|
3.3
|
Ynghlwm wrth yr adroddiad gwaith uchod mae crynodeb
gweithredol i bob un o'r adroddiadau hynny a gyhoeddwyd rhwng 1
Tachwedd, 2003 i 27 Chwefror, 2004.Yn achos 1 adroddiad,
dyfarnwyd Graddfa A i'r gwaith; yn achos 10 adroddiad,
dyfarnwyd Graddfa B i'r gwaith; cafodd 1 adroddiad raddfa D, ac fe
gafodd 1 adroddiad Raddfa E.Yn achos yr adroddiad mewn perthynas
â Grantiau Diogelwch Cymunedol y dyfarnwyd Graddfa E iddo,
gwelwyd fod y system o reolau mewnol yng nghyswllt y maes
gwasanaeth hwn yn gwbl annigonnol ac wedi arwain at nifer o
gamgymeriadau sylweddol.Dynoda hyn risg uchel o dwyll i'r
Awdurdod.
|
|
|
3.4
|
Yn ychwanegol at y gwaith archwilio uchod, bu i'r Adain
Archwilio dderbyn 18 o gontractau cyfalaf rhwng 1 Tachwedd, 2003 a
27 Chwefror, 2004.Cwblhawyd y gwaith archwilio ar 17 o'r contractau
yma a dychwelwyd y ffeil i'r adran berthnasol.Yn ystod y cyfnod
hefyd, cwblhawyd gwaith archwilio ar 6 contract arall y dechreuwyd
gweithio arnynt cyn 1 Tachwedd, 2003.
|
|
|
3.5
|
Yn ystod y flwyddyn mae'r Adain Archwilio Mewol yn gorfod
gwneud gwaith ar faterion sy'n dod i'r amlwg yn ystod gwaith
archwilio cynlluniedig neu oherwydd materion a ddygir i sylw'r
Adain gan adrannau eraill, a gwaith hefyd mae adrannau eraill yn
gofyn i'r Adain Archwilio Mewnol ei wneud.Yn ystod 2003, gofynnodd
y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) am i waith archwilio gael ei wneud
yng nghyswllt eitem a brynwyd gyda Grant Diogelwch Cymunedol
Llywodraeth y Cynulliad.Yn dilyn yr archwiliad cychwynnol ehangwyd
sgôp y gwaith i gynnwys arolwg ar y cyfan o'r grantiau
Diogelwch Cymunedol a gafwyd gan y Cynulliad yn ystod 2001/02 a
2002/03.Fel ag a grybwyllwyd yng nghymal 3.3 uchod, rhoddwyd
Graddfa E i'r adroddiad sy'n golygu yr adnabyddwyd gwendidau
sylfaenol yn y system o reolau mewnol mewn perthynas â'r maes
hwn oedd yn peri risg uchel o gamgymeriadau neu dwyll i'r
Awdurdod.Hefyd, bu i reolwyr un o adrannau'r Cyngor sylweddoli bod
swyddog yn defnyddio adeiladau ac offer y Cyngor i gynnal busnes
preifat.Rhoddodd yr Adran sylw i'r mater yn unol â pholisiau
staff y Cyngor ac fe ofynnwyd i'r Adain Archwilio Mewnol ymchwilio
rhag ofn bod arian neu eiddo'r Cyngor wedi'i gamddefnyddio, ond ni
chafwyd dim tystiolaeth bod hynny wedi digwydd.
|
|
|
3.6
|
Fel rhan o'i gwaith rhydd yr Adain Archwilio Mewnol hefyd
gyngor ar reolau, systemau a rheoliadau, ac fe wneir y gwaith hwn
gan amlaf ar gais adrannau.Yn ystod y cyfnod rhwng 1 Medi, 2003 a
31 Hydref, 2003 gwnaed gwaith asesu cyllidol ar dendrwyr
contractau; rhoddwyd cyngor ar drefniadau tendro yng nghyswllt
amryfal gontractau; cynghorwyd yr Adran Tai a Gwasanaethau
Cymdeithasol ar ddelio gyda threfniadau cynrychioli a methdaliadau
cleientau ac fe roddwyd cyngor cyffredinol hefyd ar lu o faterion
eraill i'r Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol, i ysgolion, ac
i'r Adran Addysg a Hamdden.
|
|
|
3.7
|
Gwnaed gwaith dilyn i fyny ar 15 o adroddiadau archwilio a
gyhoeddwyd rhwng 1 Medi, 2003 a 31 Ionawr, 2004, ac ymhelaethir ar
y rhain yn yr adroddiad.Gellir adrodd erbyn hyn y derbyniwyd ymateb
boddhaol gan yr adrannau perthnasol i'r archwiliadau yng
nghyswllt Prynu Deunyddiau gan TLlU; Cartref Preswyl Brwynog
a Chanolfan Mona.Parheir i ddisgwyl ymateb i'r adroddiadau ynglyn
ag Ysgol y Bont, a Chanolfan J.E.O'Toole.
|
|
|
3.8
|
Yng nghyfarfod diwethaf chwarterol y Pwyllgor Archwilio
adroddwyd na dderbyniwyd ymateb yr Adran berthnasol yng nghyswllt
archwilio Systemau Cyflogau (Gwasanaethau Corfforaethol) a'r
Peiriannau Ffrancio (Gwasanaethau Corfforaethol).O'r herwydd,
cynhaliwyd archwiliad dilyn i fyny cryno i'r ddau faes.Cafwyd fod
yr argymhellion mewn perthynas â defnyddio'r Peiriannau
Ffrancio wedi'u gweithredu yn foddhaol ond parheir i ddisgwyl
ymateb yr Adain Bersonel ynglyn â'r Archwiliad Cyflogau.Gellir
adrodd erbyn hyn hefyd fod ymateb boddhaol wedi'i dderbyn gan Ysgol
Pencarnisiog.
|
|
|
3.9
|
Yng nghyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 29
Mai, 2003, cyflwynwyd adroddiad ar archwiliad mewn perthynas â
Chynllun Oriau Ystwyth y Cyngor.Oherwydd fod y gwaith hwnnw wedi
amlygu nifer o wendidau, a'r aelodau wedi mynegi pryderon ynghylch
safonau rheolaeth y system, aethwpyd ati i gynnal gwaith archwilio
dilyn i fyny.Mae'r gwaith hwnnw wedi'i wneud a fersiwn drafft o'r
adroddiad wedi'i pharatoi.Bwriedir cyflwyno adroddiad ar y
casgliadau i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio.
|
|
|
|
|
|
Cyfeiriwyd gan aelod at yr adroddiad archwilio yng
nghyswllt Ysgol Llangoed y dyfarnwyd Graddfa D iddo, a gofynnwyd
beth a olygir wrth ddweud fod yna bosibilrwydd canolig o risg i'r
Awdurdod o safbwynt camgymeriad neu dwyll yng nghyswllt yr
ysgol.
|
|
|
|
|
|
Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) fod y
gwaith archwilio yng nghyswllt Ysgol Llangoed wedi amlygu nifer o
fân wendidau yn ogystal â diffygion mewn perthynas â
rheolaeth cyllidebol oedd wedi arwain at sefyllfa o ddiffyg ar
ddiwedd blwyddyn ariannol 2002/03.Dynodwyd Graddfa D felly
i'r gwaith oherwydd fod yna wendidau mewn systemau allweddol yn yr
ysgol.Byddai Pennaeth yr Ysgol ynghyd â Chadeirydd y
Llywodraethwyr yn derbyn copi o'r adroddiad archwillio gyda chais
am i'r Bwrdd Llywodraethu ei ystyried a chymryd camau i weithredu
arno.Yn arferol archwilir ysgolion mewn cylch pedair blynedd ond os
na dderbynnir ymateb boddhaol i'r adroddiad archwilio sy'n dangos
fod yna weithredu yn digwydd ar gasgliadau'r archwiliad, yna fe
ellir ail-ymweld â'r ysgol cyn hynny.Yn achos Ysgol Llangoed,
mae'r ysgol wedi llunio cynllun datblygu i ddangos sut mae'n
bwriadu adennill y £10,300 o ddiffyg sydd ar y gyllideb dros y
dair mlynedd nesaf.Fodd bynnag, gan fod yna ddiffyg ar gyllideb yr
ysgol a'i bod wedi disbyddu ei chronfa wrth gefn, bydd yna fonitro
mwy agos ar yr ysgol hefyd gan yr Adran Addysg.
|
|
|
|
|
|
Cytunodd yr aelodau fod y drefn gylchol o archwilio
ysgolion yn un ddefnyddiol iawn gan ei fod yn amlygu unhryw
ddiofalwch neu esgeulustod ac yn sicrhau fod yna ymdrech yn cael ei
wneud i gadw at weithdrefnau rheolaethol ac ariannol
cytunedig.
|
|
|
|
|
|
Yn dilyn y drafodaeth uchod rhoddodd y Pwyllgor
sylw penodol i'r adroddiad Graddfa E yng nghyswllt Grantiau
Diogelwch Cymunedol a chytunwyd cyn ei drafod, yn unol â
darpariaethau Paragraff 1, Rhestr 12A Deddf Llywodraeth Leol, 1972
i wahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra'n ystyried y mater
hwn oherwydd y tebygrwydd y datgelir gwybodaeth gyfrinachol yn
ystod y drafodaeth arno.
|
|
|
|
|
|
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) y
gwnaed y gwaith archwilio uchod mewn ymateb i bryderon a godwyd gan
y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) mewn perthynas â Grant Cronfa
Datblygu y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.Bu i'r archwiliad
adolygu y cyfan o'r grantiau a roddwyd gan Llywodraeth y Cynulliad
yng nghyswllt diogelwch cymunedol ac a weinyddwyd gan Swyddog yn
Adran y Rheolwr Gyfarwyddwr.
|
|
|
|
|
|
Amlygodd y gwaith archwilio nifer o broblemau ac o
gamgymeriadau yng ngweinyddiaeth y grantiau gan gynnwys
-
|
|
|
|
|
3.10
|
Gwariant nad oedd wedi'i gymeradwyo o dan delerau ac
amodau'r grant;
|
|
|
3.11
|
methiant i sicrhau gwerth am arian wrth brynu h.y. nid
oedd angen y nwyddau neu'r gwasanaethau neu nid oedd yr eitem a
brynwyd o safon ddigon uchel neu ddim o'r math cywir neu yn anaddas
ar gyfer yr hyn y bwriadwyd ef;
|
|
|
3.12
|
talu ymlaen llaw cyn derbyn nwyddau;
|
|
|
3.13
|
methiant i ddilyn rheolau gweithdrefn contractau wrth
brynu;
|
|
|
3.14
|
caniatau talu arian grant i gyfrif nad oedd yn gyfrif
swyddogol y Cyngor, gan wneud taliadau allan o'r cyfrif hwn
wedyn.
|
|
|
|
|
|
Er fod pob camgymeriad yn unigryw i'r grant oedd yn creu'r
camgymeriad, canfuwyd fod yna wendidau sylfaenol yn y system a'r
trefniadau a ddefnyddiwyd i weinyddu'r ffynhonnell hon o arian a
oedd yn caniatau i'r fath gamgymeriadau ddigwydd.Ymhlith y pennaf
o'r gwendidau hyn mae'r canlynol -
|
|
|
|
|
3.15
|
Un swyddog yn unig oedd yn gyfrifol am bob agwedd o'r
gwaith ac nid oedd yna unrhyw wahaniad dyletswyddau yn y
broses;
|
|
|
3.16
|
Nid oedd gan y swyddogion ardystio oedd yn awdurdodi'r
gwariant ar Grantiau Diogelwch Cymunedol fawr o wybodaeth am
fanylion pon grant unigol, ac roeddent yn gorfod dibynnu ar y
sicrwydd a roddai'r swyddog perthnasol fod y gwariant yn
cydymffurfio gyda thelerau'r grant i bwrpas awdurdodi archebion ac
ardystio taliadau;
|
|
|
3.17
|
Roedd offer technegol, megis camerau gouchwylio yn cael eu
prynu gan swyddog nad oedd ganddo fawr o wybodaeth am fanylion
technegol yr offer;
|
|
|
3.18
|
Roedd staff gweinyddol a staff cyfrifeg yn dibynnu ar y
swyddog cyfrifol i wneud gwariannu gan gydymffurfio gydag amodau'r
grantiau, ac yn dibynnu arno i godi'r gwariant yn gywir.
|
|
|
3.19
|
Nid oedd gwaith goruchwylio mewnol yn cael ei wneud ar y
gwariant yn erbyn bob grant unigol er mwyn canfod a oedd y gwariant
yn sicrhau bod yr amcanion yn cael eu cyrraedd.
|
|
|
|
|
|
Cytunwyd ar gamau allweddol i'w gweithredu i wirio'r
sefyllfa gan gynnwys gwneud y newidiadau angenrheidiol i
gofnodiadau cyfrifon yn Cyngor i sicrhau mai gwariannau priodol yn
unig a wnaed yn unol ag amodau'r grant sy'n cael eu cynnwys yn yr
hawliadau terfynol.Rhoddwyd gwybod hefyd i Lywodraeth y Cynulliad
am werth y grant sydd heb ei wario, ac mae trafodaethau yn parhau i
ganfod a all y Cyngor wario'r arian hwn i gyllido prosiectau
diogelwch cymunedol yn y dyfodol.Aethpwyd ati i wella trefniadau
goruchwylio a rheoli er mwyn sicrhau mwy o wahaniad rhwng
dyletsywddau a bod gwaith goruchwylio rheolaidd yn cael ei wneud i
sicrhau bod y gwariant yn cydymffufio gyda'r bid gwreiddiol a bod y
prosiect yn cyflawni ei amcanion.
|
|
|
|
|
|
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) fod llawer o
waith wedi cael ei wneud ers yr archwiliad i dynhau systemau
goruchwylio a rheoli er mwyn sicrhau fod gwariant ar y grantiau hyn
yn cael ei weinyddu yn gywir, yn briodol, ac yn unol â rheolau
ariannol y Cyngor.At hynny, lluniwyd Cynllun Gweithredu drafft sy'n
mynd i'r afael â bob un o'r argymhellion sy'n deillio o'r
archwiliad.
|
|
|
|
|
Nododd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol Cyllid ei fod yn gresynu fod yna fethiant mor
ddifrifol yn yr achos hwn i gydymffurfio gyda rheolau a
gweithdrefnau sefydledig y Cyngor.Un o'r ffactorau oedd yn cyfrannu
tuag at y gwendidau a adnabuwyd gan yr archwiliad oedd y ffaith fod
y maes diogelwch cymunedol a'r disgwyliadau ynghlwm wrtho yn faes
newydd ac wedi datblygu'n eang mewn cyfnod byr a bod yna bwysau i
wario cyllid grant heb fod ystyriaeth ddigonol yn cael ei rhoi i
amcanion y gwariant.Roedd y ffaith hefyd mai un swyddog yn unig nad
oedd ganddo fawr o brofiad o weinyddu grantiau oedd yn delio gyda'r
gwaith ar sail dydd i ddydd yn golygu yn ei dro fod y risg y gallai
rhwybeth fynd o'i le yn fwy. Mae Archwilwyr Allanol y Cyngor wedi
cynnal archwiliad ar wahân gogyfer y Pwyllgor Gwaith ar
brosiect cysylltiedig Camerau Goruchwylio Cymunedau'n Gyntaf ac mae
adroddiad yr archwiliad hwnnw yn gorgyffwrdd mewn mannau â'r
archwiliad uchod.Cawsai Llywodraeth y Cynulliad gopi o adroddiad yr
Archwiliwyr Allanol a theimlir ei fod yn briodol anfon copi o'r
adroddiad uchod iddynt gan fod yr adroddiad hwn hefyd yn berthnasol
i'r Cynulliad.Y cam nesaf fydd sicrhau fod y Cynllun Gweithredu
sydd gerbron yn cael sylw ac yn cael ei roi ar waith.
|
|
|
|
Mynegodd yr aelodau
siomedigaeth ddwys fod y methiant uchod i barchu rheolau a
gweithdrefnau wedi digwydd a phwysleisiwyd fod angen grymuso'r
trefniadau ar gyfer goruchwylio a monitro gweinyddiaeth cynlluniau
o'r fath i sicrhau na fydd yna ail-adrodd y camgymeriadau a
ddigwyddodd yn yr achos uchod.Croesawyd y Cynllun Gweithredu fel
cam fyddai'n sicrhau bydd hyn yn digwydd.
|
|
|
|
Penderfynwyd
-
|
|
|
|
3.20
|
Derbyn adroddiad gwaith y Pennaeth Gwasanaeth
(Archwilio Mewnol) ar waith yr Adain Archwilio mewnol yn ystod y
cyfnod o 1 Ebrill, 2003 i 27 Chwefror, 2004, gan nodi ei
gynnwys.
|
|
|
3.21
|
Derbyn yr adroddiad archwiliad mewn perthynas â
Grantiau Cymunedol ynghyd â'r argymhellion yn gynwysiedig
ynddo gan nodi y rhoddir copi ohono i Lyowdraeth y Cynulliad ac i
Archwilwyr Allanol y Cyngor.
|
|
|
3.22
|
Diolch i'r Adain Archwilio Mewnol am ei gwaith
trylwyr ar yr archwiliad yn 3.21 uchod.
|
|
|
|
|
4
|
CYNLLUN STRATEGOL ARCHWILIO MEWNOL
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Adroddiad gan
y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) yn ymgorffori Cynllun
Strategol Archwilio Mewnol am y cyfnod Ebrill, 2004 i Fawrth,
2008.
|
|
|
|
Crynhodd y Pennaeth
Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) y brif bwyntiau fel a
ganlyn:
|
|
|
|
4.1
Bu i'r Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod a
gynhaliwyd ar 29 Mai, 2003 dderbyn y Cynllun Strategol Archwilio
Mewnol am y cyfnod 2003 i 2007.Fel sydd wedi'i adrodd yn y
gorffennol, mae'n rhaid diweddaru'r cynllun er mwyn cymryd i
ystyriaeth newidiadau mewn meysydd archwilio, newid asesiad risg a
llithriad oherwydd salwch, swyddi gweigion ac ati.Cynhelir y broses
adolygu hon yn flynyddol a chynhyrchir cynllun newydd.Manylir yn yr
adroddiad uchod am y cynllun strategol newydd gogyfer Archwilio
Mewnol am y cyfnod 1 Ebrill, 2004 i 31 Mawrth, 2008.
|
|
4.2
Mae'r cynllun yn seiliedig ar 7 aelod o staff
yn gweithio yn yr Adain, sy'n rhoi cyfanswm o 1,827 diwrnod gwaith
ar gael ym mhob blwyddyn (261 diwrnod x 7 aelod o staff) (1.834 yn
2007/08 sy'n flwyddyn naid).Dadansoddir y Cynllun fesul 4 prif
bennawd gwaith - gwaith archwilio a gynlluniwyd; gwaith archwilio
arall; gwaith heb fod yn waith archwilio ac amser heb fod yn amser
cynhyrchiol.
|
|
4.3
Mae'r cynllun a gyflwynir gerbron yn
canolbwyntio ar waith archwilio craidd traddodiadol ac yn
adlewyrchu lefel bresennol adnoddau sydd ar gael a sgiliau'r
tîm archwilio presennol.Yn ysod y broses ymgynghori ar y
cynllun nodwyd meysydd risg eraill, ac efallai caiff y meysydd hyn
eu hystyried gogyfer gwaith archwilio yn y dyfodol, ond i wneud y
gwaith hwn byddai raid i adnoddau gael eu trosglwyddo o'r gwaith
archwiilio craidd gan ailasesu sut y cynigir y gwasaneth archwilio
h.y. byddai yna fwy o reidrwydd i brynu adnoddau archwilio'n
allanol er mwyn cael y sgiliau angenrheidiol.
|
|
4.4
Mae'r cynllun yn seiliedig felly ar amcanion
yr Adran ac ar y dull y cyfeirir ato uchod. Ymgynghorwyd ar ei
gynnwys gyda Chyfarwyddwr pob Adran fel mae'n ymwneud â'u
hadran hwy ac fe ymgynghorwyd gyda'r Cyfarwyddwr Cyllid, y Rheolwr
Gyfarwyddwr a'r Swyddog Monitro ynghylch y cynllun
llawn.
|
|
4.5
Rhoddir dadansoddiad manwl yn yr adroddiad o'r
Cynllun Strategol fesul math o archwiliad a hefyd, fesul
adran.
|
|
|
|
Penderfynwyd
mabwysiadu'r Cynllun Strategol ar gyfer 2004-2008 fel ag a
gyflwynwyd gan y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol).
|
|
|
|
|
|
|
|
Gwyn Roberts
|
|
Cadeirydd
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|