Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 5 Mai 2009

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 5ed Mai, 2009

CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 5 Mai 2009 (11:00am)  

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Aled Morris Jones - Cadeirydd

Y Cynghorydd O Glyn Jones - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr  W.J.Chorlton; E.G.Davies; Lewis Davies;

Barrie Durkin; Jim Evans; C.Ll.Everett; Fflur M.Hughes; R.Ll.Hughes; T. Ll. Hughes, W.I.Hughes; Eric Jones. H.Eifion Jones; R.Dylan Jones; T.H.Jones; C.McGregor;Bryan Owen; J.V.Owen; R.L.Owen; R.G.Parry OBE; G.O.Parry MBE; Eric Roberts; G.W.Roberts OBE, Peter S. Rogers, J.Arwel Roberts; E.Schofield; Hefin W.Thomas; Ieuan Williams; J.Penri Williams; Selwyn Williams;

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol)

Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

Swyddog y Wasg

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr K. Evans; P. M. Fowlie; D. R. Hughes;

K. P. Hughes; G. O. Jones; Rhian Medi.

___________________________________________________________________________

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd E G Davies.

 

Cyflwynwyd - Cyflwyniad byr gan Dr Will Roberts, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Ynys Môn ar Iechyd Pobl Ynys Môn yn y gorffennol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

 

Cafodd yr Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau.

 

Ar ran y Cyngor, diolchodd y Cadeirydd i Dr Roberts am ei gyflwyniad a hefyd am y gwaith a wnaeth fel Cadeirydd y Bwrdd Iechyd Lleol dros y blynyddoedd.

 

(Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ddatganiad o ddiddordeb ar y mater ac nid oedd yn bresennol am y cyflwyniad nac am y cwestiynau wedyn).

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd J V Owen ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 7 y cofnodion hyn ac nid oedd yn y cyfarfod am y drafodaeth na’r pleidleisio arni.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Selwyn Williams ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 2 y cofnodion hyn, arhosodd yn y cyfarfod ond ni chymerodd ran yn y drafodaeth nac yn y pleidleisio.

 

Gwnaeth y Cynghorydd H W Thomas ddatganiad o ddiddordeb ynghylch unrhyw fater o fusnes ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab gyda’r Awdurdod.

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W J Chorlton ddatganiad o ddiddordeb ynghylch unrhyw fater o fusnes ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd C L Everett ddatganiad o ddiddordeb ynghylch unrhyw fater o fusnes ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Personel.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Fflur M.Hughes ddatganiad o ddiddordeb ynghylch unrhyw fater o fusnes ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei mab yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd E Schofield ddatganiad o ddiddordeb ynghylch unrhyw fater o fusnes ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wyr yn yr Adran Briffyrdd.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd B Owen ddatganiad o ddiddordeb ynghylch unrhyw fater o fusnes ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G W Roberts, OBE ddatganiad o ddiddordeb ynghylch unrhyw fater o fusnes ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd O Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb ynghylch unrhyw fater o fusnes ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig a’i ferch yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

2

NEWIDIADAU i STRWYTHUR Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL

 

 

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro - Yn nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y broses o gyflwyno newidiadau mawr i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gyda’r nod o ddileu cystadleuaeth a hynny trwy greu un system yn unig i gynllunio ac i ddarparu’r gwasanaeth a chyflwyno dull gweithio gyda’r pwyslais ar yr unigolyn.

 

 

 

Ar 9 Ebrill, 2009 rhoes y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sylw i bapur ymgynghorol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ddiwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.  Roedd Cynghorau Cymru wedi mynegi pryderon oherwydd colli’r cyfle i ymwneud ar lefel leol ac oherwydd yr effaith ar bartneriaethau lleol.

 

 

 

Yn y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol penderfynwyd y dylid gyrru copi o’r adroddiad at bob Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru yn gofyn am gymeradwyaeth i’r cynigion isod:

 

 

 

Ÿ

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gwbl gefnogol i’r sefyllfa fel y gwelir honno ym mhapur Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dyddiedig 1 Ebrill, 2009 (ynghlwm wrth yr adroddiad hwn)

 

Ÿ

Ni fydd Cyngor Sir Ynys Môn yn cefnogi’r syniad fod ei Gyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Tai yn rhan o Fwrdd terfynol y Bwrdd Iechyd Lleol.

 

Ÿ

Ni fydd Cyngor Sir Ynys Môn yn enwebu yr un Aelod i’r Gweinidog ystyried ei enw ar gyfer Bwrdd y Bwrdd Iechyd Lleol.

 

Ÿ

Cred Cyngor Sir Ynys Môn bod angen ystyried yn nawr sut y gall y Bwrdd Iechyd Lleol newydd weithio’n effeithiol gyda’i bartneriaid lleol a phenderfynu ar y modelau fydd yn gweithio orau i bob ardal.

 

Ÿ

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cytuno y gall Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn mynegi sylwadau Cynghorau Gogledd Cymru gyda’i gilydd.

