Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 14 Rhagfyr 2009

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Llun, 14eg Rhagfyr, 2009

 

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 14 Rhagfyr, 2009.

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Kenneth Hughes - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr  W. J. Chorlton, E. G. Davies, B. Durkin, Jim Evans, W. T. HUghes, T. H. Jones, R. L. Owen, J. Arwel Roberts, Hefin W. Thomas, John P. Williams.

 

Aelod Portffolio - R. G. Parry OBE

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol - W. I. Hughes, Eric Jones, R. Ll. Jones, A. Morris Jones, C. McGregor, Eric Roberts, P. S. Rogers, Ieuan Williams.

 

WRTH LAW :

 

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Arweinydd Tîm (Gorfodaeth, Mwynau a Gwastraff)(JIW)

Swyddog Cynllunio (Gorfodaeth, Mwynau a Gwastraff)(SO)

Cynorthwywr Cynllunio (JR)

 

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)  (JRWO),

Swyddog Rheoli Datblygu (RE),

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ),

Swyddog Pwyllgor (ATH).

 

 

 

YMDDIHEURIAD:

 

Y Cynghorwyr E. G. Davies, O. Glyn Jones, Selwyn Williams.

 

 

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a derbyn yr ymddiheuriadau a nodir uchod.  

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion o gyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2009

 

4

YMWELIADAU SAFLE

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gafwyd ar 18 Tachwedd 2009 gan ychwanegu enw'r Cynghorydd Lewis Davies fel un oedd yn bresennol.

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1 - 40C292 - Cais llawn i godi annedd a darparu mynedfa newydd ar dir union ger Manora, Moelfre.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai o fudd i'r aelodau ymweld â'r safle er mwyn cael golwg ar y datblygiad yn ei gyd-destun cyn gwneud penderfyniad.

 

 

 

PENDERFYNWYD cael ymweliad yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

6

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

 

 

6.1 - 14C28Y/ECON - Codi adeilad newydd i dderbyn gwastraff a gosod gwaith treulio anerobig i adennill ynni bio nwy ar Blot 8 Stad Ddiwydiannol Mona, Mona.

 

 

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan y Cynghorwyr T. H. Jones ac R. L. Owen a gadawsant y cyfarfod am y drafodaeth a'r bleidlais ar y cais.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd ei fod ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.  Ymwelwyd â'r safle ar 21 Hydref 2009.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog Cynllunio (Gorfodaeth, Mwynau a Gwastraff) bod y cais gerbron yn un i godi adeilad derbyn newydd a darparu offer adennill Madru Anerobig/Ynni Bio Nwy - gallai'r uned dderbyn hyd at 25,000 tunnell o fwyd a gwastraff amaethyddol y flwyddyn i'w madru yn y cyfleusterau a chynhyrchu trydan a gwrtaith.  Mae hyn yn cyfateb i gynhyrchiant 68.5 tunnell y dydd.  Buasai'r offer newydd yn ategu'r offer ailgylchu sydd eisoes yno ac yn rhannu cyfleusterau gweinyddol a rheoli a ddarperir dan yr hen ganiatâd cynllunio 14C28U/ECON - fel y cafodd hwnnw ei ddiwygio.

 

 

 

Atgoffwyd yr Aelodau gan y Swyddog iddynt weld, ar yr ymweliad â'r safle bod y ty agosaf rhyw 150m draw o'r safle.  Hefyd cafodd yr aelodau olwg ar y safle o lecyn agos i Swn y Gwynt sef ty agosaf at y safle.  Roedd yn derbyn y pryderon sylweddol a fynegwyd gan breswylwyr oherwydd eu bod mor agos i'r safle.  Wedyn soniodd y swyddog am yr ymweliad â Llwydlo ac a drefnwyd i'r aelodau weld technoleg gyffelyb ac uned brosesu debyg.  Wedyn aeth ymlaen i amlinellu canlyniadau'r broses ymgynghori ac ar ôl gwneud gwaith manwl iawn ni chafwyd yr un gwrthwynebiad o bwys i'r cynnig.  

 

 

 

Yn seiliedig ar yr adroddiad gwnaed y pwyntiau a ganlyn gan yr aelodau:-

 

 

 

Ÿ

Nid oedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu'r cynnig ond yn wrthwynebus i'r lleoliad.

 

Ÿ

Priffyrdd - dim gwrthwynebiad

 

Ÿ

Gwasanaethau Cymru a'r Gorllewin - dim offer yn ardal yr ymchwiliadau.

 

Ÿ

Dwr Cymru - yn gofyn am i unrhyw ganiatâd cynllunio gynnwys eu hamodau a'u nodiadau cynghori.

 

Ÿ

Stadau Amddiffyn - nid oedd gan yr MOD unrhyw pryderon diogelu os cydymffurfir gyda'r hyn a nodir yn Adran 7 y cais, sef bod yr holl wâst a gludir i'r safle yn dod mewn cerbydau a chynwysyddion wedi eu selio.

 

Ÿ

Cyngor Cefn Gwlad Cymru - roedd y gwrthwynebiad wedi'i dynnu'n ôl.

 

Ÿ

Dim angen Asesiad Effaith Amgylcheddol.

 

 

 

I gloi dywedodd y Swyddog mai'r argymhelliad oedd caniatáu.

 

 

 

Cyflwynodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd W. I. Hughes, i'r Cadeirydd ddeiseb ac arni 479 o enwau unigolion gwrthwynebus.  Wedyn soniodd bod y cais hwn wedi creu cynnwrf o'r cychwyn ac er bod y bobl leol yn derbyn bod angen offer o'r fath roeddent yn gwrthwynebu lleoliad y datblygiad.  Wedyn soniodd iddo ymweld â Llwydlo gyda'r Cyngor Cymuned ac ar ddiwrnod yr ymweliad ni fedrai weld unrhyw broblem o ran arogleuon.  Ond roedd un aelod o'r Cyngor Cymuned wedi ymweld â'r safle yn Llwydlo heb roddi rhybudd a bod y safle, y dydd hwnnw, yn wahanol iawn i'r hyn ydoedd ar ddiwrnod yr ymweliad swyddogol.  Cyfeiriodd at yr egwyddor pellter ac at TAN 21.  Soniodd am ei bryderon oherwydd y  câi gwastraff ei gludo i'r safle o bob cwr ac nad oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth yng nghyswllt pa fath penodol o wastraff a ddygid i'r safle.  Credai bod adroddiad y swyddog yn amwys a dim manylion ynddo am y mathau o wastraff.  Ni chafwyd unrhyw wybodaeth am y 30% o'r gwastraff a ddygid i'r safle o'r tu allan i'r Ynys.  Credai bod prawf pellter wedi ei ddiystyru'n llwyr a wedyn cyfeiriodd at baragraff 3 yn TAN 21 lle ceir cyfeiriad at y rhanbarth a wedyn at baragraff 6 lle dywedir bod rhaid cael gwared o'r rhan fwyaf o'r gwastraff y tu mewn i'r rhanbarth lle cafodd ei gynhyrchu.  Wedyn holodd yr Aelod Lleol a oedd rhagamcan wedi ei drefnu ar gyfer Rhanbarth Gogledd Cymru yn nodi pwy sy'n cynhyrchu'r rhan fwyaf o'r gwastraff a'i bwysau mewn tunelli etc.  Credai ef bod angen cyrraedd cytundeb rhwng Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru i gyd.  Aeth ymlaen i holi am ragor o wybodaeth am ddwr wyneb a charthffosiaeth a allai lifo'n ôl i'r system.  Cyfeiriodd wedyn at bryderon ynghylch denu adar i'r safle ond pwysleisiodd hefyd mai'r pryder pennaf oedd yr arogleuon a ddeuai o'r safle.  I atgoffa'r Aelodau cyfeiriodd at broblemau arogleuon ar Stad Ddiwydiannol Llangefni a bod wyth o dai o fewn 150m i safle'r datblygiad hwn.  Hefyd, roedd yn ymwybodol o wrthwynebiad cryf a fynegwyd gan y rhai sy'n dal unedau ar Stad Ddiwydiannol Mona.

 

 

 

Dywedodd yr Aelod Lleol, bod raid i'r Cyngor, dan y Cynllun Datblygu Lleol, nodi safleoedd ar ôl gwneud gwaith ymgynghori ar draws y sir ac felly credai bod y cais gerbron heddiw yn gynamserol.  Hefyd roedd ganddo amheuon ynghylch y niferoedd honedig a gyflogid ar y safle.

 

 

 

Mewn ymateb nododd yr Arweinydd Tîm a'r Swyddog Cynllunio (Gorfodaeth, Mwynau a Gwastraff) y pwyntiau a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

Roedd yr ymgeisydd wedi cadarnhau y deuai 70% o'r gwastraff o'r Ynys ac o'r cychwyn cyntaf;

 

Ÿ

Y math o wastraff - gwastraff bwyd ac amaethyddol - ymgynghorwyd gyda DEFRA ac Asiantaeth yr Amgylchedd a chafwyd cadarnhad bod y datblygiad yn perthyn i Gategori 3 Gwastraff heb Beryglon;

 

Ÿ

Cynsail i eraill - er mai hwn oedd y cais cyntaf o'i fath nid oedd y Swyddogion yn pryderu ynghylch creu cynsail i laweroedd;

 

Ÿ

Draeniad/carthffosiaeth a dwr wyneb - gosodid amodau i bwrpas rheoli pob agwedd.

 

Ÿ

Materion technegol - yn disgwyl am fanylion llawn ond mae modd delio gyda'r rhain trwy amodau;

 

Ÿ

Adar - ymgynghori yn fanwl iawn gyda'r MOD - dim gwrthwynebiad.

 

Ÿ

Iechyd yr Amgylchedd - dim gwrthwynebiad;

 

Ÿ

Arogleuon - ymgynghori gydag Adain Iechyd yr Amgylchedd - dim gwrthwynebiad.  Cafwyd cadarnhad na fu unrhyw arogleuon oherwydd natur y cynllun ond petai arogleuon yn cael eu

 

rhyddhau yna gallai'r Asiantaeth yr Amgylchedd ddileu'r drwydded;

 

Ÿ

Y swyddog yn derbyn bod 8 ty o fewn 250m a bod gwrthwynebiad cryf yn lleol oherwydd lleoliad y cais; y swyddogion hefyd yn cadarnhau bod rhywfaint o wrthwynebiad o gyfeiriad y rhai ar Stad Ddiwydiannol Mona a chyfeiriodd at Ganolfan Byron sydd rhyw 150m o'r safle;

 

Ÿ

Y cais yn gynamserol - dywedodd y swyddogion ei bod hi'n ddyletswydd arnynt i wneud penderfyniad ar y cais yn ôl y dystiolaeth gerbron yn unig.  Ond roedd yn derbyn bod y pwynt a wnaed ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol o bosib yn berthnasol ond dywedodd unwaith eto bod y cais wedi ei gyflwyno, bod raid gwneud penderfyniad arno a'i gyflwyno i'r Pwyllgor yn unol â'r drefn;

 

Ÿ

Cyflogaeth - ni fedrai roddi ffigyrau pendant ond roedd ef ar ddeall bod y datblygiad hwn yn mynd i greu o leiaf 14 o swyddi a diogelu cyfanswm o 40 o swyddi a hynny oherwydd bod yna rai eisoes yn gweithio ar y safle;

 

Ÿ

Pwysleisiodd yr Arweinydd Tîm bod TAN 21 yn cynghori awdurdodau lleol i wneud trefniadau ar draws ffiniau sirol i bwrpas cael gwared o rai mathau o wastraff.  Ar hyn o bryd roedd bwyd a gwastraff gwyrdd dinesig yn cael ei gladdu ym Mhenhesgyn i Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy.  Nid oes cyfleusterau yn yr ardal i gael gwared o wastraff organig sy'n cael ei gynhyrchu'n fasnachol nac i drin gwastraff o'r fath.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd J. Arwel Roberts wedi darllen yr adroddiad ac yn llawn cydymdeimlad gyda'r Aelod Lleol, ond credai bod y lleoliad penodol hwn yn briodol a chynigiodd roddi caniatâd.

 

 

 

Wedyn soniodd y Cynghorydd Jim Evans iddo ymweld â Llwydlo ac ni welodd bod yn y lle hwnnw unrhyw arogleuon nac adar yng nghyffiniau'r offer.  Holodd y Cynghorydd John Penri Roberts i lle yr oedd 175,000 tunnell Ynys Môn yn cael ei gludo ar hyn o bryd a beth oedd costau'r gwaith hwnnw.  Mewn ymateb dywedodd y Swyddogion mai safle Llanddulas, Bae Colwyn oedd y cyfleusterau mewnlenwi agosaf ar hyn o bryd.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd H. W. Thomas yn cydymdeimlo gyda'r Cynghorydd Hughes a phetai ef yn Aelod Lleol buasai'n gynddeiriog gyda'r cynnig.  Cyfeiriodd at y gwrthwynebiad cryf yn lleol, at y ddeiseb a gyflwynwyd i'r Cadeirydd ac arni 400 o lofnodion.  Credai y gallai datblygiad o'r fath greu niwed mawr i bleserau lleol a bwrw cysgod dros yr holl gymuned.  Roedd defnyddwyr ar Stad Ddiwydiannol Mona wedi gwrthwynebu'r datblygiad a chredai ef bod y Cyngor, o roddi caniatâd i'r cais, yn mynd i gael anhawster gwirioneddol fawr wrth geisio gosod unedau ar y stad.  Ni fedrai ef dderbyn y gymhariaeth gyda safle Llwydlo gan fod cyfleusterau yma ym Môn bum gwaith y maint a'r pwer.  Ni chafodd dadansoddiad o'r math o wastraff nac o ffigyrau ynghylch pellter.  

 

 

 

Yng nghyswllt yr agwedd ranbarthol atgoffodd yr aelodau bod yr offer presennol mewn lle canolog yn Llandegai ond nid oedd isffordd yn gadael priffordd yr A55 i gyfeiriad safle Mona a hynny o'r herwydd, yn gorfodi cerbydau i deithio ar hyd cerbydlon sengl ar yr A5.  Gofynnodd pam nad oed modd defnyddio safle Penhesgyn oherwydd yno roedd rhwydwaith y ffyrdd wedi ei wella a hefyd roedd yno gyfle i wneud darpariaeth ar gyfer prosesu bwyd.  Wedyn cynigiodd ohirio ystyried y mater fel bod modd cynnal trafodaethau ar draws Gogledd Cymru a soniodd am ei bryderon ynghylch asesiad yr effaith amgylcheddol a'r peryglon y gallai dwr ddianc i Lyn Cefni - cronfa sy'n darparu dwr yfed i ran fawr o'r Ynys.  Er ei fod yn croesawu y syniad y tu cefn i'r datblygiad credai bod hwn yn y lle anghywir a chynigiodd ei wrthod.  Eiliwyd ef gan y Cynghorydd W. T. Hughes a mynegodd hwnnw ei bryderon difrifol ynghylch arogleuon a pheryglon llygru Llyn Cefni.  Eiliodd y cynnig i wrthod y cais.  Roedd y Cynghorydd Durkin yn derbyn bod raid gwneud rhywbeth gyda'r gwastraff ond ni chredai mai hwn oedd y safle iawn.  Aeth ymlaen i fynegi pryderon ynghylch y math o wastraff a gludid i'r safle a chredai ef bod Categori 3 yn cynnwys llawer iawn mwy na bwyd a gwastraff amaethyddol.  Hefyd roedd ganddo amheuon ynghylch nifer y swyddi a greid ar y safle a chredai y buasai lleoliad canolog yn fwy addas i'r offer a hynny oherwydd bod y troedbrint carbon i lorïau yn cludo pethau i'r safle ac yn gadael yn annerbyniol. Ni fedrai ef gefnogi'r cynnig a chredai hefyd ei fod yn gynamserol.  

 

 

 

Bu'r Cynghorydd Eurfryn Davies hefyd ar ymweliad â Llwydlo a sylwodd ar ddwy siop darparu prydau poeth gerllaw union ger y safle.  Yno cafodd gyfle i siarad gyda phobl yn y cyffiniau a'r rheini'n cadarnhau nad oedd yno unrhyw broblem gydag arogleuon ac eithrio ar adegau yn dilyn barrug trwm - ar adegau o'r fath roedd arogleuon ysgafn.  Ond ni chredai bod hwnnw'n rheswm digon cryf i wrthod y cynnig a diolchodd i'r Swyddogion am baratoi adroddiad manwl iawn.

 

 

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Durkin hefyd bod y cais hwn yn un gwirioneddol gynhyrfus.  Roedd cludo defnydd o'r fath yn creu problemau difrifol - hefyd roedd gwastraff Categori 3 yn cynnwys gwastraff lladd-dai a pheryglon y bydd gwastraff maeth lefel uchel yn llifo i dir maeth lefel isel.  Yn wir roedd hwn yn gais a oedd yn creu pryderon gwirioneddol a buasai'n well iddo fod mewn llecyn canolog - o'r herwydd ni fedrai gefnogi.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Chorlton yn cydnabod bod hwn yn benderfyniad anodd i'w wneud ac ni fydd yn plesio pawb.  Ond pwysleisiodd bod y Swyddogion wedi cyflwyno sylwadau'n broffesiynol ac yn ddiduedd a'u hargymhellion yn seiliedig ar y ffeithiau hynny a oedd yn hysbys iddynt hwy.  Wedyn soniodd iddo ddadlau yn erbyn offer carthffosiaeth yng Nghaergybi a hanes yn dangos iddo wneud y penderfyniad anghywir gan fod yr offer yno yn un gwirioneddol fodern ac nid yw'n niweidiol o gwbl i bleserau'r ardal.  Yn ôl y Cynghorydd roedd yn rhaid i system Madru Anerobig sicrhau bod yr holl danciau storio wedi eu selio a hefyd bod yr holl arogleuon sy'n dod o'r broses yn cael eu dal y tu mewn i'r offer madru.  Roedd yn cydnabod bod modd gweld un to o safle Mona ond yn Llwydlo roedd siopau a gwerthwyr bwydydd yn y cyffiniau.  Oherwydd amgylchiadau swyddi Ynys Môn pwysleisiodd fod croeso i 14 o swyddi.  Cytuno gyda'r Cynghorydd Chorlton a wnaeth y Cynghorydd J. Arwel Roberts gan ychwanegu bod y gymuned amaethyddol ar yr Ynys yn sicr o groesawu'r datblygiad hwn.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd W. T. Hughes beth oedd ystyr gwastraff amaethyddol ac a oedd hwnnw yn cynnwys gwastraff o ladd-dai a chribol.  Yn ôl y Cynghorydd Durkin roedd y safle yn Llwydlo yn derbyn gwastraff bwyd yn unig - dim gwastraff Categori 3 fel a oedd yn berthnasol yn yr achos hwn.  Credai ef y gallai arogleuon fod yn ofnadwy a bod angen cael cyfleusterau o'r fath mewn lle canolog.

 

 

 

Ar ôl rhoi'r cyfle i'r aelodau drafod y cais yn fanwl rhoes y Cadeirydd wahoddiad i'r Aelod Lleol gyflwyno ei sylwadau olaf.  Mewn ymateb ailadroddodd y Cynghorydd Hughes sylwadau a gyflwynodd ynghynt yn y drafodaeth a sôn am ei bryderon ynghylch y math o gerbydau a fuasai'n teithio i'r safle ac ohono a'r trefniadau i fonitro traffig o'r fath.  Roedd am atgoffa'r aelodau bod 200 o dai ac ysgol ym mhen pellaf glanfa'r awyrennau a bod angen ystyried y ffaith hon.

 

 

 

Atgoffwyd yr aelodau bod yr argymhelliad yn un o ganiatáu ac os oedd y Pwyllgor am wrthod y cais yna roedd yn rhaid seilio gwrthodiad ar dystiolaeth gref, ar faterion cynllunio hefyd fel bod modd i'r awdurdod amddiffyn y penderfyniad mewn apêl.

 

Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jim Evans.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau hynny a amlinellwyd yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

6.2 - 26C17G - Cais llawn ar gyfer troi y gwesty yn 9 uned breswyl, codi 9 uned breswyl newydd, addasu'r fynedfa a darparu gwaith preifat i drin carthion ar safle Gwesty Beauchelles, Marian-glas

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn wedi ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Clive McGregor.  Yn ei gyfarfod ar 4 Tachwedd 2009, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle a chafwyd yr ymweliad ar 18 Tachwedd 2009.  Dywedodd y Swyddog ei fod yn dymuno cynnwys amod arall er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau hamdden yn cael eu defnyddio i ddibenion Categori 2 yn unig yn ôl diffiniad y Gorchymyn Categoriau Defnydd Cynllunio Gwlad a Thref.  Hefyd soniodd bod yr Adran Briffyrdd yn fodlon gyda'r cynnig ac iddo roddi sylw dyladwy i'r ffaith bod y safle mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol pan oedd yn llunio ei argymhelliad.

 

 

 

Er bod y Cyngor Cymuned lleol yn credu bod y cynnig yn anaddas roedd y Cynghorydd C. McGregor, fel Aelod Lleol, wedi rhoddi sylw i'r cais mewn cyd-destun ehangach.  Yn ôl y Cynghorydd roedd y safle mewn cyflwr gwarthus ac wedi dirywio i'r fath raddau fel nad oedd modd, bron, atgyweirio'r adeilad.  Credai ef y buasai'r cynnig yn dod â manteision i'r gymuned leol a gallai fod yn atyniad i dwristiaid.  Roedd yr ymgeisydd a'r asiant wedi gweithio'n agos iawn ar y datblygiad ac roedd yn gwbl gefnogol i'r cais.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Arwel Roberts cafwyd cynnig i roddi caniatâd ac roedd yn croesawu'r newidiadau i'r fynedfa gan gredu bod hynny'n creu mantais gynllunio.  Gan y Cynghorydd J. Penri Williams cafwyd cefnogaeth i'r cynnig.

 

 

 

Wedyn ymatebodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i gwestiynau ynghylch troedbrint presennol y safle a chadarnhau bod yr un arfaethedig yn bur debyg ond bod rhan o'r unedau gwyliau yn mynd i ymwthio i ran o'r safle a oedd yn wyrdd.  Atgoffwyd yr aelodau gan y swyddogion a'r Cadeirydd bod y swyddogion wedi bod ar gael yn Siambr y Cyngor am hanner awr cyn agor y cyfarfod a hynny i bwrpas ymateb i ymholiadau penodol gan aelodau ynghylch ceisiadau unigol - roedd trefniant o'r fath yn caniatáu digon o amser i'r swyddogion ddarparu ymateb manwl a chywir.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn gwrthwynebu maint y datblygiad mewn ardal wledig a gresynai bod datblygwyr yn caniatáu i eiddo ddirywio i gyflwr drwg a hynny wedyn yn creu rheswm i roddi caniatâd cynllunio er mwyn gwella gwedd y safle.  Cynigiodd y dylid gwrthod y cais.  Roedd y Cynghorydd Durkin yn cefnogi'r sylwadau hynny ac er ei fod yn croesawu unrhyw welliant i'r fynedfa yn y lleoliad roedd yn dal i bryderu'n fawr ynghylch y cynnig.

 

 

 

Credai'r Cynghorydd Eurfryn Davies bod angen gwella'r safle ac o'r herwydd roedd yn croesawu'r cynnig.  Hefyd roedd y Cynghorydd Chorlton yn cefnogi argymhelliad y Swyddog i ganiatáu a dywedodd wrth yr aelodau bod modd i'r perchnogion ailagor y gwesty, defnyddio'r fynedfa oedd yno - petaent yn dymuno gwneud hynny.  Roedd yn croesawu'r gwelliant i'r fynedfa bresennol.  

 

 

 

Ni welai'r Cynghorydd Hefin Thomas unrhyw broblem ynghylch adfer y gwesty ond roedd yn gwrthwynebu'r bwriad i greu beth oedd, yn ei feddwl ef, yn bentref bychan ar y safle a hynny mewn ardal wledig ac mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol a gallai datblygiad o'r fath fod yn gynsail i geisiadau eraill.  Cynigiodd wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. T. Hughes.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

6.3 - 30C672A - Defnyddio'r annedd i gynnal busnes gwarchod plant yn Nhre-fin, Ffordd Amlwch, Benllech

 

 

 

Yn y cyfarfod cynt o'r Pwyllgor hwn gohiriwyd ystyried y cais yn ôl dymuniad y Cadeirydd a chafodd ei gyflwyno i'r Pwyllgor yr adeg honno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Ieuan Williams.

 

 

 

Mae'r safle ger priffordd yr A5025 ac arno mae ty sy'n rhan o res o dai cyffelyb.  Ar hyn o bryd mae'n cael ei ddefnyddio i gynnal busnes gwarchod plant hyd at uchafswm o 6 a'r cynnig gerbron yw codi'r nifer i 11.

 

 

 

Nododd yr Aelodau bod yr Awdurdod Priffyrdd yn argymell gwrthod y cais a'r Cyngor Cymuned Lleol hefyd am i'r cais gael ei wrthod am resymau priffyrdd.  Dygodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw'r aelodau at ei argymhelliad i wrthod gan ei fod yn mynd i niweidio pleserau preswylwyr yr ardal ac arwain at fwy o beryglon priffyrdd.

 

 

 

Mewn ymateb soniodd yr Aelod Lleol y Cynghorydd Ieuan Williams, beth oedd y busnes yn Nhre-fin ac mai cais syml oedd hwn i gynyddu nifer y plant o 6 i 11.  Soniodd bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cefnogi bod yma angen darpariaethau gofal yn yr ardal a bod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn fodlon fod digon o le yn yr eiddo i dderbyn 11 o blant.  Roedd yn derbyn pryderon yr Adain Briffyrdd ac yn dweud bod yr ymgeisydd yn fodlon cydweithio'n llawn i wneud unrhyw beth allai ostwng unrhyw risg.  Roedd y perchennog yn nôl y plant a chyfran ohonynt yn cerdded i'r ty.  Hefyd roedd yr ymgeisydd yn fodlon derbyn amod ynghlwm wrth y caniatâd, sef bod raid parcio ar Stad Craig y Don gerllaw.  Ni fedrai dderbyn bod y datblygiad hwn yn mynd i amharu ar bleserau cymdogion a gofynnodd am roddi caniatâd am gyfnod arbrofol 12 mis.  

 

 

 

Fodd bynnag, ni chredai'r Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Llwybrau Cyhoeddus) bod digon o le parcio ger yr eiddo ac ni fuasai'n ymarferol gorfodi amod i barcio 150 o lathenni i ffwrdd.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynlluniau y buasai'n anodd gorfodi amod o'r fath ac yn arbennig felly oherwydd anawsterau monitro.

 

 

 

Ond petai'r pum unigolyn ychwanegol yn aelodau o'r teulu dywedodd y Cynghorydd John Chorlton y buasent wedyn yn rhydd i fynd a dwad yn ôl eu dymuniad.  Credai ef bod modd rhoddi caniatâd am 12 mis i asesu a oedd yna broblemau ai peidio a chynigiodd roddi caniatad am gyfnod o 12 mis.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas mai ei ddymuniad oedd cefnogi'r cais ond ni allai wneud hynny oherwydd pryderon am ddiogelwch y briffordd.  Er gwaethaf pob bwriad da, credai ef bod rhieni, mewn tywydd gwlyb a gwyntog, yn mynd i ollwng eu plant y tu allan i'r eiddo.

 

 

 

Fel y Cynghorydd Thomas pryderon priffyrdd oedd gan y Cynghorydd Barrie Durkin hefyd.  Atgoffodd yr aelodau am y safle carafannau a gwersylla union gyferbyn â'r eiddo hwn a dywedodd bod yr ardal hon dan ei sang oherwydd pwysau traffig yn ystod misoedd yr haf.  Roedd ef hefyd yn gefnogol i'r cynllun ond roedd yn rhaid iddo barchu diogelwch y briffordd ac felly cynigiodd gwrthod y cais.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Chorlton am fanylion ynghylch damweiniau a gafwyd yn y safle gan ychwanegu na wyddai ef am run damwain yn ystod ei gyfnod o 30 mlynedd fel Swyddog Tân.  Ond roedd y Cynghorydd Durkin yn gwybod am sawl damwain yma ond bod y rheini yn rhai bychain ac o bosib heb eu cofnodi.  Soniodd gyda'r aelodau am y tro hir graddol i'r chwith wrth i gerbydau adael Benllech a chrybwyllodd y peryglon o symud yn ddifeddwl a mynd i wrthdrawiad gyda cherbyd wedi ei barcio.  Wedyn cafodd yr aelodau eu hatgoffa gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn gofyn am gynyddu nifer y plant i 11 a hynny yn mynd i greu mwy o bobl ac o draffig yn symud o gwmpas y safle - er bod y cyfleusterau parcio yno yn annigonol.  

 

 

 

Eiliwyd cynnig y Cynghorydd Barrie Durkin gan y Cynghorydd John Penri Williams, sef gwrthod y cais.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

6.4 30C83E - Dymchwel adeilad a chodi adeilad newydd - ac ynddo ystafell chwarae, swyddfa, derbynfa, ystafell ffitrwydd, ystafell gemau a storfa yn Dolydd, Pentraeth.

 

 

 

Yn y lle cyntaf cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol, y Cynghorydd B. Durkin ac ymwelwyd â'r safle ar 19 Awst 2009.  Llenwodd y Cynghorydd Durkin ffurflen Datganiad o Ddiddordeb a nodi arni y buasai'n cyfleu sylwadau ond peidio â phleidleisio ar y cais.

 

 

 

Yn y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a gafwyd ar 2 Medi roedd yr Aelodau wedi penderfynu caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddogion gan dybio bod y maint a'r lleoliad yn dderbyniol, nad oedd yn andwyol i bleserau a hefyd gan fod adeiladau o faint cyffelyb yn yr ardal a buasai'r cynnig hefyd o fudd i'r diwydiant twristiaeth.

 

 

 

Yn y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a gafwyd ar 7 Hydref, penderfynodd yr Aelodau ohirio gwneud penderfyniad terfynol hyd nes derbyn lluniadau yn dangos yn gywir lefelau'r safle a'r adeilad arfaethedig.  Wedyn yn y cyfarfod ar 4 Tachwedd gohiriwyd ystyried y cais oherwydd derbyn cynlluniau yn dangos y lefelau.  Rhoddwyd gwybod i'r cymdogion amdanynt a chaniatawyd cyfnod gofynnol 21 diwrnod o ymgynghori fel bod modd iddynt gyflwyno sylwadau.  

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio iddo dderbyn llythyr gan asiant newydd yr ymgeisydd yn dweud y buasai'n cyflwyno cynlluniau ychwanegol ac o'r herwydd gofynnodd y Swyddog am ohirio gwneud penderfyniad.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio gwneud penderfyniad ar y cais yn ôl dymuniad y Swyddog.

 

 

 

6.5 - 44C255B - Cais amlinellol i godi annedd a darparu tanciau septig newydd ar dir ger Llys Rhosyr, Penygraigwen

 

 

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd W. T. Hughes ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth nac yn y pleidleisio.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol a hefyd yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ar 4 Tachwedd, a chafwyd ymweliad ar 18 Tachwedd 2009.  Gwrthod oedd argymhelliad y swyddog gan fod yr annedd yn mynd i arwain at ddatblygiad rhubanaidd yn ymwthio i'r tirwedd ac nid oedd yn dderbyniol chwaith o safbwynt diogelwch y briffordd.

 

 

 

Ond credai'r Aelod Lleol, y Cynghorydd Aled Morris Jones y dylid caniatáu'r cais dan Bolisi 50 - Datblygiad ar Gyrion Pentref.

 

 

 

Ar ôl bod ar y safle ni fedrai'r Cynghorydd R. L. Owen gefnogi'r cais a chafwyd, gan y Cynghorydd Hefin Thomas gynnig i wrthod.  Eiliodd y Cynghorydd Owen y cynnig i wrthod.

 

 

 

Wedyn holodd y Cynghorydd T. H. Jones a oedd modd rhoddi caniatâd trwy gytundeb dan Adran 106.  Roedd y Cynghorydd J. A. Roberts yn gefnogol i hynny.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod disgwyl i'r Aelodau ystyried y cais fel y cyflwynwyd ef a pheidio â defnyddio Adran 106 i gyfiawnhau'r rheswm dros fynd yn erbyn argymhelliad y Swyddog.  Ni fedrai'r Cynghorydd Durkin gefnogi'r cais oherwydd bod hwnnw yn mynd i arwain at ddatblygiad rhubanaidd fel a ddigwyddodd ar safle arall.

 

 

 

Yn ôl yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) roedd y fordd yn droellog, ac nid oedd y gyffordd at y safle yn cyrraedd y safon.  Yn wir roedd ganddo bryderon difrifol ynghylch creu rhagor o draffig ar y ffordd hon.  Dywedodd wrth y Pwyllgor bod y briffordd trac sengl at y safle yn mynd i fyny ac i lawr ac yn droellog a hynny'n ychwanegu at anawsterau gweld tuag at ymlaen.

 

 

 

Ailadrodd yr hyn yr oedd wedi ei ddweud yn barod a wnaeth yr Aelod Lleol sef bod y cynnig yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 ac er ei fod yn parchu safbwynt y Swyddog Priffyrdd credai bod y rhan fwyaf o ffyrdd yr ardaloedd gwledig ar yr Ynys yn rhai y gellid eu categoreiddio fel rhai is-safonol ac felly roedd modd gwrthod pob datblygiad yn yr ardaloedd gwledig.  Hefyd atgoffwyd yr aelodau ganddo bod Penygraigwen yn unigryw a hynny am mai un ffordd oedd yn arwain i'r pentref a'r  ffordd honno oedd yn arwain allan hefyd.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

6.6  45C394 - Altro a gwneud gwaith ymestyn a darparu mynedfa newydd i gerbydau yn Ty Coch, Dwyran

 

 

 

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb gan y Cynghorwyr Eurfryn Davies a Jim Evans ac ni chymerodd yr un ohonynt ran yn y trafodaeth na'r pleidleisio.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Barrie Durkin ddatganiad o ddiddordeb am nad oedd yn bresennol ar yr ymweliad â'r safle.

 

 

 

Trosglwyddwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol ac oherwydd materion yn codi trosglwyddwyd y mater i'r Pwyllgor Cynllunio ar 4 Tachwedd pryd y penderfynwyd ar ymweliad.  Cafwyd yr ymweliad hwnnw ar 18 Tachwedd 2009.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod llythyr arall wedi dod i law heddiw yn crybwyll bod cwyn ffurfiol wedi'i chyflwyno i'r Ombwdsmon ynghylch materion draenio.  Fodd bynnag, credai mai cwyn gyffredinol oedd hon ac aeth ymlaen i ailadrodd ei argymhelliad, sef rhoddi caniatâd.  Ni welai ef bod yma unrhyw reswm i beidio gwneud penderfyniad.

 

 

 

Diolchodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Peter Rogers i'r Swyddogion a'r Aelodau hynny a fu ar yr ymweliad a soniodd am y llifogydd a gafwyd yn yr ardal yn 2004 pryd y gwnaed gwaith rhagorol gan yr Awdurdod Priffyrdd ar wyro'r dwr i ddraeniau ar y briffordd.  Roedd ef yn fodlon y buasai'r materion draenio yn y cais yn cael eu hanrhydeddu ac aeth ymlaen i fynegi unwaith eto ei gefnogaeth iddo.

 

 

 

Mewn ymateb i sylw ynghylch trosglwyddo rhybudd y penderfyniad i'r Swyddog Cyfreithiol cyn ryddhau'r rhybudd hwnnw a hynny gyda'r nod o sicrhau bod yr amodau draenio yn ddigonol dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol iddo ddarllen yr adroddiad a gwrando ar y drafodaeth ac ni welai ef bod yma unrhyw broblem yng nghyswllt rhyddhau'r rhybudd o benderfyniad - ond roedd yn fodlon cael golwg ar unrhyw ddogfennau y bydd y swyddogion yn dymuno eu trosglwyddo iddo.

 

 

 

Gan y Cynghorydd R. L. Owen cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. A. Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau hynny a amlinellwyd yn adroddiad y Swyddog.

 

 

 

 

 

7     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Nid oedd yma yr run cais economaidd.

 

      

 

      

 

8     CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     8.1  33C87F - Cais llawn i godi 34 o dai fforddiadwy a darparu mynedfa i gerbydau ac i gerddwyr ar dir yn y Gaerwen Uchaf, Gaerwen.

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor, sef y Cynghorydd Eric Jones. Cyflwynwyd rhybudd i'r Cyngor oherwydd bwriad y datblygwr i lifo dwr wyneb o'r cynllun i ddraen y Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yma gais llawn i godi 34 o dai a gwneud y gwaith isadeiledd cysylltiedig.  Roedd y fynedfa i gerbydau i'r rhan helaethaf o'r datblygiad rhwng rhifau 13 a 30 Gaerwen Uchaf tra bo rhan ogleddol y safle (sef 4 uned a chyfleusterau parcio cysylltiedig) gyda mynediad uniongyrchol i ffordd y stad ger 100 Gaerwen Uchaf.  Datblygiad amrywiol oedd hwn ac ynddo dai o bob maint a'r cyfan o ddyluniad deulawr ond bod thema'r manylion yn rhedeg drwy'r cyfan er mwyn rhoddi iddynt elfen o unffurfiaeth.  Buasai'r dwr wyneb yn llifo i system briffyrdd a uwchraddiwyd a'r bwriad oedd llifo'r garthffosiaeth i'r garthffos gyhoeddus.

 

      

 

     Roedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Eric Jones, yn rhagweld problemau difrifol o ran y briffordd a draenio petai'r cais yn cael ei ganiatau ac aeth ymlaen i gyfeirio at nifer y cerbydau sy'n defnyddio'r ffordd, a'r mwyafrif ohonynt yn troi i'r chwith wrth adael y safle lle nad oes pafin o gwbl.  Ond roedd yn cydnabod bod yr awdurdod priffyrdd yn ddiweddar wedi gosod twmpathau arafu yn yr ardal ac mae hynny wedi arafu cyflymder y traffig ond roedd yn dal i fod â phryderon gwirioneddol ynghylch y cerbydau ychwanegol fydd yn defnyddio'r lôn.

 

      

 

     Wedyn dyfynnodd y Cynghorydd Jones o lythyr a gafodd gan Dwr Cymru ym mis Hydref yn crybwyll y problemau sydd yno oherwydd rhoddi gormod o bwysau ar y garthffos ac yn argymell bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn gwrthwynebu unrhyw ddatblygiad ychwanegol a hynny er mwyn diogelu preswylwyr y lle a'r amgylchedd.  

 

      

 

     Hefyd roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wedi derbyn llythyr gan Dwr Cymru yn tynnu ei wrthwynebiad i'r cynnig yn ôl.  At hyn nid oedd Asiantaeth yr Amgylchedd na'r Adain Ddraenio yn gwrthwynebu'r cynnig.  Credai bod unrhyw bryderon gan y Cynghorydd Jones yn rhai yr oedd modd eu lleddfu dan amod 9 yr amodau cynllunio arfaethedig.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd J. Arwel Roberts yn croesawu tai fydd yn eiddo i Gymdeithas Dai a rhoes y swyddog sicrwydd iddo bod angen tai fforddiadwy yn ardal y Gaerwen.  Awgrymodd y Cynghorydd T. Jones y dylid diwygio amod 9 i nodi y bydd raid cytuno ar Gynllun Draenio cyn dechrau ar y datblygiad a dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod angen cynnwys cymal dan amod 9 yn dweud y bydd raid gweithredu ar y cynllun.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn amodol ar ddiwygio amod 9 fel y cyfeiriwyd at hynny uchod.

 

      

 

      

 

9     CEISIADAU CROES I BOLISI

 

      

 

     Ni chafwyd yr un cais croes i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

      

 

10     CYNIGION DATBLYGU A GYFLWYNWYD GAN GYNGHORWYR A/NEU SWYDDOGION

 

      

 

     10.1 019C1044 - Cais llawn i ddymchwel ty sydd yno a chodi 2 annedd yn Moryn, Seabourne Road, Caergybi

 

      

 

     Yr Aelod Lleol a ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor a chan fod y perchennog yn gweithio yn Adain Briffyrdd y Cyngor Sir ac yn gweithio'n agos gyda'r Adran Gynllunio.  Roedd y Swyddog Monitro wedi cael golwg fanwl ar y cais yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones, yr Aelod Lleol, am ymweliad gan fod 12 o bobl leol wedi gwrthwynebu a hynny oherwydd bod y lôn at y safle yn gul a oherwydd bod dyluniad arfaethedig y ddwy annedd yn  groes i gymeriad tai sydd yn yr ardal.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn unol â dymuniad yr Aelod Lleol.

 

      

 

     10.2 34C400A/CA - Caniatâd Ardal  Gadwraeth i ddymchwel Ysgoldy Capel Panuel, Llangefni

 

      

 

     Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan E. Gwyndaf Jones o'r Adran Gynllunio a'r Cynghorydd Eurfryn Davies ac nid oedd y ddau yn bresennol am y drafodaeth na'r penderfyniad ar y cais.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod un o Swyddogion yr Adran Gynllunio yn aelod o'r Capel a chafodd y cais hefyd ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r mater allweddol yma oedd effaith bosib y gwaith dymchwel ar yr ysgoldy a'c Ardal Gadwraeth Llangefni.

 

      

 

     Roedd y Swyddog Cadwraeth wedi gwrthwynebu'r bwriad i ddymchwel a chredai bod angen atgyweirio'r adeilad.  Ond ar y llaw arall roedd y Cwmni Yswiriant am weld yr adeilad yn cael i ddymchwel.  Ar ôl ystyried y sylwadau a ddaeth i mewn roedd y Swyddog yn argymell dymchwel yr adeilad ac argymhellodd y dylid rhoddi caniatâd.

 

      

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

      

 

     10.3 - 36C296A - Cynlluniau diwygiedig i godi annedd a garej ar wahân a darparu mynedfa i gerbydau ar dir ger Ty'n Gamdda, Llangristiolus.

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Swyddog Cynllunio (Gorfodaeth, Mwynau a Gwastraff) ac nid oedd yn y cyfarfod am y drafodaeth ar y cais.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd bod yr ymgeisydd yn gyfaill agos i swyddog yn yr Adain Rheoli Datblygu (Cynllunio).  Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

      

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

10.4 - 47C128 - Newid y defnydd o'r adeilad allanol er mwyn creu estyniad i'r annedd a darparu tanc septig y tu allan i libart Aber Sant, Llantrisant.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod o staff yr Adain Rheoli Datblygu (Cynllunio). Roedd y Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio'r cais yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

 

 

Yn ei adroddiad dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r bwriad oedd defnyddio'r adeilad allanol i fod yn rhan o'r ty, ac altro ac ymestyn y ty a darparu tanc septig ar dir y tu allan i libart y lle a bod gofyn i'r aelodau yn arbennig ystyried dyluniad y cynllun arfaethedig.  Argymhelliad o ganiatáu oedd gan y Swyddog.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

 

 

11     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     11.1 - 11LPA917/CC - Gwelliannau amgylcheddol yn Sgwâr Porth Amlwch a ger yr Harbwr, Porth Amlwch

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor yw perchennog y tir a hyn yn cynnwys Stryd y Cei, Stryd y Cei Uchaf ac ar hyd yr harbwr.

 

      

 

     Eglurodd y Swyddog Rheoli Cynllunio bod sawl gwelliant yn cael ei gyflwyno yma a hynny'n cynnwys llecyn chwarae, amffitheatr, cyfleusterau parcio, seddi, pafin, waliau cerrig, goleuadau, bolardiau, arwyddion, cerfluniau, rheiliau, cysgodfan bws, a phlannu coed.  Nododd y swyddog bod y platfform i gael golwg ar yr olygfa wedi'i ddileu o'r cynllun am ei fod mewn man a allai amharu ar bleserau cymdogion a hynny am ei fod o bosib yn edrych drosodd ac mewn llecyn amlwg ac uchel.  Roedd y Swyddog yn dymuno ychwanegu amod at y rheini oedd yn ei adroddiad, sef:-

 

      

 

     "(06)  Er gwaethaf y cynlluniau a gyflwynwyd, bydd raid gosod y platfform arfaethedig i weld yr olygfa mewn man y cytunir yn ysgrifenedig arno gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol."

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda'r amod ychwanegol y gofynnodd y Swyddog amdano.

 

      

 

     11.2 - 12C22V - Troi annedd yn ddau fflat annibynnol a gwneud gwaith altro ac ymestyn  yr annedd a dymchwel yr adeilad allanol a chodi annedd newydd yn Tynygongl Cottage, Castle Square, Biwmares.

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R. L. Owen, ac er nad oedd ef yn gwrthwynebu'r bwriad i addasu'r annedd roedd yn pryderu'n fawr ynghylch dymchwel wal sy'n rhan o wal y dref ac a godwyd yn 1295.  Gofynnodd am ymweliad fel bod Aelodau'n cael cyfle i weld y cynnig drostynt eu hunain - yn hyn o beth cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.

 

      

 

      

 

     11.3 - 19C822B - Cynlluniau llawn i godi 8 annedd a darparu myndfa newydd i gerbydau ar safle Gorsaf Trosglwyddo BT, London Road, Caergybi

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor oherwydd bod Rhybudd wedi ei gyflwyno i'r Cyngor a hynny oherwydd bod y cais yn ymwneud â thir sy'n eiddo i'r Cyngor a'i angen i greu mynedfa i gerbydau.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod materion draenio technegol wedi eu codi'n ddiweddar ac roedd angen eu datrys cyn penderfynu ar y cais a gofynnodd felly am ohirio'r drafodaeth.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol â dymuniad y Swyddog.

 

      

 

      

 

     11.4 - 29LPA913/CC - Cais ôl-ddyddiol i droi rhan o'r maes chwarae yn faes parcio yn Ysgol Ffrwd Win, Llanfaethlu.

 

      

 

     Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan y Cynghorwyr E. G. Davies, T. H. Jones a K. Hughes ac nid oedd y rhain yn rhan o'r drafodaeth nac o'r pleidleisio ar y cais.  Cymerwyd y Gadair gan yr Is-Gadeirydd y Cynghorydd Durkin ac ni chymerodd y Cynghorydd John Chorlton ran yn y drafodaeth ac ni phleidleisiodd ar y cais.

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn gais gan yr Awdurdod Lleol.  

 

      

 

     Wedyn dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod gwaith wedi ei wneud yn barod ar y cynllun a hwnnw'n golygu troi rhan o'r maes chwarae yn lecyn parcio ceir i'r ysgol.

 

      

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

 

 

11.5 - 34LPA885B/CC - Caniatâd Ardal Gadwraeth i ddymchwel pont 'Bailey' ar draws Afon Cefni ger prif faes parcio, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno am ei fod yn gais ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cais oedd yma am ganiatâd Ardal Gadwraeth i ddymchwel y bompren rhwng y prif faes parcio a maes parcio hen Neuadd y Sir.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

 

 

11.6 - 34LPA855D/CC - Ymestyn y maes parcio a darparu llwybrau a gwneud gwaith tirlunio yn Neuadd y Sir, Ffordd Glanhwfa, Llangefni

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno am ei fod yn gais ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yma gais i ymestyn y maes parcio a hynny'n cynnwys darparu llwybrau a gwneud gwaith tirlunio ym maes parcio Neuadd y Sir, Llangefni.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

11.7 - 46C437B - Dymchwel adeiladau allanol a chodi garej a lle byw ategol yn Gwelfor, Lon Isallt, Trearddur.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Eric Roberts, a nododd ef fod cais cyffelyb wedi ei wrthod yn 2008 gan yr Arolgyfa a hynny oherwydd colli preifatrwydd.  Gofynnod am ymweliad â'r safle.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn unol â dymuniad yr Aelod Lleol.

 

 

 

 

 

12     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio yng nghyswllt ceisiadau dirprwyedig a benderfynwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

      

 

13     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwywnyd a nodwyd copïau o grynodebau o benderfyniadau yr Arolygydd Cynllunio ar yr apeliadau a ganlyn:-

 

      

 

     13.1 - Tir yn Canada Gardens, Caergybi - Caniatawyd yr apêl;

 

     13.2 - Tir ger Tyddyn Engan a Tremarfor, Llaneilian - Gwrthodwyd yr apêl;

 

     13.3 - Plot ger Minnery, Rocky Lane, Benllech - Caniatawyd yr apêl.

 

      

 

      

 

14     MATERION ERAILL

 

      

 

     14.1 - 34LPA885C/LB/CC - Caniatâd Adeilad Rhestredig i gryfhau'r llawr yn yr Archifdy, Neuadd y Sir, Llangefni

 

      

 

     Nododd yr Aelodau y câi'r cais uchod ei yrru at Gynulliad Cenedlaethol Cymru i benderfynu arno yn unol â Rheoliad 13 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

 

      

 

     14.2 - 34LPA855E/LB/CC - Caniatâd Adeilad Rhestredig i adfer y talcen a gosod ffenestri teip bocs sash coed a chau agoriad yn y wal gyda gwaith cerrig o'r un fath â'r gwaith ar y wal yn Neuadd y Sir, Ffordd Glanhwfa, Llangefni.

 

      

 

     Nododd yr Aeolodau y câi'r cais uchod ei yrru at Gynulliad Cenedlaethol Cymru i benderfynu arno yn unol â Rheoliad 13 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

 

      

 

      

 

     RHAN B  -  GORCHMYNION

 

      

 

     GORCHYMYN CYNGOR SIR YNYS MÔN (GWAHARDD CERBYDAU MODUROL - AC EITHRIO I BWRPAS MYNEDIAD) (LON TAL Y DYFFRYN, AMLWCH) 2009

 

      

 

     Ystyriwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Chludiant) ar y mater uchod.

 

      

 

     Yn yr adroddiad nodwyd bod y Gorchymyn arfaethedig wedi ei baratoi mewn ymateb i gais gan breswylwyr lleol a'r Aelod Lleol, a chwynion ynghylch diogelwch y ffordd ac oherwydd bod cerbydau'n defnyddio'r ffordd fel llwybr cyflym o'r B5111 Mynydd Parys i'r A5025 a hefyd o'r cyfeiriad arall.  Ni chredwyd bod darpariaeth i arafu traffig yn addas yn y cyswllt hwn a'r Heddlu o'r farn, yn ystod y cyfnod o ymgynghori ar y Gorchymyn mewn ffordd anffurfiol, nad oedd modd cael presenoldeb Heddlu'n barhaol ar y ffordd.  Nid oedd modd gweithredu ar arwydd "Dim Mynediad ac eithrio i bwrpas Ymweld" onid oedd cerbyd yn cael teithio o'r naill ben i'r llall.  Fodd bynnag, nid oedd Heddlu Gogledd Cymru wedi ymateb nac yn gwrthwynebu'r llythyr ymgynghori ffurfiol TRO dyddiedig 13 Tachwedd 2009.

 

      

 

     Yn y cyfnod o ymgynghori ar y Gorchymyn Traffig ni chafwyd yr un gwrthwynebiad i'r Gorchymyn arfaethedig ond yn ystod y cyfnod ffurfiol o hysbysebu'r bwriad daeth dau wrthwynebiad i law.  Roedd y ddau wrthwynebiad yn sôn am yr anhwylustod ac un gyrrwr yn gorfod teithio milltiroedd ychwanegol ac ar hyn o bryd yn defnyddio'r cyswllt Tal y Dyffryn rhwng yr A5025 a'r B5111 a chyfeiriwyd at oruchwylio'r cyfyngiadau petai'r Gorchymyn yn cael ei gadarnhau.

 

      

 

     Yn yr adroddiad daethpwyd i'r casgliad nad oedd nifer y gwrthwynebwyr na sylwedd y gwrthwynebiadau yn adlewyrchu'r gefnogaeth gyffredinol i'r cynnig. Roedd yr Aelod Lleol wedi cysylltu gyda'r preswylwyr ar lôn Tal y Dyffryn ac yn cadarnhau bod y rheini yn dal i gefnogi'r cynnig.  Roedd cyfarfod safle wedi ei gynnal gyda'r preswylwyr lleol pryd yr oedd yr Aelod Lleol a Swyddogion o'r Adain Briffyrdd yn bresennol i bwrpas trafod y cynnig uchod a chytuno arno.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cadarnhau'r cynnig yn unol gyda'r Cynllun a'r Gorchymyn a hysbysebwyd.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Agorwyd y cyfarfod am 1.00pm a daeth i ben am 4.00pm

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD KENNETH P. HUGHES

 

     CADEIRYDD