Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 26 Gorffennaf 2006

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 26ain Gorffennaf, 2006

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

     Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf, 2006

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

Y Cynghorydd Denis Hadley - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies,

Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen,

John Roberts, WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu

Rheolwr Rheoli Cynllunio

Cydlynydd Sustemau - RhC (EW)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy)(JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) (RE)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

Y Cynghorwyr Arwel Edwards, PM Fowlie

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:  Y Cynghorwyr J Meirion Davies - eitemau 11.6,11.7, Derlwyn Hughes - eitem - 7.15, RLl Jones - eitemau 7.3, 7.4, D Lewis-Roberts - eitemau 7.10, 7.11, G Allan Roberts - eitemau 7.3, 7.4, Tecwyn Roberts - eitemau 10.2, 10.3, John Rowlands - eitem 7.13, Noel Thomas - eitem 7.12,  Hefin Thomas - eitemau 7.5, 7.12, 7.16, 7.17

 

1

PENODI IS-GADEIRYDD

 

Yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd J Arthur Jones o’i swydd fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn fe benodwyd y Cynghorydd Denis Hadley fel Is-Gadeirydd.

 

Mynegodd aelodau’r Pwyllgor eu gwerthfawrogiad i’r Cynghorydd J Arthur Jones am ei gyfraniad gwerthfawr fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor, rhoddwyd diolch hefyd i’r Cynghorwyr D Lewis-Roberts a Tecwyn Roberts - cyn aelodau o’r Pwyllgor.  Croesawyd y Cynghorydd John Chorlton yn ôl yn aelod o’r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cynghorydd RL Owen fod y Cynghorydd Fowlie’s wedi cael llwyddiant arbennig yn Sioe Frenhinol Cymru eleni yn Llanelwedd a dymuniad yr aelodau oedd ymestyn eu llongyfarchiadau iddo.

 

2

YMDDIHEURIADAU

 

Nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb fel a geir uchod.

 

3

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

   

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

 

4

COFNODION

 

 

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a gafwyd ar 5 Gorffennaf, 2006 (tud 148 - 166 y Gyfrol hon) yn amodol ar y cywiriadau a ganlyn:

 

 

 

Ei tem 6.1 - 12C352  Hen Salon Trin Gwallt, Biwmares  Pleidleisiodd y Cynghorwyr Aled Morris Jones a Glyn Jones i dderbyn adroddiad y swyddog.

 

Etem 6.11 33C252  Gadlys, Gaerwen  Pleidleisiodd y Cynghorydd Glyn Jones i dderbyn adroddiad y swyddog i wrthod y cais.

 

 

 

Eitem 9.2 20C226A  Clovelly, Cemaes  Pleidleisiodd y Cynghorydd Eurfryn Davies i dderbyn adroddiad y swyddog i wrthod y cais.

 

 

 

 

 

5

YMWELIADAU A SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar

 

12 Gorffennaf, 2006.  

 

 

 

 

 

6

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

6.1

12C66G  DYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL A CHODI PUM ANNEDD, CAFFI, PAFILIWN AC AILWAMPIO’R HEN BWLL NOFIO, BIWMARES

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 5 Gorffennaf, ac fe gafwyd hyn ar 12 Gorffennaf, 2006; gofynnodd y swyddog am ohirio ystyried y cais tra bo trafodaethau yn digwydd.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

6.2

30C385B  DYMCHWEL Y GWESTY PRESENNOL, CODI ADEILAD TRI LLAWR YN CYNNWYS 21 O FFLATIAU PRYNU-I-OSOD, PWLL NOFIO DAN DO YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ADDASU MYNEDFA I GERBYDAU PRESENNOL A GORSAF TRIN CARTHFFOSIAETH BREIFAT YNG NGWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 5 Gorffennaf, ac fe gafwyd hyn ar 12 Gorffennaf, 2006; gofynnodd y swyddog am ohirio ystyried y cais tra bo trafodaethau yn digwydd.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

 

 

7

CEISIADAU YN CODI O’R COFNODION

 

 

 

7.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C352  DYMCHWEL Y SALON TRIN GWALLT GWAG A CHODI TRI FFLAT YN NEW STREET, BIWMARES

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod mis Mehefin fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 22 Mehefin.  Dymuniad yr aelodau ar 5 Gorffennaf oedd gwrthod y cais am y rhesymau a ganlyn:  

 

 

 

Ÿ

y bwriad yn gorddatblygu’r safle

 

Ÿ

diffyg llefydd parcio yn yr ardal

 

Ÿ

3 llawr ddim yn cyfrannu i gymeriad yr ardal

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais hwn.

 

 

 

Dosbarthodd y Cynghorydd RL Owen ffotograff a chynllun i’r aelodau a chadarnhaodd ei wrthwynebiad blaenorol oherwydd uchder y cynnig.  Roedd yn teimlo y byddai’r cynnig yn llawer rhy fawr ac y byddai’n gorgysgodi’r adeiladau eraill yn y dref, a gofynnodd am i hwn gael ei dynnu’n ôl er mwyn dod i gyfaddawd trwy leihau ei uchder, neu fel arall fe ddylid ei wrthod yn ei ffurf bresennol.

 

 

 

Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i’r gwrthwynebiadau fel eu ceir yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Eglurodd y Swyddog Priffyrdd y byddai cyn ddefnydd y safle fel lle trin gwallt yn golygu dros 100 o symudiadau traffig y diwrnod, ac felly nid oeddynt yn gwrthwynebu.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd RL Owen yn anghytuno gyda hyn gan bod y gweithwyr a’r cwsmeriaid yn bobl leol ac ni fyddent wedi dod gyda char.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd J Arthur Jones yn gweld natur yr adeiladau yn y dref yn amrywiol mewn uchder, maint a chymeriad.

 

 

 

Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais; oherwydd uchder, maint a diffyg llefydd parcio a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd  Eurfryn Davies.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies,

 

RL Owen, John Roberts, WJ Williams

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu‘r cais:  Y Cynghorwyr John Byast,

 

John Chorlton, Denis Hadley, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, J Arwel Roberts

 

 

 

PENDERFYNWYD diddymu’r penderfyniad blaenorol a derbyn adroddiad y swyddog i ganiatáu’r cais hwn am y rhesymau a nodwyd,  a hynny’n unol ag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

 

 

 

 

7.2

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

17C387  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER GWYNFA, LLANSADWRN

 

 

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ar gais yr aelod lleol yn y cyfarfod blaenorol fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 12 Gorffennaf, 2006.

 

 

 

Dosbarthodd y Cynghorydd Eurfryn Davies gynllun ymysg yr aelodau; roedd yn gweld fod yna bellter o tua ¼ chwarter milltir rhwng “LLansadwrn Uchaf” a “Llansadwrn Isaf”  ac mae’r safle yn gorwedd rhwng y ddau; roedd y cynnig yn effeithio ar ardal yr ardd ac nid ar dir amaethyddol.  Roedd y Cynghorydd yn teimlo fod y cynnig yn cydymffurfio gyda pholisi 50.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y safle yn gorwedd y tu allan i’r ffin ddatblygu a’i fod felly yn tynnu’n groes i bolisïau; roedd y cynnig yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn a’r CDU.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones dywedodd y Swyddog Priffyrdd fod y fynedfa yn agos iawn i groeslon, nid oedd digon o welededd ymlaen i’r briffordd i gyfeiriad y de ac roedd hyn yn beryglus i ddiogelwch y ffordd.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd RL Owen yn tybio fod y safle ymysg clwstwr o rhyw 10 i 12 annedd, ac roedd stâd o dai Cyngor yn is i lawr y ffordd o’r safle.  

 

 

 

Gan nad oedd y safle yn y cefn gwlad cafwyd cynnig o ganiatáu gan y Cynghorydd Eurfryn Davies a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

 

 

Roedd y bleidlas fel a ganlyn:

 

 

 

 

 

Caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies,

 

Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn a oedd yn gwyro:  Y Cynghorwyr 

 

John Byast, John Chorlton, Denis Hadley, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts,

 

WJ Williams

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

 

 

7.3

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

19C712F  CAIS LLAWN I NEWID DEFNYDD AC AILDDATBLYGU’R EIDDO I 8 O UNEDAU PRESWYL YNGHYD A CHODI 43 O UNEDAU PRESWYL NEWYDD AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU YM MHORTH Y FELIN HOUSE, HOLYHEAD

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Yng nghyfarfod fis Mehefin fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 22 Mehefin.  Dymuniad yr aelodau ar 5 Gorffennaf oedd gwrthod y cais am y rhesymau a ganlyn:    

 

 

 

Ÿ

gorddatblygu - ni fuasai’n gweddu i’r ardal

 

Ÿ

pryder priffyrdd

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais hwn.  

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Cynllunio am gynnig y datblygwr o gyfaddawd i ddod tros y gwrthwynebiadau i orddatblygu trwy symud ymaith ddau floc fforddiadwy oedd wedi eu lleoli agosaf i’r adeilad rhestredig; roedd hyn yn rhoi lleihad o 10 o unedau ac yn gadael 41 uned yn gyfan gwbl ar y safle, sef 8 yn yr adeilad rhestredig a 33 o adeiladau newydd fel yr oedd yr ail dudalen o adroddiad y swyddog yn ei grybwyll o dan y teitl “Cynllun Arall yn Cael ei Gynnig yn Awr”; roedd y swyddogion yn gweld fod y cynllun diwygiedig a’r cynllun gwreiddiol hefyd yn dderbyniol mewn termau cynllunio, o osod amodau yn cynnwys Adran 106 ar dai fforddiadwy.  

 

Am resymau a roddwyd yn flaenorol roedd y Cynghorydd G Allan Roberts yn gofyn i’r aelodau lynu wrth y penderfyniad i wrthod y cais hwn gan ei fod yn teimlo nad oedd y cynnig yn unol nac yn gweddu gyda’i amgylchedd yn yr ardal cadwraeth - roedd Swyddog Amgylchedd Adeiledig y Cyngor yn gwrthwynebu.  Roedd y Cynghoryd RL Jones yn cytuno gyda safiad y Cynghorydd Allan Roberts, ac ychwanegodd nad oedd eisiau gweld ail gartrefi yn cael eu creu yma.  Roedd yn amhosibl lledu’r ffordd fynedfa, ac yn seiliedig ar ddau symudiad traffig i bob uned roedd ganddo bryderon ynglyn a’r cynnydd yn y traffig y byddai hyd yn oed 41 uned yn eu creu.

 

 

 

O ystyried cynnig yr ymgeisydd i gyfaddawdu, mynegodd y Cynghorydd John Roberts bryder pebai yna apel, roedd yn teimlo y dylai gefnogi’r cynllun diwygiedig fyddai’n lleihau cyfanswm yr unedau ac a fyddai hefyd yn cynnwys darpariaeth am dai fforddiadwy oddiar y safle.  Nid oedd y Cynghorydd John Chorlton yn teimlo fod y rhesymau a roddwyd gan ei gydweithwyr yn ddigon i gyfiawnhau gwrthod y cais.  Roedd y Cynghorydd J Arwel Roberts hefyd yn cytuno fod y cynnig diwygiedig yn gyfaddawd teg.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd WJ Williams fod y cynnig yn un mawr, nad oedd yn gweddu ac y byddai’n difetha’r amgylchedd.  Roedd gan Priffyrdd hefyd bryderon ynglyn a’r mater hwn gan nad oedd y ffordd yn cael ei hystyried yn un ddiogel.

 

 

 

Dywedodd y Prif Beiriannydd fod yr Adran Priffyrdd yn erbyn y cais hwn.  Nid oedd llecynnau pasio yn ddigon saff.  Roedd y ffordd yn gul ac yn is-safonol.  Roedd angen lledu y ffordd a gosod palmant.  Byddai’r Adran Briffyrdd yn erbyn hwn hyd yn oed pe byddai yna ddim ond 41 annedd.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Denis Hadley fe gadarnhaodd y swyddog priffyrdd fod y datblygwr yn bwriadu darparu dau lecyn pasio a phalmant, ac roedd asesiad effaith traffig wedi ei wneud.  Roedd yr adroddiad yn dod i’r casgliad fod llecynau pasio yn ddigonol yn hytrach na lledu’r ffordd a gosod palmant fel yr oedd yr Adran Priffyrdd ei eisiau.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu i ystyriaeth ofalus iawn gael ei roddi i’r cynllun gwreiddiol ac i’r cynllun diwygiedig ar ddefnydd tir,ac o ystyried popeth, yr argymhelliad oedd un o ganiatáu.  Roedd yn anghytuno gyda’r Adran Priffyrdd gan y byddai adeiladu ffordd newydd, fwy llydan, yn anaddas yn y lleoliad hwn.  Cadarnhaodd nad oedd y safle o fewn yr AHNE.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Allan Roberts fod y safle mewn ardal cadwraeth a gofynnodd am i’r cais gael ei wrthod gan ei fod yn ddatblygiad nad oedd yn gweddu.  Roedd tri uwch swyddog cynllunio, yn cynnwys y Swyddog Amgylchedd Adeiledig a’r Rheolwr Polisi Cynllunio wedi mynegi eu barn yn erbyn y cynnig.

 

      

 

     Cynnig o wrthod y cais a gafwyd gan y Cynghorydd RL Owen gan bryderu am yr effaith a gai’r bwriad ar yr AHNE o gwmpas y safle, roedd y Cynghorydd WJ Williams hefyd yn rhannu pryder yr aelodau lleol ac eiliodd y bwriad i wrthod y cais.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais:  Y Cynghorwyr John Byast,

 

     John Chorlton, J Arthur Jones, J Arwel Roberts

 

      

 

     Gwrthod y cais, gan gynnwys y cynnig o gyfaddawdu gan y datblygwr, a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Denis Hadley, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts, WJ Williams

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol i wrthod y cais, gan gynnwys y cynllun diwygiedig, am y rhesymau a roddwyd, yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

      

 

      

 

7.4     CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     19C712G/LB  CAIS ADEILAD RHESTREDIG I NEWID DEFNYDD AC AILDDATBLYGU’R EIDDO I 8 UNED BRESWYL YNGHYD A CHODI 43 O UNEDAU PRESWYL NEWYDD AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU YM MHORTH Y FELIN HOUSE, CAERGYBI

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Yng nghyfarfod fis Mehefin fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 22 Mehefin.  Dymuniad yr aelodau ar 5 Gorffennaf oedd gwrthod y cais fel a nodwyd yn eitem 7.3 uchod.

 

      

 

     Yn wyneb y penderfyniad a wnaed yn eitem 7.3 uchod cafodd y cais hwn ei wrthod hefyd.

 

 

 

 

 

7.5     CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     22C178A  CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL YR ADEILAD FFRAM PREN YNGHYD A CHODI ANNEDD AR Y SAFLE A CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER TAN Y GRAIG, LLANDDONA

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod blaenorol fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 12 Gorffennaf, 2006.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn ofynwyd ar yr ymweliad safle fe ddywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd unrhyw gofnod o hanes o ddefnydd cyfreithiol o’r safle hon fel Neuadd Eglwys/man cyfarfod cyhoeddus.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Cynghorydd Hefin Thomas fod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio cyn hyn fel Neuadd Eglwys, ac mai mater o farn oedd a ddylid cyfrif hyn fel rhywbeth oedd yn cadw ei ddefnydd cyfreithlon fel lle cyfarfod cyhoeddus neu fel safle fasnachol.  Gwasgarog iawn oedd natur cyffredinol y datblygu yn yr ardal; ymhellach ymlaen ar hyd y ffordd fe geir mast, stablau reidio ac o leiaf ugain o dai, roedd y tro yn y ffordd yn gorfodi cyflymdra o rhyw 15 mya yn y pwynt hwn, er mwyn gwella’r gwelededd roedd yr ymgeiswyr yn cynnig ail leoli’r fynedfa i bwynt mwyaf dwyreiniol y safle.  Person lleol oedd yr ymgeisydd a oedd yn dymuno dychwelyd i fyw yn y gymuned.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd RL Owen yn cofio bod Neuadd Eglwys ar y safle a chynigiodd ganiatáu’r cais, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

      

 

     Caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, 

 

     RL Owen, John Roberts, WJ Williams

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton,

 

     Eurfryn Davies, Denis Hadley, J Arthur Jones, J Arwel Roberts

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

7.6     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     23C73C  ADDASU AC EHANGU YN GLASFRYN, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Dymuniad yr aelodau yn y cyfarfod ar 5 Gorffennaf oedd caniatáu’r cais am y rhesymau a ganlyn:  

 

      

 

Ÿ

Roedd yr ymgeiswyr yn fodlon arwyddo Cytundeb 106 i gyfyngu defnydd y garejys i gadw ceir

 

Ÿ

credai’r aelodau nad oedd yr estyniad yn rhy fawr nac yn groes i gymeriad y cyffiniau

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd WJ Williams nad oedd ganddo unrhyw beth ychwanegol i’w ddweud i’r hyn oedd wedi ei ddweud yn barod, ac roedd yn cytuno fod maint y cynnig yn fawr, ond roedd yn teimlo ei fod yn gweddu gyda’r pethau oedd o’i amgylch ac roedd am gynnig canitatáu’r cais, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

      

 

     Caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Denis Hadley, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen,

 

     J Arwel Roberts WJ Williams

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast,  

 

     John Roberts

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais, am y rhesymau a roddwyd eisoes, a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog, yn unol ag amodau safonol.

