Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 5 Mawrth 2009

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 5ed Mawrth, 2009

Cyfarfod o Gyngor Sir Ynys Môn

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth, 2009

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Aled Morris Jones (Cadeirydd)

 

Y Cynghorydd O.Glyn Jones (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, E. G. Davies, Lewis Davies,

Barrie Durkin, Jim Evans, K. Evans, C. Ll. Everett, P. M. Fowlie,   Fflur M. Hughes, K. P. Hughes, R. Ll. Hughes, T. Ll. Hughes,

W. I. Hughes, Eric Jones, Gwilym O. Jones, H. Eifion Jones, Raymond Jones, R. Dylan Jones, R. Ll. Jones, T. H. Jones, Clive McGregor, Rhian Medi, B. Owen, J. V. Owen, R. L. Owen, Bob Parry, OBE, G. O. Parry, MBE, Eric Roberts,G. W. Roberts, OBE, J. Arwel Roberts, P. S. Rogers,E. Schofield (o 3.00pm), H. W. Thomas, Ieuan Williams, John Williams, John Penri Williams.  

 

WRTH LAW:

 

 

 

 

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylcheddol a Gwasanaethau Technegol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro

Cyfreithiwr (RB)

Swyddog Cyfathrebu

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor                                                 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr D.R.Hughes, Selwyn Williams

 

_________________________________________________________________________________

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd E.G.Davies.

             

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd O.Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw fater a allai

      ymwneud â chyflogaeth ei wraig a’i ferch yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Gwnaeth y Cynghorwyr P.M.Fowlie, W.I.Hughes, R.Dylan Jones,T.Jones, R.G.Parry,OBE, E.Roberts,  P.S.Rogers, a H.W.Thomas ddatganiadau o ddiddordeb oherwydd eu buddiannau amaethyddol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd B.Durkin ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 3 y cofnodion hyn ac nid oedd yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth na’r pleidleisio arni.

 

Gwnaeth y Cynghorydd A.Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 8 ac yn Eitem 4(ii) y cofnodion hyn ac nid oedd yn y cyfarfod am y drafodaeth na’r pleidleisio ar yr eitemau.

 

Gwnaeth y Cynghorydd W.J.Chorlton ddatganiad o ddiddordebyn Eitem 6 y cofnodion hyn, ac arhosodd yn y cyfarfod ond ni chymerodd ran yn y drafodaeth.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ff.M.Hughes ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 6 y cofnodion hyn,  arhosodd yn y cyfarfod ond ni chymerodd ran yn y drafodaeth; yn ogystal gwnaeth ddatganiad yng nghyswllt unrhyw eitem a allai ymwneud â chyflogaeth ei mab yn yr Adran Addysg.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.W.Roberts,OBE,ddatganiad o ddiddordeb yng nghyswllt unrhyw fater a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd C.L.Everett ddatganiad o ddiddordeb yng nghyswllt unrhyw fater a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Personel.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Owen ddatganiad o ddiddordeb yng nghyswllt unrhyw fater a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Addysg.

 

 

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH NEU’R PENNAETH GWASANAETH TÂL

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd ei longyfarchiadau i ddisgyblion yr Ysgolion Uwchradd hynny a gafodd lwyddiant yn Ne Cymru dros y penwythnos diwethaf.  Yn awr bydd disgyblion o Ogledd-orllewin Cymru yn cynrychioli Cymru yn y Pencampwriaethau Chwaraeon a gynhelir yn Birmingham ddiwedd y mis hwn.

 

 

 

Rhoes ei longyfarchiadau i Mr.Greg Evans, Rheolwr Safle Magnox Wylfa a Gorsaf Bwer Maentwrog, a enillodd wobr “Leadership in Business” i gwmnïau yn cyflogi mwy na 250 o weithwyr - cafodd y wobr yn y noson ‘Leading Wales Awards.’

 

 

 

Cydymdeimlwyd gyda theulu y diweddar Mr. Jim Ostler (Tiwtor Iaith y Cyngor gynt) a fu farw cyn y Nadolig yn 58 oed.  Roedd yn diwtor poblogaidd dros ben gyda’r gallu anghyffredin hwnnw i gyfleu i’w ddisgyblion ei frwdfrydedd dros yr Iaith.

 

 

 

Achubodd y Cadeirydd ar y cyfle i gyfeirio at y ddamwain ddychrynllyd a ddigwyddodd ym Mhorthaethwy yr wythnos diwethaf pan gafodd tri o bobl ifanc eu lladd, un o Ynys Môn.  Cydymdeimlodd ar ran y Cyngor gyda’r teuluoedd a’r ffrindiau hynny oedd yn rhan o’r digwyddiad a hefyd diolchodd i’r Gwasanaethau Argyfwng, yr Heddlu, Gwasanaeth Ambiwlans a’r Gwasanaeth Tân am ddelio gyda damwain mor ofnadwy.  Diolchodd iddynt am eu gwaith dan amgylchiadau gwirioneddol drasig.

 

 

 

Hefyd cydymdeimlwyd gyda Mrs. Peggy Owen a theulu Mr. Leslie Gordon Owen a fu farw yr wythnos diwethaf - cafodd Mr. Owen yrfa wleidyddol dros gyfnod o 50 mlynedd ac roedd hon yn golled i gymuned Caergybi - colled ar ôl un a fu mor weithgar mewn materion lleol am gyfnod mor hir.

 

 

 

Cyfeiriodd at farwolaeth y Parchedig Edgar Jones, Llanfachraeth - dyn yr oedd gan bawb air da iddo ac un a wnaeth waith rhagorol dros flynyddoedd maith a thrist oedd clywed am ei golli.

 

 

 

Yma achubodd y Cadeirydd ar y cyfle i gydymdeimlo gyda’r aelodau hynny o’r staff a oedd wedi cael profedigaeth.

 

      

 

3

LLYTHYR BLYNYDDOL Y RHEOLWR CYSWLLT 2007/08

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd groeso cynnes i Mr. Alan Morris (y Rheolwr Cydberthynas) ac i’r Mri. Gareth Jones a James Quance o PricewaterhouseCoopers.

 

 

 

Nodwyd bod y Llythyr Blynyddol yn nodi negeseuon allweddol yn codi o waith a wnaed dros y deuddeng mis diwethaf.

 

 

 

Yn y Llythyr Blynyddol roedd crynodeb o’r gwaith archwilio ac adolygu a gwybodaeth am gynnydd yn erbyn camau gwella.  Roedd hefyd yn seiliedig ar adroddiadau cyhoeddedig yn dilyn arolygon eraill ac yn cyflwyno crynodeb blynyddol o Gyngor Sir Ynys Môn.  Roedd y gwaith cynlluniedig am y flwyddyn wedi’i restru yn y Cynllun Rheolaethol 2007-08 ac roedd rhagor o fanylion am agweddau penodol o’r gwaith a wnaed yn ymddangos mewn adroddiadau ar wahân a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn.

 

 

 

Cyflwynwyd y Llythyr Blynyddol i’r Pwyllgor Archwilio ac i’r holl aelodau yn Ionawr 2009.

 

 

 

Roedd Archwiliwr Penodedig yr Archwiliwr Cyffredinol wedi cwblhau gwaith archwilio’r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a’r Côd.  Daeth yr Archwiliwr Penodedig i’r casgliad:

 

 

 

Ÿ

Mae'r Datganiadau Ariannol yn cyflwyno sefyllfa ariannol y Cyngor yn deg ac ni nodwyd unrhyw wendidau perthnasol o ran rheolaeth fewnol

 

Ÿ

Cwblhawyd ffurflenni Cyfrifon y Llywodraeth Gyfan yn briodol

 

Ÿ

Roedd gan y Cyngor drefniadau boddhaol yn 2007-08 i'w helpu i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn ei ddefnydd o adnoddau, fodd bynnag ceir materion amrywiol y mae angen mynd i'r afael â hwy

 

Ÿ

Ceir cyfleoedd i'r Cyngor sicrhau'r defnydd gorau o adnoddau a gwneud gwelliannau pellach o ran darparu gwasanaethau

 

 

 

Hefyd roedd Archwiliwr Penodedig yr Archwiliwr Cyffredinol yn unol â gofynion Adran 7 Deddf Llywodraeth Leol 1999 (Deddf 1999), wedi cwblhau’r gwaith archwilio ar Gynllun Gwella’r Cyngor a daeth i’r casgliadau a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

Mae gan y Cyngor drefniadau rheoli ariannol priodol ar waith ond ceir rhai meysydd lle y gellir cyflawni gwelliant

 

Ÿ

Roedd angen rhagor o wybodaeth am lywodraeth gorfforaethol y Cyngor oherwydd pryderon bod anawsterau yn y cydberthnasau gwaith rhwng rhai Aelodau Gweithredol a rhai uwch swyddogion yn cael effaith andwyol ar y Cyngor a'i allu i gyflawni'r ddyletswydd gwerth gorau gyffredinol.  Mynegodd yr Archwiliwr Cyffredinol bryderon y llynedd oherwydd effaith y gwrthdaro rhwng aelodau’r Cyngor ar allu’r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau gwerth gorau’n gyffredinol.  

 

 

 

Daeth y Rheolwr Cydberthynas i’r casgliad:-

 

 

 

Ÿ

Dilyswyd blaenoriaethau gwella'r Cyngor yn yr asesiad risg blynyddol ar y cyd, er nad oes camau effeithiol wedi'u cymryd mewn ymateb i lawer o'r argymhellion blaenorol

 

Ÿ

Mae adolygiadau o swyddogaethau a phrosesau corfforaethol wedi nodi nifer o feysydd i'w gwella a phryderon ynglyn ag agweddau ar arweinyddiaeth y Cyngor

 

 

 

Ÿ

Mae'r Cyngor yn cymryd camau i fynd i'r afael â gwendidau o ran rheoli corfforaethol a rheoli perfformiad sy'n cyfyngu ar ei allu i ddarparu gwell canlyniadau gwasanaeth i bobl leol, ond mae'r broses yn cael ei llesteirio gan ddiffyg cytundeb corfforaethol o ran y ffordd ymlaen

 

Ÿ

Nid ymddengys fod gan y Cyngor arweinyddiaeth wleidyddol a rheolaethol unedig, ac mae hyn yn cael effaith negyddol ar ei allu i gytuno ar ei flaenoriaethau a'u gweithredu, ac i ddarparu gwasanaethau sy'n gwella. Daeth y materion hyn yn fwyfwy amlwg wrth baratoi'r Llythyr Blynyddol hwn

 

Ÿ

Prin fu cynnydd y Cyngor o ran rheoli prosiectau ers adolygiad yn 2005. Fodd bynnag, mae cysylltiadau diweddar â Dinas a Sir Abertawe a Gorsaf Bwer Wylfa yn gosod sail ar gyfer datblygu yn y maes hwn

 

 

 

Ÿ

Mae adolygiadau o wasanaethau wedi nodi rhywfaint o arfer da a rhai meysydd i'w gwella:-

 

 

 

Ÿ

Ymatebodd y Cyngor yn gadarnhaol i'n hargymhellion o ran Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

 

Ÿ

Mae'r Cyngor wedi cynhyrchu cynllun busnes ar gyfer cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) ar draws ei stoc dai erbyn 2013, y bydd angen ei fonitro'n ofalus.

 

Ÿ

Ymatebodd y Cyngor yn gadarnhaol i'n hadroddiad ar wyriadau cynllunio.

 

Ÿ

Mae'r Cyngor yn parhau i wneud cynnydd tuag at sefydlu'r seilwaith, y cyfarpar a'r gwasanaethau i gyflawni targedau cenedlaethol o ran ailgylchu gwastraff a thirlenwi, ond mae'r amserlenni yn dynn iawn a gall newidiadau o ran deddfwriaeth, targedau a ffrydiau ariannu oedi'r broses.

 

Ÿ

Archwiliodd y Cyngor ei wasanaethau hamdden yn drwyadl a chynhyrchodd strategaeth gychwynnol; fodd bynnag, dewisodd y weinyddiaeth newydd i ail-asesu'r opsiynau a'r ffordd ymlaen.

 

 

 

Ÿ

Mae gwaith rheoleiddwyr eraill ac arolygiadau ar y cyd wedi nodi rhywfaint o arfer da a rhai meysydd i'w gwella.

 

 

 

Ÿ

Yn dilyn adroddiad beirniadol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, mae'n ofynnol i'r Cyngor gytuno ar gynllun gweithredu gyda'i reoleiddwyr yn dangos sut y bydd yn gwella prosesau busnes a pherfformiad cyffredinol o fewn y Gwasanaeth Budd-daliadau Tai.

 

Ÿ

Roeddynt yn monitro cynnydd y Cyngor o ran gweithredu ei gynllun gweithredu mewn ymateb i'r Adolygiad ar y Cyd o Wasanaethau Cymdeithasol.

 

Ÿ

Daeth arolygiad ar y cyd o Dimau Troseddu Ieuenctid i'r casgliad bod Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd Môn yn gwneud cynnydd cadarnhaol, gyda bwrdd rheoli a thîm staff sy'n darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad.

 

 

 

Ÿ

Mae'r Cyngor wedi ymgysylltu'n gadarnhaol â mentrau Swyddfa Archwilio Cymru i hyrwyddo gwelliant.

 

 

 

Dan Adran 7 Deddf 1999, roedd yn rhaid i’r Archwiliwr Penodedig, bob blwyddyn, argymell, yng nghyswllt Cynllun Gwella’r Cyngor, a ddylai’r Archwiliwr Cyffredinol gynnal archwiliad ai peidio o’r Cyngor dan Adran 10A Deddf 1999.  Dan yr un ddarpariaeth roedd gofyn i’r Archwiliwr Penodedig argymell, bob blwyddyn, a ddylai Gweinidogion Cymru roddi cyfarwyddyd ai peidio dan Adran 15 Deddf 1999.

 

 

 

Yn seiliedig ar y paragraffau ym mharagraffau 59 a 60 yr adroddiad, roedd yr Archwiliwr Penodedig:-

 

 

 

Ÿ

yn argymell y dylai’r Archwiliwr Cyffredinol gynnal archwiliad o’r Cyngor yng nghyswllt llywodraeth gorfforaethol dan adran 10A Deddf 1999; a

 

Ÿ

nid oedd yn argymell ar hyn o bryd y dylai Gweinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd dan Adran 15 Deddf 1999.  

 

 

 

Teimlai’r Cynghorydd J. V. Owen bod yr adroddiad yn un cymysg ond er hynny iddo gael ei baratoi gan aseswyr annibynnol yn seiliedig ar bryderon ynghylch yr Awdurdod.  Credai ef y dylai’r Cyngor hwn uno er lles y bobl y mae’n ei gynrychioli - gorau po gyntaf.  Cynigiodd dderbyn y Llythyr Blynyddol a bod y Pwyllgor Gwaith yn symud ymlaen gyda’r adroddiad a sicrhau na fydd y Cyngor byth eto yn derbyn dogfen o’r fath. (Cafodd y cynnig ei eilio).

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jim Evans bod y Cyngor yn pleidleisio ar y mater (Cafodd y cynnig ei eilio).

 

 

 

Fel Mater o Drefn nododd y Cynghorydd C. L. Everett i’r Gadair ei fod yn dymuno siarad a hynny yn ei swyddogaeth fel Cadeirydd Pwyllgor Archwilio’r Cyngor hwn.  Onid oedd am gael siarad yma heddiw yna buasai’n defnyddio’r Cyfansoddiad ac yn cyflwyno Cynnig heb Rybudd.  Roedd yn falch o weld bod yr Archwiliwr yn bresennol heddiw i weld yn union beth oedd yn digwydd.  Roedd hyn yn warth.

 

 

 

Aeth ymlaen i ddweud “I wish to speak Mr. Chairman, unless you want me to move a resolution. Are you going to allow me to speak to the actual report which we have just received?”

 

 

 

Cadeirydd - “Now then Councillor Everett, I am sure that you are aware of the rules of the Council. You were on my list of speakers and you know that I do take a list of speakers. However, the motion has been moved . Therefore, the motion before Council is as follows. We accept the document....”

 

 

 

Cynghorydd  Everett - “I’m raising a point of order and I would ask the Legal Officer to advise the Council, that..............

 

 

 

Cadeirydd - “You will go through the Chair, Councillor Everett and address your remarks to me. Thank you, we’ll just make that clear.”

 

 

 

Cynghorydd Everett - “Is it not an absolute disgrace what’s going on here ladies and gentlemen. I have been prevented from speaking as the Chair of this independent Audit Committee of this Council. Even my own Vice-Chairman is moving that the question be put. Can I refer you to the Michael Farmer report back in 1998...... recommendation.......”

 

 

 

Cadeirydd - “No you can’t Councillor Everett. The motion had been put Councillor Everett. I am terribly sorry, may I ask you to sit down. Thank you very much.”

 

 

 

Cynghorydd G. W. Roberts, OBE - “Question Mr. Chairman.”

 

 

 

Cadeirydd - “Sorry, there are no questions. The motion has been put. The motion is as follows. Accept the document and the Executive be given the power to deal with the matter.”    

 

 

 

Cynghorydd Everett - “Point of Order Mr. Chairman.”

 

 

 

Cadeirydd - “It has been moved. Can I ask those in favour.........

 

 

 

Cynghorydd  P. S. Rogers - “I want an amended motion please.”

 

      

 

     Cynghorydd Everett - “Mae hwn yn disgrace, hogia, absolute disgrace. Talk about gagging us, and I’m glad to see............”

 

      

 

     Cadeirydd - “One at a time, Councillor Everett, just because you are not getting your way today, you will address the Chair..........”

 

      

 

     Cynghorydd Everett - “Don’t raise your voice with me Mr. Chairman or I’ll shout as well if you like. It’s not a problem. I’m moving a resolution as per the Constitution. Right, I will tell the Council and the public what was said in confidence yesterday if that’s what you want. I’ve got no problem in doing it.”

 

      

 

     Cadeirydd - “I’ve asked you to sit down Councillor Everett. Thank you..... Councillor Rogers.”

 

      

 

     Cynghorydd Rogers - “My amendment is that as Chairman of the Audit Panel, who has moved that we hear debate first, before we take the full motion, that we hear the report back from the Audit Committee first, because we wasted a morning yesterday when we didn’t make any progress at all, they don’t even accept the Auditor’s report, neither the officers or the Executive. I think this is very important. My motion is that we allow Councillor C. L. Everett as Chairman of the Audit Committee, to speak on this before we take a vote.”

 

      

 

     Cynghorydd J. Arwel Roberts - “I second that.”

 

      

 

     Cadeirydd - “Thank you for seconding it. However, the motion had been put to Council and that motion will be taken first.”

 

      

 

     Cynghorydd Chorlton - “Point of Order Chairman, you’ve had a motion put that the legal officer be allowed to speak on a Point of Order, and that is a must, you must allow the legal officer to speak to the Point of Order. You have not got sacrosanct in law here.”

 

      

 

     Cadeirydd - “Sorry, Councillor Chorlton. What exact point of the Constitution..... one at a time. I won’t be bullied by you lot either.”

 

      

 

     Cynghorydd Everett - “I’m not bullying you at all. The bullies are coming from up there I’m afraid.”

 

      

 

     Cynghorydd J. Arwel Roberts - “You are not doing yourself any favours here Mr. Chairman. Ten out of ten for orchestrating what you’ve just done, but in front of the press and the public? Not to allow the Chair of Audit to speak is a disgrace.”

 

      

 

     Cadeirydd - “The motion will be put and it has been moved.”

 

      

 

     Cynghorydd Chorlton - “With the greatest respect Mr. Chairman, can we hear the voice of the legal officer. The Monitoring Officer is indicating she wants to speak. Please Sir, can we hear her. Are you ruling us out of Order? Are you ruling us out of order? Are you ruling us out of order?

 

      

 

     Cadeirydd - “Councillor Chorlton, will you sit down.”

 

     Councillor Chorlton - “I will sit down.”

 

      

 

     Cadeirydd - “The motion will be taken first, since the motion has been put.”

 

      

 

     Cynghorydd Chorlton - “You obviously don’t know the rules of the Council. You have no idea how to Chair.”

 

      

 

     Rheolwr-gyfarwyddwr - “Da chi’n torri’r Cyfansoddiad.”

 

      

 

     Cynghorydd G. W. Roberts, OBE - “I have not declared an interest today, because I’ve declared an interest on Graigwen in Amlwch, because I was the Leader at the time, nothing else. Can I make that quite clear. I would say in my opinion Mr. Chairman, this saga here today is about Craigwen and also the toilets, and there are people here which are being penalised for what they’ve done.”

 

      

 

     Cadeirydd - “Are we finished now gentlemen, because we will now take the notice of motion.”

 

      

 

     Rheolwr-gyfarwyddwr - “Cadeirydd, mae’n rhaid i chwi ..............”

 

      

 

     Cadeirydd - “The motion has already been put and it’s been moved.”

 

      

 

     Cynghorydd Everett - “No a Point of Order takes precedence Mr. Chairman, I’m sorry under the Constitution. My Point of Order is I would like to move a resolution without notice under Constitution 4.1.14.14 to refer this report to an actual appropriate body or individual. You have to deal with that one first Mr. Chairman, because I am raising a Point of Order as per the Constitution. Yes, you’ve had the Motion be put. But again you’ve had bad advice Mr. Chairman. I’m sorry, have a look at the Constitution. you are the keeper of the Constitution as the Chair, and you are stifling debate here today. What is the reason you are stifling the debate.”

 

      

 

     Cadeirydd - “Have you finished.”

 

      

 

     Cynghorydd Everett - “Yes I have finished and I will respect the Chair and now sit down.”

 

      

 

     Cynghorydd T. Ll. Hughes - “Gwarth, dim ar un ochr ond ar bawb. Mae’n gwilydd y ffordd da ni’n byhafio drwy beidio rhoi respect i’r Gadair. Efallai tydio ddim yn gwneud hyn yn y ffordd iawn ond dwi’n gweld lle mae o’n dod o. Ond ar ddiwedd y dydd mae’n rhaid rhoi respect i’r Gadair, a dwi’n synnu ar rhai ohonoch. Dwi’n siomedig aruthrol gyda be sy’n mynd ymlaen yma ac i weld fod yna bobl tu allan i’r Cyngor Sir yn gwrando arnom. Dwi wedi bod allan o’r Cyngor Sir am bedair blynedd a dwi wedi bod yn edrych o’r tu allan i mewn, i weld be sy’n mynd ymlaen, ac fe oeddwn i yn gobeithio fysa fo ddipyn gwell na be mae o. Mae o’n gwilydd y ffordd da chi wedi byhafio yma heddiw. Dwi’n pryderu yn fawr iawn am y ffordd da chi’n mynd. Dwi’n pitio chi Mr. Cadeirydd. Er bod chi efallai yn codi eich llais, ond os oes na Gynghorwyr neu swyddogion yn cael eu henwi, oherwydd dwi ddim eisiau cael fy mheintio gyda’r r’un un brwsh a phawb arall.”

 

      

 

      

 

     Cynghorydd Everett - “Are you going to allow me Mr. Chairman to speak to the report we have just had? I’m not going to take much of your time Chairman, but as the Chair of the Audit Committee, I think it’s right and proper for this Council to hear what I am saying on behalf of elements of my Committee, I’m sort of sad to say, but certainly the Committee’s resolution of 29th January and what was decided at that meeting. Are you going to allow me to speak Mr. Chairman or are you going to use the powers that you have in this Chamber to prevent me from speaking. Because if you do prevent me from speaking today, I’m sorry, but I am going to have to go public with everything I was told yesterday in the confidential element of the Audit Committee as well. Because, I think as Michael Farmer said in Recommendation 8 back in 1998,..... myself and Councillor Schofield are the only two members left on this Authority that sat on that Committee. Farmer said “members should take steps to treat employees with consideration and respect and avoid behaviour that can be intimidating or seen as threatening.” That was taken from a public meeting on 4th June when we heard evidence from members of the public, the spokesman from Llais y Bobl, Mr. Walter Davies, I’m glad to see him here today. He said that bullying and intimidation by members did occur. Recommendation 8 of that report was unanimously supported by this Council back in 1998 Mr. Chairman. I am afraid that we are going back to those days unless we are allowed to speak openly and transparently, within law, within this Council. I want to refer to one or two items, that’s all. I won’t take the Council’s time, but I think it’s my duty as Chair to try and speak on it.”

 

      

 

     Cadeirydd - “The motion has been put and the motion is before Council, and we will now vote on it. The motion is that this document is accepted and the powers given to the Executive to deal with it.”

 

      

 

     Cynghorydd Chorlton - “I want a recorded vote on this matter so that we know exactly the way the vote has gone.”

 

      

 

     Cadeirydd - “Fine, will 10 members kindly stand for a recorded vote.”

 

      

 

     Cynghorydd Everett - “Disgrace, absolute disgrace.”

 

      

 

     Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro - “I appreciate I am not allowed to speak and not allowed to advise unless I go through you, so I will not do so. But, i would like to have my disquiet about the way this is being conducted recorded in the minutes because you are driving a coach and horses through the Constitution, and it is unacceptable, and if you continue in this vein, I will use my statutory powers to call another meeting of the Council, and if the same happens I will call another meeting of the Council. Thank you.”

 

      

 

     Cadeirydd - “You’re comments are duly noted Miss. Ball.”

 

      

 

     Cynghorydd K. Evans - “Mr. Chairman. I am the longest serving Councillor here. I show great respect to the Chair. I behave myself in meetings. I think we are on very dangerous ground now. I’ve said this at other meetings as well, the future of this Council is at stake at this very time. This is far more significant than 10 years ago. We are in real danger of depriving our people of the service that they expect. Our electors have put us here. We have had a dire warming from the Auditor’s today to behave ourselves, to get our act together, and you are making it worse today by stifling a discussion on the most important document that has come before this Council for years. Mr. Chairman, I implore you to ask your colleagues to think again. Let’s have a healthy, reasonable, sensible debate and let’s try to find a way forward. I have tried as a fairly independent member of the Audit Committee, to give my Chairman support to try to sort the problem out here. To meet members behind closed doors if you like, to see whether we can knock heads together, to save our skins for the sake of the people out there. We are on very dangerous ground here and I do implore all the Council, look at the odds, the odds are stacked against us and this just makes it worse.”

 

      

 

     Cadeirydd - “Thank you Councillor Evans. Councillor Penri Williams?”

 

      

 

     Cynghorydd J. Penri Williams - “In view of the legal advice, I withdraw the fact that I’ve seconded it, and in the interests of debate.”

 

      

 

     Cadeirydd - “It was that the motion be put Councillor Williams, that you seconded.”

 

      

 

     Cynghorydd Everett - “You are the Chair, Aled.”

 

      

 

     Cadeirydd - “Councillor Everett, I always take my own decisions , as you well know. The motion has already been put, and it has already been agreed that there will be a recorded vote, so we will proceed with the vote. All those in favour, would you please stand.”

 

      

 

     Dan ddarpariaethau Rheol 18.5 y Cyngor, cofnodwyd y bleidlais ar y mater (h.y. derbyn yr adroddiad a’i drosglwyddo i’r Pwyllgor Gwaith benderfynu arno):-

 

      

 

     O blaid: Y Cynghorwyr E. G. Davies, L. Davies, J. Evans, P. M. Fowlie, Ff. M. Hughes, K. P. Hughes, R. Ll. Hughes, T. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. M. Jones, E. Jones, G. O. Jones, O. Glyn Jones, T. Jones, C. McGregor, B. Owen, J. V. Owen, R. L. Owen, G. O. Parry, MBE, R. G. Parry, OBE, E. Roberts, J. Penri Williams, I. Williams, J. Williams.         

