|
|
|
|
Nododd Mr. Ian Howse, PWC bod yr
adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Archwilio Cymru yn paratoi
cyd-destun defnyddiol i faterion rheoli asedau ar draws Cymru a
buasai o fudd i'r aelodau ei weld.
|
|
|
|
Cytunwyd i gynnwys Adroddiad Comisiwn
Archwilio Cymru - Crynodeb Rheoli Asedau 2005 ar agenda cyfarfod
nesaf y Pwyllgor Archwilio.
|
|
|
|
|
|
Wedyn cyfeiriodd yr Aelodau at arafwch
yr Awdurdod yn symud ymlaen gyda rheoli asedau gan grybwyll natur
elfennol y Cynllun Rheoli Asedau fel y cafodd hwnnw ei nodi yn yr
Adroddiad Arolwg, ac oherwydd y disgwyliad datganedig yn yr
adroddiad y câi y rhan fwyaf o'r elfennau sydd heb eu datrys
yng nghyswllt y Cynllun Rheolau Asedau eu cwblhau erbyn 2005,
cynigiwyd bod y Pwyllgor Archwilio yn gofyn am gwblhau'r Cynllun
Rheoli Asedau yn ystod y tri i chwe mis nesaf a hynny ar ôl
rhoddi sylw i'r holl faterion a godwyd yn yr Adroddiad Arolwg a
gweithredu ar y cyfryw faterion.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo)
bod oedi wedi digwydd oherwydd anawsterau a wynebwyd
wrth0 gwblhau'r arolwg ar gyflwr adeiladau ond nid Ynys
Môn oedd yr unig Awdurdod i fethu â chwblhau erbyn y
dyddiadau cau dynodedig yng nghyswllt cwblhau'r Cynlluniau Rheoli
Asedau. Roedd disgwyl y buasai'r rhaglen gyfredol gerbron yn
caniatáu 0cyfle
i gwblhau'r Cynllun Rheoli Asedau a'i gyflwyno
hefyd erbyn Medi, 2005.
|
|
|
|
|
|
Ar ôl y drafodaeth ar yr
adroddiad uchod a gyflwynwyd ar gais penodol y Pwyllgor Archwilio,
gwnaed pwynt cyffredinol ynghylch a oedd adroddiadau arolwg o'r
fath, ac adroddiadau eraill yn seiliedig ar waith archwilio, ar
gael i aelodau etholedig, ac roedd hi'n ymddangos bod rhai
adroddiadau yn cael eu rhannu a'u dosbarthu ymhlith swyddogion a
rhai eraill i aelodau'r Pwyllgor Gwaith yn unig. Gofynnwyd am
sicrwydd gan yr archwiliwr allanol y câi y cyfan o
adroddiadau y PWC, ac yn wir hefyd bob adroddiad archwilio, beth
bynnag oedd ei darddiad, eu gwneud ar gael i holl aelodau'r Cyngor
er mwyn bod o gymorth iddynt gyflawni eu swyddogaethau fel
Cynghorwyr. Wedyn mynegwyd bod rhai diffygion y tu mewn i
drefniadau rheoli corfforaethol yr Awdurdod yng nghyswllt rhannu
gwybodaeth, a bod raid rhoddi sylw i'r mater er mwyn y broses
ddemocrataidd.
|
|
|
|
|
|
Mewn ymateb dywedodd Mr. Ian Howse, PWC
bod yr adroddiadau sy'n cael eu paratoi fel rhan o'r Cynllun
Archwilio yn cael eu cyflwyno i'r Rheolwr-gyfarwyddwr a hefyd i
swyddogion perthnasol y Cyngor; mater i'r Awdurdod ei hun yw
penderfynu sut i ddelio â'r cyfryw bwnc wedyn. Roedd
gan y Cyngor drefniadau penodol i ddelio gyda materion gwahanol -
roedd adroddiadau'r PWC yn cael eu trosglwyddo i'r fforwm/corff
gwneud penderfyniadau priodol y tu mewn i'r Cyngor trwy'r
Rheolwr-gyfarwyddwr a hon yw'r arfer yr 0oedd PWC yn ei dilyn
hefyd gydag Awdurdodau eraill y mae'n archwiliwr allanol iddynt.
|
|
|
|
|
|
Yn ei ymateb dywedodd y Cynghorydd E.
Schofield na allai gytuno gyda'r safbwynt hwn ac y dylai'r holl
adroddiadau sy'n seiliedig ar archwilio fod ar gael i holl
aelodau'r Cyngor, gan fod y Cyngor fel corff yn cyflogi'r
Archwiliwr Allanol ac yn talu iddo am ei adroddiadau.
|
|
|
|
|
|
Y farn gyffredinol ymhlith aelodau'r
Pwyllgor oedd y dylai adroddiadau archwilio fod ar gael i holl
aelodau'r Cyngor yng nghyd-destun y broses gwneud penderfyniadau
onid oedd rheswm cyfreithiol penodol yn gwahardd rhyddhau'r
wybodaeth.
|
|
|
|
|
|
Ar ôl trafodaeth,
penderfynwyd -
|
|
|
|
|
2
|
Derbyn yr Adroddiad Arolwg Rheoli Asedau Gorffennaf
2004 a nodi cynnwys y cyfryw adroddiad.
|
|
|
2
|
Dwyn i sylw'r Pwyllgor Gwaith a'r Adain Eiddo
ddisgwyliad a gofynion y Pwyllgor Archwilio bod y Cynllun Rheoli
Asedau yn cael ei gwblhau a'i gymeradwyo erbyn Medi 2005 a hynny ar
ôl rhoddi sylw i'r holl faterion a godwyd yn yr Adroddiad
Arolwg 2004.
