Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 11 Mai 2005

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 11eg Mai, 2005

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar  11 Mai 2005

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts, Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arthur Jones, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr Mrs Burns, John Byast, Eurfryn Davies, Denis Hadley, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, Aled Morris Jones, O. Glyn Jones, R. L. Owen, D. Lewis-Roberts, John Roberts, W. T. Roberts.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio :

Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio (JW)

Arweinydd Tîm (DPJ)

Arweinydd Tîm (NJ)

 

Priffyrdd :

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

Cynorthwywr Technegol (AE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Yr Aelodau Lleol:  Y Cynghorwyr R. Ll. Hughes (eitemau 6.8, 6.9, 8.2), Gwilym O. Jones (eitem 9.1), H. Eifion Jones (eitem 6.10, 8.3), Thomas Jones (eitem 6.11, 9.10), R. G. Parry OBE (eitem 6.15), G. Winston Roberts (eitem 8.1), Hefin Thomas (eitem 6.1, 6.2, 6.3, 6.14, 8.4, 8.7, 9.4), Noel Thomas (eitem 8.5, 9.7), John Williams (eitem 7.2).

 

 

Mynegodd y Cynghorydd P. M. Fowlie ei anfodlonrwydd gyda'r dull o rannu seddi i bob grwp gwleidyddol ar y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn sgil penderfyniad a wnaed yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor Sir a theimlai y Cynghorydd Eurfryn Davies yn yr un modd.  Aeth y Cynghorydd Fowlie ymlaen i ofyn am ohirio'r cyfarfod a rhoddi'r cyfle i arweinyddion y grwpiau gwleidyddol gyfarfod a thrafod y materion rhyngddynt a hefyd yng nghwmni y Rheolwr-gyfarwyddwr ac Arweinydd y Cyngor.

 

Dywedodd y cyfreithiwr bod dyrannu seddi i bob grwp gwleidyddol yn fater i'r Cyngor Sir a'r tu allan i faes gwaith y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Wedyn gwahoddwyd Arweinydd y Cyngor i annerch y cyfarfod a dywedodd ef na wyddai ddim am y dymuniad i gael cyfarfod i'r grwpiau gwleidyddol gan ychwanegu bod dyrannu seddi wedi ei benderfynu'n annibynnol gan y Cyfarwyddwr Cyllid.

 

Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Fowlie oedd derbyn nad hon oedd y fforwm i gael trafodaeth o'r fath ynddi ond gofynnodd unwaith yn rhagor am ohirio'r cyfarfod hwn fel arwydd o anfodlonrwydd.  Gadawodd y Cynghorydd R. L. Owen y Gadair a'r un pryd gadawodd yr aelodau a ganlyn y cyfarfod :

 

     Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, O. Glyn Jones,

     Aled Morris Jones, R. L. Owen.

 

1

ETHOL CADEIRYDD

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd J. Arwel Roberts yn Gadeirydd o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am y flwyddyn i ddod.

 

2

PENODI IS-GADEIRYDD

 

PENDERFYNWYD bod y Cynghorydd J. Arthur Jones  yn cael ei benodi fel Is-Gadeirydd o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am y flwyddyn i ddod.

 

 

 

 

 

3

DATGAN DIDDORDEB

 

 

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

 

 

 

 

4

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd a derbyniwyd, cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhalwiyd ar 6 Ebrill, 2005.  (Gyfrol y Cyngor )

 

 

 

YN CODI O'R COFNODION :

 

 

 

Eitem 4.6 ar dudalen 6 o'r Cofnodion

 

34LPA850CC - Cais amlinellol ar gyfer creu ffordd a throed ffordd newydd, ysgol newydd, canolfan integredig newydd, stad o dai ac adeilad newydd ar ran o dir Coleg Menai, Llangefni

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio i'w Adran ef gael gwybod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru na fuasai'r Cynulliad yn galw'r cais i mewn ac o'r herwydd bod modd rhyddhau'r caniatâd ond gyda chytundeb dan Adran 106 fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

 

 

5

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, adroddiad ar  ymweliadau â safleoedd cynllunio gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2005.

 

 

 

6

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

 

 

6.1

CAIS YN GWYRO

 

 

 

17C367 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD AMAETHYDDOL YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GYFERBYN Â FODOL, LLANDEGFAN

 

 

 

Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod mis Ebrill penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle ac fe ddigwyddodd hynny ar 20 Ebrill, 2005.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas, gan fod yr aelod lleol yn absennol, am ohirio ystyried y cais.  Cynigiwyd hynny gan y Cynghorydd J. Arthur Jones a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm uchod.

 

 

 

6.2

CAIS Y N GWYRO

 

 

 

22C169 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD, GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD A CHREU MYNEDFA NEWYDD YN CAE BRYN TIRION, LLANDDONA

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd John Rowlands ddiddordeb yn y cais hwn ac ni chymerodd ran yn y trafodaethau.

 

 

 

Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod mis Mawrth penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle ac fe ddigwyddodd hynny ar 16 Mawrth, 2005.

 

 

 

Yng nghyfarfod mis Ebrill, yn groes i argymhelliad y swyddog, penderfynodd yr aelodau  gymeradwyo'r cais am y rhesymau a ganlyn :

 

 

 

Ÿ

mae'r ymgeisydd yn berson lleol sy'n dymuno dychwelyd i fyw yn y gymuned

 

Ÿ

mae safle'r cais wedi ei amgylchynnu gan eiddo arall

 

Ÿ

natur ar wasgar Llanddona

 

Ÿ

cydymffurfio gyda Pholisi 53

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais hwn er mwyn caniatau i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

 

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm (DPJ) bod y safle yn y cefn gwlad, mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol ac yn groes i bolisïau ac oherwydd y rhesymau yn adroddiad y swyddog argymhellodd wrthod y cais.

 

 

 

Wedyn ailadroddodd y Cynghorydd Hefin Thomas ddatganiad a wnaed ganddo o'r blaen ac y manylwyd arno yn eitem 4.3 y cofnodion cynt a gofynnodd i'r aelodau lynu wrth y penderfyniad gwreiddiol a chaniatáu'r cais.

 

 

 

Gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts cafwyd cynnig i roddi caniatâd.

 

 

 

Ar ôl derbyn cyngor y cyfreithiwr cytunodd yr aelodau i gofnodi'r bleidlais a PHENDERFYNWYD, yn unfrydol, gadarnhau'r penderfyniad blaenoro, sef rhoddi caniatâd i'r cais yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog - caniatáu am y rhesymau a roddwyd cynt.

 

 

 

6.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

22C11A - CAIS I GADW FFENS BREN GERLLAW Y BRIFFORDD YNGHYD Â CHADW LLWYBR PREN DROS Y TWYNI TYWOD YN BWLCH Y FFOS, LLANDDONA

 

 

 

Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod mis Ebrill roedd yr aelodau wedi cymeradwyo'r cais hwn yn groes i argymhelliad y swyddog i wrthod oherwydd fod y pyst coed a'r rheiliau yn edrych braidd yn hyll, yn rhy uchel ac yn rhy agos i'r ffordd, a hefyd oherwydd bod y cyhoedd wedi cael rhwydd hynt i gerdded ar draws y darn hwn o dir am 50 mlynedd diwethaf.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio nad oedd y rhesymau a roddwyd gan yr aelodau o blaid gwrthod y cais yn ddigonol.  Un droedfedd yn unig yn uwch na'r hawliau datblygu a ganiateir oedd y ffens.  Yma ac acw ar draws Ynys Môn roedd pyst coed cyffelyb a rheiliau.  Roedd y canllawiau dan TAN 9 ar orfodaeth gynllunio'n datgan yn glir “na ddylai Awdurdod Cynllunio Lleol, fel arfer, gymryd camau gorfodaeth i gywiro rhywbeth sydd yn mynd rhyw fymryn y tu draw i’r hyn a ganiateir dan ddarpariaethau Gorchymyn Datblygiad Cynllunio Cyffredinol”.    Fel arfer buasai'n beth afresymol rhyddhau rhybudd gorfodaeth am un rheswm yn unig, sef nad oedd caniatâd cynllunio dilys yn bod. Hefyd credwyd ei bod hi'n afresymol gwrthod y cais oherwydd y gost mynd i apêl petai camau o'r fath yn cael eu cymryd.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas fod y ffens un droedfedd yn uwch na'r hyn a ganiateir heb ofyn am ganiatâd cynllunio.  Hefyd credai fod y ffens yn estyniad mwy na'r ddwy droedfedd.  Roedd y ffens hon yn cael effaith ar y ffordd a gofynnodd i aelodau fod yn gyson gyda'r penderfyniad i wrthod y cais.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Credai'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio bod uchder a lleoliad y pyst a'r rheiliau yn rhesymol.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Arthur Jones yn ei chael hi'n anodd gwrthod y cais a chynigiodd roddi caniatâd.

 

 

 

Wedyn atgoffodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts yr aelodau bod y ffens hon 1 droedfedd yn uwch na beth oedd yn briodol a theimlai'r Cynghorydd Denis Hadley fod raid rhoddi sylw i farn y bobl leol a'r cynrychiolydd etholedig.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad cynt a gwrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

 

 

Yma rhoes y cyfreithiwr gyngor i'r aelodau y dylid cofnodi'r bleidlais ar y cais a dywedodd y ceid anawsterau wrth geisio amddiffyn penderfyniad o wrthod petai y mater yn mynd i apêl a hefyd atgoffodd yr aelodau o'r costau posib.

 

 

 

PENDERFYNODD yr aelodau gymryd pleidlais wedi'i chofnodi a bu'r pleidleisio fel a ganlyn :

 

 

 

I WRTHOD Y CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG)

 

Y Cynghorwyr John Byast, Denis Hadley, D. Lewis Roberts, John Roberts, Tecyn Roberts (5)

 

 

 

I DDERBYN ADRODDIAD Y SWYDDOG A'I ARGYMELLIAD O GYMDERADWYO'R CAIS

 

Y Cynghorwyr Bessie Burns, J. Arthur Jones (2)

 

 

 

PENDERFYNWYD cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod y cais a hynny'n groes i argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog - a gwrthod am y rhesymau a roddwyd uchod.

 

 

 

6.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

29C112 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI 6 ANNEDD YNGHYD AG ALTRO Y FYNEDFA GERBYDAU BRESENNOL AR DIR YN GYFAGOS I Y BRYN, LLANFAETHLU

 

 

 

Yng nghyfarfod mis Chwefror argymhellodd y swyddog fod yr aelodau yn ymweld â'r safle a digwyddodd hynny ar 16 Chwefror 2005.  Roedd y swyddog yn argymell gohirio ystyried y cais  gan fod rhai materion yn parhau heb eu trafod gan asiant yr ymgeisydd.

 

 

 

Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

 

 

6.5

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

 

 

30C385A - DYMCHWEL Y GWESTY PRESENNOL A CHODI ADEILAD 5 LLAWR YN CYNNWYS 28 O FFLATIAU PRYNU I OSOD, PWLL NOFIO DAN DO, GYMNASIWM YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ADDASU MYNEDFA I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YNG NGWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH

 

 

 

Roedd yr aelodau wedi ymweld â'r safle ar 20 Hydref 2004.

 

 

 

Yng nghyfarfod mis Ebrill dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod adroddiad ymgynghorwyr annibynnol wedi ei anfon ymlaen i'r ymgeisydd a bod disgwyl am eu hymateb.

 

 

 

Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn

 

 

 

 

 

 

 

6.6

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

34C72J - DYMCHWEL YR ADEILADAU DI-DDEFNYDD PRESENNOL YNGHYD AG AILDDATBLYGU'R SAFLE GYDAG ADEILAD 3 LLAWR YN CYNNWYS SWYDDFEYDD, SIOPAU A CHYFLEUSTERAU STORIO YN YR ISLAWR YNGHYD AG ADDASU'R FYNEFA I GERBYDAU YN HERRON SERVICES, FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

 

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.  Ymwelwyd â'r safle ar 17 Tachwedd 2004. Gan fod newidiadau sylweddol wedi eu cyflwyno i'r cynnig cafwyd argymhelliad gan y swyddog bod yr aelodau yn ailymweld â'r safle hwn.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais uchod.

 

      

 

      

 

6.7

CAIS YN GWYRO

 

      

 

     35C108D - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI BYNGALO YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL AR DIR PLOT GARDD GER TEGFRYN, LLANGOED ???

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod mis Ebrill penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle ac fe ddigwyddodd hynny ar 20 Ebrill, 2005.

 

      

 

     Dygodd yr Arweinydd Tîm (DPJ) sylw'r aelodau at gopi o benderfyniad apêl blaenorol a oedd gerbron yn y cyfarfod.  Roedd yr aelod lleol wedi dweud na allai gefnogi'r cais - sef safle oedd yn y cefn gwlad ac mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad o wrthod y cais hwn am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

6.8

CAIS YN GWYRO

 

      

 

     36C50N - CAIS LLAWN AR GYFER CODI ANNEDD RHEOLWR YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YM MHARC GWLEDIG HENBLAS, BODORGAN

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Yn y cyfarfod blaenorol penderfynodd yr aelodau gymeradwyo'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog i wrthod, am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

hwsmonaeth a lles anifeiliaid

 

Ÿ

diogelwch

 

Ÿ

yr angen am rywun ar y safle drwy'r dydd

 

Ÿ

angen busnes

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn caniatau i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros gymeradwyo'r cais.

 

 

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm (NJ) fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gohebiaeth a oedd yn cynnwys datganiad cynllunio a thaflen yn dangos y dyddiadau a'r amserau agor.  Ond roedd y ffaith fod y Parc Gwledig ar agor am 6 mis y flwyddyn yn cadarnhau penderfyniad y swyddog i argymell gwrthod y cais hwn.

 

 

 

Ychwanegodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno i'r Pwyllgor fanylion am y gweithgareddau cyfredol a rhai a ragwelwyd yn y dyfodol ac roeddent ar gael yn y cyfarfod.  Ynghlwm roedd llythyr wedi ei lofnodi gan Uwch Reolwr Bancio Amaethyddol yr

 

 

 

HSBC yn cadarnhau trosiant ac elw uwch y busnes.  Aeth y Cynghorydd Hughes ymlaen i ddweud bod y busnes llewyrchus hwn wedi ei sefydlu rhyw 11 mlynedd yn ôl ac yn atyniad twristaidd sylweddol a chydnabyddedig yn yr ardal.  Yn hwyrach yn y mis câi Rali Hen Beiriannau ei chynnal yn y Parc Gwledig ac ailadroddodd y Cynghorydd Hughes ddatganiad a wnaed o'r blaen ac y manylwyd arno yn eitem 6.3 y cofnodion cynt a bod y cais yn llawn haeddu cefnogaeth.

 

 

 

Wedyn awgrymodd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts y medrai'r Parc Gwledig fod ar agor am gyfnod hwy yn ystod y flwyddyn petai'r caniatâd hwn yn cael ei roddi a chynigiodd ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Denis Hadley.

 

 

 

Roedd yr Arweinydd Tîm (NJ) yn cytuno gyda datganiad a gyflwynodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cyfarfod cynt, sef fod y cais hwn wedi ei gyflwyno yn rhy fuan yn ôl y dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd a chan ddilyn y canllawiau yn TAN6 (Datblygiadau Amaethyddol a Gwledig) PPW, ac ychwanegodd nad oedd yr ymgeiswyr wedi ymgeisio am drwydded safle i'r parc carafannau.

 

 

 

Cytuno wnaeth y Cynghorydd Arthur Jones gyda'r Arweinydd Tîm ac yn enwedig ar ôl ystyried nad oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno ffigyrau i gefnogi profion cyllidol ac ymarferol.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Byast cafwyd cynnig i wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

 

 

Ar ôl derbyn cyngor y cyfreithiwr cytunodd yr aelodau i gofnodi'r bleidlais a dyma fel yr aeth honno :

 

 

 

I GYMERADWYO'R CAIS YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG O WRTHOD:

 

Y Cynghorwyr Denis Hadley, D. Lewis-Roberts (2)

 

 

 

I DDERBYN ADRODDIAD Y SWYDDOG A'I ARGYMHELLIAD O WRTHOD:

 

Y Cynghorwyr Bessie Burns, John Byast, Arthur Jones, John Roberts (4)

 

 

 

YMATAL PLEIDLAIS:

 

Y Cynghorydd Tecwyn Roberts (1)

 

 

 

PENDERFYNWYD dileu penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu'r cais a derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad o wrthod am y rhesymau a roes.

 

 

 

 

 

6.9

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     36C33C - ADDASU AC EHANGU YNGHYD AG EHANGU Y CWRTIL YN WAEN HIR, LLANGRISTIOLUS

 

 

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Yn y cyfarfod blaenorol penderfynodd yr aelodau gymeradwyo'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog o wrthod, am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

byddai yn gweddu i'r wlad o'i gwmpas

 

Ÿ

byddai'n darparu cartref i deulu

 

Ÿ

nid yw hwn yn leoliad gwledig per se gan ei fod rhwng dwy briffordd

 

Ÿ

mae'n estyniad rhesymol

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais hwn er mwyn rhoi cyfle i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros gymeradwyo'r cais.

 

 

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm (NJ) mai'r argymhelliad oedd cael penderfyniad deublyg ar y cais hwn.  Roedd y swyddogion yn argymell caniatáu estyniad i'r cwrtil ond gyda'r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog a hefyd gwrthod caniatâd i'r estyniad at yr annedd am y rhesymau a roddwyd.  Credai'r swyddogion bod yr estyniad yn rhy fawr ac yn groes i ganllawiau y Canllawiau Cynllunio Atodol ar estyniadau.

 

 

 

Yr hyn a wnaed y Cynghorydd R. Ll. Hughes, yr aelod lleol, oedd atgoffa'r aelodau o'u penderfyniad blaenorol i ganiatáu'r estyniad i'r cartref teuluol a bychan hwn yn unfrydol yn y cyfarfod cynt.  Teimlai'r Cynghorydd Hughes y buasai datblygiad o'r safon hon yn hyrwyddo'r tirwedd - tirwedd nad oedd gyda statws o ddiddordeb arbennig o gwbl.

 

 

 

Gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arthur Jones.

 

 

 

Am y rhesymau a roddwyd uchod PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu'r cais ond yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

 

 

Ni phleidleisiodd y Cynghorydd John Byast ar y cais hwn.

 

 

 

6.10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     37C71A - ESTYNIAD I'R CWRTIL YN BRYN Y FELLTEN, LLANEDWEN, LLANFAIRPWLL

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o'r safle yn eiddo i'r Awdurdod Lleol.

 

      

 

     Dywedodd yr Arweinydd Tîm (NJ) ei bod yn dal i ddisgwyl gwybodaeth yng nghyswllt y Gorchymyn Cau.  Roedd yr ymgeisydd wedi gofyn am ohirio unwaith eto.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

6.11

CAIS YN GWYRO

 

      

 

     38C213 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU FYNEDFA GERBYDOL NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GYFERBYN Â GLAN GORS, RHOS-GOCH

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd John Byast ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod ei ystyried a phleidleisio arno.

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Yng nghyfarfod mis Chwefror penderfynodd yr aelodau gymeradwyo'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog o wrthod, am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

y mae elfen o fforddiadwyaeth yn y cais gan fod yr ymgeiswyr yn gwbl ifanc

 

Ÿ

mae'r tir amaethyddol o ansawdd gwael ac yn greigiog

 

Ÿ

mae o leiaf 9 eiddo arall o fewn clwstwr yn yr ardal.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor fe ohiriwyd y cais er mwyn caniatáu i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros gymeradwyo'r cais hwn.

 

 

 

Yng nghyfarfodydd mis Mawrth ac Ebrill fe dderbyniodd yr aelodau argymhelliad y swyddog i ohirio ystyried y cais er mwyn caniatau i swyddogion ymchwilio i faterion technegol a godwyd yn ystod yr ymgynghori.

 

 

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm (DPJ) fod y cais hwn  yn groes i'r polisïau gan fod y cynnig yn cyfateb i ddatblygiad ar ben ei hun yn y cefn gwlad.  Yn unol â'r adroddiad gerbron argymhellodd yr Arweinydd Tîm wrthod y cais hwn oedd yn gwyro am y rhesymau hynny y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.  Daeth 7 o lythyrau yn gwrthwynebu i law.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ar ôl rhannu map ymhlith yr aelodau dywedodd y Cynghorydd Thomas Jones mai Seion, Rhos-goch oedd enw'r ardal a bod ynddi tua 15 o dai yn glwstwr.  Tir gwael oedd tir y safle ac o safon amaethyddol isel ac yn perthyn i gategori graddfa 4.  Yn ôl y Cynghorydd Jones roedd yr ymgeisydd yn ddyn lleol a'r Cyngor Cymuned yn cefnogi'r cais.

 

 

 

Wedyn ychwanegodd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts y dylid ystyried sylwadau a ddaeth i law yn ystod y cyfnod "sadio".  Cytuno gydag argymhelliad y swyddog a wnaeth y Cynghorydd Arthur Jones - roedd y safle mewn llecyn amlwg ac yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn ac i'r Cynllun Datblygu Unedol ac o'r herwydd cynigiodd ymweliad â'r lle er mwyn rhoi cyfle i'r aelodau weld y safle eu hunain, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts dywedodd y cyfreithiwr nad oedd ymweld â'r safle ar yr adeg benodol hon yn groes i reolau gweithdrefn cynllunio.

 

 

 

Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

 

 

 

 

6.12

CAIS YN GWYRO

 

      

 

     38C217 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â RHOI MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR YN FOEL FAWR, TREGELE

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Yng nghyfarfod mis Ebrill penderfynodd yr aelodau gymeradwyo'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog o wrthod, am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

ar neu yn gyfagos i'r ffin ar gyfer Tregele

 

Ÿ

o fewn clwstwr o anheddau eraill yn unol â Pholisi 50 o'r Cynllun Lleol

 

Ÿ

y Cyngor Cymuned Lleol yn cefnogi'r cais.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor fe ohiriwyd y cais er mwyn caniatáu i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros gymeradwyo'r cais hwn.

 

 

 

Cafodd y Pwyllgor wybod gan y swyddog bod y cais hwn wedi ei dynnu'n ôl ar 25 Ebrill 2005.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a nodi yr uchod.

 

 

 

 

 

6.13

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     40C28E - CODI BLOC FFLATIAU GYDA 8 UNED YNGHYD AG ADDASU MYNEDFA I GERDDWYR AC I GERBYDAU YNGHYD Â THORRI COED A PHERTHI AR DIR YN GYFAGOS I'R WHEEL & ANCHOR, MOELFRE

 

      

 

     Yng nghyfarfod mis Chwefror, ar argymhelliad y swyddog, penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle ac fe wnaed hynny ar 16 Chwefror 2005.  Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yng nghyfarfod mis Mawrth hyd nes y byddai ymgynghori gyda'r ymgeiswyr wedi dod i ben.

 

      

 

     Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cael mis ychwanegol i ddarparu gwybodaeth ychwanegol yn ymwneud â llifogydd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn hyd nes y byddai ymgynghori gyda'r ymgeiswyr wedi ei gwblhau.

 

      

 

      

 

      

 

6.14

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     42C51C - ALTRO AC YMESTYN TAFARN Y BULL, PENTRAETH

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod mis Ebrill y Pwyllgor penderfynwyd ymweld â'r safle ar gais yr aelod lleol i bwrpas rhoi cyfle i'r aelodau asesu'r sefyllfa a chafwyd y cyfarfod hwnnw ar 20 Ebrill, 2005.

 

      

 

     Yma ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio mai effaith fechan iawn a gâi'r bwriad hwnar yr olygfa yn allanol a hefyd roedd y cynnig yn welliant ar y cyfleusterau presennol.

 

      

 

     Wedyn mynegodd y Cynghorydd Hefin Thomas wrthwynebiad y cymdogion a deimlai fod unrhyw gynnydd yn y busnes yn mynd i greu rhagor o swn ac o arogleuon gan fod y gegin yn mynd i fod yn nes i rai tai.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o ganiatáu a theimlai ef y buasai'r cynnig hwn yn gwella gwedd allanol Tafarn y Bull. Cafodd ei eilio gan y Cynghorwyr Mrs Burns a Tecwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad fod y cais yn cael ei gymeradwyo am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

6.15

CAIS YN GWYRO

 

      

 

     48C115A - CAIS AMLINELLOL I GODI TY FFORDDIADWY YNGHYD Â GOSOD SYSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH BREIFAT AR DIR GER DRIP BACH, GWALCHMAI

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod mis Ebrill penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle ac fe ddigwyddodd hynny ar 20 Ebrill, 2005.

 

      

 

     Dywedodd yr Arweinydd Tîm (NJ) bod y safle yn rhy bell o ffiniau'r pentref i fod yn safle eithriad dan y Canllawiau Cynllunio Atodol ar Dai Fforddiadwy ac o'r herwydd doedd dim modd ystyried y cais fel un am dy fforddiadwy.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd R. G. Parry nid oedd y safle yn rhy bell o'r pentref ac ychwanegodd bod y darn hwn o dir wedi ei ffurfio ar ôl adeiladu'r A55 newydd.  Dymuniad yr ymgeisydd yma oedd codi cartref i'w ferch a chafodd anawsterau dod o hyd i dy am bris rhesymol yn y cyffiniau.  Roedd tai teras yn mynd am brisiau dros £100,000 a phris gofyn am dai newydd yn Nhy Corniog yn uwch na £200,000.  Roedd yma safle y tu mewn i'r cyfyngiad gyrru 30 m.y.a. a chyfle i gwpl ifanc ddychwelyd i'r pentref i fyw.

 

      

 

     Atgoffwyd yr aelodau gan yr Arweinydd Tîm nad oedd modd ystyried y cynnig gerbron fel cais i ddarparu ty fforddiadwy am ei fod yn rhy bell o ffiniau'r pentref yng Ngwalchmai fel y diffinnir y rheini dan bolisïau amrywiol a than y canllawiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog i'r Pwyllgor.  Am y rheswm hwn ni fuasai'n bosib rhoddi cytundeb dan Adran 106 (Ty Fforddiadwy) ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu.

 

      

 

     Eiliwyd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts gan y Cynghorydd Arthur Jones gan ei fod ef yn teimlo fod modd rhoddi caniatâd cynllunio gyda chytundeb dan Adran 106 yng nghyswllt Ty Fforddiadwy a chynigiodd rhoddi caniatâd i'r cais.

 

      

 

     Ar bleidlais fwrw'r Cadeirydd PENDERFYNWYD gwrthod y cais hwn am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

 

 

7     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

7.1

10C33K/EIA - DIWYGIO AMODAU 2 A 5 SYDD YNGHLWM WRTH GANIATÂD 10C33H I ALLUOGI AILGYFEIRIO 'ANGLESEY CIRCUIT' I BARHAU YN UNOL Â'R CYNLLUN DIWYGIEDIG YN 'THE ANGLESEY CIRCUIT', TY CROES

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Asesiad Effaith Amgylcheddol  ynghyd â'r cais.  Oherwydd natur y cais argymhellodd y swyddog fod yr aelodau yn ymweld â'r safle tra bo ymgynghori yn mynd ymlaen er mwyn cael gwell dealltwriaeth ynglyn â'r safle a'i leoliad cyn gwneud eu penderfyniad.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

      

 

7.2

20C28B/ECON - ADDASU AC EHANGU'R BWYTY, CREU 18 YSTAFELL WELY, YSTAFELL BRECWAST, CLWB HAMDDEN I WESTEION AC AELODAETH LEOL, PARCIO A THIRLUNIO YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AC ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL YN Y DOUGLAS INN, TREGELE

 

      

 

     Argymhellodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr aelodau yn ymweld â safle'r cais er mwyn cael golwg ar amryfal elfennau'r cynnig a'r cyd-destun.

 

      

 

     Nodwyd bod aelodau'r Pwyllgor wedi derbyn gohebiaeth annibynnol yng nghyswllt y cais hwn.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

      

 

7.3

36C175K/TR/ECON - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI LLETY I DRAFAELWYR, GORSAF BETROL, 2 FWYTY GYDA CHYFLEUSTERAU GYRRU TRWODD, YNGHYD Â CHREU MYNEDIAD NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDWYR, MAES PARCIO A THIRLUNIO AR DIR CYFAGOS I TYRPEG, LLANGEFNI

 

      

 

     Argymhellodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod aelodau yn ymweld â'r safle yn ystod y cyfnod o wneud gwaith ymgynghori a rhoi'r cyfle iddynt ddeall amgylchiadau'r safle a natur y cais cyn gwneud penderfyniad arno.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

      

 

8     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

      

 

8.1

11C450 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD ORSAF I DRIN CARTHION AR O.S. 5238, PENTREFELIN, AMLWCH

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Cyfeiriodd yr Arweinydd Tîm (DPJ) yr aelodau at y polisïau a restrwyd a hefyd at y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog o blaid argymell gwrthod y cais.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd G. Winston Roberts oedd dwyn sylw'r aelodau at y cynllun ynghlwm wrth adroddiad y swyddog a hwnnw'n dangos stad dai ac arni 6 o fyngalos ac o gwmpas ddwsin o dai.  Roedd yn croesawu'r cais hwn gan bobl ifanc gyda chyswllt â'r diwydiant amaethyddol.  Dywedodd bod y safle yn rhan o glwstwr o dai ac o'r herwydd yn cydymffurfio gyda'r polisïau cynllunio.  Gyda chais o'r fath roedd modd cadw'r ysgolion a siopau lleol yn agored a diogelu'r iaith Gymraeg - a doedd dim modd dweud mai datblygiad gwasgarog oedd hwn.  Roedd y darn hwn o dir wedi ei brynu'n benodol gyda'r bwriad o godi cartref arno gan fod tir y teulu y tu allan i'r ardal ddatblygu.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Yn dilyn hyn ychwanegodd y Swyddog Cynllunio nad oedd yr ardal wedi ei nodi yn glwstwr dan Bolisi 50 Cynllun Lleol  Ynys Môn, ac felly roedd y cais yn groes i'r polisïau.  Doedd materion personol ddim yn berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ac ailadroddodd y swyddog ei argymhelliad o wrthod.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd John Roberts ynghylch y posibilrwydd o gategoreiddio y cais fel un i lenwi bwlch a wedyn gofynnodd y Cynghorydd Denis Hadley a oedd modd categoreiddio'r lle fel treflan fechan ?

 

      

 

     Mewn ymateb i sylwadau'r Cynghorydd Winston Roberts cytunodd y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio bod angen egluro'r amryfal gategorïau i'r aelodau gan ychwanegu mai mater i'r Cyngor oedd mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Unedol a hynny ar ôl ymgynghori yn gyntaf gyda Phwyllgor Gwaith y Cyngor.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Byast.  O gofio bod cais arall wedi ei ganiatáu yn Llynfaes yn ddiweddar dan amgylchiadau cyffelyb roedd y Cynghorydd Arthur Jones yn tueddu i gefnogi'r cais hwn.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog - caniatáu am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

roedd y safle y tu mewn i glwstwr

 

Ÿ

ystyriaethau eraill o bwys h.y. person lleol, amaethyddiaeth

 

Ÿ

y Cyngor Cymuned yn cefnogi'r cais

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais hwn ei ohirio tan y cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros gymeradwyo.

 

      

 

      

 

8.2

15C141 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI 1 ANNEDD A MODURDY YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR O.S.8032, TREFDRAETH

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arwel Roberts ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y Gadair a'r cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio ar yr eitem.  Cymerwyd y Gadair gan yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Arthur Jones.

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd yr Arweinydd Tîm (NJ) bod y cais hwn yn groes i'r polisïau a chyfeiriodd yr aelodau at hanes cynllunio'r safle.  Roedd cytundeb cyfreithiol ffurfiol yn cynnwys rhwystr rhag datblygu'r tir sy'n rhan o safle'r cais a soniodd am lythyr o'r eiddo cyffiniol oedd gerbron yn y cyfarfod.  I bwrpas cadw cofnod nodwyd nad oedd bwlch rhwng safle'r cais a'r eiddo i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain yn groes i'r hyn a ddangoswyd ar y map gyda'r cais.  Gan y swyddog cafwyd argymhelliad cryf o wrthod.

 

      

 

     Dygodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes sylw'r aelodau at benderfyniad y Pwyllgor yn caniatáu cais cyffelyb yn Llanddona (eitem 6.2 y cofnodion hyn).  Cais gan gwpl ifanc oedd hwn a'r ddau wedi eu magu yn y gymuned wledig.  Roedd gan y cwpl ddau o blant a hynny yn gefnogaeth i'r ysgol leol.  O gwmpas y safle roedd clwstwr o 8 o dai a gellir ystyried y cais fel llenwi bwlch.  Yn ôl dealltwriaeth y Cynghorydd Hughes roedd modd dileu, trwy gyflwyno cais, y cytundeb dan Adran 106 a wnaed yn 1992.  Ni wyddai'r Cynghorydd am unrhyw wrthwynebiad ac nid oedd y Cyngor Cymuned wedi cyflwyno sylwadau gwrthwynebus ar y cynnig.  Wedyn atgoffodd yr aelodau y dylent fod yn gyson wrth benderfynu ar geisiadau gan ofyn iddynt ganiatáu'r cais er mwyn diogelu'r economi wledig a chefnogi'r gymuned hon oedd yn Gymraeg ei hiaith.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Ymatebodd yr Arweinydd Tîm (NJ) i sylwadau'r aelod lleol gan ychwanegu nad oedd amgylchiadau personol yn ystyriaethau cynllunio perthnasol.  Unig bwrpas gorfodi cytundeb dan Adran 106 oedd rhwystro hapddatblygu.  Dim ond trwy gyflwyno cais ffurfiol yr oedd modd dileu cytundeb dan Adran 106 - ac roedd presenoldeb cytundeb dan Adran 106 ar y safle yn arwydd cryf iawn o ba mor annerbyniol oedd y bwriad gerbron.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Byast cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo o wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Denis Hadley y buasai rhoddi caniatâd yn gymorth i gadw pobl ifanc rhag symud allan ac mewn ymateb i'r sylw hwn dywedodd yr Arweinydd Tîm wrth yr aelodau bod yr ymgeiswyr ar hyn o bryd yn byw yn Llangefni.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts y buasai rhoddi caniatâd yn caniatáu i'r teulu hwn fynd yn ôl at ei wreiddiau a hefyd roedd y Cynghorydd Arthur Jones yn gefnogol i'r aelod lleol.

 

      

 

     Cafwyd cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Denis Hadley.

 

      

 

     O 4 pleidlais i 3 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddogion o wrthod, sef caniatáu am y rhesymau  a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

roedd y safle union ger eiddo arall

 

Ÿ

dim pryderon priffyrdd

 

Ÿ

pobl leol

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais hwn ei ohirio tan y cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros gymeradwyo.

 

      

 

      

 

8.3

21C61A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI UN ANNEDD FFORDDIADWY YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE RHIF O.S. 0606, LLANDDANIEL

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Soniodd yr Arweinydd Tîm (NJ) am lythyr gan asiant yr ymgeisydd a ddaeth i law yn gofyn am ohirio'r cais er mwyn rhoi'r cyfle iddynt gyflwyno rhagor o wybodaeth mewn ymateb i adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eifion Jones fod hwn yn gais ddiffuant ac yn mynd i ddarparu ty fforddiadwy i gwpl lleol.  Roedd y safle ar gyrion y pentref a gellid ei ystyried fel llenwi bwlch.  Roedd cais wedi ei gyflwyno am ohirio a hynny yn creu cyfle i dderbyn rhagor o wybodaeth gan yr ymgeisydd a thrwy hynny gwblhau'r cais.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

      

 

8.4

22C154C - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR O.S. 263, LLANDDONA

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol o dan y polisi "angen lleol".

 

      

 

     Dywedodd yr Arweinydd Tîm (DPJ) bod y cais hwn yn groes i'r polisïau a hefyd i'r Cynllun Datblygu Unedol a bod gan y safle dan sylw hanes o dri gwrthodiad a hefyd roedd y rhwydwaith ffyrdd lleol yn is na'r safon dderbyniol.  Wedyn aeth y swyddog ymlaen i ddwyn sylw'r aelodau at y prif faterion cynllunio y manylwyd arnynt yn adran 7 adroddiad y swyddog. Roedd y safle yn y cefn gwlad agored ac mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol ac o'r herwydd cafwyd argymhelliad cryf o wrthod am y tri rheswm yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

     Ychwanegodd y Cynghorydd Hefin Thomas i'r cais diwethaf gael ei wrthod o un bleidlais yn unig.  Roedd yr ymgeisydd yn byw yn lleol ac yn gweithio i Cig Môn, sef cwmni yn ymwneud yn uniongyrchol ag amaethyddiaeth ac wedi buddsoddi yn yr economi leol.  Hefyd roedd yr ymgeiswyr yn cynorthwyo ffarmwr lleol ac yn gyfnewid am hynny wedi derbyn ganddo y darn hwn o dir.  Yn ogystal roedd gwraig yr ymgeisydd yn gweithio yn lleol ac roedd gwir angen cefnogi y teulu hwn i godi ty fforddiadwy yn lleol a thrwy hynny gryfhau'r gymuned.  Oherwydd nifer y tai yn yr ardal, a hynny'n cynnwys stad o dai a hefyd un hen westy wedi ei droi yn fflatiau a chan ystyried pwysau'r traffig sydd eisoes yn mynd i fyny ac i lawr y lôn at y traeth roedd y Cynghorydd Thomas yn anghytuno gyda gwrthwynebiad yr Adran Briffyrdd.  Rhoes ei gefnogaeth gref i'r cais oedd yn ymwneud yn  uniongyrchol ag amaethyddiaeth.

 

      

 

     Pwysleisio wnaeth yr Arweinydd Tîm (DPJ) nad oedd gweithio i Gig Môn o angenrheidrwydd yn bodloni'r meini prawf i bwrpas ystyried y cais yn gais am annedd amaethyddol ac ychwanegodd y swyddog bod angen cynnal profion caeth - rhai cyllidol ac ymarferol - i gyfiawnhau codi annedd amaethyddol.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Swyddog Rheoli Datblygu o'r Adran Briffyrdd oedd atgoffa'r aelodau bod y cais wedi ei wrthod dair gwaith yn y gorffennol ac nad oedd rhwydwaith lleol y ffyrdd yn addas.

 

      

 

     Ond anghytunodd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts hefyd gyda gwrthwynebiad yr Adran Briffyrdd a chynigiodd roddi caniatâd i'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ei bod hi'n arfer bellach caniatáu datblygiad y tu mewn i glwstwr neu ar ei gyrion - roedd safle y cais gerbron yn gwbl ar ben ei hun.  Buasai penderfyniad o blaid caniatáu yn un gwirioneddol anffodus.

 

      

 

     O 4 pleidlais i 2 PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y Swyddog.

 

      

 

8.5

33C209B - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD AR RAN O GAE RHIF O.S. 3955, PENTRE BERW

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol o dan y polisi "angen lleol".

 

      

 

     Cafwyd disgrifiad o'r cynnig a'i leoliad gan y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio a chrybwyllodd hanes cynllunio'r safle fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog.  Nid oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno'r wybodaeth angenrheidiol i gyfiawnhau codi annedd fel cartref fforddiadwy ar y safle.  Oherwydd siâp amhriodol y plot teimlai'r swyddogion y buasai'r cynnig gerbron yn ymwthio'n annymunol i'r tirwedd a chafwyd argymhelliad unwaith eto i wrthod y cais.  Roedd y swyddogion yn fodlon trafod y materion hyn gyda'r ymgeisydd.

 

      

 

     Er bod y Cynghorydd Noel Thomas yn derbyn adroddiad y swyddog rhoes wahoddiad i'r aelodau ymweld â'r safle, lle codid ty i berson lleol a'r un pryd gallai'r ymgeisydd ddiwygio'r cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Bessie Burns cafwyd cynnig i ymweld.

 

      

 

     Petai'r argymhelliad yn cael ei dderbyn dywedodd y Cynghorydd Arthur Jones y gallai'r ymgeisydd drafod rhagor ar y mater a chael cyfle i ailgyflwyno'r cais heb dalu ffi.  Cytunodd y Cadeirydd gyda'r awgrym hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog i wrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

8.6

35C129A - CODI ANNEDD NEWYDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL AR BLOT GER CAE BERLLAN, CAIM

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Gan y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio cafwyd disgrifiad o'r cynnig ac o'i leoliad a dygodd sylw'r aelodau at hanes cynllunio y safle fel y crybwyllir hwnnw yn rhan 3 o adroddiad y swyddog a chyfeiriodd hefyd at ymateb y cyhoedd i'r ymgynghoriad fel y gwelir hwnnw yn rhan 5 adroddiad y swyddog.  Credai'r Adran Briffyrdd bod y rhwydwaith o ffyrdd trac sengl yn droellog iawn, yn annigonol ac o'r herwydd roeddent yn gwrthwynebu'r bwriad.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais.

 

      

 

     Yma nododd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts bod yr aelod lleol yn absennol oherwydd apwyntment yn yr ysbyty a chynigiodd ohirio ystyried y mater.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

8.7

42C62G - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD AR BLOT YN Y GANOLFAN ARDDIO, PENTRAETH

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol o dan bolisïau angen lleol ac angen busnes.

 

      

 

     Cyfeiriodd yr Arweinydd Tîm (DPJ) sylw'r aelodau at y prif ystyriaethau cynllunio a ymddangosodd yn rhan 7 adroddiad y swyddog.  Yno nodwyd fod y safle y tu allan i ffiniau datblygu Pentraeth ac nad ydoedd yn cwrdd â gofynion y meini prawf angenrheidiol yng nghyswllt y polisïau lleol a chenedlaethol yng nghyswllt rhesymau diogelwch.  Roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais hwn oedd yn gwyro.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas i'r aelodau ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa a nododd bod y busnes hwn yn hanfodol i Bentraeth gan ychwanegu nad oedd y map ynghlwm wrth yr adroddiad yn gwneud cyfiawnder â'r sefyllfa.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts cafwyd cynnig fod yr aelodau yn ymweld â'r safle.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

9     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

9.1

13C132A - CREU TRAC GO-CART, CODI ADEILAD I YMWELWYR A STORFA, ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN BRYN GOLEU, BODEDERN

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol oherwydd natur y cais a lleolaid y safle.

 

      

 

     Disgrifiodd y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio y safle a'r cynnig fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog.  Wedyn cyfeiriodd at lythyrau yn cefnogi ac yn gwrthwynebu'r bwriad a datganiad cryf o blaid gan yr ymgeisydd ei fod yn dymuno arallgyfeirio o'r maes amaethyddol. Y gwrthwynebydd mwyaf oedd y Cartref Nyrsio gerllaw oherwydd effaith y bwriad ar gymeriad y cyffiniau.  Ond roedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweld y bwriad yn dderbyniol pe rhoddid amodau ychwanegol ynghlwm a chafodd y rheini eu cyflwyno yn y cyfarfod - materion megis oriau agor, cuddio'r lle gan fryniau, pennu lefel uchaf lefelau'r swn a sicrhau na fydd rhagor na 5 go-cart yn rasio ar unrhyw un adeg.  Roedd y swyddog o blaid caniatáu'r cais hwn.

 

      

 

     Gofyn wnaeth y Cynghorydd Gwilym Jones i'r aelodau ymweld â'r safle i asesu'r cais hwn i arallgyfeirio a datblygu'n atyniad i dwristiaid.  Pennaf bryderon y bobl leol oedd y swn a ddeuai o'r safle yn sgil y gweithgareddau arfaethedig ac effaith y lle ar yr amgylchedd a'r traffig.  Awgrymodd ef y dylid cael ymweliad cyn penderfynu.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Denis Hadley, ar ôl pwyso a mesur, yn tueddu i gefnogi'r cais hwn i arallgyfeirio.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Bessie Burns cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd ei heilio gan y Cynghorwyr D. Lewis-Roberts a Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymlwed â'r safle i asesu'r sefyllfa.

 

      

 

9.2

18C163 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA GERBYDAU AR BLOT GER GLYNDWR, RHYDWYN

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Gyda'r amod bod y gysgodfan i fysus yn cael ei symud roedd y Cynghorydd Bessie Burns yn gefnogol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arthur Jones cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Denis Hadley.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad bod y cais yn cael ei gymeradwyo am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9.3

19C210V - CAIS I GODI YSTAFELL HAUL YN 16 LLAIN BRYNIAU, CAERGYBI

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor oherwydd ei gyflwyno gan Gynghorydd lleol.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Keith Thomas ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd John Roberts i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Bessie Burns.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad bod y cais yn cael ei gymeradwyo am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9.4

22C24C - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER TY'N LON, LLANDDONA

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol oherwydd rhesymau polisi a diogelwch y ffordd.

 

      

 

     Cafwyd disgrifiad o'r bwriad gan yr Arweinydd Tîm (DPJ), sef ei fod  y tu mewn i bentref Llanddona a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau cynllunio fel y manylwyd ar y rheini yn rhan 7 adroddiad y swyddog.  O ran egwyddor roedd cael un annedd arall yn dderbyniol ond yn amodol ar gyflwyno tystysgrif B i sicrhau gwelededd digonol yn y fynedfa arfaethedig a hefyd os ceir manylion boddhaol am y dwr wyneb a bodloni amodau safonol eraill y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn argyhoeddedig bod y gwelededd yn y fynedfa yn cwrdd â'r gofynion a dywedodd fod y ffordd yn beryglus yn y llecyn hwn ac o'r herwydd gofynnodd y Cynghorydd am ymweliad â'r lle.

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Swyddog Rheoli Datblygu o'r Adran Briffyrdd fod yr ymgeisydd yn bodloni gofynion gwelededd sylfaenol ac angenrheidiol, sef 70m o boptu'r fynedfa.  Fodd bynnag, roedd y cynlluniau a gyflwynwyd yn dangos llain gwelededd 90m i gyfeiriad Llanddona.  

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd gan y Cynghorydd Hefin Thomas cynigiodd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts gael ymweliad â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

9.5

25LPA7 - CODI FFENS 'BEKAER' 2.5 METR O UCHDER YN YSGOL GYNRADD LLANNERCH-Y-MEDD

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad bod y cais yn cael ei gymeradwyo am y rhesymau a roddwyd a  chyda'r amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9.6

29C108 - NEWID DEFNYDD ADEILAD ALLANOL I UNED 3 YSTAFELL WELY YN HEN YSGOL, LLANFAETHLU

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol oherwydd ei phryderon.

 

      

 

     Cydymdeimlo oedd y Cynghorydd Bessie Burns gyda phryderon y bobl leol a gofynnodd am roddi awdurdod i'r swyddogion ganiatáu'r cais ar ôl cwblhau'r cyfnod ymgynghori yn foddhaol ac ar ôl datrys mater perchnogaeth y tir.  Cafodd ei heilio gan y Cynghorydd Arthur Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad bod y cais yn cael ei gymeradwyo am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9.7

33C125D - CAIS AMLINELLOL I GODI 5 ANNEDD YNGHYD Â CREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR CYNLAS, GAERWEN

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol gan fod safle'r cais union ger ei eiddo ef a hefyd oherwydd materion mynedfa a draenio.

 

      

 

     Disgrifiodd yr Arweinydd Tîm (NJ) y cynnig fel y manylwyd arno yn adroddiad y swyddog.  Gan Asiantaeth yr Amgylchedd cafwyd yr ymateb safonol i'r ymgynghoriad ond oherwydd sylwadau a gafwyd ganddynt yn y gorffennol buasai'n rhaid codi lefelau gorffenedig y lloriau i leddfu pryderon llifogydd a chydymffurfio gydag amod rhif 10 adroddiad y swyddog.  Am y rhesymau a roddwyd cafwyd argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod y safle hwn union ger ei gartref, fod y tir yn wlyb iawn a'r afon sy'n ei groesi yn torri ei glannau tua dwy waith y flwyddyn.  Credai'r Cynghorydd bod modd codi pedair annedd ar y safle ond bod 5 yn orddatblygu.  Yn ogystal roedd pryderon ynghylch y fynedfa union gyferbyn â'r siop sglodion leol a chyffordd.  Gofynnodd y Cynghorydd Thomas am ymweld â'r safle.

 

      

 

     Yn ôl yr Arweinydd Tîm (NJ) nid oedd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi mynegi pryderon ynghylch y posibilrwydd o lifogydd ac ni chafwyd pryderon gan yr Adran Briffyrdd chwaith.  Roedd rhan o'r safle y tu allan i ffiniau Cynllun Lleol Ynys Môn ond y tu mewn i ffiniau datblygu y Cynllun Datblygu Unedol.

 

      

 

      

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arthur Jones dywedodd yr Arweinydd Tîm na châi caniatâd cynllunio ei ryddhau hyd nes cael ateb boddhaol i fater draenio dwr wyneb ar y safle.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arthur Jones cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

9.8

34C303J/1 - CODI UN ANNEDD UN TALCEN AR BLOT 80B BRO EDNYFED, LLANGEFNI

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd yr Arweinydd Tîm mai'r bwriad oedd symud yr annedd er mwyn lleddfu pryderon - y rheini y manylwyd arnynt yn rhan 5 adroddiad y swyddog.  Mewn egwyddor roedd yr annedd ychwanegol yn dderbyniol a rhoes argymhelliad bod aelodau yn rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais hwn ar ôl cwblhau gwaith ymgynghori'n foddhaol.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Arthur Jones oedd mynegi pryderon ynghylch twll agored y tu cefn i'r safle, un y teimlai ef y dylid cysylltu'r peipiau ynddo a'u claddu a gofynnodd i'r aelodau ymweld. Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

9.9

34C98C - CODI 8 O LIFOLEUADAU AR Y CAE RYGBI YN CAE SMYRNA, LLANGEFNI

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais hwn i benderfynu arno gan y Pwyllgor gan fod y cais yn cael ei wneud gan y Cyngor ar dir sydd yn ei berchnogaeth.

 

      

 

     Datganodd Mr. John I. Williams o'r Adran Gynllunio a Mr. Gethin Jones o Adran y Rheolwr-gyfarwyddwr ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad bod y cais yn cael ei gymeradwyo am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9.10

38C47A - NEWID DEFNYDD YR ADEILAD ALLANOL I FFURFIO 2 ANNEDD YNGHYD Â NEWID DEFNYDD YR ANNEDD BRESENNOL I FFURFIO 2 UNED WYLIAU YN COED COTTAGES, LLANFECHELL

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol oherwydd maint y bwriad hwn y tu allan i'r pentref.

 

      

 

     Disgrifiodd yr Arweinydd Tîm (DPJ) y cynnig fel y manylwyd arno yn adroddiad y swyddog ac yma hefyd roedd yr egwyddor o ddatblygu yn dderbyniol ond gydag amodau.  Buasai angen diwygio geiriad manwl amod (04) (cyfnod preswylio).

 

      

 

     Roedd adroddiad ac argymhelliad y swyddog yn dderbyniol i'r aelod lleol, y Cynghorydd Thomas Jones a hefyd roedd yn gytun gyda sylwadau'r Cyngor Cymuned y dylid rhoddi caniatâd i'r cais ond gydag amodau yn ei gyfyngu i ddibenion gwyliau'n unig.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad bod y cais yn cael ei gymeradwyo am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau a geir yn adroddiad y swyddog yn amodol ar y newid yn amod (04).

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

9.11

44C199A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER PENRHOS, PENYGRAIGWEN

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol am resymau priffyrdd.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog cafwyd argymhelliad i wrthod y cais.

 

      

 

     Am nad oedd yr aelod lleol yn bresennol yn y cyfarfod PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

10     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

11     APELIADAU

 

      

 

11.1

TY MAWR, LLANDDONA

 

      

 

     Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniad yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod rhoi caniatâd amlinellol i godi byngalo a garej ddomestig (un) dan y cyfeirnod 22C159B ac a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 29 Mehefin, 2004 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

      

 

Daeth y cyfarfod i ben am 4.45 p.m.

 

 

 

 

 

J. ARWEL ROBERTS

 

CADEIRYDD