Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 28 Gorffennaf 2004

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 28ain Gorffennaf, 2004

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod ar   28 Gorffennaf, 2004

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R. L. Owen, Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arthur Jones, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, Denis Hadley, R. Ll. Hughes, A. Morris Jones, O. Glyn Jones, D. Lewis Roberts, John Roberts, J. Arwel Roberts, W. T. Roberts, John Rowlands.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ),

Cynorthwywyr Cynllunio (DMR ac SH)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy) (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE).

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr John Byast, Peter Dunning, Thomas Jones, Keith Thomas, Gwilym O. Jones yr aelod lleol i eitem 4.8

Keith Evans yr aelod lleol i eitemau 4.12 a 4.13.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Yr Aelod Lleol :  Y Cynghorwyr W. I. Hughes (eitem 4.2. ac 5.1),

H. Eifion Jones (eitem 4.11), Goronwy Parry MBE (eitem 7.10), R. G. Parry OBE (eitemau 6.2, 6.3 a 8.2), W. J. Williams (eitemau 4.7 a 7.3)

 

Dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies fod y Cynghorydd Keith Thomas wedi mynd i'r ysbyty yn ddiweddar a gofynnwyd am yrru dymuniadau gorau yr aelodau ato.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion a chofnodwyd nhw dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 7 Gorffennaf 2004.

(tudalen 37 y Gyfrol hon).

 

YN CODI:

Eitem 6.9 y cofnodion - Y Felin, Llangoed (llinell gyntaf).  Cytunwyd fod angen dileu'r cyfeiriad at y Cynghorydd R. Ll. Hughes fel "Cadeirydd" y Pwyllgor.

 

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio ar 21 Gorffennaf, 2004.

 

 

 

YN CODI:

 

Nodwyd bod y Cynghorydd John Roberts wedi cyflwyno ymddiheuriad am ei absenoldeb yn y cyfarfod uchod.

 

 

 

4

CEISIADAU YN CODI O'R COFNODION

 

 

 

4.1

CAIS CYNLLUNIO

 

 

 

11C122B/EIA - DARPARU GWAITH CARTHFFOSIAETH A GWAITH TIRLUNIO CYSYLLTIEDIG AR RAN O SAFLE TANCIAU STORIO OLEW SHELL GYNT A SAFLE GREAT LAKES, AMLWCH

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr aelodau wedi ymweld â safle'r cais uchod ar 21 Gorffennaf 2004 er mwyn cael gwell dealltwriaeth o amgylchiadau'r safle.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr fod amheuaeth yn dal i fod ynghylch perchnogaeth y safle ac argymhellodd y dylid gohirio ystyried y cais.

 

 

 

Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.222........

 

 

 

4.2

CAIS YN GWYRO

 

 

 

14C174B - CAIS AMLINELLOL I GODI UN ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER LLYNFAES UCHAF, LLYNFAES

 

 

 

Yn y cyfarfod cynt gohiriwyd ystyried y cais er mwyn rhoi cyfle i'r aelod lleol annerch y cyfarfod.

 

 

 

Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd argymhelliad i ohirio ystyried y cais am fod yr ymgeiswyr wedi cyflwyno rhagor o gynlluniau y buasai'n rhaid ymgynghori arnynt.

 

 

 

Anerchodd y Cynghorydd W. I. Hughes, yr aelod lleol, y cyfarfod a gofyn, yn y cyfamser, bod aelodau yn ymweld â safle'r cais gan ei fod ar gyrion y pentref, heb fod yn y cefn gwlad agored ac yn un na ddylid, yn ei farn ef, ei ystyried fel cais yn gwyro.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes fod y cais hwn yn cydymffurfio gyda'r polisiau presennol.  

 

 

 

Am y rhesymau a roddwyd penderfynwyd ymlwed â safle'r cais hwn.

 

 

 

4.3

CAIS YN GWYRO

 

 

 

16C156 - CAIS AMLINELLOL I GODI UN ANNEDD YNGHYD AG ADDASU Y FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU YN 0.S. 8370, CAPEL GWYN, BRYNGWRAN

 

 

 

Yr aelod lleol a ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

 

 

Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn cymryd yn ganiataol bod yr aelodau yn gyfarwydd â'r safle ar ôl ymweld â'r lle ar 21 Gorffennaf 2004.  Yma roedd sawl rheswm allweddol dros wrthod y cais.  Buasai'n cyfateb i ddatblygiad newydd yn y cefn gwlad, ar dir glas ac o'r herwydd yn groes i egwyddorion datblygiadau cynaliadwy.  Nid oedd, yn yr ardal hon,

 

wasanaethau megis siop na chapel.  Chwaith nid oedd Capel Gwyn wedi ei restru fel pentref/treflan yn y cynllun datblygu.  Nid oedd modd cyfiawnhau rhoddi caniatâd, ac yn arbennig felly o gofio am safon rhwydwaith y ffyrdd yn lleol a goblygiadau caniatáu datblygiadau ychwanegol.  Gan y swyddog cafwyd argymhelliad cryf i wrthod am fod y cais yn groes i bolisïau lleol a chenedlaethol fel yr adroddwyd ar hynny i'r cyfarfod cynt yn fanwl yn adroddiad y swyddog, gan gyfeirio yn benodol at Adran 54A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

 

 

 

Anerchodd yr aelod lleol, y Cynghorydd R. G. Parry y cyfarfod gan ddweud bod safle'r cais yng nghanol clwstwr o 10-20 annedd heb fod yn y cefn gwlad agored.  Yma roedd bachgen ifanc yn dymuno dychwelyd i'r ardal i fyw ac wedi methu â chael annedd yn lleol.  Buasai caniatau'r cais yn adfywio'r ardal a thra bod y Cynghorydd Parry yn derbyn mai lôn fechan wledig oedd yma  roedd cerbydau trymion yn teithio arni yn rheolaidd i ffermydd lleol.

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd y swyddog bod safle'r cais, yn ffeithiol, yn y wlad agored fel y dywed y cynllun datblygu.

 

 

 

Barnai'r Cynghorydd J. Arthur Jones fod angen ystyried y lle fel clwstwr oherwydd bod o gwmpas 10 i 12 o dai yn y cyffiniau a bod angen diwygio Cynllun Datblygu Unedol 2001 i gyfateb i hyn.  Roedd cymunedau'n diflannu a'r swyddfeydd post a'r ysgolion lleol  yn cau.

 

 

 

Mewn ymateb i gais y Cynghorydd Glyn Jones ar yr ymweliad dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod Ty Newydd (annedd ymhellach i lawr y lôn fechan) wedi derbyn caniatâd fel cartref fforddiadwy i fab yr ymgeisydd a'r caniatâd hwnnw wedi ei roddi yn groes i argymhelliad swyddogion ar y pryd o wrthod ac yn groes i bolisïau perthnasol yn 1991.  Yn 1992 fe werthwyd y ty.  Roedd gofyn i'r aelodau wneud penderfyniad yn seiliedig ar egwyddor defnydd tir nid am resymau personol.  Wrth ateb cwestiwn y Cynghorydd John Roberts, dywedodd y swyddog fod y cynllun hwnnw a amgaewyd gydag adroddiad y swyddog yn gynllun diweddar a chyfredol.

 

 

 

Yma ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad nifer y tai oedd yr unig ystyriaeth o bwys wrth bennu a oedd lle yn dreflan ai peidio wrth baratoi'r Cynllun Datblygu, roedd ystyriaethau eraill megis cyfleusterau, egwyddorion cynaliadwyaeth a'r gwasanaethau.  Nid oedd Capel Gwyn wedi pasio'r profion hyn yn ystod y broses o asesu pethau wrth baratoi'r CDU.  Dywedodd unwaith yn rhagor nad oedd rhwydwaith y ffyrdd lleol yn cyrraedd y safon ac o'r herwydd yn annigonol.  Cafwyd cadarnhad i hyn gan y Swyddog Priffyrdd ac ychwanegodd y buasai rhoddi caniatâd cynllunio yn andwyol i ddiogelwch y ffordd.

 

 

 

Gan nad oedd hwn yn bentref/treflan restredig yn y Cynllun Datblygu Unedol credai'r Cynghorydd R. Ll. Hughes fod y cynnig yn groes i Bolisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn (tai newydd yn y cefn gwlad) ac roedd yr Adran Briffyrdd yn gryf yn argymell gwrthod.  Felly cafwyd gan y Cynghorydd Hughes gynnig i dderbyn adroddiad y swyddog, sef argymhelliad o wrthod, ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd John Roberts.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Aled Morris Jones roddi caniatâd i'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D. Lewis Roberts.

 

 

 

O wyth bleidlais i bump ac yn groes i argymhelliad y swyddog CYTUNWYD i roddi caniatâd i'r cais am y rhesymau a ganlyn :

 

 

 

Ÿ

darparu ty fforddiadwy i berson lleol oedd yn dymuno dychwelyd i'r ardal y cafodd ei fagu ynddi

 

Ÿ

buasai'r cynnig yn adfywio y clwstwr hwn o anheddau

 

Ÿ

teimlai'r aelodau fod y rhwydwaith ffyrdd lleol yn ddigon da

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, câi'r cais ei ohirio'n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

 

 

4.4

CAIS YN GWYRO

 

 

 

18C154 - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO DORMER YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR GAE ORDNANS 522, FFERM GWLGRI, RHYDWYN

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr aelodau wedi ymweld â safle'r cais uchod ar 21 Gorffennaf 2004 er mwyn cael gwell dealltwriaeth o amgylchiadau'r safle.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog bod y cynnig hwn yn ddatblygiad preswyl annerbynniol ar ben ei hun yn y cefn gwlad mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol, hefyd ei fod yn groes i bolisïau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys polisïau yn ymwneud â thai a'r amgylchedd.  Ganddo cafwyd argymhelliad cryf i wrthod am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes fod y safle y tu allan i ffiniau pentref rhestredig Rhyd-wyn yn ôl diffiniad Polisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn, a chafwyd cynnig ganddo i dderbyn adroddiad y swyddog ar ei argymhelliad o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arwel Edwards dywedodd y swyddog nad oedd y cais yn un am dy fforddiadwy ac aeth ymlaen i ddarllen darn o Nodyn 2 Cyngor Technegol, paragraff 5 - sef y diffiniad o dy fforddiadwy a'r meini prawf i'w bodloni yn y cyswllt hwnnw.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Aled Morris Jones, dywedodd y Swyddog Cynllunio bod cae rhwng ffiniau pentref Rhyd-wyn a safle'r cais a chadarnhaodd hefyd bod y tai yr ochr draw i'r lôn i'r safle y tu mewn i'r ffiniau.  Teimlai'r Cynghorydd Jones fod hwn yn estyniad derbyniol i ffiniau'r pentref ac yn fodd o ddarparu ty fforddiadwy i berson lleol.  O'r herwydd argymhellodd roddi caniatâd yn groes i argymhelliad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D. Lewis Roberts.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr Arolygwr Cynllunio bellach wedi derbyn ffiniau swyddogol pentref Rhyd-wyn fel y cawsant eu nodi yn yr CDU ac roedd y cais y tu allan i'r ffiniau hynny.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd J. Arthur Jones fod yr adeiladau gyferbyn â'r safle y tu mewn i ffiniau arfaethedig y CDU a than Bolisi 50 y Cynllun Lleol roedd y safle ar gyrion y pentref.

 

 

 

Atgoffodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes yr aelodau eu bod, fel aelodau etholedig, wedi bod yn rhan o'r broses ymgynghori ar lunio'r CDU a'u bod yn awr yn gwneud argymhellion oedd yn groes i'w polisïau eu hunain.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais hwn am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr P. M. Fowlie nac O. Glyn Jones ar y cais.

 

 

 

4.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C291A - CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL TY TAFARN A CHODI 12 ANNEDD DWY YSTAFELL WELY YR UN A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN Y DDRAIG GOCH, LLAIN-GOCH.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd materion draenio a dylunio wedi eu datrys ac argymhellodd y dylid gohirio ystyried y cais.

 

 

 

Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

 

 

4.6

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C843A - CODI ESTYNIAD AR LLAWR CYNTAF YN OROTAVIA, WALTHEW AVENUE, CAERGYBI

 

 

 

Bu'r aelodau ar ymweliad â'r safle uchod ar 21 Gorffennaf 2004.  Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn argymell gwrthod y cais hwn oherwydd ei faint a'i uchder ac oherwydd hynny câi effaith andwyol ar bleserau y tai cyffiniol fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais hwn am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.7

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

     28C80F - TROI MELIN YN ANNEDD A DARPARU ESTYNIAD ER MWYN CREU LLE BYW A HYNNY YN LLE CHWE UNED WYLIAU  YN YR HEN FELIN, CAPEL COCH

 

      

 

     Yn ôl dymuniad yr aelod lleol ymwelwyd â'r safle uchod ar 21 Gorffennaf 2004.  

 

      

 

     Yn ei adroddiad dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais gerbron yn un i addasu ac i ymestyn melin draddodiadol er mwyn creu un annedd yn lle 6 uned wyliau a gafodd ganiatâd cynllunio ar apêl.  Roedd hwn yn Adeilad Rhestredig Graddfa II a'r cais yn gostwng nifer yr unedau ar y safle.  Buasai y tu allan i'r adeilad yn gyfuniad o bethau traddodiadol a modern a theimlai'r swyddog bod hynny yn dderbyniol.  Petai'r cais yn cael ei ganiatáu  roedd y swyddogion yn argymell cwblhau cytundeb dan Adran 106 i rwystro neb rhag codi'r 6 uned wyliau.  Cafwyd sylwadau gan gyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ond nid oedd yr un ohonynt yn gwrthwynebu'r bwriad hwn.

 

      

 

     Cafwyd anerchiad gan yr aelod lleol, y Cynghorydd W. J. Williams, a oedd yn teimlo fod y cynnig hwn yn welliant sylweddol ar y cynigion blaenorol.  Nid oedd yn gwrthwynebu adnewyddu'r felin a bellach roedd y feranda yn wynebu Llangefni a hynny yn dderbyniol.  Fodd bynnag, doedd y Cynghorydd Williams ddim yn siwr a fuasai'r dyluniad allanol cymysg yn briodol i'r cynnig nac yn siwr a oedd hynny yn addas i'r cyd-destun.  Ychwanegodd y Cynghorydd Williams y buasai'n rhaid gofyn i CADW am ganiatâd adeilad rhestredig a gofynnodd, petai caniatâd yn cael ei roddi, am i'r ymgeiswyr gydnabod bod y fferm magu cywion ieir gerllaw yn bur agos a chydnabod hefyd natur ac effaith y gwaith hwnnw ar y safle a oedd yn darparu swyddi yn yr economi gwledig.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd John Arthur Jones fod y cynnig yn groes i Bolisi 55 Cynllun Lleol Ynys Môn (addasu adeiladau amaethyddol traddodiadol) am nad oedd yn diogelu cymeriad yr hen adeilad ac oherwydd maint y bwriad yng nghyd-destun yr hen adeilad.  Roedd y cynnig a'r estyniad  yn cyfateb i fwy na mân newidiadau i'r felin.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd R. Ll. Hughes roedd dyluniad y felin yn fater o ddehongli ond cefnogai'r cynnig i ddiogelu'r felin.  Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Hughes i ganiatau'r cais yn unol ag argymhelliad adroddiad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatau'r cais am y rhesymau a roddwyd ar ôl cwblhau trafodaethau'n llwyddiannus gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog a hefyd gyda chytundeb dan Adran 106 i bwrpas dileu unrhyw hawliau datblygu cyfreithlon a roddwyd dan hawliau cynllunio 23C80D a 23C80E.

 

 

 

4.8

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     32C122 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER CRAIG EITHIN, CAERGEILIOG

 

      

 

     Gwnaeth Gareth Thomas o'r Adran Briffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a hefyd cafwyd datganiad cyffelyb gan y Cynghorydd J. Arthur Jones ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

     Bu'r aelodau ar ymweliad â'r safle ar 21 Gorffennaf 2004 a chyflwynwyd ef i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol y Cynghorydd Gwilym Jones, a oedd yn ymddiheuro am ei absenoldeb ond er hynny nododd ei fod yn cefnogi'r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y safle rhyw 160m y tu allan i ffiniau datblygu Caergeiliog ac nid oedd yn ddatblygiad cynaliadwy nac yn perthyn i unrhyw un o'r categorïau ym Mholisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn (tai newydd yn y cefn gwlad), a buasai'n creu datblygiad rhubanaidd.  Heb fod ymhell o'r safle roedd caniatâd cynllunio i godi tua 40 o dai y tu mewn i ffiniau'r pentref, a buasai canran ohonynt yn dai fforddiadwy.  Roedd y swyddogion yn argymell gwrthod.

 

      

 

     Yma nododd y Cynghorydd Lewis Roberts fod y caniatâd hwnnw yn rhyw 6 blwydd oed a gofynnodd pa bryd y dechreuid ar y gwaith datblygu.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd John Roberts dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

4.9

CAIS YN GWYRO

 

      

 

     34C83C - DATBLYGIAD 21 ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais gan J. R. W. Owen o'r Adran Briffyrdd a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod swyddogion yn dal i fod mewn trafodaethau gyda'r asiant yng nghyswllt materion priffyrdd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau'r trafodaethau gydag asiant yr ymgeisydd.

 

      

 

4.10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     35C207G - YMESTYN A NEWID DEFNYDD YR HEN FELIN TRWY EI THROI YN LLETY GWYLIAU  YN YR HEN FELIN LLANGOED

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Robert Ll Hughes yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Bu'r aelodau yn ymweld â'r safle uchod ar 21 Gorffennaf 2004 a hynny oherwydd natur y safle a'i hanes.

 

 

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd argymhelliad i ohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau trafodaethau ar faterion draenio oedd heb eu datrys.

 

      

 

     Cafwyd anerchiad gan yr aelod lleol, y Cynghorydd John Rowlands, nad oedd tanc septig ar y safle, bod rhwydwaith y ffyrdd lleol yn is na'r safon, ac yn enwedig y lôn fechan, sef yr unig ffordd i gerbydau cyrraedd y safle.  Buasai carthbwll yn creu mwy o draffig ar hyd y lôn arw fechan hon nad oedd modd mynd ar ei hyd ar adegau yn ystod y gaeaf, ac roedd y fynedfa i safle'r ymgeisydd yn gul.  Roedd y Cyngor Cymuned a nifer o bobl leol yn gwrthwynebu.

 

      

 

     Oherwydd y rhesymau uchod cafwyd cynnig gan y Cynghorydd John Rowlands i wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Yma rhoes y Rheolwr Rheoli Cynllunio rybudd i'r aelodau i fod yn dra gofalus gyda materion draenio am nad oedd y swyddogion mewn sefyllfa i wneud argymhelliad ar y mater ar hyn o bryd.

 

      

 

     O 9 pleidlais yn erbyn yr argymhelliad PENDERFYNWYD gwrthod y cais hwn am nad oedd rhwydwaith y ffyrdd lleol yn cyrraedd y safon ofynnol, ac am nad oedd y lôn fechan yn ddigon mawr i dderbyn rhagor o draffig a gâi ei greu yn sgil darparu carthbwll.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, câi'r cais ei drosglwyddo yn awtomatig i gyfarfod nesaf y Pwyllgor a rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau gwrthod ac adroddiad hefyd ar absenoldeb cyfleusterau draenio ar y safle.

 

      

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorydd P. M. Fowlie a J. Arwel Roberts ar y cais hwn.

 

      

 

4.11

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     37C29A - CODI ADEILAD NEWYDD I GYNHYRCHU HALEN MÔR AC YN CYNNWYS SWYDDFEYDD, SAFLE I YMWELWYR A SIOP AR SAFLE CWMNI HALEN MÔR MÔN, BRYNSIECYN

 

      

 

     Ymwelodd yr aelodau â safle'r cais ar 21 Gorffennaf 2004 a nododd y Rheolwr Rheoli cynllunio mai cais economaidd oedd yma a throsglwyddwyd ef i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Eglurodd y swyddog bod y safle mewn llecyn agored ac amlwg, mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol a rhan o'r tir datblygu arfaethedig yn eiddo i'r ymgeisydd ac yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel maes parcio ar yr adegau prysuraf yn y Sw Fôr.  Cafwyd sylwadau gan gyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ond ni chafwyd yr un gwrthwynebiad i'r cynnig.  Gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Adran Briffyrdd cafwyd rhai pryderon oherwydd y rhwydwaith ffyrdd lleol sy'n gwasanaethu'r safle.  Pryderu oedd y Cyngor Cymuned am leoliad y cynnig fel a nodwyd yn adroddiad y swyddog.  Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau at bolisïau perthnasol i'w hystyried ac a ystyriwyd yn adroddiad y swyddog.  Y ffactorau pennaf i'w hystyried wrth bennu argymhelliad i'r Pwyllgor oedd effaith y bwriad hwn ar yr Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol a hefyd pa les a ddeuai i'r economi leol.  Ni chredai'r swyddogion y buasai'r dyluniad allanol unigryw a gyflwynwyd yng nghyswllt y bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol ar yr ardal sensitif hon a hefyd roedd yr ymgeisydd wedi profi bod angen y lleoliad penodol hwn i'r datblygiad.  Roedd yr Adran Briffyrdd mewn trafodaethau gyda'r ymgeisydd i wella ffordd at y lle trwy Frynsiencyn a hynny trwy greu 4 llecyn pasio.  Roedd y safle arall a awgrymwyd mor agos i safle'r ymgeisydd fel na wnâi fawr ddim gwahaniaeth i'r broses o ystyried y ddau leoliad.

 

      

 

     Anerchodd y Cynghorydd Eifion Jones y cyfarfod fel aelod lleol a dweud y buasai'n croesawu gwelliannau ar hyd rhwydwaith lleol y ffyrdd a'i fod yn cefnogi unrhyw fwriad i greu swyddi yn y rhan hon o'r Ynys.  Roedd y Cyngor Cymuned yn cefnogi'r datblygiad mewn egwyddor.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W. T. Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatau'r cais am y rhesymau yn adroddiad y Swyddog a chydag amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

4.12

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     39C291D - DYMCHWEL RHAN O'R WARWS A THROI'R ADEILAD SYDD AR ÔL YN BEDWAR APARTMENT A DWY ANNEDD YNGHYD Â CHODI 6 ANNEDD NEWYDD, DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AC UN ARALL I GERDDWYR YN STRYD Y PACED, PORTHAETHWY

 

      

 

     Ymwelodd yr aelodau â'r safle ar 21 Gorffennaf 2004 i gael gwell syniad o effaith y datblygiad arfaethedig.  Gan yr aelod lleol, y Cynghorydd Keith Evans, cafwyd ymddiheuriad am na fedrai fynychu'r cyfarfod ond mynegodd ei gefnogaeth i'r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y llythyrau lu a gafwyd wedi eu crybwyll yn adroddiad y swyddog a gyflwynwyd i'r cyfarfod, gan gynnwys llythyrau hwyr nad oedd yn codi unrhyw faterion newydd.

 

      

 

     Aeth y swyddog yn ei flaen i ddweud mai cais oedd yma i ddarparu 12 o anheddau a chrybwyllodd hanes cynllunio'r safle fel a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y swyddog.  Cafwyd sylwadau gan gyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ond nid oedd ganddynt yr un gwrthwynebiad i'r bwriad.  Hefyd dygodd y swyddog sylw'r aelodau i'r polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor.  Roedd y dyluniad allanol yn ategu nodweddion yr ardal a hefyd darperid elfen o dai fforddiadwy.  

 

      

 

     Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio  yn argymell caniatau'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Wrth ymateb dywedodd y Cynghorydd John Robert ei fod yn croesawu'r ffaith bod y bwriad i ddatblygu ardal yr afon wedi ei dynnu'n ôl.  'Doedd y Cynghorydd Roberts ddim yn siwr a fuasai'r dyluniad yn ategu nodweddion y cyffiniau a chredai bod y bwriad, i ryw raddau, yn cyfateb i or-ddatblygu'r safle a hefyd yn edrych dros Westy Fictoria gerllaw.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arwel Edwards, dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cynlluniau drychiadol yn dangos fod crib y bwriad, yn y man uchaf, ar lefel tir gardd gefn y gwesty.

 

      

 

     Hefyd mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arwel Edwards dywedodd y Swyddog Priffyrdd y câi llwybr troed ei ddarparu ar hyd un ochr o'r ffordd.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones dywedodd y Swyddog Priffyrdd ei fod yn fodlon gyda'r bwriad a'i effaith ar y rhwydwaith ffyrdd yn lleol.  'Doedd asesiad o effaith ar draffig ddim yn angenrheidiol a hynny oherwydd maint y bwriad.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones oedd cefnogi'r cais a chanmol y dyluniad.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog yn cynnwys argymhelliad o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd, ond gydag amodau a chytundeb dan Adran 106 yng nghyswllt darparu tai fforddiadwy fel a grybwyllwyd yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

4.13

  CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     39C291E/LB - CANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG I DDYMCHWEL RHAN O'R WARWS A THROI ADEILAD SY'N WEDDILL YN 4 APARTMENT A DWY ANNEDD A CHODI CHWE ANNEDD NEWYDD, DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A MYNEDFA I GERDDWYR YN STRYD Y PACED, PORTHAETHWY

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr aelodau wedi ymweld â'r safle ar 21 Gorffennaf 2004.

 

      

 

     PENDERFYNWYD peidio â gwrthwynebu ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog a nodi y câi'r cais ei yrru ymlaen at CADW i benderfynu arno.

 

      

 

4.14

  CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     46CLPA841/CC/EIA  - CODI MAST CYFATHREBU NEWYDD A DYMCHWEL YR ADEILAD CADW OFFER, CODI ADEILAD NEWYDD I GADW OFFER A CHAEL GWARED O'R HEN FAST, SYLFAEN GONCRID A'R FFENS DDIOGELWCH YN Y FOEL, MYNYDD TWR, CAERGYBI

 

      

 

     Cais gan y Cyngor oedd hwn ac ar dir yn eiddo i'r Cyngor.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeisydd bellach wedi cyflwyno rhagor o wybodaeth a buasai'n rhaid ymgynghori ymhellach arni yn statudol ac argymhellodd y dylid gohirio ystyried y cais.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd gan y swyddog CYTUNWYD i ohirio'r cais hwn.

 

      

 

5     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

5.1

14C28R - ADDASU AC YMESTYN SIED TRWSIO AWYRENNAU AC ER MWYN DARPARU CYFLEUSTERAU HYFFORDDI AR BLOT 5 STAD DDIWYDIANNOL MONA, BODFFORDD

 

      

 

     Daeth y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd bod y safle yn eiddo i'r Cyngor.  Nodwyd bod yr aelod lleol yn cefnogi'r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau perthnasol yn hwnnw.

 

      

 

      

 

5.2

  34C396A/EIA  -  CAIS I SEFYDLU FFERM BYSGOD, SEF PEDWAR PWLL, CANOLFAN I YMWELWYR, CYFLEUSTERAU PARCIO, MYNEDFA A GWAITH CYSYLLTIEDIG AR DIR LLWYN EDNYFED, LLANGEFNI

 

      

 

     Gwnaeth y Cadeirydd, y Cynghorydd R. L. Owen, ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na'r pleidleisio.  Yn ei absenoldeb cymerwyd y Gadair gan yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd John Arthur Jones am yr eitem hon.

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd bod Asesiad o'r Effaith ar yr Amgylchedd ynghlwm wrth y cais.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn dderbyniol; hefyd roedd yr aelod lleol yn cefnogi a chafwyd argymhelliad o ganiatáu'r cais gan y swyddog ond gydag amodau perthnasol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo'r hawl i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau perthnasol yn hwnnw.

 

      

 

6     CEISIADAU YN GWYRO

 

      

 

6.1

  14C92C  -  CAIS LLAWN I ADDASU A DYMCHWEL RHAN O'R ADEILADAU ALLANOL A DARPARU TAIR UNED WYLIAU I'W GOSOD A DARPARU LLETY I'R PERCHNOGION YM MHARC CEFNI, BODFFORDD

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais bellach wedi ei dynnu'n ôl.

 

      

 

     PENDERFYWNYD nodi'r uchod.

 

      

 

6.2

16C49A - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD YNG NGHAER DDÔL, LLANBEULAN

 

      

 

     Yr aelod lleol a ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor wneud penderfyniad arno.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y bwriad yma yn cyfateb i godi annedd yn fympwyol, nad oedd modd iddi fod yn gynaliadwy ac nad oedd yn dderbyniol yn y cefn gwlad ac yn groes i bolisiau cyfredol, gan gynnwys y CDU.  Roedd y cyrff yr ymgynghorwyd gyda nhw'n statudol wedi cyflwyno sylwadau ar y cynnig a chyfeiriodd y swyddog yr aelodau at bolisïau perthnasol a ystyriwyd ac a nodwyd yn adroddiad y swyddog ond yn arbennig Bolisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn (tai yn y cefn gwlad).  Roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais hwn am resymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd R. G. Parry, yr aelod lleol, mai cais oedd hwn i godi annedd i wraig weddw gymharol ifanc ymddeol iddi.  Wrth roddi caniatâd, wedyn gallai ei mhab symud i'r ffermdy a bod ffactor o'r fath yn bwysig yn y diwydiant amaeth.  Roedd y rhwydwaith ffyrdd o gwmpas y safle yn ddigonol.  Gerllaw yr oedd dau fwthyn.  Heb fod ymhell o'r llecyn hwn roedd yr A55, a thir y cais mewn powlen ac ni châi effaith andwyol ar dirwedd y cefn gwlad.  Teimlai'r Cynghorydd Parry fod yma angen gwirioneddol a dwys.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Fowlie yn amau a oedd modd categoreiddio'r cais fel un amaethyddol neu angen lleol.  Dywedodd fod "Strytwn" wedi derbyn caniatâd cynllunio i bwrpas adnewyddu adeilad amaethyddol gerllaw gan ychwanegu nad oedd yr adeilad hwnnw wedi ei ddangos ar y map.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cais hwn wedi ei gyflwyno ar sail anghenion amaethyddol na lleol ac o'r herwydd roedd yn groes i Bolisi 53 (tai yn y cefn gwlad).  Barnai fod y cais hwn yn gwyro oddi wrth y polisïau.  Yn achos "Strytwn", cais oedd hwnnw i newid adeilad amaethyddol a phrun bynnag roedd ymholiadau yn cael eu gwneud yn ei gylch yng nghyswllt gorfodaeth cynllunio.  Os oedd gofynion amaethyddol i godi annedd yna gellid dangos hynny mewn cais newydd.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes fod y cais hwn yn amlwg yn groes i Bolisi 53 (tai  yn y cefn gwlad) ac erfyniodd ar aelodau i fod yn gyson wrth wneud penderfyniadau.  Roedd angen rhagor o dystiolaeth i gefnogi cais yn seiliedig ar ofynion amaethyddol ac o'r herwydd cynigiodd ei wrthod.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Fowlie roddi caniatâd ond eiliodd John Roberts y cynnig i wrthod yn unol ag adroddiad y swyddog ond rhoddi'r cyfle i'r ymgeisydd gyflwyno cais arall yn seiliedig ar ofynion amaethyddol.

 

      

 

     O 7 bleidlais i 6 PENDERFYNWYD gwrthod o cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

6.3

  16C138A  -  CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A DARPARU OFFER NEWYDD I DRIN CARTHION AR GAE ORDNANS 6674, BRYNGWRAN

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Eglurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai tir amaethyddol oedd safle'r cais a hwnnw tua'r gogledd o'r A5 y tu allan i ffiniau pentrefol Bryngwran.  Yn 2000 cyflwynwyd cais cyffelyb.  Mae ffiniau'r pentref wedi eu marcio'n glir yn yr CDU.  Mae'r safle y tu allan i'r ffiniau ac nid yw'n estyniad rhesymegol i'r pentref.  Cafwyd sylwadau gan gyrff statudol yr ymgynghorwyd â nhw ond ni chafwyd yr un gwrthwynebiad i'r cynnig hwn.  Buasai'r cynnig yn cyfateb i estyniad annerbyniol i'r pentref ac yn cael effaith annerbyniol ar ardal tirwedd arbennig.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd R. G. Parry 'doedd y Cyngor Cymuned ddim yn gytûn ar y cais ac wedi methu â chyflwyno argymhelliad i'r Cyngor Sir.  Dywedodd y Cynghorydd Parry fod y safle y tu allan i'r pentref ond ar ei gyrion ac afon rhyngddo a'r pentref.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R. Ll. Hughes cafwyd cynnig i dderbyn yr argymhelliad o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Eurfryn Davies roedd y cynnig hwn ym mhen rhes o dai ac yn rhan o'r pentref a chafwyd cynnig ganddo fod aelodau yn ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa eu hunain a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     O 9 pleidlais i 6 ac am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

      

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

7.1

14C92B - TROI SWYDDFEYDD YN SIOP TRIN GWALLT A PHARLWR PRYDFERTHWCH (H.Y. DEFNYDD DOSBARTH 1) YN YSTAFELLOEDD 1 AC 18 PARC CEFNI, BODFFORDD

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr asiant wedi codi materion ac yn crybwyll bod datblygiad cyffelyb eisoes wedi cael caniatâd.  Dan yr amgylchiadau ac er mwyn rhoi cyfle i swyddogion ystyried y pwyntiau a godwyd argymhellodd y dylid gohirio ystyried y cais.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd gan y Swyddog PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

7.2

19C351D - ADNEWYDDU CANIATÂD 19C351B I OSOD PORTACABIN AR DIR CANOLFAN HAMDDEN CAERGYBI, KINGSLAND, CAERGYBI

 

      

 

     Daeth y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno am ei fod ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau ynddo.

 

      

 

7.3

  23C223  -  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AC ADDASU'R FYNEDFA YNG NGHAE ORDNANS 1800 CAE TYN LON, TALWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor ei ystyried yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod swyddogion wedi gofyn i'r ymgeiswyr am ragor o wybodaeth am union leoliad yr annedd a'r fynedfa i'r safle a hefyd am y draeniad, y coed fydd yn cael eu torri a'r gwrych ar y terfyn.  Fodd bynnag, gan ddilyn adroddiad y swyddog, roedd y n argymell gwrthod y cais ac nid oedd y wybodaeth y gofynnwyd amdani yn allweddol i'r swyddogion asesu'r cyfryw gais.

 

      

 

     Nodwyd y buasai gohiriad yn mynd â'r mater y tu draw i'r cyfnod o 8 wythnos y mae'n rhaid gwneud penderfyniad y tu mewn iddo.

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd W. J. Williams, yr aelod lleol, ei fod yn argymell gohirio'r cais am nad oedd y swyddogion wedi derbyn y wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd i'r ymgeiswyr amdani.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts cafwyd cynnig i ohirio ystyried y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd R. Ll. Hughes oedd cynnig gwrthod y cais yn unol ag adroddiad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais a rhoi cyfle i'r ymgeiswyr gyflwyno rhagor o wybodaeth.

 

      

 

7.4

  25C146C  -  CODI ANNEDD A GAREJ BREIFAT AR DIR Y TU CEFN I TREM Y WYLFA, CARMEL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor ei ystyried gan fod safle'r cais yn cwmpasu tir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J. Arthur Jones nad oedd carthffosiaeth mêns i'r tai eraill yn y cyffiniau ac argymhellodd ohirio ystyried y cais hyd nes datrys yr holl faterion draenio'n foddhaol.  Dywedodd y Cynghorydd Jones fod y gost i'r awdurdod lleol o wagio carthbyllau i dai yn yr ardal hon o gwmpas £150 yr wythnos.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y gallent, petai'r Pwyllgor yn caniatáu egwyddor y datblygu, ddirprwyo yr hawl i roddi caniatâd i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio unwaith y ceid ateb boddhaol i'r mater draenio.

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo'r pwer i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i ganiatáu y cais hwn am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ond yn amodol ar gael ateb boddhaol i drefniadau draenio carthffosiaeth.

 

      

 

7.5

  28LPA843/CC  -  CAIS I OSOD YSTAFELL DDOSBARTH NEWYDD YN YSGOL GYNRADD RHOSNEIGR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor ei ystyried gan ei fod yn gais ar ran yr Awdurdod ac ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYWNYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

7.6

  31LPA840/LB/CC - CAIS ADEILAD RHESTREDIG AR GYFER ADDASIADAU MEWNOL AC ALLANOL YN Y TOLLDY, LLANFAIRPWLL

 

      

 

     Gwnaeth Mr. Richard Eames o'r Adran Briffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor ei ystyried gan ei fod wedi ei gyflwyno ar ran yr Awdurdod ac ar dir y Cyngor.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd John Roberts, yr aelod lleol, roedd gwir angen gwneud gwaith adfer a chefnogai'r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD peidio â gwrthwynebu ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog a nodi y câi'r cais ei yrru at CADW i benderfynu arno.

 

      

 

7.7

  32C24D - GOSOD 5 ERIAL PARABOLIG AC 1 DDYSGL DROSGLWYDDO AR UCHDER O 6 METR AR Y MAST 15 METR O UCHDER SYDD YNO A HEFYD DARPARU CABANAU OFFER YN YSBYLLTIR, CAERGEILIOG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor ei ystyried gan y bydd y caban offer o fudd i Gyngor Sir Ynys Môn.

 

      

 

     Dyweodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ei fod yn argymell caniatáu'r cais yn unol ag adroddiad y swyddog.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a hefyd gyda'r amodau ynddo.

 

      

 

7.8

  34C367C - CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG I GODI ANNEDD AR GAE ORDNANS 0189, LLWYN EDNYFED, LLANGEFNI

 

      

 

     Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan y Cadeirydd (Y Cynghorydd R. L. Owen) a hefyd gan yr Is-Gadeirydd (y Cynghorydd J. Arthur Jones) yn y cais ac nid oeddynt yn bresennol yn ystod y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

     Etholwyd y Cynghorydd R. Ll. Hughes i gymryd y Gadair am y drafodaeth ar yr eitem.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cais oedd yma i ddiwygio cynlluniau yr oedd caniatâd cynllunio eisoes wedi ei roddi iddynt.  Roedd y swyddog yn argymell rhoddi caniatâd i'r cais yn unol ag adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Nodwyd bod yr aelod lleol yn cefnogi'r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatau'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a hefyd gyda'r amodau ynddo.

 

      

 

7.9

34C489 - GWAITH PEIRIANNEG AR WALIAU CYNNAL NEWYDD YN LLE'R HEN RAI A DARPARU LLWYBR I GERDDWYR A MAN EISTEDD AR WAHÂN I'R MAES PARCIO A DARPARU LLWYBR BEICIO AR LAN AFON CEFNI, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor ei ystyried gan ei fod yn cael effaith ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Asiantaeth yr Amgylchedd bellach wedi dweud nad ydynt yn gwrthwynebu'r bwriad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a hefyd gyda'r amodau ynddo.

 

      

 

7.10

  49C247 - TROI'R HEN ADEILADAU ALLANOL YN DAIR ANNEDD A DARPARU GAREJYS A MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD Y TU ALLAN I LIBART BRONALLT, LLANYNGHENEDL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor ei ystyried yn unol â dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Anerchodd y Cynghorydd Goronwy Parry, yr aelod lleol, y cyfarfod gan ddweud ei fod yn cefnogi'r argymhelliad i wrthod y cais gan fod y darn hwn o'r lôn yn un drwg iawn am ddamweiniau a'r cyfyngiad gyrru yn y rhan hon yw 60 mya.

 

      

 

     Yn ôl y Swyddog Priffyrdd nid oedd y llain gwelededd yn cwrdd â gofynion statudol ac ar y darn hwn o'r lôn, dros y 20 mlynedd diwethaf, cafwyd sawl damwain ddifrifol ac angheuol.  Roedd ymholiadau yn cael eu gwneud i'r posibilrwydd o ostwng y cyfyngiad gyrru ar hyd y darn hwn.

 

      

 

     Cytuno a wnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones fod y darn o'r lôn yn un drwg ond dyfynnodd y pellter stopio cyffredinol o gyhoeddiad y Côd Priffyrdd i gerbydau yn teithio ar 60 mya (73m) a chymharu hyn gyda'r gofynion i ddarparu llain gwelededd yn y fynedfa.   Ni fedrai'r Cynghorydd Jones gytuno gyda ffigyrau'r Swyddog Priffyrdd oherwydd yr anghysondeb yn y pellterau  a nodwyd.  Teimlai'r Cynghorydd Jones fod 73m a'r cyfyngiad cyflymdra cenedlaethol 60 mya yn ddigonol o'i gymharu gyda 215m a argymhellwyd gan yr Adran Briffyrdd.

 

      

 

     Cafwyd gwybod gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r rhain oedd y gofynion sylfaenol cenedlaethol a statudol gan ddilyn polisïau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.  Cynigiodd y Cynghorydd John Roberts wrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. Ll. Hughes.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd P. M. Fowlie cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

      

 

     Roedd y bleidlais yn gyfartal ar 7 ac ar ôl i'r Cadeirydd ddefnyddio ei bleidlais fwrw gwrthodwyd y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

8     MATERION A DROSGLWYDDYD YN ÔL

 

      

 

8.1

13C90A - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI ANNEDD AR DIR RHWNG Y FYNWENT A LLWYN ANGHARAD, BODEDERN

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn wedi ei ganiatáu ar 3 Medi 2003 yn groes i argymhelliad y swyddog, sef un o wrthod.  Rhoddwyd caniatâd gyda'r amod bod yr ymgeisydd yn gwneud Cytundeb dan Adran 106 (tai fforddiadwy).

 

      

 

     Hyd yma nid oedd yr ymgeisydd wedi cwblhau'r cytundeb angenrheidiol dan Adran 106 ond roedd y swyddogion yn dal i fod mewn trafodaethau gyda'r ymgeisydd.

 

      

 

     Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r sefyllfa.

 

      

 

8.2

16C145A - CADW FFORDD AMAETHYDDOL AR DIR PLAS LLECHYLCHED, BRYNGWRAN

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y Pwyllgor hwn, yn ei gyfarfod ar 3 Mawrth 2004, wedi penderfynu fel a ganlyn :

 

 

 

     "cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac eithrio y rhesymau (1) a (3) yn amod (5) ac yn amodol ar anghenion cytundeb Adran 106 yn cyfyngu ar y defnydd o'r ffordd i bwrpasau amaethyddol"

 

      

 

     Yma cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at gyngor y Llywodraeth yn genedlaethol y dylai awdurdodau cynllunio lleol, pan fo'n bosibl, ddefnyddio amodau yn hytrach nag ymrwymiadau cynllunio i bwrpas rheoli materion cynllunio.  Buasai gorfodi amod yn cyfyngu ar y defnydd o'r ffordd i ddibenion amaethyddol yn unig ar y tir cyffiniol, gan ddilyn argymhelliad adroddiad y swyddog, yn ddull priodol o reoli cynllunio ac yn ddull y gellid ei orfodi.

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd argymhelliad i ganiatáu'r cais gydag amodau fel a argymhellwyd yn wreiddiol yn adroddiad y swyddog dyddiedig 3 Mawrth 2004 ond heb unrhyw ofynion i'r ymgeisydd lofnodi cytundeb dan Adran 106.

 

      

 

     Gan fod y Pwyllgor hwn, mewn dau o'i gyfarfodydd, wedi cytuno ar ofynion i sicrhau bod yr ymgeisydd yn gwneud cytundeb dan Adran 106 ni fedrai'r Cynghorydd R. G. Parry gytuno gydag argymhelliad y swyddog.  Roedd y ffordd amaethyddol sy'n rhedeg at y gorlan i wartheg a defaid yn 18 troedfedd o led ac roedd pryderon yn lleol y gellid datblygu'r tir i bwrpas codi 20 o dai gan fod y tir dan sylw bellach y tu mewn i ffiniau datblygu Bryngwran.  Trwy gael ymrwymiad gan y datblygwr teimlai'r Cynghorydd Parry fod modd sicrhau na fuasai'r tir yn cael ei ddatblygu ymhellach.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y caniatâd i gadw'r ffordd hon wedi ei ryddhau oherwydd amharodrwydd yr ymgeisydd i wneud Cytundeb dan Adran 106.  

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd J. Arthur Jones y buasai gosod amod amaethyddol yn ddigon i gyfyngu ar unrhyw fwriad i ddatblygu rhagor ar y safle.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd R. Ll. Hughes oedd cynnig fod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o roddi caniatâd ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ar 3 Mawrth 2004; cafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arthur Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog i Bwyllgor 3 Mawrth, 2004 fel y cawsant eu diwygio yn y cofnodion.

 

      

 

8.3

33C59B - CAIS CYNLLUNIO LLAWN I GODI GWEITHDY DIWYDIANNOL AR SAFLE A. O. ROBERTS BUILDERS, CONSTRUCTION HOUSE, STAD DDIWYDIANNOL, Y GAERWEN.

 

      

 

     Rhoes y Pwyllgor ei ganiatâd i'r cais hwn ar 24 Gorffennaf 2000 ond gyda'r amod bod materion priffyrdd yn cael eu datrys.  Cafwyd y manylion angenrheidiol trwy asiant yr ymgeisydd ar 7 Mehefin 2004 a dilynwyd y broses o ymgynghori statudol.  Ni chredai'r swyddog y buasai'r cynnig yn creu unrhyw newidiadau annerbynniol ac argymhellodd rhoddi caniatâd gydag amodau perthnasol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a hefyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar y materion dirprwyol y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.  Nodwyd bod y cais cynllunio rhif 12C209C/AD/LB (Neuadd y Dref Biwmares) wedi ei gyflwyno i'r Pwyllgor hwn benderfynu arno - nid ei gyflwyno dan y cynllun dirprwyo.

 

      

 

10     APÊL

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, adroddiad yr Arolygwr a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar yr apêl isod a wrthodwyd :

 

      

 

10.1

  PLOT YN FRON DEG, CAPEL PARC, LLANDYFRYDOG

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn, sef gwrthod caniatâd cynllunio amlinellol dan y rhif 44C213 dyddiedig 3 Mehefin, 2003.

 

      

 

Daeth y cyfarfod i ben am 4.25 p.m.

 

 

 

Y CYNGHORYDD R. L. OWEN

 

CADEIRYDD