Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio dogfennau , 25 Mehefin 2009

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dydd Iau, 25ain Mehefin, 2009

PWYLLGOR ARCHWILIO

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin, 2009

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R Llewelyn Jones (Cadeirydd)

Y Cynghorydd Jim Evans (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies, C Ll Everett, H Eifion Jones,

J V Owen, John Penri Williams.  

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid)

Rheolwr Archwilio (JF)

Rheolwr Cyfrifeg (MJ)(ar gyfer eitem 3)

Uchel Archwiliwr Mewnol (EW)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr Eric Jones, Selwyn Williams.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Mr Patrick Green (RSM Bentley Jennison), Mr Alan Morris (Swyddfa Archwilio Cymru), Mr James Quance (PricewaterhouseCoppers)

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod a chawsant eu llofnodi fel rhai cywir:-

 

Ÿ

16 Ebrill, 2009

Ÿ

6 Mai, 2009

Ÿ

29 Mai, 2009 (cyfarfod arbennig)

 

Yn codi o’r cofnodion i’r cyfarfod a gafwyd ar 29 Mai, 2009 -

 

Yng nghyswllt yr ymchwiliadau arbennig i dreuliau cynhaliaeth a theithio rhai aelodau o’r Pwyllgor Gwaith am ddwy siwrnai yn Ionawr a Chwefror eleni ac a fu’n brif fater trafodaeth yng nghyfarfod 29 Mai dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) wrth yr aelodau bod yr unigolion y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad ar yr ymchwiliadau arbennig, ers dyddiad y Pwyllgor Archwilio, wedi talu’r cyfan o’r treuliau a hawliwyd yn ôl yng nghyswllt y ddwy siwrnai; dywedodd yr aelodau’n glir bod hyn wedi’i wneud heb ragfarnu penderfyniad y Cyngor Sir a fydd yn rhoi sylw i’r mater yn ei gyfarfod ar 30 Mehefin.  Felly, petai’r Cyngor yn cadarnhau argymhellion y Pwyllgor Cyllid ac yn cymeradwyo’r siwrneiau, roedd yn tybio y buasai’r aelodau dan sylw yn cael yr arian yn ôl.

 

Wedyn cafwyd trafodaeth ar y diweddariad uchod a’r aelodau hynny o’r Pwyllgor Archwilio a deimlai, yng nghyfarfod 29 Mai, bod y siwrneiau a’r arian a hawliwyd amdanynt yn annoeth, yn dehongli’r ffaith bod yr arian wedi’i dalu’n ôl fel cydnabyddiaeth, ar ran yr aelodau perthnasol o’r Pwyllgor Gwaith, eu bod ar fai yn gwneud yr hyn a wnaethant.  Wedyn atgoffwyd yr aelodau gan y Cynghorydd C L Everett iddo alw, yng nghyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 29 Mai, ar yr aelodau a enwyd yn yr ymchwiliadau arbennig i ystyried eu sefyllfa fel aelodau o’r Pwyllgor Gwaith gan fod eu hymddygiad, yn y cyd-destun hwn, yn groes i’r hyn a nodir yn y Cyfansoddiad; dywedodd hefyd y buasai’n ailadrodd y cais hwnnw ac yn gofyn i’r aelodau dan sylw ystyried eu sefyllfa fel aelodau o’r Pwyllgor Gwaith.  Credai ef bod talu’r costau’n ôl cystal â chyfaddef y camgymeriad a wnaeth aelodau yn mynd ar y ddwy siwrnai.  Yng nghyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 29 Mai roedd y Cynghorydd J V Owen wedi cefnogi penderfyniad aelodau’r Pwyllgor Gwaith i fynd ar y siwrneiau i Gaerdydd ac i’r Barri gan fod y siwrneiau hyn yn angenrheidiol fel rhan o’r broses o ddatrys gwaith anodd a sensitif ar ran y Cyngor ac aeth ymlaen i ailddatgan ei safiad gan atgoffa’r aelodau na ddylent ddod i gasgliadau ynghylch ad-dalu’r costau na cheisio dehongli beth oedd arwyddocâd hynny gyda golwg yn unig ar ddenu sylw’r cyfryngau, ac yn awr roedd gofyn i’r aelodau gymeradwyo cywirdeb y cofnodion yn unig - nid yr hyn a wnaeth aelodau’r Pwyllgor Gwaith.  Ond cafwyd sylw gan y Cynghorydd H Eifion Jones ei fod yn ceisio sefydlu beth oedd y rhesymeg y tu cefn i’r penderfyniad i ad-dalu’r costau cyn y cyfarfod o’r Cyngor Sir, ac yn enwedig o gofio bod y Pwyllgor Archwilio wedi cefnogi’r siwrneiau; aeth ymlaen i sôn bod yn rhaid dod i’r casgliad bod yr unigolion yn cyfaddef eu bod yn euog ac mai eu dyletswydd oedd ad-dalu’r arian.  Crybwyllodd y buasai wedi dymuno cael eglurhad ar y penderfyniad hwn.  

 

 

 

Cafwyd eglurhad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod yr arian wedi’i dalu’n ôl hyd nes cael penderfyniad gan y Cyngor Sir yn ei gyfarfod ar 30 Mehefin.  Yn yr adroddiad ar yr ymchwiliad i’r treuliau teithio a chynhaliaeth dywedwyd nad oedd y ddwy siwrnai yn ddyletswyddau cydnabyddedig dan gynllun treuliau’r Cyngor a hon oedd y sefyllfa o hyd.  Nid oedd y Pwyllgor Archwilio â’r awdurdod i wneud penderfyniad ar y mater - dim ond cyflwyno argymhellion i’r Cyngor ac roedd wedi gwneud hynny yn ei gyfarfod ar 29 Mai.  Hyd oni fydd y Cyngor yn penderfynu cadarnhau argymhellion y Pwyllgor Archwilio y dylid ad-dalu’r treuliau yn ôl-ddyddiol, y sefyllfa, o hyd, yw bod y siwrneiau hyn heb fod yn ddyletswyddau cydnabyddedig; os ydyw’r Cyngor yn penderfynu newid hynny yna fe ddaw y dyletswyddau yn rhai cydnabyddedig; ar hyn o bryd nid oeddynt yn ddyletswyddau cydnabyddedig a hwn yw’r rheswm pam y derbyniwyd taliadau’r aelodau.

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau iddo drefnu i rannu, ymhlith holl aelodau’r Cyngor cyn cyfarfod y Cyngor ar 30 Mehefin pryd y bydd y mater yn cael ei drafod eto, gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio ar 29 Mai, 2009 yn manylu ar y drafodaeth ar dreuliau teithio aelodau’r Pwyllgor Gwaith.

 

 

 

3

DATGANIAD CYFRIFON 2008/09

 

 

 

Cyflwynwyd - Fersiwn ddrafft o Ddatganiad Cyfrifon am 2008/09.

 

 

 

Wrth egluro’r broses ffurfiol o fabwysiadu’r Datganiad Cyfrifon, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) wrth yr aelodau bod raid i’r Cyngor, mewn llywodraeth leol, fabwysiadu’r fersiwn ddrafft o’r Datganiad Cyfrifon cyn eu harchwilio, a gwneud hynny yn y maes cyhoeddus.  Wedyn mae’r ddogfen yn mynd trwy’r broses o archwiliad cyhoeddus a dyma pryd y dechreua gwaith yr Archwiliwr ar y Datganiad Cyfrifon.  Ar ôl derbyn barn yr Archwilwyr ar y Cyfrifon mae’r fersiwn archwiliedig ohonynt yn cael ei chyhoeddi’n ffurfiol.  Hefyd efallai y bydd raid cyflwyno adroddiad i’r Cyngor ar unrhyw newidiadau sylweddol i’r Datganiad Cyfrifon ers cyflwyno’r fersiwn ddrafft.  Nid oes modd, dan y Rheoliadau, dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith y dasg o gymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon.  Mae’r Cyngor wedi dirprwyo’r dyletswydd hon i’r Pwyllgor Archwilio.  Dan yr amserlen statudol mae’n rhaid cyhoeddi cyfrifon 2008/09 erbyn 30 Mehefin a darparu’r farn archwilio dri mis yn ddiweddarach.

 

 

 

Dygodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) sylw’r aelodau nad y Datganiad Cyfrifon yw’r dull pennaf o roddi gwybod i aelodau’r Cyngor am ganlyniadau ariannol y flwyddyn.  Yn rheolaidd mae’r Pwyllgor Gwaith yn derbyn adroddiadau ar fonitro’r gyllideb ac wedi derbyn adroddiad ar gau’r cyfrifon yn ei gyfarfod ar 23 Mehefin.   Wedyn bydd adroddiad manylach eto yn cael ei gyflwyno.  Mae’r adroddiadau hyn, ac mi fyddant yn y dyfodol, yn y maes cyhoeddus; yr unig beth a wna’r Datganiad Cyfrifon yw cadarnhau’r canlyniadau hyn ond mewn dull ffurfiol y mae’n rhaid ei ddilyn.  Gan fod raid dilyn y dull hwn yn ôl darpariaethau’r Datganiad ar Arferion a Argymhellir, rhaid i Ddatganiad Cyfrifon pob awdurdod ddilyn yr un dull a defnyddio’r un eirfa.  Mae hyn yn gymorth i gymharu’r naill gyda’r llall ond nid yw’n hyrwyddo symlrwydd.  Ond rhaid cofio bod sgriwtineiddio’r Datganiad Cyfrifon yn rhoi i’r Pwyllgor Archwilio y cyfle i ofyn cwestiynau am faterion na fuasent, fel arall, yn cyrraedd ei aelodau.  Gan fod y Datganiad Cyfrifon yn adrodd ar ffeithiau hanesyddol ac yn glynu wrth fformat penodol, ychydig iawn o ryddid sydd gan y Pwyllgor i newid y Datganiad cyn ei gymeradwyo; ond roedd modd i’r aelodau ganolbwyntio ar briodoldeb y polisïau cyfrifo.  Tra roedd rhai o’r nodiadau yn y Datganiad adeg ei gyhoeddi yn anghyflawn, roedd y rhan fwyaf o’r wybodaeth yr oedd y Pwyllgor Archwilio yn debyg o fod ei hangen wedi’i chynnwys yn y fersiwn ddrafft a yrrwyd atynt.  

 

 

 

 

 

