Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 8 Chwefror 2005

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mawrth, 8fed Chwefror, 2005

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2005

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R L Owen, Cadeirydd

Y Cynghorydd J Arthur Jones, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, J Arwel Edwards,

P M Fowlie, Denis Hadley, A Morris Jones, O Glyn Jones,

Thomas Jones, John Roberts, J Arwel Roberts, W T Roberts,

Keith Thomas.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)  

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Arweinydd Tîm (NJ)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr Peter Dunning, R Ll. Hughes, D Lewis-Roberts,

John Rowlands.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:  Y Cynghorwyr W J Chorlton (eitem 7.3)

W I Hughes (eitem 6.1), Goronwy O Parry MBE (eitem 4.3)

 

Dywedodd y Cadeirydd bod Mr O Gwyn Jones, a oedd gynt yn Gynghorydd i ardal Dwyran, wedi mynd i'r ysbyty a chytunodd pawb i yrru gair at Mr Jones ar ran y Pwyllgor yn dymuno iddo adferiad llwyr a buan.

 

Wedyn eglurodd y Cadeirydd y bu'n rhaid newid dyddiad y Pwyllgor am resymau technegol nad oedd modd eu hosgoi ac ymddiheurodd i'r aelodau ar ran y swyddogion.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

      

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

      

2

COFNODION

      

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gyfarfu ar 5 Ionawr, 2005  (tud 73 - 91 o’r Gyfrol hon)

      

YN CODI:

      

Seminar (eitem 11 o'r cofnodion) - Eglurodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod seminar ar swyddogaeth Asiantaeth yr Amgylchedd yn y broses gynllunio ac yn ymwneud â materion gorfodaeth, mwynau a gwastraff ac a drefnwyd ar gyfer 26 Ionawr wedi'i gohirio oherwydd pwysau mawr ar yr aelodau yn ystod y cyfnod 0dan sylw.  Nodwyd y câi dyddiad arall ei drefnu yn y 0dyfodol agos.

      

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

      

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar 19 Ionawr, 2005.

 

4

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

      

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     12C6F     CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD, OFFER PREIFAT I DRIN CARTHION AR DIR GER DOLWAR, LLANFAES

 

 

 

     Gadawodd y Cynghorydd R L Owen y Gadair am y drafodaeth ar y cais hwn gan ei fod yn dymuno siarad arno fel yr aelod lleol.  Cymerwyd y Gadair gan y Cynghorydd Arthur Jones, yr Is-Gadeirydd.

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor ac roedd ef yn ei gefnogi.  Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau wedi penderfynu ymweld â safle'r cais a threfnwyd hynny ar 19 Ionawr, 2005.

 

      

 

     Nodwyd bod yr adroddiad ar y cais yn anghyflawn er bod yr aelodau wedi derbyn manylion llawn amdano yn y cyfarfod cynt.  Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y bwriad yn groes i Bolisiau 50 a 53 y Cynllun Lleol ac i Bolisi A6 y Cynllun Fframwaith ac o'r herwydd cafwyd argymhelliad cryf o wrthod gan fod y bwriad yn groes i bolisïau tai a gwrthod hefyd am resymau diogelwch y briffordd.

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd y Cynghorydd R L Owen, yr aelod lleol, bod 7 o dai ar hyd y darn hwn o'r lôn a'r tu cefn i'r safle roedd parc carafanau ac arno 28 o garafanau sefydlog a 40 o rai teithiol ac yn ychwanegol at hynny roedd 26 o dai ar Stad Garthwen gerllaw.  Hefyd dywedodd y Cynghorydd Owen fod modd i gerbydau basio ei gilydd ar hyd y darn hwn o'r lôn er gwaethaf ei natur gul, ac roedd yr ymgeisydd wedi cynnig gwella'r briffordd yn y fynedfa i'r safle.  Dan Bolisi 50 y Cynllun Datblygu Unedol roedd modd codi anheddau unigol yn Llan-faes.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Owen cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd na wyddai'r swyddogion am unrhyw ddamweiniau ar hyd y darn hwn o'r lôn.

 

      

 

     Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn cytuno bod Polisi 50 yn caniatáu codi tai unigol y tu mewn i ffiniau pentrefi rhestredig ond roedd pedair ardal eisoes wedi'u nodi'n glir y tu mewn i ffiniau pentref Llanfaes a bod y safle hwn yn amlwg y tu allan i'r ffiniau hynny a hefyd y tu allan i'r mannau hefyd a nodwyd ar gyfer datblygiad y tu mewn i'r Cynllun Datblygu Unedol.

 

      

 

     Teimlo yr oedd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod y cais hwn yn cydymffurfio 0gyda Pholisi 50 gan fod y safle ar ffin y pentref a chredai bod y gwelliannau arfaethedig i'r fynedfa i'r safle yn fantais i'r briffordd.  Yn y gorffennol roedd caniatâd cynllunio wedi'i roddi i ddatblygiad preswyl ar ffyrdd oedd o safon is na0 hon, ac roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn gryf ei gefnogaeth i'r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd ty yn y cefn gwlad yn creu0 unrhyw fantais gynllunio.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     O 7 pleidlais i 3 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ     llenwi bwlch

 

Ÿ     yn unol â Pholisi 50 y Cynllun Lleol

 

Ÿ     mantais briffyrdd

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor byddai'r cais hwn yn otomatig yn cael ei ohirio i'r cyfarfod nesaf er mwyn i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd R L Owen am gofnodi nad oedd ef wedi cynnig caniatáu'r cais.

 

 

 

      

 

4

CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R POLISI

 

      

 

     17C288B   CYNLLUNIAU LLAWN AR GYFER CODI ANNEDD YN LLE CANIATÂD CYNLLUNIO MEWN BODOLAETH RHIF DA/1/24/A74D/1 YNGHYD Â GOSOD SYSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH PREIFAT NEWYDD AR DIR GER CRAIG Y DON, GLYN GARTH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog roedd yr aelodau yn tueddu i ganiatáu'r cais hwn am y rhesymau a ganlyn:-

 

      

 

Ÿ     byddai'r caniatâd yn lle caniatâd oedd yn bodoli gerllaw

 

Ÿ     byddai safon y dyluniad sydd o ansawdd uchel yn gwella ei amgylchedd

 

Ÿ     roedd y dyluniad yn cael ei ystyried fel gwelliant i'r hyn sydd yn bodoli yng Nghoed Celyn

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau 0dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Mewn ymateb i'r rhesymau uchod dros ganiatáu dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai'r bwriad yn cael effaith ddrwg ar wedd y rhan sensitif hon o'r arfordir oedd mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol, ac y câi'r hen ganiatâd ar Coed Celyn gerllaw lai o effaith.  Ni chredai'r swyddogion fod unrhyw fanteision ynghlwm wrth y safle newydd a gynigiwyd dim digon i fynd heibio i'r polisïau cynllunio yn y cynlluniau datblygu ac o'r herwydd cafwyd argymhelliad cryf i wrthod.  

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Eurfryn Davies, yr aelod lleol, roedd y cais hwn yn 0cael ei gyflwyno yn lle caniatâd cynllunio cyffiniol a bod hwn yn bwynt pwysig; chwaith nid oedd yr un gwrthwynebiad i'r bwriad ac ni fuasai rhoddi caniatâd ar y safle yn cael effaith ddrwg ar ddwy ochr Afon Menai, a hefyd buasai'n gweddu yn dda ac yn ategu y tir o gwmpas. Gan y Cynghorydd cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Gan ddilyn cyngor y cyfreithiwr bod y cais yn y categori gwyro - cytunodd yr aelodau i gofnodi'r bleidlais ac roedd y pleidleisio fel a ganlyn:  

 

      

 

     O BLAID (YN GROES I ARGYMHELLIAD O WRTHOD GAN Y SWYDDOG):

 

     Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, P M Fowlie, Denis Hadley, O Glyn Jones, Aled Morris Jones, John Arthur Jones, Thomas Jones, J Arwel Roberts, W T Roberts, Keith Thomas (11)

 

      

 

     GWRTHOD Y CAIS GAN DDILYN ADRODDIAD Y SWYDDOG A'R ARGYMHELLIAD GANDDO:

 

     Y Cynghorydd John Roberts (1)

 

      

 

     O 11 pleidlais i 1 PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau perthnasol.

 

      

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     19C291A   CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL Y TY TAFARN, CODI 12 ANNEDD 2 LOFFT YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN Y DDRAIG GOCH, LLAIN-GOCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cafwyd argymhelliad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio i dynnu'r eitem oddi ar y rhaglen am y tro gan fod yr Adran yn dal i ddisgwyl cynlluniau diwygiedig gan yr ymgeiswyr.  

 

      

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a nodi y câi'r cais ei dynnu oddi ar y rhaglen.

 

      

 

4

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     19C842A/EIA   CAIS AR GYFER DATBLYGIAD ARFAETHEDIG ARDAL DEFNYDD CYMYSG SWYDDI (B1, B2, B8) YN CYNNWYS SWYDDFEYDD, DIWYDIANT A DEFNYDD GWESTY YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER TY MAWR, CAERGYBI

 

      

 

     Ymwelodd yr aelodau â safle'r cais ar 15 Rhagfyr, 2004 yn unol ag argymhelliad y swyddog.  Yng nghyfarfod Ionawr gohiriwyd ei ystyried oherwydd bod y gwaith ymgynghori yn dal i fynd yn ei flaen gyda'r ymgeiswyr.

 

      

 

     Wedyn tynnodd y swyddog sylw'r aelodau at adroddiad manwl ar y cais a rhoes i'r Pwyllgor y wybodaeth ddiweddar gan ychwanegu fod proses ymgynghori eithriadol fanwl wedi'i chwblhau.  Nid oedd Cyngor Tref Caergybi na Chyngor Cymuned Trearddur yn gwrthwynebu a'u bod yn cefnogi'r cais a hefyd cafwyd cefnogaeth Aliwminiwm Môn; gan Lywodraeth Cynulliad Cymru cafwyd cyngor ar amodau priffyrdd i'w rhoddi ynghlwm; hefyd cafwyd cyngor ar amodau eraill gan Asiantaeth yr Amgylchedd, gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd a chan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.  Roedd gwrthwynebiadau Sustrans yn seiliedig ar y ffaith bod angen cynnig cyfleusterau gwell i gerddwyr a beicwyr.  

 

      

 

     Nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Asesiad Effaith Amgylcheddol ynghlwm wrth y cais ac roedd yn cydymffurfio gyda'r polisïau a chafwyd argymhelliad ei ganiatáu ganddo ond gyda'r hawl i ddiwygio'r0 amodau yn adroddiad y swyddog er mwyn gwneud lwfans am y sylwadau a'r pryderon a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas Jones rhoddwyd sicrwydd gan y swyddog i'r aelodau y buasai'r newidiadau i'r amodau yn rhai mân yn unig.

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Keith Thomas, yr aelod lleol, bod cefnogaeth gref i'r cais pwysig hwn ac aeth ymlaen i awgrymu y gellid darparu croesfan "puffin" neu belican ar draws lôn gyswllt Trearddur/Penrhos a bod ymholiadau yn cael eu gwneud yng nghyswllt ardal Ffordd Llundain.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Keith Thomas cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arwel Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNODD yr aelodau dderbyn adroddiad y swyddog a rhoddi caniatâd unfrydol i'r cais a rhoddi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio wneud y mân newidiadau angenrheidiol i'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

           

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     28C244A    CAIS I NEWID DEFNYDD YR ADEILAD ALLANOL I 2 UNED WYLIAU YN FELIN UCHAF, BRYN DU  

 

      

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ymwelwyd â'r safle ar 20 Hydref, 2004.  Bellach roedd yr ymgeiswyr wedi cyflwyno lluniadau yng nghyswllt gwelliannau arfaethedig i'r briffordd ac roeddid yn disgwyl am asesiad ac adroddiad y swyddogion ac o'r herwydd cafwyd argymhelliad gan y swyddog i ohirio ystyried y cais unwaith yn 0rhagor. 

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd gan y swyddog PENDERFYNWYD gohirio'r cais hwn.

 

             

 

4

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     30C385A - DYMCHWEL Y GWESTY PRESENNOL A CHODI ADEILAD 5 LLAWR YN CYNNWYS 28 O FFLATIAU PRYNU I OSOD, PWLL NOFIO DAN DO A GYMNASIWM YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ADDASU MYNEDFA I GERBYDAU PRESENNOL A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YNG NGWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH

 

      

 

     Ymwelwyd â'r safle ar 20 Hydref, 2004.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod ymgynghorwyr annibynnol wedi'u comisiynu i asesu effaith weledol y cynnig ar y tirwedd a'r disgwyl oedd y câi0 adroddiad llawn ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd gan y swyddog PENDERFYNWYD gohirio'r cais hwn.

 

           

 

4

30C570    CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD GYDA GAREJ YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A DARPARU GORSAF BREIFAT I DRIN CARTHION AR DIR GER GABASSON, TYN-Y-GONGL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol sy'n cefnogi'r cais.  Ymwelwyd â'r safle ar 15 Rhagfyr, 2004.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog roedd yr aelodau yn tueddu i ganiatáu'r cais hwn am y rhesymau a ganlyn:-

 

      

 

Ÿ     mae'r cais yn cael ei gefnogi gan y Cyngor Cymuned Lleol

 

Ÿ     mae'r safle y tu mewn i glwstwr o dai eraill - llenwi bwlch

 

Ÿ     mae digon o fannau pasio ar hyd y lôn

 

 

 

     Yn unol0 â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd modd cyfiawnhau rhoddi caniatâd i'r cais hwn oedd yn gwyro gan fod y safle yn amlwg y tu allan i ffiniau pentref Tyn-y-gongl, nid oedd chwaith y tu mewn i glwstwr, roedd yn y cefn gwlad ac nid oedd yn cydymffurfio gyda pholisïau'r cynlluniau datblygu.  Câi'r cynnig effaith ddrwg ar wedd yr ardal hon trwy gyflwyno adeilad arall yn ymwthio i'r cefn gwlad.  Roedd yr Adran Priffyrdd yn argymell gwrthod oherwydd natur droellog y briffordd lled cerbyd at y safle a hefyd oherwydd yr elltydd arni a'r anhawster gweld ymlaen a hefyd nid oedd ar y lôn ddigon o fannau pasio.  Ailadroddodd y swyddog ei argymhelliad0 i wrthod y cais.

 

      

 

     Yn ôl dymuniad y Cynghorydd Lewis Roberts ac yn ei absenoldeb cyfeiriodd y Cynghorydd Arthur Jones geisiadau cynllunio oedd wedi'u caniatáu dan bwerau dirprwyol ac argymhellodd bod yr aelodau yn glynu wrth y penderfyniad cynt, sef caniatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr Aled Morris Jones a Tecwyn Roberts.  

 

      

 

     Roedd y cyfreithiwr yn gwbl unfryd â chyngor y Rheolwr Rheoli Cynllunio a rhoes gyngor i gofnodi'r bleidlais gan fod y cais yn groes i bolisi.  Cytunwyd i wneud hynny a bu'r pleidleisio fel a ganlyn:

 

      

 

     CANIATAU'R CAIS YN GROES I ADRODDIAD AC ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG:

 

     Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, P M Fowlie, Denis Hadley, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, Thomas Jones, J Arwel Roberts, Tecwyn Roberts, Keith Thomas (10)

 

           

 

     DERBYN ADRODDIAD Y SWYDDOG A'R ARGYMHELLIAD O WRTHOD :

 

     Y Cynghorydd J Arwel Edwards (1)

 

      

 

     YMATAL:

 

     Y Cynghorydd John Roberts (1)

 

      

 

O 10 pleidlais i 1 PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol, sef caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau perthnasol.

 

      

 

4

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     34C303F/1   CODI 15 O ANHEDDAU - SEF CHWE THY AR WAHÂN A THERAS TRI THY YM MRO EDNYFED, LLANGEFNI

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion yn y broses o ymgynghori gyda'r ymgeiswyr ynghylch cynnwys tai fforddiadwy yn y cynllun ac roedd y swyddogion yn disgwyl bod mewn sefyllfa i gyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori gyda'r ymgeiswyr.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn dymuno cofnodi na chymerodd ran yn y drafodaeth ar yr eitem hon.

 

      

 

4

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     34C72J   DYMCHWEL YR ADEILAD DI-DDEFNYDD PRESENNOL YNGHYD AG AILDDATBLYGU'R SAFLE GYDAG ADEILAD 3 LLAWR YN CYNNWYS SWYDDFEYDD, SIOPAU A CHYFLEUSTERAU STORIO YN YR ISLAWR YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA I GERBYDAU YN HERON SERVICES, FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol sy'n cefnogi'r cais.  Ymwelwyd â'r safle ar 17 Tachwedd, 2004.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion yn dal i ymgynghori gyda'r ymgeiswyr ond yn gobeithio bod mewn sefyllfa i gyflwyno adroddiad i gyfarfod Mawrth y Pwyllgor.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori gyda'r ymgeiswyr.

 

      

 

4

CAIS SY'N TYNNU'N GROES I'R POLISI  

 

      

 

     38C83C - DATBLYGIAD PRESWYL I GODI 21 O DAI YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR YN FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

      

 

     Gwnaeth Mr JRW0 Owen o'r Adran Briffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion yn dal i fod mewn trafodaethau gyda'r ymgeiswyr ynghylch darparu llwybr cerdded a chafwyd argymhelliad i ohirio ystyried y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi y câi'r cais hwn yn awr ei dynnu oddi ar y rhaglen.

 

           

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     38C151A   GLYNU WRTH Y DEFNYDD O'R ADEILAD FEL TAIR ANNEDD ANNIBYNNOL YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDWYR AR DIR YR HEN NEUADD BENTREF, LLANFECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.  Yn y cyfarfod blaenorol penderfynodd yr aelodau ymweld â safle'r cais ar 19 Ionawr, 2005 yn ôl dymuniad yr aelod lleol

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod safle yr adeilad unllawr hwn siâp 'L' ac a fu gynt yn neuadd bentref, y tu mewn i ffiniau datblygu Llanfechell.  Cais oedd yma i lynu wrth y defnydd o'r Hen Neuadd Bentref fel 3 annedd annibynnol a chadw dwy sied y tu cefn i'r adeilad.  Hefyd dan y cynnig gwnaed gwaith altro ar y fynedfa i gerbydau a darparu cyfleusterau parcio ar y safle.  Hefyd bwriedir defnyddio'r fynedfa arfaethedig fel mynedfa i gerbydau i gefn y plot cyffiniol y cyflwynwyd cais cynllunio 38C169C yn ei gylch (eitem 4.12 y cofnodion hyn).  Cafwyd sylwadau gan rai yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ond nid oeddynt yn gwrthwynebu. Roedd yr aelod lleol yn gwrthwynebu'r bwriad a hefyd derbyniwyd llythyrau o wrthwynebiad gan bobl leol a manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Roedd y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 55 (addasu) a hwn oedd y prif bolisi a ystyriwyd0 wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor.  Cafwyd ganddo argymhelliad i ganiatáu ond gydag amod i ddileu'r geiriau dan amod (04) yng nghyswllt y ddwy sied:   "At no time shall they be otherwise occupied, let, leased, sold or disposed of".

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas Jones dywedodd y Cyfreithiwr nad oedd y mater arall oedd heb ei ddatrys, sef methiant i gydymffurfio gyda'r Rheoliadau Adeiladu, yn rhwystro'r Pwyllgor rhag gwneud penderfyniad ar y cais.

 

      

 

     Wedyn rhannodd y Cynghorydd Thomas Jones, yr aelod lleol, fap ymhlith yr aelodau gan ychwanegu bod caniatâd cynllunio wedi'i roddi yn 1997 i addasu Neuadd y Pentref yn annedd, - ond ni chydymffurfiwyd gyda'r caniatâd hwnnw.  Gerbron roedd cais ôlddyddiol i gywiro'r sefyllfa.  Yn y cyffiniau ceid problemau priffyrdd o gael cynnydd o 1 i 3 annedd.  Roedd un annedd yn creu hyd at 10 o symudiadau cerbydol bob dydd.  Nid oedd y datblygiad yn gweddu i'r cyffiniau ac o'r herwydd cafwyd gwrthwynebiadau cryfion gan y bobl leol - yn gwrthwynebu datblygiad heb ganiatâd a heb unrhyw barch i'r broses gynllunio.  Sefydlwyd patrwm datblygu yn yr ardal, sef tai unllawr ar wahân.  Buasai creu 3 annedd yn groes i'r patrwm ac yn cael effaith ddrwg ar y lle.  Yr oedd pobl yn cael mantais wrth anwybyddu'r system a'r swyddogion yn eu cynorthwyo.     

 

      

 

     Cafwyd argymhelliad cryf o wrthod gan y Cynghorydd Thomas Jones a chynigiodd bod yr adeilad yn cael ei gadw fel annedd sengl gan ddilyn y caniatâd a roddwyd yn 1997.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr Adran Briffyrdd yn cefnogi'r cais.  Nodwyd hefyd na châi adeilad unllawr isel a sengl effaith ddrwg ar y cyffiniau.  

 

      

 

     Roedd y materion gorfodaeth yn codi dan bolisïau cenedlaethol a chan ddilyn canllawiau TAN 9 Llywodraeth Cynulliad Cymru ar faterion gorfodaeth, gwahoddwyd yr ymgeiswyr i gyflwyno cais ôlddyddiol.  Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd argymhelliad cryf o ganiatáu ac ychwanegodd na allai'r swyddogion amddiffyn penderfyniad o wrthod mewn apêl.  Roedd yn rhaid diystyru'r ffaith bod y cais hwn yn un ôlddyddiol.  

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd bod y swyddogion yn fodlon gyda gwelliannau arfaethedig yr ymgeisydd i'r fynedfa ac yng nghyswllt darparu llwybr tuag at y gyffordd gyda Lôn Bwlch ac yng nghyswllt darparu cyfleusterau parcio ar y safle.       

 

      

 

Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones oedd bwrw amheuaeth ar "safle dylunio uchel" y tu allan i'r adeilad ac a oedd y cyfryw adeilad yn gweddu gyda'r cyffiniau yn unol â Pholisi 40 y Cynllun Lleol; o'r herwydd cafwyd ganddo gynnig i wrthod y cais am ei fod yn groes i Bolisi 40 y Cynllun Lleol.  Mewn ymateb i hyn dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y polisi hwnnw'n 0berthnasol i adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth ond yn yr achos hwn nid oedd yn berthnasol.

 

      

 

     Wedyn, mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones, dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yr Adran wedi cael gwybod am y cais hwn ar ôl derbyn cwyn nad oedd y defnydd presennol o'r adeilad yn cydymffurfio gyda'r caniatâd cynllunio blaenorol a roddwyd.  Nid oedd modd gwrthod y cais am y rheswm ei fod yn un ôlddyddiol.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Thomas Jones y dylid gwrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     O 8 bleidlais i 5 PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog o ganiatáu; y rhain oedd y rhesymau dros wrthod:

 

      

 

Ÿ     yn groes i Bolisi 42 - dyluniad

 

Ÿ     yn groes i'r rheolaeth gynllunio

 

Ÿ     yn niweidio pleserau'r ardal

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais hwn ei ohirio yn otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn dymuno cofnodi nad oedd wedi pleidleisio ar y cais.  

 

           

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     38C169C   CODI DWY ANNEDD GYDA GAREJYS AR WAHÂN AR BLOT GER NEUADD Y PENTREF, LLANFECHELL

 

      

 

     Y Cyfarwyddwr Corfforthaethol Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol benderfynodd ar gyflwyno'r cais hwn 0i'r Pwyllgor ei ystyried.  Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau wedi penderfynu ymweld â'r safle yn ôl dymuniad yr aelod lleol a threfnwyd hynny ar 19 Ionawr, 2005.

 

      

 

     Eglurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn gwbl ar wahân i gais dan eitem 4.11 uchod ac iddo gael ei gyflwyno gan ymgeisydd arall.  Roedd y cais yn cydymffurfio gyda'r polisiau ond roedd y Cyngor Cymuned lleol yn gwrthwynebu am resymau a grynhowyd yn adroddiad y swyddog a hefyd roedd perchennog yr Hen Neuadd Bentref gyffiniol yn gwrthwynebu.

 

      

 

     Yn y Siambr roedd cynllun o ochr yr adeilad yn dangos uchder y grib arfaethedig yn 1.5m yn uwch na rhif 6 Stad Sarn ac 1m yn is na Madryll a thynnodd y swyddog sylw at hyn.

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd argymhelliad bod y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio yn cael pwerau dirprwyol i ganiatáu'r cais ar ôl derbyn cynlluniau boddhaol yng nghyswllt y safle cyffiniol ac ar ôl gwneud asesiad boddhaol o effaith y cynnig a hefyd yn amodol ar gynnwys yr amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Thomas Jones, yr aelod lleol, roedd patrwm o anheddau unllawr yn y cyffiniau a buasai un annedd unllawr yn fwy priodol i'r safle.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.  

 

      

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd John Byast oedd cynnig rhoddi caniatâd i'r cais a hefyd cafwyd cynnig cyffelyb gan y Cynghorydd Arthur Jones gan gofio nad cais ôlddyddiol oedd hwn.

 

      

 

     O 6 phleidlais i 4 PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a dirprwyo'r hawl i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais hwn ond ar ôl cwblhau y gwaith ymgynghori gyda'r ymgeiswyr yn foddhaol fel a nodir uchod a hefyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Tecwyn Roberts yn dymuno cofnodi nad oedd wedi pleidleisio ar y cais hwn.

 

      

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

49C243A CAIS LLAWN AR GYFER DYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL, CODI 9 BYNGALO A 8 O ANHEDDAU YNGHYD Â ADDASU'R MYNEDFA BRESENNOL I  GERBYDAU A CHERDDWYR YN VISTA DEL MAR, PENRHODYN, Y FALI 

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Yng nghyfarfod mis Tachwedd o'r Pwyllgor hwn roedd y swyddogion wedi argymell penderfyniad rhanedig ar y cais, ac roedd yr aelodau wedi rhoddi caniatâd llawn i'r cais yn groes i hyn, a gosod Cytundeb Adran 106 ynglyn â darparu tai fforddiadwy am y rhesymau a ganlyn:  

 

      

 

Ÿ     mae'r tir wedi ei ddyrannu yn unol â'r CDU;

 

Ÿ     darpariaeth wedi'i wneud ar gyfer tai fforddiadwy;

 

Ÿ     budd cynllunio

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi cyfle i'r swyddogion baratoi adroddiad ar resymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Yng nghyfarfodydd Rhagfyr a Ionawr penderfynwyd gohirio gwneud penderfyniad ar y cais gan fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno trydydd adroddiad a oedd yn codi materion newydd ac y buasai'n rhaid ymgynghori mwy arnynt.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Asiant yr ymgeisydd wedi cyflwyno llythyr arall ac roedd hwnnw gerbron yn y cyfarfod.

 

      

 

     Credwyd bod y datblygiad byngalos yn dderbyniol a chafwyd argymhelliad i ganiatáu.  Fodd bynnag roedd y bwriad i godi tai yn gyfochrog gyda'r arfordir yn annerbyniol oherwydd effaith weledol ar y cyffiniau sydd y tu mewn i Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  Hefyd mae'r datblygiad ar drugaredd erydiad arfordirol a rhagwelir y bydd hwnnw rhwng 5m a 20m dros yr 50 mlynedd nesaf.  Oherwydd anawsterau proffwydo ar hyn o bryd mae'r Cyngor i fod yn ofalus ac mae'r agwedd ofalus sydd ym Mholisi Cynllunio Cymru yn berthnasol.  Nid yw darparu system ddraenio yn ateb i'r broblem erydu ar yr arfordir yn union ger y clogwyn.  Nid yw darparu plotiau ar yr arfordir yn creu unrhyw fanteision ychwanegol yng nghyswllt tai fforddiadwy.  

 

      

 

     Siaradodd y Cynghorydd Goronwy Parry, yr aelod lleol, gan ddangos ffotographau oedd i fyny yn y Siambr yn dangos erydiad ger troed y clogwyn.  Atgoffodd yr aelodau o gyfarwyddyd geir ym Mholisi Cynllunio Cymru ar ddatblygu ar yr arfordir, ac yn arbennig paragraff 5.6.3 sy'n dweud "local planning authorities should acknowledge inter-relationships between the physical, biological and land use characteristics of their coastal areas and the likely effects of climate change.  This will enable local planning authorities to identify those areas likely to be suitable for development, those subject to significant constraints and those considered to be unsuitable for development.  Areas subject to constraints or considered unsuitable for development may include those where conservation of the natural and historic environment requires development to be limited, where visual intrusion will need to be carefully controlled and where there may be risks of erosion, flooding or land instability'.

 

      

 

     Yna atgoffodd y Cynghorydd yr aelodau fod Bae Beddmanarch wedi ei ddynodi yn SSSI ai fod o fewn yr AOHNE a bod paragraff 5.8.1 yn0 dweud "planning authorities will have an important role in the protection of designated marine and coastal areas where a land based development might have an effect on the reasons for designation, and in preventing any significant effect on such areas of nature conservations interest'.  Mae Paragraff 5.8.3 yn dweud 'new coastal development should not generally be permitted in areas which would need expensive engineering works, either to protect developments on land subject to erosion by the sea or to defend land which might be inundated by the sea.  There is also the need to consider the possibility of such works causing a transfer of risks to other areas'.  Mae Paragraff 13.14 yn dweud 'special attention need to be given to minimising and managing the risks associated with climate change and that the precautionary principle should be used and consideration should be given to how a changing climate is expected to influence environmental risks over the lifetime of new development'.  Mae Paragraff 13.8.1 yn dweud 'development should not be allowed if expensive engineering projects, which will have implications for the public purse, will be required to prevent erosion, or in the case of receding cliffs if the site is likely to be affected during the lifetime of the development, or to contribute to the possibility of pollution at a later date by loss or land to the sea.'

 

      

 

     Wedyn aeth y Cynghorydd Goronwy Parry, ymlaen i ddweud bod y "Trydydd Adroddiad" yn cydnabod goblygiadau datblygu ochr arfordirol y safle.  Buasai'r draeniad dwr wyneb o'r safle yn ychwanegu eto at y broblem erydu arfordirol.  Croesawodd y sylwadau i ddefnyddio, yn yr achos hwn, yr egwyddor o ofal a amlinellwyd yn y polisi cendlaethol.0 Roedd y safle y tu allan i'r ardal a fabwysiadwyd gan Dwr Cymru ac efallai y cyfyd problemau carthffosiaeth.

 

      

 

     Wedyn dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd y dylai'r Awdurdod fod yn bryderus ynghylch costau amddiffyn yr arfordir petai'r datblygiad yn mynd yn ei flaen.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd J Arwel Edwards oedd adleisio sylwadau'r Cynghorydd G O Parry ac roedd yn anhapus gyda datblygiad ar yr arfordir hwn.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Keith Thomas nad oedd unrhyw dystiolaeth i ddangos bod erydiad arfordirol yn uwch na 1.1mm y flwyddyn, proffwydo yn unig yr oedd y ffigyrau yn yr adroddiad.    Dim ond haeriad o erydiad oedd gerbron.  Roedd yr ymgeiswyr wedi datgan yn glir y dylid ystyried safle'r cais fel uned ac nid fel dwy ran; ni chredai'r Cynghorydd y câi'r datblygiad unrhyw effaith andwyol0 ar y tirwedd.  Roedd mwy o bwysau'n cael ei roddi ar ddarn arbenigol a gyflwynwyd ar ran gwrthwynebwyr nag ar gyflwyniad yr ymgeisydd.  Roedd ef yn cynnig caniatau y cyfan o'r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod swyddog proffesiynol wedi paratoi adroddiad teg a chytbwys a'i bod hi'n ddyletswydd bod yn ofalus iawn wrth wneud penderfyniadau o'r fath.  Gan mai un darn o dir yn unig ar y safle oedd hwn nid oedd hyn yn golygu bod raid datblygu y cyfan o'r safle.

 

      

 

     Ychwanegodd y Cynghorydd Denis Hadley bod Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhoddi'r arfordir yn y man hwn yng nghategori "C" a mynegodd bryderon oherwydd bod y safle y tu mewn i'r ffiniau datblygu yn yr CDU.  

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Arthur Jones roedd penderfyniad eisoes wedi'i wneud ar y cais gan y Pwyllgor. Pan oedd caniatâd yn cael ei roddi i'r tai cyffiniol roedd rhai yn siarad am erydiad.  Ni châi with ty arall unrhyw effaith ar yr Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol. Roedd erydiad yn fater o bwys ac roedd angen cymryd camau gofalus oherwydd y goblygiadau ariannol i'r Awdurdod hwn yn y dyfodol.

 

      

 

     Wedyn gan y Cynghorydd Keith Thomas cafwyd cynnig i roddi caniatâd llawn i'r cyfan o'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd John Roberts oedd cynnig bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad ac argymhellion y swyddog sef cael penderfyniad deublyg - caniatau 9 byngalo ond gwrthod 8 ty ar ochr arfordirol y safle, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

      

 

     Oherwydd derbyn yn gyffredinol bod yma rywfaint o erydiad ac oherwydd yr arweiniad yn y Polisi Cenedlaethol yng nghyswllt mabwysiadu ffordd ofalus o symud ymlaen rhoes y Cyfreithiwr gyngor i'r Pwyllgor roddi rheswm am beidio â dilyn polisi os oedd yn dymuno caniatáu y cyfan o'r cais.  Mewn ymateb i'r Cynghorydd Keith Thomas cadarnhaodd bod y cyngor hwn yn cael ei roddi am nad oedd y wybodaeth gerbon y Pwyllgor ar erydiad ar gael iddo pan roddwyd sylw i'r cais y tro cynt.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Keith Thomas roddi caniatâd i'r cyfan o'r cais am y rhesymau a roddwyd o'r blaen.  

 

      

 

Wedyn cafodd yr aelodau eu hatgoffa gan y cyfreithiwr o oblygiadau erydiad arfordirol a bod angen glynu wrth egwyddorion gofal.

 

      

 

     O 8 bleidlais i 5 PENDERFYNWYD caniatáu'r datblygiad ar y cyfan o'r safle a hynny'n groes i argymhelliad y swyddogion a oedd o blaid penderfyniad deublyg - aethpwyd yn groes am y rhesymau a roddwyd o'r blaen a hefyd gyda'r amodau safonol.

 

 

 

5     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Nodwyd nad oedd unrhyw geisiadau economaidd i'w hystyried.

 

      

 

6     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

      

 

6

14C190A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI UN ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR YN MAES LLAN FAWR, TYN LON

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Gwnaeth Cath Wynne-Pari ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y rhai yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol yn gwrthwynebu'r bwriad a'r prif bolisi a gafodd sylw wrth bennu argymhelliad y swyddog oedd Polisi 53 (tai yn y cefn gwlad).  Roedd y safle yn groes i'r polisïau dan Adran 54 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd W I Hughes, yr aelod lleol, bod 21 o anheddau yn Glanrafon, ac nad oedd y map a gyflwynwyd i'r aelodau yn adlewyrchiad cywir o ba mor agos oedd y safle i'r tai eraill a theimlai ei fod mewn gwirionedd ar derfyn y pentref.  Cais oedd hwn gan gwpl ifanc.  Roedd y gwr ar ôl colli ei swydd wedi sefydlu ei fusnes ei hun ac yn cael ei wahardd rhag parcio ei fan o flaen ei dy presennol oherwydd amod a roddwyd ar stad o dai.  Nid oedd yr un ty ar werth yn y cyffiniau nac ar gael i'w addasu ac ni theimlai'r Cynghorydd Hughes bod y safle yn y cefn gwlad.  Roedd yr ymgeisydd wedi cynnig gwelliannau i'r briffordd a gellid edrych arnynt fel enillion cynllunio.  

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd bod y swyddogion yn fodlon gyda'r cynigion i wella'r fynedfa.  

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd John Roberts yn siwr beth oedd Tyn Lon, un ai clwstwr neu ran o bentref ac mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y lle wedi'i ddiffinio felly ond bod y safle dan sylw heb fod yn y pentref nac ar ei gyrion.  

 

      

 

     Cytuno oedd y Cynghorydd Arthur Jones gyda'r aelod lleol, sef bod y cynllun yn gamarweiniol.

 

     Ar draws y ffordd roedd capel a chredai bod yr adeilad ar gyrion y pentref.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arthur Jones.

 

      

 

     O 8 bleidlais i 1 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn:-

 

      

 

Ÿ     roedd y cais yn bodloni gofynion Polisi 50

 

Ÿ     safle'r cais ar derfyn y pentref

 

Ÿ     nid oedd y cynnig yn mynd y tu draw i'r gofynion

 

Ÿ     nid oedd yr un ty arall ar werth nac ar gael i'w addasu

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor byddai'r cais hwn yn otomatig yn cael ei ohirio i'r cyfarfod nesaf er mwyn i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr John Byast na Tecwyn Roberts ar y cais.

 

 

 

6

34LPA850/CC  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CREU FFORDD A THROEDFFORDD NEWYDD, YSGOL NEWYDD, CANOLFAN INTEGREDIG NEWYDD, YSTAD O DAI AC UNED ADEILADWAITH NEWYDD AR DIR SY'N RHAN O SAFLE COLEG MENAI, LLANGEFNI

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i gais gael ei derbyn ynglyn â'r uchod, ac oherwydd maint y cynnig, a bod rhan ohono y tu allan i'r ffin datblygu, roedd y swyddog yn argymell cynnal ymweliad safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais yn ôl dymuniad y swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.     

 

      

 

6

38C213 CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CREU MYNEDFA GERBYDOL NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER GLAN GORS, RHOS-GOCH

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli 0Cynllunio nad oedd sylwadau statudol yn codi unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig hwn; roedd llythyrau yn gwrthwynebu ar gael ac wedi eu crynhoi yn adroddiad y swyddog.  Roedd safle'r cais ar dir amaethyddol.  Rhoddwyd sylw i Bolisi 53 wrth bennu argymhelliad y swyddog a chan fod y safle yn y cefn gwlad roedd, yn ddiamheuaeth, yn groes i'r polisïau yn ôl Adran 54 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Thomas Jones, yr aelod lleol, roedd yma elfen o fforddiadwyaeth - cwpl ifanc oedd yr ymgeiswyr ac un ohonynt yn saer ac o'r herwydd gallai wneud rhywfaint o'r gwaith adeiladu ei hun.  Tir gwael o safbwynt amaethyddol oedd hwn a chreigiau arno.  Yn y cyffiniau roedd o leiaf naw ty arall yn creu clwstwr a chafwyd argymhelliad o ganiatáu gan y Cynghorydd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Cafodd yr aelodau eu hatgoffa gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod raid i benderfyniad fod yn seiliedig ar egwyddor defnydd tir nid ar amgylchiadau nac ar bwy oedd yr ymgeiswyr.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Eurfryn Davies dywedodd y Cynghorydd Thomas Jones bod tai eraill rhyw fymryn y tu allan i ffiniau'r map a roddwyd i'r aelodau.

 

      

 

     O 7 bleidlais i 5 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rheswm a ganlyn:-

 

      

 

Ÿ     roedd y safle y tu mewn i glwstwr o dai

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor byddai'r cais hwn yn otomatig yn cael ei ohirio i'r cyfarfod nesaf er mwyn i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

           

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

7

12C326  NEWID DEFNYDD Y CLWB I FOD YN BEDWAR TY TREF MOETHUS YN BRITISH LEGION CLUB, CHURCH STREET, BIWMARES

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Fel aelod lleol dywedodd y Cadeirydd ei fod yn dymuno siarad ar y cais ac ildiodd y Gadair i'r Cynghorydd Arthur Jones, yr Is-Gadeirydd, am yr eitem benodol hon.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai testun y cais oedd yr hen British Legion Club, eiddo yng nghanol teras ac o boptu dau dy yn rhannu waliau cyffredin.  Nodwyd bod yr aelod lleol a'r Cyngor Tref wedi mynegi pryderon ynghylch y cais.  

 

      

 

     Rhoddwyd sylw i'r egwyddor o ddatblygiad preswyl, effaith weledol a hefyd yr effaith ar bleserau y tai o gwmpas ac roedd popeth yn foddhaol.  Pe câi rhai materion eu datrys yn foddhaol roedd y swyddog yn argymell y dylid rhoddi awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais gyda'r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog a chydag amod yng nghyswllt draenio - yn hytrach na gwneud Cytundeb dan Adran 106.

 

      

 

     Y pryder pennaf yn ôl y Cynghorydd R L Owen, yr aelod lleol, oedd y cyfyngiad ar barcio rhwng 7.00 a.m. a 7.00 p.m. am chwe mis o'r flwyddyn.

 

      

 

     Roedd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd yn cydnabod bod cyfyngiadau parcio ar y lôn hon ond o gofio beth oedd yr hen ddefnydd o'r safle a hefyd nad oedd cyfleusterau parcio gyda'r cynnig gerbon, nid oedd hynny'n ddigon o reswm i wrthod y cais a chredai'r swyddog0 ei fod yn dderbyniol ond bod prinder cyffredinol o lecynnau parcio yn yr ardal hon.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd R L Owen yn derbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o ganiatáu gyda'r amod y câi'r amodau eu cadw.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais pe câi'r eitemau ychwanegol eu datrys trwy ymgynghori a hefyd yn amodol ar amod yng nghyswllt draenio.

 

      

 

     I bwrpas y cofnodion, nodwyd nad oedd y Cynghorydd R L Owen wedi pleidleisio ar y cais.

 

           

 

7

17C250G ESTYNIAD I'R DEFNYDD TIR AR GYFER LLEOLI 12 CARAFAN SYMUDOL O O.S. 5500 ER MWYN GALLUOGI LLEOLI 11 CARAFAN SYMUDOL YCHWANEGOL AR GYFER DEFNYDD GWYLIAU MEWN CYSYLLTIAD Â'R GANOLFAN PYSGOTA PRESENNOL, POB CYFNOD GWYLIAU I FOD AM O LEIAF 3 MIS YNGHYD Â LLEOLI PORTACABIN I DDARPARU CYFLEUSTERAU TOILEDAU A CHAWOD YN LLYN Y GORS, LLANDEGFAN

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y safle ger maes pysgota Llyn y Gors ac yn llecyn coediog a chrybwyllodd hefyd hanes cynllunio'r lle.  Cafwyd gwrthwynebiadau gan yr Adran Briffyrdd a'r Cyngor Cymuned ond yn ogystal derbyniwyd deiseb ac arni 109 o lofnodion a 19  llythyr o wrthwynebiad.  Y mater cynllunio pwysicaf, oedd effaith y datblygiad ar draffig ac ar bleserau cymdogion.  Buasai'r carafanau yn rhy agos i'r tai yn y cyffiniau a chaent effaith ddrwg ar y pleserau.      

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies, yr aelod lleol, bod y safle hwn yn un o bwys i'r frawdoliaeth bysgota yng Nghymru gyfan, a hoffai weld y lle yn llwyddo yn y dyfodol.  Ond roedd yn derbyn nad oedd y ffordd at y safle yn cyrraedd y safon serch bod gwaith eisoes wedi cychwyn ar welliannau.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.      

 

      

 

7

19C624B  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANENDD YNGHYD Â CHREU MYNEDA NEWYDD I BERBYDAU YN MONUMENT HOUSE, MAESHYFRYD ROAD, CAERGYBI

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y fynedfa i'r safle ar hyd Cleveland Crescent yn dderbyniol oherwydd yr effaith andwyol ar gyfleusterau parcio yn Cleveland Crescent, sef cloi llecynnau parcio a gostwng cyfanswm y nifer o lecynnau oedd ar gael.

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd y Cynghorydd John Chorlton, yr aelod lleol, ei fod yn derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod ac awgrymodd bod yr ymgeisydd yn chwilio am gyngor yng nghyswllt darparu mynedfa arall bosib i'r safle a chael dros y gwrthwynebiad uchod.  Hefyd dywedodd bod y mynedfa yn croesi stad tai Cyngor lle roedd nifer fawr o blant yn byw.  

 

      

 

     Mewn ymateb nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod swyddogion yn fodlon mynd i drafodaethau eraill gyda'r ymgeiswyr i geisio mynedfa arall bosib i'r safle.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig bod aelodau yn ymweld â safle'r cais a chael cyfle i asesu'r sefyllfa yng nghyswllt y fynedfa ei hun, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod angen rhoddi sylw i bryderon yr aelod lleol a'r bobl leol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad o wrthod gan y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

O 8 bleidlais i 4 PENDERFYNWYD ymweld â'r safle fel bod aelodau yn medru asesu'r sefyllfa yng nghyswltl y fynedfa drostynt eu hunain.

 

           

 

7

19C896AD  GOSOD HYSBYSFWRDD I'R GYMUNED YN STAD TRESEIFION, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod safle'r cais yn mherchenogaeth y Cyngor Sir.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

           

 

7

19LPA707ACC  CREU MAES PARCIO AR DIR YN STANLEY CRESCENT, CAERGYBI

 

      

 

     Roedd y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor ar dir ym mherchenogaeth y Cyngor.      

 

      

 

     Nodwyd bod y Cynghorydd R Ll Jones wedi cyflwyno llythyr yn cefnogi'r cais ond ynddo gofynnodd am godi arwyddion clir er mwyn osgoi dryswch a thagiant traffig.

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo'r pwer i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio gymeradwyo'r cais os na cheir unrhyw sylwadau croes yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori a gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.       

 

      

 

7

19LPA851CC  DYMCHWEL A CHLIRIO'R HEN ADEILADAU YNGHYD Â CHREU MAES PARCIO AR Y SAFLE AR DIR YN VICTORIA ROAD, CAERGYBI

 

      

 

     Roedd y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor ar safle yn rhannol ym0 mherchenogaeth y Cyngor.

 

      

 

     Nodwyd bod 0deiseb ac arni 15 o lofnodion a 2 lythyr o wrthwynebiad wedi'u derbyn ynghyd â gwrthwynebiad yr Harbour Motors.  Roedd y swyddog yn argymell caniatáu'r cais.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.     

 

      

 

7

22C158A  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI BYNGALO AR DIR GER BRYN TEG, LLANDDONA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod Cyfarwyddwr i gwmni asiant yr ymgeiswyr yn aelod o'r pwyllgor cynllunio.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.     

 

      

 

7

22C168  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER FRON DEG, LLANDDONA

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo'r pwer i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio gymeradwyo'r cais yn amodol ar dderbyn canlyniadau profion mandylledd yng nghyswllt traeniad dwr wyneb a gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.      

 

      

 

7

24C103A  ADDASU AC EHANGU Y WERN, PENGORFFWYSFA

 

      

 

     Mae cyfarwyddwr i gwmni asiant yr ymgeiswyr yn aelod o'r pwyllgor cynllunio.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.     

 

      

 

7

28C317A  CAIS I NEWNID DEFNYDD YR IARD YSGOL I LE PARCIO YN YSGOL GYNRADD PENCARNISIOG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd fod safle'r cais ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.     

 

      

 

7

29C112  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI 6 ANNEDD YNGHYD Â ADDASU'R FYNEDFA GERBYDOL BRESENNOL AR DIR GER Y BRYN, LLANFAETHLU

 

      

 

     Cynigiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr aelodau yn ymweld â'r safle gan fod y swyddogion yn paratoi adroddiad ar y cynnig.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn ôl dymuniad y Swyddog.      

 

      

 

7

30C562A DYMCHWEL YR ANNEDD BRESENNOL YNGHYD Â CHODI ANNEDD NEWYDD YN THE COTTAGE, LLYS MATHAFARN, LLANFAIR M.E.

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd disgrifiad o'r cynnig hwn ger maes pysgota Tyddyn Sargent, sef cae ac arno adeilad tebyg i sied o goed ac un y rhoddwyd yn ddiweddar iddi dystysgrif cyfreithlondeb i'w defnyddio fel annedd.  Y bwriad oedd dymchwel yr adeilad ac yn ei le codi annedd.  

 

      

 

     Rhoddwyd sylw i Bolisi 54 y cynllun lleol ac i bolisi HP9 y Cynllun Datblygu Unedol (tai newydd yn lle hen rai) wrth bennu argymhelliad y swyddog.  Roedd y cais yn groes i'r polisiau yn ôl Adran 54 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref.  Cafwyd sylwadau gan gyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ond nid oedd yr un gwrthwynebiad i'r bwriad.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at y ddarpariaeth dan Bolisi HP9 "rhaid i'r hen dy fod â hawl defnydd wedi ei sefydlu fel ty parhaol ..... nid yw hyn yn cynnwys adeiladau na fwriadwyd iddynt fod yn gartrefi parhaol".  Ni fwriadwyd yr adeilad erioed fel annedd barhaol ac roedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu am resymau diogelwch y briffordd.  Cafwyd argymhelliad gan y swyddog i wrthod y cais.

 

      

 

     Nodwyd bod yr ymgeisydd yn anghytuno gyda'r swyddog ar a oedd polisi 50 (pentrefi rhestredig) yn berthnasol ai peidio i'r cais hwn gan fod y bwriad mor agos i Dyddyn Sargent.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd Arthur Jones bod adeilad ar y safle'n barod a hwnnw wedi'i ddefnyddio i ddibenion preswylio am y naw mlynedd diwethaf, a'r adeilad wedi'i gysylltu0 gyda'r cyfleusterau carthffosiaeth a hefyd gyda'r holl wasanaethau; heb fod ymhell roedd tai eraill ac ni châi'r bwriad effaith ddrwg ar y tirwedd.  Roedd gwaith trwsio sylweddol angen ei wneud ar yr adeilad ac nid oedd hynny'n ymarferol.  Yn ôl y Cynghorydd Arthur Jones cais am annedd unllawr syml oedd gerbon ac yng nghymuned Tyn-y-gongl.  

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd Tecwyn Roberts nad oedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu a chais oedd hwn gan gwpl ifanc yn dymuno byw yn yr ardal.  Nid oedd hanes o unrhyw ddamweiniau ar y ffordd ac nid oedd loriau mawr yn cael unrhyw drafferthion i fynd ar ei hyd.  Cais oedd hwn i gynnig cymorth i gwpl ifanc.

 

      

 

     Nododd y Rheolwr Rheoli0 Cynllunio bod yr ymgeisydd eisoes yn byw mewn ty gerllaw.

 

      

 

     Hefyd dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Priffyrdd) y buasai'r datblygiad yn denu mwy o draffig i'r safle - peth na fuasai'n hyrwyddo diogelwch y briffordd.

 

      

 

     Er bod y Cynghorydd Eurfryn Davies yn derbyn adroddiad y swyddog nododd, fodd bynnag, bod yr holl wasanaethau yn eu lle a gofynnodd beth fuasai sefyllfa'r awdurdod petai'r ymgeisydd yn apelio.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ei fod o'r farn bod angen gwrthod y cais hwn ac ni châi unrhyw broblem mewn amddiffyn penderfyniad o'r fath mewn apêl.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd John Roberts bod y swyddog wedi dweud bod y cais y tu allan i bolisi a gofynnodd sut oedd y rheini a gefnogai'r bwriad am ymateb i'r pwynt hwn?

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Arthur Jones mai bwriad oedd yma i godi annedd newydd yn lle hen un a chynigiodd y dylid rhoddi caniatâd i'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     O 9 pledlais PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn

 

      

 

Ÿ     roedd caniatâd cynllunio eisoes ar y safle

 

Ÿ     roedd y Cyngor Cymuned yn cefnogi'r cais

 

Ÿ     roedd y safle y tu mewn i glwstwr o dai - llenwi bwlch

 

Ÿ     digon o lecynnau pasio ar hyd y ffordd

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor byddai'r cais hwn yn otomatig yn cael ei ohirio i'r cyfarfod nesaf er mwyn i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

7

40C28E  CODI BLOC FFLATIAU GYDA 8 UNED YNGHYD Â ADDASU MYNEDFA I GERDDWYR AC I GERBYDAU YNGHYD Â THORRI COED A BERTHI AR DIR GER WHEEL & ANCHOR, MOELFRE

 

      

 

     Cynigiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr aelodau yn ymweld â'r safle gan fod y swyddogion yn paratoi adroddiad ar y cynnig.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn ôl dymuniad y Swyddog.

 

      

 

      

 

7

48LPA851/CC  NEWID DEFNYDD O DDEPO SORTIO, LLWYTHO A THRIN GWASTRAFF I DDEPO SORTIO, LLWYTHO A THRIN GWASTRAFF GYDA GORSAF TROSGLWYDDO GWASTRAFF A CHANOLFAN AIL GYLCHU GWASTRAFF PRESWYL YNGHYD Â DARPARU MANNAU STORIO YCHWANEGOL, PONT BWYSO A CHANOLFAN GWYBODAETH AR DIR GER CAE'R GLAW QUARRY, GWALCHMAI UCHAF, GWALCHMAI

 

      

 

     Disgrifiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y cais.  Bydd yr un prosesau yn parhau ar y safle, ond bydd swm y gwastraff y deuir ag ef i mewn yn cynyddu o 5,000 i 20,000 tunnell y flwyddyn.

 

     Mae'r cynnig yn sefydlu cyfleuster fydd yn lleihau swm y deunyddiau anfonir i lenwi i mewn er mwyn cyfarfod â thargedau llym ynglyn0 ag ailgylchu gwastraff fel y'u gosodwyd gan y Cynulliad yn y Strategaeth Gwastraff Cenedlaethol.  Mae'r safle wedi ei glustnodi i ddefnydd o'r fath yn yr CDU.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.     

 

      

 

8     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

YN CODI :

 

      

 

37C41B - cae ordnans 8432 Hafod, Brynsiencyn - yn groes i'r hyn a ddywedwyd yn yr adroddiad nodwyd nad oedd penderfyniad wedi'i wneud ar y cais hwn eto.

 

      

 

9     APELIADAU

 

      

 

PONCIAU GLEISION, CARREG-LEFN

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl a wrthodwyd yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod rhoi caniatâd cynllunio amlinellol am un annedd ar yr uchod dan gais cynllunio 38C203.

 

      

 

10     CYFARWYDDYD CYNLLUNIO ATODOL -

 

     GWERTHUSO CYMERIAD ARDAL CADWRAETH TRAETH CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 24 0Ionawr, 2005, a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn ar 3 Mawrth, 2005 i'w fabwysiadu fel Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol.

 

      

 

Mae Adain Amgylchedd Adeiliedig a Thirwedd y Gwasanaeth Cynllunio ar hyn o bryd yn ymwneud â rhaglen dreigl o adolygiadau ar gyfer pob un o'r ardaloedd0 cadwraeth dros y blynyddoedd nesaf, a bydd hyn yn helpu gyda gweithgareddau rheoli datblygu.  

 

      

 

Roedd y gwerthusiad yn canolbwyntio ar ddiddordeb hanesyddol penodol, cymeriad, edrychiad a chadwraeth yn unol â Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.  Roedd y gwerthusiad cymeriad hefyd yn edrych ar y terfyn presennol ac argymhellwyd newidiadau bychain o'r dynodiad gwreiddiol i ehangu ac i newid y ffin fel y manylir arno yn yr adroddiad.

 

      

 

     Yn dilyn paratoi'r ddogfen ddrafft rhoddwyd rhybudd cyhoeddus yn y wasg leol ac fe wnaed gwaith ymgynghori cyhoeddus yn eang yn ystod y chwe wythnos rhwng 15 Medi a 29 Hydref, 2004.  Cafwyd un llythyr yn cefnogi ac un llythyr yn gwrthwynebu ac yn dilyn gohebu gyda'r gwrthwynebydd, fe wnaed newidiadau bychain i'r ddogfen derfynol.

 

      

 

Terfynwyd y cyfarfod am 4.45 p.m.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD R L OWEN

 

     CADEIRYDD