Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 30 Gorffennaf 2008

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 30ain Gorffennaf, 2008

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

 

Cofnodion cyfarfod gafwyd ar 30 Gorffennaf, 2008

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Thomas Jones - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr W J Chorlton, Eurfryn Davies, Lewis Davies,

Barrie Durkin, Jim Evans, Ken Hughes, O Glyn Jones,

Clive McGregor, R L Owen, J Arwel Roberts, Hefin Thomas,

John Penri Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Cynorthwywr Cynllunio (BG)

Cynllunio (EEH, MG)

 

Priffyrdd:

Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)(JRWO)  

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)  

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

Dim

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R Llewelyn Jones - Deilydd Portffolio Cynllunio

Y Cynghorydd Fflur Hughes, Aled Morris Jones, Eric Jones, Ieuan Williams.

 

Yn bresennol am y deyrnged i Cath W Pari:  Y Cynghorwyr Phil Fowlie, William Hughes, Bryan Owen, Bob Parry, Elwyn Schofield.

 

TEYRNGED i CATH W PARI:

 

Agorwyd y cyfarfod gan y Cadeirydd gyda chyfeiriad at farwolaeth ddisymwth Cath W Pari, Cymhorthydd Gweinyddol oedd wedi gwasanaethu’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am nifer o flynyddoedd.

 

Talodd deyrnged i Cath gan gyfeirio at ei phoblogrwydd a’r ffaith bod hyn wedi ei adlewyrchu yn y nifer fawr o bobl, gan gynnwys staff ac aelodau o’r Cyngor, oedd wedi mynychu ei hangladd y bore hwnnw yn Gaerwen.

 

Safodd pawb oedd yn bresennol am funud o dawelwch fel arwydd o barch.

 

Yn ôl y Cadeirydd, ac yn dilyn trafodaeth gyda’r Adran Bwyllgor a staff, roedd penderfyniad wedi’i wneud i barhau gyda’r cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Dim.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

   

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

FE DDYLAI’R PWYNT NESAF HWN FOD WEDI DOD O DAN EITEM 13.1 (MATERION ERAILL) OND ROEDD Y CYNGHORYDD CHORLTON AM DDWYN Y MATER GERBRON CYN I’R PWYLLGOR DDECHRAU.

 

 

 

1/46/C448B/EIA - Cais llawn i wneud gwaith gwella ar yr arfordir a darparu maes parcio ym Mae Trearddur.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Chorlton - oherwydd bod yr eitem hon wedi cael ei hystyried ar fwy nag un achlysur, roedd am wybod pwy oedd wedi rhoddi caniatâd i ddod â’r mater yn ôl gerbron y Pwyllgor unwaith yn rhagor.  Roedd penderfyniad democrataidd eisoes wedi’i wneud ac roedd am holi ym mhle yr oedd hyn yn cael ei ganiatáu o fewn Cyfansoddiad y Cyngor neu o dan y rheolau dirprwyo.

 

 

 

Gwnaeth gais am i ymchwiliad manwl gael ei wneud ac fe allai hyn oll olygu y byddai’n cyfeirio’r holl fater i’r Ombwdsmon i’w ymchwilio.  Awgrymodd y dylai rhyw barti annibynnol ddod i mewn i ystyried y mater.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd yn ymddiheuro am godi’r mater ar yr amser hwn ond yr oedd yn teimlo’n gryf iawn ar y mater a dyma’r rheswm pam y bu iddo ei ddwyn gerbron ar ddechrau’r cyfarfod.

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd bod yr eitem hon yn cael ei gohirio hyd y cyfarfod nesaf ym mis Medi.

 

 

 

3

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 2 Gorffennaf, 2008 yn amodol ar y ganlynol:

 

 

 

i ychwanegu:  Eitem 10.1   19C291C/DA - Cais manwl i ddymchwel y ty tafarn presennol, codi 6 o dai 3 llofft, 4 o dai 2 lofft ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd i gerbydau yn Y Ddraig Goch, Llaingoch, Caergybi.

 

 

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd unrhyw lythyrau ychwanegol wedi’u derbyn ers diwedd y Pwyllgor Cynllunio diwethaf a diwedd y cyfnod ymgynghori.

 

 

 

4

YMWELIADAU SAFLE

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf, 2008.

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

11C8U/1  CAIS LLAWN AR GYFER 35 UNED BRESWYL YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD i GEIR AC i GERDDWYR AR DIR TU CEFN i PARC TRECASTELL, PORTH LLECHOG, AMLWCH

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod rhai o’r pryderon ynglyn â’r cais hwn yn ymwneud a materion priffyrdd a gofynnodd os oedd y materion hyn wedi cael eu datrys ac os felly, pa wybodaeth ychwanegol oedd heb ei derbyn.  

 

 

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y materion priffyrdd wedi’u datrys ond bod disgwyl am Ddatganiad yr Iaith Gymraeg ac Asesiad Ecolegol.

 

 

 

Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (JRWO - Priffyrdd) mai datblygiad oedd hwn am 30 uned ac nid 35 fel oedd wedi’i ddweud a bod eisoes ganiatâd am 30 annedd ar y safle.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Jones gwestiwn:  a oedd y gofyn dros gael Asesiad Ecolegol a  Datganiad yr Iaith Gymraeg yn dibynnu ar faint y datblygiad?

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio: mewn achosion lle ceir datblygiadau bychan ni fyddai angen Datganiad yr Iaith Gymraeg o anghenraid, ond gyda nifer fwy o anheddau, yr oedd yn fwy tebygol.

 

Roedd yr angen am Asesiad Ecolegol yn dibynnu’n hollol ar natur y safle ac nid oedd yn ymwneud dim â maint.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio penderfynu ar y cais hwn nes derbyn yr Asesiad Ecolegol a’r  Datganiad ar yr Iaith Gymraeg.

 

 

 

5.2

23C103C/ECON - BRYN GOLEU, CAPEL COCH

 

 

 

Roedd y cais hwn wedi creu consyrn lleol mawr yn ôl y Cynghorydd Eurfryn Davies ac roedd am argymell y dylid ymweld â’r safle.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.3

 

5.3

 

5.3

34C510B/ECON - YR HEN SAFLE ‘FARM AND PET’, LON Y FELIN, LLANGEFNI

 

 

 

Atgoffa’r Pwyllgor wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio iddo gael ei ddweud yn ystod yr ymweliad safle bod yr ymgeisydd yn mynd i gyflwyno cynlluniau newydd yn dangos mynedfa trwy faes parcio Lidl.  Roedd y cynlluniau newydd wedi’u derbyn a bydd y rhain yn awr yn cael eu hadolygu gan yr Adain Briffyrdd.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn caniatáu i’r Adain Briffyrdd ymchwilio ac adrodd yn ôl ar y cynlluniau newydd.

 

 

 

5.4

41C9U - CANOLFAN FASNACHOL, STAR

 

 

 

PENDERFYNWYD peidio â thrafod y cais er mwyn gweithredu argymhellion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf, 2008 oherwydd datrys materion oedd ar ôl.

 

 

 

6

CEISIADAU’N CODI

 

 

 

6.1

17C413  CODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL i GERBYDAU TU CEFN i MOR AWEL, LLANDEGFAN

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies fod ganddo ef yn bersonol ddau o bryderon ynglyn â’r datblygiad hwn; nid oedd yn hapus gyda’r ffordd ac roedd yn ei ystyried yn lecyn peryglus ac nid oedd chwaith yn hapus gyda lleoliad y datblygiad.

 

 

 

Gofynnodd am i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd R L Owen.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

6.2

30C26D - NEWID AMOD (03) AR GAIS RHIF 30C26C ER MWYN CANIATAU CYNNYDD YN Y NIFER O DRIGOLION O 4 i 7 YNG NGHYSWLLT CARTREF GOFAL PRESENNOL THE LODGE, 17 BAY VIEW ROAD, BENLLECH

 

 

 

Yn ôl y Cynghorydd Barrie Durkin, roedd pwynt wedi’i wneud mewn llythyr oedd wedi’i ddosbarthu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfeirio at drefniadau parcio ar y safle.  Roedd wedi methu â chael hyd i’r llythyr hwn yn Adrannau’r Gwasanaethau Cymdeithasol, Priffyrdd na’r Gwasanaeth Cynllunio.

 

 

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol bod llythyr wedi’i dderbyn gan yr Adran Priffyrdd ac mai mater i’r Pwyllgor oedd penderfynu pa bwysau fyddai’n ei roi i’r llythyr.  Roedd y Swyddogion Priffyrdd yn y cyfarfod ac fe ellid gofyn iddynt pa ran yr oedd y llythyr hwn wedi’i chwarae yn eu hargymhelliad.  Mater i’r Pwyllgor oedd gofyn am weld y llythyr os oedd yn credu bod ei gynnwys yn berthnasol i’w benderfyniad.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Chorlton - oni fyddai’n well i’r cais gael ei ohirio hyd y byddai’r llythyr wedi dod i’r amlwg.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai ei ddealltwriaeth ef oedd nad oedd cynnwys llythyr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn greiddiol i’r penderfyniad.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas y dylid gohirio’r mater.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Durkin yn anhapus bod llythyr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar goll yn arbennig o gofio y byddai yn cael dylanwad ar y penderfyniad priffyrdd.  Roedd y llythyr yn dangos hefyd bod gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ddiddordeb yn y cais hwn.  Roedd yn teimlo y dylai’r cais gael ei ohirio fel y gellid canfod y llythyr.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Chorlton y byddai’r Pwyllgor angen gwybod am gyflwr iechyd meddyliol preswylwyr os mai’r bwriad oedd lleihau nifer y gofalwyr.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yna asiantaethau eraill sy’n rheoli’r gofal gaiff y preswylwyr.  Roedd yna hefyd hawl i apelio ac roedd wedi siarad gyda’r asiant oedd yn cynrychioli’r ymgeisydd ac roedd posibilrwydd cryf y byddent yn mynd i apêl pe bai’r cais yn cael ei oedi ymhellach.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio gwneud penderfyniad ar y cais nes y byddid wedi canfod y llythyr oddi wrth yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

6.3

30C259E - CAIS LLAWN AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL YN LLYS IFON, BENLLECH

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais blaenorol wedi’i wrthod gan y Pwyllgor hwn.  Ni fu unrhyw newid mawr yn yr amgylchiadau.  Y rhesymau dros wrthod oedd bod y datblygiad arfaethedig yng nghanol yr ardd ac oherwydd bod y cyfarwyddyd ynglyn â datblygiadau tai yn argymell y dylid cael 18 metr rhwng ffrynt a chefn yr anheddau.  Roedd y cynigion presennol yn llawer llai na hyn.

 

 

 

Os mai bwriad y Pwyllgor oedd caniatáu byddai angen iddo ddangos bod yna newid sylweddol wedi bod yn yr amgylchiadau ers y penderfyniad diwethaf.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod yna ardd hir ar y safle ac y gellid caniatáu mewnlenwi yn yr achos hwn.  Gofynnodd os oedd y fynedfa arfaethedig i’r lon wedi’i newid.  Roedd cais hefyd wedi’i ganiatáu ym mhen y plot ac roedd am wybod beth oedd ymateb yr Adran Priffyrdd bryd hynny.

 

 

 

Dywedodd y Prif Beiriannydd (Priffyrdd) bod y cais yn un oedd ag argymhelliad o wrthod oherwydd diffyg gwelededd.  Mae’r fynedfa wedi’i lledu ond nid yw hyn wedi cael unrhyw effaith ar y gwelededd.  Y mae’n parhau i fod yn is safonol.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn teimlo bod y gwelededd yn ddigonol yn y fynedfa ar gyfer y datblygiad oedd yn cael ei fwriadu.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Ken Hughes nad oedd y gwelededd yn dderbyniol ac y gallai fod yn beryglus ac argymhellodd y dylid gwrthod y cais ac fe eiliwyd hynny gan y Cynghorydd McGregor.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Chorlton ei fod wedi siecio’r gwelededd i fyny’r ffordd ar yr ymweliad safle pan oedd car wedi’i barcio er mwyn gweld os oedd yna broblem ac nid oedd ef yn gallu gweld ei fod yn is safonol.  Roedd yn cefnogi’r cais.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Chorlton.

 

 

 

     Roedd y pleidleisio fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu’r cais:   Y Cynghorwyr John Chorlton, Hefin Thomas, Arwel Roberts, Selwyn Williams.

 

      

 

     Gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr C McGregor, Ken Hughes, Eurfryn Davies, Lewis Davies,

 

     O Glyn Jones, Thomas Jones, R L Owen, John Penri Williams.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

6.4     34C97P/ECON - NEWID DEFNYDD i GREU DAU UNED MAN WERTHU A SWYDDFA AR Y LLAWR CYNTAF YNGHYD AG ADDASIADAU AC ATGYWEIRIO YN NEUADD Y DREF, LLANGEFNI

 

      

 

     Roedd yr Aelod Lleol y Cynghorydd Fflur Hughes yn bryderus bod yr adeilad yn amhriodol ar gyfer y defnydd oedd yn cael ei fwriadu.  Roedd llythyr wedi’i dderbyn gan yr ymgeisydd yn cynnig y llawr cyntaf ar gyfer defnydd cymunedol.  Byddai’n well pe bai’r llawr isaf yn cael ei ddefnyddio i ddefnydd cymunedol gan ei fod eisoes yn cael ei ddefnyddio i’r pwrpas hwn.  Roedd cyfarfodydd wedi’u cynnal rhwng Cyngor y Dref a Menter Môn - roedd Menter Môn mewn gwell sefyllfa i fynd ar ôl grantiau.  Gofynnodd am i’r cais gael ei wrthod.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton y dylai Cyngor y Dref gymryd yr adeilad drosodd gan bod y mwyafrif o Neuaddau Tref yn cael eu rheoli gan Gynghorau Tref/Cymuned.  Bydd Cyngor y Dref yn dod i gysylltiad â Menter Môn yn uniongyrchol.  Roedd am gynnig bod y cais yn cael ei ohirio am fis er mwyn rhoi cyfle i gael ymateb ynglyn â bwriadau Cyngor y Dref i brynu’r adeilad.

 

      

 

     Cafodd argymhelliad y Cynghorydd Glyn Jones i wrthod y cais ei eilio gan y Cynghorydd Ken Hughes.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Clive McGregor bod angen i’r awdurdod osod cyfnod o amser penodol i Gyngor y Dref wneud penderfyniad ynglyn â’r adeilad hwn cyn i’r Pwyllgor Cynllunio symud ymlaen a gwneud argymhelliad.  Roedd am gefnogi cais y Cynghorydd John Chorlton ond am awgrymu cyfnod o ddau fis.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Cadeirydd y gallai’r Pwyllgor naill ai wrthod y cais neu ei gyfeirio i’r Cynulliad, ond nid oedd ganddo bwer i roddi caniatâd.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Fflur Hughes unwaith yn rhagor bod Cyngor y Dref yn barod i barhau ei drafodaethau ynglyn â’r cais hwn.  

 

      

 

     Awgrymodd y Cynghorydd Chorlton - os oedd yr aelod lleol eisiau rhoi’r adeilad i asiantaeth arall yna fe fyddai’n haws iddynt gael arian.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod Cyngor y Dref wedi bod yn ymwybodol o hyn am nifer o flynyddoedd ac iddo gael cynnig yr adeilad.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Roedd y pleidleisio fel a ganlyn:

 

      

 

     Gohirio’r cais:   Y Cynghorwyr John Chorlton, Clive McGregor.

 

      

 

     Gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Lewis Davies, John Penri Williams, Eurfryn Davies, Ken Hughes, O Glyn Jones, Arwel Roberts, Barrie Durkin, R L Owen,.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd bryd hynny.

 

      

 

7     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Nid oedd unrhyw geisiadau i’w penderfynu gan y Pwyllgor.

 

      

 

8    

 

8     CEISIADAU TAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Nid oedd unrhyw geisiadau i’w penderfynu gan y Pwyllgor.

 

9    

 

      

 

9     CEISIADAU’N TYNNU’N GROES

 

      

 

     Nid oedd unrhyw geisiadau i’w penderfynu gan y Pwyllgor.

 

      

 

10     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1     30C350M - CAIS LLAWN AR GYFER AIL LEOLI’R MAN PARCIO, CREU MYNEDFA NEWYDD, CODI 16 UNED GWYLIAU A GOSOD GWAITH TRIN DWR CARTHION PREIFAT AR DIR YN GWRS GOLFF STORWS WEN, BRYNTEG

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod cynllun wedi’i gyflwyno yn dangos safle ar draws y ffordd i’r datblygiad ond nad yw hwn bellach yn rhan o’r cais.  Mae’r safle arfaethedig yn awr ar ochr arall y ffordd.  Roedd yn argymell dileu amodau 6,7  ac 8 yn yr adroddiad gan roi yn eu lle yr amod oedd ar y dudalen ychwanegol oedd wedi’i rhoi allan i’r Aelodau.  Roedd am atgoffa’r Aelodau eu bod wedi delio gyda nifer o safleoedd gwyliau ac mai dyma’r amodau yr oedd y swyddogion yn awr yn eu ffafrio.

 

      

 

     Fel allai amod 9 gael ei dileu hefyd gan ddelio gyda’r mater trwy Gytundeb Adran 106.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams bod nifer o drigolion y pentref yn bryderus ynglyn â nifer a maint y datblygiad a gofynnodd am ymweliad safle.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Chorlton ymweliad safle ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

10.2     40C28G - CAIS i ADNEWYDDU CANIATÂD CYNLLUNIO RHIF 40C28D AM GANIATÂD AMLINELLOL AR GYFER CODI 4 TY TERAS GYDA MORDURDAI AR WAHÂN A CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER WHEEL AND ANCHOR, MOELFRE

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Eurfryn Davies y dylid cael ymweliad safle o gofio’r nifer o Aelodau newydd oedd ar y Pwyllgor Cynllunio ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

10.3     41C113B - CAIS AMLINELLOL i GODI ANNEDD AR DIR GYFERBYN Â REFAIL FAWR, STAR

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd John Penri Williams ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y Siambr.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eric Jones i’r cais hwn gael ei alw i mewn oherwydd gwrthwynebiadau cryf i’r datblygiad a gofynnodd am i’r aelodau ymweld â’r safle.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas y dylid ymweld â’r safle ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

10.4     39LPA589M/CC - CODI 3 ARWYDD i GYFEIRIO’R CYHOEDD I’R GANOLFAN CHWARAEON YN YSGOL DAVID HUGHES, PORTHAETHWY

 

      

 

     Datganodd y Cynghorwyr Eurfryn Davies a John Penri Williams ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y ddau Siambr.

 

      

 

     Trwy’r Cadeirydd, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod yr eitem hon wedi’i ychwanegu i’r Rhaglen fel eitem frys gan bod angen gwneud y gwaith cyn dechrau’r flwyddyn ysgol newydd fyddai’n dod cyn dyddiad y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Cynllunio.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu’r cais gyda’r amodau.

 

      

 

11     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio yng nghyswllt ceisiadau dirprwyedig y gwnaed penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

     Eitem 6 - 12C165A - ADEILADU WAL DERFYN YNGHYD Â LLUNIO MYNEDIAD NEWYDD i GERDDWYR YN 72 MAES HYFRYD, BIWMARES

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd R L Owen at ddamwain yn ddiweddar pan gafodd plentyn ei ladd trwy i wal derfyn ddisgyn arni ac roedd am wneud yn siwr y byddai’r wal hon pan gâi ei hadeiladu, yn berffaith ddiogel.  Roedd ganddo bryderon hefyd ynglyn â’r llwybr cerdded oedd yn gyfagos sy’n cael ei ddefnyddio gan blant ysgol.  

 

      

 

12     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, grynodeb o benderfyniad wnaed gan yr Arolygwr Cynllunio.

 

      

 

12.1     TIR YN PENDREF, LLANNERCH-Y-MEDD

 

      

 

     O dan adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel ei diwygiwyd gan Ddeddf Iawndal Cynllunio 1991, apêl yn gwrthod rhoddi caniatâd cynllunio amlinellol i godi annedd, creu mynedfa newydd a gosod tanc septig newydd trwy rybudd dyddiedig 17.9.07  - gwrthodwyd yr apêl 9.7.08.

 

      

 

13     MATERION ERAILL

 

      

 

13.1     46C448B/EIA - CAIS LLAWN i WNEUD GWAITH GWELLA AR YR ARFORDIR A DARPARU MAES PARCIO YN MAE TREARDDUR

 

      

 

     Cadarnhaodd y Cadeirydd bod yr eitem arbennig hon i’w gohirio hyd gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.30 p.m. a therfynwyd am 2.20 pm

 

      

 

     Y CYNGHORYDD THOMAS JONES

 

     CADEIRYDD