CYNGOR SIR YNYS MÔN |
|
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4 MAWRTH 2003 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
O'r 6 Pwyllgor Sgriwtini, roedd 3 wedi cymeradwyo'r gyllideb, roedd 2 wedi'i nodi ac roedd Pwyllgor Sgriwtini Adnoddau'r Cyngor wedi penderfynu "gofyn i'r Pwyllgor Gwaith ailedrych ar y gyllideb ar gyfer 2003/04 gan roi sylw penodol i'r bidiau twf gwasanaeth sy'n golygu swyddi newydd, er mwyn tynnu'r codiad arfaethedig yn y Dreth Gyngor i lawr yn sylweddol". |
|||
|
|||
Mewn ymateb i'r ymgynghoriad, roedd rhai Cynghorau Cymuned wedi amau'r angen i greu swyddi newydd yn y Cyngor ac y dylai unrhyw alwadau newydd gael eu cyfarfod gan y staff presennol. |
|||
|
|||
Ar y mater hwn, mynegodd rhai aelodau eu pryder bod barn eu Cynghorau Tref a Chymuned wedi'u hanfon ond na chyfeiriwyd atynt fel rhan o'r adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith nac i'r Cyngor hwn. O'r herwydd, awgrymodd yr aelodau hynny, gan fod rhan hanfodol o'r broses ymgynghori ar goll, y dylid gohirio ystyried y gyllideb tan ddyddiad arall, hyd oni dderbynnir y wybodaeth dan sylw. |
|||
|
|||
Wrth ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) y byddai'n edrych i mewn i bryderon aelodau yn hyn o beth. Dywedodd hefyd bod rheolau gweithdrefn y gyllideb a'r Polisi Fframwaith, a fabwysiadwyd gan y Cyngor hwn ar 7 Mai 2002 yn mynnu bod y Pwyllgor Gwaith yn delio â'r graddau yr oeddynt wedi ystyried unrhyw ymgynghoriad, y tu mewn i'w gynigion terfynol, a bod hwn wedi'i wneud yng nghofnod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith. |
|||
|
|||
Cynigiwyd gwelliant i argymhelliad y Pwyllgor Gwaith i dderbyn codiad o 9.4% yn y Dreth Gyngor a chafodd ei eilio h.y. gostwng y gyllideb £250,000 er mwyn gostwng y cynnydd yn y Dreth Gyngor i oddeutu 7.8%, gyda chreu swyddi newydd yn cwrdd â £150,000 o'r swm hwn a £100,000 yn dod o'r gyllideb gyfalaf, ac awdurdodi'r Pwyllgor Gwaith i benderfynu ar y manylion. |
|||
|
|||
Dan ddarpariaethau Rheol 18.5 Gweithdrefn y Cyngor cytunwyd i gymryd pleidlais wedi'i chofnodi. |
|||
|
|||
Dyma oedd y bleidlais :- |
|||
|
|||
|
|||
|
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Ni chafodd y gwelliant ei gario. |
|||
|
|||
Cynigiwyd gwelliant arall a chafodd ei eilio, sef gohirio rhoi sylw i'r gyllideb fel bod modd galw cyfarfod anghyffredin o'r Cyngor Sir i ystyried gwybodaeth ychwanegol oddi wrth Gynghorau Tref a Chymuned ac egluro'r gwrthdaro honedig rhwng ffigyrau'r setliad a ddarpariwyd gan y Cynulliad a'r ffigyrau hynny yn yr adroddiad i'r Pwyllgor hwn. |
|||
|
|||
Dan Ddarpariaeth Rheol 18.5 Gweithdrefn y Cyngor cytunwyd i gymryd pleidlais wedi'i chofnodi. |
|||
|
|||
Dyma oedd y bleidlais :- |
|||
|
|||
.1 O blaid yr ail welliant h.y. gohirio ystyried y gyllideb hyd oni cheir rhagor o wybodaeth |
|||
|
|||
Y Cynghorwyr J. Byast, W. J. Chorlton, C. L. Everett, P. M. Fowlie, R. Ll. Hughes, R. Ll. Jones, Rhian Medi, J. Arwel Roberts, Gwyn Roberts, G. Winston Roberts OBE, W. T. Roberts, E. Schofield, H. W. Thomas. |
|||
Cyfanswm 13 |
|||
|
|||
ii. Yn erbyn y gwelliant :- |
|||
|
|||
Y Cynghorwyr B. Burns, J. M Davies, J. Arwel Edwards, D. D. Evans, Fflur M. Hughes, Dr. J. B. Hughes, T. Lloyd Hughes, W. I. Hughes, G. O. Jones, H. Eifion Jones, O. Gwyn Jones, R. Jones OBE, W. Emyr Jones, R. L. Owen, G. O. Parry MBE, R. G. Parry MBE, G. Allan Roberts, John Roberts, J. Rowlands, K. Thomas, G. Alun Williams, W. J. Williams. |
|||
Cyfanswm 22 |
|||
|
|||
iii. Wedi ymatal |
|||
|
|||
Y Cynghorydd D. R. Hughes Cyfanswm 1 |
|||
Ni chafodd yr ail welliant ei gario. |
|||
|
|||
Cynigiwyd ac eiliwyd cyflwyno'r argymhelliad gwreiddiol i dderbyn cyllideb y Cyngor a chynnydd o 9.4% yn y Dreth Gyngor |
|||
|
|||
Dan ddarpariaethau Rheoli 18.5 Gweithdrefn y Cyngor cytunwyd i gymryd pleidlais wedi'i chofnodi. |
|||
|
|||
Dyma oedd y bleidlais :- |
|||
|
|||
i. Dros y cynnig h.y. derbyn cyllideb y Cyngor a chynnydd o 9.4% yn y Dreth Gyngor. |
|||
|
|||
Y Cynghorwyr B. Burns, J. M. Davies, J. A. Edwards, D. D. Evans, Fflur M. Hughes, Dr. J. B. Hughes, T. Ll. Hughes, W. I. Hughes, G. O. Jones, O. G. Jones, R. Jones OBE, R. L. Owen, G. O. Parry MBE, R. G. Parry OBE, J. Rowlands, K. Thomas, G. Alun Williams, W. J. Williams. |
|||
Cyfanswm 18 |
|||
ii. Yn erbyn y cynnig |
|||
|
|||
Y Cynghorwyr J. Byast, W. J. Chorlton, C. L. Everett, P. M. Fowlie, D. R. Hughes, R. Ll. Hughes, H. E. Jones, R. Ll. Jones, W. E. Jones, Rhian Medi, G. Allan Roberts, Gwyn Robets, G. Winston Roberts OBE, J. Arwel Roberts, J. Roberts, W. T. Roberts, E. Schofield, H. W. Thomas. |
|||
Cyfanswm 18 |
|
|||
iii. Wedi ymatal |
|||
Dim |
|||
|
|||
Dan Reol 18.2 Gweithdrefn y Cyngor defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw. |
|||
|
|||
Cafodd y cynnig ei gario. |
|||
|
|||
Ar ôl i'r Aelod Portffolio (Addysg a Hamdden) sôn y byddai sylw yn cael ei roi i bob penodiad o hyn ymlaen ac i lenwi swyddi gweigion:- |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, mabwysiadu cyllideb refeniw ar gyfer 2003/04 fel sy'n ymddangos yn y tabl yn atodiad A. |
|||
|
|||
Dirprwyo i'r Pwyllgor Gwaith am y flwyddyn ariannol 2003/04 y pwerau i drosglwyddo cyllidebau rhwng penawdau fel a ganlyn: |
|||
.1 Pwerau heb eu cyfyngu i wario'r penawdau cyllideb yn Atodiad A ar yr amcan, gwasanaeth neu prosiect a enwir; |
|||
.2 Cyfyngu i ddim y swm y gaiff y Pwyllgor Gwaith wyro rhwng y penawdau yn Atodiad A; |
|||
.3 Pwerau heb eu cyfyngu i wyro allan o'r gronfa wrth cefn canolog, y gronfa Grant Cymell Perfformiad, neu incwm arall newydd neu ychwanegol . |
|||
|
|||
9.2 PENDERFYNWYD |
|||
|
|||
Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, mabwysiadu cynllun cyfalaf tair blynedd fel sy'n ymddangos yn atodiad B. |
|||
|
|||
Mabwysiadu cyllideb gyfalaf ar gyfer 2003/04 gyda ymrwymiadau i'r blynyddoedd dilynol fel sy'n ymddangos yn atodiad C. |
|||
|
|||
Dirprwyo i'r Pwyllgor Gwaith am y flwyddyn ariannol 2003/04 y pwerau i drosglwyddo cyllidebau rhwng cynlluniau cyfalaf ac i ymrwymo adnoddau y dyfodol o fewn y symiau a amlinellir yn y cynllun cyfalaf ac yn gyson a'r strategaeth gyllideb. |
|||
|
|||
9.3 PENDERFYNWYD cadarnhau'r cyfyngiadau ar fenthyca yn 2003/04 fel : |
|||
|
|||
Uchafswm benthyca £115m |
|||
Uchafswm benthyca tymor byr £20m |
|||
Uchafswm y llog sy'n daladwy ar raddfa amrywiol 25% |
|||
|
|||
9.4 .......PENDERFYNWYD mabwysiadu a chadarnhau i bwrpas y flwyddyn ariannol 2003/04 benderfyniad y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 1998, bod y Cyngor Sir yn pennu lefel y disgownt sy'n gymwys i'r Dosbarth penodedig A a Dosbarth penodedig B o anheddau i bwrpas Adran 12 Deddf Gyllid Llywodraeth Leol 1992, a ddisgrifir gan "The Council Tax (Prescribed Classes of Dwellings) (Wales) Regulations 1998", fel a ganlyn :- |
|||
Dosbarth Penodedig A Dim Disgownt |
|||
Dosbarth Penodedig B Dim Disgownt....... |
|||
|
|||
9.5 Nodi fod y Cyngor yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 1996 wedi penderfynu na fydd yn trin y costau yr â'r Cyngor iddynt yn rhan o'i ardal nac wrth gyfarfod unrhyw gais neu gais arbennig fel costau arbennig a bod y penderfyniadau i barhau mewn grym hyd oni fyddant yn cael ei diddymu'n benodol. |
|||
|
|||
9.6 Y dylid nodi i'r Cyngor, yn ei gyfarfod ar 10 Rhagfyr 2002 bennu'r symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2003/04 yn unol â'r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 :- |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
a Rhan o ardal y Cyngor : |
|||
|
|||
|
|
|
|
|||
sef y symiau a bennwyd gan y Cyngor, yn unol â rheoliad 6 y Rheoliadau, yn symiau sylfaen y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn gyda golwg ar y tai annedd yn y rhannau hynny o'i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy'n berthnasol. |
|||
|
|||
9.7 Bod y symiau a ganlyn bellach yn cael eu pennu gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2003/04 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 :- |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
1h 74,039,722 sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i gronfa'r cyngor gyda golwg ar drethi annomestig a ailddosberthir, a grant cynnal refeniw gan dynnu y swm a bennwyd yn unol ag Adran 33(3B) y Dded |
|||
d 671.38 sef y swm yn 7(c) uchod llai'r swm yn 7(ch) uchod, gan rannu'r cyfan â'r swm a nodir yn 6(a) uchod, a bennwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 33(1) y Ddeddf, sef swm sylfaenol treth y cyngor am y flwyddyn. |
|||
|
|||
1d 578,893sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) y Ddeddf. |
|||
|
|||
a 649.62 sef y swm yn 7(d) uchod llai'r canlyniad a geir wrth rannu'r swm yn 7(dd) uchod â'r swm yn 6(a) uchod, a bennwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34 (2) y Ddeddf, sef swm sylfaenol y dreth gyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau honno o'r ardal lle na bo unrhyw eitem arbennig yn berthnasol. |
|||
|
|||
|
|
|
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|||
|
|||
|
|
|
|
|
|
|
|||
|
|||
|
|||
9.8 Y dylid nodi ar gyfer y flwyddyn 2003/04 fod Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru wedi nodi'r symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i'r Cyngor, yn unol ag Adran 40 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ar gyfer pob un o'r categoriau o dai annedd a ddangosir isod :- |
|||
|
|||
Awdurdod Praeseptio Band Prisiau |
|
|
|||
|
|||
|
|
|
|
|
|
|
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - Bod y Cyngor Sir, yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth 2002, wedi penderfynu mabwysiadu argymhellion allweddol Cyfarwyddyd y Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifeg Cyhoeddus "Treasury Management in Public Services : Code of Practice 2001" fel rhan o'i Reolau Gweithdrefn Ariannol newydd. Yn sgil hyn, roedd rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor yn mynnu : |
|||
|
|||
"Bydd y Cyngor yn derbyn adroddiadau ar ei bolisïau a rheolau trysorlys, ar ei arferion a'i weithgareddau gan gynnwys, o leiaf, strategaeth flynyddol a chynllun cyn y flwyddyn ac adroddiad blynyddol wedi diwedd y flwyddyn honno ........" |
|||
|
|||
Roedd copi o'r datganiad strategol blynyddol arfaethedig ar gyfer 2003/04 ynghlwm fel rhan o'r adroddiad i gyfarfod y Cyngor hwn. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD mabwysiadu Datganiad Strategaeth blynyddol ar Reoli'r Trysorlys fel a nodir yn yr adroddiad i'r Cyngor hwn. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Cyflwynwyd er gwybodaeth, ac i fabwysiadu argymhellion lle bo raid, gofnodion y Pwyllgorau a ganlyn ac a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ddangosir :- |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Yn codi o'r cofnodion :- |
|||
|
|||
Eitem 4 - Cwyn yn Erbyn Cynghorydd |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Safonau, gan fod yr honiadau wedi'u profi ar falans tebygolrwydd, gwahardd y Cynghorydd H. W. Thomas am ddau fis o ddiwedd cyfarfod y Cyngor hwn. |
|||
|
|||
(Dymunodd y Cynghorwyr T. Lloyd Hughes ac O. Gwyn Jones gofnodi yn y cofnodion nad oeddynt wedi cymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth na phleidleisio ar y mater hwn) |
|||
|
|||
(Dymunodd y Cynghorwyr P. M. Fowlie, D. R. Hughes, R. Ll. Hughes, J. Roberts, J. Arwel Roberts ac E. Schofield gofnodi yn y cofnodion eu bod wedi ymatal rhag pleidleisio ar y mater hwn) |
|||
|
|||
(Dymunai aelodau nodi yn y cofnodion eu pryder ynghylch yr amser yr oedd wedi'i gymryd i brosesu'r mater hwn). |
|||
|
|||
|
|||
4 Rhagfyr 2002 Tudalen 40-55 |
|||
|
|||
11.3 PWYLLGOR SGRIWTINI ADNODDAU'R CYNGOR a gynhaliwyd |
|||
ar 5 Rhagfyr 2002 Tudalen 56-59 |
|||
|
|||
11.4 PWYLLGOR ARCHWILIO a gynhaliwyd ar 23 Rhagfyr 2002 Tudalen 60-61....... |
|||
|
|||
11.5 PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION a gynhaliwyd |
|||
ar 8 Ionawr 2003 Tudalen 62-75 |
|||
11.6 PWYLLGOR SGRIWTINI CYNHWYSIAD CYMDEITHASOL |
|||
a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2003 Tudalen 76-78 |
|||
|
|||
Yn codi o'r cofnodion :- |
|||
|
|||
Eitem 3 - Penderfyniad yng nghyswllt Gosod Tai Cyngor |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD y dylai'r Pwyllgor Sgriwtini Cynhwysiad Cymdeithasol roi rhagor o sylw i'r mater hwn unwaith y derbynnir cyfarwyddyd terfynol gan y Cynulliad ar osod Tai Cyngor. |
|
|
Dymunodd Aelodau nodi y dylai'r Cynulliad, yn ei gyfarwyddiadau drafft, egluro'n well swyddogaeth aelodau etholedig gyda gosod tai ac y dylid caniatau i aelodau etholedig gymryd rhan mewn gosod tai Cyngor yn eu wardiau penodol nhw. |
|
|
|
11.7 PWYLLGOR SGRIWTINI ADNODDAU'R CYNGOR |
|
a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2003 Tudalen 79-91 |
|
|
|
11.8 PWYLLGOR SGRIWTINI CYMUNEDAU IACH A DIOGEL |
|
a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2003 Tudalen 92-103 |
|
|
|
Yn codi o'r cofnodion :- |
|
|
|
Eitem 1 - Datganiad o Ddiddordeb |
|
|
|
Dymunodd y Cynghorydd C. Ll. Everett nodi mai ei chwaer ac nid ei wraig oedd wedi'i chyflogi fel gofalwraig yn Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
|
|
11.9 PWYLLGOR SGRIWTINI AMGYLCHEDD A CHLUDIANT |
|
a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2003 Tudalen 104-113 |
|
|
|
11.10 PWYLLGOR SGRIWTINI DATBLYGU ECONOMAIDD |
|
a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2003 Tudalen 114-120 |
|
|
|
11.11 PWYLLGOR SGRIWTINI CYNHWYSIAD CYMDEITHASOL |
|
a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2003 Tudalen 121-136 |
|
|
|
11.12 PWYLLGOR SGRIWTINI ADDYSG A HAMDDEN |
|
a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2003 Tudalen 137-149 |
|
|
|
11.13 PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION |
|
a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2003 Tudalen 150-160 |
|
|
|
11.14 PWYLLGOR SGRIWTINI ADNODDAU'R CYNGOR |
|
a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2003 Tudalen 161-165 |
|
|
|
11.15 PWYLLGOR PENODI a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2003 Tudalen 166 |
|
|
|
11.16 PWYLLGOR GWAITH a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn :- |
|
|
|
11.16.1 2 Rhagfyr 2002 Tudalen 167-170 |
|
|
|
11.16.2 9 Rhagfyr 2002 Tudalen 171-184 |
|
|
|
11.16.3 17 Rhagfyr 2002 Tudalen 185-197 |
|
11.16.4 6 Ionawr 2003 Tudalen 198-206 |
|
|
|
11.16.5 27 Ionawr 2003 Tudalen 207-230 |
|
|
|
Yn codi o'r cofnodion |
|
|
|
Eitem 16 - Cynllun Datblygu Unedol - Newidiadau Arfaethedig |
|
|
PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2003 yn hyn o beth gyda'r eithriad bod PC 581 "Safle Cyflogaeth o Safon Uchel Arfaethedig ar dir ar Fferm Lledwigan, Llangefni" yn cael ei dynnu oddi ar y Cynllun Datblygu Unedol. |
|||
|
|||
11.16.6 17 Chwefror 2003 Tudalen 231-249 |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Cyflwynwyd - Adroddiad ar y cyd gan Gyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro a'r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) ar y bwriad i adolygu a newid y drefn gyfansoddiadol yng nghyswllt penodi Pennaeth y Gwasanaeth Tâl, Cyfarwyddwyr Corfforaethol a Phenaethiaid Gwasanaeth. |
|||
|
|||
Dywedwyd - Bod y Cyfansoddiad a fabwysiadwyd ar 7 Mai 2002, yn cynnwys darpariaeth y byddai gan y Cyngor, ymysg amryfal Bwyllgorau eraill, Bwyllgor Penodi (ac arno 10 aelod a chyda cydbwysedd gwleidyddol) gyda'r pwer dirprwyol i "i wneud argymhellion ynghylch penodi Pennaeth y Gwasanaeth Tâl, Cyfarwyddwyr Corfforaethol a Phenaethiaid Gwasanaeth" a'i fod yn ymhlyg bod rhaid cyfeirio unrhyw argymhellion o'r fath yn ôl i'r Cyngor i'w cymeradwyo fel bod modd gwneud penodiad. |
|||
|
|||
Mae Rheolau Gweithdrefn Cyflogi Swyddogion yn gwneud darpariaeth ychwanegol ar gyfer recriwtio Pennaeth y Gwasanaeth Tâl, Cyfarwyddwyr Corfforaethol a Phenaethiaid Gwasanaeth. Roedd y rhain yn cadarnhau y dylai'r Cyngor, ar hyn o bryd, gymeradwyo penodiadau o'r fath yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Penodi er mai'r Cyngor ei hun oedd yn gyfrifol am bennu dyletswyddau, cymwysterau a rhinweddau a geisir ac am hysbysebu'r swydd ac anfon y manylion hyn at bobl sydd â ddiddordeb. |
|||
|
|||
Gan y cyfeiriai y Cyfansoddiad at Bennaeth y Gwasanaeth Tâl a Chyfarwyddwyr Corfforaethol yn hytrach nag at Benaethiaid Gwasanaeth yn unig, roedd rhaid rhoi sylw i egluro'r drefn ar gyfer yr holl swyddi hyn. |
|||
|
|||
Roedd dau brif fater wedi dod i'r amlwg. Yn gyntaf, o gofio bod y broses benodi fel arfer, yn cynnwys tynnu rhestr fer a chynnal cyfweliadau, nid oedd yn glir a oedd rhaid i'r Pwyllgor Penodi ymwneud â'r ddwy broses, er mai dyna oedd y bwriad mae'n debyg. Yn ail, ac yn bwysicach, os grym i gyflwyno argymhellion yn unig oedd gan y Pwyllgor, byddai'n rhaid, yn ymarferol, gynnal cyfarfod arbennig o'r Cyngor bob tro y penodid swyddog o'r fath a hynny er mwyn cymeradwyo'r argymhelliad neu byddai'n rhaid gohirio'r penderfyniad tan y cyfarfod Cyffredin nesaf. Wrth gwrs, roedd y ddau opsiwn hyn yn anymarferol. |
|||
|
|||
Un ffordd o ddatrys y mater a gyflwynwyd yn yr adroddiad oedd estyn y pwer dirprwyol a roddwyd i'r Pwyllgor penodi fel bod modd iddo wneud y penodiad. O gofio mai aelodau'r Pwyllgor fyddai'r bobl efo'r wybodaeth uniongyrchol i wneud y penderfyniadau |
|||
|
|||
angenrheidiol ac na fyddai Cyngor llawn, gan hynny, yn debygol o fedru cyfiawnhau gwrthod argymhelliad, roedd hon yn ffordd gall a synhwyrol o weithredu. |
|||
|
|||
Er mwyn egluro'r drefn hon, awgrymwyd yn achos swyddi Penaethiaid Gwasanaeth, y dylai'r Pwyllgor Penodi gael y pwer dirprwyol llawn i bennu telerau ac amodau (gan gynnwys dyletswyddau, cymwysterau a rhinweddau), i benderfynu ar restr fer o ymgeiswyr i'w cyfweld ac i benodi ar ôl y cyfweliadau hefyd. O'r herwydd, gwahoddwyd y Cyngor i fabwysiadu'r drefn hon. |
|||
|
|||
Yn achos Pennaeth y Gwasanaeth Tâl a'r Cyfarwyddwyr Corfforaethol, awgrymwyd (yn wahanol i'r hyn a ragwelir ar hyn o bryd) yn hytrach na'r Panel Penodi yn cyfweld a'r Cyngor yn cadarnhau'r penodiad wedyn, y byddai'n well glynu wrth y drefn a fabwysiadwyd eisoes hy. bod y Cyngor llawn yn cyfweld ac yn penodi. Er hynny, byddai'n fwy ymarferol i'r Pwyllgor Penodi bennu'r telerau a'r amodau (gan gynnwys dyletswyddau, cymwysterau a rhinweddau) a chymryd y cam cychwynnol o ddewis ymgeiswyr i'w cyfweld. |
|||
|
|||
Mewn cyfarfod yn ddiweddar, roedd y Pwyllgor Penodi yn teimlo y dylai'r Aelod Porffolio ar gyfer y gwasanaeth dan sylw gael cyfle i ddod i gyfarfodydd y Panel Penodi a chynnig barn y gallai'r Pwyllgor ei chymryd i ystyriaeth cyn penderfynu. Er bod y Rheoliadau'n gwahardd y Pwyllgor Gwaith ei hun rhag bod yn rhan o unrhyw broses benodi neu ddiswyddo ar gyfer unrhyw weithiwr, nid oes gwaharddiad ar dderbyn cyngor gan yr Aelod Portffolio ac ymddangosai'n ychwanegiad call at y drefn gwneud penderfyniadau. |
|||
|
|||
Roedd yr aelodau o'r farn na ddylai'r awgrym uchod y dylai'r Aelod Portffolio dros y gwasanaeth dan sylw gael y cyfle i gynnig barn i'r Pwyllgor Penodi, gael ei gymeradwyo ac y dylid newid yr argymhelliad arfaethedig yn yr adroddiad yn unol â hynny. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD newid y pwer dirprwyol a roddwyd i'r Pwyllgor Penodi fel ei fod yn darllen fel a ganlyn :- |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
.1 Penderfynu pa ymgeiswyr i'w cynnwys ar restr fer i'w cyfweld gan y Cyngor llawn a phennu amodau a thelerau'r penodiad gan gymryd i ystyriaeth sylwadau a wnaed gan y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol); ac |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
.1 Penderfynu pa ymgeiswyr i'w cynnwys ar restr fer i'w cyfweld gan y Pwyllgor Penodi a phennu amodau a thelerau'r penodiad, gan gymryd i ystyriaeth sylwadau (os o gwbl) y Swyddogion y cyfeiriwyd atynt yn (ii) isod; a |
|||
|
|||
.2 Cyfweld ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer a chadarnhau penodiadau gan gymryd i ystyriaeth farn y Cyfarwyddwr Corfforaethol a, lle bo hynny'n briodol, y Rheolwr-gyfarwyddwr ac unrhyw swyddog sy'n cynrychioli'r gwasanaeth Personél a all fod wrth law yn y cyfweliad(au). |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|
|
Cyflwynwyd - Adroddiad ar y cyd gan Gyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar yr opsiynau ynghylch sut i ymdrin â chydbwysedd gwleidyddol ar y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
|
|
Dywedwyd - Bod y Cyngor, ar 7 Mai 2002, wedi penderfynu mabwysiadu Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ac arno 18 aelod, gyda chydbwysedd gwleidyddol, ar draws y grwpiau a rhannu un sedd i'r unig aelod rhydd ar y Cyngor er mwyn cydbwyso rhaniad y seddau. |
|
|
|
Bellach nid oedd yr aelod rhydd yn dymuno gwasanaethu fel aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. O'r herwydd, dim ond 17 neu 18 o seddau sydd ar gael oedd yn cael eu llenwi ar roedd angen i'r Cyngor benderfynu pa gamau i'w cymryd, os o gwbl, mewn perthynas â chydbwysedd gwleidyddol ar y Pwyllgor pan fo cyswllt annatod rhwng cydbwysedd gwleidyddol a nifer seddau ar holl Bwyllgorau'r Cyngor. |
|
|
|
Roedd yna sawl ffordd y gellid ei defnyddio i sicrhau cydbwysedd gwleidyddol ar draws cyfanswm seddau a'r Pwyllgorau unigol er y byddai rhan fwyaf o'r ffyrdd o wneud hynny yn golygu newid cyfanswm y seddau a gallai hynny amharu ar Pwyllgorau oedd eisoes wedi'u sefydlu. Agwedd gychwynnol y swyddogion tuag at y mater felly oedd ymchwilio i'r posibilrwydd o gael nifer wahanol o seddau ar y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - nifer na fyddai'n cael effaith ar gydbwysedd gyfredol Pwyllgorau eraill ac a fyddai'n cydnabod y gallai'r Cyngor ddewis gweithredu mewn modd oedd yn cael effaith ar y nfieroedd oedd yn gwasanaethu ar y Pwyllgorau eraill. |
|
|
|
Ysgrifennwyd at Arweinyddion Grwpiau ar 30 Ionawr yn nodi'r pedwar prif ddewis, sef :- |
|
|
|
.1 Gwneud dim h.y. glynu wrth bethau fel y maent; |
|
|
|
.2 Newid nifer yr aelodau o 18 i 14 - Byddai hynny yn golygu gostyngiad yng nghyfanswm y seddau a bod aelodau unigol yn colli seddau ar y Pwyllgor hwn ond ni fyddai'n cael effaith ar aelodaeth Pwyllgorau eraill; |
|
|
|
.3 Newid nifer yr aelodau o 18 i 5 - Byddai hynny'n golygu gostyngiad yng nghyfanswm y seddau a bod aelodau unigol yn colli seddau ar y Pwyllgor hwn ond eto ni fyddai'n cael effaith ar aelodaeth Pwyllgorau eraill. |
|
|
|
.4 Mabwysiadu dull arall, i'w awgrymu, ar yr amod ei fod yn cydymffurfio gyda'r gofynion cyfreithiol. |
|
|
|
Byddai'r opsiwn cyntaf yn golygu glynu wrth bethau fel y maent ar bob Pwyllgor. Byddai'r ail a'r trydydd opsiwn yn cadw pethau fel y maent ar yr holl Pwyllgorau ac eithrio'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ond yn gostwng cyfanswm y seddau. Byddai mabwysiadu'r pedwerydd opsiwn yn golygu y byddai'n rhaid gwneud mwy o waith ymchwil er mwyn darganfod a fyddai'r hyn a awgrymir yn cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a byddai raid cyflwyno adroddiad arall i'r Cyngor i'w ystyried. |
|
|
|
PENDERFYNWYD glynu wrth bethau fel y maent a chael Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ac arno 18 o seddi gan dderbyn mai uchafswm o 17 fydd yn cael eu llenwi mewn cyfarfodydd. |
|
|
|
Daeth y cyfarfod i ben am 5.00 p.m. |
|
|
|
Cynghorydd R. L. Owen |
|
Cadeirydd |