Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 8 Chwefror 2011

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 8fed Chwefror, 2011

Ynglyn â

Dydd Mawrth, 8 Chwefror, 2011, 2pm. Siambr y Cyngor, Swyddfa'r Sir, Llangefni

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Ar gychwyn y cyfarfod, offrymir gweddi gan y Cynghorydd R Ll Jones.

Rhaglen

1. Datganiad o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.

2. Derbyn unrhyw ddatganiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd, aelodau'r Pwyllgor Gwaith neu bennaeth y gwasanaeth taledig

3. Horizon Nuclear Power - y diweddaraf ar brosiect adeiladu gorsaf bwer newydd Wylfa

Cyflwyniad gan Mr Alan Raymont, Prif Swyddog Gweithredu, Horizon Nuclear Power.

Bydd cyfle i aelodau gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb yn dilyn y cyflwyniad.

4. Adroddiad Gwelliant Blynyddol gan Archwiliwr Cyffredinol Cymru - Ionawr 2011

Derbyn cyflwyniad gan Mr Huw Lloyd Jones, Rheolwr Perthynas, Swyddfa Archwilio Cymru ar yr adroddiad blynyddol.
(Papur 'A')

Bydd cyfle i ofyn cwestiynau.




(Eitemau a ohiriwyd o gyfarfod 9 Rhagfyr 2010)

5. Polisi Cynllunio Interim - safleoedd mawr

(a)  Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd 2010 wedi penderfynu argymell fel a ganlyn i'r Cyngor Sir:-

“(i) Cymeradwyo'r Polisi Tai Dros Dro ar gyfer Safleoedd Mawr i'w fabwysiadu fel Polisi Dros Dro hyd nes y bydd y CDLl wedi ei fabwysiadu yn amodol ar y newidiadau a gyflwynwyd yn y cyfarfod ar 9 Rhagfyr 2010 ac sydd ynghlwm yma. 
(Papur 'B')

(ii) Rhoi awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaeth (mewn ymgynghoriad gyda'r Aelod(au) Portffolio perthnasol lle bo'n briodol) i wneud mân-newidiadau i'w gynnwys wedi i'r trafodaethau sy'n parhau ddod i ben, gan gynnwys y trafodaethau gydag Enfusion”.

(b)  Cyflwyno er gwybodaeth,adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) fel y cafodd ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 30 Tachwedd 2010.

(Dosbarthwyd copi eisoes i'r holl Aelodau gyda'r papurau ar gyfer y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd).

6. Y Grwp Llywio Adferiad

Cyflwyno adroddiad gan Is-gadeirydd y Cyngor Sir.
(Papur 'C') - aros am ddogfennau.

7. Adolygu'r Polisi Trwyddedu

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd).

(Dosbarthwyd copi eisoes i'r holl Aelodau gyda'r papurau ar gyfer y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2010 fel Atodiad 'D').

8. Mabwysiadu Rhaglen Datblygu Aelodau am y cyfnod 2010-2012

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Gweithgor Datblygu Aelodau / y Pencampwr Datblygu Aelodau.

(Dosbarthwyd copi eisoes i'r holl Aelodau gyda'r papurau ar gyfer y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2010 fel Atodiad 'E').

9. Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Derbyn adroddiad llafar gan y Cynghorydd J V Owen, un o gynrychiolwyr y cyngor hwn ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr awdurdod hwnnw rhwng 1 Medi 2010 a 30 Tachwedd 2010.

10. Dirprwyo gan yr Arweinydd

Bydd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro yn cyflwyno, er gwybodaeth, adroddiad yn nodi unrhyw newidiadau i'r cynllun dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau'r Pwyllgor Gwaith a wnaed gan yr Arweinydd ers y cyfarfod arferol diwethaf (cyfeirir at hyn yn Rheol 4.4.1.4 y Cyfansoddiad - Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith).

(Dosbarthwyd copi eisoes i'r holl Aelodau gyda'r papurau ar gyfer y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2010 fel Atodiad 'F').

11. Cynigion a dderbyniwyd yn unol â rheol 4.1.2.2.12 y Cyfansoddiad

(a)  Cyflwyno Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorydd R G Parry OBE:

“Y mae Cyngor Sir Ynys Môn yn apelio ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyntaf, i gadw Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd ar agor fel Ward ar gyfer cleifion yn dioddef o Gancr. Yn ail, ystyried yn ddwys ailagor adran mân-ddamweiniau Ysbyty Penrhos, Caergybi yn ystod oriau 5.00 i 10.00 yr hwyr.”

Ystyried yr uchod.

(b)  Cyflwyno'r Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorydd G W Roberts OBE:

“Bod y Cyngor hwn yn mabwysiadu polisi o dalu lwfans teithio ail ddosbarth yn unig ar gyfer aelodau'r Cyngor ac yn rhoi'r gorau i dalu lwfans teithio dosbarth cyntaf.

Bod y Cyngor hwn yn rhewi lwfans teithio i aelodau rhwng eu cartrefi a swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni pan fyddant yn dod i gyfarfodydd Cyngor Sir Ynys Môn oherwydd yr hinsawdd economaidd gyfredol.”

Rhoi sylw i'r uchod.

(Eitemau Newydd)

12. Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Rhagfyr 2010

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).
(Papur 'CH')

13. Cydbwysedd gwleidyddol

Cyflwyno adroddiad a baratowyd ar y cyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) yn dilyn y newidiadau i'r Grwpiau Gwleidyddol ym mis Ionawr.
(Papur 'D')

14. Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol â heol 4.1.12.4 y Cyfansoddiad

Bydd y Cynghorydd T.Ll.Hughes  yn gofyn y Cwestiwn canlynol i i'r Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Arforol:-
“Yn wyneb y tywydd mawr yn ddiweddar, a fydd Adran Briffyrdd Cyngor Sir Ynys Môn yn adolygu polisi graeanu'r Cyngor Sir ar gyfer y dyfodol?”

Ymateb gan yr Aelod Portffolio.

15. Ymyrraeth

Bydd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro yn cyflwyno adroddiad llafar ar statws cyfredol yr ymyrraeth yng Nghyngor Sir Ynys Môn.