Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 15 Mawrth 2006

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 15fed Mawrth, 2006

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 15 Mawrth, 2006

(eitemau a ohiriwyd o gyfarfod 8 Mawrth, 2006)

 

   

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

Councillor J Arthur Jones - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, WJ Chorlton, Eurfryn Davies,

Arwel Edwards, PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones,

RL Owen, D Lewis Roberts, John Roberts, W Tecwyn Roberts

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu

Rheolwr Rheoli Cynllunio

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy)JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) (RE)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol(RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cybnghorydd Denis Hadley

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:  Y Cynghorywyr WI Hughes - eitem 8.6,

Thomas Jones - eitem 8.7,  RG Parry OBE - eitem  9.1, 5.2,  

Hefin Thomas - eitem 8.4,8.5,9.2,9.9, John Williams - eitem 8.2,  

WJ Williams MBE - eitem 9.3, 9.4

 

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r eitemau canlynol a ohiriwyd:

 

 

CEISIADAU YN TYNNU’N GROES:

 

8.2

20C226  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER CLOVELLY, CEMAES

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Am y rhesymau a rhoddwyd yn yr adroddiad gwnaeth y Pennaeth Rheoli Datblygu argymhelliad o wrthod y cais hwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Williams fod y teulu hwn, ar hyn o bryd yn byw yn Llanfechell a bod modd gwneud gwaith gwella ar y fynedfa gan fod y tir o'i chwmpas yn eiddo i'r ymgeisydd. O gwmpas y safle roedd tua 15 - 20 o anheddau a'r cyfan y tu mewn i'r ardal cyfyngiad gyrru 30 - 40 mya.  Mewn ymateb i dudalen olaf adroddiad y swyddog fe ddywedwyd bod y safle mewn Ardal Tirwedd Arbennig ac y buasai'r cynnig yn amharu ar y gosodiad tirweddol ac o'r herwydd y câi'r cyfryw gynnig effaith annerbyniol ar bleserau ac ar gymeriad yr ardal.  Mewn ymateb i hyn dywedodd y Cynghorydd Williams fod y safle yn edrych draw tuag at Orsaf Bwer Niwcliar y Wylfa ac argymhellodd fod aelodau yn ymweld â'r lle i weld drostynt eu hunain.

 

Wedyn dywedodd y Rheowlr Rheoli Cynllunio bod y safle y tu allan i'r ffiniau datblygu swyddogol ac aeth ymlaen i'w hatgoffa o'r polisïau perthnasol gan ychwanegu nad hwn oedd y man na'r lle i adolygu polisïau.  

 

Gan y Cynghorydd R. L. Owen cafwyd cynnig yn erbyn ymweld a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd P. M. Fowlie.

 

Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i ymweld, cafodd ei eilio gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts gan dybio y buasai'r aelodau wedyn mewn gwell sefyllfa i wneud penderfyniad.

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ymweld â’r safle:  Y Cynghorwyr WJ Chorlton, J Arwel Edwards, J Arthur Jones, D Lewis Roberts, J Arwel Roberts, John Roberts, W Tecwyn Roberts (7)

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn yn erbyn ymweld â’r safle:  Y Cynghorwyr PM Fowlie,  Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen (4)

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

 

 

 

 

8.3

30C332E  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHODI GWEITHFEYDD TRIN DWR GWASTRAFF BREIFAT AR DIR GER GWELFOR, BWLCH, BENLLECH

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

Ar ôl cyhoeddi adroddiad y swyddog dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod 4 llythyr arall o wrthwynebiad wedi dod i law ac un llythyr yn gwrthwynebu.  Yr argymhelliad oedd gwrthod y cais hwn oedd yn gwyro.  

 

 

 

Oherwydd fod cymaint i'w weld yn y lle dywedodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts y dylid cael ymweliad a chafodd ei eilio gan y Cynghroydd D. Lewis-Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

 

 

8.4

35C108E  CAIS AMLINEOOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER TEGFRYN, LLANGOED

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

Yn absenoldeb y Cynghorydd John Rowlands anerchwyd y cyfarfod gan y Cynghorydd Hefin Thomas a oedd yn derbyn bod y safle y tu allan i'r ffiniau datblygu yn ôl y polisïau a'i fod hefyd y tu mewn i Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol; petai'r broses briodol i'r CDU wedi symud yn ei blaen buasai'r cynnig hwn yn dderbyniol hwyrach.  Fodd bynnag, credai'r Cynghorydd y dylid ystyried y cais fel un i lenwi bwlch oherwydd na fuasai'r cynnig yn ymestyn llinell y ffiniau datblygu a'i fod hefyd y tu mewn i glwstwr o ryw 20 o anheddau, yn union ger Haulfre a rhwng dau dy arall; gofynnodd i'r aelodau roddi sylw ffafriol i'r cais.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y ffiniau datblygu swyddogol wedi bod mewn grym ers 1996 ac nad oedd bwriad i newid y ffiniau.  Roedd hanes cynllunio'r safle yn berthnasol ac nid oedd y cais gerbron yn wahanol mewn modd sylweddol i geisiadau a wrthodwyd yn y gorffennol.

 

 

 

Teimlo yr oedd Y Cynghorydd R. L. Owen fod yma gais i lenwi bwlch ac roedd yn teimlo y dylid cefnogi pobl leol ac o'r herwydd cafwyd cynnig ganddo i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Edwards.

 

 

 

Am nad oedd y cais gerbron yn wahanol mewn modd sylweddol i rai y gorffennol cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Arthur Jones i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatau’r cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, O Glyn Jones, RL Owen.  Dyma pryd y cyrhaeddodd y Cynghorydd Eurfryn Davies a dywedodd ei fod wedi clywed y cais blaenorol a'i fod yn gefnogol ac o'r herwydd derbyniwdy ei bleidlais (4)

 

 

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i wrthod y cais ar argymhelliad y swyddog:   Y Cynghorwyr WJ Chorlton, PM Fowlie, J Arthur Jones, D Lewis Roberts, John Roberts, J Arwel Roberts W Tecwyn Roberts (7)

 

 

 

PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

 

 

8.5

35C250  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR YN BETTYN FIELDS, LLANGOED

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

Ar ôl cyhoeddi adroddiad y swyddog dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod 10 llythyr arall o wrthwynebiad wedi eu derbyn.

 

 

 

Yn ôl y Cynghorydd Hefin Thomas roedd sawl cenhedlaeth o'r teulu hwn wedi byw yn Llangoed a'r tir ym meddiant yr ymgeisydd.  Buasai'r cynnig gerbron yn creu cartref i blant yr ymgeisydd - cartref i deulu gweithgar iawn a oedd yn cyfrannu'n sylweddol yn y gymuned leol.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr WJ Chorlton, Arwel Edwards, PM Fowlie, J Arthur Jones, O Glyn Jones, D Lewis Roberts, John Roberts, J Arwel Roberts W Tecwyn Roberts

 

 

 

Ni chafwyd pleidlais i’r gwrthwyneb.

 

 

 

PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

 

 

8.6

36C213A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIC NEWYDD AR DIR GER RHIWGOCH ISAF, CERRIGCEINWEN

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd J Arthur Jones ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

Teulu ifanc lleol oedd yma meddai'r Cynghorydd W. I. Hughes ac ar hyn o bryd yn byw yn Rhiw-goch Isaf gyda theulu'r wraig, a thad y wraig yn cael iechyd gwael a'r mab-yng-nghyfraith yn gymorth mawr iddo.  Ni chafwyd yr un gwrthwynebiad yn lleol ac roedd y Cyngor Cymuned, Aelod y Cynulliad a'r Aelod Seneddol yn gefnogol.  Hefyd atgoffwyd yr aelodau gan y Cynghorydd Hughes o'r gostyngiad ym mhoblogaeth y cefn gwlad a hefyd yn nifer y disgyblion yn yr ysgol.  Yn ddiweddar roedd caniatâd wedi ei roddi i geisiadau tebyg - cais oedd hwn union ger y pentref, heb fod yn y cefn gwlad.  Nid oedd yr un eiddo ar werth yn yr ardal.  Wedyn cyfeiriodd at wrthwynebiad y Swyddog Priffyrdd ac ychwanegodd fod cerbydau trymion wedi teithio ar hyd y ffordd hon yn ystod cyfnod adeiladu'r A55.  Gofynnodd i'r aelodau roddi sylw ffafriol i'r cais.

 

 

 

Pwysleisio a wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn groes i'r polisïau ac y dylai aelodau fod yn gyson wrth wneud penderfyniadau ac ni chafwyd unrhyw dystiolaeth o blaid caniatáu'r cais hwn am resymau amaethyddol ac nid oedd cyswllt rhwng y cais â chanol yr un pentref.  Yn Llangefni yr oedd cartref yr ymgeiswyr.

 

 

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd W. I. Hughes bod gan yr ymgeiswyr dy Cyngor yn Llangefni ond nad oedd modd iddynt fyw ynddo ar ôl tân yn ddiweddar a, sut bynnag, roedd y ty hwnnw yn rhy fychan i anghenion y teulu.

 

 

 

Sylwodd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts bod cais wedi ei wrthod yn 2002 ar y safle ac roedd ef yn ansicr ynghylch ymateb yr Adain Briffyrdd.  Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod y fordd y cyfeiriwyd ati yn mynd heibio i safle'r cais.

 

 

 

Gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

 

 

Cynnig caniatáu a wnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatáu’r cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies,

 

PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen (5)

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr WJ Chorlton, Arwel Edwards D Lewis Roberts, John Roberts, J Arwel Roberts,  W Tecwyn Roberts (6)

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

 

 

8.7

38C228  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER FRON DERWYDD, LLANFECHELL

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

 

 

Person lleol angen cartref oedd yma meddai'r Cynghorydd Thomas Jones a'r Cyngor Cymuned yn gefnogol.  Roedd sawl ty yn y cyffiniau - caniatawyd un yn ddiweddar iawn.  Roedd y Cynghorydd Jones yn croesawu unrhyw fwriad i ymweld gan fod y cynllun yn ddiffygiol ac yn gamarweiniol - nid oedd tri thy wedi eu nodi ar y cynllun - enw un ohonynt oedd Hen Blas, ac un arall tua'r dde o Fron Derwydd a'r llall wedi ei ganiatáu'n ddiweddar a gwerthfawrogai'r Cynghorydd Jones petai modd cyflwyno cynlluniau yn ôl graddfeydd priodol i aelodau'r Pwyllgor yn y dyfodol wrth ystyried ceisiadau.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i ymweld a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd P. M. Fowlie a awgrymodd hefyd y dylid taflunio lluniau o'r cynlluniau ar sgrîn yn y cyfarfodydd.

 

 

 

Am nad oedd y safle y tu mewn i'r ffiniau datblygu nododd y Cynghorydd J. Arthur Jones ei fod yn tynnu'n groes i'r polisïau a chynigiodd wrthod y cais.

 

 

 

Gan nad oedd y gwaith adeiladu wedi dechrau ym Mron Derwydd dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio na fusasai'r annedd, o'r herwydd, yn ymddangos ar unrhyw gynllun a'i fod hefyd yn berffaith fodlon rhoddi i'r aelodau gynlluniau graddedig a ffotograffau wedi eu tynnu gan swyddogion ar ymweliadau i archwilio'r safle.  Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod yr ymgeisydd wedi cynnig darparu mannau pasio ar hyd y ffordd.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ymweld â’r safle:  Y Cynghorwyr PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen,

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  

 

Y Cynghorwyr John Chorlton, Arwel Edwards, J Arthur Jones, D Lewis Roberts, John Roberts, J Arwel Roberts, W Tecwyn Roberts

 

 

 

PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais yma oedd yn gwyro.  

