Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 4 Mawrth 2010

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 4ydd Mawrth, 2010

CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2010

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd O. Glyn Jones - (Cadeirydd)

Y Cynghorydd Selwyn Williams (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr W.J.Chorlton; E.G.Davies; Lewis Davies;

Barrie Durkin; Jim Evans; Keith Evans; T.LL.Hughes;;

Fflur M.Hughes; K.P.Hughes; R.Ll.Hughes; W.T.Hughes;

W.I.Hughes; Eric Jones. G.O.Jones; H.Eifion Jones; R.Jones;

R.Dylan Jones; R.Ll.Jones; T.H.Jones; A.Morris Jones; C.McGregor; Rhian Medi; Bryan Owen; J.V.Owen; R.L.Owen; R.G.Parry OBE; G.O.Parry MBE; Eric Roberts; G.W.Roberts OBE; P.S.Rogers;Hefin W.Thomas; Ieuan Williams; J.Penri Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

Swyddog y Wasg

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr C.Ll.Everett, P.M.Fowlie, J.Arwel Roberts, E.Schofield.

 

 

 

 

 

 

            Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi a offrymwyd gan y Cynghorydd K.P. Hughes

 

1

COFNODION

      

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir ar y dyddiadau a ganlyn:-

 

Ÿ

10 Rhagfyr, 2009

Ÿ

20 Ionawr, 2010 (Arbennig) (Ymweliadau â Safleoedd)

Ÿ

21 Ionawr, 2010 (Arbennig)

 

Yn codi -

Eitem 3. Cais Cynllunio Rhif 19C599X/ECON, Siop Tesco , Caergybi

 

Roedd y Cynghorydd Raymond Jones yn dymuno nodi iddo ddweud bod gostyngiad wedi digwydd dros y pedwar mis diwethaf yn lefel y traffig trwm ar Ffordd Llundain, Caergybi, nid dros y blynyddoedd diwethaf fel a nodwyd yn y cofnodion.

 

 

 

 

 

2   DATGAN DIDDORDEB

 

 

 

Ni chafwyd yr un datganiad.

 

 

 

3   DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU O’R

 

    PWYLLGOR GWAITH NEU’R PENNAETH GWASANAETH TÂL

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd groeso cynnes yn ôl i’r Cynghorydd Peter Rogers ar ôl ei gyfnod diweddar yn yr ysbyty.

 

 

 

Llongyfarchwyd y Cynghorydd J.V. Owen a’i wraig Beryl ar ddathlu 44 blynedd o fywyd priodasol yfory.

 

 

 

Ar ran y Cadeirydd, cydymdeimlodd y Cynghorydd G.O. Jones gyda theulu’r diweddar Alan E.Pritchard, Caergybi a fu gynt yn Aelod o’r Awdurdod hwn.

 

 

 

Achubodd y Cadeirydd ar y cyfle i gydymdeimlo gydag unrhyw aelod neu gydag unrhyw un o’r staff a gafodd brofedigaeth yn y cyfnod hwn.  Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch.

 

 

 

                         ---------------------------------------

 

 

 

Cyhoeddodd y Cadeirydd bod Eitem 18 ar raglen heddiw (Adnewyddu Cartrefi Preswyl) wedi’i thynnu’n ôl gan fod raid cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith ar y Gwaith Adnewyddu arfaethedig ym Mhlas Pen-lan.

 

 

 

                         ---------------------------------------

 

 

 

     Roedd y Cynghorydd G.W.Roberts, OBE yn dymuno cyflwyno’r datganiad a ganlyn i’r Cyngor:-

 

 

 

     “I think with what is going on in the County Council at the moment, we are working towards

 

     improving the Council. It has been drawn to my attention that the Chairman of the Principal                Scrutiny Committee, I don’t have the date, had felt offended by my wording, when I did ask him in      the debate, the use of the letters P.P. and also I had in my possession the magazine Golwg and I      believe that has offended the Chair of Scrutiny on the day. Therefore, I apologise for that.”

 

 

 

                         ---------------------------------------

 

 

 

     Roedd y Cynghorydd W.J.Chorlton, yn dymuno cyflwyno’r datganiad a ganlyn i’r Cyngor:-

 

 

 

     “I also understand from the Leader of the Council that in the meeting some 2-3 weeks ago that I           made comments that offended one or two Councillors and I believe that Councillor Richard                Owen was one of them. Can I assure the Authority that there was no intention on my part to                offend, insult or anything else. I was trying to be informative and trying to keep my colleagues in          the      know. I have been quoted as using certain words. I refute those words. I did make a                comment, I openly admit it. I apologise to those members I have offended and I do that because i      want to see this Council move forward. I want us to have a better Council, a more open Council,           a more inclusive Council and therefore I have no problem whatsoever in retracting that and                assuring  this Authority of my intention to work towards a better Authority and to work in harmony      with my colleagues.”

 

 

 

                         --------------------------------------

 

Yng nghyswllt trefniadau’r dyfodol roedd y Cadeirydd yn dymuno dweud bod modd i unrhyw aelod a ddymunai gyflwyno ymddiheuriad trwy gyfrwng datganiad wneud hynny trwy gyflwyno rhybudd ymlaen llaw i’r Cadeirydd.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd R.L. Owen ei fod yn derbyn yr ymddiheuriad gan y Cynghorydd Chorlton.

 

 

 

                         --------------------------------------

 

 

 

     Cafwyd y datganiad a ganlyn gan Arweinydd y Cyngor:-

 

 

 

“Fel y mwyafrif ohonoch, fe eisteddais i drwy’r cyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir wythnos diwethaf pryd y bu i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ein atgoffa ni, yn gryf iawn, ein bod ni yn gadael trigolion Ynys Môn i lawr drwy gamymddwyn.  Mae’n annymunol i’r mwyafrif orfod derbyn y fath feirniadaeth gan eu bod nhw wedi eu hymrwymo i arwain y Cyngor ymlaen.  Yn dilyn yr Etholiad diwethaf, roedd 14 o wynebau newydd wedi eu hethol ar y Cyngor Sir, mae’n annheg ar y mwyafrif o’r rheini i orfod cario stigma o gamymddwyn dro ar ol tro ymysg ein aelodau etholedig.  Mae rhai yn ein mysg fodd bynnag i’w gweld o’r farn mai drwy ymddygiad gwrthwynebus a heriol y dylai Cynghorwyr ymddwyn ac nad oes gan Llwodraeth Cynulliad Cymru unrhyw hawliau cyfreithiol i ddweud wrthym ni sut i ymddwyn.  Peidiwch â chamgymeryd am funud, os nad yw’r neges yn glir i ni i gyd erbyn hyn, yna dydan ni ddim yn haeddu bod yma.

 

 

 

Pan apwyntiwyd fi yn Arweinydd y Cyngor Sir ym mis Mai 2009, fe addewais y byddwn yn cydweithio gyda pawb i geisio gwneud y Cyngor yma un un cynwysedig.  Tra’n bod ni wedi cael ein gwahaniaethau ar hyd y ffordd, ar y cyfan, mae cynnydd wedi ei wneud ond gydag un neu ddau o eithriadau amlwg.  Byddwch yn ymwybodol mod i wedi diswyddo dau aelod o’m grwp am yr hyn, yn fy marn i oedd yn ymddygiad a oedd yn dod â gwarth ar y Cyngor.  Gyd Arweinyddion Grwpiau, rwyf wedi dangos drwy weithredu, fy mod i am weld Cyngor tryloyw ac un sy’n addas i bwrpas.  Rwy’n sicr eich bod yn rhannu fy nyheadau i wneud y Cyngor yma un un rhagorol.

 

 

 

Am gyfnod llawer rhy hir, mae’r Cyngor yma wedi ei amgylchynu gyda materion yn ymwneud â phersonoliaethau sydd, yn wir, yn mynd yn ôl i ddyddiau’r cyn Gyngor Bwrdeistref.  Roedd dull ymddwyn Cynghorwyr pryd hynny yn llawer iawn gwahanol i’r hyn sydd i’w ddisgwyl gan gynghorwyr heddiw.  Mae gwarth diweddar gan aelodau seneddol wedi gwneud i’r dyn yn y stryd ystyried gwleidyddion yn ddifrifol iawn.  Mae’n stoc ni yn isel iawn ac os byddwn yn parhau i ymgecru a ffraeo byddwn yn talu’r gost yn yr etholiad nesaf, ond yn achos Ynys Môn, gyda’r Bwrdd Adfer yn edrych arnom ac yn monitro ein hymddygiad, bydd unrhyw fethiant i wella ein ymddygiad yn arwain at ein holl bwerau yn cael eu cymryd oddi arnom ni.  Byddwn felly wedi sgorio gôl eithriadol i’n rhwyd ein hunain ac fe fydd ganddom ni neb i’w beio ond ni ein hunain.  Mae’n bryd i ni wynebu’r sefyllfa o ddifrif a symud y Cyngor ymlaen.  Os oes unrhyw un yma ddim am wneud hynny, allai ond dweud am i chi adael y Cyngor, cynhaliwch is-etholiad a gadael i’r cyhoedd benderfynu ar eu cynrychiolydd.  Rydan ni yma i gynrychioli’r cyhoedd, ar sail y ward leol ond hefyd ar sail yr Ynys, mae angen i ni fod yn dryloyw yn y modd rydan ni yn ymddwyn, a gweithio o fewn Cyfansoddiad y Cyngor Sir ac o dan lygaid barcud y wasg a’r cyfryngau.

 

 

 

Mae enghreifftiau diweddar wedi bod ble mae rhai aelodau yn ymddangos i fod â’u bys ar y botwm hunan ddinistriol, er enghraifft, y Cynghorydd Barrie Durkin.  Wedi iddo godi materion dilys gyda Mr David Bowles, roedd o’n anfodlon ar ganlyniad yr ymchwiliad a ddilynodd ei gwyn, ac fe ddosbarthodd i chi aelodau, lythyr sydd, yn fy marn i, yn enllibus.  Allwn ni ddim esgusodi na chefnogi y fath weithred ac fe gefais ei wared o’m grwp.  Bu i’r Cynghorydd Schofield, mewn cyfarfod o’r Prif Bwyllgor Sgriwtini, ddiystyru cytundeb roeddwn i wedi ei wneud gydag arweinyddion y gwrthbleidiau mewn perthynas â rôl y Gadair Sgriwtini.  Rwy’n derbyn fod y cyfansoddiad yn dweud mai’r Pwyllgor sydd i benderfynu ar ei Gadeirydd ac Is-Gadeirydd, a thra bod y gadair wedi ei chynnig i aelod o’r wrthblaid ac wedi ei gwrthod gan yr aelod hwnnw - fe aeth y Cynghorydd Schofield yn ei flaen i gynnig aelod o’r grwp mwyafrifol serch fod enw priodol o’r wrthbalid wedi ei gynnig a’i eilio.  Cymerodd hyn le o flaen cynrychiolydd o’r WLGA a oedd yma i helpu’r Cyngor ddatblygu eu trefniadau Sgriwtini.  Mae Tystiolaeth hefyd fod yr hyn a ddigwyddodd wedi ei drefnu o flaen llaw gan fod cyfeiriad wedi ei wneud i aelod arall o’r grwp rheoli dderbyn y gadair, hynny ddyddiau cyn y cyfarfod.  Wedi gwrando ar beth oedd gan y Gweinidog i’w ddweud, doedd gen i ddim dewis felly ond i’w ddiarddel o’r grwp am danseilio fy hygrydedd a’m awdurdod.

 

 

 

Rydan ni i gyd fel arweinyddion grwpiau wedi dangos ein bwriad i symud yr awdurdod ymlaen, gadewch i ni wneud hynny.  Duw a wyr mae na nifer helaeth o faterion allanol dwys sydd yn creu pryder i ni ac fe ddylai ymddygiad o safon uchel fod yn ddiamheuol.”

 

 

 

 

 

Mewn ymateb dyma ddywedodd y Cynghorydd B. Durkin: “I think it is absolutely outrageous to mention Elwyn Schofield whilst he was not here today. He has no chance of answering that back. Having been encouraged and supported and even led down certain paths to take the action that I have taken, in attempting to bring this Council on, I find it quite bewildering to say the least that I have now been excluded from the Ruling Group for doing just that, for doing what the Leader encouraged me to do, for doing what the Leader wanted me to do, as with others. So be it. They don’t want me in the Group and that is fine. It would have been a lot better if the ‘whip’ had not been on, but there we go.

 

 

 

I was very encouraged with what the Minister had to say. He said ‘it is vital that the first step in resolving problems is by acknowledging that they exist.’ It is a pity that these issues have not been acknowledged, because if you ask a question and you get an answer and you know that answer to be right, end of story. There is nothing else to be said. But when you were told something that you know very well is not true, it leaves it open to scrutiny and scrutinise it we should. Our electorate out there would want to know why we weren’t scrutinising things that were not right. So I suggest that we should adhere to that, acknowledge that there is something wrong in the first place and I believe that we would not be discussing this issue here today and there wouldn’t be the acrimony and the problems which we’ve got now, had that taken place a long time ago. I’ll take no lessons or apologise to anybody for doing what is right on behalf of my constituents and the people of Anglesey.

 

 

 

If whoever it is, wishes to continue failing to acknowledge wrong-doings and other things in this Council, we are going nowhere, no matter how much we want to try, no matter how much we try, you will go nowhere, unfortunately.”

 

 

 

4     LLYTHYR BLYNYDDOL RHEOLWR CYDBERTHYNAS 2008/09

 

 

 

Cyflwynwyd - Cyflwyniad gan y Reolwr Cydberthynas, Swyddfa Archwilio Cymru ar Lythyr Blynyddol 2008/09.

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd groeso cynnes i Mr. Alan Morris (y Rheolwr Cydberthynas) ac i Ms. Lynn Hine o Pricewaterhouse Coopers.

 

 

 

Cyflwynwyd - cyflwyniad gan y Rheolwr Cydberthynas, Swyddfa Archwilio Cymru ar Lythyr Blynyddol 2008/09 yn nodi negeseuon allweddol yn codi o’r gwaith a wnaed dros y deuddeng mis diwethaf ac yn cynnwys crynodeb o’r gwaith archwilio ac arolwg a chyflwyno adroddiad ar y cynnydd yn erbyn camau gwella.  Roedd yn seiliedig ar adroddiadau cyhoeddedig gan archwilwyr eraill yn rhoi crynodeb blynyddol o gasgliadau a chanfyddiadau yng nghyswllt y Cyngor.

 

 

 

Cyflwynwyd y Llythyr Blynyddol hwn i’r Pwyllgor Archwilio ar 14 Ionawr, 2010, i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Ionawr ac i’r holl aelodau yn Rhagfyr, 2009 gan y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro.

 

 

 

Roedd Archwiliwr Penodedig yr Archwiliwr Cyffredinol wedi cwblhau gwaith archwilio ar y cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a chan gydymffurfio hefyd gyda’r Cod ac wedi dod i’r casgliadau a ganlyn :-

 

 

 

Ÿ

Mae’r Cyngor wedi cydymffurfio â’r holl ofynion adrodd cyllidol ac ynghylch gwella perfformiad, ond mae’r 12 mis nesaf yn allweddol i’r Cyngor wella ei drefniadau ar gyfer sicrhau economi, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yn ei ddefnydd o adnoddau

 

Ÿ

Roedd gan y Cyngor drefniadau addas ar gyfer gweinyddu ac adrodd ynghylch materion ariannol ond nid oedd ganddo drefniadau addas ar gyfer sicrhau gwerth am arian yn ei ddefnydd o adnoddau yn 2008-09

 

Ÿ

Paratowyd Datganiad Cyfrifon 2008-09 yn unol â’r gofynion statudol a darparant ddarlun teg o sefyllfa ariannol a thrafodion y Cyngor

 

Ÿ

Nid oedd gan y Cyngor drefniadau addas yn eu lle ar gyfer gwireddu economi, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yn ei ddefnydd o adnoddau yn ystod 2008-09

 

Ÿ

Mae Cynllun Gwella’r Cyngor 2009-10 yn cyflawni’r gofynion statudol ac yn darparu darlun cytbwys o’i berfformiad yn 2008-09 ond dengys y data fod ei berfformiad yn erbyn targedau wedi dirywio rhyw gymaint

 

 

 

Daeth y Rheolwr Cydberthynas i’r casgliad:-

 

 

 

Ÿ

Bod adolygiadau o wasanaethau a threfniadau corfforaethol yn dangos bod angen i’r Cyngor fynd i’r afael â nifer o wendidau sylweddol a’i fod â hanes gwael o ymateb i argymhellion rheoleiddwyr allanol

 

Ÿ

Mae hanes hir y Cyngor o beidio â chael ei redeg yn briodol wedi cael effaith andwyol arno o ran cyflawni ei swyddogaethau ac yn ei adael mewn sefyllfa wan i wynebu heriau’r dyfodol

 

Ÿ

Mae’r Cyngor yn cydnabod fod cryn le i wella yn ei drefniadau rheoli asedau ond mae cynnydd yn dechrau cael ei weld

 

Ÿ

Mae’r Cyngor wedi gwneud cynydd cyfyngedig wrth wireddu nifer o argymhellion a wnaed yn y gorffennol ond mae’n cryfhau ei drefniadau ar gyfer monitro’r ymateb i adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru

 

Ÿ

Mae adolygiadau a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi dynodi nifer o feysydd sydd o gonsýrn.

 

 

 

Dygodd y Rheolwr Cydberthynas sylw’r Cyngor at fframwaith newydd i’r Mesur Llywodraeth Leol - fframwaith a oedd wedi newid cyd-destun yr archwiliad perfformiad a’r gwaith archwilio.

 

 

 

Wedyn rhoddwyd i’r Aelodau y cyfle i ofyn cwestiynau ar y llythyr blynyddol.

 

 

 

Diolchodd yr Arweinydd i gynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru ac i PWC am fynychu heddiw a dymunodd yn dda i Mr. Alan Morris yn ei swydd newydd gan ddiolch iddo am ei gymorth ac am ei arweiniad i’r Awdurdod dros y blynyddoedd.

 

 

 

 

 

5   CWESTIWN A DDERBYNIWYD DAN REOL 4.1.12.4.

 

 

 

     Cyflwynwyd y cwestiwn a ganlyn gan y Cynghorydd R.Ll. Jones i Arweinydd y Cyngor:-

 

      

 

     “Deallaf bod prydles y Cyngor hwn ar y Grîn yn Ardal Gadwraeth Newry yn dod i ben yn Rhagfyr, 2025.  Oherwydd hanes maith y Grîn i bobl Caergybi, pa gamau cyfreithiol y mae modd eu cymryd i sicrhau bod y lle yn aros yn dir agored ac yn fan canolog i ddigwyddiadau lleol er mwyn holl breswylwyr Caergybi ac Ynys Môn?

 

      

 

     Hoffwn petai ein Hadran Gyfreithiol yn cael golwg ar delerau’r brydles a chyflwyno i’r Cyngor, cyn gynted ag y bo’n bosib, adroddiad yn nodi beth yw’r posibiliadau.”

 

                

 

     Mewn ymateb dywedodd Arweinydd y Cyngor fel a ganlyn:- “Mae’r Grîn yn Nhraeth y Newry wedi’i phrydlesu i’r Cyngor gan Stena a daw i ben, fel y dywed y cwestiwn, yn  2025. Petai Stena â bwriad gwirioneddol i ddatblygu’r ardal mae modd i’r cwmni feddiannau’r lle dan Adran 30 Deddf 1954.  Mae cyfamod yn y brydles yn nodi y bydd y tir yn cael ei ddefnyddio fel llecyn agored yn unig er mwyn pleser y cyhoedd.  Yr ateb syml i’r cwestiwn yw bod y brydles bresennol os ydyw’n aros gyda’r Cyngor, a chyda’r cyfamodau sydd ynddi, yn dweud yn glir y bydd y defnydd hwnnw’n cael ei ddiogelu.  Fodd bynnag, cymeraf yn ganiataol bod y Cynghorydd am ddiogelu’r Grîn yn erbyn unrhyw fwriad i’w datblygu i bwrpas codi tai fel rhan o unrhyw gynigion i ddarparu marina.  O ran adfywio efallai y bydd y Cyngor yn dymuno hyrwyddo cynigion o’r fath ac felly o bosib yn dymuno diwygio’r cyfamodau neu roddi’r brydles yn ôl i Stena.

 

      

 

     Galla’r ateb i’r cwestiwn ddatgan yn syml  - yn y brydles a roddwyd gan Stena mae diogelwch cyfreithiol i’r defnydd o’r tir fel lle agored er mwyn pleser y cyhoedd ac mae yn y brydles hon gyfnod o 15 mlynedd i fynd eto.  Ni fedraf weld bod unrhyw fanteision ar hyn o bryd mewn edrych ar faterion ynghylch y brydles.”

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd R.L.l. Jones bod: “Grîn Caergybi yn debyg i Grîn Biwmares a hoffai pobl Caergybi weld y Grîn yn dod yn Grîn i’r Dref ac yn aros am byth dan ofal y preswylwyr lleol.  Mae’n rhaid i ni edrych ar ffyrdd o gychwyn rhyw broses i sicrhau bod y Grîn hon yn tyfu i fod yn rhan o dreftadaeth Caergybi yn y dyfodol. ”

 

      

 

     Ailadroddodd yr Arweinydd amodau’r brydles i’r Cynghorydd Jones.

 

 

 

6   CYFLWYNO DEISEBAU

 

 

 

     Ni chafwyd yr un ddeiseb dan Baragraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

 

 

 

7   DATBLYGU BLAENORIAETHAU TYMOR CANOLIG Y CYNGOR

 

 

 

     Dywedwyd - I’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror 2010, benderfynu argymell i’r Cyngor Sir:-

 

 

 

 

 

Ÿ

Derbyn y Blaenoriaethau Strategol a nodir yn y ddogfen ymgynghori, yn amodol ar y diwygiadau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Gwaith ar 16 Chwefror 2010, mewn ymateb i'r ymgynghori.

 

 

 

Ÿ

Nodi'r sylwadau a gafwyd ynghylch strategaeth ariannol tymor canol y Cyngor a chynigion cyllidebol ar gyfer 2010/11 yng nghyd-destun adroddiad ar wahân i'r Pwyllgor hwn gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro ar flaenoriaethau’r Cyngor yn sgil trafodaethau’r Pwyllgor Gwaith ar 16 Chwefror, 2010.

 

      

 

     Adroddwyd gan yr Arweinydd - Un o’r meysydd allweddol y dygwyd sylw atynt yn yr Arolygiad Llywodraethu Corfforaethol oedd yr angen i’r Cyngor ganolbwyntio llawer iawn mwy ar gynllunio strategol a phennu ei flaenoriaethau a’i gyfeiriad strategol.  Caiff hyn ei gynnwys yn (Argymhelliad 1) yr adroddiad.  Yn gysylltiedig â hyn roedd angen canolbwyntio ar ymgysylltu gyda’r gymuned a dygir sylw at hyn hefyd yn yr adroddiad.

 

      

 

     Yn amodol ar benderfyniad y Cyngor, mae hwn yn awr yn gosod fframwaith strategol cyffredinol ar gyfer cynlluniau busnes a gofynion gweithredol yr Awdurdod. Mae gwaith ar y gweill yn awr i baratoi cynlluniau busnes i gefnogi’r blaenoriaethau strategol hyn erbyn diwedd Mawrth, 2010 ar Gynllun Gwella Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2010/11.

 

      

 

     PENDERFYNWYD mabwysiadu argymhellion y Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt y blaenoriaethau strategol yn yr atodiad ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

      

 

8

STRATEGAETH GYLLIDEBOL TYMOR CANOLIG, Y GYLLIDEB, Y DRETH GYNGOR, RHEOLI’R TRYSORLYS A DANGOSYDDION PWYLLOG 2010/11

 

 

 

8.1     Cyflwynwyd gan y Deilydd Portffolio Cyllid, y Cynghorydd Tom Jones - Gynigion y Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt strategaeth gyllidebol refeniw tymor canolig, cynllun cyfalaf amodol a chyllidebau refeniw a chyfalaf 2010/11.

 

      

 

     Nodwyd - bod cynigion cyllidebol terfynol y Pwyllgor Gwaith wedi’u cyflwyno fel a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

     Atodiad D o’r rhaglen - Strategaeth Cyllideb Refeniw Tymor Canolig 2010-13. Mabwysiedir y strategaeth hon gan Gyngor Sir Ynys Môn er mwyn cefnogi ei flaenoriaethau strategol ac fel cyfarwyddyd ar gyfer cynllunio gwasanaeth.  Mae ymgynghori cyhoeddus a gyda chydranddeiliaid ar y blaenoriaethau strategol a’r strategaeth gyllidol tymor canolig wedi bwydo i mewn i’r gwaith o ddatblygu’r strategaeth hon.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cyflwynwyd fersiwn ddiwygiedig o’r tabl ar Dudalen 4 yr adroddiad.  i bwrpas sicrhau cysondeb gyda chynigion terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Treth Gyngor 2010-11.

 

 

 

Ÿ

Tabl A - Cyllideb Refeniw 2010-11

 

Ÿ

Tabl B - Cynllun Cyfalaf a naratif

 

Ÿ

Tabl C - Cyllideb Gyfalaf 2010-11

 

 

 

     Yn adroddiad y Deilydd Portffolio cyflwynwyd y manylion a ganlyn o ran anghenion Rheolau Gweithdrefn y Gyllideb:-

 

      

 

Ÿ

os ydyw’r Cyngor wedi mabwysiadu strategaeth gyllidebol a ydyw’r gyllideb flynyddol arfaethedig yn cydymffurfio gyda’r strategaeth honno, a manylion am unrhyw wahaniaethau

 

Ÿ

y Dreth Gyngor arfaethedig am y flwyddyn

 

Ÿ

trosglwyddiadau arfaethedig i’r arian wrth gefn ac ohonynt

 

Ÿ

crynodeb o’r gwariant arfaethedig fesul gwasanaeth

 

Ÿ

manylion am newidiadau sylweddol i gyflenwi gwasanaeth oherwydd y gyllideb

 

Ÿ

i ba raddau y mae’r cynigion yn gwneud lwfans ar gyfer adroddiadau pwyllgorau

 

Ÿ

i ba raddau mae’r cynigion yn gwneud lwfans am waith ymgynghori a wnaed

 

Ÿ

manylion am wahaniaethau sylweddol eraill rhwng y cynigion cychwynnol a’r rhai terfynol

 

Ÿ

cynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer trosglwyddiadau yn ystod y flwyddyn

 

Ÿ

cynigion ar gyfer benthyca

 

Ÿ

unrhyw faterion statudol eraill i’w penderfynu gan y Cyngor llawn.

 

 

 

8.2     Cyflwynwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar y gyllideb.

 

      

 

     Adroddwyd gan y Deilydd Portffolio - i bwrpas mabwysiadu ei gyllideb am 2010-11 a phennu lefel y Dreth Gyngor am y flwyddyn bydd raid i’r Cyngor Sir fabwysiadu penderfyniad ffurfiol sy’n delio’n fanwl gyda’r holl faterion cysylltiedig. Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi argymell cynnydd o  4.5% yn y Dreth Gyngor yn seiliedig ar eiddo Band D o £825.03.

 

      

 

     Wrth iddo ystyried cyllideb arfaethedig y Pwyllgor Gwaith, bydd raid i’r Cyngor, hefyd, ystyried yr adroddiad hwn gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cyllid.  Mae’n delio gyda materion gofynnol dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a’r Côd Pwyllog yng nghyswllt Cyllid Cyfalaf i Awdurdodau Lleol.

 

      

 

     Roedd yr adroddiad gerbron y Cyngor heddiw yn rhoddi sylw i Gadernid yr Amcangyfrifon (Paragraff 2), Digonolrwydd y Cronfeydd Arian wrth Gefn (Paragraff 3) a’r Cod Pwyllog (Paragraff 4).

 

 

 

8.3     Dywedodd y Deilydd Portffolio Cyllid - Bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror,

 

          2010, wedi penderfynu fel a ganlyn ar Strategaeth Rheoli’r Trysorlys :-

 

 

 

Ÿ

Bod y cyfrifoldeb am sicrhau sgriwtini effeithiol o’r strategaeth, polisïau a pherfformiad rheoli trysorlys yn trosglwyddo o’r Pwyllgor Sgriwtini i’r Pwyllgor Archwilio.

 

 

 

Ÿ

Gofyn i’r Cyngor Sir ailgadarnhau’r Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys Diwygiedig (Atodiad 9) a mabwysiadu Côd Ymarfer CIPFA 2009 ar Reoli Trysorlys fel y cafodd ei ddiwygio (Atodiad 10 yr adroddiad).

 

 

 

Ÿ

Gofyn i’r Cyngor Sir gadarnhau’r newidiadau i’r rhestr fenthyciadau a gymeradwywyd.

 

 

 

Ÿ

Gofyn i’r Cyngor Sir gadarnhau’r terfynau yn Atodiad 4 y ddogfen strategaeth i bwrpas y Côd Pwyllog a Chymal 3.1 Deddf Llywodraeth Leol 2003 o 1 Ebrill 2010 ymlaen.

 

 

 

Ÿ

Gofyn i’r Cyngor Sir gymeradwyo’r Strategaeth Rheoli Trysorlys a’r Ddarpariaeth Refeniw Isaf gysylltiedig a Strategaethau Buddsoddi ar gyfer 2010/11.”

 

 

 

Cyflwynwyd - Strategaeth Rheoli’r Trysorlys am 2010/11 fel y cyflwynwyd hi i’r Pwyllgor Gwaith ar 23 Chwefror, 2010.

 

 

 

Cafwyd cynnig, ac eiliwyd y cynnig, bod Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2010-11 yn cael ei derbyn.

 

 

 

 

 

 

 

      

 

 

 

8.4     Ystyriwyd - Y penderfyniad ffurfiol a amgaewyd gydag adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).

 

      

 

8.5     Rhoddwyd sylw i’r newidiadau a ganlyn i’r Gyllideb ar ôl derbyn rhybudd o’r cyfryw newidiadau dan Baragraff 4.3.2.2.6 y Cyfansoddiad.

 

 

 

Ar ran yr Wrthblaid cynigiodd y Cynghorydd H. Eifion Jones y newidiadau a ganlyn i Gyllideb 2010-11 (anelu at gynnydd 3.5% yn y Dreth Gyngor):-

 

 

 

     Newid A

 

 

 

     Newid y gyllideb a gynigiwyd gan y Pwyllgor Gwaith drwy

 

 

 

     1     Newid Tabl A i Tabl A1 ynghlwm

 

     2     Newid y gyllideb trwy wrthdroi’r addasiad o £225k ar gyfer amgáu cyllidebau mân-ddaliadau

 

     3     Haneru’r toriad arfaethedig yng nghyllideb cynnal a chadw ffyrdd

 

     4     Ychwanegu cymal newydd 1 (g) fel a ganlyn

 

 

 

“mabwysiadu cynnydd canllaw o 3% ar gyfer ffioedd a thaliadau dewisol, cadarnhau bod hyn yn dod yn rhan o fframwaith y gyllideb am 2010-11 a gofyn i’r Pwyllgor Gwaith adolygu ei benderfyniad ar ffioedd a thaliadau yng ngoleuni’r canllaw hwn.”

 

      

 

     5     Newid y ffigwr Treth Gyngor Band D arfaethedig i £817.83 a pharagraff 7 ymlaen o                    benderfyniad y gyllideb fel sydd ynghlwm

 

 

 

     Newid B

 

 

 

     Ychwanegu cymal 1(g) [neu 1(ng) os caiff Newid A ei basio] fel a ganlyn

 

      

 

“Y dylai’r Pwyllgor Gwaith ddefnyddio ei bwerau i drosglwyddo arian i adfer y toriadau yn y gyllideb Cynnal a Chadw Ffyrdd o unrhyw danwariant neu arbedion fydd yn dod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn ariannol”

 

 

 

Newid C

 

 

 

Ychwanegu cymal 1(dd)(v) o benderfyniad y gyllideb ddrafft trwy ychwanegu ar y diwedd:-          

 

 

 

“ac sydd wedi bod yn destun ymgynghori cyn hyn gydag Arweinyddion Grwp.”

 

 

 

                         ----------------------------------

 

 

 

     Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd Tom Jones, y Deilydd Portffolio Cyllid, bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon derbyn newidiadau B ac C a gyflwynwyd gan yr Wrthblaid ac sy’n ymddangos uchod ond roedd gwrthwynebiad i Newid A a hynny oherwydd bod gwaith ymgynghori trylwyr eisoes wedi’i wneud ar gyllideb y Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

     Ar ran y Pwyllgor Gwaith cafwyd cynnig i gyflwyno newid arall gan Cynghorydd Tom Jones sef:-

 

 

 

 

 

 

 

“Er mwyn adfer yn rhannol y toriad i’r gyllideb briffyrdd am 2010-11 yn unig, ac oherwydd difrod a achoswyd gan y tywydd mawr yn ddiweddar, cynigiwyd ychwanegu £67k at y gyllideb Priffyrdd.  Diwygio’r gyllideb trwy:-

 

 

 

-     Diwygio tabl A ac ychwanegu £67k at yr arian cynnal a chadw priffyrdd a chreu cyfraniad £67k o’r balansau;

 

 

 

-     Yng nghymal 7 y Penderfyniad ychwanegu £67k at y ffigwr yn (a) ac at y ffigwr yn (b).  

 

      

 

     Gan rai o’r Aelodau oedd yn bresennol cafwyd mynegiant o gefnogaeth i gynigion y Pwyllgor Gwaith a chafwyd sylwadau ar y cynigion hynny ond siaradodd eraill yn erbyn a chan gefnogi’r newidiadau a gyflwynwyd gan yr Wrthblaid.

 

      

 

     Gofynnodd y Cadeirydd am bleidlais ar y mater.

 

      

 

     Methu a wnaeth Newid A o 26 i 10 pleidlais ac felly penderfynwyd derbyn cyllideb y Pwyllgor Gwaith ar gyfer 2010/11 (fel y cafodd ei diwygio yn y cyfarfod), a chan gynnwys Newidiadau B ac C a gynigiwyd gan yr Wrthblaid.

 

 

 

1.     PENDERFYNWYD

 

 

 

(a)     Yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Gwaith i fabwysiadu’r Strategaeth Cyllideb Refeniw Tymor Canolig, fel Strategaeth Cyllideb oddi mewn i ystyr a roddir yn y Cyfansoddiad, ac i gadarnhau y daw’n rhan o’r fframwaith gyllidebol gyda’r eithriad o’r ffigyrau a ddisgrifir fel rhai cyfredol.

 

 

 

(b)     Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith i fabwysiadu cyllideb refeniw 2010/11 fel y gwelir honno yn Nhabl A.

 

 

 

(c)     Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith i fabwysiadu cynllun cyfalaf dros dro dwy flynedd fel y gwelir hwnnw yn Nhabl B ynghyd â’r naratif.

 

 

 

(ch)     Mabwysiadu cyllideb gyfalaf 2010/11 gydag ymrwymiadau ymlaen i’r blynyddoedd dilynnol fel y gwelir hwnnw yn Nhabl C.

 

 

 

(d)     I ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) y pwer i wneud addasiadau rhwng penawdau yn Nhabl A er mwyn rhoi effaith i benderfyniad y Cyngor ar ailstrwythuro adran y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

 

 

(dd)     Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) y pwer, ym mlwyddyn ariannol 2010/11 y pwerau i drosglwyddo cyllidebau rhwng penawdau fel a ganlyn:-

 

 

 

     (i)     pwerau dilyffethair i wario pob pennawd cyllidebol unigol yn Nhabl A yn erbyn pob gwasanaeth unigol ac eithrio ysgolion, ar y gwasanaeth perthnasol;

 

 

 

     (ii)     uchafswm sero ar drosglwyddiadau rhwng gwasanaethau yn Nhabl A;

 

 

 

     (iii)     pwerau i drosglwyddo o’r Arian Wrth Gefn Cyffredinol;

 

 

 

     (iv)     pwerau i drosglwyddo o’r gyllideb wrth gefn Perfformaid i bwrpas gwella perfformaid ac i roddi sylw i’r risgiau uchel a nodir yn y Cynllun Gwella ac i weithredu ar gytundebau gwella ac i ddarparu systemau fydd yn moderneiddio’r awdurdod ac yn hwyluso y proses o reoli perfformiad.

 

 

 

     (v)     pwerau i drosglwyddo o’r gyllideb ar gyfer Cryfhau Capasiti ar gyfer cynigion, yn cynnwys ymrwymiadau dro ar ôl tro, sy’n ymateb i argymhellion adroddiad yr Archwiliad Llywodraethu Corfforaethol neu sy’n darparu adnoddau i weithredu prosiectau o’r Cynllun Blaenoriaethau Fforddiadwy, ac sydd wedi ymgynghori arnynt gyda arweinyddion y grwpiau.

 

 

 

     (vi)     y pwer i drosglwyddo o’r Arian Wrth Gefn Gwella Hamdden i bwrpas cefnogi cynigion fydd yn cynnal neu wella’r asedion yn y gwasanaeth hamdden neu yn gwella’r cyfleusterau chwaraeon strategol.

 

 

 

          (vii)     pwerau i drosglwyddo o ffynonellau newydd neu gynyddol o incwm.

 

 

 

(e)     Am y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2013, dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith y pwerau a ganlyn:-

 

 

 

     (i)     pwerau i wneud ymrwymiadau newydd o gyllidebau refeniw blynyddoedd y dyfodol hyd at  y symiau a nodir ar gyfer blaenoriaethau newydd yn y Strategaeth Cyllideb Refeniw Tymor Canolig;

 

 

 

     (ii)     y pwerau a’r ddyletswydd i baratoi cynlluniau i gyflawni arbedion refeniw cyllidebol fel a awgrymir yn y Strategaeth Cyllideb Refeniw Tymor Canolig;

 

 

 

     (iii)     y pwer o leihau cyllidebau gwasanaeth yn Nhabl A i’r raddau byddai’r arbedion o’r Rhaglen Blaenoriaethau Fforddiadwy, ond heb eu adlewyrchu yng nghynlluniau cyllidebol ym Mawrth 2010, yn cael eu cyflawni yn ystod 2010/11;

 

 

 

     (iv)     y pwer i ryddhau £0.6m pellach o’r balansau cyffredinol i gyllido costau unwaith-ac-am-byth a hynny i bwrpas cyflawni arbedion yn y dyfodol;

 

 

 

     (v)     pwerau i drosglwyddo cyllidebau rhwng  prosiectau cyfalaf yn Nhabl C ac ymrwymo adnoddau yn y blynyddoedd dilynnol tu mewn i’r symiau a nodir yn y cynllun cyfalaf yn Nhabl B a chan gydymffurfio gyda’r fframwaith cyllidebol.

 

 

 

(f)     pennu'r dangosyddion pwyllog sy'n amcangyfrifon am 2010/11 ymlaen fel sy'n ymddangos yn Nhabl Ch gan gadarnhau'r terfynau ar fenthyca a buddsoddi sydd wedi eu nodi yn eitemau 10,11 a 14 i 17 yn y tabl.

 

 

 

(ff)     Cadarnhau y bydd eitemau 1 (b) i (f) yn dod yn rhan o’r fframwaith cyllidebol.

 

 

 

(g)     “Y dylai’r Pwyllgor Gwaith ddefnyddio ei bwerau i drosglwyddo arian i adfer y toriadau yn y gyllideb Cynnal a Chadw Ffyrdd o unrhyw danwariant neu arbedion fydd yn dod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn ariannol”

 

 

 

2.     PENDERFYNWYD

 

 

 

(i)     Bod y cyfrifoldeb i sicrhau sgriwtini effeithiol o’r strategaeth, polisïau a pherfformaid rheoli trysorlys yn trosglwyddo o’r Pwyllgor Sgriwtini i’r Pwyllgor Archwilio;

 

 

 

(ii)     Ail-ddatgan y Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys Diwygiedig (Atodiad 9) ac yn mabwysiadu Côd Ymarfer CIPFA 2009 ar Reoli Trysorlys fel y diwygwyd (Atodiad 10);

 

 

 

(iii)     Cadarnhau’r newidiadau i’r rhestr buddsoddiadau a gytunwyd;

 

 

 

(iv)     Cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a’r Strategaethau cysylltiedig ar gyfer y Ddarpariaeth Refeniw Lleiaf a Buddsoddi ar gyfer 2010/11.

 

 

 

3.

PENDERFYNWYD mabwysiadu a chadarnhau i bwrpas y flwyddyn ariannol 2010/11 benderfyniad y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 1998, bod y Cyngor Sir yn pennu lefel y disgownt sy'n gymwys i'r Dosbarth penodedig A a Dosbarth penodedig B o anheddau dan Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (a ddiwygiwyd), a ddisgrifir gan Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998, fel a ganlyn:-

 

 

 

     Dosbarth Penodedig A     Dim Disgownt

 

     Dosbarth Penodedig B     Dim Disgownt

 

 

 

4.

PENDERFYNWYD mabwysiadu a chadarnhau i bwrpas y flwyddyn ariannol 2010/11, benderfyniad y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2007 bod y Cyngor Sir yn pennu lefel disgownt sy'n briodol i Ddosbarth penodedig C dan Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (a ddiwygiwyd), a ddisgrifir gan y Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor) a'r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004, fel a ganlyn:-

 

      

 

     Dosbarth Penodedig C     Dim Disgownt

 

 

 

5.

Nodi fod y Cyngor yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 1996 wedi penderfynu na fydd yn trin y costau yr â'r Cyngor iddynt yn rhan o'i ardal nac wrth gyfarfod unrhyw gais neu gais arbennig fel costau arbennig a bod y penderfyniadau i barhau mewn grym hyd oni fyddant yn cael ei diddymu'n benodol.

 

 

 

6.

Y dylid nodi i'r Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod ar 10 Tachwedd 2009 bennu'r symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2010/11 yn unol â'r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:-

 

 

 

a)     29,555.89 yw'r swm a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol â rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol, (Cyfrifiad o Sail y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995, yn sail y Dreth Gyngor am y flwyddyn.

 

          b)

 

      

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

sef y symiau a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol â rheoliad 6 y Rheoliadau, yn symiau sail y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn gyda golwg ar y tai annedd yn y rhannau hynny o'i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy'n berthnasol.

 

 

 

7.

Bod y symiau a ganlyn bellach yn cael eu pennu gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2010/11 yn unol ag Adrannau 32 i 36  Deddf Cyllid  Llywodraeth Leol  1992:-

 

 

 

a)     £175,026,293     sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2) (a) i (d) y Ddeddf.

 

 

 

b)     £55,238,380     sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3) (a) ac (c) y Ddeddf.

 

 

 

c)     £119,787,913     sef y swm sy'n cyfateb i'r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 7(a) uchod a chyfanswm 7(b) uchod, a bennwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) y Ddeddf, yn gyllideb angenrheidiol ar gyfer y flwyddyn.

 

 

 

ch)     £94,559,438     sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i gronfa'r cyngor gyda golwg ar drethi annomestig a ail-ddosberthir, a grant cynnal refeniw gan dynnu unrhyw swm a bennwyd yn unol ag Adran 33(3B) y Ddeddf.

 

 

 

d)     £853.59     sef y swm yn 7(c) uchod llai'r swm yn 7(ch) uchod, gan rannu'r cyfan â'r swm a nodir yn 6(a) uchod, a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 33(1) y Ddeddf, sef sail y dreth gyngor am y flwyddyn.

 

 

 

dd)     £835,999.45     sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) y Ddeddf.

 

 

 

e)     £825.30     sef y swm yn 7(d) uchod llai'r canlyniad a geir wrth rannu'r swm yn 7(dd) uchod â'r swm yn 6(a) uchod, a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 34 (2) y Ddeddf, sef sail y dreth gyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o'r ardal lle na fo unrhyw eitem arbennig yn berthnasol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

sef y symiau a geir trwy ychwanegu at y swm a geir yn 7(e) uchod symiau'r eitem neu'r eitemau arbennig sy'n berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod wedi'u rhannu ym mhob achos gan y swm yn 6(b) uchod, a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith yn unol ag Adran 34(3) y Ddeddf, sef sail y dreth gyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o'i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy'n berthnasol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

sef  y symiau a geir trwy luosi'r symiau yn 7(e) a 7(f) uchod a'r rhif sydd, yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5(1) y Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd a restrir mewn band prisiau arbennig wedi'i rannu a'r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny'n berthnasol i dai a restrir ym mand prisiau D, a bennir gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, yn symiau sydd i'w hystyried ar gyfer y flwyddyn gyda golwg ar y categorïau o dai annedd a restrir yn y gwahanol fandiau prisiau.

 

 

 

8.

Y dylid nodi ar gyfer y flwyddyn 2010/11 fod Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru wedi nodi'r symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i'r Cyngor, yn unol ag Adran 40 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ar gyfer pob un o'r categorïau o dai annedd a ddangosir isod:-

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

9.

Wedi pennu'r cyfanswm ym mhob achos o'r symiau yn 7(ff) a 8 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, drwy hyn, yn pennu'r symiau a ganlyn ar gyfer y dreth gyngor yn y flwyddyn 2010/11 ar gyfer pob categori o dai annedd a ddangosir isod:-

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

9

CYNLLUN ADFER

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro - bod yr adroddiad hwn yn nodi’n fanylach ymateb y Cyngor i’r Arolygiad Llywodraethu Corfforaethol a hefyd mae’n ychwanegu at adroddiadau a gyflwynwyd i’r Cyngor yn y gorffennol.  

 

      

 

     Wrth roddi sylw i gasgliadau’r adroddiad rhoddwyd blaenoriaeth i dri maes sylfaenol y mae’n rhaid sicrhau adferiad ynddynt:

 

 

 

Ÿ

Hunanreoli gan yr Aelodau

 

Ÿ

Atebolrwydd, swyddogaethau a chyfrifoldebau - Aelodau a Swyddogion

 

Ÿ

Gweledigaeth a chyfeiriad y Cyngor yn y dyfodol.

 

 

 

Y rhain yw’r blociau adeiladu pwysicaf i gynnal adferiad tymor hir sy’n angenrheidiol i’r Cyngor.  O’r herwydd rhoddwyd blaenoriaeth i’r meysydd hyn dros rai o’r tasgau eraill a’r dyddiadau cau a nodir yn yr Arolygiad Llywodraethu.

 

 

 

Yn yr adroddiad hwn cyflwynir rhagor o fanylion am y statws presennol ac am y camau y bwriedir eu cymryd mewn ymateb i’r argymhellion.

 

 

 

Mae yma ddull gweithio strwythuredig yn seiliedig ar ddulliau rheoli prosiectau ac yn cynnwys elfennau sgopio a gweithredu yn codi o’r Cynllun Adfer.  Bydd raid datblygu’r dull hwn a’i wella yn ystod y misoedd nesaf a gwneud hynny yng nghyd-destun y pwysau arall sydd ar y Cyngor.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

Cadarnhau cynnydd y Cyngor yng nghyswllt rhoddi sylw i’r argymhellion hynny y manylir arnynt yn yr adroddiad hwn ac yn codi o’r Arolygiad Llywodraethu Corfforaethol.

 

 

 

Ÿ

Rhoi’r awdurdod i’r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro adrodd yn ôl ar y cynnydd i gyfarfod nesaf y Cyngor.

 

 

 

Ÿ

Bod y Cyngor yn ymrwymo’n llawn i’r egwyddorion yn anerchiad y Gweinidog i’r Cyngor ac yn cadarnhau hefyd ymrwymiad y Cyngor hwn i ddatblygu Cynllun Gweithredu cadarn i weddnewid y Cyngor.

 

 

 

Ÿ

Bod yr Arweinydd, mewn ymgynghoriad gydag Arweinyddion Grwpiau eraill, yn ymateb yn ffurfiol i anerchiad y Gweinidog gan nodi pa gamau y mae’r Cyngor wedi’u cymryd yn barod a hefyd pa gamau a gymerir yn y dyfodol.

 

 

 

10

NEWIDIADAU i GYFANSODDIAD Y CYNGOR

 

 

 

     (A)  SWYDDOGAETH DDIOGELU I’R PWYLLGOR SAFONAU

 

      

 

     (a)     Dweud bod y Pwyllgor Gwaith ar 23 Chwefror, 2010, wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

      

 

     (i)  Argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn mabwysiadu’r cymal newydd isod ym mharagraff 2.15.2.1 y Cyfansoddiad:-

 

     “Ni fydd y Pwyllgor Gwaith na’r Cyngor Sir yn ystyried yr un newid i’r Cyfansoddiad a fyddai’n rhagfarnu’n anghymesur hawliau neu fuddiannau grwp lleiafrifol heb yn gyntaf dderbyn argymhelliad/argymhellion y Pwyllgor  Safonau ac ystyried y rheini’n briodol.  Y Rheolwr-gyfarwyddwr fydd yn  penderfynu os oes unrhyw anghydfod ynghylch a ydyw newid/newidiadau yn mynd i ragfarnu’n anghymesur hawliau neu  fuddiannau grwp/grwpiau lleiafrifol.”

 

      

 

     (ii) Gwahoddir y Cyngor, yn amodol ar Gyfarwyddyd Gweinidogion Cynulliad Cymru, i ddiwygio’r Cyfansoddiad trwy fabwysiadu’r cymal newydd a awgrymir yn 2.15.2.1 uchod.”

 

      

 

     (b)     Cyflwynwyd er gwybodaeth, adroddiad y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro fel y cyflwynwyd hwnnw i’r Pwyllgor Gwaith ar 23 Chwefror, 2010.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cadarnhau argymhellion y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror, 2010.

 

      

 

(B)     PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION : HYFFORDDIANT GORFODOL A PHWERAU CYNLLUNIO’R CYNGOR LLAWN

 

 

 

(a)     Adroddwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith ar 23 Chwefror, 2010, wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

 

 

“(i) Argymell i’r Cyngor Sir  bod paragraffau 3.4.3 a 4.6.18.1 y Cyfansoddiad yn cael eu diwygio i ddarllen fel a ganlyn:-

 

 

 

3.4.3  Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

 

 

 

“14 o Aelodau â balans gwleidyddol ar y Pwyllgor.  Ni fydd yr un aelod yn ymuno â’r Pwyllgor hyd oni fydd wedi mynychu hyfforddiant cyflwyniadol yn unol â’r ddarpariaeth yn 4.6.18.1 y Cyfansoddiad hwn.

 

 

 

Bydd y Pwyllgor yn penderfynu ar yr holl faterion hynny sy’n ymwneud â chynllunio gwlad a thref ar ran y Cyngor ac sydd ddim yn cael eu dirprwyo i swyddogion.  Ni fydd gan y Pwyllgor unrhyw hawl i ohirio gwneud penderfyniad trwy ofyn i’r Cyngor llawn wneud penderfyniad.”

 

 

 

Bydd paragraff 4.6.18.1 yn darllen fel a ganlyn:

 

 

 

“4.6.18.1  Ni all yr un aelod ymuno â’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion hyd oni fydd wedi mynychu hyfforddiant cyflwyniadol.  Y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) fydd o bryd i’w gilydd yn penderfynu ar gynnwys yr hyfforddiant cyflwyniadol.  Wedyn cyflwynir hyfforddiant i ddiweddaru’r wybodaeth a sgiliau - bydd hynny’n digwydd o leiaf ddwywaith y flwyddyn ac yn rhoi sylw i newidiadau i’r ddeddfwriaeth neu i’r weithdrefn.”

 

 

 

(ii) Gwahodd y Cyngor, yn amodol ar Gyfarwyddyd gan Weinidogion Cynulliad Cymru i ddiwygio’r Cyfansoddiad drwy fabwysiadu’r diwygiadau newydd y cyfeirir atynt uchod.”

 

 

 

(b)     Cyflwynwyd er gwybodaeth, adroddiad y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro (yn ôl dymuniad Arweinyddion y Grwpiau) fel y cyflwynwyd hwnnw i’r Pwyllgor Gwaith ar 23 Chwefror, 2010.

 

 

 

PENDERFYNWYD cadarnhau argymhellion y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror, 2010.

 

 

 

 

 

 

 

(C)     Y BROSES BENODI YNG NGHYSWLLT RHEOLWR-GYFARWYDDWR / PENNAETH Y GWASANAETH TÂL A’R CYFARWYDDWYR CORFFORAETHOL     

 

 

 

(a)     Adroddwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith ar 23 Chwefror, 2010, wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

 

 

Argymell i’r Cyngor llawn y dylai dderbyn y newidiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1-6 yr awdurdod a rhoi’r awdurdod i’r swyddogion wneud y newidiadau angenrheidiol i gylch gorchwyl y Pwyllgor Penodi ym mharagraff 3.4.9 y Cyfansoddiad, a'r newid sy’n dilyn hwnnw i’r Rheolau Gweithdrefn Cyflogi Swyddogion dan baragraffau 4.10.2 a 4.10.3 y Cyfansoddiad.

 

 

 

Gwahodd y Cyngor, yn amodol ar gyfarwyddyd gan Weinidogion y Cynulliad, i gymeradwyo’r newidiadau a ddisgrifir uchod a rhoddi’r awdurdod i’r swyddogion wneud y newidiadau angenrheidiol i gylch gorchwyl y Pwyllgor Penodi ym mharagraff 3.4.9 y Cyfansoddiad a chyflwyno hefyd y newidiadau angenrheidiol sy’n dilyn hynny i’r Rheolau Gweithdrefn Cyflogi Swyddogion dan baragraffau 4.10.2 a 4.10.3 y Cyfansoddiad.”

 

 

 

(b)     Cyflwynwyd er gwybodaeth, adroddiad Arweinyddion y Grwpiau fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 23 Chwefror, 2010.

 

 

 

PENDERFYNWYD cadarnhau argymhellion y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror,  2010.

 

 

 

(CH)  CADEIRYDD Y PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI

 

 

 

(a)     Dweud bod y Pwyllgor Gwaith ar 23 Chwefror, 2010, wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

 

 

“Argymell i’r Cyngor ei fod yn mabwysiadu’r newidiadau a nodir isod a bod y Cyfansoddiad yn cael ei ddiwygio ym mharagraffau 2.6.1 a 2.6.7 i adlewyrchu’r newidiadau hynny:-

 

 

 

Paragraff 2.6.1

 

 

 

Pryd bynnag y bo’n bosib, ni fydd Cadeirydd y Prif Bwyllgor Sgriwtini yn aelod o unrhyw grwp sydd ar y Pwyllgor Gwaith.

 

 

 

Paragraff 2.6.7

 

 

 

Pryd bynnag y bo’n bosibl, ni fydd Cadeirydd unrhyw Banel a sefydlir gan y Prif  Bwyllgor Sgriwtini  yn aelod o unrhyw grwp sydd ar y Pwyllgor Gwaith.”

 

 

 

(b)     Cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro fel y cyflwynwyd ef i’r Pwyllgor Gwaith ar 23 Chwefror, 2010.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bryan Owen a oedd y Prif Bwyllgor Sgriwtini, dan y Cyfansoddiad, wedi gwneud unrhyw beth o’i le yn ei gyfarfod diwethaf?

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro nad oedd dim amhriodol wedi cael ei wneud yn y cyfarfod a bod yr anghydfod yn ymwneud â chytundeb rhwng Arweinyddion y Grwpiau - nid oherwydd dull y drafodaeth.

 

 

 

Felly gofynnodd y Cynghorydd Bryan Owen a oedd penderfyniad wedi’i wneud ymlaen llaw cyn y Pwyllgor Sgriwtini?

 

 

 

Mewn ymatebodd dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro bod trafodaeth wedi’i chynnal a chytundeb yn bod.

 

 

 

PENDERFYNWYD cadarnhau argymhellion uchod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror, 2010 a chan gynnwys yr ychwanegiadau a ganlyn a gynigiwyd gan yr Arweinydd ac a dderbyniwyd gan y Cyngor llawn:-

 

 

 

Ÿ

Y bydd y Cyngor Sir yn cydymffurfio gyda datganiad dyddiedig 24 Chwefror, 2010 y Gweinidog sef:-

 

 

 

Ÿ

“bod raid i Gadair y Prif Bwyllgor Sgriwtini fynd i’r Wrthblaid a hefyd Gadair y Pwyllgor Archwilio.  Fe ddylech rannu gweddill Cadeiriau ac Is-Gadeiriau’r Pwyllgorau rhwng y Grwpiau mewn ffordd gytbwys.  Rydwyf hefyd yn derbyn yr un peth yng nghyswllt penodiadau allanol y mae’r Cyngor hwn yn eu gwneud.”

 

 

 

Ÿ

Bod Arweinyddion y Grwpiau yn cyflwyno cynigion i gyfarfod cyffredinol blynyddol y Cyngor Sir ar rannu Cadeiriau ac Is-Gadeiriau Pwyllgorau’r Cyngor ac wrth benodi i Gyrff Allanol gan ddilyn argymhelliad y Gweinidog.

 

 

 

Ÿ

Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro yn paratoi protocol / newidiadau i’r Cyfansoddiad i adlewyrchu hyn ar ôl derbyn cyfarwyddiadau o gyfarfod Arweinyddion y Grwpiau.

 

      

 

11

GWEITHIO AR Y CYD RHWNG Y PWYLLGOR SAFONAU AC AELODAU CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

      

 

     Cyflwynwyd -  adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro/Arweinyddion y Grwpiau/Aelodau’r Pwyllgor Safonau.

 

      

 

     Adroddwyd - Ar ôl cael trafodaethau rhwng y Pwyllgor Safonau ac Arweinyddion y Grwpiau ac ar ôl i swyddogion y Cyngor wneud rhagor o waith, lluniwyd rhaglen waith i’r Pwyllgor Safonau am y 12 mis nesaf.

 

      

 

     Yn Atodiad A gwelir crynodeb o’r Rhaglen Waith, y dyddiadau perthnasol a’r adnoddau sy’n angenrheidiol i bwrpas gweithredu.  Lluniwyd y blaenoriaethau arfaethedig yn Atodiad A i bwrpas cefnogi’r Cyngor yn y broses o weithredu ar y Rhaglen Adfer ac yno mae pwyslais pendant ar gymorth i hunan-reoli.  Bydd y cyngor ar gael trwy gynllun effeithiol i ddatblygu’r aelodau a darparu cyngor a chyfarwyddyd i Arweinydd y Grwpiau / Cadeirydd y Cyngor ddatrys materion disgyblu y tu mewn i’r Cyngor, pryd bynnag y bydd hynny’n briodol.

 

      

 

     Wrth i’r Pwyllgor Safonau ddatblygu ei Raglen Waith yn gyffredinol mae’n bwysig sicrhau cyfraniad a chyngor gan y Cyngor Sir fel bod y rhaglen gyffredinol yn gwneud cyfraniad effeithiol o ran datblygu’r aelodau a hefyd gyda golwg ar ddarparu’r cymorth mwyaf bosib i’r Cyngor wrth i hwnnw ymateb i’r Arolwg Llywodraethu Corfforaethol; yn y broses honno mae gan y Pwyllgor Sgriwtini gyfraniad priodol.

 

      

 

     Un o gonglfeini’r Rhaglen Waith fydd datblygu Cynllun Datblygu Aelodau, a dibynna llwyddiant y gwaith ar gefnogaeth yr aelodau a’u hadborth nhw ar sylwedd cynnwys a darpariaeth y sesiynau datblygu arfaethedig.  Ond ni chredir mai cyfarfodydd ad hoc rhwng holl aelodau’r Pwyllgor Safonau ac Arweinyddion yr holl Grwpiau yw’r ffordd orau o gynnal y cyswllt parhaus hwn.  i gyflawni hynny bwriedir sefydlu Gweithgor ar y Cyd (Gweithgor) i asesu, i fonitro ac i ddiwygio’r Cynllun Datblygu Aelodau wrth i’r cynllun hwnnw dyfu ac esblygu.  Awgrymir aelodau o dri aelod etholedig (Arweinyddion Grwpiau, neu eraill, neu gyfuniad ac un ohonynt i gael ei enwebu’n Hyrwyddwr o Gynghorydd y Cyngor (roedd Disgrifiad Swydd a Manyleb Person ynghlwm yn Atodiad B), aelod o’r Pwyllgor Safonau, Rheolwr Hyfforddiant y Cyngor, y Swyddog Monitro a chynrychiolydd i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Bod y Pwyllgor Safonau a’r Cyngor Sir yn cytuno ar y Rhaglen Waith lefel uchel dros y cyfnod nesaf o 12 mis fel y gwelir yn Atodiad A yr adroddiad.

 

 

 

Ÿ

Bod y Pwyllgor Safonau a’r Cyngor Sir yn cytuno i sefydlu Gweithgor fel a nodir ym mharagraff 3.2.2 i oruchwylio a chymryd cyfrifoldeb am y Cynllun Datblygu Aelodau.

 

 

 

Ÿ

Penodi’r Cynghorydd J. Penri Williams fel Pencampwr yr Aelodau ar y Cyd-Weithgor ac mai ef a’r Cynghorydd Ieuan Williams a’r Cynghorydd(i’w enwebu gan yr Wrthblaid) fydd y 3 Aelod etholedig ar y Cyd-weithgor.

 

 

 

Ÿ

Bod y trefniadau hyn yn cael eu hadolygu ym Mai 2011.

 

 

 

12     ATEBOLRWYDD - SWYDDOGAETHAU SWYDDOGION A SWYDDOGAETHAU AELODAU

 

      

 

     Dywedodd Arweinydd y Cyngor ar ran Arweinyddion y Grwpiau - Nad oes digon o atebolrwydd yn y Cyngor a gwneir pethau’n waeth oherwydd y dryswch rhwng swyddogaethau a chyfrifoldebau swyddogion ac aelodau.  Rhaid ceisio adfer ‘cydbwysedd’ i’r sefydliad fel bod aelodau yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth strategol a swyddogion yn cael y grym, a hefyd yn gyfrifol, am berfformiad gweithredol.  

 

      

 

     Yn yr adroddiad gofynnwyd i’r Cyngor am ei gefnogaeth i weithredu ar set o egwyddorion allweddol i symud yr Awdurdod ymlaen.  Cafodd y materion a ganlyn sylw manwl yn yr adroddiad:-

 

      

 

Ÿ

Rheolaeth y Pwyllgor Gwaith o’r Cyngor (Paragraff 2)

 

Ÿ

Cynorthwyo’r Pwyllgor Gwaith ac anelu at fod yn fwy Strategol (Paragraff 3)

 

Ÿ

Cylch Cyfarfodydd a Chyfarfodydd Anffurfiol Pwyllgor Gwaith / Tîm Rheoli Corfforaethol (Paragraff 4)

 

Ÿ

Grymuso a Dal y Staff yn Gyfrifol (Paragraff 5)

 

Ÿ

Rheoli’r “Tîm Uchaf” (Paragraff 6)

 

 

 

Bydd raid dal y Cyfarwyddwyr Corfforaethol yn gyfrifol am berfformiad personol a hefyd am berfformiad eu Hadrannau.  Rhaid i hyn ddigwydd y tu mewn i amgylchedd cefnogol sy’n rhoi i’r Cyfarwyddwyr Corfforaethol yr awdurdod angenrheidiol ond hefyd gyfrifoldeb i sicrhau bod pob Adran yn addas i’r pwrpas.  Fel rhan o’r trefniadau hyn bydd raid cael darpariaeth ar gyfer cynlluniau datblygu personol.  Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau bod y trefniadau yn treiddio i lawr i bob lefel o’r Cyngor.

 

 

 

Fel egwyddor fe ddylai’r newidiadau hyn ddod i rym cyn gynted ag y bo’n bosib.  Rydym yn credu y byddant o gymorth i adfer balans yn y Cyngor a hefyd i ddarparu fframwaith cliriach fel bod yr aelodau, trwyddo, yn medru darparu arweinyddiaeth strategol a dal y swyddogion yn gyfrifol am berfformiad gweithrediadol.

 

 

 

PENDERFYNWYD cefnogi’r newidiadau a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

Onid oes rhesymau eithriadol, bod y Pwyllgor Gwaith yn mynd yn ôl i gael cyfarfodydd ffurfiol yn fisol a mwy o bwyslais ar Blaengynllun / Blaengynllun Gwaith fel ffordd o gynnal a chynorthwyo’r rhaglen.

 

 

 

Ÿ

Byddwn yn datblygu ac yn annog Deilyddion Portffolio unigol i wneud penderfyniadau gweithredol y tu mewn i’w meysydd cyfrifoldeb.

 

 

 

Ÿ

Rydym yn credu mewn rhoddi’r pwerau i’r rheolwyr weithredu.  Bydd y Pwyllgor Gwaith yn dileu swyddogaeth yr aelodau yng nghyswllt penodi i swyddi gweigion, ac yn dileu swyddogaeth yng nghyswllt ailstrwythuro y tu mewn i’r gwasanaethau, ond yn amodol ar gyflwyno rheolau corfforaethol priodol a rhaglen o Arolygon Trefniadol a Rheoli.

 

 

 

Ÿ

Bydd y Cyngor yn cyflwyno proses unffurf i bwrpas cynllunio busnes.  Bydd y cynlluniau yn cael eu cyhoeddi a’u monitro trwy System Rheoli Perfformiad Ffynnon a thrwy hynny’n sicrhau bod blaenoriaethau uchel y Cyngor yn cael eu hadlewyrchu yng ngwaith y gwasanaethau.  Bydd yr atebolrwydd yng nghyswllt darparu’r gwasanaethau hyn yn cael eu mesur trwy werthuso’r staff.

 

 

 

Ÿ

Bydd y dull o benodi Rheolwyr-gyfarwyddwyr yn y dyfodol a Chyfarwyddwyr Corfforaethol bob amser yn adlewyrchu’r arferion gorau ac rydym yn gefnogol i gryfhau swyddogaeth y Pwyllgor Penodi a chyfyngu ar yr opsiynau sydd ar gael i’r Cyngor yn y broses o benodi Rheolwyr-gyfarwyddwyr yn y dyfodol.

 

 

 

Ÿ

Bydd y Rheolwr-gyfarwyddwyr a’r Cyfarwyddwyr Corfforaethol yn wynebu targedau, arolygon blynyddol a gwerthuso fel y disgrifir hynny yn yr adroddiad hwn.

 

 

 

Ÿ

Bydd system unffurf a chyffredin yn cael ei datblygu i werthuso staff a’r system honno yn ymgorffori’r newidiadau hyn.

 

 

 

Ÿ

Bydd yr arolygon perfformiad chwarterol yn canolbwyntio ac yn cael eu diwygio fel bod modd cyflwyno her gryfach o’r tu mewn i Swyddfa’r Rheolwr-gyfarwyddwr.

 

      

 

13

PROTOCOL HUNANREOLI

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan Arweinyddion y Grwpiau ar brotocol arfaethedig i bwrpas hunanreoli.  Gyda golwg ar ostwng yr achosion o dorri honedig ar y protocol roedd Arweinyddion pob Grwp wedi ymrwymo i :-

 

      

 

Ÿ

Cynllun Datblygu Aelodau – byddant yn sicrhau ymrwymiad aelodau eu grwpiau i’r cynllun hwn.  Gwneir popeth o fewn rheswm i sicrhau bod y Cynllun Datblygu yn addas i anghenion yr aelodau a hefyd i sicrhau y bydd yr hyfforddiant yn fyr, yn bwrpasol ac yn fywiog – nid hyfforddiant maith, technegol a diflas a hwnnw’n atgoffa rhai aelodau o hyfforddiant y buont arno yn y gorffennol.  Sefydlir gweithgor ar y cyd o aelodau, a chan gynnwys y Pencampwr Datblygu Aelodau, aelod o’r Pwyllgor Safonau, Swyddogion a chynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i yrru’r Cynllun yn ei flaen, i fesur ei lwyddiant a hefyd i gyflwyno unrhyw newidiadau neu ddiwygiadau i’r cyfryw Gynllun wrth i hwnnw dyfu ac esblygu.

 

 

 

Ÿ

Disgrifiadau Swydd ac Adroddiadau Blynyddol - Mae Arweinyddion y Grwpiau wedi ymrwymo i sicrhau bod holl aelodau’r grwp unigol, gan gynnwys y rheini ar y fainc gefn, yn cytuno ac yn llofnodi “Disgrifiadau Swydd” a manyleb unigolyn fel ffordd o atgyfnerthu’r egwyddorion uchod a thaflu mwy o oleuni ar swyddogaeth a chyfrifoldeb yr aelodau.

 

 

 

Ÿ

Siartr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - Bydd y Cyngor yn llofnodi’r Siartr, yn rhoddi pob cefnogaeth i’w amcanion, ac mae hynny’n cynnwys mynd ati i benodi Pencampwr Datblygu Aelodau.  Arweinyddion y Grwpiau fydd yn gyfrifol am sicrhau bod yr aelodau unigol yn gwbl ymrwymedig i hyfforddiant ac i gadw’r hyfforddiant hwnnw dan arolwg.

 

 

 

Yn yr adroddiad manylwyd hefyd ar y materion a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

Swyddogaeth Arweinydd Grwp mewn Achosion Difrifol

 

Ÿ

Swyddogaeth Arweinyddion y Grwpiau a Chwynion llai Difrifol

 

Ÿ

Ymddygiad Aelodau Rhydd

 

Ÿ

Aelod neu Aelodau yn Torri’n Rheolau’n gyson 

 

Ÿ

Gweithredu y tu allan i’r Protocol

 

Ÿ

Ymchwilio i unrhyw gwyn yn erbyn Aelod

 

Ÿ

Pwyllgor Safonau yn cefnogi / cynghori Arweinyddion y Grwpiau

 

Ÿ

Cwynion gan Swyddogion dan y Protocol

 

 

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cadarnhau’r protocol hunanreoli ac yn pwyso ar yr holl Aelodau i gydymffurfio gyda’r protocol a’i ysbryd.

 

 

 

14

PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL - ADRODDIAD BLYNYDDOL - RHAGFYR 2009

 

      

 

     Dywedwyd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror, 2010 wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir fel a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

Ei fod yn nodi argymhellion y Panel Taliadau Annibynnol ar gyfer Cymru.

 

 

 

Ÿ

Ei fod yn derbyn y lwfansau cynhaliaeth diwygiedig a argymhellwyd gan y Panel ar gyfer aros dros nos yn Llundain a Chaerdydd.

 

 

 

Ÿ

Ei fod yn cytuno gyda’r cynnydd a gynigir gan y Panel o safbwynt lwfans cyfrifoldeb arbennig i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn unol â’r cyfraddau cyfredol a delir gan y Cyngor hwn.

 

 

 

Ÿ

Rhoi’r gorau i dalu lwfansau i Is-Gadeiryddion y Prif Bwyllgor Sgriwtini a’r Pwyllgorau Trosolwg yn unol ag argymhellion y Panel.

 

 

 

Ÿ

Peidio â symud ymlaen ar hyn o bryd i dalu lwfansau i gyfetholedigion.

 

 

 

Ÿ

Bod cyfraddau cyfredol lwfansau’r aelodau yn cael eu rhewi am 2010/11 ac i dderbyn mai dyma fydd y taliadau ar gyfer 2010/11:-                                                              

 

            

 

 

O 1 Ebrill 2010 ymlaen

Lwfans Sylfaenol

£12,960

Lwfans Cadeirydd y Cyngor                                 

£7,170

Lwfans Is-Gadeirydd y Cyngor

 

£5,121

Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig :

 

Arweinydd y Cyngor

£27,679

Is-Arweinydd y Cyngor

£15,223

Aelodau eraill o’r Pwyllgor Gwaith

£13,839

 

 

Cadeirydd Prif Bwyllgor Sgriwtini a Phwyllgorau Trosolwg Polisi

£8,304

Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

£8,304

Cadeirydd Pwyllgor Trwyddedu

£8,304

Arweinydd Grwp y Prif Wrthblaid

£8,304

Cadeirydd Pwyllgor Archwilio

£8,304

Lwfans Gofal (os yn daladwy)                             

£4,836

 

Lwfans Teithio (y filltir) :

 

Cerbydau Preifat :hyd at 10,000 milltir

40c

Cerbydau Preifat :dros 10,000 milltir

25c

Beiciau Modur preifat

24c

Beiciau

20c

Ychwanegiad teithiwr – y teithiwr y filltir

5c

 

 

Lwfans Cynhaliaeth :

 

 

Absenoldeb (dim yn  cynnwys absenoldeb dros nos o’r cartref) o fwy na 4 awr :-

 

 

Lwfans dydd

£28

Absenoldeb tros nos (24 awr) -

 

Llundain

£150

Caerdydd

£120

Arall

£95

Gyda ffrindiau neu berthnasau

£25

 

 

 

 

 

Ÿ

Bod y Cyfansoddiad yn cael ei newid i adlewyrchu’r argymhelliad ynghylch Lwfansau Gofal drwy ychwanegu at ddiwedd Cymal 6.3.2:-

 

 

 

“Rhaid cefnogi pob hawliad gyda derbynebion am y gwariant a chyfyngir hyn i ad-dalu’r gwariant.”

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) fel y cyflwynwyd hwnnw i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror 2010.

 

 

 

Cafwyd gwelliant gan y Cynghorydd Eric Roberts i argymhelliad y Pwyllgor Gwaith, sef bod y Cyngor yn gohirio gwneud unrhyw benderfyniad ar gynigion y Panel Cydnabyddiaeth Ariannol - cynigion i roi’r gorau i dalu lwfans i Is-Gadeiryddion y Prif Bwyllgor Sgriwtini a’r Pwyllgorau Trosolwg a hynny yng nghyd-destun y trafodaethau sy’n cael eu cynnal gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chydag Awdurdodau eraill yng Nghymru.  Yn ogystal, bod y Cyngor yn gweithredu’r cynnig a gafwyd gan y Panel Cydnabyddiaeth i ddarparu gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth i’r Aelodau.

