PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION |
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 30 GORFFENNAF 2003 |
|
|
|
Ar gais yr Uwch Swyddog Cynllunio dywedodd y Cadeirydd y buasai'r Ymchwiliad Cyhoeddus lleol i Gynllun Datblygu Unedol Ynys Môn yn dod i ben ar 31 Gorffennaf, sef ddiwrnod yn gynt na'r dyddiad a gyhoeddwyd yng nghyfarfod agoriadol yr Ymchwiliad ar 3 Mehefin. Dywedodd hefyd y buasai gan yr Arolygwr nifer o ymweliadau i'w cwblhau â safleoedd cyn ystyried y gwrthwynebiadau a gafwyd yn yr Ymchwiliad. Roedd yr Arolygwr yn disgwyl cyhoeddi ei adroddiad yn y Gwanwyn 2004. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
EITEM 5.3 Y COFNODION - 23C122A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER HEN SIOP, CAPEL COCH |
Dywedodd y Cadeirydd bod yr ymgeisydd yn gweithio i'r Cyngor ac wedi datgan diddordeb cyn ystyried y cais ond ni ddygwyd y mater i sylw'r Pwyllgor. |
|
|
RHAN 1 - MATERION CYNLLUNIO |
|
|
|
|
|
|
|
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Ymwelwyd â safle'r cais ar 18 Mehefin 2003 - pwysleisiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y dylid, yn unol ag argymhelliad y swyddog, wrthod y cais a gofynnodd i'r aelodau ailasesu eu penderfyniad gan fod y bwriad hwn yn cyfateb i estyniad annerbyniol i'r pentref ac yn groes i'r polisïau cyfredol. |
|||
|
|||
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeiswyr bellach wedi symud y fynedfa i gydymffurfio gyda gofynion yr Adran Briffyrdd a hefyd gofynnodd i'r Pwyllgor ystyried rhoddi amod neu wneud Cytundeb dan Adran 106 i sicrhau fod yr annedd bob amser yn y dyfodol yn aros yn annedd fforddiadwy. |
|||
|
|||
Rhoes y Cynghorydd Bessie Burns ei chefnogaeth gref i benderfyniad blaenorol y Pwyllgor hwn, sef penderfyniad i roddi caniatâd i'r cais. |
|||
|
|||
Yma soniodd y Cynghorydd W. J. Williams fod y cais wedi cael sylw teg a maith yn y cyfarfod blaenorol ac ni theimlai ei fod yn groes i'r polisïau a bod ffiniau'r pentref, yn yr achos hwn, yn amwys. Ganddo cafwyd cynnig i roddi caniatâd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd R. L. Owen. |
|||
|
|||
Roedd y Cadeirydd yn argymell rhoddi amodau ynghlwm i sicrhau y bydd y datblygiad yn dy fforddiadwy bob amser yn y dyfodol ac argymhellodd y dylid gwneud cytundeb dan Adran 106. |
|||
|
|||
Yma, meddai'r Cynghorydd Hefin Thomas, roedd gennym gwpl ifanc na fedrai fforddio ty ar y farchnad agored yn lleol a bod ty fforddiadwy yn fater o ddehongliad. Cafodd y cwbl ifanc hwn dir gan y teulu fel bod modd codi ty am bris y gallent ei fforddio yn eu cymuned - nid achos o adeiladu i werthu am elw oedd yma. |
|||
|
|||
Cytunodd y Cynghorydd Goronwy Parry y dylid rhoddi cyfyngiad ynghlwm wrth yr annedd i'w gwneud yn annedd fforddiadwy a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Gwyn Roberts. |
|||
|
|||
Roedd y Pwyllgor yn dymuno rhoddi caniatâd am y rhesymau a roddwyd o'r blaen a chydag amodau, gan gynnwys Cytundeb dan Adran 106 i sicrhau y bydd yr annedd yn annedd fforddiadwy bob amser yn y dyfodol. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts iddo dderbyn llythyr dyddiedig 29 Mai, 2003 gan Dwr Cymru a theimlai dan fygythiad o'i herwydd. Gan fod apêl gynllunio yn cael ei chynnal yn gyfochrog gyda'r cais hwn gofynnodd y Cynghorydd Roberts ble oedd yr aelodau yn sefyll yn gyfreithiol. Yn y cyfarfod cafwyd gwybod mai un o aelodau Caergybi yn unig oedd wedi derbyn y llythyr hwn. Ychwanegodd bod preswylwyr Llanasa yn dal i gael problemau oherwydd arogleuon. |
|||
|
|||
Nid oedd y cyfreithiwr wedi gweld y llythyr hwn cyn y cyfarfod ond ar ôl ei ddarllen yn sydyn dywedodd nad oedd dim ynddo yn ddigon i ohirio ystyried y cais a'r hyn a welai ynddo oedd ailadrodd ffeithiau y cais blaenorol a hefyd grybwyll yr apêl ar y gweill. Gofynnwyd i'r Pwyllgor benderfynu ar y cais yn ôl ystyriaethau cynllunio. |
