroddiad y swyddog ac yn benodol at yr ail frawddeg yn yr ail baragraff ar Safleoedd Eithriad i Dai Fforddiadwy (lle dywedir bod yr ymgeisydd yn berchennog eiddo ym Mhont Rhyd y Bont) - roedd angen diystyru'r geiriau oherwydd bod yma gamgymeriad gweinyddol.   Wedyn cafwyd argymhelliad cryf o wrthod gan y swyddog.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts dywedodd y Cynghorydd Bob Parry bod y cais blaenorol yn gais i godi stablau yn Ger y Bryn ei hun.

 

      

 

     Aeth y Cynghorydd Bob Parry ymlaen i egluro bod yr ymgeisydd yn ferch i deulu Ger y Bryn ac yn dymuno codi ty ar y tir.  I ryw raddau roedd modd edrych ar y cais fel un am dy fforddiadwy oherwydd iddi gael y tir hwn i godi cartref arno.  Buasai rhoddi caniatâd yn cryfhau'r gymuned wledig yma ac ym mhen amser yn gefnogaeth i'r ysgol leol.

 

      

 

     Awgrymodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y dylid dychwelyd y cais i'r ymgeisydd a gofyn am ragor o wybodaeth yng nghyswllt ty fforddiadwy.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cais yn cydymffurfio gyda'r meini prawf yng nghyswllt tai fforddiadwy gan fod y safle heb fod ar gyrion y pentref nac ynddo.  Yn ychwanegol at sylwadau'r swyddog nododd y Cynghorydd J Arthur Jones na châi annedd amaethyddol ei chodi a chynigiodd dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod am y rhesymau a roddwyd; hefyd cynigiodd y Cynghorydd R L Owen bod y cais yn cael ei wrthod.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ar y cais.

 

      

 

      

 

      

 

8.3

16C161A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU OFFER PREIFAT I DRIN CARTHION AR DIR GER FELIN TREBAN, BRYNGWRAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr Adran Briffyrdd yn argymell gwrthod, a'r Cyngor Cymuned yn ei erbyn ond nid oedd Dwr Cymru'n gwrthwynebu.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Bob Parry bod modd datrys a mynd heibio'r gwrthwynebiad priffyrdd - roedd yma hen wraig yn gofyn am ganiatâd oherwydd ei dymuniad i fyw'n agos i'w mab.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod y cais hwn oedd yn gwyro a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts ar y cais.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

8.4

19C452B   CAIS AMLINELLOL I GODI TAI AR DIR CANADA GARDENS, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Nodwyd bod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl.

 

      

 

      

 

8.5

20C223B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER PEN Y BRYN, CEMAES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     I atgoffa'r aelodau dywedodd y Cynghorydd John Williams bod y cais cynt wedi'i wrthod yn ystod mis Hydref gan fod y safle y tu allan i'r ffiniau datblygu; bellach roedd yr ymgeisydd wedi symud y safle (testun y cais hwn) at ffiniau rhifau 17 ac 18 Y Fron - a'r safle yn awr yn cynnwys rhan o ardd rhif 18 a oedd y tu mewn i'r ffiniau datblygu - a rhannodd y Cynghorydd Williams ffotograff o'r awyr i'r aelodau.

 

      

 

     Yma roedd cwpl ifanc lleol newydd gwblhau cyrsiau Prifysgol ac yn dymuno dychwelyd i fyw i'r pentref gyda'u plentyn.  Y nhw oedd perchenogion y tir ac roedd yma gyfle iddynt godi ty am bris rhesymol.  Roedd cefnogaeth ymhlith cymdogion a hefyd o gyfeiriad y cyngor cymuned ac roedd y fynedfa i Lôn Pen-y-Bryn yn dderbyniol.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Eurfryn Davies ynghylch y posibilrwydd o osod amod ynghlwm i sicrhau y bydd yr annedd yn agos i Stad y Fron a gofynnodd y Cynghorydd Arwel Edwards a fuasai'r datblygiad yn darparu ty fforddiadwy.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cais wedi'i gyflwyno i ddarparu ty fforddiadwy ac yn ôl ei amcangyfrif ef roedd tua 75% o'r plot y tu allan i'r ffiniau datblygu.  Mewn unrhyw ganiatâd cynllunio buasai'n rhaid penderfynu ar leoliad yr annedd ond teimlai'r swyddog y buasai'n anymunol gosod yr annedd yn llecyn penodol hwn.  Petai'r cais yn cael ei ganiatáu buasai modd gwerthu'r annedd ar y farchnad agored.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais hwn oedd yn gwyro oherwydd bod y safle union ger y ffiniau datblygu a sylwodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod rhan o'r safle y tu mewn i'r ffiniau hynny.  Gofyn a wnaeth y Cynghorydd R L Owen ynghylch y posibilrwydd o roddi amod ynghlwm i rwystro rhagor o ddatblygiadau ar y tir.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid caniatáu a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:

 

     Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, D Lewis-Roberts, Tecwyn Roberts (6).

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod:

 

     Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J Arwel Edwards, R L Owen, John Roberts, J Arwel Roberts (6)

 

      

 

     Roedd y bleidlais yn gyfartal ar 6 bob ochr a chyda phleidlais fwrw'r Cadeirydd PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn ei adroddiad.

 

      

 

      

 

8.6

23C238  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GWNEUD GWAITH ALTRO AR Y FYNEDFA YM MRYN CHWILOG, TALWRN 

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

      

 

     Eglurodd y Cynghorydd W J Williams bod y Talwrn yn bentref o dri chlwstwr a phum annedd ychwanegol wedi'u clustnodi i'r lle dros y pymtheng mlynedd nesaf yn yr CDU.  Roedd safle'r cais ar ffiniau'r pentref - taid yr ymgeisydd yn bensaer, a'r ymgeisydd yn gweithio mewn ysgol arbennig yn ardal Bangor.  Rhoes y Cynghorydd Williams wahoddiad i'r aelodau ymweld â'r safle.  Un llythyr o wrthwynebiad yn unig a gafwyd ac roedd modd gwella'r fynedfa amaethyddol yn y lle i greu mynedfa.  Cafwyd argymhelliad wedyn gan y Cynghorydd Williams i drefnu cytundeb Adran 106 a rhwystro unrhyw ddatblygiadau pellach ar y safle.

 

      

 

     Dygodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw'r aelodau at adroddiad y swyddog, ac yn arbennig y 7fed pwynt - sef bod y safle yn amlwg iawn y tu allan i ffiniau'r pentref a bod angen gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar egwyddorion defnydd tir.  Petai'r cais hwn yn cael ei ganiatáu ni ellid cyfyngu ar bwy bynnag fydd yn byw ynddo yn y dyfodol ac roedd modd ei werthu ar y farchnad agored.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd J Arthur Jones roedd Polisi 50 yn berthnasol gan fod y safle y tu mewn i glwstwr o dai a chafwyd cynnig ganddo i ganiatáu.  Yn yr un modd cafwyd cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D Lewis Roberts.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod y cais hwn oedd yn gwyro a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, J Arwel Roberts, John Roberts (5).

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid caniatáu'r cais hwn oedd yn gwyro a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, R L Owen, D Lewis-Roberts, Tecwyn Roberts (6)

 

      

 

     Cyflwynwyd y rheswm a ganlyn o blaid caniatáu'r cais:

 

      

 

Ÿ

yn cydymffurfio gyda Pholisi 50

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn a oedd yn tynnu'n groes.

 

      

 

8.7

29C113  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GWNEUD GWAITH ALTRO AR Y FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR GAE ORDNANS 1731, REFAIL, LLANFWROG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Bessie Burns bod yr ymgeisydd oedrannus hwn wedi bod yn ffarmwr gydol ei oes ac nad oedd tai ar werth yn lleol a bod yma glwstwr o dai yma ac acw a dim gwrthwynebiad yn lleol i'r cais.  

 

      

 

     Nodwyd bod y cais blaenorol wedi'i wrthod yn 1990 ac wedyn wedi derbyn caniatâd yn 1991, ond gyda Chytundeb dan Adran 106.

 

      

 

     Sylwodd y Cynghorydd John Roberts bod y safle yng nghongl bellaf y cae draw oddi wrth y Refail.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y safle wedi'i glustnodi i bwrpas datblygu yn yr un cynllun datblygu.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y ceisiadau blaenorol, mae'n debyg, yn ymwneud â'r un darn o dir.

 

      

 

     Câi y Cynghorydd Eurfryn Davies hi'n anodd gwrthod y cais oherwydd y caniatâd a roddwyd yn 1991 a chynigiodd ganiatáu hwn, a'r Cynghorydd R L Owen hefyd yn teimlo bod y safle wedi bod â chaniatâd ac eiliodd y cynnig.

 

      

 

     Ond atgoffwyd yr aelodau gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod newidiadau sylweddol yn y polisiau ers 1991.  Hefyd roedd y Cynghorydd John Roberts yn cofio'r cyfnod hwnnw pan feirniadwyd y Cyngor yn hallt am ganiatáu ceisiadau'n gwyro.

 

      

 

Roedd yr aelodau a ganlyn yn dymuno caniatáu'r cais hwn oedd yn gwyro a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, R L Owen, Tecwyn Roberts (5).

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J Arwel Edwards, J Arthur Jones, D Lewis Roberts, J Arwel Roberts, John Roberts (7).

 

 

 

O 7 bleidlais i 5 PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn am y rhesymau a roddwyd yn ei adroddiad.

 

 

 

8.8

30C540B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD A THANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE ORDNANS 4156, BRYN-TEG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gwnaeth Mr Gethin Jones o Adran y Rheolwr-gyfarwyddwr ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

     Dywedodd y Cynghorydd D Lewis Roberts bod 20 o dai wedi'u codi ar dir cyffiniol Ty Coch, a hoffai ef gael ymweliad â'r safle fel bod aelodau'n cael cyfle i asesu'r sefyllfa drostynt eu hunain.  Ni fedrai'r Cynghorydd Roberts weld bod yna unrhyw reswm dros wrthod a chynigiodd roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     Roedd yr aelodau a ganlyn yn dymuno caniatáu'r cais hwn oedd yn gwyro a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, R L Owen, D Lewis-Roberts, John Roberts, Tecwyn Roberts (10)

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr J Arwel Edwards, J Arwel Roberts, John Roberts.

 

      

 

     Cyflwynwyd y rheswm a ganlyn o blaid caniatáu'r cais:

 

      

 

Ÿ

yn cydymffurfio gyda Pholisi 50

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn a oedd yn tynnu'n groes.

 

      

 

8.9

30C577A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR GAE ORDNANS 5193, TYN-Y-GONGL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Tecwyn Roberts ddatganiad o ddiddordeb yn yr eitem ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod am y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cae y cyflwynwyd cais i godi ty arno yn rhan o'r ffiniau naturiol rhwng Tyn-y-gongl a Benllech - roedd ffin gorllewinol y cae union ger Tyn-y-gongl a'r ffin dwyreiniol union ger y Benllech.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts roddi caniatâd dan Bolisi 50 oherwydd yr egwyddor o lenwi bwlch. Eiliodd y Cynghorydd J Arthur Jones y cynnig i ganiatáu.

 

      

 

     Roedd yr aelodau a ganlyn yn dymuno caniatáu'r cais hwn oedd yn gwyro a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, R L Owen, D Lewis-Roberts.  

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr J Arwel Edwards, J Arwel Roberts, John Roberts.

 

      

 

     Cyflwynwyd y rheswm a ganlyn o blaid caniatáu'r cais:

 

      

 

Ÿ

yn cydymffurfio gyda Pholisi 50

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn a oedd yn tynnu'n groes.

 

      

 

      

 

      

 

8.10

33C145C  CAIS AMLINELLOL I GODI TAI A CHANOLFAN IECHYD NEWYDD AR DIR YNG NGHOED BRYN DISGWYL, Y GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Nodwyd bod y cais wedi'i dynnu'n ôl.

 

      

 

      

 

      

 

8.11

41C113  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GYFERBYN Â BWTHYN GWYN, STAR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a gwnaeth y Cynghorydd John Roberts ddatganiad o ddiddordeb yn yr eitem ac nid oedd yn y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Noel Thomas cafwyd cefnogaeth i'r dyn ifanc lleol hwn oedd yn byw gyda'i rieni ac ar fin priodi athrawes leol.  Siom iddo ef oedd sylwi bod pedwar o'r gwrthwynebwyr wedi derbyn caniatâd eu hunain a hynny'n groes i bolisiau.  Teimlai'r Cynghorydd Thomas bod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arwel Edwards dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cais hwn yn un am annedd amaethyddol.

 

      

 

     Ni chredai'r Cynghorydd R L Owen y buasai codi annedd ychwanegol yn y lle hwn yn cael effaith ddrwg ymhlith clwstwr o dai eraill a chynigiodd roddi caniatâd a theimlai'r Cynghorydd J Arthur Jones bod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 ac eiliodd y cynnig i ganiatáu.

 

      

 

     Roedd yr aelodau a ganlyn yn dymuno caniatáu'r cais hwn oedd yn gwyro a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, R L Owen, D Lewis Roberts, Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr John Chorlton, J Arwel Edwards, J Arwel Roberts.