|
|
|
2
|
Cyflwyno adroddiad y Comisiwn Archwilio yn crynhoi
Rheoli Asedau Cymru 2005 i gyfarfod nesaf y Pwyllgor
Archwilio.
|
|
|
2
|
Bod yr holl adroddiadau archwilio, beth bynnag fo
ffynhonnell y rheini, ar gael i bob aelod o'r Cyngor Sir onid oedd
rheswm cyfreithiol penodol yn gwahardd rhyddhau'r
wybodaeth.
|
|
|
2
|
Yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor hwn yn ei
gyfarfod blaenorol cyflwynwyd adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf
yng nghyswllt datblygiadau wrth symud ymlaen gyda hawliad grant y
Dreth Gyngor a'r Budd-daliadau Tai am 2003/04 ynghyd â
Hawliad Grant Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai 2003/04.
|
|
|
|
Cyflwynodd y Deilydd Portffolio Cyllid
a Thechnoleg Gwybodaeth adroddiad llafar ar y sefyllfa ddiweddaraf
fel a ganlyn:-
|
|
|
|
|
|
Ÿ Roedd
Llythyr Archwilio Blynyddol yr Archwiliwr Allanol yn cyfeirio at
oedi wrth gyflwyno'r hawliadau uchod i'w harchwilio. Roedd yr
hawliadau cymhorthdal i fod i'w cyflwyno yng Ngorffennaf gyda'r
hawliad terfynol wedi ei archwilio i'w gyflwyno cyn diwedd Hydref.
Y sefyllfa bresennol yw fod y ddwy ffurflen gais dal heb eu
cyflwyno ond fod trefniadau wedi eu gwneud gyda'r cwmni meddalwedd
i roi cefnogaeth ar eu cwblhau. Cyfanswm yr hawliadau yw
£15m. Mae'r prif faterion sy'n creu trafferth ynglyn
â Chymhorthdal Budd-dal Tai, ond hyd at 2003/04 roedd y cais
Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai yn cynnwys budd-dal tai ar dai
cyngor ac mae'r oedi yn effeithio'r cais hwnnw hefyd.
|
|
|
|
Ÿ Nid
yw'r methiannau ag a welwyd yn niwedd y 1990au yw hyn.
Digwyddodd yr oedi oherwydd problemau wrth gyflwyno modiwl
meddalwedd i greu'r hawliad cymhorthdal, wedi eu wneud yn waeth gan
absenoldebau staff. Roedd y modiwl wedi ei archebu gan Grwp
Defnyddiwr Northgate oherwydd problemau blaenorol : yn anffodus
cafodd y cwmni drafferthion garw wrth ei gyflwyno, gan arwain at
oedi ac at "qualification" ar yr hawliadau cynharaf".
Penderfyniad bwriadol oedd peidio â chwblhau yn
ôl yr hen ond i ddisgwyl nes bod y meddalwedd newydd yn
gweithio yn iawn.
|
|
|
|
Ÿ Mae'r
Adran Waith a Phensiynau (DWP) wedi cael gwybod am y gwahanol
broblemau ac o ganlyniad wedi caniatáu dau estyniad hyd at
Ragfyr 2004 ar y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno hawliad terfynol
2003/04. Caniatawyd yr estyniadau gan fod y problemau wedi eu
creu gan ffactorau allanol a oedd y tu allan i'n
rheolaeth.
|
|
|
|
Ÿ Mae
swyddogion yn hyderus y bydd modd hawlio cymhorthdal ar y
graddfeydd disgwyliedig pan fydd y meddalwedd wedi ei gyflwyno yn
iawn. Dyna yw'r sail a ddefnyddiwyd wrth gau cyfrifon y
Cyngor am 2003/04 ac mae'r rhain wedi eu harchwilio. Roedd y
problemau blaenorol (ar ôl-ddyddio, cyfeiriadau i'r Swyddog
Rhent a "benefit period overruns") wedi eu dileu, bron yn gyfan
gwbl ers 2000. Cafwyd cadarnhad i hyn trwy archwilio hawliad
2001/02 a'r gwaith ar hawliad 2002/03 sydd gyda PWC.
|
|
|
|
Ÿ Dylid
nodi mai prin yw'r Awdurdodau hynny sydd wedi cyflwyno'u cais cyn y
dyddiad cau. Mae swyddogion yn deall gan gydweithwyr ar draws
Gogledd Cymru na gydymffurfiwyd a'r dyddiad cau o fis Hydref gan eu
harchwilwyr er bod y rhan fwyaf wedi eu dychwelyd bellach.
Fel hyn mae'r drefn yn gweithio : gwneir taliadau ar gyfrif
yn fisol trwy'r flwyddyn. Os methir y dyddiad cau, mae DWP yn
dal cyfran o hawliad y flwyddyn gyfredol yn ôl fel modd o
gymell cyflwyno'r cais. Ers Rhagfyr, bu DWP yn dal
cymhorthdal yn ôl: o Ionawr i ddiwedd Mawrth cafodd cyfanswm
£0.5m ei ddal yn ôl allan o £1.25m y mis.
Bydd symiau yn cael eu dal yn ôl hyd nes y bydd DWP yn
derbyn hawliad wedi ei archwilio - pan bydd y symiau a gedwir yn
ôl yn cael eu talu i ni.
|
|
|
|
Ÿ Enwebwyd aelodau staff yr adeiniau budd-dal a chyfrifeg i
reoli gweddill y gwaith. Mae'r cwmni meddalwedd wedi cytuno i
roi rhagor o hyfforddiant a chefnogaeth technegol. Ers
cwblhau bilio'r dreth gyngor a'r trethi busnes, a chwblhau diwedd
blwyddyn budd-dal, mae swyddogion yn medru rhoi blaenoriaeth i'r
gwaith yma.
|
|
|
|
|
Yn gyffredinol roedd yr aelodau'n anfodlon
gyda'r sefyllfa ac roedd ganddynt gwestiynau ynghylch beth oedd
effaith gweithred yr Adran Waith a Pensiynau yn cadw £0.5m
o'r cymhorthdal budd-daliadau ar gyllideb y Cyngor a hefyd roedd
cwestiynau ynghylch pwy oedd yn gyfrifol am yr oedi cyn cyflwyno'r
hawliadau grant.
|
|
|
|
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)
wrth yr aelodau bod y swm £0.5m sy'n cael ei ddal gan yr
Adran Waith a Phensiynau yn cael effaith ar lif arian y Cyngor yn y
tymor byr oherwydd colli llog, ond bod sylw wedi'i roddi i hyn yng
nghyllideb 2005/06. Oherwydd cymhlethdod y mater roedd hi'n
anodd iawn beio unrhyw ffynhonnell benodol; yng nghyswllt
cyflwyno'r hawliad budd-daliadau canfuwyd nad oedd y meddalwedd yn
gweithio'n dda iawn yng nghyswllt cyflwyno hawliadau am archwilio,
a sylweddolodd y Northgate User Group (ac yn cynnwys awdurdodau
eraill sy'n defnyddio meddalwedd Northgate) bod raid comisiynu
meddalwedd newydd a gofynnwyd i'r Adran Waith a Phensiynau am
gymorth ariannol i wella'r cyfryw feddalwedd. Fodd bynnag,
nid oedd cyflwyno meddalwedd newydd wedi gwella y sefyllfa'n fawr.
Felly, nid unigolyn, nac adain oedd yn gyfrifol am y
diffygion gan fod yr Awdurdod, yr Adran Waith a Phensiynau a
Northgate i gyd yn rhan o'r dasg. Hefyd roedd angen
pwysleisio nad oedd a wnelo'r problemau hyn ddim byd â'r
problemau a gafwyd wrth brosesu hawliadau y tu mewn i'r Awdurdod
hwn rai blynyddoedd yn ôl. Roedd yr Arolygfa Twyll
Budd-daliadau yn ddiweddar wedi diweddaru'r asesiad risg yn y maes
hwn ac wedi canfod bod perfformiad yr Awdurdod wedi gwella.
Ar hyn o bryd yr unig waith i'w wneud oedd cwblhau'r hawliad
cymhorthdal grant. Hefyd roedd hi'n briodol nodi bod staff yr
adain fudd-daliadau tai yn ddiweddar wedi bod yn gweithio ar
gyflwyno meddalwedd newydd i ailfandio'r Dreth Gyngor; fodd bynnag,
bydd yr adnoddau yn awr yn cael eu sianelu i'r hawliadau grant a
chyflwynir adroddiad arall ar y sefyllfa ddiweddaraf i'r Pwyllgor
yn ei gyfarfod nesaf.
|
|
|
|
Ar ôl derbyn y wybodaeth hon gofynnodd
yr Aelodau ragor o gwestiynau ynghylch a oedd Northgate wedi derbyn
tâl am becyn meddalwedd anaddas, a gofynnwyd pwy oedd yn
gyfrifol am gomisiynu'r cwmni hwn yn y lle cyntaf. Hefyd,
gofynnwyd pam nad oedd yr Awdurdod hwn byth wedi cyflwyno ei
hawliad o gofio bod y rhan fwyaf o'r Awdurdodau eraill wedi gwneud
hynny. Gofynnodd yr Aelodau am adroddiad ysgrifenedig i
gyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio yn amlinellu man cychwyn y
contract gyda Northgate, y sefyllfa ddiweddaraf yng nghyswllt
cyflwyno hawliadau a pha gamau sy'n angenrheidiol i ddatrys y
sefyllfa, a hefyd sut y mae sefyllfa'r Awdurdod hwn yn cymharu
gydag aelodau eraill y Grwp Defnyddwyr.
|
|
|
|
Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol (Cyllid) bod y sefyllfa yn un gymhleth iawn ac mai
Grwp Defnyddwyr Northgate, nid Cyngor Sir Ynys Môn, yw'r
cleient a hefyd bod yr Adran Waith a Phensiynau wedi talu am y
meddalwedd.
|
|
|
|
Penderfynwyd -
|
|
|
|
2
|
Nodi'r wybodaeth a gyflwynwyd ar lafar gan y Deilydd
Portffolio Cyllid a Thechnoleg Gwybodaeth ynghylch cyflwyno Hawliad
Cymhorthdal Budd-daliadau y Dreth Gyngor a Budd-daliadau Tai am
2003/04 a'r Hawliad Grant Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai am
2003/04.
|
|
|
2
|
Gofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) gyflwyno
adroddiad ysgrifenedig i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio yn
amlinellu man cychwyn y contract gyda Northgate, y sefyllfa
ddiweddaraf yng nghyswllt cyflwyno'r hawliadau y cyfeiriwyd atynt
yn 2.2.1 uchod a pha gamau y mae'n rhaid eu cymryd i ddatrys y
sefyllfa, a hefyd sut y mae sefyllfa'r Awdurdod hwn yn cymharu
gydag aelodau eraill y Grwp Defnyddwyr.
|
|
|
|
|
|
3 ADRODDIAD BLYNYDDOL ARCHWILIO MEWNOL
2004/05
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Adroddiad yn crynhoi
gwaith yr Adain Archwilio Mewnol am y flwyddyn 2004/05.
|
|
|
|
|
|
Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth
(Archwilio Mewnol) at y prif ystyriaethau fel a ganlyn:-
|
|
|
|
|
3
|
Roedd cymhariaeth rhwng y gwaith gwirioneddol a wnaed yn
ystod y flwyddyn yn erbyn y gwaith cynlluniedig am y flwyddyn yn
dangos gwahaniaeth o 85 diwrnod.
|
|
|
3
|
Nid oedd y gymhariaeth rhwng y diwrnodau gwirioneddol a
rhai cynlluniedig, er eu bod yn dangos yn fras sut yr oedd amser y
staff yn cael ei dreulio yn ystod y flwyddyn, yn dangos beth oedd y
deilliannau, h.y. faint o archwiliadau unigol a gwblhawyd.
|
|
|
3
|
Roedd dadansoddiad o'r archwiliadau cynlluniedig a rhai
gwirioneddol a gwblhawyd yn ystod 2004/05 fel a nodwyd yn nhabl 3.1
yr adroddiad yn dangos bod 109 o archwiliadau wedi'u cynllunio'n
wreiddiol, ond wedyn y ffigwr wedi'i ddiwygio i 113; cwblhawyd 90 o
archwiliadau erbyn 31 Mawrth 2005 a chyhoeddwyd adroddiad drafft ar
gyfer 25 archwiliad. Erbyn 31 Mawrth 2005 roedd gwaith
archwilio yn dal i fynd yn ei flaen ar 22 o archwiliadau ac nid
oedd y gwaith wedi dechrau ar 11 o archwiliadau erbyn diwedd y
cyfnod hwn. Roedd cyfanswm o 26 o archwiliadau a gwblhawyd,
neu rai mewn fersiwn ddrafft neu yn dal i fynd yn ei blaen yn
ymwneud â rhaglen waith 2003/04 tra bod 5 o archwiliadau
eraill wedi'i gwblhau neu wedi cyrraedd fersiwn ddrafft yn ymwneud
â rhaglen waith cyfnod cyn 2003/04.
|
|
|
3
|
Er bod y gwaith yn cael ei gynllunio ar gyfer blynyddoedd
unigol yn y cynlluniau strategol a blynyddol, mae unedau o waith yn
gorfod cael eu cario ymlaen o'r naill flwyddyn i'r nesaf, yn
enwedig felly yn agos archwiliadau mawrion neu'r archwiliadau hynny
sy'n cychwyn yn agos iawn i ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae
hyn yn gyfrifol am 31 o'r archwiliadau yng nghyswllt cynlluniau'r
blynyddoedd cynt ac a gariwyd ymlaen i 2004/05 a hefyd y 47 o
archwiliadau a gwblheir yn 2005/06 (25 ar ffurf ddrafft, a gwaith
yn dal i fynd ymlaen ar 22).
|
|
|
3
|
Roedd angen 215 o ddyddiau yn 2004/05 i gwblhau'r gwaith
archwilio a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn cynt ac amcangyfrifir y
bydd angen 150 o ddyddiau yn 2005/06 i gwblhau'r archwiliadau na
chafodd mo'u cwblhau yn 2004/05.
|
|
|
3
|
Diwygiwyd cynllun archwilio yn ystod y flwyddyn ac
ychwanegwyd ato 2 uned archwilio raglenedig (20 dydd) a 2 uned
archwilio contractau. Ni chychwynnwyd ar 11 darn o waith
archwilio ac roedd y rhain yn gyfrifol am 255 diwrnod o'r gwaith
archwilio cynlluniedig. Ni wnaed y gwaith archwilio oherwydd
bod llai o ddyddiau archwilio ar gael (85 diwrnod) a hefyd bod
gwaith archwilio arall wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl dan y
cynllun (85 diwrnod).
|
|
|
3
|
Cadwyd y llithriad mewn cof wrth lunio cynllun strategol
2005/09 ac o'r herwydd buasai'r gwaith yn cael ei wneud yn ystod
oes y cynllun hwn yn unol â'r asesiad risg.
|
|
|
3
|
Yn y cyfan o'r 47 o adroddiadau a ryddhawyd yn 2004/05
gwnaed 300 o argymhellion a chafodd 294 ohonynt eu derbyn.
|
|
|
3
|
Roedd dangosyddion perfformiad i'r Adain Archwilio Mewnol
yn dangos bod costau'r Adain dan reolaeth dda a hefyd bod safon y
gwaith yn uwch na'r targed a bennwyd. Y pryder mwyaf a
ddaw i'r amlwg yn y dangosyddion perfformiad yw nifer yr
archwiliadau sydd ddim yn cael eu cwblhau y tu mewn i'r amser
cynlluniedig. Yma dylid nodi nad yr amser cyllidebol yw'r
unig ffactor i'w hystyried a rhaid sicrhau bod y gwaith archwilio
yn cynnwys adolygiadau llawn ar y meysydd risg. Ond hefyd roedd
cryn dipyn o staff dibrofiad (4 o'r 7 aelod gyda llai na 3 blynedd
o brofiad) yn ychwanegu at yr amser a dreuliwyd ar y gwaith
archwilio cynlluniedig. Fodd bynnag, roedd hwn yn faes lle
gellid gwella'r perfformiad ac adolygu'r broses gynllunio ac o
sgopio gwaith archwilio er mwyn gwella'r perfformiad
hwn.
|
|
|
3
|
0Roedd 4 canlyniad mawr
i'r argymhellion a wnaed yn yr archwiliadau a gafwyd - gwella
mesurau rheoli mewnol ac, o'r herwydd, gostwng y
0perygl o
gamgymeriadau neu dwyll; gwella trefniadau gweithio; gwella
trefniadau casglu incwm; cywiro camgymeriadau a ganfuwyd yn ystod
gwaith archwilio ac adennill arian yn sgil archwiliadau o dwyll.
Yn sgil gwaith archwilio a wnaed yn 2004/05 canfuwyd cyfanswm
net £101,192 ac o'r swm hwn adenillwyd £3,655 mewn
gwirionedd gan adael £97,537 heb ei adennill. Mae'r swm
o £25,000 yn cynrychioli incwm nad oes cyfrif amdano.
|
|
|
3
|
Mae pob gwaith archwilio wedi'i raddio o A i E i nodi
safon y rheolaeth fewnol ac A yn dangos na chanfuwyd yr un gwendid
ac o'r herwydd mae'r risg yn fychan iawn. Tra bod E yn
cynrychioli rheolau mewnol cwbl annigonol a hynny'n peri risg
uchel. O'r 47 o archwiliadau y paratowyd adroddiadau
archwilio ffurfiol ar eu cyfer, enillodd 8 ohonynt raddfa A; 23 yn
ennill graddfa B; 9 yn cael C a 3 yn cael D a rhoddwyd E i 1
archwiliad. Nid oedd graddfeydd yn berthnasol i 3
archwiliad.
|
|
|
3
|
B yw'r raddfa gyffredinol yn seiliedig ar yr holl waith a
wnaed yn ystod y flwyddyn, sef risg fechan i'r awdurdod ac mae hyn
yn welliant ar raddfeydd B/C yn gyffredinol yn y blynyddoedd cynt.
Yn y gwaith archwilio a wnaed ac a gwblhawyd ni welwyd yr un maes
oedd yn peri pryder mawr na risg busnes o bwys i'r Cyngor yn
gyffredinol.
|
|
|
|
|
Cododd yr Aelodau y pwyntiau isod yn seiliedig
ar yr Adroddiad Blynyddol:
|
|
|
|
3
|
Yng nghyswllt yr archwiliadau na chafodd eu cwblhau y tu
mewn i'r amser cynlluniedig a beth oedd y rhesymau am
hynny;
|
|
|
3
|
yng nghyswllt arian a adenillwyd yn sgil gwaith archwilio
a hynny'n cynrychioli cyfran fechan yn unig o'r cyfanswm a
nodwyd;
|
|
|
3
|
yng nghyswllt £25,000 o incwm nad oedd cyfrif amdano
a'r angen i gael rheolaeth fwy llym i sicrhau bod digwyddiad fel yr
un hwn ddim yn digwydd eto neu o leiaf yn cael ei ganfod yn gynt -
awgrymwyd y dylai pob Adran wneud asesiad risg cyllidol ei
hun;
|
|
|
3
|
yng nghyswllt trosiant mawr yn staff yr Adain Archwilio
Mewnol a'r angen i gynnal cyfweliadau gadael er mwyn sefydlu beth
oedd y rheswm am ymadael - awgrymwyd y buasai'n fuddiol i'r
Pwyllgor Archwilio dderbyn ystadegau yng nghyswllt nifer y
cyfweliadau gadael ac efallai wedyn y dymunai'r Panel Rheoli
Perfformiad ymchwilio'n fanylach iddynt.
|
|
|
|
|
Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio
Mewnol) bod y Dangosyddion Perfformiad yn cymharu union faint o
amser a dreuliwyd ar archwiliad gyda'r amser cynlluniedig a nodwyd
yn y Cynllun Archwilio - nid ydynt yn rhoddi sylw i rai ffactorau
megis beth a allai ddod i'r fei yn ystod archwiliad a'r gwaith
ychwanegol a ddeuai yn sgil hynny; hefyd gallai maes yr archwiliad
fod yn un newydd ac 0o'r
herwydd yn hawlio mwy o amser na'r amcangyfrif
yn y 0Cynllun Archwilio; ac efallai bod oedi cyn derbyn ymateb
Adran i archwiliad drafft a hynny'n golygu bod yr Archwiliwr yn
gorfod edrych eto ar yr archwiliad ar ôl derbyn yr ymateb yn
y diwedd. Yn achos unrhyw arian a nodir fel arian y mae modd
ei adennill yn sgil gwaith archwilio, mae'r rhan fwyaf ohono i'w
briodoli i ladrad neu dwyll ond hefyd yn cynnwys achosion o ordalu
staff presennol y Cyngor a rhai a fu'n gweithio iddo, incwm a
nodwyd fel incwm heb ei gasglu a chywiro cyfrifon terfynol
contractau. Eglurwyd yr amgylchiadau dan y categori hwn lle
roedd incwm heb gyfrif amdano ac yn cyfateb i £25,000 o'r
cyfanswm dan y categori.
|
|
|
|
Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)
fod yr Adroddiad Blynyddol ar Archwilio Mewnol yn enghraifft o
arfer dda ac yn dangos bod gan yr Awdurdod system gadarn o reolaeth
gyllidol. Hefyd dibynnir ar yr Adroddiad Blynyddol wrth
gwblhau'r Datganiad ar Reolaeth Gyllidol Fewnol sy'n ddyletswydd
orfodol ar bob Awdurdod. Mae'r Datganiad hwn yn y broses o
gael ei newid a bydd yn datblygu'n Ddatganiad ar Reolaeth Fewnol
sy'n fwy pellgyrhaeddol ei gylch gorchwyl; roedd swyddogaeth i'r
Pwyllgor hwn gyfrannu yn y broses hon a bydd raid iddo ddefnyddio,
ar y cyd gyda dogfennau eraill, yr Adroddiad Blynyddol ar Archwilio
Mewnol fel cymorth i gyflawni'r gwaith hwnnw. Yng nghyswllt y
syniad bod pob Adran yn cynnal ei gwerthusiad cyllidol ei hun,
mae'n rhaid i'r Awdurdod wella'r agwedd benodol hon ar asesu risg,
ac er bod y gwaith hwn yn cael ei wneud yn rhannol wrth gydnabod
bod rhai cyllidebau arbennig yn creu mwy o risgiau na rhai eraill,
a hefyd trwy'r cynlluniau gwella gwasanaeth, mae angen rhoddi sylw
llawnach i'r mater hwn yn y Datganiad ar Reolaeth Cyllid Mewnol.
|
|
|
|
Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol
yr Adain Archwilio Mewnol am 2004/05 a nodi ei gynnwys.
|
|
|
|
|
4 ADRODDIAD GWAITH AR ARCHWILIO MEWNOL
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Adroddiad y Pennaeth
Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) yn amlinellu'r gwaith a wnaeth yr
Adain Archwilio Mewnol yn y cyfnod 1 Ebrill, 2004 hyd at 31 Mawrth,
2005.
|
|
|
|
|
|
Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth
(Archwilio Mewnol) at yr ystyriaethau pennaf fel a
ganlyn:-
|
|
|
|
|
4
|
Yn ystod y cyfnod 1 Medi, 2004 hyd at 31 Mawrth, 2005
cwblhawyd 35 o archwiliadau a chyhoeddwyd adroddiad terfynol ym
mhob achos; roedd gwaith ar 29 o archwiliadau wedi cyrraedd y lefel
ddrafft tra bo gwaith ar 16 o archwiliadau eraill yn dal i fynd yn
ei flaen. Cwblhawyd y gwaith ar siecio cydymffurfiad
Budd-daliadau Tai a chanfuwyd ei fod yn cydymffurfio. Yn
achos yr archwiliadau hynny yr oedd adroddiad terfynol ynghlwm
wrthynt, roedd y raddfa wedi gwella 0mewn 16 o achosion, y
raddfa heb newid o'r un cynt mewn 9 o achosion, a gostyngiad yn y
raddfa wedi digwydd o'r archwiliad 0blaenorol yn achos 3.
Yn achos 7 archwiliad nid oedd graddfa flaenorol wedi ei
rhoddi gan fod y meysydd heb eu harchwilio o'r blaen.
|
|
|
4
|
Yn ychwanegol at y gwaith hwn derbyniwyd 24 o gontractau
cyfalaf yn yr Adain Archwilio rhwng 1 Medi, 2004 a 31 Mawrth, 2005.
Cwblhawyd y gwaith archwilio ar 21 o'r contractau hyn a
dychwelyd y ffeiliau i'r Adran berthnasol. Roedd y gwaith yn
mynd yn ei flaen ar y tri chontract oedd yn weddill.
|
|
|
4
|
Yn ystod y flwyddyn mae'r Adain Archwilio Mewnol yn gorfod
gwneud gwaith ar faterion sy'n dod i'r fei yn ystod gwaith
archwilio cynlluniedig neu oherwydd materion a ddygir i sylw'r
Adain gan Adrannau eraill a gwaith hefyd y mae adrannau eraill yn
gofyn i'r Adain Archwilio Mewnol ei wneud. Hefyd mae'n bosib
y bydd yr Archwiliwr Dosbarth yn gofyn i'r Adain am wybodaeth neu
gymorth i ddarparu gwybodaeth. Yn sgil rhai o'r ymchwiliadau
hyn cyhoeddir adroddiadau archwilio ffurfiol ond efallai na fydd
adroddiadau yn dilyn rhai ymchwiliadau. Os ydyw ymchwiliadau
archwilio mewnol yn dangos bod tystiolaeth prime facie o weithred
droseddol yn bod yna, gan ddilyn rheoliadau cyllidol y Cyngor,
trosglwyddir y mater i'r Heddlu ymchwilio iddo. Hefyd, yn yr
adroddiad, amlinellwyd gwaith ymchwilio arbennig y bu'r Adain
Archwilio Mewnol yn rhan ohono a nodwyd canlyniadau
hefyd.
|
|
|
4
|
0Hefyd mae'r Adain
Archwilio Mewnol yn darparu cyngor ar 0reolaethau systemau a
rheoliadau a gwneir y gwaith dan y categori hwn yn ôl cais yr
Adrannau unigol ac fel arfer mae'n gyngor ar reoliadau cyllidol,
rheolau sefydlog contractau a gweithdrefnau tendro, rheolaethau
mewnol sy'n angenrheidiol i systemau newydd neu gynnal trafodaethau
ynghylch newid systemau presennol. Rhoddwyd cyngor o'r math
hwn i nifer o adrannau.
|
|
|
4
|
I bwrpas cyflawni ei ddyletswyddau fel Swyddog Adran 151 y
Cyngor, gall y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ofyn i'r Adain
Archwilio Mewnol ymgymryd â darnau o waith archwilio sydd y
tu allan i'r cynllun archwilio y cytunwyd arno, ac amlinellwyd
enghraifft o'r gwaith a wnaed dan y categori hwn yng nghyswllt
cyllido gwaith cyfalaf a wnaed ar un o adeiladau'r
Cyngor.
|
|
|
4
|
Gwnaed gwaith dilyn-i-fyny ar 12 o adroddiadau archwilio a
gyhoeddwyd rhwng 1 Ebrill, 2004 a 30 Medi, 2004 ac yn yr adroddiad
manylwyd ar ganlyniadau y gwaith ym mhob un o'r 12 achos. Ers
rhannu'r agenda i'r cyfarfod hwn roedd ymateb wedi'i roddi gan yr
adran berthnasol i adroddiadau archwilio a gyhoeddwyd yng nghyswllt
Recriwtio a Phenodi Staff (ymateb ar lafar); Hawliadau Teithio a
Goramser yn yr Adran Addysg a Hamdden; a'r System Oriau Ystwyth
(ymateb llafar yn nodi bod rhai argymhellion heb eu gweithredu ond
yn dibynnu ar gyrraedd cytundeb gyda'r Undebau).
|
|
|
4
|
Yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Archwilio dywedwyd nad
oedd ymateb wedi'i ddarparu gan nifer o adrananu/ysgolion i
geisiadau y Gwasanaeth Archwilio Mewnol am y wybodaeth ddiweddaraf
yng nghyswllt gweithredu ai peidio ar argymhellion y cytunwyd
arnynt a nodwyd nad oedd ymatebion wedi cyrraedd yn yr adroddiad.
Fodd bynnag, dywedwyd bod ymateb boddhaol bellach wedi'i
dderbyn yng0 nghyswllt Gwasanaeth Cofrestru Llangefni ac Ysgol
Bodffordd.
|
|
|
4
|
Yn yr adroddiad archwilio ar Ysgol Rhosneigr rhoddwyd iddi
raddfa E yn dangos bod yno wendidau sylweddol yn system rheolaethau
mewnol yr0 ysgol, adroddiad y rhoddwyd copi ohono i aelodau'r
Pwyllgor hwn, ac roedd y mater yn dal i fod yn destun ymholiadau
gan yr Heddlu ac o'r herwydd nid oedd modd cyflwyno rhagor o
wybodaeth i'r Pwyllgor ar y pryd.
|
|
|
|
|
|
Cytunodd yr Aelodau na ddylid
trafod y mater hwn yn y cyfarfod.
|
|
|
|
|
Aeth yr Aelodau rhagddynt i gyflwyno'r
sylwadau a ganlyn ar yr adroddiad gwaith:
|
|
|
|
4
|
yn achos gwaith ymchwil arbennig nodwyd, er mwyn bod yn
agored, y dylid cadw cofnod nid yn unig o bob penderfyniad i gynnal
ymchwiliad i haeriad neu gwyn ond hefyd y dylid cofnodi pob
penderfyniad i beidio â chynnal ymchwiliad, gan gofnodi'r
rhesymau o blaid y penderfyniad i beidio â chynnal ymchwiliad
i 0haeriad neu gwyn benodol;
|
|
|
4
|
Yng nghyswllt gwaith archwilio heb ei gwblhau, nodwyd gyda
phryder bod 2 archwiliad heb eu cwblhau ers 12 mis, a bod 8 arall
heb eu cwblhau am gyfnod o 6 - 12 mis a gofynnwyd am eglurhad pam
nad oedd y gwaith archwilio wedi'i gwblhau.
|
|
|
|
|
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio
Mewnol) bod cofnod yn cael ei gadw o bob achos y mae'r Adain
Archwilio Mewnol yn treulio amser arno ac ategir y cofnod gan ffeil
ac ynddi ddogfennau ysgrifenedig. Os oes digon o dystiolaeth
ar gael i symud ymlaen gyda'r mater yna cymerir camau a
throsglwyddir y mater i'r Adran berthnasol gyda golwg ar gymryd
camau disgyblu os ydyw'r achos yn ymwneud â gweithiwr i'r
Cyngor, neu fel arall ar ôl ymgynghori gyda'r Cyfarwyddwr
Cyllid a'r Swyddog Monitro trosglwyddir ef i'r Heddlu yn ôl
fel y bo'n briodol. Yng nghyswllt y gwaith archwilio sydd heb
ei wneud ers cyfnod o 12 mis, roedd un yn ymwneud â System
Incwm i'r Gwasanaeth Pryd ar Glud a'r llall yn ymwneud â
chyfrifon dros dro y Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n cael eu dal ar
ran cleientau. Cafwyd ymateb gan yr Adran Gwasanaethau
Cymdeithasol ond roeddid yn dal i ddisgwyl ymateb yr Adran
Gyllid.
|
|
|
|
Yn achos unrhyw gwyn neu haeriad dan y
Rheoliadau Cyllidol dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) y
dylid rhoi gwybod am bob haeriad o dwyll cyllidol i'r Cyfarwyddwr
Corfforaethol (Cyllid) ac fel arfer buasai'n comisiynu yr
Archwiliwr Mewnol i gynnal ymchwiliad. Gyda rhai achosion
penodol bydd raid ymgynghori gyda swyddogion eraill. Os
penderfynir, ar ôl cwblhau'r ymchwiliad, bod tystiolaeth
prima facie o weithgaredd troseddol yn yr achos yna, dan y
Rheoliadau Cyllidol, bydd raid cyfeirio'r mater i'r Heddlu.
Yn achos gwaith archwilio heb ei gwblhau ers 12 mis, lle
roeddid yn dal i ddisgwyl ymateb yr Adran Gyllid, nodwyd bod nifer
sylweddol o archwiliadau mewnol yn ymwneud ag edrych ar systemau
cyllidol a bod yr archwiliadau mwyaf dyrys - y rhai sy'n cymryd
cryn amser i'w cwblhau - yn aml yn ymwneud â'r Adran Gyllid.
Felly, gan fod y nifer fwyaf o'r archwiliadau yn ymwneud
â'r Adran Gyllid mae'n anorfod y bydd y gyfran fwyaf o'r
adroddiadau hwyr hefyd yn ymwneud â'r Adran Gyllid.
|
|
|
|
Fodd bynnag, roedd yr0 Aelodau yn dal i fod yn
anfodlon gyda'r archwiliadau hwyr, a gofynnwyd am ragor o wybodaeth
ynghylch dau archwiliad oedd heb eu cwblhau ers 12 mis a
chyflwyno'r wybodaeth honno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor. Yn
ychwanegol awgrymwyd bod y Pwyllgor yn datgan yn glir y dylai
adrannau ymateb i adroddiadau archwilio mewnol yn fwy prydlon, ac o
leiaf cyn pen 3 mis. Os ydyw adrannau yn methu â
chydymffurfio gyda'r gofyniad hwn cynigiwyd bod adroddiad ar y
gwaith archwilio heb ei gwblhau yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor
hwn ei ystyried.
|
|
|
|
Penderfynwyd -
|
|
|
|
4
|
Derbyn adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio
Mewnol) ar waith yr Adain Archwilio Mewnol am y cyfnod 1 Ebrill,
2004 - 31 Mawrth, 2005 a nodi ei gynnwys.
|
|
|
4
|
Bod rhagor o wybodaeth ysgrifenedig am ddau
archwiliad oedd heb eu cwblhau am gyfnod o 12 mis yn cael ei
chyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio.
|
|
|
4.13.Nodi bod y Pwyllgor Archwilio o'r
farn y dylai Adrannau'r Cyngor ymateb i adroddiadau archwilio
mewnol cyn pen 3 mis a bod adroddiad ar y gwaith archwilio na
chafwyd ymateb iddo cyn diwedd y cyfnod hwn yn cael ei gyflwyno i'r
Pwyllgor Archwilio.
|
|
|
|
5
|
CYNLLUN STRATEGOL ARCHWILIO MEWNOL : 1 EBRILL
2005 - 31 MAWRTH, 2009
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Cynllun Strategol
Archwilio Mewnol 4 blynedd am y cyfnod Ebrill, 2005 - Mawrth
2009.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd mabwysiadu'r Cynllun
Strategol am 2005-2009 fel y cafodd ei gyflwyno.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Fersiwn ddrafft o Gynllun
Archwilio PriceWaterhouseCoopers am y flwyddyn ddaeth i ben ar 31
Mawrth, 2005.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd Mr. Ian Howse, PWC bod y
Cynllun Archwilio wedi'i baratoi gyda golwg ar roddi gwybodaeth i
aelodau a swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn am
gyfrifoldebau 0PWC
fel archwilwyr allanol yr Awdurdod a hefyd
nododd sut y bwriedir cyflawni'r gwaith.
|
|
|
|
|
|
Ar ôl cael trafodaethau gyda
rheolwyr a dod i ddeall y Cyngor a'r sector llywodraeth leol mae
PWC wedi canfod nifer o ddatblygiadau sy'n cael effaith fawr ar y
Cyngor. Datblygiadau a materion yw'r rhain a gododd yn sgil y
cyfarfodydd a gafwyd hyd yma. Trafodwyd y Cynllun gyda'r
Rheolwr-gyfarwyddwr, y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a'r
Rheolwr Archwilio Mewnol. Hefyd cafodd y cyfryw gynllun ei
ddatblygu yn gyfochrog gyda Chynllun Gwella'r Cyngor a phryd bynnag
yr oedd y materion a godwyd y tu mewn i'r Cynllun
Gwella0 yn cael effaith ar amcanion Côd yr Archwilwyr
manylwyd arnynt yn y Cynllun Archwilio. Roedd y Cynllun
wedi'i drafod a'i gytuno gyda Rheolwr Cyswllt Comisiwn Archwilio
Cymru. Roedd y gwaith ar y materion archwilio allweddol y
manylwyd arnynt yn y Cynllun wedi'i ymgorffori yng Nghynllun
Rheolaethol y Cyngor am 2004/05.
|
|
|
|
|
|
Roedd y gwaith archwilio yn ymrannu i 3
phrif faes - Cyfrifon; Llywodraeth a Pherfformiad ac roedd
cyfrifoldebau'r Archwilwyr dan y tri chategori wedi'u hamlinellu yn
y Cynllun.
|
|
|
|
|
|
Gofynnwyd i'r
Archwiliwr0 beth oedd cyfraniad PWC yng nghyswllt asesu cynnydd ar
faterion rheoli corfforaethol.
|
|
|
|
|
|
Yma nododd yr Archwiliwr Allanol y bydd
PWC yn cyflwyno barn ar Gynllun Gwella'r Cyngor ym mis Hydref, 2005
ar ôl ystyried trefniadau corfforaethol a nodir hefyd ym mhle
y bydd modd cyflwyno'r gwelliannau. Hefyd bydd y Llythyr
Archwilio yn cyflwyno sylwadau, yn ôl y gofyn, ar drefniadau
corfforaethol. Yn y cyswllt hwn roedd rheoli perfformiad a
sut y bydd yr Awdurdod yn cymryd camau i wella perfformiad yn
faterion allweddol. Fel rhan o waith targedu'r Archwiliwr
Allanol cynhelir arolwg ar drefniadau rheoli perfformiad y tu mewn
i'r Awdurdod ac unwaith y bydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau
cyflwynir adroddiad i'r Panel Rheoli Perfformiad ac wedyn o bosib
i'r Pwyllgor Archwilio.
|
|