Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 27 Gorffennaf 2005

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 27ain Gorffennaf, 2005

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 27 Gorffennaf, 2005  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr Mrs B Burns, John Byast, Eurfryn Davies,

J Arwel Edwards, P M Fowlie, Denis Hadley, Aled Morris Jones,

J Arthur Jones, O Glyn Jones, R L Owen, D Lewis-Roberts,

John Roberts, W T Roberts.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)
Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)
Arweinydd Tîm (NJ)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)(JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd)(RE)
Myfyriwr (DLJ)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)
Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:

Y Cynghorydd Peter Dunning - eitem 4.10, R Ll Hughes - eitemau 4.14, 6.3, 6.4, 7.1, H Eifion Jones - eitem 4.5, Thomas Jones - eitemau 4.15, 4.16, R G Parry OBE - eitemau 4.1, 4.2, 4.20 a 6.5, Noel Thomas - eitem 4.11, Hefin Thomas - eitemau 4.6, 4.17, John Williams - eitem 4.4

 

Dywedodd y Cynghorydd P M Fowlie ei fod yn dymuno cofnodi ei fod yn dal i ddisgwyl am ymateb i gais yn ystod mis Mai am gyfarfod i drafod cydbwysedd gwleidyddol ar y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Dywedodd y Cynghorydd J Arthur Jones iddo gael caniatâd arbennig y Pwyllgor Safonau y noson cynt i drafod ceisiadau cynllunio a gyflwynir gan Best Value UK a phleidleisio arnynt.  

 

Derbyniwyd datganiadau oddi wrth Aelodau a Swyddogion ac fe'u cofnodir o dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2005.  (Tud 125 o’r Gyfrol hon)

 

YN CODI:

 

Eitem 4.5 - 20C28B/ECON - Douglas Inn, Tregele - Ar gais y Rheolwr Rheoli Cynllunio cadarnhaodd yr aelodau y rhesymau dros wrthod y cais a hynny'n groes i argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog.   Aeth y swyddog ymlaen i ddweud bod yr ymgeiswyr yn debyg o apelio yn erbyn y penderfyniad a phetai hynny'n digwydd dywedodd y buasai'r Adran yn cysylltu gyda nhw i amddiffyn eu penderfyniad.  

 

Dywedodd y Cynghorydd R L Owen ei fod yn gwrthwynebu'r cais oherwydd y posibilrwydd y câi Wylfa B ei datblygu.

 

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar 20 Gorffennaf, 2005.

 

 

 

 

 

4

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

 

 

4.1

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

16C138B - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO, DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YNGHYD Â DARPARU OFFER TRIN CARTHION AR GAE ORDNANS 6674, YSGUBOR FADOG, BRYNGWRAN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'w Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau yn dymuno caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn a hynny'n groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog:

 

 

 

Ÿ

mae'r cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn - a safle'r cais y tu mewn neu ar gyrion ffiniau'r pentref

 

Ÿ

hyd yma nid yw'r CDU wedi ei fabwysiadu

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Atgoffwyd yr Aelodau gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y bwriad hwn yn groes i Bolisi 50 y Cynllun Lleol, i Bolisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd ac i Bolisi HP4 yr CDU; ymatebodd i resymau a roes yr aelodau dros ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog.   Nid oedd yr un mater perthnasol wedi'i gyflwyno i ganiatáu cais, nid oedd yn estyniad derbyniol i'r pentref, ac nid oedd yr un gwrthwynebiad wedi'i gyflwyno i ffiniau'r pentref yn yr CDU esblygol.  Felly roedd yr argymhelliad o wrthod yn aros.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd R G Parry bod safle'r cais union ar ymyl ffiniau'r pentref y tu mewn i'r cyfyngiad 30 mya gan nodi bod yr ymgeiswyr yn bobl leol a gofynnodd i'r aelodau lynu wrth y penderfyniad blaenorol, sef caniatáu.  

 

 

 

Yma cyfeiriodd y Cynghorydd Eurfryn Davies yr aelodau at benderfyniad a wnaed yn y cyfarfod cynt fel y manylwyd ar hwnnw yn y cofnodion gan ofyn i'r aelodau fod yn gyson a chynigiodd lynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

 

 

Ar ôl derbyn cyngor y cyfreithiwr, a chan fod y cais yn tynnu'n groes, cytunodd yr aelodau i gofnodi'r bleidlais a dyma fel y bu:

 

 

 

CANIATAU'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD O WRTHOD GAN Y SWYDDOG):

 

 

 

Y Cynghorwyr Mrs B Burns, John Byast, Eurfryn Davies, P M Fowlie, Denis Hadley,                  J Arthur Jones, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, R L Owen, D Lewis-Roberts, Tecwyn Roberts (11)

 

 

 

YMATAL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Edwards (1)

 

 

 

O 11 pleidlais PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd o'r blaen ond yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog.

 

 

 

4.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

16C32C CAIS AMLINELLOL I GODI 14 O ANHEDDAU YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER STRYD FAWR, BRYNGWRAN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac roeddid yn gohirio ei ystyried fel bod modd i swyddogion barhau i ymgynghori gyda'r ymgeiswyr.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a nodi bod y cais wedi'i dynnu'n ôl.

 

 

 

 

 

 

 

4.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

17C325A - DYMCHWEL ANNEDD A CHODI DWY ANNEDD NEWYDD AC ALTRO'R FYNEDFA YM MHARC BELLIS, HEN LANDEGFAN

 

 

 

Yn y cyfarfod cynt, ar ôl derbyn argymhelliad y Rheolwr Rheoli Cynllunio, penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle i gynefino gyda'r lle a chafwyd ymweliad ar 20 Gorffennaf, 2005.

 

 

 

O ran cywirdeb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod angen diwygio'r dyddiad ym mhwynt 3 adroddiad y swyddog (Hanes Cynllunio Perthnasol) i "cais amlinellol i godi annedd a ffordd newydd cymeradwywyd 5/2/03" nid "2002".  Cafwyd sylwadau gan y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw'n swyddogol ond ni chafwyd yr un gwrthwynebiad ond roedd y Cyngor Cymuned yn pryderu ynghylch maint yr ail annedd yng nghefn y safle.  Roedd Polisi 50 y Cynllun Lleol yn caniatáu estyniadau bychain a rhesymol i'r pentref ond bod raid asesu effaith hynny ar y tirwedd.   Roedd codi annedd newydd yn lle annedd yn dderbyniol ond credai'r swyddogion bod maint yr ail annedd, mewn lle mor wledig, yn mynd i fod yn elfen annymunol ac yn groes i gymeriad y tirwedd gwledig.  Teimlai'r swyddogion bod modd taro ar gyfaddawd yng nghefn y safle.

 

 

 

Yn ôl y Cynghorydd Eurfryn Davies roedd yr egwyddor o godi dwy annedd ar y lle wedi'i sefydlu gan fod caniatâd eisoes wedi'i roddi i annedd ychwanegol rhwng Parc Bellis a'r tai teras.  Hefyd roedd yr ymgeisydd wedi cynnig gostwng lefelau'r tir i liniaru effaith y datblygiad - buasai uchder y grib o gwmpas 2.25m ac yn is na'r tai teras, a buasai'r gwrych yn y cefn yn cuddio y rhan fwyaf o'r datblygiad a dim ond y to llechi a fuasai'n y golwg.  I'r Cynghorydd Davies roedd y cyfan o'r bwriad yn dderbyniol - a'r ail annedd yn cael ei chodi yn lle y caniatâd oedd yn bod eisoes.

 

 

 

Tua'r dwyrain o'r safle teimlai'r Cynghorydd R L Owen bod y tro yn y ffordd yn beryglus a gofynnodd a allai'r ymgeisydd gynnig gwaith gwella ar y clawdd ar yr ochr ddwyreiniol i'r safle i gyfeiriad y tro yn y ffordd, ac os medrai roedd y Cynghorydd Owen yn fodlon cynnig caniatáu'r cais.  

 

 

 

Yn y cais blaenorol roedd cynnig i wneud gwaith gwella o'r dwyrain i'r fynedfa yr holl ffordd i lawr at y tro ond ychwanegodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd mai'r unig beth a gynigiwyd yn y cais gerbron oedd gostwng y clawdd am 15m ar hyd y ffordd.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts cafwyd cynnig i ohirio ystyried y cais a rhoi'r cyfle i swyddogion drafod y materion priffyrdd hyn.

 

 

 

Wedyn, gan y Cynghorydd Glyn Jones, cafwyd cynnig i ganiatáu y cais fel y cafodd ei gyflwyno a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

O 10 pleidlais i 2 roedd yr aelodau yn dymuno caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog:

 

 

 

Ÿ

roedd caniatâd eisoes yn ei le i ddwy annedd ar y safle

 

Ÿ

ni châi'r cynnig effaith andwyol ar y tirwedd

 

Ÿ

manteision priffyrdd

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor penderfynwyd gohirio ystyried y cais fel bod swyddogion yn cael cyfle i gyflwyno adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

 

 

 

 

4.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

20C68E  CODI ANNEDD AR DIR YM MRYN TIRION, CEMAES

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd John Byast ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac yn y cyfarfod cynt penderfynodd yr aelodau ymweld â'r lle i'w archwilio a threfnwyd hynny ar gyfer 20 Gorffennaf, 2005.

