Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 9 Ionawr 2008

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 9fed Ionawr, 2008

  PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 9 Ionawr, 2008

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts - Chairman

 

Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, J Arthur Jones, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, John Roberts, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio :

Pennaeth Rheoli Datblgyu (EGJ),

Rheolwr Rheoli Datblygu (DFJ),

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawlio Tramwy Cyhoeddus)(JRWO),

Swyddog Rheoli Datblygu (RE).

 

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

 

Y Cynghorwyr P.M. Fowlie eitem 6.4, Fflur Hughes eitem 6.5, W.I. Hughes eitem 7.1, Eric Jones eitem 10.3, R.G. Parry OBE eitem 10.2.  

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.  

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gafwyd ar 5 Rhagfyr, 2007 (tud 5 - 15 o'r Cofnodion hyn) yn amodol ar newid y penderfyniad dan eitem 6.4 ar dudalen 4, Cae Wian, Gaerwen.  Dywedodd y Cynghorydd John Roberts iddo bleidleisio yn erbyn rhoddi caniatâd a nodwyd bod y Cynghorydd Eurfryn Davies wedi ymatal.  Cytunwyd i ddileu'r geiriau "yn unfrydol" o'r penderfyniad.

 

4

YMWELIAD Â SAFLE

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel cofnod cywir, adroddiad ar yr ymweliad â safle gafwyd ar 19 Rhagfyr, 2007.  

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

5.1      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

11C8U/1  CAIS LLAWN I GODI 35 UNED BRESWYL YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR TU CEFN I BARC TRECASTELL, PORTH LLECHOG

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais y swyddog.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 7 Tachwedd, ac fe gafwyd hyn ar 21 Tachwedd, 2007.  Fe adroddwyd fod ymateb yr ymgeisydd i faterion priffyrdd godwyd yn ystod yr ymweliad â'r safle heb ei dderbyn.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

20C222A  DYMCHWEL, ADDASU AC EHANGU ER MWYN CYNNWYS YR HEN FECWS YN RHAN O'R ANNEDD YN 9 SGWAR ATHOL, CEMAES

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Ar gais yr ymgeisydd ar 5 Rhagfyr, 2007 penderfynwyd gohirio'r cais i'w alluogi i gyflwyno cynlluniau diwygiedig, ond ni dderbyniwyd y rhain hyd yn hyn.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ysytied y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.3      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

31C346A  CODI ADEILAD AMAETHYDDOL I GADW ANIFEILIAID YNGHYD Â

 

CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR YN FFERM SIGLEN,

 

LLANFAIR-PWLL

 

 

 

Adroddwyd a nodwyd - bod y cais uchod wedi ei dynnu yn ôl.

 

 

 

5.4      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

37C154  CAIS LLAWN I GODI 12 O ANHEDDAU A 2 FYNGALO YNGHYD A

 

CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR AR DIR YN BRYN TAWEL, BRYNSIENCYN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor.  Gydag amod datrys materion traenio'n foddhaol penderfynodd y Pwyllgor ganiatau'r cais yn ei gyfarfod ar 8 Tachwedd, 2006.  Y bwriad gwreiddiol oedd defnyddio system traeniau cerrig, ond yn dilyn canlyniadau profion ar allu'r tir i sugno dwr diwygiwyd y cynllun i gysylltu i system ddraenio dwr wyneb y briffordd.  Tra'n disgwyl manylion traenio pellach argymhellodd y swyddog ohirio'r cais.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ysytied y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

6

CEISIADAU'N CODI

 

 

 

6.1      CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

19C251M/ECON  CAIS AMLINELLOL I GODI SIOP FWYD AR DIR GER TRAVELODGE & KEEGANS, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o'r safle ym mherchnogaeth y Cyngor, hefyd ar gais yr aelod lleol.   Dymuniad y Pwyllgor ar 5 Rhagfyr, 2007 oedd gwrthod y cais gan y teimlai'r aelodau y byddai'r bwriad yn creu niwed i lewyrch busnesau yn yr ardal.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros wrthod.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cynnig gerbron yn un bychan a ddim yn fygythiad i'r busnesau lleol; nid oedd yr un ystyriaeth gynllunio berthnasol i wrthod y cais.

 

 

 

Ond roedd y Cynghorydd John Chorlton yn dal i fod o'r farn y câi'r cynnig hwn effaith ddrwg ar fusnesau'r cyffiniau a phosibilrwydd o golli 12 o swyddi.  Cynigiodd wrthod am y rhesymau a roddwyd o'r blaen.  Cytuno a wnaeth y Cynghorydd Hadley gan ychwanegu y buasai rhyw fath o fwyty yn fwy addas i'r safle.

 

 

 

 

 

Yma atgoffwyd yr aelodau gan y Rheolwr Rheoli Datblygu y buasai'n rhaid wrth dystiolaeth i gefnogi'r penderfyniad i wrthod petai'r penderfyniad yn mynd i apêl.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Chorlton ei fod yn fodlon amddiffyn y penderfyniad a'i fod hefyd yn teimlo'n gryf bod angen gwrthod yma.  Cynigiodd wrthod oherwydd effaith y datblygiad ar lewyrch a dyfodol yr ardal, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arthur Jones.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a hynny oherwydd pryderon am ddiogelwch y briffordd.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

 

 

Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog : Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Denis Hadley, J. Arthur Jones, Glyn Jones, Thomas Jones, John Roberts, Hefin Thomas.

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatau’r cais :  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, R. L. Owen.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais a hynny'n groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd teimlo bod y cynnig yn mynd i gael effaith andwyol ar ddyfodol a llewyrch yr ardal.

 

 

 

6.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

28C84B/DA  CAIS MANWL AR GYFER CODI ANNEDD AR DIR GER GLAN Y GORS TERRACE, BRYN DU

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 7 Tachwedd ac fe gafwyd hyn ar 21 Tachwedd.  Ar 5 Rhagfyr gohiriwyd ystyried y cais hyd nes rhoddi sylw i'r cynlluniau diwygiedig.

 

 

 

I bwrpas cadw cofnod dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod angen diwygio pwynt 6 (Polisïau Perthnasol) yn adroddiad y Swyddog "TAN - Amaethyddiaeth a Datblygiadau Gwledig" i "TAN 12 - Dyluniad".  Dangoswyd cynlluniau diwygiedig yn dangos lleoliad newydd yr annedd a'r garej ar wahân ac a oedd yn dderbyniol ac ni chaiff effaith andwyol ar osodiad yr adeilad rhestredig gerllaw; yn awr roedd yr argymhelliad yn un o ganiatáu.

 

 

 

Diolchodd y Cynghorydd Glyn Jones i'r Swyddogion am ddatrys y materion anodd trwy drafodaeth.

 

 

 

Os daw'r cyfnod ymgynghori i ben heb wrthwynebiad (11 Ionawr 2008) PENDERFYNWYD dirprwyo yr hawl i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais ond gyda'r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

 

 

6.3       CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

28C313B  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI 14 O ANHEDDAU YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERDDWYR A CHERBYDAU AR DIR GER REHOBOTH TERRACE, LLANFAELOG

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Ar 7 Tachwedd penderfynwyd gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori.  Ar 5 Rhagfyr penderfynwyd ymweld â'r safle a chafwyd yr ymweliad hwnnw ar 19 Rhagfyr 2007.

 

 

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Glyn Jones sylw bod y swyddogion yn ystyried hon yn eithriad dan Bolisi 52 a hynny oherwydd bod y cyfan o'r anheddau dan y cais yn rhai fforddiadwy.  Roedd y Cynghorydd Jones wedi trafod y mater gyda'r Cyfreithiwr a Phennaeth y Gwasanaethau Tai.  Wedyn darllennodd ddyfyniad o neges e-bost gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai yn dweud nad oedd tystiolaeth gadarn bellach i'r angen lleol gydag awgrym bod angen cynnal arolwg manwl i ddiweddaru'r sefyllfa.  O'r herwydd cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Jones i ohirio ystyried y cais hyd nes derbyn gwybodaeth ar a oedd angen lleol am anheddau o'r fath ai peidio.  Cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

 

 

Nid oedd y Cynghorydd J. Arthur Jones yn hapus am nad oedd y wybodaeth ar gael yn y cyfarfod.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod yr arolwg cyntaf wedi'i gynnal yn 2005 ac un arall yn ddiweddarach.  Ar y cychwyn roedd yr Adran Tai yn cefnogi'r cais ond bellach wedi penderfynu bod angen asesiad manylach.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cael canlyniadau'r arolwg i'r anghenion tai lleol yn y cyffiniau.

 

 

 

6.4       GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

28C360C  CAIS LLAWN ER MWYN CODI 9 FFLAT A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AC I GERDDWYR YN BRYN, STATION ROAD, RHOSNEIGR

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 7 Tachwedd ac fe gafwyd hyn ar 21 Tachwedd. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2007 fe benderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wrthod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog oherwydd teimlo ei fod yn groes i gymeriad yr ardal o gwmpas ac yn annerbyniol hefyd oherwydd yr elfen o edrych drosodd o'r gerddi ar y to.  Gan ddilyn Cyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn creu cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.  Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y swyddogion yn dal i gredu y dylid caniatáu'r cais a dywedodd wrth y cyfarfod bod asiant yr ymgeisydd yn dymuno dwyn sylw'r aelodau at y gerddi ar y to a'u bod nhw mewn gwirionedd yn falast ac yn goed decio - nid gerddi traddodiadol - ac y buasent yn apelio yn erbyn penderfyniad o wrthod.

 

 

 

Nid oedd y Cynghorydd Fowlie yn pryderu'n ormodol ynghylch bygythiad apêl - roedd gan yr ymgeisydd yr hawl i wneud hynny; fodd bynnag, teimlai bod pryderon y bobl leol yn ffactor o bwys yn yr achos hwn.  Fel gerddi teras y disgrifiwyd y gerddi ar y to a gofynnodd y Cynghorydd Fowlie i'r aelodau lynu wrth eu penderfyniad a gwrthod y cais.

 

 

 

Teimlai'r Cynghorydd John Chorlton nad oedd dim byd gwahanol wedi digwydd ers y cyfarfod diwethaf a chynigiodd dderbyn argymhelliad y Swyddog a rhoddi caniatâd.  Cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J. Arthur Jones a ychwanegodd nad oedd dyluniad unffurf i dai yn Rhosneigr.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen nad oedd gwrthwynebiad i'r cynigion gwreiddiol ond ychwanegodd nad oedd y rhai gerbron yn addas i'r cyffiniau.  Ganddo cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. L. Owen.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

 

 

Glynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais : Y Cynghorwyr Eurfyn Davies, Arwel Edwards, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, R.L. Owen, John Roberts, W.J. Williams MBE.

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais :  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Denis Hadley, J. Arthur Jones, Hefin Thomas, Arwel Roberts.

 

 

 

Gan ddilyn argymhelliad y swyddog cytunwyd i dynnu un rheswm yn ôl, sef y buasai'r cynnig yn annerbyniol oherwydd edrych drosodd o erddi'r to.

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad cynt a gwrthod y cais, a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog, gan fod y cynnig yn groes i gymeriad y cyffiniau.

 

 

 

6.5      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

34C561  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD FFORDDIADWY AR DIR GER TYDDYN GWYNT, RHOSTREHWFA

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 7 Tachwedd ac fe gafwyd hyn ar 21 Tachwedd. Roedd yr aelodau yn tueddu i ganiatáu'r cais a hynny'n groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd y teimlad fod lleoliad y safle yn addas ac yn cydymffurfio gyda Pholisi 52.  Gan ddilyn Cyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Yma nododd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod yn rhaid llunio ymrwymiad, dan bolisi eithriad 52, i sicrhau y bydd yr annedd yn fforddiadwy bob amser yn y dyfodol.

 

 

 

Atgoffwyd yr aelodau gan y Cynghorydd Fflur Hughes bod yr ymgeisydd yn berson lleol ifanc, bod y safle'n dderbyniol ac ni chafwyd yr un gwrthwynebiad, a hefyd nad oed cost symud y bibell ddwr yn ystyriaeth gynllunio.

 

 

 

Gan y Cynghorydd J. Arthur Jones cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad cynt a chaniatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr Glyn Jones ac R. L. Owen.

 

 

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

      

 

     Glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu’r cais : Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, J. Arthur Jones, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, R.L. Owen, Hefin Thomas, W.J. Williams MBE.

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais : Y Cynghorydd Arwel Roberts

 

      

 

     Ymatal : Y Cynghorydd John Roberts

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad cynt a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd o'r blaen, a hynny'n groes i argymhelliad y Swyddog, ond gyda'r amodau safonol a chan gynnwys Cytundeb dan Adran 106 (ty fforddiadwy).

 

 

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

7.1      14C28T/ECON  CAIS LLAWN I GODI UNED DDIWYDIANNOL AR GYFER STORIO A DOSBARTHU GYDA LLE AR GYFER SWYDDFEYDD, GOSOD TWRBIN GWYNT 20kw, GOSOD TANC TANDDEAROL I GASGLU DWR GLAW, YNGHYD A DARPARIAETH PARCIO CERBYDAU CYSYLLTIOL AR BLOTIAU 9, 10 & 11 STAD DDIWYDIANNOL, MONA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac roedd yn effeithio ar dir yn ei feddiant.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Cefnogi'r cais a wnaeth y Cynghorydd W. I. Hughes a gofynnodd a oedd asesiad wedi ei wneud ar y swn a ddeuai o'r twrbin gwynt gan ychwanegu bod Gweithdy Mona y drws nesaf ac nid oedd hwnnw wedi gwrthwynebu.  

 

      

 

     Wedyn aeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ati i gwestiynu maint sylweddol y cynnig ac er bod y swyddog yn gefnogol i dwrbin gwynt 17.5m o uchder ar y safle hwn canfuwyd bod un arall draw o'r lle yn 14.m o uchder ac yn annerbyniol; hefyd roedd y Cynghorydd yn cwestiynu casgliadau'r ADSL ?

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Thomas Jones bod modd trefnu amcangyfrif i lefel swn twrbin gwynt a chynigiodd ohirio gwneud penderfyniad hyd nes derbyn rhagor o wybodaeth a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arthur Jones a'r Cynghorydd Hefin Thomas yn cytuno.

 

      

 

     Yma nododd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cynnig yn ymwneud â 2,500 metr sgwâr a 2,000 ohonynt yn cael eu defnyddio i ddibenion storio a 500 metr sgwâr i ddibenion swyddfa, man croesawu etc.; buasai'r grib yn 10m o uchder a dangosodd y swyddogion i'r aelodau gynllun o'r talcen.

 

      

 

     Siaradodd y Cynghorydd Eurfryn Davies o blaid cynllun o'r fath ac roedd yn croesawu cynigion eraill cyffelyb.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. L. Owen.

 

      

 

     Pleidleisiodd y rhai a ganlyn o blaid gohirio ystyried y cais hyd nes derbyn rhagor o wybodaeth am hyd, lled ac uchder y datblygiad, a manylion am y llygredd swn a hefyd gan ofyn am ymateb y Weinyddiaeth Amddiffyn ar ôl ymgynghori gyda nhw.

 

 

 

     Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, J. Arthur Jones, Thomas Jones, John Roberts, Hefin Thomas, W.J. Williams MBE.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

8

CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

      

 

9     CEISIADAU'N TYNNU’N GROES

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau’n tynnu’n groes i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

      

 

10     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1      11C458B  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD AR DIR GER PARK TERRACE, AMLWCH

 

 

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mrs Helen Williams o’r Adran Gynllunio mewn perthynas â’r cais hwn.   Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Hefyd mae’r ymgeisydd yn perthyn i aelod o staff yr Adran Gynllunio.

 

      

 

     Gan fod cymaint o bwyntiau wedi'u codi gofynnodd y Cynghorydd John Byast am ymweliad fel bod modd i'r aelodau asesu'r sefyllfa drostynt eu hunain.  Ni chredai ef fod asbestos ar y safle ac nid oedd yn cytuno chwaith bod y datblygiad hwn yn ddatblygiad tir cefn gan ychwanegu na chredai ef y buasai'n creu traffig ychwanegol gan fod yr ymgeisydd eisoes yn defnyddio'r lôn.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd John Chorlton ymweliad â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Williams.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr aelod lleol ac am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

10.2      16C145D  CAIS AMLINELLOL I DDATBLYGU TIR AR GYFER CODI TAI YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERDDWYR AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL I GEIR AR DIR YN PLAS LLECHYLCHED, BRYNGWRAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Dywedwyd bod yma gynnig i godi 14 o anheddau, a ffordd stad tu mewn i'r ffiniau datblygu, gyda 6 annedd y tu allan i'r ffiniau ond ynghlwm wrth stad arall sydd eisoes yno a thrwy hynny buasai'n creu safle eithriad.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd R. G. Parry am ymweliad.

 

 

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr aelod lleol.

 

 

 

10.3      17LPA494M/CC CAIS I DDIWYGIO AMOD (08) AR GANIATAD CYNLLUNIO  17LPA494G/CC/ECON I DDARLLEN FEL A GANLYN : NI DDYLAI’R DATBLYGIAD FOD YN WEITHREDOL HYD NES Y BYDD GWEILLIANNAU PRIFFYRDD I GYFFORDD B5420 A FFORDD PENHESGYN WEDI EU CWBLHAU WRTH FODD YR AWDURDOD CYNLLUNIO LLEOL YN LLE’R GWEILLIANNAU I’R BRIFFORDD A GANIATAWYD YN FLAENOROL O DAN GANIATAD CYNLLUNIO 17LPA494G/CC/ECON AR DIR AR SAFLE TIRLENW PENHESGYN, LLANSADWRN

 

 

 

     Cyflwynir y cais hwn i’r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor.  Nodwyd bod y cynllun oedd ynghlwm wrth adroddiad y swyddog yn canolbwyntio ar y safle ei hun - nid ar y gyffordd yr oedd y cais hwn yn ymwneud â hi.  Wedyn rhannwyd y cynllun cywir ymhlith yr aelodau.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J. Arthur Jones iddo ef, ac aelodau eraill o'r Pwyllgor, dderbyn gohebiaeth oddi wrth Gwrp Gweithredu Penhesgyn a gofynnodd a oedd peth o'r fath yn cyfateb i ganfasio ac o'r herwydd yn ei rwystro rhag bod yn rhan o'r broses o benderfynu ar y cais.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu ei fod yn ymwybodol fod copi o'r ohebiaeth wedi cyrraedd y swyddfa a darllenodd ddyfyniad o baragraff 4.6.8 o Gyfansoddiad y Cyngor.  Cytunwyd bod y Pwyllgor angen barn gyfreithiol ar y gwahaniaeth rhwng canfasio ysgrifenedig a chanfasio ar lafar.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Eurfryn Davies am ymweliad a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

 

 

     PENDERFYNWYD ymwel â’r safle ar gais yr aelod lleol.

 

 

 

10.4      19C754B  CAIS LLAWN AR GYFER CODI 11 ANNEDD (YN CYNNWYS 4 ANNEDD FFORDDIADWY) YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER  GORWELION, LÔN PORTHDAFARCH, CAERGYBI

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i'r cais gwreiddiol nac ychwaith i'r egwyddor o ddatblygu - peth a fuasai'n gwella gwedd y safle; ond roedd cryn pryderon ynghylch gwaith paratoi'r tir ac roedd ganddo amheuon a gâi'r dull o adeiladu ei reoli, a hefyd roedd pryderon ynghylch rhagor o draffig yn mynd i ffordd brysur Porthdafarch a gofynnodd a fuasai camau'n cael eu cyflwyno i arafu'r traffig yn y cyffiniau.  Pryderon tebyg oedd gan y Cynghorydd Glyn Jones ynghylch materion iechyd a diogelwch.  

 

      

 

      

 

     Un arall gyda phryderon cyffelyb oedd y Cynghorydd Dennis Hadley yn enwedig yng nghyswllt y ffordd o dyllu ar y safle.

 

      

 

     Gan ddilyn cylchlythyr 35/94 y Swyddfa Gymreig, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod modd rhoddi amod ychwanegol ynghlwm i reoli'r dull o adeiladu, ond buasai'n anodd gweithredu ar amod o'r fath.  

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, ond gyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw, a hefyd gyda chytundeb dan Adran 106 yng nghyswllt darparu tai fforddiadwy ac un amod arall hefyd - sef y bydd gofyn i'r ymgeisydd gyflwyno manylion am y dull adeiladu a chytuno ar y manylion hynny gyda'r awdurdod.

 

 

 

10.5      20C94C  CAIS AMLINELLOL AR GYFER DYMCHWEL Y MODURDY PRESENNOL YNGHYD A CHODI DWY ANNEDD AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL YN  YR ORSAF BETROL, TREGELE

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatau’r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

     (Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr J. Arthur Jones a Glyn Jones)

 

 

 

10.6      23C254A  CAIS LLAWN AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR GER GWASTAD BACH, TALWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod safle'r cais hwn y tu mewn i ffiniau Talwrn dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn ond y tu allan iddynt dan Bolisi HP4 yr CDU a Stopiwyd.  Bellach roedd y datblygiad yn mynd i fod yn llai a chredai'r swyddog bod hynny'n fwy derbyniol i'r safle.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W. J. Williams cafwyd cynnig i ymweld.  Cynnig caniatáu a wnaeth y Cynghorydd John Chorlton a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arthur Jones.

 

 

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatau’r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

 

 

10.7      23C266  ADDASU AC EHANGU YNGHYD AG EHANGU’R CWRTIL A CHODI SIED A ‘POLYTUNNEL’ YN GWENFRO UCHAF, TALWRN

 

      

 

     Gwnaed datganiad o ddiddordeb yn y cais gan Mr. Edward Henderson o'r Adran Gynllunio a chyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn gweithio yn yr Adran Gynllunio.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W. J. Williams cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arthur Jones.  Wedyn cyfeiriodd y Cynghorydd J. Arthur Jones at y 4 amod cynllunio yn yr adroddiad a hefyd at yr estyniad i'r libart a allai arwain at ragor o ddatblygu.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatau’r cais yn unfrydol am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

 

 

10.8      42C41C  CAIS AMLINELLOL AR GYFER DYMCHWEL ANNEDD  A CHODI ANNEDD NEWYDD YNGHYD A GOSOD SYSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH NEWYDD YN  GLAN-DWR, TRAETH COCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn gefnogol i'r cais.  Dygodd y Cynghorydd J. Arthur Jones sylw at ofynion dau bolisi perthnasol, sef Polisi 54 Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi HP9 yr CDU a Stopiwyd (anheddau newydd yn lle hen rai) - danynt roedd yn rhaid i'r datblygiad gynnwys troedbrint y ty gwreiddiol ond roedd y cynnig gerbron 16m draw o'r hen dy gwreiddiol.  Aeth ymlaen wedyn i ofyn a oedd y ty presennol yn dioddef oherwydd llifogydd tymhorol neu a fuasai'n ddigwyddiad unwaith mewn 100, 200 neu 1,000 o flynyddoedd.

 

      

 

     Ar ôl adolygu'r penderfyniadau cynllunio ar 27 Tachwedd 2007 (eitem 13.1 y cofnodion hyn), teimlai'r Cynghorydd Thomas Jones y dylai'r aelodau gael manylion llawn am faint yr annedd newydd.  Ar un o'r ymweliadau a gynhaliwyd fel rhan o'r arolwg canfuwyd bod un annedd newydd yn llawer iawn mwy na throedbrint yr hen annedd wreiddiol.

 

      

 

     Os oedd yr aelodau'n teimlo na chawsant ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad ar y cais; dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod modd iddynt ohirio gwneud penderfyniad hyd nes derbyn y wybodaeth ychwanegol angenrheidiol.

 

      

 

     Wedyn cafwyd gwybod gan y Cynghorydd Hefin Thomas y buasai'r annedd newydd, yn yr achos hwn, o faint ac o deip cyffelyb i'r annedd sydd yno a bod honno yn dioddef oherwydd llifogydd tymhorol ond cynigiodd ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. L. Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, ond gyda'r amodau yn yr adroddiad, a hefyd gan gynnwys cytundeb dan Adran 106 i sicrhau y bydd yr annedd bresennol yn cael ei dymchwel.

 

      

 

     (Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr John Chorlton a J. Arthur Jones ar y cais).

 

 

 

11

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio) ar faterion y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.  Yn achos ceisiadau rhifau 1 - 8 eglurodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai'r ceisiadau oedd wedi eu 'cwblhau'n derfynol' oedd y rheini a gafodd eu cau a'u storio.  Yn achos cais rhif 21 (19C1002 - 53 Stryd Vulcan, Caergybi) teimlai'r Cynghorydd Hadley fod angen pwyll i sicrhau nad yw'n creu cynsail i ddatblygiadau tir cefn.

 

      

 

     'Sgriwtineiddio'r Panel Penderfyniadau Cynllunio'

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cyfarfod cyntaf y Panel wedi ei gynnal ar 19 Rhagfyr 2007 a chytunwyd y bydd yr holl geisiadau sy'n groes i bolisi a phob penderfyniad apêl yn cael ei gyflwyno iddo a gwadd yr aelodau hefyd i gyflwyno unrhyw gais arall i sylw'r Panel os credant eu bod yn briodol.  Bydd eitem sefydlog yn cael ei rhoddi ar raglen y Pwyllgor hwn yn y dyfodol.

 

 

 

12

APELIADAU

 

      

 

     YNYS WEN, TYN LÔN

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, grynodebau o benderfyniadau’r Arolygydd Cynllunio :-

 

      

 

      

 

12.11     dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i droi adeilad allanol yn ddwy annedd dan gais cynllunio 14C197 dyddiedig 23 Medi, 2005 - caniatawyd yr apêl.

 

      

 

12.2     dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, adrannau 78 a 322 ac Atodlen 6 a Deddf Llywodraeth Leol 1972, adran 250(5) cais am gostau llawn mewn perthynas â 12.1.1. uchod - caniatawyd yr apêl.

 

 

 

13

MATERION ERAILL

 

      

 

13.1      ADOLYGU PENDERFYNIADAU CYNLLUNIO

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Rheoli Datblygu ar yr arolwg gafwyd ar 27 Tachwedd, 2007 yn unol â gofynion - Cyfansoddiad y Cyngor ‘Materion Cynllunio - Rheolau Gweithdrefnu sy’n darparu ‘y dylai Cynghorwyr ymweld a sampl o safleoedd y rhoddwyd caniatad cynllunio iddynt ac y gweithredwyd arnynt i asesu ansawdd y penderfyniadau wnaed ac y dylai adolygiad o’r fath wella ansawdd a chysondeb gwneud penderfyniadau, a thrwy hynny gryfhau hyder y cyhoedd, a hefyd bod o gymorth wrth adolygu polisi cynllunio’  Ymwelodd yr aelodau â 9 safle a gofyn cwestiynau wedyn ar agweddau o bob datblygiad ac effaith y datblygiad.  Yn adroddiad y swyddog cafwyd manylion am y safleoedd a welwyd a hefyd yng nghyswllt ymateb yr aelodau.  I bwrpas codi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd dyluniad yn y broses o wneud penderfyniadau teimlwyd bod y gwaith wedi bod yn werthfawr.  Bu'r adolygiad yn llwyddiant ac yn waith gwerth chweil er gwaethaf y nifer fechan a ymunodd, a chan gofio hefyd fod gwaith paratoi sylweddol wedi ei wneud.  Teimlai'r swyddog bod angen rhagor o drafodaethau ar sut i gynnal ymweliadau'r dyfodol a hynny er lles pawb.

 

      

 

     Cytuno a wnaeth y Cynghorydd R. L. Owen fod y nifer a fynychodd wedi bod yn siomedig gan ychwanegu bod yr ymarferiad wedi bod o les i bawb a chytunodd y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Cytunwyd i dderbyn yr adroddiad, nodi'r cynnwys, a gosod eitem ar raglen y 'Panel Sgriwtineiddio Penderfyniadau Cynllunio' ar y mater.

 

      

 

13.2      46/C/448B/EIA - GWELLIANNAU ARFORDIROL YM MAE TREARDDUR

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio mewn ymateb i gais y Cadeirydd a dau aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar y cais uchod y penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion arno ar 7 Tachwedd 2007 - roedd yr adroddiad ynghlwm wrth yr agenda.

 

      

 

     Gan fod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r mater roedd Arweinydd y Cyngor wedi rhoi gwybod i'r Cadeirydd nad oedd yr eitem yn fater ar gyfer trafodaeth yn y cyfarfod.

 

 

 

14      HAFOD WERN, FFORDD PENTRAETH, PORTHAETHWY

 

      

 

     Nodwyd bod rhybudd wedi dod i law o'r bwriad i apelio yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod cais cynllunio rhif 39C254B i godi anheddau a darparu mynedfa newydd i gerbydau - daeth y rhybudd i law ar 4 Gorffennaf, 2007 a gofynnodd y Swyddog am enwau rhai a oedd yn fodlon mynychu'r gwrandawiad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD enwebu'r Cynghorwyr Hefin Thomas a J. Arthur Jones i gynrychioli'r awdurdod hwn yn y gwrandawiad yng nghyswllt y mater uchod.

 

      

 

     Agorwyd y cyfarfod am 1.00pm a daeth i ben am 2.15p.m.

 

      

 

     Y CYNGHORYDD J. ARWEL ROBERTS

 

     CHAIRMAN