 

 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro at y papur briffio oedd ynghlwm ac a baratowyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a bod cryn dipyn o anniddigrwydd wedi’i fynegi ar lefel genedlaethol ymhlith y Cynghorau ar hyd a lled Cymru yng nghyswllt gostwng nifer yr aelodau etholedig ar y  Bwrdd Iechyd newydd a gwneud i ffwrdd â phwerau Cyfarwyddwr y  Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Yn y cyswllt hwn cafwyd sawl barn gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn enwedig y pryder ynghylch democratiaeth yn lleol a dylanwad democratiaeth leol ar y Bwrdd newydd.  Hefyd roedd peth ansicrwydd ynghylch beth yr oedd y Gweinidog yn ei wneud yng nghyswllt penodi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i fod ar bob Bwrdd a phetai yn cael un yna un yn unig a geid i bob rhanbarth.  Hefyd credai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod hyn yn cryfhau’r sefyllfa ar lefel broffesiynol.  

 

 

 

Argymhellion cryno Bwrdd y Bartneriaeth Rhanbarthol oedd gwrthod enwebu cynrychiolwyr ar hyn o bryd a rhoi’r awdurdod i Fwrdd y Bartneriaeth a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru barhau i ddwyn pwysau ar y gweinidog i newid ei meddwl.

 

 

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cynigion a gafwyd gan Fwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol fel y manylwyd arnynt ym mharagraff 2 yr adroddiad.

 

 

 

3

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETH TÂL

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Fand Pres Ifanc Gwynedd a Môn ar ennill y wobr gyntaf a chael yn gydnabyddiaeth Gwpan Ieuenctid Cymdeithas Bandiau Prydain a hynny ar ôl perfformiad rhagorol mewn cystadleuaeth genedlaethol ym Manceinion ar 5 Ebrill, 2009.

 

 

 

Dymunwyd pen-blwydd hapus i’r Cynghorydd Tom Jones a oedd yn 60 oed heddiw.

 

 

 

Hefyd llongyfarchwyd disgyblion o Ynys Môn a fu’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn y Bae yng Nghaerdydd dros y Sulgwyn.

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd wedyn groeso i Mr Richard Parry Jones, y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro a dymunodd yn dda iddo yn ei swydd.

 

 

 

Soniodd y Cadeirydd am waeledd y Cynghorydd P M Fowlie a oedd oherwydd ei iechyd wedi ildio swydd Arweinydd y Cyngor.  Talwyd teyrnged i’r Cynghorydd gan y Cadeirydd, Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol, y Cynghorwyr G W Roberts OBE, W J Chorlton, R G Parry OBE a Clive McGregor gan ddymuno iddo adferiad iechyd buan.  

 

 

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Bryan Owen, Deilydd Portffolio Datblygu Economaidd a Thwristiaeth ddiolch ar ran y Cyngor i’r Adain Dwristiaeth ar ôl hyrwyddo gwyl o gerddoriaeth gwlad Iwerddon a Chymru ar Gae’r Sioe dros y penwythnos diwethaf - achlysur eithriadol o lwyddiannus.  Y gobaith oedd cynnal achlysur tebyg y flwyddyn nesaf.

 

 

 

Cydymdeimlwyd gyda’r  Cynghorydd Ken Hughes ar golli ei fam a hefyd gyda theulu’r cyn Gynghorydd Handel Morgan.  Am flynyddoedd roedd Mr Morgan wedi cynrychioli Ward Cefni a bu’n Cadeirydd y Cyngor hwn yn 1998-1999.  Ar un adeg bu’n Ddeilydd Portffolio Addysg, yn aelod o’r Orsedd ac wedi cynrychioli’r athrawon ar Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

 

 

Cydymdeimlwyd gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr Mrs Sharon Wyn Woolley, athrawes yn Ysgol Gynradd Llanfachraeth a fu farw’n ddiweddar mewn damwain.

 

 

 

Aeth y Cadeirydd ymlaen i gydymdeimlo gydag unrhyw aelod o’r staff neu gydag unrhyw aelod a oedd wedi cael profedigaeth.

 

 

 

Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch.

 

 

 

4

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gafwyd ar y dyddiadau a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

5 Mawrth, 2009

 

Ÿ

27 Mawrth, 2009 (Arbennig)(2:00 pm)

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd W J Chorlton at baragraff cyntaf y cofnodion gan godi cwestiwn eto ynghylch sefyllfa’r Cadeirydd yn cadeirio’r cyfarfod.  Gofynnodd a oedd modd derbyn y cofnodion fel cofnod cywir?

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro bod y cofnodion yn adlewyrchiad cywir o’r hyn a ddigwyddodd yn y cyfarfod ac i hwnnw gael ei gadeirio un ai gan y Cadeirydd neu, yn ei absenoldeb, gan yr Is-Gadeirydd.  Felly roedd y cyfarfod wedi’i Gadeirio’n briodol a’r cofnodion felly yn adlewyrchiad cyfreithlon ar beth a ddigwyddodd.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd W J Chorlton ei fod yn derbyn y dehongliad hwnnw ond ni allai gytuno gyda’r dehongliad a hynny am na chredai bod y Cadeirydd yn y Gadair ar y pryd.

 

_____

 

 

 

Wedyn dygodd y Cynghorydd Chorlton sylw’r aelodau at bedwerydd paragraff Tudalen 13 y cofnodion gan nodi ei fod o’r farn bod datganiad ar goll o’r cofnodion verbatim - sef bod y Cynghorydd G O Parry, MBE wedi dweud rhai geiriau hallt.  Cynigiodd y dylid cynnwys ei sylwadau fel cywiriad i’r cofnodion.  Cafodd y cynnig ei eilio.

 

 

 

Cyn cymryd y bleidlais roedd y Cynghorydd Ff M Hughes yn dymuno cofnodi nad oedd hyn yn feirniadaeth ar swyddogion a oedd yn cadw cofnodion o gyfarfodydd y Cyngor, a chyda rhai o’r cofnodion roedd unigolyn yn teimlo, o’u darllen, ei fod yn y cyfarfod ei hun.  Roedd y cofnodion hyn yn fanwl iawn.  Credai’r Cynghorydd bod angen synnwyr cyffredin.

 

 

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion fel cofnod cywir gyda’r amod bod Swyddogion yn cyflwyno adroddiad yn ôl i gyfarfod cyffredin y Cyngor ym Medi ar yr union sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd G O Parry, MBE yn y cyfarfod uchod.

 

 

 

Ÿ

27 Mawrth, 2009 (Arbennig)(4:45pm)

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd C L Everett nad oedd y cofnodion yn gofnod manwl gywir a chyfeiriodd at yr hyn a ddywedodd y Cynghorydd Fflur Hughes yn gynharach, sef nad oedd y Cyngor yn cefnogi stenograffwyr yma.  Ond, tra oedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn ddiweddar, gofynnodd am gofnodion manwl gywir a rhoes ei longyfarchiadau i’r swyddog dan sylw am y gwaith a wnaeth yn ôl ei ddymuniad.

 

 

 

Aeth ymlaen i sôn am y cyngor a roddwyd ar y dydd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

 

a phryderon hwnnw ynghylch yr effaith ariannol ar y Cyngor a bod y rhesymau am y penderfyniad ar y dydd yn seiliedig ar y llythyr Archwilio Blynyddol.  Nid oedd hynny’n berffaith gywir, oherwydd fe gyflwynwyd rhesymau eraill i’r Cyngor ar y dydd gan y Deilydd Portffolio a chyfeiriwyd at baragraffau penodol yn Llythyr Archwilio Blynyddol.  Teimlai ef y dylai’r cofnodion adlewyrchu’r sefyllfa hon.  Yn y Llythyr Blynyddol roedd sawl peth calonogol ond o edrych ar y cofnodion crewyd argraff bod y cyfan o’r Llythyr Blynyddol yn ddrwg.  Ond nid felly yr oedd pethau a bod angen cywiro’r cofnodion i adlewyrchu hynny.

 

Wrth ymateb dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro ei bod yn derbyn nad oedd y cofnodion yn gofnod llawn, manwl gywir o’r drafodaeth y prynhawn hwnnw ond bod y Cyngor, erbyn hyn, yn gorfod derbyn cytundeb cyfaddawd ac ni fuasai hi’n hapus gydag unrhyw gofnod a âi ymhellach na’r hyn oedd gerbron yr aelodau heddiw.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd C L Everett yn dymuno cofnodi yn y cofnodion nad oedd ef, fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio ar y pryd, yn hapus gydag union eiriad y cofnodion yng nghyswllt hyn.

 

 

 

Adleisio sylwadau’r Cynghorydd Everett a wnaeth y Cynghorydd W J Chorlton a’i fod ef hefyd yn dymuno cofnodi nad oedd y cofnodion yn gywir yn eu dull verbatim a nododd y dylid eu cywiro ar gyfer troi atynt yn y dyfodol.

 

 

 

Ond ar ôl yr eglurhad cyfreithiol a roddwyd gan y Swyddog Monitor, tynnodd y Cadeirydd y drafodaeth i ben ar y mater.

 

 

 

5

RHEOLWR-GYFARWYDDWR / PENNAETH Y GWASANAETH TÂL

 

 

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) yn egluro teitl a chyfrifoldebau’r swydd dros dro.

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) i’r Cyngor Sir yn ei ail gyfarfod ar 27 Mawrth, 2009 benderfynu, inter alia, fel a ganlyn -

 

      

 

     dylid penodi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden) yn Bennaeth y Gwasanaethau Tâl ar sail dros dro yn syth ar ôl dwyn y cytundeb i ben a thalu honorariwm iddo sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyflog gwirioneddol y Cyfarwyddwr Corfforaethol a phwynt cyntaf graddfa cyflog y cyn Reolwr-gyfarwyddwr (hyd at Awst 2006) ar ei werth cyfredol.

 

      

 

     Yn y Cyfansoddiad nid oedd y teitl “Pennaeth y Gwasanaeth Tâl” yn cynnwys “Rheolwr-gyfarwyddwr” yn y Cynllun Dirprwyo i Swyddogion - 3.5.3.1, ond roedd “Rheolwr-gyfarwyddwr”  yn cynnwys “Pennaeth y Gwasanaeth Tâl” a phwerau eraill gan gynnwys rhai yng nghyswllt etholiadau ac roedd y rheini’n angenrheidiol.

 

      

 

     Felly awgrymwyd y dylid diwygio’r penderfyniad blaenorol fel a ganlyn:-

 

      

 

     dylid penodi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden) yn Rheolwr-gyfarwyddwr a Phennaeth y Gwasanaeth Tâl ar sail dros dro, yn syth ar ôl dwyn y cytundeb i ben, a thalu honorariwm iddo sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyflog gwirioneddol y Cyfarwyddwr Corfforaethol a phwynt cyntaf graddfa cyflog y cyn Reolwr-gyfarwyddwr (hyd at Awst 2006) ar ei werth cyfredol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD diwygio penderfyniad blaenorol y Cyngor i ddarllen fel yr uchod.

 

      

 

     (Roedd Mr Richard Parry Jones wedi datgan diddordeb yn y mater ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r pleidleisio).

 

 

 

6

NEWIDIADAU I’R CYFANSODDIAD

 

      

 

     (a)  Ychwanegiad at Bwerau Dirprwyol y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro fel y cyflwynwyd hwnnw i’r Pwyllgor Gwaith ar 28 Ebrill, 2009.

 

      

 

     Dywedwyd bod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn diwygio’r Cyfansoddiad trwy ychwanegu at y Cynllun Dirprwyo i Swyddogion y geiriau a ganlyn yn 3.5.3.20.1 (xiv):-

 

      

 

     I gyflawni swyddogaethau’r Cyngor a gwneud penderfyniadau ar roddi caniatâd dan Ddeddf Gallu Meddyliol 2005 a’r Gwarchodion Rhag Colli Rhyddid.”

 

      

 

     PENDERFYNWYD cadarnhau argymhellion y Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt hyn.

 

      

 

     (b)  Ychwanegu at bwerau dirprwyol y Gwasanaethau Amgylcheddol      

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro fel y cyflwynwyd hwnnw i’r Pwyllgor Gwaith ar 28 Ebrill, 2009.

 

      

 

     Dywedwyd bod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn diwygio’r Cyfansoddiad trwy ychwanegu at yr Atodiad y ddeddfwriaeth y cyfeiriwyd ati yn yr adroddiad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cadarnhau argymhellion y Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt hyn.

 

      

 

7

GWEITHDREFN GWYNION CORFFORAETHOL

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro fel y cyflwynwyd hwnnw i’r Pwyllgor Gwaith ar 28 Ebrill, 2009.

 

      

 

     Dweud bod y Pwyllgor Gwaith wedi PENDERFYNU argymell i’r Cyngor Sir:-

 

 

 

Ÿ

Ei fod yn diwygio'r Cyfansoddiad drwy fabwysiadu'r Drefn Gwyno a Chanmol Gorfforaethol fel y nodir hynny yn y dogfennau yn atodiadau 1(i) ac 1(ii) yr adroddiad.

 

 

 

Ÿ

Bod y drefn yn cael ei monitro gan y Pwyllgor Gwaith ymhen 6 mis.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd C L Everett iddo gadeirio’r pwyllgor penodol hwn am oddeutu 5 mlynedd a diolchodd i Mr Meirion Jones am ei waith ar y weithdrefn gwynion gorfforaethol.  Teimlai ef bod angen cyfleu’r neges i’r staff yng nghyswllt cynnwys y weithdrefn gwynion gorfforaethol.  Gofynnodd a oedd modd gwneud hynny trwy system gyflogau’r Cyngor.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd Mr Meirion Jones (Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro) mai’r bwriad oedd sicrhau’r cyhoeddusrwydd mwyaf bosib yn fewnol ac yn allanol.

 

 

 

PENDERFYNWYD cadarnhau argymhellion y Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt hyn.

 

 

 

8     BALANS GWLEIDYDDOL

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro.

 

      

 

     Ar ôl yr etholiad ac ar ôl cyfarfod y Cyngor Sir ar 9 Mai 2008 dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro bod newidiadau wedi digwydd i aelodaeth y grwpiau gwleidyddol a bod y Cyngor yn ei gyfarfod ar 16 Medi wedi adolygu trefniadau balans gwleidyddol ar Bwyllgorau’r Cyngor.

 

      

 

     Ym Mai 2008 roedd 40 o aelodau ar y Cyngor a chyfanswm y seddu i’w rhannu yn 120.  Dyma’r manylion:-  Annibynwyr Gwreiddiol (60), Plaid Cymru / Party of Wales 8 (24), Llafur 5 (15), Môn Ymlaen 4 (12), Aelodau Rhydd (Barrie Durkin, J V Owen & Peter Rogers).

 

      

 

     Erbyn 16 Medi, 2008 roedd dau aelod rhydd wedi ymuno, ym Mai, gyda’r Grwp Annibynwyr Gwreiddiol a hynny’n gwneud hwnnw y grwp mwyafrifol.  Fodd bynnag, gwnaeth y Cyngor benderfyniad i lynu wrth y status quo fel a ganlyn “heb unrhyw aelodau’n pleidleisio yn erbyn, i gadw’r statws quo a symud ymlaen yn unol â’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar 9 Mai, 2008 (h.y. bod y Cynghorydd Peter Rogers yn cadw’r 3 sedd oedd wedi’u dyrannu iddo).”

 

 

 

     Cyn ymddiswyddiad John Williams roedd y manylion yn 20/8/5/4/3.  Mae modd awgrymu eto y gellid glynu wrth y status quo tan ar ôl yr is-etholiad, ac adolygu’r balans gwreiddiol wedyn.  Ond buasai hynny’n annheg â’r ddau aelod rhydd - Keith Evans a Robert Ll Jones, a fuasai heb gadair o gwbl ac ni fuasai’n deg disgwyl i Peter Rogers rannu ei seddau gyda nhw gan mai dim ond un rhan o dair o’r seddi a roddwyd i’r aelodau rhydd ar y pryd oedd ganddo.  Ar hyn o bryd roedd aelodaeth y Cyngor yn 39 ac Aelodaeth y Grwpiau fel a ganlyn:-  Annibynwyr Gwreiddiol 19, Plaid Cymru/Party of Wales 8, Llafur 5, Môn Ymlaen 4, Aelodau Rhydd (Keith Evans, Robert Ll Jones & Peter Rogers) 3.

 

 

 

     Roedd hi’n ymddangos bod 3 phosibilrwydd ar gael i’r Cyngor:-

 

 

 

Ÿ

Gadael y dyraniad fel y mae a gofyn i’r 3 aelod rhydd benderfynu ymhlith eu hunain ar y dyraniad a gofyn i’r Grwp Annibynwyr Gwreiddiol ddyrannu eu seddi i’w haelodau a chan gynnwys J V Owen a Barrie Durkin.  Petai’r aelod newydd ar ôl is-etholiad 14 Mai 2009, ddim yn ymuno gyda’r Grwp Annibynwyr Gwreiddiol (h.y. yn lle John Williams) yna buasai’n rhaid adolygu’r balans gwleidyddol unwaith yn rhagor.

 

 

 

Ÿ

Newid y dyraniad i 8/5/19/4/3 (cyfanswm 39) a dyrannu seddi i gyfateb i 39, a dilyn y camau uchod yng nghyswllt aelodau rhydd a’r Grwp Annibynwyr Gwreiddiol yng nghyswllt dyrannu seddi.  Ar ôl yr is-etholiad buasai’n rhaid adolygu’r balans gwleidyddol.

 

 

 

Ÿ

Roedd yr ail bosibilrwydd yn llai sefydlog - dan hwnnw ac i gael y balans cywir yn gyffredinol roedd balans o’r fath yn rhoi sedd ychwanegol i Plaid Cymru/Party of Wales ar y Pwyllgor Datblygu Gwasanaethau Sylfaenol ac Adnoddau, yn erbyn y syniad o rowndio’r dyraniad yn naturiol ar y Pwyllgor hwn.  Mae’n debyg y buasai’r sedd ychwanegol yn cael ei hildio ar ôl tri mis unwaith yr oedd y balans yn cael ei ddiwygio ar ôl yr is-etholiad. Felly buasai sefyllfa o’r fath yn gwneud y posibilrwydd uchod yn un gwell.

 

 

 

Ÿ

Ond, roedd un gwahaniaeth arall sef bod yr ail bosibilrwydd yn seiliedig ar 39 a hynny’n newid dyraniad y seddi ar y Panel Tâl a Graddfeydd, gan wneud iawn am y gwahaniaeth ar y Panel Penodi i’r Pwyllgor Safonau.  Roedd y seddi ar y Panel  Tâl a Graddfeydd wedi achosi cryn gynnen y llynedd pryd yr awgrymodd yr aelodau y dylid rhoi llais i’r holl grwpiau ar y Panel hwn. Roedd hyn yn awgrymu trydydd posibilrwydd - yn dilyn y posibilrwydd cyntaf - a rhannu yn ôl 40 ond yn dilyn dyraniad yr ail bosibilrwydd ar y ddau bwyllgor olaf.   Nid oedd y dyraniad hwn gyda ‘balans’ gwell na phosibilrwydd 1.

 

 

 

     Ynghlwm roedd tri Thabl yn adlewyrchu trefniadau balans gwleidyddol i’r tri phosibilrwydd.  Onid oedd y symiau yn rhoddi rhifau crwn a chyflawn ar gyfer cyfanswm y seddi ac yng nghyswllt seddi ar bwyllgorau unigol (yn fathemategol bron yn amhosib, os oedd cyfanswm 120 o seddi i’w rhannu ymhlith 39 o Gynghorwyr), yna buasai’n rhaid cael ffracsiynau, a buasai cydymffurfiad hollol gywir yn amhosibl.  Ond roedd yn rhaid anelu am y cydymffurfiad gorau bosib gyda’r ffigyrau ac yn ôl yr egwyddorion yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

 

      

 

     Roedd yn rhaid i bob grwp gwleidyddol ar y Cyngor neilltuo’r seddi a roddir iddo dan y trefniadau balans gwleidyddol i’w aelodau ei hun - ni allai roddi sedd i Gynghorydd nad oedd yn aelod o’r un grwp gwleidyddol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD 

 

      

 

Ÿ

Derbyn y trydydd posibilrwydd yn yr adroddiad.

 

 

 

Ÿ

Nodi’r trefniadau balans gwleidyddol newydd a nifer y seddi a roddir i bob Grwp ac i’r Aelodau Rhydd dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

 

 

 

Ÿ

Cytuno ar y nifer gron o seddi i’r Aelodau Rhydd.

 

 

 

Ÿ

Gofyn i Arweinyddion y Grwpiau am restr o enwau Cynrychiolwyr eu Grwpiau ar bob Pwyllgor a chyflwyno’r rheini i Reolwr y Gwasanaethau Pwyllgor yn syth ar ôl cyfarfod pnawn y Cyngor Sir ar 5 Mai 2009 fel bod modd gwneud trefniadau i baratoi rhestr derfynol o aelodau’r holl Bwyllgorau cyn cynnal y cyfarfodydd i ethol Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion i Bwyllgorau’r Cyngor ar fore 6 Mai 2009.

 

 

 

Ÿ

Gofyn i’r 3 Aelod Rhydd benderfynu ymhlith ei gilydd ar ba Bwyllgorau y dymunent eistedd gan gydymffurfio gyda’r trefniadau Balans Gwleidyddol sydd yn yr adroddiad i’r Cyngor hwn a rhoddi gwybod yn yr un modd i Reolwr y Gwasanaethau Pwyllgor yn syth ar ôl cyfarfod pnawn y Cyngor Sir ar 5 Mai 2009.  Onid yw’n bosib iddynt gytuno ar y mater rhoi’r awdurdod i Arweinydd y Cyngor benderfynu ar y dyraniadau a rhoddi’r wybodaeth honno wedyn i’r Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor.  

 

 

 

9     DADL CYFLWR YR ARDAL

 

      

 

     Cafwyd y cyflwyniad a ganlyn gan y Dirprwy Arweinydd:-

 

 

 

     “Wrth ddechrau’r anerchiad hwn mae’n bwysig cofio fod y 12 mis diwethaf wedi cynnig sawl her.  Fel pob ardal mae effeithiau y dirwasgiad economaidd yn dod yn fwy fwy amlwg ac yn ystod y misoedd diwethaf gwelwyd colli swyddi yn lleol.  Gyda’r dirwasgiad economaidd y daw ansicrwydd i lawer a gall hyn effeithio ar rai o wasanaethau’r Cyngor – y galw cynyddol am wasanaethau cynghori ayyb.  Mae lefelau tlodi ac amddifadedd hefyd yn dod yn fwy amlwg a rhai ardaloedd yn dioddef mwy na’i gilydd.  Mae’n bwysig ein body n cynllunio ar gyfer effaith hyn ar ein gwasanaethau ac yn cynllunio ar y cyd gydag asiantaethau eraill.  Gan ein bod yn byw mewn ardal sy’n dibynnu llawer ar nifer fechan o brif gyflogwyr yr her i ni fel Awdurdod ac asiantaethau eraill ydi diogelu y rhain a sicrhau fod cyfleoedd i bobl ifanc gael gwaith yma yn y dyfodol.

 

      

 

     Arweiniad cymunedol ydi un o brif gyfrifoldebau’r Cyngor – cynnig arweiniad mewn cyfnod o ddirwasgiad.  Yn gynharach eleni trefnodd y Cyngor Sir  ‘Economic Summit’ yn lleol er mwyn hybu gwell cyd-weithio rhwng ein partneriaid i ddelio hefo’r her sy’n ein wynebu oll.  Mae’r gwaith hwn wedi ei gydnabod yn genedlaethol a hoffwn ddiolch i bawb a fu ynghlwm gyda’r gwaith trefnu a’r gweithredu a fu ers y cyfarfod cyntaf.  Cynnal momentwm i’r gwaith hwn sy’n bwysig rwan i’r ardal.  

 

     Fel y gwyr pawb mae gwarchod economi yr Ynys yn flaenoriaeth i’r Awdurdod hwn.  Mae dyfodol Alwminiwm Môn a’r Wylfa yn holl bwysig i’r ardal.  Fel Awdurdod rydym wedi bod yn gweithio’n galed dros y misoedd diwethaf i sicrhau dyfodol hir dymor i Alwminiwm Môn a hefyd yn lobio’r Llywodraeth i sicrhau gorsaf bwer newydd yn yr Wylfa.  Bydd yr Awdurdod yn parhau i roi y flaenoriaeth uchaf i’r gwaith hwn.  Mae’r ddau brif gyflogwr yn cynnig cyfleon gwaith heb eu hail ac mae’n holl bwysig ein bod yn cydnabod eu cyfraniad i economi’r Ynys.

 

      

 

     Mae cyfraniad canolfan Llu Awyr y Fali hefyd yn holl bwysig i’r ardal.  Cyhoeddwyd nifer o welliannau pwysig a buddsoddiad sylweddol i wella cyfleusterau yno yn ystod y blynyddoed nesaf.  Bellach mae Pencadlys y ‘search and rescue service’ yn y Fali ac mae gwasanaeth cymunedol y safle yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi.  

 

      

 

     Fel ardal wledig mae twristiaeth yn cynnig llawer o gyfleoedd ac yn bwysig o ran yr economi.  Mae ffigyrau ymwelwyr i’r ardal yn galonogol ac yn ystod y llynedd daeth 1.4miliwn o ymwelwyr i’r ardal – cynnydd o 400,000 dros y flwyddyn flaenorol.  Wrth son am dwristiaeth dylid manteisio ar y cyfle i son am botensial arfordir Ynys Môn o ran hybu twristiaeth gynaliadwy.  Rydym yn ffodus fel ardal ein bod yn derbyn arian cyd-gyfeiriant ac mae llawer o waith i’w wneud eto i sicrhau y byddwn yn gallu bwrw ati i wireddu nifer o gynlluniau gan gynnwys y strategaeth arfordirol.    Wrth gwrs, un o’r datblygiadau arwyddocaol ydi’r ‘Cruise Ships’ i Caergybi a’r manteisio a ddaw gyda hyn.

 

      

 

     Yn ystod y misoedd diwethaf cyhoeddwyd amcangyfrifon poblogaeth awdurdodau lleol Cymru gan y Cynulliad.  Wrth i ni gynllunio ein gwasanaethau i’r dyfodol mae’n bwysig ein bod yn cadw mewn côf sut y bydd natur ein poblogaeth yn newid dros y blynyddoedd nesaf e.e. bydd angen i ni ofyn sawl cwestiwn pwysig fel; a ydym yn darparu yn ddigonol ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio?

 

      

 

     Fel awdurdod mae gennym gyfrifoldeb i ofalu am bob oedran â gwahanol anghenion.  Mae’r ganolfan integredig newydd yn Llangefni a hefyd  Ysgol y Graig yn cynnig modelau ar gyfer y dyfodol.  Dylid hefyd son am y ganolfan i bobl gydag anableddau dysgu ym Mona - canolfan sydd bellach yn cael ei enwi ar ôl y diweddar Byron Williams.  Eisoes mae Ysgol y Graig wedi derbyn canmoliaeth cenedlaethol o ran y gwaith o ddylunio’r adeilad.

 

      

 

     Wrth ofalu am lles ein poblogaeth dylid cyfeirio hefyd at ein cyfrifoldeb i weithredu disgwyliadau’r Cynulliad.  Un enghraifft o hyn ydi’r adroddiad ar achos e-coli a gyhoeddwyd yn ddiweddar a bydd angen i ni gynllunio yn ofalus yn y dyfodol yn wyneb disgwyliadau penodol.  

 

      

 

     Mae’r blynyddoedd nesaf hefyd yn mynd i fod yn her mewn gwahanol ffyrdd.  Mae cyhoeddi cyllideb y llywodraeth yn golygu gwasgfa pellach o ran adnoddau a bydd y Pwyllgor Gwaith yn rhoi sylw buan i’r gwaith o baratoi cyllideb y flwyddyn nesaf.  Wrth lunio’r gyllideb eleni penderfynwyd ymdrin yn sensitif a’r wasgfa economaidd drwy rewi ffioedd e.e. prydau ysgol.  Bydd paratoi’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf a’r tymor canol yn waith anodd gan fod adnoddau yn lleihau a bydd angen gwneud nifer o benderfyniadau – rhai anodd mae’n debyg.  Bydd y pwysau i wneud arbedion effeithlonrwydd yn amlwg.

 

      

 

     Rydym eisioes fel Pwyllgor Gwaith wedi dechrau cynllunio i’r dyfodol a gwnaed nifer o benderfyniadau arwyddocaol – y gwaith ar resymoli ysgolion a chanolfannau hamdden.  Materion pwysig fydd angen sylw buan.

 

      

 

     Mae nifer o gynlluniau arloesol yn fy marn i wedi eu cwblhau ac wedi cael sylw anrhydeddus.  Cwblhawyd Oriel Syr Kyffin a chyfleusterau ail-gylchu a gorsaf bwer ym Mhenesgyn i enwi ond ychydig.

 

        

 

     Mae llawer o gynnydd wedi digwydd yn lleol i gwrdd â thargedau ail-gylchu a chompostio y Cynulliad.  Rydym yn ddiolchgar i drigolion Ynys Môn am eu cyd-weithrediad.  Mae’r Cyngor wedi cyrraedd targedau ail-gylchu a chompostio’r Cynulliad flwyddyn ymlaen llaw na’r targedau a osodwyd yn wreiddiol.  Wedi dweud hyn yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Cynulliad eu strategaeth ail-gylchu i’r dyfodol – bydd hyn yn her arall.

 

      

 

     Wrth son am dargedau llwyddiant ysgubol i’r ardal ydi Maes Awyr Môn.  Bellach mae dros 28,000 o bobl wedi teithio sy’n fwy na’r targed gwreiddiol ac mae blwyddyn o’r cytundeb ar ôl.  Byddwn yn ymgyrchu’n frwd i sicrhau parhad y gwasanaeth i’r dyfodol.  Mae teithio o Ynys Môn i Gaerdydd bellach yn fwy hwylus ac mae’r gwasanaeth tren uniongyrchol hefyd yn gam i’r cyfeiriad hwnnw.  Wedi dweud hyn mae sicrhau gwelliannau rhwng Ynys Môn a’r tir mawr yr un mor bwysig a byddwn yn parhau i bwyso ar y Cynulliad i wella llif traffig ar draws y Fenai.  

 

      

 

     Mae gwella ansawdd bywyd yn un o amcanion craidd y Cyngor Sir.  Mae gwaith ein holl bartneriaethau strategol i’w llongyfarch am wneud gwahaniaeth i fywyd y boblogaeth rydym yn eu gwasanaethu. Mae hyn yn berthnasol i bob oedran.  Wrth son am ansawdd bywyd rhaid hefyd manteisio ar y cyfle hwn i gyfeirio at y gwaith sy’n cael ei wneud yn y sector dai a’r buddsoddiad sylweddol sydd ar waith ar hyn o bryd i wella cyflwr ein stoc tai i gwrdd â safonau WHQS erbyn 2012.  Mae’r cynllun hefyd yn cynnig gwaith i nifer o gontractwyr lleol ac mae hyn i’w groesawu.  Mae gwaith y gangiau cymunedol hefyd i’w llongyfarch ar draws yr Ynys.  

 

      

 

     Fel mae pawb yn ymwybodol yn dilyn cyhoeddi llythyr blynyddol y Rheolwr Perthynas mae tim swyddfa archwilio Cymru bellach wedi treulio pythefnos yma fel rhan o’r archwiliad ar drefniadau llywodraethu.  Rydym yn disgwyl adborth ddiwedd yr wythnos hon gan y tim archwilio ac yna ym mis Mehefin y byddwn yn derbyn yr adroddiad terfynol.  Rwy’n mawr obeithio y byddwn fel Cyngor Sir yn gallu symud ymlaen mewn modd adeiladol i ddelio gyda’r adroddiad holl bwysig hwn.  Rhaid cydnabod nad yw’r misoedd diwethaf wedi bod yn hawdd, ond mae’n holl bwysig bellach fod pawb yn cydweithio er lles dyfodol y Cyngor Sir.

 

      

 

     Tra ein bod yn cyfeirio at yr archwiliad hwn rhaid cofio bod sawl archwiliad pwysig arall yn wynebu nifer o’n gwasanaethau yn ddiweddarach eleni gan gynnwys y gwasanaeth Addysg yn yr Hydref.  Rwy’n mawr obeithio y bydd canlyniad cadarnhaol i’r archwiliadau hyn.

 

      

 

     Yn ystod y dyddiau diwethaf cafwyd sylw rhyngwladol i iechyd y cyhoedd a’r ffliw moch yn benodol.  ‘Rydym yn cydweithio’n agos gydag asiantaethau’r llywodraeth er mwyn cynllunio yn lleol.  Bydd angen, wrth gwrs, monitor ac ymateb i unrhyw ddatblygiadau.

 

      

 

     Cyn y Nadolig llwyddodd y Cyngor i gael statws Buddsoddwyr Mewn Pobl a hoffwn ddiolch i staff am eu hymroddiad.  Wrth wynebu’r dyfodol mae’n bwysig cydnabod fod ansawdd ein gwasanaethau yn dda ar y cyfan a dyma sy’n gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl yn lleol.”

 

     __________

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd C L Everett at ddatganiad cyhoeddus a wnaed gan y Dirprwy Arweinydd dros y penwythnos diwethaf ar ran Grwp Plaid Cymru, sef y buasent yn croesawu ymyrraeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yng nghyswllt yr archwiliad Llywodraeth Gorfforaethol.  A chan fod y blaid fwyafrifol yn dibynnu ar gefnogaeth Grwp Plaid Cymru ai hon oedd barn y Grwp hwnnw hefyd?

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Dirprwy Arweinydd nad oedd yn bwriadu agor trafodaeth yma heddiw cyn cyfarfod gyda’r Archwilwyr ddydd Gwener.  Yr hyn a ddywedodd yn y papur oedd bod raid i bawb weithio ynghyd er lles yr Ynys.

 

      

 

     Ond os felly, gofynnodd y Cynghorydd Everett pam ei fod yn cael ei wthio o Gadair y Pwyllgor Archwilio yfory?

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd  W J Chorlton a fuasai’n bosib cyflwyno, yn y dyfodol, i Arweinyddion y gwrthbleidiau gopi o’r anerchiad ymlaen llaw a rhoi’r cyfle iddynt baratoi ymateb.  

 

      

 

     Roedd hynny, yn ôl y Dirprwy Arweinydd yn berffaith bosib, sef cyflwyno i holl aelodau’r Cyngor Sir gopi o’r cyflwyniad adeg cyhoeddi papurau’r rhaglen.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd  H E Jones bod aelodau’r Cyngor Sir yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym Mawrth wedi derbyn adroddiad ar y cynnydd posib yn y trethi y flwyddyn nesaf - cynnydd a fuasai’n o leiaf 5%.  Ni chredai ef bod hyn yn dderbyniol i bobl yr Ynys a gofynnodd i’r Pwyllgor Gwaith beth oedd yn cael ei wneud i ddatrys y broblem a gostwng y ffigwr yn sylweddol?

 

     Mewn ymateb dywedodd y Dirprwy Arweinydd y buasai’r Pwyllgor Gwaith gyda hyn yn dechrau ar drafodaethau yng nghyswllt cyllideb y flwyddyn nesaf a hynny i sicrhau na fydd raid iddo wneud penderfyniadau brysiog fel a ddigwyddodd yn yr hen Bwyllgor Gwaith.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 12:40pm

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD ALED MORRIS JONES

 

     CADEIRYDD