Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 1 Rhagfyr 2005

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 1af Rhagfyr, 2005

Cyfarfod Arbennig o Gyngor Sir Ynys Môn

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr, 2005 (10.00 a.m)  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Byast (Cadeirydd)

Y Cynghorydd J. Rowlands (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns, W. J. Chorlton, E. G. Davies, J. M. Davies, J. A. Edwards, K. Evans, P. M. Fowlie, D. R. Hadley, D. R. Hughes, Fflur M. Hughes, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. M. Jones, G. O. Jones, H. E. Jones, J. A. Jones, O. G. Jones, R. Ll.Jones, T. H. Jones, D. A. Lewis-Roberts, Bryan Owen, R. L. Owen, G. O. Parry MBE, R. G. Parry OBE, G. A. Roberts, G. Winston Roberts OBE, J. Arwel Roberts, John Roberts, W. T. Roberts, H. Noel Thomas, H. W. Thomas, J. Williams, W. J. Williams MBE.  

 

 

 

WRTH LAW:

 

Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio (JW);

Rheolwr Polisi Cynllunio (ME);

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RJ);

Swyddog Pwyllgor (JMA);

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr P. Dunning; Keith Thomas.

 

 

 

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb a oedd yn bresennol a gofynnodd i'r Cynghorydd Mrs Bessie Burns agor y cyfarfod gyda gweddi.

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Robert Lloyd Hughes mewn perthynas â rhannau o'r CDU a oedd yn cyfeirio at Garafanau.

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU'R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETH TÂL

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r eitem hon yn cael sylw yn y cyfarfod o'r Cyngor Sir a gynhelir ar 15 Rhagfyr 2005.

 

3

CYNLLUN DATBLYGU UNEDOL YNYS MÔN

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Hefin Thomas y Cynllun Datblygu Unedol a dywedodd ei bod yn ddogfen bwysig i bob aelod o'r Cyngor Sir ac i drigolion Ynys Môn.  Estynnodd wahoddiad i'r Rheolwr Polisi Cynllunio gyflwyno'r cynllun i'r aelodau.  Esboniodd y Rheolwr Polisi Cynllunio mai pwrpas y cyfarfod oedd ystyried a ddylid cyhoeddi'r diwygiadau i CDU Ynys Môn.  Amlinellodd y cefndir i'r CDU gan gynnwys derbyn adroddiad yr Arolygydd ym mis Gorffennaf 2004.  Bu raid i'r Cyngor Sir wneud penderfyniadau ar bob argymhelliad yn yr adroddiad hwnnw.  Cafwyd cyfnod 12 mis wedyn o drafodaethau manwl gyda'r Pwyllgor Gwaith a'r Pwyllgorau Sgriwtini a dosbarthwyd eu penderfyniadau i'r aelodau, gan gynnwys y rhesymau am eu penderfyniadau ac unrhyw ddiwygiad/ diweddariad.  Cafodd yr aelodau fanylion am gamau a gymerwyd gan awdurdodau eraill yng Nghymru mewn perthynas â'u CDU.

 

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried pedwar opsiwn :

 

Ÿ

Opsiwn 1 - Cyhoeddi'r diwygiadau;

Ÿ

Opsiwn 2 - Tynnu'n ôl o'r CDU

Ÿ

Opsiwn 3 - "rhoi'r gorau i weithio" ar y CDU

 

Ÿ

Opsiwn 4 - Cyhoeddi diwygiadau wedi eu symleiddio yn seiliedig ar adroddiad yr Arolygydd.

 

 

 

Esboniodd y Swyddog y goblygiadau o benderfynu ar unrhyw un o'r opsiynau uchod ac fe gynghorodd yr aelodau i ddilyn opsiwn (1) a chyhoeddi'r diwygiadau ac ystyried y sefyllfa wedi i'r cyfnod ymgynghori cyhoeddus o chwe wythnos ddod i ben ac anelu at fabwysiadu'r cynllun cyn mis Gorffennaf 2006 cyn cychwyn gwaith ar y Cynllun Datblygu Lleol.

 

 

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i'r aelodau wneud sylwadau ac/neu ofyn cwestiynau i'r swyddog.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Chorlton y dylid derbyn Opsiwn 1.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Keith Evans.

 

 

 

Mynegodd rhai aelodau bryderon ynghylch derbyn Opsiwn 1 heb wneud rhai newidiadau yn arbennig felly mewn perthynas â thir yn Nhy Mawr, Llanfairpwll ac yn Llandegfan.  Mynegwyd pryder nad oedd unrhyw gyfeiriad wedi ei wneud i'r Cynllun Gofodol sy'n ddogfen bwysig i'r Cyngor yn arbennig o'r persbectif Economaidd.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd D. A. Lewis-Roberts welliant, sef bod yr aelodau yn derbyn Opsiwn 3.  Cafodd y gwelliant hwn ei eilio gan y Cynghorydd R. G. Parry OBE.

 

 

 

Yn unol â darpariaethau Rhan 4.1.18.5 yng Nghyfansoddiad y Cyngor cytunwyd i gymryd pleidlais wedi ei chofnodi.  Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

 

 

O blaid y gwelliant i dderbyn Opsiwn 3 sef "rhoi gorau i weithio" ar y CDU a symud i'r system CDLl newydd.

 

 

 

Y Cynghorwyr J. Byast, E. G. Davies, J. A. Edwards, P. M. Fowlie, D. R. Hughes, Fflur M. Hughes, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, G. O. Jones, J. A. Jones, O. G. Jones, A. Morris Jones, R. Ll. Jones, T. H. Jones, B. Owen, R. L. Owen, G. O. Parry MBE, R. G. Parry OBE, D. A. Lewis-Roberts, G. A. Roberts, G. W. Roberts OBE, W. T. Roberts, J. Rowlands, H. Noel Thomas, W. J. Williams MBE.

 

 

 

Yn erbyn y Gwelliant :-

 

 

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns, W. J. Chorlton, J. M. Davies, K. Evans, H. E. Jones, J. A. Roberts, John Roberts, Hefin W. Thomas, John Williams.

 

 

 

Atal pleidlais :-

 

 

 

Y Cynghorydd Denis Hadley.

 

 

 

Datganodd y Cadeirydd bod y gwelliant i dderbyn Opsiwn 3 wedi ei gario a chaeodd y cyfarfod am 11.00 a.m.

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD JOHN BYAST

 

CADEIRYDD