Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 25 Gorffennaf 2007

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 25ain Gorffennaf, 2007

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar  25 Gorffennaf, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Denis Hadley (Is-Gadeirydd) yn y Gadair

 

Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies,

Arwel Edwards, Glyn Jones, J Arthur Jones,Thomas Jones,

Bryan Owen, RL Owen, John Roberts, Hefin Thomas,

WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Rheolwr Rheoli Datblygu (DFJ)

Arweinydd Tim (DPJ) ar gyfer eitem 10.6

Cynorthwywyr Cynllunio (BG & SM)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy)(JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHREURIAD:

 

Y Cynghorydd Arwel Roberts (Cadeirydd)

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:  Y Cynghorwyr RG Parry OBE - eitemau 9.2, 10.13, 10.14, G Allan Roberts - eitem 10.5

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb fel a nodwyd uchod.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd, cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gafwyd ar 4 Gorffennaf, 2007 (tud 123 - 140 Y Cofnodion hyn) gyda'r cywiriadau a ganlyn:  

 

39C254B  Hafod Wern, Porthaethwy (eitem 7.10 ar dudalen 10) fod y ffordd gwnaeth aelodau bleidleisio yn cael ei ad-drefnu i ddarllen:  

 

 

 

"Derbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatáu'r cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, Arwel Roberts

 

 

 

Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, J Arthur Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, Hefin Thomas, WJ Williams MBE"

 

 

 

a bod enw'r Cynghorydd RL Owen yn cael ei gynnwys ar y rhestr o aelodau a bleidleisiodd i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais.

 

 

 

19C966 8 Millbank Terrace, Caergybi (eitem 6.1 ar dudalen 2) cynnwys y canlynol:  Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards, yn ogystal pleidleisiodd y Cynghorydd Bryan Owen i ganiatáu'r cais.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Roberts, oherwydd trefniadau eraill gan y Cynghorydd John Byast ac ef ei hun, bod eitemau 7.8, 11.3 ac 11.4 yn cael eu dwyn ymlaen a’u hystyried ar ôl eitem 7.2 ac ymadawodd y ddau aelod yn syth ar ôl penderfynu ar yr eitemau hyn.

 

 

 

4

YMWELIADAU SAFLE

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel cofnod cywir, adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio gafwyd ar 18 Gorffennaf, 2007.  Nodwyd fod y Cynghorydd Eurfryn Davies wedi cyflwyno ymddiheuriad am ei absenoldeb o'r ymweliadau hyn.

 

    

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19LPA813B/CC  19LPA813B/CC  CAIS I NEWID AMOD (03) ER MWYN CANIATÁU MANYLION LLIFOLEUADAU AR ÔL DECHRAU'R GWAITH YN HYTRACH NA CHYN DECHRAU'R GWAITH YNG NGHYFLEUSTERAU CHWARAEON MILLBANK, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod wedi ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth. Ar 6 Mehefin a chan ddilyn argymhelliad y swyddog, i bwrpas asesu effaith y datblygiad ar dai cyfagos, penderfynwyd ymweld â'r safle ac fe gafwyd hyn ar 20 Mehefin 2007.  Adroddodd y swyddog fod canlyniad yr asesiad heb ei derbyn.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.2

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

31C134B  CAIS AMLINELLOL AR GYFER DATBLYGIAD PRESWYL YN CAE CYD, LLANFAIR-PWLL

 

 

 

Gan Mr Richard Eames o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol. Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 9 Mai, ac fe wnaed hynny ar 23 Mai, 2007.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod dwysedd datblygu wedi ei ostwng ac yn dangos tri bynglo ar wahan; roedd hyn yn fwy derbyniol a gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach i gwblhau ailymgynghori.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

31C346A  CODI ADEILAD AMAETHYDDOL I GADW ANIFEILIAID YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR YN FFERM SIGLEN, LLANFAIR-PWLL

 

 

 

Gan Mr Richard Eames o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i ymweld â'r safle; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

 

 

 

 

5.4

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

34C563/ECON  CAIS AMLINELLOL I GODI UNEDAU AR GYFER DEFNYDD CYFLOGAETH YN STAD DDIWYDIANNOL, LLANGEFNI

 

 

 

Gan Mr JRW Owen o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais yn effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.  Adroddwyd fod y cais hwn yn rhan o Gynllun Meistr Ailddatblygu Llangefni, un a gyflwynwyd i ac a gymeradwywyd gan Bwyllgor Gwaith y Cyngor yn ei gyfarfod ar 26 Chwefror, 2007.  Nodwyd y byddai'r safle yn estyniad i swyddogaeth fasnachol a chyflogaeth y Stad Ddiwydiannol gan gynnwys symud y gweithgareddau presennol.  Argymhellodd y swyddog ymweliad â'r safle tra bo gwaith ymgynghori yn mynd yn ei flaen.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle ar argymhelliad y swyddog.

 

 

 

6

CEISIADAU'N CODI

 

 

 

6.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

11C500  NEWID DEFNYDD YR HEN GAPEL I FOD YN WYTH FFLAT PRESWYL (YN CYNNWYS 2 UNED FFORDDIADWY)  YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA I GEIR YNG NGHAPEL BETHEL, STRYD WESLA, AMLWCH

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Byast ei fod am siarad fel aelod lleol ar y cais hwn ac na fuasai'n pleidleisio arno.  

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan yr honnwyd i ran o'r safle fod ym mherchnogaeth y Cyngor. Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 9 Mai, ac fe wnaed hynny ar 23 Mai, 2007.  Yng nghyfarfod mis Mehefin cafodd y cais ei ohirio er mwyn ystyried cynlluniau diwygiedig oedd yn gostwng maint y datblygu.  Dymuniad yr aelodau ar 4 Gorffennaf, 2007 oedd gwrthod y cais gan eu bod yn teimlo fod y fynedfa yn anaddas ac yn beryg. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i roi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ei wrthod.  

 

 

 

Roedd yr ymgeiswyr am apelio oherwydd methu â phenderfynu ar y cais hwn meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu;  byddai'r arolygydd yn ystyried hyn yn benderfyniad o wrthod.  Gofynnodd y swyddog a oedd yr aelodau'n parhau i fod o'r farn y dylai'r cais gael ei wrthod, os felly, bydd raid amddiffyn y rhesymau mewn gwrandawiad.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Byast ei fod wedi sefyll i lawr fel aelod o'r Pwyllgor yn y cyfarfod blaenorol ac ni phleidleisiodd ar y cais.  Fodd bynnag roedd yn gryf o'r farn fod y safle ar dro peryg ac y dylai'r cais gael ei wrthod am y rhesymau a roddwyd yn flaenorol.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Thomas Jones yn parhau i fod o'r farn y dylai'r cais gael ei wrthod a chynigiodd hynny.  Dyma hefyd oedd barn y Cynghorydd Hefin Thomas ac y dylid glynu wrth y penderfyniad o wrthod - roedd mynedfa'r safle yn is-safonol a'r ffordd yn beryglus yn y fan hyn.

 

 

 

Atgoffa'r aelodau a wnaeth y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yma ddwy fynedfa - un o'r cefn ac un o ffrynt yr adeilad a gofynnodd a oedd yr aelodau o'r farn fod y ddwy fynedfa yn beryglus.  Cadarnhau hyn a wnaeth y Cynghorwyr John Byast a Hefin Thomas.

 

 

 

Mewn ymateb i gais y swyddog, a chan mai gan y Cynghorydd John Chorlton y cafwyd cynnig i wrthod y cais yn y cyfarfod blaenorol, cytunodd y rheini oedd yn bresennol y dylai'r Cynghorydd Chorlton ddewis cynrychiolydd ychwanegol i gynrychioli'r Awdrudod yn y gwrandawiad o blith yr aelodau gymerodd ran yn y drafodaeth flaenorol.

 

 

 

I bwrpas cofnod, trwy'r Gadair, roedd y Cynghorydd Chorlton wedi cyflwyno ymddiheuriad y byddai'n cyrraedd y cyfarfod yn hwyr ac nid oedd yn bresennol yn y drafodaeth ar yr eitem hon.  

 

 

 

CYTUNWYD fod yr aelodau yn parhau o'r farn y dyali'r cais hwn gael ei wrthod oherwydd fod dwy fynedfa is-safonol yn gwasanaethu'r safle, a'r rhain ar bwynt peryglus yn y ffordd ac mai'r Cynghorydd John Chorlton ac un arall fyddai'n cynrychioli'r Awdurdod yn y gwrandawiad.  

 

 

 

6.2

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

14C199A  14C199A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER BYNGLO PARCIAU, TYN LÔN

 

 

 

Gan y Cynghorydd Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  

 

 

 

Yn y cyfarfod ar 4 Gorffennaf, 2007 penderfynwyd gohirio'r cais er mwyn i swyddogion gael rhagor o wybodaeth ar opsiynau eraill, e.e. addasiadau neu dai addas eraill ar werth yn yr ardal.  

 

 

 

Cafwyd cais trwy lythyr gan yr ymgeisydd i ohirio ystyried y cais meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu a hyn er mwyn cael mwy o amser i gyflwyno gwybodaeth y gofynnwyd amdani.  Roedd yr argymhelliad yn parhau i fod yn un o wrthod.  

 

 

 

Holodd y Cynghorydd Glyn Jones am y sefyllfa mewn perthynas â methu dod i benderfyniad, mewn ymateb dywedodd y swyddog mai ar gais yr ymgeisydd fyddai'r gohiriad.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i ohirio; a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

 

 

Ar gais yr ymgeisydd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

 

 

6.3

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

19C251L/ECON  CAIS AMLINELLOL I GODI SIOP GWERTHU BWYD AR DIR GER SAFLE KEEGANS & TRAVELODGE, KINGSLAND, CAERGYBI

 

 

 

Cymerodd y Cynghorydd Hefin Thomas y Gadair am y drafodaeth ar yr eitem hon gan fod y Cynghorydd Denis Hadley am siarad arni fel aelod lleol. Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o’r safle yn eiddo i’r Cyngor. Ar 6 Mehefin, 2007 penderfynwyd gohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn cwbwlhau’r gwaith ymgynghori ar rai pryderon penodol.  

 

 

 

Yma nododd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod rhagor o lythyrau o wrthwynebiad wedi eu derbyn ac roedd y rheini ar gael yn y cyfarfod - gwrthwynebiadau ar sail llifogydd, priffyrdd ac effaith y bwriad ar fusnesau lleol - materion oedd eisioes wedi’u codi ac wedi bod yn destun sylw yn adroddiad y Swyddog.  Nid oedd yr Adain Briffyrdd yn gwrthwynebu ond gydag amodau. Yr argymhelliad oedd caniatau.

 

 

 

Anghytuno â'r hyn a ddywedir ym mharagraff 1.2.3 PPW a wnaeth y Cynghorydd John Chorlton "it is not the function of the planning system to interfere with or inhibit competition between users of and investor in land or to regulate development for other than land use planning reasons"  hefyd gyda 4.1.7 PPW "the planning system does not exist to protect the private interests of one person against the activities of another". Dros gyfnod o amser roedd popeth bosib yn cael ei wneud i adfywio’r ardal hon meddai’r Cynghorydd Chorlton ac ni fuasai cynnig fel yr un hwn yn cynnig dim cefnogaeth i fusnesau bychain a oedd eisioes yn stryffaglio. O’rherwydd gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried effeithiau drwg y cynnig ar y gymuned i gyd a’i phreswylwyr.  Nid oedd gwrthwynebiad i’r egwyddor o ddatblygu’r safle a theimlwyd y buasai lle bwyta bychan yn well i’r ardal. Yn olaf gofynnodd y Cynghorydd Chorlton i’r aelodau ystyried y sylwadau gyda chydymdeimlad a chynigiodd wrthod y cais.

 

 

 

Cytuno yn llwyr gyda’r Cynghorydd Chorlton a wnaeth y Cynghorydd Denis Hadley a mynegodd bryderon dirfawr ynghylch effaith y datblygiad yn y tymor hir ar y gymuned a’i heconomi.  Amcan yr CDU a stopiwyd oedd gwella bywydau y gymuned leol nid creu rhwystrau - collid mwy o swyddi nag a greid.      

 

 

 

Cyfeirio at Bolisi 19 o Gynllun Lleol Ynys Môn  a wnaeth y Cynghorydd Glyn Jones "Applications for retailing outside existing shopping centres will be permitted where they:

 

 

 

i) are incapable, due to the scale and nature of their activities, of being built on land within existing centres

 

ii) do not harm the vitality or viability of existing centres as a whole

 

iii) are in locations convenient for public transport, delivery vehicles and private cars

 

iv) are within or adjoining existing settlements"

 

 

 

Hefyd nododd y Cynghorydd Glyn Jones for pryderon priffyrdd "Mae''r Awdurdod Priffyrdd wedi lleisio pryderon ynglyn â'r parcio a darpariaeth ar gyfer cerbydau gwasanaethu/danfon nwyddau ar y safle a hynny'n seiliedig ar y gosodiad a gyflwynwyd a lleoliad y datblygiad y tu allan i brif ganol y dref ... "

 

 

 

Teimlai’r Cynghorydd R.L. Owen bod y marchnadoedd mawrion yn llyncu’r holl fasnach a chafwyd sylw gan y Cynghorydd Eurfryn Davies bod un llythyr hwyr o wrthwynebiad yn dwyn sylw at lifogydd achlysurol ar y safle. Ond yn ôl y Cynghorydd John Chorlton nid oedd yma lifogydd.

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beirianydd Priffyrdd bod yr ymgeiswyr wedi cyflwyno cynlluniau gosodiad diwygiedig a bod y swyddogion yn fodlon gyda’r cyfleusterau parcio a’r llwybrau i gerddwyr; ond nid oedd materion eraill wedi eu datrys - pethau megis llecynau i’r methedig ac i barcio beics a darpariaeth i lorïau ddanfon nwyddau a man i gadw biniau sbwriel ond roedd modd rheoli’r  pethau hyn trwy amod.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Arthur Jones yma oedd nodi bod Asiantaeth yr Amgylchedd o’r farn bod y safle y tu mewn i ranbarth llifogydd C2; atgoffodd ef yr aelodau bod caniatâd wedi ei wrthod i dai yn Nhrearddur oherwydd fod y safle o dan sylw mewn rhanbarth llifogydd C2.  Gofyn am gysondeb a wnaeth y Cynghorydd Arthur Jones.   

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu'r aelodau at adroddiad y swyddog ble dywedwyd "Yn nhermau materion draenio a risg llifogydd, mae TAN 15 yn caniatáu datblygu masnachol o fewn ardaloedd risg llifogydd C2 yn amodol ar fesurau addas i ddelio â risg llifogydd.  Mae Asesiad Canlyniadau Llifogydd wedi ei gyflwyno ac mae'n dderbyniol gan Asiantaeth yr Amgylchedd a bwriedir gosod amod yng nghyswllt lefelau'r llawr gorffenedig. "  Atgoffodd yr aelodau mai cyfanswm o 372 metr sgwar oedd y datblygiad ac argymhellodd ganiatáu.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd John Chorlton yn fodlon amddiffyn penderfyniad i wrthod ar ddau bwynt - sef Polisi 19 Cynllun Lleol Ynys Môn a’r ffaith hefyd bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn cydnabod bod y safle hwn y tu mewn i ranbarth llifogydd C2 a chynigiodd wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr J Arthur Jones a Thomas Jones.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Glyn Jones, J Arthur Jones, Thomas Jones, RL Owen, John Roberts, WJ Williams MBE

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr Bryan Owen,

 

     Hefin Thomas

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

6.4     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     26C81A  TROI ADEILAD ALLANOL YN ANNEDD YN OLGRA, MARIAN-GLAS

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Elwyn Schofield.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod wedi ei gyflwyno gan aelod o'r Cyngor.  Ar 4 Gorffennaf, 2007 penderfynwyd ymweld â'r safle ac fe gafwyd hyn ar 18 Gorffennaf, 2007.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts yn ymwneud â ffiniau datblygu Marian-glas dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd y ffiniau datblygu yn berthnasol yn yr achos hwn a bod y cais yn bodloni pum maen prawf yng nghyswllt addasu adeiladau dan Bolisi 55 Cynllun Lleol Ynys Môn - mater y manylwyd arno yn yr adroddiad.

 

      

 

     Teimlai y Cynghorydd R.L. Owen, bod yr adeilad hwn yn addas iawn i’w droi yn annedd a chynigiodd yr egwyddor o ganiatáu.

 

      

 

     Canfod anghysonderau a wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones yn argymhellion y swyddog ar nifer o geisiadau i addasu. Roedd y Cynghorydd Jones yn cwestiynu ymatebion cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol a chafwyd cadarnhad y swyddog nad oedd Asiantaeth yr Amgylchedd nac Adain Ddraenio’r Awdurdod yn gwrthwynebu.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Jones yn ymwneud ag ymateb yr Adain Briffyrdd i ymgynghoriad cafwyd cadarnhad gan yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd nad oeddynt yn gwrthwynebu’r fynedfa a rhoddid amod ynghlwm i sicrhau y bydd digon o gyfleusterau parcio a llecyn digonol i droi ar y safle. Ynghylch cwestiynau y Cynghorydd Jones ar Bolisi EN2 yr CDU a stopiwyd, cadarnhodd y swyddog bod y safle y tu mewn i Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd WJ Williams cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, John Roberts, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd J Arthur Jones; hefyd y Cynghorydd John Chorlton a hyn oherwydd iddo gyrraedd yn hwyr tua diwedd y drafodaeth.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

6.5     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     28C349A  CAIS AMLINELLOL I GODI UN ANNEDD AMAETHYDDOL YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER TY MAWR, CAPEL GWYN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Tueddu i ganiatau'r cais oedd yr aelodau ar 4 Gorffennaf, 2007 a hynny gan ei fod yn un a gefnogwyd gan ADAS oedd yn credu fod angen annedd ychwanegol. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu.  Roedd yr argymhelliad yn parhau i fod yn un o wrthod y cais hwn oedd yn groes i bolisiau, meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.  

 

      

 

     Teimlo oedd y Cynghorydd Glyn Jones bod yr amgylchiadau yn yr achos hwn yn eithriadol.  Roedd Mrs. Owen yn dioddef gyda chyflwr iechyd oedd yn mynd o ddrwg i waeth a darllenwyd llythyr oddi wrth y Meddyg Teulu yn y cyfarfod.  Mr. Owen oedd yn gofalu amdani a’r bwriad oedd i’r mab a’r ferch yng nghyfraith gynnig cefnogaeth gyda gofalu a chefnogaeth ar y fferm ac roeddynt ar hyn o bryd yn byw yng Nghwynedd.  Darllenodd y Cynghorydd Jones ddyfyniadau o adroddiad ADAS yn cadarnhau fod y daliad amaethyddol hwn angen dau weithwyr allweddol amser llawn yn cyfateb i 797 o ddiwrnodau gwaith gan un dyn. Hefyd roedd angen i weithwyr amaethyddol fod ar gael bob amser a byw yn y cyffiniau agos.  Ym mholisi Cynllunio Cymru roedd cydnabyddiaeth i amgylchiadau personol a hefyd roedd argymhellion i gyfyngu i’r eithaf ar bellterau teithio a buasai y cais hwn yn cefnogi’r economi wledig leol hefyd.  Roedd yr ymgeisydd yn fodlon gwneud cytundeb dan Adran 106.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd J Arthur Jones a oedd y mab yn gweithio amser llawn ar y fferm. Wedyn ychwanegodd y Cynghorydd Glyn Jones bod y ferch yng nghyfraith wedi cael hyfforddiant priodol ac yn mynd i weithio yn llawn amser ar y fferm; y bwriad oedd i’r mab gynorthwyo ar y fferm.

 

      

 

     Ond teimlai’r Cynghorydd Arthur Jones bod adroddiad y swyddog yn gamarweiniol oherwydd honiad ynddo nad oedd yr ymgeisydd yn bodloni meini prawf angenrheidiol ynghylch oriau gweithio ac arian.

 

      

 

     Wedyn darllenodd y Cynghorydd Thomas Jones ofynion dan TAN 6 a theimlai bod yr adroddiad gan yr Ymgynghorwyr Amaethyddol o Reading yn tanseilio casgliadau proffesiynol ADAS - cytuno gyda ADAS oedd y Cynghorydd Jones, sef casgliadau bod y cais hwn yn bodloni meini prawf angenrheidiol ynghylch oriau gwaith ac arian.

 

      

 

     Yna cafwyd datganiad gan y Cynghorydd John Chorlton ei fod, o bosib, wedi gweithio gyda mab yr ymgeisydd rhwy 10 neu 15 mlynedd yn ôl - er hynny cafwyd cynnig ganddo i ganiatau’r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R L Owen a oedd yn fawr ei barch i’r cyngor yn adroddiad ADAS.

 

      

 

     Ond roedd y Cynghorydd Arthur Jones yn holi ai hwn oedd y lle iawn i annedd a holodd hefyd a oedd opsiynau eraill wedi cael sylw.  Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones nad oedd yr ymgeisydd yn dymuno trafod safleodd eraill posib.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Glyn Jones, J Arthur Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Denis Hadley, John Roberts

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol ac i ganiatáu'r cais hwn, yn groes i argymhelliad y swyddog, gydag amodau safonol yn cynnwys Cytundeb 106 (ty amaethyddol).

 

 

 

6.6     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     31C27G  NEWID DEFNYDD Y GAREJ/GWEITHDY I UNED BRESWYL YN Y STABLES, LLANFAIR-PWLL

 

      

 

     Gan Mr Richard Eames o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Ar 4 Gorffennaf penderfynwyd ymweld â'r safle ac fe gafwyd hyn ar 18 Gorffennaf, 2007.  

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at lythyr oddi wrth yr ymgeisydd oedd gerbron y cyfarfod, cyfeiriod hefyd at adroddiad manwl y swyddog. Yr argymhelliad oedd un o wrthod.  

 

      

 

     Credai’r Cynghorydd Arwel Edwards bod yr adeilad yn gwbl addas i’w addasu ond roedd yn anfodlon iawn gyda lleoliad y safle a chytunodd y dylid gwrthod y cais. Teimlai’r Cynghorydd Edwards fod hon yn un ardal sensitif a gallai caniatad greu cynsail i ragor o geisiadau.  

 

      

 

     Ond teimlai’r Cynghorydd J Arthur Jones fod adroddiad y swyddog yn afresymol a gormod o bwyslais ynddo ar debygolrwydd yn hytrach na chanolbwyntio ar bolisiau; beth bynnag am oed yr adeilad roedd y cais yn cydymffurfio yn llawn gyda’r polisiau ar addasu hen adeiladau.  Wedyn tynnodd y Cynghorydd Jones gymhariaeth rhwng y cais hwn a'r cais i addasu dan eitem 6.4, y cofnodion hyn - cais y tybiai ef ei fod yn y cefn gwlad agored. Aeth ymlaen i gynnig caniatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton. Yn yr un modd cymharodd y Cynghorydd John Roberts y cais hwn gyda’r cais arall dan 6.4 y cofnodion hyn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arwel Edwards cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Thomas Jones a gredai y byddai caniatáu'r cais hwn yn gosod cynsail.  

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd Hefin Thomas bod safle’r cais hwn o’r golwg ac ni châi effaith ddrwg ar y tirwedd; wedyn cymharodd y cais hwn gyda chais arall i addasu yn Y Fali ac a wrthodwyd y mis cynt.  Roedd y safle yn agos i dai eraill ac i adeiladau allanol.

 

      

 

     Ond ni welai’r Cynghorydd Arthur Jones bod yna unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r gosodiad mai’r bwriad oedd codi garej ac yna addasu yr adeilad hwnnw yn fuan.Cwestiynu a wnaeth y Cynghorydd Jones a oedd yna unrhyw bolisiau yn cyfyngu ar wneud gwaith addasu cynnar.

 

      

 

     Teimlai’r Rheolwr Rheoli Datblygu bod adroddiad y swyddog yn agored, yn deg ac yn cyflwyno darlun cytbwys.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J Arthur Jones, RL Owen, John Roberts, Hefin Thomas

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Thomas Jones, Bryan Owen, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr Denis Hadley, Glyn Jones

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd fod y cais hwn yn cydymffurfio gyda pholisïau addasu ac nad oedd rheol yn erbyn addasiad cynnar.  

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

6.7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     31C343A  CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG I ADDASU AC EHANGU 1 LÔN Y WENNOL, LLANFAIRPWLL

 

        

 

     Gan Mr Richard Eames o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Ar 4 Gorffennaf penderfynwyd ymweld â'r safle ac fe gafwyd hyn ar 18 Gorffennaf, 2007.  

 

      

 

     Gwelai'r Cynghorydd John Roberts bod y cynlluniau diwygiedig yn foddhaol a bod camau wedi eu cymryd i leddfu gwrthwynebiadau blaenorol.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rheswm a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

7

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

7.1     11C122G/EIA  GWAITH TRIN CARTHFFOSIAETH YNGHYD A THIRLUNIO CYSYLLTIEDIG YN HEN SAFLE GREAT LAKES, AMLWCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod ynddo Asesiad o Effaith Amgylcheddol ynghyd ag Asesiad Arogleuon i ddarparu offer trin carthffosiaeth Amlwch a'r ardal o gwmpas.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a rhoddi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais gyda'r amodau a restwyd a chyda'r gofynion hysbysu a nodir dan reoliad 21 Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesiad Amgylcheddol) 1999 (fel y cawsant eu diwygio) fel y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

8     TAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i'w hystyriad gan y cyfarfod hwn.  

 

      

 

      

 

9

CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

9.1     35C262  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNED AR DIR GER FFERM LLANFAES, LLANGOED

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol, y Cynghorydd John Rowlands, a ddatganodd ddiddordeb yn y cais.  Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Hefin Thomas a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i ymweld â'r safle er mwyn i aelodau asesu'r sefyllfa.  

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rheswm a roddwyd.  

 

      

 

9.2     48C145B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GEIR AR GAE RHIF O.S. 0262 GER PENCRAIG, GWALCHMAI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol,

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd R G Parry fod yr ymgeiswyr dan sylw yn deulu lleol ifanc oedd angen ty mwy na’r un oedd ganddynt yng Ngwalchmai Uchaf. Gan fod prisiau tai yn yr ardal dros £200,000 roedd y teulu wedi cael cynnig tir iddynt godi cartref arno. Darperid lôn fechan i symud y plot yn nes at dai sydd eisoes yno. Roedd y cais cynt rhyw 100m y tu allan i’r ffin datblygu a'r cais presennol rhyw 50m draw o'r ffin. Roedd yr ymgeiswyr yn fodlon llofnodi cytundeb person lleol.  

 

      

 

     O edrych ar y cynllun a daflunwyd ar y sgrin credai’r Cynghorydd Glyn Jones ei fod bellach yn anghywir a bod y safle yng nghanol rhyw 20 o dai, ac o’r herwydd cafwyd cynnig ganddo i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     Gofynodd y Cynghorydd Jones a fyddai'r cais hwn yn dderbyniol petai’r polisi arfaethedig ar glystyrau gwledig mewn grym. Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod polisi dros dro yn cael sylw ar hyn o bryd a'i fod yn gynamserol; fodd bynnag roedd yntau'n teimlo nad oedd y safle yn rhy bell o'r ffin.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Glyn Jones, J Arthur Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, WJ Williams MBE

 

      

 

     Gwrthod y Cais yn unol ag argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Denis Hadley, John Roberts, Hefin Thomas

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd Arwel Edwards

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd y byddai'r bwriad yn creu cartref i bobl leol ac nad oedd tir arall ar gyfer datblygu yn y cynllun datblygu.  

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.  

 

      

 

      

 

10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1      11C288H  CAIS AMLINELLOL I GODI TAIR ANNEDD AR DIR MAES EDNYFED, AMLWCH

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd John Byast ac ni phleidleisiodd ar y cais.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     I bwrpas cofnod, cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais am dair annedd oedd hwn.  Roedd yr Adain Briffyrdd yn cynnig amodau.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Byast na fyddai'n cymryd rhan yn y drafodaeth gan fod ganddo deulu'n byw ar y stad; fodd bynnag yng nghyswllt amodau mewn perthynas â goleuo'r stryd, dywedodd y Cynghorydd Byast fod goleuadau wedi eu gosod ond nad oeddynt yn cael eu rhoi ymlaen a gofynnodd i'r swyddogion ymchwilio i hyn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i ganiatáu; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

      

 

10.2      12C141W  CODI YSTAFELL ARDDANGOS GWERTHU CYCHOD A SWYDDFA YM MHENRYN SAFNAS, BIWMARES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor.  

 

        

 

     I bwrpas cofnod, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y dylai paragraff cyntaf pwynt 7 o'r adroddiad "Prif Faterion Cynllunio - yr Egwyddor o Ddatblygu" ddarllen "polisi TO8 o'r CDU a stopiwyd" a dim Cynllun Lleol Ynys Môn; hefyd dylai amod (03) ym mhwynt 9 (argymhellion) ddarllen Dosbarth A1 yn hytrach na Dosbarth A3.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd RL Owen y byddai'r bwriad o fudd i'r economi leol a chynigiodd ganiatáu; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais, gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

10.3      12LPA880/CC  ADDASU AC AILWAMPIO LLYFRGELL, BIWMARES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor yw'r ymgeisydd a pherchennog y tir.    

 

      

 

     Ar yr amod fod y cyfnod ymgynghori'n dod i ben yn foddhaol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a rhoddi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

10.4     12LPA880A/LB/CC  CANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG AR Y GWAITH ADDASU AC AILWAMPIO LLYFRGELL, BIWMARMES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor yw'r ymgeisydd a pherchennog y tir.      

 

      

 

     Ar yr amod fod y cyfnod ymgynghori'n dod i ben yn foddhaol PENDERFYNWYD rhoddi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio roddi gwybod i CADW fod yr Awdurdod hwn yn dueddol o ganiatáu'r cais am y rheswm a roddwyd a chydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.   

 

      

 

10.5      19LPA879CC  CAIS AMLINELLOL I GODI DWY ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR TU ÔL I RIFAU 1 & 3 PARC FELIN DDWR, LLAIN-GOCH, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor yw'r ymgeisydd a pherchennog y tir.      

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd G Allan Roberts am ymweliad â'r safle, cafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd Glyn Jones; a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

10.6      25LPA712A/CC  GOSOD OFFER AWYRIAD I GYMRYD LLE'R OFFER TRIN CARTHION PRESENNOL A GWAITH PEIPIO CYSYLLTIEDIG, FFOSYDD CERRIG AC OFFER TRYDANOL AR DIR TREM YR WYLFA, CARMEL

 

      

 

     Gan Mr Dewi Francis Jones, y Rheolwr Rheoli Datblygu cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cymerwyd yr eitem hon gan yr Arweinydd Tim Cynllunio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor yw perchennog y tir.

 

     Roedd yr Adain Briffyrdd yn argymell caniatâd amodol meddai'r Swyddog Cynllunio ac roedd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 1 Awst, 2007.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog, ac ar gwblhau'r cyfnod ymgynghori'n foddhaol, rhoddi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

10.7      29C41A  CAIS LLAWN I NEWID DEFNYDD YR ADEILAD ALLANOL PRESENNOL I FOD YN ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN BRYN MAETHLU, LLANFAETHLU

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn gan Mr PA Roberts o'r Adain Rheoli Adeiladu.  

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfnynu arno gan fod yr ymgeisydd yn gweithio yn yr Adran Amgylchedd a Gwasanaethau Thechnegol.  

 

      

 

     I bwrpas cofnod, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr amodau cynllunio perthnasol, trwy amryfusedd, wedi eu gadael allan o adroddiad y swyddog a chyflwynwyd copi yn y cyfarfod. Yn ei lythyr dywedodd yr aelod lleol nad oedd yn gwrthwynebu; gan yr Adain Briffyrdd cafwyd amodau ynghylch draeniad tir ac nid oedd Asianataeth yr Amgylchedd yn gwrthwynebu; gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru cafwyd argymhelliad i gynnal arolwg ystlumod - yr argymhelliad oedd caniatáu.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd J Arthur Jones ganiatáu; roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn ansicr o'r gofynion ynghylch cynnal arolwg ystlumod a nodwyd fod y mater y tu allan i bwerau'r Pwyllgor Cynllunio - ni allai wrthwynebu arolwg ystlumod.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, ac ar gwblhau'r cyfnod ymgynghori'n foddhaol, rhoddi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn y cyfarfod.  

 

      

 

      

 

10.8      30C279C  ADDASU AC EHANGU MIN Y FFRWD COTTAGE, BRYN TEG

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Elwyn Schofield cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod etholedig.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

      

 

10.9       31C223M  CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG AR GYFER LLEOLIAD YR ANNEDD A GAREJ AR BLOT 14, LÔN DYFNIA, LLANFAIRPWLL

 

      

 

     Gan Mr Richard Eames o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. 

 

      

 

     Nodwyd mai'r bwriad yma oedd troi yr adeilad ar y plot, ac ychwanegodd y Cynghorydd John Roberts mai enw'r stad oedd Stad Gwern Gethin ac argymhellodd ymweliad a chynigiwyd hynny gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.  

 

      

 

      

 

10.10      33C28E/1  CAIS LLAWN I GODI IS-ORSAF DRYDAN YN CAE WIAN, GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais yn effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.   

 

      

 

     Roedd cymydog cyfagos wedi gwrthwynebu ar sail effaith ar iechyd a swn - doedd gan y Gwasanaethau Amgylcheddol ddim gwrthwynebiad i'r cais meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn cydymdeimlo gyda sefyllfa'r gwrthwynebydd a gofynnodd a oedd modd symud yr is-orsaf ymhellach draw.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

10.11      39LPA152F/CC  CODI FFENS 3m O UCHDRER YN YSGOL Y BORTH, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor yw'r ymgeisydd a pherchennog y tir.       

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

10.12       39C220C/DA  CYNLLUNIAU LLAWN I GODI DAU FLOC AML-LAWR I GYNNWYS 20 O APARTMENTAU YN MIN Y DON, STRYD Y PACED, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y bwriad yn un mawr a chan ei fod mewn ardal sensitif.  

 

      

 

     Gyda'r amod fod materion yn cael eu datrys yn foddhaol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a rhoddi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

10.13      48C106H  DILEU AMOD (07) SEF "BYDD RAID DARPARU LLWYBR TROED 1.8m  O LED YN CYRRRAEDD SAFONAU'R AWDURDOD PRIFFYRDD AR HYD FFRYNT Y SAFLE GER LLINELL Y CYRBIN A FFINIAU'R SAFLE CYN PRESWYLIO YN YR ANNEDD' ODDI AR GANIATÂD CYNLLUNIO 48C106G AR BLOT 3 UWCHLAW'R FFYNNON, GWALCHMAI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. 

 

      

 

     Flynoddoedd yn ôl rhoddwyd caniatâd cynllunio, meddai'r Cynghorydd RG Parry, i godi tai ar dri phlot, ond rhoddwyd amod cynllunio ynghlwm i ddarparu llwybr cerdded fel y disgrifir hynny uchod, a chredwyd y buasai'r ddarpariaeth honno'n costio o gwmpas £5,000 - £8,000 i'r ymgeisydd.  Roedd yr amod hwn ynghlwm wrth bob un o'r tri phlot ond nid oedd plot rhif 2 wedi ei ddatblygu hyd yma, ac o'r herwydd roedd llwybr o flaen plotiau 1 a 3 a bwlch o flaen plot 2.  Nid oedd llwybr cerdded rhwng y pentref a'r tai hyn, na dim chwaith yn ffrynt bynglos yr ochr draw i'r ffordd. Gofynnodd y Cynghorydd Parry am gefnogaeth y Pwyllgor i ddileu'r amod.

 

      

 

     Ond roedd yr amodau yma i bwrpas yn ôl y Cynghorydd John Byast a chafwyd cynnig ganddo i dderbyn argymhelliad y swyddog o wrthod.  

 

      

 

     Wedyn darllenodd y Cynghorydd J Arthur Jones ddarnau o baragraff 14 cylchlythyr 11/95 - na ddylid rhoddi amodau ynghlwm i roddi baich nad oedd modd ei gyfiawnhau ar ymgeiswyr ac ni ddylid gorfodi darpariaethau o'r fath onid ydynt yn bodloni'r holl feini prawf perthnasol, ac o'r herwydd cafwyd cynnig ganddo i ddileu'r amod.  

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd i'w adain ef argymell gwrthod yn 1995 gan fod y ffordd i fyny at y safle yn is na'r safon, heb lwybr cerdded a hynny yn andwyol i ddiogelwch y ffordd - cytunodd yr ymgeisydd i dderbyn yr amod a hefyd buasai'r llwybr yn creu gwelededd gwell i bwrpas cydymffurfio gyda'r gofynion.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i ymweld â'r safle; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     Atgoffwyd yr aelodau gan y Cynghorydd Denis Hadley bod gofynion ynghylch mantais gynllunio/ priffyrdd yn beth digon cyffredin gyda nifer fawr o geisiadau.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle hwn a hefyd y safle yn eitem 10.15 isod.  

 

      

 

10.14      48C106J  DILEU AMOD (09) SEF "BYDD RAID DARPARU LLWYBR TROED 2m  O LED YN CYRRRAEDD SAFONAU'R AWDURDOD PRIFFYRDD AR HYD FFRYNT Y SAFLE GER LLINELL Y CYRBIN A FFINIAU'R SAFLE CYN PRESWYLIO YN YR ANNEDD' ODDI AR GANIATÂD CYNLLUNIO 48C106D AR BLOT 1 UWCHLAW'R FFYNNON, GWALCHMAI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. 

 

      

 

     Cafodd y cais hwn ei ystyried ar y cyd gyda'r cais yn eitem 10.13 uchod pryd y penderfynwyd ymweld â'r safle.  

 

      

 

10.15      48C165  CAIS OL-WEITHREDOL I NEWID DEFNYDD TIR GWAG I FOD YN LLE CHWARAE I BLANT AR DIR TU ÔL I 73 - 80 MAES MEURIG, GWALCHMAI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor ac ar les i'r cyngor cymuned, a’r cyngor cymuned wedi gosod y parsel o dir i'r ymgeisydd.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i ganiatáu; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

12      CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

 

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.  

 

      

 

     YN CODI:

 

      

 

     16C32D Stryd Fawr, Bryngwran (rhif 8) nodwyd mai cais cynllunio amlinellol oedd hwn ar gyfer pedair uned ar ddeg a hynny'n cynnwys tai fforddiadwy.

 

      

 

     19C926A/LB Capel Ebenezer, Kingsland (rhif 12) cytunodd y swyddog y byddai'r swyddog achos yn cysylltu gyda'r Cynghorydd John Chorlton mewn perthynas â thynnu’r cais hwn yn ôl.  

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben am 3.15 p.m.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD DENIS HADLEY

 

     IS-GADEIRYDD YN Y GADAIR