Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 6 Hydref 2009

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 6ed Hydref, 2009

CYFARFOD ARBENNIG O CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 6 Hydref 2009 (10:00yb)

 

YN BRESENNOL:

 

Cynghorydd O Glyn Jones -Cadeirydd

Cynghorydd Selwyn Williams- Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr W.J.Chorlton; E.G.Davies; Lewis Davies;

Barrie Durkin; Jim Evans; K.Evans; Ff.M.Hughes; KennethP.Hughes; W.I.Hughes; W.T.Hughes; Eric Jones;  H.Eifion Jones; Raymond Jones; R.Dylan Jones; R.Ll Jones; T.H.Jones; Aled Morris Jones; C.McGregor; Rhian Medi; Bryan Owen; J.V.Owen; R.L.Owen; Bob.Parry OBE; G.O.Parry MBE;  G.W.Roberts OBE,J.Arwel Roberts; Peter.S.Rogers; E.Schofield; Ieuan Williams; J.Penri Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro;

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid);

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol);

Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol);

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro;

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi);

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol);

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro;

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor;

Swyddog y Wasg / Cyfathrebu.

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr  C.Ll.Everett, P.M.Fowlie, D.R.Hughes, R.Ll.Hughes, T.Ll.Hughes, G.O.Jones, Eric Roberts, H.W.Thomas.

___________________________________________________________________________

 

Agorwyd y cyfarfod gyda Gweddi gan y Cynghorydd R Dylan Jones

 

 

1.  DATGAN DIDDORDEB

 

Gwnaeth y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 4 y cofnodion ac nid oedd yn bresenol yn y  cyfarfod am y drafodaeth na’r pleidleisio.

 

2.  DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD                 AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETHAU TÂL.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth un a fu yn Aelod o Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn, sef Huw Robert Mon Hughes, Bodedern. Bu’n aelod o’r Cyngor am gyfnod o 27 blynedd a hefyd yn Faer yn ystod y flwyddyn 1992-93. Bydd pobl yn cofio amdano fel cyn-Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru a dyfarnwyd iddo’r OBE yn 1987 am ei wasanaethau i amaethyddiaeth; Yn yr un flwyddyn cafodd ei dderbyn yn aelod o Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol.

 

Ar ran y Cyngor cydymdeimlodd Y Cadeirydd yn ddwys gyda’i wraig Olive a’i blant Ann, Mair, Eifion, Bleddyn ac Aled.

 

Wedyn achubodd ar y cyfle i gydymdeimlo gydag unrhyw Aelod neu aelod o’r staff a oedd wedi cael profedigaeth.

 

Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch.

 

3.  CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL.

 

Dywedwyd bod raid i’r Cyngor, ar ôl sefydlu Grwp Gwleidyddol Menai yn ddiweddar, adolygu trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau’r Cyngor.

 

 

Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd tabl yn nodi cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau’r Cyngor yn ôl Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.  Yr oedd y tabl yn dangos pum grwp gwleidyddol 19, 8, 5, 3, a 3 o Aelodau ynddynt a 2 Aelod heb ymaelodi ar wahan.

 

 

 

Wrth baratoi yr adroddiad fe roddwyd sylw i natur pob Pwyllgor o’r Cyngor a rhai sy’n dod o fewn gofynion Cydbwysedd Gwleidyddol.  Roedd cyfanswm y seddi i’w rhannu yn 120.

 

 

 

Onid oedd y gwaith clandro yn rhoddi rhifau cyflawn i’r holl seddi a hefyd i’r seddi ar bwyllgorau unigol nid oedd modd osgoi ffracsiynau,  ac o’r herwydd nid oedd modd cydymffurfio yn llwyr nac yn gyflawn.  Ond roedd yn rhaid anelu at gael y cydymffurfiad gorau bosib ar y ffigyrau a chan ddilyn yr egwyddorion dan y Ddeddf.  I’w aelodau ei  hun yn unig y gall grwp gwleidyddol ar y Cyngor ddyrannu’r seddi a roddir i’r grwp hwnw dan y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ac ni all ddyrannu i Gynghorydd y tu allan i’r grwp gwleidyddol hwnnw.

 

 

 

Penderfynodd y Cyngor yn ei gyfarfod ar 15 Medi 2009 “sefydlu Panel Moderneiddio gyda chydbwysedd gwleidyddol ac arno 9 aelod ynghyd â 3 swyddog statudol, yn un swydd i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar fodelau/strwythurau gwleidyddol”.  Oherwydd y newidiadau diweddar i aelodaeth y grwpiau buasai’n fwy addas, i ddibenion gwaith clandro cydbwysedd gwleidyddol, gael 10 aelod yn hytrach na 9.  Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, gan fod swyddogion ar y Panel Moderneiddio a’i fod yn banel Tasg a Gorffen, nid yw felly yn Bwyllgor o’r Cyngor ac felly nid yw’n rhan o’r clandriadau statudol.

 

 

 

Gan y Cynghorydd G.W.Roberts,OBE cafwyd gwelliant i’r adroddiad - mater yr oedd wedi’i godi gydag Arweinydd y Cyngor, sef peidio â chyflwyno newidiadau i’’r ffigyrau a gynigwyd a gofyn i’r Cyngor ystyried y materion a ganlyn:

 

 

 

1. Rhoddi sedd Môn Ymlaen ar y Pwyllgor Apelio i Grwp Menai.

 

2. Rhoddi sedd Grwp Menai ar y Pwyllgor Apelio i Môn Ymlaen.

 

3. Rhoddi sedd Môn Ymlaen ar y Panel Tal a Graddfeydd i Grwp Menai.

 

4. Rhoddi sedd Grwp Menai ar y Panel Penodi i’r Pwyllgor Safonau i Môn Ymlaen.

 

 

 

Wedyn dywedodd yr Arweinydd nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig.

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd P.S.Rogers ei bryderon bod Aelodau-heb-ymaelodi yn cael eu trin fel aelodau eilradd o’r Awdurdod.  Unwaith eto holodd ynghylch dull penodi’r Cynghorydd R.Ll.Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, i’r swydd hono yn hytrach na’i rhoddi i’r cyn-Gadeirydd.  Hefyd soniodd bod y cynnig ger bron heddiw yn golygu y buasai’n colli ei sedd ar y Prif Bwyllgor Sgriwtini.  

 

 

 

Holodd a oedd hi’n iawn i’r Arweinydd wneud penodiadau pan fo’r Aelodau heb ymaelodi yn methu, ymhlith eu hunain, â phenderfynu ar eu dewisiadau unigol yng nghyswllt seddi ar bwyllgorau’r Cyngor.  Gofynnodd i’r Cyngor ailystyried y cynnig ger bron heddiw a hynny er mwyn cyflwyno elfen o degwch ar draws y Cyngor.

 

 

 

 

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod y ddeddfwriaeth yng nghyswllt cydbwysedd gwleidyddol yn rhoddi hawliau i aelodau o grwpiau gwleidyddol.  Nid oedd yn rhoddi unrhyw hawliau i Aelodau-heb-ymaelodi.  O’r herwydd roedd yr haeriad bod Aelodau heb ymaelodi yn Aelodau eilradd yn gywir, a hynny yn adlewyrchu’r sefyllfa gyfreithiol.  Trwy gonfensiwn roedd y Cyngor bob amser wedi paratoi ffigyrau yn seiliedig ar ddyrannu i Grwpiau Gwleidyddol yn ôl y ddarpariaeth gyfreithiol a wedyn roedd yr Aelodau-heb-ymaelodi yn llenwi’r bylchau oedd ar ôl.  O’r herwydd roedd Aelodau o’r fath yn cael eu symud o gwmpas mewn ymateb i’r newidiadau yn y Grwpiau Gwleidyddol.  Confensiwn lleol yn unig oedd gwaith yr Arweinydd yn cymodi pan fo anghydfod rhwng unigolion.

 

 

 

Unwaith eto, mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd P.S.Rogers nad oedd y Cyfarwyddwr wedi crybwyll yn ei ymateb, y pethau dianrhydedd a ddigwyddodd adeg penodi Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio.  Nid oedd modd iddo ef gael tegwch yn y siambr hon o gofio bod Cadair y Pwyllgor Archwilio wedi ei rhoddi i rywun arall. Roedd yr adroddiad archwilio yn cyfeirio at “grace and favour” - roedd yn rhaid i bethau newid.  

 

 

 

Gofynnodd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol pam nad oedd wedi ymateb i’r hyn a ddywedodd yr aelod - sef eu bod wedi torri’r Côd Ymddygiad oherwydd bod C.McGregor, cyn ei ethol yn Arweinydd yn Mai, wedi gyrru’r Cynghorydd T.Jones i ofyn i’r Cynghorydd R.Ll. Jones a oedd yn fodlon cymryd Cadair y Pwyllgor Archwilio ac roedd wrth ei fodd gwenud hynny.

 

 

 

Credai’r Cadeirydd, os oedd y Côd Ymddygiad wedi ei dorri, y buasai’n rhaid i’r Cynghorydd Rogers godi’r mater gyda Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro.  Dywedodd y Cynghorydd Rogers iddo dderbyn cyngor cywir gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro yn y gorffennol ynghylch sawl achlysur o dorri’r Côd.  Cynghorwyd ef i fynd ar drywydd y mater gydag Arweinydd y Grwp, Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a hefyd gyda’r Ombwdsmon.  Dilynodd yr holl gyngor hwn ond roedd mynd at yr Ombwdsmon yn wastraff llwyr o amser.  Cyfeiriodd at lythyr oedd ganddo heddiw o’r Panel Apelio ar y mater cynllunio yn Benllech yr oedd y Cynghorydd Durkin yn rhan ohono - bellach roedd y penderfyniad hwnnw, yn iawn, wedi ei  wrth-droi.

 

 

 

Tristwch i’r Cynghorydd R.Ll.Jones oedd gweld y Cynghorydd dan sylw yn gwneud dim amgen na chodi yr un mater dro ar ôl tro.  Roedd hi’n bosib y buasai’r unigolyn dan sylw yn sefyll fel Aelod Seneddol ac o feddwl nad oedd ganddo ddim byd gwell i’w wneud na chodi’r mater hwn.  Petai’n teimlo am funud bod y Cynghorydd hwn yn dymuno mynd ar y Pwyllgor Archwilio i wella perfformiad y Cyngor yna roedd yn berffaith fodlon camu o’r neilltu.  Ond roedd wedi profi nad oedd y gallu hwnnw ganddo. Roedd yn cyhuddo’r Cynghorydd R. Ll. Jones o ‘gerrymandering’. Roedd angen i’r Tim Cyfreithiol edrych ar hyn a gweld beth oedd ym meddwl y Cynghorydd.  Dyn mor gywir ag ef, a oedd wedi bod yn rhan o’r byd Gwleidyddol cyhyd, a chan feddwl bod ei ben yn llawn o sbeit am un swydd benodol yn y Cyngor hwn ac roedd hynny yn ofnadwy.  Ni fedrai godi ei ben uwchlaw’r lefel hon a chanolbwyntio ar y gwaith y dylai ei wneud i’w etholwyr ac i bobl Ynys Môn.  Petai wedi bod yn fwy o wleidydd buasai ganddo bethau cryfach i’w dweud na’r hyn y ceisiai ei gyfleu heddiw.  Fel y dywedodd, roedd yn fodlon sefyll yn ôl a gadael i’r gwr bonheddig hwn gymryd Cadair y Pwyllgor Archwilio petai’n tybio am funud bod peth o’r fath yn mynd i arwain y Cyngor i’r cyfeiriad iawn.  Roedd y mater hwn wedi bod yn dân dan groen y Cynghorydd Rogers a rywsut roedd yn rhaid i rywun fod yn drech na’r amgylchiadau.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd B .Durkin ei fod wedi disgwyl y math hwn o ymddygiad y bore hwn ac felly tybiodd y buasai’n ddoeth iddo baratoi gwybodaeth gefndirol ar y mater penodol hwn. “The complaint to the Ombudsman about me, Councillor Fowlie and Councillor Jones was made on behalf of an applicant who did not get planning permission. Councillor Rogers took it upon himself to conjure up a complete fabrication of the point, specifically to get the planning application overturned. He went out of his way to get the planning application overturned and to cause me as much trouble as possible.

 

 

 

The Ombudsman refused to look at the complaint. Councillor Rogers appealed. Still the Omdusman refused his complaint. However, what he did say and if you don’t mind i’ll summarise

 

I also need to explain that I do not consider your complaint, having already said so originally, had been against Mr Durkin, had been vexatious, malicious or frivolous. I agree therefore that it was not appropriate for this comment to have been included in our decision letter concerning the complaint against Councillor Durkin. However, your complaints against Councillors Fowlie and Jones do seem to me to have broadly fallen into that category.”

 

 

 

Making it quite clear that his complaints were frivolous, vexatious and malicious.There it is in black and white.

 

 

 

Now, the applicant has done the right thing and gone to appeal and won his appeal. Fine, but yesterday because of all the furore and the pressure I’ve been put under because of this, and my family, because of this man here, not the applicant, Councillors Rogers, I received a threat of assassination from the applicant yesterday. I blame Councillor Rogers just as much as him for stirring all this issue up, completely out of control. Now that is the sort of man we are dealing with gentlemen, and there’s plenty more if you want to hear it, thank you Mr. Chairman.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod holl Grwpiau Gwleidyddol y Cyngor yn ceisio gweithio gyda’i gilydd ond roedd yna un person yn y Cyngor yn credu mewn damcaniaeth wleidyddol syml, sef pla ar eich holl dai beth bynnag a ddelo.

 

 

 

Ond soniodd y Cynghorydd W.J.Chorlton ein bod ar ddiwedd y dydd yn byw mewn byd democrataidd a rhaid bod yn ymwybodol o hynny.  Pa un a oedd rhywun yn cytuno gyda’r Cynghorydd Rogers ai peidio neu yn gwbl wrthwynebus i’r hyn a ddywedai.  Ond roedd ganddo hawl i ddweud beth yr oedd yn ei gredu.  I fod yn deg gydag ef roedd wedi cyflwyno ei bwyntiau’n gytbwys a than reolaeth a’u cyflwyno yn syber iawn, a’i fod yn credu beth yr oedd yn ei ddweud.

 

 

 

Felly roedd y Cynghorydd Chorlton yn amddiffyn hawl y Cynghorydd.  Ond pan oedd un yn cyhuddo’r llall roedd pedwar bys bob amser yn pwyntio’n ôl at y cyhuddwr.  Yn ddiweddar derbyniodd lythyr yn herio’i ddidwylledd a’i onestrwydd, ac roedd ganddo syniad da pwy a anfonodd y llythyr, buasai’n ffeindio pwy ac yn mynd â’r unigolyn hwnnw i’r Llys.

 

 

 

Credai y Cynghorydd Rhian Medi bod y Cyngor heddiw wedi ei ddychryn o glywed bod aelod wedi ei fygwth â marwolaeth.  Fel Cyngor bydd yn rhaid cefnogi’r Cynghorydd Durkin a galw ar yr Heddlu i gynnal ymchwiliadau llawn.  Roeddem yn byw mewn democratiaeth ond nid oedd hynny yn rhoi hawl i neb fygwth unrhyw aelod o’r Cyngor na staff y Cyngor wrth i’r rheini geisio cyflawni eu gwaith.  Roedd bygwth rhywun yn y modd hwn yn newydd dychrynllyd.  Gofynnodd i’r Adain Gyfreithiol ac i’r Pwyllgor Gwaith ystyried galw ar yr Heddlu i roddi sylw i’r mater difrifol hwn.

 

 

 

Nododd yr Arweinydd y sylwadau hyn ac addawodd y buasai’n rhaid trafod ymhellach gyda’r Cynghorydd Durkin.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd P.S.Rogers am gofnodi iddo bleidleisio yn erbyn yr argymhellion.

 

 

 

      PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

Nodi’r trefniadau newydd ar gyfer cydbwysedd gwleidyddol a’r nifer o seddi a roddir i bob Grwp a’r Aelodau heb ymaelodi ‘dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

 

 

 

Ÿ

Cytuno ar y niferoedd cyflawn o seddi i’w dyrannu i’r Aelodau heb ymaelodi.

 

 

 

Ÿ

Gofyn i’r ddau Aelod heb ymaelodi benderfynu ymysg ei gilydd ynglyn â pha Bwyllgorau y dymunent fod yn aelodau ohonynt yn unol â’r trefniadau Cydbwysedd Gwleidyddol a geir yn yr adroddiad i’r Cyngor hwn.  Pe baent yn methu dod i gytundeb ynglyn â hyn rhoi’r awdurdod i Arweinydd y Cyngor benderfynu ar y dyraniadau ac i’r wybodaeth honno gael ei chyflwyno i Reolwr y Gwasanaethau Pwyllgor.

 

 

 

Ÿ

Diwygio nifer yr aelodau ar y Panel Moderneiddio o 9 i 10.  (Sylwer: Nid oes raid gwneud gwaith clandro statudol i’r Panel hwn)

 

 

 

Cyn symud ymlaen at yr eitem nesaf roedd y Cynghorydd W.J.Chorlton yn dymuno egluro bod cofnodion y Pwyllgor Penodi a gynhaliwyd ar 4 a 25 Medi 2009 yn y maes cyhoeddus ac o’r herwydd nid oeddent i fod yn rhan o’r papurau cyfrinachol i’r Cyngor heddiw.

 

 

 

Wedyn symudodd y Cadeirydd at Eitem 5 ar y Rhaglen.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Tom Jones cafwyd cynnig bod cofnodion y Pwyllgor Penodi a gynhaliwyd ar 4 a 25 Medi 2009 yn gywir.

 

 

 

Ond roedd y Cynghorydd G.W.Roberts,OBE yn dymuno codi mater technegol am na fedrai ef gofio unrhyw bleidlais yn cael ei chymryd ar y penderfyniad cyntaf ‘dan Eitem 5 y cofnodion hynny sef “awdurdodi costau ychwanegol uwchlaw’r cyllidebau presennol”.

 

 

 

Gan fod y cofnodion yn cael eu cyflwyno heddiw i’r Cyngor eu cymeradwyo dywedodd y Cynghorydd Tom Jones, yn ei ymateb, bod rhaid ystyried y mater heddiw a phenderfynu arno.

 

 

 

Ond os  nad oedd pleidlais  wedi ei chymryd dywedodd y Cynghorydd W.J.Chorlton nad oedd penderfyniad wedi ei wneud o’r herwydd.  Felly roedd y cofnodion yn anghywir.  Yn ôl rheolau trafodaeth mewn pwyllgor roedd yn rhaid cario unrhyw benderfyniad trwy godi dwylo, trwy bleidlais gudd neu trwy bleidlais wedi’i chofnodi.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd G.W.Roberts,OBE bod y penderfyniad y cyfeirwyd ato yn fater i’r Cyngor benderfynu arno dan Eitemau 5(c) a (ch) y rhaglen.

 

      

 

     Ond mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd W.J.Chorlton nad oedd hynny’n bosib a gofynodd i’r Swyddog Monitro roddi arweiniad i’r Cyngor.  Nid oedd modd pleidleisio ar rywbeth oedd ddim wedi digwydd.

 

      

 

     Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro nad oedd yn y cyfarfod dan sylw ac y buasai’n rhaid gwrando ar dâp y cyfarfod i sefydlu beth oedd y ffeithiau.  Heddiw roedd cynnig gerbron i’r Cyngor Llawn benderfynu ar y mater.  Statws argymhelliad yn unig oedd gan hwn a gallai y Cyngor ohirio cymeradwyo’r cofnodion a symud ymlaen i drafod y materion perthnasol oedd gerbron heddiw.

 

 

 

4.  CAU’R WASG A’R CYHOEDD ALLAN.

 

 

 

     Gofynnodd y Cynghorydd H.Eifion Jones a oedd modd i’r Cyngor drafod yr eitem hon yn gyhoeddus?

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro bod rhaid i’r Aelodau fod yn ymwybodol o’r Prawf Budd Cyhoeddus ynghlwm wrth yr adroddiad ac yno roedd dau reswm da iawn i gau’r wasg a’r cyhoedd allan.  Y gyntaf roedd yna faterion cyfrinachedd a diogelu data yng nghyswllt y Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro - un a fuasai’n weithiwr i’r Awdurdod ac yn ail roedd yma egwyddor o gyfrinachedd masnachol y cwmni SOLACE - y cwmni oedd yn darparu gwasanaeth i’r Cyngor dan gontract ar wahân.  Mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor Penodi roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) wedi cysylltu gyda SOLACE a hefyd gyda Mr.Bowles a rhyngddynt wedi cytuno ar ddatganiad i’r wasg, un i’w gymeradwyo heddiw, er mwyn cyflwyno cymaint ag a oedd yn gyfreithiol bosib i’r maes cyhoeddus ar hyn o bryd.

 

      

 

     Pan fo contract cyffredin yn cael ei wneud dywedodd y Cynghorydd W.J.Chorlton bod y tendr, unwaith y mae rhywun wedi ennill y tendr, yn mynd yn wybodaeth gyhoeddus.  Ni welai ef fod yna unrhyw wahaniaeth rhwng y ddau.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro y buasai enw y sawl sy’n ennill y tendr fel arfer yn y maes cyhoeddus ond câi’r telerau ac amoda’r contract eu diogelu i’r graddau yr oeddynt yn fasnachol sensitif. Yn arbenig felly yn y cyfnod hwnw union ar ôl dyfarnu’r tendr. Efallai bod peth o’r fath yn newid dros gyfnod o amser a datblygu yn llai ac yn llai sensitif.  Ond yn sicr ar hyn o bryd nid oedd modd rhyddhau i’r cyhoedd unrhyw delerau nac amodau cyfrinachol mewn contract.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd H.E.Jones yn croesawu’r datganiad i’r wasg a chredai y buasai’n briodol i’r Cyngor weld copi o’r datganiad cyn diwedd y cyfarfod heddiw.

 

      

 

     Mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor Penodi dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) iddo gytuno i lunio geiriad i’r datganiad i’r wasg.  Nid hwn oedd y cyfan o’r datganiad i’r wasg dim ond cyfeiriad at y costau ac yn y blaen.  Wedyn darllenodd y Cyfarwyddwr y paragraff perthnasol i’r Cyngor yn y cyd-destun hwn.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd H.E.Jones at swn £’x’ a delid am amser teithio eithriadol (yn gorfod bod y tu allan i’r diwrnodau contract hyd at uchafswm o 1 diwrnod mewn unrhyw un wythnos).  Gofynnodd am eglurhad ar y taliad am na fedrai ef weld unrhyw gyfeiriad atynt yn y cofnodion.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Tom Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Penodi fod y mater wedi cael sylw yn y cyfarfod.

 

      

 

     Wedyn soniodd Pennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol bod y manylion am deithio yn ymddangos ym Mharagraff 3  yr adroddiad i’r Pwyllgor Penodi ar 25 Medi.  Roedd y ffigwr a gyflwynwyd wedi ei gymeradwyo gan y Pwyllgor fel rhan o’r argymhellion i’r Cyngor heddiw.

 

      

 

Roedd y Cynghorydd H.E.Jones yn derbyn y pwynt a gofynnodd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a oedd y ffigwr hwnw yn ei symiau ef yn cyfateb i’r gost uchaf bosib yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf?

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod y ffigwr hwn yn un ar gyfer amgylchiadau eithriadol pryd y codid am deithio, er enghraifft petai’r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro yn gorfod newid ei gynlluniau oherwydd datblygiadau nad oedd modd eu rhagweld y tu mewn i’r Cyngor.  Wrth baratoi amcangyfrifon ar gyfer y costau nid oedd yn tybio y buasai amgylchiadau o’r fath yn digwydd yn wythnosol ond nodwyd swm ar gyfer digwyddiad unwaith y mis fel amcangyfrif yn unig.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Tom Jones bod y 5 argymhelliad dan Eitem 4 cofnodion y Pwyllgor Penodi a gyfarfu ar 25 Medi yn cael eu derbyn - Eiliwyd ei gynnig.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn o’r llawr dywedodd y Cadeirydd na fuasai’n caniatáu rhagor o drafodaeth ar y mater gan fod y bleidlais wedi ei chymryd ar ôl derbyn cynnig ac eilio’r cynnig.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd J.Arwel Roberts ei fod yn bwriadu ymatal rhag pleidleisio ar y mater.

 

 

 

Wedyn soniodd y Cynghorydd H.E.Jones am y problemau ariannol oedd yn wynebu’r Awdurdod y flwyddyn nesaf a gofynnodd pa wasanaeth fuasai’n dioddef er mwyn cwrdd â chostau penodi neu a oedd y costau yn dod o’r Dreth Gyngor?  

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd T.Jones y câi’r ffigwr ei ystyried fel rhan o broses gyllidebol lawn y flwyddyn nesaf.

 

 

 

Ar ôl hyn symudodd y Cadeirydd at Eitem 5 (ch) ar y rhaglen ond cyn gwneud hynny credai’r Cynghorydd G.W.Roberts, OBE bod angen cymryd pleidlais ar argymhellion 4.1-4.5 cofnodion y Pwyllgor Penodi.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd bod y bleidlais eisoes wedi ei chymryd.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd G.W.Roberts, OBE, bod angen i’r Cyngor bleidleisio ar yr argymhellion hyn cyn symud i Eitem 5(ch) ar y rhaglen.  Mater technegol oedd y mater arall meddai.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd W.J.Chorlton bod y Cynghorydd T. Jones newydd gynnig pump o argymhellion pan nad oedd penderfyniad wedi’i wneud ynghylch y “costau ychwanegol uwchlaw’r cyllidebau presennol”.

 

 

 

Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd Tom Jones y byddai’r mater hwnnw’n cael ei gymryd ar wahân.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd W.J.Chorlton bod y Cyngor hwn mewn anhrefn. Roedd o’n dadlau na wnaed penderfyniad i gau allan y wasg a’r cyhoedd.  Dywedodd y Cadeirydd unwaith eto y cymerwyd pleidlais eisoes i gau allan y wasg a’r cyhoedd.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd G.W.Roberts, OBE, i’r Cadeirydd gymryd pleidlais ar argymhellion 4.1-4.5 er mwyn egluro’r sefyllfa.

 

 

 

Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, eiliodd y Cynghorydd A.Morris Jones y cynnig a wnaed gan y Cynghorydd G.W.Roberts OBE i gau allan y wasg a’r cyhoedd.

 

 

 

Aeth y Cynghorydd W.J.Chorlton yn ei flaen i ddweud bod y Cyngor eisoes wedi cael trafodaeth lle yr oedd y wasg a’r cyhoedd yn bresennol.  Yna, roedd y Cyngor wedi mynd yn ei flaen i drafod rhan o Eitem 5 (c). Yna, daeth yr Aelod Portffolio i mewn a chyfeiriodd at Eitem 5 (ch) a chynigiodd y pum argymhelliad.  Roedd y cyfan ar y tâp.  Roedd hyn oll wedi cael ei gynnal yn gyhoeddus ac roedd o’n disgwyl i hyn gael ei gofnodi yn rhan gyhoeddus y cyfarfod.  

 

 

 

Argymhellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro bod y Cyngor yn gwneud yr hyn a oedd yn cael ei gynnig gan y Cynghorydd G.W.Roberts, OBE a’i eilio gan y Cynghorydd A.M.Jones.  Os oedd unrhyw broblem pan oedd y swyddogion yn gwrando ar y tâp, yna buasai’n cael gair gyda’r Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor ac yn sicrhau bod unrhyw gofnodion yn y rhan gyhoeddus yn gyfreithiol dderbyniol ac yn rhai nad oedd yn rhoi’r Cyngor hwn mewn unrhyw berygl.  

 

 

 

Roedd y Cynghorydd A.MorrisJones dan yr argraff mai dim ond cwestiynau oedd wedi cael sylw ac nad oedd unrhyw drafodaeth wedi cael ei chynnal.  Gofynnodd am eglurhad gan y Swyddog Monitro.

 

 

 

Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro mai mater technegol oedd hwn ac nad oedd yn gwneud unrhyw wahaniaeth.  Y mater pwysig oedd yr hyn a oedd yn gyhoeddus, p’un a oedd hynny’n cynnwys cwestiynau neu drafodaeth neu gyfuniad o’r ddau.  Y wybodaeth a oedd yno oedd yn ei phryderu hi a dim y modd yr oedd y wybodaeth wedi cael yno.

 

 

 

Yn y fan honno, cynigiodd y Cadeirydd y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod a chafwyd pleidlais fwyafrifol yn hyn o beth.

 

 

 

Gwnaed cais dan Baragraff 4.1.18.5 y Cyfansoddiad am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cyngor wedi penderfynu cau allan y wasg a’r cyhoedd ac na fedrai o’r herwydd ystyried cael pleidlais wedi’i chofnodi.  

 

 

 

Roedd y Cynghorydd W.J.Chorlton yn dymuno cael cofnodi bod 8 aelod yn erbyn y penderfyniad i gau allan y wasg a’r cyhoedd.  

 

 

 

Unwaith eto, cynigiodd y Cynghorydd Tom Jones argymhellion 4.1-4.5 o gofnodion y Panel Penodi a gynhaliwyd ar 25 Medi, 2009.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd W.J.Chorlton am bleidlais wedi’i chofnodi ar y mater hwn.

 

 

 

Ni chafwyd pleidlais wedi’i chofnodi oherwydd nad oedd digon o aelodau (10 neu ragor) am gael pleidlais o’r fath yn unol â gofynion Para 4.1.18.5 y Cyfansoddiad.

 

 

 

Roedd yr Aelodau canlynol yn dymuno cael cofnodi eu bod wedi ymatal eu pleidlais ar y mater:-

 

 

 

Y Cynghorwyr W.J.Chorlton, K.Evans, W.T.Hughes,H.E.Jones, R.Dylan.Jones, Raymond Jones, J.Arwel Roberts, G.W.Roberts, OBE.

 

 

 

Rhoddwyd cynnig y Cynghorydd Tom Jones (argymhellion 4.1-4.5) i bleidlais a chafodd ei gario.

 

                                                                                                          

 

 

 

     Symudodd y Cadeirydd yn ymlaen i Eitem 5(ch).

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Tom Jones yr argymhelliad dan Eitem 5 (ch) bod y Cyngor yn awdurdodi’r costau ychwanegol uwchlaw’r cyllidebau presennol fel yr amlinellwyd hynny yn y tabl a oedd yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Rhian Medi nad oedd dewis gan y Cyngor hwn oherwydd bod y penodiad wedi cael ei orfodi gan Gynulliad Cymru.  Roedd y rheiny a oedd yn pleidleisio yn erbyn o’r herwydd yn pleidleisio yn erbyn y Gweinidog yn y Cynulliad a oedd wedi penodi’r Rheolwr-gyfarwyddwr Interim.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd G.W.Roberts, OBE mewn ymateb nad oedd yr 8 aelod hynny wedi pleidleisio yn erbyn ond wedi ymatal eu pleidlais - roedd hynny’n wahanol.  Roedd o am ei gwneud hi’n glir a byddai’n ei gwneud hi’n glir yn y Cyngor Sir pan fyddai’r Rheolwr-gyfarwyddwr Interim yno, do, roedd y Gweinidog wedi ei benodi ond roedd cwestiynau ar ôl i’w gofyn ynghylch i bwy yr oedd o’n gweithio ar ddiwedd y dydd a phwy oedd yn talu am ei wasanaeth.  Dim y Cynulliad fyddai’n talu, roeddynt yn defnyddio Grantiau Gwella i gyllido hyn.  

 

      

 

     Nid oedd y ffigyrau yn yr adroddiad yn rhai i’r unigolyn dan sylw ond i’r cwmni ar gontract.  Yn ei farn o, roedd hi’n bwysig nodi hynny.  Nid oedd dim ganddo yn erbyn yr unigolyn dan sylw ond roedd o’n herio’r broses.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Tom Jones y byddai arian Grantiau Gwella yn cael ei ddefnyddio i dalu i’r Bwrdd Adfer.

 

      

 

     Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Gorfforaethol bod y contract gyda SOLACE Enterprises a oedd wedi darparu’r unigolyn i ymgymryd â gofynion y contract.  Ar ddiwedd y dydd, ffi ddyddiol i SOLACE ydoedd ac nid i’r unigolyn dan sylw.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd P.S.Rogers o’r farn fod gan y Cyngor bob hawl i bleidleisio yn erbyn yr hyn yr oedd y Gweinidog wedi’i orfodi ar y Cyngor hwn.  Roedd gwybodaeth wedi dod allan ers iddo ef benodi Rheolwr-gyfarwyddwr Interim ac roedd angen sortio hynny allan.

 

      

 

     Roedd o wedi gofyn cwestiwn i’r Prif Bwyllgor Sgriwtini yr wythnos ddiwethaf er mwy ceisio gweld beth oedd wedi digwydd ynglyn â’r haeriadau hynny a anfonwyd i’r Archwilwyr ym mis Rhagfyr yn gwneud cwynion yn erbyn Swyddogion o’r Awdurdod hwn.

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y mater ar y rhaglen heddiw.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd W.J.Chorlton yn dymuno dwyn sylw at y ffaith bod y penderfyniad a wnaed heddiw’n hollol drychinebus.  Gofynnodd i’r Cadeirydd sicrhau yn y dyfodol fod pleidlais gyflawn yn cael ei chymryd yn hytrach na hanner pleidlais.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod yr hyn a glywyd yn y Siambr heddiw wedi bod yn mynd ymlaen yma am dros flwyddyn.  Ymosod ar Gadeirydd y Cyngor a pheidio â rhoi i neb yr hawl i gadeirio os nad oedd pethau’n mynd fel yr oeddynt yn dymuno.  Gwelwyd enghreifftiau heddiw o ddiffyg parch i’r Gadair.   Roedd hi’n ddiddorol gweld y Blaid Lafur yn pleidleisio yn erbyn eu Llywodraeth eu hunain yn y Cynulliad.  Roedd democratiaeth wedi cael ei thanseilio heddiw yn y Siambr.

 

      

 

     Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd W.J.Chorlton nad oedd o wedi pleidleisio yn erbyn Gweinidog Llafur.  Roedd o wedi ymatal ei bleidlais ar bwynt a oedd, yn ei farn ef, yn sylfaenol, sef cost y penodiad i’r Awdurdod hwn.

 

      

 

     Gyda phob parch, roedd o o’r farn nad oedd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio wedi cael pethau’n iawn heddiw.  P’un a oedd yn gallu cadeirio ai peidio, nid mater iddo ef oedd penderfynu, ond rhaid i’r Cadeirydd lynu wrth y rheolau ac ni fedrai ddehongli’r rheolau fel y mynnai.  Y rheolau oedd y rheolau ac roedd y Cadeirydd wedi torri’r rheolau sawl gwaith heddiw.  Nid yn fwriadol ond yn nryswch y drafodaeth heddiw.

 

      

 

     Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

 

 

 

 

 

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 11.15am

 

      

 

     Y CYNGHORYDD O.GLYN JONES

 

     CADEIRYDD