Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio dogfennau , 26 Mehefin 2008

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dydd Iau, 26ain Mehefin, 2008

PWYLLGOR ARCHWILIO

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar   26 Mehefin 2008

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Jim Evans  (Yn y Gadair)

 

Y Cynghorwyr H. Eifion Jones, John Penri Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid)

Uchel Archwiliwr Mewnol (EW)

Rheolwr Cyfrifeg (RMJ)(ar gyfer Eitem5 yn unig)

Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro (MJ) (ar gyfer eitem 3(i) yn unig)

Cydlynydd  Perfformiad a Gwella (NE)(ar gyfer eitem 3(ii) yn unig)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr C. Ll. Everett, Keith Evans, Eric Jones, Rhian Medi, Peter Rogers, Mr. John Fidoe (Rheolwr Archwilio), Mr. Patrick Green (RSM Bentley Jennison)

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorwyr G. O. Parry, MBE (Deilydd Portffolio Cyllid), Mr. Ian Howse (Uchel Reolwr, Pricewaterhouse Coopers), Mr. Gareth Jones (Cyfarwyddwr, Pricewaterhouse Coopers)

 

Rhoes y Cadeirydd groeso i bawb i'r cyfarfod a chan mai hwn oedd y cyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor Archwilio ar ôl etholiadau Llywodraeth Leol mis Mai gofynnodd i'r Aelodau a'r Swyddogion gyflwyno eu hunain.  Yn ogystal cydymdeimlodd y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor gyda'r Cynghorydd Peter Rogers ar ei brofedigaeth yn ddiweddar.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad.

 

Nododd un aelod o'r Pwyllgor ei fod ond newydd dderbyn yr adroddiad dan eitem 5 (Datganiad Cyfrifon) cyn y cyfarfod a chan ei bod yn ddogfen hir a hwythau heb gael y cyfle i'w darllen yn fanwl roedd hi'n anodd iddynt ddweud a oedd diddordeb yn codi ai peidio.  Gofynnwyd am rannu'r adroddiadau ynghynt fel bod yr aelodau yn cael amser i'w hystyried yn iawn.

 

Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod yr Adran, bob amser, yn ceisio sicrhau bod adroddiadau ar gael i'r aelodau mewn da bryd cyn cyfarfodydd ond roedd y gwaith ar y Datganiad Cyfrifon wedi parhau hyd at y munud diwethaf cyn y cyfarfod ac y buasai'n rhoddi eglurhad llawnach am fod yn hwyr pan roddid sylw i'r eitem berthnasol ar y rhaglen.  Yng nghyswllt datgan diddordeb ni chredai y buasai'n rhaid i aelod ddatgan diddordeb oherwydd cynnwys y Datganiad Cyfrifon onid oedd aelodau'n canolbwyntio ar fater penodol a bod diddordeb yn dod i'r amlwg y pryd hwnnw.  Gallai'r aelodau ystyried gwneud penderfyniad ar ddatgan diddordeb ar yr adeg benodol honno.

 

Roedd yr aelodau yn y cyfarfod yn siomedig iawn bod cyn lleied o aelodau wedi mynychu'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Archwilio newydd.  

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd cynt y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodir isod i bwrpas eu cadarnhau.

 

 

 

Ÿ

17 Ebrill 2008 (Tudalen 76 Cyfrol Cofnodion Chwarterol mis Mai, 2008)

 

 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) nad oedd yr un o aelodau presennol y Pwyllgor Archwilio yn y cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor ar 17 Ebrill ac o'r herwydd heb fod mewn sefyllfa i gynnig cofnodion y cyfarfod hwnnw fel rhai cywir.  Ond ychwanegodd ei fod ef ei hun yn bresennol yn y cyfarfod ac y gallai ddatgan, yn ei farn ef, fod y cofnodion yn gywir.

 

 

 

Roedd yr aelodau yn fodlon derbyn sicrwydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ynghylch cywirdeb y cofnodion ac yn seiliedig ar hynny derbyniwyd cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2008 fel cofnod cywir o'r cyfarfod hwnnw.

 

 

 

Ÿ

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yn gywir - cofnodion y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 16 Mai 2008.

 

 

 

3

IS-BWYLLGORAU

 

 

 

3.1

Cyflwynwyd a chadarnhawyd - cofnodion y cyfarfod o'r Is-Bwyllgor Canolbwyntio ar y Cwsmer a gafwyd ar 13 Mehefin 2008.

 

 

 

Yma dygodd y Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro sylw'r aelodau at eitem 7 y cofnodion yng nghyswllt y Weithdrefn Gwynion Gorfforaethol a nododd iddo grybwyll yng nghyfarfod yr Is-Bwyllgor ar 13 Mehefin nad oedd y Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo cyllid i swydd newydd y Swyddog Cwynion Corfforaethol a bod cyfarfod mewnol yn cael ei drefnu i benderfynu ar aelod(-au) presennol o'r staff a allai o bosib ymgymryd â'r swyddogaeth am gyfnod arbrofol.  Ychwanegodd bod dau aelod o'r staff wedi awgrymu eu bod yn barod i gymryd y gwaith am gyfnod arbrofol pryd y daw'n amlwg beth fydd goblygiadau'r swyddogaeth.  Roedd y Weithdrefn Gwynion Gorfforaethol yn y Broses o gael ei diwygio a hyd oni fydd y broses honno wedi ei chwblhau a pheth sicrwydd ynghylch goblygiadau gweinyddol y weithdrefn, nid yw'r aelodau uchod o staff mewn sefyllfa i wneud ymrwymiad i'r gwaith ac ni fuasai'r awdurdod yn gofyn iddynt wneud hynny.  Bydd manyleb swydd i swydd Swyddog Cwynion Corfforaethol yn cael ei llunio unwaith y bydd y Weithdrefn wedi ei chwblhau ac yn ei lle.  Yn y cyfamser bydd Swyddogion Cwynion Adrannol yn parhau i weinyddu cwynion dan y system bresennol.  Wedyn cafwyd sylw gan y Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro mai'r bwriad oedd cyflwyno adroddiad ar y Weithdrefn Gwynion Gorfforaethol i'r Cyngor Sir yn ei gyfarfod ar 16 Medi gan ddod â'r holl newidiadau a wnaed at ei gilydd a'r pryd hwnnw bydd y Weithdrefn unai yn cael ei chymeradwyo gan y Cyngor neu ar y llaw arall gall y Cyngor ddiwygio rhagor arni.  Prun bynnag ni fydd y fanyleb i'r swydd yn cael ei llunio hyd oni fydd y broses hon wedi'i chwblhau.  

 

 

 

Roedd yr aelodau'n pryderu dipyn oherwydd yr amser a gymerwyd i sefydlu'r Weithdrefn Gwynion Corfforaethol ac yn arbennig felly ar ôl clywed na fydd y Weithdrefn yn gwbl barod tan o leiaf mis Medi.  Awgrymwyd bod y materion a godwyd gan yr Is-Bwyllgor Canolbwyntio ar y Cwsmer yng nghyswllt y Weithdrefn Gwynion ac fel cafodd y rheini eu hadlewyrchu yn y cofnodion i'r cyfarfod, yn rhai gweinyddol yn bennaf ac o'r herwydd gofynnwyd a oedd modd cyflymu'r broses.

 

 

 

Yma atgoffwyd yr aelodau gan y Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro bod unrhyw newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor, ac mae'r Weithdrefn Gwynion Gorfforaethol yn rhan o hwnnw, yn gyfrifoldeb i'r Cyngor Sir a rhaid glynu wrth y broses honno.  Fodd bynnag, rhagwelwyd y buasai'r Weithdrefn Gwynion yn ei lle ac yn gweithio yn fuan ar ôl cyfarfod y Cyngor ym Medi.

 

 

 

3.2

Ystyriwyd rhaglenni gwaith y ddau Is-Bwyllgor sy'n adrodd i'r Pwyllgor Archwilio - yr Is-Bwyllgor Canolbwyntio ar y Cwsmer a'r Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg.

 

 

 

Dywedodd y Cydlynydd Perfformiad a Gwella wrth yr aelodau bod y Rheolwr-gyfarwyddwr yn bwriadu adrodd i'r Pwyllgor ar yr eitem hon ond cyflwynodd ei ymddiheuriad am fethu â bod yn bresennol.  Fodd bynnag, gofynnodd am hysbysu'r Pwyllgor Archwilio o awgrymiadau yr hoffai eu cyflwyno ynghylch y ffordd ymlaen i'r ddau Is-Bwyllgor.  Roedd y Rheolwr-gyfarwyddwr yn awyddus i gael cyfarfod gyda Chadeiryddion y ddau Is-Bwyllgor (unwaith y cânt eu penodi) i drafod rhaglen waith am y flwyddyn.  Awgrymwyd bod materion yn ymwneud â Gofal Cwsmer yn mynd i fod yn bethau amlwg ar Raglen Waith yr Is-Bwyllgor Canolbwyntio ar y Cwsmer a hefyd roedd modd ychwanegu rheoli cysylltiadau â'r cwsmeriaid.  Hefyd gallai'r Pwyllgor roddi sylw i dalu biliau ar lein a sut y mae modd hwyluso hynny er budd y Cyngor a'i glientiau.  Yng nghyswllt yr Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg efallai bod y gwaith ar foderneiddio cynllun dirprwyo'r Cyngor yn rhywbeth y gallai ei wneud gyda phwrpas a symud ymlaen gyda'r gwaith o lunio cofrestr o risgiau i'r Cyngor.  Hefyd credai'r Rheolwr-gyfarwyddwr y buasai o fantais i Gadeiryddion y ddau Is-Bwyllgor ymweld ag awdurdod arall i gael gweld sut y mae hwnnw'n rheoli cysylltiadau gyda chwsmeriaid, boddhad cwsmeriaid a materion eraill yng nghyswllt llywodraethu.

 

 

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod cyfarfod wedi ei gynnal gydag Adain Bolisi'r Awdurdod i drafod materion y gellid eu rhoddi ar raglenni gwaith y ddau Is-Bwyllgor o gofio pwysigrwydd sicrhau bod rhaglenni gwaith Is-Bwyllgorau a Phwyllgorau'r Cyngor yn cael eu diffinio'n glir a sicrhau na fyddant yn gorgyffwrdd.  Yn y gorffennol bu peth dryswch ynghylch beth oedd swyddogaethau a chyfrifoldebau manwl pwyllgorau'r Cyngor ac yn enwedig felly yn achos Sgriwtini ac Archwilio, a hefyd cafwyd beirniadaeth ynghylch dyblygu gwaith heb fod raid.

 

 

 

Yng nghyswllt yr Is-Bwyllgor Canolbwyntio ar y Cwsmer bydd monitro Gweithdrefn Gwynion Gorfforaethol y Cyngor yn fater o bwys ar raglen waith yr Is-Bwyllgor am y flwyddyn.  Yng nghyswllt yr Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg bydd y datganiad ar reolaethau mewnol, mater y bydd y Pwyllgor hwn yn ei ystyried yn hwyrach ymlaen yn y cyfarfod hwn, gyda hyn yn cael ei ddisodli gan Ddatganiad Llywodraethu a bydd y Datganiad olaf hwn yn cael ei fabwysiadu ar ôl adolygu'n drylwyr holl drefniadau llywodraethu mewnol yr awdurdod sy'n cynnwys rheoli risg, rheolaeth fewnol, y broses o wneud penderfyniadau a materion eraill.  Dros y flwyddyn nesaf bydd raid cynnal arolwg ar drefniadau llywodraethu'r awdurdod ar lefel swyddogion ac mae yma swydogaeth i'r Is-Bwyllgor gyfrannu at y gwaith hwn.  Felly yn ychwanegol at yr eitemau a awgrymwyd gan y Rheolwr-gyfarwyddwr yng nghyswllt y cynllun dirprwyo a datblygu cofrestr risgiau - sydd yn syrthio'n naturiol dan bennawd llywodraethu - bydd edrych ar y Datganiad Llywodraethu yn dasg enfawr a hi fydd yr elfen fwyaf yn rhaglen waith yr Is-Bwyllgor am y flwyddyn.  Pan fydd y Datganiad Cyfrifon, sy'n cynnwys Datganiad Llywodraethu, yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio y flwyddyn nesaf bydd y gwaith paratoi sy'n arwain at y drafodaeth hon wedi ei wneud gan yr  Is-Bwyllgor.

 

 

 

Nododd yr aelodau bod cyfarfod o'r Is-Bwyllgor Canolbwyntio ar y Cwsmer wedi ei gynnal ar 13 Mehefin ond nad oedd yr Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg wedi cyfarfod unwaith eleni ac nid oedd Cadeirydd wedi'i benodi.  Oherwydd natur y gwaith y disgwylir i'r Is-Bwyllgor hwn ei wneud, fel a grybwyllir uchod, awgrymwyd y dylid cael cyfarfod cychwynnol cyn gwyliau'r Haf.  

 

 

 

 

 

Penderfynwyd nodi'r rhaglenni gwaith amlinellol ac arfaethedig i'r Is-Bwyllgor Canolbwyntio ar y Cwsmer a'r Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg yn ôl yr adroddiadau llafar uchod a gyflwynwyd ar y materion hyn.

 

 

 

4

ASESU'R SYSTEM RHEOLAETHAU MEWNOL

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar arolwg o effeithiolrwydd y rheolaethau mewnol.

 

 

 

Dygwyd sylw'r Pwyllgor at yr ystyriaethau a ganlyn -

 

 

 

4.1

Dan Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005, rhaid i'r holl Ddatganiadau Cyfrifon o 2005-06 ymlaen gynnwys Datganiad ar Reolaethau Mewnol.

 

4.2

Mae cwmpas Datganiad Rheolaethau Mewnol yn eang ac yn cynnwys y cyfan o drefniadau'r awdurdod ar gyfer cyflawni ei amcanion a rheoli risgiau.  Rhaid i'r Datganiad Rheolaethau Mewnol gael ei lofnodi gan swyddog uchaf y Cyngor a chan aelod uchaf y Cyngor a hynny'n pwysleisio'r cwmpas eang.  Cyn gwneud Datganiad Rheolaethau Mewnol rhaid adolygu effeithiolrwydd rheolaethau mewnol, gan gynnwys trefniadau llywodraethu a threfniadau i reoli risg.  Rhoddwyd y cyfrifoldeb am yr arolwg hwn i'r Pwyllgor Archwilio.

 

4.3

Dylai llunio'r Datganiad o Reolaeth Fewnol ddilyn adolygiad o effeithiolrwydd rheolaeth fewnol, gan gynnwys trefniadau llywodraethu a'r trefniadau i reoli risg.  Y Pwyllgor Archwilio sy'n gyfrifol am yr adolygiad hwn.

 

4.4

Rhaid i arolwg o'r rheolaethau mewnol fod yn seiliedig ar asesiad onest o holl drefniadau'r awdurdod i gyflawni ei amcanion a rheoli risg.  Mae llawer o ganllawiau proffesiynol ar gael yng nghyswllt disgwyliadau'r Datganiad Rheolaethau Mewnol, ac ynddynt manylir ar yr arferion gorau a fydd yn sicrhau cydymffurfiad.  I gydymffurfio gyda'r canllawiau mae'n rhaid trin yr amryfal faterion a godir trwy ddull gweithio sy'n ffurfiol, yn systematig ac yn cynnwys y cyfan o'r awdurdod.  Credir bod ceisio gweithredu ar y cyfan o'r arferion gorau hyn yn ormod o waith gweinyddol i awdurdod bychan megis Cyngor Sir Ynys Môn.  Mewn awdurdod bychan rhaid dibynnu mwy ar wybodaeth ac ar broffesiynoldeb unigolion allweddol, pobl sydd, rhyngddynt, â gwybodaeth am y cyfan o weithgareddau'r awdurdod.

 

4.5

Yn yr Atodiad ynghlwm wrth yr adroddiad dechreuir asesu effeithiolrwydd rheolaethau mewnol. Mae'r asesiad hwn yn tynnu ar waith archwilio mewnol, gwaith rheoleiddwyr ac asesiad risg y cynllun gwella.  Does dim yma sydd heb gael ei ystyried mewn cyswllt arall.  Mae'r Datganiad Rheolaethau Mewnol yn y Datganiad Cyfrifon yn adlewyrchu'r asesiad hwn.

 

4.6

Mae'r Datganiad Rheolaethau gwirioneddol a gyflwynwyd yn amlinellu'r risgiau a nodir yn y Cynllun Gwella am 2007/08 fel risgiau rheolaethau mewnol sylweddol ac yn cynnwys materion yng nghyswllt Technoleg Gwybodaeth; Rheoli Prosiectau; Arfarnu Swyddi - Adolygu Cyflogau a Graddfeydd; Materion Adnoddau Dynol; Rheoli Perfformiad; Colli Adnoddau a Gwrthdaro rhwng Aelodau.

 

4.7

Roedd gwahoddiad i'r Pwyllgor Archwilio ystyried y materion a godwyd a dod i gasgliadau ei hun ynghylch effeithiolrwydd rheolaethau mewnol ac er bod yr arolwg hwn, yn ei hanfod, yn ymwneud â'r systemau, nid digwyddiadau, dygwyd sylw'r Pwyllgor at y ffaith y buasai, o bosib, yn dymuno rhoi sylw i'r materion a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

enghreifftiau gwirioneddol o'r awdurdod yn methu â chyflawni amcanion - pa wendidau  yn y rheolaethau mewnol y mae hyn yn ei awgrymu ?

 

Ÿ

"bron â methu" - achlysuron ble mae'r awdurdod wedi adnabod y risg neu broblem bosib ac wedi cymryd camau i'w chywiro;  buasai proses o'r fath yn dystiolaeth bod y rheolaethau mewnol ar waith.

 

Ÿ

digwyddiadau gafodd gyhoeddusrwydd yng nghyswllt methiannau mewn awdurdodau cyhoeddus eraill - a allent ddigwydd yma ?

 

 

 

Roedd angen adlewyrchu casgliadau'r Pwyllgor yn y Datganiad Rheolaethau Mewnol ac yn y Datganiad Cyfrifon........

 

 

 

4.8     Dyma'r flwyddyn olaf i Ddatganiad Rheolaethau Mewnol gael ei gynnwys yn y Datganiad Cyfrifon.  Cymerir ei le gan y Datganiad Llywodraethu sydd yn cynnwys rheolaeth fewnol, rheoli risg a materion eraill.  Dylai datblygiad y datganiad yma fod ar raglen waith yr Is-Bwyllgor Rheoli Risg a Llywodraethu.  

 

 

 

     Yn y drafodaeth ar yr adroddiad gwnaed y pwyntiau a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

Yng nghyswllt y gwendidau a nodwyd yng Nghynllun Gwella 2007/08 a'u dynodi yn risg rheolaeth fewnol sylweddol yn y Datganiad Rheolaeth Fewnol gofynnwyd a fuasai'r safonau hyn yn codi'n sylweddol yn 2008/09.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) nad oedd modd gwarantu i ba raddau y gellid gwella'r meysydd risg a nodwyd yn y Datganiad ond bydd yr awdurdod, ar ôl nodi'r gwendidau hyn, yn ceisio'u gwella.  Fodd bynnag, roedd yn rhaid cofio bod nodi risgiau a'u rheoli yr un mor bwysig â'u dileu a'u hosgoi.

 

 

 

 

 

 

 

Ÿ

Cyfeiriodd un aelod at safbwynt a fynegwyd yn yr adroddiad, sef na all Cyngor Sir Ynys Môn, fel awdurdod bychan, weithredu ar yr holl ymarferion da sy'n cael eu cefnogi gan y cyfarwyddyd proffesiynol ar ddisgwyliadau yng nghyswllt y Datganiad Rheolaeth Fewnol, a gofynnwyd pa drefniadau oedd gan Gyngor Sir Ynys Môn i weithredu ar arferion da, ac a allai weithredu ar arferion o'r fath a chysidro ei fod mor fychan.

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod y gwerthusiad cychwynnol ar reolaeth fewnol yn yr Atodiad ynghlwm wrth yr adroddiad yn gofyn cwestiynau yng nghyswllt ymarfer da a hynny yng nghyd-destun effeithiolrwydd trefniadau'r rheolaeth mewnol.  Roedd cyfarwyddyd proffesiynol yn seiliedig yn bennaf ar y model delfrydol o awdurdod, un a chanddo lefel o fiwrocratiaeth nad yw'n ymarferol i awdurdod bychan fel Ynys Môn.  Er nad yw'n bosib i Gyngor Sir Ynys Môn, oherwydd ei faint, weithredu'n gyflawn ar yr holl feysydd hynny a nodir gan ganllawiau proffesiynol ac arferion da mae llawer yn cael ei gyflawni yn yr awdurdod trwy broses o gysylltiadau anffurfiol yn hytrach na gweithdrefnau ffurfiol. Fodd bynnag, roedd presenoldeb gwendidau mewn system reolau sy'n dibynnu cymaint ar arbenigedd unigolion ac ar weithdrefnau yn cael ei gydnabod a'i gadw  bob amser dan oruchwyliaeth.

 

 

 

Wedyn nododd Mr. Ian Howse, Pricewaterhouse Coopers y bydd yr archwilwyr allanol mae'n debyg, yn parhau i argymell mwy o reolaethau canoledig y tu mewn i'r awdurdod ond er hynny roedd y dystiolaeth o adroddiadau rheoleiddio megis, er enghraifft, rhai Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn awgrymu, er gwaethaf rhai rheolaethau y buasai rhywun yn ei ddisgwyl mewn awdurdodau mawrion ac sy'n angenrheidiol iddynt, mae'r awdurdod hwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau da.

 

 

 

Ÿ

Cyfeiriodd un aelod at y Datganiad Rheolaethau Mewnol ac i'r disgwyliad ynddo ei bod hi'n ddyletswydd ar y Cyngor Sir dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 i " wneud trefniadau i sicrhau gwelliannau parhaol yn y ffordd mae’n gweithredu, gan ystyried economi, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd," a gofynnwyd a oedd unrhyw sylw wedi ei roddi i hwyluso gwelliannau trwy system o anogaethau i staff berfformio'n well. Awgrymwyd bod yn rhaid i'r syniad o welliannau parhaol ymwreiddio yn niwylliant y Cyngor ac y buasai o fantais i'r Cyngor, o bosib, petai'n gweithredu yn ôl yr egwyddor o gael pethau'n iawn y tro cyntaf.  Awgrymwyd bod syniad gan y cyhoedd fel corff sy'n gwneud yr un camgymeriadau drosodd a throsodd, a bod angen newid ffordd o feddwl tu mewn i'r Cyngor drwyddo draw fel bod gwelliannau yn tyfu i fod yn fater o agwedd.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod y testun y cyfeiriwyd ato uchod yn dod o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 a than y dyletswyddau statudol y manylir arnynt yno, mae sawl disgwyliad ynghylch gwerth gorau, megis bod raid paratoi Cynllun Gwella.  Disgwylir i'r Awdurdod gyflawni'r dyletswyddau hyn yn ôl y canllawiau datganedig; ond y tu mewn i'r fframwaith gyffredinol mae sawl swyddogaeth y gellid dadlau nad trwy un dull cyffredinol y mae eu cyflawni orau.  Fodd bynnag, fel rhan o'r trefniadau canolog mae cyfres o gyfarfodydd chwarterol yn adolygu perfformiad y rheini yn adrodd yn ôl i'r Prif Bwyllgor Sgriwtini - hon yw'r broses sy'n cynnwys trefniadau'r Cyngor i gyflwyno gwelliannau parhaus.

 

 

 

Ÿ

Er bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn fel gwerthusiad teg o sefyllfa'r Cyngor yng nghyswllt effeithiolrwydd ei drefniadau ar gyfer rheolaethau mewnol roedd aelod arall yn cefnogi'r syniad bod y Cyngor yn ceisio newid ei ddiwylliant, a pha mor amhosib bynnag oedd cyflawni hynny, ni fuasai'n beth drwg i'r Awdurdod amcanu at "y byd perffaith" er mwyn osgoi llaesu dwylo a gostwng nifer y cwynion.  Hefyd cafwyd sylwadau bod safon gwaith y Cyngor yn gyson ond bod angen rhyw fath o adnewyddiad o ran agweddau a bod raid i hyn ddigwydd yn gyson o flwyddyn i flwyddyn.  Er bod gwelliannau'n cael eu cyflwyno teimlwyd mai bychain oedd y rheini ac awgrymwyd bod llawer o waith i'w wneud eto er mwyn gwella trefniadau rheoli perfformiad.  Cyfeiriwyd at y trefniadau dros dro i gyflogi Swyddog Solace a ddaeth at y Cyngor i gryfhau ac i ddarparu cyfeiriad i swyddogaeth sgriwtini'r awdurdod ac i'r trefniadau llywodraethu a chafwyd y sylw y buasai'n werthfawr derbyn adroddiad ar beth a gyflawnodd yr unigolyn hwn.  Hefyd cyfeiriwyd at baragraff 2 yr Atodiad ynghlwm wrth yr adroddiad a'r gwendid posib a nodir yno, sef bod fformat cynlluniau busnes y gwasanaethau yn amrywio, y safon yn amrywio a'r amseriadau yn amrywio ac nad oedd y system gwerthuso staff wedi ei chyflwyno'n llawn eto.  Mynegwyd pryderon am nad oedd fframwaith amser cytunedig i'r cylch busnes a hefyd am nad oedd y system gwerthuso wedi ei chyflwyno'n llawn ac yn gyson ar draws y Cyngor.  Cynigiwyd, gyda chefnogaeth, bod y ddwy eitem yn cael eu hychwanegu at y rhestr o reolaethau mewnol sylweddol dan baragraff 5 y Datganiad Rheolaethau Mewnol.

 

 

 

Ÿ

Cyfeiriodd un aelod at baragraff 4 yr Atodiad ynghlwm wrth yr adroddiad lle nodir un gwendid posib, sef mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd bod dull cyffredin ar draws yr awdurdod yng nghyswllt trefniadau prynu, a gofynnwyd a oedd rhywbeth yn cael ei wneud i ddatrys y mater hwn.

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod yr awdurdod hwn yn gweithio yn ôl dulliau dirprwyo cryf a phendant, a'r dull hanesyddol o weithio oedd un o ryddid i'r graddau bod rheolwyr gwasanaethau yn rhydd i wneud eu trefniadau prynu eu hunain.  Fodd bynnag, pan edrychwyd at y system o brynu pethau, canfuwyd bod y dulliau yn amrywio'n fawr ac efallai bod mwy o ganoli yn y maes hwn yn beth dymunol.  Nid oedd gan yr Awdurdod unrhyw system a oedd yn diffinio beth oedd trefniadau prynu.  Fodd bynnag, roedd y system wedi ei chryfhau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf pryd y penodwyd Swyddog Prynu a chymerwyd camau, ond nid digon i fedru dweud bod gan yr Awdurdod system ganolog i bwrpas prynu.

 

 

 

Ÿ

Gan ddal ati i drafod y pwnc prynu, awgrymodd un aelod y buasai'n dderbyniol iawn derbyn gwybodaeth am faint y mae'r Swyddog Caffael newydd wedi ei arbed i'r Cyngor hyd yma.  Hefyd ynghlwm wrth y pwnc caffael rhaid ystyried y pwnc lleol, a deallwyd bod yr arbedion a gyflawnwyd gan y Swyddog Caffael newydd wedi ei gyflawni trwy beidio â phrynu'n lleol - awgrymwyd y dylid datblygu polisi ar y mater hwn.

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod contractau bellach yn eu lle ac o'r herwydd bod modd sicrhau arbedion ar brynu, ond bod hynny, o bosib, ar draul busnesau lleol.  Dan gyfreithiau masnachu teg Ewrop mae'n rhaid i'r Awdurdod hwn sicrhau y pris gorau a'r ansawdd gorau wrth brynu.  Ond roedd yr asesiad yn y Datganiad Rheolaethau Mewnol a'r absenoldeb dull prynu cyffredin ar draws yr Awdurdod yn dal i fod yn wir a bod modd cyffredinoli trwy ddweud nad oes dull eto ar draws yr awdurdod yn ei le i brynu popeth er bod y Swyddog Prynu newydd wedi dechrau rhoddi sylw i'r mater hwn.

 

 

 

Ÿ

Cafwyd sylw gan un aelod bod aniddigrwydd cryf ymhlith busnesau lleol gan fod trefniadau sy'n mynd yn fwy ac yn fwy canoledig yn ei rhwystro rhag cyflenwi i'r Cyngor.  Mae busnesau lleol wedi gofyn am gyfarfodydd gyda'r Awdurdod ac awgrymwyd y dylai'r cyfle fod yna iddynt.

 

 

 

Roedd y Deilydd Portffolio Cyllid yn croesawu'r cyfraniadau i'r drafodaeth ar y Datganiad Rheolaethau Mewnol ac yn arbennig am bod rhai o'r rheini yn seiliedig ar brofiad aelodau mewn meysydd arbenigol eraill.  Awgrymodd bod y syniad o newid diwylliant ac agweddau'r Awdurdod yn bwnc priodol i Bwyllgorau Eraill ei ystyried.  Yng nghyswllt y drafodaeth ar brynu, nododd bod llawer o'r gwaith mae'r Awdurdod yn ei wneud yn y maes hwn yn waith a wneir dan ddylanwad deddfwriaeth Ewrop.  Yng nghyswllt presenoldeb aelodau roedd hefyd yn rhannu pryderon y Pwyllgor ynghylch y nifer isel yn y cyfarfod hwn a hynny o gofio pwysigrwydd y materion gerbron.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

Ÿ

Mabwysiadu'r Datganiad Rheolaethau Mewnol;

 

Ÿ

Trin fel y risgiau y ffaith nad oedd cynlluniau busnes y gwasanaethau o fformat cyson, o safon gyson ac yn cael ei gyflwyno ar wahanol adegau a'r ffaith nad oedd y system gwerthuso staff bellach wedi ei chyflwyno'n llawn a chynnwys y materion hyn yn y rhestr o faterion rheolaethol mewnol o bwys dan baragraff 5 y Datganiad Rheolaethau Mewnol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

5

DATGANIAD CYFRIFON 2007/08

 

      

 

     Cyflwynwyd i'w fabwysiadu - y fersiwn ddrafft o'r Datganiad Cyfrifon ar gyfer 2007/08.

 

      

 

     Ymddiheurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) i'r Pwyllgor am nad oedd cyfieithiad Cymraeg o'r Datganiad Cyfrifon ar gael ac eglurodd bod y gwaith a'r cyfrifon wedi parhau bron tan amser y cyfarfod hwn, a dyna paham yr oedd yr adroddiad yn hwyr.  Mae'r gwaith o gymeradwyo'r Datganiad Cyfrifon wedi ei ddirprwyo i'r Pwyllgor Archwilio a rhaid gwneud hynny erbyn 30 Mehefin a wedyn bydd yn mynd yn destun archwiliad cyhoeddus a phroses o archwilio.  Petai unrhyw fater o bwys mawr yn codi o'r broses, yna bydd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio yn y man.  Dygwyd sylw'r aelodau at y ffaith bod raid paratoi a chyflwyno Datganiad Cyfrifon mewn llai a llai o amser yn y blynyddoedd diwethaf a dygwyd y dyddiad cyhoeddi ymlaen 3 mis i ddiwedd Mehefin.  Mae'r Datganiad Cyfrifon yn ddogfen hynod dechnegol ac o'r herwydd nid yw'n hawdd ei darllen (i raddau helaeth mae fformat y gwaith yn gorfod dilyn arferion a argymhellir); nid hwn chwaith yw'r unig ffordd i'r Awdurdod adrodd ar berfformiad cyllidol - cyflwynir adroddiadau chwarterol ar y cyllidebau cyfalaf a refeniw i'r Pwyllgor Gwaith a chyflwynwyd adroddiad ar gau cyfrifon i'r Pwyllgor Gwaith ar 23 Mehefin.  

 

      

 

     Gan na chafodd aelodau lawer o amser i ddarllen y papur uchod aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) i egluro'r prif elfennau yn y Datganiad; crynhowyd y sefyllfa'n gyffredinol fel a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

Roedd cyllideb refeniw 2007/08 yn adlewyrchu arbedion effeithlonrwydd a chynlluniau creu incwm ym mhob gwasanaeth ac ambell ddatblygiad i wasanaethau.  Cyllidwyd y gyllideb drwy grantiau o'r Cynulliad Cenedlaethol a thrwy gynydd o 4.9% ym Mand D Treth Gyngor.

 

Ÿ

Dangosodd all-dro'r flwyddyn batrwm cyffredinol o danwariant gydag mwyafrif o wasanaethau'r Cyngor yn gwario o fewn eu cyllideb.  Y prif eithriad i hyn oedd y gwasanaethau cymdeithasol, ble roedd gorwariant o £1.1m yn y gyllideb.  Adlewyrchwyd trefniadau newydd gwaredu gwastraff yn  y cynnydd o £2m yn y gyllideb Refeniw.  Fodd bynnag, oherwydd fod cynlluniau ailgylchu wedi ehangu, roedd lleihad sylweddol yn y tunelleddau a gyfeirwyd i safle tirlenwi, ac o ganlyniad dychwelwyd £0.48m o'r gyllideb ychwanegol i  falansau cyffredinol Cronfa'r Cyngor a £0.67 miliwn tuag at y gronfa  wrth gefn clustnodedig.

 

Ÿ

Yn ystod y flwyddyn oherwydd gwariant net yr ysgolion bu cynnydd yn arian wrth gefn yr ysgolion (yn ei gyfanrwydd) o £0.585 miliwn i £3.194 miliwn. Mae cyfanswm arian wrth gefn yr ysgolion yn parhau'n uchel o'i gymharu ag Awdurdodau Cymreig eraill.  Cyfyngir rhain i'w defnyddio gan yr ysgolion unigol ac mae sefyllfa'r ysgolion unigol yn amrywio.   Roedd gan dair ysgol ddiffyg ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

Ÿ

Mae'r  eitemau pennaf yn y gyllideb cyfalaf yn ymddangos isod.  Y cynllun mwyaf yw ail-leoli Ysgol y Graig, Llangefni.  Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu yn ystod y flwyddyn a disgwylir i'r cynllun gael ei gwblhau erbyn yr hydref yn 2008.  Mae'r Cynllun Adfywio Canol Tref Caergybi, a gyllidir gan grantiau yn cynnwys Cyllid Amcan Un, wedi ei gwblhau'n sylweddol bellach, a mae'r holl gynlluniau'n ymwneud â'r Rhaglen Amcan Un yn cael eu cwblhau yn awr.

 

Ÿ

Cychwynnwyd ar y rhan fwyaf o'r cynlluniau yn 2006/07 ond roedd y cynlluniau a gychwynodd yn ystod y flwyddyn yn cynnwys Oriel Syr Kyffin Williams - estyniad i Oriel Ynys Môn i arddangos gwaith Syr Kyffin Williams RA, a chynllun mawr amddiffyn yr arfordir yn Nhrearddur.  Yn ystod y flwyddyn  cwblhawyd dwy elfen o'r Cynllun Ail-leoli Campws Mona : Gweithdy Mona a Chanolfan Dydd Haulfre.

 

Ÿ

Cyllidwyd y Gyllideb Cyfalaf gan gymysgedd o grantiau gan gyllidwyr allanol, benthyciadau, adnoddau refeniw a derbyniadau cyfalaf.  Mae Angen Cyllid Cyfalaf ar ddiwedd y flwyddyn yn is nag a ragwelwyd pan osodwyd y gyllideb ar gyfer y flwyddyn.   Parhaodd dyled allanol ar lefel tebyg gan orffen y flwyddyn ar £90.1 miliwn ac ad-drefnwyd neu ad-dalwyd nifer o fenthyciadau - cyfanswm o £21.0 miliwn yn ystod y flwyddyn.

 

Ÿ

Mae gwerth net yr Awdurdod, fel dangosir ar y fantolen, wedi cynyddu i £12.4 miliwn, yn bennaf oherwydd newid yn ail-brisio asedau sefydlog yn ystod y flwyddyn a newid mewn rhwymedigaeth Pensiwn net y Cyngor.  Mae'r datganiad yn dangos amcangyfrif ymrwymiad net o £41.7 miliwn yn ymwneud â phensiynau, wedi ei leihau o £51.3 miliwn ar 31 Mawrth 2007.

 

Ÿ

Yr asesiad gorau o gadernid cyllidol yw'r graddau mae'r awdurdod wedi gwneud darpariaethau ar gyfer ymrwymiadau gwybyddus a faint o arian wrth gefn dosbarthadwy sydd ar gael ar gyfer risgiau eraill.  Mae'r Cyngor wedi gwneud darpariaethau ar gyfer ymrwymiadau gwybyddus ac wedi sefydlu arian wrth gefn lle mae'n ofynnol drwy'r gyfraith, lle mae wedi ei glustnodi drwy gynlluniau'r Cyngor, neu lle mae'n ochelgar ar gyfer risg neu ansicrwydd.  Mae cyfanswm o £1.47 miliwn wedi cael ei neilltuo ar gyfer costau yn codi o'r Statws Sengl ac Arfarnu Swyddi, er nad yw hyn yn amcangyfrif unrhyw rwymedigaeth gwirioneddol.  Ar ddiwedd y flwyddyn, roedd £3.194 miliwn yn arian wrth gefn yr ysgolion, £1.89 miliwn yn Cyfrif Refeniw Tai a £6.43 miliwn yn y Balansau Cyffredinol.  Mae cyfanswm o'r arian wrth gefn clustnodedig wedi cynyddu o £4.9 miliwn, yn bennaf fel canlyniad o greu cronfa wrth gefn safle tirlenwi gwastraff Penhesgyn, a chynnydd i'r arian wrth gefn  Arfarnu Swyddi, arian wrth gefn ail-gylchu gwastraff a'r arian wrth gefn Gwariant Cyfalaf.

 

 

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) o'r farn fod sefyllfa gyllidol gyffredinol yr Awdurdod, fel yr adlewyrchir honno yn y cyfrifon, yn gyffredinol yn gadarn.  Ond roedd y gorwariant a'r gyllideb gwasanaethau cymdeithasol yn creu pryder ac er bod sefyllfa ariannol y Cyngor yn ddigon cryf i gymryd gorwariant yn y tymor byr, nid yw'r sefyllfa yn gynaliadwy yn y tymor hir.  

 

 

 

Cododd yr Aelodau sawl cwestiwn ar fanylion yn y Datganiad yng nghyswllt y gwerth a roddwyd ar asedion y Cyngor; hefyd ynghylch y Dreth Gyngor a hawlio dyledion dan y Dreth Gyngor (ac ar y mater hwn roedd aelod yn nodi bod cais wedi ei gyflwyno am adroddiad manylach mewn cyfarfod o'r Prif Bwyllgor Sgriwtini yn gynharach yn yr wythnos); casglu rhent a'r cynnydd yn y dyledion rhent a hefyd sut y bydd asedion Cwmni Gwastraff Môn/Arfon yn cael eu rhannu ar ôl dirwyn y cwmni i ben ac yng nghyswllt y pethau hyn cafwyd eglurhad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a'r Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid).

 

 

 

Wedyn cafwyd trafodaeth fanylach ar y gorwariant datganedig £1.1m dan gyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol a gwnaed y pwyntiau a ganlyn yng nghyswllt yr eitem hon -

 

 

 

Ÿ

Roedd maint y gorwariant dan gyllideb  y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi peri syndod ac anesmwythyd i rai aelodau ac yn arbennig oherwydd bod adroddiadau i'r Pwyllgor Gwaith yn ystod y flwyddyn wedi dangos fod graddfa'r gorwariant yn llai a bod gan yr Adran gynlluniau  i gyflwyno arbedion effeithiolrwydd er mwyn gwneud iawn am orwariant.  Ond hefyd roedd y Weinyddiaeth gynt wedi rhoddi Grant Cymell Perfformiad i'r Adran ac o'r herwydd gofynnwyd am eglurhad ar pam fod y sefyllfa wedi dirywio.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod staff Rheoli Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn effro i'r posibilrwydd o orwario ar rai meysydd o'r gyllideb yn gynnar iawn yn y broses o gynllunio'r gyllideb a bod yr ymwybyddiaeth hon yn cael ei hadlewyrchu gan rai ffigyrau.  Mae'r diffyg terfynol yn uwch na'r amcangyfrif gan fod y broses o gau'r cyfrifon yn gorfod bod yn broses drylwyr a manwl iawn a lefel y cywirdeb yn mynd y tu draw i beth sydd raid wrtho yn yr adroddiadau ar fonitro'r gyllideb.  Roedd rhai, nid y cyfan o'r mesurau effeithiolrwydd a gynlluniwyd gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi eu cyflwyno.  Roedd trafodaethau yn y broses o gael eu cynnal ar ganfod atebion a chytunwyd yn y trafodaethau hyn i gynnal arolwg allanol ar y meysydd hynny yng nghyllideb yr Adran sy'n peri'r pryder mwyaf.  Roedd y Grant Cymell Perfformiad ar gael i wario eleni, 2008/09.

 

 

 

 

 

Ÿ

Ond ychwanegu at bryderon yr aelodau oedd y bwriad i gyflogi ymgynghorwyr allanol ar gost ychwanegol i fynd i'r afael â phroblem gorwariant yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.  Ond pwysleisiwyd bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn wasanaeth sy'n gorfod ymateb i'r anghenion a chan fod y cyfryw anghenion yn aml yn ddwys ac yn gymhleth, mae'r gwasanaeth, yn anorfod, yn un drud.  Awgrymwyd bod rhywfaint o'r pwysau i'w briodoli i fewnfudiad o bobl hyn i'r ardal sy'n dod â lefelau amrywiol o anghenion gyda nhw a rheini yn peri costau sylweddol i'r ddarpariaeth.  Yma crybwyllwyd yr angen i gynllunio ymlaen a nodwyd, pa mor anodd bynnag yw'r dasg, bod rai yn ymdrechu mwy er mwyn ceisio rhagamcan lefelau angen ymlaen llaw.  Ond yn groes i hyn dywedodd aelod arall fod y ddarpariaeth ar gyfer unrhyw gynnydd ym mhoblogaeth yr henoed eisoes yn y gyllideb i'r Gwasanaethau Cymdeithasol a bod raid i'r holl wasanaethau weithio y tu mewn i'w hadnoddau.  O gael un gwasanaeth yn gorwario yn sylweddol roedd hynny yn anheg i'r gwasanaethau eraill a oedd yn byw y tu mewn i'r cyllidebau.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) mae un o'r brif feysydd y gorwario (tua £600k) yw'r Gwasanaeth Anawsterau Dysgu a hynny i'w briodoli i'r ffaith bod unigolion gydag anawsterau dysgu yn byw yn hwy oherwydd y gwelliant yn y triniaethau iechyd.  Rhieni sy'n gofalu am lawer o'r unigolion hyn ond wrth i'r rhieni fynd yn hyn a methu â rhoddi yr un lefel o ofal, mae'r unigolion wedyn angen cefnogaeth o le arall.  Felly er nad yw nifer yr unigolion gydag anawsterau dysgu ddim wedi cynyddu'n fawr gwelwyd y cynnydd yn nifer y rhai mewn unedau preswylio cefnogol - ond nid oedd hyn yn egluro y cyfan o orwariant yr Adran a dyna pam mae'r trafodaethau'n parhau.

 

 

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r fersiwn drafft o'r Datganiad Cyfrifon am 2007/08 ar gyfer y broses archwilio ac i'w darllen gan y cyhoedd.

 

 

 

6     ADRODDIAD BLYNYDDOL ARCHWILIO MEWNOL 2007/08

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2007/08 yn adolygu gwaith yr Adain am y flwyddyn.

 

      

 

     Nododd yr Uwch Archwiliwr y pwyntiau a ganlyn -

 

      

 

6.1     Mae'r gymhariaeth rhwng y gwaith archwilio gwirioneddol a'r gwaith cynlluniedig yn 2007/08 (1,336 a 1,722 yn y drefn hon) yn dangos bod 386 o ddyddiau wedi'u colli yn y 12 mis o'r flwyddyn a hynny i'w priodoli i swyddi gweigion yn y Tîm Archwilio ac roedd cyfanswm y rheini yn y cyfnod dan sylw yn 578 diwrnod.  Er mwyn gwneud iawn am y dyddiau hyn a gollwyd trefnwyd i gael 135 diwrnod o waith archwilio mewnol gan RSM Bentley-Jennison.

 

6.2     Mae ymrwymiad Tîm Archwilio Mewnol Ynys Môn a defnyddio RSM Bentley-Jennison wedi caniatáu i gynllun a flaenoriaethwyd gael ei orffen ar gyfer y flwyddyn, sydd hefyd yn cynnwys gofynion Swyddog Adran 151 a’r Archwilydd Allanol am y cyfnod.  Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar y systemau rheoli ariannol seiliol ac mae hyn wedi golygu bod yn rhaid i ni ohirio nifer o adolygiadau, a drefnwyd ar y systemau gweithredol, hyd 2008-09.

 

6.3     Mae’r swydd Archwiliwr Mewnol ddaeth yn wag oherwydd i ddeilydd y swydd honno gael ei apwyntio i’r swydd Uchel Archwiliwr Mewnol, wedi’i llenwi.  Mae’r apwyntiad wedi sicrhau bod y Tîm yn llawn ar gyfer 2008-09.

 

6.4     Er bod cymhariaeth rhwng y dyddiau gwirioneddol a’r dyddiau a gynlluniwyd yn dangos yn fras sut y treuliwyd amser staff yn ystod y flwyddyn nid yw’n dangos faint o waith a wnaed (h.y. sawl archwiliad wnaed).  Mae’r tabl canlynol yn rhoddi cymhariaeth rhwng nifer yr archwiliadau a gynlluniwyd a’r archwiliadau a wnaed mewn gwirionedd.  Yn ystod y flwyddyn bu angen diwygio’r cynllun archwilio oherwydd nifer o bethau gwahanol trwy gydol y flwyddyn.  Roedd y rhain gan mwyaf yn ymwneud â swyddi gwag parhaol yn ystod y cyfnod.

 

6.5     Cwblhawyd 37 adroddiad archwilio ffurfiol yn ystod 2007/2008, o’u cymharu â 60 yn y flwyddyn flaenorol.  Rhoddwyd y rhesymau am hyn ym mhob Pwyllgor Archwilio trwy’r flwyddyn ac mae’n ymwneud â llefydd gwag ymhlith staff ac absenoldeb mamolaeth o fewn y Tîm Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod.  Er mai dim ond 41% o’r adolygiadau a wnaed fe gafodd y gwaith hwn ei flaenoriaethu mewn cyswllt â’r Swyddog Adran 151 a’r Archwilydd Allanol.  Mae’r cyfan o’r adolygiadau ariannol allweddol yn y cynllun wedi’u cwblhau.

 

6.6     Er bod gwaith wedi’i gynllunio ar gyfer blynyddoedd unigol o fewn y cynlluniau strategol a blynyddol, fe geir peth gwaith unigol yn cario ymlaen o un flwyddyn i’r llall, yn arbennig gwaith archwilio mawr neu archwiliadau sy’n dechrau’n agos i ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Adlewyrchir hyn yn y ffaith fod 2 adolygiad o fewn y cyfnod adroddiad drafft ar ddiwedd y cyfnod ac un lle'r oedd gwaith yn parhau cyn i adroddiad drafft gael ei ddosbarthu.

 

6.7     Fe gymerwyd y llithriad yng Nghynllun Gweithredol Archwilio Mewnol 2007-08 i ystyriaeth wrth lunio’r Cynllun Strategol Archwilio Mewnol 2008 – 2011 ac felly mae rhai o’r adolygiadau na wnaed yn 2007-08 yn awr yn ymddangos mewn blynyddoedd i ddod yn y Cynllun Strategol.

 

6.8     Mae tabl 4.1 yr Adroddiad Blynyddol yn dangos perfformiad yr Adain Archwilio Mewnol yn erbyn cyfres o ddangosyddion y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Archwilio.  Y tabl yn dangos :

 

      

 

Ÿ

yng nghyswllt mewnbwn, bod costau'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol dan reolaeth dda a'r costau o brynu contractwyr i wneud gwaith cynlluniedig yn mynd yn erbyn arbedion a swyddi gweigion yn ystod y cyfnod.  Roedd gwariant cyllidebol gwirioneddol yn erbyn yr amcangyfrif (94.4%) yn is na tharged CIPFA ar gyfer awdurdodau tebyg;  

 

Ÿ

yng nghyswllt allbynau, roedd ffigyrau 2007/08 yn cymharu'n ffafriol gyda thargedau CIPFA a WCIAG ond nid oedd y deilliannau canlynol yn cymharu'n ffafriol -

 

 

 

Ÿ

Cost daladwy yn ôl diwrnod Archwilio : mae’r ffigwr hwn yn uchel (£353) oherwydd defnyddio staff contract a cholli dyddiau taladwy oherwydd llefydd gwag;

 

Ÿ

Mae cost yn ôl gweithiwr amser llawn yn llai na’r cyfartaledd (£26330) yn bennaf oherwydd llefydd gwag mewn swyddi uwch yn ystod y cyfnod;

 

Ÿ

% o archwiliadau cynlluniedig a gwblhawyd; mae’r ffigwr hwn yn isel ar 41% ac yn ganlyniad uniongyrchol o gael swyddi gwag ac absenoldeb mamolaeth o fewn yr Adain trwy gydol y cyfnod.

 

 

 

Y prif wahaniaeth yma yw’r canran o archwiliadau cynlluniedig a gwblhawyd ac a nodwyd yn gynnar yn y broses gyda Chynllun Gweithredu Archwilio Mewnol diwygiedig yn cael ei lunio i wneud y mwyaf o’r  adnoddau pris.  Gweler yr eglurhad yn 3.2 os gwelwch yn dda.

 

 

 

Ÿ

Yng nghyswllt ansawdd, mae canlyniadau’r holebau ansawdd client yn parhau i fod yn uwch na’r targedau a osodwyd, gyda’r perfformiad yn 2007/08 yn 100% bodlonrwydd a 67% gyda chyfartaleddol ‘Da’ neu uwch.

 

 

 

6.9     Mae'r tablau ym mharagraff 5 yn  dangos cyfanswm nifer yr archwiliadau ar gyfer pob gradd archwilio i bob un o’r prif feysydd archwilio.  Mae’r crynodeb hwn yn rhoi syniad o safon cyffredinol y rheolaethau mewnol ymhob maes a archwiliwyd.  Mae tabl 1 yn dangos yr adolygiadau systemau a gyflawnwyd lle cafwyd barn oedd naill ai’n sylweddol, digonol neu sicrwydd cyfyngedig.  O'r cyfanswm o 28 o unedau archwilio, cafodd 7 ohonynt sicrwydd sylweddol, 21 yn cael sicrwydd digonol ac ni roddwyd sicrwydd cyfyngedig i'r un uned o waith archwilio. Fe ddengys Tabl 2 y graddfeydd a roddwyd i archwiliadau sefydliadau yn y cyfnod.  Ar gyfer adolygiadau ar Sefydliadau mae pob archwiliad yn cael ei raddio o A i E er mwyn dangos safon y rheolaethau mewnol ac A yn cynrychioli dim gwendidau yn y rheolaethau mewnol ac E yn dangos system hollol annigonol o reolaethau mewnol yn achosi camgymeriadau sylweddol.  O'r 10 o unedau archwilio cafodd 4 ohonynt raddfa B a 6 yn derbyn C.

 

6.10     Y radd gyffredinol i’r holl waith a wnaed ar adolygiadau sefydliadau yw C lle cafwyd gradd B yn 2006-07 ar yr holl systemau a archwiliwyd.  Bu i rannu adolygiadau systemau ac adolygiadau sefydliadol yn 2007-08 olygu na allwyd gwneud cymhariaeth uniongyrchol y flwyddyn hon ond fe ellir gwneud hynny o 2008-09 ymlaen.

 

6.11     Mae’r radd gyffredinol Digonol ar gyfer adolygiadau system a C ar gyfer yr archwiliadau sefydliadol yn golygu bod risg ganolig i isel i’r Awdurdod.  Yn seiliedig ar sgôp y gwaith a wnaed, ac i’r gweithredu a argymhellir i reolwyr gael ei wneud a’r systemau hynny yn parhau i weithredu fel a fwriadwyd, ni wnaeth yr archwiliwr nodi unrhyw wendid arwyddocaol cyffredinol mewn rheolaethau fyddai’n rhwystro’r Cyngor rhag gallu dibynnu yn rhesymol ar y system o reolaethau mewnol yng nghyswllt y systemau hynny a archwiliwyd yn ystod y flwyddyn.

 

6.12     Dylid nodi na all unrhyw system o reolaethau mewnol ond darparu sicrwydd rhesymol, ac nid hollol, yn erbyn camddatganiadau sylweddol neu golled.   Ni wnaeth y gwaith archwilio a wnaed ac a gwblhawyd nodi unrhyw feysydd sydd o gonsyrn ac sy’n cael eu hystyried yn arwyddocaol neu a oedd yn gritigol i fusnes y Cyngor yn gyffredinol.

 

6.13     Mae canlyniad yr holl adroddiadau Archwilio Mewnol a gwblheir yn destun adroddiad i’r Pwyllgor Archwilio drwy adroddiadau Cynnydd Archwilio Mewnol Chwarterol y Rheolwr Archwilio.  Byddir yn adrodd mewn manylder i’r Pwyllgor Archwilio ar unrhyw adolygiad system sy’n derbyn barn sicrwydd ‘Cyfyngedig’ neu adolygiad sefydliad fydd yn derbyn gradd ‘D’ neu ‘E’. Yn 2007-08 ni chafwyd unrhyw ganlyniad sydd wedi adlewyrchu’n niweidiol ar farn y fframwaith rheolaeth fewnol a ddatganwyd yn y Datganiad o Reolaeth Fewnol.

 

      

 

Diolchodd yr aelodau i'r Uchel Archwiliwr Mewnol am ein tywys trwy'r adroddiad a hefyd diolchwyd i'r holl Adain Archwilio Mewnol am y gwaith a wnaethpwyd yn ystod blwyddyn a oedd ar adegau'n anodd.  Er mwyn y rheini oedd yn newydd ar y Pwyllgor Archwilio eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) natur y trefniant rhwng yr awdurdod ac RSM Bentley Jennison, y cwmni a gyflogwyd i reoli a goruchwylio swyddogaeth archwilio mewnol yr Awdurdod.

 

 

 

Nododd un aelod mai'r raddfa gyffredinol a roddwyd i'r holl waith a wnaed yn ystod y flwyddyn ar yr arolygon sefydliad oedd C a hynny'n cymharu gyda B yn 2006/07, ac ofnai bod hyn yn arwydd o safonau is.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd yr Uchel Archwiliwr Mewnol bod graddfeydd B ac C, mewn termau archwilio, yn ganlyniadau da ac yn dangos risg fechan iawn neu risg fechan i'r Awdurdod yng nghyswllt y sefydliadau hynny gafodd y graddfeydd hyn.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn yr Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2006/07 a nodi ei gynnwys.

 

 

 

7

ADRODDIAD GWAITH ARCHWILIO MEWNOL

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad y Rheolwr Archwilio yn crynhoi y gwaith a wnaeth yr Adain Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod 1 Ebrill hyd at 31 Mai 2008 yng nghyswllt arolygon ar y systemau ac ar y sefydliad yn ystod y cyfnod.

 

      

 

     Y rhain yw'r prif bwyntiau yr adroddodd yr Uchel Archwiliwr Mewnol arnynt -

 

      

 

Ÿ

Mae arolwg ar y system yn cyffwrdd â phob agwedd a phob cyfnod o’r pwnc a archwilir, ond y tu mewn i’r sgôp archwilio y cytunwyd arno.  Mae’n ymwneud ag adolygu dyluniad a gweithrediad rheolaethau.  Mewn arolwg ar y system asesir, cofnodir a rhoddir prawf ar y rheolaethau gwirioneddol sydd yn eu lle yn y system a hynny er mwyn sicrhau bod system gadarn fewnol yn ei lle a bod y rheolaethau hynny yn cael eu defnyddio’n gyson ar draws cyfnod yr arolwg.

 

Ÿ

Mewn arolygon ar y sefydliad archwilir sefydliadau unigol y Cyngor (Ysgolion, Cartrefi Henoed a Phlant, Canolfannau Gofal Dydd, Canolfannau Hamdden, Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd etc).  Mae’r unedau archwilio hyn yn  dilyn rhaglen safonol o waith archwilio a ddatblygwyd i bob sefydliad unigol.  Yn 2008-09 glynwyd wrth y system raddio “A-E” i arolygon y sefydliad gan fod y staff yn fwy cyfarwydd â’r system hon a hefyd rydym o’r farn ei bod yn fwy priodol i’r math hwn o arolwg.

 

Ÿ

Cytunwyd ar Gynllun Gweithredol 2008-09 yn y Pwyllgor Archwilio a gafwyd ar 17 Ebrill 2008.  Paratowyd y Cynllun mewn ymgynghoriad gyda’r Archwiliwr Allanol, gyda’r Swyddog Adran 151 a chafwyd cyfarfodydd a gohebiaeth gyda’r Penaethiaid Gwasanaeth.

 

Ÿ

Mae Tabl 1 ym mharagraff 2.2 yr adroddiad yn dangos cynnydd yn erbyn yr arolygiadau hynny sy’n weddill ar Gynllun Gwaith 2007-08.  Yn ychwanegol at y wybodaeth yn y tabl, cyflwynwyd dau adroddiad drafft ar archwilio Rhenti Tai a Mân-ddyledwyr.  Yn y Pwyllgor Archwilio diwethaf cytunwyd i gadw'r gwahaniaeth yn y graddfeydd rhwng arolygon systemau ac arolygon sefydliad oherwydd eu bod yn adlewyrchu'r gwahaniaeth rhwng y ddau gategori.  Ond er mwyn hwyluso'r broses o ddehongli'r tabl gwaith eleni mae'n cael ei rannu rhwng yr arolygon systemau a'r arolygon sefydliad.  Felly mae Tabl 2 yn dangos y cynnydd ar yr arolygon systemau cynlluniedig a Tabl 3 yn dangos y cynnydd yn erbyn arolygon sefydliad cynlluniedig.

 

Ÿ

y gymhariaeth rhwng y dyddiau cynlluniedig i bob categori o waith yn erbyn y dyddiau gwirioneddol a gofnodwyd yn erbyn pob categori yn y Tabl dan baragraff 2.4 yr adroddiad dangosir y cymhariaeth rhwng y dyddiau cynlluniedig i bob categori o waith archwilio yn erbyn y dyddiau gwirioneddol a gofnodir yn erbyn pob categori. Sefydlwyd Cynllun Gwaith yr Adain Archwilio Mewnol am 2008-09 ar adnoddau staff llawn Chwarter 2 y flwyddyn.  Mae’r dadansoddiad uchod o’r diwrnodau yn seiliedig ar broffil o 12 dyraniad bob mis.  Mae hyn yn gorbwysleisio y diffyg yn nifer y dyddiau ar waith archwilio a raglennwyd am y cyfnod hwn.  Yn y cyfnod hwn cafwyd dau Bwyllgor Archwilio a dyrannwyd amser i gynllunio ac i weinyddu gwaith archwilio er mwyn creu amserlen i’r gwaith archwilio am flwyddyn gron. Mae’r diffyg cyffredinol o 42.5 diwrnod dros y cyfnod i’w briodoli’n bennaf i absenoldeb mamolaeth sy’n parhau ac i'r ffaith na ddechreuodd yr Archwilydd Mewnol newydd yn ei swydd hyn 9 Mehefin 2008.

 

Ÿ

Ar ôl penodi i swydd yr Archwiliwr Mewnol ac ar ôl i'r Arweinydd Tîm ddychwelyd o absenoldeb mamolaeth ym mis Mehefin, bydd sefydliad staff llawn i'r gwasanaeth am y tro cyntaf mewn 12 mis.  Felly y gobaith yw y bydd y Cynllun Gwaith Archwilio Mewnol am 2008/09 yn cael ei gwblhau'n derfynol.  At hyn gan fod hyfforddai graddedig yn cael ei roddi i'r gwasanaeth bydd modd gwneud gwaith adolygu ar ddilyn i fyny yr argymhellion a wnaed yn 2007/08 ac wedyn bydd modd cyflwyno barn ar berfformiad gwasanaeth perthnasol yng nghyswllt gweithredu ar yr argymhellion hynny.

 

Ÿ

Mae'r Pwyllgor, yn y gorffennol, wedi penderfynu y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno iddo pan fo ymateb heb ei dderbyn cyn pen 3 mis i gyhoeddi adroddiad drafft neu adroddiad drafft diwygiedig.

 

Ÿ

Ers y Pwyllgor Archwilio diwethaf rydym wedi cyhoeddi 6 o adroddiadau o Gynllun Gwaith Archwilio Mewnol 2007-08.  Ni chyhoeddwyd yr un adroddiad dan gynllun 2008-09 yn y cyfnod. Mae crynodeb o'r graddfeydd yn ymddangos yn y tabl isod.  Yn y cyfnod doedd yr un adroddiad wedi derbyn graddfa "D" na graddfa "E" na ‘run adroddiad system wedi derbyn "sicrwydd cyfyngedig".

 

Ÿ

Yng nghyswllt gwaith ymchwilio arbennig ar faterion sy'n dod i'r fei yn ystod y flwyddyn mae'r Adain Archwilio Mewnol yn gorfod gwneud gwaith ar faterion sy'n dod i'r fei yn ystod gwaith archwilio cynlluniedig neu oherwydd materion a ddygir i sylw'r Adain gan Adrannau eraill a gwaith hefyd mae adrannau eraill yn gofyn i'r Adain Archwilio Mewnol ei wneud, adroddwyd yn y Pwyllgor Archwilio diwethaf dywedwyd bod yr Adain Archwilio Mewnol wedi ymchwilio i ymgais i dwyllo gyda sieciau.  Y banc a ddaeth ar draws y twyll ac o’r herwydd nid oedd yma unrhyw golled i’r Cyngor.  Trosglwyddwyd canlyniadau’r archwiliad i’r Heddlu ac maent hwy gyda’r pwerau i symud ymlaen gyda’r ymchwiliadau.  Fodd bynnag, mae’r Heddlu wedi gofyn i’r Cyngor wneud rhagor o waith ymchwil ac o’r herwydd mae hwnnw’n parhau.

 

Ÿ

Ni wnaeth unrhyw waith dilyn-i-fyny ffisegol hyd yma.  Ond dan gytundeb a wnaed gyda’r Adain Gyllid, cytunwyd y buasai’r Adain Archwilio Mewnol yn cael hyfforddai graddedig ym Medi 2008.  Bwriedir defnyddio’r unigolyn hwn, ar y cyd gyda’r ddarpariaeth a gafwyd gan RSM Bentley-Jennison i olrhain argymhellion, i ddilyn camau rheolwyr ar argymhellion yn deillio o adroddiadau archwilio - argymhellion sydd wedi cyrraedd neu wedi mynd heibio y dyddiad targed i bwrpas gweithredu.  Bydd y gwaith a wneir yng nghyswllt gweithredu ar holl argymhellion y ddarpariaeth dracio yn destun adroddiad dan eitem sefydlog ymhlith yr adroddiadau ar gynnydd i’r Pwyllgor Archwilio o fis Medi 2008 ymlaen.

 

 

 

Bydd y cynnydd gyda'r broses o weithredu ar yr holl argymhellion ar y cyfleuster tracio yn cael eu hadrodd fel eitem sefydlog yn yr adroddiadau cynnydd i'r Pwyllgor Archwilio o fis Medi 2008 ymlaen.  Roedd yr Aelodau'n pryderu oherwydd yr oedi ar ran Rheolwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i adroddiad archwilio drafft a gyhoeddwyd ar y Gwasanaethau Pryd ar Glyd ac yn arbennig felly gan fod prif argymhellion y gwaith hwnnw yn awgrymu ffordd bosib o arbed arian ac o weithio yn fwy effeithiol - peth a allai fod o gymorth mawr i sefyllfa ariannol y Gwasanaethau Cymdeithasol fel yr adroddwyd ar hynny dan yr eitem flaenorol.  Dan yr amgylchiadau roedd yr aelodau yn anfodol oherwydd y diffyg ymateb a gofynnwyd am adroddiad ar y mater i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio.

 

 

 

Yma dygodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) sylw at y ffaith bod argymhellion yr adroddiad archwilio i symud oddi wrth y taliadau arian parod i daliadau debyd uniongyrchol am y Gwasanaeth Pryd ar Glyd yn newid yn radical ac yn golygu newid yn llwyr yr arferion presennol yn ogystal â newid y systemau.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

Ÿ

Derbyn yr adroddiad cynnydd ar Archwilio Mewnol am y cyfnod 1 Ebrill hyd at 31 Mai 2008 a nodi ei gynnwys;

 

Ÿ

Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio ar ymateb rheolwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad archwilio drafft ar y Gwasanaeth Pryd ar Glyd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Cynghorydd Jim Evans

 

Is-Gadeirydd

 

(yn y Gadair)