Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 8 Awst 2011

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Llun, 8fed Awst, 2011

Ynglyn â

Dydd Llun 8 Awst 2011, 1pm.
Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.

Agorir y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd R G Parry, OBE

Rhaglen

1. Datganiad o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.

2. Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, y Bwrdd Comisiynwyr neu Bennaeth y Gwasanaeth Tâl

3. Cau allan y wasg a'r cyhoedd

Ystyried mabwysiadu'r isod:

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru'r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd ei bod yn ymwneud â gwybodaeth y gellid cynnal hawliad am fraint gyfreithiol broffesiynol yn ei chylch mewn achos cyfreithiol.”

4. Pwyllgor Ymchwilio

Ystyried a ddylid neu beidio sefydlu Pwyllgor Ymchwilio yn codi o Gyfarwyddyd y Gweinidog dyddiedig Gorffennaf, 2011.

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr.
(Papur 'A') - i ddilyn































Cysylltiadau

  • Gwasanaeth Cyfreithiol a Phwyllgorau

    Adran y Rheolwr Gyfarwyddwr

    Swyddfeydd y Cyngor

    Llangefni

    Ynys Môn

    LL77 7TW

    Tel: (01248) 752 568

    Fax: 01248) 752 132

    Email: cyfraithpolisi@ynysmon.gov.uk

    Â