|||
|
|||
Yn ei anerchiad ef dywedodd y Cynghorydd Keith Thomas i'r llythyr dan sylw gael ei ddangos i'r Swyddog Monitro ryw wythnos a hanner cyn y cyfarfod ac aeth ymlaen i ailfynegi pryderon ynghylch effaith lleoliad y gwaith ond ei brif bryderon oedd y rhai a ganlyn : |
|
|||
effaith economaidd - nid yw'r ardal o gwmpas y safle yn un ddiwydiannol |
|||
|
|||
yr effaith amgylcheddol - roedd moch daear yn y cyffiniau a hefyd gerllaw roedd enghreifftiau o'r fadfallt fawr gopog; rhyw ychydig gannoedd o lathenni draw o'r safle mae Traeth Penrhos, a Pharc Penrhos, y llecyn mwyaf poblogaidd ond dau gyda thwristiaid yn yr ardal, gan ddenu rhyw 90,000 ohonynt bob blwyddyn |
|||
|
|||
arogleuon - câi y rheini effaith ar breswylwyr Ffordd Llundain, Kingsland a Morawelon. |
|||
|
|||
gwrthwynebiadau'r cyhoedd - oherwydd gwrthwynebiadau cryfion gan bobl Ward Porthyfelin - sef y safle a ffafriwyd ar y cychwyn - y cyflwynwyd y cais hwn gan Dwr Cymru ar y safle penodol hwn. |
|||
|
|||
Eisoes, yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio, roedd y datblygiad ar y safle hwn wedi ei wrthod unwaith yn groes i argymhellion y swyddogion ac roedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn cefnogi'r cais ac wedi cynnig cyngor yng nghyswllt y moch daear. |
|||
|
|||
Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd John Chorlton bod 1,500 o bobl wedi llofnodi deiseb a gyflwynwyd ac o leiaf 70 ohonynt yn byw yn ardal Trearddur. Nid oedd pobl Trearddur yn ymwybodol o ba mor agos oedd y gwaith iddynt nac yn gwybod pa effaith a gâi arnynt. Dywedodd bod Awdurdodau eraill wedi cael problemau mawr oherwydd arogleuon ac oherwydd materion eraill yn codi gyda mathau tebyg o waith trin carthion. Cyfeiriodd at effaith y gwaith ar iechyd pobl fethedig yng nghaffi bychan y Tolldy a hefyd ar breswylwyr lleol. Petai camgymeriad yn cael ei wneud wrth roddi caniatâd i'r safle yna nid oedd cyfle arall ar gael ac roedd hi'n ddyletswydd ar y Pwyllgor i ofalu am bobl Caergybi a gwrthod y cais. |
|||
|
|||
Pan ddaeth ei dro ef i annerch dywedodd y Cynghorydd Alun Williams bod y datblygiad yn un sylweddol a bod raid symud ymlaen er mwyn cydymffurfio gyda gofynion Ewropeaidd. Teimlai y buasai'r gwaith yn gwella'r amgylchedd a'r economi leol yn fawr ac roedd yn croesawu datganiad HM Environment pan ddywedwyd nad oedd rheswm i bryderu. Pwysodd ar yr aelodau i weithredu ar y cyngor a roddwyd gan swyddogion proffesiynol. |
|||
|
|||
Teimlai'r Cynghorydd J. Arwel Roberts fod angen gwneud y gwaith ond cytunodd gyda'r Cynghorwyr Thomas a Chorlton a phwysodd ar y Pwyllgor i wrthod. |
|||
|
|||
Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas oedd cydymdeimlo gyda'r aelodau lleol oedd wedi ymgyrchu'n daer i wrthod y gwaith, ond teimlai bod digon o sylw yn cael ei roddi i'r pryderon a fynegwyd. |
|||
|
|||
Ymbiliodd y Cynghorydd Goronwy Parry ar yr Aelodau i wneud penderfyniad yn seiliedig ar egwyddor defnydd tir, gan fod gormod o bwysau yn cael ei roddi ar y system garthfosiaeth sydd yno ar hyn o bryd; roedd angen ystyried materion cymdeithasol ac economaidd gan gynnwys cyflenwad tai y dyfodol. |
|||
|
|||
Nid oedd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes yn gwrthwynebu'r egwyddor o ddatblygu ond gofynnodd tybed beth ddigwyddai petai'r gwaith yn cael ei sefydlu rhwng Caergybi a'r Fali. |
|||
|
|||
Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Goronwy Parry i roddi caniatâd a gofynnodd hefyd am bleidlais gofrestredig ac eiliwyd ef yn hyn o beth gan y Cynghorydd R. L. Owen. |
|||
|
|||