 

 

 

Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd disgrifiad o'r cynnig ac o'r safle fel y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.  Cafwyd sylwadau gan y cyrff hynny yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ac nid oeddynt yn gwrthwynebu.  Mewn ymateb i'r cyhoeddusrwydd a drefnwyd i'r cais daeth llythyrau o wrthwynebiad i law a chawsant eu crynhoi yn adroddiad y swyddog ac roeddynt ar gael yn y cyfarfod.  Roedd yr egwyddor o ddatblygu yn dderbyniol, a lleoliad y datblygiad, ei wedd allanol a'r defnyddiau adeiladu.  Ni chredwyd y buasai'r cynnig yn cael effaith annymunol ar bleserau preswylwyr tai gerllaw a hynny am y rhesymau a roddwyd.  Gyda'r amod na ddeuai gwrthwynebiadau perthnasol i mewn yn ystod gweddill y cyfnod cyhoeddusrwydd cafwyd argymhelliad gan y swyddog bod Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio yn cael awdurdod i ganiatáu'r cais gyda'r amodau a restrwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

Ond yn ôl y Cynghorydd John Williams roedd gwrthwynebiad sylweddol i'r cais ac roedd 10 llythyr o wrthwynebiad wedi'u derbyn a gwrthwynebiad hefyd gan Gyngor Cymuned Llanbadrig.  Roedd yma hanes o faterion gorfodaeth a phetai caniatâd yn cael ei roddi i'r cais roedd pryderon y buasai'r swyddfa symudol, y sied a'r peiriannau amaethyddol yn cael eu gadael ar y cae agored cyffiniol.  Er bod y Cynghorydd yn gwerthfawrogi y câi uchder y wal o boptu'r fynedfa ei ostwng roedd y problemau traffig a pharcio yn yr ardal, yn enwedig felly i gyfeiriad safle Carafanau a Gwersylla Park Lodge eisoes yn creu problemau.  Am y rhesymau hyn cafwyd argymhelliad o wrthod gan y Cynghorydd Williams.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd D Lewis-Roberts yn deall y pryderon oherwydd colli preifatrwydd a chredai bod y cais yn ddatblygiad tir cefn.  

 

 

 

Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R L Owen.  Yn ogystal cafwyd cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd John Roberts.

 

 

 

Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Denis Hadley oedd atgoffa'r aelodau i fod yn gyson.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog, gyda'r amod na ddeuai unrhyw wrthwynebiadau perthnasol i mewn cyn diwedd y cyfnod ymgynghori, a rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.5

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

21C61A CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD FFORDDIADWY A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE ORDNANS 0606 LLANDDANIEL FAB

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor ei ystyried yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Adeg ystyried y cais hwn yng nghyfarfod Mai gohiriwyd y drafodaeth er mwyn rhoi'r cyfle i'r ymgeiswyr gyflwyno rhagor o wybodaeth.  Dymuniad yr aelodau yng nghyfarfod mis Mehefin oedd ymweld â'r safle i asesu'r lleoliad a threfnwyd hynny ar gyfer 15 Mehefin, 2005.  Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau yn dymuno caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog:

 

      

 

Ÿ

roedd yma bobl leol oedd yn fodlon llofnodi cytundeb dan Adran 106 (tai fforddiadwy)

 

Ÿ

roedd yn cydymffurfio gyda'r polisïau - cartref fforddiadwy

 

Ÿ

enghraifft o lenwi bwlch mewn modd sensitif

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor penderfynwyd gohirio ystyried y cais fel bod swyddogion yn cael cyfle i gyflwyno adroddiad a'r rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd ymateb i'r rhesymau uchod dros ganiatáu'r cais hwn oedd yn gwyro fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog.  I bwrpas cydymffurfio gyda'r polisïau ar dai fforddiadwy roedd gofyn i'r safle fod ar y ffiniau datblygu ond roedd y lle dan sylw 200 metr i ffwrdd - roedd yn rhy bell o'r pentref.  Gofynnodd i'r aelodau ailystyried y penderfyniad a chafwyd argymhelliad o wrthod am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Eifion Jones y buasai'r cais hwn yn fodd i greu cartref cyntaf i gwpl ifanc lleol a oedd yn fodlon llofnodi cytundeb dan Adran 106 (annedd fforddiadwy). Roedd y cais y tu mewn i'r ardal 30 mya ac yn cael cefnogaeth yr Adran Briffyrdd a theimlai'r Cynghorydd Jones bod yma gais teg a hefyd ei fod yn llenwi bwlch mewn modd sensitif rhwng dau dy arall;  argymhellodd bod yr aelodau yn glynu wrth y penderfyniad blaenorol ac yn caniatáu.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

 

 

Mewn ymateb gofynnodd y Cynghorydd J Arthur Jones a oedd hi'n berthnasol gorfodi cytundeb dan Adran 106 (Annedd Fforddiadwy) ar y cais hwn.

 

 

 

Ar ôl derbyn cyngor y cyfreithiwr, gan fod y cais hwn yn tynnu'n groes, cytunodd yr aelodau i gofnodi'r bleidlais a dyma fel y bu:

 

 

 

CANIATAU'R CAIS YN GROES I ARGYMHELLIAD O WRTHOD GAN Y SWYDDOG:

 

Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, Denis Hadley, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, R L Owen, Tecwyn Roberts, J Arwel Roberts (8)

 

 

 

O 8 bleidlais PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu'r cais hwn oedd yn gwyro a hynny'n groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog ac am y rhesymau a roddwyd o'r blaen a heb Gytundeb dan Adran 106 (Annedd Fforddiadwy).

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

4.6

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     22C24C  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER TY'N LON, LLANDDONA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac am resymau polisi a diogelwch y briffordd.  Yng nghyfarfod Mai roedd yr aelodau yn dymuno ymweld â'r safle a threfnwyd hynny ar gyfer 18 Mai 2005.  Yng nghyfarfod Mehefin roedd yr aelodau yn dymuno gwrthod y cais a hynny'n groes i argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog gan fod y Pwyllgor o'r farn nad oedd modd darparu'r llain gwelededd angenrheidiol.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor penderfynwyd gohirio ystyried y cais fel bod swyddogion yn cael cyfle i gyflwyno adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.    Yn y cyfarfod ar 6 Gorffennaf ac yn ôl cais y swyddog cytunodd yr aelodau i ohirio gwneud penderfyniad unwaith yn rhagor ar y cais nes cwblhau'r gwaith ymgynghori.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y Dystysgrif B a gyflwynwyd gan yr ymgeiswyr yn ddilys ac yn berthnasol i'r cais hwn a hefyd cafwyd cadarnhad gan yr Adran Briffyrdd bod modd darparu'r gwelededd statudol o'r naill gyfeiriad a'r llall yn y fynedfa.  Dywedodd y swyddog nad oedd modd gwrthod y cais oherwydd gwelededd diffygiol ac nad oedd modd amddiffyn penderfyniad i wrthod y cais am resymau priffyrdd mewn apêl.  

 

      

 

     Ni chytunai'r Cynghorydd Hefin Thomas bod modd darparu'r gwelededd angenrheidiol yn y fynedfa ac o'r herwydd argymhellodd bod yr aelodau yn glynu wrth y penderfyniad blaenorol o wrthod.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd bod arolwg a wnaed yn cadarnhau bod modd darparu gwelededd 70m i'r chwith a 90m i'r dde o'r fynedfa ac roedd hynny yn mynd y tu draw i'r gofynion statudol; petai caniatâd yn cael ei roddi yna rhoddid amod ynghlwm i sicrhau bod unrhyw dwf planhigion yn cael ei dynnu i lawr.

 

      

 

     Tybiai'r Cynghorydd R L Owen bod tua phum mynedfa arall yn agos iawn i'r safle, ac roedd rhwydwaith y ffyrdd yn yr ardal hon yn droellog a theimlai bod raid iddo gefnogi argymhelliad yr aelod lleol o wrthod.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts nad oedd modd darparu'r gwelededd statudol a theimlai bod y lôn, i ryw raddau, yn beryglus yn y llecyn penodol hwn.

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd Tecwyn Roberts yn hapus gyda'r fynedfa arfaethedig ac yn arbennig ynghylch unrhyw gynnydd yn y symudiadau traffig yn y cyffiniau.

 

      

 

     Wedyn dywedodd y Cynghorydd Arwel Edwards bod y bwriad i symud y fynedfa a'i rhannu yn well na'r trefniadau presennol a chytuno a wnaeth yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd.

