Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio dogfennau , 7 Medi 2004

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dydd Mawrth, 7fed Medi, 2004

PWYLLGOR ARCHWILIO

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 Medi, 2004

 

yn breSENNOL:

Y Cynghorydd C.L.Everett (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Mrs Fflur Hughes, W.I.Hughes, A.M.Jones,

Thomas Jones, Bryan Owen, John Rowlands, E.Schofield

 

 

WRTH LAW:

Rheolwr Gyfarwyddwr

Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid)

Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol)

Swyddog Cysulltiadau Cyhoeddus (GJ)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Y Cynghorwyr P.J.Dunning, John Williams.

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

Y Cynghorydd G.W.Roberts (ar gyfer eitem 1), Y Cynghorydd P.M.Fowlie (ar gyfer eitem 6)

 

1

CADEIRYDD

 

Rhoddodd y Rheolwr Gyfarwyddwr wybod i aelodau'r Pwyllgor ei fod yn fwriad gan Arweinyddiaeth y Cyngor gynnal trafodaeth ar y priodoldeb o ddiddymu'r Pwyllgor Archwilio gyda golwg ar  gynnwys ei ddyletswyddau o fewn cylch gorchwyl y Prif Bwyllgor Sgriwtini.Nododd nad oedd yn ofynnol ar i awdurdodau lleol gynnwys pwyllgor archwilio o fewn eu strwythur pwyllgorau.Yng ngoleuni hynny felly, roedd yn debygol byddai'r sawl a benodir i'r Gadair yn gwasanaethu yn y swyddogaeth honno am y cyfarfod yma o'r Pwyllgor yn unig.

 

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd C.L.Everett yn Gadeirydd am y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor.

 

2

IS-GADEIRYDD

 

Penderfynwyd peidio ag ethol Is-Gadeirydd.

 

3

DATGAN DIDDORDEB

 

Cyflwynwyd datganiadau o ddiddordeb gan y canlynol mewn perthynas â'r materion a nodir:

 

Y Cynghorydd C.L.Everett ynglyn ag unrhyw fater allai godi yng nghyswllt cyflogaeth ei ferch fel Gofalwraig Cartref;

Y Cynghorydd A.M.Jones ynglyn ag  unrhyw fater allai godi yng nghyswllt cyflogaeth ei frawd fel athro ysgol;

Y Cynghorydd Thomas Jones ynglyn ag unrhyw fater allai godi yng nghyswllt cyflogaeth ei fab yn yr Adain Archwilio;

Y Cynghorydd E.Schofield ynglyn ag unrhyw fater allai godi yng nghyswllt cyflogaeth ei ferch yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

4

COFNODION

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2004. (Tudalen 57 yng Nghyfrol Gofnodion y Cyngor Sir ar gyfer 27 Mai, 2004).

 

 

 

5

ADRODDIAD BLYNYDDOL ARCHWILIO MEWNOL 2003/04

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad yn crynhoi gwaith yr Adain Archwilio Mewnol am y flwyddyn 2003/04.

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) ar brif bwyntiau'r adroddiad blynyddol fel a ganlyn:

 

 

 

5.1

Mae cymhariaeth rhwng y gwaith gwirioneddol a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn yn erbyn y gwaith a gynlluniwyd ar gyfer y cyfnod yn dangos gwahaniaeth o 128 o ddiwrnodau ac fe ellir priodoli'r diffyg hwn i absenoldebau staff  trwy salwch, gwyliau, ac hyfforddiant a hefyd i swyddi gwag.Fodd bynnag, er bod y gymhariaeth rhwng y gwaith gwirioneddol a'r gwaith cynlluniedig yn rhoi braslun o sut y treuliodd staff yr adain eu hamser yn ystod y flwyddyn, nid yw'n dangos faint o waith a wnaed o ran yr archwiliadau a gynhaliwyd.Yn wreiddol, rhaglennwyd 113 o archwiliadau ar gyfer 2003/04, ond yn ystod y flwyddyn bu'n rhaid diwygio'r cynllun archwilio er mwyn gwneud lwfans am nifer o ffactorau a gododd.Roedd y nifer diwygiedig o archwiliadau a gynlluniwyd yn 122 ac fe gwblhawyd 95 ohonynt erbyn 31 Mawrth, 2004.Cyhoeddwyd 21 o adroddiadau drafft yn sgîl archwiliadau a gynhaliwyd erbyn 31 Mawrth, 2004, ac roedd 16 archwiliad pellach wedi'u cychwyn erbyn diwedd y flwyddyn.

 

5.2

Er mai'r bwriad yw gwneud y gwaith mewn blynyddoedd penodol yn y cynlluniau strategol, mae gwaith unigol yn cael ei gario ymlaen o'r un flwyddyn i'r nesaf yn arbennig felly y gwaith archwilio mwyaf, neu waith archwilio sydd yn dechrau yn agos at ddiwedd y flwyddyn ariannol.Mae hyn yn cyfrif am y 21 o archwiliadau sy'n ymwneud â chynllun y flwyddyn gynt a ddygwyd ymlaen i 2003/04 ynghyd â'r 37 o archwiliadau fydd yn cael eu cwblhau yn ystod 2004/05.

 

5.3

Roedd angen 205 o ddyddiau yn 2003/04 i gwblhau'r gwaith archwilio a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn gynt ac amcangyfrifir bydd angen 200 o ddyddiau i gwblhau'r archwiliadau sy'n parhau i ddisgwyl sylw yn 2004/05.

 

5.4

Diwygiwyd y cynllun archwilio yn ystod y flwyddyn a chyfunwyd 6 darn o waith archwilio gydag archwiliadau eraill oedd eisoes yn cael eu gwneud.Ni chychwynnwyd ar 13 darn o waith archwilio ac mae'r gwaith hwn yn gyfrifol am 200 diwrnod o'r gwaith archwilio cynlluniedig.Ni wnaethpwyd y gwaith oherwydd bod llai o ddyddiau archwilio ar gael (128) a hefyd oherwydd bod gwaith archwilio arall wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl dan y cynllun.

 

5.5

Cadwyd y llithriad mewn cof wrth lunio cynllun strategol 2004-2008 ac o'r herwydd, bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod oes y cynllun hwn yn unol â'r asesiad risg.

 

5.6

Cyhoeddwyd cyfanswm o 48 o adroddiadau archwilio ffurfiol yn ystod 2003/04 yn cynnwys  326 o argymhellion, ac o'r rhain fe gafodd 325 eu derbyn.

 

5.7

Mae'r Pwyllgor Archwilio wedi cymeradwyo set o ddangosyddion perfformiad newydd lleol gogyfer mesur perfformiad yr Adain ac fe ddangosir perfformiad yr Adain yn erbyn y dangosyddion pendol hyn yn yr adroddiad blynyddol uchod.Dengys yr ystadegau  bod costau'r Adain Archwilio Mewnol yn cael eu rheoli'n dda ac maent yn dangos hefyd bod ansawdd y gwaith yn uwch na'r targed a bennwyd.Mae'r pryder mwyaf ynghylch nifer y darnau o waith archwilio na chawsant eu cwblhau tu mewn i'r amser cynlluniedig a rhaid nodi nad yr amser cyllidebol yw'r unig ffactor i'w ystyried a bod angen sicrhau bod y gwaith archwilio yn cynnwys adolygiadau llawn ar y meysydd risg.Fodd bynnag, mae hwn yn faes lle gellid gwella'r perfformiad a byddir yn adolygu'r broses o gynllunio a sgopio gwaith cynllunio er mwyn gwella perfformiad yng nghyswllt yr elfen hon o'r gwaith.

 

5.8

Mae yna 4 canlyniad o bwys i'r argymhellion a wnaed yn yr archwiliadau a gynhaliwyd sef:

 

 

 

5.8.1

gwella mesurau rheoli mewnol ac o'r herwydd, gostwng y perygl o gamgymeriadau neu dwyll;

 

5.8.2

gwella trefniadau gweithio ac effeithlonrwydd;

 

5.8.3

gwell trefniadau casglu incwm gan sicrhau bod cyfran fwy o'r incwm sy’n ddyledus i'r Cyngor yn cael ei gasglu;

 

5.8.4

cywiro camgymeriadau a ganfuwyd yn ystod y gwaith archwilio ac adennill arian yn sgîl archwiliadau o dwyll.O ganlyniad i waith archwilio a wnaed yn ystod 2003/04, canfuwyd cyfanswm net o £44,023.68 ac fe lwyddwyd i adennill £12,535.80 o'r swm hwnnw.

