Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 10 Ionawr 2007

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 10fed Ionawr, 2007

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion cyfarfod gafwyd ar 10 Ionawr, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies,

Arwel Edwards, PM Fowlie, J Arthur Jones, O Glyn Jones,

RL Owen, John Roberts, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Swyddog Cynllunio (EH)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy) (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)  

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

Y Cynghorwyr Denis Hadley, Aled Morris Jones

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol: Y Cynghorwyr RG Parry OBE - eitem 9.3,

Tecwyn Roberts - eitem 6.3, John Williams - eitem 9.1

 

Hefin Thomas Deilydd Portffolio (Cynllunio) ac aelod lleol ar gyfer eitem 9.2

 

 

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb fel a geir uchod.

 

 

2

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

   

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

 

3

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 6 Rhagfyr, 2006 (tud )  

 

 

 

 

4

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar

 

13 Rhagfyr, 2006.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

11C122E/EIA/ECON  ADEILADU A RHEDEG FFATRI NWY HYLIF NATURIOL YN SAFLE GREAT LAKES, AMLWCH 

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 6 Rhagfyr, ac fe wnaed hynny ar 13 Rhagfyr, 2006. Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.2

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

12C66G  DYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL YNGHYD Â CHODI PUM ANNEDD, CAFFI, PAFILIWN AC AILWAMPIO SAFLE’R HEN BWLL NOFIO, BIWMARES

 

 

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 5 Gorffennaf, ac fe wnaed hynny ar 12 Gorffennaf, 2006. Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau ar y cynlluniau diwygiedig.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.3

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

30C621  CAIS LLAWN AR GYFER DATBLYGIAD PRESWYL YN CYNNWYS 31 O ANHEDDAU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR YN LÔN PANT Y CUDYN, BENLLECH

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 4 Hydref, ac fe wnaed hynny ar 18 Hydref, 2006. Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau ar y pwysau i’w rhoddi i’r CDU a stopiwyd, graddfa'r datblygiad preswyl ac effaith ieithyddol y fath ddatblygiad.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

39C254B  CAIS AMLINELLOL I GODI PEDAIR ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN HAFOD WERN, PORTHAETHWY

 

 

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 6 Medi, ac fe wnaed hynny ar 20 Medi, 2006. Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau ar y cynlluniau diwygiedig.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.  

 

 

 

5.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

49LPA868/CC  CAIS AR GYFER DARPARU OFFER NEWYDD I DRIN CARTHION YN LLE’R UN PRESENNOL YNGHYD Â GOSOD ARLLWYSFA NEWYDD I WASANAETHU SAITH ANNEDD AR DIR Y TU CEFN I 1 TAI CYNGOR & BRYN REFAIL, LLANYNGHENEDL

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn cael ei gyflwyno ar ran y Cyngor.  Penderfynwyd caniatáu’r cais hwn ar 6 Medi yn amodol ar gwblhau gwaith ymgynghori yn foddhaol.  Cyfeiriwyd y cais yn ôl i’r Pwyllgor yn wyneb materion a godwyd yn ystod yr ymgynghori a gofynnodd y syddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau’r broses ymgynghori.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

6

CEISIADAU’N CODI

 

 

 

6.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C419A  DATBLYGIAD PRESWYL I DDARPARU TAI FFORDDIADWY, SEF 29 ANNEDD YN CYNNWYS 8 TY DEULAWR UN TALCEN GYDA TAIR YSTAFELL WELY; 18 O FFLATIAU GYDA DWY YSTAFELL WELY A 3 FFLAT GYDAG UN YSTAFELL WELY O FEWN PEDWAR ADEILAD TRI LLAWR YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AC I GERDDWYR YN YR HEN IARD GOED  FFORDD TURKEY SHORE, CAERGYBI

 

 

 

Gan Mr JRW Owen o’r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

 

 

Ar gais yr aelod lleol penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 6 Rhagfyr, ac fe gafwyd hyn ar 13 Rhagfyr, 2006.  Dywedodd y Cadeirydd (yr aelod lleol) fod materion a oedd gynt o bryder iddo wedi'u hegluro yn ystod yr ymweliad â’r safle, roedd yn awr yn derbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog.  Gan y Cynghorydd RL Owen cafwydd cynnig i dderbyn argymhelliad y swyddog i ganiatáu, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

 

 

Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, J Arthur Jones, Glyn Jones, RL Owen, Arwel Roberts, John Roberts, WJ Williams.

 

 

 

Doedd dim pleidlais i’r gwrthwyneb.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau yn cynnwys Cytundeb Adran 106 yng nghyswllt y tai fforddiadwy fel y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

6.2

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

30C246A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER TYN PWLL,    TYN-Y-GONGL

 

 

 

Ar gais yr aelod lleol penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 6 Rhagfyr, er mwyn asesu’r sefyllfa mewn perthynas â’r briffordd; fe gafwyd hyn ar 13 Rhagfyr, 2006.  

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd hanes nac unrhyw gofnod i'r safle hwn gael ei ddefnyddio i gadw ceir ac o'r herwydd roedd swyddogion yr Adain Briffyrdd bellach yn argymell gwrthod er gwaethaf cael ar ddeall fod yr ymgeisydd yn fodlon gwella'r fynedfa.  Yr argymhelliad oedd gwrthod ond gan ychwanegu pryderon yr Adain Briffyrdd fel rheswm dros wrthod.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghoryd John Chorlton.

 

 

 

Gwyddai'r Cynghorydd John Arthur Jones yn dda am y safle a chafodd wybod, ar achlysur o'r blaen, nad oedd gwrthwynebiad ar sail y briffordd.  Ond eglurodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd nad oedd yr Adain honno wedi gwrthwynebu ar y cychwyn a hynny'n seiliedig ar wybodaeth fod y safle yn cael ei ddefnyddio i storio ceir ac o bwyso a mesur pob peth na fyddai yno unrhyw gynnydd yn symudiadau'r traffig.  Ond bellach roedd yr Adain Briffyrdd yn argymell gwrthod am nad oedd yno unrhyw hanes o storio na defnydd felly o'r safle ar hyn o bryd a hefyd oherwydd nad oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno i'r Adran fanylion am y gwelliannau arfaethedig i'r fynedfa.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Jones y Pwyllgor at adroddiad y swyddog ble y dywedir “y buasai’r bwriad yn golygu codi ty newydd yn y cefn gwlad”; yn ystod yr ymweliad safle fe nododd y Cynghorydd Jones fod anheddau o amgylch y safle, a chynigiodd ganiatáu’r cais.

 

 

 

Yn ystod ymweliad â’r safle gwelodd y Cynghorydd Eurfryn Davies dystiolaeth fod y garej wedi ei defnyddio fel garej yn y gorffennol, hefyd adfeilion hen furddyn a gweddillion adeiladau cysylltiedig o fewn y cwrtil. Eilio’r cynnig o ganiatáu a wnaeth y Cynghorydd Davies.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd Arwel Edwards fod y pafin wedi ei ostwng yn y fynedfa i’r safle.  

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Chorlton a oedd hi’n ffaith fod pafin wedi ei ostwng yn golygu ei bod hi’n saff i ddodd i fewn a mynd allan o’r safle yn y fan yma?  Ymatebodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod y fynedfa yn is-safonol ac y byddai angen gwelliannau cyn ei defnyddio.

 

 

 

Gan y Cynghorwyr John Roberts a John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn argymhelliad y swyddog i wrthod.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Derbyn argymhelliad gan y swyddog dros wrthod: Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Arwel Roberts, John Roberts, John Rowlands

 

 

 

Caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies,

 

PM Fowlie, J Arthur Jones, Glyn Jones, RL Owen, WJ Williams.

 

 

 

Rhoddwyd y rhesymau a ganlyn dros ganiatáu:

 

 

 

Ÿ

defnydd presennol

 

Ÿ

cydymffurfio â Pholisi 50

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais.

 

 

 

6.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

30C385B  DYMCHWEL Y GWESTY PRESENNOL, CODI ADEILAD 3 LLAWR YN CYNNWYS 21 O FFLATIAU PRYNU I OSOD, PWLL NOFIO DAN DO YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ADDASU’R FYNEDFA I GERBYDAU A’R GARTHFFOSIAETH YN LLIFO I’R GARTHFOS GYHOEDDUS YNG NGWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH  

 

 

 

Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 5 Gorffennaf, ac fe wnaed hynny ar 12 Gorffennaf, 2006; cafwyd gohiriad yn y cyfamser er mwyn cwblhau trafodaethau eang.

 

 

 

I bwrpas cywiro cofnod dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod y cynnig yn cael ei ddisgrifio fel adeilad tri llawr yn adroddiad y swyddog yn hytrach na pedwar llawr, ond iddo gael ei ddylunio i ymddangos fel adeilad tri llawr o gyfeiriad Lôn Traeth Coch.  Ym mharagraff cyntaf y fersiwn Saesneg dan y pennawd "Affect on Amenities and Pollution" ar dudalen 12 yr adroddiad mae angen diwygio'r testun i ddarllen "development would 'not' result in intrusive views from the proposed balconies into this adjacent residential property, notably at "Chota House" to the east".

 

 

 

Dygodd y Pennaeth Rheoli Datblygu sylw'r aelodau at ffotograffau dychmygol a lluniau o'r awyr, hefyd lleoliad y safle a chynlluniau trawsdoriadol ar y waliau yng nghefn y siambr.  Wedyn aeth ymlaen i sôn am y polisïau cenedlaethol a lleol a ystyriwyd a hefyd am yr asesiadau a baratowyd.  Daeth llu o wrthwynebiadau i law oddi wrth unigolion ac oddi wrth Gymdeithas Traeth Coch a chopi o rheini wedi eu dosbarthu yn y cyfarfod.  Roedd y cynigion diwygiedig yn dangos adeilad llai ac mewn lle gwahanol ar y safle; hefyd buasai uchder y grib yn is na'r adeilad presennol - ac ar ôl pwyso a mesur pob peth roedd yr argymhelliad yn un o ganiatáu'r cynnig diwygiedig.  Gan Dwr Cymru cafwyd llythyr yn ymwneud â chael gwared â charthffosiaeth a darllenodd y swyddog y llythyr hwnnw ac roedd y datblygwr yn fodlon cysylltu gyda'r mêns - a rhoddid amod ynghlwm i sicrhau cydymffurfiaeth, ac roedd y dull o gael gwared o ddwr wyneb yn dderbyniol.  Roedd y ffordd i mewn, a'r ffordd allan o'r safle wedi eu diwygio ac wedi eu gosod ymhellach oddi wrth y gyffordd.   Credid fod hyn yn welliant a rhoddid amod ynghlwm i sicrhau cydymffurfiad.  Roedd y swyddogion yn derbyn fod darpariaeth i 24 o geir yn annerbyniol a rhoddid amod ynghlwm i gynyddu'r ddarpariaeth i 30.

 

 

 

Mynegi pryderon y bobl leol a wnaeth y Cynghorydd Tecwyn Roberts oherwydd :

 

      

 

Ÿ

maint y datblygiad ac ofnau na fuasai'n asio gyda'r cyffiniau

 

Ÿ

dim digon o lecynnau parcio

 

Ÿ

rhwydwaith y ffyrdd o gwmpas y safle yn is na'r safon

 

Ÿ

y ddarpariaeth i gael gwared o ddwr wyneb

 

Ÿ

y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu

 

Ÿ

pwy a sicrhâi cydymffurfiad gyda'r 19 amod cynllunio ynghlwm wrth y caniatâd

 

Ÿ

roedd arolwg cyfrif traffig wedi dangos 2106 o symudiadau traffig yn ystod cyfnod o 12 awr.

 

 

 

Oherwydd yr ymrwymiadau dan Adran 106 (daliadaeth wyliau) teimlai'r Cynghorydd J. Arthur Jones, ar yr adeg benodol hon yn y drafodaeth, y dylai ddatgan diddordeb a gadawodd y cyfarfod am weddill y drafodaeth ac am y pleidleisio ar y cais.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd RL Owen a oedd darpariaeth ar y safle i storio cychod, jetskis etc. - sef y math o offer a ddeuai yn sgil datblygiad fel yr un hwn ac yn ychwanegol at gerbydau eraill.  Yn ei ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod pob agwedd o’r cynnig wedi cael sylw manwl yn adroddiad cynhwysfawr y swyddog.  Hefyd roedd troedbrint yr adeilad arfaethedig yn fwy na'r cynnig gwreiddiol ond roedd yr uchder yn is na'r ddau gynnig blaenorol a hefyd yn is na'r adeilad yno ar hyn o bryd. Ychwanegodd y swyddog bod y safle yn safle llwyd a'r adeilad yn un dirywiedig mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  Yr awdurdod cynllunio lleol fuasai'n gyfrifol am orfodi'r amodau.

 

 

 

Nid oedd gan y Prif Beiriannydd Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad ar sail priffyrdd ac roedd y datblygwr wedi cytuno i ddarparu 30 o lecynnau parcio ond nid oedd yno unrhyw ddarpariaeth i wahaniaethu rhwng cychod a cherbydau eraill ond bod digon o dir y tu mewn i'r terfynau i ddarparu llecynnau ychwanegol.  Roedd y cynnig i symud y fynedfa ymhellach oddi wrth y gyffordd yn welliant.  Ar ddydd Iau cyn Gwyliau Banc mis Awst y cynhaliwyd yr arolwg traffig a'r adeg honno paratowyd recordiad fidio yn dangos symudiad cyson o draffig ond heb unrhyw dagiant.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts dywedodd y swyddog nad oedd yr un cofnod o ddamwain yn y gyffordd hon dros y 10 mlynedd diwethaf.  Wedyn soniodd y swyddog bod y safle gynt yn cael ei ddefnyddio fel gwesty.

 

 

 

Er na fu'r Cynghorydd John Chorlton ar ymweliad â'r safle y tro hwn roedd, fodd bynnag, yn gynefin â'r ardal a theimlai fod y rhwydwaith ffyrdd lleol sy'n gwasanaethu'r safle yn gul oherwydd ei natur, a nododd hefyd fod y ddarpariaeth barcio yn fychan i ddatblygiad mor fawr. Ond teimlai y buasai rhai tai yn ardal Traeth Coch ar eu hennill ar ôl darparu mêns carthffosiaeth newydd a chyhoeddus.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd llecyn storio cychod wedi ei nodi ar gynllun o'r safle ond bod digon o le yno i ddarparu rhagor o lecynnau parcio.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd WJ Williams dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd eu bod yn fodlon gyda'r datblygiad o safbwynt priffyrdd a darpariaeth parcio.  Dros gyfnod o 12 awr roedd y cyfrif traffig yn dangos 2106 o gerbydau a hynny'n cyfateb i 180 yr awr neu 3 pob munud.  Nid oedd y ffigwr yn un uchel ac roedd y swyddogion yn fodlon gyda'r gwelliannau i'r fynedfa.  Cadarnhau a wnaeth y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cynlluniau diwygiedig yn dderbyniol ond gyda'r amodau a nodwyd uchod.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd RL Owen dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd yr hen westy yn adeilad rhestredig.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts am i’r cais gael ei ohirio.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd unrhyw fater cynllunio o bwys heb ei ddatrys fuasai’n cyfiawnhau gohirio gwneud penderfyniad; buasai gohirio hefyd yn galluogi’r datblygwyr i apelio yn erbyn y methiant i wneud penderfyniad.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i ohirio i alluogi swyddogion i drafod materion heb eu datrys; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorwyr John Roberts ac Eurfryn Davies.  Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig o wrthod.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD gohirio penderfynu ar y cais i alluogi swyddogion drafod darpariaeth am lefydd parcio ychwanegol ar y safle.

 

      

 

6.4     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     31C224B  EHANGU’R TERAS PRESENNOL Y TU BLAEN I DAFARN TY GWYN, FFORDD CAERGYBI, LLANFAIR-PWLL

 

      

 

     Gan Mr Richard Eames o’r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

      

 

     Yn y cyfarfod ar 6 Rhagfyr, penderfynwyd ymweld â’r safle ar gais yr aelod lleol oherwydd pryderon lleol, ac fe gafwyd hyn ar 13 Rhagfyr, 2006.  

 

      

 

     Dygodd y Cynghorydd John Roberts sylw’r aelodau at y llun o’r awyr ar y taflunydd ac at gonsyrn y bobl leol bod y safle yn un amlwg ac yn agos i gyffordd brysur; hefyd at golli o leiaf ddau le parcio gwerthfawr.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd ac yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

        

 

6.5     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     33C48B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR Y TU ÔL I TY’N LLEWELYN, PENTRE BERW

 

      

 

     Yn y cyfarfod ar 6 Rhagfyr, penderfynwyd ymweld â’r safle, ac fe gafwyd hyn ar 13 Rhagfyr, 2006.  

 

      

 

     Gwelodd y Cynghorydd Fowlie fod y safle ar gyrion y pentre ac yn ffinio ag ysgoldy a bynglo, felly tueddai i gefnogi’r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais yn cydymffurfio â pholisïau.  Fodd bynnag roedd consyrn y byddai uchder deulawr y bwriad yn cael effaith andwyol ar fwynderau’r byngalo cyfagos trwy edrych drosodd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad o wrthod; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Eiliodd y Cynghorydd RL Owen y bwriad o ganiatáu’r cais.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn ag Adran 106 yn gwahardd unrhyw ddatblygiad pellach, dywedodd y swyddog fod hyn yn berthnasol i weddill y cae ond nid y safle arbennig yma.  Nododd y Cynghorydd Jones fod yr ymgeisydd angen cartref ar sail iechyd, ond nododd hefyd fod y bwriad arfaethedig yn effeithio ar iechyd preswylydd y byngalo cyfagos.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Arwel Edwards, Arwel Roberts, John Roberts, John Rowlands

 

      

 

     Caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, PM Fowlie, J Arthur Jones, Glyn Jones, RL Owen, WJ Williams.

 

      

 

     Rhoddwyd y rheswm a ganlyn dros ganiatáu:

 

      

 

Ÿ

cydymffurfio gyda Pholisi 50

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

6.6     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     34C543  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR GAE O.S. 8639, RHOS-MEIRCH

 

      

 

     Yn y cyfarfod ar 6 Rhagfyr, ar gais yr aelod lleol, penderfynwyd ymweld â’r safle, ac fe gafwyd hyn ar 13 Rhagfyr, 2006.   

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Arthur Jones fod y darn gwyrdd hwn o dir mewn llecyn amlwg ac yn rhan bwysig o gymeriad y pentref, a rhan ohono eisoes wedi ei datblygu a'r argraff yn cael ei chreu y bydd rhagor o ddatblygu o bosib ar y llain o dir sydd ar ôl.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog i ganiatáu’r cais; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i wrthod y cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, Glyn Jones, RL Owen, Arwel Roberts

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, J Arthur Jones, John Roberts, John Rowlands, WJ Williams

 

      

 

     PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol a’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

6.7     CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     34C546  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER PENTERFYN, RHOS-MEIRCH

 

      

 

     Yn y cyfarfod ar 6 Rhagfyr, ar gais yr aelod lleol, penderfynwyd ymweld â’r safle, ac fe gafwyd hyn ar 13 Rhagfyr, 2006.  

 

      

 

     Yn wahanol i'r cais dan 6.6 uchod teimlai'r Cynghorydd J Arthur Jones fod y llecyn hwn yn un tawel, o'r golwg, ac er nad oedd y tu mewn i'r ffrâm ddangosol roedd yma enghraifft o fewnlenwi sensitif fel y disgrifir hynny yn yr CDU a stopiwyd.  Ffermwr lleol oedd yr ymgeisydd ac yn dymuno ymddeol fel bod y mab yn medru cymryd tenantiaeth y fferm.  Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr RL Owen a WJ Williams a deimlai fod y safle mewn clwstwr.

 

      

 

     Argymhelliad cryf o wrthod oedd gan y Rheolwr Rheoli Datblygu, a hynny gan fod y bwriad yn groes i bolisïau, gan gynnwys y CDU a stopiwyd; doedd hwn ddim yn gais am dy amaethyddol a gellid ei werthu ar y farchnad agored yn y dyfodol; buasai’n ddatblygiad yn y cefn gwlad.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Arwel Roberts

 

      

 

     Caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, PM Fowlie, J Arthur Jones, Glyn Jones, RL Owen, John Rowlands, WJ Williams.

 

      

 

     Rhoddwyd y rheswm a ganlyn dros ganiatáu:

 

      

 

Ÿ

mewnlenwi sensitif

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

7     CEISIADAU ECONOMAIDD:

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau economaidd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

 

 

 

8     CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY:

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

      

 

9     CEISIADAU’N TYNNU’N GROES

 

      

 

9.1     20C226B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA I GERBYDAU AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL I GERDDWYR AR DIR GER  CLOVELLY, CEMAES

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

I atgoffa'r aelodau soniodd y Cynghorydd John Williams am ymweliad a gafwyd o'r blaen â'r lle hwn a bod y safle yng nghanol clwstwr o ryw 15 o dai.  Roedd caniatâd cynllunio eisoes wedi ei roddi i'r plot cyffiniol.  Yn lleoliad y gorlan gellid darparu mynedfa ddiogel i'r safle a hynny yn fodd, meddai'r Cynghorydd Williams, i wella gwedd yr ardal.  Roedd y safle y tu mewn i ardal cyfyngiad gyrru 30 mya.  Mewn ymateb i ddatganiad y swyddog fod y safle mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol soniodd y Cynghorydd Williams ei fod yn edrych draw tua Gorsaf Bwer yr Wylfa.  Gynt roedd yr ymgeisydd yn denant i'r Cyngor yn Cromlech ond wedi ymddeol oherwydd gwaeledd a bellach yn dymuno codi ty iddo'i hun yn y gymuned.  Ni chredai'r Cynghorydd Williams fod y cais yn groes i bolisïau a gofynnodd am gefnogaeth yr aelodau.  Ar ôl derbyn cwestiwn gan y Cynghorydd J Arthur Jones dywedodd y swyddog fod y safle ryw 700m o Gemaes ac yn llai na hynny o Dregele.

 

 

 

Nid oedd y cais hwn yn wahanol i'r un blaenorol a wrthodwyd meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu ac i atgoffa'r aelodau ychwanegodd nad cais oedd yma am annedd amaethyddol ac

 

y gellid ei gwerthu ar y farchnad agored.  Hefyd roedd am i'r aelodau fod yn gyson wrth wneud penderfyniadau a gwrthod y cais hwn am ei fod yn groes i'r polisïau a hefyd wedi ei wrthod o'r blaen gan y Pwyllgor.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais; eiliwyd hyn gan y Cynghorwyr Arwel Edwards a John Roberts.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, PM Fowlie, Glyn Jones, RL Owen, Arwel Roberts, John Roberts, John Rowlands, WJ Williams.

 

      

 

     Ymatal: Y Cynghorydd Eurfryn Davies

 

      

 

     PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

9.2     33C182A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL AR GAE O.S.2376, TY DU, LLANDDONA

 

 

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr ymgeisydd wedi gofyn am ohirio ystyried y cais yn ei absenoldeb; fodd bynnag, teimlai’r swyddog nad oedd unrhyw reswm cynllunio dros ohirio.  

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas am ohirio ystyried y cais gan fod gan yr ymgeisydd wybodaeth bellach i’w chyflwyno.  

 

 

 

Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i ohirio; eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John Roberts.

 

 

 

Yn unfrydol PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais i alluogi’r ymgeisydd i gyflwyno gwybodaeth bellach.

 

      

 

      

 

9.3     48C160 CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR YN CEFN CAER FOR, GWALCHMAI

 

      

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr Adran Briffyrdd yn mynegi eu gwrthwynebiad ar y sail fod y lon yn gul a throellog.

 

 

 

Ffarmwr yn dymuno ymddeol oedd yma meddai’r Cynghorydd RG Parry, gyda’r plot yn agos at y ty fferm a buasai caniatáu’r cais yn galluogi’r mab i gymryd drosodd y ffarm yn raddol.  Anghytuno a wnaeth y Cynghorydd Parry fod y lôn yn is-safonol i adeiladu cartref arni gan gymryd i ystyriaeth fod peiriannau trwm amaethyddol yn trafaelio’r lonydd yn aml.

 

 

 

Buasai’r Cynghorydd John Roberts yn ei gweld yn haws cefnogi cais am dy amaethyddol yn y fan yma gan y gwelwyd yn glir oddiar y taflunydd fod y safle yn un anghysbell.   Cydymdeimlo â sefyllfa’r ymgeisydd a wnaeth y Cynghorydd Arthur Jones ac awgrymodd y dylid ymchwilio i’r posibilrwydd o addasu adeiladau’r fferm.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Arwel Edwards, PM Fowlie, J Arthur Jones, RL Owen, Arwel Roberts, John Roberts, John Rowlands, WJ Williams.  

 

      

 

     PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1     19LPA874/AD/CC  CODI DAU ARWYDD HEB EU GOLEUO YNG NGHANOLFAN GWYBODAETH I DWRISTIAETH, TERMINAL 1, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod wedi ei gyflwyno gan y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a rhoi’r hawl i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio roddi caniatád cynllunio am gyfnod o bum mlynedd am y rhesymau a roddwyd ac yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

10.2      34LPA700D/CC  CREU PRIF FYNEDFA NEWYDD YN SWYDDFEYDD Y CYNGOR, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod wedi ei gyflwyno gan y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd ac yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.    

 

      

 

10.3      36C272  DYMCHWEL ANNEDD YNGHYD Â CHODI ANNEDD NEWYDD A GOSOD SUSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH BREIFAT YN CAE’R BWL, RHOSTREHWFA

 

      

 

     Gan Mr Arthur Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog o'r Cyngor.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd ac yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.    

 

      

 

10.4      41C93A  TROI'R ADEILAD ALLANOL YN ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN CASTELL, PENMYNYDD

 

      

 

     Gan Mrs Sasha Davies,  Pennaeth Datblygu Economaidd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog o'r Cyngor.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd ac yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

11     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

      

 

12     APEL

 

      

 

     TIR STÂD MANWERTHU, STAR

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniad yr Arolygwr a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl yn erbyn rhybudd gorfodaeth gyflwynwyd gan yr Awdurdod hwn ar 26 Ebrill, 2006 ynglyn a newid defnydd tir o ddim defnydd i leoli cynwysyddion storio a deunydd cysylltiedig dan apêl cyf APP/L6805/C/06/1199017 - gwrthodwyd yr apêl a chadarnhawyd y rhybudd gorfodi.

 

      

 

13     PROTOCOL AR YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

      

 

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ynghyd â chopi o’r drefn bresennol fel y manylwyd arni yn Adran 4.6.10 Cyfansoddiad y Cyngor a hefyd ddadansoddiad o'r ymweliadau diweddar.  Roedd yr adroddiad yn amlinellu nifer o opsiynau am ystyriaeth:

 

      

 

Ÿ

     onid yw Aelod wedi bod ar ymweliad â safle peidio â chaniatáu iddo bleidleisio ar y cais pan fo’n cael ei ailystyried gan y Pwyllgor

 

Ÿ

     galw cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn syth ar ôl yr ymweliadau â’r safleoedd er mwyn penderfynu ar y ceisadau sy’n destun ymweliadau yn unig

 

Ÿ

     galw cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn syth ar ôl yr ymweliadau er mwyn paratoi argymhelliad ar gyfer cyfarfod cyffredin nesaf y pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

 

           

 

     Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD:

 

      

 

Ÿ

adolygu’r sefyllfa maes o law

 

Ÿ

peidio â gwneud argymhelliad ar y protocol ar ymweliadau â safleoedd cynllunio i’r Pwyllgor Gwaith

 

      

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben am 2.35 p.m.       

 

      

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD