Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 8 Mawrth 2006

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 8fed Mawrth, 2006

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 8 Mawrth, 2006

yn Neuadd y Dref, Llangefni

 

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

Y Cynghorydd J Arthur Jones - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, WJ Chorlton, Eurfryn Davies,

Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, Aled Morris Jones,

O Glyn Jones, RL Owen, D Lewis Roberts, John Roberts,

W Tecwyn Roberts

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Rheolwr Rheoli Cynllunio

Arweinydd Tim (Mwynau a Gwastraff)(JIW)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy)JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) (RE)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

YMDDIHEURIADAU:

 

 

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:  Y Cynghorwyr Peter Dunning - eitem 5.8, Gwilym O Jones - eitem 5.2,  RG Parry OBE - eitem  5.1, 5.2,

G Allan Roberts eitem 5.4, Noel Thomas - eitem 5.3, 5.6,

Hefin Thomas - eitem 4.2, 4.3, WJ Williams MBE - eitem 7.1

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB    

   

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y caswant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar

1 Chwefror, 2006 (tudalennau )

 

3

YMWELIAD A SAFLEOEDD

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd a gafwyd ar 15 Chwefror, 2006.

 

 

 

 

4

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

4.1

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

39C291K  CODI 46 O ANHEDDAU YN CYNNWYS 2 ANNEDD 2 YSTAFELL WELY, 12 ANNEDD 3 YSTAFELL WELY, 14 FFLAT 1 YSTAFELL WELY A 18 FFLAT 2 YSTAFELL WELY YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AC I GERDDWYR YN STRYD Y PACED, PORTHAETHWY

 

 

 

Ar argymhelliad y swyddog PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

 

 

4.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

42C51D  CAIS DIWYGIEDIG AR GYFER ADDASU AC EHANGU YN CYNNWYS CADW Y TOEAU FFLAT YN NHAFARN Y BULL, PENTRAETH

 

 

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Gohiriwyd ystyried y cais yn y cyfarfod blaenorol gan ddisgwyl canlyniad penderfyniad apel. Cytunodd yr aelodau eu bod yn awr mewn sefyllfa i drafod y cais.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

 

 

 

 

4.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

42C51E   CYNLLUNIAU CYFLAWN I GADW 2 DANC NWY A’I FFENS AMGYLCHYNOL, YNGHYD Â NEWID AMOD (05) AR GANIATÂD CYNLLUNIO 42C51C ‘NI CHANIATEIR DECHRAU AR Y DATBLYGIAD A GANIATEIR YMA HYD NES BYDD MANYLION Y SYSTEM AWYRELLU A’R OFFER RHEOLI AROGLEUON, YN CYNNWYS MANYLION UNRHYW DDYCTIAU ALLANOL, WEDI EU GYRRU AT A’U CYMERADWYO GAN YR AWDURDOD CYNLLUNIO LLEOL, AC WEDYN BOD YR OFFER A GYMERADWYWYD WEDI CAEL EI OSOD. BYDD RAID DEFNYDDIO’R OFFER DRWY’R ADEG TRA YN COGINIO A’I GYNNAL YN UNOL A CHYFARWYDDIADAU’R CYNHYRCHWYR’ FEL Y GELLIR CYFLWYNO A CHANIATAU’R MANYLION SY’N OFYNNOL CYN 1 EBRILL, 2006 YN NHAFARN Y BULL, PENTRAETH

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Gohiriwyd ystyried y cais yn y cyfarfod blaenorol gan ddisgwyl canlyniad penderfyniad apêl. Cytunodd yr aelodau eu bod yn awr mewn sefyllfa i drafod y cais.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

 

 

 

 

5

CEISIADAU YN CODI O’R COFNODION

 

 

 

5.1

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

16C49B  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER CAE’R DDOL, LLANBEULAN

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr Arthur Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Thechnegol) ynghylch y cais hwn.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â’r safle ar 18 Ionawr, 2006.

 

 

 

Yn y cyfarfod blaenorol roedd yr aelodau yn dymuno caniatáu’r cais hwn a oedd yn gwyro gan nad oedd yr aelodau yn teimlo bod yr adeiladau allanol yn addas i’w haddasu yn annedd.  Yn unol a Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais yma.  

 

 

 

Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn pryderu'n fawr oherwydd dymuniad blaenorol yr aelodau i ganiatáu annedd newydd yn y cefn gwlad ac yn arbennig felly o gofio bod yno adeiladau allanol y gellid eu haddasu dan y polisïau perthnasol.  Nid oedd y rheswm a roddwyd yn cyfiawnhau caniatáu'r cais a buasai'n sefydlu cynsail.  Roedd gan yr ymgeisydd ddwy annedd gerllaw a hefyd aeth y swyddog ati i gyfeirio'r aelodau at benderfyniad apêl ynghlwm wrth adroddiad y swyddog.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd R. G. Parry fod y wraig weddw hon yn chwarae rhan bwysig ym musnes y teulu, ac roedd y ddwy annedd y cyfeirir atynt uchod yn cael eu gosod am dymor hir.  Gwelodd yr aelodau, ar yr ymweliad, nad oedd yr adeiladau yn addas i'w troi'n annedd ac roedd hi'n holl bwysig fod y wraig hon yn byw yn bur agos i'r busnes ac roedd yn fodlon gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda'r Cyngor.  Roedd y busnes yn cyflogi pum unigolyn amser llawn a thri neu bedwar yn rhan amser.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd tystiolaeth wedi ei chyflwyno a oedd yn cadarnhau fod y busnes angen annedd ychwanegol.

 

 

 

Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd RL Owen i lynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais hwn, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd  Eurfryn Davies ei bod yn amlwg yn yr ymweliad â’r safle fod yr adeiladau yn cael eu defnyddio fel rhan o’r busnes.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd Glyn Jones bod y cais hwn yn bodloni pedwar o'r pum maen prawf dan Bolisi 53, ac o'r herwydd roedd am gefnogi'r cais.

 

 

 

Tueddu i ganiatáu yr oedd y Cynghorydd Fowlie hefyd oherwydd bod yn y cais elfen economaidd a'r busnes dan sylw hefyd yn rhedeg cynllun ailgylchu.

 

 

 

Roedd hwn yn fusnes cadarn ac ni fuasai ychwanegu annedd arall yn cael effaith arno mewn unrhyw ffordd o gofio bod yr ymgeisydd yn berchennog dwy annedd arall ac am y rhesymau hyn ni fedrai'r Cynghorydd John Chorlton gefnogi.

 

 

 

Ni chredai'r Cynghorydd J. Arthur Jones bod y cais yn cydymffurfio gyda'r polisïau cyfredol ac os oedd y cais gerbron yn dderbyniol yna roedd raid diwygio'r polisïau hynny.  Am y rheswm hwn cafwyd cynnig gan y Cynghorydd i dderbyn adroddiad y swyddog a dileu'r penderfyniad blaenorol a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

 

 

Teimlai'r Cynghorydd Aled Morris Jones bod yma dystiolaeth yn dangos fod yr ymgeisydd yn cyflogi pobl leol a buasai'n rhaid i unrhyw ganiatâd gydymffurfio gyda darpariaethau Adran 106.  Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod modd i ymgeisydd apelio i bwrpas dileu cytundeb dan Adran 106 ar ôl 5 mlynedd.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i lynu wrth eu penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais hwn a oedd yn groes i bolisiau: Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen (5)

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ddiddymu’r penderfyniad blaenorol ac i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J Arwel Edwards, Denis Hadley, J Arthur Jones, D Lewis Roberts, J Arwel Roberts (7)

 

 

 

Ymatal:  Y Cynghorwyr John Roberts, Tecwyn Roberts

 

 

 

PENDERFYNWYD diddymu’r penderfyniad blaenorol, a derbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais sy’n gwyro am y rhesymau a roddwyd.  

 

 

 

5.2

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

16C166/ECON  CAIS I GODI GWAITH NWY-BIO, CREU MYNEDIAD NEWYDD AR GYFER CERBYDAU YNGHYD A THIRLUNIO AR RANNAU O GAEAU O.S. 7689, 7174, 6760 GER CAE’R GLAW, GWALCHMAI

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd PM Fowlie ac nid oedd yn bresennol yn cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd RG Parry OBE ddatganiad o ddiddordeb yn y cais, ond ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol, dywedodd y buasai yn cymeryd rhan yn y drafodaeth.  Gan y Cyfreithiwr cafwyd gair o gadarnhad bod y Cynghorydd Parry wedi trafod y mater gydag ef a’i ddiddordebau yn y mater, ac roedd o’r farn, dan yr amgylchiadau hyn, y cai’r Cynghorydd Parry annerch y cyfarfod ond ni fedrai bleidleisio gan nad oedd yn aelod o'r Pwyllgor.  

 

 

 

I bwrpas y cofnodion dywedodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts na fynegodd ef farn yn ystod yr ymweliad â'r safle er gwaethaf yr hyn a awgrymwyd. 

 

 

 

Cafwyd ymweliad â’r safle ar 14 Rhagfyr, 2005.  Gyda chryn ddiddordeb gan y cyhoedd yn y cais hwn yn y cyfarfod blaenorol penderfynwyd gohirio’r drafodaeth er mwyn chwilio am le addas arall a oedd yn fwy i gynnal y drafodaeth.

 

 

 

Gan yr Arweinydd Tîm (Mwynau a Gwastraff) cafwyd manylion llawn am y cynnig, gan gynnwys cynlluniau diwygiedig gan yr ymgeiswyr i dirlunio a chuddio'r gwaith, a manylodd hefyd ar ymateb cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol gan gynnwys ymateb Cyngor Cefn Gwlad Cymru; yn yr ymateb hwnnw nid ydynt yn gwrthwynebu mewn egwyddor ac eithrio yr effaith weledol, ac roedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gefnogol yn amodol ar sicrhau trwydded PPC foddhaol.  Rhoddwyd sylw i bolisïau lleol a chenedlaethol gan gynnwys Nodiadau Cyngor Technegol (Cymru) - (TAN) 8 (Cynllunio ac Ynni Adnewyddadwy) a TAN 21 (Gwastraff).  Y prif faterion cynllunio oedd y broses dreulio anaerobig, yr effaith weledol, priffyrdd, swn ac arogleuon, elfennau economaidd a chynaliadwyaeth fel y manylwyd ar y cyfryw bethau yn adroddiad gynhwysfawr a manwl y swyddog.  Gwrthwynebu y cynnig a wnaeth Cynghorau Cymuned Gwalchmai a Bryngwran a mynychwyd cyfarfod cyhoeddus gan Arweinydd Tim (Mwynau a Gwastraff) a swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd.  Daeth 388 o lythyrau i law yn gwrthwynebu tra roedd 23 arall yn cefnogi.  Buasai'r cynnig gerbron yn creu pum swydd amser llawn a 21 o swyddi yn gysylltiedig mewn modd anuniongyrchol.  Am y rhesymau a roddwyd cafwyd argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog.

 

 

 

Mewn ymateb cyfeiriodd y Cynghorydd R. G. Parry at wrthwynebiadau lu gan bobl leol a rhai yn byw ymhell o'r safle, a chyfeiriodd at wrthwynebiadau Cynghorau Cymuned Gwalchmai a Bryngwran a gwrthwynebiad Cyngor Cefn Gwlad Cymru.  Yn y gwrthwynebiadau mynegwyd pryderon difrifol ac yn eu plith cyfeiriwyd at y lleoliad amlwg ac y buasai'n well cael darpariaeth o'r fath ar stad ddiwydiannol - pwnc nad oedd Awdurdod Datblygu Cymru yn cyflwyno sylwadau arno.  Dywedwyd fod 98% o'r arogleuon yn mynd i gael eu cadw y tu mewn i ffiniau safle'r cais ond roedd yr aelod yn ofni ynghylch effaith 2% yn dianc.  Roedd loriau sgipiau yn dal i deithio trwy bentref Gwalchmai ar hyd yr A5 er mai'r A55 oedd y llwybr gorau a mwyaf addas iddynt a'r ofnau yn lleol oedd yr ychwanegid at y pwysau petai'r bwriad hwn yn cael caniatâd; roedd haeriad hefyd y gallai'r offer llosgi greu swn, roedd peryg llygru y nentydd oherwydd golchi loriau.  Ar hyn o bryd mae gwastraff o'r fath yn cael ei gludo o Iwerddon i Loegr a gofynnodd a oedd modd i'r bobl leol gyflwyno pryderon yn uniongyrchol i'r Asiantaeth yr Amgylchedd.  Roedd wedi ei ddychryn gan yr hyn a ddarllenodd am waith bio nwy cyffelyb yn Holdsworthy, Dyfnaint a gofynnodd a oedd yr aelodau wedi ymweld â'r safle hwnnw a/neu wedi darllen adroddiad Mudiad Amddiffyn Ardal Gwalchmai ar y pwnc hwn.