 

      

 

7.7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     23C246  NEWID DEFNYDD YR HEN FELIN I ANNEDD, GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL YN PLAS LLANDDYFNAN, LLANGEFNI

 

      

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd datganiad o ddiddordeb ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a phleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod blaenorol, ag gais yr aelod lleol, fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 12 Gorffennaf, 2006.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod 12 llythyr yn gwrthwynebu wedi eu derbyn, ac roedd y rhain wedi’u rhoi gerbron yn y cyfarfod a’u crynhoi yn adroddiad y swyddog, roedd y cyngor cymuned lleol hefyd yn gwrthwynebu’r cais.  Danghoswyd OHP o’r safle a’r ardal o’i gwmpas yn y cyfarfod, roedd pob agwedd o’r cais wedi’i ymchwilio’n ddyfal, roedd y cynnig yn unol â pholisïau addasu ac yn cael ei weld yn dderbyniol, ni fyddai’n rhesymol gwrthod y cais hwn, ac felly yr argymhelliad oedd un o ganiatáu.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd WJ Williams wrth y cyfarfod fod hen loj y cipar gerllaw, sef Windmill Lodge, ac a elwir yn awr yn Bwthyn y Felin, - gyda chyfamod arno yn cyfyngu datblygu pellach. Roedd yn teimlo fod y cynnig yn y cefn gwlad agored ac na ellid ei sgrinio’n ddigonol; fe allai gael effaith ar fwynderau’r Granary trwy edrych trosodd i ffenestr llofft yr annedd.  Roedd yn gweld y cynnig yn un annerbynniol, ac roedd hefyd wrthwynebiad i leoli’r garej ddwbl arfaethedig ymaith oddi wrth yr anned a chreu ffordd fynediad newydd fyddai’n cael effaith ar ddau gae amaethyddol.

 

      

 

     Holi a wnaeth y Cynghorydd RL Owen am y goblygiadau petai’r datblygwr yn apelio yn erbyn penderfyniad o wrthod y cais.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd WJ Williams cafwydd cynnig i wrthod y cais, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Aled Morris Jones,

 

     RL Owen, John Roberts, WJ Williams

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Denis Hadley, J Arthur Jones, O Glyn Jones, J Arwel Roberts

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais, yn unol ag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

7.8      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     23C246A/LB  CAIS ADEILAD RHESTREDIG AR GYFER NEWID DEFNYDD Y FELIN SYDD DDIM YN CAEL EI DEFNYDDIO BELLACH I ANNEDD YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIG AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL YN PLAS LLANDDYFNAN, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog ac i argymell i CADW bod y cais hwn yn cael ei ganiatáu yn unol ag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

7.9      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     24C118B  CAIS LLAWN I GODI TRI ANNEDD COWRT, TAIR YSTAFELL WELY YN GAREJ TYN Y GRAIG, PENYSARN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Yng nghyfarfod fis Mehefin fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 22 Mehefin.  Ar 5 Gorffennaf roedd yr aelodau yn dymuno gohirio ystyried y cais i roi cyfle i swyddogion drafod y posibilrwydd o ostwng uchder y bwriad gyda’r ymgeisydd.

 

      

 

     Argymell caniatáu’r cais wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn union fel ag yr oedd wedi’i gyflwyno gydag uchder crib o 7.4m.  Nid oedd yr ymgeisydd yn barod i leihau ei uchder ac roedd y swyddogion yn gweld fod hyn yn dderbyniol - nid oedd uchder y cynnig yn ddim uwch na’r eiddo o’i gwmpas, ac yn wir yr oedd yn is na rhai o’r adeiladau.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn gweld y cynlluniau diwygiedig yn dderbyniol ac felly cynigiodd ganiatáu’r cais, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais: Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Denis Hadley, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts, J Arwel Roberts WJ Williams

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd Eurfryn Davies

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd ac yn unol ag amodau fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

7.10      CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     30C215D  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR GAE O.S. 3056 TYNYGONGL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Dymuniad yr aelodau ar 5 Gorffennaf oedd un o ganiatáu gan y teimlai’r aelodau fod y safle o fewn clwstwr.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais hwn oedd yn gwyro.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod llythyr ychwanegol wedi dod i law ac fod hwn gerbron yr aelodau, yr argymhelliad oedd un o wrthod y cais.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd D Lewis-Roberts gais ar i synnwyr cyffredin fod yn flaenaf ac y dylai’r cais hwn gael ei ganiatáu, mae’r safle yn gorwedd o fewn clwstwr tynn o ryw 26 annedd.  Mewn ymateb i gwestiwn cadarnhaodd y swyddog ganlyniadau boddhaol i brawf mândylledd.

 

      

 

     Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio a dywedodd mai’r diffiniad o glwstwr oedd yr un a geir yn y Cynllun Datblygu.  Nid yw yn dweud yno fod 10 annedd yn gwneud clwstwr.  Roedd tri chais yn yr ardal hon sydd mewn cefn gwlad agoredd a gofynnodd am gysondeb wrth benderfynu ar geisiadau ac roedd am atgoffa’r aelodau o sut y byddai’r cyhoedd yn gweld hyn pebai hwn yn cael ei ganiatáu, ac roedd am argymell yn gryf iawn fod y cais hwn yn cael ei wrthod am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

     Gan y Cynghorwyr John Chorlton a J Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Denis Hadley, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts WJ Williams

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

7.11      CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     30C412B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIG A CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER YSGUBOR WEN, LLANFAIR M E

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Dymuniad yr aelodau ar 5 Gorffennaf oedd un o ganiatáu gan y teimlai’r aelodau fod yma angen lleol, hefyd roedd yr ymgeisydd yn fodlon arwyddo Cytundeb 106 i rwystro rhagor o ddatblygu.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais hwn oedd yn gwyro.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod llythyr o wrthwynebiad ychwanegol a oedd wedi ei arwyddo gan lawer o bobl wedi ei gyflwyno 10 munud cyn i’r cyfarfod ddechrau.  Roedd y safle yn y cefn gwlad a’r argymhelliad oedd un o wrthod y cais.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd D Lewis-Roberts yn teimlo fod yma angen lleol - roedd pobl eisiau byw y drws nesaf i berthnasau - ac roedd yr ymgeisydd yn barod i wneud cytundeb Adran 106 i rwystro unrhyw ddatblygu pellach ac roedd yn cynnig mantais priffyrdd trwy ddarparu llefydd pasio.

 

      

 

     Atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynlluno yr Aelodau fod y cais hwn yn tynnu’n groes i bolisiau ac mai argymhelliad o wrthod oedd yma.

 

      

 

     Gan y Cynghorwyr John Roberts a J Arwel Roberts cafwyd cynnig o wrthod y cais.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast,

 

     John Chorlton, Denis Hadley, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     Caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  ni fwriwyd yr un bleidlais

 

      

 

     Ymatal:  Roedd y Cynghorydd WJ Williams am gofnodi ei fod wedi atal ei bleidlais.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

7.12      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     33C20X/2  CANOLFAN GASGLU STOC MARW ARFAETHEDIG AR BLOT 4, STAD DDIWYDIANNOL, GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd A Morris Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais.  Dywedodd y Cynghorydd RL Owen na fuasai’n cymryd rhan yn y drafodaeth gan fod ganddo gysylltiad â’r diwydiant amaethyddol cyn iddo ymddeol.

 

      

 

     Dymuniad yr aelodau ar 5 Gorffennaf oedd gwrthod y cais gan eu bod yn teimlo nad oedd y busnes yn gweddu i’r busnesau eraill ar y stad ddiwydiannol.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod cais.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Noel Thomas nad oedd y cynnig yn ateb materion amgylcheddol yn foddhaol iawn, roedd diwydiannau bwyd o bwys wedi’i sefydlu ar y stad ddiwydiannol, roedd DEFRA wedi lleisio pryderon ynglyn a’r cynnig yn ei ffurf bresennol, ac am resymau roddwyd yn flaenorol roedd yr argymhelliad yn un o wrthod, ac roedd hynny’n benderfyniad y byddai’n ei amddiffyn pe ceid apêl.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli cynllunio fod y cais yn cydymffurfio gyda pholisïau cenedlaethol a lleol, roedd pob agwedd o’r cynnig wedi ei ymchwilio’n ofalus, yr argymhelliad felly oedd un o ganiatáu.

 

      

 

     Oherwydd effeithiau arogleuon posibl ddeuai o le o’r fath, byddai’r Cynghorydd John Chorlton yn ei chael hi’n anodd i gefnogi argymhelliad y swyddog.  Cwestiynodd y Cynghorydd Glyn Jones pwy a fyddai’n rheoli ac yn monitro symudiadau’r cyrff anifeiliaid a chynigiodd wrthod y cais.

 

      

 

     O gymeryd i ystyriaeth pa mor agos oedd y diwydiannau prosesu bwyd, roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn teimlo nad dyma’r lle delfrydol i’r cynnig, ac eiliodd y cynnig i wrthod.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wrth y Pwyllgor, pe ceid apêl, byddai angen tystiolaeth y gellid ei chadarnhau dros wrthod y cais hwn.  Ni allai’r swyddogion amddiffyn y fath benderfyniad mewn apel.  Mewn ymateb i hyn ailadroddodd y Cynghorydd Noel Thomas ei ddatganiad y byddai’r cynnig yn cael effaith niweidiol ar ddiwydiannau prosesu bwyd eraill ar y stâd ddwiydiannol.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel ganlyn:  

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Denis Hadley, J Arthur Jones, O Glyn Jones, John Roberts, WJ Williams

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd RL Owen

 

      

 

     Cadarnhawyd y rhesymau canlynol dros wrthod y cais:

 

      

 

Ÿ

y safle yn anaddas i’r bwriad oherwydd yr effaith negyddol a gai ar yr ardal o’i amgylch, yn arbennig ar ddiwydiannau prosesu bwyd

 

Ÿ

effaith arogleuon

 

Ÿ

safle sensitif yn gyffredinol

 

      

 

Tynnodd y swyddog sylw’r aelodau i’r ffaith nad oedd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd wedi codi pryder ynglyn ag arogleuon.

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

7.13      CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     35C253  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR GAE S.H. 6180 PEN Y MARIAN, LLANGOED

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Yn y cyfarfod blaenorol fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 12 Gorffennaf, 2006. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod dau lythyr o wrthwynebiad ychwanegol wedi’u derbyn.

 

          

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Rowlands nad oedd ganddo ddim i’w ychwanegu i’r hyn y manylwyd arnynt yn y cofnodion blaenorol.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd RL Owen yn gweld fod yma ysgol, capel ac eglwys yn agos iawn i’r safle oedd, yn ei farn ef, o fewn y pentref rhwng Llangoed Uchaf a Llangoed Isaf, a chynigiodd gymeradwyo’r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y safle yn gorwedd tu allan i’r ffin ddatblygu yn nhermau polisi, ac o fewn AHNE, ac roedd am atgoffa’r aelodau am y pwysigrwydd o fod yn gyson ac argymhellodd yn gryf iawn fod y cais hwn yn cael ei wrthod.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorwyr J Arthur Jones a John Roberts.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Gwrthod y cais yn unol ag adroddiad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton,

 

     Eurfryn Davies, Denis Hadley, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts, WJ Williams

 

      

 

     Ymatal:  Councillors Aled Morris Jones, O Glyn Jones

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

7.14      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     39C397A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL AR DIR GER NODDFA, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Yn y cyfarfod blaenorol fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 12 Gorffennaf.   Gan y swyddog cafwyd cais i ohirio ystyried y cais tra roedd trafodaethau ar ddylunio yn parhau.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

7.15      CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     40C270A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD GWAITH TRIN CARTHFFOSIAETH BREIFAT AR GAE O.S. 7023, LLANALLGO

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dymuniad yr aelodau ar 5 Gorffennaf oedd un o ganiatáu gan y teimlai’r aelodau fod yma angen lleol. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais hwn oedd yn gwyro.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd eisoes, gofynnod y Cynghorydd Derlwyn Hughes am gefnogaeth i’r cais hwn ar safle, y credai ef, oedd yn foddhaol ac o fewn cyflymdra o 40 mya.

 

      

 

     Tynnodd y Swyddog Rheoli Cynllunio sylw’r aelodau at y ffaith fod y cais hwn yn un oedd yn groes i bolisïau, roedd y safle yn gorwedd tu allan i ganol y pentref ac nid oedd o fewn unrhyw glwstwr oedd yn wybyddus; nid oedd unrhyw dystiolaeth i gyfiawnhau canitatáu’r cais, pwysleisiodd y pwysigrwydd o fod yn gyson ac argymhellodd wrthod y cais yn unol ag adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd WJ Williams cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr

 

     Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, WJ Williams

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, Denis Hadley, J Arthur Jones, J Arwel Roberts

 

      

 

     Cadarnhaodd yr Aelodau mai angen lleol oedd y rheswm dros ganiatáu.

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol ac i ganiatáu’r cais hwn oedd yn gwyro, a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog, gydag amodau safonol.

 

      

 

7.16      CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     42C76A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNED YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN LLYS Y GRAIG, PENTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod fis Mehefin fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 22 Mehefin. Dymuniad yr aelodau ar 5 Gorffennaf oedd un o ganiatáu gan y teimlai’r aelodau fod yma angen lleol a bod y safle yn un oedd yn llenwi bwlch.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio i roi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais hwn oedd yn gwyro.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Cynghorydd Hefin Thomas ei ddatganiad blaenorol, cytunodd fod y safle y tu allan i’r ffin ddatblygu, fodd bynnag mae’n gorwedd ymysg clwstwr o sawl annedd.

 

      

 

     Barn y Cynghorydd RL Owen hefyd oedd fod safle’r cais ymysg clwstwr o dai, efallai y gellid ei ystyried fel mewnlenwi, roedd am argymell caniatáu’r cais, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais hwn yn glir yn tynnu’n groes i bolisiau, ni ddylai gael ei ystyried fel un a oedd yn llenwi bwlch gan fod y safle allan yn y cefn gwlad agored.

 

      

 

     Gwelai’r Cynghorydd Denis Hadley lawer o anghysondebau mewn adnabod “clystyrau”, mewn ymateb i hyn dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y safle o fewn clwstwr cydnabydddedig

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu’r cais, yn groess i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast,

 

     Denis Hadley, O Glyn Jones, RL Owen,

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr  John Chorlton,

 

     J Arthur Jones, J Arwel Roberts, John Roberts, WJ Williams

 

      

 

     PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

7.17      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     42C95H  CODI TANC OLEW NEWYDD YNG NGHARTREF PRESWYL BRYN CEIRIOS, PENTRAETH

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Ms Keira Sweenie o’r Adran Gyllunio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod o staff y Cyngor.  Ar gais yr aelod lleol yn y cyfarfod blaenorol fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 12 Gorffennaf, 2006.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn teimlo ei bod yn anheg i leoli’r tanc olew oedd tua 9’ - 10’ o uchder mor agos i eiddo’r cymydog.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog, argymhelliad y Rheolwr Rheoli Cynllunio oedd un o ganiatáu’r cais.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu‘r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol â’r amodau y manylir arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

8

CEISIADAU ECONOMAIDD:

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau economaidd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn

 

   

 

 

 

9     CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY:

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

 

 

 

10

CEISIADAU’N TYNNU’N GROES:

 

      

 

10.1      13C141A  CAIS LLAWN I GODI DEG ANNEDD AR DIR GER BRON Y GRAIG, BODEDERN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod safle’r cais ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.  

 

      

 

     Roedd y cynnig yn cyfateb i eithriad derbyniol oddi wrth bolisïau’r Cynllun Lleol, fyddai’n darparu deg o unedau tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol mewn pentref lle roedd diffyg amlwg o dai o’r fath.  Yn amodol ar dderbyn ymatebion boddhaol gan yr ymgynghorwyr oedd heb ymateb, yn cynnwys amod i ddarparu tai fforddiadwy, yr argymhelliad oedd un o ganiatáu.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, gyda’r amodau a fanylwyd arnynt yn yr adroddiad, gan gynnwys amod ar dai fforddiadwy.

 

      

 

10.2      30C332F  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD FFORDDIADWY YNGHYD A GOSOD SYSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH BREIFAT AR DIR YN GWELFOR, BWLCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Ar gyfer y cofnodion, dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod Bwlch i fod i gael ei gynnwys fel hamled a chlwstwr yn y CDU esblygol, ond ni chafodd y diweddariad hwn ei gymeradwyo, ac felly ni ellid rhoddi unrhyw bwysau iddo.  Roedd yr argymhelliad yn parhau yn un o wrthod.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts fe gadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais wedi ei gyflwyno fel un am “dy fforddiadwy”, ond nid oedd unrhyw dystiolaeth wedi ei ddarparu i gefnogi hyn.  Dywedodd y swyddog bod y Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol yn gofyn am dystysgrif morgais, datganiad(au) banc, a phrawf o waith gael eu cyflwyno gan yr ymgeisydd.  Cynigiodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts fod y penderfyniad ar y cais hwn yn cael ei ohirio er mwyn caniatáu i’r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth o’r fath.  

 

      

 

     Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am atgoffa’r aelodau i gais blaenorol gael ei wrthod ym Mai y flwyddyn hon, a’r teimlad bryd hynny oedd fod y safle yn y lle anghywir, ac fe ddanghoswyd OHP o’r safle a’r tir o’i amgylch.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd WJ Williams yn cytuno y dylid rhoddi cyfle i’r ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi ty fforddiadwy a chynigiodd fod y mater yn cael ei ohirio, eiliwyd hyn gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio penderfynu ar y cais i alluogi’r ymgeiswyr ddod a thystiolaeth i gefnogi ty fforddiadwy.

 

      

 

10.3      30C398D  CADW ANNEDD YNYS GANOL, BRYNTEG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad y Cynghorydd J Arthur Jones, cyn Is-Gadeirydd y Pwyllgor, oedd yn teimlo o bosib fod yma oblygiadau polisiau cynllunio.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts fod yr ymgeisydd, yn yr achos yma, wedi gwneud camgymeriad yn ystod gwaith ailadeiladu ar addasu’r adeiladau allanol, ac roedd yn teimlo byddai’r cynnig yn tacluso’r safle.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio’r aelodau i’r hanes cynllunio, ac roedd y cais yn groes i bolisïau. Roedd polisïau a chyfarwyddyd clir a phendant pan yn gwneud addasu - dim ond un wal oedd yn parhau i sefyll gyda gweddill yr adeilad wedi cael ei dynnu i lawr.  Gallai caniatáu hyn osod cynsail peryglus ar gyfer datblygiad newydd yn y cefn gwlad agored.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J Arthur Jones iddo archwilio’r safle a chwestiynodd os oedd y cynnig presennol ar yr un troedbrint â’r un oedd yn cael ei ganiatáu yn flaenorol o dan bolisiau addasu.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd hyn yn berthnasol yn yr achos hwn, mater o egwyddor ydoedd a mater o gynsail wrth ganiatáu tai newydd yn y cefn gwlad.

 

      

 

     Cododd y Cynghorydd Eurfryn Davies gwestiwn ar “gadw” a gofynnodd os oedd yn cael ei ddefnyddio yn flaenorol fel ty.  Nid oedd y Cynghorydd Tecwyn Roberts yn ymwybodol fod yr adeilad wedi cael ei ddefnyddio cyn hynny fel ty.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd John Roberts yn erbyn ceisiadau ol-ddyddiol a chynigiodd dderbyn adroddiad y swyddog i wrthod y cais.  Roedd y Cynghorydd Glyn Jones hefyd yn cwestiynu a fyddai hyn yn gosod cynsail.  

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd John Chorlton yn cytuno gyda’r ddisgrifiad “ol-ddyddiol”, roedd gan yr ymgeisydd ganiatâd oedd yn bodoli ar gyfer gwaith addasu, fodd bynnag, dim ond un wal o’r adeilad gwreiddiol oedd yn parhau ar ei draed.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod arolwg strwythurol boddhaol ynghyd â’r cais gwreiddiol am yr addasu ac roedd yr adeilad gwreiddiol wedi ei ddymchwel ar wahan i un wal.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr O Glyn Jones,

 

     RL Owen, J Arwel Roberts

 

      

 

     Caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast,

 

     John Chorlton, Denis Hadley, J Arthur Jones, WJ Williams

 

      

 

     Rhoddwyd y rhesymau a ganlyn dros ganiatáu:

 

Ÿ

caniatâd eisoes i addasu

 

Ÿ

maint y bwriad presennol o fewn troedbrint gwreiddiol

 

Ÿ

afresymol chwalu annedd sydd wedi dechrau ei adeiladu 

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais hwn sydd yn gwyro.  

 

      

 

10.4      31C170A  CAIS AMLINELLOL AR GYFER DATBLYGIAD TRIGIANNOL AR GAE RHIF O.S. No 1426, FFORDD PENMYNYDD, LLANFAIRPWLL

 

      

 

     Gan Mr Richard Eames o’r Adain Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Tra roedd y cynnig yn un oedd yn tynnu’n groes i Gynllun Lleol Ynys Môn, roedd wedi ei gynnwys yn ffin ddatblygu’r CDU ac yn destun i gytundeb yr Arolygwr.  Roedd 30% o’r tai wedi eu dyrannu fel tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol ac yn unol a pholisïau.  Roedd y swyddogion yn gweld fod yr egwyddor o ddatblygu preswyl yn dderbyniol ac yn argymell cymeradwyo’r cais.  

 

      

 

     Gwahoddodd y Cynghorydd John Roberts aelodau’r Pwyllgor i ymweld a’r safle, a’r rhesymau a roddwyd dros hyn oedd defnydd tir materion priffyrdd.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y byddai’r oedi yn caniatáu i’r ymgeisydd wneud apêl yn erbyn ddiffyg gwneud penderfyniad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

 

 

11

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1      10LPA865/CC  CAIS I GADW GWAITH A WNAED YN BAROD I WELLA GORSAF TRIN CARTHFFOSIAETH YNGHYD A CHREU FFOS GERRIG AC ARLLWYSFA NEWYDD I WASANAETHU DWY ANNEDD PRESENNOL AR DIR GER TAIR ONNEN, SOAR, BODORGAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan y gwneir y cais ar ran y Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo).

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau a fanylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

11.2 19C845A       NEWID DEFNYDD TIR AR GYFER LLEOLI ADEILAD PAROD I’W DDEFNYDDIO FEL CLWB YNG NGHANOLFAN HAMDDEN, KINGSLAND, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod safle’r cais ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.    

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog i ganiatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arwel Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau a fanylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

11.3      19C951  CODI STORFA YN SWYDDFA PEIBIO OFFICE, PEIBIO CLOSE, HOLYHEAD

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arwel Roberts cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a phleidleisio.   Cymerwyd y Gadair ar gyfer yr eitem hon gan y Cynghorydd Denis Hadley.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod safle’r cais ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

      

 

     Fe nodwyd fod cynllun anghywir ynghlwm i’r adroddiad ac fe ddosbarthwyd yr un priodol yn y cyfarfod.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau a fanylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

11.4      19C955 ADDASU FFRYNT PRESENNOL SIOP YN 15/17 STRYD Y FARCHNAD, CAERGYBI

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arwel Roberts cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a phleidleisio. Fe wnaeth Mr Robert Burnell, y cyfreithiwr, ddatgan diddordeb hefyd gan mai ei frawd yw’r ymgeisydd.  Cymerwyd y Gadair ar gyfer yr eitem hon gan y Cynghorydd Denis Hadley.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan mai aelod o staff yw asiant yr ymgeisydd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Denis Hadley.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau a fanylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

11.5      37LPA866/CC  CADW GWAITH SYDD WEDI EI WNEUD EISOES AR ORSAF TRIN CARTHFFOSIAETH NEWYDD A FFOS GERRIG I WASANAETHU CHWE ANNEDD AR DIR TU ÔL I BRYN LLEWELYN, BRYNSIENCYN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan y gwneir y cais ar ran y Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo).

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau a fanylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

11.6      39C166D  CADW GOSODIAD SAFLE DIWYGIEDIG A GANIATAWYD YN FLAENOROL DAN GANIATAD CYNLLUNIO  39C166B YNGHYD A CHYNLLUNIAU MANWL DIWYGIEDIG AR GYFER MATH O GABANAU SYDD I’W CODI AR Y SAFLE AR DIR YN REFAIL NEWYDD, PORTHAETHWY

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a phleidleisio

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Eglurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod caniatâd cynllunio yn bodoli ar gyfer y datblygiad, a bod y cais presennol yn un i ddiwygio gosodiad a dyluniad y siales, ac roedd yr argymhelliad yn un o ganiatáu’r cais.  

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd John Roberts ei bryder ynglyn a’r cynnig presennol a’i effaith ar y gymuned wledig leol, argymhellodd ymweliad safle.  Roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn rhannu’r pryderon hyn ac argymhellodd yntau ymweliad safle hefyd.  Roedd y Cynghorydd Glyn Jones yn cytuno y byddai o fantais cael gweld y safle.  

 

      

 

     Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y byddai amod yn cael ei osod fyddai’n cyfyngu ar unrhyw drigo yno i ddarpariaeth gwyliau.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle i asesu maint y datblygiad.

 

      

 

11.7      39C402  DYMCHWEL YR ADEILADAU ALLANNOL A DWY ANNEDD YNGHYD A CHODI 14 O ANHEDDAU DEULAWR, CREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR A GOSOD SYSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH YN FFERM TYDDYN ISAF, PEN LON, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr JRW Owen o’r Adain Briffyrdd yn y cais.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol yn wyneb diddordeb lleol sylweddol yn y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

      

 

      

 

11.8      43C77D  CAIS LLAWN I GODI TAIR ANNEDD AR WAHAN ADDASU AC EHANGU’R TY  PRESENNOL YNGHYD AG ADDASU A CHREU MYNEDFEYDD NEWYDD YN GERLAN PONT-RHYD-Y-BONT

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol, hefyd mae rhan o’r tir ym mherchnogaeth y Cyngor.   Gofynnodd y swyddog am ohirio ystyried y cais tra bo trafodaethau yn cymryd lle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

12     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

     YN CODI:

 

      

 

     11C482  Eglwys St Pedr, Amlwch (rhif 5 ar y rhestr) Roedd y Cynghorydd John Byast yn teimlo y byddai’r cynnig yn gorddatblygu’r safle a mynegodd ei bryderon; nodwyd fod yna wrthwynebiad yn lleol, yn cynnwys deiseb gyda 30 wedi ei harwyddo.  Gofynnod y Cynghorydd Byast i hyn gael ei gymryd i ystyriaeth pan yn rhyddhau’r caniatâd cynllunio.  

 

      

 

13

APELIADAU

 

      

 

13.1     TIR YN YR HEN GYFNEWIDFA DELEFFON, RHOSNEIGR

 

        

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, copi o grynodeb penderfyniad yr Arolygwr a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apel yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i godi garej ar wahân dan gais cynllunio cyf f: 28C236E - cafodd yr apel ei gwrthod.

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben am 4.00 p.m.       

 

      

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD