Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 29 Gorffennaf 2009

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 29ain Gorffennaf, 2009

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2009

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Kenneth Hughes - Cadeirydd

                                                

Y Cynghorwyr W.J.Chorlton; E.G.Davies; Lewis Davies; B.Durkin; J.Evans; O.Glyn Jones; T.H.Jones; R.L.Owen; J.Arwel Roberts;

H.W.Thomas; J.Penri Williams; Selwyn Williams.

 

Deilydd Portffolio - R.G.Parry OBE.

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

 

W.T.Hughes (Aelod Lleol 6.3 & 6.4); Eric Jones (Aelod Lleol 11.9); R.G.Parry (Aelod Lleol 6.1 & 14.2)

 

WRTH LAW:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)(ar gyfer un eitem yn unig);

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ);

Arweinydd Tîm Mwynau, Gwastraff a Gorfodaeth (JIW);

Cymhorthydd Cynllunio (EH);

Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO);

Swyddog Rheoli Datblygu (RE);

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RJ);

Swyddog Pwyllgor (JMA);

YMDDIHEURIADAU:

 

Dim

 

Cyn dechrau ar raglen y Pwyllgor, rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Pennaeth Rheoli Datblygu gyfarch y cyfarfod.  Cyfeiriodd y Swyddog at y mater o ganiatáu i’r cyhoedd siarad yn y Pwyllgor Cynllunio, yn dilyn cymeradwyo hynny gan y Cyngor Sir ac roedd yn gobeithio y byddai’n dod i rym ar ddiwedd y flwyddyn bresennol.  Roedd trafodaethau wedi’u cynnal gyda Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn, roedd amserlen ddrafft wedi’i llunio ac roedd y broses ymgynghori wedi’i dechrau.  Roedd y Swyddog am atgoffa’r Aelodau o ymweliad a drefnwyd i Gyngor Wrecsam i weld cyfarfod Cynllunio yno lle roedd y cyhoedd yn cael siarad.  Yn dilyn hynny, ac oherwydd newid yn aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio, roedd y Swyddog yn credu mai da o beth fyddai trefnu ymweliad arall fel y gallai’r aelodau ddod yn gyfarwydd â’r broses lle caniateir i’r cyhoedd siarad mewn cyfarfodydd.  

 

Cytunwyd y dylai’r Swyddog barhau i drefnu ymweliad i Gyngor Wrecsam i gael gweld aelodau o’r cyhoedd yn siarad mewn Pwyllgor Cynllunio ac y dylai holl Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a’r Swyddogion perthnasol gael eu gwahodd i fod yn bresennol.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd y datganiadau o ddiddordeb a’u cofnodi o dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion o gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf, 2009.

 

 

 

4   YMWELIADAU SAFLE

 

 

 

Ni chafwyd unrhyw Ymweliadau Safle fis Gorffennaf.

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1 - 30C83E - Dymchwel yr adeilad presennol a chodi adeilad newydd gydag ystafell chwarae, swyddfa, derbynfa, ystafell ffitrwydd, ystafell chwaraeon a stor yn Dolydd, Pentraeth.

 

 

 

Roedd y cais wedi’i ddwyn gerbron y Pwyllgor ar ofyn yr Aelod Lleol.

 

 

 

Y prif bryderon ynglyn â’r cais oedd rhai yn ymwneud â mwynderau preswyl.  Roedd y Swyddogion yn argymell y dylid cynnal ymweliad safle er mwyn caniatáu i’r Aelodau werthfawrogi’r sefyllfa’n llawn a gwneud penderfyniad gwybodus ar y cais.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

6   CEISIADAU’N CODI O’R COFNODION

 

 

 

6.1 - 16C179 - Cais i newid defnydd adeilad allanol i greu annedd, ymestyn y cwrtil a gosod tanciau septig a chreu mynedfa newydd i gerbydau yn Llain Feurig, Bryngwran.

 

 

 

Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2009, fe benderfynodd yr Aelodau ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog.  Y rheswm dros ganiatáu oedd bod yr adeilad yn un oedd yn strwythurol gadarn ac yn un a allai gael ei addasu yn unol â Pholisi 55.

 

 

 

Dweud wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cais, yn ei farn broffesiynol ef, yn un oedd yn unol â Pholisi 55  Cynllun Lleol Ynys Môn.  Cyflwynodd y Swyddog ddyluniad a thystiolaeth ffotograffig o’r safle a dyfynnodd o’r adroddiad strwythurol oedd wedi’i baratoi ynglyn â’r adeilad gan beiriannydd yr ymgeisydd.

 

 

 

Roedd adroddiad gan y Peiriannydd yn dweud y byddai’n rhaid i rai rhannau o’r wal gael ei dymchwel i lawr i lefel sil y ffenestr a’u hailadeiladu oherwydd nad oedd y waliau’n strwythurol gadarn.  Roedd y sylwadau eraill o fewn yr adroddiad yn cyfeirio at y drychiad ffrynt, y drychiad ar yr ochr dde, y drychiad cefn, y drychiad chwith a’r waliau mewnol.  Roedd yr adroddiad o’r farn nad oedd yr adeilad allanol wedi’i adeiladu gyda cherrig oedd wedi’u dewis yn dda.  Fe allai’r craciau i’r talcen chwith gael eu trwsio ar y safle trwy osod llechi neu waith brics ar hyd llinell y crac.  Bydd yn rhaid dymchwel rhai o waliau’r adeilad allanol yn ofalus i lawr i lefel sil y ffenestr a’u hadeiladu gyda gwaith cerrig.  Bydd llunio agoriadau hefyd yn achosi styrbans pellach i’r waliau a bydd yn rhaid ailadeiladu’r ciliau ar y safle.  Roedd y Swyddog yn gadarn o’r farn bod y sylwadau uchod yn dangos na allai’r adeilad gael ei addasu heb fod angen gwaith atgyweirio mawr ac nad oedd yr adeilad yn strwythurol gadarn.  

 

 

 

Roedd yr Adran Rheoliadau Adeiladu wedi dweud y byddai’n rhaid symud ymaith ran sylweddol o’r adeilad presennol cyn dechrau ar y gwaith adeiladu newydd.

 

 

 

Roedd cais tebyg i addasu annedd gafodd ei ganiatáu ond y canfuwyd yn ddiweddarach nad oedd yn strwythurol gadarn, a bod angen gwaith ailadeiladu sylweddol, ei wrthod gan yr awdurdod ac fe wrthodwyd apêl yn dilyn hynny.  Roedd y Swyddog am atgoffa’r Aelodau bod yn rhaid adeiladu’r datblygiad hwn yn union fel ag oedd yn cael ei ddangos ar y cynlluniau, neu fe fyddai’r caniatâd cynllunio yn cael ei golli.  Pe bai hynny’n digwydd, yna byddai’n rhaid i’r ymgeiswyr wneud cais am ganiatâd cynllunio fyddai’n cyfateb i “Annedd Newydd yn y Cefn Gwlad.”

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ail-ddweud wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cynnig yn gofyn am waith ailadeiladu sylweddol ac nad oedd yn cydymffurfio gyda Polisi 55 o Gynllun Lleol Ynys Môn na Pholisi HP8 o’r CDU a Stopiwyd.  Byddai newid defnydd y tir i greu cwrtil domestig yn effeithio ar fwynderau gweledol yr ardal o gwmpas ac yr oedd felly yn groes i Bolisi 1, 31 a 55 o Gynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi GP1, EN1 a HP8 o’r CDU a stopiwyd a Pholisi D3 o Gynllun Fframwaith Gwynedd a’r cyngor ym Mholisi Cynllunio Cymru a Datganiad Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog 01/2006 - Tai.

 

 

 

Roedd argymhelliad y Swyddog ar y cais yn parhau yn un o wrthod ac roedd yn gofyn i’r Aelodau ystyried eu penderfyniad yn ofalus iawn.  

 

 

 

Diolch wnaeth yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R.G.Parry OBE i’r Cadeirydd am ganiatáu iddo siarad gerbron y cyfarfod, am y trydydd tro, i gefnogi’r cais hwn gan gwpl ifanc lleol.  Cyfeiriodd at y ffaith y byddai’r cais hwn wedi’i ganiatáu pe bai’r Cynllun Datblygu Unedol wedi’i fabwysiadu.  Yn ychwanegol i hyn, roedd yn credu y bydd Engedi bellach yn cael ei gyfrif fel “clwstwr” ac y byddai caniatâd wedi’i roddi.  Roedd yn derbyn nad oedd y waliau mewn cyflwr da a bod yn rhaid i’r gwaith datblygu gael ei wneud yn ofalus ac mewn ffordd sensitif.  Sicrhaodd yr Aelodau bod yr ymgeiswyr yn ymwybodol o hyn.  Pwysleisiodd mai dyma oedd yr unig gyfle i’r ymgeiswyr fedru parhau i fyw’n lleol, a hwythau wedi’u geni a’u magu o fewn rhyw ychydig lathenni i safle’r cais, a’u dymuniad cryf oedd parhau i fyw yn yr ardal hon.  Roedd yn gwerthfawrogi bod y Swyddog wedi cyflwyno ei achos yn dda, ond roedd am annog yr Aelodau i ddarllen yr adroddiad strwythurol yn ofalus.  Nid oedd yr adroddiad yn dweud bod yn raid dymchwel yr adeilad.  Roedd yr Adain Rheoli Adeiladu wedi dweud bod yr adeilad yn un y gellid ei adfer.  Cyfeiriodd at apêl oedd wedi’i cholli ym Mynydd Bodafon yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio i wrthod cais cynllunio tebyg.  Annog yr Aelodau wnaeth yr Aelod Lleol i lynu wrth eu penderfyniad blaenorol a chaniatáu’r cais.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Arwel Roberts os oedd y drefn o rannu tystiolaeth ffotograffig am safle yn rhywbeth newydd.  Roedd yn credu bod hwn yn gosod cynsail peryglus a mynegodd ei bryderon bod y ffotograffau wedi’u rhannu i’r Aelodau yn y cyfarfod.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y ffotograffau yn seiliedig ar yr adroddiad strwythurol ac oherwydd nad oedd y Pwyllgor wedi ymweld â’r safle, roedd yn dymuno i’r Aelodau weld y safle drostynt eu hunain. Dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod wedi gweld rhai gwaeth o lawer na’r cais presennol.  Cadarnhaodd y Cadeirydd iddo fod yn gefnogol i rannu’r ffotograffau fel tystiolaeth oherwydd nad oedd y Pwyllgor wedi ymweld â’r safle a’i fod yn dymuno i’r Aelodau gael syniad clir am y datblygiad.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd John Chorlton yn siomedig nad oedd tystiolaeth ffotograffig yn cael ei gynnwys fel rhan o bob un cais, a nododd ei fod wedi gofyn am hynny ar fwy nag un achlysur.  Fodd bynnag, yn dilyn gweld y ffotograffau a rannwyd ynglyn â’r cais hwn, roedd yn credu bod yma fwy o dystiolaeth dros ddatblygu’r safle.

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd O.Glyn Jones ei bryderon hefyd bod y ffotograffau wedi’u dosbarthu yn y cyfarfod.  Dywedodd ei fod wedi darllen yr adroddiad strwythurol a sylwadau’r Adran Rheoliadau Adeiladu.  Roedd yn cynnig y dylid caniatáu’r cais.

 

 

 

Unwaith yn rhagor, dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ei fod wedi dosbarthu’r dyluniadau a’r ffotograffau er mwyn sicrhau bod yr Aelodau yn dod i benderfyniad rhesymol a hynny’n seiliedig ar yr holl dystiolaeth oedd o’u blaenau.

 

 

 

Dweud ei fod wedi’i synnu i dderbyn y ffotograffau wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas ond ei fod hefyd wedi’u cael yn eithaf defnyddiol.  Roedd yn croesawu’r ffaith bod ffotograffau yn awr yn cael eu dosbarthu gan ei fod yn cofio i rai Aelodau gael eu gwrthod pan oeddynt yn dymuno cyflwyno tystiolaeth ffotograffig yn y gorffennol.  Roedd yn gobeithio y byddai’r weithdrefn hon yn cael ei mabwysiadu yn y dyfodol gyda thystiolaeth ffotograffig yn cael ei ddarparu’n rheolaidd.  O safbwynt y cais, dywedodd ei fod yn pasio’r safle’n rheolaidd a’i fod yn gyfarwydd â’r safle.  Gofynnodd beth fyddai orau gan yr Aelodau ei weld yno, adeilad yn ei gyflwr presennol yntau adeilad wedi’i adnewyddu.  Roedd yn dweud bod yr adroddiadau’n ei gwneud yn glir y gallai’r adeilad gael ei addasu.  Roedd yr ymgeiswyr wedi talu am arolwg strwythurol ac roedd y canlyniadau wedi bod yn foddhaol.  Roedd wedi’i synnu gan y sylwadau ychwanegol wnaed gan yr Adran Rheoliadau Adeiladu ond roedd o’r farn eu bod hwythau hefyd yn fodlon y gallai’r adeilad gael ei addasu. Eiliodd y cynnig i ganiatáu’r cais.

 

 

 

Ategodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y dylai’r Aelodau gofio pa gyfran o’r adeilad fydd yn rhaid ei ddymchwel ac nad oedd y cynnig hwn yn cyfarfod â gofynion Polisi 55 ac felly os oedd yr Aelodau’n bwriadu caniatáu’r cais, roeddynt yn gwneud hynny yn yr wybodaeth y byddai rhan helaeth o’r adeilad yn gorfod cael ei ddymchwel.

 

 

 

Nid oedd y Cynghorydd T.H.Jones wedi darllen yr adroddiad yn fanwl iawn meddai ef ond roedd yn derbyn casgliadau’r person proffesiynol oedd wedi paratoi’r adroddiad ac roedd yn derbyn ei gasgliadau.  Gofynnodd beth yn union oedd y Swyddog yn ei olygu pan ddywedodd y byddai yn rhaid i “ran helaeth”, gael ei ddymchwel a gofynnodd am ddiffiniad clir o hyn mewn canrannau oherwydd fe ellid diffinio “rhan helaeth” mewn ffordd wahanol gan wahanol unigolion ac roedd hyn i raddau helaeth yn fater o ddehongliad.  Cadarnhaodd y Swyddog na allai roddi unrhyw ffigwr.

 

 

 

Croesawu’r dystiolaeth ffotograffig wnaeth y Cynghorydd Lewis Davies.  Gofynnodd am gadarnhad mai strwythur unllawr fyddai’r adeilad newydd a nododd ei fod yn credu y byddai annedd wedi’i hadfer yn llawer mwy derbyniol nag adeilad diaddurn ar ochr ffordd brysur.  Cadarnhaodd y     Swyddog mai annedd unllawr fyddai’r datblygiad.

 

 

 

Nid oedd y Cynghorydd Barrie Durkin yn ystyried bod hwn yn gais oedd yn tynnu’n groes i bolisi.  Nid oedd yn ystyried y byddai’n adeilad newydd.  Roedd yn croesawu’r cynnig i symud ymaith yr adeilad blêr sydd yno ar hyn o bryd a chael annedd daclus yn ei le.  Roedd yn gefnogol i’r cais.

 

 

 

Diolch i’r Swyddog wnaeth y Cynghorydd Eurfryn Davies am y ffotograffau ac roedd yntau’n ystyried eu bod yn bethau da i’w helpu ef i ddod i benderfyniad.  Cyfeiriodd at gais blaenorol lle roedd naw neu ddeg o adeiladau allanol wedi’u hadnewyddu.  Nododd ei fod yn cefnogi’r cais presennol.

 

      

 

     Wrth gloi’r drafodaeth, fe dynnodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R.G.Parry OBE sylw at y ffaith mai safle’r cais yw’r adeilad cyntaf ar yr ochr dde i’r ffordd sydd i’w weld ar lôn brysur sef y brif ffordd i dwristiaid oddi ar yr A55 i Rosneigr.  Roedd o’r farn y byddai’r datblygiad yn gwella effaith weledol yr ardal.  Awgrymodd y byddai’n dda o beth i’r Cyngor ail ymweld a’i bolisïau yng nghyswllt ceisiadau fel hyn.  Diolchodd i’r Aelodau am y cyfle i gael siarad ar y cais a gofynnodd iddynt gadarnhau’r penderfyniad wnaed ar 1 Gorffennaf a chaniatáu’r cais.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd O.Glyn Jones y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ac y dylid gosod amodau ynglyn â mynedfa a thirlunio yn y rhybudd penderfyniad.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas y dylai’r amodau fod yr un rhai ag sy’n cael eu gosod ar bob cais arall ac na ddylai unrhyw amodau caethiwus ychwanegol gael eu gosod.

 

 

 

6.2     - 19C437L/TR - Newid amod (03) ar gais cynllunio 19C473B/TR i ganiatáu bwyty i agor

 

6.00 a.m. - hanner nos Sul i ddydd Iau a 6.00a.m. - 2.00a.m. Gwener a Sadwrn Bwyty  McDonalds, Ffordd Kingsland, Caergybi.

 

 

 

Yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2009 fe wrthodwyd y cais hwn a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog. Y rheswm a roddwyd dros wrthod oedd y byddai’r datblygiad yn cael effaith afresymol ar fwynderau oherwydd swn a goleuadau ceir.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau na fyddai unrhyw gwsmeriaid ar droed yn cael eu syrfio yn ystod yr amseroedd agor hwyrach ac mai dim ond y cownter dreifio drwodd fyddai ar agor.  Ni fyddai cwsmeriaid ar droed felly yn dod i’r safle a byddai hyn yn lleihau’r nifer o bobl fyddai’n dod yno ac yn hel yn y maes parcio i fwyta’r bwyd.

 

 

 

Dywedodd bod y safle yn ffryntio Ffordd Kingsland a bod yr A55 i’r dwyrain o’r safle.  Roedd y safle o fewn ardal o adeiladau eraill gyda llif cyson o draffig ac nid oedd yn cael ei ystyried y byddai ymestyn yr oriau agor yn cael effaith niweidiol ar ddeiliaid yr eiddo o gwmpas.  Yr argymhelliad oedd y dylid caniatáu’r cais am gyfnod dros dro o 12 mis a byddai hyn yn rhoi cyfle i ailasesu’r sefyllfa ar ôl hynny.  

 

 

 

Dweud wnaeth yr Aelod Lleol, y Cynghorydd John Chorlton y dylai’r oriau agor barhau fel ag y maent ar hyn o bryd gan y byddai ymestyn yr oriau agor yn achosi problemau i’r trigolion lleol.  Ni fyddent yn gallu cysgu drwy’r nos oherwydd y styrbans ar y safle.  Cyfeiriodd yr Aelodau at Rybudd Penderfyniad Apêl oedd wedi’i gynnwys fel rhan o’r Rhaglen ar gyfer cyfarfod heddiw lle roedd yr Arolygwr wedi gwrthod apêl am gais yng nghanol Tref Caergybi am ei fod yn niweidiol i amodau byw y trigolion lleol.  

 

 

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Chorlton ei gynnig bod y cais yn cael ei wrthod a chynigiodd awgrym y dylid rhoi paragraffau 10 ac 11 o Adroddiad yr Archwiliwr fel y rhesymau dros wrthod.

 

 

 

Gofyn wnaeth y Cynghorydd Selwyn Williams sut y byddai rheolwyr y bwyty yn gallu sicrhau na fyddai cwsmeriaid ar droed yn gallu dod i’r eiddo.  Roedd yn bryderus pe bai’r cais hwn yn cael ei ganiatáu, er mai dros dro fyddai hynny, y gallai arwain at geisiadau pellach am oriau agor ychwanegol yn y dyfodol.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cyfrifoldeb y Rheolwyr fyddai sicrhau na fyddai cwsmeriaid ar droed yn dod i’r eiddo ac y gellid cymryd Camau Gorfodaeth pe bai’r Rheolwyr i’w gweld yn torri unrhyw amod cynllunio.

 

 

 

Eiliwyd cynnig y Cynghorydd Chorlton gan y Cynghorydd John Arwel Roberts, sef y dylai’r cais gael ei wrthod.

 

 

 

Dyfynnodd y Cynghorydd O. Glyn Jones o lythyr a dderbyniwyd yn gwrthwynebu a dywedodd ei fod yn credu bod gan bob person hawl i ffordd o fyw heddychlon a phleserus.  Roedd o’r farn felly y dylai’r cais gael ei wrthod.

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd Barrie Durkin ei fod yn credu y dylai trigolion gael eu diogelu’n llawn.  Nid oedd yn credu y byddai’r ymgeiswyr mewn sefyllfa i blismona’r safle drwy’r amser.  Roedd yn credu bod cais fel hwn sydd â’r bwriad o ddenu mwy o gwsmeriaid yn golygu y byddai mwy o broblemau ar y safle.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Chorlton bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y Swyddog a bod Paragraff 9 o’r Rhybudd Penderfyniad Apêl oedd yn rhan o’r Rhaglen ar gyfer cyfarfod heddiw, yn cael ei gynnwys fel y rheswm dros wrthod.

 

 

 

6.3     - 20C250 - Addasiadau ac ymestyn yn Thalassa, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

 

 

Yr Aelod Lleol oedd wedi gofyn am i’r cais hwn ddod gerbron y Pwyllgor Cynllunio.  Rhoddodd y Cadeirydd groeso i’r Cynghorydd W. Hughes i’w gyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Cynllunio a’i wahodd i gyfarch yr Aelodau fel yr Aelod Lleol dros Ward Llanbadrig.

 

 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at lythyr gan asiant yr ymgeisydd oedd wedi’i ddosbarthu yn y cyfarfod ac a oedd yn nodi rhai diwygiadau i’r cais gwreiddiol.  Pwysleisiodd y Swyddog nad oedd angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith oedd yn cael ei wneud ar hyn o bryd, sef gwneud newidiadau i’r ffenestri.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai eiddo preswyl geir yma mewn ardal gadwraeth ac nad oedd caniatâd cynllunio’n cael ei geisio ond ar gyfer dau falconi Juliet allanol ar lawr cyntaf yr eiddo.

 

 

 

Argymhelliad y Swyddog ar y cais oedd un o ganiatáu, gydag amodau, ac y dylai amodau 3 a 4 yn yr adroddiad gael eu dileu gan nad oeddynt bellach yn berthnasol i’r cais.  

 

 

 

Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd W. Hughes, bod hon yn ardal o harddwch naturiol eithriadol.  Roedd yn bryderus bod gwaith eisoes wedi’i ddechrau yn yr eiddo.  Roedd yn credu pe câi’r cais ei ganiatáu, y byddai cymeriad yr ardal yn cael ei golli.  Roedd yn cydnabod yr angen i wella a chynnal eiddo ond pwysleisiodd ei fod yn bwysig i gadw cymeriad gwreiddiol y pentref.  Roedd yn gwrthwynebu’n gryf i’r ffenestri gael eu newid.  Gofynnodd i’r Pwyllgor wrthod y cais er mwyn cadw cymeriad Cemaes.

 

 

 

Gofyn wnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones os oedd hwn yn gais ôl-ddyddiol gan bod y gwaith wedi’i ddechrau.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cais oedd hwn ar gyfer y balconiau yn unig a dywedodd nad oedd angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid y ffenestri.  Cadarnhaodd nad oedd y balconiau yn rhai ar gyfer sefyll arnynt ac mai rhyw 6” o led fyddent.  Cynigiodd y Cynghorydd O. Glyn Jones, felly, bod y cais yn cael ei ganiatáu.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd R.L. Owen yn credu bod Cemaes yn ardal unigryw ac y byddai’n niweidiol pe bai cymeriad Cemaes yn newid.

 

 

 

Nid oedd y Cynghorydd Chorlton yn cytuno gyda’r datganiad nad oedd angen caniatâd cynllunio ar gyfer gwaith o newid y ffenestri.  Eglurodd y Swyddog bod y math hwn o ddatblygu yn dod o dan Feini Prawf Gorchymyn Datblygu a Ganiateir yn Gyffredinol.

 

 

 

Cyfeirio at yr harbwr yng Nghemaes wnaeth y Cynghorydd Selwyn Williams a’i weld fel lle unigryw ac yn berl yng nghoron yr ardal.  Ni fyddai’n dymuno gweld cymeriad yr ardal yn cael ei niweidio.

 

 

 

Tynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas sylw at y ffaith bod y cais mewn Ardal Cadwraeth ac ychwanegodd bod gan yr Aelodau gyfrifoldeb i’w ddiogelu.  Cyfeiriodd at Gemaes fel pentref pysgota balch a mynegodd bryderon pe bai’r cais hwn am falconiau 6” yn cael ei ganiatáu y byddai’r cais nesaf efallai yn rhai am falconiau 12”.  Roedd wedi synnu nad oedd angen cael caniatâd cynllunio i newid y ffenestri a byddai wedi croesawu ffotograffau “cynt ac wedyn” o’r newidiadau oedd yn digwydd yn yr eiddo fel y gallai’r Pwyllgor weld effaith y datblygiad.  Nododd ei fod wedi gweld yr eiddo a’i fod yn credu y dylid bod wedi gorfod cael caniatâd cynllunio.  Mynegodd bryderon ei bod yn ymddangos fel pe bai sylwadau’r Swyddog yn dweud y gellid newid ffenestri bwthyn Cymreig traddodiadol bychan heb gael caniatâd cynllunio.  Roedd am gynnig bod y cais yn cael ei wrthod.  Eiliodd y Cynghorydd R.L. Owen y cynnig.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod rheolau cynllunio yn rheolau yr oedd yn rhaid glynu wrthynt boed rhywun yn cytuno a’i peidio.  Roedd am atgoffa’r Aelodau unwaith yn rhagor bod y cais hwn oedd gerbron yn un oedd yn ymwneud â dau falconi yn unig a phe byddai’r Pwyllgor yn penderfynu gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, gan gynnwys y Swyddog Cadwraeth, fe allai’r ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad ac fe allai’r costau gael eu gosod yn erbyn y Cyngor.  Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Durkin ynglyn â’r angen am ganiatâd cynllunio pe byddai’r cais yn un am ddefnydd busnes, dywedodd y Swyddog nad oes unrhyw wahaniaeth mewn cyfraith cynllunio rhwng cartref gwyliau a thy parhaol.  Ymateb y Cynghorydd Durkin oedd na fyddai unrhyw angen am y balconiau pe bai’r ffenestri heb eu newid - roedd yn credu y dylai’r polisïau gael eu newid oherwydd fe allai hyn agor drysau i geisiadau pellach.  Dywedodd y Swyddog ymhellach mai nid mater o bolisi cynllunio oedd hwn ond mater o gyfraith cynllunio.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn cytuno na fyddai unrhyw angen am y balconiau pe bai’r ffenestri heb eu newid.  Pwysleisiodd y Cadeirydd bod yn rhaid ystyried y cais yn union fel ag yr oedd wedi’i roddi gerbron y Pwyllgor ac mai cais ydoedd felly ar gyfer y balconiau yn unig.

 

 

 

Wrth gloi, fe ddywedodd yr Aelod Lleol, ei fod yn cytuno gyda sylwadau’r Cynghorydd Thomas.  Cyfeiriodd at enghreiffitau lle roedd yn ymwybodol fod gwaith i addasu ysguboriau wedi’u caniatáu cyn belled nad oedd y ffenestri presennol yn cael eu newid a gofynnodd beth oedd y gwahaniaeth yn y cyfreithiau cynllunio yn yr achos hwn yn arbennig gan bod y safle mewn ardal cadwraeth.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd O. Glyn Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn argymell bod y cais yn cael ei wrthod.  Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd  R.L.Owen.

 

 

 

O blaid y cynnig i ganiatáu’r cais:-  E.G.Davies; L.Davies; O.Glyn Jones;                   (3)

 

O blaid y cais i wrthod rhoi caniatâd:- B.Durkin; W.J.Chorlton; J.Evans; T.H.Jones;

 

R.L.Owen; J.Arwel Roberts; Hefin Thomas; Selwyn Williams Williams;                      (8)

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod rhoi caniatâd i’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog.  Y rheswm dros wrthod oedd yr effaith niweidiol y byddai’r balconiau yn eu cael ar Ardal Gadwraeth.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogon baratoi adroddiad ar y rheswm dros wrthod y cais.

 

 

 

6.4     - 20C251 - Gwaith Addasu ac Ymestyn yn Swn yr Afon, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

 

 

Yr Aelod Lleol, y Cynghorydd W. Hughes oedd wedi gofyn am i’r cais hwn gael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor i’w benderfynu.

 

 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at y sôn am lofft ychwanegol yn yr adroddiad.  Dywedodd bod hwn yn anghywir ac y byddai nifer y llofftydd yn parhau yn 4.  Roedd y cais yn ymwneud â newidiadau bychan i’r to.  Dywedodd y Swyddog bod y newidiadau yn dderbyniol ac argymhellodd bod y cais yn cael ei ganiatáu gydag amodau, ond gan ddileu amodau 2 a 3 fel oedd yn cael ei awgrymu yn yr adroddiad i’r Pwyllgor.

 

 

 

Mynegi pryderon wnaeth yr Aelod Lleol, y Cynghorydd W. Hughes y gallai’r cais hwn agor drysau i geisiadau eraill pe byddai’n cael ei ganiatáu, yn arbennig o gofio i’r Pwyllgor benderfynu gwrthod y cais ar eiddo y drws nesaf ond un iddo.  Roedd yn derbyn bod edrychiad mwy modern i’r eiddo hwn ond roedd eto am bwysleisio’r angen i gadw cymeriad yr harbwr yn yr ardal gadwraeth hon.

 

 

 

Mynegi pryderon dwys wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas ynglyn â’r cais a chynnig y dylid ei wrthod.  Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

 

 

Nid oedd y Swyddog Cadwraeth wedi gwrthwynebu unrhyw un o’r cynigion meddai’r Cynghorydd O. Glyn Jones.  Dywedodd y Cynghorydd Thomas wrth y Cynghorydd Jones y dylai edrych ar y ffeil ar y cais lle byddai’n gweld bod gwrthwynebiad cryf wedi bod ar y cychwyn ond roedd wedi’i dynnu’n ôl ar ôl hynny.  

 

 

 

Barn y Cynghorydd Barrie Durkin oedd y dylai unrhyw ddatblygiad wella yr ardal ac nid tynnu oddi wrthi.  Roedd o’r farn y byddai’r cynnig hwn yn tynnu oddi wrth fwynder cyffredinol yr ardal ac y dylid ei wrthod.

 

 

 

Dweud wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio wrth yr Aelodau nad oes angen cael caniatâd ar gyfer amryw o’r pryderon a godwyd gan yr Aelodau.   Anogodd yr Aelodau i gofio bod yn rhaid iddynt wneud eu rhesymau dros wrthod y cais yn berffaith glir.  Ychwanegodd nad yw newid cymeriad eiddo yn berthnasol os nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Selwyn Williams a fyddai’n bosib gweld dogfennau yn ymwneud â’r Ardal Cadwraeth yng Nghemaes, yn arbennig yr harbwr, a defnyddio’r dogfennau rheini fel rheswm dros wrthod.

 

 

 

Pe bai’r cais wedi’i wneud mewn Ardal Restredig, fel Biwmares, fyddai’r cais ddim wedi cael ei ganiatáu meddai’r Cynghorydd R.L. Owen.  Roedd yn credu bod Cemaes yn bentref prydferth ac os byddai’r cais hwn yn cael ei ganiatáu, byddai’r tlws yn y goron yn y rhan yna o’r Ynys yn cael ei golli.

 

 

 

Diolchodd y Cynghorydd Chorlton i’r Rheolwr Rheoli Cynllunio am fod yn gyson yn ei gyflwyniad o’r ceisiadau i’r Pwyllgor.  Roedd yn derbyn nad oedd y Swyddog ond yn gwneud ei waith.  Nid oedd, fodd bynnag, yn ystyried y dylid edrych ar Bolisïau i weld sut y gellid amddiffyn y pentrefi bychan hyn rhag cael eu gorddatblygu a rhag colli eu cymeriad.  Eglurodd y Swyddog y gwahaniaeth rhwng polisi cynllunio a rheolau cynllunio a rheoliadau gan ailddweud bod y rhan fwyaf o’r cynigion geir yn y cais hwn yn rhai nad oedd angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer.  Dywedodd y   Cynghorydd Chorlton y dylai sylwadau’r Pwyllgor gael eu hanfon i Lywodraeth Cynulliad Cymru gan bod ganddo bryderon mawr bod pentrefi bychan yn cael eu difetha gan ddatblygwyr.

 

 

 

Dweud wnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones bod y Cyngor yn cefnogi Wylfa B - ni allai, felly, gefnogi gwrthod y cais hwn.  Roedd y Cynghorydd Thomas am atgoffa’r Cynghorydd Jones nad yw Wylfa wedi’i lleoli yn Harbwr Cemaes.  Ni allai’r Cynghorydd J. Arwel Roberts chwaith gefnogi’r cais gan ei fod o’r farn y byddai’r datblygiad yn newid cymeriad Cemaes.

 

 

 

Atgoffa’r Aelodau wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio pe byddai’r Pwyllgor yn penderfynu gwrthod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddogion, a’r Swyddog Cadwraeth, fe allai’r ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad gyda’r costau’n cael eu gosod yn erbyn y Cyngor.  

 

 

 

i derfynu dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd W. Hughes y byddai’n cefnogi unrhyw gais fyddai’n gwella’r ardal ond roedd am bwysleisio pa mor bwysig oedd cadw cymeriad yr ardal.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd O. Glyn Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu.  Nid oedd eilydd i’r cynnig hwn.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod y cais yn cael ei wrthod.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Chorlton.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.  Y rheswm dros wrthod oedd y byddai’r balconiau yn cael effaith niweidiol ar yr ardal gadwraeth.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogon baratoi adroddiad ar y rheswm dros wrthod y cais.

 

 

 

Ni wnaeth y Cynghorwyr Barrie Durkin a Selwyn Williams bleidleisio ar y cais.

 

 

 

6.5     - Gwaith addasu ac ymestyn yn Ty Lawr, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

 

 

Nododd yr Aelodau bod y cais cynllunio uchod wedi’i dynnu’n ôl.

 

      

 

6.6     - Gwaith altro a threfniadau parcio yn Swn yr Afon, Ty Lawr a Thalassa, Ffordd y Traeth,

 

Cemaes

 

 

 

Nododd yr Aelodau bod y cais cynllunio uchod wedi’i dynnu’n ôl.

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Nid oedd unrhyw geisiadau economaidd wedi’u cyflwyno i’w penderfynu gan y Pwyllgor hwn.

 

 

 

8     CEISIADAU TAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Nid oedd unrhyw geisiadau am dai fforddiadwy wedi’u cyflwyno i’w penderfynu gan y Pwyllgor hwn.

 

      

 

9     CEISIADAU’N GROES I BOLISI

 

      

 

9.1     -  11C539 - Cais amlinellol i godi annedd ynghyd â gwaith altro i’r fynedfa bresennol ar

 

dir ger Gwel y Môr, Llaneilian

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas paham yr oedd yna argymhelliad o ganiatáu cais pan oedd hwnnw’n mynd yn groes i bolisi.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn un sy’n tynnu’n groes i Gynllun Lleol Ynys Môn ond ei fod yn dderbyniol dan dermau’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Safle o dir gwag ydyw gyda’r rhan fwyaf o’r safle wedi’i leoli o fewn y ffram ddangosol.  Dywedodd y Swyddog bod yr egwyddor o ddatblygu yn dderbyniol a hefyd yr effaith ar fwynderau gweledol ac argymhellodd bod y cais yn cael ei ganiatáu gydag amodau.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eurfryn Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Penri Williams.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad a chaniatáu’r cais, gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

 

 

10

CYNIGION DATBLYGU A GYFLWYNWYD GAN GYNGHORWYR AC/NEU SWYDDOGION

 

      

 

     Dim byd wedi’i gyflwyno i’w ystyried yn y Pwyllgor hwn.

 

      

 

11

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1     - 11LPA101D/1/CC - Gwaith addasu allanol a mewnol yn Ysgol Syr Thomas Jones,

 

Amlwch

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd T.H.Jones a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y mater ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r pleidleisio arno.

 

 

 

Roedd y cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio oherwydd ei fod yn gais a wnaed gan Adran Eiddo’r Cyngor.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn ymwneud â gwaith mewnol ac allanol i wella mynd a dod o fewn ac o amgylch Ysgol Syr Thomas Jones.  Ystyrir bod y gwaith a fwriedir yn dderbyniol ac ni fydd yn cael unrhyw effaith niweidiol ar gymeriad ac edrychiad yr Adeilad Rhestredig Graddfa II.

 

 

 

Argymhelliad y Swyddog oedd caniatáu gydag amodau.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac argymhelliad y Swyddog i ganiatáu’r cais, gydag amodau.

 

      

 

11.2     -  11LPA688B/CC - Ailadeiladu ac ymestyn llithrfa bresennol, adeiladu mynedfa newydd

 

i gerddwyr i Lôn Wen gyda stepiau a rheilen newydd a gwelliannau mynediad i Craig y Don ac adeiladu wal gerrig newydd ym Mhorth Amlwch, Amlwch

 

 

 

Roedd y cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn oedd yn gwneud y cais.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cais llawn yw hwn am:-

 

 

 

Ÿ

ailadeiladu ac ymestyn llithrfa;

 

Ÿ

creu lle eistedd;

 

Ÿ

dymchwel gorsaf bwmpio a chodi ciosg;

 

Ÿ

gwelliannau i’r llithrfa a’r llwybrau yn cynnwys clirio sgrwb.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog y byddai’r datblygiad yn gwella cyfleusterau ac edrychiad y safle ac roedd yn argymell derbyn y cais.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac argymhelliad y Swyddog a chaniatáu’r cais gydag amodau.

 

 

 

1.3 - 11..............LPA901A/CC - Llithrfa a gwelliannau amgylcheddol a chodi wal traeth 0.5 metr yn Porth Llechog, Amlwch.

 

 

 

Roedd y cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn oedd yr ymgeisydd.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn ymwneud a dau safle, llithrfa a therfyn y briffordd a lle storio cychod yn cynnwys adeilad toiledau cyhoeddus.  Roedd hwn yn gais llawn am:-

 

 

 

Ÿ

ailadeiladu ac ymestyn y llithrfa bresennol;

 

Ÿ

ail aleinio a chodi wal gerrig i greu terfyn gyda’r briffordd;

 

Ÿ

ffurfioli a marcio’r lle storio cychod a’r maes parcio ceir, yn cynnwys darparu llefydd cadw beics;

 

Ÿ

gwelliannau i’r adeilad toiledau cyhoeddus.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai bwriad y datblygiad oedd gwella cyfleusterau ac edrychiad y safle sydd yn rhai amlwg yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn.  Roedd yn cael ei ystyried y gellid rhoi cryn bwysau i’r datblygiad gan y byddai’n gwella’r cyfleusterau ac yn gwella edrychiad y safleoedd o fewn dynodiad tirwedd statudol.  Argymhelliad y Swyddog oedd caniatáu gydag amodau.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac argymhelliad y Swyddog a chaniatáu’r cais gydag amodau.

 

      

 

11.4     - 11LPA92B/CC - gwaith altro ac ymestyn yng Nghartref Gofal Preswyl Brwynog, Ffordd

 

Madyn, Amlwch

 

      

 

     Roedd y cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio oherwydd ei fod yn ymwneud ag eiddo’r Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cynnig yw hwn i godi estyniad deulawr ym mlaen y Cartref Gofal a hefyd ychydig o waith altro a chreu cyfleusterau parcio ceir yn yr eiddo.

 

      

 

     Dywedodd y Swyddog bod yr estyniad arfaethedig yn gweddu gyda’r adeilad presennol ac y byddai’n gwella’r cyfleusterau sef mynedfa i’r anabl / lifft rhag tân a lobi / mynedfa.  Byddai’r cyfleusterau parcio yn darparu gosodiad saffach ac roedd hynny i’w groesawu.  Ni fyddai’r datblygiad yn niweidio unrhyw fwynderau.

 

      

 

     Argymhelliad y Swyddog oedd caniatáu’r datblygiad gydag amodau.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac argymhellion y Swyddog a chaniatáu’r cais gydag amodau.

 

      

 

11.5     - 1.......2C393 - Cais amlinellol i godi annedd a garej ynghyd â chreu mynedfa newydd i

 

gerbydau ar dir gyferbyn â Garth Wen, Llanfaes

 

 

 

Yr Aelod Lleol oedd wedi gofyn am i’r cais hwn gael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai darn o dir gwag yw’r safle yn ffryntio Camp Road ger yr eiddo Dolwar ac mai’r bwriad oedd codi annedd 16m o hyd, 11.5m o led a 9m o uchder.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog y byddai datblygu’r safle yn cyfateb i greu datblygiad fyddai’n niweidio tirwedd gwledig yr ardal ac a fyddai’n creu amodau fyddai’n beryglus i ddiogelwch y ffordd.  Roedd 4 llythyr yn gwrthwynebu wedi’u derbyn.  Argymhelliad y Swyddog oedd gwrthod.

 

 

 

Gofynnodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R.L. Owen am ymweliad safle oherwydd bod nifer o ddatblygiadau eraill o amgylch y safle ac roedd yn dymuno i’r Aelodau gael golwg glir ar y safle.  Roedd materion a phroblemau priffyrdd hefyd yn reswm dros ymweld â’r safle.

 

 

 

PENDERFYNWYD y dylid cytuno â chais yr Aelod Lleol ac ymweld â’r safle oherwydd materion Priffyrdd.

 

     

 

11.6     - 19C1038 - Dymchwel adeilad y ganolfan gymuned bresennol, adeiladu canolfan

 

gymuned newydd a chanolfan ddydd / gwarchod plant yn cynnwys llefydd chwarae mewnol, mynedfa i gerbydau a llefydd parcio newydd yng Nghanolfan Gymuned Kingsland, Ffordd Cyttir, Penrhos, Caergybi

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd John Chorlton a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth nac yn y pleidleisio ar y cais.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai Cyngor Tref Caergybi oedd yn cyflwyno’r cais ond bod rhybudd wedi’i roi i Bwyllgor Canolfan Gymuned Kingsland.  Y bwriad yw dymchwel yr adeilad presennol ar y safle a chodi Canolfan Gymuned newydd.  Gellir mynd i’r safle oddi ar Ffordd Cyttir ond mae iddo ffryntiad i Ffordd Cyttir a Ffordd Tyn Pwll.  Mae cerbydau’n mynd i mewn i’r safle trwy’r safle datblygu cyfagos sydd â chaniatâd ar gyfer datblygu preswyl.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Arwel Roberts bod y cais yn cael ei ganiatáu.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd O. Glyn Jones bod y safle gyferbyn â’r ysgol yn Kingsland ac oherwydd bod y Cyngor ar hyn o bryd yn rhesymoli’r ysgolion cynradd, efallai bod y cais hwn yn gynamserol.  Nid oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad mewn egwyddor ond gofynnodd a fyddai’n dda o beth i oedi ystyried y cais hwn hyd nes y byddai mater dyfodol yr ysgol wedi’i benderfynu.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Arwel Roberts wrth yr Aelodau y dylient fod yn ystyried y cais oedd o’u blaenau, ac nid beth allai ddigwydd neu beth na fyddai’n digwydd yn y dyfodol.  Nododd bod nifer o geisiadau am grantiau yn dibynnu ar roi caniatâd cynllunio ac atgoffodd yr Aelodau bod yna Canolfan Gymuned ar y safle ar hyn o bryd.   Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cais yn un cynamserol o safbwynt cynllunio.

 

 

 

Roedd adroddiad y Swyddog yn dweud bod y cynnig yn creu cyfleuster cymunedol pwrpasol i ehangu a gwella’r datblygiad presennol ac roedd yn argymell bod y cais yn cael ei ganiatáu gydag amodau a bod geiriad amod (6) yn cael ei adolygu.  

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn argymhelliad y Swyddog a chaniatáu’r cais gydag amodau, gyda’r cymal bod Swyddogion yn ail eirio amod (6).

 

 

 

11.7     - 19C416B - Cais cynllunio llawn i ddymchwel 34 uned cartref gofal, i ailadeiladu 54

 

o unedau gofal ychwanegol, 2 uned stiwdio gyda chyfleusterau cysylltiol a thirlunio ym Mhenucheldre, Caergybi

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd John Chorlton a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth nac yn y pleidleisio ar y cais.

 

 

 

Roedd y cais wedi’i ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio i’w benderfynu oherwydd ei fod yn ymwneud â thir y Cyngor.

 

 

 

Wrth gyflwyno’r cais, dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd unrhyw wrthwynebiad i’r cais gan Gyngor Tref Caergybi.  Roedd llythyr o wrthwynebiad wedi’i dderbyn, a hwnnw’n cyfeirio at golli goleuni / preifatrwydd / swn / llwch a phryderon ynglyn â choed.  Dywedodd y Cynghorydd Selwyn Williams bod ganddo rai pryderon ynglyn â cholli coed ac roedd am annog y datblygwyr i sicrhau y dylid rhoi coed o ansawdd da yn lle unrhyw goed y byddent yn eu torri i lawr.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wrth y Cynghorydd Williams bod ei bryderon wedi’u nodi.

 

 

 

Roedd y safle yng nghanol tref Caergybi meddai’r Rheolwr Rheoli Cynllunio ac ar libart yr hen gwfaint.  Mae Canolfan Ucheldre, sydd yn adeilad rhestredig, hefyd ar y safle.  Mae tri o flociau apartment mawr sy’n cael eu defnyddio gan yr henoed a datblygiad mwy diweddar i gyfeiriad Ucheldre Avenue sef llety cymhorthol a llety gwarchodol.

 

 

 

Mae nifer o goed amlwg ar y safle, yn arbennig ar y terfyn gyda Stryd Edmund.  Mae’r rhain yn cael eu diogelu gan Orchymyn Cadw Coed.  Mae wal derfyn uchel yn ffryntio Stryd Edmund a Millbank ac yn ffurfio terfyn allanol i libart yr hen gwfaint.

 

 

 

Cais yw hwn i ddymchwel y bloc 34 sy’n rhedeg yn gyfochrog â Stryd Edmund ac adeiladu bloc apartmentau newydd o 54 o unedau gofal ychwanegol ac ystafelloedd cymdeithasol a chyfleusterau i’r preswylwyr ac i ymwelwyr.

 

 

 

Roedd y Swyddog o’r farn bod y cynnig yn un oedd yn cynnig cydbwysedd da rhwng creu amgylchedd da i’r henoed a’r gymuned ehangach a hefyd o ran cysylltiadau gweledol gydag amgylchedd hanesyddol y dref a’r safle ei hun.  Roedd yr adroddiad yn dweud bod angen mwy o wybodaeth mewn perthynas â diogelu’r coed ar y safle cyn rhoi unrhyw ganiatâd.  

 

 

 

Argymhelliad y Swyddog oedd caniatáu’r cais gydag amodau.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn argymhelliad y Swyddog a chaniatáu’r cais gydag amodau a Chytundeb Adran 106 yng nghyswllt tai fforddiadwy.

 

 

 

11.8     - 30C26E - Newid defnydd yr annedd / cartref gofal presennol i greu annedd yn The

 

Lodge, 17 Ffordd Bay View, Benllech.

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd John Penri Williams ac fe aeth allan o’r Siambr yn ystod trafod y cais ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth nac yn y pleidleisio ar y cais.

 

 

 

Yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Barrie Durkin oedd wedi gofyn am i’r cais hwn gael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio i’w benderfynu.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai’r bwriad yw addasu’r adeilad presennol yn annedd a bod y cais yn golygu ailsefydlu’r iard flaen i’w stad gwreiddiol.  O ystyried ei ddefnydd presennol a’i leoliad mewn lle preswyl nid oedd unrhyw wrthwynebiadau o ran mwynderau i’r lle gael ei ddefnyddio fel annedd.  

 

 

 

Roedd y cynigion yn cynnwys ailsefydlu’r iard i’w chyflwr blaenorol.  Roedd hyn yn unol ag argymhellion yr Arolygwr apêl (amod) gwella diogelwch y ffordd ac edrychiad gweledol.  Roedd adroddiad y Swyddog yn dweud y byddai’r defnydd newydd yn fwy priodol ac yn gwella diogelwch y ffordd a mwynderau gweledol ac roedd yn argymell bod y cais yn cael ei ganiatáu, gydag amodau a bod amod (4) yn cael ei diwygio i ofyn am gynllun penodol ynglyn â diogelwch y briffordd a materion mwynderol.

 

 

 

Roedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Barrie Durkin yn cefnogi’r cais ond roedd am fynegi nad oedd yn hapus ynglyn ag amod (4) yn y ffaith ei fod yn dymuno i’r amod gael ei geirio’n glir fel ag i gynnwys y bwriad gwreiddiol am le parcio ceir yn y ffrynt.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn argymhelliad y Swyddog a chaniatáu’r cais, gydag amodau a bod amod (4) yn cael ei newid i ofyn am gynllun penodol yn ymwneud â diogelwch y briffordd a materion mwynderol.

 

 

 

11.9 - 33C190M - Cais llawn i ddwyn i mewn, prosesu ac ailddefnyddio gwastraff adeiladu a dymchwel o waith gwella priffyrdd yn Chwarel Bwlch Gwyn, Gaerwen

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Eurfryn Davies ac fe aeth allan o’r Siambr yn ystod trafod y cais ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth nac yn y pleidleisio ar y cais.

 

 

 

 

 

Roedd y cais wedi’i ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio i’w benderfynu ar ofyn yr Aelod Lleol, y  Cynghorydd Eric Jones.

 

 

 

Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Aelodau yn dweud bod y safle o fewn powlen Chwarel Bwlch Gwyn mewn lle oedd wedi’i gau i mewn ac a fu, ac sy’n dal i gael ei ddefnyddio fel lle derbyn gwastraff adeiladu a dymchwel ac ardal ailgylchu.  Mae’r llecyn hwn yn rhan ddeheuol y Chwarel ac wedi’i sgrinio i’r de ac i’r gorllewin gan wynebau chwarel serth sydd tua 20-25 metr o uchder.  Gellir mynd i’r chwarel ar hyd Ffordd 2 Ceint sy’n Lôn Dosbarth 2, ac yn arwain o Bentre Berw i Ceint a Lôn Graig.  Cafodd cyffordd y ddwy ffordd ei gwella yn 1999 er mwyn gallu delio gyda thraffig ychwanegol oedd yn gysylltiedig ag adeiladu’r A55.

 

 

 

Mae’r safle yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan gontractwr Priffyrdd y Cyngor i’r pwrpas hwn, ond daeth y caniatâd i ben ddiwedd 2008.  Mae’r cais presennol yn ceisio caniatâd i barhau i ddefnyddio’r safle i’r pwrpas o ddwyn gwastraff i mewn o waith cynnal a chadw priffyrdd ac i’w dorri i lawr a’i ddosbarthu fel cerrig mân.  Roedd y cynnig yn ceisio cael caniatâd i gynyddu’r swm o wastraff oedd yn cael ei gario i mewn i’r safle o’r 5,000 tunnell yr oedd caniatâd ar ei gyfer i 30,000 tunnell y flwyddyn.

 

 

 

Cafwyd adroddiad gan yr Arweinydd Tîm Mwynau, Gwastraff a Gorfodaeth ynglyn â’r ymateb a dderbyniwyd yn dilyn y cyfnod ymgynghori.  Roedd y Cyngor Cymuned wedi gwrthwynebu’r cais ar sail y cynnydd mewn traffig ar lonydd cul.  Nid oedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gwrthwynebu, ond yn rhoi cyngor y byddai’n rhaid i’r ymgeisydd gael caniatâd i weithredu o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol.  Nid oedd yr Awdurdod Priffyrdd yn gwrthwynebu gan mai bychan iawn oedd y cynnydd yn y traffig ac na ddylid tarfu ar y llwybr cyhoeddus oedd gerllaw.  Roedd yr Adran Iechyd Amgylcheddol wedi cynnig y dylai’r oriau gweithredu gael eu cyfyngu, ni ddylai unrhyw niwsans godi o ganlyniad i lwch ac y dylai unrhyw “crusher” a ddefnyddid ar y safle fod â’r caniatâd priodol.  Roedd16 o lythyrau yn gwrthwynebu wedi’u derbyn gyda’r rhesymau yn cynnwys diogelwch y ffordd, cynhyrchu llwch a swn.

 

 

 

Roedd adroddiad y Swyddog o’r farn bod cefnogaeth gref i’r gwaith o ailgylchu ac ailddefnyddio cerrig o fewn cyfarwyddyd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a dogfennau polisi o safbwynt cynllunio gwastraff a cynllunio mwynau.  Yn hynny o beth, byddai’r cynnig yn helpu i roi llai o bwysau ar ddefnyddio cerrig newydd ac yn symud adnodd rhag mynd i dirlenwi.  Roedd y defnydd a ganiateir yn gyfredol a’r lleoliadau o fewn y cynllun datblygu yn gwneud safle’r cais yn le priodol i’r defnydd arfaethedig.  Er gwaethaf y gwrthwynebiad cryf o du’r gymuned leol, mae’r materion a godir o safbwynt pryderon priffyrdd ac amgylcheddol yn rhai y gellir eu lliniaru ac ni chredir eu bod yn ddigon pwysig i warantu gwrthod y cais.  

 

 

 

Roedd y Swyddog yn argymell y dylid caniatáu’r cais gydag amodau - byddai’r amodau yn delio gyda’r holl bryderon a godwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

 

 

Yn ôl yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Eric Jones roedd yna wrthwynebiad cryf yn lleol i’r cais.  Diolchodd i’r Aelodau am ymweld â’r safle gan eu hatgoffa bod y ddwy lôn oedd yn arwain i’r safle yn gul iawn.  Byddai loriau yn teithio ar y ffyrdd rhwng 6.30 a.m. a 9.30p.m. yn cynnwys dydd Sul.  O safbwynt unrhyw amod ynglyn ag oriau gweithio, roedd yn bryderus ynglyn â phwy fyddai’n monitro’r oriau hynny.  Roedd yn derbyn bod y chwarel wedi bod yn gweithio am sawl blwyddyn, ond, roedd pethau wedi newid ac mae’r loriau yn llawer mwy ac yn drymach na phan agorwyd y safle gyntaf.  Roedd yn arbennig o bryderus ynglyn â Lôn Graig am ei bod mor gul ac fe wyddai bod 12 o loriau wedi teithio ar hyd y ffordd honno i fyny at amser y Pwyllgor heddiw.  Er budd yr Aelodau newydd o’r Pwyllgor Cynllunio, fe ddywedodd y Cynghorydd Jones, bod cais am un annedd ar hyd y ffordd honno wedi’i wrthod yn 2007.  Ar apêl, roedd yr Arolygwr Cynllunio wedi dweud y byddai’r cerbydau fyddai’n deillio o’r un annedd yn beryglus ac yn annerbyniol o safbwynt diogelwch y cyhoedd. Roedd yn annog yr Aelodau i ystyried y pwyntiau yr oedd wedi’u codi yn ofalus ac i wrthod y cais.

 

 

 

Atgoffa’r Aelodau wnaeth y Cynghorydd Selwyn Williams bod y chwarel yn rhoi gwaith i bobl leol ac na fyddai’r cynnig yn gofyn ond am i chwech o loriau ychwanegol deithio ar hyd y ffordd bob dydd.  Roedd yn ystyried bod y ffordd o’r chwarel tuag at Westy’r Holland Arms yn un foddhaol.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn cydymdeimlo gyda’r bobl leol, ond, fe fu chwarel ar y safle hwn am nifer o flynyddoedd.  Mae’r ffordd o’r chwarel i Holland Arms wedi’i lledu a llinell wen wedi’i pheintio yng nghanol y ffordd.  Nid oedd yn ystyried bod chwech o loriau ychwanegol bob dydd yn ormodol.  Dywedodd wrth yr Aelodau bod cyflogwr arall, Glyn James, ar un amser yn defnyddio’r ffordd honno, ond nad oedd yn gwneud hynny bellach, ac felly roedd yna lai o draffig ar y ffordd nag a fu.  Roedd yn derbyn bod y Cynghorydd Eric Jones yn cyflwyno safbwyntiau’r bobl leol ond roedd am dynnu sylw at y ffaith bod adroddiad yr Arolygwr ynglyn â’r cais cynllunio yr oedd y Cynghorydd Jones wedi cyfeirio ato wedi gwrthwynebu’r fynedfa o’r annedd i’r ffordd ac nad oedd yn cyfeirio at y ffordd ei hun.  Roedd y Cynghorydd Thomas yn cynnig y dylid caniatáu’r cais.

 

      

 

     Gofyn wnaeth y Cynghorydd T.H. Jones a ellid gosod amod cynllunio yn cyfyngu ar bwysau’r loriau. Dywedodd y Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) y byddai hyn yn gofyn am orchymyn penodol o ganlyniad i gwlfert neu bont wan, a doedd yna ‘run o’r rhain ar y ffordd hon.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Barrie Durkin bod nifer o loriau y dyddiau hyn yn rhai 35 tunnell neu hyd yn oed 40 tunnell ac awgrymodd y byddai’n dda o beth pe baent yn cael eu gwahardd rhag defnyddio Lôn Graig.  Gofynnodd a fyddai’n ddefnyddiol cael Astudiaeth Amgylcheddol gan bod ganddo bryderon y byddai’r cynnig yn cael effaith niweidiol ar drigolion lleol.  At hyn, roedd yn ymwybodol bod y gwaith sydd ar hyn o bryd yn destun y cais hwn yn cael ei wneud ar y safle ac nad oedd yn dymuno iddo gael ei ddehongli mai rôl y Pwyllgor Cynllunio oedd cyfiawnhau gweithgareddau sydd eisoes yn mynd yn eu blaenau.  Dywedodd bod angen rhoi neges glir i’r ymgeiswyr sy’n gwneud unrhyw waith cyn cael caniatâd cynllunio ei bod yn hollol annerbyniol eu bod yn gwneud hynny.  Roedd y Cynghorydd Durkin am gynnig bod y cais yn cael ei dynnu’n ôl gyda chais ôlddyddiol yn cael ei gyflwyno os gellid profi bod y gwaith eisoes yn mynd ymlaen ar y safle.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Selwyn Williams yn anghytuno gyda chyngor y Swyddog Priffyrdd ac roedd yn credu y byddai’n bosibl gwahardd defnyddio Lôn Graig.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd Chorlton at sylwadau’r Cynghorydd Durkin gan ddweud nad oedd yn credu y dylai’r cais ei “dynnu’n ôl” gan y Pwyllgor, ac mai dim ond yr ymgeisydd allai dynnu’r cais yn ôl.  Roedd yn credu y byddai’n anodd i’r Pwyllgor wrthod y cais hwn gan i’r chwarel fod yn gweithredu ar y safle am nifer o flynyddoedd.  Byddai’r trigolion oedd yn dymuno byw ger y safle wedi bod yn gwybod hynny.  Cyn belled a bod trwydded ddilys ar gerbyd a’i fod mewn cyflwr digon da i’w ddefnyddio yna ni ellid gwahardd y cerbyd rhag defnyddio unrhyw ffordd.  Roedd am bwysleisio pa mor bwysig oedd cael gwaith yn lleol a dywedodd ei fod yn cefnogi’r cais.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd O. Glyn Jones ynglyn â’r posibilrwydd o adnewyddu ychydig ar y ffordd trwy greu llefydd pasio, fe ddywedodd y Swyddog Priffyrdd bod y chwarel eisoes yn gweithredu ac nad yw hwn yn gais newydd, a bod gan gerbydau hawl i deithio i’r ddau gyfeiriad oherwydd y defnydd oedd wedi’i hirsefydlu ar y ffyrdd.

 

      

 

     Gofyn wnaeth y Cynghorydd Lewis Davies ynglyn â’r mater o fonitro’r llif ychwanegol o gerbydau o’r safle.  Cyfeiriodd yr Arweinydd Tîm Mwynau, Gwastraff a Gorfodaeth at amod 4 yn y caniatâd arfaethedig,  “dim mwy na 30,000 tunnell o ddeunyddiau ..... i’w dwyn i mewn i’r safle mewn unrhyw flwyddyn”.  Roedd yn cydnabod y gallai fod yn anodd monitro hyn ond roedd am dynnu sylw hefyd at amod 5 oedd yn dweud “..... rhaid i’r gweithredwyr gadw cofnodion o’r deunyddiau oedd yn mynd trwy’r safle yn flynyddol a pheri bod cofnodion o’r fath ar gael i’r Awdurdod Cynllunio Mwynau ar unrhyw amser o ofyn amdanynt .....”.  Roedd y Swyddog yn credu y byddai hyn yn helpu gyda’r broses fonitro.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Barrie Durkin ei fod wedi gwrando’n ofalus ar sylwadau’r Cynghorydd Chorlton ond roedd am ddweud bod y math hwn o gais yn digwydd yn rhy aml.  Dywedodd bod y cais i gynyddu’r swm o wastraff oedd yn cael ei ddwyn i mewn i’r safle o’r 5,000 tunnell oedd wedi’i ganiatáu’n flaenorol i 30,000 tunnell, yn gais newydd.  Pwysleisiodd nad oes unrhyw ganiatâd cynllunio ar y safle ar hyn o bryd gan i’r caniatâd hwnnw ddod i ben fis Tachwedd 2008.  Ni ddylai fod unrhyw waith yn cael ei wneud ar y safle ar hyn o bryd.  Dywedodd ei fod yn anhapus gyda’r ffaith bod yr Awdurdod Priffyrdd yn cefnogi’r cais gan ei fod ef yn credu y gallai’r Awdurdod fod â diddordeb oherwydd bod yr ymgeisydd yn gwneud gwaith i’r Cyngor.  

 

      

 

     Awgrymu wnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones y gallai fod yn dda o beth i ofyn i’r ymgeisydd am gyfraniad tuag at welliannau ffyrdd gan i hyn ddigwydd ar un achlysur yn y gorffennol mewn perthynas â chais cynllunio yn y Fali.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai’r Pwyllgor, ac nid y Swyddogion oedd wedi cynnig y cyfraniad hwnnw ar gyfer gwelliannau ffyrdd.

 

      

 

     Nid oedd gan y Cynghorydd John Penri Williams unrhyw bryderon ynglyn â phum lori ychwanegol yn defnyddio’r ffordd a dywedodd iddo weld llawer mwy o loriau’n teithio ar hyd ffyrdd cul yng Ngheredigion.  Eiliodd y cynnig i ganiatáu’r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eric Jones bod mwy na chwech o dripiau ychwanegol yn cael eu gwneud bob dydd yn ystod misoedd yr haf.  Ailadroddodd ei bryderon ynglyn â Lôn Graig gan ddweud nad oedd yna brin le i gar groesi’r bont.  Dywedodd y Swyddog Priffyrdd pe bai yna broblemau yn digwydd ar y bont y byddai’n barod i ailystyried y mater.  

 

      

 

     Ailddywedodd y Cynghorydd Chorlton bod hwn yn ddatblygiad sydd eisoes yn bodoli ac na fyddai felly yn briodol gofyn am gyfraniad tuag at welliannau ffyrdd ac y dylai’r cais gael ei ystyried fel yr oedd wedi’i gyflwyno gerbron y pwyllgor heddiw.  Awgrymodd y gallai fod yn bosibl edrych ar ofyn am gyfraniad tuag at gwelliannau ffyrdd fel polisïau cynllunio yn y dyfodol.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas y dylid caniatáu’r cais, eiliwyd hynny gan y Cynghorydd J. Penri Williams.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn argymhelliad y Swyddog a chaniatáu’r cais, gydag amodau.

 

      

 

     Fe wnaeth y Cynghorwyr Barrie Durkin, O. Glyn Jones a J. Arwel Roberts ymatal rhag pleidleisio ar y cais.

 

      

 

11.10     - 39C476/TPO - Gwaith ar 2 goeden a ddiogelir gan Orchymyn Cadw Coed rhwng 17

 

Stryd Dale Street a Maes y Coed, Porthaethwy

 

 

 

Roedd y cais hwn wedi’i ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio i’w benderfynu oherwydd ei fod ar dir ym mherchenogaeth y Cyngor.  Cais oedd i wneud gwaith ar 2 goeden oedd yn cael eu diogelu gan Orchymyn Cadw Coed.  Mae angen gwneud y gwaith oherwydd bod y ddwy goeden yn creu niwsans cynyddol i 17 Stryd Dale Street a’u bod yn agos i do’r eiddo.  Bwriedir gwneud gwaith ychwanegol i leihau unrhyw berygl i’r cyhoedd ac i allu cadw’r coed yn y tymor hir.  O ganlyniad i bryderon ynglyn â diogelwch y coed, fe gytunwyd y byddai’r gwaith yn cael ei wneud i ateb y pryderon ynglyn â diogelwch ac na fyddai’n cael effaith fwynderol ar y Gorchymyn Cadw Coed.  

 

 

 

Argymhelliad y Swyddog oedd caniatáu’r cais, yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori a chyn belled ag na cheid unrhyw wybodaeth arall o bwys.

 

 

 

     PENDERFYNWYD derbyn argymhelliad y Swyddog a chaniatáu’r cais, gyda’r amodau a grybwyllir uchod.

 

      

 

11.11     - 49LPA910/CC - Dymchwel yr adeiladau heliport, newid defnydd y tir i safle fwynderau

 

sifig a gorsaf drosglwyddo gwastraff ynghyd â lleoli dau adeilad symudol a gosod pont bwyso yn yr Hen Safle Heliport, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi

 

 

 

Roedd y cais wedi’i ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio i’w benderfynu oherwydd ei fod ar dir ym mherchenogaeth y Cyngor.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cais oedd hwn i ddymchwel yr hen adeiladau heliport a newid defnydd y tir i ddarparu canolfan sifig (CA) a gorsaf drosglwyddo gwastraff i dderbyn gwastraff domestig oedd yn cael ei gludo i’r safle gan bobl.  Roedd y cais hefyd yn un i leoli dau adeilad symudol ar y safle a lleoli cynhwysyddion.

 

 

 

Nododd yr Aelodau bod y safle o fewn Parc Adwerthu Penrhos yn union i’r gogledd-orllewin o’r gwaith trin carthffosiaeth, tua’r dwyrain i archfarchnad Morrisons ac i’r gorllewin o unedau diwydiannol ym mherchenogaeth y Cyngor.  Gellir mynd i’r safle ar hyd ffordd sy’n mynd i’r parc adwerthu a’r fynedfa ger cylchdro bychan.

 

 

 

Roedd adroddiad y Swyddog yn dweud bod y datblygiad yn ddefnydd priodol o’r safle o ystyried ei leoliad yng nghanol eiddo diwydiannol gan mwyaf.  Roedd yr achos dros gefnogi’r cais yn cael ei hyrwyddo ymhellach oherwydd i’r safle gael ei ddyrannu yn y CDU Ynys Môn a stopiwyd i’r pwrpas y gwnaed y cais amdano.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn argymhelliad y Swyddog a chaniatáu’r cais gydag amodau.

 

 

 

12

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ynglyn â cheisiadau dirprwyedig a benderfynwyd ers y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn.

 

      

 

13     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, copi o benderfyniadau gan yr Arolygwr Cynllunio ynglyn â:-

 

      

 

     1 Stryd William, Caergybi - gwrthod apêl;

 

     Gerddi Glyn Garth, Glyn Garth - gwrthod apêl;

 

     Tir ger Rhos Daniel, Llanddaniel - gwrthod apêl;

 

     Min y Don, Stryd y Dwr, Porthaethwy - caniatáu’r apêl.

 

      

 

14

MATERION ERAILL

 

      

 

14.1     - 11LPA101E/1/LB/CC - caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwaith altro mewnol ac

 

allanol i Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

 

 

 

Nododd yr Aelodau y byddai’r cais hwn yn cael ei basio ymlaen i Lywodraeth Cynulliad Cymru i’w benderfynu yn unol â Rheoliad 13 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

 

 

 

14.2     -  48C145B - cais amlinellol i godi annedd ynghyd â gwneud gwaith altro i’r fynedfa

 

bresennol i gerbydau ar lecyn O.S.  rhif 0262, gyferbyn â Pencraig, Gwalchmai

 

 

 

Cafodd cais i godi annedd ar dir yn Pencraig, Gwalchmai ei ganiatáu fis Mehefin 200? gan y Pwyllgor Cynllunio a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog ac er gwrthod apêl yn erbyn gwrthodiad blaenorol ar y tir.  Roedd yr Aelodau yn ystyried y dylid caniatáu’r cynnig er mwyn rhoi cyfle i deulu lleol sicrhau annedd i gydfynd â’u hanghenion.  Cafodd y cais felly ei ganiatáu gyda Chytundeb Adran 106 oedd yn dweud “ni chaiff neb fyw yn yr annedd sydd i’w hadeiladu ar yr eiddo ond person gyda chyswllt lleol.  i bwrpas y Cytundeb, bydd gan berson gyswllt lleol os ydynt (neu aelod o’r teulu y byddant yn byw ag ef/hi yn yr annedd) wedi, yn gynyddol neu fesul un, byw neu weithio ar Ynys Môn am gyfnod o bum mlynedd cyn byw yn yr annedd neu eu bod yn wr neu’n wraig weddw i berson o’r fath.”  Roedd y cytundeb hwnnw wedi’i dderbyn gan yr ymgeisydd ac fe ryddhawyd y caniatâd ar 20 Tachwedd 2007.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi methu cael morgais ar gyfer y gwaith datblygu oherwydd y Cytundeb Adran 106 oedd ar y Cytundeb.  Roedd pob ymdrech i helpu’r ymgeisydd i gael morgais wedi methu.  Dywedodd y Swyddog wrth yr Aelodau bod y cais wedi’i ganiatáu yn groes i argymhelliad y Swyddog ac na ddylai fod wedi ei ganiatáu oherwydd ei fod wedi achosi dwy flynedd o anawsterau i’r ymgeisydd.  Roedd yn derbyn na allai’r ymgeisydd gael morgais ac yn awr byddai’n rhaid i’r Pwyllgor wneud penderfyniad i ddileu’r Cytundeb Adran 106 neu beidio gwneud hynny.

 

 

 

Fel yr Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd R.G. Parry OBE, bod y datblygiad ar ffin y pentref.  Diolchodd i Neil Haywood am wneud pob ymdrech i sicrhau morgais i’r ymgeisydd.  Roedd yr ymgeisydd wedi defnyddio arian y teulu i ddechrau’r datblygiad, roedd y to wedi’i godi ond yn anffodus nid oedd digon o arian i sicrhau ei gwblhau.  Gan gofio maint y gwaith datblygu sydd wedi’i wneud, a’r swm o arian sydd wedi’i fuddsoddi yn yr eiddo, roedd yr aelod lleol am annog yr aelodau i ddileu’r Cytundeb Adran 106 er mwyn caniatáu i’r ymgeisydd gael morgais a chwblhau’r gwaith adeiladu.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd O. Glyn Jones at ddatganiad gan y Llywodraeth yn dweud y byddai’n rhoi mwy o bwysau ar fanciau i ryddhau arian ar gyfer morgeisi.  Cynigiodd bod y cais i ddileu’r Cytundeb Adran 106 yn cael ei ganiatáu.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Selwyn Williams na fyddai unrhyw fudiad benthyca yn y DU yn benthyca arian ar ddatblygiad fyddai â’r fath amod arno.  Roedd yn hollol gefnogol i ddileu’r Cytundeb Adran 106.  

 

 

 

Roedd y Cynghorwyr J. Chorlton a John Arwel Roberts hefyd yn cefnogi dileu’r Cytundeb Adran 106.

 

 

 

Dweud wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas bod hon yn sefyllfa anodd iawn ac yn un y dylai’r Pwyllgor ei dwyn mewn cof i’r dyfodol.  Roedd am atgoffa’r Aelodau bod y Swyddog wedi codi ymwybyddiaeth bawb ynglyn â’r anawsterau fyddai’n codi pe bai’r cais yn cael ei ganiatáu.  Roedd yn credu nad oedd gan y Pwyllgor unrhyw ddewis ond rhoi caniatâd i ddileu’r Cytundeb Adran 106.

 

Dweud wnaeth y Cynghorydd T.H. Jones bod ganddo brofiad personol o sefyllfa debyg pan yr oedd ganddo yntau, rhyw 23 mlynedd yn ôl, amod amaethyddol wedi’i gosod ar benderfyniad Cynllunio.  Roedd wedi methu cael morgais ac yn y diwedd bu raid iddo fenthyca gan y banc ar raddfa llog uchel iawn.  Pwysleisiodd bod angen i’r Pwyllgor gofio bod gosod cyfyngiadau ar benderfyniad cynllunio yn rhywbeth all achosi problemau i’r ymgeiswyr.   Roedd yn credu nad oedd benthycwyr arian yn gwneud dim i helpu’r economi na helpu unigolion.  

 

 

 

Pe bai’r Cytundeb Adran 106 yn cael ei ddileu, roedd y Cynghorydd Durkin yn gobeithio y byddai hyn yn rhoddi syniadau afreal o sicrwydd i’r ymgeisydd.  Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas ei fod yn gobeithio’n fawr iawn y byddai’r annedd yn parhau ym mherchenogaeth pobl leol ac na fyddai’n cael ei chwblhau er mwyn cael ei gwerthu ar y farchnad agored fel menter i wneud arian.

 

 

 

Wrth gloi, dywedodd y Cynghorydd R.G. Parry OBE bod yr ymgeiswyr wedi derbyn siec am y swm o arian oedd ei angen gan eu Cyfreithiwr, ond eu bod wedi cael cais i ddychwelyd y siec y diwrnod canlynol oherwydd bod y darparwr morgais wedi dweud nad oedd eu prisiwr wedi gweld y Cytundeb Adran 106 ac nad oedd felly wedi cymryd i ystyriaeth yr effaith y byddai’r cytundeb yn ei gael ar werth yr eiddo ac felly roeddynt wedi tynnu eu cynnig o forgais yn ôl.  Diolchodd i’r Aelodau am y cyfle i ddod o’u blaenau a gofynnodd yn barchus am i’r Cytundeb Adran 106 gael ei ddileu.

 

 

 

Nododd y Cadeirydd ei fod yn gobeithio i wersi gael eu dysgu ar gyfer y dyfodol ac y bydd Aelodau yn ystyried pethau’n ofalus iawn cyn gosod amod fyddai’n cyfyngu’r ymgeisydd mewn penderfyniadau cynllunio.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a dileu’r Cytundeb Adran 106.

 

 

 

Ni wnaeth y Cynghorydd Eurfryn Davies bleidleisio ar y cais hwn.

 

     

 

      

 

        

 

 

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a therfynwyd am 3.20p.m.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD  KENNETH P. HUGHES

 

     CADEIRYDD