Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 9 Mai 2007

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 9fed Mai, 2007

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod gafwyd ar  9 Mai, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Arwel Roberts - Cadeirydd

Y Cynghorydd Denis Hadley - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies,

Arwel Edwards, Glyn Jones, J Arthur Jones (hyd at eitem 6.8),

Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, John Roberts, John Rowlands, WJ Williams MBE,

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Rheolwr Rheoli Datblygu (DFJ)

Cynorthwywr Cynllunio (EH)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy)(JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol :  Y Cynghorwyr Cliff Everett - eitemau 10.5, 10.6,

Fflur Hughes - eitem 6.13, WI Hughes - eitemau 6.4, 7.1, 7.2,

Eric Jones - eitem 6.12, Gwilym Jones - eitem 6.11, D Lewis-

Roberts - eitem 6.10, Tecwyn Roberts - eitem 6.9,

Peter Rogers - eitem 9.4

 

Y Cynghorydd Hefin Thomas - Deilydd Portffolio (Cynllunio)

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorwyr Thomas Jones a Bryan Owen i'w cyfarfod cyntaf fel aelodau o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, diolchodd hefyd am gyfranogiad y Cynghorwyr Phil Fowlie ac Aled Morris Jones i gyfarfodydd y gorffennol.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Doedd dim ymddiheuriadau am absenoldeb wedi eu derbyn ar gyfer y cyfarfod hwn.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

 

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfodydd a ganlyn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion:  

 

 

 

3.1

4 Ebrill, 2007 gyda chywiriad ar dudalen 3 (eitem 6.1) 12C4B/3 Addasu ac ehangu 2 Cae Mair, Biwmares yn ychwanegol at enw'r Cynghorydd RL Owen, dymunai'r Cynghorydd John Roberts nodi ei fod yntau hefyd wedi gwrthwynebu'r bwriad.  (tud )

 

 

 

3.2

1 Mai,  2007 (tud )

 

4

YMWELIADAU SAFLE

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel cofnod cywir, adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio gafwyd ar 18 Ebrill, 2007.

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

12C66G  DYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL YNGHYD Â CHODI PUM ANNEDD, CAFFI, PAFILIWN AC AILWAMPIO SAFLE'R HEN BWLL NOFIO, BIWMARES

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle yn y cyfarfod ar 5 Gorffennaf, ac fe wnaed hynny ar 12 Gorffennaf, 2006.  Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod trafodaethau wedi'u cwblhau gyda CADW a gobeithiwyd y byddai'r swyddog mewn sefyllfa i gyflwyno adroddiad i'r cyfarfod nesaf.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd RL Owen cadarnhawyd fod swyddogion wedi bod mewn trafodaeth gyda Chyngor Tref Biwmares.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.  

 

 

 

5.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

39C254B  CAIS AMLINEOOL I GODI PEDAIR ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN HAFOD WERN, PORTHAETHWY

 

 

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle yn y cyfarfod ar 6 Medi, ac fe wnaed hynny ar 20 Medi, 2006.  Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau.  

 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

42C203  ADDASU AC EHANGU 11 GWEL Y DON, PENTRAETH

 

 

 

Daeth y cais hwn i'r Pwyllgor bendefynu arno yn ôl dymuniad y Cadeirydd. Argymhelliad y swyddog oedd ymweld â'r safle er mwyn i'r aelodau weld y safle yn ei gyd-destun.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

6

CEISIADAU'N CODI

 

 

 

6.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C340/CA  CANIATÁD ARDAL GADWRAETH AR GYFER DYMCHWEL ADEILADAU HEN DDEPO  A' GAREJYS Y CYNGOR, BIWMARES

 

 

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 7 Chwefror, ac fe wnaed hynny ar 21 Chwefror, 2007.  Cafodd y cais ei ohirio yn y cyfamser er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD hysbysu CADW bod yr Awdurdod hwn yn tueddu i ganiatáu'r cais dan eitem 6.2 y cofnodion hyn.

 

 

 

6.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C340C  CODI PEDAIR ANNEDD A DYMCHWEL YR ADEILADAU PRESENNOL YN HEN DDEPO'R CYNGOR, BIWMARES

 

 

 

Doedd dim gwrthwynebiad i ddymchwel yr hen strwythur meddai'r Cynghorydd RL Owen, er bod tir adeiladu yn brin ym Miwmares, teimlai'n gryf fod y bwriad yn orddatblygiad.  Gofynnodd y Cynghorydd RL Owen a fyddai llefydd parcio yn cael eu colli.  

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod 9 llythyr ychwanegol o wrthwynebiad i law ac wedi eu rhoddi gerbron y cyfarfod.  Cafodd maint y bwriad ei ostwng ac roedd nawr yn cynnwys pedair annedd, sef ddau bâr o ddau dai yr un.

 

 

 

Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd nad oedd bwriad i ostwng nifer y llefydd parcio, ac mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas Jones cadarnhaodd y swyddog fod digon o lefydd parcio ar y safle.  

 

 

 

Oherwydd fod maint y bwriad wedi ei ostwng, cafwyd cynnig o dderbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatáu'r cais gan y Cynghorydd John Chorlton; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Byast.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Dymunodd y Cynghorydd RL Owen nodi ei fod yn gwrthwynebu'r cais ac mewn ymateb i'w gais am ymchwiliadau archeolegol, dywedodd y swyddog y byddai hyn yn cael ei reoli trwy amod.