 

 

 

5.9

Mae pob gwaith archwilio wedi'i raddio o A i E i nodi safon y rheolaeth fewnol lle mae A yn dynodi na chafwyd gwendid yn y rheolau mewnol wrth brofi samplau, ac E yn dynodi fod y system o reolau mewnol yn gwbl annigonol ac yn creu risg uchel o gamgymeriadau neu dwyll i'r Awdurdod.O'r 48 o adroddiadau archwilio ffurfiol a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn, cafodd 4 raddfa A; 23 graddfa B; 14 graddfa C; 2 graddfa D, a 2 graddfa E.B/C yw'r raddfa gyffredinol yn seiliedig ar yr holl waith a wnaed yn ystod y flwyddyn, sydd yn cynrychioli risg bychan i'r Awdurdod.Yn seiliedig ar sgôp y gwaith a wnaed, a chyda'r amod bod rheolwyr yn gweithredu ar yr argymhellion a'r sustemau yn parhau i weithio fel y maent ar hyn o bryd, ni welodd yr Archwiliwr unrhyw wendidau yn y trefniadau rheoli a fyddai'n rhwystro'r Cyngor rhag dibynnu, o fewn rheswm, ar y systemau rheoli mewnol yng nghyswllt y systemau hynny a adolygwyd yn ystod y flwyddyn.Dylid nodi mai dim ond sicrwydd o fewn rheswm yn hytrach na sicrwydd pendant y gall unrhyw system reoli fewnol ei rhoi yn erbyn colled sylweddol neu ffeithiau a gofnodwyd yn anghywir.

 

5.10

Yr unig bryder yn codi o'r gwaith archwilio a wnaed yn ystod y flwyddyn oedd cydymffurfiad y Cyngor gyda'r Ddeddf Diogelu Data.Mae'r Rheolwyr wedi ymateb i'r argymhellion a wnaed yn y gwaith archwilio a bellach mae camau wedi cael eu cymryd i wella cydymffurfiad y Cyngor gyda'r Ddeddf.

 

 

 

Yn y drafodaeth ddilynol, codwyd y prif bwyntiau a ganlyn ar y wybodaeth a gyflwynwyd:

 

 

 

5.11

Cyfeiriwyd at y gwahaniaeth o 128 rhwng y dyddiau gwaith a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn a'r dyddiau gwaith gwirioneddol, a nodwyd ei fod yn wahaniaeth o sylwedd.Holwyd ynglyn â'r rhesymau dros y gwahaniaeth a gofynnwyd a oedd yn deillio o fethiant adrannau i ymateb i adroddiadau archwilio mewn pryd neu a oedd yn fater o fethu cwblhau'r gwaith.Gofynnwyd hefyd a oedd llithriad o'r fath yn effeithio ar  raglen y flwyddyn ddilynol a pha mor realistig oedd y rhaglen o'r herwydd.

 

 

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) bod gwaith sydd yn cael ei ddechrau tua diwedd y flwyddyn ariannol yn anorfod yn cael ei ddwyn ymlaen i'r flwyddyn ddilynol. Hefyd rhoddir cyfnod i'r adrannau unigol ynateb i adroddiadau archwilio a bydd hyn weithiau yn arwain at gyhoeddi ail-ddrafft a chytuno ar hwnnw wedyn.Pan lunir y cynllun archwilio am y flwyddyn ddilynol oddeutu ddiwedd y flwyddyn galendar, nid oes modd rhagweld gyda sicrwydd faint o lithro fydd yn digwydd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.Gwneid darpariaeth yn y cynllun ar gyfer unrhyw waith arbennig ar sail patrwm hanesyddol ond nid oes modd rhagddweud yn fanwl beth all godi yn ystod y flwyddyn.

 

 

 

5.12

Nodwyd bod nifer o ddyddiau wedi'u colli oherwydd absenoldebau staff a nodwyd hefyd bod swyddi gweigion wedi bod yn ffactor yn y nifer o ddyddiau a gollwyd.

 

 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) bod un aelod o staff wedi ymadael yn ystod y flwyddyn a nododd bod amser ar gyfer penodi staff wedi'i adeiladu i mewn i'r cynllun.Mae cyllideb yr Adain yn £200k y flwyddyn a chan fod gwerth 90% o hwnnw yn cael ei wario ar gyflogau, mae colli aelod o staff yn dangos fel canran fawr o'r gyllideb.

 

 

 

Gwnaeth yr aelodau sylw cyffredinol fod trosiad staff o fewn y Cyngor yn ymddangos yn uchel a nodwyd y byddai'n ddefnyddiol edrych ar y mater hwn mewn manylder.Awgrymwyd bod mwy o sylw yn cael ei roi i gyfweliadau ymadael staff a gofynnwyd am gadarnhad fod y cyfryw gyfweliadau yn cael au cynnal pan mae staff yn ymadael â'r Cyngor.

 

 

 

Nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr y byddai'n edrych i mewn i’w mater uchod, ac yn adrodd yn ôl i aelodau.

 

 

 

5.13

Tra'n croesawu'r adroddiad fel un oedd yn rhoi darlun cynhwysfawr o'r sefyllfa, awgrymwyd fod mwy o sylw yn cael ei roi i wendidau sydd yn cael eu hamlygu yn sgîl archwiliadau, a nodwyd mai trwy ganolbwyntio ar ddiffygion y byddir yn eu gwella.

 

 

 

Dygodd y Pennaeth Gwasanaeth sylw'r aelodau at y ffaith bod adroddiad archwiliad ar unrhyw wasanaeth sy'n cael ei ddynodi gyda Graddfa E yn cael ei gyflwyno'n llawn i'r Pwyllgor Archwilio er mwyn rhoi cyfle i'r Pwyllgor weld yn fanwl y gwendidau a adnabyddwyd yn y gwasanaeth hwnnw, a’r camau a argymhellir er mwyn eu gwella.

 

5.14

Cyfeiriwyd at lithriad gwaith o un flwyddyn i'r llall a nodwyd bod diffyg ymateb gan adrannau i adroddiadau archwilio yn ffactor yn hyn o beth.Nodwyd fod angen grymuso rôl yr Archwiliwr Mewnol i'w alluogi i sicrhau fod ymateb yn cael ei dderbyn o fewn terfynau amser cytunedig a thrwy hynny cynorthwyo'r Adain i gwblhau ei gwaith o fewn y flwyddyn ariannol.

 

 

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) bod protocol ar y broses archwilio mewnol wedi cael ei gytuno a bod gwaith ar hwnnw yn parhau.Dygodd dylw at y ffaith fod nifer o ystyriaethau ynghlwm wrth y drefn archwilio mewnol, ac er fod yna amgylchiadau weithiau lle nad yw'r Adain wedi cyhoeddi adroddiad archwiliad ffurfiol, nid yw'n golygu nad oes gwaith yn parhau i gael ei wneud mewn perthynas â'r archwiliad hwnnw.

 

 

 

5.15

Mewn ymateb i gwestiynau ynglyn â chydymffurfiad y Cyngor gyda'r  Ddeddf Diogelu Data, cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) fod y sefyllfa wedi gwella yn sylweddol ers cynnal yr archwiliad ar y maes hwn a bod gwaith wedi cael ei i wneud i godi ymwybyddiaeth staff ynglyn â gofynion y Ddeddf a sut i'w gweithredu yn ymarferol.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol am 2003/04 a nodi ei gynnwys.

 

 

 

6

ADRODDIAD GWAITH AR ARCHWILIO MEWNOL

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Menwol) yn amlinellu gwaith yr Adain yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill, 2004 hyd at 27 Awst, 2004.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) at brif ystyriaethau'r adroddiad fel a ganlyn:

 

      

 

6.1

Mae cymhariaeth rhwng y dyddiau a gynlluniwyd i bob categori o waith gyda'r dyddiau gwirioneddol a gofnodwyd yn erbyn pob categori dros gyfnod yr adroddiad yn dangos bod 752 o ddyddiau gwirioneddol wedi'u cofnodi yn erbyn 747 o ddyddiau a gynlluniwyd sy'n dangos gwahaniaeth bychan iawn am y cyfnod.Nodir fod pob swydd wedi'i llenwi o fewn yr Adain erbyn hyn.

 

6.2

Cwblhawyd gwaith ar 13 archwiliad yn ystod y cyfnod o 1 Mawrth, 2004 hyd at 27 Awst, 2004, ac fe gyhoeddwyd adroddiad terfynol ym mhob achos.Roedd gwaith ar 14 archwiliad pellach yn mynd trwy'r cyfnod drafft a gwaith wedi'i ddechrau ar 25 archwiliad arall.O ran yr archwiliadau y cwblhawyd adroddiadau terfynol ar eu cyfer, gwelwyd gwelliant yn y raddfa a ddynodwyd i'r archwiliad o'r gwaith archwilio cynt yn achos 8 ohonynt; ni fu newid yn y raddfa o'r archwiliad cynt yn achos 3; cafwyd gostyngiad yn y raddfa yn achos 1 ac yn achos 1 arall nid oedd modd cymharu gan na ddyfarnwyd graddfa i'r gwaith archwilio neu hwn oedd yr archwiliad cyntaf o'r maes.O'r 13 adroddiad archwiliad a gyhoeddwyd, dyfarnwyd Graddfa A yn achos 3 ohonynt, Graddfa B yn achos 6; Graddfa C yn achos 3 a Graddfa D yn achos 1.

 

6.3

Yn ychwanegol at y gwaith hwn, derbyniwyd 26 o gontractau cyfalaf yn yr Adain Archwilio rhwng 1 Mawrth, 2004 a 27 Awst, 2004.Cwblhawyd y gwaith archwilio ar 18 o'r contractau hyn ac mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar y gweddill.

 

6.4

Yn ystod y flwyddyn mae'r Adain Archwilio Mewnol yn gorfod gwneud gwaith ar faterion sy'n dod i'r amlwg yn ystod gwaith archwilio cynlluniedig neu oherwydd materion a ddygir i sylw'r Adain gan adrannau eraill neu yn sgîl gwybodaeth y gofynnir amdani gan yr Archwiliwr allanol.Gwnaed y gwaith canlynol yn ystod y cyfnod -

 

      

 

6.4.1

Cynhaliwyd ymchwiliad i pam fod ysgol gynradd wedi methu â bancio incwm prydau ysgol.Ni chafwyd digon o dystiolaeth i warantu trosglwyddo'r mater i sylw'r Heddlu ond dechreuwyd cymryd camau disgyblu yn erbyn y swyddog perthnasol ac mae'r arian oedd yn ddyledus i'r Cyngor wedi'i dalu'n ôl;

 

6.4.2     Derbyniwyd dwy gwyn ar wahân yn honni bod dau ymgeisydd am grant Adnewyddu Tai wedi methu â datgan eu holl incwn a chyfalaf adeg cyflwyno cais, ac o'r herwydd rhoddwyd iddynt grant uwch na beth oedd yn ddyledus petaent wedi datgan yr holl incwm a'r holl gyfalaf.Mae'r gwaith ymchwil yn parhau i fynd yn ei flaen yn yr achosion hyn a byddir yn adrodd yn ôl i bwyllgor yn ei gylch.

 

6.4.3     Oherwydd camgymeriad gweinyddol canfuwyd y galli'r Cyngor fod wedi gor-dalu 5 gweithiwr - rhai presennol a rhai oedd yn gweithio cynt.Mae gwaith yn mynd yn ei flaen yng nghyswllt yr achosion hyn ac maent yn cael eu hasesu yn unol â gofynion Rheolau Gweithdrefn Gyllidol y Cyngor; os ceir tystiolaeth gychwynnol bod trosedd wedi cael ei chyflawni byddir yn dwyn y mater i sylw'r Heddlu.

 

      

 

     Cafwyd trafodaeth ar y mater hwn.

 

      

 

6.4.4     Cychwynnwyd ar ymholiadau i anghysonderau cyllidol yn un o ysgolion cynradd y Cyngor ac fe ddygwyd y mater i sylw'r Heddlu.Mae'r Heddlu yn y broses o gynnal rhagor o ymholiadau ynghylch yr achos.

 

      

 

6.5     Mae'r Adain Archwilio Mewnol yn rhoi cyngor ynglyn a sustemau, rheolaethau mewnol a rheolau ar gais adrannau eraill, ac mae'r gwaith hwn yn cyfateb i gyngor ar reolaethau, cyngor ar y rheolau sefydlog i gontractau ac ar drefniadau tendro ac ar y rheolau mewnol sy'n angenrheidiol i sustemau newydd neu yn ymwneud â thrafodaeth i newid sustemau.Nodir isod y meysydd hynny y rhoddwyd sylw iddynt yn ystod y cyfnod:

 

      

 

     Gwerthuso'n ariannol dendrwyr ar gyfer contractau;

 

     Cynorthwyo'r Adran Dai a Gwasanaethau Cymdeithasol ar newid ei sustemau gweinyddol o ganlyniad i benderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau i gyflwyno trefniadau talu pensiynau yn uniongyrchol i gyfrifon banc;

 

     Cynorthwyo'r Adran Gyllid gyda llunio gofynion rheolaeth fewnol yng nghyswllt sustemau cyllidol newydd;

 

     Rhoi cyngor cyffredinol ar nifer o faterion i'r Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol, ysgolion, a'r Adran Addysg a Hamdden.

 

      

 

6.6     Gwnaed gwaith dilyn i fyny ar 15 o adroddiadau archwilio a gyhoeddwyd rhwng 1 Medi, 2003 a 28 Chwefror, 2004 ac fe fanylir ar y rhain yn yr adroddiad.Gellir adrodd erbyn hyn y derbyniwyd ymateb boddhaol gan yr Adran Gyllid yng nghyswllt yr archwiliadau ar gyfrifon imprest a thalu credydwyr; gan yr Adran Addysg a Hamdden yng nghyswllt yr archwiliadau ar gyfrifon clybiau ieuenctid, Llyfrgell Llangefni a chasglu incwm safleoedd Hamdden a Threftadaeth a chan yr Adran Gynllunio yng nghyswllt yr archwiliad ar incwm ffioedd dan y Rheoliadau Adeiladu

 

6.7     Yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 29 Mai, 2003, cyflwynwyd adroddiad ar yr archwiliad a wnaed yng nghyswllt cynllun oriau ystwyth y Cyngor.Gan fod nifer o wendidau wedi’u nodi yn y gwaith archwilio a’r aelodau hefyd wedi mynegi pryderon oherwydd safon dulliau rheoli yn y maes hwn, paratowyd adroddiad archwilio dilynol a llawn ac fe gynhwysir crynodeb o gasgliadau’r gwaith archwilio hwnnw fel atodiad i’r adroddiad.

 

      

 

     Yn y fan hyn bu i’r Pwyllgor ystyried a phenderfynu o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 1972 i gau allan y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod er mwyn ystyried yr achos yng nghymal 6.4.4. uchod ac oherwydd y tebygrwydd y gellir wrth ei ystyried ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel ag a amlinellir ym Mharagraff 14 o Atodlen 12A i’r  Ddeddf honno.Yn dilyn trafodaeth o'r sefyllfa, cytunwyd y dylid aros hyd nes fod ymchwiliadau’r Heddlu wedi’u cwblhau cyn rhoi rhoi sylw pellach i’r mater.

 

      

 

     Bu i’r Pwyllgor hefyd godi’r pwyntiau canlynol ar yr adroddiad gwaith:

 

      

 

6.8     Cyfeiriwyd at y gwaith yr oedd yr Adain Archwilio yn ei wneud i’r Adran Gyllid a mynegwyd anesmwythdod fod perthynas waith o’r fath yn parhau i fodoli rhwng yr Adain Archwilio a’r Adran Gyllid.Pwysleisiwyd ei fod yn bwysig fod yr Adain Archwilio yn cadw ei hannibynniaeth oddi wrth adrannau eraill ac yn gweithredu fel uned hyd braich oddi mewn i’r Cyngor.

 

      

 

     Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) mai’r unig gymorth a roddai’r Adain Archwilio i’r Adran Gyllid oedd trwy gynnig cyngor ar effeithiolrwydd rheolau mewnol i Grwp sy’n goruchwylio cyflwyno sustemau newydd o fewn y Cyngor.Yr unig waith arall a wna’r Adain Archwilio ar ran yr Adran Gyllid yw cadw sieciau mewn perthynas â thaliadau a gwaith yng nghyswllt arwyddeiriau BACS.Nid yw’r Archwiliwr Allanol wedi gwneud unrhyw sylw ynghylch hyn yn yr arolwg blynyddol mae’n ei gynnal o’r Adain.

 

      

 

     Nododd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) mai'r unig gymorth mae'r Adain Archwilio yn ei roi i’r Adran Gyllid yw cyngor ar sustemau ariannol.

 

      

 

6.9     Cyfeiriwyd at yr archwiliad dilynol a gynhaliwyd o gyfundrefn oriau ystwyth y Cyngor a nodwyd yn ôl yr adroddiad nad oedd sustem gyfrifiadurol oriau ystwyth wedi ei sefydlu yn yr Adran Addysg er fod yna ymrwymiad yn y Cynllun Gweithredu ôl-archwiliad i gyflwyno’r cyfryw system erbyn mis Ebrill, 2003.Mynegwyd anfodlonrwydd ynglyn â’r diffyg hwn a phwysleisiwyd bod angen cyflwyno’r system yn ddi-oed.

 

      

 

     Nododd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) ei fod wedi cael ar ddeall fod sustem gyfrifiadurol i gofnodi oriau ystywth wedi cael ei gosod yn yr Adran Addysg yn ddiweddar ers llunio’r adroddiad uchod.

 

      

 

     Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad ffurfiol bod hyn wedi digwydd.

 

      

 

6.10     Gofynnwyd ynghylch adroddiadau archwilio mewn perthynas ag ysgolion a oedd yr ysgol yn derbyn copi o’r adroddiad archwilio.

 

      

 

     Esboniodd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) y drefn mewn perthynas â chylchrediad adroddiadau archwilio yng nghyswllt ysgolion a chadarnhaodd fod yr adroddiad drafft yn cael ei anfon at Bennaeth yr ysgol am ei sylwadau.Anfonir dau gopi o’r adroddiad terfynol at Bennaeth yr ysgol gydag un copi wedi’i glustnodi ar gyfer Cadeirydd y Llywodraethwyr a chyda cais fod yr adroddiad yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf Bwrdd y Llywodraethwyr.Gofynnir am gadarnhad gan Glerc Bwrdd y Llywodraethwyr fod hynny wedi digwydd.

 

      

 

     Awgrymodd aelodau’r Pwyllgor fod copi o’r adroddiad archwilio yn cael ei anfon yn uniongyrchol at Gadeirydd y Llywodraethwyr yn hytrach na thrwy’r Pennaeth ysgol.

 

      

 

     Nododd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) y byddai’n trafod priodoldeb hynny gyda’r Adran Addysg.

 

      

 

     Penderfynwyd -

 

6.1

Derbyn yr adroddiad ar waith yr Adain Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill, 2004 hyd at 27 Awst, 2004, a nodi ei gynnwys.

 

6.11     Gofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) gyflwyno cadarnhad ffurfiol i’r Prif Bwyllgor Sgriwtini fod sustem cofnodi oriau ystwyth bellach wedi’i chyflwyno yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

6.12     Argymell fod copi o adroddiad archwiliad yng nghyswllt ysgolion yn cael ei anfon yn uniongyrchol at Gadeirydd y Corff Llywodraethu ym mhob achos.

 

      

 

                                          Cynghorydd C.L.Everett

 

                    Cadeirydd