 

 

 

Yr un pryderon yn union oedd yn poeni y Cynghorydd Gwilym Jones, ac roedd gwaith ymholi yn cael ei wneud ar drefniadau ar waith i gael barn arbenigol.  Gwnaed ymholiadau electronig ynghylch Gwaith Holdsworthy - mae pobl yr ardal wedi sefydlu gwefan sy'n dangos fod arogleuon yn taro dyffrynnoedd draw o'r safle.  Yno nid oedd yr adeilad gwreiddiol yn ddigon mawr ac o'r herwydd mae'n cael ei ymestyn yn gyson ond hefyd teimlwyd :

 

Ÿ

bod y datblygiad yn cyfateb i 'falltod' yn y cefn gwlad agored ac yn cael ei ddefnyddio fel safle i ddympio pethau

 

Ÿ

câi effaith andwyol ar ddiwydiant twristiaeth heb sôn am y bobl leol a chyfeiriodd at y cyhoeddiad o'r enw "yr Ynys o Ddewis"

 

Ÿ

ddyletswydd i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol yn erbyn effeithiau'r datblygiad hwn

 

Ÿ

yn pryderu ynghylch maint y datblygiad ac y gallai fod yn ddrws agored i ragor o ddatblygiadau yn y dyfodol

 

Ÿ

56% o'r gwyntoedd arferol yn chwythu i gyfeiriad Llandrygarn, Bryngwran a Gwalchmai - ac roedd goblygiadau iechyd i hyn yn enwedig yng nghyswllt y cemegau a ddefnyddid i lanhau'r loriau

 

Ÿ

o gwmpas y safle mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig - bygythiad i lygod dwr a hefyd i'r fadfall fawr gopog

 

Ÿ

gwneud defnydd gwahanol o'r tir

 

Ÿ

pwy fuasai'n monitro ac yn rheoli'r llwybr dewisol i loriau

 

Ÿ

swn yn cael ei gynhyrchu 24 awr y dydd

 

 

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm (Mwynau a Gwastraff) fod Cydlynydd Gwastraff Gogledd Cymru wedi ysgrifennu at y gweinidog priodol yn y Cynulliad yn dweud fod awdurdodau yn yr ardal wedi ei chael yn anodd lleoli datblygiadau yn ymwneud a gwastraff ar stadau diwydiannol oherwydd y ffordd y mae perchnogion tir yn teimlo tuag at ddatblygiadau o’r fath, a dywedodd :

 

Ÿ

câi llygod dwr a'r fadfall fawr gopog eu diogelu trwy amodau

 

Ÿ

dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol "bod y cynnig yn annhebygol o gael effaith sylweddol o safbwynt swn pan fyddai'n gweithio fel y dylai

 

Ÿ

ni châi'r datblygiad effaith ar y nant tua'r dwyrain o'r safle

 

Ÿ

roedd Asiantaeth yr Amgylchedd "yn gwbl gefnogol i'r cais"

 

Ÿ

câi'r gweithgareddau eu rheoli dan drwydded PPC dan Reoliadau Llygredd, Atal a Rheoli (Lloegr a Chymru) 2000

 

Ÿ

gosodid gorchudd dros y gwastraff yn ystod cyfnod y cludo a châi ei gludo yn syth i lecyn dan do i bwrpas ei drin, ei storio a'i symud.

 

 

 

Roedd y broses yn dibynnu ar drin yr aer trwy ocsideiddio gwresog, a chymysgu'r aer drewllyd gyda nwy naturiol a'i losgi ar dymheredd uchel fel bod yr arogleuon yn cael eu dileu'n llwyr.  Bellach mae'r broblem arogleuon wedi ei ddatrys yng Ngwaith Holdsworthy, a'r lle hwnnw bellach dan rheolaeth Summerleaze sydd wedi darparu system o ocsideiddio gwresog.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd J. Arthur Jones iddo ddatgan ddiddordeb yn y cais hwn er mwyn diogelu ei gyfle i annerch y cyfarfod dan ddarpariaeth 4.6.5.1 Cyfansoddiad y Cyngor.  Cododd ef y pwyntiau a ganlyn :

 

Ÿ

hunan gynhaliaeth ranbarthol - nodwyd y buasai “yn storio a phrosesu oddeutu 35,000 tunnell o wastraff amaethyddol a gwastraff bwyd o ffynonellau lleol bob blwyddyn" - dim ond 7,390 dunnell yr oedd yr ardal hon yn ei gynhyrchu a gofynnodd o ble tybed y deuai'r gweddill.  Petai'r gwaith yn prosesu dros 35,000 o dunelli yna buasai'r gwaith a'r dulliau rheoli yn dynnach o lawer.

 

Ÿ

mae methan yn eithriadol o beryglus

 

Ÿ

nid yw'n bosib i anifeiliaid, am gyfnod o ddau fis,  bori tir sydd wedi ei drin gyda gwastraff a dreuliwyd

 

Ÿ

effaith weledol - ystyriaeth o bwys mawr

 

Ÿ

yr effaith ar gynefin naturiol y cefn gwlad - Cyngor Cefn Gwlad Cymru yw'r corff sy'n cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y materion hyn

 

Ÿ

cynaliadwyaeth - pum swydd gâi eu creu ac ar ôl pwyso a mesur buasai'r difrod yn fwy na'r manteision.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd cafwyd argymhelliad cryf o wrthod gan y Cynghorydd Arthur Jones.

 

      

 

     I bwrpas cadw cofnod, dywedodd yr Arweinydd Tîm (Mwynau a Gwastraff) fod y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig 1km draw o'r safle.  Roedd opsiwn sgrinio wedi ei roi gan yr awdurdod cynlllunio lleol yn cadarnhau nad oedd y cynnig yn torri’r trothwyon danghosol a nodir ar gyfer datblygiadau yn ymwneud a gwastraff o dan Restr 2 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesiad Effaith Amgylcheddol)(Lloegr a Chymru)(1999) ac na fyddai angen ei asesu o dan y rheoliadau hynny.  Roedd y broses yn lladd pathogenau.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Denis Hadley a oedd y cynnig gerbron yn angenrheidiol ac wedyn soniodd y Cynghorydd Eurfryn Davies am y broblem arogleuon yn Llangefni, a oedd wedi taro'r dref yn ystod bore diwrnod y cyfarfod, a chynigiodd wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton ac yntau'n gofyn oni fuasai'n well gosod offer bio-nwy yn nes i'r ffynhonnell, h.y. yn nes i ladd-dy.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Roberts :

 

Ÿ

bod y prosiect yn un uchelgeisiol ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn ei gefnogi

 

Ÿ

buasai'n creu swyddi y mae eu gwir angen

 

Ÿ

buasai'n delio gyda gwastraff yn lleol

 

Ÿ

roedd yn fuddsoddiad £4.5m

 

Ÿ

creai ddigon o drydan i gwrdd ag anghenion 600 o gartrefi a defnyddid y gwastraff treuliedig fel gwrtaith bio

 

Ÿ

ond ar y llaw arall roedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru a sawl un arall yn gwrthwynebu'r lleoliad am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

Er gwaethaf y gwaith ymgynghori manwl a wnaed daeth y Cynghorydd Roberts i'r casgliad na lwyddodd y swyddogion i leddfu pryderon y bobl leol ac o'r herwydd ni fedrai gefnogi'r cais.

 

 

 

Ni chredai'r Cynghorydd D. Lewis-Roberts bod digon o dystiolaeth ar gael i gyfiawnhau ymweld â Holdsworthy ac roedd ef yn amau os oedd yn agos i'r ffynhonnell, ac roedd methan yn ansefydlog iawn.  Roedd TAN 20 yn dweud yn glir iawn na ddylid cael cynnig o'r fath o fewn 250m i domen sbwriel.

 

 

 

Yn ôl y Cynghorydd Glyn Jones câi'r datblygiad ei reoli gan 21 o amodau a phetai'r ymgeisydd yn apelio yn erbyn penderfyniad o wrthod gan y Cyngor ofnai y buasai'r Cyngor yn colli'r hawl i fynnu ar amodau.  

 

 

 

Ond credu oedd y Cynghorydd Aled Morris Jones y buasai o fantais ymweld â Holdsworthy a chynigiodd wneud hynny.

 

 

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ymweld â Holdsworthy:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, Aled Morris Jones, Glyn Jones, RL Owen (4)

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i wrthod y cais, yn groes i arhymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Denis Hadley, D Lewis Roberts, Arwel Roberts, John Roberts, Tecwyn Roberts (8)

 

      

 

     Rhoddwyd y rhesymau a ganlyn dros wrthod:

 

Ÿ

gwrthwynebiad cryf yn lleol yn fater o ystyriaeth

 

Ÿ

lleoliad y gwaith yn rhy agos at gartrefi preswyl

 

Ÿ

effeithiau gweledol

 

Ÿ

arogleuon

 

Ÿ

twristiaeth a’r economi

 

Ÿ

gwrthwynebiad y CCG

 

Ÿ

TAN 21 - llygru'r tir ar ôl taenu'r gwastraff

 

Ÿ

heb fodloni prawf hunangynaliadwyaeth rhanbarthol

 

Ÿ

heb sefydlu'r egwyddor o fod yn agos

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

      

 

5.3     CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     17LPA494G/CC/ECON   DATBLYGU DARPARIAETH COMPOSTIO MEWN CYNHWYSYDD YNGHYD A MYNEDFA THANADEILEDD A THIRLUNIO CYSYLLTIEDIG AR SAFLE TIRLENWI PENHESGYN, PENMYNYDD, GER PORTHAETHWY

 

      

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd J Arthur Jones a gadawodd y cyfarfod.

 

 

 

     Datganodd y Cynghorydd John Roberts ei fod yn aelod o Gyd-Bwyllgor Gwmni Gwastraff Mon Arfon (CGMA), nododd fod cyfeiriad at CGMA yn y papurau, dywedodd y dymunai gymryd rhan yn y drafodaeth fel aelod o’r Pwyllgor Cynllunio g Gorchmynion.  Mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd mai mater i ‘r unigolyn oedd hynny.

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd Eurfryn Davies ei fod yntau yn aelod o Gyd-Bwyllgor CGMA,ac yn dilyn cyngor cyfreithiol, dywedodd ei fod am gymeryd rhan yn y drafodaeth er iddo ddatgan diddordeb yn y cyfarfod blaenorol.

 

      

 

     Datganodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Arwel Roberts ei fod yntau yn aelod o   Gyd-Bwyllgor CGMA, ac yn dilyn cyngor cyfreithiol, ei fod ef am gymryd rhan yn y drafodaeth, a bod hyn yn fater i’r unigolyn.

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd John Chorlton ei fod eisoes wedi trafod y cais ym Mhwyllgor Gwaith y Cyngor, hefyd bod ei ferch yn gweithio yn Adran Rheoli Gwastraff y Cyngor, a dywedodd nad oedd ef am gymryd rhan yn y drafodaeth.

 

      

 

     Dywedodd y Cyfreithiwr wrth bawb oedd yn bresennol y buasai'n briodol i aelodau drafod yr eitem ond dim pleidleisio ar y cais os yr oeddynt, trwy rinwedd ei swydd fel cynghorydd, yn aelod o gorff allanol.  Doedd y cyfreithiwr ddim yn sicr o statws y cyd-bwyllgor yma.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor oedd yr ymgeisydd a'r cais yn ymwneud â thir yn ei berchnogaeth.  Trefnwyd yr ymweliad â'r safle ar gyfer 15 Chwefror 2006.

 

      

 

     Gan yr Arweinydd Tîm (Mwynau a Gwastraff) cafwyd disgrifiad o'r cynnig, o hanes cynllunio'r safle a hefyd o'r ymateb i'r cyhoeddustrwydd fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog. Y materion cynllunio y rhoddwyd sylw iddynt oedd yr effaith weledol, traffig, bioerosolau, arogleuon a llwch, polisïau perthnasol a'r Nodiadau Cyngor Technegol fel y manylwyd ar hynny yn fanwl yn ei adroddiad.  Roedd yr Adran Briffyrdd yn argymell amod i godi safon y ffordd ddi-ddosbarth sy'n rhedeg at yr B5420 a hefyd i wneud gwaith gwella ar ei chyffordd.  Roedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn pryderu ynghylch cwlfert Penhesgyn - ond mae'r cwlfert y tu allan i ffiniau'r safle heb fod yng nghyffiniau'r cynnig ac ni châi'r cyfryw gynnig effaith arni.  Draenio - buasai'n rhaid wrth ganiatâd Asiantaeth yr Amgylchedd i ddraenio dwr wyneb.

 

      

 

     Wedyn soniodd yr Arweinydd Tîm (Mwynau a Gwastraff) bod Cynghorau Cymuned Penmynydd a Chwm Cadnant yn pryderu ynghylch y cynnydd yn y traffig, ynghylch yr arogleuon ac ynghylch nwyon bioerosol.  Daeth rhagor na 700 o lythyrau i law yn gwrthwynebu ac ymhlith y pryderon roedd rhai yn ofni y buasai Penhesgyn yn datblygu'n safle i wastraff peryglus, yn lle i dderbyn gwastraff o'r tu allan i'r Ynys, y ceid cynnydd yn y traffig, y ceid risgiau i anifeiliaid y ffermydd cyfagos oherwydd gwastraff, bwydydd peryglus a phryder hefyd ynghylch sgerbydau anifeiliaid.  Roedd cynnydd yn mynd i fod yn y symudiadau traffig - 5 cerbyd yn mynd a dod bob dydd yn seiliedig ar 20 tunnell.  Ymatebodd y swyddog yn fanwl i'r pryderon uchod.

 

 

 

     Polisi Cynllunio Cymru Nodyn Cyngor Technegol 21 - dywed D13 “bod compostio rwan hyd yn oed yn fwy effeithiol ac yn lanach nag y bu gyda’r datblygiadau technolegol diweddaraf mewn compostio i bwrpas adennill defnyddiau organig yn effeithiol o wastraff pydredig.  Mae angen cynyddu’r gweithgarwch hwn yng Nghymru er mwyn gwneud y defnydd mwyaf bosib o adnoddau gwastraff.  Bydd symud rhan o’r gwastraff o’r cyfleusterau tir lenwi yn gymorth i gwrdd â thargedau anodd yng nghyswllt Cyfarwyddyd Tirlenwi”.  Ymhellach dywed C36 “y gall safleoedd newydd i reoli gwastaff fod dan amgylchiadau priodol unai mewn neu ger safleoedd neu adeiladau presennol neu rai gweigion, rhai y mae modd eu defnyddio neu eu haddasu i dderbyn cyfleusterau ailgylchu defnyddiau neu gompstio, safleodd sydd neu a fu gynt yn cael eu defnyddio i ddibenion mathau eraill o gyfleusterau rheoli gwastraff.

 

      

 

     Amcan Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru yw  “darparu fframwaith cynllunio defnydd tir yn ôl egwyddorion cynaliadwy ac mewn ymateb i'r angen i newid y dull o reoli gwastraff yng Ngogledd Cymru a hynny trwy hwyluso rhwydwaith digonol ac integredig o gyfleusterau modern i gael gwared o wastraff a thrwy hynny gyfrannu at greu cyfleon i ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff a gynhyrchir yn yr ardal - gwaith a wneir er lles yr amgylchedd ac er lles pobl yr ardal a darparu, yr un pryd,swyddi newydd yn lleol a hybu twf economaidd".

 

      

 

     Ni nodwyd safleoedd addas yn yr CDU y stopiwyd gweithio arno ac o'r herwydd mae'r safleoedd hynny a nodir yn y Strategaeth Gwastraff 2000 yn berthnasol; hefyd mae ystyriaethau economaidd datblygu safle ar y raddfa hon i wasanaethu'r ardal yn berthnasol.  

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd Eurfryn Davies fod y sefyllfa ar y safle hwn wedi gwella'n gyffredinol ond bod arogleuon yn dal i fod yn broblem o bryd i'w gilydd, rhagwelir y bydd pethau'n gwella pan ddaw'r gwaith tirlenwi i ben ym Mhenhesgyn.  Roedd y ffordd ddi-ddosbarth o gyffordd A5025 Llansadwrn tuag at y safle yn dal i fod yn is na'r safon a dim sylw wedi ei roddi i wella'r ffordd hon - sef y ffordd arall i draffig petai ffordd Penmynydd yn cael ei chau am unrhyw reswm ac ni allai'r Cynghorydd Davies gefnogi'r cais.

 

      

 

     Wedyn crybwyllodd y Cynghorydd Noel Thomas ei fod yn aelod o Gyd-Bwyllgor CGMA, ond teimlai y câi'r cynnig hwn effaith ddrwg ar Benmynydd.  Roedd 93 o wrthwynebiadau wedi eu derbyn oddi wrth breswylwyr cyfagos i'r safle - rhai o ardal Penmynydd, Rhoscefn-hir a Llansadwrn.  Soniodd hefyd am hanes cynllunio'r safle a theimlai dylid fod wedi cynnal mwy o ymgynghori ynghylch y bwriad.  Dan y bwriad roedd elfen o wario heb fod raid, hefyd roedd angen adolygu'r cynllun a gwneud y gwaith yn fwy lleol, ac argymhellodd y dylid mynnu ar amodau caeth petai caniatâd yn cael ei roddi.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd Tîm (Mwynau a Gwastraff) fod systemau compostio caeëdig wedi eu dylunio i leihau arogleuon.  Fel rhan o'r system i reoli arogleuon byddant yn cael eu sgrwbio gyda dwr ac yn mynd trwy hidlau beio.  Ni fydd lefel y swn yn cyrraedd lefelau annerbyniol ar unrhyw adeg, a châi y mannau caled eu gwlychu i atal llwch ac yn enwedig pan fo'r tywydd yn boeth ac yn wyntog.  Deuai loriau i'r safle ar hyd ffordd Penmynydd.  Ar hyn o bryd mae tair trwydded wedi eu rhoddi i gompostio ar ffermydd, a dwy ohonynt yn gweithio hyd at lefelau cydnabyddedig o 1,000 tunnell yr un bob blwyddyn.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arwel Edwards cadarnhaodd y swyddog mai gwastraff o geginau ac o erddi yn unig a gâi ei brosesu.  Roedd hi'n ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ailgylchu a chompostio 25% o'r gwastraff cyhoeddus erbyn diwedd y flwyddyn eleni.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd R.L. Owen fod y deunydd hwnnw oedd yn llifo i lagwns yn beryglus ac yn wenwynig a chan fod tri unigolyn eisoes yn gwneud y math yma o waith gofynnodd am sicrwydd y câi'r gwastraff gwyrdd ei ddidoli oddi wrth y gwastraff cig a'r gwastraff o dai.  Ond dywedodd y swyddog y câi gwastraff gwyrdd a gwastraff o dai ei gymysgu i ddibenion compostio.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd John Roberts a oedd hi'n briodol iddo chwarae rhan yn y drafodaeth gan ei fod yn aelod o'r Pwyllgor Gwaith a'r corff hwnnw wedi cefnogi cynllun o'r fath mewn egwyddor a hefyd roedd yn aelod o'r Cyd-Bwyllgor CGMA - sef un o'r cyrff yr ymgynghorwyd â nhw.  Er gwaethaf penderfynu ar fod yn rhan o'r trafodaethau nid oedd am bleidleisio ar y cais hwn a mynegodd rai amheuon ynghylch y costau, y fynedfa i'r safle a'r effaith ar y tirwedd.  

 

      

 

     Gofynnwyd gan y Cynghorydd Aled Morris Jones pa mor briodol oedd cystadlu yn erbyn gwasanaeth oedd eisoes yn cael ei ddarparu yn lleol, holodd hefyd a oedd rhwydwaith y lonydd yn cyrraedd y safon.

 

      

 

     Ar sail priffyrdd cafwyd cynnig o wrthod y cais gan y Cynghorydd Eurfryn Davies, wedyn tynnodd y cynnig yn ôl yn wyneb y ffaith ei fod yn aelod o CGMA, ac eiliodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y cynnig o wrthod.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd John Chorlton fod y gwaith am gael ei ariannu o sawl ffynhonnell gan gynnwys Cynulliad Cymru.

 

      

 

     Dywedodd y Cyfreithiwr nad oedd yn ymwybodol o statws Cyd Bwyllgor Cwmni Gwastraff Mon Arfon.  Dywedodd bod y Côd Ymddygiad yn darparu bod raid i Gynghorwyr ddatgan diddordeb pan fônt yn aelodau o gyrff allanol oherwydd eu bod yn Gynghorwyr, ond serch hynny, caent gymryd rhan yn y drafodaeth ond peidio a phleidleisio ar yr eitemau oedd yn berthnasol i’r cyrff hynny.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd P. M. Fowlie oedd nodi'r manteision ariannol a ddeuai i'r Ynys yn sgil caniatáu'r cynllun ac aeth ymlaen i ofyn am ystyried gohirio y cais hwn hyd nes egluro yn union beth oedd sefyllfa aelodau CGMA.  

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatáu’r cais: Y Cynghorwyr John Byast, Denis Hadley, O Glyn Jones, D Lewis Roberts, Tecwyn Roberts (5)

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, Aled Morris Jones, RL Owen (3)

 

        

 

     Ni phleidleisiodd yr aelodau a ganlyn, a hynny oherwydd eu bod yn aelodau o Gyd- Bwyllgor Gwmni Gwastaff Mon Arfon: Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, PM Fowlie, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     Ymatal ei bleidlais a wnaeth y Cynghorydd John Chorlton gan ei fod wedi trafod y pwnc eisoes ym Mhwyllgor Gwaith y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais, yn unol a'r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

5.4     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     19C608F  CAIS AMLINELLOL I DDATBLYGU TIR AR GYFER CODI TAI YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AC I GERDDWYR AR DIR YN NHYDDYN BACH, FFORDD YNYS LAWD, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â’r safle ar 21 Medi, 2005.  

 

      

 

     Gohiriwyd ystyried y cais hwn mewn cyfarfodydd blaenorol oherwydd cwblhau gwaith ymgynghori Ardrawiad Effaith Trafnidiaeth, Asesiad Effaith Ieithyddol.  Cafodd ei ohirio ymhellach hefyd er mwyn cwblhau gwaith ymgynghori.

 

      

 

     I bwrpas cael cofnod cywir dywedodd y Rheolwr Cynllunio "fod y safle wedi ei glustnodi ar gyfer datblygiad preswyl dan ddyraniad T19 yr CDU" ac nid dan T64 fel a nodwyd yn yr adroddiad.  Bellach roedd asiant yr ymgeisydd yn fodlon cyfaddawdu a gostwng nifer y tai o 100 i 65.

 

      

 

     Wedyn dywedodd y Cynghorydd John Chorlton ei fod yn fodlon cefnogi cais gwreiddiol am 100 o dai ar y tir hwn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd G. Allan Roberts cafwyd gwybod am gyfarfod rhwng asiant yr ymgeisydd, y swyddogion, Arweinydd y Cyngor ac ef ei hun pryd y cytunwyd i ostwng nifer y tai i 65, darparu ffordd fynediad i Ysgol Llain-goch ar hyd Ffordd Ynys Lawd ac er ei fod yn siomedig am na ddarparwyd Asesiad Ardrawiad Ieithyddol llawn roedd yn fodlon gyda chasgliad y cyfarfod a hefyd yn cefnogi'r cais.

 

      

 

     Y bwriad gwreiddiol oedd codi 100 o dai ac roedd hynny'n dderbyniol i'r Cynghorydd Arthur Jones.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd R. L. Owen dywedodd y swyddog mai cais oedd hwn ar ffurf amlinellol yn unig ar y pryd.  Ond gofynnodd y Cynghorydd Hadley oni fyddai'n briodol ymweld â'r safle eto ac mewn ymateb dywedodd y swyddog y câi'r datblygiad ei gyflwyno fesul dipyn.

 

      

 

     Oherwydd prinder tai dybryd cynigiodd y Cynghorydd John Chorlton roddi caniatâd i'r cynnig gwreiddiol i godi 100 ohonynt ar y safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arthur Jones.

 

      

 

     Yma atgoffwyd yr aelodau gan y Cynghorydd Glyn Jones bod yr ymgeisydd yn fodlon gyda 65 o dai ar y safle a chynigiodd roddi caniatâd i hynny a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards ac Eurfryn Davies.  Yn ogystal rhoes y Cynghorydd Aled Morris Jones ei gefnogaeth a chynigiodd roddi amod ynghlwm i gyfyngu'r datblygiad i 65 o dai.

 

      

 

     Ychwanegodd y Cynghorydd G. Allan Roberts y câi'r datblygiad ei reoli dan Adran 106, sef datblygu fesul blociau o 20 o dai.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatáu 65 o anheddau ar y safle:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, O Glyn Jones, Aled Morris Jones, RL Owen (7)

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i roi caniatâd i 100 o anheddau ar y safle:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J Arthur Jones, D Lewis Roberts, J Arwel Roberts, John Roberts, Tecwyn Roberts (7)

 

      

 

     Cafwyd 7 pleidlais yr un ac wrth i’r Cadeirydd ddefnyddio ei  bleidlais fwrw PENDERFYNWYD caniatáu’r cais gwreiddiol am 100 o anheddau, yn unol ag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

5.5     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     24C174A  ESTYNIAD I GWRTIL ABERARCH BACH, LLANEILIAN

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais. Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â’r safle ar 18 Ionawr, 2006.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod 8 llythyr o gefnogaeth wedi eu derbyn ac un yn gwrthwynebu.  Petai Gorchymyn Stopio yn llwyddo yna buasai'r tir mewn dwy berchnogaeth a'r ddau berchennog yn rheoli dau ben yr hen lôn a hynny'n golygu fod cerbydau yn gorfod bagio o'r gilfan i'r briffordd gan amharu ar ddiogelwch y briffordd honno ac am y rheswm hwn roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

5.6     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     33C243B  NEWID DEFNYDD CHWE ADEILAD ALLANOL I CHWE ANNEDD PRESWYL YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU A GOSOD GORSAF BREIFAT I DRIN CARTHION YN NHREFERWYDD, LLANGAFFO

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â’r safle ar 15 Chwefror, 2006.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Noel Thomas fod y datblygiad yn rhy fawr yn y cefn gwlad gan ei fod yn cynnwys cyfanswm o 7 annedd a theimlai'r Cyngor Cymuned Lleol hefyd fod dwy annedd ychwanegol yn unig yn fwy derbyniol.

 

      

 

     Oherwydd y dirywiad yn y sector amaethyddol cynigiodd y Cynghorydd R. L. Owen y dylid derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Hadley a oedd y datblygiad yn mynd i greu pentref rhestredig yn ôl diffiniad Polisi 50.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatáu’r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, J Arthur Jones, O Glyn Jones, Aled Morris Jones, RL Owen, J Arwel Roberts, John Roberts

 

 

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

 

 

5.7     CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     34C326C/ECON  CODI CANOLFAN ADNODDAU AR HEN SAFLE CROSS KEYS, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o’r safle ym mherchnogaeth y Cyngor.  Ar argymhelliad y swyddog, ymwelwyd â’r safle ar 15 Chwefror, 2006 i asesu addasrwydd y bwriad,

 

      

 

     Gan y Cynghorydd PM Fowlie cafwyd datganiad ei fod yn cynrychioli’r Cyngor ar Medrwn Mon.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd RL Owen’s dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y bwriad yn un addas.  Doedd dim gwrthwynebiad ar sail priffyrdd.

 

      

 

     Peth cwbl amrhiodol, ym marn y Cynghorydd J. Arthur Jones, oedd defnyddio arian cyhoeddus i wario ar adeilad cymunedol er bod nifer fawr o adeiladau eraill ar gael - rhai gweigion neu rai heb gael eu defnyddio'n llawn.  Yn lleol roedd 43 yn gwrthwynebu'r bwriad a chynigiodd y Cynghorydd Jones wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts, a dyma hefyd oedd teimladau'r Cynghorydd Glyn Jones oherwydd fod unedau gweigion ar y stad ddiwydiannol.

 

      

 

     Yma ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y rhesymau a roddwyd yn ystyriaethau cynllunio perthnasol.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatau’r cais:  Y Cynghorwyr J Arwel Edwards, RL Owen (2)

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Denis Hadley, J Arthur Jones, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, D Lewis Roberts, J Tecwyn Roberts (7)

 

      

 

     Ymatal: Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, PM Fowlie, Arwel Roberts, John Roberts

 

      

 

     Rhoddwyd y rhesymau a ganlyn dros wrthod y cais:  

 

Ÿ

colli llecynnau parcio gwerthfawr

 

Ÿ

gwrthwynebiad i ddyluniad yr adeilad mewn ardal sensitif

 

Ÿ

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

      

 

      

 

5.8     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     46C397  CAIS AMLINELLOL AR GYFER DYMCHWEL Y TY PRESENNOL YNGHYD A CHODI PEDAIR ANNEDD NEWYDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN BRYNIAU, LÔN PENRHYN GARW, TREARDDUR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â’r safle ar 15 Chwefror, 2006.  

 

      

 

     Pryderu oedd y Cynghorydd Peter Dunning bod y math hwn o ddatblygu ar hap ar gynnydd ac yn arbennig felly yn ardal Trearddur a dim sylw o gwbl yn cael ei roddi i effaith y datblygiadau ar y tirwedd.  Roedd  4 annedd yn y lle hwn yn cyfateb i orddatblygu ac roedd caniatâd wedi ei wrthod i un annedd ar dir Gwyndy gerllaw a gwrthodwyd hwnnw hefyd ar apêl.  Roedd y safle'n fwy addas i uchafswm o ddwy annedd.

 

      

 

     Y rhain oedd y pryderon eraill :

 

Ÿ

materion diogelwch y briffordd - traffig yn ymuno gyda Ffordd Ravenspoint, cyflymder y traffig, y tro yn y ffordd a nifer y damweiniau yn y llecyn hwn.

 

Ÿ

dim llwybr cerdded

 

Ÿ

draenio dwr wyneb - dim digon o dystiolaeth bod y dull "SUDS" yn effeithiol ar greigan megis yn y lle hwn.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd Dunning at adroddiad y swyddog lle y dywedir “mae’r ardal yn cael ei diffinio fel pentref rhestredig yng Nghynllun Lleol Ynys Mon (Polisi 50) lle bydd caniatâd cynllunio yn cael ei roddi i dai newydd fel arfer os ydyw’r annedd unigol un ai yn y pentref neu ar ei gyrion ond mae Polisi HP3 Cynllun Datblygu Unedol y rhoddwyd stop arno yn rhestru Bae Trearddur fel Canolfan Eilaidd lle bydd caniatâd yn cael ei roddi i godi tai ar safleoedd clustnodedig a hefyd ar safleoedd addas eraill y tu mewn i’r ffiniau datblygu.  Gan fod y safle y tu mewn i’r ffiniau datblygu mae’r egwyddor o godi tai ar y tir yn cydymffurfio gyda’r fframwaith o bolisiau cynllunio.”  hefyd Polisi 31 (tirwedd) effaith y bwriad ar ar y tirwedd arbennig.

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cais amlinellol yn unig oedd hwn a bod y safle y tu mewn i’r ffin ddatblygu yn unol â Pholisi 50 y Cynllun Lleol.

 

      

 

     Ni fedrai'r Cynghorydd John Chorlton gofio am unrhyw broblemau llifogydd yn y cyffiniau a chynigiodd dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Byast.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arwel Edwards cafwyd cynnig i ganiatau mwyafswm o dri annedd ar y safle.  

 

      

 

     Cytuno a wnaeth y Cynghorydd RL Owen gyda’r aelod lleol gan deimlo bod yn yr ardal hon dai mawr ar wahân ar blotiau ar wahân ac ni fedrai ef roddi ei gefnogaeth i ddatblygu pedair annedd.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Eurfryn Davies dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y System Ddraenio Drefol a Chynaliadwy (SUDS) yn system bwrpasol i dderbyn draeniad dwr wyneb.

 

      

 

     Ar ôl ystyried symudiadau traffig yn y lle dywedodd y Swyddog Priffyrdd ar ôl iddo bwyso a mesur pob peth nad oedd ganddo wrthwynebiad.  Ychwanegodd wedyn ei fod yn disgwyl am fanylion SUDS.

 

      

 

     Oherwydd gorddatblygu cynigiodd y Cynghorydd Fowlie y dylid gwrthod y cais a chan nad oedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn gweld bod y cynnig gerbron yn gweddu i'r datblygiadau yn y lle'n barod eiliodd wrthodiad i'r cais.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, O Glyn Jones, Aled Morris Jones, RL Owen, Tecwyn Roberts (8)

 

      

 

     Ymatal: John Byast, John Chorlton,J Arthur Jones, D Lewis Roberts, J Arwel Roberts, John Roberts

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

      

 

6

CEISIADAU ECONOMAID

 

      

 

     Fe nodwyd nad oedd ceisiadau economaidd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

7     CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

7.1     23C231A  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD FFORDDIADWY, CREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER CAE FABLI, CAPEL COCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     I bwrpas cadw cofnod cywir dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y trydydd paragraff ym mhwynt 7 (Prif Ystyriaethau Cynllunio) yn adroddiad y swyddog (Polisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn a HP6 y Cynllun Datblygu Unedol y daethpwyd i stop arno) “Mae’r”  cynnig yn cyfarfod a’r profion sy’n angenrheidiol ond ni ellir ei ystyried fel un fforddiadwy oherwydd ei leoliad ac o'r herwydd roedd yr argymhelliad yn un o wrthod.

 

      

 

     Rai blynyddoedd yn ôl roedd caniatâd wedi ei roddi i annedd fforddiadwy yn y cyffiniau meddai'r Cynghorydd W. J. Williams a chyfeiriodd at ddau fyngalo arall yn y cyffiniau, ty hyn, byngalo newydd ac ysgol.  Ar y farchnad yn y lle hwn roedd tri eiddo, un yn £390,000, y llall yn £345,000 a'r pris gofyn am fyngalo un ystafell wely yn £95,000.  Yng Nghapel Coch yr oedd y ferch ifanc wedi ei magu ac yn gweithio'n rhan amser yn y Benllech a Llangefni a theimlai'r Cynghorydd Williams fod yna resymau da iawn dros gefnogi'r cais.  

 

      

 

     Ond dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod cais cyffelyb wedi ei wrthod y Tachwedd cynt a chafwyd ymweliad â'r safle 4 mis ynghynt.  Roedd y safle dan sylw yn y cefn gwlad 450m o Gapel Coch a 700m o Hebron a Maenaddwyn.  Cadarnhaodd y swyddog fod y cais yn bodloni'r maen prawf angenrheidiol mewn perthynas a chyflogaeth.

 

      

 

Gan y Cynghorydd John Byast cafwyd cynnig i ganiatáu’r cais.

 

 

 

Er bod y Cynghorydd Arwel Edwards yn cydymdeimlo â’r ymgeisydd, teimlai na allai gefnogi’r cais.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatáu’r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Denis Hadley, D Lewis Roberts, John Roberts, Tecwyn Roberts (6)

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, PM Fowlie, O Glyn Jones, RL Owen, J Arwel Roberts (6)

 

      

 

     Dymunai’r Cynghorydd J Arthur Jones nodi na chymerodd ran yn y drafodaeth na phleidleisio ar y cais.

 

      

 

     Wrth i’r Cadeirydd ddefnyddio’i bleidlais fwrw PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd

 

      

 

8     CEISIADAU’N TYNNU’N GROES

 

    

 

8.1     11C141D CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL AR DIR GER PANT HEULOG, FFORDD PORTH LLECHOG, AMLWCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

Argymell gwrthod y cais hwn a wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio gan fod y safle y tu allan i’r ffin ddatblygu.

 

 

 

Gan fod safle'r cais union ger un eiddo ac yng nghyffiniau eiddo arall cafwyd argymhelliad i ymweld â'r lle gan y Cynghorydd John Byast a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arthur Jones.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Fowlie cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog i wrthod y cais.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

 

 

 

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a bu'n rhaid dod ag ef i ben am 4.45 p.m.,  oherwydd bod corff arall wedi llogi Neuadd y Dref.   Cytunwyd y byddai’r clerc yn rhoi gwybodaeth i’r aelodau am ddyddiad arall i drafod gweddill yr eitemau ar y rhaglen.

 

      

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD