Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 11 Ionawr 2006

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 11eg Ionawr, 2006

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 11 Ionawr 2006

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, W J Chorlton, Eurfryn Davies,

J Arwel Edwards, P M Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, R L Owen, John Roberts, W Tecwyn Roberts.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

 

Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)
Cynorthwywr Gweinyddol  (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr Denis Hadley, J Arthur Jones, D Lewis Roberts

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:  Y Cynghorwyr R Ll Hughes - eitem 8.3, R G Parry OBE eitemau 8.2, 9.5, G Allan Roberts eitem 5.2, Noel Thomas eitem 5.7, Hefin Thomas eitemau 5.5, 5.6, 5.8, W J Williams MBE eitem 5.3

 

Rhoes yr Aelodau eu llongyfarchiadau i'r Cynghorydd Mrs Bessie Burns MBE ar dderbyn anrhydedd Ei Mawrhydi yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr, 2005 (tudalennau ) ond gyda'r cywiriad a ganlyn:

 

Eitem 8.8 - rhan o O.S. 4156 Bryn-teg (tudalen 12) Nodwyd nad oedd y Cynghorydd John Roberts wedi pleidleisio ar yr eitem hon ac ni phleidleisiodd o blaid y cais.

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd a gafwyd ar 14 Rhagfyr, 2005.

 

4

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

Nodwyd na chafwyd trafodaeth ar yr eitemau a ganlyn am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog:

 

 

 

4.1

12C193U/31A  CAIS AMLINELLOL I GODI 15 APARTMENT GWYLIAU A THAI TREFOL  GYDA CHYFLEUSTERAU HAMDDEN AR Y SAFLE AR DIR UNION GER FFERMDY  HENLLYS HALL, BIWMARES

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â'r 17 Awst, 2005.

 

 

 

4.2

16C166/ECON  DARPARU OFFER BIOGAS, MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GWNEUD GWAITH TIRLUNIO AR GAEAU ORDNANS 7689, 7174 A 6760 GER CAE'R GLAW, GWALCHMAI

 

 

 

Cafwyd ymweliad safle ar 14 Rhagfyr, 2005.

 

 

 

4.3

19C6S/ECON - CAIS I GODI ADEILAD A1 NA FYDD DDIM YN GWERTHU BWYD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERDDWYR AC I GERBYDAU YN KWIK SAVE, PENRHOS, CAERGYBI

 

 

 

Oherwydd natur y cynnig a'r materion oedd yn codi CYTUNWYD, gan ddilyn argymhelliad y swyddogion, i ymweld â'r safle hwn.

 

 

 

4.4

29C112  CAIS AMLINELLOL I GODI CHWE ANNEDD AC ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU AR DIR UNION GER Y BRYN, LLANFAETHLU

 

 

 

I bwrpas cwblhau'r gwaith ymgynghori cafodd y cais hwn ei ohirio.  Cafwyd ymweliad ar 16 Chwefror, 2005.

 

 

 

4.5

34C303J/1   CODI UN ANNEDD UN TALCEN AR BLOT 80B BRO EDNYFED, LLANGEFNI

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb yn yr eitem hon ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na'r pleidleisio.  Hefyd cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr Rees Roberts o'r Uned Gyfieithu.  

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â'r lle ar 18 Mai, 2005.

 

 

 

CYTUNWYD bod eitemau 4.1, 4.4 a 4.5 yn cael eu tynnu oddi ar y rhaglen hyd oni fydd y swyddogion mewn sefyllfa i gyflwyno adroddiad llawn ar y ceisiadau hyn.

 

 

 

5

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION:

 

 

 

5.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

11C390A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER BRYN MÔR, 4 BRYN EDNYFED, PORTH AMLWCH

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o'r safle yn eiddo i'r Cyngor. Gwnaeth y Cynghorydd O Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb yn yr eitem ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod am y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

 

 

Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau yn dymuno caniatáu'r cais am y rheswm a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog:

 

 

 

Ÿ

  nid oedd y cais yn groes i bolisi 48

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn a oedd yn tynnu'n groes.

 

 

 

Gan y Cynghorydd R L Owen cafwyd cynnig i lynu wrth benderfyniad cynt y Pwyllgor a chaniatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid caniatáu'r cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, R L Owen, Tecwyn Roberts (4).

 

 

 

Ni chafwyd yr un bleidlais i'r gwrthwyneb.

 

 

 

O 4 pleidlais PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad cynt i ganiatáu'r cais am y rhesymau uchod a chydag amodau safonol ond yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

5.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C608F   CAIS AMLINELLOL I GODI TAI A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDWYR AR DIR TYDDYN BACH, FFORDD YNYS LAWD, CAERGYBI

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a chafwyd ymweliad ar 21 Medi, 2005.

 

 

 

Yng nghyfarfod mis Tachwedd penderfynodd y Pwyllgor ohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau gwaith ymgynghori Ardrawiad Effaith Trafnidiaeth.  Yn ei gyfarfod ar 7 Rhagfyr, 2005 dymuniad y Pwyllgor oedd gohirio unwaith yn rhagor hyd nes ymgynghori ar Asesiad Effaith Ieithyddol.

 

 

 

Gofynnodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am ohirio y cais unwaith yn rhagor hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori ar yr Asesiad Ardrawiad Ieithyddol.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Allan Roberts, yn wylaidd, am adroddiad manwl a phroffesiynol ar yr effeithiau ieithyddol fel yn achos archfarchnad yn Llangefni.

 

 

 

CYTUNWYD i ohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.  

 

 

 

 

 

5.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

23C238  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GWNEUD GWAITH ALTRO AR Y FYNEDFA YM MRYN CHWILOG, TALWRN 

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad o wrthod gan y Swyddog am fod y cais yn gwyro oddi wrth y polisïau; roedd y Pwyllgor yn gefnogol i'r cais oherwydd tybio ei fod yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais a oedd yn tynnu'n groes.

 

 

 

I bwrpas cadw cofnod cywir dygodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw'r aelodau at baragraff cyntaf Rhan 2 adroddiad y swyddog a bod angen ei ddiwygio i ddarllen "mae'r safle y tu allan i ffiniau'r pentref fel y cânt eu nodi dan Gynnig 50 Cynllun Lleol Ynys Môn".  Wedyn cafwyd cadarnhad gan y swyddog bod yr argymhelliad yn aros yn un o wrthod.

 

 

 

Yn ôl y Cynghorydd W J Williams roedd y Cyngor Cymuned, yn ei gyfarfod y noson cynt, yn unfrydol ei gefnogaeth i'r cais hwn a dywedodd ei fod ef hefyd yn cefnogi.

 

 

 

Gan y Cynghorydd R L Owen cafwyd cynnig i lynu wrth benderfyniad cynt y Pwyllgor a chaniatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid caniatáu'r cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Glyn Jones, R L Owen, Tecwyn Roberts (4).

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, John Roberts, J Arwel Roberts (5).

 

 

 

O 5 pleidlais i 4 PENDERFYNWYD diddymu penderfyniad blaenorol y Pwyllgor a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

 

 

5.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

24C174A  ESTYNIAD I LIBART ABERARCH BACH, LLANEILIAN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a gwnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb yn yr eitem ac nid oedd yn y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

 

 

Ynghynt roedd y cais wedi'i ohirio er mwyn caniatáu amser i gwblhau'r gwaith ymgynghori.  Ar ôl ystyried yr holl sylwadau a ddaeth i law cafwyd argymhelliad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr aelodau yn ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa.

 

 

 

Am y reswm a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle hwn.

 

 

 

5.5

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

30C540B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD A THANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE ORDNANS 4156, BRYN-TEG

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a gwnaeth Mr Gethin Jones o Adran y Rheolwr-gyfarwyddwr ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

 

 

Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog am fod y cais yn gwyro oddi wrth y polisïau - teimlai'r Pwyllgor fod y cais yn cydymffurfio gyda darpariaethau Polisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn a oedd yn tynnu'n groes.

 

 

 

Yn absenoldeb y Cynghorydd D Lewis Roberts cytunodd y Cadeirydd bod y Cynghorydd Hefin Thomas yn cael cyfranogi yn y trafodaethau yn lle'r aelod lleol.

 

 

 

Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas oedd gofyn i'r aelodau fod yn gyson yn eu penderfyniadau a glynu wrth y penderfyniad cynt i ganiatáu.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts lynu wrth y penderfyniad cynt i ganiatáu'r cais am y rheswm a roddwyd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid caniatáu'r cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, Glyn Jones,

 

R L Owen, Tecwyn Roberts (6).

 

 

 

Ni chafwyd yr un bleidlais i'r gwrthwyneb.

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad cynt y Pwyllgor a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chydag amodau safonol.

 

 

 

5.6

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

30C577A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR GAE ORDNANS 5193, TYN-Y-GONGL

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Gwnaeth y Cynghorydd Tecwyn Roberts ddatganiad o ddiddordeb yn yr eitem ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod am y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais gan deimlo ei fod yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 y Cynllun Lleol i Ynys Môn ond roedd hyn yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn a oedd yn tynnu'n groes.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn gefnogol i'r cais a gofynnodd i'r aelodau am gysondeb wrth wneud penderfyniad.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad cynt a chaniatáu'r cais am y rheswm a roddwyd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid caniatáu'r cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, Glyn Jones,

 

     R L Owen (5).

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod:  Y Cynghorwyr J Arwel Edwards, John Roberts, J Arwel Roberts (3).

 

      

 

     O 5 pleidlais i 3 PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad cynt y Pwyllgor i ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau safonol.

 

      

 

5.7

 

5.7

 

5.7

 

5.7

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     41C113  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GYFERBYN Â BWTHYN GWYN, STAR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Gwnaeth y Cynghorydd John Roberts ddatganiad o ddiddordeb yn yr eitem ac nid oedd yn y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais gan dybio ei fod yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn a mynd yn groes i argymhelliad y swyddog o wrthod y cais hwn oedd yn tynnu'n groes.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn a oedd yn tynnu'n groes.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R L Owen cafwyd cynnig i lynu wrth benderfyniad cynt y Pwyllgor a chaniatáu'r cais; eiliwyd ef gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid glynu wrth y penderfyniad cynt i ganiatáu'r cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, Glyn Jones, R L Owen, Tecwyn Roberts (6).

 

      

 

     Ni chafwyd yr un bleidlais i'r gwrthwyneb.

 

      

 

     O 6 phleidlais PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad cynt y Pwyllgor i ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau safonol.

 

      

 

5.8

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     42C110B CODI ANNEDD GYDA ANECS YNGHLWM YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL AR DIR GER PENRALLT, PENTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn ond yn groes i argymhelliad y swyddog o wrthod am ei fod yn tynnu'n groes:

 

      

 

Ÿ

oherwydd bod caniatâd dilys ar y safle a bod rhywfaint o'r gwaith eisoes wedi'i wneud

 

Ÿ

angen eithriadol

 

Ÿ

llenwi bwlch mewn modd sensitif

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas i'r aelodau ddangos cysondeb yn eu penderfyniadau a glynu wrth y penderfyniad cynt i ganiatáu.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i lynu wrth benderfyniad cynt y Pwyllgor a chaniatáu'r cais - cafodd ei eilio gan y Cynghorwyr R L Owen a Glyn Jones.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid glynu wrth y penderfyniad cynt a chaniatáu'r cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Glyn Jones, R L Owen, Tecwyn Roberts (5).

 

 

 

Ni chafwyd yr un bleidlais i'r gwrthwyneb.

 

 

 

O 5 pleidlais PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad cynt y Pwyllgor a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a hefyd gyda'r amodau safonol.

 

      

 

5.9

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     44C233A CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE ORDNANS 5173, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â'r safle ar 14 Rhagfyr, 2005.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod yr ymgeiswyr yn deulu lleol oedd yn dymuno parhau i fyw yn y gymuned a hefyd bod angen ystyried y cais hwn fel "anghenion eithriadol" oherwydd gwaeledd, a chyflwynwyd tystiolaeth feddygol i gefnogi hynny.  Roedd y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 gan fod y safle ar gyrion y pentref ac roedd y Cyngor Cymuned yn gefnogol.  

 

      

 

     Holodd y Cynghorydd R L Owen a oedd y safle mewn gwirionedd y tu mewn i'r cyfyngiad gyrru 30 mya.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn groes i bolisïau'r cynllun datblygu.  Cyn cydymffurfio gyda Pholisi 50 (Pentrefi Rhestredig) a Pholisi 52 (anghenion eithriadol) roedd yn rhaid i safle un ai fod y tu mewn i'r ffiniau neu ar gyrion y ffiniau pentrefol; dygodd y swyddog sylw'r aelodau at bwynt 7 yn ei adroddiad gan bwysleisio'n arbennig lle dywed bod "y safle tua 300 metr y tu allan i'r ffiniau datblygu."

 

      

 

     Ond dygodd y Cynghorydd Aled Morris Jones sylw'r aelodau at nifer y tai eraill yn y cyffiniau fel y cawsant eu nodi ar y cynllun ynghlwm wrth adroddiad y swyddog a chafwyd argymhelliad ganddo i ganiatáu.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Fowlie cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  Cynigiodd y Cynghorydd R L Owen roddi caniatâd.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn oedd yn groes:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, P M Fowlie, O Glyn Jones, John  Roberts (6).

 

      

 

     Ni chafwyd yr un bleidlais i'r gwrthwyneb.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

6     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Nodwyd nad oedd yr un cais economaidd i'w drafod yn y cyfarfod.

 

      

 

7     CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Nodwyd nad oedd yr un cais am dai fforddiadwy i'w drafod yn y cyfarfod.

 

      

 

8     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

8.1

13C141  CAIS LLAWN I GODI 22 ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A THYNNU GWRYCHOEDD AR DIR GER BRON Y GRAIG, BODEDERN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y safle yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Nodwyd bod y cais wedi'i dynnu'n ôl.

 

      

 

8.2

16C49B  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER CAE'R DDOL, LLANBEULAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd datganiad o ddiddordeb ynddo gan Mr Arthur Owen Cyfarwyddwr Corfforaethol (Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol).

 

      

 

     Wedyn dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai argymhelliad o wrthod oedd ganddo a nodwyd nad oedd y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad yn gywir - rhannwyd y fersiwn gywir yn y cyfarfod.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd R G Parry bod y teulu yn deulu lleol a'r busnes yn cynnwys ffermio, contractio a chael gwared o beiriannau trydanol.  Ers marwolaeth y tad roedd y teulu yn awyddus iawn i barhau gyda busnes y teulu; roedd swyddfa'r busnes yn y ty fferm ac ni fuasai'n briodol codi annedd arall yn yr iard nac ar y lôn at y ty.  Gan fod y cais blaenorol wedi'i wrthod roedd yr ymgeiswyr wedi symud y safle i fod yn nes i'r ty fferm; hefyd edrychwyd ar bosibiliadau eraill yn fanwl iawn ond ni ddaeth dim o'r rheini.  Mae'r teulu hwn yn cyflogi pedwar o weithwyr llawn amser a dau yn rhan amser ac yn darparu gwasanaeth i'r gymuned wledig a lleol hon.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd R L Owen bod y busnes yn darparu gwasanaethau o bwys i'r gymuned leol a chynigiodd roddi caniatâd a chytunodd y Cynghorydd Glyn Jones gyda'r hyn a ddywedwyd gan ychwanegu bod y teulu yn darparu swyddi pwysig iawn yn lleol ac eiliodd roddi caniatâd.

 

      

 

     Dygodd y Cynghorydd John Chorlton sylw'r aelodau at adroddiad y swyddog a oedd yn argymell gwrthod y cais yn glir iawn a chafwyd cynnig gan y Cynghorydd i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

     Holodd y Cynghorydd John Roberts y swyddogion a fuasent yn cefnogi cais am dy amaethyddol.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio wedyn oedd atgoffa'r aelodau bod y cais hwn yn groes i'r polisïau.  Nid oedd amheuaeth ynghylch y swyddfa yr oedd yr ymgeiswyr ei hangen ac roedd y swyddogion wedi gwadd yr ymgeiswyr i drafodaethau i geisio taro ar gyfaddawd.  Nid oedd modd caniatáu'r cais hwn oedd yn groes i bolisïau am y rhesymau uchod.

 

      

 

     Ond credai'r Cynghorydd Fowlie y buasai'n briodol cefnogi cais i gynnal y gymuned wledig a chynigiodd ef bod yr aelodau yn ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa ac eiliodd y Cynghorydd John Roberts y cynnig hwn i ymweld.

 

      

 

     Wedyn tynnodd y Cynghorydd R L Owen ei gynnig i ganiatáu'r cais yn ôl gan fwrw ymlaen i gefnogi y syniad o gael ymweliad.

 

      

 

     O 7 pleidlais PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

8.3

36C255 CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI UN ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER TY NEWYDD, LLANGRISTIOLUS

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Wedyn cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at lythyr arall a gyflwynwyd gan yr ymgeiswyr ac roedd hwnnw ar gael yn y cyfarfod.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd R Ll Hughes bod nifer dda o deuluoedd ifanc yn methu â phrynu cartref yn lleol gan fod prisiau tai yn yr ardal yn £160,000 ac yn uwch.  Dyn ifanc lleol oedd yr ymgeisydd yn bwrw prentisiaeth gyda'i dad, yn dymuno priodi a setlio i lawr yn lleol.  Hefyd roedd nifer y plant yn Ysgol Llangristiolus yn gostwng a buasai cais o'r fath, ymhen amser, yn cefnogi'r ysgol leol.  

 

      

 

     Cytuno a wnaeth y Cynghorydd Hughes bod y tir hwn yn dir amaethyddol ond oherwydd adeiladu'r A55, nid oedd y darn hwn o dir yn ddim mwy na 1/4 acer ac o'r herwydd nid oedd modd edrych arno fel darn ymarferol o dir i'w ffermio.  Wedyn aeth y Cynghorydd Hughes ymlaen i atgoffa'r aelodau am y caniatâd a roddwyd yn ddiweddar i ddatblygiad Tyrpaig a gwnaeth hynny mewn ymateb i gasgliad y swyddog "y buasai'r cynnig hwn yn niweidiol i gymeriad ac i wedd y lleoliad hwn yn y cefn gwlad."  

 

      

 

     Roedd yr aelodau a ganlyn yn dymuno caniatáu'r cais hwn a oedd yn groes i bolisïau: Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, P M Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, R L Owen, John Roberts, Tecwyn Roberts (7).

 

      

 

     Ni chafwyd yr un bleidlais i'r gwrthwyneb.

 

      

 

     Cyflwynwyd y rhesymau a ganlyn o blaid caniatáu:

 

      

 

Ÿ

buasai'n darparu cartref i berson ifanc lleol

 

Ÿ

buasai'n gweddu gyda'r math o ddatblygiadau yn y cyffiniau

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

 

 

9

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

9.1

19C71K/LB  CAIS ADEILAD RHESTREDIG I OSOD 4 ANTENA AC 1 DISGL TRAWSGLUDO TU ÔL I LWFER Y CLOCHDY YN CANOLFAN UCHELDRE, MILLBANK, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y safle yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau hynny a ymddangosodd yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

9.2

24C47C  CODI CABAN MEITHRIN NEWYDD YN YSGOL GYNRADD PEN-Y-SARN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y safle yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wrth yr aelodau nad oedd y Cyngor Cymuned, Dwr Cymru na'r Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Wedyn gofynnodd y Cynghorydd Aled Morris Jones am eglurhad ar eiriad amod (02) (rhoi'r gorau i ddefnyddio'r portacabin erbyn 31.12.2011 ac adfer y tir i'w gyflwr cynt erbyn 31.01.2012).  Gan mai portacabin oedd yr adeilad dan sylw dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod modd adolygu'r sefyllfa rywbryd eto yn ôl yr angen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a hefyd gyda'r amodau hynny y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

9.3

34LPA100K/DA/CC  MANYLION LLAWN AR GYFER CREU MAN PARCIO AR DIR SWYDDFEYDD Y CYNGOR, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan yr Awdurdod.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a hefyd gyda'r amodau hynny y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

9.4

35LPA699A/CC  CODI CANOLFAN NEWYDD GOFAL DYDD/ANABLEDD DYSGU YN HAULFRE, LLANGOED

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan yr Awdurdod yng nghyswllt tir sy'n eiddo i'r Awdurdod.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cynnig hwn yn un pwysig, nad oedd y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn gwrthwynebu; ac er bod y Cyngor Cymuned yn croesawu'r cyfleusterau a ddeuai yn sgil y cynnig roeddent yn pryderu ynghylch y cynnydd yn y traffig, yr effaith weledol a hefyd yng nghyswllt colli rhan o erddi Haulfre ac roedd deiseb gan wrthwynebwyr wedi'i derbyn.

 

      

 

     Roedd y cyfnod ymgynghori ar y cynnig yn parhau tan 17 Ionawr, 2006 ac oni ddeuai ystyriaeth newydd o bwys i'r fei yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn argymell rhoddi awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd R L Owen bod Haulfre mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol a gofynnodd tybed a oedd modd gwella'r fynedfa, ac ychwanegodd y Swyddog Cynllunio, mewn ymateb, nad oedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton y buasai'r cynnig hwn yn creu 1 neu 2 o symudiadau ychwanegol gan y bws mini bob dydd a chynigiodd roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R L Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau y manylwyd arnynt yn ei adroddiad oni ddeuai sylwadau o bwys i mewn yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori.

 

      

 

9.5

48C128   CAIS CYNLLUNIO AMLINELLOL AR GYFER CODI UN ANNEDD AR DIR GER LAW GATE BACH, GWALCHMAI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Yr unig reswm dros argymell gwrthod y cais oedd diogelwch y briffordd yn ôl y Cynghorydd R G Parry ac unig bryder yr Adran Briffyrdd oedd bod cilbost y giat rhyw 1.2m o uchder a heb fod yn eiddo i'r ymgeisydd.  Roedd y Cynghorydd Parry yn derbyn bod y lôn at y safle braidd yn gul ond er hynny yn gwasanaethu 6 i 7 o dai eraill.  Rhoddwyd caniatâd rhyw 3/4 blynedd yn ôl i godi annedd ar y tir cyffiniol - a gofynnodd i'r aelodau ddangos cysondeb wrth wneud penderfyniad a chaniatáu'r cais hwn.

 

      

 

     Cafwyd pleidlais unfrydol i ganiatáu'r cais gan yr aelodau a hynny am y rhesymau a ganlyn:

 

Ÿ

mae'r safle y tu mewn i'r ardal 30 mya

 

Ÿ

roedd yr aelodau'n anghytuno a barn yr Adran Briffyrdd

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

10     MATER A GYFEIRIWYD YN ÔL

 

      

 

     30C587  9 FERN HILL, BENLLECH

 

      

 

     Dywedwyd bod y cais hwn wedi'i wrthod gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 5 Hydref, 2005 am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad y swyddog:

 

      

 

Ÿ

effaith annerbyniol ar bleserau ac ar breifatrwydd tai cyffiniol

 

Ÿ

ddim yn gweddu i'r ardal oherwydd ei uchder a'i faint

 

 

 

Roedd yr ymgeisydd wedi apelio yn erbyn y penderfyniad o wrthod gan y Cyngor a rhoes y Rheolwr Rheoli Cynllunio wahoddiad i'r Pwyllgor enwebu unigolion i gynrychioli'r Cyngor a chyflwyno'i achos yn unol â pharagraff 4.6.13.3 Rheolau Gweithdrefn Materion Cynllunio'r Cyngor.  Cyflwynid yr achos ar ffurf sylwadau ysgrifenedig a hynny erbyn 25 Ionawr, 2005.

 

 

 

PENDERFYNWYD enwebu'r Cynghorwyr John Chorlton a Tecwyn Roberts i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar ran y Cyngor.

 

      

 

11     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar faterion a ddirprwywyd ac y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

12     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniadau yr Arolygwyr a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch yr eitemau a ganlyn:

 

      

 

12.1

PEN PARC CARAVAN PARK, LÔN LAS, BRYN-TEG

 

      

 

     Rhybudd penderfyniad wedi'i gywiro ynghylch yr apêl uchod yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod cais i altro y defnydd cyfreithlon presennol o'r tir i osod arno garafanau teithiol, cartrefi symudol a phebyll a storio carafanau teithiol - ei ddiwygio i osod a storio 11 o garafanau teithiol i ddibenion gwyliau trwy gydol y flwyddyn a gosod 15 o garafanau teithiol/cartrefi symudol yn dymhorol rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref bob blwyddyn ynghyd â gosod pebyll a gweithredu ar welliannau tirlunio/amgylcheddol ar y safle ac a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 18 Gorffennaf 2005 dan y cais cynllunio rhif 30C470C.

 

      

 

12.2

SUMMER COTTAGE, BRYNTEG

 

      

 

     Apêl yn erbyn rhybudd gorfodaeth rhif 2004/30/140 a ryddhawyd gan yr Awdurdod hwn oherwydd torri rheolau cynllunio, sef gosod a newid defnydd o garafan sefydlog i fod yn uned breswyl ar wahân y tu mewn i libart y tir heb ganiatâd cynllunio - gwrthodwyd yr apêl.  

 

 

 

 

 

Yma cafwyd gair gan y Cadeirydd i atgoffa'r aelodau y buasai seminar yn cael ei chynnal ar y Cynllun Datblygu Lleol am 6.30 p.m. ar ddydd Mawrth, 17 Ionawr 2006 yn Swyddfeydd y Cyngor.

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 2.10 p.m.

 

 

 

J ARWEL ROBERTS

 

CADEIRYDD