Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 8 Ionawr 2003

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 8fed Ionawr, 2003

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 8 IONAWR 2003

 

yn breSENNOL:

Y Cynghorydd W. Emyr Jones, Cadeirydd.

Y Cynghorydd W.J. Chorlton, Is-Gadeirydd.

 

Y Cynghorwyr J. Arwel Edwards, P.M. Fowlie, Fflur M. Hughes,

R.Ll. Hughes, T.Ll. Hughes, W.I. Hughes, R.J. Jones, R.L. Owen,

Gwyn Roberts, John Roberts, J. Arwel Roberts, W.T. Roberts,

John Rowlands, Hefin Thomas.

 

HEFYD YN BRESENNOL:

Y Cynghorydd Keith Thomas (ar gyfer cais 46C361EIA - Eitem 4.1)

Y Cynghorydd Eurfryn Davies (aelod lleol ar gyfer 17C20A/1, 17C20B/1 ac 17C20Z - eitemau 4.3, 4.4 a 4.5).

 

WRTH LAW:

Cynllunio:

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol)

Uwch Swyddog Cynllunio (ME)

Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio (DFJ)
Uchel Swyddog Cynllunio (GMD)

Cynorthwy-ydd Cynllunio (CR)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)(JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

YMDDIHEURIADAU:

Y Cynghorydd D.D. Evans.

 

 

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod trwy groesawu pawb i gyfarfod cyntaf eleni.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd) bod y Rheolwr-gyfarwyddwr a'r Swyddog Monitro wrthi'n paratoi adroddiad i'w gyflwyno i gyfarfod nesaf y Cyngor Sir mewn ymateb i ymholiad y Cynghorydd John Roberts ynghylch y sedd wag ar y Pwyllgor hwn.

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau hynny.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2002. (Tud 40 - 55 o'r Gyfrol hon)

 

RHAN 1 - MATERION CYNLLUNIO

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd - yr adroddiad ar yr Ymweliad â Safleoedd Cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2002. (Tudalennau 73 - 75 o'r Gyfrol hon)

 

4

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

4.1

46C361/EIA - CREU GWAITH TRIN GWASTRAFF YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD AR DIR RHWNG SAFLE ALIWMINIWM MÔN A STAD DDIWYDIANNOL PENRHOS, CAERGYBI 

 

 

 

Yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd roedd y Pwyllgor o blaid gwrthod caniatâd cynllunio am yr uchod (yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol,sef caniatáu)), am y rhesymau a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

yr effaith economaidd ar safleoedd siopio/diwydiannol gerllaw

 

Ÿ

pryder y cyhoedd fel ystyriaeth gynllunio o bwys - ymwybyddiaeth y cyhoedd bod 1,100 o wrthwynebiadau i'r safle

 

Ÿ

Cynllun Fframwaith Gwynedd (1993) Polisi D20 (ii) - cynnydd yn lefelau llygredd aer ac arogleuon

 

Ÿ

Oherwydd ei leoliad roedd y bwriad yn groes i'r cyngor ym Mhennod 12, paragraff 12.1.1 Polisi Cynllunio Cymru.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais a chyflwynwyd adroddiad i gyfarfod mis Rhagfyr ar oblygiadau'r bwriad i wrthod.  Penderfynodd Aelodau'r Pwyllgor ymweld â safle tebyg oedd gan Dwr Cymru yn Llanasa.  Ymwelwyd â'r safle ar 18 Rhagfyr i asesu'r arogl a ryddheir i'r aer a chyflwynwyd cofnodion yr ymweliad hwnnw i'r cyfarfod hwn (gweler eitem 3 y cofnodion hyn).

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Fflur Hughes am oblygiadau'r Cadeirydd yn cymryd rhan mewn cyfweliad radio a gafodd ei ddarlledu y bore hwnnw.  Dywedodd y Cyfreithiwr bod hyn yn iawn oherwydd bod y cais eisoes wedi bod dan ystyriaeth ac y pleidleisiwyd arno mewn cyfarfod blaenorol.

 

 

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol sylw aelodau at dri llythyr a ddaeth i law yn sgil cyhoeddi adroddiad y swyddog a dosbarthu llythyrau i aelodau - un gan Bradgate Securities yn gwrthwynebu lleoliad y cynllun ac yn ceisio amod i symud y gwaith trin ymhellach i ffwrdd o'r parc mân-werthu.   Cadarnhaodd nad oedd modd gwneud hyn gydag amod.  At hyn, cyflwynwyd dau lythyr yn cefnogi gan Gadeirydd Partneriaeth Adfywio Economaidd Môn a Mr. Huw Griffiths, Pennaeth Adfywio Economaidd.

 

 

 

Ategodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei ddatganiad blaenorol bod ei gais yn cydymffurfio â pholisi a chyda'r asesiad arogleuon, ac yn cadarnhau na fyddai'r Gwaith Trin Carthion yn cael effaith ar eiddo cyfagos y tu allan i derfyn y safle.  Roedd yn argymell yn gryf bod aelodau'n caniatáu'r cais hwn a chadarnhaodd nad oedd rhesymau cynllunio dros wrthod.  At hyn, cyfeiriodd at oblygiadau mynd i apêl - apêl y bydd yn ei cholli.

 

 

 

Dywedodd bod y Cynllun Datblygu Unedol yn dangos na ddylid datblygu yn yr ardal hon heb gynllun gwaith trin carthffosiaeth.  Byddai Asiantaeth yr Amgylchedd a Dwr Cymru yn gwrthwynebu'n gryf i ddatblygu rhagor yn yr ardal hon hyd oni fyddai'r mater wedi'i ddatrys.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn Roberts nad oedd wedi clywed arogl o gwbl yn Llanasa ac roedd yn fodlon gyda'r bwriad.  Cynigiodd argymhelliad y swyddog a chael pleidlais wedi'i chofnodi.  

 

 

 

Cytunodd y Cynghorydd Fflur Hughes nad oedd arogl pan ymwelwyd â'r safle yn Llanasa, ond ei bod wedi ymweld eilwaith ac roedd arogl y tro hwnnw.  Anodd oedd cymharu safle Llanasa gyda safle Caergybi.  

 

 

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Keith Thomas ei wrthwynebiad cryf gan ddweud bod raid credu'r holl resymau dros wrthod.  Cyfeiriodd at astudiaeth ar fwriadau a gynhaliwyd ar ran Dwr Cymru gan ymgynghorwyr annibynnol, y Montgomery Watson Group yn 1998 oedd yn nodi mai yng ngorllewin Caergybi y byddai'r lleoliad delfrydol ar gyfer gwaith trin carthion.  Roedd hwn y lle anghywir ar gyfer y bwriad.  Roedd safle Llanasa yn lleoliad gwahanol ac roedd wedi ymweld â'r safle hwn pan oedd arogl i'w glywed.   Efallai y byddai'r penderfyniad hwn yn cael effaith fawr a phe byddid yn gwneud y dewis anghywir ni cheid ail gyfle.  Gwahoddodd y Pwyllgor i amddiffyn y penderfyniad a wnaeth ym mis Tachwedd.

 

 

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol sylw at farn swyddogion Datblygu Economaidd y Cyngor a barn Partneriaeth Adfywio Môn, dwy farn oedd o blaid y cais.  Roedd Bradgate Securities yn bwriadu agor eu parc mân-werthu ym mis Medi, roedd yn ymddangos bod hwnnw'n bwrw yn ei flaen.  Cadarnhaodd nad oedd rhesymau dros wrthod y cais hwn, byddai unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad i wrthod yn llwyddo a byddai costau'n cael eu dyfarnu yn erbyn y Cyngor gan nad oedd rhesymau synhwyrol dros wrthod.   Nid oedd tystiolaeth i gefnogi pryderon rhai aelodau o'r cyhoedd, nid oedd modd gwrthod y cais.   

 

 

 

Fel Arweinydd Grwp Plaid Cymru, roedd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes yn dymuno rhoi gwybod mai mater i unigolion fyddai sut yr oeddynt yn pleidleisio gan  nad mater gwleidyddol oedd hwn.  Roedd yn anghytuno gyda swyddogion, roedd Dwr Cymru i'w beio am y mater hwn.  Er nad oedd yn gwrthwynebu'r datblygiad yng Nghaergybi roedd eisiau gwybod pam mai dim ond yn y chwe mis diwethaf, y dywedwyd y byddai gwrthod y cais hwn yn golygu atal rhagor o ddatblygu yng Nghaergybi?

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai'r 'gwaharddiad' ar ddatblygu yng Nghaergybi yn y dyfodol yn codi unwaith eto pe câi'r cais hwn ei wrthod.  Mater hanesyddol oedd y gwaharddiad hwn oherwydd nad oedd y system i gael gwared â charthion yn ardal Caergybi yn ddigonol, system y byddai'r cais hwn yn ei hunioni.  Roedd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dweud ei bod yn bwriadu gwrthwynebu'i gynigion yn y dyfodol i ddatblygu yng Nghaergybi pe câi'r cais ei wrthod.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd R.Ll. Hughes bod y cais hwn wedi bod yn sefyll ers chwe mis a bod yr oedi yn bwyta i mewn i'r amser oedd ar gael ar gyfer arian Amcan 1.  Mae'r tystiolaeth a gyflwynir yn y cais yn broffesiynol ac wedi'i phrofi ac nid yw'r pedwar rheswm arfaethedig dros wrthod yn ddigon i wrthod.  Nid oedd gohebiaeth i ddangos y bydd cleientau Bradgate yn tynnu'n ôl o gymryd unedau.  Mae'n bosib y byddai oedi gyda buddsoddiad sylweddol a swyddi pe byddai'r cais yn cael ei wrthod. Roedd yn debygol y byddai Dwr Cymru yn apelio'n gryf.  Eiliodd y cynnig i roi caniatâd.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton na fyddai Bradgate yn tynnu allan o'r safle hwn ar chwarae bach, roedd wedi buddsoddi yn y safle hwn.  A oedd y Pwyllgor yn medru fforddio bod yn anghywir yn yr achos hwn?  Roedd unrhyw waharddiad wedi'i godi pan gytunodd y Pwyllgor ganiatáu i Tesco ddatblygu.  Byddai lle dympio yr Hen Bont Wen yng Nghaergybi yn lleoliad llawer mwy priodol ar gyfer y gwaith.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd J. Arwel Edwards mai ef oedd wedi cynnig ymweld â Llanasa.  Ar ôl yr ymweliad roedd yn parhau i fod yn anniddig ynghylch y safle hwn.  NId oedd yn siwr iawn o'r hyn yr oedd Dwr Cymru yn ei ddweud.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts ei fod yn cytuno gyda'r hyn yr oedd y Cynghorydd Chorlton, Keith Thomas a T.Ll. Hughes wedi'i ddweud.  Nid oedd yna arogl i'w glywed yn ystod yr ymweliad â Llanasa ond dim ond 2 fetr uwchlaw lefel y tir yr oedd y tanciau; yng Nghaergybi byddant 7 metr uwchlaw y tir.  Ni fyddai gwaith trin uv yn cael ei roi yng ngwaith Caergybi.  Nid oedd yn gweld unrhyw newid ers Pwyllgor mis Tachwedd, er gwaethaf y pwysau a sôn am gosb ariannol

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Roberts ei fod yn yr un sefyllfa â'r Cynghorydd J. Arwel Edwards.  Roedd yn bryderus ynghylch gwneud y penderfyniad anghywir.  Nid oedd yna arogl o gwbl yn ystod yr ymweliad â Llanasa.  Roedd barn y Swyddogion yn bwysig ond nid oedd o'r farn bod fawr ddim wedi newid.  Er hynny, roedd yn bryderus ynghylch canlyniadau penderfyniad o wrthod.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas mai'r cwestiwn oedd a ddylai'r gwaith hwn fod yn y lleoliad hwn?  Roeddynt yn dymuno gweld datblygiad yng Nghaergybi ond nid hwn oedd y safle iawn.  Roedd yn anniddig o weld yr hyn yr oedd Dwr Cymru eisoes wedi'i ddweud.  Byddai'n pleidleisio yn erbyn.

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd R.L. Owen ei bryder ynghylch costau pe byddai'r cais yn cael ei wrthod.  

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Chortlon pam y dylai costau fod yn fater yn yr achos hwn ?

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd T.Ll. Hughes.

 

 

 

Yn unol â pharagraff 18.5 Rheolau Gweithdrefn y Cyngor PENDERFYNWYD cymryd pleidlais wedi'i chofnodi yng nghyswllt y cais hwn a dyma oedd y canlyniad:

 

 

 

O BLAID Y CYNNIG:

 

Y Cynghorwyr P.M. Fowlie, R.Ll. Hughes, R.J. Jones, W.E. Jones, R.L. Owen,

 

Gwyn Roberts, John Rowlands (7)

 

 

 

YN ERBYN Y CYNNIG

 

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, J. Arwel Edwards, Fflur Hughes, Trefor Ll. Hughes, W.I. Hughes, John Roberts, J. Arwel Roberts, W.T. Roberts, Hefin Thomas (9)

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod rhoi caniatâd cynllunio yn groes i argymhelliad o ganiatâd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) am y rhesymau a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

effaith economaidd ar safleoedd diwydiannol/mân-werthu cyfagos

 

Ÿ

pryder y cyhoedd fel ystyriaeth gynllunio o bwys - ymwybyddiaeth y cyhoedd bod 1,100 o wrthwynebiadau i'r safle

 

Ÿ

Cynllun Fframwaith Gwynedd (1993) Polisi D20 (ii) - cynnydd yn lefelau'r llygredd - aer ac arogleuon

 

Ÿ

Oherwydd ei leoliad roedd y bwriad yn groes i'r cyngor ym Mhennod 12, paragraff 12.1.1 Polisi Cynllunio Cymru.

 

 

 

4.2

CAIS SY'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

 

 

16C146A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR YN YR IARD LO, ENGEDI, BRYNGWRAN

 

 

 

Yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr roedd y Pwyllgor o blaid caniatáu'r cais cynllunio uchod (yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol,sef gwrthod)), am y rhesymau a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

credir bod caniatáu'r cais yn fantais gynllunio i wella gwedd y safle a'r cyffiniau

 

Ÿ

mae'r bwriad rhwng dwy annedd ac yn cael ei ystyried fel "tir llenwi i mewn" ac nid yw yn y cefn gwlad agored.

 

 

 

Eglurodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, bod y cais wedi'i ohirio a chyflwynwyd adroddiad arno i'r cyfarfod hwn i'r Pwyllgor ystyried adroddiad ar oblygiadau rhoi caniatâd ac i benderfynu ar y cais.  

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd P.M. Fowlie ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R.L. Owen.  Cynigiodd y Cynghorydd Gwyn Roberts wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i roi caniatâd am y rhesymau uchod, a dirprwyo'r pwer i swyddogion lunio amodau cynllunio perthnasol.

 

 

 

4.3

17C20A/1 - NEWID DEFNYDD Y BYNGALO I FOD YN SWYDDFEYDD A REOLIR AC ALTRO'R FYNEDFA YM MAEN HIR, PORTHAETHWY

 

      

 

4.4

17C20B/1 - CAIS AMLINELLOL I GODI GWEITHDY CEIR, LLE I BARCIO CEIR A LLECYN DYSGU GYRRU CERBYDAU GYRIANT 4 OLWYN YNG NGAREJ HENFFORDD, PORTHAETHWY

 

      

 

4.5

17C20Z - ESTYNIADAU I'R YSTAFELL ARDDANGOS AUDI I GYNNWYS GWEITHDAI A LLE GOLCHI CEIR YNG NGAREJ HENFFORDD, PORTHAETHWY

 

 

 

Datganodd y Cynghorwyr R.L. Owen, John Roberts a Mr. J.R.W. Owen, yr Adran Briffyrdd, ddiddordeb yn y tri chais (eitemau 4.3, 4.4 a 4.5 y cofnodion hyn) ac nid oeddynt yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater a phleidleisio arno.

 

 

 

Cytunodd Aelodau y dylid ymdrin â'r tri chais uchod oedd yn ymwneud â'r un safle ar wahân.

 

 

 

Ymwelwyd â safle'r tri chais ar 20 Tachwedd, 2002 ar argymhelliad y swyddog cyn penderfynu ar y cais.

 

 

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio y dylai dyddiad adroddiad y Swyddog i'r Pwyllgor ar ddiwedd y paragraff cyntaf ar dudalen 23 ddarllen 3.11.99 ac nid 3.11.02.  

 

 

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio fod 4 llythyr arall yn gwrthwynebu wedi dod i law yn cadarnhau gwrthwynebiadau blaenorol a gyflwynwyd a bod y pryderon hyn wedi'u trafod yn adroddiad y swyddog.  Roedd Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd wedi gofyn am i ystyriaeth gael ei rhoi i'r effaith y byddai'r datblygiad yn ei chael ar faen hir a restrir fel heneb ac sydd yn y cae i'r dwyrain o'r datblygiad arfaethedig.

 

 

 

Bellach mae'r Adain Briffyrdd yn cadarnhau nad oes ganddynt wrthwynebiad mewn egwyddor yn amodol ar fân-newidiadau yng nghyswllt draenio ar y safle.

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd Eurfryn Davies, yn aelod lleol, bryder llawer o drigolion, yn arbennig felly yng nghyswllt y cais yn 4.4.  Roedd ganddo deimladau cymysg yng nghyswllt y cais cyntaf.  Nid oedd y ty mewn lle delfrydol i fyw ynddo.  Dylid bod cyfyngiad ar y defnydd a wneir o'r adeilad ond bod amod drafft yn cyfyngu ar yr oriau oedd ar gael i'w ddefnyddio.  Roedd rhaid newid hyn.

 

 

 

Dywedodd bod gwrthwynebiad sylweddol i'r ail gais ac i fwy o ddatblygu ar y safle.  Roedd pridd eisoes wedi'i symud o'r cae hwn.  Pe câi ei ganiatáu byddai gorffenwaith allanol arfaethedig yr adeilad yn adlewyrchu pelydrau'r haul cynddrwg fel y byddai'n dallu cymdogion a phobl oedd yn pasio heibio.  Roedd o'r farn y dylid cadw hyn mewn cof cyn cytuno ar unrhyw orffenwaith allanol i'r to a'r waliau (gweler amod (14) yn adroddiad y swyddog).

 

 

 

Roedd yn erbyn y trydydd cais ac o'r farn y byddai gwaith gwella'n cael ei wneud i'r ffordd A5025 mewn amser, beth bynnag.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas ei fod yn erbyn y datblygiad hwn.  Roedd y cwmni wedi tyfu'n rhy fawr yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf.  Lle byddai'r datblygiad yn dod i ben?  Roedd y datblygiad yn rhyw fawr i'r ardal a byddai yna fwy o draffig.  

 

 

 

Dywedodd y Swyddog  Rheoli Datblygu (Priffyrdd) bod yr Asesiad ar yr Effaith ar y Traffig yn dangos bod oddeutu 7% o draffig yn gadael yr A5025 ac yn dod i Ffordd Llandegfan ac o'r 7% hwn, bod oddeutu 30% yn troi i'r garej o Ffordd Llandegfan.  Roedd y bwriad yn cynnwys gwaith gwella i'r ffordd ac i'r fynedfa i'r safle.    Nid oedd yr un rheswm dros wrthod am resymau priffyrdd.

 

 

 

Roedd rhai Aelodau yn bryderus ynghylch y mater o orddatblygu'r safle - mater a godwyd fel pryder yn 1997.  Y bwriad oedd gohirio'r ceisiadau.

 

 

 

Gofynnodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio am eglurhad o'r rhesymau am oedi o'r fath.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y tri chais a bod y swyddogion yn paratoi adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn ar y pwyntiau a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

manylion amodau i'w rhoi i wella'r ffordd, y gyffordd a'r fynedfa i'r safle

 

Ÿ

lle troi ar y safle

 

Ÿ

penderfyniad a gymerwyd yn 1997 yng nghyswllt y safle hwn ac unrhyw fater o orddatblygu'r' safle.

 

 

 

4.6

CAIS YN TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

      

 

     CODI 15 O ANHEDDAU YN CYNNWYS 9 BYNGALO A 3 PHÂR O DAI LLED-AR WAHÂN A GAREJYS PREIFAT AR WAHÂN (CYFNOD 3) A CHREU MYNEDFA NEWYDD YN TY'N RHOS, PEN-Y-SARN

 

      

 

     Ymwelwyd â'r safle uchod ar 20 Tachwedd, 2002 ar gais y swyddog cyn penderfynu ar y cais.

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio y dylai'r cais hwn ymddangos ar yr atodlen fel "cais sy'n tynnu'n groes i'r cynllun fframwaith".  Roedd yn argymell caniatáu'r datblygiad oherwydd bod caniatâd ar y tir hwn ac y byddai'r CDU arfaethedig yn rhoi'r tir hwn o fewn terfyn y pentref.  Gofynnodd am i'r argymhelliad gael ei newid i un sy'n dirprwyo caniatâd i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio yn amodol ar gytuno ar faterion draenio.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Gwyn Roberts yn derbyn bod caniatâd hanesyddol ar gyfer y tir hwn.  Roedd pryder ynghylch draenio yn rhan gyntaf y datblygiad ac roedd o'r farn bod problemau tebyg yng nghyswllt y cais hwn.  At hyn, gofynnodd am gael ystyried camau arafu traffig dros dro ar ffyrdd stadau gan fod plant yn byw ar y stad ond bod y datblygwr yn sicrhau nad oedd cerbydau gwaith yn gadael pridd ar ffordd y stad.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo'r gwaith o ganiatáu'r cais i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio am y rhesymau a roddwyd a chydag amodau yn adroddiad y swyddog ac unwaith y bydd materion draenio wedi'u datrys yn foddhaol.

 

      

 

4.7

34C466 - DYMCHWEL YR ADEILAD A CHODI 4 UNED DDIWYDIANNOL 10,000 TROEDFEDD SGWÂR AC ALTRO'R FYNEDFA YN HEN SAFLE CUNLIFFE, LLANGEFNI

 

      

 

     Ymwelwyd â'r safle uchod ar 20 Tachwedd, 2002 ar argymhelliad y swyddog cyn penderfynu ar y cais.

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio mai'r "rheswm dros gyflwyno adroddiad i'r pwyllgor"  oedd fod pryderon yng nghyswllt unrhyw lygredd posib o'r safle (gweler tudalen 79 yr adroddiad).  Dywedodd bod yr ymgeiswyr bellach wedi cyflwyno cynllun i Asiantaeth yr Amgylchedd a byddir yn ymgynghori â nhw yn ystod y gwaith datblygu.  Nid oedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu.  Gofynnodd am gael newid yr argymhelliad i un a oedd yn dirprwyo'r gwaith caniatáu i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio unwaith y byddai'r cyfnod hysbysu wedi dod i ben ar 9 Ionawr, ar yr amod na fyddai materion newydd yn codi yn y cyfamser.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Fflur Hughes nad oedd digon o unedau o'r maint hwn yn Llangefni a chododd y mater ynghylch yr arbenigwr ar lygredd yn oedi cyn cyflwyno adroddiad ar ei ganfyddiadau.

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod yr amod arfaethedig yn datgan yn glir na fyddai modd dechrau datblygu onid oedd y camau adfer angenrheidiol yn eu lle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio waith caniatáu'r cais ar ôl 9 Ionawr am y rhesymau a roddwyd a chydag amodau yn adroddiad y swyddog, ar yr amod na fydd unrhyw faterion newydd yn cael eu codi yn y cyfamser.

 

      

 

5

CEISIADAU SY'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

      

 

5.1

14C169 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR YM MAES Y LLYN, LLYNFAES

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a nodir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

5.2

39C339 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD NEWYDD A CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER AEL Y BRYN, PORTHAETHWY

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a nodir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

5.3

49C221A/EIA - NEWID DEFNYDD O FOD YN DY FFARM, ADEILADAU ALLANOL A THIR CYFAGOS I FOD YN WESTY A THY BWYTA, LLETYAU GWYLIAU, YSTAFELL FFITRWYDD A CHWRS GOLFF NAW TWLL PAR 3 A LLE PARCIO YNG NGHLEIFIOG UCHAF, FFORDD SPENCER, Y FALI

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio, nad yw hwn yn gais sy'n tynnu'n groes i'r Cynllun Fframwaith er gwaethaf dweud fel arall yn yr adroddiad.  Y rheswm dros gyflwyno adroddiad ar y cais hwn i Bwyllgor yw bod Asesiad ar yr Effaith ar yr Amgylchedd yn cael ei wneud yng nghyswllt y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddir a chydag amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

6.1

23LPA818/CC - GOSOD YSTAFELL DDOSBARTH SYMUDOL DROS DRO YN YSGOL TY MAWR, CAPEL COCH

 

      

 

     Cafodd y cais hwn ei gyflwyno gan Adain Eiddo Cyngor Sir Ynys Môn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddir a chyda'r amodau a nodir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

6.2

30C102A - NEWID Y DEFNYDD A WNEIR O'R SIOP A'R TY GOLCHI I FOD YN 3 FFLAT ANNIBYNNOL YM MORANNEDD, FFORDD BANGOR, BENLLECH

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais ar argymhelliad y Swyddog fel a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig cyn penderfynu ar y cais.

 

      

 

7

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar faterion a ddirprwywyd ac y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

     Nodwyd na ddylai ceisiadau cynllunio 17C122F - Iscoed, Llandegfan, a 35C297 - Ffarm Llan-faes, Llangoed fod wedi ymddangos ar y rhestr hon gan fod y ddau gais wedi'u tynnu'n ôl.

 

      

 

      

 

8

CEISIADAU CYNLLUNIO SY'N DISGWYL SYLW - CYTUNDEBAU ADRAN 106

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Rheoli Datblygu bod y ceisiadau a ganlyn, a gafodd ganiatâd o'r blaen gan y Pwyllgor yn amodol ar Gytundeb Adran 106, wedi'u tynnu'n ôl yn ffurfiol:-

 

      

 

8.1

1/16/C/50B - codi 2 dy ac 1 byngalo ar dir yn Ffordd Ty Hen, Bryngwran (caniatáu gyda Chytundeb Adran 106 - 16/1/91) tynnwyd yn ôl 26/11/02.

 

      

 

8.2

1/25/C/62B - newid y defnydd o fod yn annedd i gartref preswyl i'r henoed a gwaith altro cysylltiedig ym Mryn Llwyd, Llannerch-y-medd (caniatáu gyda Chytundeb Adran 106 - 1/9/93) tynnwyd yn ôl 29/11/02.

 

      

 

8.3

1/33/C/157 - codi meddygfa newydd ar dir ger Ffarm Gaerwen Uchaf, y Gaerwen (caniatáu gyda Chytundeb Adran 106 - 2/3/94) tynnwyd yn ôl 25/11/02.

 

      

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a dileu'r penderfyniadau gwreiddiol yng nghyswllt 8.1, 8.2 ac 8.3 uchod.

 

 

 

9

APÊL GYNLLUNIO

 

     DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990 ADRAN 78

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth - adroddiad yr Arolygwyr a benodwyd gan y Cynulliad yng nghyswllt apêl Mr. J. Caffrey a Mrs. M. Owen yn erbyn methiant yr Awdurdod hwn i roi Rhybudd o Benderfyniad o fewn y cyfnod penodedig ar gais cynllunio 30C248A - cais cynllunio amlinellol i godi byngalo, gosod tanc septig newydd ac altro mynedfa ar dir ger Mona View, Bryn-teg.

 

      

 

     Caniatawyd yr apêl gydag amodau fel a nodir yn adroddiad yr Arolygwr.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi'r penderfyniad.

 

      

 

10

CYNLLUN DATBLYGU UNEDOL

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Swyddog Cynllunio ar sefyllfa ddiweddaraf yr uchod.

 

      

 

     Nodwyd bod yr Arolygwr Cynllunio wedi trefnu cyfarfod cyn ymchwiliad ar 18 Chwefror, 2003 gyda'r ymchwiliad ei hun yn dechrau ar 3 Mehefin, 2003.  Mae Mr. Wil Price wedi'i benodi gan yr Awdurdod hwn fel Swyddog Rhaglennu i weithio gyda'r Arolygwr i sicrhau bod y trefniadau'n cael eu cynnal yn ddidrafferth.

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Swyddog Cynllunio y daeth y cyfnod ymgynghori â'r cyhoedd yn ffurfiol ynghylch newidiadau arfaethedig i ben ar 12 Rhagfyr, 2002.  Dywedodd yr estynnir gwahoddiad i Aelodau'r Pwyllgor hwn ymuno â chyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Amgylchedd a Chludiant ar 23 Ionawr, 2003 pan roddir ystyriaeth i sylwadau yng nghyswllt newidiadau arfaethedig i'r CDU a rhoi cyfle i aelodau drafod materion sy'n disgwyl sylw.  

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Swyddog Cynllunio y bydd raid i'r Uned Bolisi nodi elfennau o'r CDU nad oes gwrthwynebiad iddynt fel bod modd i swyddogion yr Adain Rheoli Datblygu eu hystyried wrth wneud argymhellion ar geisiadau i Bwyllgor ac wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau a ddirprwyir.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

      

 

11

CANLLAWIAU DYLUNIO

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Swyddog Cynllunio ar yr uchod.  Dosbarthwyd copi o fersiwn ddrafft "Cynllun Dylunio yr Amgylchedd Adeiledig Gwledig a Threfol" yr Awdurdod hwn.  Mae'r Canllawiau hyn, yn bennaf, yn canolbwyntio ar ddylanwadu ar ddatblygiadau dyddiol yn yr amgylchedd adeiledig trefol a gwledig.

 

      

 

     Comisiynwyd yr ymgynghorwyr TCPA gan y Cyngor Sir i baratoi Canllawiau Dylunio i Ynys Môn.  Ymgynghorir â'r cyhoedd ynghylch y canllawiau hyn am chwe wythnos.

 

      

 

     Unwaith y cânt eu mabwysiadu dônt yn Ganllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Môn a chânt eu hystyried fel ystyriaeth gynllunio o bwys wrth benderfynu ar geisiadau i gefnogi'r CDU.  Defnyddir y Canllawiau i gynghori darpar ymgeiswyr cynllunio.

 

      

 

     Gwnaed trefniadau i aelodau a swyddogion ddod am sesiynau hyfforddi ar y mater.  Estynnwyd gwahoddiad i Aelodau'r Pwyllgor gyflwyno sylwadau ar fersiwn ddrafft y Canllawiau erbyn diwedd mis Ionawr, 2003.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

12

ANFON PAPURAU CEFNDIR

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio mewn ymateb i gais aelodau'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion bod copïau o lythyrau a ddaw i law ar geisiadau cynllunio fydd gerbron yn cael eu copïo a'u hanfon at aelodau ymlaen llaw.

 

      

 

     Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, yn sgil yr Adolygiad Gwerth Gorau      o'r Gwasanaeth Rheoli Cynllunio a chyhoeddi adroddiad yr Arolwg ym mis Mawrth 2002 oedd yn dweud "Clearly councillors need to be advised on all representations and the issues arising but we would question whether it was necessary or beneficial for every member of the Planning Committee to have a full copy of every representation" , y rhoddwyd y gorau i anfon copïau o lythyrau a ddaeth drwy'r post, er y bu'n arfer gyffredin dros nifer o flynyddoedd i anfon copïau o'r holl lythyrau a ddaeth drwy'r post at aelodau.

 

      

 

     Yn sgil cyhoeddi adroddiad yr Arolygwr ac yn unol â'i argymhellion, yr arfer ar hyn o bryd, yw crynhoi llythyrau o fewn adroddiadau'r swyddogion i'r Pwyllgor.  Mae'r holl lythyrau ar gael i'w gweld yn yr Adain Rheoli Cynllunio yn ystod oriau swyddfa arferol.  Mae'r holl lythyrau a ddaw i law ar ôl cyhoeddi adroddiad y swyddog yn cael eu llun-gopïo a'u hanfon mewn swp o bapurau at aelodau'r cyfarfod ac adroddiad llafar yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod ar unrhyw lythyrau a ddaw i law ddiwrnod y cyfarfod.  Mae'r Swyddogion yn credu bod yr arfer hon yn hynod effeithiol.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd John Roberts am gael ymdrin â'r eitem ar ddechrau cyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad a rhoi cyfle i aelodau drafod y mater hwn yn y Seminar Gynllunio y cyfeirir ati yn eitem 13 y cofnodion hyn a gwneud penderfyniad ar y mater hwn yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

13

SEMINAR

 

      

 

     Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Rheoli Datblygu bod seminar wedi'i threfnu ar ddydd Mawrth, 14 Ionawr, 2003 i drafod gwahanol faterion yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

      

 

Daeth y cyfarfod i ben am 4.45 p.m.

 

 

 

Y CYNGHORYDD W. EMYR JONES

 

CADEIRYDD