Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 4 Mawrth 2004

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 4ydd Mawrth, 2004

Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ebrill 2003

 

YN BRESENNOL:          Y Cynghorydd R L Owen (Cadeirydd)

 

               Councillor Mrs B Burns (Is-Gadeirydd)

 

               Y Cynghorwyr J Byast, W J Chorlton, J M Davies, E G Davies,           J Arwel Edwards, D D Evans,  C Ll Everett, P M Fowlie,

Fflur Mai Hughes, D R Hughes, R Ll Hughes, W I Hughes,               R Ll Jones, Rhian Medi, R G Parry OBE, G Allan Roberts,                G Winston Roberts OBE, Gwyn Roberts, J Arwel Roberts,           John Roberts, W T Roberts, J Rowlands, E Schofield,                      H W Thomas, Keith Thomas, John Williams, W J Williams

 

WRTH LAW:               Rheolwr-gyfarwyddwr

               Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

               Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd)

               Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai & Gwasanaethau Cymdeithasol)

               Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (Swyddog Monitro)

               J Huw Jones, Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

               Meirion Jones (Cyfreithiwr)

               Swyddog Cyfathrebu

               Rheolwr y Gwasanaeth Pwyllgorau

 

YMDDIHEURIADAU:

     Y Cynghorwyr K Evans, T Ll Hughes, DR J B Hughes, G O Jones,    H E Jones, O G Jones, R Jones OBE, R J Jones, W Emyr Jones,    G O Parry MBE, G Alun Williams

 

 

1.

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb ariannol uniongyrchol gan bob un o'r Aelodau a benodwyd i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith a gadawodd pob un ohonynt yn unigol pan bleidleisiwyd i'w penodi i'w swyddi.

 

2.

TREFNIADAU GWLEIDYDDOL YN Y CYNGOR

 

Cyflwynwyd - Adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr-Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro.

 

Dywedodd y Rheolwr-Gyfarwyddwr - Dan Reoliad 8 Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Personol) 1990 ( a wnaed dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989), ei fod wedi cael rhybudd bod 23 o aelodau'r Cyngor wedi ffurfio Grwp gwleidyddol newydd yn dwyn y teitl "Y Glymblaid Newydd".  At hyn, rhoddwyd gwybod iddo mai'r Cynghorydd Robert Griffith Parry OBE oedd Arweinydd y Grwp a'r Cynghorydd W J Chorlton ei Ddirprwy Arweinydd.

 

Yn sgil hyn, roedd y Rheolwr-Gyfarwyddwr hefyd wedi cael cais i adolygu'r trefniadau gwleidyddol.

 

Roedd y ddau ddatblygiad hyn yn ddigon i'r Swyddog  Monitro ofyn i'r Rheolwr- Gyfarwyddwr alw'r cyfarfod anghyffredin hwn o'r Cyngor Sir.

 

Er bod Erthygl 7 y Cyfansoddiad yn rhagweld mai Arweinydd a Dirprwy Arweinydd grwp mwyafrifol fydd Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor Sir yn otomatig, mynnai Adran 11 (3) Deddf Llywodraeth Leol 2000 bod raid i Arweinydd y Cyngor (er na chrybwyllwyd y Dirprwy Arweinydd) gael ei ethol gan y Cyngor.  Fel prif ddeddfwriaeth rhaid i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 gymryd blaenoriaeth ar y darpariaethau Cyfansoddiadol pryd bynnag y ceir anghysondeb.

 

PENDERFYNWYD:-

 

2.1     Nodi'r trefniadau gwleidyddol newydd

 

2.2     Ethol yn ffurfiol y Cynghorydd Bob Parry OBE yn Arweinydd y Cyngor

 

 

2.3     Nodi'n ffurfiol bod y Cynghorydd W J Chorlton, fel y Dirprwy                arweinydd a ddewisiwyd gan y grwp mwyafrifol, rwan yn dod yn           Ddirprwy Arweinydd y Cyngor

 

 

 

3

AELODAU'R PWYLLGOR GWAITH

 

 

 

Enwodd Arweinydd y Cyngor yr isod fel yr aelodau yr oedd wedi'u dewis i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio a phenderfynodd y Cyngor gymeradwyo pob penodiad:-

 

 

 

Bob Parry OBE               Arweinydd y Cyngor, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ac Aelod Portffolio tros yr Amgylchedd

 

 

 

W J Chorlton                    Dirprwy Arweinydd y Cyngor, Aelod Portffolio Tros Dai a Chynhwysiad Cymdeithasol

 

 

 

D R Hughes                    Aelod Portffolio tros Hamdden a'r Celfyddydau

 

 

 

E G Davies                    Aelod Portffolio tros Addysg

 

 

 

R Llewelyn Jones               Aelod Portffolio tros Adnoddau'r Cyngor

 

 

 

Rhian Medi                    Aelod Portffolio tros Gymunedau Iach a Diogel

 

      

 

G Winston Roberts OBE          Aelod Portffolio tros Ddatblygu Economaidd a                                    Chynllunio

 

 

 

Elwyn Schofield               Aelod Portffolio tros Adnoddau Dynol , Eiddo                                    a materion Arforol

 

 

 

Keith Thomas                    Aelod Portffolio tros Briffyrdd, Trafnidiaeth a                                    Chamerâu Goruchwylio

 

 

 

Achubodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r Cyngor am yr anrhydedd o gael ei ethol yn Arweinydd arno a mynegodd bob ffydd yng  ngallu a phrofiad ei gyd-Aelodau ar y Pwyllgor Gwaith.  Edrychodd ymlaen at weithio'n agos gyda nhw a staff ymroddgar y Cyngor Sir.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 9.15 am

 

 

 

Y CYNGHORYDD R L OWEN

 

CADEIRYDD