Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 2 Mawrth 2006

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 2ail Mawrth, 2006

Cyfarfod Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar   2 Mawrth, 2006 (2.00pm)  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Byast (Cadeirydd)

Y Cynghorydd J. Rowlands (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns MBE, W. J. Chorlton, E. G. Davies,

J. M. Davies, P. J. Dunning, J. A. Edwards, K. Evans,

C. Ll. Everett, P. M. Fowlie, D. R. Hadley, D. R. Hughes,

Fflur M. Hughes, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. M. Jones,

G. O. Jones, H. E. Jones, J. A. Jones, O. G. Jones, R. Ll. Jones, T. H. Jones, D. A. Lewis-Roberts, Bryan Owen, R. L. Owen, G. O. Parry MBE, R. G. Parry OBE, G. A. Roberts, G. Winston Roberts OBE, J. Arwel Roberts, John Roberts, W. T. Roberts, P. S. Rogers, E. Schofield, H. Noel Thomas, H. W. Thomas, K. Thomas, J. Williams, W. J. Williams MBE.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Gwasanaethau Technegol ac Amgylcheddol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd)

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Cyfreithiwr (RMJ)
Swyddog Cyfathrebu

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd C. L. Everett ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei chwaer yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol a hefyd yng nghyswllt ei waith fel Clerc i Gyngor Tref Caergybi.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. O. Parry MBE ddatganiad o ddiddorddeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ddwy ferch yn yr Adran Gyllid.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Owen ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw  eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig a'i ferch gan yr Awdurdod Addysg Lleol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.  Hefyd mewn perthynas ag Eitem 9.1 o gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2005 ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y trafod na'r pleidleisio ar yr eitem.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Robert Lloyd Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Briffyrdd.  Gwnaeth ddatganiad hefyd yng nghyswllt Eitem 3 o gofnodion y Pwyllgor Safonau gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2005 ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod trafod a phleidleisio ar yr eitem.

 

Gwnaeth y Cynghorydd J. Byast ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 9(a) a (b) o'r cofnodion hyn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y trafod na'r pleidleisio ar yr eitem.  Cymerodd y Cynghorydd John Rowlands (Is-Gadeirydd) y gadair yn ystod y mater hwn.

 

Gwnaeth y Cynghorydd K. Thomas ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. O. Jones ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 9(a) a (b) o'r cofnodion hyn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y trafod na'r pleidleisio ar yr eitem.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. Allan Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab-yng-nghyfraith yn yr Adran Gyllid. Hefyd gwnaeth ddatganiad yng nghyswllt eitem 9(a) a (b) o'r cofnodion hyn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y trafod na'r pleidleisio ar yr eitem.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd A Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag  unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd E.  Schofield ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wyr yn yr Adran Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddidordeb yn eitem 9(b) a (c) o'r cofnodion hyn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y trafod na'r pleidleisio ar yr eitem.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W. J. Williams ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes yn ymwneud â Menter Môn.

 

 

 

Gwnaeth y Rheolwr-gyfarwyddwr ddatganiad o ddiddoreb yn Eitem 15 o gofnodion y Pwyllgor Gwaith gynhaliwyd ar 13 Chwefror ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y trafod na'r pleidleisio ar yr eitem.

 

 

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETH TÂL

 

 

 

Estynnodd y Cadeirydd ar ran yr holl aelodau a staff ei longyfarchiadau i'r Cynghorydd Mrs Bessie Burns oedd wedi derbyn yr MBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Frenhines am y Flwyddyn Newydd.  Rhoddwyd yr anrhydedd hon i Mrs Burns mewn cydnabyddiaeth o'i gwaith dros y gymuned leol.

 

 

 

Estynnwyd llongyfarchiadau i'r canlynol :-

 

 

 

Jane Waltham, Cydlynydd Dyfarniadau Glan y Môr, ar gael ei gradd M.A. mewn Iechyd Amgylcheddol gan Brifysgol Derby.  Jane oedd y person cyntaf yn y DG i raddio gyda Gradd Meistr yn dilyn astudio ar lein.

 

 

 

Tudur a Gareth Owen o Lanynghenedl ar gael eu dewis fel rhan o'r unig dîm o Brydain Fawr i gymryd rhan mewn cystadleuaeth hwylio o fri yn Perth, Awstralia.  Mae Tudur ar hyn o bryd yn gweithio fel hyfforddwr rygbi gydag Uned Datblygu Chwaraeon y Cyngor Sir. Y ddau frawd oedd yr unig ddau Gymry yn y tîm fyddai'n rasio cychod 36 troedfedd elwir yn 'Foundation 36's' ac yn cystadlu am Gwpan Gwahoddiad Warren Jones.

 

 

 

Gethin Wynne Davies, disgybl yn Ysgol Llanfair-pwll ac Ashley Durkan o Ysgol Uwchradd Caergybi oedd wedi eu dewis i fynychu agoriad swyddogol y Senedd yng Nghaerdydd gan Ei Mawrhydi y Frenhines ar Ddydd Dewi Sant.

 

Ar nodyn mwy trist estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â'r Cynghorydd Gwilym Jones ar golli ei frawd Idwal yn ddiweddar.  Roedd Idwal wedi dioddef afiechyd am gyfnod pur hir ac roedd Gwilym wedi edrych ar ei ôl yn ystod yr amser hwnnw.  

 

 

 

Mynegwyd cydymdeimlad gyda theulu'r cyn Gynghorydd Glyngwyn Roberts, YH (Tai Hen, Rhosgoch).  Bu'n aelod dros ardal Llanbadrig ar yr hen Gyngor Sir Gwynedd cyn yr ad-drefnu ac roedd hefyd yn Gadeirydd Cyngor Sir Gwynedd yn ystod y 90au cynnar.

 

 

 

Cymerodd y Cadeirydd y cyfle hefyd i gydymdeimlo gydag unrhyw aelod o'r staff oedd wedi cael profedigaeth ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.

 

 

 

Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn teyrnged ddistaw fel arwydd o'u parch.

 

 

 

 

 

3

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd i'w cadarnhau a'u harwyddo gofnodion y Cyfarfod o'r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr, 2005.

 

(Tudalennau 1 - 32 o'r Gyfrol)

 

 

 

Yn codi o'r cofnodion -

 

 

 

Eitem 9 - Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

 

 

 

(i)  Cyfeiriodd y Cynghorydd P. S. Rogers at eitem 9 o'r cofnodion a gofynnodd a oedd y Cynghorydd J. R. Jones yn barod i dynnu ei eiriau yn ôl ac ymddiheuro am gyfeirio ato fel un 'celwyddog' yn y Siambr, neu fel arall yr oedd yn teimlo y byddai angen ymchwiliad i egluro'r cyhuddiad difrifol hwn.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr mai'r Is-Gadeirydd oedd wedi cymryd yr eitem yn y cyfarfod diwethaf a'i fod wedi gofyn i'r Cynghorydd dynnu'r datganiad yn ei ôl.  Roedd y Cynghorydd wedi gwrthod gwneud hynny.  Roedd y cofnod yn gywir fel yr oedd ond os oedd y Cynghorydd Rogers yn dymuno mynd â'r mater ymhellach fe ddylai wneud hynny trwy'r sianelau arferol i'r Ombwdsmon.

 

 

 

Darllenodd y Cynghorydd J. A. Jones y datganiad canlynol yr oedd wedi ei wneud yn y cyfarfod, sef "mae'r hyn y mae wedi ysgrifennu i lawr yn y papurau hyn yn gamarweiniol ac yn fwriadol felly".

 

 

 

"Felly, be dwi'n ddeud ac dwi'n ei ddweud o eto rwan, mae be oedd y Cynghorydd Peter Rogers wedi sgwennu i lawr i roi gerbron y Cyngor yma, roedd o wedi rhoi pedwar peth yna, dwi'n dweud wrthych bod tri ohonynt yn gamarweiniol neu yn gelwydd.  Mater o ffaith ydi hynny hogia, cwbl sydd rhaid i chwi wneud yw sbio be mae o wedi sgwennu a gofynnwch wedyn y cwestiynau a cerwch i gael yr atebion, ac mi ydwi yn dweud wrthych, yn sefyll yn fan hyn eto, mae be mae o wedi sgwennu yn gamarweiniol ac neu yn gelwydd.  Simple."

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd E. Schofield i'r Swyddog Monitro a oedd hi yn fodlon nad oedd yr honiadau yn y cofnodion ddim yn gwarantu ymchwiliad ?

 

 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro - os oedd y Cynghorydd Rogers yn tybio y dylai'r mater gael ei ymchwilio, y llwybr cywir iddo'i gymryd oedd iddo adrodd am hyn i'r Ombwdsmon fel toriad o'r Côd Ymddygiad.  Roedd wedyn i fyny i'r Ombwdsmon benderfynu ei gyfeirio yn ôl i'w ymchwilio yn lleol gan y Swyddog Monitro a'r Pwyllgor Safonau, neu os oedd yr Ombwdsmon ei hun am ymchwilio i mewn i'r peth neu yn wir, wrthod y mater.

 

 

 

(ii)  Gofynnodd y Cynghorydd P. M. Fowlie i'r Cynghorydd H. E. Jones fel Deilydd Portffolio a allai gadarnhau fod y Rheolwr Iechyd a Diogewlch oedd newydd ei phenodi yn cael ei chyflogi gan yr awdurdod hwn yn unig.

 

 

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd H. E. Jones yn ei ateb fod y swyddog yn cael ei chyflogi gan yr awdurdod hwn yn unig.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Fowlie ymhellach i'r Deilydd Protffolio a oedd yn ymwybodol fod y swyddog yn gweithio heddiw i Gyngor Sir Ddinbych ?

 

 

 

Wrth ateb fe ofynnodd y Cynghorydd H. E. Jones i'r Cynghorydd Fowlie a oedd ganddo unrhyw wybodaeth i'r perwyl hwn ac os oedd, fe ddylai ysgrifennu i mewn fel y gellid ymchwilio i mewn i'r mater ymhellach.  Cyn belled ag yr oedd y swydd arbennig hon mewn cwestiwn, gofynnodd i'r Cynghorydd Fowlie a oedd eisiau datgan diddordeb yn y mater ai peidio ?

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Fowlie ei fod yn dymuno ei gwneud yn glir, fel yr oedd wedi gwneud cyn hynny ym mis Rhagfyr, fod yr aelodau yn ymwybodol fod ei wraig ag ymwneud yn y maes hwn ac nad oedd ganddo unrhyw reswm dros ddatgan diddordeb.  Nid oedd yn dymuno ysgrifennu i mewn ar y mater hwn gan ei fod o flaen y Cyngor heddiw am ateb i'r cwestiwn.  Roedd wedi ailadrodd ei ddatganiad blaenorol ac yn gofyn am ymateb.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol fod y Rheolwr wedi dechrau ei dyletswyddau yn Rhagfyr a chadarnhaodd fod y swyddog yn cael ei chyflogi gan yr awdurdod hwn yn unig.  Fel llawer o weithwyr newydd ar y lefel hon roedd angen peth hyblygrwydd ac yn yr achos arbennig hwn roedd cytundeb gyda ei chyn gyflogwr y byddem yn hyblyg yn y tymor byr wrth ryddhau'r swyddog i fynychu ambell i gyfarfod mewn perthynas ag achosion arwyddocaol oedd yn wynebu'r awdurdod hwnnw.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Fowlie yn nodi'r ymateb a gofynnodd pa bryd yr oedd yr Arweinydd yn bwriadu gweithredu ar y penderfyniad wnaed gan y Cyngor ar 15 Rhagfyr, 2005 i sefydlu panel o aelodau i roddi ystyriaeth bellach i'r adroddiad iechyd a diogelwch ac adrodd yn ôl ar ei ganfyddiadau i'r Cyngor.

 

 

 

Atebodd y Cynghorydd C. L. Everett mai ei ddealltwriaeth ef oedd y byddai'r cyfarfod yn cael ei alw yn yr ychydig wythnosau nesaf.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd A. M. Jones gwestiwn ynglyn â phwy fyddai'n gyfrifol pa bai cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol yn codi oherwydd methiant y Cyngor i gydymffurfio gyda'i ddyletswyddau iechyd a diogelwch ar roedd yn dymuno iddo gael ei gofnodi yn y cofnodion hyn nad oedd wedi derbyn ateb i'w gwestiwn.

 

 

 

4

CYLLIDEB, TRETH GYNGOR, RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDDION PWYLLOG 2006/07

 

 

 

4.1

CYNIGION CYLLIDEBOL TERFYNOL Y PWYLLGOR GWAITH 2006-07

 

 

 

Adroddwyd gan y Deilydd Portffolio (Cyllid) - Bod y Pwyllgor Gwaith wedi cwblhau ei gynigion cyllidebol terfynol.  Roedd yr adroddiad i'r Cyngor hwn yn cyfeirio at y materion canlynol :-

 

      

 

Ÿ

Cyllideb refeniw arfaethedig am 2006-07 - Tabl A

 

Ÿ

Y Cynllun Cyfalaf arfaethedig hyd at 2008-09 - Tabl B

 

Ÿ

Cyllideb gyfalaf arfaethedig am 2006-07 - Tabl C.

 

      

 

     Y Dreth Gyngor

 

     Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cynnig cynnydd o 3.4% yn y Dreth Gyngor Band D.  Bydd hyn yn codi ffigwr Band D i £718.83.  Mae'n debygol y bydd yr Awdurdod Heddlu yn penderfynu ar gynnydd o rhwng 5.0% a 6.2% yn ei braesept ac ar ôl ystyried penderfyniadau y Cynghorau Tref a Chymuned, bydd y ffigwr Band D yn codi rhwng 3.7% a 3.9%.  Yn 2006-07 bydd y Dreth Gyngor ym Môn yn parhau i fod yn un o'r rhai isaf yn Lloegr a Chymru.

 

      

 

     Cyllideb Refeniw

 

     At ei gilydd mae cynigion y gyllideb refeniw yn aros fel yr oeddent yn y cynigion cychwynnol.

 

      

 

     Cyllideb a Chynllun Cyfalaf

 

     Mae cynigion y gyllideb a'r cynllun cyfalaf wedi rhoi ystyriaeth i'r Côd Pwyllog.  Mae'r cynllun cyfalaf yn cadarnhau'r blaenoriaethau strategol ar gyfer :-

 

      

 

Ÿ

Gwella Canolfannau Hamdden

 

Ÿ

Ymrwymiadau Rheoli Gwastraff

 

Ÿ

Adfywio.

 

      

 

     Mae gwaith pellach o ddichonolrwydd ac asesu opsiynau mewn llaw mewn perthynas â :-

 

      

 

Ÿ

    Canolfan Astudiaethau Lleol

 

Ÿ

    Gwelliannau Cartrefi Preswyl

 

      

 

     Pan fydd hwn wedi ei gwblhau, bwriada'r Pwyllgor Gwaith i gynnig gwelliannau i'r Cynllun Cyfalaf er mwyn gweithredu'r canlyniad.

 

      

 

     Materion Ffurfiol

 

     Yn unol â gofynion Rheolau Gweithdrefn y Gyllideb rhaid nodi'r materion a ganlyn yn yr adroddiad hwn :

 

      

 

Ÿ

Nid yw'r Cyngor wedi mabwysiadu strategaeth gyllidebol;

 

 

 

Ÿ

Mae'r Dreth Gyngor arfaethedig am y flwyddyn yn £718.83 (Band D), sef cynnydd o 3.4%.

 

 

 

Ÿ

Mae trosglwyddiadau arfaethedig o £300,000 o'r arian a dalwyd yn 2005-06 dan y Cynllun Cymell Twf Busnes i Awdurdodau Lleol â £30,000 o arian wrth gefn y Gwasanaeth Datblygu Economaidd.  Sefydlir cronfa wrth gefn newydd ar gyfer gwelliannau hamdden gan gyfrannu £50,000 iddi yn 2006-07.

 

 

 

Ÿ

Mae crynodeb o'r gwariant arfaethedig fesul gwasanaeth yn ymddangos yn Nhabl A i'r gyllideb refeniw a fesul cynllun i'r gyllideb gyfalaf yn Nhabl C.

 

 

 

Ÿ

Mae cynigion y Pwyllgor Gwaith yn cynnwys £1,294,441 o arbedion cyllideb.  Mae'r rhain wedi galluogi peth twf mewn meysydd o flaenoriaeth neu risg uchel.  Mae manylion llawn yn nhablau D a Dd.

 

 

 

Ÿ

Mae'r Pwyllgor Gwaith hefyd wedi rhoddi sylw i sylwadau'r Pwyllgorau Sgriwtini a Throsolwg a  gyflwynwyd iddo yn ei gyfarfod ar 13 Chwefror.

 

 

 

Ÿ

Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi rhoddi sylw i ymatebion cyrff allanol yr ymgynghorwyd â nhw, sef sylwadau a gyflwynwyd i'w gyfarfod ar 13 Chwefror.

 

 

 

Ÿ

Does dim gwahaniaethau sylweddol rhwng y cynigion cychwynnol a'r cynigion terfynol i'r gyllideb.

 

 

 

Ÿ

Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cynnig i'r Cyngor y dylid rhoddi iddo bwerau dirprwyol i wario cyllidebau a chael pwerau hefyd i drosglwyddo cyllidebau, fel a wnaeth yn y gorffennol yn y dull a ganlyn :-

 

      

 

Ÿ

pwerau i wario pob pennawd cyllideb yn Nhablau A a C ar yr amcan, gwasanaeth neu'r prosiect penodol y mae'n ymwneud â nhw;

 

 

 

Ÿ

cyfyngiad o ddim ar drosglwyddo rhwng penawdau cyllideb yn Nhabl A;

 

 

 

Ÿ

pwerau i drosglwyddo o'r arian wrth gefn canolog, o'r arian wrth gefn Grant Cymell Perfformiad neu o ffynonellau newydd neu gynyddol o incwm;

 

 

 

Ÿ

pwerau i drosglwyddo o weddill yr arian Cynllun Cymell Twf Busnes i Awdurdodau Lleol tuag at ddelio a Iechyd a Diogelwch ac Asesiadau Risg Tân;

 

 

 

Ÿ

pwerau i drosglwyddo o'r gronfa wrth gefn gwelliannau hamdden i gefnogi cynigion sy'n gwella asedau'r Gwasanaeth Hamdden a chyfleusterau chwaraeon strategol.  Nid yw'r Pwyllgor Gwaith wedi, ac nid yw'n bwriadu, dirprwyo unrhyw ran o'r pwerau hyn i swyddogion;

 

Ÿ

pwerau i drosglwyddo'r cyllidebau rhwng prosiectau cyfalaf yn Nhabl C ac ymrwymo adnoddau yn y blynyddoedd dilynol y tu mewn i'r symiau a nodir yn y Cynllun Cyfalaf yn Nhabl B ac yn gyson gyda'r fframwaith gyllidebol.

 

 

 

Ÿ

Manylir ar gynigion benthyca a buddsoddi mewn adroddiad ar wahân gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar Reoli'r Trysorlys ac sydd eisoes wedi ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

 

 

Ÿ

(Rhoddir sylw i faterion statudol eraill yn yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).

 

 

 

     Wrth gloi, mynegodd y Deilydd Portfolio ei werthfawrogiad o'i gyd-Aelodau ar y Pwyllgor Gwaith ac i'r Panel Cyllid am ei waith. Diolchodd hefyd i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a'i staff am eu gwaith da gyda Chyllideb y Cyngor am 2006/07.

 

 

 

4.2

CYLLIDEB Y CYNGOR 2006 - MABWYSIADU PENDERFYNIAD FFURFIOL

 

      

 

Adroddwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - I bwrpas mabwysiadu ei gyllideb am 2006-07 a phennu lefel y Dreth Gyngor am y flwyddyn bydd raid i'r Cyngor Sir fabwysiadu penderfyniad ffurfiol sy'n delio'n fanwl gyda'r holl faterion cysylltiedig.  

 

      

 

Wrth iddo ystyried cyllideb arfaethedig y Pwyllgor Gwaith, bydd raid i'r Cyngor, hefyd, ystyried yr adroddiad hwn gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).  Mae'n delio gyda materion gofynnol dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ("y Ddeddf") a'r Côd Pwyllog yng nghyswllt Cyllid Cyfalaf i Awdurdodau Lleol ("y Côd Pwyllog").

 

 

 

CADERNID YR AMCANGYFRIFON

 

 

 

Dan adran 25 (1) (a) y Ddeddf mae'n rhaid i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) gyflwyno adroddiad i'r Cyngor ar gadernid yr amcangyfrifon a baratowyd yn ystod y broses o lunio'r gyllideb.

 

 

 

Yn ddieithriad, oherwydd ansicrwydd ynghylch digwyddiadau'r dyfodol sy'n cael effaith ar y gyllideb, mae'n rhaid paratoi amcangyfrifon, a’r rheini yn eu tro yn seiliedig ar ragdybiaethau ynghylch beth sy'n debyg o ddigwydd.  Y rhain yw'r elfennau mwyaf o ansicrwydd sy'n cael effaith ar y gyllideb a'r dull a'r modd o ddelio gyda nhw :-

 

 

 

Ÿ

     Cyfraddau Llog

 

Ÿ

     Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol All-Sirol

 

Ÿ

     Digartrefedd    

 

Ÿ

     Cynllun Cymell Twf Busnes

 

Ÿ

     Iechyd a Diogelwch

 

 

 

Gyda'r rhagymadrodd uchod roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) yn fodlon bod y gyllideb arfaethedig wedi ei hamcangyfrif yn gadarn.

 

 

 

DIGONOLRWYDD Y CRONFEYDD ARIANNOL WRTH GEFN

 

 

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol angen o dan Adran 25 (1) (b) y Ddeddf, adrodd i'r Cyngor ar ddigonolrwydd y cronfeydd wrth gefn arfaethedig.

 

 

 

Roedd wedi adolygu lefel y cronfeydd wrth gefn gan ddilyn dull y cyflwynodd adroddiad arno i'r Pwyllgor Gwaith fel rhan o'r broses paratoi at y gyllideb.

 

 

 

Sefydlwyd cronfeydd wrth gefn clustnodedig ar gyfer cynlluniau sy'n hysbys, ac ar gyfer ymrwymiadau neu risgiau; ac wrth adolygu lefel bresennol y cronfeydd wrth gefn rhagdybiodd y bydd ymrwymiadau yn cael eu cadw, bydd cynlluniau fel arfer yn cael eu gweithredu, ac y bydd risgiau angen lefel o ddarpariaeth sy'n cyfateb i'w maint ac i'w tebygolrwydd.  

 

 

 

 

 

Fodd bynnag, mae'r gronfa wrth gefn a glustnodwyd mewn perthynas â gwasanaethau dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn parhau'n ansicr.

 

 

 

Gyda'i gilydd mae balansau'r ysgolion yn fwy na digonol.  Mae nifer fechan o ysgolion gyda balansau mewn diffyg a heb fod yn ddigonol.  Mae defnydd y balansau hyn yn fater i gorff llywodraethol bob ysgol.

 

 

 

Ar hyn o bryd rhagamcenir y bydd y balansau refeniw cyffredinol yn £3.9 miliwn ar 31 Mawrth 2006.  

 

 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) i'r Pwyllgor Gwaith yn Chwefror bod y risgiau Iechyd a Diogelwch yn waeth nag a dybiwyd yn gynharach yn y cylch cyllideb.  O ganlyniad, roedd o'r farn y bydd raid gwario mwy yn 2006-07 nag sydd wedi ei ddarparu yn y gyllideb.  Gan achub y blaen ar gostio'r angen er mwyn ei awdurdodi, roedd yn rhagdybio swm crwn o £0.25 miliwn.  Roedd y Pwyllgor Gwaith yn argymell neilltuo gweddill cyllid y Cynllun Cymell Twf Busnes tuag ato.

 

 

 

Yn erbyn y cefndir uchod, roedd yn rhagamcan balansau o £3.8 miliwn ar 31 Mawrth 2007 ac  yn fodlon y bydd y gyllideb arfaethedig yn gadael y Cyngor gyda chronfeydd ariannol digonol wrth gefn.

 

 

 

Y CÔD PWYLLOG

 

 

 

Mae'r fframwaith deddfwriaethol a gyflwynwyd dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003  yn gorfodi'r Cyngor i ystyried y Côd Pwyllog yng nghyswllt Cyllid Cyfalaf i Awdurdodau Lleol.  Roedd y Pwyllgor Gwaith eisoes wedi rhoddi cadarnhad i hyn.

 

 

 

Gofynion pennaf y Côd Pwyllog yw bod awdurdodau yn ystyriol o fforddiadwyaeth a phwyll.

 

 

 

Ÿ

Fforddiadwyaeth

 

Mae cynigion cyllidebol y Pwyllgor Gwaith yn rhoddi sylw llawn i fforddiadwyaeth.  Yn ddieithriad mae'r gyllideb gyfalaf wedi ei chyllido gan gyfuniad o grantiau allanol, derbynion cyfalaf, cronfeydd refeniw a benthyca.  Mae cyswllt hanfodol rhwng yr arian a ddisgwylir o grantiau ar y naill law a'r hyn sydd wedi ei gymeradwyo neu'n debygol o fewn rheswm ar y llaw arall; bydd rhai cynigion gwario yn cael eu cynnwys yn y gyllideb gyfalaf ond yn amodol ar dderbyn cadarnhad i'r grantiau; oni cheir cadarnhad i'r grantiau yna bydd y cynlluniau yn syrthio.  Mae derbynion cyfalaf yn seiliedig ar werthiannau a wnaed neu sy'n cael eu gwneud; diystyriwyd symiau a ddisgwylir ond sydd heb eu cadarnhau eto fel rhai pendant, ac unrhyw swrplws neu ddiffyg yn cael ei gludo ymlaen i gyllidebau blynyddoedd y dyfodol.  Mae cyllid refeniw yn ei le yn gyson gyda'r gyllideb refeniw.  Nid yw'r benthyca arfaethedig yn mynd y tu draw i'r swm y cafwyd arwydd yn ei gylch gan y Cynulliad ar gyfer cefnogaeth refeniw y dyfodol i bwrpas cyllido dyled heblaw lle mae cyllidebau refeniw gwasanaeth ar gael i gyllido'r gost ad-dalu.   Mae cynnwys y prosiect Cynhyrchu Trydan o Nwy Tirlenwi yn adlewyrchu cyngor bod yr incwm a gynhyrchir yn ddigonol i ad-dalu'r gwariant cyfalaf. Bydd prosiectau mawr eraill sydd angen benthyca ychwanegol wedi ei gyllido o gyllidebau refeniw y gwasanaethau yn cael eu cyfeirio i'r Cyngor am benderfyniad.

 

 

 

Yn ogystal fe ddylai'r Cyngor ystyried effaith ymylol ei benderfyniadau buddsoddi cyfalaf ar lefel y Dreth Gyngor ac ar lefel y Rhenti Tai.  Clandrir yr effaith ymylol trwy gyfeirio at y gwahaniaeth rhwng y Cynllun Cyfalaf sydd eisoes mewn grym (h.y. wedi ei fabwysiadu ym Mawrth 2005) a'r Cynllun Cyfalaf sy'n cael ei gynnig yn awr.

 

 

 

Ÿ

Pwyll

 

Rhoddwyd sylw yn yr adroddiad Rheoli'r Trysorlys i oblygiadau y gyllideb arfaethedig i fenthyciadau a buddsoddiadau allanol a’r Dangosyddion Pwyllog cysylltiedig.

 

 

 

Ÿ

Dangosyddion Pwyllog

 

Roedd Tabl Ch ynghlwm wrth yr adroddiad yn rhestru'r terfynau pwyllog y mae'n rhaid eu mabwysiadu wrth i'r Cyngor bennu ei gyllideb a'i Dreth Gyngor am y flwyddyn.

 

 

 

-----------------------------------------------

 

     Cymerodd y Cyfarwyddwr y cyfle i ddweud wrth y Cyngor fod gwelliant i'r gyllideb wedi ei dderbyn yn unol â Pharagraff 4.3.2.2 (vi) o Gyfansoddiad y Cyngor. Roedd y gwelliant wedi ei arwyddo gan y Cynghorwyr W. I. Hughes, R. Ll. Hughes, B. Owen, R. L. Owen, G. O. Parry MBE ac E. Schofield yn gofyn i'r Cyngor ystyried cyflogi a chreu swydd Warden Cwn ychwanegol i'r Sir.  Byddai'r swydd ar y dechrau yn costio £40,000 ac mewn blynyddoedd dilynol byddai'n cael ei hariannu gyda tua £24,000 yn flynyddol. Roedd y chwe aelod enwir uchod yn cefnogi fod y gost hon yn cael ei hychwanegu i'r Dreth Gyngor yn ôl cynnydd o 0.2% i gynigion cyllideb 2006/07.

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) iddo ystyried yr effaith fyddai'r gwelliant arfaethedig yn ei gael ar y cyngor yr oedd wedi ei roddi mewn perthynas â'r gyllideb.  Byddai ychwanegu Warden Cwn arall i'r gyllideb yn arwain i ffigwr Treth Gyngor Band D o £720.18 oedd ychydig yn uwch na'r hyn geir yng nghynigion terfynol y Pwyllgor Gwaith.  Byddai'r cynnydd yn flynyddol yn 3.6% yn hytrach na 3.4%.  Pe câi'r gwelliant ei gario, byddai'r Cyngor yn mabwysiadu penderfyniad cyllidebol arall oedd yn cynnwys y ffigwr Treth Gyngor newydd trwy'r amser.  Nid oedd y gwelliannau yn cael effaith ar gynnwys ei adroddiad ar faterion statudol.

 

      

 

     Ynghlwm wrth yr adroddiad i'r Cyngor 'roedd y penderfyniad drafft ar osod y Dreth Gyngor am 2006/07 (3.4%) (Atodiad lelog) a'r penderfyniad drafft pebai'r Cyngor yn cytuno ar gynnydd o £1.35 ar gyfer y Warden Cwn ychwanegol (3.6%) (Atodiad Oren).

 

 

 

-----------------------------------------------

 

 

 

(1)

Cynigiwyd gwelliant gan y Cynghorydd E. Schofield ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd O. Glyn Jones y dylai pwerau i symud cyfrifon o fewn rhaglen y Pwyllgor Gwaith fod yn gyfrifoldeb y Cyngor Sir.

 

      

 

     O dan ddarpariaethau Rheol 18.5 y Cyngor fe gytunwyd fod pleidlais wedi ei chofnodi yn cael ei chymryd ar y mater.

 

      

 

     Roedd y pleidleisio fel a ganlyn :

 

      

 

     (i)  O blaid y gwelliant

 

     Y Cynghorwyr E. G. Davies, P. J. Dunning, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, Ff. M. Hughes, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. Morris Jones, O. Glyn Jones, R. Ll. Jones, Tom Jones, B. Owen, R. L. Owen, R. G. Parry OBE, G. O. Parry, MBE, P. S. Rogers, G. Allan Roberts, E. Schofield, H. Noel Thomas, K. Thomas.

 

     CYFANSWM 20

 

      

 

     (ii) Yn erbyn y gwelliant

 

     Y Cynghorwyr Mrs B. Burns, J. Byast, W. J. Chorlton, J. M. Davies, K. Evans, C. Ll. Everett, D. R. Hadley, D. R. Hughes, G. O. Jones, H. E. Jones, J. A. Jones, J. Arwel Roberts, D. Lewis-Roberts, John Roberts, G. W. Roberts, OBE, W. T. Roberts, J. Rowlands, H. W. Thomas, J. Williams, W. J. Williams, MBE.

 

     CYFANSWM 20

 

      

 

     (iii)  Atal Pleidlais

 

     Neb.

 

      

 

     Ni chafodd y gwelliant ei gario gan i'r Cadeirydd benderfynu rhoi ei bleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant.

 

      

 

(2)

Cynigiwyd gwelliant pellach ac fe'i eiliwyd gan Grwp Plaid Cymru fod swm o £125,000 o'r Gyllideb Arian Annisgwyl (605k) yn cael ei ddyrannu tuag at gyflwyno Gang Gymunedol ychwanegol i'r Ynys a swm o £75,000 tuag at y Gwasanaeth Ieuenctid.

 

      

 

     Cyn y bleidlais ar y mater hwn, cafwyd cyngor gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) nad oedd wedi derbyn rhybudd o'r gwelliant hwn.  Yr oedd yn dymuno tynnu sylw'r Cyngor at y ffaith fod y darpariaethau pethau annisgwyl yn y gyllideb refeniw wedi eu trafod gan y Pwyllgor Gwaith ynglyn â materion a risgiau penodol a'u bod wedi cytuno i osod o'r naill ochr swm o £604k yn y cyswllt hwn.  Pe byddai'r Cyngor yn derbyn y gwelliannau oedd yn cael eu cynnig gan Grwp Plaid Cymru ni allai roddi unrhyw sicrhad fod y darpariaethau fyddai ar ôl yn ddigonol i y gyfarfod â'r tasgau penodol hynny.  Ni allai, felly, sicrhau'r Cyngor o gadernid yr amcangyfrifon hyn fel oedd yn ofynnol gan y Ddeddf.

 

      

 

     O dan ddarpariaethau Rheol 18.5 y Cyngor fe gytunwyd y dylid cael pleidlais wedi ei chofnodi ar y mater.

 

      

 

     Roedd y pleidleisio fel a ganlyn :-

 

      

 

     (i)  Tros y gwelliant

 

     Y Cynghorwyr E. G. Davies, P. J. Dunning, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, Ff. M. Hughes, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. Morris Jones, O. Glyn Jones, R. Ll. Jones, Tom Jones, B. Owen, R. L. Owen, R. G. Parry OBE, G. O. Parry, MBE, P. S. Rogers, G. Allan Roberts, E. Schofield, H. Noel Thomas, K. Thomas.

 

     CYFANSWM 20

 

      

 

     (ii) Yn erbyn y gwelliant

 

     Y Cynghorwyr Mrs B. Burns, J. Byast, W. J. Chorlton, J. M. Davies, K. Evans, C. Ll. Everett, D. R. Hadley, D. R. Hughes, G. O. Jones, H. E. Jones, J. A. Jones, J. Arwel Roberts, D. Lewis-Roberts, John Roberts, G. W. Roberts, OBE, W. T. Roberts, J. Rowlands, H. W. Thomas, J. Williams, W. J. Williams, MBE.

 

     CYFANSWM 20

 

      

 

     (iii)  Atal Pleidlais

 

     Neb.

 

      

 

     Ni chafodd y gwelliant ei gario gan i'r Cadeirydd benderfynu rhoi ei bleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant.

 

      

 

(3)

Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid pleidleisio ar y gwelliant y rhoddwyd rhybudd ohono o dan baragraff 4.3.2.2 (vi) ac a roddwyd ymlaen i argymhellion cyllideb wreiddiol y Cyngor, sef penodi Warden Cwn ychwanegol.

 

      

 

     O dan ddarpariaethau Rheol 18.5 y Cyngor penderfynwyd y dylid cymryd pleidlais wedi ei chofnodi ar y mater.

 

      

 

     Roedd y pleidleisio fel a ganlyn :-

 

      

 

     (i)  O blaid y gwelliant

 

     Y Cynghorwyr E. G. Davies, P. J. Dunning, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, Ff. M. Hughes, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. Morris Jones, O. Glyn Jones, R. Ll. Jones, Tom Jones, B. Owen, R. L. Owen, R. G. Parry OBE, G. O. Parry, MBE, W. T. Roberts, P. S. Rogers, G. Allan Roberts, E. Schofield, H. Noel Thomas, K. Thomas.

 

     CYFANSWM 21

 

 

 

     (ii) Yn erbyn y gwelliant

 

     Y Cynghorwyr Mrs B. Burns, J. Byast, W. J. Chorlton, J. M. Davies, K. Evans, C. Ll. Everett, D. R. Hadley, D. R. Hughes, G. O. Jones, H. E. Jones, J. A. Jones, J. Arwel Roberts, D. Lewis-Roberts, John Roberts, G. W. Roberts, OBE,  J. Rowlands, H. W. Thomas, J. Williams, W. J. Williams, MBE.

 

     CYFANSWM 19

 

      

 

     (iii)  Atal Pleidlais

 

     Neb.

 

      

 

     Cafodd y gwelliant ei gario o ddwy bleidlais.

 

      

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - gan i'r gwelliant gael ei gario, byddai angen diwygio Tabl A cynigion y Pwyllgor Gwaith.  Byddai'r ffigwr am y Gwasanaethau Amgylcheddol yn codi i £7,025,000 a'r ffigwr terfynol i Dabl A i £106,441,000.  Yng ngoleuni hyn, fe ofynnwyd i'r Cyngor fabwysiadu'r cynnig oedd yn yr atodiad oren.

 

      

 

     Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am dynnu sylw'r Cyngor at y newidiadau fydd eu hangen o dan dudalen 3 o'r atodiad oren lle roedd y ffigwr oedd yn cael ei ddyfynnu o dan fraced (e) yn newid o £718.83c i £720.18c, codiad o £1.35c a hefyd y newidiadau angenrheidiol i'r ffigyrau o dan fracedi (a) (c) a (d) o'r atodiad oren.

 

 

 

4.2.1

PENDERFYNWYD

 

 

 

a)     Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, mabwysiadu cyllideb refeniw ar gyfer 2006/07 fel sy'n ymddangos yn y tabl yn Nhabl A yn adroddiad y Pwyllgor Gwaith.

 

 

 

b)     Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, mabwysiadu cynllun cyfalaf tair blynedd fel sy'n ymddangos yn Nhabl B yn adroddiad y Pwyllgor Gwaith.

 

 

 

c)     Mabwysiadu cyllideb gyfalaf ar gyfer 2006/07 gydag ymrwymiadau i'r blynyddoedd dilynol fel sy'n ymddangos yn Nhabl C yn adroddiad y Pwyllgor Gwaith.

 

 

 

ch)     Dirprwyo i'r Pwyllgor Gwaith am y flwyddyn ariannol 2006/07 y pwerau i drosglwyddo cyllidebau  rhwng penawdau  fel a ganlyn:

 

 

 

     i)     Pwerau heb eu cyfyngu i wario'r penawdau cyllideb yn Nhabl A ar yr amcan, gwasanaeth neu brosiect a enwir;

 

     ii)     Cyfyngu i ddim y swm y caiff y Pwyllgor Gwaith  ei wyro rhwng y penawdau yn Nhabl A;

 

     iii)     Pwerau heb eu cyfyngu i wyro allan o'r gronfa wrth gefn ganolog, y gronfa Grant Cymell Perfformiad,  neu incwm arall newydd neu ychwanegol;

 

     iv)     pwerau i drosglwyddo o weddill yr arian Cynllun Cymell Twf Busnes i Awdurdodau Lleol tuag at ddelio ag Iechyd a Diogelwch ac Asesiadau Risg Tân;

 

     v)     pwerau i drosglwyddo o'r gronfa wrth gefn gwelliannau hamdden i gefnogi cynigion sy'n gwella asedau'r Gwasanaeth Hamdden a chyfleusterau chwaraeon strategol.

 

     vi)     pwerau i drosglwyddo'r cyllidebau rhwng prosiectau cyfalaf yn Nhabl C ac ymrwymo adnoddau yn y blynyddoedd dilynol y tu mewn i'r symiau a nodir yn y Cynllun Cyfalaf yn Nhabl B ac yn gyson gyda'r fframwaith cyllidebol.

 

 

 

d)     Cadarnhau y daw'r eitemau a) i ch) yn rhan o fframwaith cyllideb y Cyngor.

 

 

 

4.2.2

PENDERFYNWYD pennu'r dangosyddion pwyllog sy'n amcangyfrifon am 2006/07 ymlaen fel sy'n ymddangos yn Nhabl Ch yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) gan gadarnhau'r terfynau ar fenthyca a buddsoddi  sydd wedi eu nodi yn eitemau 10,11 a 14 i 17 yn y tabl.

 

 

 

4.2.3

PENDERFYNWYD  mabwysiadu a chadarnhau i bwrpas y flwyddyn ariannol 2006/07 benderfyniad y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 1998, bod y Cyngor Sir yn pennu lefel y disgownt sy'n gymwys i'r Dosbarth  penodedig A a Dosbarth penodedig B o anheddau i bwrpas Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (a ddiwygiwyd), a ddisgrifir gan Reoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) ( Cymru) 1998, fel a ganlyn:-

 

 

 

          Dosbarth Penodedig A     Dim Disgownt

 

          Dosbarth Penodedig B     Dim Disgownt

 

 

 

4.2.4

PENDERFYNWYD pennu  i bwrpas y flwyddyn ariannol 2006/07, lefel disgownt sy'n briodol i Ddosbarth Penodedig C dan Ran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (a ddiwygiwyd), a ddisgrifir gan Reoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004, fel a ganlyn:-

 

      

 

          Dosbarth Penodedig C - 50% disgownt

 

 

 

4.2.5

Nodi fod y Cyngor yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 1996 wedi penderfynu na fydd yn trin y costau yr â'r Cyngor iddynt yn rhan o'i ardal nac wrth gyfarfod unrhyw gais neu gais arbennig fel costau arbennig a bod y penderfyniadau i barhau mewn grym hyd oni fyddant yn cael ei diddymu'n benodol.

 

 

 

4.2.6

Y dylid nodi i'r Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod ar 12 Rhagfyr 2004 bennu'r symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2006/07 yn unol â'r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:-

 

 

 

a)     28,409.63 yw'r swm a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol â rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol, (Cyfrifiad o Sail y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995, yn sylfaen ar gyfer Y Dreth Gyngor am y flwyddyn.

 

 

 

b)     Rhan o ardal y Cyngor  :

 

 

 

 

Amlwch

1,398.11

 

Biwmares

1,022.49

 

Caergybi

3,539.34

 

Llangefni

1,743.38

 

Porthaethwy

1,342.85

 

Llanddaniel-fab

330.99

 

Llanddona

327.45

 

Cwm Cadnant

1,116.21

 

Llanfair Pwllgwyngyll

1,251.81

 

Llanfihangel Esceifiog

586.13

 

Bodorgan

415.15

 

Llangoed

607.01

 

Llangristiolus a Cherrigceinwen

541.73

 

Llanidan

382.07

 

Rhosyr

915.68

 

Penmynydd

175.43

 

Pentraeth

481.26

 

Moelfre

581.18

 

Llanbadrig

579.70

 

 

Llanddyfnan

438.88

 

Llaneilian

513.46

 

 

Llannerch-y-medd

473.35

 

Llaneugrad

187.24

 

Llanfair Mathafarn Eithaf

1,706.91

 

Cylch y Garn

373.84

 

Mechell

525.14

 

Rhos-y-bol

431.26

 

Aberffraw

269.78

 

Bodedern

382.75

 

Bodffordd

387.32

 

Trearddur

1,144.88

 

Tref Alaw

238.89

 

Llanfachraeth

214.51

 

Llanfaelog

1,070.72

 

Llanfaethlu

251.20

 

 

 

Llanfair-yn-neubwll

558.64

 

Y Fali

927.12

 

Bryngwran

308.96

 

Rhoscolyn

331.34

 

Trewalchmai

335.47

 

 

 

sef y symiau a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol â rheoliad 6 y Rheoliadau, yn symiau sylfaen y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn gyda golwg ar y tai annedd yn y rhannau hynny o'i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy'n berthnasol.

 

 

 

4.2.7

Bod y symiau a ganlyn bellach yn cael eu pennu gan y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y flwyddyn 2006/07  yn unol ag Adrannau 32 i 36  Deddf Cyllid  Llywodraeth Leol  1992:-

 

 

 

a)

£160,899,727     sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn eu  hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2) (a) i (d) y Ddeddf.

 

 

 

b)

£ 53,826,480     sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer eitemau a nodwyd yn Adran 32(3) (a) ac (c) y Ddeddf.

 

 

 

c)

£107,073,247     sef y swm sy'n cyfateb i'r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 7(a) uchod a chyfanswm 7(b) uchod, a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 32(4) y Ddeddf, yn gyllideb angenrheidiol ar gyfer y flwyddyn.

 

 

 

ch)

£ 85,946,773     sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i gronfa'r cyngor gyda golwg ar drethi annomestig a ailddosberthir, a grant cynnal refeniw gan dynnu unrhyw swm a bennwyd yn unol ag Adran 33(3B) y Ddeddf.

 

 

 

d)

£      743.64     sef y swm yn 7(c) uchod llai'r swm yn 7(ch) uchod, gan rannu'r cyfan â'r swm a nodir yn 6(a) uchod, a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 33(1) y Ddeddf, sef swm sylfaenol treth y cyngor am y flwyddyn.

 

 

 

dd)

£666,424.06     sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) y Ddeddf.

 

 

 

e)

£      720.18     sef y swm yn 7(d) uchod llai'r canlyniad a geir wrth rannu'r swm yn 7(dd) uchod â'r swm yn 6(a) uchod, a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 34 (2) y Ddeddf, sef swm sylfaenol y dreth gyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau honno o'r ardal lle na bo unrhyw eitem arbennig yn berthnasol.

 

 

 

     f)     Rhan  o ardal y Cyngor

 

 

 

 

D

 

Amlwch

£

763.03

 

Biwmares

£

744.97

 

Caergybi

£

770.03

 

Llangefni

£

761.93

 

Porthaethwy

£

761.07

 

Llanddaniel-fab

£

735.29

 

Llanddona

£

731.94

 

Cwm Cadnant

£

735.41

 

Llanfair Pwllgwyngyll

£

740.15

 

Llanfihangel Esceifiog

£

734.68

 

Bodorgan

£

728.61

 

Llangoed

£

734.18

 

Llangristiolus a Cherrigceinwen

£

727.18

 

 

Llanidan

£

737.98

 

Rhosyr

£

737.57

 

Penmynydd

£

727.02

 

Pentraeth

£

740.96

 

Moelfre

£

735.18

 

Llanbadrig

£

729.15

 

Llanddyfnan

£

731.23

 

Llaneilian

£

733.18

 

Llannerch-y-medd

£

729.19

 

Llaneugrad

£

728.19

 

Llanfair Mathafarn Eithaf

£

742.83

 

Cylch y Garn

£

729.54

 

Mechell

£

729.70

 

Rhos-y-bol

£

731.77

 

Aberffraw

£

736.86

 

Bodedern

£

733.24

 

Bodffordd

£

729.16

 

Trearddur

£

735.02

 

Tref Alaw

£

729.20

 

Llanfachraeth

£

732.18

 

Llanfaelog

£

735.87

 

 

Llanfaethlu

£

730.13

 

Llanfair-yn-neubwll

£

730.92

 

Y Fali

£

734.74

 

Bryngwran

£

738.23

 

Rhoscolyn

£

726.22

 

Trewalchmai

£

730.61

 

 

 

sef y symiau a geir trwy ychwanegu at y swm a geir yn 7(e) uchod symiau'r eitem neu'r eitemau arbennig sy'n berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod wedi'u rhannu ym mhob achos gan y swm yn 6(b) uchod, a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith yn unol ag Adran 34(3) y Ddeddf, sef swm sylfaenol y dreth gyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o'i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy'n berthnasol.

 
 

 

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

 

 

 

ff)

Rhan o Ardal y Cyngor

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Amlwch

£

508.69

593.47

678.25

763.03

932.59

1,102.15

1,271.72

1,526.06

1,780.40

 

Biwmares

£

496.64

579.42

662.19

744.97

910.52

1,076.06

1,241.61

1,489.93

1,738.26

 

Caergybi

£

513.36

598.92

684.47

770.03

941.15

1,112.27

1,283.39

1,540.07

1,796.75

 

 

Llangefni

£

507.95

592.61

677.27

761.93

931.25

1,100.57

1,269.88

1,523.86

1,777.84

 

Porthaethwy

£

507.38

591.95

676.51

761.07

930.20

1,099.33

1,268.45

1,522.15

1,775.84

 

Llanddaniel-fab

£

490.19

571.89

653.59

735.29

898.68

1,062.08

1,225.48

1,470.57

1,715.67

 

Llanddona

£

487.96

569.28

650.61

731.94

894.59

1,057.24

1,219.90

1,463.88

1,707.85

 

Cwm Cadnant

£

490.27

571.99

653.70

735.41

898.83

1,062.26

1,225.68

1,470.82

1,715.96

 

Llanfair Pwllgwyngyll

£

493.43

575.67

657.91

740.15

904.63

1,069.11

1,233.59

1,480.30

1,727.02

 

Llanfihangel Esceifiog

£

489.79

571.42

653.05

734.68

897.94

1,061.21

1,224.47

1,469.36

1,714.26

 

 

Bodorgan

£

485.74

566.70

647.65

728.61

890.52

1,052.44

1,214.35

1,457.22

1,700.09

 

Llangoed

£

489.46

571.03

652.61

734.18

897.33

1,060.49

1,223.64

1,468.37

1,713.09

 

Llangristiolus a Cherrigceinwen

£

484.79

565.58

646.38

727.18

888.78

1,050.37

1,211.97

1,454.36

1,696.75

 

Llanidan

£

491.99

573.98

655.98

737.98

901.97

1,065.97

1,229.96

1,475.96

1,721.95

 

Rhosyr

£

491.72

573.67

655.62

737.57

901.48

1,065.38

1,229.29

1,475.15

1,721.01

 

Penmynydd

£

484.68

565.46

646.24

727.02

888.58

1,050.14

1,211.70

1,454.04

1,696.38

 

Pentraeth

£

493.97

576.30

658.63

740.96

905.62

1,070.27

1,234.93

1,481.92

1,728.90

 

 

Moelfre

£

490.12

571.81

653.49

735.18

898.55

1,061.93

1,225.30

1,470.36

1,715.42

 

Llanbadrig

£

486.10

567.12

648.13

729.15

891.18

1,053.22

1,215.25

1,458.30

1,701.35

 

Llanddyfnan

£

487.49

568.74

649.98

731.23

893.73

1,056.22

1,218.72

1,462.46

1,706.21

 

Llaneilian

£

488.79

570.25

651.71

733.18

896.11

1,059.04

1,221.96

1,466.36

1,710.75

 

Llannerch-y-medd

£

486.13

567.15

648.17

729.19

891.24

1,053.28

1,215.32

1,458.38

1,701.45

 

Llaneugrad

£

485.46

566.37

647.28

728.19

890.01

1,051.83

1,213.65

1,456.38

1,699.11

 

Llanfair Mathafarn Eithaf

£

495.22

577.76

660.30

742.83

907.91

1,072.98

1,238.06

1,485.67

1,733.28

 

 

Cylch y Garn

£

486.36

567.42

648.48

729.54

891.66

1,053.78

1,215.90

1,459.08

1,702.27

 

Mechell

£

486.47

567.55

648.62

729.70

891.86

1,054.01

1,216.17

1,459.40

1,702.64

 

Rhos-y-bol

£

487.85

569.16

650.47

731.77

894.39

1,057.01

1,219.62

1,463.55

1,707.47

 

Aberffraw

£

491.24

573.11

654.99

736.86

900.61

1,064.35

1,228.10

1,473.72

1,719.34

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

Bandiau Prisiau

ff)

Rhan o Ardal y Cyngor

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Bodedern

£

488.83

570.30

651.77

733.24

896.19

1,059.13

1,222.07

1,466.49

1,710.90

 

Bodffordd

£

486.11

567.13

648.15

729.16

891.20

1,053.24

1,215.27

1,458.33

1,701.38

 

 

Trearddur

£

490.01

571.68

653.35

735.02

898.36

1,061.70

1,225.04

1,470.04

1,715.05

 

Tref Alaw

£

486.13

567.16

648.18

729.20

891.25

1,053.29

1,215.33

1,458.40

1,701.47

 

Llanfachraeth

£

488.12

569.47

650.83

732.18

894.89

1,057.59

1,220.30

1,464.36

1,708.42

 

Llanfaelog

£

490.58

572.34

654.11

735.87

899.40

1,062.92

1,226.45

1,471.74

1,717.03

 

Llanfaethlu

£

486.75

567.88

649.01

730.13

892.38

1,054.64

1,216.89

1,460.26

1,703.64

 

Llanfair-yn-neubwll

£

487.28

568.49

649.71

730.92

893.35

1,055.77

1,218.20

1,461.84

1,705.48

 

Y Fali

£

489.83

571.47

653.10

734.74

898.02

1,061.29

1,224.57

1,469.48

1,714.40

 

 

Bryngwran

£

492.15

574.18

656.20

738.23

902.28

1,066.33

1,230.38

1,476.46

1,722.53

 

Rhoscolyn

£

484.14

564.83

645.53

726.22

887.60

1,048.98

1,210.36

1,452.43

1,694.50

 

Trewalchmai

£

487.08

568.25

649.43

730.61

892.97

1,055.33

1,217.69

1,461.23

1,704.76

 

 

 

sef  y symiau a geir trwy luosi'r symiau yn 7(e) a 7(f) uchod a'r rhif sydd, yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5(1) y Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd a restrir mewn band prisiau arbennig wedi'i rannu a'r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny'n berthnasol i dai a restrir ym mand prisiau D, a bennir gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, yn symiau sydd i'w hystyried ar gyfer y flwyddyn gyda golwg ar y categoriau o dai annedd a restrir yn y gwahanol fandiau prisiau.

 

 

 

4.2.8

Y dylid nodi ar gyfer y flwyddyn 2006/07 fod Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru wedi nodi'r symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i'r Cyngor, yn unol ag Adran 40 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ar gyfer pob un o'r categoriau o dai annedd a ddangosir isod:-

 

      

 

Awdurdod Praeseptio                                        Band Prisiau

 

 

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru

105.96

123.62

141.28

166.89

194.26

229.58

264.90

317.88

370.86

 

 

 

4.2.9

Wedi pennu'r cyfanswm ym mhob achos o'r symiau yn 7(ff) a 8 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, drwy hyn, yn pennu'r symiau a ganlyn ar gyfer y dreth gyngor yn y flwyddyn 2006/07  ar gyfer pob categori o dai annedd a ddangosir isod:-

 

 

 

 

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

 

 

 

 

Rhan o Ardal y Cyngor

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Amlwch

£

614.65

717.09

819.53

929.92

1,126.85

1,331.73

1,536.62

1,843.94

2,151.26

 

Biwmares

£

602.60

703.04

803.47

911.86

1,104.78

1,305.64

1,506.51

1,807.81

2,109.12

 

Caergybi

£

619.32

722.54

825.75

936.92

1,135.41

1,341.85

1,548.29

1,857.95

2,167.61

 

Llangefni

£

613.91

716.23

818.55

928.82

1,125.51

1,330.15

1,534.78

1,841.74

2,148.70

 

Porthaethwy

£

613.34

715.57

817.79

927.96

1,124.46

1,328.91

1,533.35

1,840.03

2,146.70

 

 

Llanddaniel-fab

£

596.15

695.51

794.87

902.18

1,092.94

1,291.66

1,490.38

1,788.45

2,086.53

 

Llanddona

£

593.92

692.90

791.89

898.83

1,088.85

1,286.82

1,484.80

1,781.76

2,078.71

 

Cwm Cadnant

£

596.23

695.61

794.98

902.30

1,093.09

1,291.84

1,490.58

1,788.70

2,086.82

 

Llanfair Pwllgwyngyll

£

599.39

699.29

799.19

907.04

1,098.89

1,298.69

1,498.49

1,798.18

2,097.88

 

Llanfihangel Esceifiog

£

595.75

695.04

794.33

901.57

1,092.20

1,290.79

1,489.37

1,787.24

2,085.12

 

Bodorgan

£

591.70

690.32

788.93

895.50

1,084.78

1,282.02

1,479.25

1,775.10

2,070.95

 

Llangoed

£

595.42

694.65

793.89

901.07

1,091.59

1,290.07

1,488.54

1,786.25

2,083.95

 

 

Llangristiolus a Cherrigceinwen

£

590.75

689.20

787.66

894.07

1,083.04

1,279.95

1,476.87

1,772.24

2,067.61

 

Llanidan

£

597.95

697.60

797.26

904.87

1,096.23

1,295.55

1,494.86

1,793.84

2,092.81

 

Rhosyr

£

597.68

697.29

796.90

904.46

1,095.74

1,294.96

1,494.19

1,793.03

2,091.87

 

Penmynydd

£

590.64

689.08

787.52

893.91

1,082.84

1,279.72

1,476.60

1,771.92

2,067.24

 

Pentraeth

£

599.93

699.92

799.91

907.85

1,099.88

1,299.85

1,499.83

1,799.80

2,099.76

 

Moelfre

£

596.08

695.43

794.77

902.07

1,092.81

1,291.51

1,490.20

1,788.24

2,086.28

 

Llanbadrig

£

592.06

690.74

789.41

896.04

1,085.44

1,282.80

1,480.15

1,776.18

2,072.21

 

 

Llanddyfnan

£

593.45

692.36

791.26

898.12

1,087.99

1,285.80

1,483.62

1,780.34

2,077.07

 

Llaneilian

£

594.75

693.87

792.99

900.07

1,090.37

1,288.62

1,486.86

1,784.24

2,081.61

 

Llannerch-y-medd

£

592.09

690.77

789.45

896.08

1,085.50

1,282.86

1,480.22

1,776.26

2,072.31

 

Llaneugrad

£

591.42

689.99

788.56

895.08

1,084.27

1,281.41

1,478.55

1,774.26

2,069.97

 

Llanfair Mathafarn Eithaf

£

601.18

701.38

801.58

909.72

1,102.17

1,302.56

1,502.96

1,803.55

2,104.14

 

Cylch y Garn

£

592.32

691.04

789.76

896.43

1,085.92

1,283.36

1,480.80

1,776.96

2,073.13

 

Mechell

£

592.43

691.17

789.90

896.59

1,086.12

1,283.59

1,481.07

1,777.28

2,073.50

 

 

Rhos-y-bol

£

593.81

692.78

791.75

898.66

1,088.65

1,286.59

1,484.52

1,781.43

2,078.33

 

Aberffraw

£

597.20

696.73

796.27

903.75

1,094.87

1,293.93

1,493.00

1,791.60

2,090.20

 

Bodedern

£

594.79

693.92

793.05

900.13

1,090.45

1,288.71

1,486.97

1,784.37

2,081.76

 

Bodffordd

£

592.07

690.75

789.43

896.05

1,085.46

1,282.82

1,480.17

1,776.21

2,072.24

 

Trearddur

£

595.97

695.30

794.63

901.91

1,092.62

1,291.28

1,489.94

1,787.92

2,085.91

 

Tref Alaw

£

592.09

690.78

789.46

896.09

1,085.51

1,282.87

1,480.23

1,776.28

2,072.33

 

Llanfachraeth

£

594.08

693.09

792.11

899.07

1,089.15

1,287.17

1,485.20

1,782.24

2,079.28

 

 

Llanfaelog

£

596.54

695.96

795.39

902.76

1,093.66

1,292.50

1,491.35

1,789.62

2,087.89

 

Llanfaethlu

£

592.71

691.50

790.29

897.02

1,086.64

1,284.22

1,481.79

1,778.14

2,074.50

 

Llanfair-yn-neubwll

£

593.24

692.11

790.99

897.81

1,087.61

1,285.35

1,483.10

1,779.72

2,076.34

 

Y Fali

£

595.79

695.09

794.38

901.63

1,092.28

1,290.87

1,489.47

1,787.36

2,085.26

 

Bryngwran

£

598.11

697.80

797.48

905.12

1,096.54

1,295.91

1,495.28

1,794.34

2,093.39

 

Rhoscolyn

£

590.10

688.45

786.81

893.11

1,081.86

1,278.56

1,475.26

1,770.31

2,065.36

 

Trewalchmai

£

593.04

691.87

790.71

897.50

1,087.23

1,284.91

1,482.59

1,779.11

2,075.62

 

      

 

4.3

STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS AM 2006/07

 

      

 

     Adroddwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - Bod yr adroddiad hwn yn rhoi manylion am weithgareddau'r Trysorlys yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod (2006/07).  Roedd llunio a chyflwyno'r adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor yn anghenraid yn ôl Côd Ymarfer CIPFA ar Reolaeth y Trysorlys a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym Mawrth 2002 a chan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor.  Mae ei fformat a'i strwythur fel a argymhellwyd gan gynghorwyr y Cyngor ac yn unol â blynyddoedd blaenorol gydag ychwanegu gofynion newydd oedd yn codi o Gôd Pwyllog 2003 ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol.

 

      

 

     Roedd y Côd Pwyllog yn gofyn i'r Cyngor osod nifer o Ddangosyddion Pwyllog, gyda rhai ohonynt yn lle y cyfyngiadau llog amrywiol/benchyca benderfynwyd cyn hyn fel rhan o'r datganiad strategaeth, tra hefyd yn ymestyn y cyfnod o un flwyddyn i dair blynedd.  Roedd y datganiad hwn felly yn ymgorffori'r dangosyddion ar gyfer y tair blynedd ariannol nesaf ac fe ddylid talu sylw iddynt wrth benderfynu ar strategaeth rheoli trysorlys y Cyngor.

 

      

 

     Roedd y strategaeth a awgrymir am 2006/07 yng nghyswllt yr agweddau canlynol o reoli gweithrediad y Trysorlys yn seiliedig ar safbwyntiau Swyddfa'r Trysorlys ar raddfeydd llog, a hefyd ragolygon y farchnad ddarparwyd gan gynghorwyr Trysorlys y Cyngor.  Roedd y strategaeth yn ymwneud â :-

 

      

 

Ÿ

sefyllfa gyfredol y trysorlys;

 

Ÿ

rhagolygon cyfraddau llog;

 

Ÿ

cyfyngiadau trysorlys mewn grym fydd yn cyfyngu risg y trysorlys a gweithgareddau'r Cyngor;

 

Ÿ

y strategaeth fenthyca;

 

Ÿ

yr anghenion benthyca;

 

Ÿ

strategaeth fuddsoddi - dogfen ar wahân (Atodiad 'C' o'r adroddiad)

 

Ÿ

maint cyfleon aildrefnu dyled;

 

Ÿ

unrhyw faterion trysorlys anghyffredin.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth.

 

 

 

4.4

CYNLLUN LLEIHAU'R DRETH GYNGOR I BENSIYNWYR 2006/07

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - am ddatganiad y Cynulliad mis Tachwedd diwethaf, fel rhan o'i gynlluniau cyllideb,  y byddai pensiynwyr oedd yn symud i fyny ddau fand ar eu Treth Gyngor, yn dilyn ailfandio, yn gymwys am osyngiad o £100 yn 2006-07.  Fe ddaeth yn amlwg fod y Cynulliad yn disgwyl i awdurdodau lleol weinyddu'r cynllun hwn.  Bydd y Cynulliad wedyn yn talu'n ôl i'r awdurdodau am yr incwm a gollwyd.

 

      

 

     Mae manylion ynglyn â sut yn union y bydd y cynllun yn cael ei redeg, a'r pwerau cyfreithiol ar gyfer ei roi ar waith, eisoes wedi eu trafod rhwng swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLLC).  Cafwyd cyfarwyddyd yn ddiweddar ac adlewyrchwyd hwnnw yr adroddiad.

 

      

 

     Mae'r cynllun a gymeradwywyd gan LCC wedi ei fwriadu i helpu categori o bobl a wynebodd, ym marn LlCC, anfanteision arbennig oherwydd effeithiau ailbrisio'r Dreth Gyngor yn 2005.  Dywed LlCC y bydd canlyniadau symud i fyny ddau fand prisio ar 1 Ebrill, 2006 yn disgyn yn drymach ar nifer o bersonau sydd yn 65 a throsodd, ac sydd yn fwy tebygol o fod ar incymau sefydlog , ac felly'r grwp hwn yw'r rhai sydd yn dod o dan y cynllun gostwng.  Cynllun blwyddyn yn unig yw hwn a'i fwriad yw lleihau'r effaith ar y rhai sydd yn yr ystod oed cymwys rhag codiadau yn y Dreth Gyngor fel canlyniad i'r ailbrisio.  Bydd y cyllid hwn yn talu am gost lawn y Dreth Gyngor gaiff ei hepgor os bydd y Cyngor yn cyflwyno'r cynllun.  Nid oes unrhyw gyllid ar gyfer gostwng y Dreth Gyngor ar gael os yw'r Cyngor yn penderfynu peidio â chyflwyno'r cynllun. Roedd hwn yn ddewis i bob Awdurdod Lleol ei wneud o dan ei bwerau cyfreithiol ei hun.

 

      

 

     Yn anffodus, y pwerau cyfreithiol y mae LlCC yn bwriadu eu defnyddio i ad-dalu Awdurdodau Lleol yw’r pwerau i ad-dalu taliadau.  Nid yw hyn yr un peth o gwbwl â hepgor incwm.  Er bod bwriadau LlCC yn glir, mae hyn yn cyflwyno risg dechnegol.  Gofynnwyd am sicrwydd.

 

      

 

     Mae tua 1,500 eiddo ar Ynys Môn lle bu cynnydd o ddau fand neu fwy yn eu hailbrisiad 2004.  Dim ond mewn cyfran fechan o'r rhain y disgwylir y bydd person cymwys ar gyfer y gostyngiad:  efallai mai dim ond ychydig o gannoedd fydd yn gymwys ar Ynys Môn.

 

      

 

     Fel gydag unrhyw gynllun sefydlog, fe fydd rhai ar y ffin o fod yn gymwys a byddant yn teimlo y dylent fod yn gymwys.  Byddai yn bosibl i'r awdurdod fod â mwy o ddisgresiwn rhag ofn peri anghyfiawnder ar ffiniau'r cynllun ond byddai raid i'r awdurdod ei hun dalu'r costau yn llawn.

 

      

 

     Bu'r cyfarwyddyd yn cael ei drafod hyd yn ddiweddar iawn, ac mae'r sgwennu mân yn y cynllun wedi ei newid.  Rhag bod unrhyw newid pellach gofynnir i'r Cyngor roddi hyblygrwydd pellach i'r Pwyllgor Gwaith i roi amcanion y cynllun ar waith. 

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

     (A)Gan ddefnyddio ei bwerau dan adran 13A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, bod y Cyngor yn penderfynu am bob dydd y bydd person yn gyfrifol am dalu Treth Gyngor rhwng 1 Ebrill, 2006 a 31 Mawrth, 2007 fod y person hwnnw yn cael y swm y mae ef / hi yn gyfrifol am ei dalu, sef gostyngiad o £100 wedi ei rannu gyda 365 os yw'r cyfan o'r meini prawf canlynol wedi eu bodloni:

 

      

 

i)     Ei fod ef / hi yn gyfrifol am dalu Treth Gyngor yng nghyswllt annedd a honno yw eu hunig neu brif lety ar 1 Ebrill, 2006;

 

      

 

ii)     Ei fod ef / hi wedi cyrraedd 65 oed neu trosodd ar 1 Ebrill, 2006;

 

      

 

iii)     Ei fod ef / hi yn destun cynnydd o ddau fand prisio Treth Gyngor ar 1 Ebrill, 2006 (o'i gymharu a'r band prisio ar gyfer yr annedd honno ar 31 Mawrth, 2005).

 

      

 

iv)     Nid yw ef / hi yn derbyn budd-dal Treth Cyngor o 1 Ebrill, 2006; a

 

      

 

v)     Roedd ef / hi yn gyfrifol am dalu Treth Gyngor am yr annedd hwnnw ar 31 Mawrth, 2005.

 

 

 

Lle bo dau berson neu fwy  yn gydgyfrifol am y Dreth Gyngor, byddant yn gymwys am y gostyngiad cyn belled â bod un neu bob un ohonynt yn bodloni'r meini prawf cymhwyster geir uchod.

 

 

 

     (B)Bod y Cyngor yn dirprwyo pwerau i'r Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) am 2006/07 dan adran 13A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 er mwyn ymateb i unrhyw anghysonderau neu anghyfiawnder achosir trwy roi cynllun LlCC ar waith.

 

 

 

     (C)  Bod y Cyngor yn dirprwyo i'r Pwyllgor Gwaith bwerau i wneud dyletswyddau'r Cyngor, pe bai'n angenrheidiol gwneud hynny er mwyn cyflawni nodau Cynllun Lleihau Treth Gyngor LlCC am 2006-07 lle nad oes darpariaeth am hynny yng nghyfansoddiad y Cyngor, ac i'r pwrpas hwn yn unig ac i ddim un arall.

 

      

 

      

 

5     COFNODION Y PWYLLGORAU

 

      

 

     Cyflwynwyd er gwybodaeth, ac i gymeradwyo'r argymhellion lle mae angen, gofnodion y cyfarfodydd o'r Pwyllgorau isod ar y dyddiadau a nodir :-

 

      

 

      

 

      

 

     Tudalennau

 

 

 

5.1

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

     a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr, 2005                              33 - 49

 

      

 

5.2

PWYLLGOR SAFONAU

 

     a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr, 2005                              50 - 52

 

      

 

5.3

     PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION                         53 - 62

 

     a gynhaliwyd ar 11 Ionawr, 2006

 

      

 

5.4

     PWYLLGOR TRWYDDEDU                                   63 - 65               a gynhaliwyd ar 16 Ionawr, 2006

 

      

 

5.5

     CYFARFOD ARBENNIG O'R PWYLLGOR TROSOLWG               66- 69

 

     POLISI ADDYSG, IECHYD A LLES

 

     a gynhaliwyd ar 17 Ionawr, 2006 yn amodol o dan Eitem 1 yn y fersiwn Saesneg

 

     o'r cofnodion fod enw y Cynghorydd O. Gwyn Jones yn cael ei newid i O. Glyn Jones.

 

      

 

5.6

     PWYLLGOR TROSOLWG POLISI DATBLYGU                         70 - 72

 

     GWASANAETHAU SYLFAENOL AC ADNODDAU.

 

     a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2006

 

      

 

     Materion yn codi -

 

      

 

     (i)  Eitem 3.  Pont Britannia

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd P. M. Fowlie beth oedd y sefyllfa ddiweddaraf ynglyn â'r problemau traffig oedd yn gysylltiedig â Phont Britannia a gwnaeth gais i'r Cyngor ysgrifennu unwaith yn rhagor ar y Cynulliad ynglyn â hyn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gofyn i'r Rheolwr-gyfarwyddwr fynd ar drywydd y mater  ac adrodd yn ôl i'r Cyngor.

 

      

 

     (ii)  Eitem 5.  Cynllun Cofrestru Badau Pwer

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd G. O. Parry MBE at ymddygiad annerbyniol rhai perchnogion cychod pwer ac yn arbennig eu hymddygiad tuag at swyddogion y Cyngor.  Gofynnodd i'r Adran barhau i fonitro'r sefyllfa ac adrodd yn ôl ar ei ganfyddiadau ar ddiwedd y tymor.

 

      

 

5.7

     PWYLLGOR TROSOLWG POLISI ADDYSG,                         73 - 78

 

     IECHYD A LLES

 

     a gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 2006

 

      

 

5.8

     PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI                                   79 - 81

 

     a gynhaliwyd ar 26 Ionawr, 2006

 

      

 

5.9

     PWYLLGOR ARCHWILIO                                   82 - 86

 

     a gynhaliwyd ar 26 Ionawr, 2006

 

     Roedd y Cynghorydd John Roberts yn dymuno iddo gael ei gofnodi iddo ymddiheuro am ei absenoldeb fel Deilydd Portffolio a wahoddwyd i fynychu'r cyfarfod.

 

      

 

5.10

PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI (GALW-MEWN)                    87 - 88

 

     a gynhaliwyd ar 6 Chwefror, 2006

 

      

 

5.11

CYSAG                                   (dosbarthwyd ar wahân)

 

     a gynhaliwyd ar 13 Chwefror, 2006     (atodwyd i'r cofnodion hyn tudalennau 24 - 29)

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd E. G. Davies at y gadair wag a ddyrannwyd i'r Grwp Radical Annibynnol ar y Pwyllgor hwn ac estynnodd wahoddiad i gynrychiolydd o'r Grwp hwnnw fynychu cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

      

 

5.12

PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI                                                      (dosbarthwyd ar wahân)

 

     a gynhaliwyd ar 16 Chwefror, 2006     (atodwyd i'r cofnodion hyn tudalennau 30 - 32)

 

      

 

     Materion yn codi -

 

      

 

     Eitem 1 -  Datganiad o Ddiddordeb

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd John Roberts yn dymuno iddo gael ei nodi mai'r Cynghorydd John Rowlands oedd cynrychiolydd y Cyngor yn y Ganolfan Gynghori ac nid y Cynghorydd G. O. Parry MBE fel a ddywedwyd yn y cyfarfod.

 

      

 

     Ymddiheurodd y Cynghorydd G. O. Parry MBE am ei gamgymeriad (Noder:  y Cynghorydd G. O. Parry oedd cynrychiolydd blaenorol y Cyngor hwn)

 

      

 

5.13

PWYLLGOR GWAITH

 

     a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod:-

 

 

 

5.13.1

12 Rhagfyr, 2005                                   89 - 93

 

 

 

Materion yn codi -

 

 

 

Eitem 1  -  Datganiad o Ddiddordeb

 

 

 

Roedd y Cynghorydd John Roberts yn dymuno iddo gael ei nodi iddo ddatgan diddordeb yn Eitem 7.2 o'r cofnodion hyn ac nid 7(b) fel yr oedd wedi ei gofnodi.

 

      

 

5.13.2

16 Ionawr, 2006 ( y Gyllideb)                              94 - 95

 

 

 

5.13.3

18 Ionawr, 2006 (y Gyllideb)                              96 - 107

 

     (Cyfarfod a ohiriwyd o 16 Ionawr)

 

      

 

5.13.4

23 Ionawr, 2006                                   108 - 115

 

      

 

5.13.5

13 Chwefror, 2006 ( y Gyllideb)                         116 - 130

 

      

 

5.13.6

20 Chwefror, 2006(Arbennig)                    (dosbarthwyd ar wahân)

 

     (atodwyd i'r cofnodion hyn tudalennau 33 - 38)

 

 

 

5.14

PWYLLGOR PENODI                                               (dosbarthwyd ar wahân)

 

     a gynhaliwyd ar 22 Chwefror, 2006.          (atodwyd i'r cofnodion hyn tudalennau 39 - 41)                              

 

6

DIWYGIO'R WEITHDREFN GWYNION GORFFORAETHOL

 

      

 

     Adroddwyd - Bod yr eitem wedi ei thynnu'n ôl gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror, 2006.

 

      

 

7     CEISIADAU CYNLLUNIO ECONOMAIDD PWYSIG.

 

      

 

     Cyflwynwyd -  Adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) fel a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 13 Chwefror, 2006.

 

      

 

     Adroddwyd gan y Deilydd Portffolio - Fod y  Pwyllgor Gwaith wedi ystyried yr uchod ac wedi penderfynu argymell i'r Cyngor Sir:-

 

      

 

     "(i) Bod y Cyngor Sir  ei hun yn gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio "economaidd" mawrion a bod cynllun dirprwyo y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cael ei ddiwygio i ganiatáu hynny.

 

      

 

     (ii) Mai hwn fydd y diffiniad o gais cynllunio "economaidd":-

 

      

 

     Ceisiadau cynllunio mawr sy'n creu neu'n diogelu dros 200 o swyddi amser llawn neu o swyddi sy'n cyfateb i hynny."

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd Aled Morris Jones at yr oedi annerbyniol gyda datblygiad Marina Biwmares a gofynnodd i'r Arweinydd ofyn am gyfarfod ar frys gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i geisio gweld beth yw'r oedi gan DEFRA rhag symud ymlaen gyda'r drwydded garthu.  Dylai cyfarfod o'r fath gynnwys yr Aelod Seneddol a'r Aelod Cynulliad.  

 

      

 

     Yn ei ateb fe ddywedodd yr Arweinydd iddo ysgrifennu at Sue Essex, Andrew Davies a Carwyn Jones ar wahân ar y mater hwn a'i fod wedi gofyn am gyfarfod gyda'r Cynulliad yn y cyswllt hwn.  Addawodd yr Arweinydd y byddai unwaith yn rhagor yn codi'r mater gyda'r Cynulliad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith yn yr adroddiad.

 

      

 

8     CYNLLUN DATBLYGU LLEOL (CDL)

 

      

 

     Adroddwyd gan y Deilydd Portffolio Cynllunio - Ei bod yn debygol y byddai'r CDL yn cymryd rhyw 4 blynedd i'w baratoi ac roedd ymwneud cymunedol a gwleidyddol yn rhannau allweddol o'r broses.  Roedd y Cynulliad ar hyn o bryd yn paratoi'r gorchymyn lleol oedd ei angen i ganiatáu i'r Cyngor hwn symud ymlaen yn ffurfiol gyda gwaith ar Gynllun Datblygu Lleol.

 

      

 

     Yn awr roedd angen ei gyflwyno a chytuno ar 'gytundeb darparu' gyda Llywodraeth y Cynulliad a byddai hwn yn ddatganiad cyhoeddus o'r cynllun prosiect ar gyfer cwblhau'r cynllun.  Byddai hwn yn gosod allan y nod, sgôp a blaenoriaethau'r gwaith gydag eglurhad o ymwneud ac ymgynghoriad gyda chydranddeiliaid.

 

 

 

     Roedd cyfarwyddyd y Cynulliad yn ei gwneud yn glir y bydd raid i'r amserlen ystyried ffactorau fydd yn cael dylanwad arni, gan gynnwys rôl yr aelodau mewn gwneud penderfyniadau.  Roedd yn amlwg bod y Cynulliad yn edrych am ymrwymiadau clir yn nhermau proses ac adnoddau er mwyn gwella, darparu a chwblhau'r cynlluniau datblygu yng Nghymru a hynny er mwyn cael gwell perfformiad ar draws Awdurdodau Cynllunio Cymru..

 

      

 

     O ystyried y profiad gafwyd yn paratoi'r Cynllun Datblygu Unedol y mae'n bwysig creu cefnogaeth wleidyddol eang i'r CDL.  Mae'r swyddogion yn chwilio am arweiniad a hynny heb wneud argymhelliad.  Argymhelliad yr aelodau oedd yn bresennol yn y seminarau CDLl oedd fod dau aelod o bob grwp gwleidyddol,  dan gadeiryddiaeth y Deilydd Portffolio Cynllunio, yn cael eu dewis i wasanaethu ar unrhyw banel er mwyn delio gyda'r CDL.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo'r argymhelliad wnaed yn y seminarau CDL fod Panel CDL yn cael ei sefydlu i fynd â'r gwaith yn ei flaen ac yn cynnwys y Deilydd Portffolio Cynllunio fel Cadeirydd, ynghyd â dau aelod o bob Grwp Gwleidyddol.

 

      

 

9

RHYBUDD O GYNNIG YN UNOL Â DARPARIAETHAU PARAGRAFF 4.1.13.1

 

     Y CYFANSODDIAD

 

      

 

     (a) Yn unol â Pharagraff 4.1.13.1 Cyfansoddiad y Cyngor, roedd y Cynghorwyr P. M. Fowlie, J. A. Jones, B. Owen, G. O. Parry MBE, G. W. Roberts OBE, H. W. Thomas ac W. J. Williams           wedi cyflwyno'r Rhybudd o Gynnig canlynol:-

 

      

 

     "Yn wyneb cyhoeddi yr adolygiad diweddar ar ynni, mae'r Cyngor Sir yn gofyn am sicrwydd gan y Llywodraeth ynghylch ymestyn oes gweithio Gorsaf Bwer Wylfa y tu hwnt i'r dyddiad y rhagwelir y bydd yr orsaf yn cau sef 2010. Yn ychwanegol, mae'r      Cyngor yn cydnabod yn llwyr bwysigrwydd economaidd yr Wylfa i lewyrch Ynys Môn yn y dyfodol a'r ffaith fod hyn yn fater sylweddol nid yn unig o ran diogelu swyddi allweddol yn y sector preifat ond hefyd o ran cyfleon gwaith i'r dyfodol. Mae'r Cyngor felly yn cefnogi datblygu Gorsaf Wylfa B ar y safle."

 

      

 

     (b) Cyflwynwyd -  y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Eurfryn Davies ar ran Grwp Plaid Cymru:-

 

      

 

     "Carwn gyflwyno gwelliant i'r ail ran o'r rhybudd o gynnig dan Baragraff 4.1.13.1 o'r           Cyfansoddiad sydd o flaen y Cyngor Sir ar yr 2il Fawrth 2006 - Bydd angen i'r Cyngor Sir benderfynu ar ei safiad ar Bwerdy Niwcliar newydd ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol gyhoeddi canlyniadau ei hadolygiad ynni."

 

      

 

     Cafwyd trafodaeth rhwng yr aelodau ynglyn â nodweddion y ddau Rybudd o Gynnig.

 

      

 

     Yng ngoleuni'r drafodaeth uchod, cafwyd Rhybudd o Gynnig diwygiedig gan y Cynghorydd G. W. Roberts OBE a'i eilio gan y Cynghorydd G. O. Parry MBE sef :-

 

      

 

     "Yn wyneb cyhoeddi yr adolygiad diweddar ar ynni, mae'r Cyngor Sir yn gofyn am sicrwydd gan y Llywodraeth ynghylch ymestyn oes gweithio Gorsaf Bwer Wylfa y tu hwnt i'r dyddiad y rhagwelir y bydd yr orsaf yn cau sef 2010. Yn ychwanegol, mae'r      Cyngor yn cydnabod yn llwyr bwysigrwydd economaidd yr Wylfa i lewyrch Ynys Môn yn y dyfodol a'r ffaith fod hyn yn fater sylweddol nid yn unig o ran diogelu swyddi allweddol yn y sector preifat ond hefyd o ran cyfleon gwaith i'r dyfodol.  Bydd y Cyngor yn cefnogi datblygu Gorsaf Wylfa B newydd ar y safle, unwaith y bydd y Llywodraeth wedi gwneud penderfyniad i  ddod allan o blaid ynni niwcliar".

 

     Cafwyd pleidlais ar y Rhybudd o Gynnig diwygiedig ac fe'i cariwyd o 19 pleidlais i 13.

 

      

 

     Pleidleisiwyd wedi hynny ar y gwelliant roddwyd ymlaen gan y Cynghorydd E. G. Davies ar ran Grwp Plaid Cymru o dan 9(b) uchod. Ni chafodd y gwelliant ei gario (17 pleidlais i 14) ac felly fe gafodd y Rhybudd o Gynnig diwygiedig roddwyd ymlaen gan y Cynghorwyr G. W. Roberts OBE a G. O. Parry MBE ei gario.

 

      

 

     (Roedd y Cynghorydd P. J. Dunning yn dymuno cofnodi iddo atal ei bleidlais ar y mater oherwydd ei fod yn cael ei gyflogi gan Aliwminiwm Môn).

 

 

 

     (c) Cyflwynwyd -  Y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Bob Parry, OBE ar ran      Grwp Plaid Cymru:-

 

      

 

     " Yn sgil y cyhoeddusrwydd a roddwyd yn ddiweddar i fethu â chydymffurfio gydag amodau cynllunio ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio Rhif 14C92D, Parc Cefni, Bodffordd, mae Grwp Plaid Cymru/The Party of Wales yn dymuno trefnu bod y Cyngor hwn yn cael pleidlais o ddiffyg hyder yn y Cynghorydd John Arthur Jones, Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, ac yn cynnig hefyd ei symud oddi ar y Pwyllgor uchod yn syth, gan fod ei aelodaeth o'r Pwyllgor yn mynd i greu,      ymhlith y cyhoedd, yr amgyffrediad o ymddygiad amhriodol gan aelod o'r awdurdod hwn."

 

      

 

     Cafwyd cyngor gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro fod y Rhybudd o Gynnig yn amhriodol yn ei ffurf wreiddiol gan ei fod yn ceisio gofyn i'r Cyngor ymarfer pwerau nad oedd ganddo ac na allai eu rhoi ar waith. Yr oedd dwy agwedd i'r Rhybudd o Gynnig yr oedd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro â chonsyrn amdanynt :-

 

      

 

Ÿ

Roedd y cynnig yn gofyn i'r Cyngor roi pleidlais o ddiffyg hyder mewn Cynghorydd - roedd hyn yn mynd y tu draw i'r pwerau oedd gan y Cyngor yn ei Gyfansoddiad.  Roedd y Cyfansoddiad yn ei gwneud yn eglur y gallai'r Cyngor gymryd pleidlais o ddiffyg hyder yn yr Arweinydd neu'r Is-Arweinydd ond nid yng nghyswllt unrhyw Gynghorydd arall.

 

 

 

Ÿ

Roedd y cynnig yn dymuno gweld diarddel y Cynghorydd o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - nid oedd gan y Cyngor ynddo'i hun unrhyw bwerau i ddiarddel Cynghorydd o unrhyw Bwyllgor.  Dim ond y Grwp yr oedd yr unigolyn yn aelod ohono a'r Pwyllgor Safonau oedd â'r pwer hwnnw a hyd yn oed wedyn dim ond gyda chyfyngiadau llym iawn.

 

 

 

Os oedd y Cadeirydd yn derbyn ei chyngor na allai'r Rhybudd o Gynnig gael ei drafod yn ei ffurf bresennol, roedd yn agored i'r Cynghorydd Bob Parry OBE roi ymlaen newid i'r Rhybudd o Gynnig a byddai hynny wedyn angen cytundeb y Cadeirydd a byddai raid pleidleisio ar wahân ar hyn wedyn gan y Cyngor.

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd Parry ei siom gyda'r cyngor roddwyd gan i'r Rhybudd o Gynnig gael ei roi i mewn dros wythnos ynghynt ac roedd am gwestiynu paham nad oedd wedi cael gwybodaeth ei fod allan o drefn cyn y cyfarfod heddiw.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd E. Schofield fod yna awgrym yn y cyfarfod heddiw nad oedd cyfeiriad o fewn y Cyfansoddiad at bleidlais o ddiffyg hyder mewn neb arall ond yr Arweinydd ac Is-Arweinydd y Cyngor.  Roedd am atgoffa'r aelodau i Arweinydd Cyngor yn Ne Cymru sacio holl aelodau ei Bwyllgor Cynllunio a rhoi yn eu lle rai o'i ddewis ei hun.  Roedd am gwestiynu'r ffaith nad oedd mewn trefn i'r Cyngor ddatrys y mater hwn heddiw a gweithredu arno.

 

 

 

Yn ei hateb fe ddywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro fod sgôp y testun yr oedd y cynigiwr eisiau trafodaeth arno yn dderbyniol.  Roedd yna ddarpariaeth yn y Cyfansoddiad fyddai'n caniatáu i'r cynigydd newid ei gynnig er mwyn symud ymaith y cyfeiriad at bleidlais o ddiffyg hyder a symud ymaith o'r Pwyllgor, cyfeiriadau y tybid eu bod yn anghyfreithlon.  Byddai'r Cyngor angen pwer i'w alluogi i wneud hynny, ond fe allai'r Cyngor barhau i drafod sylwedd y mater pebai'n dymuno newid y cynnig a bod y Cyngor yn cytuno ar hynny trwy fwyafrif cyffredin.

 

 

 

Torrwyd y  cyfarfod am 5 munud er mwyn rhoddi cyfle i Grwp Plaid Cymru aileirio ei Rhybudd o Gynnig, fel y byddai'n dderbyniol gan Gadeirydd y Cyngor.

 

 

 

Derbyniodd y Cadeirydd y Rhybudd o Gynnig canlynol oedd wedi ei aralleirio, ar gyfer ei ystyried gan y Cyngor :-

 

 

 

"Yn sgil y cyhoeddusrwydd a roddwyd yn ddiweddar i fethu â chydymffurfio gydag amodau cynllunio ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio rhif 14C92D, Parc Cefni, Bodffordd, mae Grwp Plaid Cymru / The Party of Wales yn dymuno trafod bod y Cyngor hwn wedi colli hyder yn y Cynghorydd John Arthur Jones ac eu bod yn gofyn iddo ymddiswyddo o'r Pwyllgor Cynllunio, gan fod ei aelodaeth o'r Pwyllgor yn mynd i greu, ymlith y cyhoedd, yr amgyffrediad o ymddygiad amhriodol gan aelod o'r Awdurdod hwn"

 

 

 

Dan ddarpariaethau Rheol 18.5 cytunwyd i gofnodi'r bleidlais.

 

 

 

Reodd y pleidleisio fel a ganlyn :-

 

 

 

(1)  O Blaid y Rhybudd o Gynnig

 

 

 

     Y Cynghorwyr E. G. Davies, P. J. Dunning, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, Ff. M. Hughes, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. Morris Jones, O. Glyn Jones, R. Ll. Jones, Tom Jones, B. Owen, R. L. Owen, R. G. Parry OBE, G. O. Parry, MBE, P. S. Rogers, G. Allan Roberts, E. Schofield, H. Noel Thomas, K. Thomas.

 

      

 

     CYFANSWM 20

 

      

 

     (ii) Yn erbyn y Rhybudd o Gynnig

 

      

 

     Y Cynghorwyr Mrs B. Burns MBE, J. Byast, W. J. Chorlton, J. M. Davies, K. Evans, D. R. Hadley, D. R. Hughes, G. O. Jones, H. E. Jones, J. Arwel Roberts, D. Lewis-Roberts, John Roberts, G. W. Roberts, OBE, W. T. Roberts, J. Rowlands, H. W. Thomas, J. Williams, W. J. Williams, MBE.

 

      

 

     CYFANSWM 18

 

      

 

     (iii)  Atal Pleidlais

 

     Neb.

 

      

 

     Fe gafodd y Rhybudd diwygiedig o Gynnig ei gario.

 

 

 

 

 

10

YR ARWEINYDD YN DIRPRWYO.

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr-Gyfarwyddwr yn gosod allan unrhyw newdidiadau i'r      cynllun dirprwyo ynghylch swyddogaethau'r Pwyllgor Gwaith ac a wnaed gan yr Arweinydd ers y cyfarfod cyffredin diwethaf (Rheol 4.14.1.4 y Rheolau Gweithdrefn Trefniadau Gweithredol - gweler tudalen 131 y Cyfansoddiad)

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi gwybodaeth yr adroddiad.

 

      

 

      

 

     Terfynwyd y cyfarfod am 6.35 pm

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD JOHN BYAST

 

     CADEIRYDD