 

      

 

     Cyflwynwyd y rheswm a ganlyn o blaid caniatáu'r cais:

 

      

 

Ÿ

yn cydymffurfio gyda Pholisi 50

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn a oedd yn tynnu'n groes.

 

 

 

 

 

      

 

8.12

42C110B   CODI ANNEDD GYDAG ANECS YNGHLWM YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL AR DIR GER PEN-RALLT, PENTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod yr ymgeisydd yn perthyn i deulu lleol a'r rheini mewn iechyd gwael ac angen cefnogaeth.  Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn 1992 a 1993 i godi annedd a'r safle wedi'i gysylltu gyda'r prif wasanaethau a sylfeini yn eu lle.  Cafwyd cadarnhad bod y Meddyg Lleol yn dweud bod y rhieni angen cefnogaeth.  Nid oedd y safle yn y cefn gwlad - roedd union ger y ffiniau - ac roedd yma anghenion meddygol eithriadol o blaid y cais.

 

      

 

     Yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio nid oedd y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 - yn bendant roedd y tu allan i'r ffiniau datblygu a chafwyd argymhelliad cryf o wrthod.

 

      

 

     Ychwanegodd y Cynghorydd R L Owen bod gwaith wedi dechrau ar y safle a chafwyd cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd D Lewis Roberts a'r Cynghorydd John Chorlton hefyd yn ei gefnogi.

 

      

 

     Yma dygodd y cyfreithiwr sylw'r aelodau at bwynt 7 yn adroddiad y swyddog - sef nad oedd y gwaith a wnaed hyd yma yn cydymffurfio gyda'r amodau ynghlwm wrth y caniatâd a roddwyd ac o'r herwydd nid oedd caniatâd cynllunio i'r gwaith.  

 

      

 

     Roedd yr aelodau a ganlyn yn dymuno caniatáu'r cais hwn oedd yn gwyro a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, R L Owen, D Lewis Roberts, Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr J Arwel Edwards, J Arwel Roberts, John Roberts.

 

      

 

     Cyflwynwyd y rhesymau a ganlyn o blaid caniatáu'r cais:

 

      

 

Ÿ

roedd caniatâd cynllunio ar y safle a rhywfaint o waith eisoes wedi'i wneud

 

Ÿ

anghenion eithriadol

 

Ÿ

llenwi bwlch mewn modd sensitif

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn a oedd yn tynnu'n groes.

 

      

 

      

 

9     GWEDDILL Y CEISIADAU:

 

      

 

9.1

11C390A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER BRYN MÔR, 4 BRYN EDNYFED, PORTH AMLWCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o'r safle yn eiddo i'r Cyngor. Gwnaeth y Cynghorydd O Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb yn yr eitem ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod am y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

     Ni chytunai'r Cynghorydd John Byast gyda rhesymau'r swyddogion dros wrthod y cais a chafwyd cynnig ganddo i ganiatáu.  

 

      

 

     Cafwyd cadarnhad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod llythyr o wrthwynebiad wedi'i dderbyn oddi wrth Mrs Elizabeth Jones o Ednyfed Hill a'i fod ar y ffeil ond nid ar gael yn y cyfarfod.

 

      

 

     Roedd pawb, ac eithrio'r Cadeirydd, o blaid caniatáu'r cais am y rheswm a ganlyn ac yn groes i argymhelliad y swyddog:

 

      

 

      

 

Ÿ

  nid oedd y cais yn groes i bolisi 48

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn a oedd yn tynnu'n groes.

 

      

 

9.2

24C174A  YMESTYN LIBART ABERARCH BACH, LLANEILIAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol 

 

      

 

     Nodwyd y gohiriwyd ysytyried y cais hwn (gweler eitem 4.2 o’r cofnodion yma).

 

      

 

9.3      33C245/TR  CREU MYNEDFA NEWYDD I GAE RHIF 0005, GER RHOSHELYG,     TROGYLCH CEFN DU, GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn gais gan y Cyngor ar dir sy'n eiddo iddo.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9.4

33LPA861CC  CAIS I GODI STORFA YN NEPO GAERWEN, STAD DDIWYDIANNOL GAERWEN, GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn gais gan y Cyngor ar dir sy'n eiddo iddo.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9.5

35C91A  CAIS AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR GER PEN BONC, LLANGOED

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9.6

36C242B  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI UN ANNEDD YNGHYD Â GOSOD GORSAF BREIFAT I DRIN CARTHION AR DIR GER REFAIL HENBLAS, BODORGAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn ferch i aelod etholedig.  Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Owen ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

       9.7   38C218A  NEWID DEFNYDD TIR O'R 12 CARFAN WYLIAU I 12 CARAFAN BRESWYL

 

               YN BRYNMECHELL CARAVAN SITE, LLANFECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a oedd yn cefnogi argymhelliad y swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

9.8

38LPA856CC  CODI SIED AMAETHYDDOL YN CROMLECH, TREGELE

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor oedd yr ymgeisydd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

9.9

39LPA860CC  CAIS I DORRI COED MEWN ARDAL GADWRAETH AR DIR Y TU CEFN I MENAI-FRON, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor oedd yr ymgeisydd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

9.10

42C38C  DYMCHWEL Y GWEITHDY PRESENNOL YNGHYD Â CHODI 2 FFLAT AR DIR YN BANGOR HOUSE, PENTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a chafwyd datganiad o ddiddordeb ynddo gan y Cynghorydd Hefin Thomas ac nid oedd yn bresennol am y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

     Darllenodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio neges e-bost gan Mr Bates yng nghyswllt tir cysegredig gerllaw.   Roedd y swyddogion yn ailymgynghori ar gynlluniau diwygiedig a dderbyniwyd ac yn gwneud hynny tan 22 Rhagfyr, 2005 ac yn argymell rhoi awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais oni ddeuai sylwadau o bwys i mewn yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol roi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais oni ddeuai sylwadau o bwys i mewn yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori ond gyda'r amodau hynny y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

9.11

45C347  CAIS I GODI YSTAFELL HAUL YN GLAN MENAI, PEN-LÔN, NIWBWRCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn gweithio i'r Cyngor.  Gwnaeth Miss Gwen Owen o'r Adran Gynllunio ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

9.12

47C110  CODI DAU DY CRWN, YSGUBOR, CYSGODFA, IARD GAEEDIG A LLWYBRAU YNGHYD AG EHANGU'R MAES PARCIO A PHLANNU COED AR DIR YN MELIN LLYNNON, LLANDDEUSANT

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn gais gan y Cyngor ar dir sy'n eiddo iddo.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

 

 

 

 

10

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Thechnegol) ar faterion a ddirprwywyd ac y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

11     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniadau yr Arolygwyr a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch yr eitemau a ganlyn:

 

      

 

11.1

YSTAD FASNACHU STAR, GAERWEN

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i ddefnyddio rhan o dir i osod unedau storio arni.  Gwrthodwyd cais 41C9T trwy rybudd dyddiedig 20 Rhagfyr, 2004 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

11.2

PARK LODGE, MAES CARAFANNAU CLAI MAWR, PENTRAETH

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd i droi ystafell haul yn far trwyddedig ar gyfer preswylwyr yr eiddo dywededig.  Gwrthodwyd cais 30227D trwy rybudd dyddiedig 26 Ionawr, 2005 - gwrthodwyd yr apêl.  

 

      

 

11.3

 

11.3

1 STANELY AVENUE, Y FALI

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio amlinellol i godi annedd unllawr.  Gwrthodwyd cais cynllunio 49C258 trwy rybudd dyddiedig 22 Chwefror, 2005 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

11.3

 

11.3

 

11.4

 

11.4

PARC CARAFANNAU PEN PARC, LÔN LAS, BRYNTEG

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i addasu y defnydd cyfreithlon presennol o'r tir sef lleoli carafannau teithiol, cartrefi symudol a phebyll a storio carafannau teithiol, er mwyn lleoli a storio 11 carafan deithiol at ddibenion gwyliau gydol y flwyddyn a lleoli 15 carafan deithiol/cartref symudol am gyfnod tymhorol rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref bob blwyddyn ynghyd â lleoli pebyll a gwneud gwelliannau tirluniol/amgylcheddol i'r safle.  Gwrthodwyd cais cynllunio 30C470C trwy rybudd dyddiedig 18 Gorffennaf, 2005 - gwrthodwyd yr apêl ond gyda'r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad yr Arolygydd.

 

      

 

12     DYDDIADAU CYFARFODYDD 2006

 

      

 

     Rhannwyd manylion ynghylch dyddiadau cyfarfodydd y flwyddyn nesaf gyda'r agenda a nodwyd hefyd y buasai'r cyfarfodydd yn cychwyn am 1:00 p.m. o fis Ionawr, 2006 ymlaen.

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 4.25 p.m.

 

      

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD