Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 9 Ebrill 2008

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 9fed Ebrill, 2008

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar  9 Ebill, 2008 

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd John Roberts - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards,

J Arthur Jones, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, D Lewis-Roberts, WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Rheolwr Rheoli Datblygu (DFJ)

Cynorthwy-ydd Cynllunio (BG)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)   Swyddog Rheoli Datblygu (RE)                                                 (JRWO)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

Y Cynghorwyr Denis Hadley, J. Arwel Roberts

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:  

Y Cynghorwyr Mrs Bessie Burns MBE (eitem 6.2), Goronwy Parry MBE (eitem 6.4), G Allan Roberts (eitemau 10.2,10.3,10.4),

WT Roberts (eitem 10.8)

 

Fe etholwyd y Cynghorydd John Roberts i gadeirio'r cyfarfod yn absenoldeb y Cadeiryd a'r Is-Gadeirydd.  Dywedodd y Cynghorydd John Roberts nad oedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion bellach ac estynnodd groeso i'r Cynghorydd D Lewis-Roberts yn ei le.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Roberts nad oedd y Cynghorwyr Arwel Edwards na WJ Williams wedi rhoi eu henwau ymlaen i'w hailethol yn yr etholiadau lleol ar 1af o Fai.  Diolchodd i'r ddau ohonynt am eu cyfraniad gwerthfawr i'r Pwyllgor dros y blynyddoedd a dymunodd yn dda iddynt i'r dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd John Roberts at brofedigaeth ddaeth i ran Mr Gwyndaf Jones trwy golli ei fam yng nghyfraith a mynegodd ei gydymdeimlad dwysaf â Mr Jones a'r teulu,  safodd pawb fel arwydd o barch.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb fel y cawsant eu cofnodi uchod.  

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gafwyd ar 5 Mawrth, 2008 gyda chywiriad i eitem 6.4 (17LPA494M/CC - Safle Tirlenwi Penhesgyn) ar dudalen 7 y cofnodion:  dylai'r pumed paragraff o'r diwedd ddarllen fod y "Cynghorydd Eurfyn Davies wedi cynnig gwrthod yr amod a bod hyn wedi ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts."

 

4

YMWELIAD Â SAFLEOEDD CYNLLUNIO

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel un cywir, adroddiad ar yr Ymweliad â Safleoedd Cynllunio gafwyd ar 19 Mawrth, 2008.  

 

 

 

5      CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

11C8U/1  CAIS LLAWN I GODI 35 UNED BRESWYL YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR TU CEFN I BARC TRECASTELL, PORTH LLECHOG 

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais y swyddog.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 7 Tachwedd, ac fe gafwyd hyn ar 21 Tachwedd, 2007.   Fe adroddwyd nad oedd ymateb wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd i ystyriaethau priffyrdd a godwyd yn ystod yr ymweliad â'r safle.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.   

 

 

 

5.2      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

28C313B  CAIS AMLINELLOL I GODI 14 O ANHEDDAU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERDDWYR A CHEIR AR DIR GER TERAS REHOBOTH, LLANFAELOG

 

 

 

Ar 9 Ionawr, 2008 penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn rhoi cyfle i'r ymgeisydd gynnal arolwg o'r angen am dai yn lleol ac nid oedd canlyniad yr arolwg wedi ei dderbyn.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.   

 

 

 

6

CEISIADAU'N CODI

 

 

 

6.1        GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C331E  NEWID DEFNYDD AC EHANGU'R ADEILAD ALLANOL I ANNEDD YN PLAS CICHLE, LLAN-FAES, BIWMARES

 

 

 

Gan y Cynghorwyr Eurfryn Davies a John Roberts cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio. Y Cynghorydd John Chorlton oedd yn y gadair yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Ar 5 Mawrth, penderfynwyd ymweld â'r safle ac fe gafwyd hyn ar 19 Mawrth, 2008.  

 

 

 

Roedd yr ymgeisydd a'r swyddog cynllunio'n anghytuno ar yr arolwg strwythurol  meddai'r Cynghorydd RL Owen.  Teimlai'r Cynghorydd RL Owen fod busnes yr ymgeiswyr, sy'n ymwneud a thwristiaeth, yn bwysig i'r economi leol; dyhead yr ymgeiswyr yw pasio'r busnes drosodd yn raddol i'r genhedlaeth iau ac wedyn ymddeol.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J Arthur Jones cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ei bod hi'n bosib addasu'r adeilad ond byddai'n rhaid ymgymeryd a gwaith adfer helaeth a byddai hyn yn cyfateb i adeiladu ty newydd.

 

 

 

Mewn ymateb i greu "ty newydd" dywedodd y Cynghorydd RL Owen y byddai'r ymgeiswyr yn barod i glymu'r ty i'r busnes.  

 

 

 

Beth fyddai safiad y swyddog petai'r cais hwn wedi ei gyflwyno fel un economaidd gofynnodd y Cynghorydd Arwel Edwards?  Mewn ymateb dywedodd y swyddog y byddai'n rhaid  cwrdd â meini

 

 

 

prawf arbennig pan yn cyflwyno'r cais ac ni chredai'r swyddog fod y cais hwn yn cwrdd â'r fath feini prawf.

 

 

 

Ar ôl ymwled â'r safle a gweld y cynlluniau cynigiodd y Cynghorydd Glyn Jones ganiatáu'r cais.

 

 

 

Darllenodd y Cynghorydd J Arthur Jones rannau o ofynion addasiadau Polisi 55 a theimlai fod y cais hwn yn cydymffurfio â'r gofynion hyn.

 

 

 

Ar yr amod fod y ty yn cael ei glymu i'r busnes, dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen y byddai ef yn cefnogi'r cais; cytuno â hyn wnaeth y Cynghorydd Thomas Jones gan ychwanegu fod modd rhoddi amod i sicrhau cydymffurfio â hyn.

 

 

 

Atgoffa'r aelodau o ganlyniad yr arolwg strwythurol a wnaeth y Rheolwr Rheoli Datblygu gan ychwanegu y byddai'n rhaid cyfiawnhau rhoddi caniatâd.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr J Arthur Jones,

 

Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, D Lewis-Roberts, WJ Williams MBE

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.  

 

 

 

Rheswm y Pwyllgor dros ganiatáu oedd fod y bwriad yn cydymffurio â Pholisi 55 yn eu barn hwy.  

 

 

 

 

 

6.2      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

29C100A  CADW CARAFAN STATIG, CYNHWYSYDD A STRWYTHUR YCHWANEGOL, A LLEOLIAD NEWYDD ARFAETHEDIG AR GYFER CYNHWYSYDD AR GAE O.S. 9069, PENTERFYN, LLANFAETHLU

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Ar 5 Mawrth, penderfynwyd ymweld â'r safle ac fe gafwyd hyn ar 19 Mawrth, 2008.

 

 

 

Roedd y swyddogion yn teimlo nad oedd y cynhwysydd presennol na'r "lean-to" yn creu niwed i gymeriad yr AHNE, fodd bynnag ystyrir fod symud ail gynhwysydd ynghyd â charafan yn cael effaith andwyol oherwydd cynnydd y datblygiad.

 

 

 

Fel mater o gywiriad, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y dylai TAN 8 ym mhwynt 9 adroddiad y swyddog ddarllen "TAN 6".  Mewn ymateb i gwestiwn godwyd yn y cyfarfod blaenorol dywedodd y swyddog fod y tir yn ymestyn i ryw 1.7 hectar neu 4.2 acer.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Bessie Burns fod gwir angen y datblygiad hwn; roedd y Cyngor Cymuned lleol yn cefnogi'r cais a doedd hi ddim yn ymwybodol o unrhyw wrthwynebiad lleol.  A'r ymgeiswyr yn gwneud pob ymdrech i gadw'n heini, atgoffodd Mrs Burns yr aelodau o'r Strategaeth Pobl Hyn; roedd hi'n ymwybodol fod y safle tu fewn i AHNE ond nid oedd y safle yn y golwg o unrhyw fan gan gynnwys glan y môr.  Roedd yr ymgeiswyr yn  cynaeafu gwair ar gyfer y ceffylau ac roedd angen lle i gadw penffyst y ceffylau ayyb.;  roedd hefyd beiriannau drud ar y safle a chafodd peth o'r rhain eu dwyn beth amser yn ôl.  Roedd y garafan ar y safle oherwydd iechyd yn unig ac nid oedd wedi ei chysylltu i'r cyflenwad trydan na'r cyflenwad dwr.  Wrth weld llawer o garafanau a siedau wedi eu gwasgaru ar draws y cefn gwlad gofynnnodd Mrs Burns am gysondeb.  Roedd yn cydnabod fod y ffordd tuag at y safle yn is-safonol, ond atgoffodd yr aelodau fod y ffordd wedi ei mabwysiadu gan y Cyngor ac mai'r Adain Briffyrdd oedd yn gyfrifol amdani.

 

 

 

Tra'n ymweld â'r safle, sylwodd y Cynghorydd Thomas Jones ei fod yn cael ei gadw'n daclus; fodd bynnag, gofynnodd a fyddai'r safle yn cael ei chynnal fel hyn yn y dyfodol?  Ymatebodd y swyddog nad oedd modd gosod amod i sicrhau fod safle yn cael ei chadw'n daclus ac atgoffodd yr aelodau fod y daliad yn ymestyn i ryw 4.2 acer.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bryan Owen a oedd modd rhoddi amod i sicrhau mai caniatâd personol fyddai hwn ac mewn ymateb dywedodd y swyddog y byddai'n rhaid cyfiawnhau hynny.

 

 

 

A fyddai ychwanegu carafan a chynhwysydd arall yn ormod yn yr AHNE gofynnodd y Cynghorydd J Arthur Jones?  Wrth gymryd i ystyriaeth y byddai'n rhaid cadarnhau penderfyniad o ganiatáu yn y cyfarfod nesaf, cynigiodd ganiatáu'r cais; yn y cyfamser gofynnodd i'r swyddogion ymchwilio i'r gobygliadau o roi caniatâd personol; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o wrthod y cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Caniatau'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynhghorwyr John Chorlton, J Arthur Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, D Lewis-Roberts,  WJ Williams MBE

 

 

 

Derbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o wrthod y cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Glyn Jones

 

 

 

Y rheswm roddwyd dros ganiatáu oedd na fyddai'r bwriad yn cael effaith niweidiol nac effaith gynyddol ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

 

 

6.3

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

30C636A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GAREJ DDWBL YNGHYD Â GOSOD TANC TRIN CARTHFFOSIAETH 'BIOTANK' AR DIR GER FFRITH, SHEPHERDS HILL, TYN-Y-GONGL

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts y byddai ef yn siarad ar y cais hwn fel aelod lleol ac na fyddai'n pleidleisio ar y cais.  

 

 

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol, a'r cais wedi'i gyflwyno cyn i'r protocol ddod i rym a olygai fod ceisiadau yn tynnu'n groes yn cael eu penderfynu dan y cynllun dirprwyo meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu.  Roedd y cais hwn yn glir yn tynnu'n groes i bolisiau.  Roedd bwriad i gynnwys Shepherd's Hill fel pentref rhestredig yn y CDLl ond fe stopiwyd y broses cyn iddo gael ei gynnwys.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 5 Mawrth, ac fe gafwyd hyn ar 19 Mawrth, 2008.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts ei fod wedi rhannu copi o dransgript i'r aelodau ar ddechrau'r cyfarfod.  Cyfeiriod at Bolisiau HP5 ac at baragraff 9.2.18 o Bolisi Cynllunio Cymru Mawrth, 2007.  Roedd yma 27 o anheddau yn agos i'w gilydd, hefyd roedd yr Arolygwyr Cynllunio'n cydnabod fod 10 annedd neu fwy yn creu clwstwr.  Dywedai'r Cynllun Lleol bod angen mabwysiadu dull mwy ystwyth o weithio.

 

 

 

 

 

Dywedodd y swyddog mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd RL Owen fod y cais hwn yn un cynamserol.  

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Eurfryn Davies a oedd y ffordd tuag at y safle wedi ei mabwysiadu ac mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts mai ffordd breifat oedd hon ond ei bod wedi ei tharmacio.  

 

 

 

Gwneud cymhariaeth gydag apêl gynllunio ym Mhenmon yn Awst 2007 pryd y caniatawyd apêl ar safle oedd ar gwr treflan ac yn creu estyniad bychan, wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones - roedd Polisi HP5 i ryw raddau yn debyg.  Roedd hwn yn gorffen grwp o dai'n rhesymol. Dyfynnodd o Ddatganiad Polisi Cynllunio Dros Dro'r Gweinidog (MIPPS) a daeth i'r canlyniad fod y cais yn cydymffurfio gyda pholisiau a chanllawiau'r Cynulliad - ni châi effaith niweidiol ac roedd y safle'n briodol i'w ddatblygu.

 

 

 

Roedd canlyniadau arolygwyr cynllunio'n anghyson ar adegau meddai'r Cynghorydd Thomas Jones.

 

 

 

Ni welai'r Cynghorydd John Chorlton unrhyw reswm dros wrthod y cais.  

 

 

 

Gan nad yw Shepherd's Hill yn cael ei adnabod fel pentref rhestredig yn y CDU a stopiwyd ni ddylai hwn gael ei ystyried dan Bolisi 50 (pentrefi rhestredig) meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu; aeth ymlaen i atgoffa'r aelodau fod cais blaenorol ynghyd ag eraill wedi eu gwrthod yn y gorffennol.  

 

 

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o wrthod a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad ac argymhelliad o wrthod y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen,

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog;  Y Cynghorwyr John Chorlton, J Arthur Jones, WJ Williams MBE

 

   

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

6.4     GWEDDILL Y CEISIADAU 

 

      

 

     49C175B  TROI'R ADEILADAU ALLANOL YN ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YM MRYN Y MOR, Y FALI

 

      

 

     I bwrpas cofnod, fe adroddwyd fod y Cynghorydd J Arthur Jones wedi cael caniatâd arbennig gan y Pwyllgor Safonau i drafod ceisiadau gyflwynwyd gan BVUK.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 5 Mawrth, ac fe gafwyd hyn ar 19 Mawrth, 2008.

 

      

 

     Roedd y safle hwn o fewn AHNE ac yn edrych dros y Lasinwen pwysleisiodd y Cynghorydd Goronwy Parry.  Cyfeiriodd yn fanwl at bwynt 6 (prif ystyriaethau cynllunio) adroddiad y swyddog, hefyd at Bolisi 55 y Cynllun Lleol.  Ar sail hyn argymhellodd fod yr aelodau yn derbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o wrthod.  

 

      

 

     Roedd consyrn fod y safle mewn ardal gadwraeth meddai'r Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Cyfeirio at ddau gais cynllunio arall i addasu beth amser yn ôl wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones - un yn Llanfair-pwll a'r llall yn Marian-glas.  Atgoffodd yr aelodau o bolisiau addasu; byddai modd lleddfu materion o gynsyrn trwy dirlunio a phlannu coed a chynigiodd ganiatáu.

 

      

 

     Doedd dim rheswm rhesymol dros wrthod y cais meddai'r Cynghorydd D Lewis-Roberts.

 

      

 

     Doedd dim cymhariaeth rhwng y cais hwn â'r rheiny y cyfeiriwyd atynt gan y Cynghorydd Jones meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.  Roedd y safle hwn mewn ardal unigryw.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Thomas Jones yn cytuno y byddai caniatáu'r cais yn cyfateb i ymwthio'n anymunol i'r tirlun ac ni fedrai gefnogi'r cais.  Cytuno gyda'r swyddog hefyd wnaeth y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Glyn Jones ac Arwel Edwards.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Thomas Jones.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais;  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, WJ Williams MBE

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, J Arthur Jones,

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau economaidd i'w hystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

      

 

8

CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i'w hystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

      

 

9     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

9.1      17C413  CODI ANNEDD NEWYDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GEIR TU CEFN I MÔR AWEL, LLANDEGFAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Fe adroddwyd fod y cais yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn a fabwysiadwyd ond yn un a gefnogwyd yn y CDU a stopiwyd.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod angen rhagor o wybodaeth am yr arolwg traffig gyflwynwyd gan yr ymgeiswyr.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i ymweld â'r safle ar sail priffyrdd a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ohirio yn unol ag argymhelliad y swyddog.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     I ymweld â'r safle:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, RL Owen, D Lewis-Roberts

 

      

 

     I ohirio tra'n cwblhau trafodaethau:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Arwel Edwards, Glyn Jones, J Arthur Jones, Thomas Jones, Bryan Owen

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais er mwyn i'r Adain Briffyrdd gwblhau trafodaethau ar faterion priffyrdd

 

      

 

10        GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1      11C197A  DYMCHWEL YR ADEILAD YNGHYD Â CHODI ADEILAD NEWYDD AR GYFER DEFNYDD FEL GWEITHDY SAER, TRWSIO A STORIO AR SAFLE 5, PARC DIWYDIANNOL, AMLWCH

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn gan Ms Joanne Roberts o'r Adain Rheoli Datblygu. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod o staff yr Adran Gynllunio.   

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ym mhwynt 1 (y Safle a'r Bwriad) yr adroddiad y dylai uchder crib y to ddarllen 4.8m yn hytrach na 2.4m.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

     TYDDYN BACH, FFORDD YNYS LAWD, CAERGYBI

 

      

 

     Rhoddwyd ystyriaeth i etemau 10.2, 10.3 a 10.4 gyda'i gilydd.  Cyflwynwyd y ceisiadau i'r Pwyllgor benderfynu arnynt ar gais yr aelod lleol.  Rhoddwyd cynlluniau cywir gerbron y cyfarfod.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod dau lythyr ychwanegol o wrthwynebiad i law ynghyd â llythyr gan Gyngor Tref Caergybi yn gofyn am gyfraniad ariannol.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd G Allan Roberts am ohiriad tra'n cwblhau trafodaethau'n lleol.  Y cais hwn yw'r datblygiad tai mwyaf ar yr Ynys ar hyn o bryd; teimlai y dylai trigolion lleol gael mwy o amser i ystyried gwahanol faterion a derbyn cyflwyniad.

 

      

 

     Oherwydd yr amgylchiadau gwleidyddol (etholiadau Mai) a hefyd o ystyried graddfa ac effaith bosib y datblygiad roedd y Cynghorydd Bryan Owen yn teimlo mai gohirio'r drafodaeth oedd y peth doethaf; cytuno a wwnaeth y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at adroddiad manwl y swyddog ac i'r ffaith fod y datblygwr wedi cyflwyno'r holl wybodaeth berthnasol.  Roedd yr egwyddor o ddatblygu mewn ffurf amlinellol wedi ei chaniatáu yn 2007 a'r ceisiadau presennol yn delio gyda materion wrth gefn.  Doedd dim rheswm cynllunio dros ohirio ystyried y cais ac roedd yn bosibl y byddai gohiriad pellach yn arwain at apêl.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J Arthur Jones fod maint y datblygiad wedi ei gytuno a chynigiodd dderbyn adroddiadau y swyddog a chaniatáu'r ceisiadau a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r ceisiadau yn eitem 10.2, 10.3 a 10.4 y cofnodion hyn gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiadau:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, J Arthur Jones, Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts,  John Roberts, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr Thomas Jones, Bryan Owen

 

10.2      19C608H  CREU TRI PHWLL AC ARDAL GADWRAETH NATUR AR DIR YN TYDDYN BACH, FFORDD YNYS LAWD, CAERGYBI  

 

      

 

     Mewn ymateb i gynnig y Cynghorydd J Arthur Jones i ddileu amod (02) oddi ar y caniatâd, atgoffodd y cyfreithiwr yr aelodau y gallai dileu amod (02) arwain at oblygiadau iechyd a diogelwch onid oedd ffordd arall i sicrhau ffensio'r pyllau arfaethedig.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt, hefyd fod y gair "gwaith" yn cael ei ddefnyddio yn hytrach nag "adeilad(au)" yn amod (02).

 

      

 

10.3      19C608J  DIWYGIO AMOD (18) O GANIATAD CYNLLUNIO 19C608F & 19C608G I GANIATÁU 13 O ANHEDDAU DEULAWR A HANNER YN TYDDYN BACH, FFORDD YNYS LAWD, CAERGYBI 

 

      

 

     Roedd y cais hwn yn gofyn am ddiwygio amod (18) o'r ddau ganiatâd amlinellol (cyfyngu'r datblygiad i ddau lawr).  Roedd rhai o'r plotiau yn y ffrynt ar Ffordd Ynys Lawd a'r rhai eraill yn wynebu'r ffordd fynediad union ger y trogylch arfaethedig.  Y bwriad yw creu ffram a nodwedd arbennig yn y fynedfa i'r safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

10.4      19C608K  CAIS MANWL I GODI 123 O DAI YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR YN TYDDYN BACH, FFORDD YNYS LAWD, CAERGYBI 

 

      

 

     Roedd y cais hwn am faterion wrth gefn yn dangos manylion 123 o anheddau a gosodiad y safle.  Bydd y cynnig hwn yn symud ymlaen yn unol  â'r amodau i adeiladu fesul dipyn - amodau a roddwyd ar y ceisiadau amlinellol.     

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd G Allan Roberts dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd nad oedd manylion y ffyrdd wedi'u cwblhau, byddai amod i sicrhau dyluniad derbyniol a doedd dim problemau yn cael eu rhagweld.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

10.5      19C689N  CAIS I DDILEU AMOD (20) ODDI AR GANIATAD CYNLLUNIO 19C689K/ECON SYDD YN YMWNEUD AG ARDAL CHWARAE I BLANT AR SAFLE DATBLYGU SIOPAU, STAD DDIWYDIANNOL PENRHOS, CAERGYBI 

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhybudd wedi ei gyflwyno i'r Cyngor fel perchennog rhan o'r safle.  Roedd yr ymgeiswyr yn cynnig gwneud ymrwymiad unochrog dan Adran 106 i ddarparu taliad yn lle darpariaeth chwarae:

 

      

 

Ÿ

talu am y ddarpariaeth lle chwarae i'r Cyngor a'i ddefnyddio i ddarparu cyfleusterau chwarae i blant yn nhref Caergybi/Ward Trearddur

 

Ÿ

cyflwyno tâl cyn defnyddio'r safle i ddibenion siopau

 

Ÿ

onid yw'r arian yn cael ei ddefnyddio cyn pen tair blynedd, bod y cyfraniad hwnnw'n cael ei ddychwelyd i'r datblygwr

 

      

 

     Roedd y datblygwr wedi mynegi ei barodrwydd i gyfrannu ffigwr rhesymol ond doedd dim cytundeb hyd yn hyn, fodd bynnag roedd yr egwyddor yn dderbyniol.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD cytuno i ddileu amod (20) oedd yn darparu lle chwarae i blant ar y safle, os cytunir ar daliad rhesymol i'r Cyngor fel y manylwyd arno yn yr adroddiad; os na ddefnyddir y taliad hwn o fewn tair mlynedd i'w dderbyn yna bydd yr arian yn cael ei ddychwelyd i'r datblygwr, a'r ymgeiswyr i ymrwymo i hyn trwy Gytundeb dan Adran 106.

 

      

 

      

 

      

 

10.6      19C757A  CAIS I ADDASU'R GROES GELTAIDD BRESENNOL YNGHYD Â GOSOD LLEFYDD EISTEDD AR SGWÂR Y FARCHNAD, CAERGYBI 

 

      

 

     Cafwyd datganiad gan y Cynghorydd John Chorlton ei fod yn aelod o bwyllgor y datblygwyr.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

      

 

      

 

10.7      19C845B  CREU YSTAFELL FFISIO O DAN STAND Y GWYLWYR YN YR OFAL, CANOLFAN HAMDDEN CAERGYBI 

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r pwyllgor benderfynu oherwydd ei  fod yn ymwneud â thir sy'n eiddo i'r Cyngor.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

      

 

      

 

10.8      30C389E  NEWID ADEILAD (CYN DY) I ANNEDD YN YNYS GANOL, BRYNTEG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts y dylai cyfeiriad yr uchod ddarllen Ynys Ganol, Llanbedr-goch ac nid Bryn-teg.

 

      

 

     Fe adroddwyd fod cais i gadw annedd, a godwyd heb awdurdod, wedi ei wrthod gan y Pwyllgor hwn ym mis Medi, 2006.  Yn y cyfamser cyflwynwyd Rhybudd Gorfodaeth yn mynnu bod yr adeilad yn cael ei ddymchwel; hyd yma nid oedd yr ymgeisydd wedi cydymffurfio gyda gofynion y rhybudd. Mae'r bwriad presennol yn fwy na'r hyn a wrthodwyd yn 2006 dan gais rhif 30C398D gyda chanran yr adeilad newydd yn o leiaf 48%.Yn 2000 gwrthodwyd cynllun cyffelyb ar apêl gan yr Arolygydd Cynllunio.  Oherwydd maint y gwaith adeiladu newydd mae'r cynnig yn cyfateb i godi annedd newydd yn y cefn gwlad a hyn yn groes i bolisïau 55 a 53 o Gynllun Lleol Ynys Mon.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts am ymweliad â'r safle a chafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd John Chorlton a'i eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

10.9      31C357A  DYMCHWEL ANNEDD YNGHYD A CHODI ANNEDD NEWYDD, GOSOD TANC SEPTIG A CHREU MYNEDFA I GEIR YN SIGLAN BACH, LÔN DYFNIA, LLANFAIR-PWLL

 

      

 

      

 

     Gan Mr Richard Eames o'r Adain Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Fe adroddwyd nad oedd neb yn byw yn y ty a'i fod yn mynd â'i ben iddo.  Cais oedd hwn i ddymchwel annedd a chodi ty yn ei le a hynny'n ymgorffori estyniad i'r cwrtil preswyl fydd yn symud y safle yn ôl i gae amaethyddol a hynny rhyw 45m o'i gymharu a dyfnder y cwrtil presennol sy'n 17m yn ôl o'r lôn a'r tir yn codi tuag at gefn y safle.  Roedd y bwriad presennol yn llawer mwy o ran maint swmp a mas na'r annedd wreiddiol a byddai effaith y cynnig ar y tirlun ehangach yn annerbyniol - rhaid i dai adeiledir yn lle rhai eraill fod wedi eu dylunio i gydymffurfio gyda'r pethau o'u cwmpas, bydd hyn yn golygu bod yn rhaid i anheddau newydd gael eu hadeiladu ar safle'r annedd bresennol gan adlewyrchu ei maint, swmp a mas.  Cymerwyd i ystyriaeth Bolisi 54 y Cynllun Lleol a HP9 o'r CDU a stopiwyd.  Atgoffodd y Cynghorydd John Roberts yr aelodau eu bod wedi ymweld â'r safle beth amser yn ôl. Roedd y safle yr ochr arall i'r lôn i safle Ty Mawr.  Er i swyddogion gynnal nifer o drafodaethau gyda'r ymgeiswyr, roeddynt yn methu â chyfaddawdu.  Gyda'r ymgeiswyr yn deulu lleol ac oherwydd y byddai'r anned yn dy yn lle un arall,

 

     teimlai y dylid caniatáu'r cais hwn.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr egwyddor o godi un annedd yn lle un arall yn dderbyniol, ond roedd hwn yn rhy fawr ac rhy bell yn ôl ar y safle - rhyw 25m o'r ffordd.  

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd Glyn Jones fod maint yr adeiladu yn ddwbl yr hyn sydd yno ar hyn o bryd.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton ei bod hi'n bosib nad oedd maint yr adeilad yn broblem ond fod angen ystyried y lleoliad - a oedd o mewn pant?

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod bwriad i adeiladu ty yn ôl ar y safle a hynny ar dir oedd yn codi.  Byddai'r bwriad yn uwch na'r ty presennol sydd mewn pant.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad o wrthod gan y swyddog a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.  

 

      

 

     Dylai ty yn lle un arall ymgorffori'r troedbrint gwreiddiol meddai'r Cynghorydd J Arthur Jones; roedd y cais hwn yn ymestyn y troedbrint presennol;  ni châi effaith annerbyniol a chynigiodd ganiatáu.  Cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod swyddogion wedi bod mewn trafodaethau gyda'r ymgeisydd i geisio cytuno ar beth oedd yn dderbyniol mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, i'r Cynghorydd Arwel Edwards, bod y safle arfaethedig yn berthnasol ac roedd yr adroddiad yn cadarnhau hyn.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Roberts fod y  ty presennol yn dangos ei oed a fod yr ymgeisydd eisiau ty newydd ac roedd ymgynghorwr yr ymgeisydd yn dweud fod hyn yn dderbyniol.  

 

      

 

     Atgoffodd y swyddog yr aelodau nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei wneud ar safle Ty Mawr.

 

      

 

      

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog;  Y Cynghorwyr John Chorlton, J Arthur Jones, Bryan Owen, RL Owen, D Lewis-Roberts, John Roberts, WJ Williams MBE

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Glyn Jones, Thomas Jones

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd nad oedd yr aelodau yn teimlo fod hwn yn groes i bolisiau.  

 

      

 

     Yn unol a Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu.  

 

      

 

11      CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ar faterion y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.  

 

      

 

12      APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gopi o grynodeb o benderfyniadau Arolygwyr Cynllunio fel a ganlyn:

 

      

 

12.1      GWYNDAF, PENMON

 

      

 

     12.1.1  Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i newid defnydd garej, fel y'i hadeiladwyd, yn llety gwyliau teuluol ar y cyd â gwely a brecwast Gwyndaf dan gais cynllunio 35C206E ac a wrthodwyd trwy hysbysiad dyddiedig 11 Medi, 2007- caniatawyd yr apêl.

 

      

 

     12.1.2  Cais yn erbyn yr Awdurdod hwn am gostau gan yr ymgeisydd mewn perthynas â'r uchod - gwrthodwyd y cais.

 

      

 

12.2      TY MAWR BARNS, MYNYDD BODAFON

 

      

 

     Apêl dan Adran 73 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref, 1990 yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amod (04) oedd yn rhan o ganiatâd cynllunio 40C236E i ailadeiladu dwy hen sgubor i fod yn rhan o ganolfan gwyliau; gwrthodwyd cais cynllunio 40C236F trwy rybudd dyddiedig 2 Gorffennaf, 2007 - caniatawyd yr apêl yn rhannol.

 

 

 

12.3       CAERAU, LLANSADWRN

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i addasu adeilad allanol i greu annedd dan gais cynllunio 17C408A ac a wrthodwyd trwy hysbysiad dyddiedig 8 Tachwedd, 2007 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

12.4      PEN Y GONGL, BRYNSIENCYN

 

      

 

     12.4.1  Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i godi annedd newydd yn lle hen un dan gais cynllunio 37C158A ac a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 24 Medi, 2007 - caniatawyd yr apêl.

 

      

 

     12.4.2  Cais gan yr ymgeisydd am gostau yn ymwneud â'r uchod - gwrthodwyd y cais.

 

      

 

      

 

12.5      TYN FFYNNON, LLANEILIAN, AMLWCH

 

      

 

     Cais gan yr Awdurdod hwn am gostau yn erbyn yr ymgeisydd ar ôl iddo dynnu ei apêl yn ôl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod i wrthod caniatâd cynllunio am garej a gweithdy - caniatawyd y cais.

 

 

 

12.6      CLWCH MAWR, TREFOR

 

 

 

     Dan Adran 174 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn rhybudd gorfodaeth a gyflwynwyd gan yr Awdurdod hwn dan rif: 2007/47/EN/353 dyddiedig 31 Gorffennaf, 2007 am dor-rheolaeth cynllunio fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad yr Arolygydd - diddymwyd y rhybudd gorfodi.

 

      

 

13      MATERION ERAILL

 

      

 

13.1      45C290  CHWAREL HENGAE, LLANGAFFO

 

      

 

     Nodwyd fod apêl mewn perthynas â'r cais uchod wedi ei thynnu'n ôl ac na fydd yr Arolygaeth Gynllunio yn cymryd unrhyw gam pellach.

 

      

 

13.2      46C448B/EIA  - CAIS LLAWN I WNEUD GWAITH GWELLA AR YR ARFORDIR A DARPARU MAES PARCIO YN NHREARDDUR

 

      

 

     Fe adroddwyd y bydd adroddiad ar yr uchod yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben 3.15 p.m.

 

      

 

      

 

     JOHN ROBERTS

 

     CADEIRYDD