 

     CYFANSWM: 24

 

      

 

      

 

     Yn erbyn: Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, K. Evans, C. L. Everett, R. Dylan Jones, H. Eifion Jones,

 

     R. Ll. Jones, Raymond Jones, J. A. Roberts, G. W. Roberts, OBE, P. S. Rogers, H. W. Thomas.

 

      

 

     CYFANSWM: 11

 

      

 

     Ymatal: Y Cynghorydd Rhian Medi

 

     CYFANSWM: 1

 

      

 

     Cynghorydd  Everett - “Point of Order, Mr. Chairman. Why did the Executive vote here and they haven’t actually come to the Audit Committee and they haven’t come to the Audit Committee the other day?”

 

      

 

     Cadeirydd - “Overruled.”

 

      

 

     Cynghorydd Everett - “Is the Council Leader prepared to respond?”

 

      

 

     Cadeirydd - “Please sit down. The motion is carried 24 to 11 with one abstention. This matter will now be dealt with by the Executive.”

 

      

 

     Cynghorydd H. W. Thomas - “I am no longer prepared to take part and am leaving the Chamber.”

 

      

 

     Cynghorydd G. W. Roberts, OBE - “I believe that the history is of one person leading, in my opinion, and destroying the Council.”

 

      

 

     (Ar y foment hon cododd y Cynghorwyr W. J. Chorlton, C. L. Everett, Raymond Jones, R. Dylan Jones, J. Arwel Roberts, G. W. Roberts, OBE a H. W. Thomas a gadael y Siambr am weddill y cyfarfod).

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Rhian Medi yn dymuno egluro i’r Cyngor pam nad oedd wedi pleidleisio, sef am ei bod yn anhapus gydag ymddygiad y Cynghorwyr.  Nid oedd yn siarad am y Gadair.  Roedd hi yn ymwybodol bod y trafodaethau dros y 4 blynedd diwethaf wedi’u rhwystro yn y Cyngor.  Ni chredai hi bod yr aelodau a gerddodd allan mewn sefyllfa gref, gan mai y nhw a rwystrodd y drafodaeth yn y gorffennol.  Hefyd, heddiw, crybwyllwyd bod y Cyngor mewn sefyllfa waeth na honno ar ddiwedd y 1990’au. Fel aelod o Llais y Bobl gynt ni fedrai dderbyn hyn.  Roedd y problemau yn y Cyngor yr adeg honno yn ofnadwy, a phobl yn dioddef, bwlio yn digwydd a’r aelodau a oedd yn creu y problemau y dyddiau hynny yn dal i fod yma heddiw.  Roedd hi hefyd yn anhapus ar ôl derbyn adroddiad yr Archwiliwr oherwydd ei hanfodlonrwydd ynghylch beth a ddigwyddodd gyda’r Graig-wen. Roedd mwy a mwy o gwestiynau yr oedd raid eu hateb.  Yn ariannol, mater gwleidyddol i’r Cyngor hwn a hefyd i drethdalwyr Ynys Môn oedd unrhyw benderfyniad gan y Cyngor i symud ymlaen gydag unrhyw gamau - nid penderfyniad i’r Archwilwyr.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’i drosglwyddo i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

 

 

4

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel cofnod cywir, gofnodion y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn:-

 

 

 

(i) Cofnodion - 11 Rhagfyr, 2008.

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

Eitem 9 - Contract Prydau Ysgol

 

 

 

(Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad o ddiddordeb yn y mater a gadawodd y Siambr - cymerwyd y Gadair gan yr Is-Gadeirydd).

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd P.S.Rogers at ddatganiad a wnaeth yr Arweinydd yn y pedwerydd paragraff sef “bod yr holl gig bellach yn gynnyrch lleol.”  Ni chredai bod hyn yn wir o gwbl a’i fod yn gamarweiniol.

 

 

 

Wedyn aeth ymlaen i gyfeirio at ddatganiad yr Arweinydd y buasai Eden ar ôl rhoi cyflwyniad i’r Pwyllgor Trosolwg Addysg, “yn gadael y cyfarfod a’r aelodau’n cael cyfle i drafod adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol.” Yn y  Pwyllgor Trosolwg hwnnw, dywedodd na chafodd gyfle gan y Cadeirydd i drafod yr adroddiad.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Ff.M.Hughes, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg Addysg bod holl aelodau’r Cyngor Sir wedi cael gwahoddiad i’r cyfarfod.  Fodd bynnag, tra bydd hi yn Gadeirydd y Pwyllgor ni fuasai’n gwadd yr holl aelodau i fynychu eto a hynny oherwydd ymddygiad un yn benodol.  Tra oedd Eden yn bresennol, roedd ymddygiad pawb yn rhagorol ac roedd wedi diolch i’r aelodau am hynny ar ddiwedd y cyfarfod.  Ond unwaith y gadawodd Eden roedd ymosodiad ar aelod o staff yr Adran Addysg a Hamdden a’r staff yw asgwrn cefn yr Awdurdod hwn ac nid oedd yn fodlon caniatáu i’r un aelod ymosod yn y modd hwn ar aelod o’r staff.  

 

 

 

Ond nid oedd yr un cyfeiriad at ymosodiad ar aelod o’r staff yng nghofnodion y Pwyllgor yn ôl y

 

Cynghorydd P.S.Rogers.  Nid oedd yn y cofnodion yr un cyfeiriad at unrhyw gyfraniad a wnaeth yn y cyfarfod a’r geiriau a ddefnyddiodd ef oedd“bungling incompetent,” a hynny nid yn erbyn Swyddog o’r Awdurdod hwn ond yn erbyn y Deilydd Portffolio a oedd wedi methu’n llwyr â rhoddi unrhyw gymorth nac amddiffyniad rhag anhrefn y contract prydau ysgolion.

 

 

 

Ni chredai ef bod y cyfeiriad at “bungling incompetence” yn ddigon i’w stopio rhag cyfrannu yn y drafodaeth.  Yn wir roedd ef wedi gwneud mwy o waith na neb ar y prydau ysgolion ond er hynny wedi cael ei rwystro rhag siarad.  O’r herwydd roedd yn herio’r nodyn yn y cofnodion a hefyd yn dymuno dwyn sylw’r aelodau at yr annhegwch yn y cofnodion fel y cawsant eu cyhoeddi.  Ni châi ef byth gyfle eto i herio’r cofnodion a hynny am nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor hwnnw.  Gynt roedd cofnodion yn dod i’r Cyngor llawn i bwrpas eu derbyn ond nid oedd hynny’n digwydd bellach.  Gofynnodd i Gadeirydd y Cyngor siecio’r cofnodion hynny i weld a oedd ynddynt unrhyw awgrym ynghylch beth oedd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg yn ceisio’i ddweud am ei ymddygiad.  Yr oedd yn gywilydd mawr bod y Cadeirydd wedi rhedeg y cyfarfod hwnnw ar y diwrnod hwnnw yn y fath fodd a hynny yng nghyswllt mater difrifol iawn.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Ff.M.Hughes nad oedd yn dymuno gweld y cyfarfod hwn yn datblygu’n ddadl gyhoeddus heddiw a’i harfer hi bob amser oedd aros yn ddistaw pan oedd aelod arall yn siarad yn y Siambr.  Roedd hi’n fodlon rhoddi mwy nag un cyfle i aelodau ond roedd yr aelod penodol hwn wedi cael mwy nag un cyfle.  Mewn cyfarfod o’r Cyngor hwn roedd y Cadeirydd wedi gofyn iddi offrymu gweddi ar ddechrau’r cyfarfod a gwnaeth hynny trwy gyflwyno gweddi bwrpasol ar y pryd.  Roedd yr aelod dan sylw wedi methu ag ymddwyn yn iawn yn y cyfarfod hwnnw hefyd.  Fel cwrteisi iddo roedd wedi mynd i’r drafferth i gyfieithu’r weddi a’i phostio i dy’r Cynghorydd Rogers.  Ond ni chymerodd yr un sylw o hynny.  Felly o weld bod yr un Cynghorydd yn camfihafio yn y cyfarfod hwnnw yr oedd hi yn ceisio’i Gadeirio, a hynny mewn modd urddasol, roedd y profiad yn un anodd iawn iddi.  Ni fedrai gytuno gyda’r pwynt a wnaeth, sef ei fod ef fel Cynghorydd wedi gwneud mwy na neb o blaid prydau’r ysgolion ers dod yn Gynghorydd.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Tom Jones y pwynt bod y Cyngor yn delio gyda chywirdeb y cofnodion gerbron heddiw a chredai bod y Cynghorydd Rogers yn gywir, sef na ddywedwyd bod yr holl gig yn lleol.  Ffigwr canrannol oedd hwnnw ond ei fod yn uwch na’r hen ffigwr dan yr hen gontract.  Yng nghyswllt yr ail bwynt a wnaeth y Cynghorydd Rogers roedd cofnodion y Cyngor yn gywir.  Cyfeirio oedd y Cynghorydd Rogers at gofnodion y Pwyllgor Trosolwg.

 

 

 

Yn ôl y Cynghorydd E.G.Davies, y Deilydd Portffolio, credai ef bod y Cynghorydd Rogers yn y  Pwyllgor Trosolwg, wedi cyfeirio at “bungling incompetence” yr Adran Addysg.  Digon teg, os mai’r bwriad oedd pwyntio bys at y Deilydd Portffolio gallai fyw hefo hynny.  Ar ddiwedd y dydd pwy bynnag fyddai’r Deilydd Portffolio buasai’r Cynghorydd Rogers wedi cymryd yr un trywydd.  Ni ellid beio yr un unigolyn oherwydd methiant.  Etifeddwyd hyn oddi ar y Pwyllgor Gwaith cynt ac roedd angen sicrhau bod popeth yn ei le cyn dechrau tymor newydd yr ysgol ym mis Medi.

 

 

 

Gan yr Arweinydd cafwyd cynnig i ddiwygio’r cofnodion yng nghyswllt prynu’r holl gig yn lleol ac mai ffigwr canrannol oedd hwnnw ar ddiwedd y dydd ond bod y ffigwr yn dal i fod yn uwch na hwnnw yn y contract gwreiddiol.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi’r gwelliant.

 

 

 

(ii) Cofnodion - 30 Ionawr, 2009.

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

Eitem 3 - Ty Mawr, Llanfair-pwll

 

 

 

Roedd y Cynghorydd J.Penri Williams yn dymuno nodi bod y ffigwr o 1800 o geir wedi’i grybwyll yn ei anerchiad i’r Cyngor - dylai hwnnw ddarllen 1800 o geir.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn y gwelliant.

 

 

 

5

Y GYLLIDEB, Y DRETH GYNGOR, RHEOLI’R TRYSORLYS A DANGOSYDDION PWYLLOG 2009/10

 

      

 

     5.1 Cynigion Cyllidebol Terfynol y Pwyllgor Gwaith 2009/10

 

      

 

     Adroddodd y Deilydd Portffolio (Cyllid)  - Bod cynigion cyllidebol terfynol y Pwyllgor Gwaith yn ymddangos yn :-

 

      

 

     Tabl A – Cyllideb Refeniw 2009-10;

 

     Tabl B – Cynllun Ariannol Tymor Canolig;

 

     Tabl C – Cyllideb Gyfalaf 2009-10;

 

     Tabl Ch – Cynllun Cyfalaf a naratif.

 

      

 

     O gofio effaith y wasgfa gredyd a’r hinsawdd economaidd presennol, roedd y Pwyllgor Gwaith wedi anelu at gynnydd bach yn y Dreth Gyngor.  Roedd ansicrwydd cyllidol yn nhermau chwyddiant a graddfeydd llog yn effeithio cyllidebau’r Cyngor yn ogystal a rhai teuluoedd.

 

      

 

     Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod y pwysau cynyddol ar gefnogaeth gwasanaethau cymdeithasol, tai a budd-daliadau.  Roedd y Pwyllgor Gwaith yn ymateb i’r anghenion yma.

 

      

 

     Roedd y Ganolfan Fusnes yn parhau i hyrwyddo’r ynys ar gyfer busnes a datblygiad.  Yn ychwanegol roedd darpariaethau hyblyg ar gael i fanteisio ar gynlluniau newydd i gryfhau’r economi.

 

      

 

     Defnyddiwyd arian wrth gefn eleni er mwyn cyflawni’r cynnydd bychan yma.  Bwriedir, trwy’r  strategaeth tymor canolig, ailadeiladu’r gyllideb yma.

 

      

 

     Darparwyd y manylion isod yn adroddiad y Deilydd Portffolio yng nghyswllt dilyn gofynion Rheolau Gweithdrefn y Gyllideb :-

 

 

 

Ÿ

os ydyw’r Cyngor wedi mabwysiadu strategaeth gyllidebol a ydyw’r gyllideb flynyddol           arfaethedig yn cydymffurfo gyda’r strategaeth honno, a manylion am unrhyw                wahaniaethau

 

Ÿ

y Dreth Gyngor arfaethedig am y flwyddyn

 

Ÿ

trosglwyddiadau i’r arian wrth gefn ac ohonynt

 

Ÿ

crynodeb o’r gwariant arfaethedig fesul gwasanaeth

 

Ÿ

manylion  am newidiadau sylweddol i’r gwasanaeth oherwydd y gyllideb

 

Ÿ

i ba raddau y mae’r cynigion yn gwneud lwfans ar gyfer adroddiadau i bwyllgorau

 

Ÿ

i ba raddau y mae’r cynigion yn gwneud lwfans am waith ymgynghori a wnaed

 

Ÿ

manylion am wahaniaethau sylweddol eraill rhwng y cynigion cychwynnol a’r rhai terfynol

 

Ÿ

cynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer trosglwyddiadau yn ystod y flwyddyn

 

Ÿ

cynigion ar gyfer benthyca

 

Ÿ

unrhyw faterion statudol eraill i’w penderfynu gan y Cyngor llawn

 

 

 

     5.2     Cyllideb 2009/10 - Mabwysiadu Penderfyniad Ffurfiol

 

      

 

     Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - I bwrpas mabwysiadu ei gyllideb am 2009-10 a phennu lefel y Dreth Gyngor am y flwyddyn bydd raid i'r Cyngor Sir fabwysiadu penderfyniad ffurfiol sy'n delio'n fanwl gyda'r holl faterion cysylltiedig.  

 

     Wrth iddo ystyried cyllideb arfaethedig y Pwyllgor Gwaith, roedd yn rhaid i'r Cyngor, hefyd, ystyried yr adroddiad hwn gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).  Yn hwnnw rhoddwyd sylw i faterion gofynnol dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ("y Ddeddf") a'r Côd Pwyllog yng nghyswllt Cyllid Cyfalaf i Awdurdodau Lleol ("y Côd Pwyllog").

 

 

 

Ÿ

CADERNID YR AMCANGYFRIFON

 

 

 

Dan adran 25 (1)(a) y Ddeddf roedd yn rhaid i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol gyflwyno adroddiad i’r Cyngor ar gadernid yr amgancyfrifon a baratowyd  wrth lunio’r gyllideb.

 

 

 

Ym mhob blwyddyn ariannol mae rhai elfennau o ansicrwydd y mae’n rhaid eu hystyried wrth asesu cadernid.  Eleni mae rhai risgiau mwy anarferol na’r cyffredin:-

 

 

 

Ÿ

     Cyfraddau Llog a Chwyddiant

 

Ÿ

     Effeithiau Eraill y Dirwasgiad 

 

Ÿ

Gallu i Weithredu ar Arbedion

 

Ÿ

     Arfarnu Swyddi 

 

Ÿ

     Gwasanaethau Cymdeithasol  

 

      

 

Ÿ

DIGONOLRWYDD Y CRONFEYDD ARIANNOL WRTH GEFN

 

 

 

Dan adran 25 (1)(b) y Ddeddf roedd yn rhaid i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol gyflwyno adroddiad i’r Cyngor ar ddigonolrwydd yr arian wrth gefn.

 

 

 

Sefydlwyd arian wrth gefn clustnodedig i ddelio gydag ymrwymiadau hysbys, gyda chynlluniau a risgiau.  Wrth asesu lefel yr arian wrth gefn roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wedi rhagdybio y bydd yr ymrwymiadau yn cael eu hanrydeddu, ac y bydd gweithredu ar y cynlluniau os ydynt yn dal i fod gennym a rhagdybio hefyd y bydd y ddarpariaeth ar gyfer risg yn rhesymol o ystyried y maint a’r tebygolrwydd.   Wrth asesu’r balansau cyffredinol rhoddwyd sylw i risgiau ac i ansicrwydd nad oes darpariaeth ar eu cyfer yn yr arian wrth gefn clustnodedig nac yn y gyllideb wrth gefn.

 

 

 

Mae lefel yr arian wrth gefn yn cael ei hadolygu’n rheolaidd.  Roedd yr asesiad hwn yn dibynnu ar wybodaeth yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol i’r Pwyllgor Gwaith ar 8 Rhagfyr, ac a ddiweddarwyd i gyfateb  i adroddiadau monitro cyllidebol y 3ydd Chwarter ar 2008-09 a datblygiadau yn ymwneud a’r gweithredu llys Gallows Point.

 

 

 

Roedd cynigion y Pwyllgor Gwaith yn adlewyrchu ei asesiad ef bod modd rhyddhau £1.92 miliwn o arian wrth gefn.  Eglurodd sut yr oedd modd cyflawni hyn a sut yr oedd y broses yn dal i adael arian wrth gefn digonol ym Mharagraff 3 ei adroddiad.

 

 

 

Yn ychwanegol at y £1.92 miliwn hwn, roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wedi cynnig bod y Pwyllgor Gwaith yn defnyddio hyd at £0.5 miliwn o’r Balansau Cyffredinol i  gyllido costau torri y gwasanaeth staff.  Trwy fynd y tu draw i’r swm £1.92 miliwn byddai’r mynediad yma, petae’n cael ei ddefnyddio yn 2009-10 yn gadael y Cyngor ar 31 Mawrth 2010 gyda balansau cyffredinol is na beth gredai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol oedd yn ddigonol.  Yn ymarferol gellid cyfiawnhau hyn ar y pryd petai’r costau torri gwasanaeth arfaethedig yn arwain at arbedion clir neu at welliannau effeithiolrwydd, ond dan amgylchiadau o’r fath roedd yn dymuno cael gael tystiolaeth yn dangos hynny.

 

 

 

Ond mae anhawster arall yn 2010-11.  Mae’r cynllun ariannu tymor canolig yn optimistaidd ynghylch chwyddiant yn syrthio, ond hyd yn oed gyda rhagamcan 4.5% i’r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn 2010 bydd yn rhaid o hyd ddefnyddio £0.5 miliwn yn 2010-11.

 

 

 

Roedd y Cyfarwyddwr yn dymuno defnyddio unrhyw arbedion annisgwyl a geir yn awr neu yn ystod 2009-10 i ostwng y swm a dynnir o’r arian wrth gefn - yn hytrach na’i ddefnyddio i gyllido gwariant ychwanegol.  Rhaid mabwysiadu’r dull hwn yn y cyfnod sy’n ein hwynebu er mwyn sicrhau na thynnir mwy nag sydd raid o’r arian wrth gefn.  Efallai y gwelir enillion annisgwyl oherwydd chwyddiant is, hefyd oherwydd ennill llogau uwch, aildrefnu dyledion, aildendro contractau neu incwm annisgwyl arall.  Dan amgylchaidau pan fo’r Pwyllgor Gwaith yn gorfod dechrau ar y gwaith o chwilio am arbedion cyllidebol ar gyfer y flwyddyn nesaf bydd unrhyw arbedion y deuir o hyd iddynt yn gorfod mynd o bosib i’r canol.  

 

 

 

Hefyd roedd y Cyfarwyddwr yn bwriadu cyfyngu ar yr amgylchiadau hynny lle mae tanwariannau yn cael eu dwyn ymlaen er mwyn sicrhau nad yw’r arian wrth gefn yn y gwasanaethau yn croni heb fod raid tra bo arian wrth gefn canolog yn mynd yn llai ac yn llai.  Er mwyn rhoi rhybydd digonol i’r rhai hynnu sy’n rheoli cyllidebau am y newidiadau hyn byddant yn dod i rym adeg cau cyfrifon 2009-10.

 

 

 

Ÿ

Y CÔD PWYLLOG

 

 

 

Mae'r fframwaith deddfwriaethol a gyflwynwyd dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn gorfodi'r Cyngor i ystyried y Côd Pwyllog yng nghyswllt Cyllid Cyfalaf i Awdurdodau Lleol.  Mae'r Pwyllgor Gwaith eisoes wedi rhoddi cadarnhad i hyn.  Gofynion pennaf y Côd Pwyllog yw bod awdurdodau yn ystyriol o fforddiadwyaeth a phwyll.

 

 

 

     5.3     Strateageth Rheoli Trysorlys 2009/10

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) yma yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen cyn dechrau blwyddyn ariannol newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, yr Arweiniad ar Fuddsoddiadau Llywodraeth Leol a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a dau gôd ymarfer a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Siartredig ar Gyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA): Côd Ymarfer Rheoli Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Côd Pwyllog ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol ac arweiniad cysylltiedig.

 

      

 

     Yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth 2002 bu i'r Cyngor fabwysiadu Datganiad Polisi Trysorlys newydd a chymalau newydd ynglyn â Rheoli Trysorlys  fel a gynghorwyd gan CIPFA ac mewn paratoad ar gyfer ei Reolau Gweithdrefn Ariannol newydd. O ganlyniad mae'n rhaid cyflwyno'r Strategaeth Rheoli Trysorlys flynyddol i'r Cyngor. Mae hynny yn gyson â'r Côd Pwyllog a'r Rheoliadau Trefniadau Gweithredol Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 sy'n datgan y dylai'r Pwyllgor Gwaith lunio unrhyw gynllun neu strategaeth i reoli benthyca neu wariant cyfalaf yr awdurdod a threfnu i'r Cyngor llawn ei fabwysiadu.

 

      

 

     Oherwydd y sefyllfa economaidd cyfyd sawl mater ei ben:-

 

 

 

Ÿ

Y Côd Pwyllgor

 

Ÿ

Strategaethau Rheoli Trysorlys a Buddsoddi

 

Ÿ

Dangosyddion Pwyllgor a Therfynau Benthyca

 

Ÿ

Cyllideb Costau Dyled

 

Ÿ

Effaith Rheoliadau Diwygiedig a’r Canllawiau Statudol Newydd

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd H. Eifion Jones “Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf roedd cyfanswm ein harian wrth gefn wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed a’r cynnydd cyffredinol yn £2.1m, a hynny wedi’i ganmol yn ddiweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru.  Yr amser yma y llynedd roedd gennym, ar ôl gwaith lobïo caled a phroffesiynol a mynd i weld y Cynulliad cyn y Nadolig, £1m yn ychwanegol i Ynys Môn.  Hefyd llwyddasom i bennu’r cynnydd yn y Dreth Gyngor ar 1.5% - yr isaf yng Nghymru - a hynny oherwydd gwaith tîm da rhwng y Pwyllgor Gwaith a’r Tîm Rheoli.

 

      

 

     Ond eleni mae’r sefyllfa’n bur wahanol ac fe wnaed rhyw ymgais dila i geisio cael rhagor o arian gan y Cynulliad, a bu dyblu yng nghynnydd y Dreth Gyngor i 3%, a thynnu mwy nag erioed o’r arian wrth gefn - 1.9m. I’r graddau fel na all y Cyfarwyddwr Cyllid gefnogi unrhyw ostyngiad pellach.  Rydym mewn cwta 12 mis wedi mynd o sefyllfa dda i sefyllfa ddrwg.

 

      

 

     Ond sut y digwyddodd hyn? Do fe fu problem gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol ond llwyddwyd i leddfu hynny gyda thanwariannau mewn adrannau eraill.  Y mae’r rheswm yn ymwneud â methu a chydnabod y problemau ariannol a methu cymryd camau prydlon.  Er enghraifft, rhyw 18 mis yn ôl sefydlwyd panel ac arno gynrychiolwyr i’r grwpiau i bwrpas moderneiddio ein gwasanaethau a chytunwyd y buasai’r gwaith yn parhau ar ôl yr etholiadau.  Ond, does dim wedi digwydd.  Pob parch i’r Pwyllgor Gwaith, ond profiad anniddorol oedd gwrando ar y drafodaeth ar y gyllideb.  Yr oedd dryswch fe ymddengys ynghylch y gwahaniaeth rhwng balansau ac arian wrth gefn ac nad oedd modd defnyddio derbynion cyfalaf yn erbyn costau refeniw.  Cafwyd ymgais hwyr i geisio deall y sefyllfa staffio.  Efallai y medrwn daflu goleuni ar beth ddigwyddodd mewn gwirionedd y llynedd.

 

      

 

     Ar ddiwedd 2007 roedd gennym 2068 o staff a hynny’n codi o 80 i 2148 erbyn diwedd 2008. Cynnydd o 1 yn unig a gafwyd tan Ebrill, cafwyd y 79 ychwanegol arall yng nghweddill y flwyddyn - sef dros 10 bob mis.  Os cymerir bod pob un yn costio £20,000 ar gyfartaledd, yna mae hyn yn rhoddi i ni £1.6m yn ychwanegol bob blwyddyn ac efallai bod yma eglurhad pam y bu’n rhaid tyrchu i’r arian wrth gefn.

 

      

 

     Dros y 5 mlynedd nesaf mae’r Cynllun Rheoli Asedion diweddaraf yn dangos y bydd angen £20m i gynnal a chadw’r Ysgolion, £1.5m i gynnal a chadw’r canolfannau hamdden a buddsoddi £5m yn y mân-ddaliadau ond dywed y Cyfarwyddwr Cyllid nad yw’r arian gennym bellach ac yn arbennig am na fedrwn werthu asedau.  Ar ôl cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith yr wythnos diwethaf yn awr mi fydd hi’n cymryd dwy flynedd arall i weithredu ar y cynllun ad-drefnu ysgolion ac nid oes ganddynt syniad sut y bydd y diffyg yn y costau cynnal a chadw canolfannau hamdden yn cael ei gyllido.  Hefyd mae rhywfaint o amheuaeth ynghylch a oes digon yng nghyllideb y blynyddoedd nesaf i orffen y gwaith ar Arfarnu Swyddi neu ddigon i gwrdd â chostau anhysbys o hyd yng nghyswllt y contract prydau ysgolion ac nid oes dim ar gael ar gyfer rhagor o gostau gyda Phenrhyn Safnas Biwmares.

 

      

 

     Yn awr bwriadaf droi at bryderon gwirioneddol eraill - rhai nad oes raid i ’run ohonom eu derbyn.  Eleni am y tro cyntaf gofynnwyd i ni fabwysiadu cynllun Tymor Canolig am y ddwy flynedd nesaf a hynny fel rhan o’r fframwaith cyllidebol.  Yn wir mae hwn yn fwy o ragamcan na chynllun gwirioneddol a dangosir cynnydd 4.5% yn y Dreth Gyngor bob blwyddyn am y 2 flynedd nesaf yn erbyn chwyddiant rhagamcanedig cenedlaethol 1%. Fodd bynnag, bydd raid mynd eto i’r arian wrth gefn i godi hanner miliwn o bunnau ac nid yw’r Cyfarwyddwr Cyllid yn cefnogi hynny, felly gall y Dreth Gyngor fynd i fyny 7%.

 

      

 

     Os rhywbeth mae’r rhagamcanion hyn yn optimistaidd ac yn cario risg a heb gynnwys eitemau megis y codiad tebygol yn y Costau Pensiwn.  Ni allaf gefnogi hyn ac yn arbennig am nad oes gennym gynllun gweithredu gwirioneddol.  Rhaid i ni dderbyn bod dirwasgiad ar y gweill yn hytrach na thwyllo ein hunain nad yw’n bod.

 

      

 

     Gyda’r toriadau sydd ar y gweill yn y sector cyhoeddus a chan y Cynulliad, ofer yw disgwyl iddynt ein cynorthwyo, ac felly rhaid i ni fod yn fforddiol a mynd ati ar fyrder i foderneiddio ein gwasanaethau.  i gyflawni hynny rhaid cael arweiniad, gwaith tîm a defnyddio ein holl adnoddau a’r cyfan o’r talentau sydd gennym.  Yn olaf, Mr Cadeirydd, gan ei bod hi’n ffasiynol dyfynnu’r Arlywydd Obama mi wnaf innau hynny:- “When people tighten their belts - so should Washington.” A gallaf ychwanegu - dylai Ynys Môn wneud yr un peth yn union.”  

 

      

 

     Diolchodd y Cynghorydd G.O.Parry,MBE, i’r Cynghorydd Jones am ei sylwadau ond teimlai bod yma elfen o anghofio yng nghyswllt paratoadau’r hen Bwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb y llynedd. Roedd y Cynghorydd Jones wedi anghofio am y gorwariant £1.2m ar y Gwasanaethau Cymdeithasol ac nid ymddangosodd hynny tan ar ôl penodi’r Pwyllgor Gwaith newydd ar ôl etholiadau mis Mai diwethaf.  Yn awr roedd y Pwyllgor Gwaith yn edrych ar yr anghenion ac at ofynion staffio.  Hefyd roedd yn cyflwyno cynlluniau yng nghyswllt materion cyfalaf.  Roedd dirwasgiad gwirioneddol ac un enfawr yn gwasgu’r holl wlad a Chynulliad Cymru newydd ddweud bod ganddynt £5 biliwn yn llai i’w wario.  Ond roedd colledion eraill hefyd - y llogau wedi syrthio a hynny yn sicr wedi taro’r holl Gyngor.  Roedd y Pwyllgor Gwaith yn ymdrechu i sicrhau y bydd cyllideb y flwyddyn nesaf o fewn cyrraedd ac y tu mewn i derfynau.

 

      

 

     Soniodd y Cynghorydd P.S.Rogers am y toriadau a gyflwynwyd i’r Cynllun Home Start.  Roedd hwn yn gynllun gwasanaethau cymdeithasol i famau’n gofalu am eu plant, ac yn cynnig cymorth gwirfoddol i gyplau ifanc oedd yn cael anawsterau ymdopi gyda bod yn famau, mynd â phlant i’r ysgol a chyfle i drafod problemau teuluol, bwyd a diet etc.  Roedd arian y Cyngor hwn yn mynd tuag at y gwasanaeth hwnnw.  Yn awr y bwriad oedd cynnal gwasanaeth gyda chymorth staff proffesiynol o’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.  Ni fedrai’r bobl hyn, yn ei farn ef, gyfathrebu gyda mamau ifanc yn wynebu anawsterau a holodd wedyn faint yr oedd hyn yn mynd i’w gostio i’r Cyngor?

 

      

 

     Ond y broblem arall oedd honno yng nghyswllt Cynllun Dechrau’n Deg i rai dwyflwydd oed, ac a gafodd lwyddiant eithriadol yn ei Ward. Roedd yno 14 o blant bach yn disgwyl am gael ymuno ers diwedd Medi.  Gofynnodd i ble yr aeth yr arian ar gyfer y cynllun hwn?  Gallai’r cynllun fod yn gymorth i rwystro cau ysgolion yn y pentrefi dan y Cynllun Ad-drefnu Ysgolion.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd G.O.Parry,MBE, yng nghyswllt y Cynllun Dechrau’n Deg bod raid i’r Pwyllgor Gwaith, pan fo’n gweithio ar y gyllideb, gael cyngor yr holl Adrannau ac ystyried y pwysau o gyfeiriad gwasanaethau statudol a hefyd y meysydd hynny oedd yn gysylltiedig gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol, ond heb fod yn statudol o angenrheidrwydd.  Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi ceisio cynnal yr holl bartneriaethau yr oedd modd eu cynnal.  Ond hefyd roedd yn rhaid ystyried yn ofalus y gwerth am arian yn sgil cyfraniadau ac ystyried a oedd gwasanaeth yn cael ei ddyblygu ryw ffordd neu’i gilydd y tu mewn i’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Yng nghyswllt Dechrau’n Deg roedd yn cael ei gyllido ar y ddealltwriaeth bod y Cyngor yn talu am y gwasanaeth gweinyddu ond hefyd gan dybio y buasai Dechrau’n Deg yn derbyn arian o fannau eraill.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd E.G.Davies ei fod yn gwbl ymwybodol o lwyddiant y cynllun Dechrau’n Deg yn Niwbwrch ac y buasai’n codi’r mater cyllido gyda’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) - swyddog na fedrai fod yn bresennol yng nghyfarfod heddiw.

 

      

 

     Ond roedd penderfyniadau anodd iawn yn wynebu’r Pwyllgor Gwaith meddai’r Cynghorydd R.Ll.Hughes ac yn arbennig yng nghyswllt mudiadau gwirfoddol nad oedd dyletswydd statudol ar y Cyngor i ddarparu arian iddynt.  Roedd y cyfan o’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn destun arolwg - nid y gwasanaethau gwirfoddol yn unig.  

 

      

 

     Diolchodd y Cynghorydd P.S.Rogers i’r Deilydd Portffolio am ei ymateb ond gofynnodd am gynnal cyfarfodydd brys gyda  Dechrau’n Deg i egluro iddynt beth yw’r sefyllfa.  Hefyd achubodd ar y cyfle i gyfeirio at y gwahaniaeth rhwng ffioedd Gofal Cartref yn y sector preifat a ffioedd y Cyngor Sir.  Cafwyd gwared o’r ffioedd ategol a hynny wedi arwain at falans teg iawn rhwng y Cartrefi Gofal.  Pwysodd yn daer ar aelodau i sicrhau na fydd gwahaniaethu eto yn cael ei gyflwyno gyda’r tâl ategol, gan fod hynny wedi achosi bedlam yn y system.

 

      

 

     Yng nghyswllt y gyllideb teimlai’r Cynghorydd E.Schofield bod rhaid iddo ymateb i sylwadau cynharach y Cynghorydd H.Eifion Jones.  Teimlai mai rhagrithiol braidd oedd iddo ef gymryd y clod am gyllideb 1.5%, a chan gofio hefyd beth oedd y Pwyllgor Gwaith presennol wedi’i etifeddu. Y gwir oedd hwn - sef bod ei ddatganiad ef yn anghywir pan ddywedodd bod y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gorwario £1.2m. Y sefyllfa wirioneddol yw bod y Gwasanaethau wedi’i dan gyllido o £1.2m ac o’r herwydd roedd hi’n hawdd iddo ef son am gyllidebau 1.5% pan nad oedd yr hen Bwyllgor Gwaith yn ysgwyddo’i gyfrifoldeb.  Y ffactor arall oedd yn cael effaith wirioneddol fawr oedd bod yr hen Bwyllgor Gwaith wedi ymgorffori yn y gyllideb gynnydd o 2% ar gyfer cyflogau.  Fodd bynnag, ar ddiwedd y dydd roedd y cynnydd hwnnw yn 2.7%.  O edrych yn ôl ar eu cyllideb cyfalaf nhw roedd hi’n deilchion.  Yn awr roedd yn rhaid i’r Pwyllgor Gwaith wynebu problemau ddifrifol ynghylch agweddau iechyd a diogelwch mewn rhai o’r canolfannau hamdden a hynny oherwydd bod yr hen Bwyllgor Gwaith wedi dibynnu’n llwyr ar werthu eiddo.  Felly roedd rhaid canmol y cynnydd 3% eleni yn wyneb yr etifeddiaeth anodd a’r costau i’r Awdurdod hwn.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd H.Eifion Jones na soniodd ef am y ffigwr o £1.2m, y Deilydd Portffolio oedd wedi dyfynnu’r ffigwr hwnnw.  Yr adeg yma y llynedd, nid oedd y Pwyllgor Gwaith yn ymwybodol o unrhyw orwariant.  Roedd hi’n ddiwedd Mawrth 2008 pan gyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith yn cyflwyno’r gyllideb.  Y ffigwr ar ôl 9 mis oedd £0.5m meddai ef.  Ond roedd tanwariannau mewn Adrannau eraill a defnyddiwyd hwnnw i gael balans yng nghyllideb y  Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd E.Schofield mai cyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith ar y pryd oedd bod yn ymwybodol o’r sefyllfa.  Bellach roedd y Pwyllgor Gwaith presennol yn ymwybodol o’r goblygiadau a dyna pam bod y Dreth Gyngor wedi’i phennu ar lefel 3%.

 

      

 

     Soniodd y Cynghorydd R.Ll.Hughes am y datganiad a wnaed gan y Cynghorydd H.Eifion Jones - a’r Cynghorydd Hughes yn dwyn sylw’r Cyngor at batrymau dros y blynyddoedd - yn 2003/04 roedd £0.5m o danwariant; yn 2004/05 roedd tanwariant £100,000; yn 2005/06 roedd gorwariant £225,000; yn 2006/07 cafwyd tanwariant £56,000 ac erbyn 2007/08 cafwyd gorwariant £1.1m.  Yn gynnar yn 2007, cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith ar sefylla’r gyllideb a nodwyd yr adeg honno “bod y ddarpariaeth gyllidebol ar y pryd yn golygu gorwariant tebygol yn 2007/08.” Dim ond £377k o’r £652k, sef diffyg o £275k a drosglwyddwyd i’r Gwasanaethau Cymdeithasol, a nodwyd hynny gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer blaenoriaethau.  Hefyd roedd rhagamcan yn yr adroddiad monitro hwnnw ar y gyllideb refeniw, y buasai gorwariant Chwarter 1 yn £500k, gorwariant Chwarter 2 yn £578k, gorwariant Chwarter 3 yn £734k a gorwariant Chwarter 4 yn £1.1m.  Gyda pharch, ni chredai nad oedd y Cynghorydd H.Eifion Jones a’r  Pwyllgor Gwaith yn gwybod yn iawn am y sefyllfa.

 

      

 

     Cynigiwyd ac eiliwyd bod y Dreth Gyngor am 2009/10 yn cael ei phennu ar 3%.  

 

      

 

     Dan ddarpariaethau Rheol 18.5 y Cyngor cytunwyd i gofnodi’r bleidlais ar y mater.

 

      

 

     O blaid y cynnig (h.y. derbyn yr adroddiad):-

 

      

 

     O blaid: Y Cynghorwyr B. Durkin, E. G. Davies, L. Davies, J. Evans, K. Evans, P. M. Fowlie, Ff. M. Hughes, K. P. Hughes, R. Ll. Hughes, T. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. M. Jones, E. Jones, G. O. Jones, O. G. Jones, R. Ll. Jones, T. Jones, C. McGregor, Rhian Medi, B. Owen, J. V. Owen, R. L. Owen,G. O. Parry, MBE, R. G. Parry, OBE, E. Roberts, P. S. Rogers, E. Schofield, I. Williams, J. Williams,J. Penri Williams.

 

      

 

     CYFANSWM: 30

 

      

 

     Yn erbyn:  Dim                                              CYFANSWM: 0

 

      

 

     Ymatal: Cynghorydd H. Eifion Jones                                        CYFANSWM: 1

 

      

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Cadarnhau’r uchafsymiau a nodir yn Atodiad A i ddibenion y Cod Pwyllog ac Adran 3.1 Deddf Llywodraeth Leol 2003 a hynny o 1 Ebrill, 2009 ymlaen.

 

 

 

Ÿ

Cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r  Strategaeth Fuddsoddi gysylltiedig am 2009/10.

 

 

 

Ÿ

Cadarnhau’r driniaeth o’r “MRP” a nodwyd yn Atodiad Ch yr adroddiad.  

 

 

 

Ÿ

Nodi treuliau dyledion a hefyd y llog a dderbynnir ar elfennau o’r gyllideb refeniw.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

     5.4     Penderfyniad y Cyngor

 

      

 

     Roedd y fersiwn ddrafft o Benderfyniad y Cyngor yng nghyswllt pennu’r Dreth Gyngor am 2009/10 yn cyffwrdd â’r holl faterion hynny yr oedd angen gwneud penderfyniad arnynt ac yn codi o gynigion y Pwyllgor Gwaith a hefyd o’r adroddiad hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

     (a)     Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith i fabwysiadu cyllideb refeniw 2009/10 fel y gwelir honno yn Nhabl A.

 

      

 

     (b)     Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith i fabwysiadu cynllun ariannol tymor canolig fel y gwelir hwnnw yn Nhabl B.

 

      

 

     (c)     Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith i fabwysiadu cynllun cyfalaf tair blynedd fel y gwelir hwnnw yn Nhabl Ch ynghyd â’r naratif cysylltiedig.

 

      

 

     (ch)     Mabwysiadu cyllideb gyfalaf 2009-10 gydag ymrwymiadau ymlaen i’r blynyddoedd dilynol fel y gwelir hwnnw yn Nhabl C.

 

      

 

     (d)     Dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith, ym mlwyddyn ariannol 2009/10 y pwerau i drosglwyddo cyllidebau rhwng penawdau fel a ganlyn:-

 

      

 

     (i)     pwerau i wario £31,229k yn Nhabl A ar gyllidebau ysgolion;

 

      

 

     (ii)     pwerau dilyffethair i wario pob pennawd cyllidebol unigol (heb gynnwys rhagamcanion               chwyddiant) yng ngholofn B Tabl A yn erbyn pob gwasanaeth unigol ac eithrio                     ysgolion, ar y gwasanaeth perthnasol;

 

      

 

     (iii)     uchafswm sero ar wyriadau rhwng gwasanaethau yn Nhabl A;

 

      

 

     (iv)     pwerau dilyffethair i wyro o’r swm £947k ar gyfer chwyddiant rhagamcanedig a’r arian                wrth gefn cyffredinol a chontractau £610k, a’r pwer hefyd i ddyrannu arbedion                     corfforaethol £110k sydd heb eu dyrannu eto, i gyllidebau’r gwasanaethau;

 

      

 

     (v)     pwerau i wyro o’r gyllideb wrth gefn Cymell Perfformiad i bwrpas gwella perfformiad ac           i roddi sylw i’r risgiau uchel a nodir yn y Cynllun Gwella ac i weithredu ar gytundebau                gwella ac i ddarparu systemau fydd yn moderneiddio’r awdurdod ac yn hwyluso'r                     broses o reoli perfformiad;

 

      

 

     (vi)     pwerau i wyro o ffynonellau newydd neu gynyddol o incwm;

 

      

 

     (vii)     pwerau i wyro o’r Arian Wrth Gefn Gwella Hamdden i bwrpas cefnogi cynigion fydd yn                cynnal neu wella’r asedion yn y gwasanaeth hamdden neu yn datblygu cyfleusterau                chwaraeon strategol;

 

      

 

     (viii)     pwerau i wyro hyd at £0.12 miliwn o’r arian wrth gefn y gwasanaeth Cynnal Adeiladau                at unrhyw bwrpas.

 

      

 

    (dd)     Am y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2012, dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith y pwerau a ganlyn:-

 

 

 

     (i)     pwerau i wneud ymrwymiadau newydd o gyllidebau refeniw blynyddoedd y dyfodol hyd               at uchafswm £1.2m bob blwyddyn yn Nhabl B, gan gydymffurfio gyda’r fframwaith                cyllidebol;

 

 

 

     (ii)     y pwer a’r ddyletswydd i baratoi cynlluniau i gyflawni arbedion refeniw cyllidebol fel y                awgrymir yn Nhabl B, gan gydymffurfio gyda’r fframwaith cyllidebol;

 

 

 

     (iii)     y pwer i ryddhau £500k arall o’r balansau cyffredinol i gyllido'r costau torri gwasanaeth           staff a hynny i bwrpas cyflawni arbedion neu effeithiolrwydd yn y dyfodol;

 

 

 

     (iv)     pwerau i wyro cyllidebau rhwng  prosiectau cyfalaf yn Nhabl C ac ymrwymo adnoddau           yn y blynyddoedd dilynnol tu mewn i’r symiau a nodir yn y cynllun cyfalaf yn Nhabl Ch                a chan gydymffurfio gyda’r fframwaith cyllidebol.

 

 

 

     (e)     Dirprwyo i’r Panel Cyflogau a Graddfeydd am Flwyddyn Ariannol 2009-10 y p?er i wyro o’r           ddarpariaeth ar gyfer Arfarnu Swyddi a Chostau Cyflogaeth, ac os bydd raid gofyn am symiau           am y blynyddoedd dilynnol - rhai a ddirprwywyd i’r Pwyllgor Gwaith yn (dd)(i) uchod.

 

 

 

      (f)     Cadarnhau y bydd eitemau (a) i (e) yn dod yn rhan o’r fframwaith cyllidebol.

 

 

 

2.     PENDERFYNWYD pennu'r dangosyddion pwyllog sy'n amcangyfrifon am 2009/10 ymlaen fel           sy'n ymddangos yn Nhabl Ch gan gadarnhau'r terfynau ar fenthyca a buddsoddi sydd wedi eu           nodi yn eitemau 10,11 a 14 i 17 yn y tabl.

 

 

 

3.     PENDERFYNWYD mabwysiadu a chadarnhau i bwrpas y flwyddyn ariannol 2009/10                benderfyniad y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 1998, bod y Cyngor Sir yn pennu lefel y          disgownt sy'n gymwys i'r Dosbarth penodedig A a Dosbarth penodedig B o anheddau dan               Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (a ddiwygiwyd), a ddisgrifir gan Rheoliadau'r           Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998, fel a ganlyn:-

 

 

 

     Dosbarth Penodedig A     Dim Disgownt

 

     Dosbarth Penodedig B     Dim Disgownt

 

 

 

4.     PENDERFYNWYD mabwysiadu a chadarnhau i bwrpas y flwyddyn ariannol 2009/10,                benderfyniad y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2007 bod y Cyngor Sir yn pennu lefel           disgownt sy'n briodol i Ddosbarth penodedig C dan Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol           1992 (a ddiwygiwyd), a ddisgrifir gan y Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth                Gyngor) a'r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio)                2004, fel a ganlyn:-

 

           

 

     Dosbarth Penodedig C     Dim Disgownt

 

 

 

5.     Nodi fod y Cyngor yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 1996 wedi penderfynu na fydd yn trin y costau      yr â'r Cyngor iddynt yn rhan o'i ardal nac wrth gyfarfod unrhyw gais neu gais arbennig fel                costau arbennig a bod y penderfyniadau i barhau mewn grym hyd oni fyddant yn cael e               i diddymu'n benodol.

 

 

 

6.     Y dylid nodi i'r Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod ar 10 Rhagfyr 2007 bennu'r symiau a ganlyn ar           gyfer y flwyddyn 2008/09 yn unol â'r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33(5) Deddf Cyllid                Llywodraeth Leol 1992:-

 

 

 

     a)     29,235.65 yw'r swm a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol â rheoliad 3                     Rheoliadau Awdurdodau Lleol, (Cyfrifiad o Sail y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995, yn sail                y Dreth Gyngor am y flwyddyn.

 

 

 

b)     Rhan o Ardal y Cyngor:

 

 

 
 

 

Amlwch

1,407.54

 

Biwmaris

1,040.71

 

Caergybi

3,663.30

 

Llangefni

1,820.64

 

Porthaethwy

1,379.25

 

Llanddaniel-fab

348.39

 

Llanddona

348.13

 

Cwm Cadnant

1,133.20

 

Llanfair Pwllgwyngyll

1,280.67

 

Llanfihangel Esceifiog

612.99

 

Bodorgan

423.38

 

Llangoed

606.09

 

Llangristiolus & Cerrigceinwen

568.42

 

Llanidan

388.26

 

Rhosyr

956.84

 

Penmynydd

178.78

 

Pentraeth

494.57

 

Moelfre

596.86

 

Llanbadrig

629.77

 

Llanddyfnan

454.31

 

Llaneilian

519.10

 

Llannerch-y-medd

485.03

 

Llaneugrad

176.91

 

Llanfair Mathafarn Eithaf

1,725.46

 

Cylch y Garn

374.77

 

Mechell

523.57

 

 

Rhos-y-bol

440.40

 

Aberffraw

277.47

 

Bodedern

395.55

 

Bodffordd

400.42

 

Trearddur

1,186.16

 

Tref Alaw

241.32

 

Llanfachraeth

219.26

 

Llanfaelog

1,141.47

 

Llanfaethlu

266.74

 

Llanfair-yn-neubwll

570.88

 

Y Fali

943.25

 

Bryngwran

331.21

 

Rhoscolyn

338.45

 

Trewalchmai

346.13

 

 

 

     sef y symiau a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol â rheoliad 6 y Rheoliadau, yn symiau           sail y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn gyda golwg ar y tai annedd yn y rhannau hynny o'i ardal           lle bo un eitem arbennig neu fwy'n berthnasol.

 

 

 

6B.     PENDERFYNWYD rhagweld praesept o £1,800 yn  achos Cyngor Cymuned Llaneugrad yn           unol â Rheoliadau Awdurdodau Bilio (Rhagweld Praeseptau) 1992 (fel y’i diwygiwyd).  Gweler           nodyn (i) isod.

 

 

 

7.     Bod y symiau a ganlyn bellach yn cael eu pennu gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2009/10 yn           unol ag Adrannau 32 i 36  Deddf Cyllid  Llywodraeth Leol  1992:-

 

 

 

     a)     £172,597,668.25     sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar                          gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2) (a) i (d) y Ddeddf.

 

 

 

     b)     £  56,049,530.00     sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar                          gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3) (a) ac (c) y                                    Ddeddf.

 

 

 

     c)     £116,548,138.25     sef y swm sy'n cyfateb i'r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 7(a)                               uchod a chyfanswm 7(b) uchod, a bennwyd gan y Cyngor, yn                          unol ag Adran 32(4) y Ddeddf, yn gyllideb angenrheidiol ar                               gyfer y flwyddyn.

 

 

 

     ch)     £  92,653,424.00     sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn amcangyfrif y                                    byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i gronfa'r cyngor                                    gyda golwg ar drethi annomestig a ail-ddosberthir, a grant                               cynnal refeniw gan dynnu unrhyw swm a bennwyd yn unol ag                          Adran 33(3B) y Ddeddf.

 

 

 

     d)     £            817.31          sef y swm yn 7(c) uchod llai'r swm yn 7(ch) uchod, gan                                    rannu'r cyfan â'r swm a nodir yn 6(a) uchod, a bennwyd gan y                          Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 33(1) y Ddeddf, sef sail y                               dreth gyngor am y flwyddyn.

 

 

 

     dd)     £      803,228.25          sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn                                    Adran 34(1) y Ddeddf.

 

 

 

     e)     £            789.84          sef y swm yn 7(d) uchod llai'r canlyniad a geir wrth rannu'r                               swm yn 7(dd) uchod â'r swm yn 6(a) uchod, a bennwyd gan y                          Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 34 (2) y Ddeddf, sef sail y                               dreth gyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau                               hynny o'r ardal lle na fo unrhyw eitem arbennig yn berthnasol.

 

 

 

 

 

f)

Rhan o Ardal y Cyngor

 

D

 

Amlwch

£

838.01

 

Biwmaris

£

814.81

 

Caergybi

£

852.22

 

Llangefni

£

842.13

 

Porthaethwy

£

836.13

 

Llanddaniel-fab

£

805.20

 

Llanddona

£

804.63

 

Cwm Cadnant

£

813.67

 

Llanfair Pwllgwyngyll

£

813.66

 

Llanfihangel Esceifiog

£

805.75

 

Bodorgan

£

798.11

 

Llangoed

£

804.50

 

Llangristiolus & Cerrigceinwen

£

796.88

 

Llanidan

£

809.16

 

Rhosyr

£

806.49

 

 

Penmynydd

£

798.23

 

Pentraeth

£

812.89

 

Moelfre

£

805.34

 

Llanbadrig

£

798.84

 

Llanddyfnan

£

803.58

 

Llaneilian

£

803.04

 

Llannerch-y-medd

£

799.68

 

Llaneugrad - Nodyn (i)

£

800.01

 

Llanfair Mathafarn Eithaf

£

815.56

 

Cylch y Garn

£

801.18

 

Mechell

£

799.39

 

Rhos-y-bol

£

803.46

 

Aberffraw

£

811.46

 

Bodedern

£

802.48

 

Bodffordd - Nodyn (ii)

£

800.33

 

Trearddur

£

805.35

 

Tref Alaw

£

800.72

 

Llanfachraeth

£

808.42

 

Llanfaelog

£

805.52

 

Llanfaethlu

£

801.09

 

Llanfair-yn-neubwll

£

802.10

 

 

Y Fali

£

806.27

 

Bryngwran

£

807.96

 

Rhoscolyn

£

795.75

 

Trewalchmai

£

805.73

 

 

 

sef y symiau a geir trwy ychwanegu at y swm a geir yn 7(e) uchod symiau'r eitem neu'r eitemau arbennig sy'n berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod wedi'u rhannu ym mhob achos gan y swm yn 6(b) uchod, a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith yn unol ag Adran 34(3) y Ddeddf, sef sail y dreth gyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o'i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy'n berthnasol.

 

 

 

 

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

 

 

 

             ff)

Rhan o Ardal y Cyngor:

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Amlwch

£

558.68

651.79

744.90

838.01

1,024.24

1,210.47

1,396.69

1,676.03

1,955.37

 

Biwmaris

£

543.20

633.74

724.27

814.81

995.88

1,176.94

1,358.01

1,629.61

1,901.22

 

Caergybi

£

568.15

662.84

757.53

852.22

1,041.60

1,230.98

1,420.36

1,704.44

1,988.51

 

Llangefni

£

561.42

654.99

748.56

842.13

1,029.28

1,216.42

1,403.56

1,684.27

1,964.98

 

Porthaethwy

£

557.42

650.33

743.23

836.13

1,021.94

1,207.75

1,393.55

1,672.27

1,950.98

 

Llanddaniel-fab

£

536.80

626.26

715.73

805.20

984.13

1,163.06

1,341.99

1,610.39

1,878.79

 

 

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

 

 

 

             ff)

Rhan o Ardal y Cyngor:

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Llanddona

£

536.42

625.83

715.23

804.63

983.44

1,162.25

1,341.06

1,609.27

1,877.48

 

Cwm Cadnant

£

542.44

632.85

723.26

813.67

994.48

1,175.30

1,356.11

1,627.33

1,898.55

 

Llanfair Pwllgwyngyll

£

542.44

632.84

723.25

813.66

994.47

1,175.28

1,356.09

1,627.31

1,898.53

 

Llanfihangel Esceifiog

£

537.16

626.69

716.22

805.75

984.80

1,163.85

1,342.91

1,611.49

1,880.07

 

Bodorgan

£

532.07

620.75

709.43

798.11

975.46

1,152.82

1,330.18

1,596.21

1,862.25

 

Llangoed

£

536.33

625.72

715.11

804.50

983.28

1,162.06

1,340.84

1,609.00

1,877.17

 

Llangristiolus & Cerrigceinwen

£

531.25

619.79

708.34

796.88

973.96

1,151.04

1,328.13

1,593.75

1,859.38

 

 

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

 

 

 

             ff)

Rhan o Ardal y Cyngor:

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Llanidan

£

539.44

629.34

719.25

809.16

988.97

1,168.78

1,348.59

1,618.31

1,888.03

 

Rhosyr

£

537.66

627.27

716.88

806.49

985.70

1,164.92

1,344.14

1,612.97

1,881.80

 

Penmynydd

£

532.15

620.85

709.54

798.23

975.61

1,153.00

1,330.38

1,596.46

1,862.54

 

Pentraeth

£

541.93

632.25

722.57

812.89

993.53

1,174.17

1,354.82

1,625.78

1,896.74

 

Moelfre

£

536.89

626.38

715.86

805.34

984.30

1,163.27

1,342.23

1,610.68

1,879.13

 

Llanbadrig

£

532.56

621.32

710.08

798.84

976.35

1,153.87

1,331.39

1,597.67

1,863.95

 

Llanddyfnan

£

535.72

625.00

714.29

803.58

982.15

1,160.72

1,339.29

1,607.15

1,875.01

 

 

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

 

 

 

             ff)

Rhan o Ardal y Cyngor:

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Llaneilian

£

535.36

624.59

713.81

803.04

981.49

1,159.95

1,338.40

1,606.08

1,873.76

 

Llannerch-y-medd

£

533.12

621.97

710.83

799.68

977.39

1,155.09

1,332.80

1,599.36

1,865.92

 

Llaneugrad

£

533.34

622.23

711.12

800.01

977.80

1,155.58

1,333.36

1,600.03

1,866.70

 

Llanfair Mathafarn Eithaf

£

543.70

634.32

724.94

815.56

996.79

1,178.03

1,359.26

1,631.11

1,902.97

 

Cylch y Garn

£

534.12

623.14

712.16

801.18

979.22

1,157.26

1,335.30

1,602.36

1,869.42

 

Mechell

£

532.93

621.75

710.57

799.39

977.03

1,154.67

1,332.32

1,598.78

1,865.24

 

Rhos-y-bol

£

535.64

624.92

714.19

803.46

982.01

1,160.56

1,339.11

1,606.93

1,874.75

 

 

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

 

 

 

             ff)

Rhan o Ardal y Cyngor:

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Aberffraw

£

540.98

631.14

721.30

811.46

991.79

1,172.11

1,352.44

1,622.93

1,893.42

 

Bodedern

£

534.99

624.15

713.32

802.48

980.81

1,159.14

1,337.47

1,604.96

1,872.45

 

Bodffordd

£

533.55

622.48

711.40

800.33

978.18

1,156.03

1,333.88

1,600.66

1,867.43

 

Trearddur

£

536.90

626.39

715.87

805.35

984.32

1,163.29

1,342.26

1,610.71

1,879.16

 

Tref Alaw

£

533.81

622.78

711.75

800.72

978.66

1,156.60

1,334.54

1,601.44

1,868.35

 

Llanfachraeth

£

538.95

628.77

718.60

808.42

988.07

1,167.72

1,347.37

1,616.84

1,886.31

 

Llanfaelog

£

537.01

626.52

716.02

805.52

984.53

1,163.53

1,342.54

1,611.04

1,879.55

 

 

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

 

 

 

             ff)

Rhan o Ardal y Cyngor:

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Llanfaethlu

£

534.06

623.07

712.08

801.09

979.11

1,157.13

1,335.14

1,602.17

1,869.20

 

Llanfair-yn-neubwll

£

534.73

623.86

712.98

802.10

980.35

1,158.59

1,336.84

1,604.20

1,871.57

 

Y Fali

£

537.52

627.10

716.69

806.27

985.44

1,164.62

1,343.79

1,612.55

1,881.30

 

Bryngwran

£

538.64

628.41

718.18

807.96

987.50

1,167.05

1,346.59

1,615.91

1,885.23

 

Rhoscolyn

£

530.50

618.92

707.33

795.75

972.58

1,149.42

1,326.25

1,591.50

1,856.75

 

Trewalchmai

£

537.15

626.68

716.20

805.73

984.78

1,163.83

1,342.88

1,611.46

1,880.04

 

 

 

sef  y symiau a geir trwy luosi'r symiau yn 7(e) a 7(f) uchod a'r rhif sydd, yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5(1) y Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd a restrir mewn band prisiau arbennig wedi'i rannu a'r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny'n berthnasol i dai a restrir ym mand prisiau D, a bennir gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, yn symiau sydd i'w hystyried ar gyfer y flwyddyn gyda golwg ar y categorïau o dai annedd a restrir yn y gwahanol fandiau prisiau.

 

 

 

8.

Y dylid nodi ar gyfer y flwyddyn 2009/10 fod Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru wedi nodi'r symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i'r Cyngor, yn unol ag Adran 40 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ar gyfer pob un o'r categorïau o dai annedd a ddangosir isod:-

 

 

 

     Awdurdod Praeseptio                                                              Bandiau Prisiau

 

 

 

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru th Wales Police Authority

 

130.32

152.04

173.76

195.48

238.92

282.36

325.80

390.96

456.12

 

 

 

9.

Wedi pennu'r cyfanswm ym mhob achos o'r symiau yn 7(ff) a 8 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, drwy hyn, yn pennu'r symiau a ganlyn ar gyfer y dreth gyngor yn y flwyddyn 2009/10 ar gyfer pob categori o dai annedd a ddangosir isod:-

 

 

 

 

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

 

 

 

 

Rhan o Ardal y Cyngor:

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Amlwch

£

689.00

803.83

918.66

1,033.49

1,263.16

1,492.83

1,722.49

2,066.99

2,411.49

 

Biwmaris

£

673.52

785.78

898.03

1,010.29

1,234.80

1,459.30

1,683.81

2,020.57

2,357.34

 

Caergybi

£

698.47

814.88

931.29

1,047.70

1,280.52

1,513.34

1,746.16

2,095.40

2,444.63

 

Llangefni

£

691.74

807.03

922.32

1,037.61

1,268.20

1,498.78

1,729.36

2,075.23

2,421.10

 

 

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

 

 

 

 

Rhan o Ardal y Cyngor:

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Porthaethwy

£

687.74

802.37

916.99

1,031.61

1,260.86

1,490.11

1,719.35

2,063.23

2,407.10

 

Llanddaniel-fab

£

667.12

778.30

889.49

1,000.68

1,223.05

1,445.42

1,667.79

2,001.35

2,334.91

 

Llanddona

£

666.74

777.87

888.99

1,000.11

1,222.36

1,444.61

1,666.86

2,000.23

2,333.60

 

Cwm Cadnant

£

672.76

784.89

897.02

1,009.15

1,233.40

1,457.66

1,681.91

2,018.29

2,354.67

 

Llanfair Pwllgwyngyll

£

672.76

784.88

897.01

1,009.14

1,233.39

1,457.64

1,681.89

2,018.27

2,354.65

 

Llanfihangel Esceifiog

£

667.48

778.73

889.98

1,001.23

1,223.72

1,446.21

1,668.71

2,002.45

2,336.19

 

Bodorgan

£

662.39

772.79

883.19

993.59

1,214.38

1,435.18

1,655.98

1,987.17

2,318.37

 

 

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

 

 

 

 

Rhan o Ardal y Cyngor:

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Llangoed

£

666.65

777.76

888.87

999.98

1,222.20

1,444.42

1,666.64

1,999.96

2,333.29

 

Llangristiolus & Cerrigceinwen

£

661.57

771.83

882.10

992.36

1,212.88

1,433.40

1,653.93

1,984.71

2,315.50

 

Llanidan

£

669.76

781.38

893.01

1,004.64

1,227.89

1,451.14

1,674.39

2,009.27

2,344.15

 

Rhosyr

£

667.98

779.31

890.64

1,001.97

1,224.62

1,447.28

1,669.94

2,003.93

2,337.92

 

Penmynydd

£

662.47

772.89

883.30

993.71

1,214.53

1,435.36

1,656.18

1,987.42

2,318.66

 

Pentraeth

£

672.25

784.29

896.33

1,008.37

1,232.45

1,456.53

1,680.62

2,016.74

2,352.86

 

Moelfre

£

667.21

778.42

889.62

1,000.82

1,223.22

1,445.63

1,668.03

2,001.64

2,335.25

 

 

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

 

 

 

 

Rhan o Ardal y Cyngor:

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Llanbadrig

£

662.88

773.36

883.84

994.32

1,215.27

1,436.23

1,657.19

1,988.63

2,320.07

 

Llanddyfnan

£

666.04

777.04

888.05

999.06

1,221.07

1,443.08

1,665.09

1,998.11

2,331.13

 

Llaneilian

£

665.68

776.63

887.57

998.52

1,220.41

1,442.31

1,664.20

1,997.04

2,329.88

 

Llannerch-y-medd

£

663.44

774.01

884.59

995.16

1,216.31

1,437.45

1,658.60

1,990.32

2,322.04

 

Llaneugrad

£

663.66

774.27

884.88

995.49

1,216.72

1,437.94

1,659.16

1,990.99

2,322.82

 

Llanfair Mathafarn Eithaf

£

674.02

786.36

898.70

1,011.04

1,235.71

1,460.39

1,685.06

2,022.07

2,359.09

 

Cylch y Garn

£

664.44

775.18

885.92

996.66

1,218.14

1,439.62

1,661.10

1,993.32

2,325.54

 

 

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

 

 

 

 

Rhan o Ardal y Cyngor:

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Mechell

£

663.25

773.79

884.33

994.87

1,215.95

1,437.03

1,658.12

1,989.74

2,321.36

 

Rhos-y-bol

£

665.96

776.96

887.95

998.94

1,220.93

1,442.92

1,664.91

1,997.89

2,330.87

 

Aberffraw

£

671.30

783.18

895.06

1,006.94

1,230.71

1,454.47

1,678.24

2,013.89

2,349.54

 

Bodedern

£

665.31

776.19

887.08

997.96

1,219.73

1,441.50

1,663.27

1,995.92

2,328.57

 

Bodffordd

£

663.87

774.52

885.16

995.81

1,217.10

1,438.39

1,659.68

1,991.62

2,323.55

 

Trearddur

£

667.22

778.43

889.63

1,000.83

1,223.24

1,445.65

1,668.06

2,001.67

2,335.28

 

Tref Alaw

£

664.13

774.82

885.51

996.20

1,217.58

1,438.96

1,660.34

1,992.40

2,324.47

 

 

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

 

 

 

 

Rhan o Ardal y Cyngor:

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Llanfachraeth

£

669.27

780.81

892.36

1,003.90

1,226.99

1,450.08

1,673.17

2,007.80

2,342.43

 

Llanfaelog

£

667.33

778.56

889.78

1,001.00

1,223.45

1,445.89

1,668.34

2,002.00

2,335.67

 

Llanfaethlu

£

664.38

775.11

885.84

996.57

1,218.03

1,439.49

1,660.94

1,993.13

2,325.32

 

Llanfair-yn-Neubwll

£

665.05

775.90

886.74

997.58

1,219.27

1,440.95

1,662.64

1,995.16

2,327.69

 

Y Fali

£

667.84

779.14

890.45

1,001.75

1,224.36

1,446.98

1,669.59

2,003.51

2,337.42

 

Bryngwran

£

668.96

780.45

891.94

1,003.44

1,226.42

1,449.41

1,672.39

2,006.87

2,341.35

 

Rhoscolyn

£

660.82

770.96

881.09

991.23

1,211.50

1,431.78

1,652.05

1,982.46

2,312.87

 

 

 

 

 

 

Bandiau Prisiau

 

 

 

 

Rhan o Ardal y Cyngor:

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Trewalchmai

£

667.47

778.72

889.96

1,001.21

1,223.70

1,446.19

1,668.68

2,002.42

2,336.16

 

 

 

      

 

6

LWFANSAU AELODAU

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) yn nodi bod Adroddiad Cyntaf Panel Cydnabyddiaeth Ariannol Cymru wedi’i gyhoeddi ym mis Medi 2008, a chafodd sylw’r Pwyllgor Gwaith yn Nhachwedd 2008 ac wedyn yn y Cyngor llawn yn Rhagfyr 2008.  Roedd hwnnw’n rhoddi sylw i gyfraddau lwfansau am y flwyddyn ariannol 2008/09.  Bellach mae’r Panel Cydnabyddiaeth Ariannol wedi cyhoeddi adroddiad atodol yn delio gyda chyfraddau ar gyfer 2009-10.  Mae’r cyfraddau hyn i gyd yn cyfateb i uchafsymiau.  Gall yr awdurdod fabwysiadu ffigyrau is ac efallai y bydd aelodau unigol yn dymuno peidio â hawlio lwfansau neu hawlio rhan ohonynt yn unig.

 

 

 

Ÿ

Lwfansau Safonol

 

Ychwanegwyd 2.5% at y lwfans sylfaenol uchaf.  Petai’r un newidiadau yn cael eu defnyddio i ddiwygio cynllun yr awdurdod hwn buasai hynny’n cynyddu’r swm o £12,645 i £12,960.

 

 

 

Ÿ

Lwfans Cyfrifoldeb Arbennig

 

Ychwanegwyd 2.5% at y rhain hefyd a rhestrwyd y cyfraddau newydd yn yr adroddiad :-

 

 

 

Ÿ

Lwfansau Gofal

 

Ychwanegwyd 5% at y lwfans gofal uchaf a’i godi i £4,836.

 

Y mae gwahaniaeth rhwng arferion yr awdurdodau yng nghyswllt hawlio’r lwfans hwn ond ceir goleuni ar y mater gan y Panel Cydnabyddiaeth pan ddywed y bydd Lwfans Gofal yn cael ei gadw fel lwfans sy’n cyfrannu at gostau gofalu yn hytrach nag ad-daliad o gostau gwirioneddol ar hyn o bryd.  Roeddent yn atgoffa’r cynghorau bod angen iddynt gael prosesau priodol ar waith lle mae’n rhaid i gynghorwyr sy’n wynebu costau gofalu am ddibynyddion gadarnhau’r costau a dalwyd ganddynt cyn y byddant yn gallu hawlio uchafswm lwfans.  Rhaid i gynghorwyr barhau i fodloni eu cynghorau ei bod yn rhesymol ac yn briodol iddynt dderbyn y lwfans hwn.

 

 

 

Bwriadaf newid y trefniadau o 1 Ebrill 2009 ymlaen fel bod aelodau wedyn yn hunandystio eu treuliau i bwrpas hawlio’r lwfans yn ôl amlinelliad y Panel.

 

 

 

Ÿ

Lwfansau i Rai Cyfetholedig

 

 

 

Roedd peth ansicrwydd ynghylch pwy oedd yn gymwys i dderbyn y lwfans newydd hwn pan gafodd ei gyflwyno yn 2008 a phenderfynodd y Cyngor Sir ohirio ei gyflwyno hyd nes cael goleuni arno.  Bellach mae adroddiad atodol y Panel Cydnabyddiaeth yn egluro bod y lwfans hwn ar gael yn unig i aelodau, sydd heb fod yn Gynghorwyr, ac sydd gyda hawliau pleidleisio ar y Pwyllgor Safonau, y Pwyllgor Trosolwg Addysg a’r Pwyllgorau Sgriwtini.  Uchafswm 2009-10 yw £1,486 i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau a £779 i eraill.

 

 

 

Mae gan y Cyngor un Cadeirydd a phedwar aelod lleyg ar y Pwyllgor Safonau, a dau aelod cyfetholedig addysg sy’n gwasanaethu ar y Prif Bwyllgor Sgriwtini a’r Pwyllgor Trosolwg Polisi Addysg.  Pe câi’r lwfansau hyn eu talu ar y raddfa uchaf bosib costiau hynny i’r awdurdod hwn £6,160 yn ychwanegol y flwyddyn.   Yn yr adroddiad roedd manylion am batrymau mynychu’r cyfetholedigion yn y cyfarfodydd.

 

 

 

Os ydyw lwfans i rai cyfetholedig yn cael ei fabwysiadu bydd hwnnw’n berthnasol i’r holl unigolion cyfetholedig hyn : ni all y Cyngor benderfynu talu i rai ond nid i eraill.

 

 

 

Ÿ

Lwfans Teithio a Chynhaliaeth

 

Nid yw’r Panel Cydnabyddiaeth wedi newid lwfansau teithio 2008.

 

 

 

Fodd bynnag, mae cyfraddau cynhaliaeth ddyddiol yn codi i uchafswm o £28 y dydd a chynhaliaeth dros nos yn codi i uchafswm £124 yn Llundain a £95 y tu allan.  Fel cynt, bydd raid darparu derbynebion wrth gyflwyno ceisiadau.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd T. Lloyd Hughes nad oedd yn cytuno gyda’r codiad yn y cyflog ac y dylid gadael pethau fel y maent ac o’r herwydd cynigiodd bod y Cyngor, fel esiampl, yn gwrthod y cynnydd am o leiaf 12 mis arall.

 

      

 

     Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd R. Ll. Jones.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd T. Jones am gyfarwyddyd ynghylch y posibilrwydd o gael opsiwn arall a allai fod yn dderbyniol i’r aelodau, sef cynnydd o 2.5% ar y lwfans sylfaenol a dim o gwbl yng nghyswllt lwfans cyfrifoldeb arbennig.

 

      

 

     Wedyn soniodd y Cynghorydd G. O. Parry bod yr adroddiad gerbron yn sgil argymhelliad gan Banel

 

     Cydnabyddiaeth Ariannol Cymru.  Fodd bynnag, yr aelodau eu hunain oedd yn penderfynu derbyn y cynnwys ai peidio.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd T. Jones gymryd y trywydd hwn.

 

      

 

     Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. V. Owen.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd B. Durkin na fedrai gytuno gan fod Cynghorwyr yn gweithio’n galed iawn ac yn gweithio oriau maith yn achlysurol.  Yn wir roeddynt yn haeddu’r swm hwn.  Sut y medrai’r Cynghorau annog y math iawn o bobl i sefyll yn y dyfodol os nad oedd y rheini yn mynd i gael cydnabyddiaeth ddigonol.

 

      

 

     Cynigiwyd ac eiliwyd na ddylid talu lwfans i aelodau cyfetholedig.  Llwyddodd y cynnig.

 

      

 

     Colli a wnaeth y cynnig i beidio â chael cynnydd yn y lwfans sylfaenol na’r lwfans arbennig am 12 mis - colli o 18 i 10 pleidlais a’r Cynghorwyr J. V. Owen a J. Penri Williams yn ymatal rhag pleidleisio.

 

      

 

     Llwyddodd yr ail gynnig, sef cynyddu’r lwfans sylfaenol yn unig a hynny o 2.5%. Roedd y  Cynghorwyr J. V. Owen a J. Penri Williams yn dymuno nodi nad oeddynt wedi pleidleisio.

 

      

 

     Holodd rhai aelodau a oedd elfen o dalu ddwywaith yng nghyswllt Lwfansau Gofal sy’n cael eu hawlio trwy’r Cyngor a hefyd drwy ffynonellau eraill?

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod Panel Cydnabyddiaeth Ariannol Cymru yn disgwyl i aelodau hunandystio eu treuliau i bwrpas hawlio’r lwfans ac mai hon oedd yr unig ddyfais ataliol yn ei lle i rwystro twyll.  Cytunodd bod y system yn un wan ond heb fod mor wan â’r system sydd yn ei lle ar hyn o bryd.

 

      

 

     Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid mabwysiadu’r trefniadau a argymhellwyd i hawlio Lwfansau Gofal (5%).

 

     Unwaith eto roedd y  Cynghorwyr J. V. Owen a J. Penri Williams yn dymuno nodi nad oeddynt wedi pleidleisio ar y mater.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Peidio â mabwysiadu’r lwfansau i gyfetholedigion;

 

 

 

Ÿ

Cynyddu cyfradd y lwfans sylfaenol yn ôl yr uchafsymiau newydd yn unig;

 

(dim cynnydd yn y lwfans cyfrifoldeb arbennig);

 

 

 

Ÿ

Mabwysiadu’r trefniadau hynny a argymhellwyd gan y Panel i bwrpas hawlio Lwfansau Gofal;

 

 

 

Ÿ

Nodi’r cyfraddau sy’n daladwy am deithio a chynhaliaeth.

 

      

 

7     CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL: ASESIAD O GYMERIAD ARDAL GADWRAETH PORTH AMLWCH

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Thechnegol) - Dan y Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 mae angen i Awdurdodau Lleol ddynodi fel Ardal Gadwraeth "Unrhyw ardal o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol arbennig y mae ei chymeriad neu ei hedrychiad yn ddymunol i'w gadw neu i'w wella".

 

      

 

     Mae angen hefyd i awdurdodau lleol adolygu eu hardaloedd cadwraeth o bryd i'w gilydd ac ystyried a oes angen am ddynodiadau ychwanegol.

 

      

 

     Er mwyn cyflawni'r gofynion o dan y Ddeddf mae'r Adran Amgylchedd Adeiledig a Thirwedd yn y Gwasanaeth Cynllunio yn gwneud rhaglen dreigl o adolygiadau i bob un o'r Ardaloedd Cadwraeth ar Ynys  Môn.

 

      

 

     Er mwyn rhoddi i'r Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol ei statws priodol, fe ddylai gael ei fabwysiadu trwy benderfyniad y Cyngor llawn.

 

      

 

     Mae'r gwerthusiad cymeriad wedi edrych ar y ffin bresennol a nodi a oedd angen unrhyw newidiadau i'r dynodiad gwreiddiol.  Roedd yn canolbwyntio hefyd ar ddiddordebau hanesyddol arbennig, cymeriad, edrychiad a chadwraeth fel sy'n cael ei bwysleisio yn Neddf 1990.  Mae'r gwerthusiad yn argymell rhai newidiadau i'r ffin.

 

      

 

     Ar ôl dilyn paratoi'r ddogfen ddrafft fe roddwyd rhybudd cyhoeddus yn y wasg leol.  Dilynwyd hyn gan gyfnod o chwe wythnos o ymgynghori cyhoeddus rhwng 6 Hydref 2008 a 14 Tachwedd 2008.

 

      

 

     Cafwyd un ymateb a hwnnw gan hanesydd lleol.  Nid oedd yr un gwrthwynebiad i’r newidiadau i’r ffiniau nac i’r asesiad o gymeriad.

 

 

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Asesiad o Gymeriad Ardal Gadwraeth Porth Amlwch fel Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol.

 

      

 

8

CWESTIWN A DDERBYNIWYD DAN REOL 4.1.12.4 Y CYFANSODDIAD

 

      

 

     Gofynnwyd y cwestiwn a ganlyn gan y Cynghorydd P. S. Rogers:-

 

      

 

     At Arweinydd y Cyngor

 

      

 

     Ar ba ddyddiad y llofnodwyd y contract prydau ysgol gydag Eden Foods?”

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd nad oedd cytundeb llawn wedi’i lofnodi eto.

 

      

 

     Wedyn cafwyd y cwestiwn atodol hwn gan y Cynghorydd Rogers:-

 

      

 

     “Do you agree, Mr Leader, that this leaves the County Council in a very vulnerable position in financial terms with a contract such as this, because not only have we changed the procurement policy in the middle of it when it was disclosed about the procurement policy, which was against all our beliefs and rules in fact. We are now 7-8 months down the road and we still have not got a contract. We are still losing school numbers and even losing those on free school meals. The food is terrific but we need to tweak the procedure, we need to help these schools maintain their canteens. It is the schools that are trying to safeguard the service. The Council are dealing with a company now, and I believe that we are writing open cheques to them. You as Leader of the Council have a great responsibility on this. The problem is that you will not listen to what is happening out there.

 

      

 

     Can you give us some idea as to when that contract will be signed and when we can have a proper figure of what it is costing to run this diabolical service?”

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd “It is not a diabolical service and I make that quite clear to you at the outset. No, I am not concerned that the final contract is not signed, because there is a letter of intent with the Company dated 2nd September, 2008. I do not accept what you are saying and I am perfectly happy that we are in a sound position to carry on with the service that is being provided in our schools. I have every faith that the contract will be signed when we are in the correct position and it is right to do so.”  

 

      

 

9

SWYDDOGAETHAU A DDIRPRWYWYD I’R ARWEINYDD

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Rheolwr-Gyfarwyddwr yn nodi newidiadau i’r cynllun dirprwyo ynghylch swyddogaethau Gweithredol a gyflawnwyd gan yr Arweinydd ers y cyfarfod arferol diwethaf (Rheol 4.4.1.4 Rheolau Gweithdrefn Trefniadau Gweithredol - tudalen 134 y Cyfansoddiad).

 

           

 

     10   DERBYN DEISEB

 

 

 

Cyflwynodd y Cynghorydd R.Ll.Jones ddeiseb, un i’r Rheolwr-gyfarwyddwr a siaradodd arni (wedi’i llofnodi gan dros 200 o unigolion) :-

 

 

 

“We the undersigned residents of Ynys Mon wish to protest very strongly at the action taken against the Portfolio Holder for Planning, Cynghorydd R.Llewelyn Jones. We value the right of free speech - we will not stand by and see it taken away from us. Our Island’s future depends on residents and Councillors being able to speak out and to voice our concerns.”

 

 

 

 

 

 

 

Yn unol â Para.4.1.11. y Cyfansoddiad, cafwyd cynnig o’r llawr bod y mater, o gofio mai’r Cynghorydd Jones oedd Deilydd Portffolio Cynllunio, yn cael ei drosglwyddo i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ei ystyried.

 

 

 

Ni chredai’r Cynghorydd R.Ll.Jones mai hwnnw oedd y Pwyllgor priodol a chynigiodd drosglwyddo’r mater i’r Prif Bwyllgor Sgriwtini - nid i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

 

Dan ddarpariaethau Rheol 18.5 y Cyngor, cofnodwyd y bleidlais ar y mater (h.y. cyfeirio’r mater i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion):-

 

 

 

 

 

O blaid: Y Cynghorwyr: B.Durkin, E.G.Davies, L.Davies, J.Evans, P.M.Fowlie, K.P.Hughes, R.Ll.Hughes, W.I.Hughes, A.M.Jones, E.Jones, G.O.Jones, O.Glyn Jones, C.McGregor, B.Owen, R.L.Owen, G.O.Parry,MBE, R.G.Parry,OBE, E.Roberts, E.Schofield, I.Williams, J.Williams

 

Cyfanswm: 21

 

 

 

Yn erbyn: (h.y. bod y mater yn cael ei drosglwyddo i’r Prif Bwyllgor Sgriwtini): Y Cynghorwyr K.Evans, H.E.Jones, R.Ll.Jones, T.Ll.Hughes, J.V.Owen, J.Penri Williams.                                                                                                                                             Cyfanswm: 6

 

 

 

Ymatal: Y Cynghorwyr Ff.M.Hughes, T.Jones,R.Medi.

 

                                                  Cyfanswm: 3

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 4.15 p.m.

 

 

 

 

 

CYNGHORYDD ALED MORRIS JONES

 

CADEIRYDD