Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 8 Ebrill 2009

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 8fed Ebrill, 2009

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 8 Ebrill, 2009 

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd T.H. Jones - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, Eurfryn G. Davies, Lewis Davies,

Barrie Durkin, Jim Evans, Kenneth P. Hughes, O. Glyn Jones,

R.L. Owen, J. Arwel Roberts, Hefin W. Thomas,

John Penri Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio :

Pennaeth Rheoli Datblygu,

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ),

Cynorthwywr Cynllunio (GJ).

 

Priffyrdd :

Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus (JRWO),

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ),

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL

 

Y Cynghorwyr P.M. Fowlie (Eitem 6.4), W.I. Hughes (Eitemau 11.6 & 11.7), Eric Jones (Eitem 6.8), Rhian Medi (Eitem 6.9), Bryan Owen (Eitem 11.2), Bob Parry (Eitem 14.2), Eric Roberts (Eitem 6.10), Peter Rogers (Eitem 11.8).  

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2

DATGAN DIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Mawrth, 2009 yn amodol ar ddiwygio fel a ganlyn :-

 

11.4 31/C/369 - Shandy, Lôn Dryll, Llanfairpwll 

 

Gwnaeth y Cynghorydd J. P. Williams sylw iddo ddweud yn y cyfarfod diwethaf y buasai'n gofyn am ymweliad â'r safle ar ôl i breswylwyr gysylltu gydag ef ond oherwydd argymhelliad y swyddogion i wrthod y cais roedd yn fodlon cefnogi'r adroddiad.

 

Roedd y Cynghorydd E. G. Davies yn dymuno nodi nad oedd wedi pleidleisio ar y cais.

 

 

4

YMWELIADAU SAFLE

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau â Safleoedd ar 18 Mawrth, 2009.

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

Ni dderbyniwyd ceisiadau i’w gohirio yn y cyfarfod hwn.

 

 

 

6

CEISIADAU YN CODI

 

 

 

6.1

Gweddill y Ceisiadau - 12/C/166T/AD - Codi dau arwydd crog wedi’u goleuo yn allanol ac un arwydd wal wedi’i oleu yn allanol gyda llythrennau mowntiedig yn 10 Stryd y Castell,  Biwmares

 

 

 

6.2

Gweddill y Ceisiadau - 12/C/166U/AD/LB - Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer codi dau arwydd crog wedi’u goleuo yn allanol ac un arwydd wal wedi’i oleu yn allanol gyda llythrennau mowntiedig yn 10 Stryd y Castell, Biwmares

 

 

 

Cyflwynwyd y ddau gais i’r Pwyllgor benderfynu arnynt yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Mawrth, 2008 yn ystyried bod yr holl arwyddion a nodwyd uchod yn dderbyniol ac nad ydynt yn cael effaith niweidiol ar yr adeilad rhestredig a’r ardal gadwraeth.  Mae’r adeilad arbennig wedi’i gynnwys yn y Gofrestr Statudol o Adeiladau rhestredig ar Ynys Môn ac yng Nghymru fel rhai Graddfa II.  Mae’r adeilad mewn ardal sensitif iawn; wedi’i ddynodi fel Ardal Gadwraeth o dan Gyfeiriad Erthygl 4; mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ymysg Adeiladau Rhestredig eraill ac o fewn gosodiad Castell Biwmares sydd wedi’i ddynodi’n Safle Treftadaeth y Byd.  

 

 

 

Nodwyd - bod arwyddion yn hongian ar wal ac wedi’u goleuo ar y tu allan ar rai adeiladau masnachol yn y dref yn briodol.  Ystyrir bod yr arwydd wal ar y tu allan ac wedi’i oleuo gyda llythrennau wedi’u mowntio ar dalcen deheuol/gorllewinol yr adeilad, yn rhywbeth dieithr ac a allai beri niwed i gymeriad ac edrychiad yr Adeilad Rhestredig, yr Ardal Gadwraeth Arbennig ac i’r dref yn gyffredinol.  O safbwynt adeilad rhestredig, mae diogelu cymeriad hanesyddol yr adeiladau a’u hedrychiad yn holl bwysig.  Ystyrir bod yr arwydd y bwriedir ei osod ar y wal, yn hollol annerbyniol ac y dylid ei wrthod.

 

 

 

Nododd yr Aelod Lleol ei fod yn credu na fuasai'r arwyddion crog a'r arwyddion ar y wal yn groes i gymeriad Biwmares.  Hefyd awgrymodd bod gwahaniaeth barn ymhlith swyddogion yng nghyswllt y ddau gais.

 

 

 

Teimlai'r Cynghorydd Hefin W. Thomas na fuasai'r arwyddion yn groes i gymeriad Biwmares a chynigiodd gadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i gymeradwyo'r ddau gais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.

 

 

 

Os oedd y Pwyllgor yn dymuno caniatáu'r ddau gais dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai'n rhaid trosglwyddo'r mater i CADW i'w cadarnhau.

 

 

 

Yn unfrydol PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniadau y Pwyllgor cynt a chaniatáu'r ddau gais dan 6.1 a 6.2, ac yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

 

 

6.3

Gweddill y Ceisiadau - 17/C/437 - Dymchwel yr annedd ynghyd â chodi annedd newydd yn ei lle yn Tyddyn Hen, Llandegfan

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Chwefror, 2009, penderfynwyd ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 18 Chwefror, 2009.  Yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Mawrth, 2009 penderfynodd yr aelodau ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.    

 

 

 

 

 

Nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Polisi 54 o Gynllun Lleol Ynys Môn yn caniatáu codi adeiladau yn lle rhai eraill yn y cefn gwlad, cyn belled ag y bo’r meini prawf rhestredig wedi’u bodloni; ac y mae polisi HP9 o’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd yn  cynnwys darpariaethau tebyg sydd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd ar faint yr annedd newydd.  Mae cyd-destun y ddau bolisi yn dweud ‘nid yw hyn yn cynnwys adeiladau na fwriadwyd iddynt fod yn gartrefi parhaol'.  Mae’n ymddangos bod y strwythur presennol yn ei le cyn 1983 a bod iddo ddefnydd preswyl cyfreithlon.  Serch unrhyw ddefnydd preswyl cyfreithlon sy’n bodoli, mae cyd-destun Polisi 54 a HP9 yn ei gwneud yn glir bod y polisiau yn cadw allan strwythurau na chawsant eu bwriadu ar gyfer defnydd preswyl parhaol megis y ‘chalet’ goed yn cael ei chynnal ar bileri o frics sy’n destun y cais hwn.

 

 

 

Cyfeiriodd yr Aelod Lleol at dystiolaeth yn dangos bod deilydd y siale wedi talu Treth Gyngor ar yr eiddo a'i fod wedi defnyddio'r eiddo ers 1983.  Nid yw'r safle yn y cefn gwlad agored ac nid oes golygfeydd dirwystr tuag ato.  Nododd bod yr ymgeisydd yn bwriadu defnyddio rhan o'r ysgubor gerrig i godi annedd arall.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd O. Glyn Jones yn cynnig y dylid cadarnhau penderfyniad cynt y Pwyllgor a chaniatáu'r cais.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

 

 

Caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog :  Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, E.G. Davies, Lewis Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, O. Glyn Jones, J. Arwel Roberts, J.P. Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor a chaniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

6.4

Gweddill y Ceisiadau - 28/C/373A - Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol yn cynnwys tri thy dau lawr, un byngalo a phedwar fflat mewn adeilad deulawr ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir yn Bryn Gwyn a Bryn Colyn, Station Road, Rhosneigr

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Mawrth, 2009, penderfynwyd ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 18 Mawrth, 2009.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai darn o dir hirsgwar yw’r safle lle mae twynni tywod ac mae’n wynebu Ffordd y Stesion.  Mae’r cynllun gerbron yn ddiwygiad ar y cynllun gwreiddiol a gyflwynwyd. Er bod nifer yr anheddau yn aros fel yr oedd, mae’r datblygwr wedi ymateb yn gadarnhaol i bryderon gan yr Adran a chan bobl leol yng nghyswllt pleser a phreifatrwydd a hynny trwy ddiwygio’r dyluniad yn sylweddol.  Bu newid yn y gosodiad a’r dyluniad o’r cynllun blaenorol - un a wrthodwyd mewn apêl.

 

 

 

Mae nifer o’r gwrthwynebwyr wedi mynegi pryderon ynghylch gallu’r gwasanaethau sylfaenol i ymdopi gyda’r datblygiad arfaethedig.  Fodd bynnag, mae’r cyrff hynny yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol yn fodlon, gydag amodau, bod y cynnig yn dderbyniol.  Mae gan yr Awdurdod Priffyrdd safonau parcio - rhai nad yw’r cynnig hwn yn eu bodloni’n llawn.  Fodd bynnag, daeth yr Arolygydd i’r casgliad nad oedd y cynllun blaenorol yn cyfateb i orddatblygu ac nid oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad yng nghyswllt y ddarpariaeth ar gyfer parcio ceir.

 

 

 

Nododd y Swyddog bod 2 lythyr wedi eu derbyn ar ôl darparu'r sylwadau i'r cyfarfod; llythyr o wrthwynebiad a llythyr arall oddi wrth asiant yr ymgeisydd.  

 

 

 

 

 

Dywedodd yr Aelod Lleol na chredai'r preswylwyr bod gwahaniaeth mawr rhwng y cais hwn a'r cais blaenorol a gwrthodwyd hwnnw ar apêl.  Ym marn y Cynghorydd Fowlie roedd y cais hwn yn cyfateb i orddatblygu ar ddarn bychan iawn o dir a buasai'n amharu ar bleserau y tai o gwmpas.  

 

 

 

Cytuno gyda'r Aelod Lleol a wnaeth y Cynghorydd J. Arwel Roberts, sef bod y tir dan sylw yn fychan iawn i bwrpas codi tai deulawr, un byngalo a 4 fflat a bod hyn yn cyfateb i orddatblygu'r tir penodol hwn.  Nid oedd yr anheddau yn rhai fforddiadwy.  Hefyd caent effaith ar bleserau ac roedd yma enghraifft o orddatblygu.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Swyddog nad cais am dai fforddiadwy oedd hwn ac mai annoeth oedd gwrthod yn seiliedig ar orddatblygu (yn dilyn sylwadau'r Arolygydd).

 

 

 

Gan y Cynghorydd O. Glyn Jones cafwyd cynnig i gadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor a gwrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

 

 

Gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog : Y Cynghorwyr E.G. Davies, Lewis Davies, B. Durkin, Jim Evans, Kenneth P. Hughes, O. Glyn Jones, J. Arwel Roberts, Selwyn Williams.

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor a gwrthod cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd bod y cynnig yn cyfateb i orddatblygu.

 

 

 

Roedd y Cynghorwyr W. J. Chorlton, Hefin W. Thomas a J. P. Williams yn dymuno cofnodi nad oeddent wedi pleidleisio ar y cais hwn.

 

 

 

6.5

Gweddill y Ceisiadau - 30/C/606A - Cynlluniau diwygiedig ar gyfer codi annedd yn Minnery, Rocky Lane, Benllech

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Chwefror, 2009, penderfynwyd ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 18 Chwefror, 2009.  Yn y Pwyllgor a gafwyd ar 4 Mawrth, 2009 penderfynwyd bod y cais yn cael ei ohirio er mwyn rhoddi cyfle i Swyddogion benderfynu a yw’r annedd yn y lle cywir ar y safle.  

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd y cynllun safle a dderbyniwyd gyda chais rhif 30C606 yn gywir (Atodiad 1 ynghlwm wrth yr adroddiad) ac felly mae’n rhoddi delwedd anghywir o sut y dylai’r eiddo gael ei leoli ar y plot.  Mae’r terfyn a ddangosir ar y cynllun safle rhwng yr annedd newydd a’r eiddo presennol yn ‘Minnery’ yn y lle anghywir.  Fe ymddengys bod ‘Minnery’ yn fwy ar y cynllun safle.  Mae hyn, felly, yn dangos y plot arfaethedig fel pebai’n gulach na’r hyn ddylai fod.  Oherwydd nad yw’r cynllun safle’n dangos yr eiddo ‘Clifton’ rhaid defnyddio’r drychiad arfaethedig (Atodiad 3 ynghlwm wrth yr adroddiad) fel meincnod ar gyfer nodi lleoliad yr annedd newydd.  Mae’r cynllun safle dderbyniwyd gyda’r cais presennol yn un cywir ac yn dangos yn gywir safle’r annedd newydd (Atodiad 2 ynghlwm i’r adroddiad).

 

 

 

Oherwydd bod y cynllun safle a gyflwynwyd o’r blaen yn un anghywir, cymerwyd mesuriadau ar y safle o ‘Clifton’ at yr annedd newydd.  Mae’r mesuriadau yn dangos bod y pellter rhwng y ddwy annedd yn 2.91 metr.    

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Adroddodd y Swyddog ymhellach - iddynt ofyn am adroddiad manwl ac fe’i derbyniwyd gan yr asiant ac mae’n ymwneud â gosodiad yr annedd (Atodiad 4 ynghlwm wrth yr adroddiad).  Mae Swyddogion yr Adran Gynllunio hefyd wedi ymweld â’r safle er mwyn cadarnhau lleoliad yr annedd mewn perthynas ag adroddiad manwl yr asiantiaid. Deuir i’r casgliad bod yr annedd wedi ei hadeiladu 2.91 metr oddi wrth ‘Clifton’ a’i bod yn cydymffurfio gyda’r drychiad arfaethedig ar y Cais Cynllunio blaenorol, rhif 30C606.  Gan ddefnyddio’r drychiad ffrynt yn y cynllun safle presennol gyflwynwyd o dan Gais Cynllunio rhif 30C606A (Atodiad 2), byddai raid i’r annedd newydd, pe byddai’n cael ei lleoli’n ganolog, orfod cael ei lleoli oddeutu 350mm ymhellach i ffwrdd oddi wrth ‘Clifton’ na’r hyn sydd wedi ei adeiladu ar y safle.  Cyfanswm hyn yw 14 modfedd fel a ddangosir yn Atodiad 6.  Mewn termau Cynllunio, byddai gwahaniaeth o 350mm mewn lleoliad annedd yn cael ei gyfrif fel rhywbeth ansylweddol.

 

 

 

Mae’r ffenestri sy’n wynebu ‘Clifton’ yn rhai gwydr tywyll felly ni fydd unrhyw edrych drosodd yn digwydd.  Mae’r ffenestr dormer yn y cefn hefyd gyda gwydr tywyll  felly ni fydd unrhyw edrych drosodd yn digwydd i ardal gardd 25 Bay View Road.  Mae yna un ffenestr yn y drychiad cefn fydd yn edrych dros yr eiddo yn y cefn.  Ffenestr llofft yw hon yn y gwagle yn y to.  Mae gan yr eiddo yn y cefn ffenestr sydd yn ffenestr lloft.  Mae’r Cyfarwyddyd Atodol yn dweud y dylid cael 19 metr o bellter ar gyfer ffenestri eilaidd ond yn y datblygiad hwn mae oddeutu 13 metr.  

 

 

 

Cyfeiriodd yr Aelod Lleol at wybodaeth a ddaeth i law yn nodi bod y cynllun gwreiddiol yn anghywir a'i fod yn creu delwedd anghywir o union leoliad yr eiddo.  Oherwydd yr anghywirdeb yn y cynlluniau gwreiddiol dywedodd y swyddogion bod raid defnyddio drychiad arfaethedig fel meincnod i nodi lleoliad yr annedd newydd.  Nododd hefyd bod yr annedd newydd a nodwyd yn Atodiad 3 ddwywaith ymhellach o Clifton nad ydyw o Minnery.  Hefyd sylwodd bod yr ymgeiswyr wedi dewis peidio â dangos Clifton ar y cynllun safle gwreiddiol sef Atodiad 1 ynghlwm wrth yr adroddiad.  Roedd y pellter o Minnery yn 1.7 metr tra roedd yr annedd sy'n cael ei chodi yn 3.77 metr i 4.77 metr draw ac mae hwn yn gamgymeriad sylweddol.  Rhoddwyd caniatâd cynllunio i'r annedd fod yn nes o lawer i Minnery nag i Clifton gan nad oes ffenestri ar ochr Minnery ond roedd ffenestri cegin ac ystafell fwyta Clifton yn wynebu'r annedd arall.

 

      

 

     Wedyn cyfeiriodd y Cynghorydd Durkin at sylw a wnaeth y swyddogion sef nad oedd y Canllawiau Cynllunio Atodol yn nodi pellter terfynol ac awdurdodol rhwng tai.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Durkin at y Canllawiau (pellter rhwng y tai a datblygiadau) lle ceir tabl yn dangos yn glir beth yw'r pellterau lleiaf bosib rhwng tai.  Roedd y pellter lleiaf posib rhwng ffenestr ystafell fwyta a wal heb ddim ffenestri ynddi yn 12 metr.  Sut y gallai'r swyddogion gymeradwyo pellter 2.7 metr rhwng ffenestr ystafell fwyta a wal heb ffenestri ynddi.  Nid oedd modd anwybyddu'r Canllawiau oherwydd bod ynddynt ddarpariaeth ar gyfer pellter lleiaf bosib. Credai'r Cynghorydd Durkin bod y datblygiad yn rhy fawr o lawer i'r safle a bod hynny'n mynd i gael effaith fawr iawn ar berchnogion y tai o gwmpas.  Ganddo cafwyd cynnig i wrthod y cais oherwydd nad oedd y cais diwygiedig yn cydymffurfio gydag Amod 12 y cynlluniau dan y caniatâd gwreiddiol; soniodd am golli goleuni a'r olygfa o'r tai.  Eiliodd y Cynghorydd Jim Evans y cynnig.

 

      

 

     Tra oedd y Cynghorydd Kenneth P Williams yn cydymdeimlo'n fawr gyda'r preswylwyr yn yr ardal hon ni fedrai weld bod yno unrhyw reswm cynllunio tros wrthod y cais a chynigiodd y dylid derbyn adroddiad y swyddog a chymeradwyo'r cais.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Swyddog bod y cais gwreiddiol a gyflwynwyd yn anghywir ond buasai'r adeilad arfaethedig yn dal i fod yr un pellter o Clifton.  Roedd yr adeilad newydd yn 350mm draw o'i leoliad cywir ond afresymol oedd mynnu ei symud i'r lleoliad cywir.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

      

 

     Gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog : Y Cynghorwyr E.G. Davies, Lewis Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, O. Glyn Jones, John P. Williams,

 

     Selwyn Williams.

 

      

 

     Derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu’r cais : Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, Kenneth P. Hughes, T.H. Jones, R.L. Owen.

 

      

 

     Ymatal eu pleidlais : Y Cynghorwyr J. Arwel Roberts, Hefin W. Thomas.

 

      

 

     Y rhain oedd y rhesymau dros ganiatáu : -

 

      

 

     Roedd yma enghraifft o orddatblygu

 

     Roedd yn torri Canllawiau Dylunio ar gyfer Amgylchedd Trefol a Gwledig

 

     Colli pleserau.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros wrthod y cais.

 

      

 

6.6

Gweddill y Ceisiadau  - 32/C/27C - Cais llawn ar gyfer codi 69 o anheddau a 4 fflat ynghyd a chreu mynedfa newydd yn OS 5866, Tre Ifan, Caergeiliog

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd natur a maint y cais ac yn wyneb materion sy’n cael eu codi, ystyriwyd bod penderfyniad gan y Pwyllgor yn briodol.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 5 Tachwedd, 2008, penderfynwyd ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 19 Tachwedd, 2008. Cafodd y cais ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth, 2009 ond gyda phenderfyniad y dylid trafod rhai o’r amodau gyda’r ymgeisydd.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu at gyfarfod a gafwyd ar 17 Mawrth 2009 gyda'r ymgeisydd, asiant yr ymgeisydd a swyddogion o'r Adran Gynllunio i drafod amodau drafft i'w rhoddi ynghlwm wrth y caniatâd i'r cais hwn.  Roedd asiant yr ymgeisydd wedi cadarnhau bod yr amodau drafft diwygiedig yn adlewyrchiad cywir o'r trafodaethau.  Ond wedyn cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu at lythyr dyddiedig 7 Ebrill 2009 gan asiant yr ymgeisydd ynghylch yr amodau ynghlwm wrth y caniatâd.  Mae'n ymddangos bod y farn a gyflwynwyd yn y cyfarfod ar 7 Ebrill bellach yn wahanol.  Bu mân newidiadau i amodau 2, 3 a 12 yng nghyswllt mynedfa, tirlunio a'r swn yn ystod y cyfnod adeiladu.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd W. J. Chorlton bod cytundeb wedi ei gyrraedd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor i bwrpas cwblhau'r safle cyn pen 5 mlynedd.  Hefyd teimlai bod amodau'n cael eu creu sy'n ei gwneud hi'n amhosib i'r datblygwr fwrw ymlaen gyda'r datblygiad; roedd hi'n ymddangos na châi y datblygwr symud ymlaen i ail gyfnod y datblygiad onid oedd yn llwyddo i werthu tai y cyfnod cyntaf yn ystod y flwyddyn gyntaf.  Roedd y rhan fwyaf o bobl yn prynu tai yn ôl cynlluniau cyn adeiladu a dewis y plot ar y safle.  Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i ddileu amod 8 sydd ynghlwm wrth y caniatâd i'r cais hwn.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol iddo awgrymu yn y cyfarfod diwethaf y dylid gohirio'r cais fel bod swyddogion yn cael cyfle i drafod yr amodau.  Roedd y ddadl yn  y cyfarfod diwethaf yn troi o gwmpas faint o dai i'w cynnwys bob cyfnod a faint o amser a gâi y datblygwr i ddatblygu'r safle.  Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Chorlton iddo ddwyn sylw at y pwynt hwn yn y cyfarfod oherwydd fod y pethau hyn yn dibynnu ar y farchnad dai ac ar faint o dai fuasai eu hangen.

 

      

 

      

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Kenneth P. Hughes bod Amod 8 yn rhy gaeth i'r datblygwr am nad yw'n rhydd i adeiladu yn ôl anghenion.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hefin W. Thomas wedi gwrando ar dâp o'r cyfarfod diwethaf a rhoes sicrwydd i'r Pwyllgor bod y safle i gael ei gwblhau cyn pen 5 mlynedd.  Roedd Amod 8 yn caethiwo h.y. os oedd person yn prynu y ty diwethaf un yng nghyfnod 1 a ddim yn symud i mewn i'r ty hwnnw i fyw ynddo yna ni allai'r datblygwr ddechrau datblygu'r ail gyfnod.

 

      

 

     Ond credai y Pennaeth Rheoli Datblygu bod dileu Amod 8 yn llwyr yn mynd i greu problemau; pe câi'r holl dai eu codi gyda'i gilydd yna câi hynny effaith ddrwg ar bentref Caergeiliog.

 

      

 

     Mynegodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) bryderon yr Awdurdod Priffyrdd oherwydd bod Amod yng nghyswllt draenio wedi ei ddileu o'r amodau ynghlwm wrth y caniatâd yn y cyfarfod diwethaf.  Nododd bod Amod 10 (o'r adroddiad cynt) yn angenrheidiol fel bod y system ddraenio i bob cyfnod adeiladu yn cael ei chwblhau ar y safle cyn i neb symud i 'run ty.

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd H. W. Thomas yn ymwybodol bod yr Amod hwn wedi ei dynnu o'r amodau ynghlwm wrth ganiatâd i'r cais a chynigiodd (a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O. Glyn Jones) bod Amod 10 yn cael ei adfer (yn codi o adroddiad cynt) ac yn lle Amod (08) rhoi amod arall sy'n caniatáu i'r datblygiad ddigwydd dros gyfnod o 5 mlynedd.  Mewn ymateb i ymholiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ynghylch a oedd swyddogion gyda hawliau dirprwyol i gytuno ar fanylion datblygu fesul cyfnod dywedodd y Cynghorydd Thomas eu bod â'r hawl honno.

 

      

 

     PENDERFYNWYD fel a ganlyn :-

 

      

 

1)     Adfer Amod (10) yn adroddiad y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 4 Mawrth 2009 fel a ganlyn :-

 

      

 

     "(10)  Ni chaiff neb fyw mewn unrhyw annedd godwyd yn unol â'r rhestr ddatblygu hyd bod y gwaith draenio ar gyfer y rhestr honno wedi ei gwblhau er boddhad ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio lleol".

 

      

 

2)     Y dylai Amod (08) ddarllen :-

 

      

 

     "Rhaid adeiladu'r datblygiad yn unol â chynllun datblygu dros gyfnod (elwir ar ôl hyn yn restr ddatblygu) o 5 mlynedd a bydd raid cytuno ar fanylion hynny yn ysgrifenedig rhwng y datblygwr a'r awdurdod cynllunio lleol cyn dechrau ar y gwaith datblygu ac ni fydd y cytundeb yn cael ei newid wedyn oni wneir hynny yn ysgrifenedig gyda'r awdurdod cynllunio lleol.

 

      

 

6.7

Gweddill y Ceisiadau - 32/C/157B - Codi estyniad deulawr yn Bryn y Gwynt, Caergeiliog

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd O. Glyn Jones mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio)

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd T.H. Jones mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio)

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Chwefror, 2009, penderfynwyd ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 18 Chwefror, 2009. Yn y cyfarfod a gafwyd ar 4 Mawrth, 2009 penderfynwyd caniatau’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddogion.  Rhesymau’r Aelodau tros ganiatau’r cais oedd - bod y cynnig yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi 55 yng Nghynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi HP8 o’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd a hynny am resymau dyluniad a maint.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod maen prawf (i) ym Mholisi 55 o Gynllun Lleol Ynys Môn yn dweud y dylai’r adeilad fod yn un strwythurol gadarn ac yn un y gellid ei addasu heb wneud gwaith adeiladu mawr na chodi estyniad fyddai’n cyfateb i godi annedd newydd.  Mae meini prawf (ii) yn mynd ymlaen i ddweud y dylai cynllun i addasu barchu cymeriad, maint a gosodiad yr adeilad presennol, a’i fod yn golygu na fydd raid gwneud dim ond ychydig o waith altro allanol.  Mae Polisi HP8 o’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd yn ategu Polisi 55.  Mae’r estyniad arfaethedig yn mesur oddeutu 11.8m x 4.9m (yn ei led mwyaf) a 6.4 metr o uchder.  Oherwydd maint yr estyniad arfaethedig, y farn oedd nad oedd y cynnig yn cyfateb i estyniad bychan ac felly nid yw’n cydymffurfio gyda gofynion Polisi 55 Cynllun Lleol Ynys Môn na Pholisi HP8 yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Nid yw’r estyniad arfaethedig yn parchu cymeriad yr adeilad presennol ac mae felly yn groes i’r polisiau presennol.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts gadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor a chaniatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd E. G. Davies.

 

 

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor a chaniatau’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

      

 

6.8

Gweddill y Ceisiadau - 33/C/190K - Diwygio amod (04) ar ganiatâd cynllunio rhif 33C190H i ganiatáu cludo hyd at 30,000 o dunelli o ddeunydd sy’n codi o’r gwaith cynnal priffyrdd i’r safle mewn unrhyw flwyddyn yn Chwarel Bwlch Gwyn, Gaerwen

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol. Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Mawrth, 2009 penderfynwyd ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 18 Mawrth, 2009.

 

      

 

     Nodwyd bod y cais wedi ei dynnu yn ôl.

 

      

 

6.9

Cheisiadau Economaidd - 34/C/563A/ECON - Cynlluniau llawn ar gyfer codi 3 Uned Ddiwydiannol cyfanswm 14,250 troedfedd sgwâr gyda pharcio a ffordd stad gysylltiedig ar dir tu ôl i Hen Safle Cunliffe, Llangefni

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr. J.R.W. Owen (Prif Beiriannydd - Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio)

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 1 Hydref, 2008 penderfynwyd ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 15 Hydref, 2008.  Wedyn gohiriwyd y cais tra'n disgwyl am gynlluniau diwygiedig a chael cyfle i asesu y rheini.  Hefyd cafwyd nifer o gyfarfodydd gyda chynrychiolwyr i breswylwyr Tan Capel.  Gohiriwyd ystyried y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 4 Mawrth 2009 er mwyn cael cyfle i gyflwyno adroddiad yn ôl ar y sefyllfa yng nghyswllt darparu llecyn chwarae fel rhan o'r datblygiad.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yr egwyddor o adeiladu ar y safle wedi ei sefydlu dan ganiatâd cynllunio amlinellol dilys 34C563/ECON dyddiedig Tachwedd 2007.  Gerbron roedd cais cynllunio llawn yn cynnwys safle llai na hwnnw a grybwyllwyd yn y caniatâd amlinellol a hefyd yn cynnwys rhannau o OS 4430 a 4922 i'r de i lawr at Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Gwnaeth y Swyddog y sylw bod preswylwyr Stad Tan Capel yn dweud na chawsant rybudd o gais cynllunio amlinellol 34C563/ECON.  Yn y cyfamser roedd yr awdurdod cynllunio lleol wedi ymchwilio i hyn ac yn fodlon bod llythyr rhybuddio wedi ei yrru allan, postiwyd rhybuddion ar y safle a chyhoeddwyd rhybudd yn y wasg.  Diwygiwyd y cynnig gerbron i gynnwys lleiniau gwyrdd, rhyw 6 ac 8 metr o led ar hyd rhannau o'r ffiniau a hefyd roedd lefel y safle yn cael ei ostwng i leihau'r effaith ar y preswylwyr.  Roedd bwriad i ddiwygio Amod (13) fel bod ardal unrhyw gynllun arfaethedig yn fwy na safle'r cais yn unig.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Rhian Medi ei bod yn cynrychioli'r Aelod Lleol, y Cynghorydd Fflur M. Hughes yn y cyfarfod.  Teimlai'r Cynghorydd R. Medi bod pryderon preswylwyr Stad Tan Capel yn haeddu mwy na rhestr o wrthwynebiadau yn unig yn adroddiad swyddog.  Bwriedir darparu system ddraenio effeithiol ond pa mor effeithiol fydd honno? Beth oedd hyn yn ei olygu ac roedd y Cynghorydd yn gofyn y cwestiwn am na chafwyd ateb gan y Cyngor Sir na'r datblygwr.  Roedd hwn yn fater o bryder mawr i breswylwyr Stad Tan Capel.  A wnaed asesiad risg ar effaith y ddatblygiad hwn ar y stad?  A fydd y datblygwr yn talu am unrhyw ddifrod petai'r system ddraenio yn aneffeithiol? Rhaid cael amodau cynllunio i sicrhau y bydd y system ddraenio yn effeithiol.  Ni chafwyd unrhyw ymateb yng nghyswllt bywyd gwyllt ar y safle - gwelwyd ystlumod, madfallod ar y tir.

 

      

 

     Wedyn aeth y Cynghorydd Medi i sôn am yr enillion cynllunio h.y. cae chwarae i Stad Tan y Capel.  Nid oedd y datblygwr wedi cysylltu gyda'r preswylwyr ynghylch hyn ers y cyfarfod diwethaf.  Cyfeiriodd at ba mor agos oedd yr unedau arfaethedig i'r tai ar y stad.  Nid oedd digon o le ar gael i guddio'r datblygiad hwn o'r tai; mater o ddiogelu pleserau pobl yw hyn.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghroydd Medi fod cwyn wedi ei gyrru at yr Ombwdsmon ar 27 Mawrth 2009 am na chafodd y preswylwyr rybudd o'r cais amlinellol i ddatblygu hen safle Cunliffe.  Cred y preswylwyr fod y swyddogion yn amau eu gonestrwydd; nid yw hynny'n golygu bod y preswylwyr wedi derbyn llythyrau rhybuddio er bod y swyddogion yn dweud i'r llythyrau gael eu postio at breswylwyr Tan Capel.  Roedd cwynion eraill i'r Ombwdsmon yn ymwneud â'r ffaith na chafodd preswylwyr ateb i gwestiynau a gyflwynwyd i'r Adran Gynllunio - h.y. trwy lythyrau a negeseuon e-bost.  Nododd y cymer hi 8 wythnos i ymchwilio i'r gwyn a gofynnodd y preswylwyr i'r Aelod Lleol ofyn am ohirio'r cais hyd oni fydd yr Ombwdsmon wedi ymateb i'r cwynion.  Ni chredai'r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod yma ddigon o resymau i'r Pwyllgor beidio ag ystyried y cais yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

     Pryderu oedd y Cynghorydd O. Glyn Jones bod cymaint o unedau diwydiannol gweigion ar yr Ynys.  

 

      

 

     Wedyn soniodd y Cynghorydd B. Durkin am ei bryderon ynghylch dwr wyneb yn yr ardal hon.

 

      

 

     Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Rheoli Datblygu bod caniatâd cynllunio amlinellol eisoes ar y safle ac y câi amodau cynllunio caeth eu rhoddi ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd:  roedd materion dwr wyneb yn cael eu hasesu gan Dwr Cymru ac fe gymerai fisoedd petai'r cais yn cael ei ohirio i ddisgwyl am ganlyniadau'r asesiad hwnnw - nid oedd hyn yn ymarferol.  Os oedd y mater hwn yn cael ei ohirio unwaith yn rhagor dywedodd bod apêl yn bosib a hynny oherwydd methu â phenderfynu yn yr amser sydd ar gael.  Ar apêl roedd hi'n bosib na châi'r Cyngor gyfle i roddi amodau cyn gryfed ynghlwm - cyn gryfed â'r rheini yn yr adroddiad hwn.  Dan yr amodau arfaethedig roedd angen manylion am ffensio a thirlunio cyn y medrai'r datblygiad symud yn ei flaen.  Gyda'r llain diogelwch roedd rhyw 25 metr rhwng yr adeiladau a'r ty agosaf yn Tan Capel.  Y bwriad oedd plannu coed yn y llain a buasai uchder yr adeiladau yn debyg i uchder ty 44 Tan Capel.  Buasai rhaid i unrhyw asesiad arfaethedig ar yr ardal draenio dan amod diwygiedig (13) ymwneud ag ardal fwy na honno a nodir i'r safle yn y cais.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Medi y dylid gohirio ystyried y mater hyd oni fydd Dwr Cymru wedi cael cyfle i edrych ar y cais.  Bu problemau yn Nhan Capel gyda draeniad dwr wyneb a rhaid sicrhau na fydd y datblygiad hwn yn cael effaith ar y tai gerllaw.  Roedd angen terfyn pendant rhwng y stad a'r tai.  Os oedd caniatâd yn cael ei roddi yna roedd yn rhaid glynu wrth amodau cadarn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd O. Glyn Jones cafwyd cynnig i ohirio'r cais er mwyn creu cyfle i drafod rhagor ar y draenio.  Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y gallai hynny gymryd misoedd a bod hynny yn peri risg o apêl.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd B. Durkin cafwyd cynnig i ohirio'r cais hyd nes cyflwyno rhagor o fanylion am y dwr wyneb i'r awdurdod.  Eiliodd y Cynghorydd E. G. Davies y cynnig hwn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W. J. Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn argymhelliad o ganiatâd gan y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd H. W. Thomas.

 

 

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

      

 

     Gohirio’r cais : Y Cynghorwyr E.G. Davies, Lewis, Davies, B. Durkin, Jim Evans, O. Glyn Jones, J. Arwel Roberts, J.P. Williams, Selwyn Williams.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn hyd nes cael gwybodaeth gan yr ymgeisydd am faterion draenio dwr wyneb.

 

      

 

6.10

Gweddill y Ceisiadau  - 46/C/416B - Cais llawn ar gyfer codi dwy annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i geir ar dir yn  Parc Isallt, Bae Trearddur

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Mawrth, 2009 penderfynwyd ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 18 Mawrth, 2009.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi gofyn am ohirio'r cais oherwydd pryderon ynghylch gosodiad yr anheddau arfaethedig.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio'r cais.

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau economaidd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

8

CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau am Dai Fforddiadwy i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

9

CEISIADAU’N GWYRO

 

      

 

     Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau oedd yn gwyro i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

10

CYNIGION DATBLYGU GAN GYNGHORWYR A SWYDDOGION 

 

      

 

10.1

Gweddill y Ceisiadau - 17/C/314B - Addasu ac ehangu yn Gwel y Don, Llandegfan

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd E. G. Davies yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio).

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.  Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn ôl gofynion paragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.  

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn gofyn am wneud gwaith altro ac ymestyn - sef ystafell bob pwrpas, ystafell gotiau, cyntedd ac ymestyn y gegin.  Ni fuasai'r gwaith altro a'r estyniadau arfaethedig yn cael effaith ar y tai cyffiniol oherwydd edrych drosodd / taflu cysgod.

 

 

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu’r cais gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

10.2

Gweddill y Ceisiadau - 31/C/374 - Addasu ac ehangu yn  2 Stad Foelgraig, Llanfairpwll

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr. Richard Eames (Swyddog Rheoli Datblygu) mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio).

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan fod un o’r ymgeiswyr yn gweithio yn Adran Gwasanaethau Cynllunio ac Amgylchedd y Cyngor Sir.  Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn ôl gofynion paragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio  fod yma gynnig i godi estyniad unllawr yng nghefn yr eiddo union ger y ffini â rhif 1 Stad Foel Graig.  Roedd y cynnig yn cydymffurfio gyda Pholisi 58 Cynllun Lleol Ynys Môn gan fod yr holl ddefnyddiau yn matsio'r ty sydd yno ac ni fydd yr estyniad yn cael effaith andwyol ar wedd y ty nac ar y cyffiniau.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu’r cais gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

10.3

Gweddill y Ceisiadau - 36/C/242D - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â gosod system trin carthion preifat ar dir ger  Adlais yr Engan, Bodorgan

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn ferch i Gynghorydd Sir. Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn ôl gofynion paragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Capel Mawr yn hamled o dan Bolisi 50 - Anheddau Rhestredig Cynllun Lleol Ynys Môn, sy’n dweud y bydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi fel arfer ar gyfer anheddau unigol.  Mae digon o le o fewn y safle i fedru adeiladu annedd, lle parcio a lle troi ynghyd â llecyn mwynderol preifat.  Mae’r annedd yn debyg o ran maint a dyluniad i’r eiddo geir yn yr ardal.  Oherwydd y pellteroedd rhwng y cynnig a’r anheddau presennol, ni fydd y cynnig yn cael effaith ar fwynderau eiddo cyfagos.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu’r cais gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

11

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1

22/C/195 - Codi annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd i geir ac addasu’r fynedfa i gerddwyr presennol yn Ponc y Felin, Llanddona

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Llanddona yn cael ei nodi fel Anheddiad Rhestredig o dan ddarpariaethau Polisi 50 o Gynllun Lleol Ynys  Môn ac fel Pentref o dan bolisi HP4 o’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Mae’r polisiau yn caniatáu codi un annedd o fewn neu ar ffin yr anheddiad.  Mae safle’r cais ar ffin yr anheddiad yn union gyfagos i rif 7 Pont y Felin ac felly mae’r cynnig yn cydymffurfio gyda’r polisiau a grybwyllwyd uchod ac y mae yn dderbyniol mewn egwyddor.   Fodd bynnag, mae’r Adran Briffyrdd yn argymell bod y cais yn cael ei wrthod oherwydd bod y fynedfa i stad Ponc y Felin yn is-safonol o ran gwelededd i’r briffordd drwy Landdona ac nid yw’n gallu cefnogi unrhyw gais fyddai’n golygu cynnydd yn y cerbydau fyddai’n defnyddio’r fynedfa is-safonol hon.  

 

      

 

     O ran ystyriaethau cynllunio credai'r Aelod Lleol bod y cais yn un derbyniol; am un rheswm yn unig y cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno, sef oherwydd bod yr Adran Briffyrdd yn credu bod y fynedfa yn anaddas.  Nododd bod y cais y tu mewn i'r cyfyngiad gyrru 30mya ac fel Aelod Lleol roedd, sawl gwaith, wedi gofyn i'r Adran Briffyrdd gynnal arolwg cyflymdra yn yr ardal.  Cafwyd cadarnhad yr Adran Briffyrdd nad oedd goryrru yn digwydd yn yr ardal benodol hon.  Aeth yr Aelod Lleol ymlaen i egluro bod hon yn fynedfa i stad o dai Cyngor a mynegodd bryderon dwys oherwydd bod yr Adran Briffyrdd yn credu nad oedd y fynedfa'n cyrraedd y safon.

 

      

 

     Soniodd y Cynghorydd Thomas bod yr ymgeiswyr yn bobl ifanc lleol ac yn byw ar hyn o bryd gyda'u rhieni y drws nesaf i safle'r cais.  Ni fuasai yma unrhyw gynnydd yn y traffig oherwydd y fynedfa.  Gan y Cynghorydd H. W. Thomas cafwyd cynnig i ganiatáu yn groes i argymhelliad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.

 

      

 

     Cefnogi'r Aelod Lleol a wnaeth y Cynghorydd R. L. Owen a chadarnhaodd bod hon yn fynedfa i hen stad o dai Cyngor.

 

 

 

     PENDERFYNWYD caniatau y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

      

 

     Y rhain oedd y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu'r cais :-

 

      

 

     Bod y Pwyllgor yn fodlon gyda'r fynedfa i'r safle arfaethedig.

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu’r cais.

 

      

 

11.2

34/C/263D - Cais ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd modurdy domestig a rhan o’r cwrtil preswyl ar gyfer rhedeg busnes gwneuthuriad dur, ehangu’r cwrtil, a dileu amod (04) ar ganiatâd cynllunio 34C263C yn Dafarn Newydd, Lon Cae Cwta, Llangefni

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Polisi 2 Cynllun Datblygu Lleol 1996 yn cefnogi prosiectau creu gwaith mewn mannau clustnodedig.  Dim ond dan amgylchiadau arbennig ac eithriadol y bydd y Cyngor yn caniatau datblygiadau creu gwaith ar safleoedd sydd y tu allan i’r trefi/pentrefi, sef amgylchiadau pan fo ymgeisydd wedi dangos bod anghenion lleoliad penodol a manteision economaidd yn cyfiawnhau caniatau’r bwriad.  Nid yw’r lleoliad dan sylw mewn pentref ac mae’n ddatblygiad masnachol dieithr sy’n ymwthio i ran o’r cefn gwlad.   Mae’r Adran Briffyrdd yn dod i’r casgliad nad yw cyffyrdd y ffordd gyda’r B5420 a’r B5109 yn cyrraedd y safon a hynny oherwydd anawsterau gweld difrifol i’r ddau gyfeiriad o Lon Cae Cwta, ac felly yn dod i’r casglaid y bydd y cynnydd yn nifer y cerbydau oherwydd y cais ôl-ddyddiol hwn yn andwyo diogelwch y ffordd.

 

      

 

     Gofynnodd yr Aelod Lleol am ymweliad er mwyn rhoi'r cyfle i aelodau weld y safle cyn penderfynu ar y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle er mwyn rhoi’r cyfle i aelodau gynefino gyda’r datblygiad arfaethedig cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

      

 

11.3

34/C/510D/AD - Codi 2 arwydd totem yn Aldi, Lon y Felin, Llangefni

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor yw perchennog y tir.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Polisi 22 o Gynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi SG10 o’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd yn dweud y bydd hysbysebion sydd angen caniatâd cynllunio’n cael eu caniatáu lle nad ydynt yn difetha edrychiad ardal nac yn creu perygl i ddefnyddwyr y ffordd.  Mae’r Polisi yn mynd yn ei flaen i ddweud y gall hysbysebion fod yn bwysig ar gyfer dichonolrwydd masnachol ond gallant fod yn niweidiol os na fyddant yn gweddu o ran maint a chymeriad gyda’r dref neu’r pentref ac fe fyddant yn y pen draw yn rhagfarnu unrhyw ddatblygu economaidd oni bai eu bod yn cael eu rheoli’n ofalus.  Nododd bod yr Adran Briffyrdd wedi cadarnhau y bydd yr Arwydd yn Lleoliad 1 yn dderbyniol cyn belled â’i fod yn cael y caniatâd perthnasol gan yr Adran Priffrydd.  Argymhellir gwrthod rhoi caniatâd i’r arwydd yn Lleoliad 2 oherwydd fe allai arwydd yn y lle hwnnw arwain at broblemau diogelwch y ffordd gan na fyddai â pherthynas uniongyrchol i fynedfa’r stôr ac fe allai greu dryswch i yrwyr, yn dilyn cau croeslon Penyrorsedd.

 

      

 

     Ystyrir bod arwyddion Totem 1 a 2 yn annerbyniol oherwydd eu lleoliad.  Mae’r ddau arwydd wedi’u lleoli y tu allan i’r tir sydd ym mherchenogaeth Aldi.  Mae arwydd 1 rhyw 65 metr o fynedfa Aldi ac mae Arwydd 2  oddeutu 80 metr o fynedfa Aldi.  Credir y byddai’r arwyddion totem arfaethedig wedi’u lleoli’n amhriodol ac maent yn edrych yn anghymarus ac ar eu pennau eu hunain yn y lleoliad ac o’r herwydd maent yn cael effaith niweidiol ar fwynderau’r ardal.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod cais wedi dod i law yn ystod y bore oddi wrth asiant yr ymgeisydd a darllenwyd ef i'r Pwyllgor.  Roedd yr ymgeiswyr yn fodlon tynnu arwydd rhif 1 yn ôl a hynny er mwyn codi arwydd isel yn y lleoliad hwn.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Kenneth P. Hughes cafwyd cynnig i dderbyn argymhelliad o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd W. J. Chorlton y dylid ymweld â'r safle cyn gwneud penderfyniad a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle er mwyn rhoi’r cyfle i aelodau gynefino gyda’r datblygiad arfaethedig cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

      

 

11.4

34/LPA/173C/CC - Addasu ac ehangu yn Plas Penlan, Llangefni

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan mai’r Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

      

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cyfleuster presennol yn cynnwys cartref gofal preswyl gyda 27 llofft a 10 o welyau ar gyfer Pobl Oedrannus gydag Anhwylder Meddyliol.  Gwneir cais am estyniad 1040 m2 fydd yn cynyddu nifer y llofftydd i 40 yn y cartref gofal preswyl ac i 16 yn y ddarpariaeth i Bobl Oedrannus gydag Anhwylder Meddyliol. Mae’r estyniad arfaethedig yn cydymffurfio gyda pholisiau cynllunio o safbwynt dyluniad, maint a gosodiad, ac ni fyddant yn cael effaith ar osodiad yr adeilad rhestredig Graddfa 2 sydd tua’r de ddwyrain i’r cartref gofal preswyl.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i ganiatau’r cais gyda’r amodau yn yr adroddiad.  

 

      

 

11.5

35/C/216E - Addasiad i Gytundeb Adran 106 ar gais cynllunio 35C216D fel bod modd gweithredu ar y naill ganiatâd neu'r llall gyda'r amod na weithredir ar y ddau  yn Tan y Felin,  Llangoed

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Lewis Davies mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio).

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd o cryn gonsyrn yn lleol.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y ceir annedd ar wahân ac adeiladau allanol ar y safle ar hyn o bryd.  Y bwriad yw amrywio Cytundeb Adran 106 nad yw ar hyn o bryd ond yn caniatau i un o’r ddau ganiatâd cynllunio gael eu rhoi ar waith.  Bydd yr amrywiad yn caniatau i unrhyw un o’r ddau ganiatâd gael ei roi ar waith.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W. J. Chorlton cafwyd cynnig i ymweld â'r safle cyn gwneud penderfyniad ar y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hefin W. Thomas.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle er mwyn rhoi’r cyfle i aelodau gynefino gyda’r datblygiad arfaethedig cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

      

 

11.6

36/C/222B - Dymchwel yr annedd â codi annedd newydd yn ei lle ynghyd â gosod tanc septig yn Gors Bach, Cerrigceinwen, Bodorgan

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod anghydfod hen ynghylch y fynedfa / hawl dramwy at yr annedd hon.  Fe gwblhaodd yr ymgeisydd Dystysgrif A i gychwyn yn dweud mai ef oedd perchennog y ffordd sy’n mynd at yr annedd.  Yn dilyn derbyn sylwadau ynglyn â mater hawl dramwy, cyflwynwyd tystysgrif B a rhodwyd rhybudd ar berchnogion Hendre Fawr a Mona Cefn.  Mae yna ffordd yn mynd at yr annedd bresennol ac nid oes yna unrhyw gynigion wedi’u gwneud i altro dim ar y ffordd fel rhan o’r cais.  Tra bo anghydfod yn bod ynglyn â hawl dramwy, nid oes unrhyw dystiolaeth sy’n ateb y broblem wedi’i chyflwyno gan yr un ochr.  Ni fydd dod i benderfyniad ar y cais cynllunio fel y mae wedi ei gyflwyno yn rhagfarnu unrhyw ochr mewn anghydfod preifat sy’n parhau.  Ni wnaed unrhyw sylwadau mewn perthynas â mynediad na materion perchnogaeth o safbwynt y cais blaenorol am y Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon.  

 

      

 

     Nododd bod Polisi 54 o Gynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi HP9 o’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd yn caniatau adeiladu annedd yn lle anheddau parhaol ond dim ond lle y gellir dangos y bydd yr annedd newydd yn gwella edrychiad yr ardal yn sylweddol.   Mae’r Awdurod priffyrdd wedi dweud bod y llain gwelededd i gyferiad y de-ddwyrain o’r fynedfa ymlaen i’r briffordd gyhoeddus yn is-safonol.  Fodd bynnag, gan mai cais yw hwn am annedd yn lle un arall a chyn belled â bod defnydd sefydlog yr annedd wedi ei sefydlu ar y safle, nid yw’r awdurdod yn gwrthwynebu’r fynedfa arfaethedig.  Cafodd Tystysgrif Datblygiad Defnydd Cyfreithlon i’w defnyddio fel annedd ei roi o dan gais 36C22A yn 2005.

 

      

 

     Gofynnodd yr Aelod Lleol am ymweliad â'r safle fel bod yr aelodau'n cael cyfle i'w weld cyn gwneud penderfyniad.  Hefyd gofynnodd y Cynghorydd Hughes am gael Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn bresennol ar y safle adeg yr ymweliad.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W. J. Chorlton cafwyd cynnig i ymweld cyn penderfynu ar y cais.  

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle er mwyn rhoi’r cyfle i aelodau gynefino gyda’r datblygiad arfaethedig cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

      

 

     Rheswm am yr ymweliad oedd i gael golwg ar y gwelededd o'r fynedfa i'r briffordd cyhoeddus.

 

      

 

11.7

36/LPA/905/CC - Troi'r annedd yn ganolfan gofal dydd yn 33 Bryn Hwfa, Rhostrehwfa

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd W.J. Chorlton mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio).

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan mai cais gan yr Awdurod Lleol ydyw.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bydd y newid defnydd arfaethedig yn cael effaith weledol ar yr ardal o gwmpas oherwydd bod yr holl waith altro y tu mewn.  O ystyried y niferoedd fydd yn defnyddio’r cyfleuster, sef dim mwy nag un teulu, ni ystyrir y bydd defnyddio’r anned fel canolfan gofal dydd yn cynyddu’r defnydd a wneir o’r safle i’r fath raddau fel y bydd yn cael effaith niweidiol ar yr ardal o’i gwmpas. Credir bod troi yr annedd hon yn ganolfan gofal dydd yn dderbyniol ac yn unol â’r polisiau uchod ac nid yw’r Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu gyda’r amod y glynir wrth y cynllun rheoli traffig.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol nad oedd yn gwrthwynebu troi'r annedd yn ganolfan gofal dydd ond cyfeiriodd at bryderon ynghylch y cyfleusterau parcio.  Nododd nad oedd yr Adran Briffyrdd ag unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad os oedd y defnyddwyr yn glynu wrth y cynllun rheoli traffig.  Gofynnodd yr Aelod Lleol sut oedd yr Adran am sicrhau bod y ganolfan yn glynu wrth y cynllun rheoli ac mewn ymateb dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) fod yr Awdurdod Priffyrdd wedi gofyn i'r ymgeiswyr baratoi cynllun rheoli traffig ac ynddo ddarpariaeth i sicrhau na fydd mwy na 2 gar yn parcio yn y lle ar unrhyw un adeg benodol.

 

      

 

     Gyda'r math hwn o gais dywedodd y Cynghorydd H. W. Thomas y dylai'r amodau ymddangos yn y rhesymau o blaid caniatáu'r datblygiad.  Ganddo cafwyd cynnig i dderbyn yr argymhelliad o ganiatáu ond gydag un amod ychwanegol - sef bod rhaid cydymffurfio gyda'r cynllun parcio a rheoli traffig y cytunir arno.  Eiliodd y Cynghorydd J. P. Williams y cynnig.

 

      

 

     PENDERFYNWYD  derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn yr adroddiad a hefyd gyda'r amod ychwanegol uchod.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

11.8

45/C/390 - Dymchwel yr adeilad allanol presennol ynghyd a chodi anecs ar wahân yn  Gerallt, Llangaffo

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod hwn yn gais i godi anecs ar wahân gyda dwy ystafell wely, cyntedd, ystafell ymolchi, cegin ac ystafell fyw ac o'r herwydd mae'n cyfateb i annedd annibynnol.  O'r herwydd nid oedd modd ystyried y cynnig fel rhywbeth oedd ynghlwm wrth y brif annedd a bod angen penderfynu arno fel cais am annedd ar wahân.   Roedd y cynnig y tu mewn i libart Gerallt ac yn edrych dros gardd gefn yr eiddo a drychiad cefn yr eiddo.  Ni fuasai annedd newydd annibynnol ar y safle yn dderbyniol oherwydd edrych drosodd a cholli preifatrwydd - i breswylwyr Gerallt a hefyd i breswylwyr yr annedd newydd.  Gan yr Awdurdod Priffyrdd roedd argymhelliad i wrthod oherwydd y gwelededd gwael yn y pwynt mynediad i'r briffordd a hynny tua'r gogledd ddwyrain a hefyd oherwydd y cynnydd yn y traffig yn sgil y datblygiad - peth allai fod yn andwyol i ddiogelwch y briffordd.

 

      

 

     Eglurodd yr Aelod Lleol fod angen yr anecs i rieni oedranus preswylwyr Gerallt, Llangaffo.  Cyflwynwyd y cais yn Rhagfyr 2008 ac roedd hi'n ymddangos fod caniatâd wedi ei roddi i adeiladu anecs gyda'r amod fod yr ymgeisydd yn llofnodi cytundeb dan Adran 106 - cytundeb yn datgan na châi'r eiddo ei werthu ar wahân i'r brif annedd.  Roedd yr ymgeisydd yn cytuno'n llwyr gyda'r gofynion i wneud cytundeb Adran 106.  Ond cyn llofnodi'r cytundeb dan Adran 106 dywedodd yr Aelod Lleol bod yr amodau wedi eu newid; ni allai'r ymgeisydd wedyn osod, prydlesu na gwerthu'r anecs.  Nid oedd yr ymgeisydd yn gefnogol i'r amod ychwanegol hwn.

 

      

 

     Cyfeiriodd yr Aelod Lleol at faterion edrych drosodd a cholli preifatrwydd fel y mynegwyd hynny yn yr adroddiad.  Pwysleisiodd bod y cwt 'nissan' presennol ym mhen draw'r ardd.  Wedyn soniodd am argymhelliad yr Adran Briffyrdd i wrthod y cais oherwydd gwelededd gwael yn y fynedfa; crybwyllodd y Cynghorydd Rogers bod y teulu ifanc hwn dros y blynyddoedd wedi cael tair merch a phob un ohonynt gyda char; ni chredai ef y buasai traffig ychwanegol yn defnyddio'r fynedfa hon petai'r cais yn cael ei ganiatáu.  

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd W. J. Chorlton bod y cytundeb dan Adran 106 yn gaeth ac na allai'r ymgeisydd osod yr anecs yn y dyfodol.

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd Hefin Thomas bod y cais gerbron yn gynnig dilys.  Roedd cwt 'nissan' ar y safle ac yn ôl y polisïau cynllunio roedd y cais hwn y tu mewn i'r llinell ddiffiniedig ac nid yn groes i bolisi.  Gan y Cynghorydd H. W. Thomas cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais gydag amod dan Adran 106 i rwystro gwerthu'r anecs ar wahân i'r annedd - sef Gerallt.  Eiliodd y Cynghorydd J. P. Williams y cynnig.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd O. Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y Swyddog a gwrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd E. G. Davies.

 

      

 

     Fel hyn y bu'r pleidleisio :-

 

 

 

     Caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog a chyda chytundeb dan Adran 106 yn rhwystro gwerthu'r eiddo ar wahân i'r annedd:  Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, B. Durkin, Jim Evans, R.L. Owen, J. Arwel Roberts, Hefin W. Thomas, J.P. Williams, Selwyn Williams.

 

      

 

     Derbyn adroddiad y Swyddog a gwrthod y cais : Y Cynghorwyr O. Glyn Jones, E.G. Davies.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu’r cais.

 

      

 

12

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd - adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

13

APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopiau o grynodebau o benderfyniadau gan yr Arolygydd Cynllunio ynghylch :-

 

      

 

     Tir yn cydffinio â Rhosyn Mynydd, Mynydd Mechell - gwrthodwyd yr apêl

 

      

 

14

MATERION ERAILL

 

      

 

14.1

46/C/256E - Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir dros dro i ddarparu adeilad parod ac adeiladu sgaffaldiau i’w defnyddio fel platfform deifio hyd Medi 30, 2010 ar dir yn Gof Du, Penrhosfeilw, Caergybi

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio - ar 3 Rhagfyr 2008 fe roddodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ganiatâd cynllunio i’r cais gydag amodau ac yn destun cytundeb Adran 106.  Mae’r cytundeb 106 yn cael ei ddrafftio ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, mae’r Ardal o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig ac o fewn Ardal Diogelwch Arbennig (neu safle Ramsar).  Safleoedd yw'r rhain sydd o bwysigrwydd eithriadol o safbwynt cynefinoedd a rhywogaethau naturiol sy’n fregus, yn brin neu sydd mewn perygl o fewn y gymuned Ewropeaidd.  Gyda’i gilydd, mae’r safleoedd hyn y cael eu galw yn safleoedd Natura 2000.  

 

      

 

     O dan reoliad 48(1) o Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol & c.) 1994 (fel y’u diwygiwyd) rhaid i ‘awdurdod cymwys’ (yn yr achos hwn, yr Awdurdod Cynllunio), cyn penderfynu rhoi unrhyw ganiatâd neu awdurdod i gynllun neu brosiect sydd :-

 

      

 

Ÿ

yn debygol o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd, naill ai ar ben ei hun neu fel cyfuniad o gynlluniau a phrosiectau eraill, ac

 

 

 

Ÿ

nad yw â chyswllt uniongyrchol gyda’r safle neu sy’n angenrheidiol i reolaeth y safle,

 

 

 

     wneud asesiad priodol o’r goblygiadau i’r safle o gofio amcanion cadwraethol y safle hwnnw.

 

      

 

     Mae Rheoliad 48(5) yn dweud na fydd yr awdurdod cymwys yn cytuno gyda chynllun neu brosiect hyd nes y bydd wedi gweld na fydd yn cael effaith niweidiol ar integriti’r safle Ewropeaidd.  Mae Rheoliad 48(6) yn dweud y bydd yn rhaid i’r awdurdod roi sylw i’r dull y bwriedir rhoi’r cynllun mewn grym ac unrhyw amodau neu gyfyngiadau y byddant yn fodlon â hwy cyn caniatau’r cynllun pan fônt yn ystyried a fydd cynllun neu brosiect yn cael effaith niweidiol ar integriti’r safle.  Pwrpas yr adroddiad hwn yw gwneud asesiad priodol o’r safle yn unol â Rheoliad 48.  

 

      

 

     Mae yna botensial o fewn y datblygiad hwn i gael effaith sylweddol ar y ddau safle Ewropeaidd trwy greu difrod a styrbans fyddai’n tynnu’n groes i amcanion cadwraethol y safleoedd.  Mewn ymgynghoriad gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru ystyrir y gellir lliniaru’r effeithiau trwy osod a gweithredu amodau priodol fel na cheir effeithiau sylweddol ar safleoedd dynodedig yn codi o’r cynnig.  Cafwyd sylw gan y Swyddog bod trafodaethau yn dal i gael eu cynnal gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru.  Barn yr asesiad hon yw, o osod yr amodau hyn, nad oes unrhyw oblygiadau i’r safleoedd o safbwynt eu hamcanion cadwraethol.

 

      

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd W.J. Chorlton dderbyn yr adroddiad a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd E. G. Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a rhoi pwerau gweithredol i'r Swyddogion ar ôl cwblhau'r trafodaethau gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

 

      

 

14.2

48/C/145B - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd ag addasu y fynedfa bresennol i gerbydau ar gae rhif O.S. 0262, ger  Pencraig, Gwalchmai

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio - cafodd cais i godi annedd ar dir yn Pencraig, Gwalchmai o dan gais cynllunio rhif 48C145B ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod ar 25 Gorffennaf, 2007 ac fe argymhellwyd ei wrthod gan swyddogion fel cais oedd yn tynnu’n groes i bolisiau tai y Cynllun Lleol.  Er i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wrthod rhoi caniatâd cyn hynny a gwrthod apel yn erbyn hynny gan yr Arolygaeth Gynllunio, roedd yr aelodau’n ystyried y dylid cymeradwyo’r cais gan ei fod yn cynnig cyle i deulu lleol sicrhau annedd i siwtio eu hanghenion.  Er mwyn sicrhau y byddai’r annedd yn parhau i fod ar gael i bobl leol, fe benderfynodd yr aelodau ganiatau’r cais gydag amodau a chyda chytundeb cyfreithiol o dan Adran 106.  Cafodd y Cytundeb ei dderbyn gan yr ymgeisydd ac fe ryddhawyd y caniatâd ar 20 Tachwedd 2007.  Ni ellir gwneud unrhyw gais ffurfiol i ddiddymu nac i newid y cytundeb Adran 106 am gyfnod o 5 mlynedd o’i wneud.

 

      

 

     Mae’r ymgeisydd, fodd bynnag, wedi ysgrifennu at yr Awdurdod Cynllunio i ofyn am i dermau’r cytundeb gael eu dileu gan ei fod yn dweud na all gael morgais i orffen adeiladu’r eiddo.  Mae’r annedd wedi hanner ei hadeiladu gan ddefnyddio cynilion y teulu ond mae angen morgais i ariannu gweddill y gwaith.  Mae’r ymgeiswyr wedi cyflwyno canlyniadau gwaith chwilio ar y rhyngrwyd am ddarparwyr morgais i gefnogi eu cais, ynghyd â llythyr gan frocer lleol, yn dweud na fydd unrhyw forgais yn cael ei gynnig oherwydd y cyfyngiad Adran 106.  Mae’r ymgeisydd yn pwysleisio nad oes ganddi unrhyw fwriad i werthu’r eiddo ond nid yw’n gallu codi’r arian angenrheidiol i gwblhau’r gwaith adeiladu pan fo’r cyfyngiad ar ddeiliadaeth person lleol yn ei le.  

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol y Cynghorydd Bob Parry OBE, na fedrai'r datblygwr, oherwydd cyfyngiadau ariannol, symud ymlaen.  Gofynnodd am ohirio'r mater am fis er mwyn creu cyfle i gynnal trafodaethau a dod ag adroddiad yn ôl i'r Pwyllgor hwn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W. J. Chorlton cafwyd cynnig i'r perwyl bod dau fis yn gyfnod mwy rhesymol a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Kenneth P. Hughes.

 

      

 

     Os oedd modd datrys y mater cyn pen dau fis dywedodd y Swyddog y buasai'n gofyn am awdurdod dirprwyol i wneud hynny.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a gohirio trafodaeth am ddau fis ac yn y cyfamser rhoi'r awdurdod i Swyddog Tai Fforddiadwy'r Cyngor ystyried pa opsiynau sydd ar gael i gynorthwyo'r ymgeisydd i gael morgais ond, yr un pryd, cadw'r cytundeb dan Adran 106.  Os oedd modd cyrraedd cytundeb y tu mewn i'r amser hwn yna dirprwyo i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio y pwer i weithredu ar gytundeb o'r fath.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

14.3

Dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am 2009

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd - ddyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am 2009 fel a ganlyn :-

 

      

 

      

 

     Pwyllgor                        Ymweliadau Safleoedd

 

      

 

     Mai                              6                      20

 

     Mehefin                         3                      17

 

     Gorffennaf                          1                      15

 

          29                        -

 

     Awst                              -                        5

 

     Medi                              2                       16

 

     Hydref                              7                       21

 

     Tachwedd                          4                                             18

 

     Rhagfyr                                     2                                             16

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD T.H. JONES

 

     CADEIRYDD