 

 

 

 

 

6.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C340D/CA CAIS I DORRI COED MEWN ARDAL GADWRAETH YN HEN DDEPO'R CYNGOR, BIWMARES

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais hwn mewn perthynas ag eitem 6.2 uchod.

 

 

 

6.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

14C92H  CANIATÂD CYNLLUNIO I WEITHREDU AR GANIATÂD CYNLLUNIO 14C92D  DYDDIEDIG 27/06/2005 OND HEB GYDYMFFURFIO AG AMOD RHIF (11) AR Y CANIATÂD HWNNW YM MHARC CEFNI, BODFFORDD

 

 

 

Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol; mae'r ymgeisydd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 4 Ebrill, ac fe wnaed hynny ar 18 Ebrill, 2007.  

 

 

 

Roedd y Cynghorydd W.I. Hughes wedi'i dramgwyddo oherwydd i'r ymgeisydd wrthod caniatâd iddo fynd ar y safle a theimlai'r Cynghorydd R.L. Owen mai peth diethr a diddariol iawn oedd i'r aelod lleol orfod annerch ymweliad â safle o'r cae cyffiniol.

 

 

 

 

 

Wedyn cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at lythyr ychwanegol oddi wrth yr ymgeisydd y bore hwnnw ac roedd copi ohono gerbron y cyfarfod.  Ond roedd y Cynghorydd W.I. Hughes eto wedi ei dramgwyddo gan gynnwys y llythyr oherwydd yr awgrym ynddo bod y Cynghorydd wedi dweud anwired.  Pwysleisiodd y Cynghorydd Hughes ei fod wedi cefnogi'r cais gwreiddiol a bod ei bryderon yn awr yn seiliedig ar dorri amodau cynllunio.  Roedd y ffens ar y terfyn yn perthyn i'r cae cyffiniol ac Uned 5 wedi'i gosod 1 metr o'r ffin - roedd gan berchennog y tir cyffiniol yr hawl i ddeunaw modfedd o led ar hyd y ffin i bwrpas cynnal a chadw'r ffens.  Dan amod cynllunio roedd yn rhaid tirlunio'r darn hwn o dir a holodd y Cynghorydd Hughes sut yn y byd yr oedd modd tirlunio darn mor gul o dir.  Yng nghyswllt ystwythder gofynnodd y Cynghorydd Hughes a oedd unrhyw un o'r 6 uned a ddangoswyd ar y cynllun yn mynd i fod 1m o ffens y terfyn.  Yn ychwanegol at hyn teimlwyd fod pedair uned wyliau yn mynd i fod o bobtu'r mëns dwr neu'n agos iawn ati - yn ôl cyfamod roedd yno hawlfraint 6m.  Wedyn gofynnodd y Cynghorydd Hughes faint o ystwythder yr oedd yr ymgeisydd am gael.

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y rhoddid rhagor o ystrwythder, dan y cais gerbron, i leoli'r unedau gwyliau ar math o unedau ar y safle yn unig.  Ond cyn gwneud unrhyw waith roedd yn rhaid wrth ganiatâd ysgrifenedig yr Adran Gynllunio ymlaen llaw fel y manylwyd ar hynny yn amod (03) yr adroddiad.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arwel Edwards nododd y swyddog na chaniateid unrhyw waith datblygu 3m o bobtu'r mëns dwr.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton iddo dderbyn copi o lythyr oddi wrth "Mr TV Hughes" at y Rheolwr-gyfarwyddwr, yn datgan y dylai'r Cynghorydd John Chorlton ddatgan diddordeb yn y cais oherwydd huriad fod y Cynghorydd wedi cyrraedd yn gynnar ac wedi siarad gyda'r ymgeisydd cyn yr ymweliad â'r safle.  Cyn yr ymweliad safle roedd y Cynghorydd John Chorlton, y bore hwnnw, wedi bod yn gwneud busnes Cyngor ac o'r herwydd wedi cyrraedd ar wahân i'r aelodau ac ni theimlai fod ganddo unrhyw reswm i ddatgan diddordeb.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Byast cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu: Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, J Arwel Roberts, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.  

 

 

 

6.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

17C390A  CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG I GODI ANNEDD WEDI EI CHANIATÁU GYNT DAN GAIS RHIF 17C361 YN PENLAN, LLANDEGFAN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 4 Ebrill, ac fe wnaed hynny ar 18 Ebrill, 2007.  

 

 

 

Ymddiheurodd y Cynghorydd Eurfryn Davies i'r ymgeisydd, swyddogion ac aelodau os oedd wedi pechu oherwydd camddealltwriaeth rhwng y swyddog achos a'r Cynghorydd Davies.  Doedd y Cynghorydd Eurfryn Davies ddim yn hapus gyda'r newidiadau i'r caniatâd gwreiddiol a chynigiodd wrthod.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Derbyn adroddiad i swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Arwel Edwards, Denis Hadley, Glyn Jones, Bryan Owen, RL Owen, J Arwel Roberts, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

6.6

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

17C401  NEWID DEFNYDD Y LLAWR ISAF O YSTAFELL CHWARAE AC YSTAFELL CADW OFFER I ANECS HUNANGYNHALIOL YN TWR GADLYS, LLANSADWRN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 4 Ebrill, ac fe wnaed hynny ar 18 Ebrill, 2007.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies fod y lôn gul at y safle yn cael ei rannu gan dai eraill a hynny'n cynnwys un fferm.  Roedd rhyw syniad y buasai uned wyliau'n cael ei sefydlu a hynny'n creu traffig ychwanegol ac anawsterau parcio.  Ond nid oedd y Cynghorydd Davies yn siwr fod raid, dan amod (03) for "Rhaid darparu llecyn parcio dan y carbort i o leiaf 1 car."

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr ymgeiswyr wedi nodi dau lecyn parcio rhwng dau adeilad, fel arall byddai modd creu llecynau parcio yn yr ardd, roedd yr opsiwn cyntaf yn fwy derbyniol.

 

      

 

     Gwelai'r Cynghorydd Glyn Jones fod yna ddigon o le i bario dau gar tra'n ymweld â'r safle.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Denis Hadley, Glyn Jones, J Arthur Jones, J Arwel Roberts, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

6.7     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     23C231B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD FFORDDIADWY YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A GOSOD TANC SEPTIG AR DIR GER CAE FABLI, CAPEL COCH

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod blaenorol roedd yr aelodau yn dueddol o ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog.  Yn

 

      

 

      

 

     unol â chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.     

 

      

 

     Yma atgoffodd y Rheolwr Rheoli Datblygu yr aelodau bod y cais yn groes i'r polisïau - nid oedd y safle mewn pentref nac mewn treflan gydnabyddedig ac o'r herwydd roedd yn y cefn gwlad agored a hynny'n golygu nad oedd yn bodloni y meini prawf i dai fforddiadwy.  

 

      

 

     Ond roedd y cais hwn, yn ôl y Cynghorydd W. J. Williams, yn un priodol am dy fforddiadwy ac yn mynd i fod o gymorth i'r economi wledig ac roedd y tu mewn i dri chlwstwr - sef Capel Coch, Maenaddwyn a Hebron.  Heb fod ymhell roedd yr ysgol gynradd a oedd hefyd yn ganolfan gymuned.  Merch ifanc o'r ardal oedd yr ymgeisydd.  Yn yr ardal honno roedd plot wedi gwerthu'n ddiweddar am bron i £100,000.  Gofynnodd y Cynghorydd Williams yn daer i'r aelodau am eu cefnogaeth a phe rhoddir caniatâd roedd yn argymell rhoddi amod ynghlwm yn mynnu ar waith tirlunio.  Cafwyd cynnig i dderbyn a chaniatáu gan y Cynghorydd Williams.

 

      

 

     Er bod y cais yn bodloni yr holl feini prawf ar gyfer tai fforddiadwy ac eithrio lleoliad dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn y cefn gwlad ac felly yn annerbyniol fel safle eithriad.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Glyn Jones bod hwn yn cydymffurfio â'r ymrwymiad i "wella bywyd Môn"; teimlai hefyd bod angen hybu adfywiad, eiliodd y Cynghorydd Jones y cynnig i ganiatáu.  

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Denis Hadley, J Arwel Roberts

 

      

 

     Mewn ymateb i gais gan y Rheolwr Rheoli Datblygu cadarnhaodd y Pwyllgor y byddai'r annedd yn cael ei chyfuno i fod yn un fforddiadwy trwy gytundeb Adran106 .

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau safonol yn cynnwys cytundeb dan Adran 106 i sicrhau ei fod yn dy fforddiadwy.  

 

      

 

      

 

6.8     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     28C388  CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGLO, CREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN Y DDEORFA, BRYN DU

 

      

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Bryan Owen cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Tueddiad yr aelodau yn y cyfarfod blaenorol  oedd i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog gan y teimlai'r aelodau bod y cais hwn yn cydymffurfio â Pholisi 50.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod asiant yr ymgeisydd wedi cyflwyno llythyr cyn dechrau'r cyfarfod yn tynnu sylw  at:  

 

      

 

      

 

Ÿ

anghenion arbennig y plentyn oherwydd Downs Syndrome a chyflwr calon

 

Ÿ

angen cefnogaeth y teulu gan yr ymgeisydd

 

Ÿ

goleadau stryd ac o fewn cyfyngiad cyflymdra 30 mya

 

Ÿ

5m tu allan i'r ffin ddatblygu a ger y cae chwarae

 

Ÿ

yr ymgeisydd yn fodlon arwyddo cytundeb Adran 106 i atal datblygu rhubanaidd  

 

      

 

     Mewn ymateb i hyn dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y tir y tu allan i'r ffin datblygu.  Buasai hwn yn creu ty marchnad agored a dylai penderfyniadau gael eu gwneud ar ddefnydd tir ac nid am resymau personol.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Glyn Jones fod hwn yn cydymffurfio â Pholisi 50 ac roedd angen lleol; anogodd yr aelodau i lynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu'r cais.  

 

 

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Byast.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, RL Owen, Arwel Roberts, John Rowlands

 

      

 

     PENDERFYNWYD diddymu'r penderfyniad blaenorol a derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

6.9     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     30C385B  DYMCHWEL Y GWESTY PRESENNOL, CODI ADEILAD TRI LLAWR YN CYNNWYS 21 O FFLATIAU PRYNU I OSOD, PWLL NOFIO DAN DO YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR, ADDASU'R FYNEDFA I GEIR A'R GARTHFFOS YN LLIFO I'R GARTHFFOS GYHOEDDUS YNG NGHWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH

 

      

 

     Gan y Cynghorwyr J Arthur Jones a Hefin Thomas cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawsant y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.  

 

      

 

     Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 5 Gorffennaf, ac fe wnaed hynny ar 12 Gorffennaf, 2006.  Cafodd y cais ei ohirio yn y cyfamser er mwyn cwblhau trafodaethau ynglyn a mynedfa a charthffosiaeth.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu at y gwrthwynebiad cryf i'r cynnig hwn a hynny'n cynnwys gwrthwynebiad y Cyngor Cymuned.  Hefyd cyfeiriodd at y llu o lythyrau a oedd ar gael yn y cyfarfod.  Ymhellach roedd materion priffyrdd a charthffosiaeth wedi eu datrus a trafodaethau wedi'u cwblhau gyda'r cyrff statudol yr oedd yn rhaid ymgynghori gyda nhw. Nodwyd fod y datblygiad wedi gostwng o 28 i 21 apartment ac uchder y grib ddwy fetr yn is na chrib yr adeilad presennol.  Ar wal y siambr ac ar y taflynydd roedd cynlluniau a dygodd y swyddog sylw'r aelodau atynt.  Er bod yr adeilad mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol roedd hefyd mewn cyflwr gwael ac ar safle llwyd.  Credai'r swyddog y buasai'r gymuned leol ar ei hennill o ddarparu carthffos gyhoeddus yn cysylltu gyda'r mëns carthffosiaeth.  Argymhelliad o ganiatáu oedd ganddo ond gydag amod dan Adran 106 (deiliadaeth).

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts gafwyd gair o gadarnhad yng nghyswllt gwrthwynebiad cryf gan bobl Traeth Coch.  Teimlo oedd y Cynghorydd bod y cynnig yn rhy fawr ac yn mynd i anharddu'r tirwedd y tu mewn i Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol; nid oedd yno digon o le i droi i gerbydau gwasanaethau argyfwng ac nid oedd y ffordd at y lle yn cyrraedd y safon ac o'r herwydd cafwyd ganddo argymhelliad o wrthod.

 

      

 

     Ond roedd gwaith ymgynghori wedi'i wneud gyda swydogion yr Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol a chyda'r Uned Cefn Gwlad a dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod y swyddogion hynny yn anghytuno y buasai'r datblygiad yn niweidio tirwedd.  Fodd bynnag, cytunwyd fod y cynnig gwreiddiol yn annerbyniol ond ar ôl cael trafodaethau gyda'r asiant a chyda chyrff statudol tarwyd ar gyfaddawd derbyniol.  Symudwyd y fynedfa draw oddi wrth y gyffordd, a'r gwasanaethau argyfwng, a roeddynt bellach yn fodlon gyda'r trefniadau arfaethedig.  Edrychwyd yn dra manwl ar bob agwedd o'r cynnig ac ar ôl pwyso a mesur pob peth roedd y cynnig yn dderbyniol ac roedd y swyddog yn argymell caniatáu.  

 

      

 

     Ond ni fedrai'r Cynghorydd R. L. Owen gefnogi cynnig o'r fath mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.

 

      

 

     Ond nid oedd yma yr un ystyriaeth gynllunio berthnasol i wrthod y cais yn ôl y Cynghorydd John Chorlton ac y buasai'r ymgeiswyr yn llwyddo mae'n debyg wrth fynd i apël ac yn llwyddo gyda'r costau hefyd.

 

      

 

     Wedyn cafwyd gair gan yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd yn dweud bod yr ymgeisydd wedi ychwanegu at y cyfleusterau parcio a bod y rheini yn cyrraedd safon derbyniol a hefyd roedd y fynedfa ymhellach oddi wrth y gyffordd ac yn cydymffurfio gyda'r gofynion.  

 

      

 

     Ond i bwrpas gweddu gyda nodweddion eraill yr ardal teimlai'r Cynghorydd Tecyn Roberts y dylid cadw wyneb yr adeilad yn hytrach na mynd am ddyluniad modern fel dyluniad y cynnig gerbron.  Hefyd roedd yn amheus a oedd y lôn gul at y safle yn bodloni'r safonau.  Petai'r ymgeisydd yn mynd i apël roedd y Cynghorydd Roberts yn berffaith fodlon amddiffyn penderfyniad o wrthod.  Credai'r Uwch Beiriannydd Priffyrdd y buasai'r fynedfa arfaethedig yn fwy diogel na'r fynedfa wreiddiol.  Mewn ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd Roberts dywedodd y Swyddog Priffyrdd y cedwid dau lecyn parcio arbennig i'r methedig yn unol â gofynion statudol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Byast.

 

      

 

     Cafwyd cynnig i wrthod y cais gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, Glyn Jones, J Arwel Roberts, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a rhoddi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amod Adran 106 (daliadaeth), ac amodau eraill fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

6.10      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     30C629  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER TAN Y MARIAN, BRYN-TEG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 7 Mawrth, ac fe wnaed hynny ar 21 Mawrth, 2007.  Cytunwyd i ohirio ystyried y cais yn y cyfarfod blaenorol er mwyn cwblhau trafodaethau ar y Dystysgrif Perchnogaeth.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod llythyr ychwanegol o wrthwynebiad i law ynghyd â deiseb gyda 35 wedi ei llofnodi.  Cadarnhawyd perchnogaeth y tir ac roedd y safle 200m tu allan i'r ffin ddatblygu, roedd yma argymhelliad cryf o wrthod y cais.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd RL Owen mewn perthynas a gwelliannau i'r ffordd, dywedodd y Swyddog Rheoli Datblygu Priffyrdd fod gwelliannau wedi'u cynnig.

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd D. Lewis-Roberts bod yma fanteision cynllunio sylweddol a hefyd bod yma enghraifft o lenwi bwlch naturiol a chyfeiriodd wedyn at wella bywyd Môn.  Person lleol oedd yr ymgeisydd dan sylw, gyda phlentyn ac yn methu â chael ty Cyngor.  

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Rheolwr Rheoli Datblygu oedd pwyso ar aelodau i fod yn gyson yn eu penderfyniadau - roedd y cais hwn yn groes i bolisïau.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones dywedodd y swyddog na allai gael ei ystyried fel cais am dy fforddiadwy gan ei fod 200m y tu allan i'r ffin ddatblygu.

 

      

 

     Ond tybiai'r Cynghorydd John Chorlton fod y safle rhwng dau dy ac yn llenwi bwlch naturiol a chadarnhau a wnaeth y Cynghorydd D. Lewis-Roberts mai felly yr oedd pethau gan ychwanegu fod hen sied ar y safle a'r tir o safon isel.  

 

      

 

     Cytunodd y Cynghorydd RL Owen fod hwn yn llenwi bwlch yn sensitif ac eiliodd ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, RL Owen, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd y byddai hwn yn llenwi bwlch yn sensitif.  

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

6.11      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     32C155  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNED YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR TU CEFN I CAE'R NANT, CAERGEILIOG

 

      

 

      

 

     Gan Mrs Nia Jones o'r Adran Gynllunio cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Tueddiad yr aelodau yn y cyfarfod blaenorol  oedd caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog gan y teimlai'r aelodau bod y cais hwn yn cydymffurfio â Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Gwilym Jones fod y safle yn gyfforddus o fewn y ffin i Gaergeiliog, roedd yr hen neuadd bentref yr ochr arall i'r lôn a gofynnodd am gefnogaeth gan yr aelodau.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ganiatáu gan y teimlai bod hwn yn cydymffurfio â Pholisi 50, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd WJ Williams.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas Jones cadarnhaodd y swyddog fod yr holl gae ym meddiant yr ymgeisydd.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorydd Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd John Chorlton

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau safonol.

 

      

 

6.12      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     33C256A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GAREJ AR DIR YN LLOSG YR ODYN, PENTRE BERW

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Tueddiad yr aelodau yn y cyfarfod blaenorol  oedd caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog gan y teimlai'r aelodau bod y cais hwn yn cydymffurfio â Pholisi 50.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eric Jones nad oedd ganddo ddim i'w ychwanegu at yr hyn a ddywedwyd eisoes.

 

      

 

     Atgoffodd y Rheolwr Rheoli Datblygu'r aelodau bod y ffos yn creu ffin naturiol.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Jones at Bennod 9, PPW ac roedd o'r farn fod y cais hwn yn cydymffurfio â Pholisi 50; cynigiodd ganiatáu'r cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Denis Hadley, Glyn Jones, Bryan Owen, RL Owen, J Arwel Roberts, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, Arwel Roberts

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd Thomas Jones

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau safonol.

 

      

 

6.13      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     34C556  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR GER GWERNHEFIN, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cytunwyd i ohirio ystyried y cais yn y cyfarfod blaenorol er mwyn rhoi cyfle i'r ymgeisydd drafod materion priffyrdd gyda swyddogion perthnasol.   

 

      

 

     Ar ran yr ymgeisydd a'i bensaer, gofynnodd y Cynghorydd Fflur Hughes am ohiriad pellach i drafod materion priffyrdd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

6.14      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     35C259A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD FFORDDIADWY YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN NANT HEILYN, LLANGOED

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Tueddiad yr aelodau yn y cyfarfod blaenorol  oedd caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog gan y teimlai'r aelodau fod y cais hwn yn angen lleol ar safle eithriadol fel y'i diffiniwyd ym Mholisi 52 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Rowlands fod y cais hwn yn cyfarfod a'r meini prawf am dy fforddiadwy a chynigiodd ganiatáu'r cais; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen a ychwanegodd fod yr ymgeisydd wedi symud y plot yn agosach at ffin y pentref.  

 

      

 

     Er bod y plot yn ymddangos ar ffin y CDU, roedd o rhyw 300m y tu allan i ffin ddatblygu Cynllun Lleol Ynys Môn meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     Gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr J Arwel Roberts.

 

      

 

     Ar gais y Rheolwr Rheoli Datblygu cytunwyd i gyfyngu'r annedd i un fforddiadwy trwy amod dan Adran 106.  PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau safonol gan gynnwys amod Adran 106 i sicrhau fod yr annedd yn un fforddiadwy.

 

      

 

      

 

6.15      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     41C54A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GAREJ YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG AR DIR GER FOUR WINDS, STAR

 

      

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eric Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.  

 

      

 

     Yr aelod i'r ward gyffiniol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor a hynny oherwydd fod yr aelod lleol wedi datgan diddordeb yn y cais.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 4 Ebrill, ac fe wnaed hynny ar 18 Ebill, 2007.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd John Roberts at safle'r cais fel y manylwyd arno yn yr adroddiad.  Nid oedd y Cyngor Cymuned lleol yn gwrthwynebu gyda'r amod mai un ty yn unig a godid a bod hwnnw yn cael ei ddefnyddio gan berson neu gan deulu lleol.  Cafwyd nifer fawr o wrthwynebiadau ynghyd â deiseb ac arni 82 o enwau.  Roedd y fynedfa at y safle ar lôn fechan sy'n rhedeg i briffordd Star - Ffordd Penmynydd ac ni wyddai'r Cynghorydd Roberts a oedd y datblygiad hwn yn mynd i gwblhau'n derfynol ar y llaw arall, a oedd yn mynd i arwain at ddatblygiad rhubanaidd.  Gyda'r cefndir hwn cynigiodd y Cynghorydd Roberts y dylid gwrthod y

 

     cais.

 

      

 

      

 

     Ond ni chredai'r Cynghorydd R. L. Owen y câi'r datblygiad effaith sylweddol a chynigiodd derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas Jones dangoswyd ar y taflunydd leoliad Bwthyn Gwyn,  pa mor agos ydoedd i'r safle a hefyd dangoswyd plot annedd a gafodd ganiatâd yn ddiweddar.  Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod pob cais yn cael ei benderfynu fesul un yn ôl ei ragoriaeth.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd John Arthur Jones at adroddiad y swyddog ble dywedir "Dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn rhestrir Star fel Pentref Rhestredig a dywedir y bydd caniatâd cynllunio fel arfer yn cael ei roddi ..... gyda'r amod nad ydynt yn niweidio cymeriad ffisegol na chymeriad cymdeithasol yr ardal a chan fod yn ymwybodol:  1 Bod y bwriad yn amlwg o fewn, neu'n ffurfio estyniad bychan rhesymol i'r rhan honno o'r pentref neu'r dreflan sydd wedi'i datblygu eisoes, ac na fyddai'n golygu ymwthiad anaddas i'r tirlun na niwed i gymeriad a mwynderau y cyffiniau ..." Teimlai'r Cynghorydd J Arthur Jones y byddai hwn yn cael effaith ac eiliodd y cynnig i wrthod y cais.

 

      

 

     Eilio'r cynnig i ganiatáu a wnaeth y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, J Arthur Jones, John Roberts, WJ Williams MBE

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, Glyn Jones, Bryan Owen, RL Owen, J Arwel Roberts, John Rowlands

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

6.16      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     49LPA868/CC  CAIS AR GYFER DARPARU OFFER NEWYDD I DRIN CARTHION YN LLE'R UN PRESENNOL YNGHYD Â GOSOD ARLLWYSFA NEWYDD I WASANAETHU SAITH ANNEDD AR DIR Y TU CEFN I 1 TAI CYNGOR A BRYN REFAIL, LLANYNGHENEDL

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn cael ei gyflwyno ar ran y Cyngor. Penderfynwyd caniatáu'r cais ar 6 Medi 2006 yn amodol ar gwblhau gwaith ymgynghori yn foddhaol.  Cyfeiriwyd y cais yn ôl i'r Pwyllgor yn wyneb materion a godwyd yn ystod yr ymgynghori.  

 

      

 

     Cyflwynodd y Cynghorydd Goronwy Parry ymddiheuriad am ei absenoldeb o'r cyfarfod ond dywedodd wrth y clerc nad oedd ganddo unrhyw sylw pellach ar yr amod fod yr holl faterion o bryder wedi derbyn sylw.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

7.1     36C249B/ECON  NEWID DEFNYDD YR ANNEDD AC ADEILADAU ALLANOL I FOD YN WESTY GYDAG YSTAFELL GYFARFOD GYSYLLTIEDIG, YSTAFELLOEDD GWESTEION, 5 BWTHYN HUNANARLWYOL GAN GYNNWYS CYFLEUSTERAU ANABL, CODI TY GWYDR A STORFA YN MONA INN, LLANGRISTIOLUS

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd gwrthwynebiad i'r egwyddor o ddatblygu, ond argymhelliad o wrthod oedd yma a hynny oherwydd gwelededd is-safonol o'r fynedfa.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

7.2     36C49C/AD  CODI ARWYDD WEDI EI OLEUO YN MONA INN, LLANGRISTIOLUS

 

      

 

     Roedd y cais hwn ynghlwm wrth y cais yn eitem 7.1 uchod, ac am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gwrthod y cais hwn hefyd.  

 

 

 

 

 

7.3     46C378B/ECON/EIA  CAIS I GODI DEPO CYNNAL RHEILFFORDD AR DIR STAD DDIWYDIANNOL PENRHOS, CAERGYBI

 

      

 

     Ymwelwyd â'r safle hwn ar 18 Ebrill, 2007 ar gais y swyddog.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cynllun yn yr adroddiad yn anghywir ac y dylai ddangos mynedfa i'r gogledd o safle Dwr Cymru.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

8

CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i'w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

      

 

      

 

9     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

9.1     11C405B  CODI ADEILAD UNLLAWR AR GYFER SAFLE CYFARFOD CRISTNOGOL, MYNEDFA NEWYDD, 46 O LEFYDD PARCIO A GWAITH TIRLUNIO YN PEN Y BRYN, AMLWCH

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y daethpwyd â'r cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn ond yn un a gefnogir dan Bolisi CC1 o'r Cynllun Datblygu Unedol sydd yn caniatáu lleoli cyfleusterau cymunedol y tu mewn neu yn ymyl ffin ddatblygu.  

 

      

 

     Doedd gan y Cynghorydd John Byast ddim gwrthwynebiad i'r egwyddor o ddatblygu, fodd bynnag roedd consyrn am y fynedfa trac sengl a'r ffaith ei bod yn agos i'r ysgol ac yn y cyd-destun hwn roedd y Cynghorydd Byast yn croesawu'r cyfyngiadau ar oriau agor.

 

      

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Byast cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, Glyn Jones, Thomas Jones, RL Owen, J Arwel Roberts, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

9.2     17C406  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR YN ALLT Cichle, Llandegfan

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod llythyr ychwanegol o wrthwynebiad i law.  Roedd yr ardal hon yn cael ei hadnabod fel clwstwr gwledig yn y CDU a stopiwyd;  fodd bynnag roedd y ffordd yn arwain tuag at y safle a'r fynedfa yn cael ei hystyried yn is-safonol, oherwydd hyn argymhelliad o wrthod oedd yma ar sail priffyrdd.  

 

      

 

     Gan fod y cais yn cydymffurfio a HP5 o'r CDU a stopiwyd  " a chredir  bod y lleoliad yn y tirwedd yn dderbyniol"  cafwyd cynnig i ymweld â'r safle; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rheswm a roddwyd.  

 

      

 

9.3     31C134B  CAIS AMLINELLOL AR GYFER DATBLYGIAD TRIGIANNOL YN CAE CYD, LLANFAIR-PWLL

 

      

 

     Gan Mr Richard Eames o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol..

 

      

 

     Ar gais yr aelod lleol PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

9.4     45C360A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR YN PEN WAL BACH, PEN LÔN, NIWBWRCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cais hwn yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn ac er bod yr ardal wedi ei hadnabod fel treflan wledig a chlwstwr dan Bolisi HP5 yr CDU a Stopiwyd nid oedd y safle yn llenwi bwlch - roedd yr eiddo cyffiniol tua'r gogledd i'r safle rhyw 94m i ffwrdd a'r eiddo tua'r de 200m.

 

      

 

     Ond yn ystod y 12 mis diwethaf dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers bod caniatâd cynllunio wedi'i roddi i ddwy annedd - un ym mhen y lôn a'r llall ar draws y ffordd a theimlai fod y safle mewn clwstwr.  Roedd yr ymgeisydd yn berson lleol a fudodd i Awstralia ond ar ôl dychwelyd i'r wlad hon cafodd waith mewn ysbyty lleol a'i dymuniad oedd byw'n lleol gyda'i phartner sydd yn

 

      

 

      

 

      

 

     gogydd hyfforddedig.  Hefyd roedd y lôn fechan hon eisoes yn brysur gyda gwarchodfa natur yn ei phen.

 

 

 

Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones; teimlai'r Cynghorydd WJ Williams hefyd y byddai'n fuddiol ymweld â'r safle hwn.

 

 

 

Holodd y Rheolwr Rheoli Datblygu am bwrpas ymweld â'r safle oedd yng nghanol cae agored.  

 

Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog â'r argymhelliad o wrthod; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Byast.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn dywedodd y Swyddog Rheoli Datblygu Priffyrdd bod un o'r safleoedd eraill yn darparu man pasio; byddai un ychwanegol yn gwella llif traffig.

 

 

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

      

 

10      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1      11C288G  CAIS AMLINELLLOL I GODI DWY ANNEDD YN MAES EDNYFED, AMLWCH

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Byast cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais; dywedodd y buasai'n cymryd rhan yn y drafodaeth ond ni fyddai'n pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Pryderu oedd y Cynghorydd John Byast ynghylch agweddau diogelwch y datblygiad graddol oedd wedi digwydd yn y cyffiniau hyn dros y blynyddoedd ar hyd y ffordd stad a gwaith heb ei gwblhau.  Hefyd deallwyd bod yr ymgeisydd presennol wedi gwneud gwaith datblygu blaenorol yma.  Roedd y Cynghorydd Byast yn croesawu amodau (11) a (12) i sicrhau y bydd y ffordd stad yn cael ei chwblhau cyn dechrau ar ragor o ddatblygiadau.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

10.2      11C500  NEWID DEFNYDD YR HEN GAPEL I FOD YN 10 FFLAT FFORDDIADWY YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA I GEIR YNG NGHAPEL BETHEL, STRYD WESLA, AMLWCH

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Byast cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais; dywedodd y buasai'n cymryd rhan yn y drafodaeth ond ni fyddai'n pleidleisio.    Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan yr honnir i ran o'r safle fod ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

      

 

10.3      13LPA877A/CC  CAIS ÔL-DDYDDIOL I SYMUD Y MAES PARCIO A GANIATAWYD DAN GAIS RHIF 13LPA877/CC YN YSGOL UWCHRADD, BODEDERN

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arwel Roberts cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.    Yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Denis Hadley oedd yn y Gadair ar gyfer yr eitem hon.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno ar ran y Cyngor ac yn effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

10.4      13LPA877B/CC CAIS I GODI TWNEL POLI I BWRPAS ADDYSGIADOL YN YSGOL UWCHRADD, BODEDERN

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arwel Roberts cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.    Yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Denis Hadley oedd yn y Gadair ar gyfer yr eitem hon.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

10.5      19C202B  NEWID DEFNYDD Y SIOP I SIOP GWERTHU PRYDAU POETH I'W BWYTA ALLAN YN 1 STRYD WILLIAM, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Cliff Everett yn cofio problem yr ochr draw i'r ffordd ryw 12 mlynedd yn ôl a dim cyfyngiadau yno ar yr oriau agor.  Cafwyd argymhelliad i ganiatáu ganddo gydag amod i gyfyngu ar yr oriau agor fel bod raid cau erbyn hanner nos a dilyn patrwm eiddo arall yn y cyffiniau.  Yn ôl y Cynghorydd Everett roedd defnydd cymysg yn cael ei wneud o adeiladau'r cyffiniau, h.y. swyddfeydd a thai.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton, mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones, mai siop oedd yma gynt a honno wedi cau.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd R. L. Owen y buasai'r datblygiad hwn yn hyrwyddo adfywiad ac o'r herwydd cynigiodd roddi caniatâd iddo a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.  Hefyd roedd y Cynghorwyr John Chorlton a Thomas Jones yn gefnogol.

 

      

 

     Dygodd y Rheolwr Rheoli Datblygu sylw'r aelodau at bryderon Adain Iechyd yr Amgylchedd oherwydd y posibilrwydd o effaith ar fwynderau trigolion lleol.  

 

      

 

     Roedd y Pwyllgor yn dueddol o ganiatáu, gyda'r amod eu bod yn cau am hanner nos.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Rhoddwyd y rhesymau a ganlyn dros ganiatáu:  

 

      

 

Ÿ

adfywio

 

Ÿ

gweddu i batrwm defnyddio'r adeiladau yn y cyffiniau

 

      

 

      

 

      

 

10.6      19C966  CODI CHWE FFLAT AR DIR CYFAGOS I 8 TERAS MILLBANK, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor; hefyd ar gais yr aelod lleol.  

 

      

 

     Ar gais y Cynghorydd Denis Hadley PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

      

 

10.7      20LPA51D/CC  ADDASU AC EHANGU YSGOL GYNRADD, CEMAES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

10.8      28C116K  CAIS AMLINELLOL AR GYFER DATBLYGIAD TRIGIANNOL YNG NGHANOLFAN ARDDIO MAELOG, LLANFAELOG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Nododd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod neges e-bost wedi cyrraedd yr adran ar ôl i'r cyfarfod ddechrau yn gofyn am ohirio gwneud penderfyniad ar y cais fel bod modd cynnal trafodaethau ar y gosodiad arfaethedig a hefyd ar ofynion TAN 18.  Gan fod yr ymgeisydd yn mynd i gael y cyfle i gyflwyno cais arall yn ystod y 12 mis nesaf heb dalu'n ychwanegol roedd yr argymhelliad yn dal i fod yn argymhelliad o wrthod.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

10.9      31C49D  CODI CANOPI GWYDR AR FLAEN ADEILAD GWESTY PENRHOS ARMS, FFORDD CAERGYBI, LLANFAIR-PWLL

 

      

 

     Gan Mr Richard Eames o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth â'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Ar gais yr aelod lleol, cynigiodd y Cynghorydd Eurfryn Davies ymweld â'r safle; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

10.10      31C86B  NEWID DEFNYDD Y PARLWR PRYDFERTHU I GLINIG TRIN TRAED YN OXFORD HOUSE, FFORDD CAERGYBI, LLANFAIR-PWLL

 

      

 

     Gan Mr Richard Eames o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth â'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

10.11      32LPA878/CC/AD  CAIS I GODI ARWYDD WEDI EI OLEUO YM MAES AWYR SIFIL R.A.F.   Y FALI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod wedi'i gyflwyno gan y Cyngor.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gyda'r amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

10.12      34LPA173B/CC  CODI CANOLFAN DYDD / ANABLEDD DYSGU YN PLAS PENLAN, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod wedi'i gyflwyno gan y Cyngor ac yn cael effaith ar dir sy'n eiddo iddo.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gyda'r amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

11      CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

 

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diweddaf y Pwyllgor hwn ac eithrio rhifau 127 - 142 ar dudalennau 21 - 23 yr adroddiad oedd yn geisiadau y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt gan y Pwyllgor hwn a dim dan y cynllun dirprwyo.   Cytunodd y Rheolwr Rheoli Datblygu i drefnu i'r swyddog achos gysylltu â'r Cynghorydd RL Owen ynglyn â chais rhif 6 (32 Stryd yr Eglwys, Biwmares).  

 

      

 

12      HYFFORDDIANT

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o fanylion a dyddiadau hyfforddiant i aelodau.

 

      

 

     Wrth gymryd i sylw y nifer o safleoedd i ymweld â hwy ar 23 Mai, dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y byddai dyddiad arall yn cael ei drefnu ar gyfer Adolygiad ar Benderfyniadau Cynllunio (rhif 4 yr adroddiad).

 

      

 

13     APELIADAU

 

      

 

13.1      TREMARFOR, LLANEILIAN

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb penderfyniad yr Arolygwr benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i osod tyrbin gwynt dan gais cynllunio 24C165A  - cafodd yr apêl ei chaniatau gydag amodau.

 

      

 

      

 

13.2      CAE O.S. 1960 & 3166 LLANEILIAN

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb penderfyniad yr Arolygwr benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i leoli dwy garafan statig i'w defnyddio at ddibenion storio a llety preswyl mewn cysylltiad  â defnydd amaethyddol o'r tir dan gais cynllunio 24C246 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

13.2      MAES Y GEINIOG, YNYS LAWD, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb penderfyniad yr Arolygwr benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i newid defnydd ysgubor i annedd dan gais cynllunio 46C80H - gwrthodwyd yr apêl.  

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben am 3.50 p.m.

 

      

 

      

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD