CYNGOR SIR YNYS MÔN |
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2007 (2.00pm) |
|
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Cyllideb Refeniw |
|||
At ei gilydd mae cynigion y gyllideb refeniw yn aros fel yr oeddent yn y cynigion cychwynnol. Mae tanwariant a ragwelir yn 2006-07 yn y swm a neilltuwyd ar integreiddio disgyblion ag anghenion arbennig yn yr ysgolion cynradd yn galluogi dychwelyd y swm i'r cwantwm ysgolion cynradd yn 2007-08, gan wella'r dyraniad i ysgolion unigol dros y cynigion gwreiddiol. |
|||
|
|||
Cyllideb a Chynllun Cyfalaf |
|||
Mae cynigion y gyllideb a'r cynllun cyfalaf wedi rhoi ystyriaeth i'r Côd Pwyllog. Mae'r cynllun cyfalaf yn rholio ymlaen y cynllun a fabwysiadwyd yn 2006-07, ac yn cadarnhau'r flaenoriaeth i ymrwymiadau gwastraff, hamdden ac adfywio. Mae'n caniatau gwario ar gyntedd swyddfeydd y Cyngor ac (yn amodol ar gyllid allanol) cychwyn ar Oriel Syr Kyffin Williams. |
|||
|
|||
Materion Ffurfiol |
|||
Yn unol â gofynion Rheolau Gweithdrefn y Gyllideb rhaid nodi'r materion a ganlyn yn yr adroddiad hwn : |
|||
|
|||
1. Nid yw'r Cyngor wedi mabwysiadu strategaeth gyllidebol; |
|||
|
|||
2. Mae'r Dreth Gyngor arfaethedig am y flwyddyn yn £755.46 (Band D), sef cynnydd o 4.9%. |
|||
|
|||
3. Bwriedir trosglwyddo £500,000 o'r balansau cyffredinol at gostau torri gwasanaeth staff. Allan o'r swm, mae £350,000 wedi ei gynnwys yn y gyllideb addysg a'r gweddill heb ei ddyranu at unrhyw wasanaeth. |
|||
|
|||
4. Mae crynodeb o'r gwariant arfaethedig fesul gwasanaeth yn ymddangos yn Nhabl A i'r gyllideb refeniw a fesul cynllun i'r gyllideb gyfalaf yn Nhabl C. |
|||
|
|||
5. Mae cynigion y Pwyllgor Gwaith yn cynnwys :- |
|||
|
|||
- arbedion 1% ar draws bron pob cyllideb, yn rhoi cyfanswm o £1.09 miliwn; |
|||
- ail-gyllido dyled allanol, yn arbed £0.5miliwn; |
|||
- arbedion pellach o £0.2 miliwn yn erbyn cyllideb cynnal ffyrdd; |
|||
- cyfyngu gan £0.3m ar ddefnydd arian a adnabyddwyd gan Llywodraeth y Cynulliad at feichiau newydd, yn bennaf yn y gwasanaethau cymdeithasol. |
|||
|
|||
Mae'r arbedion hyn wedi galluogi cynnwys yn y gyllideb ddarpariaeth ychwanegol o £2.0 miliwn at gostau rheoli gwastraff newydd, £0.1m at gryfhau'r Tim Iechyd a Diogelwch a £0.1 miliwn at broses y Cynllun Datblygu Lleol. |
|||
|
|||
6. Mae'r Pwyllgor Gwaith hefyd wedi rhoddi sylw i sylwadau'r Pwyllgorau Sgriwtini a Throsolwg a gyflwynwyd iddo yn ei gyfarfod at 12 Chwefror. |
|||
|
|||
7. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi rhoddi sylw i ymatebion cyrff allanol yr ymgynghorwyd â nhw, sef sylwadau a gyflwynwyd i'w gyfarfod ar 12 Chwefror. |
|||
|
|||
8. Does dim gwahaniaethau sylweddol rhwng y cynigion cychwynnol a'r cynigion terfynol i'r gyllideb. |
|||
|
|||
9. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cynnig i'r Cyngor y dylid rhoddi iddo bwerau dirprwyol i wario cyllidebau a chael pwerau hefyd i drosglwyddo cyllidebau, fel a wnaeth yn y gorffennol yn y dull a ganlyn :- |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
10. Manylir ar gynigion benthyca a buddsoddi mewn adroddiad ar wahân gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar Reoli'r Trysorlys ac sydd eisoes wedi ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith. |
|||
|
11. Rhoddir sylw i faterion statudol eraill yn yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid). |
|||
|
|||
Wrth grynhoi diolchodd y Deilydd Portffolio i'w gyd-aelodau ar y Pwyllgor Gwaith a hefyd i'r Panel Cyllid am eu cyfraniadau. Yn ogystal diolchodd i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a'i staff am eu gwaith gwerthfawr ar gyllideb y Cyngor ar gyfer 2007-08. |
|||
|
|||
Gofynnodd y Cynghorydd A. Morris Jones i'r Cyngor ystyried adfer y gefnogaeth i'r ysgolion cymunedol a oedd mor bwysig yn ein cymunedau lleol ac o gymorth i adfywio ardaloedd gwledig Ynys Môn a bod y cymorth yn ychwanegol at y ddarpariaeth yn y gyllideb yr oedd y Cyngor am ei chymeradwyo heddiw. |
|||
|
|||
4.3 CYLLIDEB Y CYNGOR 2007/08 - MABWYSIADU PENDERFYNIAD FFURFIOL |
|||
|
|||
Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - I bwrpas mabwysiadu ei gyllideb am 2007-08 a phennu lefel y Dreth Gyngor am y flwyddyn bydd raid i'r Cyngor Sir fabwysiadu penderfyniad ffurfiol sy'n delio'n fanwl gyda'r holl faterion cysylltiedig. |
|||
|
|||
Wrth iddo ystyried cyllideb arfaethedig y Pwyllgor Gwaith, bydd raid i'r Cyngor, hefyd, ystyried yr adroddiad hwn gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid). Mae'n delio gyda materion gofynnol dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ("y Ddeddf") a'r Côd Pwyllog yng nghyswllt Cyllid Cyfalaf i Awdurdodau Lleol ("y Côd Pwyllog"). |
|||
|
|||
CADERNID YR AMCANGYFRIFON |
|||
|
|||
Dan adran 25 (1) (a) y Ddeddf roedd hi'n ddyletswydd ar y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor ar gadernid yr amcangyfrifon a baratowyd yn ystod y broses o lunio'r gyllideb. |
|||
|
|||
Yn ddieithriad, oherwydd ansicrwydd ynghylch digwyddiadau'r dyfodol sy'n cael effaith ar y gyllideb, mae'n rhaid paratoi amcangyfrifon, a’r rheini yn eu tro yn seiliedig ar ragdybiaethau ynghylch beth sy'n debyg o ddigwydd. Y rhain yw'r elfennau mwyaf o ansicrwydd sy'n cael effaith ar y gyllideb a'r dull a'r modd o ddelio gyda nhw :- |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Gyda'r rhagymadrodd uchod rydwyf yn fodlon bod y gyllideb arfaethedig wedi ei hamcangyfrif yn gadarn. (Mae tablau D a Dd yn darparu gwybodaeth cefnogol i gynigion terfynol y Pwyllgor Gwaith). |
|||
|
|||
DIGONOLRWYDD Y CRONFEYDD ARIANNOL WRTH GEFN |
|||
|
|||
Dan Adran 25 (1) (b) y Ddeddf roedd hi'n ddyletswydd ar y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor ar ddigonolrwydd y cronfeydd wrth gefn arfaethedig. |
|||
Roedd wedi adolygu lefel y cronfeydd wrth gefn gan ddilyn dull y cyflwynais adroddiad arno i'r Pwyllgor Gwaith fel rhan o'r broses paratoi at y gyllideb. |
|||
|
|||
Sefydlwyd cronfeydd wrth gefn clustnodedig ar gyfer cynlluniau sy'n hysbys i ni, ac ar gyfer ymrwymiadau neu risgiau; ac wrth adolygu lefel bresennol y cronfeydd wrth gefn rhagdybiais y bydd ymrwymiadau yn cael eu cadw, bydd cynlluniau fel arfer yn cael eu gweithredu, ac y bydd risgiau angen lefel o ddarpariaeth sy'n cyfateb i'w maint ac i'w tebygolrwydd. |
|||
|
|||
Fodd bynnag, mae'r gronfa wrth gefn a glustnodwyd mewn perthynas â gwasanaethau dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn parhau'n ansicr. |
|||
|
|||
Gyda'i gilydd roedd balansau'r ysgolion yn fwy na digonol. Mae nifer fechan o ysgolion gyda balansau mewn diffyg a heb fod yn ddigonol. Mae defnydd y balansau hyn yn fater i gorff llywodraethol bob ysgol. |
|||
|
|||
Ar hyn o bryd rhagamcenir y bydd y balansau refeniw cyffredinol yn £4.4 miliwn ar 31 Mawrth 2007. Neilltuwyd £0.5 miliwn yn y gyllideb arfaethedig tuag at costau diswyddo staff. |
|||
|
|||
Yn erbyn y cefndir uchod, mae'r Cyfarwyddwr Corfforaethol yn rhagamcan balansau o £3.9 miliwn ar 31 Mawrth 2008 ac yn fodlon y bydd y gyllideb arfaethedig yn gadael y Cyngor gyda chronfeydd ariannol digonol wrth gefn. |
|||
|
|||
Y CÔD PWYLLOG |
|||
|
|||
Mae'r fframwaith deddfwriaethol a gyflwynwyd dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn gorfodi'r Cyngor i ystyried y Côd Pwyllog yng nghyswllt Cyllid Cyfalaf i Awdurdodau Lleol. Mae'r Pwyllgor Gwaith eisoes wedi rhoddi cadarnhad i hyn. |
|||
|
|||
Gofynion pennaf y Côd Pwyllog yw bod awdurdodau yn ystyriol o fforddiadwyaeth a phwyll. |
|||
|
|||
|
|||
|
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
PRAESEPT YR AWDURDOD HEDDLU |
|||
|
|||
Mae'r Awdurdod Heddlu wedi pennu praesept sy'n torri'r fersiwn ddrafft o'r meini prawf ffrwyno - rhai yr ymgynghorodd y Gweinidog Cyllid Llywodraeth Lleol a'r Cymunedau Llywodraeth Cynulliad Cymru, arnynt. O'r herwydd mae yma bosibilrwydd y bydd Awdurdod yr Heddlu yn cael ei ffrwyno. |
|||
|
|||
Petai hynny'n digwydd, ac awdurdod yr Heddlu yn gorfod ryddhau praesept arall, yna buasai'n rhaid i'r awdurdod hwn wedyn wneud penderfyniad arall ar y Dreth Gyngor a gyrru biliau newydd at yr holl drethdalwyr. Gall godi ar yr Awdurdod Heddlu am gostau'r gwaith hwn. |
|||
|
|||
Dan yr amgylchiadau hyn mae Adran 67 (3) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn caniatáu i'r Cyngor ddirprwyo'r penderfyniad i Bwyllgor a benodir gan yr awdurdod am gyfnod penodol o amser. Rydwyf yn argymell fod y Cyngor yn sefydlu Pwyllgor o'r fath, ac yn cynnwys Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor arno, i ymgymryd â'r swyddogaeth hon i ddibenion yr amgylchiadau uchod yn unig a bod eu tymor mewn swydd yn dod i ben ar 30 Medi 2007. |
|||
|
|||
4.4 STRATEGAETH RHEOLI’R TRYSORLYS |
|||
|
|||
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ac a gymeradwywyd ganddo yng nghyswllt y wybodaeth sydd ei hangen cyn dechrau blwyddyn ariannol newydd dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, yr Arweiniad ar Fuddsoddiadau Llywodraeth Leol a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a dau Gôd Ymarfer a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Siartredig ar Gyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA) : Côd Ymarfer Rheoli Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Côd Pwyllog ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol a chanllawiau cysylltiedig. |
|||
|
|||
Yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth, 2002, bu i'r Cyngor fabwysiadu Datganiad Polisi Trysorlys newydd a chymalau newydd ynglyn â Rheoli Trysorlys yn unol â chyngor CIPFA ac fel paratoad ar gyfer ei Reolau Gweithdrefn Ariannol newydd. O ganlyniad, rhaid cyflwyno'r Strategaeth Rheoli Trysorlys flynyddol i'r Cyngor. Mae hyn yn gyson â'r Côd Pwyllog a'r Rheoliadau Trefniadau Gweithredol Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau)(Cymru) 2001 sy'n datgan y dylai'r Pwyllgor Gwaith lunio unrhyw gynllun neu strategaeth i reoli benthyca neu wariant cyfalaf yr Awdurdod a threfnu i'r Cyngor llawn ei fabwysiadu. |
|||
|
|||
Cafwyd manylion llawn yn yr adroddiad am y materion canlynol:- |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Hefyd ynghlwm fel rhan o'r adroddiad hwn roedd copïau o'r canlynol:- |
|||
|
Dangosyddion Pwyllog |
|||
Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2007/2008 |
|||
Strategaeth Buddsoddi Flynyddol 2007/2008 |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Strategaeth Fuddsoddi gysylltiedig am 2007/08. |
|||
|
|||
PENDERFYNIAD Y CYNGOR |
|||
Ynghlwm wrth yr adroddiadau hyn roedd fersiwn ddrafft o benderfyniad y Cyngor yng nghyswllt pennu’r Dreth Gyngor am 2007/08. |
|||
|
|||
1. PENDERFYNWYD |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
2. PENDERFYNWYD pennu'r dangosyddion pwyllog sy'n amcangyfrifon am 2007/08 ymlaen fel sy'n ymddangos yn Nhabl Ch yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) gan gadarnhau'r terfynau ar fenthyca a buddsoddi sydd wedi eu nodi yn eitemau 10,11 a 14 i 17 yn y tabl. |
|||
|
|||
3. PENDERFYNWYD mabwysiadu a chadarnhau i bwrpas y flwyddyn ariannol 2007/08 benderfyniad y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 1998, bod y Cyngor Sir yn pennu lefel y disgownt sy'n gymwys i'r Dosbarth penodedig A a Dosbarth penodedig B o anheddau i bwrpas Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (a ddiwygiwyd), a ddisgrifir gan Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) ( Cymru) 1998, fel a ganlyn:- |
|||
|
|||
Dosbarth Penodedig A Dim Disgownt |
|||
Dosbarth Penodedig B Dim Disgownt |
|||
|
|||
4. PENDERFYNWYD pennu i bwrpas y flwyddyn ariannol 2007/08, lefel disgownt sy'n briodol i Ddosbarth Penodedig C dan Rhan 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (a ddiwygiwyd), a ddisgrifir gan y Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor) a'r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004, fel a ganlyn:- |
|||
|
|||
Dosbarth Penodedig C Dim Disgownt |
|||
|
|||
5. Nodi fod y Cyngor yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 1996 wedi penderfynu na fydd yn trin y costau yr â'r Cyngor iddynt yn rhan o'i ardal nac wrth gyfarfod unrhyw gais neu gais arbennig fel costau arbennig a bod y penderfyniadau i barhau mewn grym hyd oni fyddant yn cael eu diddymu'n benodol. |
|||
|
|||
6. Y dylid nodi i'r Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod ar 11 Rhagfyr 2006 bennu'r symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2007/08 yn unol â'r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:- |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|
|
|
|
|||
sef y symiau a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol â rheoliad 6 y Rheoliadau, yn symiau sail y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn gyda golwg ar y tai annedd yn y rhannau hynny o'i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy'n berthnasol. |
|||
|
|||
7. Bod y symiau a ganlyn bellach yn cael eu pennu gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2007/08 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:- |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
f) Rhan o ardal y Cyngor |
|
|
|
|
|||
|
|||
|
|||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
sef y symiau a geir trwy luosi'r symiau yn 7(e) a 7(f) uchod a'r rhif sydd, yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5(1) y Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd a restrir mewn band prisiau arbennig wedi'i rannu a'r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny'n berthnasol i dai a restrir ym mand prisiau D, a bennir gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, yn symiau sydd i'w hystyried ar gyfer y flwyddyn gyda golwg ar y categoriau o dai annedd a restrir yn y gwahanol fandiau prisiau. |
|
|
|
8. Y dylid nodi ar gyfer y flwyddyn 2007/08 fod Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru wedi nodi'r symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i'r Cyngor, yn unol ag Adran 40 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ar gyfer pob un o'r categoriau o dai annedd a ddangosir isod:- |
|
|
|
Awdurdod Praeseptio Band Prisiau |
|
|
|
9. Wedi pennu'r cyfanswm ym mhob achos o'r symiau yn 7(ff) a 8 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, drwy hyn, yn pennu'r symiau a ganlyn ar gyfer y dreth gyngor yn y flwyddyn 2007/08 ar gyfer pob categori o dai annedd a ddangosir isod:- |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|||
10. Cymeradwyo'r egwyddog o sefydlu Pwyllgor ac arno Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor Sir a rhoddi i'r Pwllgor hwnnw awdurdod dirprwyol hyd at 30 Medi 2007 dan Adran 67(3) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i benderfynu ar Dreth Gyngor amgen petai yr Awdurdod Heddlu yn cael ei gapio oherwydd iddo sefydlu praesept sy'n torri'r mini prawf capio. |
|||
|
|||
11. Codi ar yr Awdurdod Heddlu am unrhyw gostau ailfilio y bydd yr Awdurdod hwn yn eu hwynebu. |
|||
|
|||
12. Gofyn i swyddogion gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Gorffennaf ar arbedion effeithiolrwydd arfaethedig ar gyfer 2008/09 ac wedyn gofyn am farn holl aelodau'r Cyngor Sir cyn cyflwyno arbedion i'r Pwyllgor Gwaith roddi rhagor o sylw iddynt ym mis Medi. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Cyflwynwyd - Adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro ar drefniadau balans gwleidyddol y tu mewn i'r Cyngor, a hynny yn dilyn ethol y Cynghorydd Eric Jones yn ddiweddar. |
|||
|
|||
Yn yr adroddiad cyflwynwyd tabl yn dangos cynrychiolaeth o 15, 7, 6, 5 a 4 Aelod i'r grwpiau gwleidyddol a 3 o Aelodau Rhydd ar wahân. Cyfanswm y seddi i'w dyrannu bellach yw 99. |
|||
|
|||
Roedd y ffigyrau yn y tabl wedi eu paratoi i sicrhau fod balans gwleidyddol yn cael ei barchu fesul Pwyllgor a hefyd fel cyfanswm yn seiliedig ar ddarpariaethau cyfreithiol. |
|||
|
|||
Onid oedd y gwaith clandro yn cyflwyno rhifau cyflawn i gyfanswm y seddi ac i'r seddi ar bwyllgorau unigol (peth amhosib bron yn fathemategol oherwydd bod angen rhannu 99 o seddi i gyd rhwng 40 o Gynghorwyr) roedd hi'n anorfod y buasai'n rhaid defnyddio ffracsiynau, ac o'r herwydd nid oedd modd cydymffurfio'n llwyr gyda'r gofynion. |
|||
|
|||
Reodd yn rhaid i bob grwp gwleidyddol ar y Cyngor neilltuo'r seddi a roddir iddo dan y trefniadau balans gwleidyddol i'w aelodau ei hun ac ni allai ddyrannu i Gynghorydd nad oedd yn aelod o'r grwp gwleidyddol hwnnw. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
6 CYNLLUN GWEITHREDU AR GYFER Y CÔD DIOGELWCH ARFOROL MEWN PORTHLADDOEDD |
|||
|
|||
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo) - Bod Cynllun Gweithrediadau Arforol y Cyngor wedi ei baratoi yn unol â'r Côd Diogelwch Arforol mewn Porthladdoedd ac fe gafodd ei gymerdwyo gan y Cyngor Sir ym mis Mai 2002. Bryd hynny dynodwyd y Pwyllgor Gwaith fel y "Corff â Dyletswydd" ar gyfer y Cynllun. |
|||
|
|||
Ers hynny cyflwynwyd adroddiad bob chwe mis i'r Pwyllgor Gwaith ar weithrediad y Cynllun. Cynhaliwyd archwiliad ffurfiol wedi i'r cynllun fod yn rhedeg am dair blynedd. |
|||
|
|||
Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith "Gofyn i'r Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo) ofyn am ganiatâd y Cyngor Sir yn ei gyfarfod ym mis Mawrth i newid y Cynllun Diogelwch Arforol mewn Porthladdoedd er mwyn dynodi'r Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo fel y 'Sawl sydd â Dyletswydd' yn hytrach na'r Pwyllgor Gwaith." |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD rhoi'r awdurdod i ddigwygio'r Cynllun Gweithrediadau Arforol er mwyn dynodi'r Aelod Portffolio (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo) fel y sawl sydd â dyletswydd yn hytrach na'r Pwyllgor Gwaith fel sy'n digwydd ar hyn o bryd. |
|||
|
|||
7 CWESTIYNAU A DDERBYNWYD YN UNOL Â RHEOL 4.1.12.4 |
|||
|
Cyflwynodd y cwestiwn canlynol gan y Cynghorydd Fflur M. Hughes :- |
|||
|
|||
"Yn wyneb y ffaith bod ail-agor Lein Amlwch fel llwybr beicio, cerdded a marchogaeth, wedi ei drafod yn y Cyngor Sir ar 14 Rhagfyr, 2006 a fyddai'r Cyngor yn barod i gomisiynu astudiaeth dichonoldeb ar gyfer defnydd o'r fath, o gofio bod y lein yn adnodd holl bwysig i'r Ynys er mwyn cyfrannu at wella ansawdd bywyd a'r agenda byw yn iach." |
|||
|
|||
Atebodd yr Arweinydd :- |
|||
|
|||
"Dwi'n meddwl bod hwn yn bwysig aruthrol i Fôn dros y tymor hir. Mi garwn i gael teimlad y Cyngor hefyd bod ni yn rhoi ffigwr ar ran y Cyngor Sir o £5k at astudiaeth mewn partneriaeth gyda chorff arall. Mae'n bwysig bod ni yn hollol glir be da ni yn ei wneud gyda hwn a mi fuaswn i yn hoffi cael rhyw fath o gefnogaeth gan y Cyngor." |
|||
|
|||
Y Cynghorydd J. A. Jones :- |
|||
|
|||
"Dwi'n cytuno'n llwyr ac yn cefnogi'r cwestiwn. Mae'n rhaid i'r Cyngor Sir yma gymryd penderfyniad pendant un ffordd neu'r llall ar sut da ni am symud ymlaen. Dwi yn hoffi'r syniad, cyn belled â mae Cynghorydd Fflur Hughes yn y cwestiwn ac efallai buasai'n bosibl ei ddefnyddio fel 'bridleway' hefyd. Dwi am ofyn i'r Cyngor Sir os fydd na benderfyniad, ma hwnna da ni yn mynd i gefnogi cyn belled â mae defnydd i'r Lein yn y cwestiwn, a dwi'n cynnig hynny." |
|||
|
|||
Ychwanegodd yr Arweinydd - "Mae'n bwysig fod yna astudiaeth fan yma ac wedyn bydd rhaid i'r corff chwilio am arian, t'oes gan y Cyngor yma ddim arian i dalu am y lein. Mae'n bwysig hefyd bod y 'railtrack' yn cael ei gadw." |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
8 DIRPRWYAETH GAN YR ARWEINYDD |
|||
|
|||
Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr yn amlinellu newidiadau i'r Cynllun Dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau'r Pwyllgor Gwaith a wnaed gan yr Arweinydd ers y cyfarfod arferol diwethaf (Rheol 4.14.1.4 Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith - cyfeirir at Dudalen 131). |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||
|
|||
Ar yr adeg benodol hon dywedodd yr Arweinydd bod y Pwyllgor Gwaith yn bwriadu canfod rhagor o arbedion yn y grantiau y mae'r Cyngor hwn yn ei roddi i gyrff allanol. Yn lle'r cytundebau blynyddol presennol cynigiwyd bod cytundebau lefel gwasanaeth tair blynedd yn cael eu sefydlu a buasai hynny'n rhoddi rhywfaint o sefydlogrwydd i'r cyrff dan sylw. Roedd y mater hwn eisoes wedi’i godi yn y Prif Bwyllgor Sgriwtini. |
|||
|
|||
9 CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD |
|||
|
|||
Penderfynwyd cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod am y rheswm y datgelir gwybodaeth bersonol sensitif dan Ddeddf Diogelu Dta 1998. |
|||
|
|||
10 CAIS GAN GYNGHORYDD I ESTYN EI GYFNOD O ABSENOLDEB OHERWYDD SALWCH |
|||
|
|||
Cafwyd caniatâd y Cadeirydd i drafod y mater hwn oherwydd y brys mawr i wneud penderfyniad ar y cais cyn diwedd y cyfnod 6 mis olynol - o'r dyddiad diwethaf pryd y bu'r Cynghorydd mewn unrhyw gyfarfod o'r Awdurdod. Hwn oedd y cyfle diwethaf un i ystyried y cais. |
|||
|
|||
Gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro cafwyd cyngor ar gefndir y cais - dan Adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972 mae Cynghorydd sydd yn methu â mynychu cyfarfodydd y Cyngor neu un o'i Bwyllgorau am gyfnod di-dor 6 mis yn awtomatig yn colli swydd fel Cynghorydd, a hynny'n arwain at is-etholiad yn ward y Cynghorydd hwnnw. Roedd y broses statudol hon yn digwydd yn awtomatig beth bynnag fo rheswm Cynghorydd am yr absenoldeb onid yw'r Cynghorydd cyn i'r 6 mis yn dod i ben, yn cyflwyno cais llwyddiannus i'r Cyngor llawn i ymestyn y cyfnod statudol o 6 mis. Ysgrifennodd y Rheolwr-gyfarwyddwr at y Cynghorydd dan sylw rai wythnosau'n ôl yn gofyn iddo am gais i'w gyflwyno i gyfarfod heddiw a hynny er mwyn osgoi galw cyfarfod arbennig, gan fod y cyfnod o 6 mis yn yr achos hwn yn dod i ben ar 27 Mawrth 2007. Gofynnwyd i'r Cynghorydd ysgrifennu at y Cyngor a darparu digon o wybodaeth fel bod modd i'r Cynghorwyr wneud penderfyniad ar y cais i ymestyn y cyfnod statudol. Eglurwyd i'r Cynghorydd dan sylw mai’r hyn yr oedd yn gofyn i'r Cyngor ei wneud oedd pwyso a mesur ei fuddiannau, a'r cyfle i wella a dod yn ôl i'w swydd fel Cynghorydd, yn erbyn buddiannau ei etholwyr a sicrhau fod ganddynt gynrychiolaeth briodol dros y cyfnod o absenoldeb gwaeledd. Eglurwyd y buasai raid i'r Cyngor ystyried rhagolygon meddygol, ac yn arbennig y dyddiad tebygol neu amcangyfrif o ddyddiad ar gyfer dychwelyd i'w swydd fel Cynghorydd; hefyd roedd rhaid i'r aelodau gael gwybod am y trefniadau, yn y cyfamser, i ddelio gyda'i waith ar ran ei etholwyr. |
|||
|
|||
Cyflwynwyd - adroddiad llafar gan y Rheowlr-gyfarwyddwr ar y cais. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais a bod y Cynghorydd dan sylw yn cael 6 mis arall o absenoldeb gwaeledd, yn ychwanegol at y 6 mis cyntaf, o'r dyddiad pryd y mynychodd ddiwethaf gyfarfod o'r Awdurdod hwn. |
|||
|
|||
(Nodi bod y Cynghorydd P.M. Fowlie wedi cytuno i gynorthwyo gydag unrhyw waith i etholwyr ward y Cynghorydd yn ystod ei absenoldeb). |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Daeth y cyfarfod i ben am 3:40 pm |
|||
|
|||
|
|||
Y Cynghorydd John Rowlands |
|||
CADEIRYDD |
|||
|