|
Mewn ateb, dywedodd
Cyfreithiwr y Swyddog Monitro bod y Cyfansoddiad yn cyfeirio at
Gadeirydd y Pwyllgor hwn yn unig ac nad oedd yn cyfeirio o gwbl at
yr Is-Gadeirydd. Roedd y Cynghorydd Everett yn dymuno iddo
gael ei nodi yn y cofnodion ei fod wedi bwriadu cynnig y Cynghorydd
Peter Rogers fel Is-Gadeirydd, ond nad oedd hyn bellach yn bosibl
oherwydd iddo gael ei symud oddi ar y Pwyllgor gan Arweinydd y
Cyngor, ac felly roedd am gynnig y Cynghorydd H Eifion Jones er
mwyn i’r cyfan fod yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.
Roedd hefyd am gwestiynu apwyntiad y Cynghorydd R Llewelyn
Jones fel Cadeirydd am y rheswm ei fod wedi’i ethol i eistedd
ar y Pwyllgor hwn gan yr Arweinydd, ac iddo hefyd gael ei ganfasio
gan y Cynghorydd Thomas Jones, y Deilydd Portffolio Cyllid newydd.
Lle roedd yr annibyniaeth yn y penderfyniad hwn? Roedd
o’r farn ei fod yn hollol anghredadwy, a byddai’n
codi’r mater gyda Swyddfa’r Archwiliwr
Cyffredinol.
|