Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 5 Rhagfyr 2008

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Gwener, 5ed Rhagfyr, 2008

Cyfarfod Arbennig o Gyngor Sir Ynys Môn

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 5 Rhagfyr, 2008 (2:00pm)

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Aled Morris Jones (Cadeirydd)

 

Y Cynghorydd O.Glyn Jones (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, E. G. Davies, Lewis Davies,

Barrie Durkin, Jim Evans, K. Evans, C. Ll. Everett,

Fflur. M. Hughes, K. P. Hughes, R. Ll. Hughes, H. Eifion Jones, W. I. Hughes, Eric Jones, Gwilym O. Jones, Raymond Jones,

R. Dylan Jones, R. Ll. Jones, T. H. Jones, Clive McGregor,

Rhian Medi, J. V. Owen, R. L. Owen, Bob Parry, OBE,

G. O. Parry, MBE, Eric Roberts, G. W. Roberts, OBE,

Peter S. Rogers, H. W. Thomas, John Penri Williams,

Ieuan Williams.

 

WRTH LAW:

 

 

 

 

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol)

Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Thrafnidiaeth)

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Rheolwr Datblygiadau Strategol a Chyllido (DW)

Uwch Beiriannydd (JRWO)

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor                                                 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr D. R. Hughes, P. M. Fowlie, T. Ll. Hughes,

Bryan Owen, J. Arwel Roberts, E. Schofield, J. Williams,

Selwyn Williams.

_________________________________________________________________________________

 

Roedd yr aelodau a ganlyn ar yr ymweliad a gafwyd yn y bore â’r safle:-

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Aled Morris Jones (Cadeirydd)

 

Y Cynghorydd O.Glyn Jones (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr E. G. Davies, Lewis Davies, Barrie Durkin,

Jim Evans, Fflur. M. Hughes, K. P. Hughes, W. I. Hughes,

Eric Jones, Gwilym O. Jones, Raymond Jones, R. Dylan Jones, R. Ll. Jones, T. H. Jones, Rhian Medi, J. V. Owen, R. L. Owen, Bob Parry, OBE, G. O. Parry, MBE, Eric Roberts,

John Penri Williams.

 

WRTH LAW:

 

 

 

 

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Thrafnidiaeth)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Uwch Swyddog Cynllunio (DW)

Uwch Beiriannydd(JRWO)

Uwch Beiriannydd - Rheoli Datblygu (EDJ)

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor                                                  

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr T. Lloyd Hughes, H. Eifion Jones, J. Williams,

Selwyn Williams.

 

 

 

 

 

 

 

Yn y cyfarfod ar y safle, dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn gais amlinellol i ddatblygu’r safle i ddarparu arwynebedd llawr Dosbarth A1 (Adwerthul), Dosbarth D2 (Hamdden), Dosbarth A3 (Bwyty a ChludFwydydd), Dosbarth D1 (Meithrinfa), Dosbarth B1 (Swyddfeydd) a Dosbarth D1 (Addysg) a chyfleusterau ategol eraill, Maes Parcio, Tirlunio a Mynedfa newydd i Gerbydau a Cherddwyr a chynlluniau llawn i godi adeilad Dosbarth D2 (Hamdden) ac adeilad Dosbarth A3 (Bwyty a ChludFwydydd) ar dir yn Nhy Mawr, Llanfair-pwll. Cafodd yr Aelodau olwg ar hanner isaf y safle o adfeilion hen Westy Plas Eithin Hotel.  Cyfeiriwyd at gynllun gosodiad a dangosodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio derfynau safle’r cais a lleoliad bras yr adeiladau arfaethedig a’r cyfleusterau ategol.

 

 

 

Dygwyd sylw’r aelodau at natur tir y safle a hefyd at y swn cefndirol yn dod o briffordd yr A55.

 

 

 

Wedyn cafwyd golwg ar hanner uchaf y safle o lecyn uchel ar y tir ac unwaith eto dangosodd y  Rheolwr Rheoli Cynllunio derfynau safle’r cais a lleoliad bras yr adeiladau arfaethedig a’r cyfleusterau ategol i’r rhan benodol hon o’r datblygiad a chyfeiriodd at y nodweddion daearegol ac at yr Heneb Restredig.

 

 

 

Edrychwyd ar leoliad y fynedfa newydd ar yr trogylch ar yr A5025 a hefyd ar y gyffordd gyda’r A55/A5025.  Cafwyd eglurhad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Thrafnidiaeth) a’r Uwch Beiriannydd ar fesur ac ar natur gwaith priffyrdd arfaethedig.

 

 

 

Y peth nesaf a wnaed oedd mynd i weld Trogylch y Four Crosses ac yno dangosodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y pwynt cyswllt i’r system garthffosiaeth a disgrifiwyd gan y Pennaeth  Gwasanaeth (Priffyrdd a Thrafnidiaeth), y gwaith arfaethedig yn y trogylch.

 

 

 

O’r llecyn hwn aeth yr aelodau yn ôl ar hyd yr  A5025 i gyfeiriad Llanfair-pwll i gael golwg ar safle’r datblygiad o’r briffordd a wedyn aethpwyd ar hyd yr A55 i gyfeiriad canol yr ynys i gael golwg ar y safle o’r lle hwnnw.  Wedyn dygodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw’r aelodau at leoliadau bras y swyddfeydd arfaethedig.

 

 

 

Cafodd yr Aelodau olwg ar y safle o Lôn Dyfnïa ac eglurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio unwaith eto beth oedd maint y safle a nodi lleoliadau bras yr adeiladau arfaethedig a’r cyfleusterau ategol.  Hefyd dygwyd sylw’r aelodau at leoliad arfaethedig peipiau arfaethedig i gludo dwr wyneb o’r safle.

 

__________________

 

 

 

 

 

Agorwyd cyfarfod y pnawn gyda gweddi gan y Cynghorydd Lewis Davies

 

           

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

 

 

Mewn ymateb i wahoddiad y Cadeirydd, aeth Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol ati i egluro bod yr aelodau yn eistedd fel Cyngor llawn, ond mewn gwirionedd roedd yn Bwyllgor Cynllunio a rhoes wahoddiad i’r aelodau fabwysiadu rheolau gweithdrefn y Pwyllgor Cynllunio, sef trwy fabwysiadu Paragraff 4.1.28 yng Nghyfansoddiad y Cyngor a rhan 4.6.

 

 

 

Yng nghyswllt datgan diddordeb buasai datganiad o’r fath un ai yn bersonol dan Baragraff 10.2 y Cod Ymddygiad ac felly gallai’r Aelodau hynny fod yn rhan o’r drafodaeth ac o’r pleidleisio; ar y llaw arall ni allent wneud hynny os oedd diddordeb rhagfarnol, sef diddordeb personol, pan fo aelod o’r cyhoedd yn gwybod am y ffeithiau perthnasol ac o’r herwydd yn tybio yn rhesymol bod y diddordeb yn ddigon sylweddol i ragfarnu barn aelod.

 

 

 

Penderfynwyd mabwysiadu rheolau’r Pwyllgor Cynllunio yn y cyswllt hwn ond gyda’r amod bod yr aelodau yn gorfod sefyll i bwrpas annerch y Gadair.  

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Selwyn Williams ac nid oedd yn bresennol ar y dydd.

 

 

 

 

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd W. J. Chorlton yn y mater am mai ef yw Cadeirydd Grwp Adfywio Caergybi ond arhosodd yn y cyfarfod a chymryd rhan yn y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Jim Evans ddatganiad mai ef oedd yr aelod lleol ac nad oedd am gymryd rhan yn y pleidleisio.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ieuan Williams ddatganiad o ddiddordeb a gadawodd y Siambr am weddill y cyfarfod.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd P. S. Rogers ddatganiad o ddiddordeb a gadawodd y Siambr am weddill y cyfarfod.

 

 

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETH TÂL

 

 

 

Dim.

 

 

 

3

CAIS AMLINELLOL i DDATBLYGU’R SAFLE i DDARPARU LLAWR A LLE AR GYFER DOSBARTH 1 (ADWERTHU),DOSBARTH 2 (HAMDDEN),DOSBARTH A3 (BWYTAI A LLEFYDD CLUDO PRYDAU BWYD POETH YMAITH),DOSBARTH D1 (MEITHRINFA), B1 (SWYDDFEYDD) A D1 (ADDYSG) YNGHYD Â CHYFLEUSTERAU ATEGOL, PARCIO CEIR, TIRLUNIO A CHREU MYNEDFA NEWYDD i GERDDWYR A CHERBYDAU A MANYLION LLAWN AR GYFER CODI DOSBARTH D2 (HAMDDEN) A DOSBARTH A3 (BWYTAI A LLEFYDD CLUDO PRYDAU BWYD POETH YMAITH) AR DIR YN TY MAWR, LLANFAIR-PWLL

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio - Bod y cais ar gyfer datblygiad defnydd cymysg.  Roedd mymryn yn llai na hanner y datblygiad at ddibenion siopau, chwarter at ddibenion hamdden a chwarter arall at ddibenion swyddfeydd. Cafwyd ar ddeall bod cytundebau wedi eu llunio gyda defnyddiwr a bod cyllid cydgyfeiriant Ewropeaidd wedi cael ei ymrwymo, yn amodol ar dderbyn caniatâd cynllunio.

 

 

 

Gyda’r cais uchod cyflwynwyd Asesiad Amgylcheddol.

 

 

 

Cais cyfun oedd hwn - gydag elfen amlinellol ar elfen fanwl a darparwyd manylion llawn am y rhan fwyaf o’r elfen hamdden ac ynghylch y fynedfa arfaethedig i’r safle.  Hefyd cyflwynwyd manylion am y gosodiad, lleoliad a graddfa gweddill y cynigion.

 

 

 

Roedd y cais yn cynnwys y rhannau a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

Siopau (Rhyw 47% o’r arwynebedd llawr)

 

Ÿ

Hamdden (Rhyw 26% o’r arwynebedd llawr)

 

Ÿ

Swyddfeydd (Rhyw 27% o’r arwynebedd llawr)

 

Ÿ

Meysydd Parcio

 

Ÿ

Ystafelloedd Rheoli a thoiledau

 

 

 

Darparwyd, fel a ganlyn, dystiolaeth i gefnogaeth y cyhoedd:-

 

 

 

Ÿ

Deiseb gyda 381 o enwau arni a gasglwyd yn Sioe Môn 2008 a 75% o’r rheini a lofnododd yn byw ar yr Ynys.

 

Ÿ

Llyfr sylwadau gyda 291 o gofnodion yn dilyn arddangosfeydd cyhoeddus a gafwyd yn Llanfair-pwll a Phorthaethwy. Roedd 89% o’r rheini a gyflwynodd sylwadau’n byw yn Ynys Môn ac roedd oddeutu 70% yn gefnogol.

 

 

 

Deallwyd bod cytundeb wedi’i wneud ar gyllid cydgyfeiriant yn amodol ar dderbyn caniatâd cynllunio i’r elfen swyddfeydd.

 

 

 

Dan Baragraffau 2.9 - 2.13 yr adroddiad darparwyd disgrifiad o’r safle.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Materion Allweddol - Yn wyneb gwrthwynebiadau polisi sylweddol, a oedd yma amgylchiadau eithriadol lle roedd yr ymgeisydd yn medru dangos bod angen y lleoliad penodol hwn a dangos hefyd bod yma fanteision economaidd i gyfiawnhau caniatáu’r cynnig?

 

 

 

Neu, mewn geiriau eraill:

 

 

 

A oedd yma ystyriaethau o bwys digonol i wneud penderfyniad ar y cais heb gydymffurfio gyda’r  cynllun datblygu?                                                                                         

 

Ym Mharagraff 4 yr adroddiad rhestrwyd Prif Bolisïau’r Cyngor.

 

 

 

Dan Baragraff 5 yr adroddiad nodwyd beth oedd yr ymatebion i’r ymgynghori a’r cyhoeddusrwydd.

 

 

 

Yn dilyn y cyhoeddusrwydd derbyniwyd 238 o lythyrau - 231 ohonynt (neu 97%) yn gwrthwynebu, 6 yn cefnogi ac 1 heb ddweud.  Roedd 83% o’r holl lythyrau yn rhai o gyfeiriadau ym Môn.  Ym Mharagraffau 5.22 - 5.33 yr adroddiad crynhowyd beth oedd pryderon y gwrthwynebwyr.

 

 

 

Hefyd cafwyd cefnogaeth Cyngor Tref Amlwch.

 

 

 

Ym Mharagraff 6 yr adroddiad manylwyd ar yr Hanes Cynllunio Perthnasol.

 

 

 

Fel sy’n wir am unrhyw gais cynllunio roedd yma nifer fawr o faterion i’w hystyried. Ond nid oedd raid neu nid oedd yn fuddiol delio gyda phob eitem unigol yn fanwl gan fod modd cyrraedd barn yn y pen draw yn seiliedig ar nifer fechan o faterion allweddol fel a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

Cefndir a Chyd-destun y Polisi Lleol

 

Ÿ

     Materion Siopau

 

Ÿ

     Tirlun a Dyluniad

 

Ÿ

     Materion Priffyrdd

 

Ÿ

     Safleoedd Eraill

 

Ÿ

     Achos Swyddi a’r Economi

 

Ÿ

     Cynaliadwyaeth

 

Ÿ

     Materion eraill

 

 

 

Yng nghyswllt y Cefndir a’r Cyd-destun yn y Polisi Lleol:-

 

 

 

Ÿ

Roedd y cais yn groes i nifer o bolisïau yn y Cynllun Datblygu.

 

Ÿ

Ni fu unrhyw newid sylweddol yn y cyfamser i’r fframwaith polisi. Nid oedd yn ymddangos bod y polisi cynllunio lleol presennol yn cefnogi datblygu’r safle fel y cynigiwyd gwneud hynny - onid oedd ystyriaethau sylweddol cryfion i gyfiawnhau gwneud penderfyniad heb gydymffurfio gyda phrif negeseuon y polisi cynllun datblygu.

 

Ÿ

Dim ond os oedd y cais yn dod â manteision eithriadol i Ynys Môn yr oedd y polisïau hyn yn cael eu bodloni.

 

 

 

Roedd modd crynhoi’r materion siopau fel a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

o ran lleoliad yn y cefn gwlad, roedd yr elfen siopau, yn arbennig, yn gwrthdaro ag elfennau yn y polisïau cenedlaethol a lleol.

 

Ÿ

Nid oedd y dystiolaeth ynghylch effaith y siopau yn glir ond gallai fod yn negyddol ar y  canolfannau presennol.

 

Ÿ

Felly roedd yn rhaid penderfynu a oedd yr  “ystyriaethau o’r pwys mawr” a amlinellwyd gan RPS Planning and Development (ar ran yr ymgeiswyr) yn cario mwy o bwysau na’r  “nifer o bryderon” a nodwyd gan NLP (Nathaniel Lichfield Partners) (ar ran y Cyngor) ac os felly, a oedd sylfaen ddigon cryf i’r dystiolaeth i gefnogi penderfyniad o’r fath.

 

 

 

 

 

Roedd modd crynhoir ystyriaethau Tirwedd a Dyluniad fel a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

Y gwir amdani oedd bod yr ardal yn ffocws gweithgarwch ac nad yw’n ardal dawel anghysbell yn y cefn gwlad. Gellid dadlau y dylai’r ardal gyfagos i’r bont gael man cyrraedd hawdd ei adnabod. Heb amheuaeth, roedd y datblygiad yn mynd i newid cymeriad ffisegol yr ardal sydd union ger yr AHNE. Roedd hi’n anodd dadlau â chasgliad yr Arolygydd ar y Cynllun Datblygu Unedol:

 

 

 

“...byddai’r datblygiad arfaethedig yn ymddangos fel ynys o ddefnydd trefol yn y cefn gwlad a byddai’n cael effaith niweidiol.”

 

 

 

Ÿ

Nid oedd y dyluniad yn eiconig ond yn hytrach yn adlewyrchu gwirionedd economaidd.

 

Ÿ

Roedd angen penderfynu a oedd yr ystyriaethau eraill o bwys yn gryfach na’r gwrthwynebiadau sylfaenol hyn.

 

 

 

Roedd modd crynhoi’r materion Priffyrdd fel a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

Craffwyd yn annibynnol ar y goblygiadau o ran priffyrdd a chanfuwyd eu bod yn dderbyniol.

 

Ÿ

Roedd y cynigion wedi eu haddasu i gwrdd â gofynion cyrff perthnasol yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol.

 

Ÿ

Roedd yr Awdurdod Priffyrdd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, fel Awdurdod Cefnffyrdd ac UK Highways A55 Cyf yn fodlon gyda’r cynigion.

 

Ÿ

Roedd modd sicrhau’r gwaith angenrheidiol drwy amodau cynllunio a chytundeb dan Adran 106.

 

 

 

Roedd y Cyngor yn fodlon bod yr asesiad o safleoedd eraill yn un cadarn.  

 

 

 

Roedd modd crynhoi’r Achos Economaidd a chyflogaeth fel a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

Roedd y ddau adolygiad annibynnol yn cydnabod bod nifer y swyddi a greid yn sylweddol a bod cyfraniad y datblygiad i Ynys Môn yn sylweddol.

 

Ÿ

Roedd creu swyddi ar y raddfa hon yn cynnig cyfle i ymyrryd yn gadarnhaol o ystyried yr her   economaidd sy’n wynebu Ynys Môn yn awr ac yn y dyfodol.

 

Ÿ

Yn y cyd-destun hwn, roedd yn rhaid ystyried y datblygiad mewn goleuni ffafriol.

 

 

 

Yng nghyswllt cynaliadwyaeth - er nad oedd gwasanaeth cludiant cyhoeddus da i’r safle roedd atebion cymharol syml ar gael i gywiro hyn.  Roedd y safle o fewn tafliad carreg i gludiant cyhoeddus ym Mhorthaethwy a gellid cysylltu’r safle gyda bysus yn mynd ac yn dod a hefyd roedd modd gwyro teithiau bysus eraill.

 

 

 

Dyma faterion eraill y manylwyd arnynt ym Mharagraff 7.9:-

 

 

 

Ÿ

Materion carthffosiaeth

 

Ÿ

Ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau

 

Ÿ

Hawliau Tramwy Cyhoeddus

 

Ÿ

Ecoleg

 

Ÿ

Amharu ar werth tai

 

Ÿ

Swn

 

Ÿ

Sbwriel

 

Ÿ

Archeoleg

 

 

 

Yn anochel, roedd cais fel yr un hwn yn codi llu o faterion amrywiol a dyrys i’w hystyried. Nodir y prif faterion uchod, ac yn seiliedig arnynt mae modd dod i’r casgliad:-

 

 

 

Bod y cais yn torri nifer o bolisïau yn y Cynllun Datblygu ac nid oedd yr ymgeiswyr yn gwrwthwynebu’r pwynt hwn.

 

 

 

 

 

 

 

Ymddengys nad yw polisi cynllunio lleol yn cefnogi datblygu’r safle fel y cynigir gwneud oni bai bod ystyriaethau o bwys a fyddai’n cyfiawnhau penderfyniad sy’n mynd yn groes i brif ergyd y polisi yn y cynllun datblygu.

 

 

 

Ni fodlonir y polisïau hyn onid yw’r cais yn dod â manteision eithriadol i Ynys Môn.

 

 

 

O ran lleoliad yn y cefn gwlad, roedd yr elfen siopau’n benodol yn torri elfennau polisïau cenedlaethol a lleol.

 

 

 

Nid oedd y dystiolaeth yng nghyswllt yr effaith ar siopau yn glir ond gallai fod yn negyddol ar y canolfannau presennol.

 

 

 

Roedd safleoedd eraill allai greu manteision tebyg, ond roedd hwn yn gynnig penodol gyda defnyddiwr a wnaeth ymrwymiad.

 

 

 

Buasai’r datblygiad yn newid cymeriad ffisegol ardal sydd union ger ardal AHNE, ger Ardal Tirwedd Arbennig a Lletem Las. Wrth ystyried y Cynllun Datblygu Unedol daeth yr Arolygydd i’r casgliad a ganlyn:

 

 

 

“ .....byddai’r datblygiad arfaethedig yn ymddangos fel ynys o ddefnydd trefol yn y cefn gwlad o amgylch a byddai’n cael effaith niweidiol”.

 

 

 

Er bod yr ardal yn y cefn gwlad, mae’n ffocws i weithgarwch ac nid yw’n ardal wledig, dawel, ac anghysbell. Gellid dadlau y dylai’r ardal o gwmpas y bont fod yn fan cyrraedd hawdd ei adnabod.

 

 

 

Nid oes rhinweddau pensaernïol nodedig yn perthyn i’r dyluniad ond roedd yn adlewyrchu gwirionedd economaidd.

 

 

 

Nid oes dim rhesymau technegol na rhai seilwaith i rwystro symud ymlaen i ddatblygu’r safle.

 

 

 

Roedd y safle o fewn tafliad carreg i gludiant cyhoeddus ym Mhorthaethwy ac roedd modd cysylltu’r safle dan sylw gyda gwasanaeth bysus mynd a dod a thrwy wyro siwrnai bysus eraill.

 

 

 

Roedd y datblygwyr wedi addasu’r cynnig mewn ymateb i wrthwynebiadau’r rhan fwyaf o’r cyrff hynny yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol.

 

 

 

Roedd nifer fawr o unigolion ac o sefydliadau’n gwrthwynebu’r datblygiad. Ychydig iawn o lythyrau oedd yn cefnogi ar ôl ymgynghori gyda’r cyhoedd yn statudol.  Fodd bynnag, roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno tystiolaeth o blaid -  deiseb a llyfr sylwadau a lofnodwyd yn Sioe Môn ac mewn arddangosfeydd cyhoeddus.

 

 

 

Roedd y  ddau adolygiad annibynnol ar y manteision economaidd i Ynys Môn yn dangos bod nifer sylweddol o swyddi yn mynd i gael eu creu a bod cyfraniad y datblygiad yn sylweddol.

 

 

 

Roedd creu swyddi ar y raddfa hon yn gyfle i wneud gwahaniaeth real a chadarnhaol yn wyneb y  sialens economaidd sy’n wynebu Ynys Môn yn awr ac yn y dyfodol.

 

 

 

Roedd ffactorau economaidd strategol o bwys yn wynebu cynaliadwyaeth Ynys Môn fel endid economaidd hyfyw a phwysig gan greu amgylchiadau eithriadol a bod amgylchiadau o’r fath yn cael sylw i raddau helaeth gan ddatblygiad Ty Mawr.

 

 

 

Er bod y cais yn codi nifer o faterion anodd a dadleuol, roedd y Gwasanaeth Cynllunio o’r farn y dylid cefnogi.

 

 

 

Roedd y Swyddogion yn argymell caniatáu’r cais yn amodol ar wneud cytundeb dan Adran 106 a hefyd gydag amodau cynllunio priodol.  Roedd penawdau drafft y Telerau ar gyfer cytundeb cyfreithiol ynghyd ag arwydd cyffredinol o deip a sgôp a math yr amodau wedi’u rhestru ym Mharagraffau 9.2 a 9.3 yr adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod hwn o’r Cyngor.

 

 

 

 

 

      

 

      

 

     i ddiweddaru’r aelodaeth dywedodd y Pennaeth Rheoli Cynllunio bod 3 llythyr arall wedi dod i law  - un ohonynt yn cefnogi gan yr ymgeisydd a dau yn gwrthwynebu.  Hefyd roedd deiseb ac arni 124 o enwau yn gwrthwynebu.

 

      

 

     Wedyn dygodd sylw at baragraff  5.1 ar dudalen 7 yr adroddiad yng nghyswllt ymateb Cyngor Cymuned Llanfairpwll.  Yn yr adroddiad nodwyd bod y Cyngor yn pryderu ond daeth llythyr arall i law yn dweud eu bod o blaid gwrthod oherwydd y rhesymau yn y llythyr.

 

      

 

     Nid oedd Dwr Cymru yn gwrthwynebu’r cynigion ar gyfer draenio’r datblygiad.  

 

      

 

     Wedyn soniodd bod yr Awdurdod wedi derbyn dadansoddiad manwl o’r swyddi a gâi eu creu ym mhob cyfnod o’r datblygiad.

 

      

 

     i gloi, dywedodd y swyddog bod yr argymhelliad yn un o ganiatáu a hynny oherwydd bod y cais yn un eithriadol, yn ymateb yn gadarnhaol i ddyfodol economaidd yr Ynys a bod creu rhwng 700 a 1500 o swyddi newydd o bwys mor fawr fel bod y cais gerbron yn un eithriadol.

 

      

 

     Yn yr adroddiad hefyd nodwyd beth oedd penawdau’r cytundeb yng nghyswllt dyletswydd gynllunio dan adran 106 gan grybwyll y meysydd y rhoddid amodau cynllunio ynghlwm ar eu cyfer.

 

      

 

     Dywedodd Mr Dylan Williams, yr Uwch Swyddog Datblygu bod yr Ynys yn colli gwariant sylweddol i leoedd eraill gan ychwanegu bod 300 wedi’u colli’n ddiweddar ar yr Ynys.  Hefyd roedd ansicrwydd yn wynebu’r Wylfa ac Alwminiwm Môn.   Ni allai’r Cyngor ddibynnu ar ddatblygiad newydd yn yr  Wylfa’n unig i bwrpas diogelu dyfodol economaidd yr ynys.  Aeth ymlaen i grybwyll GVA Ynys Môn, sef mesur o gyfoeth, ac mai dim ond 53% o’r cyfartaledd Prydeinig oedd hwnnw a hynny hyd yn oed gyda’r Wylfa ac Alwminiwm Môn ar agor.  Roedd y Cynllun Datblygu Safleoedd ac Adeiladau Cyflogaeth i’r Ynys yn cydnabod bod angen Parc Busnes o safon uchel y tu mewn i hwb Menai.  Gan fod y safle yn agos i Brifysgol Bangor roedd yn ddeniadol i denantiaid ac nid oedd modd symud datblygiad o’r fath i unrhyw is-ran arall o’r Ynys.  Petai’r datblygiad hwn yn cael ei ganiatáu roedd cefnogaeth ariannol amodol iddo o Gronfa’r Rhaglen Cydgyfeiriant Ewropeaidd a hynny tuag at gostau codi swyddfeydd newydd ar y safle.  i bwrpas siecio cywirdeb y ffigyrau a gyflwynwyd gyda’r cais cynllunio roedd y Cyngor wedi comisiynu dau gwmni annibynnol.

 

      

 

     Yn seiliedig ar y gwaith hwn roedd modd crynhoi’r rhagolygon cyflogaeth bosib fel a ganlyn:-

 

      

 

     Cyfnod 1 - Tachwedd 2009 - Mai  2011 - Rhagamcan y câi rhwng 378 - 800 o swyddi eu creu.

 

      

 

     Cyfnod 2 -Tachwedd 2010 -Tachwedd 2011 - rhwng 175 - 375 o swyddi.

 

      

 

     Cyfnod 3 -Tachwedd 2011 -Tachwedd 2012 -rhwng 147 - 315 o swyddi.

 

      

 

     Yn fras roedd gwahanol fathau o gyflogaeth ar y safle fel a ganlyn - swyddfeydd 49%, siopau 26%, sinema 12% a bwytai 12%.

 

      

 

     Pe rhoddid caniatâd roedd yn rhaid rhoddi amodau ynghlwm i sicrhau’r nifer fwyaf bosib o swyddi i bobl Ynys Môn.  Buasai yma rhwng 183 - 390 o swyddi adeiladu, a rhwng 515 a 1099 o swyddi ar ôl agor y lle, gan greu cyfanswm rhwng 700 a 1500.

 

      

 

     Yn seiliedig ar ragamcanion, roedd hi’n debyg y câi’r datblygiad hwn effaith gadarnhaol ar economi’r Ynys gan godi safonau byw ei thrigolion.  Roedd swyddi newydd yn gwbl angenrheidiol a rhagamcanwyd y buasai’r datblygiad hwn yn ychwanegu o leiaf 3% at GVA yr Ynys gan godi’r  ffigwr hwnnw i 56% GVA.    

 

      

 

     Fel rhan o’r datblygiad roedd cyfleon Hamdden i bobl ifanc gan gynnig yr un ddarpariaeth ag ardaloedd cyffiniol eraill.  Er bod yr ymwelwyr â’r Ynys yn mwynhau treftadaeth ac amgylchedd y lle nid oedd yma ddigon o gyfleon ac o weithgareddau yn ystod tywydd mawr.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Thrafnidiaeth) bod yr Adran, ar y cychwyn, wedi mynegi pryderon ynghylch y gyffordd gyda’r A55. Dygwyd y mater hwn i sylw’r Cynulliad ac roedd y rheini hefyd, ar y dechrau, gyda’r un pryderon.  Wedyn aeth y datblygwr ati i benodi ymgynghorwyr i benderfynu sut y gellid lleddfu’r pryderon hynny a chafwyd awgrym ganddynt i sefydlu system o oleuadau traffig ar y bont dros yr A55 gyda 4 lôn ar wahân arni.

 

      

 

     Hefyd aeth y Cyngor hwn ati i gyflogi arbenigwyr ar faterion trafnidiaeth a hynny i ystyried yr arbedion a gynigiwyd ac roedd yr ymgynghorwyr hyn yn hapus petai’r lonydd yn cael eu lledu i 3.65m yr un a darparu 4 lôn i gyd.  Hefyd buasai’r datblygwyr yn codi pont i gerddwyr ac i feicwyr - pont 3m o led ar ochr Ddeheuol y bont bresennol.

 

      

 

     Roedd y Swyddogion wedi gofyn tybed a oedd modd darparu cyfleusterau parcio a rhannu cerbydau fel bod pobl yn medru gadael eu ceir a rhannu ceir i deithio i’r man gweithio.  Roedd y datblygwr wedi cytuno gyda hyn.  Yng nghyswllt cludiant cyhoeddus roedd yr Adran wedi gofyn am wasanaethau ychwanegol a chyrhaeddwyd cytundeb ar hynny.  

 

      

 

     Buasai bys ychwanegol yn rhedeg bob 15 munud i Borthaethwy.  Roedd yr Adran Briffyrdd a Thrafnidiaeth yn fodlon gyda’r datblygiad o safbwynt Priffyrdd.

 

      

 

     Credai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) bod y datblygiad hwn yn un eithriadol o bwysig i ddyfodol yr Ynys.  Roedd y Swyddogion yn ymwybodol bod Cineworld yn rhan o’r datblygiad a chafwyd cadarnhad ganddynt bod hyn yn gywir.  Yng nghyswllt swyddi, swyddfeydd etc roedd Cynllun Busnes wedi’i gyflwyno i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ac arian Ewropeaidd wedi’i ddyrannu’n barod.  Roedd y defnyddwyr yn gytûn bod hwn yn lleoliad delfrydol iddynt.  Roedd y Swyddogion hefyd wedi ystyried sut y gellid gwella’r fframwaith teithio fel bod y rheini fydd yn chwilio am waith yn medru cymryd swyddi yn yr ardal.  Roedd hwn yn gais strategol oedd yn cynnig nifer fawr o swyddi i’r Ynys.

 

      

 

     Pam symudodd Tesco i Gaergybi dywedodd y Cynghorydd J. Penri Williams, yr aelod lleol, bod hynny wedi arwain at ostyngiad o 30% yn y gwariant yn y Stryd Fawr yno a hynny yn ei dro yn gorfodi siopau i gau.  Dyfynnodd y datblygwr pan ofynnwyd i hwnnw am hyn a dywedodd “it was not that type of development and that it would be one of discretionary spend, i.e. the kind of money one did not spend on mortgage, groceries, utilities etc. Seventy eight percent of  Anglesey’s discretionary spend occurred off the Island,” a chyfeiriodd at lefydd fel megis Cheshire Oaks. Credai’r Cynghorydd Williams bod y ffigwr 78% yn hudolus ac aeth ymlaen i grybwyll un peiriannydd priffyrdd o fri y daeth ar ei draws a hwnnw wedi galw’r safle hwn yn un cwbl anobeithiol.

 

      

 

     Cyfeiriodd wedyn at gofnodion cyfarfod a gafwyd rhwng swyddogion yr Awdurdod hwn a rhai y Cynulliad lle dywedwyd bod y siawns o sicrhau caniatâd cynllunio yn ddim ond 30%.  Er bod y Gwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth wedi llwyddo i ddatrys y problemau priffyrdd, nid oedd yr atebion yn dderbyniol ac roedd angen edrych o’r newydd arnynt er mwyn bodloni trethdalwyr Ynys Môn.

 

      

 

     Credai y buasai’r llecyn o gwmpas y bont yn creu tagfeydd ac ni chafwyd yr un cynnig i hyrwyddo llif traffig ar draws yr ardal hon.  Roedd y traffig yn symud i gyfeiriad Caergybi yn mynd i gael ei arafu yn y man hwn a hynny yn ei dro yn golygu y bydd traffig o’r fath yn dechrau defnyddio porthladd Lerpwl a hefyd roedd yma bosibilrwydd y bydd Stena yn gadael Caergybi.  Ni chredai ef y deuai’r siopau i’r lle hwn, a hynny oherwydd bod y diwydiant siopau i gyd yn dirywio o ddydd i ddydd.  Yn awr roedd Cyngor Sir Ynys Môn am wneud yr union beth yr oedd Cyngor Gwynedd wedi’i wneud 50 mlynedd yn ôl sef mynd ar drywydd diwydiant oedd yn marw ar ei draed - y diwydiant tecstilau.  Roedd un siop ym mhob 5 yn y Strydoedd Mawr yn debygol o gau ac o’r herwydd credai ef bod y Cyngor yn rhoddi’r cyfan o’r wyau yn y fasged anghywir.  Onid oedd siopau yno ni fuasai neb yn defnyddio’r cyfleusterau Hamdden.  Yng Nghyffordd Llandudno roedd pethau’n wahanol oherwydd yno mae dalgylch mawr a phobl yn dod yno o fannau mor bell â Phrestatyn, Blaenau Ffestiniog a Chaergybi.  Nid oedd gan y safle dan sylw ddalgylch o’r fath.  Yn y pen draw roedd yn rhaid i’r lle ddibynnu ar safon y siopau ar y safle.

 

      

 

     Roedd yn pryderu am na chafodd yr Aelodau gyfle i ystyried y safleoedd eraill a grybwyllwyd yn yr adroddiad a chredai ef y buasai’r safle i’r Gogledd o’r A55 yn y Gaerwen yn lecyn delfrydol o safbwynt traffig - ni roddwyd sylw llawn i safleoedd eraill ac roedd hwn yn wendid yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

     Er bod y cais yn groes i’r Cynllun Datblygu roedd y swyddogion yn argymell caniatâd.  Yn ddiweddar iawn yr ymgynghorwyd gyda’r cyhoedd ar y Cynllun Datblygu Lleol ond heddiw roedd y swyddogion yn awgrymu newid y polisi - a hynny cyn i’r cynllun gael ei dderbyn.  Er nad oedd yn gwrthwynebu’r dyluniad, na’r cyfleon creu swyddi etc roedd yn credu bod pobl Ynys Môn a’r datblygwyr yn haeddu gwell safle a gwell adnoddau na’r cynigion gerbron.

 

      

 

     Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) bod gwaith mawr wedi’i wneud yn y cyswllt hwn - nid ar faterion priffyrdd yn unig.  Cafwyd sawl cyfarfod, ac ymgynghorwyr ar y ddwy ochr wedi cyrraedd cytundeb yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd.  Rhoddwyd sylw trylwyr i’r materion priffyrdd a chyflwynwyd cynllun i ddatrys y problemau.  Pont Britannia oedd yn arafu’r traffig i Gaergybi - nid y gyffordd benodol hon.  Ar hyn o bryd roedd y Cynulliad yn edrych ar ffurf o hwyluso symudiad traffig ar draws Pont Britannia.  Er bod y Swyddogion wedi edrych ar safleoedd eraill nid oedd y rheini’n dderbyniol i’r defnyddwyr nac i swyddogion proffesiynol.

 

      

 

     Croesawu’r diddordeb a ddangoswyd yn y cais a wnaeth y Cynghorydd C. Ll. Everett ond roedd yn rhaid cofio ei fod yn groes i bolisïau.  Cyfeiriodd at ddogfennau Llywodraeth Cynulliad Cymru yng nghyswllt Parc Busnes Ty Mawr / Parc Cybi sydd ar hyn o bryd yn cael eu darparu fel safleoedd strategol mawr i fusnesau fuddsoddi ynddynt - safleoedd sydd yn rhan allweddol o Gynllun Adfywio 10 Mlynedd Caergybi Ymlaen a lansiwyd yn 2003. Aeth ymlaen i ddisgrifio’r hyn a fwriadwyd ar gyfer safle Parc Cybi, a chredai ef bod hynny, fwy neu lai, yn union yr un fath â’r cais gerbron yn y cyfarfod heddiw a chredai bod hwnnw yn safle gwyrdd ac yn tynnu’n groes i bolisïau.

 

      

 

     Neilltuwyd cyfleusterau parcio ar gyfer 1800 o gerbydau a hynny’n cyfateb i symudiadau 3,600 o gerbydau y dydd.  Buasai’r ystyriaeth hon ynghyd â’r problemau presennol ar Bont Britannia yn ychwanegu at broblemau traffig yn yr ardal.

 

      

 

     Yn yr adroddiad cyfeiriwyd at enillion cynllunio o ran gwella’r rhwydwaith priffyrdd a’r gwasanaethau cludiant cyhoeddus ond ni chredai ef bod yma enillion cynllunio - dim ond gwaith isadeiledd i bwrpas creu mynedfa i’r safle.  Hefyd credai bod y cais gerbron yr Aelodau yn un oedd yn tynnu’n groes yn fwy nag unrhyw un arall yn hanes y Cyngor.

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) bod y safle dan sylw yn un strategol a hefyd bod y datblygwyr yn awyddus i ddechrau gweithio.  O ran enillion cynllunio, credai ef y buasai’r datblygiad yn creu swyddi i bobl Ynys Môn.  Dan amgylchiadau eithriadol roedd Polisi 2 y Cynllun Datblygu yn creu cyfle i ystyried rhywbeth a ddeuai â manteision eithriadol i’r Ynys os oedd hwnnw’n ddatblygiad yr oedd modd ei gefnogi.  

 

      

 

     Ni chredai’r Cynghorydd W.J.Chorlton bod y datblygiad hwn yn mynd i fod o gymorth i gadw arian ar yr Ynys.  Roedd y cais hwn yn tynnu’n groes yn sylweddol ac yn y gorffennol cafodd yr Awdurdod hwn ei feirniadu am wneud peth o’r fath.  Roedd y Swyddogion o blaid caniatâd.  Dros y blynyddoedd roedd sawl cais wedi’i wrthod yn yr ardal hon meddai’r Cynghorydd a buasai’r rheini hefyd wedi creu swyddi.  Roedd y problemau ar Bont Britannia yn mynd i greu rhwystr sylweddol i drafnidiaeth.

 

 

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) bod y Swyddogion wedi bod yn eithriadol o ofalus yn sicrhau bod tystiolaeth ar gael i gefnogi unrhyw oblygiadau priffyrdd; hefyd roedd y Cyngor yn pwyso ar Gynulliad Cymru i wneud penderfyniad prydlon ynghylch problem tagiant trafnidiaeth ar Bont Britannia.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Barrie Durkin am eglurhad cyfreithiol ynglyn â chofnodion mewn llawysgrifen a dderbyniodd yn ddiweddar yng nghyswllt cyfarfod rhwng swyddogion y Cyngor hwn a swyddogion Cynulliad Cymru yn nodi bod y Cyngor wedi rhoddi addewid i’r datblygwr y câi £3m ar y cychwyn i wneud gwaith gwella ar yr A5025 rhwng y safle a throgylch Four Crosses.  Yn yr ymweliad â’r safle yn y bore roedd y Cynghorydd wedi sylw bod aelodau o’r cyhoedd yn chwifio baneri yn cyfeirio at y mater hwn.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol ei fod yntau hefyd wedi derbyn copi o’r llythyr ddechrau’r wythnos ac yn cynnwys yr haeriad a amlinellwyd gan y Cynghorydd.  Pwy bynnag oedd yn talu am welliannau i’r briffordd nid oedd taliadau o’r fath meddai ef yn ystyriaeth gynllunio.  Ond yr oedd rhai pethau yn berthnasol megis a oedd angen unrhyw welliannau, beth oedd y rheini, a oeddynt yn mynd i gael eu darparu ac os felly sut oedd modd eu sicrhau.  Roedd wedi gwneud rhagor o ymholiadau ynghylch y llythyr a chael ar ddeall fod Swyddog o Adain Briffyrdd Cynulliad Cymru wedi gwneud y nodyn hwn a hefyd o bosib wedi camddeall y sefyllfa. Ar ôl holi Swyddogion y Cyngor a oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw, sefydlwyd na wnaed unrhyw addewid gan y Cyngor hwn fel Awdurdod Priffyrdd i gyfrannu arian tuag at unrhyw welliant a bod cyfrifoldeb o’r fath yn syrthio ar y datblygwr. Buasai swm o’r fath yn un sylweddol yng nghyllideb y Cyngor ac nid oedd modd ei glustnodi heb ganiatâd Pwyllgor a chaniatâd yr Aelodau.  Ymddengys bod yma gamddealltwriaeth gan Swyddog allanol - dim mwy na hynny.

 

      

 

     Diolchodd y Cynghorydd B. Durkin i’r Swyddog am ei eglurhad. Yn gynharach crybwyllwyd faint o draffig ychwanegol fuasai’n defnyddio’r cyfleuster hwn ac yn ôl ei symiau ef cyn y gallai busnes fel hwn fod yn economaidd ymarferol buasai’r nifer o lecynnau parcio a grybwyllwyd (1800) angen rhyw 10 - 12,000 o symudiadau ceir y dydd.  Roedd hwn yn swm sylweddol o draffig ychwanegol a gobeithiai ef y buasai unrhyw waith angenrheidiol ar bont dros yr A55 yn cael llawer iawn mwy o sylw nag a roddwyd iddo ar hyn o bryd.  Roedd sylw’n cael ei roddi i godi pont newydd a phâr o drogylchoedd “dumb-bell” a chredai ef bod o leiaf angen hyn i hwyluso symudiadau ar raddfa mor fawr.  Cyn medru penderfynu ar gais fel yr un hwn credai ef bod raid datrys y problemau traffig ar Bont Britannia.  Hefyd roedd yn pryderu ynghylch codi adeiladau 20m o uchder ac effaith y rheini ar yr amgylchedd.  Ar ôl pwyso a mesur popeth credai bod y cais hwn wedi’i gyflwyno’n rhy gynnar a hefyd yn y lle anghywir.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Yr Amgylchedd a Gwasanaethau) bod y dystiolaeth a gyflwynwyd, a ddadansoddwyd ac a brofwyd gan y swyddogion a hefyd gan ymgynghorwyr ar ran y Cyngor ac ar ran Cynulliad Cymru wedi dod i’r casgliad y gallai’r gwelliannau priffyrdd dderbyn y datblygiad.  Yng nghyswllt y tirwedd ac effaith y datblygiad arno roedd yr adroddiad yn egluro y buasai unrhyw ddatblygiad ar y raddfa hon, lle bynnag y bo, yn newid cymeriad ardal.  Roedd yn rhaid pwyso a mesur yr effaith ar y tirwedd ar y naill law ac elfennau cadarnhaol y datblgyiad ar y llaw arall.  Roedd y cais gerbron yn un eithriadol oherwydd nifer fawr y swyddi dan sylw.

 

      

 

     Petai caniatâd cynllunio yn cael ei roddi i’r datblygiad roedd y Cynghorydd Keith Evans yn pryderu y buasai’n rhaid i’r trefniadau carthffosiaeth fynd trwy Borthaethwy.  Gwrthwynebai hyn yn fawr iawn oherwydd y llifogydd a ddigwyddai mewn rhannau o’r dref bob tro y ceid glaw trwm.  Roedd hyn i’w briodoli i gapasiti cyfyngedig y system.  Yn y gorffennol roedd Cyngor Tref Porthaethwy wedi herio Dwr Cymru a’r cwmni wedi cydnabod bod system Porthaethwy wedi cyrraedd y pen draw o ran capasiti.  Credai ef y dylai’r swyddogion herio’r pwynt hwn yn gryf.  Hefyd credai’r Cynghorydd bod y cais hwn yn rhannu pobl yn fawr iawn gan fod Cyngor Tref Porthaethwy, Cymdeithas Ddinesig Porthaethwy a Siambr Fasnach Porthaethwy i gyd yn erbyn y datblygiad.

 

      

 

     Pan oedd yn canfasio yn Ward Cadnant mis Mai diwethaf, cyflwynodd i’r etholwyr slip papur i bleidleisio a gofynnodd i’r preswylwyr am eu barn ar y prosiect.  Yn sgil hynny roedd 29% o blaid;  17% yn ansicr a 54% yn erbyn ac o’r herwydd roedd am bleidleisio yn unol â dymuniadau ei etholwyr.

 

      

 

     Y cynnig gwreiddiol yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio oedd cysylltu’r datblygiad gyda system Llanfair-pwll ond roedd Dwr Cymru yn erbyn hynny oherwydd capasiti y system honno.  Wedyn ymgynghorwyd am gyfnod o 8 mis gyda Dwr Cymru er mwyn ceisio ateb i’r broblem hon a chafwyd bod modd cysylltu gyda system Porthaethwy.  Nid oedd modd herio’r trefniant hwn gan mai Dwr Cymru yw’r awdurdod statudol yng nghyswllt carthffosiaeth.  Yn ôl y dystiolaeth oedd ar gael i’r Swyddogion nid oedd sail o gwbl i wrthwynebiad y Cynghorydd Evans ac nid oedd yr adroddiad, chwaith, yn dweud bod y cais yn groes i bob polisi fel yr awgrymodd y Cynghorydd Evans.

 

      

 

     Yn ddiweddar roedd y Cyngor, meddai’r Cynghorydd J. V. Owen, wedi penderfynu ar bolisi o beidio â thorri polisïau.  Cyfeiriodd wedyn at y problemau ar adegau penodol ar Bont Britannia gan son am ddatblygiad cyffelyb yng Nghaergybi a buasai caniatáu’r datblygiad yn Llanfair yn ychwanegu at y problemau yng Nghaergybi.  Roedd defnyddiwr y safle wedi rhoddi ei holl bwysau y tu ôl i sinema ar y safle a hwnnw wedyn yn mynd i gael ei ddefnyddio’n bennaf gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor.

 

      

 

     Ni chredai’r Cynghorydd bod pobl Môn gyda’r arian i fynychu sinema a chyfleusterau hamdden a’u bod eisoes yn ei chael hi’n anodd talu am fynd i gyfleusterau hamdden yr Ynys.

 

      

 

      

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Eric Jones roedd yma elfen o anghysondeb gan fod y Cyngor ar y naill law yn pwyso ar Gynulliad Cymru i ddatrys y problemau traffig ar Bont Britannia, ond ar y llaw arall yn mynd i ychwanegu at y broblem gyda’r datblygiad.  Ei bryder ef oedd na fedrai nifer dda o bobl o’r tir mawr ymweld â safle’r datblygiad oherwydd anawsterau traffig, a hefyd ni fedrai’r gwasanaethau argyfwng gyrraedd Ysbyty Gwynedd yn brydlon a gallai’r datblygiad ddal yn ôl y traffig hwnnw oedd yn mynd am Gaergybi i bwrpas ymweld ag Iwerddon.  Wedyn soniodd am yr arian cyhoeddus a wariwyd ar adfywio Llangefni ond bellach roedd yn y dref 13 o siopau gweigion - pa effaith a gâi’r datblygiad newydd hwn ar drefi a phentrefi ar hyd a lled yr Ynys.  Ychwanegodd bod y cynnig yn groes i’r Cynllun Datblygu (Tudalen 49, Polisi CYF 5 - Canolfannau llewyrchus yn y trefi, yn rhanbarthol ac yn lleol) ac yn y polisi hwnnw roeddid yn ceisio sicrhau bod y canolfannau sydd yma yn parhau i fod yn ffocws o bwys i nifer o siopau, swyddfeydd masnachol a chyhoeddus, cyfleusterau cymunedol a sefydliadau, ac adloniant a hamdden.  Pan oedd yn blentyn roedd 12 o siopau yn y Gaerwen ond bellach dim ond 2 oedd yno.  Ni fedrai gefnogi’r cynnig fel y cafodd ei gyflwyno.

 

      

 

     Gan fod y cais yn anodd iawn i benderfynu arno roedd y Cynghorydd R. G. Parry, OBE yn cydymdeimlo gyda’r swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad bod y datblygiad yn groes i sawl polisi yn y Cynllun Datblygu.  Ond cafodd ei synnu’n fawr o sylwi mai dim ond 6 gwrthwynebydd oedd ar y safle yn ystod yr ymweliad yn y bore a dim ond rhyw 20 oedd yn Siambr y Cyngor yn y prynhawn.

 

      

 

     Yn groes i’r siaradwyr blaenorol, roedd ef yn gefnogol i’r datblygiad gan fod pobl Môn ar hyn o bryd yn teithio i fannau megis Cheshire Oaks, Parc Siopau Brychdyn, Trafford Park etc, lle roedd digon o gyfleusterau parcio.  Ni allai dderbyn y ddadl bod y datblygiad yn mynd i greu problemau i fusnesau lleol a bychain gan fod y rhan fwyaf o’r siopau mewn datblygiadau newydd yn siopau arbenigol - nid y math o siop a welir yn y trefi a’r pentrefi.  Dywedodd bod mwy o siopau ac o wasanaethau wedi agor yn Llanfair-pwll oherwydd nifer fawr yr ymwelwyr â siop Pringle. Ei obaith ef oedd y câi problem Pont Britannia ei datrys gan Gynulliad Cymru cyn i’r datblygiad hwn agor.  Ni fedrai chwaith dderbyn y ddadl bod loriau mawrion yn mynd i ddefnyddio porthladd Lerpwl yn hytrach na Chaergybi.  Roedd y daith yn fyrrach o lawer o ddefnyddio Caergybi ac i bwrpas cadw pobl ifanc yn hapus ac oddi ar y stryd roedd angen sinema a chanolfan fowlio ar yr Ynys.  Fodd bynnag, ni chredai y câi 1500 o swyddi eu creu, gan dybio bod rhywbeth o gwmpas 800 yn fwy ymarferol.  Trwy Gymru gyfan yn Ynys Môn roedd y GDP isaf ac roedd nifer y di-waith yn uwch nag unrhyw Awdurdod arall yng Ngogledd Cymru.  Deuai swyddi yr oedd eu gwir angen i’r Ynys yn sgil y datblygiad hwn a phwysodd yn daer ar aelodau i roddi sylw gofalus i’r cais a pheidio â chaniatáu i’r Ynys farw ar ei thraed.

 

      

 

Diolchodd y Cynghorydd H. W. Thomas i’r swyddogion am eu llafur gan gydnabod bod y broses wedi bod yn un hir.  Credai ef bod y datblygiad hwn o bwys eithriadol i’r Ynys ac er bod y cais yn torri’r polisiau credai bod hwn yn achos eithriadol a’r amgylchiadau yn bwysicach na’r pryderon.  Gerbron roedd cais pendant gan bobl oedd o ddifrif ynghylch symud ymlaen.  Blaenoriaeth y Cyngor hwn oedd hybu’r economi, darparu swyddi ac edrych ar ôl y bobl ifanc.  Hefyd credai bod y lleoliad yn dderbyniol a phetai’r datblygiad yn symud i Gaergybi neu i’r Gaerwen buasai unrhyw draffig yn gorfod croesi Pont Britannia.  Buasai datblygiad mor fawr yn cadw’r gweithwyr ar yr Ynys ac yn gostwng pwysau’r traffig sy’n croesi’r bont.  Credai’n gryf bod y cais hwn yn un cryf ac yn bodloni’r holl feini prawf .  Ymgynghorwyd gyda Chynulliad Cymru ynghylch materion priffyrdd  a chafwyd ateb iddynt.  O ran yr amgylchedd gwyrdd dywedodd y buasai’n llawer iawn gwell symud ymlaen gyda’r datblygiad na gorfodi pobl Ynys Môn i groesi i’r tir mawr i bwrpas cael gwell cyfle i siopio.  Roedd yn pwyso’n daer ar yr aelodau rhag ofn colli’r cyfle i ddenu datblygiad o bwys i’r Ynys.

 

 

 

Nid oedd y Cynghorydd Raymond Jones, ar ôl ymweliad y bore, yn gweld y safle yn un da.  Ni fedrai ef ddeall pam nad oeddem yn defnyddio’r cyfleusterau sydd eisoes ym Mharc Cybi, Caergybi.  Ond ni chredai y buasai’r anawsterau traffig yn gorfodi Stena i adael porthladd Caergybi.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Ken Hughes bod ganddo feddwl agored ynghylch y datblygiad tan ymweliad yr aelodau, yn ystod y bore, â’r bont a chafodd ei siomi gan y cynigion a chredai bod swyddogion wedi mynd am yr ateb ailorau ac o’r herwydd nid oedd yn fodlon cefnogi’r cynnig.

 

      

 

     Soniodd y Cynghorydd R. Ll. Jones, y Deilydd Portffolio, ei fod yn hapus gyda dull y swyddogion o gyflwyno’u hachos a hefyd credai bod yr adroddiad yn un agored.  Cyfeiriodd wedyn at Baragraff 3.1 yr adroddiad dan y pennawd “materion allweddol” ac yno roedd craidd y mater.  Y mis diwethaf cafodd y fraint o lansio’r fersiwn cyn-adneuol o’r Cynllun Datblygu Lleol ac yn hwnnw roedd gwahoddiad i bobl Môn ystyried eu dyfodol a sut y dymunent weld yr Ynys yn datblygu tan y flwyddyn 2021.

 

      

 

     Roedd y cais gerbron yn gwyro oddi wrth y Cynllun Datblygu ond honnwyd y buasai’n creu hyd at 1500 o swyddi i’r Ynys.  Dros y blynyddoedd roedd y Cyngor wedi derbyn nifer o gwmnïau mawrion i’r Ynys - rhai megis yr Wylfa, Alwminiwm Môn, Great Lakes ac yn ddiweddar Morrisons.  Yn y gorffennol nid oedd y Cyngor wedi rhoddi sylw manwl i effaith y diwydiannau hyn ar yr amgylchedd a chafodd ei siomi gan y swyddogion am nad oeddynt wedi gofyn i Gyngor Cefn Gwlad Cymru fod yn bresennol heddiw i siarad am faterion amgylcheddol.  Roedd yn rhaid cael balans iawn rhwng ystyriaethau datblygu economaidd a’r rhai amgylchedd.  Roedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi mynegi gwrthwynebiad i’r datblygiad gan ei fod, o gael ei ganiatáu, yn mynd i danseilio polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol yng nghyd-destun datblygiadau yn y cefn gwlad a hefyd yng nghyd-destun ymdrech y llywodraeth i sicrhau datblygiadau cynaliadwy.  

 

      

 

     Credai ef bod amgylchedd Ynys Môn o’r pwys mwyaf i’r Cyngor hwn ac roedd yn rhaid diogelu prydferthwch y lle ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  Yn seiliedig ar resymau economaidd yr oedd y swyddogion yn argymell rhoddi caniatâd ac yn cydnabod, yr un pryd, ei fod yn groes i’r cynllun datblygu.  Roedd ganddo amheuon ynghylch a ddylai’r Cyngor ystyried datblygiad mor fawr cyn cwblhau’r Cynllun Datblygu Lleol.  Pa ffordd bynnag yr âi y bleidlais heddiw ni chredai mai hwn fuasai’r penderfyniad terfynol - efallai y buasai Cynulliad Cymru yn y pen draw yn gwneud y penderfyniad.  

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd bod y Cyngor â phob hawl i drafod y mater a gwneud penderfyniad - mater i’r Cynulliad oedd galw’r penderfyniad i mewn ai peidio.

 

      

 

     Credai’r Cynghorydd G. W. Roberts, OBE bod y drafodaeth wedi bod yn un deg ac agored yn Siambr y Cyngor a’u cyfrifoldeb nhw fel Cynghorwyr, meddai ef, oedd gofalu am y cyfan o Ynys Môn.  Gofynnodd a oedd hawl yn yr ardal hon gan fod yma ddefnyddiwr yn y pen draw?  Roedd ef yn ymwybodol o ddatganiad a wnaed yn dilyn apêl y gallai rhywun ddefnyddio’r tir os oedd defnyddiwr iddo yn y pen draw.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ei fod yn ymwybodol o benderfyniadau apêl yn y gorffennol a theimlai ef ei bod o bwys i’r unigolyn sy’n gwneud y penderfyniad fod ei fod yn ffyddiog y buasai datblygiad gwirioneddol yn digwydd ac nad oedd yn hapfasnachol.

 

      

 

     Soniodd y Cynghorydd G. W. Roberts, OBE am y tagiant traffig ar Bont Britannia ac am y trafodaethau gyda’r Cynulliad ynghylch darparu pont newydd neu drydedd lôn ar yr hen bont.  Credai bod y datblygiad hwn o bwys mawr i dwristiaeth ar yr Ynys am nad oedd yma gyfleusterau pob tywydd.  Gallai ddeall yn iawn pam fod Bangor yn gwrthwynebu.  Gwyddai ef am bobl o Ynys Môn, rhai heb gar ac yn gweithio ym Mharc Menai, oedd yn gorfod gadael eu cartrefi am 6:30am i ddal bws a chyrraedd adref gyda’r nos wedyn ar ôl diwrnod o waith am  7:00pm.  Pam y dylai preswylwyr orfod croesi’r bont i chwilio am waith.  Credai ef bod y lleoliad yn ddelfrydol i rai oedd yn chwilio am waith - pobl o lefydd megis Niwbwrch, Llangefni a Biwmares.  Pam y dylai’r bobl hyn orfod teithio i lefydd megis Llandudno i siopio pan fo tanwydd mor ddrud.  Yn wythnosol roedd busnesau yn cau ar Ynys Môn ac roedd gwir angen y datblygiad hwn.  Pwy wyddai beth fydd dyfodol gweithwyr yn yr Wylfa ac Alwminiwm Môn.  Hefyd credai bod sinema ac ali fowlio yn bwysig iawn i deuluoedd ifanc ar yr Ynys.

 

      

 

     Diolchodd y Cynghorydd H. Eifion Jones i’r swyddogion am yr adroddiad a chredai y dylai’r aelodau nodi bod swyddogion wedi dwyn sylw at y ffaith bod y cais yn groes i rai polisïau ond hefyd nodwyd bod y galw mawr economaidd am ddatblygiad o’r math hwn yn ystyriaeth o bwys mawr.  Cyfeiriodd yr aelodau at Baragraff 7.5.7 yr adroddiad lle dywedwyd bod y Cynulliad yn fodlon bod modd datrys yr ystyriaethau priffyrdd.

 

      

 

     Yn wir roedd y cais hwn yn gyfle unigryw i greu 1500 o swyddi yn Ynys Môn lle roedd y GDA yr isaf yng Nghymru ond gallai godi yn sgil y datblygiad hwn.  Wedyn ni fuasai cymaint o bwysau ar bobl yr Ynys i adael i wneud eu siopio.  Hefyd roedd pobl ifanc angen gwasanaethau hamdden ar yr Ynys.  i aros yma roedd yn rhaid iddynt gael swyddi a bywyd o safon.  Roedd twristiaeth yn ddiwydiant mawr ym Môn a gallai’r math hwn o ddatblygiad dynnu arian o’u pocedi a chynnal y datblygiad yn y dyfodol.

 

      

 

     Yn ogystal credai y buasai’r datblygiad yn denu pobl o’r tu draw i’r bont.  Credai bod rhai aelodau yn rhy blwyfol a bod yma gyfle arbennig i’r cyfan o’r Ynys ac roedd yn fodlon cynnig caniatáu unwaith yr oedd y Cadeirydd yn barod i gymryd y bleidlais.  

 

      

 

     Cyfeirio a wnaeth y Cynghorydd W. I. Hughes at ddalen gyntaf yr adroddiad (Para 1.2) yn nodi bod y cais yn groes i nifer o bolisïau yn y Cynllun Datblygu.  Yn y gorffennol roedd Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio wedi’u beirniadu am ganiatáu ceisiadau yn groes i bolisi ac y gallai Cynulliad Cymru dynnu’r swyddogaethau cynllunio oddi ar yr Awdurdod hwn.  Ond er gwaethaf popeth roedd swyddogion yn argymell caniatáu.  Oedd, roedd angen swyddi yn Ynys Môn ond gofynnodd i’r Aelodau ystyried a fuasai’r bobl oedd yn colli swyddi yn yr Wylfa yn fodlon gweithio yma mewn bwyty neu far Mecsican?  Ai y math hwn o swyddi yr oedd Aelodau yn dymuno eu gweld yn Ynys Môn?  Credai ef bod angen swyddi da i gadw pobl ar yr Ynys.

 

      

 

     Cyfeiriodd wedyn at Bara 7.3.9 adroddiad Nathaniel Lichfield and Partners, a gomisiynwyd gan yr Awdurdod i edrych yn annibynnol ar y cyflwyniad a dywedir yno “if there is a political, economic or social desire for Anglesey to become more self-sufficient in terms of retail provision, then in our opinion Ty Mawr does not represent the best location for such development.”

 

      

 

     Er gwaethaf ei bryderon gwirioneddol am draffig yn yr ardal hon roedd y Cynghorydd Clive McGregor yn derbyn y buasai’r cynllun y cytunwyd arno yn hwyluso ac yn datrys pethau.  Ond roedd yn dal i bryderu ynghylch y sefyllfa o gwmpas y bont.  Gwyddai’r holl Aelodau bod angen creu swyddi ar yr  Ynys ac os oedd rhywun yn ddi-waith, wel roedd job yn job, beth bynnag oedd honno.  Roedd y rhan fwyaf o’r bobl yn dymuno gweithio ac yn fodlon cymryd beth bynnag oedd ar gael hyd yn oed am gyfnod dros dro.  Fel rhan o’r datblygiad hwn câi rhai swyddi da eu creu.  Hefyd roedd angen ystyried yr ymwelwyr haf ar y naill law ond hefyd y rheini a oedd yn dod yma bob tymor o’r flwyddyn.  Yn anffodus gallai’r tywydd ar yr Ynys fod yn annymunol ar adegau ac roedd angen cyfleusterau penodol ar gyfer tywydd gwlyb a chredai ef bod y datblygiad hwn yn bodloni’r meini prawf yn y cyd-destun hwnnw.  Roedd yn rhaid osgoi bod yn rhy blwyfol ac aeth ymlaen i gydnabod y ddadl bod tir ar gael yng Nghaergybi ac yn barod i’w ddatblygu ond roedd y datblygwyr wedi rhoddi eu bryd ar yr ardal hon fel eu dewis safle.  Ar ôl gwrando ar y drafodaeth heddiw roedd yn hapus i eilio cynnig y Cynghorydd H. Eifion Jones a derbyn yr argymhelliad o ganiatáu.

 

      

 

     Ar ôl yr ymweliad â’r safle mynegodd y Cynghorydd G. O. Parry, MBE ei bryderon oherwydd nifer y coed a gâi eu torri i greu lle i’r datblygiad.  Gofynnodd i’r swyddogion wneud eu gorau glas i ddiogelu’r coed.  Fodd bynnag, roedd yn dal i bryderu ynghylch lefel y traffig i’r safle ond ni fedrai gydymdeimlo gyda phryderon Cyngor Sir Gwynedd o gofio faint o siopau mawr a godwyd ar safle Ffordd Bangor.  Credai ef bod raid darparu swyddi i gyfateb i rai Parc Menai ar y tir mawr.  Hefyd gwyddai am y datblygiad yng Nghaergybi ond roedd y datblygiad gerbron heddiw yn gyfle i symud ymlaen a chynnig swyddi pendant.  Yn ogystal roedd yma gyfle i ddarparu cyfleusterau tywydd gwlyb ac ymestyn tymor twristiaeth yr Ynys.  Buasai’r datblygiad yn creu gwaith a wedyn buasai arian yn troi yn economi’r Ynys.  Roedd yn gobeithio y buasai’r aelodau yn cefnogi.

 

      

 

     Diolchodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes i’r swyddogion am adroddiad mor gytbwys ac er bod y cais yn torri’r polisïau credai bod, ym mholisïau’r Cyngor, ryw ystwythder hefyd a bod angen i’r aelodau fod yn ymwybodol o hynny (Cynllun Lleol Polisi 2).  Credai bod hwn yn achos eithriadol ac mewn cyfnodau eithriadol roedd angen cymryd camau eithriadol.  Ni chafodd ei argyhoeddi y câi y datblygiad hwn effaith ddrwg ar drefi a phentrefi’r Ynys.  Prinder llefydd parcio oedd wedi creu’r problemau hyn yn ei farn ef.  Hefyd roedd yn hapus i dderbyn y câi’r materion priffyrdd eu datrys ond cytunai gyda’r Cynghorydd Everett bod y gwaith a wneid yn waith galluogi - yn hytrach nag enillion cynllunio.

 

      

 

     Roedd defnyddiwr ar gael ac yn fodlon gweithredu ar y datblygiad hwn; roedd ymrwymiad yn ei le i’r perwyl hwn.  Ni chredai ef ei bod hi’n gynaliadwy i breswylwyr Ynys Môn orfod teithio ar draws y bont i’r tir mawr i siopio ac i ddefnyddio cyfleusterau hamdden.  Oherwydd cyfleon swyddi a ddeuai yn sgil y datblygiad roedd yn gefnogol i’r argymhelliad a hefyd roedd yma gyfle i godi lefelau GDP yr Ynys.

 

      

 

     Dygodd y Cynghorydd Dylan Jones sylw’r aelodau at yr ansicrwydd yn ei ward ef oherwydd dyfodol yr Wylfa a hefyd oherwydd y swyddi oedd yn cael eu colli yn ddyddiol.  Roedd Amlwch 20 milltir o’r bont a hefyd roedd hi’n anodd iawn denu unrhyw fusnes i’w ardal.  Hefyd credai bod amserlenni’r bysus o Amlwch yn anobeithiol a phetai’r datblygiad hwn yn mynd yn ei flaen gofynnodd i’r swyddogion gael golwg fanwl ar yr amserlenni er mwyn cysylltu Amlwch gyda’r safle.  Roedd yn pwyso ar yr aelodau i gefnogi’r cais a darparu swyddi i bobl Ynys Môn.

 

      

 

     Fel yr aelod lleol diolchodd y Cynghorydd J. Penri Williams i’r Cadeirydd am y drafodaeth a gafwyd a diolchodd hefyd i’r Swyddogion am yr holl waith.

 

      

 

     Unwaith eto aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ati i ddweud bod modd datrys y problemau traffig - roedd y cais gerbron yn un eithriadol, yn un yr oedd modd ei dderbyn er gwaethaf torri’r polisiau.  Buasai hanner y swyddi yn y lle hwn yn rhai sylweddol - nid rhai siopau bwydydd yn unig.  Yn wir roedd cydbwysedd y swyddi yn un da.

 

      

 

     O ran cynaliadwyaeth, roedd yma ddatblygiad a allai arafu’r traffig sy’n gadael yr Ynys a gallai’r safle fod yn gyrchfan i dwristiaid.  Yn y cytundeb cyfreithiol roedd cyfeiriad at wella trafnidiaeth gyhoeddus a dywedodd y câi’r amserlenni bysus o’r ardaloedd o gwmpas eu gwella.

 

      

 

     Achubodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i’r Swyddogion am y gwaith proffesiynol ar yr adroddiad.  

 

      

 

     Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid cofnodi’r bleidlais ac yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor safodd deg aelod o’r Cyngor ar eu traed i bwrpas gweithredu ar hyn.

 

      

 

     Holodd y Cynghorydd H. W. Thomas a oedd hi’n iawn i’r aelodau hynny a adawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth bleidleisio ar y mater?

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, nad oedd yn ymwybodol o unrhyw reol yn y Cyfansoddiad i’r diben hwn.  Mater i’r unigolyn oedd penderfynu a oedd yr holl ffeithiau yn hysbys iddo cyn pleidleisio.

 

      

 

     Hon oedd y bleidlais gofnodedig:-

 

      

 

     O blaid yr argymhellion: Y Cynghorwyr B. Durkin, R. Ll. Hughes, A. M. Jones, Dylan Jones,

 

     G. O. Jones, H. Eifion Jones, O. Glyn Jones, C. McGregor, R. L. Owen, G. O. Parry, MBE,

 

     R. G. Parry, OBE, E. Roberts, G. W. Roberts, OBE, H. W. Thomas.

 

     Cyfanswm - 14

 

      

 

     Yn erbyn (h.y. gwrthod): Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, E. G. Davies, L. Davies, C. Ll. Everett,

 

     K. Evans, Ff. M. Hughes, K. Hughes, W. I. Hughes, Eric Jones, Raymond Jones, R. Ll. Jones,

 

     T. Jones, J. V. Owen, Rhian Medi, J. Penri Williams.

 

     Cyfanswm - 15

 

      

 

     Ymatal: y Cynghorydd Jim Evans

 

      

 

     O’r herwydd cafodd y cais ei wrthod.

 

      

 

     (Eglurodd y Cynghorydd Jim Evans iddo atal ei bleidlais ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol).

 

      

 

     Ar wahoddiad y Cadeirydd, dywedodd  Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol bod raid i’r Aelodau gyflwyno rhesymau o blaid gwrthod a than Gyfansoddiad y Cyngor, deuai’r cais yn ôl i gyfarfod arall yn y dyfodol fel bod swyddogion yn cael cyfle i baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

      

 

      

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog, am y rhesymau a ganlyn:-

 

      

 

     (a) Mae’r cais yn torri sawl polisi yn y Cynllun Datblygu:

 

 

 

Ÿ

Heb glustnodiad yn y cynllun datblygu.

 

Ÿ

Heb gyswllt da gyda strategaeth y cynllun datblygu na chyda’r prif ganolfannau yn y cynllun datblygu.

 

Ÿ

Polisi siopau.

 

Ÿ

Effaith ar y tirwedd (Ardal Tirwedd Arbennig).

 

Ÿ

Lletem Werdd (y Cynllun Datblygu Unedol a stopiwyd).

 

Ÿ

Gorfod defnyddio’r car i gyrraedd (materion cynaliadwyaeth).

 

Ÿ

Effaith ar Heneb Restredig.

 

 

 

     (b) Roedd canol trefi Ynys Môn a’r pentrefi hefyd yn dioddef oherwydd bod siopau’n cau.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n otomatig tan gyfarfod diweddarach a hynny er mwyn rhoi’r cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

                         

 

           

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 5:00pm

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD ALED MORRIS JONES

 

CADEIRYDD