 

9

GWEDDILL Y CEISIADAU:

 

   

 

9.1

16C52A  CAIS LLAWN ER MWYN ADNEWYDDU Y TY FFERM YNGHYD AG ADDASU AC EHANGU GONGL HELYG, CAPEL GWYN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

Gan y Cynghorydd R. G. Parry cafwyd disgrifiad o'r gwaith addasu y bwriedir ei wneud ar y ty fferm gwreiddiol (a ddisgrifiwyd fel adeiladau allanol) ac a gâi ei ddefnyddio fel darn ynghlwm wrth yr annedd bresennol ac ni ychwanegid yn fawr at yr adeilad presennol, dim ond darparu un ystafell wely ychwanegol.  Buasai'n gyfle i ddarparu lle i rieni i wraig yr ymgeisydd - ac i'r nain a oedd yn byw ymhell i ffwrdd.  I ryw raddau teimlai'r Cynghorydd Parry y buasai'r cynnig gerbron yn gostwng lefel y traffig oherwydd wedyn buasai'r teulu yn byw mewn un man - roedd hyn yn groes i ddehongliad yr Adain Briffyrdd a gredai y ceid cynnydd yn y traffig.

 

 

 

Dygodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw'r aelodau at ran 7 adroddiad y swyddog ac nad oedd treth Gyngor wedi ei thalu ar y rhan berthnasol ac o'r herwydd nid oedd modd ystyried honno fel annedd.  Hefyd credai'r swyddogion fod yr estyniadau arfaethedig yn rhai sylweddol.

 

 

 

Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones oedd nodi bod y bwriad hwn rhyw 30 llath draw o'r ffermdy, heb fod ynghlwm wrth yr annedd a sylwodd hefyd  “bod y gwaith altro ac ymestyn arfaethedig yn dominyddu gormod o ran maint a mas a byddai hyn yn y pen draw yn golygu colli cymeriad gwreiddiol yr adeilad”

 

 

 

Teimlai'r Cynghorydd Arwel Edwards y buasai o fudd ymweld â'r lle a chynigiodd wneud hynny a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies a'r Cynghorydd John Chorlton mewn cytundeb a hyn.

 

 

 

PENDERFRYNWYD ymweld â’r safle.

 

 

 

9.2     22C976D  NEWID DEFNYDD Y LLAWR CYNTAF I FFLAT YN Y GAREJYS, WERN HALL, WERN Y WYLAN, LLANDDONA

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod 12 llythyr o wrthwynebiad i law.

 

 

 

Roedd yma, yn nhyb y Cynghorydd Hefin Thomas, gais perffaith iawn a haeddai gefnogaeth y Pwyllgor.  Nid cais i godi adeilad newydd oedd hwn ond cais i addasu garejys yng nghanol adeiladau eraill a'r garegys yn addas i bwrpas addasu.  Gerllaw roedd stad fawr o dai ac am y rhesymau hynny roedd yn argymell caniatáu.  

 

 

 

Gerllaw, meddai'r Cynghorydd R. L. Owen, yr oedd neuadd y pentref a gwesty a chynigiodd roddi caniatád a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.  Gwyddai'r Cynghorydd D. Lewis-Roberts yn dda am yr ardal a chytunodd gyda'r ddau aelod arall.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatâu’r cais:  y Cynghorwyr John Byast, WJ Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, D Lewis Roberts, John Roberts, W Tecwyn Roberts

 

 

 

Ymatal: Councillors PM Fowlie, Aled Morris Jones, J Arwel Roberts

 

 

 

Y rheswm roddwyd dros ganiatau oedd y teimlai’r aelodau fod y cais hwn yn cydymffurfio a pholisiau ar addasaiadau.  

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatau’r cais yma.  

 

      

 

9.3     23C238A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL AR DIR YN BRYN CHWILOG, TALWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Gynt ni chredai'r Cynghorydd W. J. Williams fod sylw iawn wedi ei roddi i'r cais a chrybwyllodd fod Talwrn mewn gwirionedd yn dri chlwstwr o dai a'r safle yng nghanol clwstwr o rhyw 16 o dai ond serch hynny roedd yn cydnabod ei fod ar y ffiniau datblygu ac o'r herwydd ni chredai'r Cynghorydd Williams fod y cais hwn yn torri'r polisïau.  Nid oedd yr un ty na safle ar werth yn y lle ac roedd yr ymgeisydd yn ddyn ifanc lleol a'i dad o'i flaen wedi byw yma ac roedd plac yn y pentref i goffau ei daid.  Athro dosbarth adferol ym Mangor oedd yr ymgeisydd a'i deulu yn un ifanc.  Nid oedd modd gweld y safle gan ei fod y tu ôl i goed.

 

      

 

     Nid oedd modd cyfiawnhau rhoddi caniatâd, meddai'r Rheolwr Rheoli Cynllunio, o gofio fod cais eisoes wedi ei wrthod ym mis Ionawr ac nid oedd y cais gerbron yn wahanol i hwnnw.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais, cyfeiriodd Cynghorydd J. Arthur Jones at baragraff 7 adroddiad y swyddog ac eiliodd y cynnig i ganiatáu.

 

      

 

     Cynnig derbyn adroddiad y swyddog a wnaeth y Cynghorydd P. M. Fowlie, sef gwrthod y cais.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatâu’r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, WJ Chorlton, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, D Lewis Roberts, John Roberts, J Arwel Roberts W Tecwyn Roberts

 

      

 

     Ni chafwyd pleidlais i’r gwrthwyneb.  Roedd y Pwyllgor am ganiatáu'r cais oherwydd fod y cais yn cydymffurfio gyda pholisi 50 (pentrefi rhestredig) Cynllun Lleol Ynys Môn.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatau’r cais yma.

 

      

 

9.4     23C239  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN TAN YR ONNEN, TALWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd datganiad o dddiddordeb gan Mr Byron Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Tai a Gwasabaethau Cymdeithasol.

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd WJ Williams bod y safle o fewn clwstwr o dai ac yn cael ei adnabod fel “Talwrn Isaf”.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Glyn Jones roddi caniatâd i'r cais am ei fod yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     Holodd y Cynghorydd Eurfryn Davies am y cytundeb a wnaed dan Adran 52 yng nghyswllt caniatâd 23C14 yn Ebrill 1985; cafwyd eglurhad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod amod o'r fath yn gytundeb i atal rhagor o waith datblygu.

 

      

 

     Ond ychwanegodd y Cynghorydd W. J. Williams fod yr amod wedi ei roddi ynghlwm dros 20 mlynedd ynghynt ar dir cyfagos a bod mynedfa amaethyddol annibynnol i'r tir dan sylw.  

 

      

 

     Roedd yr aelodau'n unfrydol yn dymuno caniatáu gan deimlo bod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatau’r cais yma.

 

      

 

9.5     25C179  CREU PITS CHWARAEON BOB TYWYDD AR DIR GER YSGOL GYNRADD, LLANERCHYMEDD

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais yn effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor. Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr Evan D Jones o’r Adran Briffyrdd.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais yma.

 

 

 

 

 

9.6     28C368  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR O.S. 3821, BRYN DU

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Ar ôl cyhoeddi adroddiad y swyddog dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno llythyr yn dweud y bydd raid iddo adael ei gartref presennol cyn pen 12 mis.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Glyn Jones bu'n rhaid i'r ymgeisydd ymddeol ar sail iechyd o'i swydd fel Prifathro a'r landlord wedi rhoddi rhybudd iddo adael ei gartref ac o'r herwydd cynigiodd y Cynghorydd Jones roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. L. Owen.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts.

 

      

 

     Nodi a wnaeth y Cynghorydd John Roberts bod y safle union ger gorsaf drydan leol.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatáu’r cais: Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen (5)

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  

 

     Y Cynghorwyr John Byast, WJ Chorlton, J Arthur Jones, D Lewis Roberts, John Roberts, J Arwel Roberts (6)

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais.

 

      

 

      

 

9.7     30LPA863/CC  CAIS I OSOD SUSTEM CCTV SYSTEM YN YSGOL GORONWY OWEN, BENLLECH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn gais gan y Cyngor ar dir sy’n eiddo iddo.

 

      

 

PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais.

 

 

 

 

 

9.8     34C465C/TPO  CAIS I BONDOCIO 4 COEDEN WEDI EU DIOGELU DAN ORCHYMYN DIOGELU COED YN NANT Y PANDY,  LLANGEFNI

 

      

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais yn effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.  

 

 

 

Y bwriad yma oedd torri bonion bychain a allai farw beth bynnag a dim defnydd o gwbl iddynt wedyn - câi y deunydd ei drosglwyddo i Ganolfan Ddehongli Coedydd Llynnon i bwrpas codi tai crynion a mannau cysgodi.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais.

 

 

 

9.9     42C130A  DYMCHWEL YR ANNEDD PRESENNOL A CODI ANNEDD NEWYDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD SYSTEM TRIN CARTHION YN ISFRYN, TRAETH COCH

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol, hefyd ar gais Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.

 

 

 

Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Hefin Thomas i ymweld â'r safle gan fod y bwriad gerbron yn mynd i newid yn sylweddol gymeriad y bwthyn traddodiadol ac ar yr ymweliad hwnnw gofynnodd i’r swyddogion ddangos i'r aelodau y cynlluniau.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i ymweld a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

      

 

      

 

9.10      44C247  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD A CHODI MODURDY AR DIR GER GLASFRYN, LON GEFN, RHOSYBOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol, hefyd ar gais Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.  Yn y cyfarfod blaenorol cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     NODWYD fod y cais hwn wedi ei dynnu’n ôl.

 

      

 

      

 

9.11      45LPA862CC  ESTYNIAD I’R CWRTIL YN TYN FFYNNON, DWYRAN

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn gais gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir sy’n eiddo iddo.  

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais, gydag amodau, am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

      

 

10     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar faterion a ddirprwywyd ac y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

      

 

11     DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990 - ADRAN 77-

 

     YR HEN FAES CRICED, TREARDDUR (46C137D)

 

 

 

Cyflwynwyd - copi o lythyr yr Arolygfa Gynllunio yn dweud bod trefniadau wedi eu gwneud i Arolygydd Cynllunio ystyried y materion a chyflwyno adroddiad i sylw'r Cynulliad erbyn y dyddiadau a nodwyd.  I bwrpas cadw cofnod cywir fe ddylai darn perthnasol o Bolisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2002) y cyfeiriwyd ato yn y llythyr fod yn gyfeiriad at ddatblygiad preswyl nid datblygiad siopau.  

 

 

 

Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd gwybodaeth gefndirol am y cais ac mai'r dewis oedd hwn - unai mynd i wrandawiad anffurfiol neu i ymchwiliad ffurfiol a hefyd roedd angen enwi cynrychiolwyr i fynychu'r cyfarfod.

 

 

 

Wedyn soniodd y Cyfreithiwr am gostau ychwanegol a geid o benodi bargyfreithiwr i fynychu ymchwiliad ffurfiol a soniodd am ffurfioldeb y drefn a'r gallu i groesholi tystion.

 

 

 

PENDERFYNWYD enwebu'r Cynghorydd John Chorlton a J. Arthur Jones i gynrychioli'r aelodau mewn ymchwiliad ffurfiol.

 

12

APELIADAU

 

      

 

12.1      Y DOUGLAS INN, TREGELE

 

      

 

Cyflwynwyd a nodwyd penderfyniad yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apel yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod cais i newid ac ymestyn yr uchod i ddarparu bwyty mwy, creu 18 o ystafelloedd gwely i westeion gydag ystafell frecwast, clwb hamdden i westeion ac i aelodaeth leol, parcio helaeth gyda thirlunio caled a meddal  (cyf 20C28BECON) - caniatawyd yr apel.

 

 

 

12.2      LLWYDIARTH, LLANFAIRPWLLGWYNGYLL    

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd penderfyniad yr Arolygygdd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apel yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatad cynllunio amlinellol i godi byngalo ar dir cyfagos (cyf 31C175D)  - gwrthodwyd yr apel.

 

      

 

12.3      CRAIG WEN, 5 STRYD FAWR, BODFFORDD

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, penderfyniad yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apel yn erbyn hysbysiad o orfodaeth a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod hwn (cyf 2003/14/43), yr honiad oedd, heb ganiatad cynllunio, newid defnydd o ddefnydd cymysg preswyl a ffordd fynediad i ddefnydd cymysg, ffordd fynediad a pharcio bysiau - caniatawyd yr apel.

 

      

 

12.4      BWLCH Y FFOS, LLANDDONA

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, penderfyniad yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apel yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatad i gadw ffens postyn a pren a rheilen bresennol i’r briffordd a’r cwrtil a chadw’r llwybr bordiau pren tros y twyni  (cyf 22C11A) - caniatawyd yr apel.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Roberts ei fod yn siomedig na chafodd barn y gymuned leol sylw dyledus.

 

 

 

      

 

     RHAN 2 - GORCHMYNION

 

      

 

13

GORCHYMYN TRAFFIG

 

      

 

     DIM AROS - LÔN GRAIG/LÔN PANT/LÔN REFAIL, LLANFAIRPWLL

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr Richard Eames o’r Adran Briffyrdd yn yr eitem yma.

 

      

 

     Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Chludiant) adroddiad a phapurau cefndirol ar y pwnc a dywedwyd wrth yr aelodau beth oedd y sefyllfa ddiweddaraf a bod un gwrthwynebiad ar ôl i'w ystyried.

 

      

 

     Yn y lle cyntaf cofnodwyd pedwar gwrthwynebiad y tu mewn i'r cyfnod gwrthwynebu ac ar ôl ystyried sylwadau'r gwrthwynebwyr newidiwyd y cynigion 'Dim Aros' a hefyd penderfynwyd ar hyd llai o'r lôn i'r cyfyngiadau.  Hefyd cyflwynwyd camau eraill dan y cynllun i arafu traffig ar ôl derbyn cwynion y preswylwyr.  Rhoddwyd gwybod i'r gwrthwynebwyr am y newidiadau a'r rheini, ac eithrio un, i gyd yn fodlon.

 

      

 

     Nid oedd ty'r gwrthwynebydd yn ardal y cyfyngiadau ac roedd ei wrthwynebiad ef yn ymwneud â cherbydau yn symud i fan arall i barcio oherwydd y cyfyngiadau dim aros a hynny'n cael effaith ar ei dy.  Er nad oedd hwn yn fater i'r Pwyllgor ei ystyried nodwyd bod y gwrthwynebydd yn gwbl wrthwynebus i'r camau arafu traffig sydd wedi eu cyflwyno.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod pob peth bosib yn cael ei wneud i ddatrys y gwrthwynebiadau a diogelu'r ddarpariaeth Dim Aros.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gweithredu ar y Gorchymyn diwygiedig.

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 5.00 p.m. a daeth i ben am 6.30 p.m.

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD