Dydd Mawrth 06/02/2012
Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.
Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.
Cyflwyno i'w cadarnhau a'u harwyddo , cofnodion y cyfarfodydd o'r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
- 8 Rhagfyr 2011 (Arbennig) (Papur 'A')
- 8 Rhagfyr 2011 (Papur 'B')
- 13 Rhagfyr 2011 (Arbennig) (Papur 'C')
- 13 Rhagfyr 2011 (Materion a ohiriwyd o 8 Rhagfyr) (Papur 'CH')
- 17 Ionawr 2012 (Arbennig) (Papur 'D')
Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.
Cyflwyno er gwybodaeth, cofnodion y cyfarfodydd o'r Bwrdd Gwella gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
- 14 Tachwedd 2011 (Papur 'DD')
- 26 Ionawr 2012 (Papur 'E')
Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.
Derbyn cyflwyniad llafar gan gynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru ar yr Adroddiad Blynyddol. (Copi o'r Adroddiad Blynyddol wedi'i gylchu'n flaenorol i'r Aelodau).
(Bydd cyfle i'r Aelodau gael sesiwn gwestiynau ac atebion ar ôl y cyflwyniad.
7.1 Cyflwyno Cynigion y Comisiynwyr ar gyfer strategaeth cyllideb refeniw tymor canol, cynllun cyfalaf dros dro a chyllidebau refeniw a chyfalaf 2012/13
(Papur 'F')
7.2 Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Adran 151Dros Dro ar y gyllideb
(Papur 'FF')
7.3 Ystyried y penderfyniad ffurfiol yn adroddiad y Swyddog Adran 151 Dros Dro
(Papur 'G')
7.4 Cynllun Corfforaethol 2012-15 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)
(Papur 'NG')
(Noder: Bydd angen ystyried yr holl bapurau uchod fel un pecyn).
Bydd y Comisiynydd Mick Giannasi yn cyflwyno adroddiad Cynnydd Trydydd Chwarter y Comisiynwyr. (Copi wedi'i anfon yn flaenorol i Aelodau a Swyddogion trwy e-bost).
Newidiadau i'r rhannau canlynol o'r Cyfansoddiad:-
- Erthygl 12 - Swyddogion
- Para 3.2 - Cyfrifoldeb y Cyngor am swyddogaethau
- Para 3.4.9 - Panel Penodi
- Para 3.5 - Cynllun Dirprwyo i Swyddogion
- Para 4.10 - Rheolau Gweithdrefn Cyflogaeth Swyddogion
- Rhan 7 - Strwythur Rheoli
Adrodd bod y Bwrdd Comisiynwyr yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror 2012, wedi penderfynu fel a ganlyn:-
“I argymell i'r Cyngor Sir a'r Gweinidigaeth Cymreig ddiwygio Cyfansoddiad y Cyngor fel y dangosir yn yr adroddiad ac i awdurdodi Swyddogion i wneud unrhyw newidiadau canlyniadol i'r Cyfansoddiadâ€.
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro ar y newidiadau uchod.
(Copi wedi'i ddosbarthu ynghynt i'r holl Aelodau fel rhan o bapurau'r Bwrdd ar gyfer 27 Chwefror 2012.
Adrodd bod y Bwrdd Comisiynwyr yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror 2012 wedi penderfynu:-
“I argymell i'r Cyngor Sir y dylid cymeradwyo Cynllun Cyfraddoldeb Strategol draf ft y Cyngor 2012-2016 ac awdurdodi swyddogion, mewn ymgynghoriad â'r Comisiynydd perthnasol, i gwblhau'r Cynllun a'i gyhoeddi erbyn 2 Ebrill, 2012 â€.
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)
(Copi wedi'i ddosbarthu ynghynt i'r holl Aelodau fel rhan o bapurau'r Bwrdd ar gyfer 27 Chwefror 2012.)
Adrodd bod y Bwrdd Comisiynwyr yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror 2012 wedi penderfynu:-
“I argymell i'r Cyngor Sir y dylid cymeradwyo'r Cynllun Iaith diwygiedig ac awdurdodi swyddogion, mewn ymgynghoriad â'r Comisiynydd perthnasol, i gwblhau'r Cynllun a'i gyhoeddiâ€.
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)
(Copi wedi'i ddosbarthu ynghynt i'r holl Aelodau fel rhan o bapurau'r Bwrdd ar gyfer 27 Chwefror 2012.)
Adrodd bod y Bwrdd Comisiynwyr yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror 2012 wedi penderfynu argymell i'r Cyngor Sir fel a ganlyn:-
- “Ei fod, mewn egwyddor, yn llofnodi'r compact er mwyn adlewyrchu manteision ar lefelau lleol, is-ranbarthol a chenedlaethol;
- Bod y Cyngor yn cytuno i gynllunio swyddogaeth benodol o ran gweithredu'r amrediad llawn o feysydd cydweithio yn y Compact yn amodol ar:-
(a) Bod modd profi y bydd gwelliant yn y gwasanethau a roddir i drigolion Ynys Môn ac na fyddai effaith andwyol ar y gwasanaethau a ddarperir;
(b) Bod arbedion o ran adnoddau i'r Cyngor a bod y model gwasanaeth newydd arfaethedig yn darparu gwasanaeth i drigolion sydd o leiaf cystal â'r gwasanaeth y mae'n bwriadu ei ddisodli;
- Bod angen rhoi mwy o bwyslais yng Nghontractau Gweithredu'r Compact ar fantais cydweithio yn y maes Datblygu Economaidd a Thwristiaeth;
- Bod adroddiadau diweddaru yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor hwn bob chwarter ynghylch darparu'r Compact yn lleolâ€.
Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr.
(Copi wedi'i ddosbarthu ynghynt i'r holl Aelodau fel rhan o bapurau'r Bwrdd ar gyfer 27 Chwefror 2012.
Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr ar yr ymgynghoriad uchod.
(Papur 'H')
Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr ar yr ymgynghoriad uchod.
(Papur 'I')
Derbyn adroddiad llafar gan y Cynghorydd Aled Morris Jones, un o gynrychiolwyr y Cyngor ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, am y cyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr Awdurdod hwnnw rhwng 1 Rhagfyr 2011 a 29 Chwefror 2012.
Derbyn adroddiad llafar gan y Cynghorydd P. S. Rogers, cynrychiolydd y Cyngor ar Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru, am gyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr Awdurdod hwnnw rhwng 1 Rhagfyr 2011 a 29 Chwefror 2012.
Ystyried mabwysiadu'r canlynol:-
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a'r Profion Budd y Cyhoedd eithriad ohoniâ€.
Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau Dyno - yn dilyn cyngor cyfreithiol gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol cafodd yr eitem isod ei thrafod fel eitem gyhoeddus.
(Papur 'L')