Yn unol â pharagraff 18.5 Rheolau Gweithdrefn y Cyngor PENDERFYNWYD cofnodi'r bleidlais a dyma'r canlyniad : |
|||
|
|||
YN ERBYN Y CYNNIG (GWRTHOD Y CAIS) : |
|||
Y Cynghorwyr J. Arwel Edwards, Trefor Lloyd Hughes, John Roberts, J. Arwel Roberts (4) |
|||
|
|||
O BLAID Y CYNNIG (RHODDI CANIATÂD) : |
|||
Y Cynghorwyr John Byast, D. D. Evans, Dr. J. B. Hughes, R. Ll. Hughes, R. L. Owen, Goronwy Parry MBE, Gwyn Roberts, W. Tecwyn Roberts, John Rowlands, Hefin Thomas (10) |
|||
|
|||
YMATAL : |
|||
Y Cynghorydd W. J. Williams (1) |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn gwyro o'r cynllun datblygu a gallai greu datblygiad rhubanaidd a chreu estyniad o'r tai i'r cefn gwlad. Y polisïau perthnasol a ddefnyddiwyd i benderfynu ar argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor oedd Polisïau 31, 32 a 52 Cynllun Lleol Ynys Môn a theimlai nad oedd yr ymgeiswyr wedi dangos bod yma "amgylchiadau eithriadol". |
|||
|
|||
Yn ei anerchiad dywedodd y Cynghorydd Gwilym Jones mai'r ymgeisydd oedd y drydedd genhedlaeth o'i deulu i fyw yn yr ardal ac na fedrent gystadlu am y tai lleol ar werth. Teimlai bod prinder tai fforddiadwy yn lleol, ac roedd taid yr ymgeisydd wedi rhoddi'r tir iddo. Roedd y tir dan sylw 200-300 llath y tu mewn i'r ardal 30 milltir yr awr. Eisoes roedd rhesiad o fyngalos gyferbyn â safle'r ymgeisydd a theimlai'n bendant iawn nad oedd hwn yn ddatblygiad yn y cefn gwlad. Gwyddai nad oedd hi'n arferiad i aelodau ymweld â safleoedd ceisiadau yn gwyro ond er hynny rhoes wahoddiad i'r aelodau gael golwg ar y lle gan ei fod yn anghytuno yn gryf iawn gydag argymhelliad y swyddog. |
|||
|
|||
Unwaith eto roedd yma achos o bobl ifanc yn methu fforddio prynu tai lleol yn ôl y Cynghorydd John Rowlands a chydymdeimlodd gyda'r ymgeiswyr a rhoes ei gefnogaeth i'r aelod lleol yn yr achos hwn. |
|||
|
|||
Gofynnodd y Cynghorydd W. J. Williams tybed a oedd modd gwneud eithriad o'r achos hwn dan bolisi 52, ac yn arbennig o gofio mai rhyw ychydig o droedfeddi yn unig oedd safle'r cais y tu allan i ffiniau'r pentref. Argymhellodd gael ymweliad â'r safle. |
|||
|
|||
Roedd y Cynghorydd Goronwy Parry am i aelodau fod yn gyson a glynu wrth y polisïau er bod y rheini, yn ei dyb ef, angen eu diweddaru i greu gwell dealltwriaeth o ddiffiniadau yn y polisïau. Cynigiodd y Cynghorydd Parry wrthod y cais yn unol ag adroddiad y swyddog. |
|||
|
|||
Yn ei ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod terfynau pendant i bentref Bodedern ac o safbwynt cynllunio roedd y safle y tu allan i'r pentref ac yn creu datblygiad rhubanaidd. Gan nad oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno tystiolaeth o angen amaethyddol teimlai bod y cais yn erbyn y polisïau. Darllenodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bolisi 52 i'r Pwyllgor gan ychwanegu nad oedd y safle hwn yn addas i'w ddatblygu. |
|||
|
|||
Yn ôl y cyfreithiwr roedd argraff yn cael ei chreu gan gais fel yr un hwn a rhai eraill cyffelyb bod tueddiad i fynd am bolisi o ganiatáu tai i berchnogion tiroedd a'u teuluoedd ac na ddylai penderfyniadau o'r fath ffafrio perchnogion ar draul y rheini oedd ddim yn berchnogion ond yn wynebu yr un angen am dai lleol. |
|||
|
Yma mynegodd y Cynghorydd John Roberts bryder ynghylch lefel yr ymgynghoriad gyda'r aelodau yn y broses o ddatblygu polisïau cynllunio ac mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd bod y polisïau presennol yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd fel rhan o Strategaeth Dai yr Ynys. |
|||
|
|||
Cynigiodd y Cynghorydd John Rowlands roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts. |
|||
|
|||
PENDERFYNODD yr aelodau roddi caniatâd cynllunio yn groes i argymhelliad y swyddogion, sef argymhelliad o wrthod; dyma'r rhesymau dros roddi caniatâd : |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn er mwyn ystyried adroddiad ar oblygiadau rhoddi caniatâd cynllunio a hefyd i bwrpas penderfynu ar y cais. |
|||
|
|||
5.2 15C49B - CAIS I DDILEU AMOD (07) 'DEFNYDD AMAETHYDDOL' AR GAIS CYNLLUNIO 15C49 YN GWNA FAWR, BETHEL, BODORGAN |
|||
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yma gais i ddileu amod preswylio amaethyddol (07) ar ganiatâd cynllunio 15C49, dyddiedig 14 Tachwedd, 1989. Rhoddwyd caniatâd i gais arall (15C49A) ar 13 Medi, 1996 i addasu adeilad allanol a'i droi yn annedd ynghyd â dymchwel sied amaethyddol. |
|||
|
|||
Dywedodd y Swyddog bod y cais hwn yn groes i Bolisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd, i Bolisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn a hefyd yn groes i'r cyngor yn TAN 6 Polisi Cynllunio Cymru. |
|||
|
|||
Nodwyd nad oedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu'r cais. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog. |
|||
|
|||
5.3 17C288A - NEWID LLEOLIAD CAIS DA/1/24/A/74D/1 A CHODI ANNEDD AR DIR GER CRAIG Y DON, GLYN GARTH |
|||
Gwnaeth y Cynghorydd D. D. Evans ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth nac yn ystod y pleidleisio. |
|||
|
|||
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yma gais cynllunio amlinellol i un annedd a'r manylion yn cael eu cadw ar gyfer eu trafod yn y dyfodol ond, gyda'r cais, amgaewyd cynlluniau enghreifftiol ar gyfer byngalo tair ystafell wely. Roedd y safle y tu mewn i libart sylweddol Craig y Don (Adeilad Rhestredig Graddfa II). Fel rhan o'r cais gofynnwyd am gytundeb i ddileu caniatâd cynllunio gydag amodau DA/1/24/A/74d/1 i un annedd yng Nghoed Celyn a oedd yn yr ardd drws nesaf. Dywedodd bod y cais hwn yn gwyro oddi wrth y cynllun datblygu. |
|||
|
|||
Aeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn ei flaen i ddweud y buasai'r cais hwn yn ddatblygiad mympwyol a fuasai'n ymwthio yn annerbynniol i safle arfordirol naturiol yn y cefn gwlad a'r tu mewn i Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol ac felly yn groes i'r polisïau. Ni chredai'r swyddog y câi'r datblygiad effaith ddrwg ar Adeilad Rhestredig Graddfa II cyffiniol ond er hynny yr oedd Gorchymyn Diogelu Coed ar y tir. Cafwyd argymhelliad cryf o wrthod gan y swyddog ac er bod yr hen ganiatâd yn ystyriaeth berthnasol nid oedd yn ddigon pwysig i fynd yn groes i'r polisi cynllunio. |
|||
|
|||
Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies bod yma gais anghyffredin, sef gofyn am drosglwyddo caniatâd cynllunio a roddwyd yn 1974 o'r ardd drws nesaf. Teimlai fod yr adroddiad wedi camarwain aelodau am nad oedd darlun cyflawn wedi ei roddi o'r cais unigryw hwn ac ni allai gytuno gyda rhesymau'r swyddog dros wrthod. |
|||
|
|||
Nid oedd safle Craig y Don, yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio, yn addas i godi ty ac ychwanegodd bod y safle arall yn fwy addas i adeiladu. Nid oedd y cais yn cydymffurfio gyda'r polisïau ac o'r herwydd nid oedd yn dderbyniol. |
|||
|
|||
Yma beirniadodd y Cynghorydd Goronwy Parry yr aelodau hynny oedd yn herio barn broffesiynol a chyngor proffesiynol swyddogion ac aeth ymlaen i erfyn arnynt i fod yn gyson wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau. Cynigiodd y Cynghorydd Goronwy Parry wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Dr. J. B. Hughes. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog. |
|||
|
|||
Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr Hefin Thomas a Gwyn Roberts ar y cais. |
|||
|
|||
5.4 24C187B - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI CANOLFAN I BWRPAS RHEOLI'R STAD, EI GWEINYDDU AC I GAEL CANOLFAN CYNADLEDDAU PRESWYL GYDA LLETY I REOLWR YNGHYD Â GWNEUD GWAITH ALTRO AR Y FYNEDFA A GOSOD OFFER NEWYDD I DRIN CARTHION YN LLYS DULAS, DULAS |
|||
Gwnaeth y Cynghorydd Gwyn Roberts ddatganiad o fudd uniongyrchol yn y cais hwn a chymerodd ran yn y trafodaethau fel aelod lleol ond ni phleidleisiodd ar y mater. |
|||
|
|||
Er gwaethaf yr hyn a ddywedwyd yn adroddiad y swyddog dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cais hwn yn gwyro oddi wrth y cynllun datblygu. Oherwydd natur gymhleth ac anarferol y cynnig roedd yr awdurdod cynllunio lleol wedi comisiynu Ymgynghorwyr Amaethyddol o Reading i asesu'r cais a rhoddi cyngor arbenigol. |
|||
|
|||
Dywedodd y Cynghorydd Gwyn Roberts, yr aelod lleol, y disgwylid i'r datblygiad hwn greu swyddi y mae eu gwir angen yn yr ardal. Hefyd cafwyd cadarnhad gan yr ymgeiswyr y bydd gwaith gwella yn cael ei wneud ar gyffordd Lled y Wrach gyda'r A5025 a darperir mannau pasio ar hyd rhwydwaith y ffyrdd ar gost yr ymgeisydd. Cafwyd gair o gadarnhad yng nghyswllt hyn gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio. |
|||
|
|||
Cynigiodd y Cynghorydd W. Tecwyn Roberts roddi caniatâd i'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. L. Owen. |
|
|
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw ond gyda chytundeb dan Adran 106 yn cyfyngu ar y datblygiad yn unol â'r hyn a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad. |
|
|
|
5.5 27C52A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AMAETHYDDOL A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR BOTAN FAWR, LLANFACHRAETH |
|
Gwnaeth y Cynghorydd R. G. Parry ddatganiad o ddiddordeb yn y cais. |
|
|
|
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn gwyro o'r cynllun datblygu gan ychwanegu mai'r polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth lunio argymhelliad y swyddog oedd Polisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn, a Pholisïau A6, D3, D4, D29 a D31 (tirlunio). Dywedodd nad oedd digon o dystiolaeth wedi ei chyflwyno i gyfiawnhau rhoddi caniatâd ac ychwanegwyd fod yr aelod lleol bellach yn cefnogi'r cais. |
|
|
|
PENDERFYNWYD dirprwyo'r hawl i wrthod y cais i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori ac am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog. |
|
|
|
5.6 28C313 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GAREJ BREIFAT AR DIR TAI NEWYDD, LLANFAELOG |
|
Cafwyd gwybod gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn bellach wedi ei dynnu'n ôl. |
|
|
|
PENDERFYNWYD nodi bod y cais wedi ei dynnu'n ôl. |
|
|
|
5.7 35C191A - NEWID Y DEFNYDD O DIR AMAETHYDDOL I BWRPAS CADW CEFFYLAU AC ALTRO'R FYNEDFA AR GAE ORDNANS 4947 GER TYDDYN WAUN, LLANGOED |
|
Yn groes i'r hyn a nodwyd yn adroddiad y swyddog dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cais hwn yn gwyro o'r cynllun datblygu a dygwyd ef i sylw'r Pwyllgor ar gais yr aelod lleol. |
|
|
|
Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y garafán sefydlog a'r garafán deithiol a grybwyllwyd yn y paragraff cyntaf ar dudalen 68 adroddiad y swyddog yn rhan o'r cais hwn. Nodwyd bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn i'r datblygiad gan gynnwys dau lythyr gan y Cyngor Cymuned. |
|
|
|
Yn sgil camau gorfodi y cafwyd y cais ôl-ddyddiol hwn ac mae'r gwaith bron wedi ei gwblhau ar y cynnig sydd yma. |
|
|
|
Mewn egwyddor dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y datblygiad hwn yn y cefn gwlad yn dderbyniol am nad oedd yn cael effaith annymunol ar yr ardal; roedd y materion iechyd yn cael eu rheoli dan ddeddfwriaeth arall. |
|
|
|
Ni allai'r Cynghorydd John Rowlands gytuno gyda'r swyddog gan fod y fynedfa ar dro cul ac yn annerbynniol. |
|
|
|
Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu) o'r Adran Briffyrdd bod gwaith gwella wedi ei wneud ar y fynedfa a bod bwriad i wneud rhagor o waith o'r fath. |
|
|
|
Yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio nid oedd modd gwrthod y cais am resymau polisi, gan nad oedd ymddygiad yr unigolion yn rhan o'r ystyriaeth. |
|
|
|
Gan farnu oddi wrth yr ymateb gan y cyhoedd i adroddiad y swyddog credai y Cynghorydd Hefin Thomas bod yr ymgeisydd wedi gwerthu tir ac adeiladau oedd ar draws y lôn i safle'r cais - man a oedd, yn ei dyb ef, yn fwy addas i'r math hwn o ddatblygiad. |
|
|
|
Cynigiodd y Cynghorydd David Evans ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. L. Owen. |
|
|
|
PENDERFYNWYD ymweld â'r safle cyn penderfynu ar y cais. |
|
|
|
Gan fod y Pwyllgor wedi bod yn eistedd am dair awr cafwyd PENDERFYNIAD i fwrw ymlaen gyda'r gwaith ar weddill yr agenda. |
|
|
|
5.8 40C148A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD GOEDWIGAETHOL A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR PANT DALAR, MYNYDD BODAFON |
|
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn gwyro o'r cynllun datblygu (tai yn y cefn gwlad) ac roedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu. |
|
|
|
PENDERFYNWYD rhoddi'r pwerau i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio wrthod y cais ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori ac am y rhesymau yn adroddiad y swyddog. |
|
|
|
|
|
5.9 42C175 - TROI HEN SWYDDFA AC YSTAFELL STAFF YN ANNEDD NEWYDD YN NANT Y FELIN PRECAST, PENTRAETH |
|
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn gwyro oddi wrth y cynllun datblygu. |
|
|
|
Eglurodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod y safle gynt yn cael ei ddefnyddio fel man i swyddfa Chwarel Hoveringham a chan fod yr adeiladau ar y safle'n barod credai mai estyniad bychan oedd yn y cais hwn a buasai'n gwella gwedd yr ardal. Roedd ef o blaid y cais a chynigiodd roddi caniatâd iddo. |
|
|
|
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 55 Cynllun Lleol Ynys Môn ac nid oedd y cynnig yn dderbyniol iddo gan fod y datblygiad yn gyfystyr â chodi annedd newydd yn y cefn gwlad. Buasai'r cynnig yn treblu arwynebedd yr adeilad sydd yno ac roedd yn argymell, yn gryf iawn, y dylid gwrthod y cais. |
|
|
Cafwyd cynnig i wrthod gan y Cynghorydd Goronwy Parry a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Gwyn Roberts. |
|||
|
|||
Cafwyd cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts a eiliwyd gan y Cynghorwyr Hefin Thomas a John Rowlands. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog. |
|||
|
|||
5.10 44C213 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD A THANC SEPTIG NEWYDD AR DIR FRON DEG, CAPEL PARC, LLANDYFRYDOG |
|||
Gwnaeth y Cynghorydd D. D. Evans ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth nac yn ystod y pleidleisio. |
|||
|
|||
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn gwyro oddi wrth y cynllun datblygu. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD rhoddi'r pwerau i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio wrthod y cais ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori ac am y rhesymau yn adroddiad y swyddog. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor gan ei fod wedi ei gyflwyno gan Gyngor Sir Ynys Môn a nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai 20 Awst oedd y dyddiad olaf i dderbyn sylwadau, nid 13 Awst fel a nodwyd yn yr adroddiad. |
|||
|
|||
Ni chafwyd yr un gwrthwynebiad i'r bwriad. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD rhoddi'r pwerau i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais unwaith y daw'r cyfnod ymgynghori i ben ac am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw. |
|||
|
|||
|
|||
Gofynnodd yr aelod lleol am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd maint ac uchder y garej a phryderon ynghylch difrod i goed ac i'r terfyn. |
|||
|
|||
Eglurodd y Cynghorydd R. L. Owen mai cais ôl-ddyddiol oedd hwn a theimlai ef bod y garej yn rhy fawr ac yn anaddas i'r amgylchiadau ac awgrymodd ymweliad â'r lle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Goronwy Parry. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod cyn penderfynu ar y cais. |
|||
|
|||
|
|||
Cafodd y cais hwn ei drosglwyddo i'r Pwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn aelod o'r Cyngor. Gwnaeth y Cynghorydd W. I. Hughes ddatganiad o ddiddordeb yn y cais. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD caniatau'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw. |
|||
|
|||
|
|||
Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i Bwyllgor. Yma dywedodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes ei fod yn dymuno siarad ar y cais gan mai ef oedd yr aelod lleol a gadawodd y Gadair - ni phleidleisiodd ar y cais. |
|||
|
|||
Cymerwyd y Gadair gan y Cynghorydd J. Arwel Edwards a nodwyd bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu a bod gwrthwynebiadau eraill hefyd wedi eu derbyn. |
|||
|
|||
Oherwydd symud plotiau 4 a 5 dywedodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes bod plot 6 yn awr gryn dipyn yn llai ac er gwaethaf cynigion i wneud rhagor o waith cuddio teimlwyd y buasai'n gyfystyr â gorddatblygu'r stad. Cynigiodd ymweld â'r safle. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod cyn penderfynu ar y cais. |
|||
|
|||
|
|||
Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor a gwnaed datganiad o ddiddordeb ynddo gan y Cynghorydd R. Ll. Hughes ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth ac ni phleidleisiodd ar y mater. |
|||
|
|||
|
|||
Roedd y Cynghorydd Goronwy Parry yn pryderu ynghylch diogelu'r tir comin a soniodd hefyd am gyfyngu ac am reoli nifer y carafanau teithiol ar y safle ar unrhyw adeg benodol. |
|||
|
|||
Rhoes y Rheolwr Rheoli Cynllunio sicrwydd i'r aelodau bod y cais yn cydymffurfio'n llawn gyda'r polisïau presennol a rhoddid amodau ynghlwm i reoli'r gwaith a'r gweithgareddau ar y tir. |
|
|||
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw. |
|||
|
|||
|
|||
Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD caniatau'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw. |
|||
|
|||
|
|||
Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo) ac mae'n ymwneud â thir y mae'r Cyngor yn ymddiriedolwr iddo. |
|||
|
|||
Nodwyd nad oedd Asiantaeth yr Amgylchedd na Babtie wedi cyflwyno sylwadau ar y cais. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD caniatau'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw. |
|||
|
|||
|
|||
Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i Bwyllgor a gofynnodd am ymweld â'r safle cyn penderfynu ar y cais. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod cyn penderfynu ar y cais. |
|||
|
|||
|
|||
Y Cadeirydd roes ei ganiatâd i ystyried y cais hwn fel bod modd penderfynu arno cyn diwedd yr wyth wythnos ofynnol. Cyflwynwyd y cais gan un o swyddogion y Cyngor, a gwnaeth Miriam Williams o'r Adain Adnoddau Dynol ddatganiad o ddiddordeb ynddo. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Cyflwynwyd a derbyniwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn. Dywedodd y Cadeirydd bod 135 o geisiadau cynllunio wedi eu pennu ers y cyfarfod diwethaf. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|||
|
|||
Daeth y cyfarfod i ben am 5.25 p.m. |
|||
|
|||
Y CYNGHORYDD ROBERT LL. HUGHES |
|||
CADEIRYDD |