 

      

 

     Dweud a wnaeth y Cynghorydd Eurfryn Davies na châi'r fynedfa bresennol ei defnyddio mwyach gan gerbydau a hefyd y câi'r wal derfyn ei gostwng.

 

      

 

     Erfyniodd y Cynghorydd Hefin Thomas ar yr aelodau i wrthod y cais hwn am resymau diogelwch y briffordd ac roedd y Cyngor Cymuned yn cwyno ynghylch cyflymder traffig yn yr ardal. Hefyd bwriodd amheuaeth ar fesuriadau yr Adran Briffyrdd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R L Owen. Cynigiodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts lynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor a gwrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts.

 

      

 

     O 7 bleidlais i 5 PENDERFYNWYD dileu penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod y cais a derbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog i ganiatáu a hynny am resymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

4.7

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     27C84   CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE ORDNANS 0741, TREMOELGOCH, LLANFACHRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac yn y cyfarfod a gafwyd ar 6 Gorffennaf, roedd yr aelodau'n dymuno ymweld â'r safle a threfnwyd hynny ar gyfer 20 Gorffennaf 2005 i bennu a oedd yma ddatblygiad yn y cefn gwlad ai peidio.

 

      

 

     I atgoffa'r aelodau dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yr aelod lleol yn cydnabod bod y cais yn y cefn gwlad heb gyswllt â chanol yr un pentref.  Yn amlwg roedd yn groes i Bolisi 53 y Cynllun Lleol, i Bolisi A6 y Cynllun Fframwaith ac i Bolisi HP6 yr CDU, ac nid oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno tystiolaeth i gyfiawnhau gwyro oddi wrth y polisïau hyn, ac o'r herwydd roedd y swyddog yn argymell yn gryf y dylid gwrthod y cais.

 

      

 

     Ond yn ôl y Cynghorydd Mrs Burns un o nodweddion yr ardal oedd datblygiadau gwasgarog - ac ni fuasai un annedd arall yn cael effaith ddrwg ar gymeriad yr ardal, a gofynnodd am ddiogelu hawl yr eiddo cyffiniol i gysylltu gyda'r mêns dwr petai'r cais hwn yn cael ei ganiatáu.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     O 7 bleidlais PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn ei adroddiad.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd R L Owen yn dymuno cofnodi na phleidleisiodd ar y cais.  

 

      

 

      

 

4.8

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     29C112   CAIS AMLINELLOL I GODI CHWE ANNEDD AC ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU AR DIR GER BRYN, LLANFAETHLU

 

      

 

     Yng nghyfarfod mis Chwefror argymhellodd y swyddog bod aelodau yn ymweld â'r safle uchod a threfnwyd hynny ar gyfer 16 Chwefror, 2005.  Ers hynny gohiriwyd ystyried y cais oherwydd materion priffyrdd heb eu setlo.

 

      

 

     Gofynnodd y swyddog am ohirio unwaith eto hyd nes cwblhau y gwaith ymgynghori.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

      

 

4.9

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     30C259C  DYMCHWEL ANNEDD A CHODI ANNEDD NEWYDD A GWNEUD GWAITH ALTRO AR Y FYNEDFA I GERBYDAU YN LLYS IFON, BENLLECH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau o blaid caniatáu am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog:

 

      

 

Ÿ

mae'r cais yn cydymffurfio gyda pholisïau 50 a HP4

 

Ÿ

mae yma ddigon o le i gymryd annedd arall heb amharu ar bleserau tai cyffiniol

 

Ÿ

annedd newydd yn lle hen un

 

      

 

      

 

      

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau o blaid caniatáu.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais yn ddatblygiad tir cefn ac am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog argymhellodd wrthod.   Nid oedd yma dystiolaeth bod gan y sialet ddefnydd a sefydlwyd fel annedd.  

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Lewis-Roberts dywedodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) bod y swyddogion yn credu bod y fynedfa'n dderbyniol i'r defnydd presennol ond yn annerbyniol i unrhyw gynnydd yn y traffig.

 

 

 

Ni fedrai'r Cynghorydd D Lewis-Roberts gytuno bod y bwriad hwn yn un tir cefn.  Ers blynyddoedd bu sialet ar y tir a rhoddwyd caniatâd cynllunio yn 1973 a 1974 i ddatblygu'r safle.  Cytuno gyda'r aelod lleol a wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones gan ychwanegu nad oedd yma broblem gyda gwelededd yn y fynedfa ac argymhellodd ganiatáu gan ychwanegu bod tai ym mhob man o gwmpas y safle.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y bwriad hwn yn mynd i arwain at ddatblygiad tandem ac roedd yn dal i fod o'r farn y dylid gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

O 9 pleidlais PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd o'r blaen ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog.

 

 

 

 

 

4.10

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     30C385A DYMCHWEL GWESTY A CHODI ADEILAD PUM LLAWR AC YNDDO 28 APARTMENT PRYNU I'W GOSOD, PWLL NOFIO MEWNOL A CHAMPFA YMARFER YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ALTRO'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD YNG NGWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH

 

      

 

     Bu'r aelodau yn ymweld â'r safle ar 20 Hydref, 2004 a chafodd y cais ei dynnu oddi ar yr agenda ar 1 Mehefin, 2005 er mwyn rhoi cyfle i swyddogion barhau i ymgynghori gyda'r ymgeiswyr.  Gan fod y cyflwyniad gwreiddiol wedi'i newid roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn argymell bod aelodau yn ymweld â'r safle.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts i'r swyddogion sicrhau na fydd cynrychiolwyr yr ymgeiswyr yn bresennol ar y safle yn ystod yr ymweliad.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

      

 

4.11

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     33C125D   CAIS AMLINELLOL I GODI PUM ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR YNG NGHYNLAS, GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol      gan fod y safle union ger ei eiddo ef a hefyd oherwydd materion mynedfa a draenio.  Yng nghyfarfod Mai roedd yr aelodau yn dymuno ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa a chafwyd ymweliad ar 18 Mai, 2005.  Roeddid yn dal i ddisgwyl am wybodaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac yn y cyfamser roeddid wedi gohirio ystyried mwy ar y cais.

 

      

 

     Dywedodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio bod yr ymgeisydd bellach yn dymuno symud yr anheddau draw oddi wrth y nant rhag ofn peryglon llifogydd.  Tynnwyd lluniau o'r lle yn dangos problemau llifogydd yn y cyfnod cyn i'r Bwrdd Dwr wella'r sefyllfa.  Roedd yr ymgeisydd yn ystyried apelio yn erbyn yr Awdurdod oherwydd ei fethiant i wneud penderfyniad ar y cais.  Gynt nid oedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gwrthwynebu gyda'r amod bod lefelau y lloriau gorffenedig yn uwch.  Gan fod yma ganiatâd yn barod i godi pedair annedd, argymhellodd y swyddog, y dylid rhoddi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais gydag amodau perthnasol ond yn amodol ar gwblhau'r gwaith ymgynghori gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a chyda'r amod hefyd na fydd materion perthnasol eraill yn cael eu codi yn ystod gweddill y cyfnod o ymgynghori gyda'r cyhoedd a hefyd yn amodol ar amod "grampian" yng nghyswllt draenio.  

 

      

 

     Rhoes y Rheolwr Rheoli Cynllunio ei gefnogaeth i ddatganiad yr Arweinydd Tîm gan ychwanegu bod yr Arolygfa Gynllunio yn dehongli methiant i benderfynu fel ffordd o wrthod.

 

      

 

     Deuai llythyr o'r Cyngor Cymuned i'r Adran Gynllunio gyda hyn yn ôl y Cynghorydd Noel Thomas i fynegi pryderon ynghylch llifogydd ac ychwanegodd, er gwaethaf gwario o gwmpas £200,000 ar welliannau yn 1987 i liniaru problemau llifogydd, roedd hynny wedi creu problemau mewn man arall yn y pentref.  Ar gyfartaledd roedd y dwr yn llifo i rai o'r tai ddwy waith y flwyddyn a phetai Cynlas yn cael ei ddymchwel yna gellid codi chwe annedd ymhellach draw o'r nant.  Credai ef fod y safle yn orlifdir a'r preswylwyr yn methu â threfnu yswiriant i ddiogelu eu cartrefi.  Pryder arall gan y Cynghorydd Thomas oedd problemau llifogydd posib a allai daro tai eraill ymhellach draw o'r safle, oherwydd bod y peipiau ar hyn o bryd yn methu dygymod gyda foliwm y dwr.  

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Eurfryn Davies nad oedd y peipiau'n ddigon mawr i dderbyn y llifiant presennol i gyfeiriad JDM Accord ar y stad ddiwydiannol a chynigiodd ohirio unwaith yn rhagor hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori.  Gofyn a wnaeth y Cynghorydd D Lewis- Roberts pwy sy'n gyfrifol yn sgil y llifogydd ac ail gynigiodd ohirio penderfynu ar y cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd P M Fowlie cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais yn amodol ar yr uchod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Lewis-Roberts, dywedodd y Cyfreithiwr ei bod hi'n annhebygol y ceid hawliad yn erbyn y Cyngor os oedd y Cyngor yn dilyn arweiniad Asiantaeth yr Amgylchedd.  Y cynnig gan y swyddog oedd rhyddhau caniatâd cynllunio ar ôl derbyn ymatebion boddhaol yn unig gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

 

      

 

     O 7 bleidlais i 5 PENDERFYNWYD rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais hwn ar ôl cwblhau'r gwaith ymgynghori yn foddhaol gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a chyda'r amod na ddeuai gwrthwynebiadau perthnasol newydd i law yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori gyda'r cyhoedd; hefyd rhoddid yr amodau perthnasol ynghlwm gan gynnwys amod "grampian" yn ymwneud â'r carthffosydd.

 

      

 

      

 

4.12

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     34C83C   DATBLYGIAD PRESWYL YN CYNNWYS 21 O ANHEDDAU A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

      

 

     Gwnaeth Mr J R W Owen o'r Adran Briffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.  

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a bu'r aelodau yn ymweld â'r lle ar 19 Mai, 2004 ac ers hynny dalwyd y broses yn ôl hyd nes cwblhau gwaith ymgynghori ar ddiogelwch cerddwyr.

 

      

 

     Yn ychwanegol at yr 17 o lythyrau yn gwrthwynebu a nodwyd yn adroddiad y swyddog ac a oedd gerbron yn y Pwyllgor dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod dau arall wedi'u derbyn.  Gan y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol cafwyd sylwadau ond neb yn gwrthwynebu.  Wedyn cyfeiriodd y swyddog yr aelodau at y polisïau perthnasol a restrwyd yn

 

     yr adroddiad gan ychwanegu mai'r tri mater pwysicaf yn y broses o lunio argymhelliad y swyddog oedd, yn gyntaf, yr egwyddor o ddatblygu, yr effaith ar bleserau a materion priffyrdd. Roedd safle'r cais y tu mewn i'r ffiniau a nodwyd ar gyfer defnydd masnachol yn yr CDU ond heb ei glustnodi ar gyfer tai ac felly ystyriwyd y cais fel un yn gwyro.  Ond roedd paragraff 7.2.2 Polisi Cynllunio Cymru yn rhoddi anogaeth i ddefnyddio tir a ddatblygwyd yn y gorffennol y tu mewn i ffiniau trefi / pentrefi.  Roedd safonau dylunio'r cynnig yn uchel ond yn fwy dwys na'r tai o gwmpas - ond roedd hyn yn dderbyniol am na châi effaith andwyol ar y cyffiniau.  Roedd yr Adain Briffyrdd yn fodlon gyda'r fynedfa arfaethedig i'r safle a hefyd gyda'r twnel arfaethedig i gerddwyr dan y rheilffordd i faes parcio cyffiniol y Cyngor Sir.  Gyda'r amod na ddeuai gwrthwynebiadau perthnasol newydd i law yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori cafwyd argymhelliad gan y swyddog i drosglwyddo'r cais hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gydag argymhelliad i'w ganiatáu ond chyda Chytundeb dan Adran 106 yng nghyswllt tai fforddiadwy.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Eurfryn Davies y sylw y buasai yma amod i ddiogelu'r coed ar y safle.

 

     Gan y Cynghorydd R L Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu ynddo a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

 

 

Wedyn cafwyd cynnig i wrthod y cais gan y Cynghorydd J Arthur Jones a hynny'n cael ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

 

 

O 6 phleidlais i 4 PENDERFYNWYD, oni ddeuai gwrthwynebiadau perthnasol newydd i law yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori gyda'r cyhoedd, rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio yrru'r cais at Lywodraeth Cynulliad Cymru gydag argymhelliad i'w ganiatáu ond gydag amodau perthnasol gan gynnwys cytundeb dan Adran 106 i ddarparu tai fforddiadwy.

 

 

 

4.13

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     34C303J/1  CODI ANNEDD UN TALCEN AR BLOT 80B BRO EDNYFED, LLANGEFNI

 

      

 

     Cafwyd datganiadau o ddiddordeb yn y cais gan y Cynghorydd Aled Morris Jones a Mr Rees Roberts o'r Uned Gyfieithu.

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod mis Mai roedd yr aelodau yn dymuno ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa a threfnwyd hynny ar gyfer 18 Mai, 2005.  Yn y cyfamser gohiriwyd ystyried y cais gan fod rhai materion heb eu setlo.

 

      

 

     Gofynnodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am ohirio unwaith eto hyd nes cwblhau gwaith ymgynghori ar drefniadau parcio arfaethedig, ar ddwr wyneb ac ar faterion ffos.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

4.14

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     36175K/TR/ECON   CAIS AMLINELLOL I GODI GWESTY I DEITHWYR, GORSAF BETROL, 2 FWYTY GYDA CHYFLEUSTERAU DREIFIO TRWODD YNGHYD Â FFORDD GYSWLLT, CYFLEUSTERAU PARCIO A GWAITH TIRLUNIO AR DIR GER TYRPAIG NANT, LLANGEFNI

 

      

 

     Gwnaeth Mr J R W Owen o'r Adran Briffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Yng nghyfarfod Mai cafwyd argymhelliad gan y swyddogion bod aelodau yn ymweld â'r safle tra oedd gwaith ymgynghori yn cael ei wneud i ddeall yn well amgylchiadau'r safle a natur y cais cyn penderfynu arno a chafwyd ymweliad ar 18 Mai, 2005.  Yn y cyfamser gohiriwyd ei ystyried hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori.  

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd disgrifiad o'r cynnig ac o'r safle fel y manylwyd ar y cyfryw bethau yn adroddiad y swyddog.  Roedd yr egwyddor o ddatblygu'r safle hwn yn y cefn gwlad agored wedi'i sefydlu ers tro byd a hefyd roedd y cais yn cydymffurfio gyda pholisi TR11 a chynnig TRA1 yn yr CDU - gan fod y safle wedi'i glustnodi i lecyn gwasanaethu ger y briffordd, a hynny'n cynnwys gwesty i deithwyr a chyfleusterau bwyty.  Cafwyd Barn Sgrinio dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesiad Effaith Amgylcheddol) 1999, a hwnnw'n cadarnhau nad oedd angen Asesiad Effaith Amgylcheddol yn yr achos penodol hwn.  Hefyd ynghyd â'r cais cyflwynwyd asesiad cludiant, asesiad archeolegol ac asesiad tirwedd a chynllunio.  Cafwyd gair o gadarnhad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru bod y trefniadau priffyrdd yn foddhaol, a hefyd cafwyd sylwadau Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar faterion tirlunio, goleuo a chadwraeth ond nid oedd yr un gwrthwynebiad i'r bwriad; câi yr holl faterion hyn sylw trwy amryfal amodau.  Yn ychwanegol at y llythyrau gwrthwynebu roedd rhagor wedi cyrraedd ond yr un ohonynt yn codi materion newydd o bwys.  Am y rhesymau a roddwyd cafwyd argymhelliad i ganiatáu gan y swyddog.  

 

      

 

     Roedd gan y Cynghorydd R Ll Hughes ei amheuon ynghylch y fynedfa a'r trefniadau i adael y safle a phwysleisiodd bwysigrwydd cadwraeth y tirwedd sensitif hwn a hynny'n cynnwys yr eglwys, ac y dylai'r ymgeiswyr lynu'n gaeth wrth yr amodau yn enwedig amod (01).  Ategu hyn a wnaeth y Cynghorydd Eurfryn Davies a hefyd roedd y Cynghorydd Tecwyn Roberts gyda'i amheuon ynghylch trefniadau traffig.

 

      

 

     Wedyn cafwyd cwestiwn gan y Cynghorydd Arwel Edwards ynghylch ymgorffori Canolfan Wybodaeth y tu mewn i'r clwstwr o adeiladau.

 

      

 

     Wedyn cafwyd cynnig gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts i dderbyn adroddiad ac argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog.  Cefnogi yr aelod lleol a wnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones gan deimlo bod y datblygiad hwn yn mynd i hybu'r economi yn y man gwledig yma.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD caniatáu'r cais ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

4.15

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     38C217A CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR Y FOEL FAWR, TREGELE

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais am y rheswm a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog:

 

      

 

Ÿ

mae safle'r cais ar gyrion ffiniau'r pentref a hefyd y tu mewn i glwstwr o dai eraill ac yn cydymffurfio gyda ffram ddangosol yr CDU.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Ni fedrai'r Pennaeth Rheoli Datblygu gytuno gyda'r rhesymau uchod dros ganiatáu gan fod y cais yn gwyro oddi wrth y polisïau, a hefyd yn sefydlu cynsail peryglus i geisiadau'r dyfodol.

 

 

 

Troi a wnaeth y Cynghorydd Thomas Jones wedyn at y ffram ddangosol a honno'n dangos bod y safle y tu mewn i'r ffram.  Roedd yr ymgeisydd yn fodlon cynnig gwelliannau i'r briffordd ac roedd cefnogaeth gref i'r teulu a hynny'n cynnwys cefnogaeth y Cyngor Cymuned ac ni chafwyd yr un gwrthwynebiad.  Gofynnodd y Cynghorydd Jones i'r Pwyllgor lynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor a rhoddi ei ganiatâd.  

 

Rhoddi pwyslais mawr ar Bolisi HP5 yr CDU a wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones, ac y dylid dangos y safle y tu mewn i'r ffram ddangosol.  Dan y cynllun lleol roedd modd caniatáu anheddau unigol a chynigiodd lynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts, Aled Morris Jones a Tecwyn Roberts.  

 

 

 

Gan dderbyn cyngor y cyfreithiwr, a chan fod y cais hwn yn gwyro, cytunodd yr aelodau i gofnodi'r bleidlais a dyma fel y bu honno:

 

 

 

CANIATAU'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD O WRTHOD GAN Y SWYDDOG):

 

Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, P M Fowlie, Denis Hadley, Aled Morris Jones, R L Owen, D Lewis-Roberts, John Roberts, Tecwyn Roberts (10).

 

 

 

YMATAL

 

Y Cynghorwyr Bessie Burns, O Glyn Jones (2).

 

 

 

O 10 pleidlais i 2 PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor a chaniatáu'r cais ond yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog, caniatáu am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau perthnasol.  

 

 

 

4.16

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     38C220    CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD UNLLAWR AR DIR GER HEN BLAS, LLANFECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno ymweld â'r safle fel bod modd iddynt asesu'r safle drostynt eu hunain a threfnwyd hynny ar gyfer 20 Gorffennaf, 2005.

 

      

 

     Yn ôl y Pennaeth Rheoli Datblygu roedd y cais hwn yn torri'r polisïau, sef rhai 53 y Cynllun Lleol, Polisi A6 y Cynllun Fframwaith a HP6 yr CDU.  Roedd y cais 450m y tu allan i ffiniau datblygu Llanfechell ac argymhellodd ei wrthod.

 

      

 

     Wedyn cafwyd disgrifiad gan y Cynghorydd Thomas Jones o natur yr ardal - un ac ynddi 9 o dai gan gynnwys Bron Derwydd ond bod hwnnw heb ei ddangos ar y map.  Roedd yma deulu lleol gyda phedwar o blant yn byw mewn ty rhent yn y pentref a thad i wraig yr ymgeisydd wedi rhoi'r tir i'r teulu i godi cartref.  Gan fod y teulu yn byw ar un cyflog roedd yma elfen o fforddiadwyaeth yng nghyswllt y cais ac ychwanegwyd bod hwn yn deulu gweithgar iawn yn y gymuned leol a chefnogaeth leol gref iddynt a neb yn gwrthwynebu.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts a oedd y tir a welwyd ar yr ymweliad i gyd yn eiddo i deulu'r ymgeisydd a theimlai bod modd taro ar gyfawddawd ynghylch y lleoliad.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cefnogaeth gref i'r teulu lleol hwn a oedd mor flaenllaw yn y gymuned leol, a chynigiodd roddi caniatâd i'r cais er mwyn adfywio'r ardal a'r gymuned a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts a Bessie Burns.  

 

      

 

     Er bod y cais hwn yn tynnu'n groes i bolisïau teimlai'r Cynghorydd Arwel Edwards bod yma glwstwr llac o dai.

 

      

 

     Ni fedrai'r Pennaeth Rheoli Datblygu gytuno bod modd disgrifio'r lle fel clwstwr llac o dai ac ni chafwyd tystiolaeth chwaith i ddweud y buasai'r adeilad yn gartref fforddiadwy.  Yn ôl y Canllawiau Cynllunio Ategol buasai'n haws cefnogi'r cynnig petai'n nes i ffiniau'r pentref ac atgoffodd yr aelodau na ddylai'r Pwyllgor ffafrio ymgeiswyr oedd yn berchenogion tir.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Gwelodd yr aelodau ddatblygiad ar y safle cyffiniol (heb fod yn eiddo i'r ymgeiswyr) ac roedd hwnnw yn destun ymholiadau gorfodaeth.

 

      

 

     O 8 bleidlais i 2 roedd yr aelodau yn dymuno caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog:

 

      

 

Ÿ mae safle'r cais yng nghanol clwstwr llac o anheddau

 

Ÿ roedd cyfle yma i ddarparu cartref fforddiadwy i deulu lleol ifanc

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r drafodaeth ar y cais ei gohirio'n otomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

4.17

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     42C60C  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER STRYD Y CAPEL, PENTRAETH

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau yn dymuno ymweld â'r safle i bwrpas i asesu eu hunain a threfnwyd hynny ar gyfer 20 Gorffennaf, 2005.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod safle'r cais y tu allan i'r ffiniau datblygu ond bod stad ddiwydiannol yng nghefn y safle ac roedd y tir hefyd y tu mewn i Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.   Buasai'n rhaid gwneud gwaith tyllu sylweddol ar y bryncyn a châi hynny effaith ddrwg ar y tai gerllaw.  Roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais hwn a oedd yn tynnu'n groes.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hefin Thomas dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd bod ei Adran yn dal i ddisgwyl manylion yng nghyswllt darparu mynedfa a gwelededd gan yr ymgeiswyr.  Yn ôl y Cynghorydd Hefin Thomas roedd yr ymgeiswyr wedi cyflwyno'r manylion hyn yr wythnos cynt i'r Adran Briffyrdd.  

 

      

 

     Ni fedrai'r Cynghorydd Hefin Thomas gytuno â datganiad y swyddog y buasai'r "datblygiad yn nodwedd ddieithr ac anghymarus a hynny yn andwyol iawn i gymeriad a gwedd yr ardal sensitif hon."  O gwmpas y safle roedd stad ddiwydiannol yn y cefn, fferm garthffosiaeth yn yr ochr a hefyd gerllaw roedd clwstwr o dai a gellid ystyried y safle dan sylw yn fater o lenwi bwlch a heb amheuaeth roedd yn medru argymell ei ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Yma ychwanegodd y Cynghorydd Eurfryn Davies bod y safle mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol a gofynnodd a oedd y Cyngor Cefn Gwlad wedi cyflwyno ei sylwadau.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod yr ymgeiswyr wedi symud eu busnes o Fangor i'r ardal hon ac yn cyflogi pedwar o weithwyr ac roedd yn gefnogol i'r cais.

 

      

 

     O 12 pleidlais roedd yr aelodau yn dymuno caniatáu'r cais am y rheswm a ganlyn ond yn groes i argymhelliad y swyddog:

 

      

 

Ÿ

mae'r cais yn llenwi bwlch

 

      

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r drafodaeth ar y cais ei gohirio'n otomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

4.18

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     44C238  DYMCHWEL ADEILAD A CHODI TAIR ANNEDD NEWYDD AR DIR YR HEN FECWS, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod cynt penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle i gael golwg ar y sefyllfa briffyrdd a threfnwyd y cyfarfod ar gyfer 20 Gorffennaf, 2005.

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Datblygu cafwyd disgrifiad o'r safle ac o'r cynnig a chyfeiriodd at yr hanes cynllunio perthnasol y manylwyd arno yn adroddiad y swyddog.  Ond cyfeiriodd hefyd at y prif ystyriaethau cynllunio a hynny'n cynnwys yr egwyddor o godi tai ac effaith hynny ar bleserau. Hefyd roedd y Cyngor Cymuned lleol yn gwrthwynebu a chafwyd tri llythyr o wrthwynebiad a deiseb yn gwrthwynebu.  Gan y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol cafwyd sylwadau ond dim gwrthwynebiadau.  

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn gwrthwynebu'r egwyddor o godi tai ond teimlai bod yma enghraifft o orddatblygu ar safle yng nghanol byngalos.  Teimlai'r bobl leol bod modd taro ar gyfaddawd ynghylch graddfa'r datblygiad a theimlai'r Cynghorydd bryder mai un fynedfa yn unig fuasai'n gwasanaethu'r datblygiad a'r fynedfa honno rhwng dau fyngalo.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Tecwyn Roberts am ddiogelu'r llwybr cyhoeddus a'r Cynghorydd D Lewis-Roberts hefyd ac ychwanegodd ef y dylid sicrhau bod ar y safle ddigon o le troi i gerbydau.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd y câi'r llwybr cyhoeddus presennol ei symud a bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno cyfleusterau gwell i barcio a throi ar y safle a bod y cyfan yn dderbyniol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd P M Fowlie cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad o ganiatáu y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     O 7 bleidlais i 5 roedd yr aelodau yn dymuno gwrthod y cais am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad y swyddog:

 

      

 

Ÿ

gorddatblygu'r safle

 

Ÿ

materion priffyrdd - yr un fynedfa yn rhy gul

 

Ÿ

effaith andwyol ar bleserau cymdogion

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r drafodaeth ar y cais ei gohirio'n otomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

4.19

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     46C402A   CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL TY LLETYA A CHODI HYD AT 13 O DAI AR Y SAFLE A HYNNY'N CYNNWYS CAU Y FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU I BENDORLAN A GWESTY'R CLIFF A CHREU MYNEDFA GYFUN NEWYDD I WASANAETHU Y DDAU LE O LÔN ISALLT A CHREU MYNEDFA I GERDDWYR A BEICWYR I WASANAETHU'R DATBLYGIAD YM MHENDORLAN, LÔN ISALLT, TREARDDUR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau wedi penderfynu ymweld â'r lle a threfnwyd hynny ar gyfer 20 Gorffennaf, 2005.

 

      

 

     Gan y Pennaeth Rheoli Datblygu cafwyd disgrifiad o'r cynnig ac o'r safle a dywedodd ei fod y tu mewn i ffiniau datblygu fel y gwelir y rheini yn y Cynllun Lleol a hefyd yn yr CDU.  Roedd preswylwyr wedi cyflwyno llythyrau'n gwrthwynebu ac yn cefnogi a'r cyfan wedi'i grynhoi yn adroddiad y swyddog ac ar gael yn y cyfarfod.  O ran polisi roedd y cynnig yn dderbyniol a'r datblygwr yn cynnig 30% o dai fforddiadwy yn unol â gofynion polisi, ac o'r herwydd roedd y swyddog yn argymell caniatáu.  

 

      

 

     Pryder pennaf y Cynghorydd Peter Dunning oedd diogelwch y ffordd - gan fod graddfa'r gwaith yn mynd i greu cynnydd sylweddol yn y traffig.  Roedd yn pryderu'n arbennig yng nghyswllt y bwriad i symud y fynedfa i lecyn rhyw fymryn islaw ael yr allt cyn tro yn y ffordd a chredai ef y buasai'r gwelededd o gwmpas y fynedfa newydd yn wael.  Cyfeiriodd y Pwyllgor at eitem 4.9 y cofnodion hyn a chredai bod y datblygiad hwn yn y tir cefn hefyd a bod y rhesymau hyn i gyd yn rhai dilys i argymell gwrthod y cais.  

 

      

 

     Ar ôl bod ar ymweliad cytunodd y Cynghorydd R L Owen bod y fynedfa newydd arfaethedig yn beryglus a gofynnodd ynghylch y posibilrwydd o gadw'r fynedfa bresennol ar gyfer cerbydau ac roedd y Cynghorydd D Lewis-Roberts yn cytuno gyda'i sylwadau.

 

      

 

     Yn ogystal roedd y Cynghorydd J Arthur Jones yn cytuno gyda'r aelod lleol, ac yn teimlo bod y bwriad hwn yn groes i gymeriad y cyffiniau ac yn cyfateb i orddatblygu y trwyn hwn o dir.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Denis Hadley hefyd yn pryderu am ddiogelwch y ffordd yn y cyffiniau hyn ac yn arbennig felly yn ystod y gyda'r nos ac yn ystod y nos ei hun.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Arwel Edwards faint o welededd oedd yn angenrheidiol o'r fynedfa.

 

      

 

     Er bod y fynedfa arfaethedig y tu allan i'r cyfyngiad gyrru 30 mya cyfeiriodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd at arolwg a gynhaliwyd a hwnnw'n dangos bod cyflymder ar gyfartaledd yn y llecyn hwn yn 28 mya a'r gwelededd o'r fynedfa yn 80m i gyfeiriad Porthdafarch - sef pellter a oedd yn ddigon i'r cyflymdra ar gyfartaledd.  Credai'r Swyddogion Priffyrdd bod y fynedfa bresennol a'r un arfaethedig yn dderbyniol.  Un ddamwain yn unig a ddigwyddodd yng nghyffiniau Lôn Isallt yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf yn ôl y cofnod hanesyddol.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd J Arwel Roberts yn amáu a oedd yr arolwg traffig wedi'i gynnal ar yr amser iawn o'r dydd ac ar y dydd priodol o'r wythnos.  

 

      

 

     Ym marn y Cynghorydd Mrs Burns roedd yma fwriad i orddatblygu'r safle.  

 

      

 

     Oherwydd y bwriad i symud y fynedfa cynigiodd y Cynghorydd Glyn Jones wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     Wedyn darllenodd y Pennaeth Rheoli Datblygu ddarnau o Bolisi Cynllunio Cymru gan ychwanegu nad oedd y datblygiad arfaethedig yma yn ddatblygiad tandem a bod hynny yn wahanol i'r hyn sydd yn eitem 4.9 y cofnodion hyn.

 

      

 

     Mewn ymateb i hyn dywedodd y Cynghorydd Dunning mai'r bwriad yma oedd datblygu y tu cefn a hefyd o flaen tai eraill ac aeth ymlaen i ddweud bod tair damwain wedi digwydd yma yn ystod y tair wythnos cynt.  

 

      

 

     Roedd yr aelodau i gyd, ac eithrio un, yn dymuno gwrthod y cais am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog:

 

      

 

Ÿ

mynedfa

 

Ÿ

effaith weledol ar y trwyn hwn o dir

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r drafodaeth ar y cais ei gohirio'n otomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

4.20

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

     48C146A    CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GYFERBYN Â THERAS WYLFA, GWALCHMAI

 

      

 

     Roedd Mrs Wendy Faulkener o'r Adran Gynllunio wedi datgan diddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a hefyd gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i un o swyddogion y Cyngor.  Ers cyflwyno'r cais hwn gyntaf i gyfarfod Mehefin cafodd ei ohirio oherwydd dymuniad yr ymgeisydd i'w ystyried fel safle eithriad ar gyfer ty fforddiadwy ac roedd y mater yn cael sylw gan uned Polisi Cynllunio'r Cyngor a chan yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

      

 

     Am y rheswm uchod PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

5     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

5.1

12C193U/EIA    CAIS AMLINELLOL I GODI 15 APARTMENT GWYLIAU A THAI TREF GYDA CHYFLEUSTERAU HAMDDEN AR Y SAFLE AC AR DIR GER FFERMDY HENLLYS, BIWMARES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a gofynnodd i'r aelodau ymweld â'r lle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn unol â dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

5.2

19LPA814C/CC NEWID AMOD 15 O'R CANIATÂD CYNLLUNIO 19LPA814/CC, SEF DIWYGIO GOSODIAD ARFAETHEDIG Y FFYRDD ER MWYN ADEILADU TROGYLCH BYCHAN AR STAD DDIWYDIANNOL PENRHOS, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn cael ei gyflwyno ar ran y Cyngor ac yn cael effaith ar dir sy'n perthyn iddo.

 

      

 

     Nodwyd y buasai'r trogylch bychan yn y fynedfa i'r domen sbwriel gyhoeddus yn cysylltu gyda'r fynedfa i Waith Trin Carthion Caergybi - sef gwaith a oedd yn cael ei wneud ar hyn o bryd i Dwr Cymru.  Buasai'n caniatáu darn bychan o lôn yn rhedeg oddi ar y trogylch ac yn darparu mynedfa i dir datblygu cyffiniol a glustnodwyd dan bolisi EP1 y Cynllun Datblygu Unedol Esblygol (dyraniad S2), a hefyd gallai fod yn lle i symud yr iard reilffordd iddo ac mae y pwnc hwnnw dan ystyriaeth ar hyn o bryd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ond gyda'r amod na fydd materion newydd yn codi yn ystod gweddill y cyfnod o ymgynghori gyda'r cyhoedd.

 

      

 

6     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

6.1

11C304A  CYNLLUNIAU LLAWN I GODI 33 O DAI YNGHYD Â GWNEUD GWAITH ALTRO AR Y FYNEDFA AR DIR FFARM MADYN, AMLWCH

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorwyr John Byast a J Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y ddau y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y tir yn amgylchynu tir y Cyngor.  

 

      

 

     I bwrpas cadw cofnod cywir nodwyd bod y cais hwn yn un i godi 31 o dai - nid 33 fel a nodwyd yn yr adroddiad.  Wedyn ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod rhai materion

 

      

 

      

 

      

 

     heb eu datrys eto yng nghyswllt clustnodi tai fforddiadwy a gwaith tirlunio; o'r herwydd gofynnodd am ohirio ystyried y cais.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

6.2

12C336    CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER NANT Y MYNYDD, LLANFAES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau am yr ymweliad a gawsant â'r safle cyffiniol rai misoedd yn ôl.  Roedd y bwriad hwn yn groes i Bolisi 53 y Cynllun Lleol, i Bolisi A6 y Cynllun Fframwaith ac yn groes hefyd i'r ffram ddangosol HP5 yn yr CDU.  Nid oedd unrhyw hanes cynllunio i'r safle - sef rhan o ardd a datblygiad a fuasai'n creu datblygiad rhubanaidd annymunol.  Oherwydd gwelededd gwael roedd yr Adran Briffyrdd yn argymell gwrthod ac nid oedd digon o le ar y safle i ddarparu offer preifat i drin carthion.  Am y rhesymau a gyflwynwyd yn adroddiad y swyddog a hefyd am nad oedd digon o le ar y safle i dderbyn yr offer preifat i drin carthion roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais.  

 

      

 

     Ychydig i lawr y ffordd yr oedd treflan Cichle a dywedodd y Cynghorydd R L Owen bod caniatâd wedi'i roddi yno i godi 10 - 12 o anheddau; hefyd roedd maes carafanau yng nghefn y safle hwn.  Cais oedd hwn gan ferch ifanc leol a oedd, ar hyn o bryd, yn byw mewn ty Cyngor.  Hwn hefyd oedd y darn olaf o dir ar gael yn yr ardal.

 

      

 

     Yma atgoffwyd yr aelodau gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod raid selio penderfyniad ar egwyddor defnydd tir - nid ar amgylchiadau personol.

 

      

 

     Ni welai'r Cynghorydd Aled Morris Jones unrhyw reswm dros wrthod a chredai fod y cais yn fater o lenwi bwlch y tu mewn i bentref rhestredig a hynny'n cydymffurfio gyda Pholisi 50 y Cynllun Lleol a hefyd buasai'n darparu cartref i berson lleol.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Arwel Edwards a oedd modd datrys y problemau draenio ac mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd R L Owen bod modd cyflawni hynny trwy osod amod ynghlwm wrth y caniatâd.

 

      

 

     Gwrthwynebu'r cais blaenorol a wnaeth y Cynghorydd John Roberts ond teimlai fod hwn yn fater o lenwi bwlch a chynigiodd roddi caniatâd.  

 

      

 

     Roedd yr aelodau i gyd, ac eithrio un, yn dymuno caniatáu'r cais am y rheswm a ganlyn ac yn groes i argymhelliad y swyddog:

 

      

 

Ÿ

mae'r cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 y Cynllun Lleol.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

 

 

6.3

15C145  CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO DORMER, GAREJ A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YNGHYD Â DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR GAE ORDNANS 8708 Y TU CEFN I FFARM TREFEILIR, BETHEL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a hynny oherwydd amgylchiadau personol eithriadol.

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd disgrifiad o'r cynnig ac o'r safle fel y manylwyd ar y cyfryw bethau yn adroddiad y swyddog.  Aeth ymlaen i sôn am hanes cynllunio'r safle, crybwyllodd bod yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu, roedd sylwadau wedi'u cyflwyno gan

 

      

 

     gyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ond heb yr un gwrthwynebiad.  Roedd y cais yn groes i Bolisi 53 gan fod y safle mewn llecyn anghysbell yn y cefn gwlad agored a dim cyswllt o gwbl rhyngddo a chanol yr un pentref nac ag unrhyw glwstwr.  Ni chafwyd tystiolaeth o fath yn y byd gan yr ymgeisydd i gyfiawnhau gwyro oddi wrth y polisïau.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd R Ll Hughes fod yma deulu lleol Cymreig gyda dau fab.  Roeddynt yn dymuno gweld y mab yn byw yn agos er mwyn cynnig cymorth a chefnogaeth gyda'r mab arall - sef unigolyn deugain oed a methedig.  Roedd yr ymgeiswyr yn fodlon agor trafodaethau i ddatrys y gwrthwynebiad priffyrdd yng nghyswllt y fynedfa a'r gwelededd.  Roedd y teulu wedi ystyried addasu adeiladau amaethyddol ond bod y cyfan o'r rheini yn cael eu llawn ddefnyddio i ddibenion amaethyddol.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd O Glyn Jones cafwyd cynnig i ymweld â'r safle ac asesu'r sefyllfa a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R L Owen.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

6.4

15C35B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR GAE ORDNANS 1328 GER GLAN CORON, LLANGADWALADR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol gan fod y safle yn agos i dreflan a chlwstwr.

 

      

 

     I bwrpas cywiro'r cofnod (Hanes Cynllunio'r Safle) roedd angen diwygio pwynt 3 ac yn ei le rhoddi "gwrthodwyd caniatâd amlinellol ar y safle yn 2004."   Gan y cyrff hynny yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol cafwyd sylwadau ond dim gwrthwynebiadau.  Roedd y bwriad yn groes i'r polisïau a Pholisi 53 y Cynllun Lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y plot y tu allan i ffram ddangosol y dreflan dan Bolisi HP5 yr CDU ac o'r herwydd yn cyfateb i nodwedd ymwthiol annymunol yn y tirwedd a hynny yn erydu cymeriad a phrydferthwch naturiol yr Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol; yn weledol roedd y bwriad yn annerbyniol ac o'r herwydd nid oedd modd ei ystyried fel safle eithriad i dy fforddiadwy.  

 

      

 

     Yma ychwanegodd y Cynghorydd R Ll Hughes bod safle cais cynllunio 7.1 y cofnodion hyn union yr ochr draw i'r ffordd i safle'r cais hwn a chredai ei fod y tu mewn i'r ffiniau datblygu ac o'r herwydd aeth ymlaen i argymell bod aelodau yn ymweld â'r safle ac yn ymweld hefyd â safle Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr.

 

      

 

     Gan fod y cais blaenorol (a ystyriwyd dan y Cynllun Lleol) wedi'i wrthod yn 2004, cafwyd cynnig gan y Cynghorydd J Arthur Jones i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod y cais hwn a hynny am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorwyr D Lewis-Roberts ac O Glyn Jones a oedd modd ystyried y safle fel safle eithriad i ddarparu ty fforddiadwy dan drefniadau newydd y Canllawiau Cynllunio Atodol. Cafwyd cadarnhad y swyddog nad oedd hynny'n bosib.

 

      

 

     Wedyn cynigiodd y Cynghorydd Glyn Jones ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais hwn a safle Tyddyn Bwrtais dan eitem 7.1 y cofnodion hyn.

 

      

 

6.5

16C164   CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN HAFOD WEN, BRYNGWRAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a hefyd oherwydd bod y safle ar gyrion y pentref.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai'r cynnig gerbron yn arwain at greu estyniad annerbyniol i ffiniau'r pentref fel y cânt eu nodi yn y cynllun adneuol ac ni chafwyd yr un gwrthwynebiad i'r ffiniau hynny yn ystod y cyfnod ymgynghori; o'r herwydd mae'r cais yn groes i'r Cynllun Lleol, i'r Cynllun Fframwaith a hefyd i'r cyngor yng Nghanllawiau Cynllunio Cymru. Roedd yr Adain Briffyrdd yn cadarnhau bod y lôn breifat sy'n rhedeg at y safle yn is na'r safon.  

 

      

 

     Yn yr un modd ag eitem 4.1 y cofnodion hyn dywedodd y Cynghorydd R G Parry bod y safle union ger ffiniau'r pentref - yn agos iawn i annedd arall a mynwent yr eglwys union gerllaw.

 

      

 

     Un o'r ardal hon oedd y wraig a chafodd dir gan ei brawd sy'n berchen eiddo union ger y safle, a hefyd roedd aelodau o deulu'r ymgeisydd yn byw gerllaw.  Er nad oedd y ffordd fynedfa wedi'i mabwysiadu roedd arni oleuadau ac roedd yn rhedeg at yr eglwys a'r fynwent newydd.  Ni wyddai'r Cynghorydd Parry am yr un ddamwain ar hyd y darn hwn o'r ffordd a gofynnodd i'r aelodau fod yn gyson wrth wneud penderfyniad a chymeradwyo'r cais.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd R L Owen cadarnhaodd y Cynghorydd Parry mai hon oedd y fynedfa i'r fynwent newydd gan nad oedd y fynedfa o'r A5 yn cyrraedd y safon.

 

      

 

     Yma nododd y Cynghorydd Arthur Jones bod yr adroddiad yn crybwyll bod cytundeb Adran 52 wedi'i ddileu yn 2004, cytundeb yn cyfyngu ar ragor o waith datblgyu ar y tir, ac o'r herwydd cynigiodd roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R L Owen a'r Cynghorydd O Glyn Jones.

 

      

 

     O 8 bleidlais roedd yr aelodau yn dymuno caniatáu'r cais am y rheswm a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog:

 

      

 

Ÿ

roedd y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 y Cynllun Lleol

 

Ÿ

pobl leol

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

6.6

32C115B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, GAREJ A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR GAE ORDNANS 4243 TYN RHOS, CAERGEILIOG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wrth yr aelodau bod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a nodi bod y cais wedi'i dynnu'n ôl.

 

      

 

6.7

44C243  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER FFERM PENRHYN MAWR, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cyn symud ymlaen nodwyd bod llythyr hwyr wedi dod i law yn cefnogi'r cais.  Gan y cyrff hynny yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol cafwyd sylwadau ond dim gwrthwynebiadau.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cynnig hwn yn groes i'r polisïau ac yn eu plith Bolisi 53 y Cynllun Lleol.  Roedd y safle yn y cefn gwlad agored rhyw 400m y tu allan i'r ffiniau datblygu ac o'r herwydd nid oedd modd ei ystyried fel safle eithriad ac aeth y swyddog ymlaen i argymell adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod y cais hwn am y rhesymau a roddwyd.  

 

     Roedd yn bleser gan y Cynghorydd Aled Morris Jones gefnogi'r cais a gyflwynwyd gan ddynes leol ifanc a bod croeso iddi yn ôl i'r gymuned y cafodd ei magu ynddi, a buasai ei theulu yn cefnogi'r ysgol leol a'r capel; hefyd tybiai'r Cynghorydd Jones bod modd ystyried y cais fel un economaidd gan fod y teulu yn arallgyfeirio o'r diwydiant ffermio a hynny yn mynd i adfywio'r economi wledig yn lleol a hefyd roedd y cyngor cymuned lleol yn gefnogol.

 

      

 

     Ym marn y Cynghorydd J Arthur Jones nid oedd y rhesymau a roddwyd yn ddigon i gyfiawnhau cefnu ar y polisïau ac o'r herwydd argymhellodd dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod; eiliodd y Cynghorydd John Roberts y cynnig hwn gan nodi bod y safle rhyw 400m y tu allan i'r ffiniau datblygu.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd P M Fowlie cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Am resymau economaidd roedd y Cynghorydd Bessie Burns yn gefnogol i'r cais - roedd y teulu yn rhedeg busnes llwyddiannus.

 

      

 

     O 5 pleidlais i 4 PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

      

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

7.1

15C144   CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, I ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR TYDDYN BWRTAIS, LLANGADWALADR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a chan fod y safle ei hun union ger treflan a chlwstwr.

 

      

 

     Roedd yr aelodau yn dymuno ymweld â'r safle hwn a Glan Coron gerllaw yn Llangadwaladr (eitem 6.4 y cofnodion hyn).

 

      

 

      

 

7.2

19C171A   CAIS AMLINELLOL I GODI TAI, ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU AR DIR GER YSBYTY PENRHOS STANLEY, CAERGYBI

 

      

 

     Oherwydd natur y cais cafwyd argymhelliad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ymweld â'r safle tra oedd gwaith ymgynghori yn mynd ymlaen - ymweliad i gael rhagor o ddealltwriaeth o'r safle a'i gyd-destun cyn gwneud penderfyniad.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod.

 

      

 

      

 

7.3

19C809B  ESTYNIAD I GANOLFAN GYMUNEDOL GWELFOR, FFORDD TUDUR, CAERGYBI

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J Arwel Roberts ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Cymerwyd y Gadair am yr eitem hon gan yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y safle yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Bwriad sydd yma i ymestyn y cyfleusterau a darparu ystafell amlbwrpas gyda storfa yn y cefn ynghyd ag ystafelloedd cyfarfod, swyddfa, cegin a thoiledau.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

7.4

24C237     TROI ADEILADAU ALLANOL YN DDWY ANNEDD A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD YN NHY NEWYDD, NEBO

 

      

 

     Dygodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw'r aelodau at gamgymeriad yn yr adroddiad yn egluro pam y cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno ond nid oedd y rheswm yn gywir - y rheswm a roddwyd oedd bod aelod o'r Pwyllgor yn Gyfarwyddwr i'r Cwmni oedd yn gweithredu fel Asiant i'r Ymgeiswyr.  Roedd yn derbyn nad oedd yr aelod yn gyfarwyddwr ac ymddiheurodd am y camgymeriad.  

 

      

 

     Yma ychwanegodd y Cynghorydd J Arthur Jones iddo gael caniatâd arbennig y Pwyllgor Safonau i drafod ceisiadau a gyflwynir gan Best Value UK a phleidleisio arnynt.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.5

28C278B TROI ADEILAD ALLANOL YN ANNEDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YNG NGHAE'R NANT, BRYN DU

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod aelod o'r Pwyllgor â budd yn y cwmni oedd yn gweithredu fel asiant i'r ymgeiswyr.  Yn yr un modd ag yn yr achos dan eitem 7.4 uchod nodwyd bod y Cynghorydd J Arthur Jones wedi derbyn caniatâd arbennig i fod yn rhan o'r drafodaeth ar y mater a phleidleisio arno.

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod ei Adran wedi gofyn am welliannau i'r fynedfa ar hyd priffordd yr A4080 ac argymhellodd y dylid rhoddi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog a hefyd gydag amod arall yng nghyswllt gwella'r briffordd ond yn amodol ar gwblhau'r gwaith ymgynghori yn foddhaol.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd P M Fowlie yn teimlo bod yr ymgeiswyr eisoes wedi gwneud gwaith gwella ar y briffordd yn y cyffiniau.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.6

30C587  GWAITH ALTRO AC YMESTYN YN 9 FERN HILL, BENLLECH

 

      

 

     Gwnaed datganiad o ddiddordeb gan Mrs Carys Bullock o Adran y Rheolwr-gyfarwyddwr yn y cais hwn

 

      

 

     Cyflwnwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Wedyn cafwyd disgrifiad o'r cynnig gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio a thynnodd sylw'r aelodau at hanes cynllunio'r safle.  Gan y cyrff hynny yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol cafwyd sylwadau ond dim gwrthwynebiadau; ond roedd 17 o lythyrau a deiseb wedi'u derbyn a chrynodeb ohonynt yn ymddangos yn adroddiad y swyddog ac ar gael yn y cyfarfod.   Teimlai'r swyddogion bod y cynnig yn dderbyniol a chafwyd argymhelliad o ganiatáu.

 

      

 

     Gan y  Cynghorydd D Lewis-Roberts cafwyd argymhelliad bod aelodau yn ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa drostynt eu hunain.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa.

 

      

 

7.7

36C133B   YMESTYN LIBART LLAIN RHOS, RHOSTREHWFA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o'r safle yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

7.8

39C277C   CYNLLUNIAU LLAWN I GODI STAD DAI NEWYDD AC ARNI 12 O ANHEDDAU FESUL PARAU AC UN BLOC O DDAU FFLAT YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD YN NHYDDYN MOSTYN, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a hefyd am fod rhan o'r tir yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Dyma gais i ddiwygio cynllun y rhoddwyd caniatâd iddo yn y lle cyntaf ar gyfer 5 o dai pâr, 1 annedd ar wahân ac un bloc o ddau fflat dan 39C277B.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ond ar ôl derbyn cynlluniau diwygiedig boddhaol.

 

      

 

8     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar faterion a ddirprwywyd ac y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

9     MATERION A DROSGLWYDDWYD YN ÔL

 

      

 

9.1

46C137D   YR HEN GAE CRICED, TREARDDUR

 

      

 

     Er gwybodaeth cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cynllunio a'r Amgylchedd adroddiad ar y sefyllfa.  

 

      

 

     Nid oedd penderfyniad ffurfiol wedi'i ryddhau yng nghyswllt y bwriad i godi 36 o dai 3 llawr ar y safle uchod am nad oedd cyngor wedi dod i law gan Asiantaeth yr Amgylchedd mewn ymateb i gyflwyniad pellach gan ymgynghorwyr y datblygwr, Black and Veatch; a hyn mewn ymateb i adroddiad yr Ymgynghorwyr Bullens ar gyflwr y wal fôr yn Nhrearddur, a hefyd am fod y safle y tu mewn i dir C2 a'r posibilrwydd y gallai'r safle wynebu risgiau llifogydd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a nodi y bydd y Pwyllgor yn cael pob gwybodaeth am unrhyw ddatblygiad.

 

      

 

9.2

1/49/C/166      MELIN Y NORTH SHORE, Y FALI

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, adroddiad bod cais a gyflwynwyd ar 12 Medi, 1994 wedi'i dynnu'n ôl ar 1 Mehefin, 2005 - sef cais i ddymchwel y felin/storfa adeiladu a chodi gweithdy newydd i adeiladwr, storfa a swyddfa weinyddol ar y safle uchod.

 

      

 

10     APELIADAU

 

      

 

10.1

RHAN O GAE ORDNANS 7962, LLANGWYLLOG

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniad yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl yn erbyn penderfyniad a wnaeth yr Awdurdod hwn - penderfyniad i wrthod caniatâd cynllunio amlinellol i godi annedd ac a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 6 Ionawr, 2005 (APP/L6805/A/05/1176927); gwrthodwyd yr apêl.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.45 p.m.

 

 

 

J ARWEL ROBERTS

 

CADEIRYDD