Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 8 Tachwedd 2006

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 8fed Tachwedd, 2006

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

 

Cofnodion y cyfarfod gynhaliwyd ar 8 Tachwedd, 2006 

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards,

PM Fowlie, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones,

RL Owen, John Roberts, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Gwasanaethau Amgylchedd & Thechnegol)

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Swyddog Cynllunio (EH)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy)(JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd)(RE)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

YMDDIHEURIADAU:

 

 

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:  Y Cyng Mrs Bessie Burns - eitemau 6.7,10.4,10.5

Eifion Jones - eitem 8.1, Thomas Jones - eitemau 6.6, 9.1, 9.2,

G Allan Roberts - eitemau 6.2,6.3, Peter Rogers - eitemau 6.9,10.10,

Keith Thomas - eitem 6.4.

 

Hefin Thomas (Deilydd Portffolio Cynllunio) ac aelod lleol ar gyfer eitem 10.9

 

 

 

Mynegodd y Cadeirydd longyfarchiadau i swyddogion a staff yr Adran Gynllunio ar eu llwyddiant yn penderfynu ar 93% o geisiadau cynllunio o fewn yr amser penodedig fel yr adroddwyd yn y Wales Local Government Data am 2005/06.  

 

Mynegwyd dymuniadau gorau'r Pwyllgor i fam y Cynghorydd Glyn Jones am wellhad buan.

 

 

Gofynnodd y Cadeirydd am i bob gohebiaeth, cynlluniau, darluniau etc gael eu cyflwyno mewn da bryd cyn drechrau cyfarfodydd yn y dyfodol, hyn i alluogi swyddogion wneud copiau ymlaen llaw i'r aelodau. Ni fydd yn dderbyniol dosbarthu unrhyw ohebiaeth i aelodau unwaith y bydd cyfarfod wedi cychwyn yn y dyfodol.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb fel a geir uchod.

 

2

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

 

 

3

COFNODION

 

 

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar

 

4 Hydref, 2006 (tud  )

 

 

 

4

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar 18 Hydref, 2006.

 

 

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

12C66G  DYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL YNGHYD Â CHODI 5 ANNEDD, CAFFI, PAFILIWN AC AILWAMPIO'R HEN BWLL NOFIO, BIWMARES

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 5 Gorffennaf, ac fe gafwyd hyn ar 12 Gorffennaf, 2006.  Gofynnwyd am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.2      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

30C385B   DYMCHWEL Y GWESTY PRESENNOL, CODI ADEILAD 3 LLAWR YN CYNNWYS 21 O FFLATIAU PRYNU I OSOD, PWLL NOFIO DAN DO YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ADDASU'R FYNEDFA I GERBYDAU A’R GARTHFFOSIAETH YN LLIFO I’R GARTHFFOS GYHOEDDUS YNG NGWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 5 Gorffennaf, ac fe gafwyd hyn ar 12 Gorffennaf, 2006.  Gofynnwyd am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

30C618  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL YN TRAETH ARIAN, BENLLECH

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Gofynnwyd am ohiriad er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.4      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

30C621  CAIS LLAWN AR GYFER DATBLYGIAD TRIGIANNOL YN CYNNWYS 31 O ANHEDDAU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR YN LÔN PANT Y CUDYN, BENLLECH

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 4 Hydref, ac fe gafwyd hyn ar 18 Hydref, 2006.  Gofynnwyd am ohiriad er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

39C254B  CAIS AMLINELLOL I GODI 4 ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN HAFOD WERN, PORTHAETHWY

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 6 Medi, ac fe gafwyd hyn ar 20 Medi, 2006.  Gofynnwyd am ohiriad er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.6      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

49LPA868/CC  CAIS I OSOD GORSAF TRIN CARTHION NEWYDD YN LLE'R UN BRESENNOL YNGHYD Â GOSOD ARLLWYSFA NEWYDD I WASANAETHU SAITH ANNEDD BRESENNOL AR DIR Y TU CEFN  I 1 TAI CYNGOR A BRYN REFAIL, LLANYNGHENEDL

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn cael ei gyflwyno ar ran y Cyngor.

 

 

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais hwn ar 6 Medi.  Cyfeiriwyd y cais yn ôl i'r Pwyllgor yn wyneb materion a godwyd yn ystod yr ymgynghori a gofynnwyd am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau.      

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

6

CEISIADAU'N CODI

 

 

 

6.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C602H  DYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL A CHODI 4 FFLAT HUNAN-GYNHALIOL YN 1 STANLEY CRESCENT, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio.  Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 6 Medi, ac fe gafwyd hyn ar 20 Medi, 2006.  Dymuniad yr aelodau ar 4 Hydref oedd un o ganiatáu'r bwriad gan y teimlai'r aelodau fod hyn yn welliant ac yn adfywio'r ardal.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai argymhelliad o wrthod oedd yma am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad o ganiatáu am y rhesymau a roddwyd eisoes, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Caniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, PM Fowlie, Aled Morris Jones,

 

J Arthur Jones, O Glyn Jones, John Roberts, J Arwel Roberts, John Rowlands WJ Williams MBE

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards,

 

RL Owen,

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad o ganiatáu, a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog, yn unol ag amodau safonol.

 

 

 

6.2      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

19C712H  CAIS LLAWN I NEWID DEFNYDD AC AILDDATBLYGU'R EIDDO I 8 O UNEDAU PRESWYL YNGHYD Â CHODI 33 O UNEDAU PRESWYL NEWYDD AC ADDASU'R FYNEDFA I GERBYDAU YN PORTHYFELIN HOUSE, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd natur y cais a hanes cynllunio’r safle.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 4 Hydref ac fe gafwyd hyn ar 18 Hydref, 2006.

 

 

 

Gan y Pennaeth Rheoli Datblygu cafwyd cadarnhad i argymhelliad y swyddog y dylid canitatáu’r cais hwn am y rhesymau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad cynhwysfawr, ond gydag amod dan Adran 106 (tai fforddiadwy) ac amod “grampian” i wneud y gwaith gwella ar y ffordd.  Yng nghyswllt y tai fforddiadwy penderfynwyd ar gyfaddawd.  O safbwynt cynllunio roedd y cynllun drwyddo draw yn ddatblygiad “galluogi” h.y. ni fuasai’n ymarferol nac yn economaidd addasu Porthyfelin House ar ei ben ei hun, ac o’r herwydd cyrhaeddwyd cyfaddawd yn lle tai fforddiadwy ar y safle.  Yn ychwanegol at y 6 llythyr o wrthwynebiad a nodwyd yn yr adroddiad dywedodd y swyddog fod un arall wedi’i dderbyn, sef llythyr yr Aelod Cynulliad ac roedd cyfeiriad yn y llythyr hwn at 15. Roedd y llythyrau hyn yn ymatebion amrywiol i’r datblygiad arfaethedig.  Dywedodd y Swyddog na ddylid ystyried y datblygiad arfaethedig ar i ei ben ei hun ond y dylid ystyried yr amgylchedd ehangach.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Allan Roberts cadarnhaodd bod yr Awdurdod wedi penodi ymgyngorwyr allanol i edrych ar strategaeth ar gyfer yr ardal yn y dyfodol drwy baratoi prif gynllun;  fodd bynnag ni fyddai’r adroddiad ar gael tan o leiaf Mawrth, 2007 a byddai’n afresymol oedi gydag ystyried y cais hwn tan hynny.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd G Allan Roberts dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod y cynnig i ledu ac i wella’r ffordd fynedfa o Draeth Newry a darparu llwybr cerdded yn dderbyniol.

 

 

 

Gan y Cynghorydd G Allan Roberts cafwyd ymateb manwl i adroddiad y swyddog, a chyfeiriodd at y gwrthdaro rhwng swyddogion proffesiynol yn eu barn.  Ni chredai’r Cynghorydd Allan Roberts fod y cynnig hwn yn dangos cydymdeimlad gyda’r lle o gwmpas a châi effaith negyddol ar yr ardal o gadwraeth, ac yn enwedig o gofio am ymdrechion i geisio cael statws treftadaeth i’r rhan hon o’r Ynys.  Roedd y Cynghorydd Roberts yn teimlo fod angen gwell dyluniad a phwysodd ar yr aelodau i wrthod y cais gerbron.

 

 

 

Yn ôl y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) roedd y cynnig yn cydymffurfio â’r CDU a stopiwyd.  Dros gyfnod o ddeunaw mis yn fras cafwyd trafodaethau maith rhwng swyddogion a’r datblygwr cyn cyrraedd cytundeb, sef bod Stena Line yn rhyddhau tir i’r Awdurdod i bwrpas lledu’r ffordd fynedfa sy’n rhedeg at y fynedfa i’r safle a chreu llwybr cerdded, a buasai’r datblygwr yn cyfrannu £120k at hyn.  Cafodd cyfanswm yr unedau ei ostwng a diwygiwyd y dyluniad; hefyd buasai’r gwaith yn adnewyddu’r hen adeilad adfeiliedig; hefyd yr oedd yr Adran Briffyrdd bellach yn hapus gyda’r gwelliannau arfaethedig i’r ffordd.  Gan y swyddog cafwyd argymhelliad cryf i ganiatáu.

 

 

 

Ond nid oedd y Cynghorydd WJ Williams yn siwr ai hwn oedd y dyluniad gorau.  Roedd y Cynghorydd Arwel Edwards yn gofyn am sicrwydd na châi y ddau floc a adawyd allan eu hadfer rywbryd yn y dyfodol.  Teimlai’r Cynghorydd RL Owen yn gryf iawn y dylid diogelu’r rhan hon o’r Ynys.

 

 

 

Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatâu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Chorlton.  Petai’r cynllun yn adfywio’r ardal yna roedd y

 

Cynghorydd Fowlie am ei gefnogi ar yr amod fod gwaith gwella yn cael ei wneud ar y lôn heb achosi costau ychwanegol i’r Awdurdod.  

 

 

 

Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Arwel Edwards, PM Fowlie, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, John Roberts, J Arwel Roberts, John Rowlands

 

 

 

Gwrthod y cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, RL Owen, WJ Williams MBE

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol â'r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog gan gynnwys Amod 106 ar dai fforddiadwy ac amod Grampian (gwelliant i'r ffordd)

 

 

 

6.3

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

19C712J/LB  CANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG I NEWID DEFNYDD AC AILDDATBLYGU'R EIDDO I 8 O UNEDAU PRESWYL YNGHYD A CHODI 33 O UNEDAU PRESWYL NEWYDD AC ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU YN PORTHYFELIN HOUSE, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd natur y cais a hanes cynllunio’r safle.  

 

 

 

PENDERFYNWYD rhoi gwybod i CADW  fod yr Awdurdod hwn yn tueddu i ganiatáu'r cais, am y rhesymau a roddwyd, yn unol â'r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

6.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C954  DYMCHWEL YR ANNEDD BRESENNOL YNGHYD Â CHODI 6 ANNEDD NEWYDD, ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU A CHREU MANNAU PARCIO YCHWANEGOL AR DIR YN GLASFRYN, FFORDD CYTTIR, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 4 Hydref ac fe gafwyd hyn ar 18 Hydref, 2006.

 

      

 

     Roedd gan y Cynghorydd Keith Thomas dri sail o wrthwynebiad i'r cais, sef:

 

      

 

     Gorddatblygu - buasai'n newid cymeriad y cyffiniau sydd ar hyn o bryd yn 5 byngalo a thri ty

 

     Dyluniad - roedd y bwriad yn un o ddau floc o dri thy tref

 

     Diogelwch ffordd - yn arbennig yn y fynedfa

 

      

 

     Yn ychwanegol at hyn clywyd sibrydion y buasai’r ty drws nesaf, Seabank, yn ymgeisio am ganiatâd cynllunio am annedd arall; gofynnodd y Cynghorydd Thomas am wrthod y cais hwn.

 

      

 

     Wedyn cafwyd gair o gadarnhad gan yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd nad oedd bwriad i ddarparu palmant ac mai ffordd breifat oedd y ffordd at y safle; fodd bynnag cytunodd y buasai lledu ffordd y stâd o’r naill ben i’r llall yn beth buddiol iawn.

 

      

 

     Er gwaethaf y cynnydd yn y traffig nid oedd bwriad i ddarparu palmant, ac roedd hynny yn destun pryder i’r Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Ni chredai’r Cynghorydd J Arthur Jones y câi’r cynnig effaith andwyol ar y lle a bod tai teras yn briodol i’r safle, ac aeth ymlaen i gynnig caniatáu.

 

      

 

     Ar ôl cael y cyfle i ymweld â’r safle teimlai’r Cynghorydd Eurfryn Davies fod y datblygiad yn cyfateb i orddatblygu’r lle a phryderai hefyd oherwydd y cynnydd yn y traffig.  Am nad oedd bwriad i ledu’r cyfan o’r lôn at y safle roedd y Cynghorydd Glyn Jones yn pryderu.

 

      

 

     Wedyn ychwanegodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod pob cais unigol yn cael sylw fesul un, a bod y safle hwn o fewn ffiniau datblygu Caergybi, ac ar ôl pwyso a mesur popeth daethpwyd i’r casglaid fod y gosodiad a’r dyluniad yn dderbyniol ac ni allai swyddogion amddiffyn penderfyniad i wrthod ar apêl.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig o ganiatáu'r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Rowlands.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, J Arthur Jones, John Roberts, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, O Glyn Jones, RL Owen, J Arwel Roberts

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr PM Fowlie, Aled Morris Jones

 

      

 

     Roedd y bleidlais yn bump yr un ac wrth i'r Cadeirydd ddefnyddio'r bleidlais fwrw fe benderfynwyd gwrthod y cais, a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog, oherwydd consyrn priffyrdd a diogelwch cerddwyr.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

      

 

6.5     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     28C367A  28C367A  DILEU AMOD (09) O GANIATÂD CYNLLUNIO 28C367 ER MWYN GOSOD FFENESTRI, FFASGIAU A GWTERI PLASTIG GWYN AR YR ADEILADAU ALLANOL YN BRYN HYFRYD, BRYNGWRAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol. Ar 4 Hydref penderfynwyd caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog gan y teimlai'r aelodau y byddai'r math o ddeunyddiau a fwriedir yn gweddu gyda anheddau eraill yn yr ardal.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad i ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd eisoes, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Fowlie.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, WJ Williams MBE

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards,

 

     J Arthur Jones,  J Arwel Roberts, John Rowlands

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu'r cais, yn unol ag amodau safonol.

 

      

 

6.6     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     38C223  CAIS DABLYGIAD TRIGIANNOL I GODI 19 ANNEDD (YN CYNNWYS 6 ANNEDD FFORDDIADWY) AR DIR GER PEN Y BONT, MOUNTAIN ROAD, LLANFECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn un yn tynnu'n groes i bolisïau a'r awdurdod cynllunio lleol yn argymell ei ganiatáu.  Dymuniad yr aelod lleol hefyd oedd ei gyflwyno i'r Pwyllgor. Yn y cyfarfodydd ar 6 Medi a 4 Hydref gohiriwyd ystyried y cais i roi cyfle i swyddogion gwblhau trafodaethau.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y buasai 4 annedd yn dai fforddiadwy trwy landlord cymdeithasol cofrestredig a’r ddwy annedd arall yn cael eu gwerthu fel tai pris rhesymol, ac i ofalu am hynny gwneid cytundeb dan Adran 106.

 

      

 

     Mynegi pryder a wnaeth y Cynghorydd Thomas Jones oherwydd colli llwybr rhwng y stad dai a’r ysgol gynradd leol a gofynnodd am ei adfer.  Ond nid llwybr cyhoeddus oedd hwn meddai’r Uwch Beiriannydd Priffyrdd, ond cytunodd i drafod y mater gyda’r datblygwr.  Cadarnhaodd fod y llwybr hwn yn cael ei ddefnyddio gan y bobl leol i gerdded rhwng yr ysgol a’r stad dai.  

 

      

 

     Y peth mwyaf priodol yn ôl y Cyfarwyddwr Corfforaethol (yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) oedd cyrraedd cytundeb trwy drafodaeth a than amgylchiadau felly roedd y Cynghorydd Thomas Jones yn fodlon cefnogi.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad i ganiatáu.  

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol a'r amodau a fanylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.7      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     38C237  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, CREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG YM MAES MAWR, LLANFECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai mab “aelod etholedig" yw'r ymgeisydd ac nid "aelod o'r Pwyllgor Cynllunio" fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Thomas Jones yn y cais hwn.

 

      

 

     Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 4 Hydref, i weld a oedd y cais yn cydymffurfio â Pholisi 50, ac fe gafwyd hyn ar 18 Hydref, 2006.

 

      

 

     Canfu’r Cynghorydd Mrs Bessie Burns fod y safle yng nghanol 5 i 6 o dai, a Charreg Daran y tu mewn i’r ffiniau datblygu a gardd y ty yn union ger y safle, y tu mewn i’r cyfyngiad gyrru 30 mya a heb fod yn y cefn gwlad.  Apelio am gysondeb a wnaeth Mrs Burns wrth wneud penderfyniad a theimlai fod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 gan ei fod ar gyrion y ffiniau datblygu lle rhoddir caniatâd i anheddau unigol.  Yr ymgeisydd oedd biau’r cae.  Mewn llythyr dyddiedig 25 Mehefin o’r Adain Briffyrdd cadarnhawyd nad oedd ganddynt wrthwynebiad mewn egwyddor i godi un annedd ychwanegol yn y lle hwn.  Mewn seminar gynllunio a gafwyd yn ddiweddar roedd cefnogaeth i wneud darpariaeth fel bod pobl ifanc yn parhau i fyw yn eu cymuned a hyrwyddo’r Gymraeg.  Un o’r ardal hon oedd y dyn ifanc dan sylw a chafodd addysg yn lleol ac roedd ef wedi rhentu tir heb fod ymhell yng Ngharreg-lefn.  Teimlai’r Cynghorydd Burns fod yma angen lleol a bod caniatâd yn mynd i fod o gymorth i gynnal y pentref.

 

      

 

     Er bod y Cynghorydd John Roberts yn cydymdeimlo â’r ymgeisydd nid oedd y cais yn gais am dy fforddiadwy nac yn gais am annedd amaethyddol a hefyd roedd y safle ei hun gryn bellter o’r ffiniau datblygu. Cytuno a wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     Ond cyfeiriodd y Cynghorydd Fowlie at safle arall y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddo yn y cyffiniau hyn a chynigiodd roddi caniatâd i’r cais gerbron.  Gan fod y safle yn union ger eiddo arall a’r tu mewn i’r ffiniau datblygu, ac felly yn cydymffurfio â Pholisi 50 fel safle eithriad eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Glyn Jones o blaid caniatáu.  Wrth roddi caniatâd teimlai’r Cynghorydd Aled Morris Jones fod hynny yn gyfle i adfywio’r gymuned leol ac eiliodd ef hefyd y cynnig i ganiatáu.

 

      

 

     Ond ni fedrai’r Pennaeth Rheoli Datblygu gytuno gyda’r aelodau fod y cais hwn yn cydymffurfio â Pholisi 50 y Cynllun Lleol.  Ym Mholisi HP4 yr CDU a stopiwyd roedd ffiniau datblygu pendant a chlir i Lanfechell a rhaid oedd i unrhyw ddatblygiad fod ar y ffin ac yn fforddiadwy.  Nid cais amaethyddol oedd hwn.  Atgoffwyd yr aelodau gan y swyddog fod caniatâd cynllunio amlinellol wedi ei roddi yn Nhyn Llain gerllaw ym mis Mehefin eleni, a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies,

 

     PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, WJ Williams MBE

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton,

 

     Arwel Edwards, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts, John Rowlands

 

      

 

     Roedd y bleidlais yn chwech yr un ac wrth i'r Cadeirydd ddefnyddio ei bleidlais fwrw PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

      

 

6.8     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     44C239C  CODI ANNEDD, MODURDY PREIFAT A MYNEDFA NEWYDD YN RHIWMOEL, RHOSYBOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ar 6 Medi penderfynwyd ymweld â'r safle ac fe gafwyd hyn ar 20 Medi, 2006.  Ar 4 Hydref cafwyd gohiriad er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

      

 

     Mewn ymateb i bwynt 1 yn adroddiad y swyddog lle dywedwyd fod y safle “ar gyrion y pentref” dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ei fod, yn hytrach, “y tu mewn i’r pentref, y tu mewn hefyd i’r cyfyngiad 30 mya ac roedd yna oleuadau stryd a dwy annedd ymhellach o ganol y pentref.  Roedd y Cyngor Cymuned yn cefnogi a gofynnodd y Cynghorydd Jones am ystyried y cais dan Bolisi 50 gan gredu fod y safle y tu mewn i’r pentref, ac ychwanegodd fod yr ymgeisydd yn ddyn ifanc lleol, yn dymuno aros yn y gymuned ac erfyniodd am gefnogaeth yr aelodau.

 

      

 

     Dan Bolisi 50 y Cynllun Lleol roedd Rhosybol, meddai’r Pennaeth Rheoli Datblygu, yn bentref rhestredig, a hefyd yn bentref dan Bolisi HP4 yr CDU a stopiwyd - heb amheuaeth  roedd y tu allan i’r ffiniau datblygu ac ni chafwyd unrhyw dystiolaeth o blaid ei ystyried yn safle eithriad.  Gwnaed cytundeb dan Adran 106 ar y tir yn 1989 i rwystro rhagor o waith datblygu a chafwyd sawl gwrthwynebiad.  Cyn creu mynedfa i’r cae roedd yn rhaid dymchwel clawdd. Er iddo ddweud yn wreiddiol y byddai angen gwneud i ffwrdd â chlawdd i gael mynediad i’r cae, cadarnhaodd y Swyddog yn ddiweddarach bod y cynlluniau yn nodi bwriad i adfer y clawdd.  Serch hynny, nid oedd o’r farn y byddai hynny’n ddigon i gymeradwyo cais a oedd yn amlwg yn groes i bolisi.

 

      

 

     Ond yn ôl y Cynghorydd Aled Morris Jones roedd llythyr arall o gefnogaeth wedi ei dderbyn a châi clawdd newydd ei godi a thirlunio’r safle i rwystro rhagor o ddatblygiadau.  

 

      

 

     Holodd y Cynghorydd John Roberts pam fod ochr ogleddol y ffordd y tu mewn i’r ffiniau datblygu, ac ochr ddeheuol yr un ffordd yn y cefn gwlad.

 

      

 

     Ond sylwodd y Cynghorydd J Arthur Jones nad oedd y cais wedi ei gyflwyno fel un eithriad, ac efallai bod yma ddatblygiad rhubanaidd a chynigiodd wrthod y cais, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Arwel Edwards, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts, John Rowlands WJ Williams MBE

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

6.9     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     45C79E  CAIS AMLINELLOL I GODI 15 O ANHEDDAU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AC I GERDDWYR AR DIR GER MEDDYGFA PENBRYN, STRYD Y CAPEL, DWYRAN

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Gohiriwyd ystyried y cais ar 4 Hydref er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

      

 

     Pryder pennaf y Cynghorydd Peter Rogers oedd y ddarpariaeth i ddraenio’r lle o gofio am hanes o lifogydd ar y tir - roedd llifogydd annisgwyl wedi taro dau eiddo ar yr A4080; ychwanegid at y problemau parcio oherwydd y cynnydd yn y traffig ac roedd y fynedfa i’r safle yn rhy agos i fynedfa’r feddygfa leol.  Peth arall y pryderai y Cynghorydd Rogers amdano oedd prinder cyfleusterau hamdden yn y pentref.  Wedyn ychwanegodd fod Asiantaeth yr Amgylchedd yn dweud mai dyletswydd y Cyngor yw gweithio ar y cwlfert i’r dwr llifogydd, ond

 

     fod y Cyngor heb unrhyw gynigion i wella ar hyn o bryd.  Awgrymodd y dylid cael ymweliad â’r safle i weld y ffordd a’r traffig yno.

 

      

 

     Ni fedrai’r Cynghorydd RL Owen gefnogi’r cais fel yr oedd, ac o’r herwydd cynigiodd ymweliad, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

      

 

     Yn ôl yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd roedd gosodiad y fynedfa yn cyrraedd y safonau dylunio perthnasol ac y buasai’n rhaid i’r datblygwr ddarparu pafin ar hyd y safle er mwyn y bobl leol.

 

      

 

     Wedyn dygodd y Pennaeth Rheoli Datblygu sylw at adroddiad manwl y swyddog a llythyr oddi wrth yr Asiantaeth yr Amgylchedd a oedd yn cynghori y "bydd llif dwr wyneb ar ôl y gwaith datblygu yn llai nag a fydd cyn y gwaith datblygu".  Roedd y cais yn cydymffurfio gyda’r CDU, ac ni châi caniatâd ei ryddhau hyd nes datrys materion draenio a’r materion hynny a oedd dan reolaeth amodau ac argymhellodd roddi caniatâd. Ni chredai ef fod unrhyw reswm dros ohirio ystyried y cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog i ganiatáu'r cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton,

 

     Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts,

 

     John Rowlands WJ Williams MBE

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorydd RL Owen

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Glyn Jones

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol ag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD:

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau economaidd i'w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

 

8

CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY:

 

      

 

8.1     37C154  CAIS LLAWN I GODI 12 ANNEDD A 2 FYNGALO YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AC I GERDDWYR AR DIR YN BRYN TAWEL, BRYNSIENCYN

 

      

 

     Cafwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais ar dir ym meddiant y Cyngor.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eifion Jones fod y tir yng nghanol y pentref a'r bwriad 100% yn dai fforddiadwy.  Roedd yn gyfle unigryw i gyfarfod ag anghenion tai i bobl leol.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts fe nodwyd fod y cae oedd y drws nesaf i’r safle wedi ei brynu o gwmpas 1978 ac yn cael ei adnabod fel safle hamdden.

 

      

 

     Ar gyfer y cofnodion dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod yna niferoedd o wrthwynebiadau a deiseb i law, argymhelliad y swyddog oedd un o ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i ganiatáu, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd ac yn unol â'r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9

CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

9.1     38C231A  CAIS LLAWN I GODI BYNGALO YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AC ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU AR DIR GER TYN LLAIN, LLANFECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  

 

      

 

     Eglurodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod caniatâd amlinellol wedi ei roddi eisoes a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog, a hyn wedi sefydlu’r egwyddor o ddatblygu.  Nid oedd y swyddogion yn gwrthwynebu a chafwyd argymhelliad ganddynt i ganiatáu.  Gofynnodd y swyddog am roddi amod ychwanegol i rwystro unrhyw ddatblygiad pellach ac mai’r bwriad gerbron yn unig a ganiateir ar y safle.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig o ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd  Glyn Jones.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd yn unol ag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog, yn cynnwys amod i rwystro unrhyw ddatblygiad pellach.  

 

      

 

9.2     38C238  CODI ANNEDD UNLLAWR AR GAE O.S. 9420, MYNYDD MECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  

 

      

 

     Nid oedd y cynllun ynghlwm wrth y cais yn gywir yn ôl y Cynghorydd Thomas Jones am nad oedd yn dangos y ffrâm awgrymiadol.  Roedd Mynydd Mechell yn cael ei gydnabod fel “treflan wledig neu glwstwr yn yr CDU a’r safle yn gorwedd y tu mewn i’r ffram awgrymiadol.  Dyn ifanc lleol oedd yr ymgeisydd, a gerllaw roedd stad dai o 15 o anheddau a rhyw 50 o dai i gyd yn yr ardal yma ac acw;  tir gwael oedd tir y safle.

 

      

 

     Gan y Pennaeth Rheoli Datblygu cafwyd fersiwn lafar o ddarpariaethau HP5 yr CDU a stopiwyd - roedd y cais yn groes i’r polisïau er fod y safle ei hun y tu mewn i’r ffrâm awgrymiadol ond nid oedd hynny, o angenrheidrwydd, yn reswm i ganiatáu’r cais.  Bythynod a thyddynod traddodiadol oedd yn yr ardal yn bennaf a’r safle gerbron yn amlwg yn y cefn gwlad draw o’r datblygiadau eraill ac ni chafwyd unrhyw dystiolaeth fod yma angen lleol - yr argymhelliad oedd gwrthod.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas Jones ynghylch beth oedd ystyr y ffrâm awgrymiadol, dywedodd y swyddog fod ffram o’r fath yn dangos y patrwm datblygu mewn ardal lle nad oedd ffiniau diffiniedig i’r pentref.  Nid rheswm dros ganiatáu oedd bodolaeth ffrâm.

 

      

 

     Cytuno a wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones nad oedd y cais hwn yn cydymffurfio â'r polisïau a chynigiodd wrthod y cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.   

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts, J Arwel Roberts, John Rowlands

 

      

 

     Ymatal: Y Cynghorwyr PM Fowlie, WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

9.3     44C233B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG AR RAN O GAE 5173, RHOSYBOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris bod yr ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth o angen lleol am annedd unllawr, a hynny am resymau meddygol a gofynnodd am i’r cais gael ei drin fel eithriad.  Roedd y safle yng nghanol clwstwr a hefyd roedd y Cyngor Cymuned yn gefnogol.

 

      

 

     Atgoffwyd yr aelodau gan y Pennaeth Rheoli Datblygu mai hwn oedd y trydydd cais i gael sylw ar y safle, ac roedd yr aelodau wedi ymweld a’r lle yn y gorffennol.  Hefyd roedd Rhosybol yn bentref rhestredig yn y Cynllun Lleol ac roedd iddo ffiniau diffiniedig yn yr CDU a stopiwyd.  Roedd rhyw 300m y tu allan i’r ffiniau datblygu, ac o’r herwydd gwnai hynny’r cais yn groes i bolisïau ac roedd angen gwneud penderfyniad yn seliedig ar ddefnydd tir; yr argymhelliad oedd gwrthod.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn yr argymhelliad, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Arwel Edwards, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts, John Rowlands

 

      

 

     Caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais.

 

      

 

9.4     45C356  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AC ADEILAD AMAETHYDDOL YNGHYD Â GOSOD SUSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH BREIFAT A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER PLAS, LLANGAFFO

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  

 

      

 

     Nodwyd fod y cais hwn wedi ei dynnu’n ôl.

 

      

 

10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1     19C967  GOSOD CYNHWYSYDD I STORIO OFFER ATHLETIG YNG NGHAE CHWARAE MILLBANK, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd gan y Cyngor Tref ddim gwrthwynebiad.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd WJ Williams.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn unol ag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

10.2      28C373 DATBLYGIAD TRIGIANNOL YN CYNNWYS 4 TY, 4 LLOFFT A 4 FFLAT 2 LOFFT YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GYFERBYN Â FFORDD Y STESION, RHOSNEIGR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Dymunai’r Cynghorydd Fowlie ddatgan yn agored nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r egwyddor o ddatblygu’r safle, ond teimlai fod 4 o dai 4 ystafell wely yr un a 4 o fflatiau 2 ystafell yr un yn cyfateb i orddatblygu a châi hynny effaith ar bleserau o leiaf ddau o’r tai cyfagos, ac yn y cyswllt hwn cyfeiriodd at y tafluniad a gafwyd o’r ardal a chynigiodd wrthod, cafodd ei eilio gan y Cynghorydd WJ Williams.

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd Glyn Jones y gwnâi 8 annedd greu 100 o symudiadau traffig ychwanegol bob dydd.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod y safle o fewn y ffin datblygu a phob agwedd o’r cais wedi edrych arno’n ofalus ac, wedi pwyso a mesur, argymhelliad i ganiatáu oedd yma.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton,  

 

     PM Fowlie, O Glyn Jones, RL Owen, John Rowlands WJ Williams MBE

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais:  Y Cynghorydd J Arthur Jones,

 

     J Arwel Roberts

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd Eurfryn Davies

 

      

 

     Penderfynwyd gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog a hynny oherwydd y teimlai’r aelodau fod yma orddatblygu ac y buasai tai cyfagos yn colli mwynderau.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf i alluogi swyddogion i baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd J Arthur Jones am ragor o fanylion i’r cyfarfod nesaf ar ddwysedd yr adeiladu o’i gymharu â maint y safle.

 

      

 

10.3      28C84A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER TERAS GLAN GORS,

 

        BRYN DU

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Yr ymgeisydd oedd y bedwaredd genhedlaeth o’r teulu lleol yn ôl y Cynghorydd Glyn Jones.  Am gartrefi dwy ystafell wely yn y cyffiniau hyn roedd yn rhaid talu dros £150k.  Y teulu oedd biau’r tir ac o’r herwydd roedd modd adeiladu arno am bris fforddiadwy.  Ar y naill law yr oedd y plot yn croesi’r ffiniau datblygu ond hefyd yn union gerllaw roedd melin wynt restredig Graddfa II a chai’r datblygiad effaith ddrwg ar yr adeilad hwnnw petai’r safle yn cael ei symud; credai’r Cynghorydd Jones fod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 a bod modd ei ystyried fel datblygiad yn llenwi bwlch.  

 

      

 

     Ond yn ôl y Pennaeth Rheoli Datblygu roedd Polisi HP4 y CDU a stopiwyd yn dangos yn glir leoliad y ffiniau datblygu i Fryn Du ac ni chafwyd unrhyw dystiolaeth y buasai’r annedd yn un fforddiadwy.

 

      

 

     Yna cyfeiriodd y Cynghorydd J Arthur Jones at bryderon a fynegwyd ar achlysur o’r blaen o herwydd cynnydd yn y traffic yn sgil cais arall yn yr ardal - cais nad oedd a wnelo fo ddim byd â’r cais dan sylw.  Ond ni cheid unrhyw gynnydd yn y traffig meddai’r Cynghorydd Glyn Jones gan fod yr ymgeisydd eisoes yn byw yn Nheras Glan Gors.  

 

      

 

     Rhoddwyd rhesymau pam y dylid caniatáu - sef fod y plot yn croesi’r ffiniau datblygu ac na châi y lleoliad unrhyw effaith negyddol.

 

      

 

     Nodwyd fod ¾ y safle y tu allan i ffin datblygu Bryn Du.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ganitatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorwyr  RL Owen a John Roberts.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts, John Rowlands WJ Williams MBE

 

      

 

     Y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu oedd bod y plot yn gorwedd y naill ochr a’r llall i’r ffin datblygu ac ni fyddai lleoliad y datblygiad arfaethedig yn cael effaith negyddol.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf i alluogi swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais.

 

      

 

10.4      29C121  NEWID DEFNYDD 4 ADEILAD ALLANOL I 10 ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AC I GERDDWYR YNGHYD Â GOSOD SUSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH BREIFAT YN BORTHWEN, LLANFAETHLU

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Fe nodwyd fod y bwriad gwreiddiol yn golygu 10 o anheddau ond fod hyn nawr wedi ei ostwng

 

     i 9.

 

      

 

     Doedd y Cynghorydd Bessie Burns ddim yn ymwybodol o unrhyw wrthwynebiad lleol gan gynnwys y cyngor cymuned, er fod yna gonsyrn priffyrdd.

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beirianydd Priffyrdd y byddai’r ddwy fynedfa bresennol yn cael eu cau ac un arall yn cael ei chreu i’r dde o’r safle.  Buasai uchder y wal yn y fynedfa yn cael ei gostwng i 1m fel bod modd gadael y safle’n ddiogel.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

10.5      29C121/A/LB  CAIS ADEILAD RHESTREDIG I NEWID DEFNYDD 4 ADEILAD ALLANOL I 10 ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AC I GERDDWYR YNGHYD A GOSOD SUSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH BREIFAT YN BORTHWEN, LLANFAETHLU

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD hysbysu CADW fod yr Awdurdod hwn am gymeradwyo’r cais, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

10.6      33C87D  CAIS LLAWN I GODI 27 ANNEDD AR DIR GAERWEN UCHAF, GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

Nodwyd fod y cais hwn wedi’i dynnu’n ôl.  

 

      

 

10.7      33LPA869/CC  CODI ADEILAD AMAETHYDDOL YN BRYN ESCEIFIOG, GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor ar dir yn ei feddiant.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

10.8      35LPA870/CC  ADDASU AC EHANGU 9 TAWELFAN, LLANGOED

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan yr awdurdod lleol.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd John Rowlands ei gefnogaeth i’r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i ganiatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ar derfyn y cyfnod ymgynghori.

 

      

 

10.9      42C20F/1  ADDASU AC EHANGU LÔN LWYD ISAF, PENTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas fod cyfaddawdu ar y materion dadleuol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, hefyd gydag amod ychwanegol i godi ffens rhwng yr eiddo uchod ag eiddo cymydog.   

 

      

 

10.10     45C311C/DA  CAIS MANWL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU AR DIR RHWNG RUSHMEAD & PEN Y BONT, PEN LÔN, NIWBWRCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog o’r Adran Gynllunio.

 

      

 

     Gan Mrs Gwen Jones o’r Adran Gynllunio cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.  

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai argymhelliad i ganiatáu oedd yma gydag amod ychwanegol i godi lefel orffenedig y lloriau ar argymhelliad Asiantaeth yr Armgylchedd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

10.11      48LPA851B/CC  CAIS I DDIWYGIO UCHDER Y TO YN CHWAREL CAE'R GLAW, GWALCHMAI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn cael ei gyflwyno gan yr awdurdod lleol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.  

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai argymhelliad i ganiatáu oedd yma.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

11     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

      

 

12

APELIADAU

 

      

 

12.1     O.S. 1960 & 3166 GYFERBYN AG ARGRAIG, LLANEILIAN

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb penderfyniad yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl yn erbyn rhybudd gorfodaeth a gyflwynwyd gan yr Awdurdod hwn ar 18 Ionawr, 2006 dan gyf: 2005/24/83, am dor rheolaeth cynllunio i newid defnydd o amaethyddiaeth i ddefnydd cymysg - cafodd yr apêl ei gwrthod a chadarnhawyd y rhybudd gorfodaeth gyda chywiriadau a newidiadau (cyf APP/L6805/C/06/1197994).

 

      

 

12.2      O.S. 1960 & 3166 GYFERBYN AG ARGRAIG, LLANEILIAN

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb penderfyniad yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gais gan yr Awdurdod hwn am gostau llawn mewn perthynas â’r apêl yn erbyn rhybudd gorfodaeth y cyfeirir ato yn eitem 12.1 o’r cofnodion hyn  - caniatawyd y cais (cyf: APP/L6805/C/06/1197994).

 

      

 

12.3      TY UCHAF, MYNYDD BODAFON

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb penderfyniad yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl yn erbyn methiant yr Awdurdod hwn i wneud penderfyniad ar gais cynllunio o fewn y cyfnod dynodedig dan gais cynllunio 40C253 dyddiedig 27 Ionawr, 2005 i godi garej, ystafell gawod a storfa coed tân (cyf APP/L6805/A/06/1198914) - gwrthodwyd yr apêl ac ni roddwyd caniatâd cynllunio.

 

      

 

12.4      THE DOUGLAS INN, TREGELE

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb penderfyniad yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl yn erbyn methiant yr Awdurdod hwn i wneud penderfyniad ar gais cynllunio o fewn y cyfnod dynodedig dan gais cynllunio 20C28D dyddiedig 3 Ebrill, 2006 i addasu ac ehangu’r bwyty (cyf: APP/L6805/A/06/1199146) - caniatwyd yr apêl yn unol ag amodau.

 

      

 

12.5      O.S. 2033 GER TY NEWYDD, PENRHOSLLUGWY

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb penderfyniad yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod tystysgrif defnydd cyfreithlon i leoli tair carafan sefydlog a garej (cyf yr apêl: APP/L6805/X/06/1198493) - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben 4.15p.m.       

 

      

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD