Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 8 Mawrth 2011

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 8fed Mawrth, 2011

Ynglyn â

Dydd Mawrth, 8 Mawrth, 2011, 10am. Siambr y Cyngor, Swyddfa'r Sir, Llangefni

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Agorir y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd Tom Jones

Rhaglen

1. Cofnodion

Cyflwyno i'w cadarnhau a'u llofnodi, gofnodion y cyfarfodydd o'r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:

2. Datganiad o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

3. Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd, Aelodau'r Pwyllgor Gwaith neu Bennaeth y Gwasanaethau Tâl

4. Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau

Bydd Ms Sue Morris, Is-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau yn cyflwyno adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau.
(Papur 'C')

5. Cyflwyno deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

6. Strategaeth Gyllidebol ar gyfer y Tymor Canol, y Gyllideb, Treth y Cyngor, Rheoli Trysorlys a Dangosyddion Pwyllog ar gyfer 2011/12

6.1 Cyflwyno cynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer strategaeth cyllideb refeniw tymor canol, cynllun cyfalaf interim a chyllidebau refeniw a chyfalaf ar gyfer 2011/12.
(Papur 'CH')

6.2 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar y gyllideb.
(Papur 'D')

6.3 Ystyried y penderfyniad ffurfiol fel y caiff ei amgáu yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).
(Papur 'DD')

6.4 Cyflwyno unrhyw newidiadau i'r gyllideb y cafwyd rhybudd ohonynt yn unol â Pharagraff 4.3.2.2.6 y Cyfansoddiad.
(Bydd y cyfan o'r papurau uchod yn cael eu hystyried fel un pecyn).

7. Grwp Llywio'r Adferiad

Cyflwyno adroddiad gan Is-Gadeirydd y Cyngor Sir.
(Papur 'E').

8. Protocolau Rheolaeth Wleidyddol

Dweud bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 15 Chwefror 2011 wedi penderfynu argymell fel a ganlyn i'r Cyngor Sir:

“Y dylai Cadeirydd y Cyngor Sir fod â rhan yn 2.1.6 ac/neu 4.1.6 y protocolau;

Mabwysiadu'r protocolau fel y cawsant eu drafftio yn Atodiad A a'u hymgorffori yng Nghyfansoddiad y Cyngor yn 5.8;
Awdurdodi Swyddogion i wneud yr holl newidiadau angenrheidiol a chanlyniadol i Gyfansoddiad y Cyngor gan gynnwys ymgorffori'r protocolau yn 5.8.”

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro.
(Papur 'F')

9. Newidiadau i'r Cyfansoddiad

(a) Adolygu'r Rheolau Gweithdrefn Materion Cynllunio

Dweud bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror 2011 ar ôl ystyried yr uchod, wedi penderfynu argymell fel a ganlyn i'r Cyngor Sir:

“Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i Adran 4.6 y Cyfansoddiad fel a nodir yn Nhabl 2.3 yr atodiad i'r adroddiad.”

Cyflwyno adroddiad a baratowyd ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd), y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Dirprwy Swyddog Monitro a'r Uchel Gyfreithiwr (Cynllunio)

(Dosbarthwyd copi eisoes i'r holl Aelodau fel rhan o bapurau'r Pwyllgor Gwaith ar gyfer 23 Chwefror 2011)

(b) Protocol Gwybodaeth i Aelodau

Dweud bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror 2011 ar ôl ystyried yr uchod wedi penderfynu argymell fel a ganlyn i'r Cyngor Sir:

“Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r drafft o'r Protocol Gwybodaeth i Aelodau ac yn diwygio'r Cyfansoddiad yn Adrannau 5.3.6 a 5.3.8 yn unol â hynny.”

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Gwybodaeth Gorfforaethol
(Papur 'FF')

10. Polisi'r Awdurdod Lleol mewn perthynas â'r Swyddfa Cofnodiadau Troseddol

Cyflwyno adroddiad gan yr Uwch Gyfreithiwr (Gwasanaethau Plant).
(Papur 'G')

11. Strategaeth Iechyd Gofal Cymdeithasol a Lles Ynys Môn 2011-2014

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol).
(Papur 'NG')

12. Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Derbyn adroddiad llafar gan y Cynghorydd J. V. Owen, un o gynrychiolwyr y Cyngor ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr Awdurdod hwnnw rhwng 1 Rhagfyr 2010 a 28 Chwefror 2011.

13. Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru

Derbyn adroddiad llafar gan y Cynghorydd P. S. Rogers, cynrychiolydd y Cyngor ar Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru ar gyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr Awdurdod hwnnw rhwng 1 Rhagfyr 2010 a 28 Chwefror 2011.

14. Cynigion a dderbyniwyd yn unol â 4.1.2.2.12 y Cyfansoddiad

(a) Cyflwyno'R Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorydd P. S. Rogers:

“Bod y Cyngor yn rhoddi'r Gorchymyn o'r neilltu a ddim yn ceisio adennill costau o £4,750.00 yn dilyn y cais am Adolygiad Barnwrol ym mis Mai 2010 gan Grwp Gweithredu Cymunedol Bodffordd.”

Ystyried yr uchod.

(b) Ystyried y Rhybuddion o Gynigiad isod gan y Cynghorydd Aled Morris Jones:

(i) “Bod y Cyngor yn penderfynu y dylai'r Rheolwr-gyfarwyddwr fynd ati ar unwaith i gynllunio a pharatoi ymlaen llaw ar gyfer cynnal Diwrnod y Lluoedd Arfog 2012. Bydd hyn yn dilyn o'r diwrnod llwyddiannus i'r Lluoedd Arfog a gynhaliwyd yn 2009 a 2010. Mae'r achlysuron hyn yn dangos ymrwymiad Cyngor Sir Ynys Môn i anrhydeddu'r swyddogaeth bwysig a chwaraeir gan ein Lluoedd Arfog.

(ii) Bod y Cyngor yn penderfynu y dylai'r Rheolwr-gyfarwyddwr gychwyn ar broses o ymgynghori gyda'r partïon perthnasol ar ganiatáu Rhyddid Sir Ynys Môn i'r Gatrawd Frenhinol Gymreig. Mae hyn i gydnabod eu gwasanaeth i'r genedl.”

Rhoi sylw i'r uchod.

15. Dirprwyiadau gan yr Arweinydd

Bydd y Rheolwr-gyfarwyddwr Interim yn cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad yn nodi unrhyw newidiadau i'r cynllun dirprwyo a wnaed gan yr Arweinydd ers y cyfarfod arferol diwethaf mewn perthynas â swyddogaethau'r Pwyllgor Gwaith (cyfeirir at hyn yn Rheol 4.4.1.4 Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith).
(Papur 'H') - aros am ddogfen.