 

 

 

Cafodd y cynnig ei eilio.

 

 

 

Mewn ymateb i’r diwygiad(-au) uchod dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod y ddau yn ei farn ef yn gyfreithlon ond bod raid cynnal rhagor o drafodaethau i egluro’r sefyllfa’n iawn.  Gwyddai am drafodaethau cenedlaethol a gafwyd ynghylch penderfyniad y Panel i ddileu’r lwfans i Is-Gadeiryddion.  Fodd bynnag, roedd y Panel, yn y cyfamser, wedi penderfynu ar y cyfeiriad penodol hwn.  Onid yw’r Panel yn gwyrdroi’r penderfyniad yn genedlaethol yna nid yw’r Cynghorau â’r hawl i dalu lwfans, o 1 Ebrill, 2010, ymlaen i Is-Gadeiryddion.

 

 

 

Yng nghyswllt Technoleg Gwybodaeth roedd Panel Cenedlaethol wedi argymell talu’r lwfans uchaf bosib a darparu Technoleg Gwybodaeth am ddim.  Credai swyddogion y Cyngor hwn nad oedd hawl i ddarparu Technoleg Gwybodaeth am ddim ac felly roedd wedi bod yn gostwng mymryn ar y lwfans a defnyddio’r gyllideb i dalu am y gwasanaeth a’i ddarparu.

 

 

 

Yr unig ffordd o ddilyn yr argymhelliad hwnnw oedd cynyddu’r lwfans, h.y. peidio â thalu’r £12,960 fel a argymhellwyd ond yn hytrach dalu’r uchafswm y penderfynwyd arno a darparu Technoleg Gwybodaeth am ddim.  Buasai cynyddu’r lwfans sylfaenol yn costio o gwmpas £30k yn fwy nag argymhelliad y Pwyllgor Gwaith a buasai hefyd yn mynd yn erbyn penderfyniad y Cyngor fis Medi diwethaf ac yn creu amheuaeth ynghylch yr hawl i ddarparu Technoleg Gwybodaeth fel y mae’r gwasanaeth hwnnw yn cael ei ddarparu a’i dderbyn ar hyn o bryd.  O’r herwydd roedd gan y Cyfarwyddwr amheuon difrifol ynghylch a oedd hynny’n ymarferol.  Yn y man bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar ddarpariaeth y Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth.

 

 

 

Gan y Cynghorydd G.W. Roberts, OBE, cafwyd cynnig i ohirio’r drafodaeth hyd nes cael rhagor o eglurhad a chodi’r mater eto yn y cyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir ar 16 Mawrth 2010.

 

 

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn fodlon cymryd camau o’r fath.

 

 

 

Hefyd roedd y Cynghorydd H.E. Jones am i’r adroddiad gyfeirio at y posibilrwydd o ddwyn i ben y trefniadau teithio dosbarth cyntaf i aelodau/swyddogion.

 

 

 

Nid oedd y Cynghorydd B. Durkin yn hapus gyda phenderfyniad y Panel i ddileu’r lwfans i Is-Gadeiryddion ac yn arbennig felly yng nghyswllt y Pwyllgor Cynllunio a hynny oherwydd pwysau’r gwaith y mae Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwnnw yn gorfod ei ysgwyddo.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd A. Morris Jones yn croesawu unrhyw ganllawiau ychwanegol ar y mater, a hynny’n cynnwys beth yw arferion Awdurdodau eraill ar hyd a lled Cymru.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y mater tan y cyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir a 16 Mawrth, 2010.

 

 

 

15     SYMUD CYFARFOD BLYNYDDOL Y CYNGOR SIR OHERWYDD YR ETHOLIAD CYFFREDINOL

 

      

 

     Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro bod raid cynnal Etholiad Seneddol cyn 3 Mehefin, 2010 a llawer yn sôn y bydd hynny’n digwydd ar 6 Mai, 2010 gan fod, ar y dyddiad hwnnw, etholiadau lleol mewn rhannau o Loegr.  Pe ceid etholiad ar 6 Mai, yna câi’r   Senedd ei diddymu ar 12 Ebrill a chael writ i gychwyn y broses etholiadol ar 13 Ebrill.  Roedd Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol y Cyngor wedi’i drefnu ar gyfer 6 Mai, 2010 ac felly awgrymwyd bod angen dyddiad arall posib - rhag ofn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr awgrym i symud Cyfarfod Blynyddol Mai i 11 Mai, 2010, petai hynny’n angenrheidiol.

 

 

 

16

PROSIECT TRIN GWASTRAFF GWEDDILLIOL GOGLEDD CYMRU:  Y CAMAU NESAF MEWN PERTHYNAS Â’R ACHOS BUSNES AMLINELLOL, A GWERTHUSIAD O’R OPSIYNAU A’R CYTUNDEB RHWNG YR AWDURDODAU

 

      

 

     Dywedwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror, 2010 wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir fel a ganlyn:-

 

      

 

Ÿ

“Cymeradwyo canfyddiadau Gwerthusiad Opsiynau Unigol Cyngor Sir Ynys Môn (fel y gwelir yn Atodiad 3) a derbyn Datrysiad Cyfeirio Prosiect Triniaeth Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru, fel sy’n gynwysedig yn yr Achos Busnes Amlinellol, fel yr opsiwn a ffefrir i drin gwastraff gweddilliol yn y tymor hir i’r Awdurdod.

 

 

 

Ÿ

Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol (fel y gwelir yn Atodiad 1) a rhoi pwerau dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol wneud diwygiadau i’r ddogfen nad ydynt yn newid y cynnwys yn sylweddol, mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cyllid a’r Deilydd Portffolio Amgylchedd, Eiddo a Mân-ddaliadau.

 

 

 

Ÿ

Cymeradwyo’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod (fel y gwelir yn Atodiad 4) a rhoi pwerau dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro wneud diwygiadau i’r drafft nad yw’n newid cynnwys y cytundeb yn sylweddol, mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cyllid a’r Deilydd Portffolio Amgylchedd, Eiddo a Mân-ddaliadau. Yn dilyn cytundeb terfynol gyda’r holl bartïon, awdurdodi’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro i lofnodi’r Cytundeb Rhyng Awdurdod ar ran Cyngor Sir Ynys Môn.

 

 

 

Ÿ

Cymeradwyo cyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i LlCC wedi ei seilio ar y costau i Brosiect Triniaeth Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru am gyfnod y prosiect o £650m, net o ariannu LlCC, o fewn ystod £607m i £802m, am gyfnod rhagdybiedig y contract o Ebrill 2015 i Fawrth 2041, fel yr amlinellir yn Adran 6 yr Achos Busnes Amlinellol. Ymhellach, mae’r Cyngor yn cadarnhau ei ymrwymiad i gwrdd â’i gyfran o’r costau o £87m, yr amcangyfrifir sydd yn yr ystod £82m i £108m dros gyfnod arfaethedig y contract.

 

 

 

Ÿ

Awdurdodi Arweinydd y Cyngor, y Rheolwr Gyfarwyddwr a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cyllid i gymeradwyo  llythyr(au) priodol i LlCC yn cefnogi’r Achos Busnes Amlinellol, gydag awdurdodau partner eraill er mwyn cefnogi’r cais ariannu ac i gyflawni’r amserlen y manylir arni yn yr adroddiad a gyflwynir

 

 

 

Ÿ

Cymeradwyo’r Rhybudd OJEU drafft fel y gwelir yn Atodiad 5 a rhoi pwerau dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro wneud diwygiadau i’r drafft nad ydynt yn newid y cynnwys y Rhybudd yn sylweddol, mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cyllid a’r Deilydd Portffolio Amgylchedd, Eiddo a Mân-ddaliadau.

 

 

 

Ÿ

Awdurdodi’r Cyd Bwyllgor Prosiect Triniaeth Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru, yn amodol ar gymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol a darpariaeth ariannu gan LlCC, fel sy’n gynwysedig yn yr Achos Busnes Amlinellol a gytunwyd, i gychwyn caffael y gwasanaethau triniaeth gwastraff gweddilliol.

 

 

 

Ÿ

Y dylai’r ail gytundeb rhwng yr awdurdodau gadarnhau’r egwyddor y bydd yr holl gostau’n cael eu rhannu rhwng yr awdurdodau sy’n rhan o’r Bartneriaeth yn ôl nifer y tunelli o wastraff.

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) fel y cafodd yr adroddiad hwnnw ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 23 Chwefror, 2010.

 

 

 

PENDERFYNWYD cadarnhau argymhellion y Pwyllgor Gwaith ar 23 Chwefror, 2010 yn y cyd-destun hwn.

 

 

 

17

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL - DATGANIADAU AR OLEUADAU, DYLUNIAD  A MYNEDIAD

 

      

 

     Dywedwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith, ar ôl ystyried y Canllawiau uchod, wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

      

 

     argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn mabwysiadu’r ddau Ganllaw Dylunio fel rhan o’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer yr Amgylchedd Trefol a Gwledig.”

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Rheoli Gwastraff) fel y  cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Ionawr, 2010.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cadarnhau argymhellion y Pwyllgor Gwaith ar 23 Chwefror, 2010 yn y cyd-destun hwn.

 

      

 

18  ADNEWYDDU CARTREFI PRESWYL - Tynnwyd yr eitem yn ôl.

 

 

 

19  AWDURDOD TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad llafar gan y Cynghorydd J.V. Owen, un o gynrychiolwyr y Cyngor ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, yng nghyswllt cyfarfodydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru rhwng 1 Rhagfyr, 2009 ac 19 Chwefror, 2010.

 

      

 

     Dywedwyd - Bod Arolwg Tân a Diogelwch wedi’i gynnal yn ddiweddar gan y Gwasanaeth Tân a bod y canlyniadau hyd yma yn rhai cadarnhaol iawn.  Buasai adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Gwaith yr Awdurdod Tân a Diogelwch ac yna i’r Pwyllgor Gwasanaeth Tân llawn. Dros y misoedd diwethaf roedd y Grwp Gweithredol wedi bod yn edrych yn ofalus iawn ar ffyrdd o gyflawni arbedion - e.e. troedbrint carbon ailgylchu etc.  Roedd dros 30,000 o Archwiliadau Diogelwch Tân wedi’u cynnal ac roedd hynny yn beth i’w groesawu.  Hefyd roedd gwaith ymgynghori’n cael ei wneud gyda’r cyhoedd a bydd adborth yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor perthnasol.

 

      

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

                                                   

 

                                                      Daeth y cyfarfod i ben am 5:40pm

 

  Y CYNGHORYDD O. GLYN JONES

 

                      CADEIRYDD