Yn y Datganiad Cyfrifon mae Datganiad o Reolaethau Mewnol sy’n adlewyrchu dyletswydd ar y Pwyllgor Archwilio i werthuso’r system o reolaethau mewnol a mabwysiadu datganiad sy’n adlewyrchu’r asesiad.  Hon yw blwyddyn olaf un y Datganiad o Reolaethau Mewnol - o 2009/10 ymlaen cymerir ei le gan Ddatganiad Llywodraethu blynyddol sydd yn ehangach ei gwmpas.  Yn draddodiadol, mae’r Datganiad o Reolaethau Mewnol wedi bod yn ddogfen sy’n sefyll yn annibynnol, ond mae problem gyda’r amseru eleni oherwydd ei fod yn gorgyffwrdd yn sylweddol gyda’r adroddiad Arolwg Llywodraethu Corfforaethol ac rydym, unrhyw ddiwrnod, yn disgwyl adroddiad ar gasgliadau hwnnw.  Efallai y bydd yr Adroddiad Arolwg yn cael effaith ar y system o Reolaethau Mewnol ond ni fydd y Pwyllgor Archwilio, wrth wneud ei asesiad ef, yn cael gwybod beth sydd yn yr adroddiad.  O’r herwydd roedd yma risg y buasai casgliadau’r Pwyllgor Archwilio ar y Datganiad o Reolaethau Mewnol, beth bynnag fo’r casgliadau, yn gorfod ildio gyda hyn i gasgliadau yr adroddiad Arolwg Llywodraethu Corfforaethol.  Felly mae Datganiad o Reolaethau Mewnol drafft eleni yn dilyn yn agos ddatganiad y llynedd gyda rhywfaint o ddiweddaru yn seiliedig ar wybodaeth a gyflwynwyd gan yr Adroddiad Blynyddol ar Archwilio Mewnol (eitem ar wahân ar raglen y Pwyllgor hwn), a’r Llythyr Blynyddol ac mae’n cael ei ymgorffori fel rhan o’r Datganiad Cyfrifon yn hytrach na bod yn destun adroddiad ar wahân.  Mae’n cyffwrdd â’r amgylchedd rheoli mewnol, yr angen i adolygu ei effeithiolrwydd ac ystyr hynny, a hefyd mater rheolaethau mewnol sylweddol sy’n wynebu’r Awdurdod fel y cawsant eu nodi yng Nghynllun Gwella 2008/09; hefyd mae’n crybwyll yr  Arolwg Llywodraethu Corfforaethol.  Mae’r mater olaf hwn yn gallu arwain at sefyllfa lle bydd y Pwyllgor Archwilio yn newid ei farn ar y Datganiad o Reolaethau Mewnol.  Felly gofynnir i’r Pwyllgor Archwilio dderbyn y Datganiad o Reolaethau Mewnol a gyflwynwyd fel yr asesiad gorau bosib ar y pryd a bod yn ymwybodol yr un pryd y gall y sefyllfa newid.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) am ei adroddiad cyflwyniadol a rhoes wahoddiad i’r Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) fanylu ar brif negeseuon Datganiad Cyfrifon eleni.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) bod y cyfrifon a gyflwynwyd yn adlewyrchu’r sefyllfa ar 22 Mehefin 2009, sef dyddiad eu cyhoeddi.  Yn y cyfamser llenwyd rhai bylchau yn y nodiadau a heddiw cyflwynwyd diwygiad i’r Datganiad Llif Arian ar dudalen 18 y cyfrifon fel diwygiad i un o’r prif gyfrifon.  Roedd gwaith yn dal i gael ei wneud ar rai o’r nodiadau manylaf; fodd bynnag, roedd y Datganiad yn gyflawn yng nghyswllt prif gorff y cyfrifon ac yng nghyswllt y polisïau cyfrifo a bydd unrhyw fylchau sydd ar ôl yn cael eu llenwi yn y dyddiau nesaf a bydd copi terfynol yn cael ei yrru at yr archwilwyr a hefyd, i bwrpas ei archwilio’n gyhoeddus, gyrrir copi at yr aelodau.

 

 

 

Roedd prif negeseuon y Datganiad Cyfrifon yn ymddangos yn y Rhagarweiniad lle crybwyllir y dirwasgiad economaidd ac roedd y canlyniadau, wrth i’r dirwasgiad effeithio ar yr economi leol, yn dangos diffyg yn y Dreth Gyngor a hefyd mewn rhai cyllidebau incwm eraill.  Ond roedd y rhan fwyaf o’r gwasanaethau wedi gwario y tu mewn i’r cyllidebau - ac eithrio’r Gwasanaethau Cymdeithasol lle roedd gorwariant £1.1m ar y gyllideb.  Roedd y broses o gyflwyno prosiectau ailgylchu wedi gostwng yn sylweddol y pwysau sy’n cael ei gludo i safleoedd tirlenwi ac roedd hyn, ynghyd â defnyddio arian clustnodedig wrth gefn ar gyfer gwastraff, wedi caniatáu i ni ddychwelyd £0.94m i falansau cyffredinol Cronfa’r Cyngor a dychwelyd £0.30m i’r arian wrth gefn clustnodedig.

 

 

 

Yn ystod y flwyddyn, roedd gwariant net yr ysgolion wedi cynyddu’r arian wrth gefn (y cyfanswm) o £0.05m i £3.245m.  Roedd cyfanswm wrth gefn yr ysgolion yn dal i fod yn uchel o’i gymharu gydag awdurdodau eraill Cymru a dim ond yr ysgolion unigol all ddefnyddio’r arian ac roedd y sefyllfa yn newid o ysgol i ysgol.  Roedd pedair ysgol â diffyg ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

 

 

Roedd yr eitemau mawrion yng nghyllideb gyfalaf y Cyngor yn ymddangos yn y tabl ar dudalen 3 y Datganiad.  Y cynllun mwyaf oedd symud Ysgol y Graig, Llangefni, a chwblhawyd y cynllun yn ystod y flwyddyn ac agorwyd yr ysgol newydd yn Ionawr, 2009.  Roedd rhaglen gyfalaf y flwyddyn yn nodedig oherwydd y nifer o gynlluniau mawr a gwblhawyd; cwblhawyd yn y flwyddyn y cyfan o’r cynlluniau yn ymwneud â Chynllun Amcan Un oedd yn weddill ynghyd â sawl cynllun unigol arall gan gynnwys Amddiffyn yr Arfordir Trearddur ac Oriel Kyffin Williams.  Ymysg y cynlluniau a gyllidiwyd yn rhannol o’r Rhaglen Amcan Un oedd Cyfleuster Compostio rhanbarthol.  Fel y corff sy’n arwain ar gyfer y tri awdurdod, gwariwyd £3.6m yn y flwyddyn o’r cyfanswm o £4.5m.  Mae’r ased yma’n eiddo i’r tri awdurdod a phob un ohonynt yn gyfrifol am draean o gostau’r ased a’i redeg.  Cychwynnwyd ar yr holl brosiectau mawrion yn 2007/08 ond dechreuwyd ar raglen sylweddol o waith yn y flwyddyn:  y gwaith i uwchraddio’r stoc dai er mwyn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012 a disgwylir i hynny gostio oddeutu £40m.

 

 

 

£2.4m oedd yr ymrwymiadau cyfalaf ar ddiwedd y flwyddyn.  Roedd cyfanswm o £0.9m, ynghyd â benthyciadau wedi’u cymeradwyo ond heb eu defnyddio a oedd yn £3.2m yn ychwanegol, wedi’u neilltuo tuag at yr ymrwymiadau hyn a chynlluniau eraill sydd wedi eu rhaglennu erbyn y dyfodol.  Bydd cynlluniau eraill yn cael eu cyllido o grantiau cymeradwyedig, o dderbynion o werthu asedau a ragwelwyd ac o fenthyciadau.  Mae’r Cynllun Cyfalaf yn ddibynnol ar adnoddau grantiau, derbynion cyfalaf disgwyliedig ac ar y lefel o fenthyciadau yn agos i’r lefel ddisgwyliedig gan y Cynulliad Cenedlaethol pan yn cyfrifo cymorth refeniw.  Mae’r amgylchiadau economaidd wedi cael effaith ar ragolygon gwerthu asedau ac mae’r Cynllun Cyfalaf yn cael ei ddiwygio i gyfateb i’r newidiadau hyn.  Mae nifer fechan o brosiectau wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer benthyciadau heb gefnogaeth ac i’w cyllido drwy gyllideb neu o ffynonellau newydd o incwm - y mwyaf nodedig o’r rhain yw’r cynllun Cynhyrchu Ynni ym Mhenhesgyn - cynhyrchu trydan o nwy methan.  Mae cynllun Oriel Kyffin Williams hefyd yn cael ei gyllido’n rhannol trwy fenthyca heb gefnogaeth, a bydd y cynllun Safon Ansawdd Tai Cymru hefyd yn cael ei gyllido’n rhannol yn y ffordd hon o 2010 ymlaen.

 

Yng nghyswllt sefyllfa ariannol yr Awdurdod ar ddiwedd y flwyddyn mae gwerth net yr Awdurdod, fel a ddangoswyd ar y fantolen, wedi gostwng £55.2m, yn bennaf oherwydd cwymp yng ngwerth yr asedau sefydlog yn ystod y flwyddyn ac oherwydd newid ym maich net Pensiynau’r Cyngor.  Mae’r datganiad yn dangos amcangyfrif ymrwymiad net o £69m yn ymwneud â phensiynau, cynnydd o’r lefel o £41.7m ar 31 Mawrth, 2008.  Yr asesiad gorau o gadernid cyllidol yw i ba raddau y mae’r Awdurdod wedi gwneud darpariaethau ar gyfer ymrwymiadau hysbys a faint o arian wrth gefn dosbarthadwy sydd ar gael ar gyfer risgiau eraill.  Mae’r Cyngor wedi gwneud darpariaethau ar gyfer ymrwymiadau hysbys ac wedi sefydlu arian wrth gefn lle mae’n ofynnol dan y gyfraith, lle mae wedi’i glustnodi dan gynlluniau’r Cyngor, neu lle mae’n bwyllog a doeth ar gyfer risg neu ansicrwydd.  Mae cyfanswm o £1.88m wedi cael ei neilltuo ar gyfer costau’n codi o’r Statws Sengl ac Arfarnu Swyddi, er nad yw hyn yn amcangyfrif o unrhyw ymrwymiad gwirioneddol.  Ar ddiwedd y flwyddyn roedd £3.25m yn arian wrth gefn yr ysgolion, £1.84m yn y Cyfrif Refeniw Tai a £5.54m yn y Balansau Cyffredinol.  Mae cyfanswm yr arian wrth gefn clustnodedig wedi lleihau o £0.39m, yn bennaf o ganlyniad i ostyngiad yn yr Arian wrth Gefn yn y Gwasanaethau, gostyngiad yn yr Arian wrth Gefn LABGI a gostyngiad hefyd yn yr arian wrth gefn i’r Gwariant Cyfalaf ond yn erbyn y rhain, yn rhannol, roedd yn rhaid gosod arian wrth gefn Safle Tirlenwi Gwastraff Penhesgyn, Arian wrth Gefn Yswiriant ac Arian wrth Gefn Ailgylchu.

 

      

 

     Mae’r Cyngor wedi penderfynu defnyddio £1m o’r balansau cyffredinol a £1m arall o amryw gronfeydd wrth gefn clustnodedig er mwyn cefnogi ei gyllideb yn 2009/10.  Yng nghyd-destun y newidiadau economaidd ehangach, mae’r rhagolygon ar gyfer cyllid y sector cyhoeddus yn y blynyddoedd nesaf yn eithriadol o wael.  Roedd yn rhaid ystyried y sefyllfa fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2009 yn erbyn y cefndir hwn.  Hefyd cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth at Gwmni Gwastraff Môn/Arfon; dywedodd bod cyfrifon grwp diwygiedig wedi’u paratoi yn y gorffennol gan ymgorffori 50% o Gwmni Gwastraff Môn/Arfon gan ei fod yn is-gwmni.  Ar ôl diwygio’r Côd Ymarfer yn 2005, cred y Cyngor nad oes raid paratoi Cyfrifon Grwp ac ar ôl i’r cyfranddalwyr wneud penderfyniad i gau’r cwmni yn 2007/08 a throsglwyddo’r asedion gweithredol perthnasol a’r ymrwymiadau i’r Cyngor yn 2007/08, talwyd difidend arall yn Rhagfyr, 2008.  Bydd y gweddill o’r asedau a’r ymrwymiadau yn cael eu dyrannu wrth i’r cwmni gael ei ddirwyn i ben.  Roedd manylion am y cwmni yn ymddangos yn y wybodaeth am fuddsoddiadau a budd mewn cwmnïau.

 

      

 

     Roedd aelodau’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi derbyn y Datganiad Cyfrifon yn fwy prydlon eleni - yn fwy prydlon na’r cyfarfod cyfatebol o’r Pwyllgor y llynedd - a hyn yn rhoddi rhywfaint o amser iddynt fynd trwy’r cynnwys.  Ond roedd y Cynghorwyr John Penri Williams ac H Eifion Jones yn feirniadol o’r amserlen statudol a oedd, fe gredent, yn rhoddi pwysau amhriodol ar adrannau cyllid yr awdurdodau lleol i baratoi cyfrifon mewn amser byr iawn ac o’r herwydd nid oedd hynny’n caniatáu digon o amser i’r aelodau astudio’r dogfennau yn iawn.  Teimlai’r Cynghorydd Williams bod angen cyflwyno’r neges hon yn ffurfiol i Swyddfa Archwilio Cymru.  O ran y wybodaeth yn y cyfrifon am sefyllfa ariannol yr Awdurdod cyfeirodd yr aelodau at y gostyngiad sylweddol yng nghyfanswm gwerth net y Cyngor, a nododd y Cynghorydd J P Williams bod hyn yn cynnwys gostyngiad yng nghwerth stoc dai’r Cyngor, yng nghwerth y buddsoddiadau dan asedau cyfredol, gostyngiad yng nghwerth cyfrif diwygio cyfalaf a hefyd yn y Gronfa wrth Gefn i Bensiynau.  Teimlai ef bod y  gostyngiadau hyn yn sylweddol a gofynnodd beth oedd yr eglurhad am hyn.  Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) bod rhai o’r newidiadau yn cyfeirio at newidiadau mewn gwerth; dim ond symudiadau oedd rhai o’r rhain.  Dywedodd bod angen edrych ar y fantolen mewn dwy ran a bod rhai o’r eitemau y cyfeirir atynt yn y rhan gyntaf o’r fantolen yn symudiadau sy’n adlewyrchu newidiadau eraill yn yr ail ran.  Er enghraifft roedd gostyngiad yn swm y buddsoddiadau yn adlewyrchu’r ffaith bod llai o adnoddau ar gael ar ôl i’r rheini gael eu defnyddio yn ystod y flwyddyn - nid adlewyrchiad oedd hwn ar unrhyw ostyngiad mewn gwerth.  Yng nghyswllt ail ran y fantolen lle cyfeirir at yr arian wrth gefn, bu symudiad sylweddol yn y cyfrif diwygio cyfalaf ac eglurwyd hynny yn Nodyn 11 (Tudalen 25/26).  Aeth y Pennaeth Gwasanaeth ymlaen i egluro bod y dirwasgiad economaidd wedi cael effaith ar werth asedau.  Un eitem arall yn dangos gostyngiad yn y gwerth net oedd y Gronfa Wrth Gefn i Bensiynau (Nodyn 38 - eglurhad ar Dudalennau 33/44) a hyn i’w briodoli’n bennaf i effaith y dirwasgiad a hefyd i newidiadau i werth yr ymrwymiadau yn y Gronfa Bensiwn.  Yr oedd cofnod cyfartal a gwrthbwysol yn y Gronfa Bensiwn yn rhan gyntaf ac yn ail ran y Fantolen.  Roedd hwn yn newid technegol i ddibenion y Fantolen ond hefyd teg dweud bod gostyngiad yng nghwerth y buddsoddiadau pensiwn neu gynnydd yn yr ymrwymiadau - cynnydd mwy na gwerth yr ased - yn debyg o gael effaith ar y Cyngor yn y tymor hir oherwydd bod raid cynyddu cyfraniad y cyflogwr at y Gronfa o’r prisiad actiwarial nesaf ymlaen.  Gofynnodd y Cynghorydd J P Williams a wnaed asesiad o effaith hyn ar y Dreth Gyngor neu ar y gwasanaethau - ac a oedd, o’r herwydd, yn peri risg.  Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) bod cyfeiriadau wedi bod at hyn yn yr adroddiadau i’r Pwyllgor Gwaith ac i’r Prif Bwyllgor Sgriwtini fel mater y mae’n rhaid ei fonitro.  Yng nghyswllt effaith y gostyngiad yng nghyfanswm gwerth net y Fantolen, cyfanswm o £50m, roedd eglurhad llawnach ar y mater yn Nodyn 23 (Tudalen 33) lle cyfeirir at arian wrth gefn nad oes modd ei ddosbarthu ac at arian wrth gefn y mae modd ei ddosbarthu.  Er gwaethaf y gostyngiad o £54m mewn gwerth yn yr arian wrth gefn nad oes modd ei ddosbarthu, newidiadau technegol oedd y rhain; yng nghyswllt yr arian wrth gefn sydd ar gael, dim ond gostyngiad o £1m a welwyd a hynny i’w briodoli i wneud defnydd cynlluniedig o’r arian wrth gefn a gwneud y defnydd gyda chaniatâd o’r balansau yn ystod y flwyddyn.

 

      

 

     Yng nghyswllt pensiynau dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod taliadau’n cael eu cyflwyno i’r gronfa bensiwn trwy gyfraniad y cyflogwr ac fel canran o’r cyflog; bellach roedd cyfraniad y Cyngor fel cyflogwr o gwmpas 22%.  Os ydyw sefyllfa’r Gronfa Bensiwn fel y caiff ei chadarnhau erbyn y prisiad nesaf, yna buasai’n arwain at 10% arall o’r cyflog a hynny’n mynd i gael effaith sylweddol ar gyllideb y Cyngor.  Roedd hon yn broblem genedlaethol i lywodraeth leol, ac onid yw’r marchnadoedd yn cryfhau yn fuan yna mae’n bur debyg y bydd raid ailystyried unwaith eto ddyfodol cronfeydd pensiwn llywodraeth leol.  Diwygiwyd y Gronfa Bensiwn i lywodraeth leol ddwy flynedd yn ôl ac os ydyw pethau’n aros fel y maent efallai y bydd raid cyflwyno rhagor o newidiadau yn y dyfodol.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd J P Williams onid gwell fuasai cael cronfa genedlaethol i bensiwn llywodraeth leol yn hytrach na chronfa sirol.  Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod y ffigyrau sydd yn y cyfrifon yn adlewyrchu cyfran Ynys Môn o gronfa’r pensiwn - cronfa y mae Cyngor Gwynedd yn gofalu amdani dan reoliadau cynllun pensiwn Llywodraeth Leol.  Nid oedd bwriad i gynnal trafodaethau ynghylch sicrhau gwell cydweithrediad yn gyffredinol yng nghyswllt Cronfeydd Pensiwn Llywodraeth Leol.  Ond pwysleisiodd bod yr Awdurdod hwn yn medru cadw ffigyrau am Gronfa Bensiwn Gwynedd oherwydd bod y cynllun yn gynllun a noddir; mae yn y gronfa asedion y mae modd eu hasesu fel rhai digonol neu beidio.  Yn ogystal, roedd yr Awdurdod yn rhan o’r Cynllun Pensiynau i Athrawon - cynllun sydd ddim yn cael ei gyllido ac yn cael ei weinyddu gan yr Adran Addysg a Sgiliau.  Am nad yw’n cael ei gyllido ni all yr Awdurdod hwn amcangyfrif beth yw’r ymrwymiadau dan y cynllun hwn ond er hynny mae’n rhan o’r cynllun fel y mae’n rhan o Gronfa Bensiwn Gwynedd - yr unig beth y gall ei wneud yw cyflwyno disgrifiad o’r cynllun.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd H Eifion Jones oedd canolbwyntio ar y crynodeb ar dudalen 4 o’r Datganiad yng nghyswllt sefyllfa ariannol yr Awdurdod ar ddiwedd y flwyddyn.  Dywedodd bod y sefyllfa a ddangosir yn dangos bod newidiadau dramatig wedi digwydd yn sefyllfa’r Cyngor dros y  flwyddyn.  Roedd y Weinyddiaeth flaenorol wedi neilltuo’r lefel uchaf erioed o arian wrth gefn a mynegodd y Cynghorydd syndod nad oedd effaith y dirwasgiad presennol wedi’i rhagweld a dim gwaith cynllunio wedi’i wneud ar ei chyfer; roedd yn pryderu o sylwi nad oedd y Pwyllgor Gwaith presennol wedi gweithredu i bwrpas ymateb i effeithiau negyddol y sefyllfa economaidd ar gyllid y Cyngor a chredai ef bod defnyddio arian wrth gefn i gynnal cyllideb 2009/10 yn arwydd o banig.  Ar y naill law roedd y Cyngor yn ffodus bod ganddo arian wrth gefn i dynnu arno ond yn anffodus iawn cael ei hun mewn sefyllfa fregus a hynny am nad oedd y Pwyllgor Gwaith wedi ymddwyn yn rhagweithiol yn ystod y flwyddyn a darparu strategaeth i ymateb i’r argyfwng.  Fel a drafodwyd yng nghyfarfod y Prif Bwyllgor Sgriwtini y diwrnod cynt credai ei bod hi’n hen bryd bellach i’r Cyngor edrych ar foderneiddio ei wasanaethau a chymryd safbwyntiau mwy radical yn hytrach na mabwysiadu’r dull cyffredin a thraddodiadol o drin y gwasanaethau trwy gymryd oddi arnynt gyfran o’u harian - dyma’r dull radical a ddefnyddiwyd gan Gyngor Gwynedd ac mae’n rhywbeth y dylai’r Pwyllgor Gwaith fyfyrio uwch ei ben.  

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cadeirydd at bolisïau cyfrifon (tudalen 5 y Datganiad) a chrybwyll yn arbennig y dull o drin asedau sefydlog a gofynnodd am eglurhad pam fod y gwariant ar brynu, creu a hyrwyddo asedau sefydlog yn cael ei gyfalafu yn ôl acriwal a heb gynnwys gwariant sy’n llai na £10,000.  Wedyn eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) beth oedd wrth wraidd y polisi hwn a hefyd ymatebodd i gwestiwn y Cadeirydd ynghylch pam fod cyfran o’r derbynion a geir yn sgil gwerthu tai Cyngor (75%) yn cael ei neilltuo yn wirfoddol i ad-dalu dyledion.  Gan fwrw ymlaen ar bwnc y tai Cyngor cafwyd sylw gan y Cadeirydd y buasai’n ddiddorol cael gwybod beth oedd y gost i’r Cyngor o adeiladu’r tai hyn a faint o arian a gafodd yr Awdurdod wrth werthu cyfran o’r stoc i denantiaid.  Ni wyddai’r Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) i sicrwydd a oedd y wybodaeth honno ar gael ond gallai ddweud bod gwerth y stoc tai Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn yn £93m ac yn erbyn y swm hwn roedd dyledion £10m.  Gofynnodd y Cynghorydd J P Williams a oedd £93m yn cynrychioli gwerth stoc y tai Cyngor petai’r rheini yn cael eu gwerthu ar ddisgownt i denantiaid; gan siarad yn ddamcaniaethol soniodd am werthu’r stoc dai a chrybwyllodd y pwysau cynyddol o gyfeiriad y llywodraeth yn genedlaethol ar y sector preifat i godi tai cymdeithasol er mwyn lleihau’r baich ar fenthyca cyhoeddus.  Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) bod y dull o bennu gwerth yn ymddangos yn y Datganiad o Arferion a Argymhellir a hefyd yn y canllawiau i Briswyr ac y buasai’n darparu’r wybodaeth hon i’r aelod ar ôl y cyfarfod.  Dywedodd hefyd na ddylid pwyso’n ormodol ar werth ased fel y mae’r gwerth hwnnw’n ymddangos ar y fantolen.  Mae’r dulliau prisio yn amrywio gan ddibynnu ar bwrpas yr ased a hefyd ar a ydyw’r prisiad wedi’i roddi i bwrpas y fantolen.  Roedd dull penodol o brisio pob categori o asedion y Cyngor; fel enghraifft roedd adeiladau megis ysgolion yn cael eu prisio fel asedau sydd ar gael i’r diben hwnnw er efallai, a chan ddibynnu ar ffactorau eraill, eu bod werth mwy neu werth llai yn ôl gwerth y farchnad.  Yng nghyswllt stoc dai’r Cyngor roedd y Cyngor wedi penderfynu cadw’r tai a’u gwella; felly roedd hi’n anodd iawn rhagweld sefyllfa lle y câi’r tai eu gwerthu i landlord preifat a fuasai’n fodlon gwneud yr holl waith gwella.  Roedd hi’n ddyletswydd ar y Cyngor i ddefnyddio’r stoc dai fel tai Cyngor a buasai’n anodd iawn gwerthu mwy na chyfran fechan ohonynt i bwrpas gwneud elw.  

 

      

 

     Oherwydd y sefyllfa ariannol a hefyd oherwydd y rhagolygon gwael i gyllid llywodraeth leol yn gyffredinol cytunai’r Cynghorydd J V Owen bod raid i’r Awdurdod edrych yn fanwl ar y cyfan o’i wasanaethau; hefyd cytunai gyda’r farn gyffredinol nad oedd y Pwyllgor byth wedi cael digon o amser i edrych ar y cyfrifon ac oherwydd hynny a hefyd gan mai hwn oedd y tro cyntaf iddo ystyried y cyfrifon fel aelod o’r Pwyllgor Archwilio, ni fuasai’n pleidleisio ar y mater.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd H Eifion Jones cafwyd cynnig i dderbyn y Datganiad Cyfrifon a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J P Williams a ychwanegodd, oherwydd pwysigrwydd y ddyletswydd sydd ar y Pwyllgor Archwilio i fabwysiadu’r cyfrifon, bod y Pwyllgor yn mynegi pryderon yn wyneb y ffaith bod yr amserlen statudol yn rhoddi pwysau amhriodol ar yr Adran Gyllid i baratoi’r Datganiad Cyfrifon erbyn 30 Mehefin, hynny yn ei dro yn golygu nad oedd aelodau yn cael digon o amser i astudio’r  cyfrifon cyn eu cymeradwyo.  Atgoffwyd yr aelodau gan y Cynghorydd Cliff Everett bod ganddynt gyfle eto i gyflwyno sylwadau ar y cyfrifon fel rhan o’r broses o archwiliad cyhoeddus.

 

      

 

     Penderfynwyd -

 

      

 

3.1

Cymeradwyo’r fersiwn ddrafft o’r Datganiad Cyfrifon am 2008/09 i’w gyflwyno ar gyfer archwiliad mewnol ac i’r broses o archwilio cyhoeddus, gyda’r amod bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) yn cael awdurdod i gwblhau unrhyw waith sy’n weddill a chyflwyno unrhyw newidiadau sy’n angenrheidiol.  (Ni phleidleisiodd y Cynghorydd J V Owen ar y mater).

 

3.2

Pwysleisio pryderon y Pwyllgor ynghylch y pwysau amhriodol y mae’r amserlen statudol, yn nhyb y Pwyllgor, yn ei roddi ar yr Adran Gyllid i bwrpas cyhoeddi’r Datganiad Cyfrifon erbyn 30 Mehefin, a hynny’n golygu nad yw aelodau yn cael digon o amser i edrych yn briodol ar y Datganiad cyn ei gymeradwyo.

 

3.3

Derbyn y Datganiad ar Reolaethau Mewnol sydd ynghlwm fel y gwerthusiad gorau ar system o reolaethau mewnol ar hyn o bryd.

 

3.4

Diolch i’r Gwasanaeth Cyllid am y gwaith ar baratoi a chyhoeddi’r Datganiad Cyfrifon.

 

      

 

4     CYLCH GORCHWYL Y PWYLLGOR ARCHWILIO

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar gylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio ac ar a ydyw’r Pwyllgor wedi bod yn cyflawni’r hyn a ddisgwylir ohono.

 

      

 

     Rhoes y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) wybod i’r aelodau bod Cadeirydd presennol y Pwyllgor Archwilio wedi ysgrifennu at yr aelodau ynghylch cael siarter i’r Pwyllgor Archwilio.

 

      

 

     Felly teimlai mai priodol, yn awr, oedd adolygu cylch gorchwyl y Pwyllgor, o ran sicrhau’r arfer gorau a hefyd o ran a ydyw’r Pwyllgor mewn gwirionedd yn cyflawni’r hyn a ddisgwylir ohono.  Roedd yr Atodiad ynghlwm wrth yr adroddiad yn cyflwyno cylch gorchwyl y Pwyllgor fel y diffinnir hwnnw yng Nghyfansoddiad y Cyngor, ac yn cyflwyno’i asesiad ei hun o’r arferion presennol. Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf yn 2007, fel rhan o becyn o newidiadau cyfansoddiadol a chan  gynnwys y syniad o greu Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg, a throsglwyddo’r Is-Bwyllgor Canolbwyntio ar y Cwsmer - Is-Bwyllgor a oedd gynt yn debyg i Banel Tasg a Gorffen dan y Prif Bwyllgor Sgriwtini; fel arall ni chafodd cylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio ei hun ei newid yn sylweddol yn 2007.

 

      

 

     Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ymlaen i ddweud ei fod, yn seiliedig ar asesu’r arferion presennol, yn dymuno dwyn sylw’r aelodau at y casgliadau a ganlyn ynghylch gwaith y Pwyllgor Archwilio fel y mae:-

 

 

 

Ÿ

Y mae wedi canolbwyntio ar waith yr archwilwyr mewnol ac wedi cyflawni ei gylch gorchwyl yn y cyfeiriad hwnnw;

 

Ÿ

Bu llai o ffocws ar waith archwilwyr allanol;

 

Ÿ

Mae’r Pwyllgor wedi gweld ei rôl fel un sy’n cefnogi, ac nid yn sgriwtineiddio’r archwilwyr;

 

Ÿ

Fe ellid cael peth dryswch rhwng gwaith yr archwilwyr allanol (PWC ar hyn o bryd), a gwaith Swyddfa Archwilio Cymru sy’n cynnwys gwaith awdit a hefyd waith archwilio;

 

Ÿ

Dim ond ychydig o sylw a roddwyd i’r rôl lywodraethu a rheoli risg – sydd o bosibl yn rhan o wendid ehangach a diffyg capasiti yn yr awdurdod yn gyffredinol.  Efallai y bydd yr adroddiad archwiliad Llywodraethu Corfforaethol ar y gweill yn cael rhywfaint o effaith ar y mater hwn.

 

Ÿ

Mae yna orgyffwrdd gyda chylch gorchwyl pwyllgorau eraill, neu fe geir pwyllgorau sy’n crwydro i mewn i gylchoedd gorchwyl rhai eraill, ac mae hyn yn lleihau eglurder ac fe all achosi dyblygu gwaith.

 

 

 

Wrth ystyried gwir swyddogaeth y Pwyllgor Archwilio i Gyngor Sir Ynys Môn efallai y bydd yr aelodau’n dymuno trafod rhai o’r materion a ganlyn ac ystyried hefyd rai o’r negeseuon a ddaw o sesiwn hyfforddiant a gafwyd i’w cynorthwyo ar 19 Mehefin:-

 

 

 

Ÿ

Sut gall y Pwyllgor Archwilio fod yn bwyllgor hollol annibynnol fydd yn codi uwchben ystyriaethau gwleidyddol pan fo ei aelodau yn rhai sy’n cymryd rhan yng ngwleidyddiaeth yr Awdurdod?

 

Ÿ

A oes gan y Pwyllgor a’i Is-Bwyllgorau, yr arbenigedd i fynd i’r afael â materion llywodraethu?

 

Ÿ

A ddylid canolbwyntio ar archwilio mewnol yn unig, archwilio mewnol ac archwilio allanol, neu archwilio mewnol ac archwilio allanol a rheoleiddwyr eraill?

 

Ÿ

Beth yw’r berthynas rhwng y pwyllgor a’i is-bwyllgorau?

 

Ÿ

Sut y byddai’r materion uchod yn gorwedd mewn cyd-destun cynnal adolygiad ehangach ar gyfansoddiad y Cyngor?

 

 

 

Pwrpas y papur uchod oedd cychwyn trafodaeth yn unig gan y bydd yr archwiliad Llywodraethu Corfforaethol hefyd o bosib yn cael effaith ar y materion dan sylw.  Efallai hefyd y buasai’n briodol cynnal cyfarfod o’r Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg i argymell newidiadau posibl.

 

 

 

Agorodd y Cynghorydd Cliff Everett drafodaeth ar swyddogaeth y Pwyllgor Archwilio trwy ddweud ei fod ef yn barnu bod y Pwyllgor, at ei gilydd, yn gwastraffu amser ac i gyfiawnhau’r gosodiad cyfeiriodd at ei brofiad ei hun fel Cadeirydd y Pwyllgor y flwyddyn cynt.  Mae’r adroddiad yn gofyn a all y Pwyllgor fod mewn gwirionedd yn annibynnol ac yn rhydd o ystyriaethau gwleidyddol a’i ateb ef i’r cwestiwn oedd nad yw wedi bod, ac nad yw yn awr, yn annibynnol nac yn rhydd o ddylanwad gwleidyddol.  Hefyd cyfeiriodd y Cynghorydd Everett at benodi Cadeirydd presennol y Pwyllgor ac er bod y penodiad hwnnw i fod yn annibynnol credai ef bod ôl y grwp sy’n rheoli arno; credai ef bod gwleidyddiaeth wedi ymwthio i waith y Pwyllgor Archwilio a bod hynny’n tanseilio’r gwaith yr oedd i fod i’w wneud.  A chan nad oedd gofynion statudol i sefydlu Pwyllgor Archwilio credai ef y dylid ei ddileu ac ymgorffori ei gyfrifoldebau y tu mewn i’r Prif Bwyllgor Sgriwtini.

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd iddo godi mater cylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio oherwydd ei bryderon bod y Pwyllgor yn datblygu i fod yn erfyn gwleidyddol ac yn cael ei ddefnyddio yn groes i’r dibenion hynny y sefydlwyd y Pwyllgor ar eu cyfer.  Pwysleisiodd mai dyletswydd y Cyngor oedd sicrhau bod ei fusnes yn cael ei gynnal yn unol gyda’r gyfraith a safonau priodol, a bod arian y cyhoedd yn cael ei ddiogelu a bod cyfrif priodol am yr arian hwnnw a’i fod hefyd yn cael ei ddefnyddio’n economaidd, yn effeithlon ac effeithiol a gwelai ei swyddogaeth fel rhywbeth yn cyfrannu tuag at y broses honno.  Nid oedd erioed, meddai ef, wedi defnyddio ei swydd i gael manteision gwleidyddol.  Mewn ymateb i’r datganiad hwn, gofynnodd y Cynghorydd Everett am eglurhad felly sut y cafodd y Cynghorydd R Llewelyn Jones ei benodi i Gadair y Pwyllgor Archwilio a beth oedd cyfraniad y grwp rheoli yn y penodiad hwnnw.  Gwnaeth y Cadeirydd y sylw ei fod yn fodlon cael trafodaeth agored gyda’r Cynghorydd Everett ond nid yn y Pwyllgor hwn.  Mewn ymateb gofynnodd y Cynghorydd Cliff Everett am i’r cofnodion ddangos nad oedd y Cadeirydd wedi ateb ei gwestiwn.  Fodd bynnag, aeth y Cadeirydd ymlaen i ddweud bod dyletswydd ar y Cyngor dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 i wneud trefniadau i sicrhau gwelliannau parhaus yng nghyswllt cyflawni ei swyddogaethau.  Atgoffodd yr aelodau mai am y rheswm hwn yr etholwyd nhw ac nid i sgorio pwyntiau gwleidyddol.  Ofnai bod yr Awdurdod mewn sefyllfa enbyd a bod Pwyllgor Archwilio sy’n gweithio yn iawn, un sy’n cael ei barchu, yn achubiaeth bosib; yn bersonol roedd yn fodlon ymrwymo i’r dasg er mwyn ceisio sicrhau bod pobl Môn yn cael gwerth am arian.  Ei fwriad wrth ofyn am lunio siarter i’r Pwyllgor Archwilio oedd datgan yn glir bod yr holl Gynghorwyr yn gorfod deall bod dyletswydd gyfrifol iawn ynghlwm wrth fod yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio a hefyd bod raid i’r aelodau werthfawrogi’r cyfrifoldeb sydd arnynt i ddiogelu a sicrhau bod defnydd priodol yn cael ei wneud o arian a dalwyd gan etholwyr Môn i bwrpas rhedeg eu gwasanaethau yn y gymuned.  Pwysleisiodd bod pob ceiniog y mae’r Cyngor yn ei gwario yn dod trwy breswylwyr Ynys Môn yn lleol, trwy’r dreth Gyngor neu’n ganolog trwy nifer o drethi a godir.  Busnes yw’r Cyngor meddai ef, busnes y mae’r aelodau yn ei redeg ar ran y gymuned a bod raid iddynt fod yn ymwybodol o hyn wrth wneud penderfyniadau.

 

 

 

Cytuno gyda’r Gadair a wnaeth y Cynghorydd H Eifion Jones a gwnaeth y sylw bod raid newid diwylliant y Cyngor a sicrhau ei fod yn gweithio mewn ffordd mwy agored a mwy tryloyw.  Hefyd credai bod peth gwir yn sylwadau’r Cynghorydd Everett ar ddull y Pwyllgor Archwilio o weithio - roedd y Pwyllgor Archwilio a Phwyllgorau eraill megis y Prif Bwyllgor Sgriwtini yn cael eu rhedeg ar seiliau gwleidyddol yn bennaf ac at ei gilydd yn diogelu y Pwyllgor Gwaith a’r penderfyniadau a wna’r Pwyllgor hwnnw.  Credai ef bod angen mwy o gynhwysedd ac y dylai’r Awdurdod o bosib ystyried sefydlu Bwrdd neu, fel arall, roi’r swyddogaeth sgriwtini i’r grwpiau sydd yn yr wrthblaid.  Ei obaith ef oedd y deuai’r adroddiad ar yr Arolwg Llywodraethu Corfforaethol i’r un casgliad ac y bydd y Cyngor yn cael ei redeg yn fwy proffesiynol.  Cyfeiriodd at bwynt (ix) yn yr Atodiad ynghlwm wrth yr adroddiad lle dywedir mai un o gyfrifoldebau’r Pwyllgor Archwilio yw paratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod blynyddol y Cyngor yng nghyswllt ei waith dros y flwyddyn a chan na chafodd hyn ei gyflawni dywedodd bod hynny’n fethiant y bydd y Cadeirydd, gobeithio, yn ymdrechu i’w gywiro.

 

 

 

Os oedd y Cadeirydd yn dymuno gwella materion credai’r Cynghorydd J V Owen y buasai’n glod iddo petai’n cydnabod nad yw’r Pwyllgor Archwilio yn bwyllgor statudol ac o’r herwydd yn gofyn i’r Cyngor Sir a ydyw yn gweld bod angen iddo barhau.  Credai bod yma ddadl dros gryfhau swyddogaeth y Prif Bwyllgor Sgriwtini yn lle hynny, ac felly cynigiodd bod y Pwyllgor yn symud ymlaen yn ôl yr awgrymiadau hyn.

 

 

 

Er nad oedd popeth ynghylch y Pwyllgor Archwilio wedi bod yn berffaith dywedodd y Cynghorydd H Eifion Jones mai hwn oedd yr unig Bwyllgor a ddylai, dan ddarpariaethau’r Cyfansoddiad, gael Cadeirydd annibynnol ac ni fedrai amgyffred sut bod cyfuno ei swyddogaeth gyda’r Prif Bwyllgor Sgriwtini yn mynd i wella’r sefyllfa mewn unrhyw ffordd amlwg - awgrymodd efallai y buasai pethau’n waeth wedyn.  Cafodd swyddogaeth y Pwyllgor Archwilio ei egluro a’i gryfhau pan adolygwyd y Cyfansoddiad yn 2007 ac felly nid oedd ei gyfuno gyda Phwyllgor arall, un heb Gadeirydd annibynnol, yn mynd i wella pethau.  Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd J V Owen ei fod am ddiwygio ei gynnig gwreiddiol, sef cyflwyno’r mater i’r Cyngor, gyda’r argymhelliad ychwanegol fod y Prif Bwyllgor Sgriwtini yn cael Cadeirydd annibynnol.  Credai ef bod yr  Awdurdod angen goruchwyliwr annibynnol i sicrhau bod yr holl fusnes yn cael ei wneud yn briodol a bod pawb yn cydymffurfio.

 

 

 

Daeth Mr Alan Morris, Swyddfa Archwilio Cymru, i mewn i atgoffa’r aelodau y buasai’r Archwiliwr Cyffredinol yn cyhoeddi Arolwg Llywodraethu Corfforaethol gyda hyn, ac er nad oedd yn briodol iddo siarad am ei gynnwys, ond o gofio beth yw cylch gorchwyl yr adroddiad a’i faes bydd raid rhoddi sylw, ar ôl ei gyhoeddi, i faterion megis hunanreolaeth y tu mewn i’r Cyngor a threfniadau sgriwtini.  Felly, roedd yn cynghori y dylai’r Awdurdod aros hyd oni fydd yr adroddiad arolwg wedi’i gyhoeddi, a’i argymhellion ar gael, cyn symud ymlaen i gomisiynu unrhyw arolygon ar agweddau penodol o lywodraeth y Cyngor a threfniadau cyffelyb eraill.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Cliff Everett yn dal i gredu nad oedd dyfodol i’r Pwyllgor Archwilio; roedd y gwaith y ceisiodd ei wneud fel Cadeirydd y Pwyllgor ar ddatrys y materion a godwyd yn y Llythyr Blynyddol wedi’i rwystro ar bob gafael yn wleidyddol a chredai ef iddo fod yn wastraff o amser.  Er credu bod y swyddogion yn gwneud gwaith rhagorol yn gwasanaethu’r Pwyllgor hwn, awgrymodd y gallent wasanaethu’r Prif Bwyllgor Sgriwtini yn yr un ffordd, a bod modd newid y Cyfansoddiad fel bod y Pwyllgor hwnnw’n cael ei gadeirio’n annibynnol.  Felly, ac yn anffodus, roedd am eilio cynnig y Cynghorydd J V Owen y dylid gofyn i’r Cyngor Sir ystyried dyfodol y Pwyllgor Archwilio gan nad yw Pwyllgor o’r fath yn angenrheidiol yn statudol a hefyd roedd modd cyfuno ei swyddogaethau gyda rhai y Prif Bwyllgor Sgriwtini.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd H Eifion Jones yn dal o’r farn bod raid rhoddi sylw priodol i gasgliadau’r Arolwg Llywodraethu Corfforaethol cyn cymryd unrhyw gamau yng nghyswllt dyfodol y Pwyllgor Archwilio hwn ac er ei fod yn cydymdeimlo gyda sylwadau’r Cynghorwyr Everett a J V Owen, credai ef y câi’r materion a godwyd sylw yn yr adroddiad Arolwg.  Felly roedd am gynnig bod y mater yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor a chafodd gefnogaeth y Cynghorydd J P Williams.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd J V Owen ei fod yn fodlon gollwng y mater tan y cyfarfod nesaf ond roedd yn pwysleisio bod raid cyfleu’r neges bod yma ddymuniad i newid er gwell.  Wrth gytuno i dynnu ei gefnogaeth yn ôl i eilio’r Cynghorydd J V Owen holodd y Cynghorydd Everett a fuasai’r Pwyllgor Archwilio yn cael y cyfle i ystyried yr Adroddiad Arolwg Llywodraethu Corfforaethol; credai ef y dylid rhoddi’r cyfle iddo o gofio bod y daith wedi cychwyn pan roes y Pwyllgor Archwilio sylw i’r Llythyr Blynyddol yn ôl yn Ionawr.  Cafodd gefnogaeth yn hyn o beth gan y Cynghorydd H Eifion Jones.  Cafwyd sylw gan Mr Alan Morris, o Swyddfa Archwilio Cymru, y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi a’i ryddhau i’r Cyngor - mater i’w drafod ac i’w gytuno gyda’r Cyngor oedd y trefniadau hynny ynghylch y dull o’i gyflwyno i’r Cyngor fel endid corfforaethol.  Ond disgwylir y bydd y darn hwn o waith, oherwydd ei natur, yn cael ei gyflwyno i’r holl Gynghorwyr.  Ychwanegodd y Cynghorydd Everett iddo ofyn yn benodol, pan oedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, am gyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor hwnnw oherwydd tybio na fuasai rheolau trafodaeth yn caniatáu i’r adroddiad gael ei ystyried yn ystyrlon yn y Cyngor llawn.  Felly cynigiodd bod Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn gofyn am gyflwyno’r Adroddiad Arolwg Llywodraethu Corfforaethol i’r Pwyllgor Archwilio, a galw cyfarfod arbennig petai raid.  Eiliodd y Cynghorydd H Eifion Jones y cynnig hwn ac mewn ymateb holodd Mr Alan Morris a fuasai cyfarfod o’r fath yn digwydd cyn cyfarfod o’r Cyngor.  Er nad mater i Swyddfa Archwilio Cymru oedd gwneud unrhyw awgrym ynghylch y dull o drin y ddogfen roedd rhagdybiaeth y buasai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r holl Gynghorwyr.  Yn wyneb hyn cynigiodd y Cynghorydd Everett bod holl aelodau’r Cyngor yn cael gwahoddiad i gyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio pan fydd hwnnw yn ystyried yr adroddiad a chynnal y cyfryw gyfarfod yn ôl rheolau trafodaeth y Pwyllgor Archwilio.

 

 

 

Yma rhoes y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) gyngor bod raid trin y mater mewn ffordd synhwyrol ac os ydyw’r adroddiad Arolwg yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn yna rhydd hynny’r cyfle, wedyn, i Gadeiryddion Pwyllgorau eraill alw cyfarfodydd ohonynt; yn ôl confensiwn gall Cadeiryddion Pwyllgorau alw cyfarfodydd ac roedd yn rhaid trin y broses yn briodol gan fod yr holl aelodau yn mynd i fod â diddordeb yn yr adroddiad a phawb eisiau bod yn rhan o’r drafodaeth.  Ond petai Cadeiryddion y Pwyllgorau eraill yn awyddus i alw cyfarfodydd yna mae breintiau penodol gan Gadeirydd y Cyngor a’r llwybr hwnnw fydd yr un a ddilynir.  

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Cliff Everett bod Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn galw cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Archwilio cyn gynted ag y bydd y Cyngor llawn wedi ystyried yr Adroddiad Arolwg Llywodraethu Corfforaethol.  Cytunodd y Pwyllgor i gefnogi’r cynnig hwn.

 

 

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad, ac unwaith y bydd y Cyngor llawn wedi ystyried yr Adroddiad Arolwg Llywodraethu Corfforaethol bod Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn galw cyfarfod arbennig ohono’n fuan wedyn i drafod yr adroddiad.

 

 

 

5     CYNLLUN RHEOLEIDDIO’R RHEOLWR CYDBERTHYNAS

 

      

 

     Cyflwynwyd - Cynllun Rheoleiddio y Rheolwr Cydberthynas am 2008/09 i Gyngor Sir Ynys Môn yn nodi’r gwaith a fydd yn cael ei wneud gan yr Archwiliwr Cyffredinol ac ar ei ran ac yn nodi hefyd pwy fydd yr Archwilwyr penodedig a chostau’r gwaith.  Hefyd roedd y Cynllun yn cyffwrdd â gwaith Arolygfa Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (yn Saesneg yr CSSIW) ac Estyn.  Yn ychwanegol at y Cynllun cyflwynir Cynllun Cyfrifon Cyllidol manylach a rhagor o wybodaeth am sgôp yr astudiaethau perfformiad ac archwilio fel y cytunir ar y rheini yn ystod y flwyddyn.  

 

      

 

     Yn y Cynllun roedd y pwyslais ar archwilio’r cyfrifon; barn yr archwiliwr ar a oedd gan Gyngor Sir Ynys Môn drefniadau i ddarparu gwerth am arian ai peidio; y gwaith archwilio ar y Cynllun Gwella; gwaith archwilio perfformiad (gwerth am arian); archwilio, ac Astudiaethau Cymru Gyfan.

 

      

 

     Eglurodd Mr Alan Morris o Swyddfa Archwilio Cymru bod yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno’n hwyrach nag arfer eleni a hynny oherwydd bod raid bod yn glir ynghylch sgôp a chostau yr Arolwg Llywodraethu Corfforaethol.  Eleni bydd pwyslais gwaith Swyddfa Archwilio Cymru ar lywodraeth gorfforaethol ac mae hyn yn cynnwys yr adroddiad Arolwg sydd bron wedi’i gwblhau.  Hefyd roedd darpariaeth yn y Cynllun i’r Arolygwyr wneud gwaith dilyn-i-fyny.  Mae’n amlwg y bydd raid gwneud rhywfaint o waith ar ôl cyhoeddi’r adroddiad Arolwg a chytunir ar union natur y gwaith hwnnw ac ar faint ohono y bydd raid ei wneud gyda’r Cyngor.  Er bod gwaith Swyddfa Archwilio Cymru yn weddol benagored am weddill y flwyddyn bydd yn seiliedig ar yr argymhellion yn codi o’r adroddiad Arolwg.

 

      

 

     Dywedodd Mr James Quance, PWC y bydd yr archwilwyr allanol yn canolbwyntio ar bedwar maes yn bennaf - archwilio cyfrifon 2008/09, sef y rhan fwyaf o’r gwaith; y casgliad ar y trefniadau i sicrhau gwerth am arian yn 2008/09; archwilio’r Cynllun Gwella ac Archwilio Perfformiad.  O ran PWC roedd hi’n anodd asesu faint o waith y bydd raid ei wneud hyd nes cael canlyniadau’r Arolwg Llywodraethu Corfforaethol; cynhwyswyd rhai darnau o waith yn y Cynllun gyda golwg ar eu cyflawni, ond mae yma elfen o orfod amcangyfrif lefel y gwaith y bydd raid ei wneud, hyd nes cael canlyniadau’r arolwg.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn Cynllun Rheoleiddio’r Rheolwr Cydberthynas.

 

6     ADOLYGIAD PWC O WAITH ARCHWILIO MEWNOL

 

      

 

     Cyflwynwyd - Fersiwn ddrafft o adroddiad PWC ar gasgliadau’r arolwg ar waith Archwilio Mewnol yng Nghyngor Sir Ynys Môn.

 

      

 

     Dywedodd Mr James Quance, PWC bod y gwaith adolygu wedi’i wneud yn erbyn Safonau Archwilio Mewnol y Llywodraeth (SAMLl) ac roedd hwnnw’n asesu a oedd Adran Archwilio Mewnol y Cyngor yn gweithio yn unol â’r hyn sy’n cael ei ystyried yn ymarfer da, fel a nodwyd yn y SAMLl, a bod trefniadau yn eu lle yn y Cyngor i hwyluso cydymffurfiad gyda’r safonau.  Perfformiwyd yr asesiad trwy gyfuniad o ymholiadau, arsylwadau a phrofi sampl fel oedd yn briodol.  Casgliadau cyffredinol yr arolwg oedd bod gwaith Archwilio Mewnol Cyngor Sir Ynys Môn yn cydymffurfio gyda Safonau Archwilio Mewnol y Llywodraeth.  Mae PWC yn cynnal asesiad blynyddol o waith Archwilio Mewnol i bwrpas sicrhau y gall yr Archwiliwr Allanol ddibynnu ar ei waith i gefnogi gwaith archwilio cyfrifon; bob hyn a hyn o flynyddoedd mae gwaith adolygu manylach yn cael ei wneud ar y swyddogaeth a hynny’n erbyn y safonau perthnasol, ac mae’r arolwg manylach hwnnw wedi’i gynnal eleni.  

 

      

 

     Ar hyn o bryd mae gwaith Archwilio Mewnol y Cyngor yn cael ei reoli gan gwmni RSM Bentley Jennison.  Y cwmni hwn sydd yn darparu ar gyfer y swydd Pennaeth Archwilio Mewnol, ac mae ef yn rheoli tîm o bum Archwiliwr Mewnol a gyflogir gan y Cyngor.  Aseswyd y trefniadau oedd yn eu lle, a gwelwyd bod ymarfer da yn cael ei ddilyn yn erbyn saith o safonau’r SAMLl a phedwar oedd yn dilyn ymarfer da yn gyffredinol ond gyda lle i wella.  Nid oedd yr un SAMLl yn cyfateb i ymarfer gwael.

 

     Dyma’r meysydd y dylai’r Cyngor ystyried eu gwella -

 

      

 

Ÿ

Dylai’r Pwyllgor Archwilio adolygu’r cylch gorchwyl Archwilio Mewnol (Siarter Archwilio) yn flynyddol.  Dylai’r Pwyllgor Archwilio asesu perfformiad yr Adran Archwilio Mewnol yn erbyn y cylch gorchwyl.  (Safon 1)

 

Ÿ

Dylid cychwyn ar raglen sy’n nodi’r anghenion hyfforddi i swyddogion Archwilio Mewnol a sicrhau bod hyfforddiant priodol ar gael yn gyson. (Safon 3)

 

Ÿ

Dylid cychwyn ar raglen o adolygiadau mewnol ac allanol rheolaidd, i ddarparu adborth annibynnol ar ansawdd gwaith yr Adran Archwilio Mewnol.  (Safon 4); a

 

Ÿ

Dylai adrannau ddefnyddio system dracio yr Adran Archwilio Mewnol i fonitro gweithrediad yr argymhellion (Safon 10).

 

 

 

Ar dudalennau 4 - 11 yr adroddiad manylwyd ar ganfyddiadau manwl yr arolwg yn erbyn y cyfan o’r un ar ddeg o SAMLl.

 

 

 

Y rhain oedd sylwadau’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar y meysydd i’w gwella -

 

 

 

Ÿ

Cylch Gorchwyl Archwilio Mewnol - mabwysiadwyd y rhain ers tro byd, ac er y byddant yn cael eu hadolygu ni ragwelir y byddant yn cael eu newid yn sylweddol.  Mae cyflwyno Cynllun Archwilio Mewnol i’r Pwyllgor Archwilio eisoes yn rhan o’r cylch gwaith ac efallai bod hwn yn amser priodol i adolygu/gadarnhau’r cylch gorchwyl.  Hefyd mae Adroddiad Blynyddol ar Archwilio Mewnol sy’n cynnwys arolwg o’r perfformiad a buasai hwnnw’n amser priodol hefyd i adolygu a ydyw’r Uned Archwilio Mewnol yn cyflawni’r cylch gorchwyl ai peidio.  Mae modd rhoddi sylw i’r argymhelliad cyntaf y tu mewn i’r trefniadau presennol.

 

Ÿ

Gwneud gwell defnydd yn yr adrannau o’r system dracio Archwilio Mewnol - gwaith yn mynd yn ei flaen yn dda ar hyn ac felly mae’n asio’n iawn gyda’r hyn y mae’r Uned Archwilio Mewnol yn ei wneud yn barod.

 

Ÿ

Cychwyn rhaglen o waith adolygu ar safon gwaith archwilio mewnol ac allanol yn rheolaidd - fel a nodwyd uchod mae archwilwyr allanol yn cynnal arolwg blynyddol ar archwilio mewnol i roddi prawf ar y system archwilio mewnol ac ar a ydi’n bosib dibynnu arni i ddibenion archwilio’r cyfrifon.  Arolwg cyfyngedig yw hwn i ddiben penodol, ac er bod angen gwneud asesiad ehangach nid yw’r gwaith arolwg manwl, megis hwnnw a wnaed uchod gan PWC, yn angenrheidiol bob blwyddyn.  Hefyd byddwn yn pwyso ar y berthynas gydag RSM Bentley Jennison ac yn monitro trefniadau contract gyda RSM Bentley Jennison er mwyn sicrhau bod gwaith adolygu yn cael ei wneud yn rheolaidd yn y dyfodol ar gydymffurfiad.

 

Yng nghyswllt sefydlu rhaglen waith i adolygu’r ansawdd dywedodd Mr Patrick Green bod gan RSM Bentley Jennison dîm o arolygwyr annibynnol sy’n gweithio ar adolygu gwaith cleientau.  Petai RSM Bentley Jennison yn gwneud y gwaith adolygu hwn fel rhan o gontract cyfun gydag Ynys Môn buasai hynny’n digwydd unwaith bob tair blynedd.  Teimlai ef bod modd cynnwys y swyddogaeth Archwilio Mewnol y tu mewn i’r broses o adolygu ansawdd.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynghylch costau tebygol y gwaith dywedodd Mr Patrick Green nad oedd y gwaith dan sylw yn dasg fawr - roedd yn cyfateb i siwrnai un dydd gan gynnwys un ymweliad dwys - ac roedd modd ei ymgorffori y tu mewn i’r contract presennol ac ni fuasai hynny’n achosi costau parhaus.  

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd J V Owen beth oedd cost yr holl broses archwilio a thybiai bod yr archwilwyr yn gwneud gwaith da ond hoffai gael swm ar gyfer y gwaith.  Gan y Cadeirydd cafwyd sylwadau ar sut yr oedd rhuthro a gwneud gwaith siecio annigonol yn fyd-eang wedi arwain at yr argyfwng presennol yn y sector ariannol ac felly roedd modd dadlau bod yr Awdurdod yn Ynys Môn wedi bod yn ddoeth ac yn ofalus yn agor ei hun i broses archwilio drylwyr.  Ond hoffai ef wybod hefyd sut yr oedd Ynys Môn yn cymharu gydag awdurdodau eraill yng Nghymru o ran gwario ar drefniadau archwilio.  Yma cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) y Pwyllgor at Nodyn Rhif 39 ar Dudalen 47 y Datganiad Cyfrifon lle ceir costau’r gwaith archwilio allanol a rheoleiddio.  Er nad oedd y costau archwilio mewnol wedi’u nodi yn y Datganiad Cyfrifon roedd cyfanswm y costau yn llai na chostau archwilio allanol a bod y costau unedol gryn dipyn yn is.  Fel amcangyfrif, roedd costau archwilio i’r swyddogaethau mewnol ac allanol yn cyfateb i 0.5% o gyfanswm y gwariant.  

 

 

 

Roedd y Cynghorydd H Eifion Jones yn croesawu’r adroddiad fel dogfen ragorol a chynigiodd ei derbyn.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn y fersiwn ddrafft o adroddiad PWC ar yr Arolwg o swyddogaethau Archwilio Mewnol Cyngor Sir Ynys Môn.

 

 

 

7

ARCHWILIO MEWNOL

 

      

 

7.1

Cyflwynwyd - Yr Adroddiad ar Archwilio Mewnol am 2008/09.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Archwilio at y prif bwyntiau yn codi o waith y flwyddyn fel a ganlyn-

 

 

 

Ÿ

Roedd y gymhariaeth rhwng y gwaith a gynlluniwyd a’r gwaith gwirioneddol yn ôl y tabl yn rhan  2 yr adroddiad yn dangos bod 713 o ddiwrnodau mewn gwirionedd wedi’u treulio ar waith archwilio cynlluniedig yn erbyn yr 880 o ddyddiau a gynlluniwyd, sef gwahaniaeth o 167.  Roedd nifer y dyddiau targed y tu allan i waith archwilio i’w briodoli i waeledd yn y chwarteri cynt, rhagor o ddyddiau yn cael eu treulio ar hyfforddiant, llenwi bylchau ar gyfer absenoldeb mamolaeth a hyfforddeion fel bod modd iddynt gyfrannu at gyfanswm y dyddiau rhaglenedig.  Roedd hyn wedi gostwng nifer y dyddiau ar gael i’r gwaith archwilio cynlluniedig ac adlewyrchir hyn yn y tabl.

 

Ÿ

Roedd cyfanswm o 81.6 o ddyddiau wedi’u treulio yn ychwanegol at y 50 dydd cynlluniedig ar ymchwiliadau arbennig.  Cafwyd nifer o atgyfeiriadau yn hawlio sylw’r Archwilio Mewnol yn y  flwyddyn ac yn arbennig, un achos yn ymwneud â grant adnewyddu a hynny’n golygu bod raid tynnu archwilwyr am gyfnodau hir oddi ar y dyletswyddau arferol.

 

Ÿ

Nid yw’r gymhariaeth rhwng y dyddiau gwirioneddol a’r dyddiau cynlluniedig, er bod y rhain yn dangos yn fras sut yr oedd amser y staff yn cael ei dreulio yn ystod y flwyddyn, yn dangos faint o ddeilliant a gynhyrchwyd (h.y. faint o unedau o waith archwilio a gwblhawyd).  Roedd y tabl dan adran 3.1 yr adroddiad yn dangos y gymhariaeth rhwng nifer yr unedau archwilio cynlluniedig a’r nifer wirioneddol a gwblhawyd.  Fel sy’n digwydd bob blwyddyn bu’n rhaid diwygio’r cynllun archwilio i wneud lwfans ar gyfer ffactorau amrywiol trwy gydol y flwyddyn.  Roedd y ffactorau hyn yn ymwneud yn bennaf â gwaith ychwanegol y bu’n rhaid ei wneud yng nghyswllt risgiau esblygol a hefyd yng nghyswllt y cynnydd yn nifer y dyddiau a oedd yn angenrheidiol.

 

Ÿ

Cwblhawyd 44 adroddiad archwilio ffurfiol yn ystod 2008/2009, o’u cymharu â 37 yn y flwyddyn flaenorol.  Mae’r cyfanswm felly’n cymharu’n ffafriol gyda 2007/08.  Cwblhawyd 61 adolygiad neu fe gawsant eu cwblhau’n rhannol yn 2008-09 neu 74% o’r adolygiadau a gynlluniwyd.  Fe gafodd y gwaith hwn ei flaenoriaethu mewn cyswllt â’r Swyddog Adran 151 a’r Archwiliwr Allanol ac fe gyflwynwyd adroddiadau rheolaidd ar hyn i’r Pwyllgor Archwilio.  Roedd y cyfan o’r adolygiadau ariannol allweddol yn y cynllun wedi’u cwblhau a’u rhoi allan.

 

Ÿ

Er bod gwaith wedi’i gynllunio ar gyfer blynyddoedd unigol o fewn y cynlluniau strategol a blynyddol, fe geir peth gwaith unigol yn cario ymlaen o un flwyddyn i’r llall,  yn arbennig gwaith archwilio mawr neu archwiliadau sy’n dechrau’n agos i ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Adlewyrchir hyn yn y ffaith bod, ar ddiwedd y cyfnod, saith adolygiad system a saith adolygiad sefydliad o fewn y cyfnod adroddiad drafft a thri adolygiad system lle roedd gwaith yn parhau cyn i adroddiad drafft gael ei ddosbarthu. Fe roddwyd sylw i’r llithriad yng Nghynllun Gweithredol 2008-09 wrth lunio’r Cynllun Strategol Archwilio Mewnol 2009 – 2010 ac felly mae rhai o’r adolygiadau na chawsant eu gwneud yn 2008-09 yn awr yn ymddangos mewn blynyddoedd i ddod yn y Cynllun Gweithredol.

 

Ÿ

Yn Rhan 4 yr adroddiad amlinellir perfformiad yr Adain Archwilio Mewnol am y flwyddyn yn erbyn set o ddangosyddion perfformio y cytunodd y Pwyllgor Archwilio arnynt ac mae y rhain yn dangos fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

O ran mewnbwn roedd costau’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi eu rheoli’n dda gyda’r gost o brynu contractwr i mewn i wneud gwaith a gynlluniwyd yn cael ei wrthbwyso gan yr arbedion ar lefydd gwag yn ystod y cyfnod.  Roedd y gwariant cyllidebol gwirioneddol yn erbyn yr amcangyfrif (95%) yn is na tharged CIPFA ar gyfer awdurdodau tebyg.

 

 

 

Yn gyffredinol roedd ffigyrau’r mewnbynnau am 2008/09 yng nghyswllt y gost am bob diwrnod archwilio y codir amdano (£290); cost swydd Amser Llawn Cyfatebol (£50k) a hefyd fel canran o’r staff cymwys CCAB i gyd yn cymharu’n ffafriol gyda thargedau CIPFA.

 

 

 

Ÿ

O ran Allbynnau, roedd nifer y dyddiau y codwyd amdanynt am archwilydd yn 157 dydd ac yn llai na’r cyfartaledd meincnod am 2007/08, sef 168 dydd ac i lawr ar allbwn y flwyddyn flaenorol ar 182 dydd.  Y rhesymau am hyn oedd salwch a llefydd gwag ar ddechrau’r flwyddyn hyd at Fehefin 2008. Tra roedd canran yr archwiliadau a gynlluniwyd ac a gafodd eu cwblhau yn is na’r targed a osodwyd ar gyfer 2009/10 ar 74%,  roedd hyn yn gynnydd sylweddol ar allbwn 2007/08, sef 41% o’r archwiliadau rhaglenedig yn cael eu cwblhau.  Gan y bydd Cynllun Busnes 2009/10 yn cael ei weithredu, y gobaith oedd y buasai’r targed 90% yn cael ei gyflawni yn ystod y flwyddyn hon.  Megis yn 2007/08 roedd  canran yr argymhellion y cytunwyd arnynt adeg yr adroddiad terfynol yn 100%.  Sicrhawyd hyn trwy wneud yn siwr bod rheolwyr yn ymwybodol o waith archwilio a chanlyniadau trwy gydol y gwaith archwilio maes a thrwy gynghori’r rheolwyr perthnasol cyn rhyddhau’r adroddiadau drafft.

 

 

 

Ÿ

O ran Ansawdd, roedd canlyniadau i’r holiaduron ansawdd cleient yn dal i fod yn uwch na’r targedau a bennwyd, gyda’r perfformiad yn 2008/09 yn dangos bodlonrwydd 100% a 71% gyda chyfartaledd ‘Da’ neu uwch o’r 21 holiadur a ddychwelwyd ac a gwblhawyd.

 

 

 

Ÿ

O ran y casgliadau cyffredinol ar y meysydd a archwiliwyd i’r arolygon a’r systemau roedd y raddfa gyfartaleddog yn seiliedig ar yr holl waith a wnaed yn “Digonol” sef yr un fath â 2007-08; ac yng nghyswllt arolygon ar y sefydliad roedd y raddfa ar gyfartaledd yn “ C” sydd eto yr un fath â 2007-08. Mae’r radd gyffredinol “Digonol” ar gyfer adolygiadau system a’r “C” ar gyfer arolygon sefydliad yn golygu bod risg fach iawn i isel i’r Awdurdod.  Yn seiliedig ar sgôp y gwaith a wnaed, ac os gweithredir ar y camau argymhellir i’r rheolwyr ac os ydyw’r systemau hynny yn parhau i weithredu yn ôl y bwriad, ni wnaeth yr archwiliwr nodi unrhyw wendid arwyddocaol cyffredinol mewn rheolaethau fyddai’n rhwystro’r Cyngor rhag gallu dibynnu yn rhesymol ar y system o reolaethau mewnol yng nghyswllt y systemau hynny a archwiliwyd yn ystod y flwyddyn.  Fodd bynnag, dylid nodi na all unrhyw system o reolaethau mewnol ond darparu sicrwydd rhesymol, ac nid sicrwydd llwyr, yn erbyn camddatganiadau sylweddol neu golled.  

 

Ÿ

Nid oedd yr archwiliadau a wnaed ac a gwblhawyd yn nodi unrhyw feysydd lle roedd pryder o arwyddocâd neu’n allweddol i fusnes y Cyngor yn gyffredinol.  Fodd bynnag, fe wnaeth yr adolygiad o Barhad Busnes dderbyn barn sicrwydd ‘cyfyngedig’ ac mae yna angen gwella’r rheolaethau mewnol yn y maes pwysig hwn.  Mae’r rheolwyr wedi derbyn y Cynllun Gwaith perthnasol ac maent yn y broses o weithredu ar yr argymhellion a wnaed.

 

Ÿ

Mae canlyniad yr holl adroddiadau Archwilio Mewnol a gwblheir yn destun adroddiadau i’r Pwyllgor Archwilio, trwy adroddiadau Cynnydd Archwilio Mewnol Chwarterol y Rheolwr Archwilio.  Cyflwynir adroddiadau manwl i’r Pwyllgor Archwilio ar bob adolygiad system sy’n derbyn barn sicrwydd ‘Cyfyngedig’ neu adolygiad sy’n derbyn gradd ‘D’ neu ‘E’.  Yn 2008-09 ni chafwyd ‘run canlyniad sy’n adlewyrchu’n niweidiol ar farn y fframwaith rheolaeth fewnol a ddatganwyd yn y Datganiad Rheolaeth Fewnol.

 

 

 

Roedd yr Aelodau â diddordeb arbennig yn y gwaith ymchwilio arbennig yng nghyswllt grant adnewyddu a oedd wedi llyncu cymaint o amser y staff archwilio mewnol a gofynnwyd a oedd modd cyflwyno rhagor o wybodaeth ar y pwnc i’r Pwyllgor Archwilio.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Archwilio bod yr Uned Archwilio Mewnol eisoes wedi paratoi adroddiad drafft golygedig ar yr achos a gallai’r adroddiad hwn fod ar gael i’r Pwyllgor Archwilio unwaith y cwblheir ef.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod y pwnc wedi mynd ag amser ac adnoddau sylweddol ac fe ddylai hynny fod yn fater o bryder i’r Pwyllgor.  Roedd cyn Gadeirydd a Chadeirydd presennol y Pwyllgor Archwilio wedi cael eu briffio ar y mater ac roedd aelodau o’r cyhoedd wedi codi cwestiynau yn ddi-baid o sawl cyfeiriad a phan welwyd yr achos gyntaf roedd hi’n ymddangos bod yma anghysonderau y buasai’n rhaid i’r Adain Archwilio Mewnol edrych arnynt.  Ond yn ôl holl dystiolaeth y gwaith a wnaed hyd yma nid hwnnw oedd yr achos;  mae’n fater mwy cymhleth ond roedd modd dweud nad oedd cyswllt yma gydag unrhyw fater gwleidyddol.  Cyflwynwyd fersiynau golygedig o adroddiadau i achwynwyr mewn ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn yr Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol am 2008/09 a nodi ei gynnwys.

 

 

 

7.2

Cyflwynwyd - Adroddiad cynnydd y Rheolwr Archwilio Mewnol ar waith yr Adain am y cyfnod 1 Ebrill hyd at 31 Mai, 2009.

 

      

 

     Dygodd y Rheolwr Archwilio sylw at y prif bwyntiau a ganlyn i bwrpas eu hystyried -

 

      

 

Ÿ

Cytunwyd ar Gynllun Gweithredol 2009-10 yn y Pwyllgor Archwilio a gafwyd ar 16 Ebrill 2009.  Paratowyd y Cynllun mewn ymgynghoriad gyda’r Archwiliwr Allanol, gyda’r Swyddog Adran 151 a thrwy gyfarfodydd a gohebiaeth gyda’r Penaethiaid Gwasanaeth.  Roedd y Tabl yn rhan 2.2 yr adroddiad yn dangos y cynnydd yn erbyn rhagamcan yn y Cynllun Archwilio Mewnol  hyd at 31 Mai, 2009.

 

Ÿ

Roedd y tabl yn rhan 2.4 yr adroddiad yn dangos y gymhariaeth rhwng y dyddiau cynlluniedig i bob categori o waith yn erbyn y dyddiau gwirioneddol a gofnodwyd yn erbyn pob categori yn y cyfnod 1 Ebrill 2009 hyd at 31 Mai 2009.  Roedd 95 o ddyddiau archwilio rhaglenedig gwirioneddol mewn cymhariaeth â’r 128 o ddyddiau a gynlluniwyd.  Gan fod cyfnod y tabl yn gyfyngedig i ddau fis yn unig nid oedd yn bosib canfod patrymau manwl yn seiliedig ar y ffigyrau hyd yma.  Ond mae’n werth crybwyll yma bod 37 o ddiwrnodau eisoes wedi’u defnyddio i roddi sylw’n bennaf i ymchwiliadau’n parhau o’r flwyddyn ddiwethaf.  

 

Ÿ

Roedd y Pwyllgor Archwilio wedi penderfynu y dylai dderbyn adroddiad pryd bynnag yr oedd ymateb adrannol heb ei dderbyn cyn pen 3 mis i ddyddiad rhyddhau fersiwn ddrafft neu fersiwn ddrafft ddiwygiedig o’r adroddiad Archwilio.  Adeg paratoi’r adroddiad gwaith nid oedd yr un fersiwn ddrafft o adroddiad Archwilio Mewnol na chafwyd ymateb rheoli cofnodedig iddo o fewn 3 mis i’r dyddiad rhyddhau.  

 

Ÿ

Ers y Pwyllgor Archwilio diwethaf cyhoeddwyd 4 o adroddiadau terfynol o Gynllun Gwaith Archwilio Mewnol 2009-10 ac 11 o Gynllun 2008-09, gan roddi cyfanswm am y flwyddyn hyd yma o 15 o Adroddiadau Terfynol wedi’u cyhoeddi yn y cyfnod.  Er nad oedd yr un adroddiad sefydliad wedi derbyn graddfeydd ‘D’ nac ‘E’ yn y cyfnod roedd un adroddiad yn seiliedig ar y system wedi derbyn sicrwydd cyfyngedig.  

 

Ÿ

Rhoddwyd barn gyfyngedig yn yr adroddiad terfynol ar yr arolwg o’r trefniadau Cyflogau Gofalwyr Cartref.  Y rhain oedd prif gasgliadau’r arolwg hwn:

 

 

 

Ÿ

     Nid oedd y manylion a gofnodwyd yng nghyswllt taliadau hawliadau teithio a gyflwynwyd gan Ofalwyr Cartref yn cael eu siecio yn erbyn rota’r gwaith a llyfrau log teithio a hynny fel rhan o’r gwaith siecio ffurfiol a’r broses ardystio.

 

Ÿ

     Roedd cofnodiadau cyflogau yng nghyswllt absenoldeb gwaeledd yn anghyflawn a hynny am nad yw taflenni amser yn cael eu cyflwyno gan y Gofalwyr Cartref ym mhob achos o absenoldeb gwaeledd.

 

Ÿ

     Cafwyd achosion pryd y rhoddwyd gwybodaeth yn hwyr iawn i’r Adain Gyflogau yng nghyswllt y dyddiadau pryd yr oedd staff yn gadael cyflogaeth yr Awdurdod a hynny yn arwain at ordalu cyflogau.

 

Ÿ

     Nid oedd y newidiadau i oriau contract y Gofalwyr Cartref yn cael eu hegluro’n llawn bob amser nac yn cael eu cefnogi gan drywydd archwilio digonol.

 

Ÿ

     Roedd yma achosion o fethu â chydymffurfio gyda rhai agweddau ar bolisïau’r Cyngor yng nghyswllt recriwtio staff a’r broses gyfweld a hefyd methiant i gadw trywydd archwilio digonol i ddangos cydymffurfiad.  

 

 

 

Ÿ

Yng nghyswllt gwaith ymchwilio arbennig mae’r Adain Archwilio Mewnol yn gorfod ymgymryd â fo ar faterion sy’n dod i’r fei yn ystod gwaith archwilio cynlluniedig neu ar gais yr Archwiliwr Allanol/adrannau eraill roedd yr Adain wedi parhau i ymchwilio i gyfeiriadau yng nghyswllt grant adnewyddu fel a nodwyd dan yr eitem uchod.  Paratowyd fersiwn ddrafft o ail adroddiad ar y cyfeiriad penodol hwn. Roedd yr ymchwiliadau wedi llyncu nifer sylweddol o ddiwrnodau’r Uned Archwilio Mewnol a’r gobaith oedd y cyrhaeddid pen y daith trwy ryddhau ail adroddiad ar y mater.

 

Ÿ

O ran tracio argymhellion ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Archwilio roedd y Cyngor wedi prynu meddalwedd pwrpasol i dracio argymhellion, 4Action.  Darparwyd hyfforddiant cychwynnol a dangoswyd sut yr oedd y system yn gweithio i gynrychiolwyr yr adrannau a’r gwasanaethau.  Roedd cyfarfodydd yn cael eu trefnu neu wedi’u cynnal gyda Phenaethiaid Gwasanaeth ynghylch defnyddio’r meddalwedd i hyrwyddo’r broses o gyflwyno adroddiadau ar y cynnydd gyda gweithredu ar argymhellion i’r Pwyllgor Archwilio.

 

Ÿ

Eglurwyd sut yn union yr oedd y system yn gweithio yn yr adroddiad ac mae ynddi gyfleusterau hwylus i dracio argymhellion a gall yr holl adrannau a’r holl wasanaethau eu defnyddio.  Hefyd yn y system mae cyfleuster i baratoi adroddiadau fel bod modd paratoi adroddiadau manwl ar y cynnydd yng nghyswllt gweithredu ar argymhellion yr Uned Archwilio Mewnol.  Bydd yr Uned Archwilio Mewnol yn parhau i sefydlu’r meddalwedd ar gyfer adrannau a gwasanaethau ac y mae ar hyn o bryd yn darparu peilot gyda’r gwasanaeth Cyllid.  Gyda gobaith bydd modd gwneud digon o gynnydd fel bod y system yn paratoi adroddiadau chwarterol i’r Pwyllgor Archwilio.

 

Ÿ

Yn Rhan 7 yr adroddiad nodwyd y perfformiad yn erbyn y targedau am gyfnod yr adroddiad.

 

 

 

Wedyn cyfeiriodd y Pwyllgor at y diffygion difrifol yn y System o Gofnodiadau Cyflogau Gofal Cartref gan groesawu bod y cyfryw ddiffygion bellach wedi’u nodi; mewn ymateb i gwestiynau yn gofyn beth a wnaed yng nghyswllt y sefyllfa eglurodd yr Uchel Archwiliwr Mewnol bod yr Adran dan sylw wedi derbyn y cyfan o’r argymhellion ac yn wir wedi nodi rhai o’r gwendidau a gofnodwyd.  Hefyd cadarnhaodd y bydd cynnydd yng nghyswllt gweithredu ar argymhellion yn cael ei fonitro trwy system dracio argymhellion yr Adain Archwilio Mewnol.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn yr Adroddiad ar Gynnydd gan yr  Adain Archwilio Mewnol am y cyfnod 1 Ebrill hyd at 31 Mai, 2009 a nodi’r cynnwys.

 

 

 

7     RHEOLI RISG

 

      

 

     Cyflwynwyd - Datganiad gan yr Adain Archwilio Mewnol ar y sefyllfa yng nghyswllt rheol risg.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Archwilio wrth yr aelodau nad oedd yr adroddiad uchod y math arferol o adroddiad Archwilio Mewnol lle cyflwynir barn yn unig, yn hytrach roedd yma adroddiad ymgynghorol o ran sefydlu a chofnodi’r sefyllfa bresennol fel yr ymwna hynny â chyflwyno fframwaith rheoli risg i’r Cyngor a hefyd o ran nodi’r camau sy’n cael eu cymryd ar hyn o bryd i ddatblygu rhagor ar y broses a sefydlogi honno a hefyd roedd yma gyfeiriad at gamau y bwriedir eu cymryd i yrru’r broses yn ei blaen.

 

      

 

     Yn Rhan 3 yr adroddiad nodir y casgliadau hynny yng nghyswllt y sefyllfa ar hyn o bryd yng nghyd-destun yr elfennau a ganlyn yn y fframwaith rheoli risg -

 

      

 

Ÿ

Strategaeth Rheoli Risg

 

Ÿ

Cofrestri Risg

 

Ÿ

Cyfarfodydd Perfformiad Chwarterol

 

Ÿ

Cyfarfodydd Blynyddol Asesu Risg

 

Ÿ

Asesiad Risg ar y Cyd

 

Ÿ

Templed Asesu Risg

 

Ÿ

Y Pwyllgor Sgriwtini

 

Ÿ

Yr Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg

 

 

 

Yn Rhan 4 yr adroddiad amlinellwyd pa gamau y bwriedir eu cymryd i sefydlu Grwp Rheoli Risg a nodwyd hefyd yn yr adroddiad fewnbwn gan Zurich Municipal yn gorfforaethol o ran cynorthwyo’r Cyngor i gyflwyno Fframwaith Risg Strategol a hefyd o ran yr ochr weithredol i gynorthwyo’r Cyngor o ran cyflwyno Fframwaith Rheoli Risg gweithredol a chadarn.  

 

 

 

Yn y casgliadau, nodwyd bod y sefyllfa ar hyn o bryd yn adlewyrchu’r ffaith bod y Cyngor wedi gwneud peth cynnydd tuag at weithredu a sefydlogi Fframwaith Rheoli Risg.  Ond roedd angen cymryd camau allweddol i gyflawni’r nod o gael proses Rheoli Risg effeithiol a hynny i sicrhau dull cyson ac integredig o reoli risg ar draws yr holl Gyngor.  Y rhain yw’r camau y mae angen eu cymryd yn awr -

 

         

 

Ÿ

Mae angen ailymgynnull y Grwp Rheoli Risg yn rheolaidd i wthio’r broses o gyflwyno a sefydlu’n gadarn y fframwaith rheoli risg.  Byddai penodi Pencampwr Risg fel Cadeirydd y Grwp ar lefel reoli briodol yn cynorthwyo i godi proffil gwaith y Grwp a’r broses gyfan yn y Cyngor.

 

Ÿ

Mae angen cytuno a gweithredu Strategaeth Rheoli Risg a threfniadau cysylltiedig i nodi’r fframwaith ac i amlinellu sut y bydd trefniadau rheoli risg yn gweithio yn y Cyngor.

 

Ÿ

Mae angen cytuno a gweithredu ar dull corfforaethol cyson o nodi risgiau, sgorio risgiau a chynnwys risgiau mewn cofrestrau risgiau a hynny er mwyn sicrhau cysondeb o ran asesu a delio gyda risgiau  mewn a rhwng adrannau;

 

Ÿ

Mae angen cytuno ar fethodoleg ar gyfer cynhyrchu cofrestrau risg ar lefel gwasanaeth a lefel adrannol a’u cynnwys mewn Cofrestr Risg Gorfforaethol a fydd yn cael ei hadolygu yn rheolaidd gan y Tîm Rheoli Corfforaethol a hefyd gan yr Aelodau Etholedig trwy’r Pwyllgor Sgriwtini.

 

Ÿ

Dylid defnyddio’r Gofrestr Risg Gorfforaethol fel sail ar gyfer y wybodaeth rheoli risg a ddefnyddir ar gyfer Adroddiadau Chwarterol, yr Asesiad Risg ar y cyd a’r Templed Asesu Risg a bydd angen adrodd i’r aelodau ar y risgiau allweddol sy’n peryglu gallu’r Cyngor i gwrdd â’i amcanion.

 

Ÿ

Dylai’r Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg gyfarfod yn rheolaidd yn unol â’i gylch gorchwyl a dylai fod yn ganolbwynt ar gyfer cynnwys aelodau yn y gwaith o adolygu’r prosesau rheoli risg.

 

Ÿ

Dylid defnyddio’r adnoddau a gynigir gan Zurich Municipal i gynorthwyo’r Grwp Rheoli Risg i benderfynu pa fframwaith Rheoli Risg fyddai orau i gwrdd ag anghenion y Cyngor.

 

 

 

Cydiodd yr aelodau yn y ffaith nad oedd yr Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg wedi cyfarfod o gwbl yn 2008/09 gan ofyn pam yr oedd pethau felly o gofio bod raid rhoddi sylw i faterion llywodraethu a rheoli risg a bod is-bwyllgor pwrpasol wedi’i sefydlu i’r diben.  Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) nad oedd yr un swyddog nac aelod wedi cael cyfrifoldeb, ers sefydlu’r Is-Bwyllgor, am alw cyfarfodydd ohono; yn gyffredinol roedd yr adroddiad yn dangos na chafwyd unrhyw gynnydd yng nghyswllt symud ymlaen gyda materion rheoli risg y tu mewn i’r Awdurdod ac, yn hanesyddol, roedd hwn yn faes na bu ynddo unrhyw fuddsoddiad.  O gofio bod materion llywodraethu wedi llethu’r Awdurdod hwn yn y gorffennol a hefyd yn ddiweddar teimlai’r Cadeirydd bod gan yr Is-Bwyllgor hwn swyddogaeth i’w chwarae o ran symud pethau ymlaen.  Roedd diystyru’r elfen hon o’r broses rheoli risg yn y flwyddyn aeth heibio wedi bod yn fethiant yn ei farn ef.  Felly cafwyd cynnig gan y Cynghorydd J P Williams i alw cyfarfod o’r Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg a rhoddi iddo’r ddyletswydd o ystyried yn fanwl yr adroddiad uchod.

 

Dywedodd Mr Alan Morris o Swyddfa Archwilio Cymru bod Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella yn y broses o newid a bod Mesur Llywodraeth Leol wedi mynd trwy Gynulliad Cymru ac wedi’i gymeradwyo.  Bydd hyn yn newid llawer iawn o’r gwaith a wneir dan y Rhaglen ac yn symud ffocws y gwaith draw oddi wrth risg tuag at berfformiad a gwelliant.  Yn erbyn y cyd-destun hwn roedd hwn yn amser priodol iawn i’r Cyngor ystyried ei drefniadau rheoli risg gan fod y ffocws yn y dyfodol ar risg a rheoli risg ar y cyd wedi cymylu popeth a hynny wedi arwain at ddryswch yng nghyswllt cofrestri risg corfforaethol ac asesu risg ar y cyd ac yn y blaen.  Felly roedd hwn yn amser da i’r Awdurdod edrych ar y maes dan sylw a gofyn iddo’i hun beth y mae arno’i angen o ran y broses rheoli risg.

 

 

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad a bod cyfarfod o’r Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg yn cael ei alw i ystyried yn fanylach y Datganiad Sefyllfa - Rheoli Risg.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Cynghorydd R Llewelyn Jones

 

Cadeirydd